6
FFERM WYNT LLUEST Y GWYNT 0330 363 6229 [email protected] @LYGWind lygwindfarm.co.uk CYLCHLYTHYR CYMUNEDOL EBRILL 2020 Annwyl Breswylydd, Ar hyn o bryd mae cymunedau ledled y wlad mewn sefyllfa fwyfwy anodd wrth i achosion o COVID-19 barhau i gynyddu. Mae’r Llywodraeth wedi rhoi canllawiau a chyfarwyddyd ar waith i sicrhau iechyd a diogelwch y cyhoedd, ond mae hyn yn golygu cyfyngiadau newydd ar fywyd pob dydd. Nid yw Fferm Wynt Lluest Y Gwynt yn eithriad yn hyn o beth, ac fel y gwyddoch, gwnaethom y penderfyniad anodd i ganslo eich digwyddiadau ymgynghori cyhoeddus ym mis Mawrth. Iechyd a diogelwch y gynulleidfa ac aelodau’r tîm prosiect yw’r flaenoriaeth fwyaf, a hoffwn ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra y mae’r canslo wedi’i achosi. Fodd bynnag, o ystyried y sefyllfa sydd ohoni, rydym yn parhau yn ymrwymedig i ymgysylltu’n drylwyr â chymunedau lleol ac rydym wedi ail-lunio ein hymgynghoriad cychwynnol er mwyn iddo fod yn fwy addas yn y cyfnod anodd hwn. Fel y cam cyntaf yn ein hymgynghoriad, hoffwn eich gwahodd i ddarllen y wybodaeth sydd wedi’i chynnwys yn y pamffled hwn. Mae hyn er mwyn eich cyflwyno i’n cynnig a dangos rhai o’r ystyriaethau rydym yn eu gwneud wrth i’n cynlluniau esblygu. Mae ffurflen adborth ac amlen radbost wedi’u hamgáu os ydych chi am roi unrhyw sylwadau. Trwy ddefnyddio’r amlen radbost, ni fyddwch yn gorfod talu unrhyw gostau postio a gallwch gyflwyno’ch sylwadau yn syth atom ni i’w hystyried. Rydym hefyd yn credu bod gwerth cyswllt dynol yn amhrisiadwy, ac felly rydym wedi trefnu dwy sesiwn holi ac ateb mewn perthynas â’r cynnig, i’w cynnal drwy alwad cynhadledd. Bydd aelodau allweddol y tîm prosiect ar gael yn y sesiynau hyn i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych, ac felly hoffwn eich gwahodd i ymuno â ni ddydd Mawrth 21 Ebrill rhwng 10am a 12pm a dydd Iau 30 Ebrill, rhwng 6pm a 8pm. I gymryd rhan yn y sesiynau holi ac ateb, y cwbl sydd angen i chi ei wneud yw ffonio’r rhif “Deialu” isod a dilyn y cyfarwyddiadau, gan roi’r rhif ystafell a’r ‘pin’ gwestai pan ofynnir i chi wneud hynny. Deialu: 033 3113 3429 Rhif ystafell: 86315296 # PIN gwestai: 3500 # Byddwn hefyd yn rhoi diweddariadau ac yn sicrhau bod gwybodaeth ar gael ar ein gwefan a’n cyfrif Twitter wrth i’r cynigion ddatblygu. Rydym yn gobeithio y byddwch yn dal ati i ymgysylltu â’r cynigion wth i ni geisio cynnal proses ymgynghori drylwyr dros y misoedd nesaf. Yn olaf, hoffem ddiolch i chi am eich dealltwriaeth a’ch cydweithrediad yn yr amseroedd anodd hyn. Rydym yn gwerthfawrogi eich amynedd a’ch cefnogaeth. Yn gywir, Rob Fellows Ar ran Lluest Y Gwynt Wind Farm Ltd. *Mae’r galwadau i ymuno yn y sesiwn holi ac ateb am ddim os oes gennych chi funudau wedi’u bwndelu; byddwch yn gorfod talu eich gweithredydd rhwydwaith ar gyfraddau lleol safonol os nad oes gennych chi funudau wedi’u bwndelu.

CYLCHLYTHYR CYMUNEDOL EBRILL 2020 FFERM …...*Yn seiliedig ar Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol: Canllaw Hygyrch i Gymryd Rhan yn y Broses, Yr Arolygiaeth Gynllunio Cam 2: Cyflwyno’r

  • Upload
    others

  • View
    3

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

FFERM WYNT LLUEST Y GWYNT

0330 363 6229 [email protected]

@LYGWind lygwindfarm.co.uk

CYLCHLYTHYR CYMUNEDOL EBRILL 2020

Annwyl Breswylydd,

Ar hyn o bryd mae cymunedau ledled y wlad mewn sefyllfa fwyfwy anodd wrth i achosion o COVID-19 barhau i gynyddu. Mae’r Llywodraeth wedi rhoi canllawiau a chyfarwyddyd ar waith i sicrhau iechyd a diogelwch y cyhoedd, ond mae hyn yn golygu cyfyngiadau newydd ar fywyd pob dydd.

Nid yw Fferm Wynt Lluest Y Gwynt yn eithriad yn hyn o beth, ac fel y gwyddoch, gwnaethom y penderfyniad anodd i ganslo eich digwyddiadau ymgynghori cyhoeddus ym mis Mawrth. Iechyd a diogelwch y gynulleidfa ac aelodau’r tîm prosiect yw’r flaenoriaeth fwyaf, a hoffwn ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra y mae’r canslo wedi’i achosi.

Fodd bynnag, o ystyried y sefyllfa sydd ohoni, rydym yn parhau yn ymrwymedig i ymgysylltu’n drylwyr â chymunedau lleol ac rydym wedi ail-lunio ein hymgynghoriad cychwynnol er mwyn iddo fod yn fwy addas yn y cyfnod anodd hwn.

Fel y cam cyntaf yn ein hymgynghoriad, hoffwn eich gwahodd i ddarllen y wybodaeth sydd wedi’i chynnwys yn y pamffled hwn. Mae hyn er mwyn eich cyflwyno i’n cynnig a dangos rhai o’r ystyriaethau rydym yn eu gwneud wrth i’n cynlluniau esblygu.

Mae ffurflen adborth ac amlen radbost wedi’u hamgáu os ydych chi am roi unrhyw sylwadau. Trwy ddefnyddio’r amlen radbost, ni fyddwch yn gorfod talu unrhyw gostau postio a gallwch gyflwyno’ch sylwadau yn syth atom ni i’w hystyried.

Rydym hefyd yn credu bod gwerth cyswllt dynol yn amhrisiadwy, ac felly rydym wedi trefnu dwy sesiwn holi ac ateb mewn perthynas â’r cynnig, i’w cynnal drwy alwad cynhadledd. Bydd aelodau allweddol y tîm prosiect ar gael yn y sesiynau hyn i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych, ac felly hoffwn eich gwahodd i ymuno â ni ddydd Mawrth 21 Ebrill rhwng 10am a 12pm a dydd Iau 30 Ebrill, rhwng 6pm a 8pm.

I gymryd rhan yn y sesiynau holi ac ateb, y cwbl sydd angen i chi ei wneud yw ffonio’r rhif “Deialu” isod a dilyn y cyfarwyddiadau, gan roi’r rhif ystafell a’r ‘pin’ gwestai pan ofynnir i chi wneud hynny.

Deialu: 033 3113 3429Rhif ystafell: 86315296 #PIN gwestai: 3500 #

Byddwn hefyd yn rhoi diweddariadau ac yn sicrhau bod gwybodaeth ar gael ar ein gwefan a’n cyfrif Twitter wrth i’r cynigion ddatblygu. Rydym yn gobeithio y byddwch yn dal ati i ymgysylltu â’r cynigion wth i ni geisio cynnal proses ymgynghori drylwyr dros y misoedd nesaf.

Yn olaf, hoffem ddiolch i chi am eich dealltwriaeth a’ch cydweithrediad yn yr amseroedd anodd hyn. Rydym yn gwerthfawrogi eich amynedd a’ch cefnogaeth.

Yn gywir,

Rob Fellows Ar ran Lluest Y Gwynt Wind Farm Ltd.* Mae’r galwadau i ymuno yn y sesiwn holi ac ateb am ddim os oes gennych chi funudau wedi’u bwndelu; byddwch yn gorfod talu eich gweithredydd

rhwydwaith ar gyfraddau lleol safonol os nad oes gennych chi funudau wedi’u bwndelu.

0330 363 6229 [email protected]

Y Prosiect

* Cyfrifwyd fel: nifer y megawatiau wedi’u gosod, lluoswyd â ffactor llwyth “pob gwynt” BEIS (ar dir a môr) a fynegwyd fel ffracsiwn o 1, wedi’i luosi â nifer yr oriau mewn blwyddyn, wedi’i rannu â chyfanswm y trydan domestig sy’n cael ei ddefnyddio bob blwyddyn ar gyfartaledd mewn MWh. Felly:

96 (MW a osodwyd) x 0.308 (ffactor llwyth “pob gwynt”) x 8,760 (oriau’r flwyddyn)/3.729 (MWh o drydan a ddefnyddiwyd, BEIS Rhag 2018) = digon i bweru cyfwerth â 69,459 o gartrefi

Rhaid i Gymru allu cystadlu yn y farchnad carbon isel fyd-eang, yn enwedig o gofio ein bod ni’n gadael yr UE. Mae ein gallu i ddiwallu ein hanghenion drwy ddefnyddio ynni glân yn sail i economi carbon isel sy’n ffyniannus. Credaf fod y targedau hyn yn uchelgeisiol ond

yn gyraeddadwy ac y byddant yn ein helpu i ddatgarboneiddio ein system ynni, lleihau costau tymor hir a dod â mwy o fanteision i Gymru.

Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, 26 Medi 2017

Mae’r map isod yn dangos yr ardal lle bydd Fferm Wynt Lluest Y Gwynt wedi’i lleoli.

Ar hyn o bryd, rydym yn cynnig codi hyd at 24 o dyrbinau gyda chapasiti o tua 96MW o ynni ar y safle i gyd. Byddant yn mesur 180m ar eu huchaf.

Gallai’r cynnig cyfredol gynhyrchu hyd at 259GWh y flwyddyn o drydan adnewyddadwy glân, sy’n ddigon i bweru cyfwerth â dros 69,000 o gartrefi*.

Mae’n ddyddiau cynnar o hyd, a gall y cynnig newid wrth inni barhau i drin a thrafod gyda chymunedau lleol a rhanddeiliaid.

Yn 2017, cyflwynodd Llywodraeth Cymru uchelgeisiau ynni glân, gan gynnwys targed i Gymru gynhyrchu 70% o’i thrydan o ffynonellau ynni adnewyddadwy erbyn 2030 a sicrhau bod 1GW o allu trydan adnewyddadwy Cymru mewn dwylo lleol.

Ffiniau’r safle

Reproduced from Ordnance Survey digital map data © Crown copyright 2020. All rights reserved. Licence number 100059809

Cam 1: Cyn-caisMae Lluest Y Gwynt Wind Farm Ltd yn cynnig syniadau ar gyfer y cynnig, yn cysylltu ag unigolion a grwpiau, yn trefnu digwyddiadau ac yn rhoi cyhoeddusrwydd i’r cynigion drafft er mwyn nodi materion/problemau a chyfnewid gwybodaeth rhwng partïon â buddiant. Byddwn yn rhoi gwybod i’r Arolygiaeth ein bod ni’n bwriadu cyflwyno cais

cynllunio. Ar ôl rhoi gwybod, byddwn yn cyhoeddi’r cynnig DNS manwl, ac yn ymgynghori

â pherchnogion a thrigolion lleol, Cynghorau Cymuned lleol a phartïon eraill â buddiant dros gyfnod o chwe wythnos.

@LYGWind lygwindfarm.co.uk

Y Broses GynllunioOherwydd maint y cynllun arfaethedig (dros 10MW), mae’n cael ei ystyried yn Ddatblygiad o Arwyddocâd Cenedlaethol (DNS).

Mae hyn yn golygu bod rhaid i’r cais a’r ymgynghoriad dilynol ddilyn proses drylwyr cyn cael ei ystyried gan Arolygiaeth Gynllunio Cymru ar ran Llywodraeth Cymru.

Mae’r drefn gynllunio newydd yn golygu mai ymgynghorai statudol yw Cyngor Sir Ceredigion bellach, ac nid y sawl sy’n gwneud y penderfyniad terfynol.

Mae’r diagram canlynol yn nodi’r broses gynllunio newydd:

* Yn seiliedig ar Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol: Canllaw Hygyrch i Gymryd Rhan yn y Broses, Yr Arolygiaeth Gynllunio

Cam 2: Cyflwyno’r cais Byddwn yn cyflwyno’r cais i’r Arolygiaeth gydag Adroddiad Ymgynghori. Bydd yr Arolygiaeth yn dilysu’r cais ac yn pennu swyddog achos. Bydd Cyngor Sir Ceredigion yn gosod hysbysiadau safle. Bydd Cyngor Sir Ceredigion yn paratoi Datganiad o’r Effaith Leol. Os bydd yr holl ddogfennau wedi’u cyflwyno, bydd yr Arolygiaeth yn hyrwyddo’r

cais ac yn ysgrifennu at ymgyngoreion. Mae gan bartïon â buddiant bum wythnos i gyflwyno safbwyntiau neu wrthwynebiadau (“sylwadau”).

Cam 3: Archwilio Mae’r Arolygiaeth yn penodi Arolygydd i ‘archwilio’r’ cais, gan gynnwys yr holl

sylwadau. Bydd yr Arolygydd yn penderfynu a oes angen gwrandawiad, ymchwiliad neu

sylwadau ysgrifenedig ychwanegol. Os felly, efallai y bydd yn gwahodd partïon â buddiant i gymryd rhan.

Rhaid i’r Arolygydd ystyried yr holl sylwadau a ddaeth i law. Mater i’r Arolygydd yw cynnal gwrandawiad neu ymchwiliad wedyn.

Cam 4: Penderfyniad Ar ddiwedd yr archwiliad, bydd yr Archwilydd yn ysgrifennu at Weinidog Cymru

gan argymell a ddylid rhoi neu wrthod caniatâd a pha amodau cynllunio penodol y dylid eu gosod os rhoddir y caniatâd. Mae gan y Gweinidog 12 wythnos i wneud penderfyniad terfynol wedyn.

Ymgynghoriad cyn-caisNawr – Gwanwyn 2021

Cais ac ymgynghoriHaf 2021

Archwilio a gwneud penderfyniad

Haf 2022

0330 363 6229 [email protected]

Asesiad o’r Effaith AmgylcheddolFel rhan o’r cais, byddwn yn cynnal Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol (EIA), sef proses o nodi effeithiau sylweddol posibl y cynllun, yn gadarnhaol a negyddol, ac o gynnig mesurau i osgoi neu liniaru effeithiau negyddol lle bo angen.

Byddwn yn cyhoeddi Datganiad Amgylcheddol sy’n cyflwyno casgliadau’r EIA fel rhan o’r cais cynllunio.

Ar hyn o bryd, rydym yn cynnal ymarfer cwmpasu gydag Arolygiaeth Gynllunio Cymru, a disgwylir cyfarwyddyd ddechrau Ebrill 2020. Bydd hyn yn llywio pa faterion sy’n rhaid eu cynnwys yn yr asesiad o’r effaith amgylcheddol.

Rydym wedi bod yn cynnal ystod o arolygon ar draws y safle i bennu effaith bosibl y prosiect ar fywyd gwyllt ac ar gynefinoedd lleol. Mae hyn yn cynnwys arolygon ar ystlumod, adar a chynefinoedd.

Disgwylir arolygon pellach o rywogaethau gwarchodedig a dyddodion mawn eleni.

Hefyd, rydym yn gweithio tuag at y nod o ennill bioamrywiaeth net ar y prosiect a chyfrannu at wella’r amgylchedd trwy nodi mesurau cadarnhaol ar gyfer cynefinoedd neu wella rhywogaethau a fydd yn rhan o’n cynnig.

Byddwn hefyd yn cynnal asesiad manwl o dirwedd ac effaith weledol, a fydd yn caniatáu inni bennu’r cynllun a ffefrir (h.y. uchder a graddfa) a lleoliad y tyrbinau gwynt.

Disgwyliwn y bydd gofyn i ni hefyd asesu effeithiau ar archaeoleg a threftadaeth ddiwylliannol, preswylwyr cyfagos, hydroleg a llifogydd, telathrebu a diogelwch awyr, hawliau tramwy a hamdden, economeg gymdeithasol a’r rhwydwaith priffyrdd.

@LYGWind lygwindfarm.co.uk

Mynediad a’r GridMae ein cynnig yn cynnwys sut byddwn yn cael mynediad i’r safle yn ystod y cyfnodau adeiladu, gweithredu a datgomisiynu, yn ogystal â lle bydd y prosiect yn cysylltu â’r rhwydwaith trydan.

Rydym wedi asesu nifer o lwybrau posib ar gyfer cludo tyrbinau i’r safle, gan arwain at ddiystyru llwybrau o’r de.

A470

A44

A483

A483

A5

A483

Llwybr dangosol ar gyfer cludo’r tyrbinau i’r safle

©Google

Er mwyn danfon tyrbinau a chaniatáu i draffig adeiladu cyffredinol gael mynediad i’r safle, byddwn yn adeiladu cyffordd newydd oddi ar yr A44 ac yn uwchraddio’r traciau presennol ar y safle ac adeiladu rhai newydd lle bo’r angen.

Ar hyn o bryd rydym yn ymchwilio i sawl opsiwn ar gyfer cysylltiad grid Fferm Wynt Lluest Y Gwynt. Mae’r opsiynau a nodwyd ar hyn o bryd yn ymestyn i’r de o’r datblygiad arfaethedig gydag opsiynau posib eraill yn ymestyn i’r gogledd a’r dwyrain. Mae potensial hefyd i rannu cysylltiad grid ag ased sy’n eiddo i Statkraft yn y cyffiniau.

Wrth inni fwrw ymlaen â’n cynlluniau ar gyfer y cysylltiad grid, byddwn yn ceisio rhoi’r holl wybodaeth ddiweddaraf i’r gymuned leol a chydweithio’n agos â’r cymunedau dan sylw. Ein nod yw darparu rhagor o fanylion ar y cysylltiad grid yn ystod y cyfnod nesaf o ymgynghori cymunedol.

statkraft.co.uk eco2uk.com

0330 363 6229 [email protected]

@LYGWind lygwindfarm.co.uk

Pecyn Buddsoddi Cymunedol CynaliadwyFel rhan o’n hymrwymiad i gyflwyno buddion gwerth chweil i gymunedau lleol, bydd y prosiect hwn yn darparu Pecyn Buddsoddi Cymunedol Cynaliadwy o £5,000 fesul MW a osodir y flwyddyn (cysylltiedig â’r Mynegai Prisiau Manwerthu/RPI).

Yn seiliedig ar ein cynnig cyfredol, mae hyn yn cyfateb i hyd at £480,000 bob blwyddyn, cysylltiedig â’r mynegai ar gyfer oes y prosiect, sef 25 mlynedd.

Y cymunedau lleol fydd yn penderfynu ar union fanylion sefydlu’r pecyn buddsoddi, gyda’r nod o ddatblygu rhywbeth gwahanol i’r cronfeydd buddion sydd ar gael yn yr ardal ar hyn o bryd.

Byddem yn croesawu ein barn a’ch syniadau ar sut i strwythuro’r pecyn buddsoddi, pa fath o brosiectau y gellid eu hystyried ac unrhyw syniadau eraill am sut allai’r prosiect sicrhau buddion i’r gymuned. E-bostiwch eich sylwadau at [email protected]

Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn syniadau arloesol gan gymunedau lleol, gan gynnwys mesurau gwella effeithlonrwydd ynni, cyllido prosiectau cymunedol a’r posibilrwydd o berchnogaeth leol.

Rydym yn ymrwymo’n llwyr i gynnwys cymunedau lleol a defnyddio cyflenwyr lleol yn ystod prosesau adeiladu a gweithredu’r prosiect, er mwyn cynnig pob cyfle i fusnesau lleol ddarparu nwyddau a gwasanaethau.

DIOLCH

Rwyf wedi gosod disgwyliad i bob prosiect ynni newydd yng Nghymru gael elfen o berchnogaeth leol o leiaf o 2020 ymlaen. Mae’r datganiad polisi hwn yn atgyfnerthu’r angen i ddatblygwyr weithio gyda’r cymunedau sy’n cynnal prosiectau ynni i sicrhau eu bod yn cadw

budd o gynhyrchu yng Nghymru.

Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, 18 Chwefror 2020

Ynglŷn â StatkraftMae Statkraft yn gwmni sy’n arwain y ffordd yn rhyngwladol mewn ynni dŵr ac mae’n cynhyrchu mwy o ynni adnewyddadwy na neb arall yn Ewrop. Mae’r Grŵp yn cynhyrchu ynni dŵr, ynni gwynt, ynni solar ac ynni tân nwy, ac yn cyflenwi systemau gwresogi ardal.

Mae portffolio Statkraft yn cynnwys pedair fferm wynt ar y glannau ledled y DU, gan gynnwys fferm wynt Alltwalis yn Sir Gâr yn ogystal â Gorsaf Ynni Dŵr Rheidol.

Ynglŷn ag Eco2Ers ei sefydlu yn 2002, mae Eco2 wedi bod ar flaen y gad wrth ddatblygu ynni adnewyddadwy, gan gyflenwi gorsafoedd ynni biomas, ffermydd gwynt, prosiectau gwresogi a thechnolegau newydd. Trwy ddefnyddio ei arbenigedd, mae Eco2 yn goruchwylio’r broses gyfan o’r cam ymsefydlu a buddsoddi, i ddatblygu a gweithredu.

Ymhlith portffolios datblygu Eco2 mae fferm wynt Mynydd y Betws ger Abertawe a safle Margam Green Energy, Port Talbot – prosiect biomas mwyaf Cymru.