11
Cyfraniad Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd Adroddiad Crynodeb Gwerthuso Marie Griffiths Cydlynydd Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru Mawrth 2018

Cyfraniad Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd · Dim ond 2 sylw negyddol a gafwyd am y diwrnod ac roedd y rhain mewn perthynas ag amharu yn ystod un o’r areithiau a grŵp

  • Upload
    others

  • View
    1

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

Page 1: Cyfraniad Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd · Dim ond 2 sylw negyddol a gafwyd am y diwrnod ac roedd y rhain mewn perthynas ag amharu yn ystod un o’r areithiau a grŵp

Cyfraniad Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd

Adroddiad Crynodeb Gwerthuso

Marie GriffithsCydlynydd Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru

Mawrth 2018

Page 2: Cyfraniad Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd · Dim ond 2 sylw negyddol a gafwyd am y diwrnod ac roedd y rhain mewn perthynas ag amharu yn ystod un o’r areithiau a grŵp

Cyflwyniad

Mae Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru, sydd wedi ei leoli yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn darparu ystod o gymorth i ymarferwyr ac ymchwilwyr ar draws pob sector sydd yn dylanwadu ar unrhyw agwedd ar iechyd y cyhoedd a gwella iechyd yng Nghymru. Ymysg y gwasanaethau y maent yn eu darparu ceir cyfres o seminarau sydd yn ceisio hybu arfer gorau yn seiliedig ar dystiolaeth bresennol a thystiolaeth sy’n dod i’r amlwg. Mae’r gyfres yn cynnwys ystod amrywiol o destunau ac mae’r enghreifftiau diweddar wedi cynnwys testunau fel Newid mewn Ymddygiad ac Ymddygiad Caethiwus a Meddyliau Iach ar gyfer Cenedlaethau’r Dyfodol: Hybu Lleihau’r Perygl o Ddementia. Pennir y testunau gan aelodau’r rhwydwaith sydd yn pleidleisio ar restr o ryw 12 o destunau sy’n cael eu dosbarthu’n flynyddol ac roedd Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd o fewn y 4 ar y brig yn ôl pleidlais gan yr aelodau. Trefnodd y Rhwydwaith grŵp cynllunio i gynorthwyo’r gwaith o lunio a chyfraniad y seminar.

Cynhaliwyd y seminar hwn ar 14 Mawrth 2018 ac fe’i cynhaliwyd yn Neuadd Brangwyn, Abertawe. Cadeiriwyd y seminar gan Judi Rhys, Cyfarwyddwr Anweithredol yn Iechyd Cyhoeddus Cymru. Croesawodd Judi bawb i’r digwyddiad a siaradodd am ei dealltwriaeth o Weithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd a’i phrofiad personol o sawl gwasanaeth.

Trosolwg o’r CyflwyniadauAgorwyd y diwrnod gan Dr Gill Richardson, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Polisi, Ymchwil a Datblygu Rhyngwladol yn Iechyd Cyhoeddus Cymru. Siaradodd Gill am rôl Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd a’u rhan bwysig yn Iechyd y Cyhoedd.

Dilynwyd hyn gan ddau gyflwyniad, Judith John – Pwyllgor Cynghori ar Therapi Cymru a Linda Hindle – Arweinydd Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd, y Gwasanaethau Tân ac Ambiwlans yn Public Health England.

Page 3: Cyfraniad Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd · Dim ond 2 sylw negyddol a gafwyd am y diwrnod ac roedd y rhain mewn perthynas ag amharu yn ystod un o’r areithiau a grŵp

Siaradodd Judith am y Fframwaith Strategol ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd a’r ffordd y maent, yng Nghymru, mewn sefyllfa allweddol, i sefydlu egwyddorion gofal iechyd ataliol ar draws ystod eu gwasanaethau a thrwy eu cysylltiadau â nifer fawr o’r boblogaeth, i wneud cyfraniad gwerthfawr i ganlyniadau iechyd y cyhoedd.

Rhoddodd Linda gyflwyniad ar ‘Dystiolaeth ac Effaith Cyfraniad Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd i Iechyd y Cyhoedd’. Rhannodd Linda wybodaeth am rôl a llwyddiannau Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd yn Lloegr a’r hyn sydd wedi cyfrannu at y llwyddiannau hynny.

Mae cyflwyniadau unigol ar gael trwy gysylltu â [email protected] neu gellir eu gweld ar wefan Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Sesiynau ParalelCynhaliwyd tri gweithdy yn ystod y prynhawn:

• Datblygu’r Gweithlu: Huw Griffiths, Ffisiotherapydd, Bwrdd Iechyd Caerdydd a Bro Morgannwg a Jonathan Morgan, Ffisiotherapydd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

• Arddangos Effaith: David Hughes, Rheolwr ac Arweinydd Clinigol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg; Lisa Williams, Deietegydd Cymunedol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro; Angela Jones, Podiatrydd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro; Claire Butler, Therapydd Lleferydd ac Iaith, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a Sue Koziel, Therapydd Lleferydd ac Iaith, Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg.

• Iechyd a Llesiant ar draws y GIG: Mathew Tidball, Staff Arwain Ffisiotherapi Iechyd a Llesiant, Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg; Rachel Turner, Arweinydd Therapi Galwedigaethol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg; Alison Clarke, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Therapïau a Gwyddor Iechyd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg ac Emma Holmes, Deietegydd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.

Page 4: Cyfraniad Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd · Dim ond 2 sylw negyddol a gafwyd am y diwrnod ac roedd y rhain mewn perthynas ag amharu yn ystod un o’r areithiau a grŵp

Ffurflen Werthuso Dywedodd Dr Laura Lowe, sydd yn darllen Epidemioleg ac Ystadegau Meddygol yn Uned Epidemioleg Cyfunol MRC ym Mhrifysgol Bryste ac ymgeisydd grant, “Bydd y prosiect hwn yn defnyddio dulliau casglu arloesol er mwyn i ni allu bod yn hyderus yng nghadernid ein canfyddiadau. Byddwn hefyd yn cynnal ymchwil ansoddol i roi dealltwriaeth ddyfnach i ni o’r berthynas rhwng iechyd a chanlyniadau cymdeithasol ac economaidd, a’r mannau ymyrryd posibl”.

Cofrestrodd 51 o bobl trwy Eventbrite ar gyfer y digwyddiad a mynychodd 43 ar y diwrnod. Cafodd y seminar hefyd ei ffrydio’n fyw ar Twitter a gwyliodd cyfanswm o 84 o bobl y seminar.

Rhoddwyd ffurflen werthuso i’r holl gynadleddwyr ar ddiwedd y digwyddiad a dychwelwyd 19 o ffur-flenni. Anfonwyd ebost at yr holl gynadleddwyr ar ôl y digwyddiad yn gofyn i ffurflenni gwerthuso gael eu cwblhau ond ni ddychwelwyd un.

Canlyniadau Meintiol Mae’r cwestiwn cyntaf yn gofyn i’r cynadleddwyr a ydynt yn aelodau o Rwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru neu beidio. Mae’n ddiddorol nodi nad oedd y rhan fwyaf o’r cynadleddwyr yn aelodau o’r Rhwydwaith (63%). Gallai hyn fod yn bennaf oherwydd bod taflen am y digwyddiad wedi cael ei dosbarthu ymysg rhanddeiliaid a argymhellwyd gan grŵp cynllunio’r seminar, ond cofrestrodd 17 aelod newydd ar y Rhwydwaith yn yr wythnos ar ôl y seminar.

Ydych chi yn aelod o Rwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru?

Mae cwestiwn arall ar y ffurflen werthuso yn gofyn i’r cynadleddwyr rhoi gradd o un i bump, (lle nad yw un yn ddefnyddiol o gwbl ac mae pump yn ddefnyddiol iawn) pa mor ddefnyddiol oedd y seminar yn eich barn chi. Fel y gwelir, rhoddodd y rhan fwyaf o bobl radd 4 neu 5 (89.5%) i’r cwestiwn hwn gyda 10.5% (2 berson) yn rhoi 3 fel ateb. Wrth edrych yn agosach ar y ffurflenni gwerthuso, nid oedd unrhyw beth i ddangos pam y rhoddodd y 2 berson yr ateb hwn.

63%

37%NacYdw

ydw

Page 5: Cyfraniad Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd · Dim ond 2 sylw negyddol a gafwyd am y diwrnod ac roedd y rhain mewn perthynas ag amharu yn ystod un o’r areithiau a grŵp

53%10%

37%5

(defnyddiol iawn)

3

4

Pa mor ddefnyddiol oedd y digwyddiad yn eich barn chi?

Canlyniadau AnsoddolEdrychodd cwestiynau pellach ar y ffurflen werthuso am ymateb ansoddol a cheir manylion isod.

Beth oedd eich prif ysgogiad ar gyfer mynychu’r digwyddiad hwn? Mynychodd y rhan fwyaf o’r cynadleddwyr y digwyddiad er mwyn dysgu mwy am y rôl AHP a chael mwy o wybodaeth am iechyd y cyhoedd. Roedd rhai hefyd eisiau dysgu am y ffordd y gallant ymgorf-fori iechyd y cyhoedd i’w swydd.

Roeddwn eisiau dysgu am y rôl AHP a sut y gallaf gefnogi / hybu hyn yn fy ngwaith

Canfod mwy am rôl AHP a sut y gallwn ei gefnogi.

Diddordeb yn y ffordd y gellir ei ymgorffori yn fy ymarfer clinigol ym maes anableddau dysgu

Oedd unrhyw beth oedd o ddiddordeb nodedig?Soniodd nifer o bobl am gyflwyniad Linda Hindle ar y gwaith yn Lloegr fel un o uchafbwyntiau’r di-wrnod. Soniwyd am siaradwyr eraill hefyd yn cynnwys David Hughes a Ruth Crowder. Cafodd Gwneud i Bob Cyswllt Gyfrif lawer o sylw hefyd. Siaradwyr rhagorol oedd yn ysbrydoli - Linda Hindle a Ruth Crowder

Gwaith David Hughes!

Y systemau amrywiol sydd ar gael i ddefnyddio MECC

Page 6: Cyfraniad Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd · Dim ond 2 sylw negyddol a gafwyd am y diwrnod ac roedd y rhain mewn perthynas ag amharu yn ystod un o’r areithiau a grŵp

Sut ydych chi’n bwriadu defnyddio’r hyn a ddysgwyd yn y digwyddiad hwn? Dywedodd llawer o’r cynadleddwyr y byddent yn rhannu’r wybodaeth a ddysgwyd yn y digwyddiad gyda chydweithwyr ac y byddent yn gwneud mwy o ymdrech i ymgorffori iechyd y cyhoedd yn eu gwaith bob dydd.

Defnyddio rhai o’r offer ar wefan PHW ac ati. E.e. Model rhesymeg. Sefydlu iechyd y cyhoedd ar gyfer staff PADR, JD

Ymgorffori agenda iechyd y cyhoedd i hyfforddiant mewn swydd a rhwng SMT yn VCC. Sicrhau bod MECC yn digwydd yn Felindre.

Rhwydweithio gyda chydweithwyr fel bod y bobl iawn yn gysylltiedig â’r fforymau cywir ar gyfer dylanwadu ar rolau AHP yn Iechyd y Cyhoedd.

Pa destunau seminar / cynhadledd yr hoffech eu gweld yn cael eu cyflwyno yn y dyfodol? Roedd y meysydd testun y dywedodd y cynadleddwyr y byddent yn hoffi eu gweld yn cael eu cy-flwyno mewn digwyddiadau yn y dyfodol yn amrywiol. Ni fyddai’r Rhwydwaith yn gallu darparu digwyddiadau ar rai o’r meysydd testun am eu bod yn rhy benodol ond byddai’n gallu cyfeirio’r cynadleddwyr at sefydliadau eraill, mwy perthnasol:

• Defnyddio TG ym maes Iechyd y Cyhoedd• Rhagnodi Cymdeithasol• Sut mae AHP gwahanol yn mesur cymhwysedd• MECC

Mae’n werth nodi fodd bynnag bod Maeth a’r Blynyddoedd Cynnar wedi cael eu hawgrymu a bod hwn yn faes y mae’r Rhwydwaith eisoes yn ei archwilio ar gyfer seminar i’r dyfodol.

Sylwadau eraill Cafodd y cynadleddwyr gyfle i roi unrhyw sylwadau pellach oedd ganddynt am y digwyddiad.

Dim ond 2 sylw negyddol a gafwyd am y diwrnod ac roedd y rhain mewn perthynas ag amharu yn ystod un o’r areithiau a grŵp penodol o staff ddim yn cael eu crybwyll fel AHP. Roedd hyn oherwydd nad yw Gwyddonwyr Biofeddygol wedi eu rhestru yn ‘Fframwaith Strategol Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd’.

Diolch i chi am ddiwrnod ysbrydoledig!

Cynhadledd ddiddorol a defnyddiol iawn

Gwneud y seminarau hyn yn ddigwyddiad rheolaidd

Page 7: Cyfraniad Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd · Dim ond 2 sylw negyddol a gafwyd am y diwrnod ac roedd y rhain mewn perthynas ag amharu yn ystod un o’r areithiau a grŵp

Un gair Gofynnwyd i’r cyfranogwyr roi un gair i grynhoi’r ffordd yr oeddent yn teimlo am y digwyddiad. Mae’r geiriau wedi cael eu rhoi mewn Wordle (www.wordle.net). Mae Wordle yn creu diagramau geiriau sydd yn amlygu geiriau sy’n ymddangos yn fwy cyson yn y testun. O hyn gallwch weld yn glir bod defnyddiol, diddorol a rhagorol wedi eu nodi amlaf.

Mwy o wybodaethMae mwy o wybodaeth a fideo byr o’r diwrnod ar gael ar wefan Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru neu trwy gysylltu â [email protected]

Page 8: Cyfraniad Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd · Dim ond 2 sylw negyddol a gafwyd am y diwrnod ac roedd y rhain mewn perthynas ag amharu yn ystod un o’r areithiau a grŵp

Atodiadau Nodiadau GweithdyDatblygu’r Gweithlu

Pwy yw’r bobl /sefydliadau mwyaf defnyddiol i helpu AHP yn y maes hwn?

• AHP’s • Corff proffesiynol torfol• Grŵp amrywiol• Cysylltiadau rhwng grwpiau proffesiynol• Deall sefyllfa’r person arall• Rhwydwaith• Gwybod beth sydd ar gael• Rhwydwaith Iechyd y Cyhoedd• Man cyswllt canolog• Creu cymuned proffesiynau• Codi proffil• Uwch Reolaeth• Newid sylweddol• Dysgu trwy esiampl• Cynnwys y sector preifat• Ein hunain• Proffil – gweiddi – Dysgu oddi wrth sefydliadau eraill• Ymrwymiad – gan bawb• AD – gweithlu• Ymrwymiad• Bod yn ddefnyddiol • Dinasyddion• Cwricwlwm – ar draws y gymuned• Mae angen i bobl wybod ble i fynd…• Iechyd y Cyhoedd – cyswllt â’r Cynllun Gweithredu

Rhwystrau /Materion Atebion• Amser i gyfleu’r neges / amser i dreulio gyda

chleifion• Ymchwilio i ymrwymiad mawr • Deall dangos llwyddiant• Modelu yn y gweithle gyda chydweithwyr/

sgiliau’r gweithle, angen hyfforddi a datblygu• Hyder staff i gael sgyrsiau• Cyfweld ysgogiadol – sgiliau allweddol sydd

eu hangen ar staff, sicrhau bod y staff i gyd yn cael mynediad iddo, dechreuwyr newydd

• DS cyn cofrestru mae angen i’r hyfforddiant gynyddu

• Angen mecanwaith ar gyfer rhannu gwybodaeth ynghylch rhwydwaith iechyd cyhoeddus Cymru - pwy?

• Defnyddio ein harweinwyr – Prif Gynghorydd Therapi, angen Prif AHP Iechyd y Cyhoedd

• Canolbwyntio ar iechyd y cyhoedd mewn hyfforddiant cyn cofrestru

• Strategaethau – angen bod yn rhan o Wella Addysg Iechyd Cymru a datblygiad y gweithlu AHP

• Cysylltu â chyrff proffesiynol ar draws y DU• Datblygu hyrwyddwyr ar draws AHP ac ar

draws BIau

Page 9: Cyfraniad Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd · Dim ond 2 sylw negyddol a gafwyd am y diwrnod ac roedd y rhain mewn perthynas ag amharu yn ystod un o’r areithiau a grŵp

Cryfderau • Arbenigedd• Sgiliau Amrywiol• Adnabod y gynulleidfa• Defnyddio graddedigion

Gwendidau• Rydym yn ddynol…• Nid ydym yn hyrwyddo ein hunain fel

proffesiwn

Cyfleoedd • Byrddau Iechyd a Llesiant• Hyrwyddo ein Hunain

Bygythiadau • Newid yn ariannol • Cael ymrwymiad• Tymheredd• Blaenoriaeth??• Sut i newid amgyffrediad• Ddim yn gwybod beth sy’n ddiweddar…• Y neges yn newid yn barhaus

Dangos Effaith

Beth yw’r Cryfderau / gwendidau / cyfleoedd / bygythiadau ar gyfer AHP yn y maes hwn?

• Amrywiaeth y rôl• Lledaenu’r neges / ymwybyddiaeth / dylanwad• Adolygiad Seneddol• Sail wybodaeth ar y cyd• Cydweithredu / dealltwriaeth a rennir• Ynysig yn y gweithle• Cymysgedd unigryw o sgiliau• Meddwl yn greadigol• Deietegydd Iechyd y Cyhoedd / Rôl pawb• Rôl / diben• Ystod eang o gyfleoedd / contractau• Amser gyda chlaf / cleient / aelod o staff• Bygythiad – addysgu eraill a’ch staff eich hun• Yn gyfforddus yn cael sgyrsiau• Angen cydweithrediadau gwell• Lleihau Bylchau• Hyfforddiant/sgiliau priodol• Cefnogaeth

Page 10: Cyfraniad Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd · Dim ond 2 sylw negyddol a gafwyd am y diwrnod ac roedd y rhain mewn perthynas ag amharu yn ystod un o’r areithiau a grŵp

Rhwystrau Atebion• Diffyg methodoleg dylunio a gwella

gwasanaeth yn gynnar yn ystod hyfforddiant a gyrfa

• Angen atgyfnerthu a sefydlu yn gynnar • Defnyddio ymarferion cwmpasu presennol fel

llinell sylfaen i alluogi gwerthuso • MECC – sut ydych chi’n dangos effaith

wirioneddol? Neu ai dyma’r ‘Peth iawn i’w wneud’

• Mynediad i wybodaeth am eich gwasanaeth iechyd eich hun ond mae angen mwy am wasanaethau eraill a datblygu canlyniadau a rennir

• Heb ddigon o wybodaeth am wasanaethau eraill e.e. cyfeiriadur gwasanaethau – ai dyma nod DEWIS

• Mae angen iddo fod yn ganolog i’r hyn a wnawn

• Canlyniadau sy’n briodol i ddata – yr un peth ar gyfer pob AHP

• Potensial WCCIS ar gyfer seilo gwybodaeth, mae angen i hyn ddatblygu ymagwedd gyson gyda’r holl AHP

• Problemau casglu data wrth ddod o hyd i offer priodol y mae angen i gasglwyr data wybod amdanynt

• Dim olrhain pobl i edrych ar gofnodi canlyniadau. Defnydd o’r cofnod electronig

• Ffurflenni atgyfeirio ar gael ar-lein • Cyfeiriadur gwasanaeth ddiweddar ganolog• Rhagnodi cymdeithasol, ymagwedd gyson ac

ar y cyd• Mandad ar gyfer PROMS ar gyfer AHP – o

dan arweiniad Cyfarwyddwyr y Gwyddorau Therapi ac Iechyd a’r Prif Gynghorydd

• Therapi • Datblygu’r un offer ar draws yr holl grwpiau

cenedlaethol ar draws y llwybrau cyfan gan ddefnyddio prosiectau cenedlaethol PROMS a phrofiad cleifion – enghraifft Aneurin Bevan

• ‘Actifadu clinigol’ – angen credu ynddo a def-nyddio’r data, yn gwneud hyn ar hyn o bryd ond ddim yn ei gofnodi, angen systemau TG gwell i’w wneud yn hawdd ac yn ymarfer arferol

• Mae angen i MECC fod yn fwy o flaenoriaeth Bwrdd Iechyd i’w sefydlu ar draws y Proffesiynau e.e. gwasanaethau imiwneiddio yn llai hyderus i ddechrau neu heb feddwl amdano ond yn ei wneud nawr

• Ymagwedd gydgynhyrchiol, yn gyfrifol yn gyfreithiol

• Model Tŷ Gofal BHF • Defnyddio sail dystiolaeth bresennol – peidio

ailddyfeisio’r olwyn • Rhannu – unigol-broffesiynol ac aml-broffesi-

ynol • Hunanasesiad/mesur gan gleifion, offer heb

eu dilysu – yn dal yn werthfawr• Defnyddio cleifion cymorth NWIS i fesur • Diwylliant – newid – y peth iawn i’w wneud –

newid diwylliant gweithwyr proffesiynol

Iechyd a Llesiant ar draws y GIG

Ffyrdd y gall AHP ‘Arwain trwy Esiampl’Protecting their own health & wellbeing and that of their colleagues

• Esgidiau Synhwyrol / atal syrthio• Ymarfer Corff Rheolaidd• Model Rôl• Creu Newid• Amgylchedd / Ergonomeg• *Newid* diwylliant• Egwyl / Cinio Rheolaidd • Dewisiadau Iach• Dileu Euogrwydd• Trin eich gilydd yn dda• Polisïau gwaith hyblyg• Grymuso• Gofalu• Gweithredu gwerthoedd• Cymorth Uwch• Dylanwadu ar gynlluniau gweithredu a newid• Cyfrifoldebau pawb

Page 11: Cyfraniad Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd · Dim ond 2 sylw negyddol a gafwyd am y diwrnod ac roedd y rhain mewn perthynas ag amharu yn ystod un o’r areithiau a grŵp

• “Modelau rôl” sydd yn gweithredu’r hyn y maent yn cynghori eraill i’w wneud• Addysg – uwchsgilio rheolwyr• Newid mewn diwylliant – gyda chefnogaeth• Perthynas gyda rheolwyr – cymorth llesiant ar gyfer rheolwyr – AHP yn cysylltu â chyfnodau• Nodi eich anghenion eich hun ac anghenion eraill• Cynnwys llesiant fel rhan o PADR/Swydd-ddisgrifiadau• Cael sgyrsiau yn ymwneud â thystiolaeth y gall AHP ei rhoi