Upload
others
View
0
Download
0
Embed Size (px)
Citation preview
DfT consultation template
Partneriaeth Cydraddoldeb Cyrff Cyhoeddus Cymru
Ymgynghoriad Cyhoeddus ar ein Hamcanion Cydraddoldeb Strategol 2020 - 2024
Cysylltwch â Diverse Cymru os hoffech gael yr ymgynghoriad hwn mewn fformat gwahanol (er enghraifft Braille, ar liw papur gwahanol, neu fel ffeil sain.)
Diverse Cymru sy'n cynnal yr ymgynghoriad hwn.
E-bost: [email protected]
Ffôn: 029 2036 8888
Post: Diverse Cymru
3ydd Llawr, Tŷ Alexandra
3017-315 Heol Orllewinol y Bont-faen
Caerdydd
CF5 1JD
Tabl Cynnwys
Adran
Cynnwys
Rhif tudalen
1
Gwybodaeth am Bartneriaeth Cydraddoldeb Cyrff Cyhoeddus Cymru
4
2
Sut mae ymateb i’r ymgynghoriad ffurfiol
8
3
Digwyddiadau dweud eich dweud
9
4
Meini prawf yr ymgynghoriad
11
5
Beth sy’n digwydd nesaf?
11
6
Adran Amcanion
12
7
Ffurflen Ymateb
14
8
Amdanoch chi
23
9
Atodiad
A- Rhyddid gwybodaeth
B- Meini prawf yr ymgynghoriad
C- Egwyddorion caffael a rennir
D- Yr Iaith Gymraeg
E- Cymhwyso'r 5 ffordd o weithio
29
29
30
31
32
1. Gwybodaeth am Bartneriaeth Cydraddoldeb Cyrff Cyhoeddus Cymru
Mae Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus (PSED) yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff rhestredig adolygu eu hamcanion cydraddoldeb presennol o leiaf bob pedair blynedd.
Ystyr Amcanion Cydraddoldeb yw nodau y mae sefydliadau’n eu pennu. Gofynnir i sefydliadau gyhoeddi eu hamcanion diwygiedig a’r camau (gweithredu) y byddant yn eu cymryd i'w cyflawni erbyn 1af Ebrill 2020.
Yn unol ag argymhellion y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) a Llywodraeth Cymru, roedd nifer o gyrff cyhoeddus yn awyddus i gydweithio i gytuno ar amcanion cyffredin. Mae hyn wedi golygu rhannu adnoddau, gwybodaeth ac arbenigedd. Mae'r grŵp o gyrff a elwir yn ‘Bartneriaeth Cydraddoldeb Cyrff Cyhoeddus Cymru’ wedi ymrwymo i gydweithio dros y tymor hir i weithredu ar y cyd i gyflawni'r amcanion, gan ddeall yr effaith y gallant ei chael ar y cyd drwy gytuno ar fesurau canlyniadau tryloyw.
Y gobaith yw y bydd cydweithio yn sicrhau mwy o effaith wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus mwy cyfartal, gan gyfrannu'n sylweddol at fynd i'r afael ag anghydraddoldebau fel y nodir yn yr adroddiad 'A yw Cymru'n Decach, 2018'.
Mae'r gwaith ar y cyd hwn yn adlewyrchu egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) a bydd yn cyfrannu'n uniongyrchol at y nod llesiant cenedlaethol ‘Cymru fwy Cyfartal’. Drwy holl waith y bartneriaeth bydd yr egwyddor datblygu cynaliadwy a’r pum ffordd o weithio yn cael eu cymhwyso a bydd tystiolaeth o hynny.
Dyma’r Cyrff Cyhoeddus dan sylw: Cyfoeth Naturiol Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru, Amgueddfa Cymru, CCAUC, Comisiynydd y Gymraeg, Gyrfa Cymru, Awdurdod Cyllid Cymru, AaGIC, Chwaraeon Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ac Ymddiriedolaeth Prifysgol GIG Felindre.
Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC)
Pwrpas Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yw gofalu am yr adnoddau naturiol hyn a beth maent yn ei ddarparu i ni: helpu i leihau’r risg i bobl ac eiddo o lifogydd a llygredd; gofalu am y llefydd arbennig hyn ar gyfer lles, bywyd gwyllt a choed; a gweithio gydag eraill i’n helpu ni i gyd i’w rheoli’n gynaliadwy.
https://www.google.co.uk/url?sa=t&rct=j&q=&esrc=s&source=web&cd=1&cad=rja&uact=8&ved=2ahUKEwjOn5-3jKPlAhWKQEEAHVylCxMQFjAAegQIBxAC&url=https%3A%2F%2Fnaturalresources.wales%2F&usg=AOvVaw37VL6RUkW1CTrpb492Q71U
Cyngor Celfyddydau Cymru
Cyngor Celfyddydau Cymru yw corff cyhoeddus swyddogol y wlad ar gyfer cyllido a datblygu’r celfyddydau.
Bob dydd, mae pobl ledled Cymru’n mwynhau ac yn cymryd rhan yn y celfyddydau. Rydym yn helpu i gefnogi a datblygu’r gweithgarwch hwn. Rydym yn gwneud hyn drwy ddefnyddio arian cyhoeddus a ddaw ar gael i ni gan Lywodraeth Cymru a thrwy ddosbarthu’r arian rydym yn ei dderbyn fel achos da gan y Loteri Genedlaethol. Drwy reoli a buddsoddi’r arian hwn mewn gweithgarwch creadigol, mae Cyngor y Celfyddydau yn cyfrannu at ansawdd bywyd pobl ac at les diwylliannol, cymdeithasol ac economaidd Cymru.
https://arts.wales/about-us
Amgueddfa Cymru
Ers lansio ein Gweledigaeth- Ysbrydoli Pobl, Newid Bywydau- yn 2015, bu’n flaenoriaeth gennym i alluogi cymaint â phosibl o bobl i fwynhau ein hamgueddfeydd.
https://amgueddfa.cymru/
Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC)
Mae CCAUC yn rheoleiddio lefelau ffioedd darparwyr addysg uwch, yn sicrhau bod fframwaith yn ei le ar gyfer asesu ansawdd addysg uwch, ac yn craffu ar berfformiad darparwyr dynodedig. Rydym yn defnyddio adnoddau gan Lywodraeth Cymru ac eraill i sicrhau dysgu ac ymchwil addysg uwch o’r safon uchaf, gan sicrhau bod AU yn gwneud y cyfraniad gorau posib at ddiwylliant, cymdeithas ac economi Cymru.
https://www.hefcw.ac.uk/about_us/about_us.aspx
Comisiynydd y Gymraeg
Mae ein sefydliad yn gweithio tuag at sicrhau nad yw'r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na'r Saesneg drwy osod dyletswydd ar rai sefydliadau i gydymffurfio â safonau’n ymwneud â’r Gymraeg, a gweithio gydag elusennau a busnesau maint canol a mawr i gynyddu eu defnydd o’r Gymraeg.
http://www.comisiynyddygymraeg.cymru/Cymraeg/Comisiynydd/Pages/beth-ydym-nin-ei-wneud.aspx
Gyrfa Cymru
Mae Gyrfa Cymru yn is-gwmni sy’n eiddo i Lywodraeth Cymru. Rydym yn darparu gwybodaeth a chyngor gyrfaoedd diduedd ac annibynnol i bob oedran, a gwasanaeth arweiniad ar gyfer Cymru.
www.careerswales.gov.wales/about-us
Awdurdod Cyllid Cymru
Awdurdod Cyllid Cymru yw awdurdod trethi newydd Cymru. Mae’r Awdurdod yn casglu ac yn rheoli dwy dreth ddatganoledig Cymru ar ran Llywodraeth Cymru, sef y Dreth Trafodiadau Tir a’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi.
https://llyw.cymru/awdurdod-cyllid-cymru?_ga=2.63656168.695109826.1573121896-240802886.1570110366
Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC)
Cynllunio, datblygu, siapio, addysgu a hyfforddi’r gweithlu iechyd ar gyfer heddiw ac yfory.
https://heiw.nhs.wales/
Chwaraeon Cymru
Pwrpas Chwaraeon Cymru yw ‘Galluogi Chwaraeon yng Nghymru i Ffynnu’. Rydym yn cysylltu â rhwydwaith eang o bartneriaid ac yn eu cefnogi, fel ein bod, gyda’n gilydd, yn medru galluogi pawb i fwynhau chwaraeon a’u manteision, pryd bynnag, sut bynnag ac am oes.
http://sport.wales/about-us/about-sport-wales/sport-wales-strategy.aspx
Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn darparu amrywiaeth eang ac unigryw o wasanaethau i’r boblogaeth leol ac i Gymru yn ehangach. Gan ein bod yn Fwrdd Iechyd addysgu ac yn ganolfan ragoriaeth ar gyfer sawl maes, rydym yn cyflogi rhai o glinigwyr gorau eu meysydd. Mae ein cleifion ni wrth galon popeth rydym yn ei wneud.
http://www.cardiffandvaleuhb.wales.nhs.uk/our-services
Ymddiriedolaeth Prifysgol GIG Felindre.
Mae Ymddiriedolaeth y GIG Prifysgol Felindre yn darparu gwasanaethau Canser a gwaed arbenigol ledled De a Chanolbarth Cymru drwy Ganolfan Ganser Felindre (http://www.velindrecc.wales.nhs.uk/home) a Gwasanaeth Gwaed Cymru (https://www.welsh-blood.org.uk/). Mae darparu ansawdd, gofal a rhagoriaeth i’n cleifion a’n rhoddwyr ni wrth galon ein sefydliad.
http://www.velindre-tr.wales.nhs.uk/home
2. Sut mae ymateb i’r ymgynghoriad ffurfiol
Dechreuodd yr ymgynghoriad hwn ar 21ain Hydref 2019. Bydd yr ymgynghoriad hwn yn dod i ben ddydd Sul 26ain Ionawr 2020. A fyddech cystal ag ateb yr ymgynghoriad hwn erbyn dydd Sul 26ain Ionawr 2020.
Byddem yn croesawu eich atebion yn gynharach, os oes modd. Bydd atebion cynharach yn ein helpu ni i drefnu’r digwyddiadau ymgysylltu. Bydd pob ateb yn ein helpu i gytuno ar ein Hamcanion Cydraddoldeb a'r camau gweithredu y byddwn yn eu cymryd i gyflawni pob amcan.
Mae'r ymgynghoriad hwn ar gael mewn print bras ac fel dogfen Word yn Gymraeg ac yn Saesneg ar wefan Diverse Cymru. Os hoffech gopi wedi'i argraffu o'r ddogfen drwy'r post neu drwy e-bost, cysylltwch â ni.
Cysylltwch â ni os hoffech gael yr ymgynghoriad hwn mewn fformat gwahanol (er enghraifft Braille, ar liw papur gwahanol, neu fel ffeil sain.)
Gallwch ymateb i'r ymgynghoriad hwn drwy:
Lenwi'r arolwg ar-lein yma
Neu anfon eich ymateb i Diverse Cymru drwy:
E-bost: [email protected]
Ffôn: 029 2036 8888. Gofynnwch am Georgia Marks neu Shelagh Maher.
Post: Diverse Cymru,
3ydd Llawr, Tŷ Alexandra
307-315 Heol Orllewinol y Bont-faen
Caerdydd
CF5 1JD
Os hoffech gael help gyda'ch ymateb cysylltwch â ni ar 029 2036 888 a gofyn am Shelagh Maher neu Georgia Marks neu e-bostiwch [email protected]. Gallwn ddarllen cwestiynau i chi ac ysgrifennu eich ymateb gyda chi.
3. Digwyddiadau dweud eich dweud
Rydym yn cynnal digwyddiadau ymgysylltu ynghylch yr Amcanion Cydraddoldeb hyn.
Y digwyddiadau hyn yw eich cyfle i ddweud wrthym ba gamau y dylem eu cymryd i gyflawni ein Hamcanion Cydraddoldeb.
Rydym yn croesawu unigolion amrywiol a grwpiau cymunedol neu sefydliadau trydydd sector yn y digwyddiadau hyn.
Mae unigolion amrywiol yn cynnwys:
· Pobl ifanc dan 26 oed
· Pobl hŷn dros 50 oed
· Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig, gan gynnwys Sipsiwn, Sipsiwn Roma a Theithwyr
· Pobl anabl. Mae hyn yn cynnwys:
· Pobl â namau symudedd. Er enghraifft, defnyddwyr cadeiriau olwyn neu bobl â chyflyrau iechyd sy'n effeithio ar eu gallu i gerdded.
· Pobl â namau ar y synhwyrau. Er enghraifft, pobl ddall, byddar neu bobl â nam ar eu clyw.
· Pobl ag anableddau dysgu. Er enghraifft, pobl awtistig neu bobl â dyslecsia neu ddyspracsia.
· Pobl â namau gwybyddol. Er enghraifft, pobl â dementia neu hydroceffalws.
· Pobl â chyflyrau iechyd hirdymor. Er enghraifft, HIV, diabetes neu MS.
· Pobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol
· Pobl trawsryweddol
· Pobl o wahanol grefyddau a ffydd
· Menywod a dynion
· Pobl sy'n feichiog neu famau newydd
Canolbarth Cymru
Adeiladau Llywodraeth Cymru, Rhodfa Padarn, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3UR
Dydd Mawrth 26ain Tachwedd 2019
Cofrestru: 9:30 am
Digwyddiad: 10 am i 1 pm
Cinio ysgafn a rhwydweithio: 1 pm i 2 pm
Gallwch gofrestru ar-lein ar gyfer y digwyddiad hwn yma:
Gorllewin Cymru
Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Heol Oystermouth, Y Chwarter Morol, Abertawe, SA1 3RD
Dydd Iau 28ain Tachwedd 2019
Cofrestru: 9:30 am
Digwyddiad: 10 am i 1 pm
Cinio ysgafn a rhwydweithio: 1 pm i 2 pm
Gallwch gofrestru ar-lein ar gyfer y digwyddiad hwn yma:
De Ddwyrain Cymru
Chwaraeon Cymru, Gerddi Sophia, Caerdydd, CF11 9SW
Dydd Gwener 29ain Tachwedd 2019
Cofrestru: 9:30 am
Digwyddiad: 10 am i 1 pm
Cinio ysgafn a rhwydweithio: 1 pm i 2 pm
Gallwch gofrestru ar-lein ar gyfer y digwyddiad hwn yma:
Gogledd Cymru
Neuadd Reichel, Prifysgol Bangor, Ffordd Ffriddoedd, Bangor, LL57 2TR
Dydd Llun 2il Rhagfyr 2019
Cofrestru: 9:30 am
Digwyddiad: 10 am i 1 pm
Cinio ysgafn a rhwydweithio: 1 pm i 2 pm
Gallwch gofrestru ar-lein ar gyfer y digwyddiad hwn yma
Mae’r broses gofrestru yn agor am 09:30 ar gyfer pob digwyddiad.
Defnyddiwch fanylion cyswllt Diverse Cymru a nodir uchod i gofrestru ar gyfer y digwyddiadau hyn.
Rhowch wybod i ni pan fyddwch yn cofrestru os ydych am gyfrannu yn Gymraeg neu yn Saesneg; os oes gennych unrhyw ofynion dietegol; ac unrhyw ofynion mynediad.
Gallwn ad-dalu costau teithio, gofal plant, gofal amgen, mynediad a chostau tebyg ar gyfer unigolion amrywiol. Cysylltwch â ni cyn y digwyddiad i gael gwybodaeth
4. Meini prawf yr ymgynghoriad
Rydym yn cynnal yr ymgynghoriad hwn yn unol â Chod Ymarfer y Llywodraeth ar Ymgynghori. Rydym wedi cynnwys meini prawf yr ymgynghoriad yn Atodiad A.
5. Beth sy’n digwydd nesaf?
Byddwn yn edrych ar eich ymateb i'r ymgynghoriad hwn gyda’r atebion eraill. Bydd Diverse Cymru yn defnyddio'r holl ymatebion i'r ymgynghoriad hwn i ysgrifennu adroddiad ar yr Amcanion Cydraddoldeb a awgrymir. Byddwn hefyd yn defnyddio safbwyntiau a materion yn deillio o ddigwyddiadau ymgysylltu ar sut i gyflawni'r Amcanion Cydraddoldeb a'r camau gweithredu yn yr adroddiad hwn. Bydd Diverse Cymru yn cyhoeddi’r ymgynghoriad hwn ar ein gwefan ar ddechrau 2020 (www.diversecymru.org.uk.) Bydd sefydliadau partner hefyd yn cyhoeddi'r adroddiad ar eu gwefannau.
Gofynnwch i ni am gopïau papur a chopïau mewn fformatau hygyrch. Gallwch ofyn am gopi papur neu gopi mewn fformat hygyrch gan ddefnyddio'r manylion cyswllt uchod.
6. Adran amcanion y ddogfen ymgynghori
Mae’r Amcanion Cydraddoldeb yn dargedau y mae sefydliadau yn eu gosod eu hunain. Maent yn cymryd camau gweithredu i gyflawni’r targedau hyn. Ystyr Canlyniadau yw’r gwahaniaeth y bydd pob amcan yn ei wneud.
Mae Partneriaeth Cydraddoldeb Cyrff Cyhoeddus Cymru wedi cytuno ar rai Amcanion Cydraddoldeb ar gyfer y 4 blynedd nesaf. Rydym eisiau eich barn am yr amcanion hyn.
Rydym hefyd eisiau eich help i benderfynu pa gamau y dylem eu cymryd i gyflawni'r amcanion hyn.
Amcan
Canlyniad tymor hir
Canlyniad erbyn 2024
1. Cynyddu amrywiaeth y gweithlu.
Bydd ein sefydliadau yn sicrhau amgylchedd teg a chynhwysol, lle mae'r holl weithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi ac yn gallu cael yr un cyfleoedd i gyflawni eu potensial o fewn y sefydliad.
Erbyn 2022, byddwn wedi sicrhau bod ein gwaith adrodd ar ddata cyflogaeth yn cyfateb i adroddiadau Llywodraeth Cymru o ran ffurf a dyddiadau adrodd.
Erbyn 2024 bydd gennym dystiolaeth o sut rydym yn cyrraedd grwpiau lleiafrifol a'r rheini sy'n byw mewn tlodi er mwyn eu cael i ddod i weithio gyda ni.
2. Lleihau bylchau cyflog.
Bydd datgelu gwybodaeth yn rhan o ddiwylliant sefydliadol, bydd staff yn deall pam mae data'n cael ei gasglu, gan sicrhau mai dim ond data angenrheidiol sy'n cael ei gasglu (GDPR)
Bydd data cywir ar draws y sector cyhoeddus yn darparu dadansoddiad. (ar draws nodweddion gwarchodedig)
3. Ymgysylltu â’r gymuned.
Bydd camau i ymgysylltu'n weithredol â chymunedau amrywiol Cymru ar waith, sy'n cynnwys unigolion ein cymunedau yn y penderfyniadau rydym yn eu gwneud gyda'n gilydd.
Erbyn 2024, bydd gennym dystiolaeth drwy ddata monitro cydraddoldebau bod ein hymwneud â'r gymuned yn cynrychioli cyfrifiad poblogaeth Cenedlaethol 2021 Cymru.
4. Sicrhau bod caffael yn sbarduno cydraddoldeb.
Bydd egwyddorion caffael a rennir yn weithredol a bydd tystiolaeth ohonynt.
Bydd data caffael ar gael a bydd yn dangos amrywiaeth o ran caffael.
5. Sicrhau bod y gwasanaethau a ddarperir yn adlewyrchu anghenion unigol.
Bydd dysgu ar y cyd am arfer gorau yn dylanwadu'n weithredol ar wasanaethau cyflenwi i ddiwallu anghenion unigol.
Erbyn 2024, byddwn yn gallu dangos tystiolaeth o systemau gweithredol a ffyrdd o weithio sy'n sicrhau bod anghenion unigol yn cael eu deall a'u parchu wrth gael gafael ar wasanaethau a’u derbyn.
7. Ffurflen YmatebYdych chi’n ymateb fel:
☐ Unigolyn
☐ Sefydliad
Os ydych chi’n ymateb fel sefydliad, ydych chi'n:
☐ Sefydliad yn y sector cyhoeddus
☐ Sefydliad yn y sector preifat (cwmni er enghraifft)
☐ Prifysgol neu goleg
☐ Undeb llafur
☐ Grŵp cymunedol
☐ Elusen neu sefydliad arall yn y trydydd sector
☐ Sefydliad arall (nodwch)
Enw’r sefydliad:
Os ydych chi'n ymateb fel sefydliad dywedwch wrthym pwy ydych chi'n ei gynrychioli a sut rydych wedi casglu barn pobl
Ydych chi’n cytuno â’r amcan 1 arfaethedig?
Cynyddu amrywiaeth y gweithlu: Bydd ein sefydliadau yn sicrhau amgylchedd teg a chynhwysol, lle mae'r holl weithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi ac yn gallu cael yr un cyfleoedd i gyflawni eu potensial o fewn y sefydliad.
☐ Ydw☐ Nac ydw☐ Yn rhannol☐ Ddim yn siŵr
Unrhyw sylwadau
Sut fyddech chi'n newid neu'n datblygu amcan 1?
Pa gamau a fyddai'n ein helpu i gyflawni amcan 1?
Ydych chi’n cytuno â’r amcan 2 arfaethedig?
Lleihau bylchau cyflog. Bydd datgelu gwybodaeth yn rhan o ddiwylliant sefydliadol, bydd staff yn deall pam mae data'n cael ei gasglu, gan sicrhau mai dim ond data angenrheidiol sy'n cael ei gasglu (GDPR).
☐ Ydw☐ Nac ydw☐ Yn rhannol☐ Ddim yn siŵr
Unrhyw sylwadau
Sut fyddech chi'n newid neu'n datblygu amcan 2?
Pa gamau a fyddai'n ein helpu i gyflawni amcan 2?
Ydych chi’n cytuno â’r amcan 3 arfaethedig?
Ymgysylltu â’r gymuned. Bydd camau i ymgysylltu'n weithredol â chymunedau amrywiol Cymru ar waith, sy'n cynnwys unigolion ein cymunedau yn y penderfyniadau rydym yn eu gwneud gyda'n gilydd.
☐ Ydw☐ Nac ydw☐ Yn rhannol☐ Ddim yn siŵr
Unrhyw sylwadau
Sut fyddech chi'n newid neu'n datblygu amcan 3?
Pa gamau a fyddai'n ein helpu i gyflawni amcan 3?
Ydych chi’n cytuno â’r amcan 4 arfaethedig?
Sicrhau bod caffael yn sbarduno cydraddoldeb. Bydd egwyddorion caffael a rennir yn weithredol a bydd tystiolaeth ohonynt.
☐ Ydw☐ Nac ydw☐ Yn rhannol☐ Ddim yn siŵr
Unrhyw sylwadau
Sut fyddech chi'n newid neu'n datblygu amcan 4?
Pa gamau a fyddai'n ein helpu i gyflawni amcan 4?
Ydych chi’n cytuno â’r amcan 5 arfaethedig?
Sicrhau bod y gwasanaethau a ddarperir yn adlewyrchu anghenion unigol.Bydd dysgu ar y cyd am arfer gorau yn dylanwadu'n weithredol ar wasanaethau cyflenwi i ddiwallu anghenion unigol.
☐ Ydw☐ Nac ydw☐ Yn rhannol☐ Ddim yn siŵr
Unrhyw sylwadau
Sut fyddech chi'n newid neu'n datblygu amcan 5?
Pa gamau a fyddai'n ein helpu i gyflawni amcan 5?
A oes unrhyw Amcanion Cydraddoldeb eraill y credwch y dylem eu cael? A oes unrhyw beth ar goll?
Yn eich barn chi, a allai'r amcanion arfaethedig gael unrhyw effeithiau cadarnhaol neu niweidiol ar y canlynol:
a) Cyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg; a
b) pheidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.
c) Sut y gellir cynyddu’r effeithiau cadarnhaol ar y Gymraeg, neu leihau effeithiau andwyol?
Nodwch fanylion isod
A oes unrhyw gyfleoedd i:
a) Hyrwyddo defnydd o'r Gymraeg
b) Darparu mwy o gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg
Nodwch fanylion isod
Oes gennych chi unrhyw sylwadau eraill ar sut y gallai'r Amcanion Cydraddoldeb gael effaith andwyol ar unrhyw grwpiau nodweddion gwarchodedig (grwpiau amrywiol)?
Oes gennych chi unrhyw sylwadau ynghylch sut y gall yr Amcanion Cydraddoldeb gael effaith gadarnhaol ar unrhyw gymuned amrywiol?
Mae hyn yn cynnwys cyfleoedd i sicrhau'r effeithiau cadarnhaol mwyaf; hyrwyddo mynediad a chyfle cyfartal; a hyrwyddo cysylltiadau da
8. Amdanoch chi
Nid oes rhaid i chi roi eich enw na'ch manylion cyswllt i ni.
Bydd yr wybodaeth y byddwch yn ei rhoi i ni yn cael ei defnyddio i wneud yn siŵr ein bod wedi cyrraedd pobl amrywiol o bob cymuned ac i ddadansoddi unrhyw wahaniaeth mewn ymatebion gan wahanol grwpiau. Ni fydd yn cael ei defnyddio i'ch adnabod mewn unrhyw ffordd ac ni fydd yn cael ei throsglwyddo i'r partneriaid.
Mae pob cwestiwn yn ddewisol. Bydd eu cwblhau yn ein helpu i sicrhau ein bod wedi cyrraedd pob cymuned.
Sut fyddech chi’n disgrifio eich rhyw?
☐ Benyw☐ Gwryw☐ Rhyngrywiol☐ Trawsrywiol☐ Anneuaidd☐ Arall (nodwch) ________________________________
Ym mha grŵp oedran ydych chi?
☐ Dan 11
☐ 11 i 15
☐ 16 i 17
☐ 18 i 25
☐ 26 i 35
☐ 36 i 45
☐ 46 i 55
☐ 56 i 65
☐ 66 i 75
☐ 76 i 85
☐ 86 i 90
☐ Dros 90
Sut byddech chi’n disgrifio eich cyfeiriadedd rhywiol?
☐ Heterorywiol/syth
☐ Hoyw
☐ Lesbiad
☐ Deurywiol
☐ Arall (nodwch) _________________________________
Ydych chi'n feichiog ar hyn o bryd neu ydych chi wedi rhoi genedigaeth yn y 12 mis diwethaf?
☐ Ydw☐ Nac ydw
Ydych chi'n siarad Cymraeg?
☐ Ydw☐ Dysgwr☐ Nac ydw
Beth ydy eich grŵp ethnig?
Gwyn
☐ Gwyn Prydeinig
☐ Gwyn Cernyweg
☐ Gwyn Saesneg
☐ Gwyn Gwyddelig
☐ Gwyn Albanaidd
☐ Gwyn Cymreig
☐ Sipsi neu Deithiwr
☐ Gwyn Arall (Plîs enwch)
Du neu Du Prydeinig
☐ Du Prydeinig
☐ Du Cymreig
☐ Affricanaidd
☐ Caribïaidd
☐ Du Arall (Plîs enwch)
Asiaidd neu Asiaidd Prydeinig
☐ Indiaidd
☐ Pacistanaidd
☐ Bangladeshaidd
☐ Tsieineaidd
☐ Asiaidd Arall (Plîs enwch)
Ethnig cymysg
☐ Gwyn a Du Caribïaidd☐ Gwyn a Du Affricanaidd
☐ Gwyn a Asiaidd
☐ Cymysg Arall (Plîs enwch)
☐ Arall nad yw wedi'i restru uchod (nodwch) __________________________________
Ydych chi'n ystyried eich hun yn anabl?
☐ Ydw☐ Nac ydw☐ Ddim yn siŵr
Os ydych chi'n ystyried eich hun yn anabl, ticiwch pa rai o’r isod sy'n berthnasol i chi:
☐Nam gwybyddol (er enghraifft cyflyrau niwrolegol, neu ddementia)
☐Nam neu anabledd dysgu (er enghraifft dyslecsia, Syndrom Down ac ati)
☐Nam symudedd
☐Salwch meddwl (er enghraifft iselder, gorbryder neu sgitsoffrenia)
☐Nam ar y synhwyrau (er enghraifft nam ar y golwg neu'r clyw)
☐Cyflwr iechyd hirdymor (er enghraifft epilepsi, diabetes, neu ganser)
☐ Arall (nodwch) _____________________________________
Beth yw eich crefydd neu gred?
☐ Atheist
☐ Bwdhydd
☐ Cristion
☐ Hindŵ
☐ Iddew
☐ Mwslim
☐ Pagan
☐ Sikh
☐ Dim un
☐ Arall (nodwch) ______________________________________
Beth yw eich statws eich perthynas?
☐ Priod neu mewn partneriaeth sifil
☐ Wedi ysgaru
☐ Wedi gwahanu
☐ Gweddw
☐ Byw gyda phartner mewn perthynas hirdymor
☐ Mewn perthynas
☐ Sengl
☐ Arall (nodwch) ____________________________________
Ydych chi'n ofalwr? Mae gofalwr yn rhywun sy'n darparu gofal i aelod o'r teulu neu ffrind ac nad yw'n cael ei dalu am y gofal
☐ Ydw☐ Nac ydw☐ Ddim yn siŵr
Digwyddiadau ymgysylltu ac adroddiad
ymgynghori
Diolch i chi am ymateb i’r ymgynghoriad hwn.
Rydym yn cynnal digwyddiadau ymgysylltu. Mae’r digwyddiadau hyn yn gyfle i chi drafod pa gamau y dylai partneriaid eu cymryd i gyflawni eu Hamcanion Cydraddoldeb.
Dyddiadau a lleoliadau’r digwyddiadau ymgysylltu
Gallwch gofrestru ar gyfer y digwyddiadau hyn drwy:
Eventbrite ar-lein yma (link)
E-bost: [email protected]
Ffôn: 029 2036 8888 a gofyn am Shelagh Maher neu Georgia Marks
Post: Diverse Cymru
3ydd Llawr, Tŷ Alexandra
307-315 Heol Orllewinol y Bont-faen
Caerdydd
CF5 1 JD
Rhowch wybod i ni a hoffech gymryd rhan yn Gymraeg neu yn Saesneg; oes gennych unrhyw ofynion dietegol neu fynediad; ac a hoffech hawlio costau teithio neu dreuliau eraill pan fyddwch yn cofrestru.
Canolbarth Cymru
Adeiladau Llywodraeth Cymru, Rhodfa Padarn, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3UR
Dydd Mawrth 26ain Tachwedd 2019
Cofrestru: 9:30 am
Digwyddiad: 10 am i 1 pm
Cinio ysgafn a rhwydweithio: 1 pm i 2 pm
Gallwch gofrestru ar-lein ar gyfer y digwyddiad hwn yma
Gorllewin Cymru
Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Heol Oystermouth, Y Chwarter Morol, Abertawe, SA1 3RD
Dydd Iau 28ain Tachwedd 2019
Cofrestru: 9:30 am
Digwyddiad: 10 am i 1 pm
Cinio ysgafn a rhwydweithio: 1 pm i 2 pm
Gallwch gofrestru ar-lein ar gyfer y digwyddiad hwn yma:
De Ddwyrain Cymru
Chwaraeon Cymru, Gerddi Sophia, Caerdydd, CF11 9SW
Dydd Gwener 29ain Tachwedd 2019
Cofrestru: 9:30 am
Digwyddiad: 10 am i 1 pm
Cinio ysgafn a rhwydweithio: 1 pm i 2 pm
Gallwch gofrestru ar-lein ar gyfer y digwyddiad hwn yma
Gogledd Cymru
Neuadd Reichel, Prifysgol Bangor, Ffordd Ffriddoedd, Bangor, LL57 2TR
Dydd Llun 2il Rhagfyr 2019
Cofrestru: 9:30 am
Digwyddiad: 10 am i 1 pm
Cinio ysgafn a rhwydweithio: 1 pm i 2 pm
Gallwch gofrestru ar-lein ar gyfer y digwyddiad hwn yma
Byddwn yn cyhoeddi adroddiadau'r ymgynghoriad hwn ar wefannau Diverse Cymru a phartneriaid.
Os ydych am i ni anfon copi o'r adroddiad ymgynghori atoch, ychwanegwch eich manylion isod neu cysylltwch â ni.
Ni fydd y manylion hyn yn cael eu defnyddio fel rhan o'ch ymateb i'r ymgynghoriad nac i'ch adnabod.
Enw:
Cyfeiriad e-bost neu bost:
Unrhyw ofynion mynediad?
9. AtodiadAtodiad A: Rhyddid Gwybodaeth
Gall gwybodaeth a ddarperir mewn ymateb i'r ymgynghoriad hwn, gan gynnwys gwybodaeth bersonol, gael ei chyhoeddi neu ei datgelu yn unol â Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 neu Reoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004.
Os ydych am i’r wybodaeth rydych yn ei rhoi i ni gael ei thrin yn gyfrinachol, dylech fod yn ymwybodol bod Cod Ymarfer statudol, dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, y mae'n rhaid i awdurdodau cyhoeddus gydymffurfio ag ef ac sy'n ymdrin â rhwymedigaethau cyfrinachedd, ymysg pethau eraill.
Yng ngoleuni hyn, byddai'n ddefnyddiol pe gallech egluro i ni pam eich bod yn ystyried bod yr wybodaeth rydych chi'n ei darparu yn gyfrinachol. Os byddwn yn cael cais i ddatgelu'r wybodaeth, byddwn yn ystyried eich esboniad yn llawn, ond ni allwn roi sicrwydd y gellir cadw cyfrinachedd ym mhob sefyllfa. Ni fydd ymwadiad cyfrinachedd awtomatig a gynhyrchir gan eich system TG, ynddo'i hun, yn cael ei ystyried yn rhwymol i’r Adran.
Bydd Diverse Cymru yn prosesu eich data personol yn unol â'r Ddeddf Diogelu Data (DPA) ac yn y rhan fwyaf o sefyllfaoedd bydd hyn yn golygu na fydd eich data personol yn cael ei ddatgelu i drydydd partïon. Nid oes rhaid i chi roi eich enw nac unrhyw fanylion cyswllt yn eich ateb.
Atodiad B: Meini prawf yr ymgynghoriad
Maen prawf 1 Pryd i ymgynghori
Dylid cynnal ymgynghoriad ffurfiol ar adeg pan mae lle i ddylanwadu ar ganlyniad y polisi.
Maen prawf 2 Hyd yr ymarferion ymgynghori
Dylai ymgynghoriadau bara am o leiaf 12 wythnos fel arfer, gan ystyried amserlenni hirach lle bo hynny'n ymarferol ac yn synhwyrol.
Maen prawf 3 Eglurder cwmpas ac effaith
Dylai dogfennau ymgynghori fod yn glir ynghylch y broses ymgynghori, yr hyn sy'n cael ei gynnig, y cyfle i ddylanwadu a chostau a manteision disgwyliedig y cynigion.
Maen prawf 4 Pa mor hygyrch yw’r ymarferion ymgynghori
Dylai ymarferion ymgynghori gael eu cynllunio i fod yn hygyrch i'r bobl hynny y mae'r ymarfer yn bwriadu eu cyrraedd, ac wedi'u targedu'n glir atynt.
Maen prawf 5 Baich yr ymgynghoriad
Mae'n hanfodol cadw baich yr ymgynghoriad cyn lleied ag y bo modd er mwyn sicrhau bod yr ymgynghoriadau'n effeithiol ac os yw'r ymgynghoreion yn gallu ymrwymo i'r broses.
Maen prawf 6 Pa mor ymatebol yw’r ymarferion ymgynghori
Dylid dadansoddi'r ymatebion i'r ymgynghoriad yn ofalus a rhoi adborth clir i'r cyfranogwyr ar ôl yr ymgynghoriad.
Maen prawf 7 Gallu i ymgynghori
Dylai swyddogion sy'n cynnal ymgynghoriadau ofyn am arweiniad ar sut i gynnal ymarfer ymgynghori effeithiol a rhannu'r hyn y maent wedi'i ddysgu o'r profiad.
Atodiad C: Egwyddorion caffael a rennir
· Ymrwymo i God Ymddygiad Llywodraeth Cymru ar Gyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi.
· Sicrhau bod cydraddoldeb ac amrywiaeth yn rhan o'r broses o fonitro contractau ar gyfer pob contract. Cymerir camau dilynol mewn unrhyw achosion o dorri amodau cydraddoldeb, waeth pa mor fach.
· Ymgorffori ymrwymiad i gydraddoldeb ac amrywiaeth ar gyfer contractau gwerth is ac unig fasnachwyr nad oes ganddynt bolisïau cydraddoldeb fel arall efallai.
· Cynnwys gofynion cydraddoldeb wedi’u sgorio ym mhob manyleb berthnasol.
· Sicrhau bod canllawiau ar ysgrifennu manylebau staff yn cynnwys ystyriaeth benodol i gydraddoldeb ac amrywiaeth.
· Ymrwymo i dalu cyflog byw i gontractwyr.
· Adolygu polisïau caffael a llawlyfrau ariannol i sicrhau bod cyfeiriadau at y PSED yn cael eu cynnwys.
· Gofyn i gontractwyr am gynigion ynghylch sut y gallent ymgorffori cydraddoldeb yn y contract a sgorio'r cynigion hynny.
· Darparu enghreifftiau o'r egwyddorion hyn gydag enghreifftiau o arfer gorau.
Atodiad D: Yr Iaith Gymraeg
Mae llawer o'r sefydliadau sy'n rhan o’r bartneriaeth yn gweithredu'n unol â Safonau'r Gymraeg. Mae safonau llunio polisïau yn ei gwneud yn ofynnol i sefydliadau ystyried pa effeithiau cadarnhaol ac andwyol y bydd penderfyniad polisi yn eu cael ar y Gymraeg. Ystyr penderfyniad polisi yw unrhyw benderfyniad a wneir gan gorff ynghylch arfer ei swyddogaethau. Mae safonau penodol o ran y Gymraeg ar waith o ran recriwtio staff; wrth ymgysylltu â chymunedau dylid ystyried proffil ieithyddol y gymuned; a dylid ystyried anghenion iaith wrth ddarparu gwasanaethau sy'n adlewyrchu anghenion unigol. Wrth ddatblygu eu cynllun cydraddoldeb strategol eu hunain, bydd pob partner yn cynnal asesiad llawn o effaith y Gymraeg yn ôl gofynion y safonau y mae'n ddarostyngedig iddynt.
Atodiad E: Cymhwyso'r 5 Ffordd o Weithio - Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru).
Ways of working How has this been applied
Prevention
‘Is Wales fairer’ – The state of equality and human
rights, alongside EHRC PSED review briefing and
information taken from the col lective organisations
fully informed the hi gh-level equality objectives ,
through understanding key inequalities.
Long term
The high-level objectives are reco gnised as long-
term objectives that will exist beyond the cycle of
the SEP, organisations uniting together behind the
objectives will achiev e greater impact for future
generations in enjoying a fairer society and more
equal Wales
Collaboration
Public Bodies will unite behind shared objectives
and are committed to working together to meet the
objectives.
Integration
The high-level objectives have been informed
through insight, they align to Welsh Government
long term equality aims and contribute to a more
equal Wales (FGA) and a fairer society (Equality
act, 2010).
30