6
Eich cyfrif neu’ch eithrio Casgliadau Arolwg Stonewall Cymru 2002-2003 ar lesbiaid, dynion hoyw a phobl ddeurywiol yng Nghymru Crynodeb Gweithredol Hydref 2003

Eich Cyfrif Neu'ch Eithrio

Embed Size (px)

DESCRIPTION

Arolwg cyntaf erioed o bobl LHD yng Nghymru gan Stonewall Cymru.

Citation preview

Page 1: Eich Cyfrif Neu'ch Eithrio

Eich cyfrif neu’ch eithrio

Casgliadau Arolwg Stonewall Cymru2002-2003 ar lesbiaid, dynion hoyw

a phobl ddeurywiol yng Nghymru

Crynodeb Gweithredol Hydref 2003

Page 2: Eich Cyfrif Neu'ch Eithrio

Stonewall Cymru

Caerdyddd/o CCC T ^y Windsor Lôn Windsor CaerdyddCF10 3GEFfôn 029 2023 7744 Ffacs 029 2064 1079

BangorT ^y Gwydr1 Rhes TrefelyanStryd FawrBangorLL57 1AXFfôn 0845 4569823 Ffacs 07092 333962

[email protected]

Prifysgol Caerdydd

Dr Amanda L Robinson a Matthew Williams

Ysgol Gwyddorau CymdeithasolPrifysgol CaerdyddAdeilad MorgannwgRhodfa Brenin Edward VII Caerdydd CF10 3WT

Cynnwys

3 Cyd-destun yr adroddiad

4 Crynodeb o gasgliadau

5 Prif gasgliadau

8 Argymhellion

10 Methodoleg

Cyd-destun yr adroddiad

Yn hanesyddol, cafodd gwahaniaethu ynerbyn lesbiaid, dynion hoyw a phoblddeurywiol (LGB) ei anwybyddu, weithiau,hyd yn oed, ei annog. O ganlyniad, priniawn fu’r arian a fuddsoddwyd ganLywodraethau i ymchwilio i faint y rhagfarna brofwyd gan bobl LGB. Prin bodgwybodaeth benodol am Gymru’n bodoli ogwbl. Bu’r diffyg gwybodaeth hwn yn esgusi wneuthurwyr polisi, ac i gyflogwyr, i osgoitrafod pynciau cydraddoldeb LGB.

Yn ffodus, mae’r sefyllfa hon yn newid. Ers datganoli, gwelwyd cynnydd yn ygefnogaeth wleidyddol ac ariannol yngNghymru i fentrau sy’n ceisio hyrwyddocydraddoldeb i lesbiaid, dynion hoyw aphobl ddeurywiol. Hefyd, o Ragfyr 2003, amy tro cyntaf, bydd deddfwriaeth mewn grymi wneud gwahaniaethu yn y gweithle ar sailtueddiad rhywiol yn anghyfreithlon. Mae’rddwy elfen hon wedi cyfrannu at roimaterion gwahaniaethu LGB yn uwch ar yragenda gydraddoldeb yng Nghymru.

Gydag arian a ddaeth o Lywodraeth yCynulliad Cenedlaethol, mentrodd StonewallCymru ar yr arolwg cyntaf Cymru gyfan hwno lesbiaid, dynion hoyw a phobl ddeurywiolyng Nghymru. Amcan yr arolwg yw cael gwelldealltwriaeth o anghenion pobl LGB yngNghymru – i sicrhau bod ein gwaith wedi’iwreiddio’n ddwfn ym mhryderon pobl LGB, abod y gwaith o greu polisi yn Nghymru ynseiliedig ar dystiolaeth, ac nid ar hanesion.

3

Mae argymhellion polisi’r adroddiad hwn yn ymestyn y tuhwnt i ffiniau Cymru. Mae mwyafrif y pynciau a amlygirgan yr arolwg hwn yn endemig i broblem ehangach, sy’namlwg nid yn unig yn y DU ond yn fyd-eang.

Page 3: Eich Cyfrif Neu'ch Eithrio

Crynodeb o gasgliadau

Yn dilyn mae uchafbwyntiau prifgasgliadau’r adroddiad:

Dywedodd mwy nag 1 o bob 3 atebwr eu bod wedi dioddef gan drais corfforolneu fwlio. Roedd mwy na hanner y rhai rhwng 18 a 25 wedi dioddef ganymosodiadau corfforol neu fwlio. Roedddynion yn llawer iawn mwy tebygol o fodwedi dioddef erledigaeth gorfforol.

Roedd dynion hefyd yn fwy tebygol o fodwedi’u diswyddo na merched, o gaelgwrthod mynediad at eu plant, o beidio âchael eu dewis am swydd, o gael eu troio’u cartrefi, o ddioddef aflonyddu gan yrheddlu, o beidio â chael yr un addysg neuhyfforddiant, ac o gael eu hecsploitio’neconomaidd oherwydd eu rhywioldeb.

Adroddodd 25% o ymatebwyr eu bodwedi cael eu diswyddo oherwydd eurhywioldeb. Dywedodd cyfran fawr eubod wedi dioddef gan aflonyddu yn ygweithle. Dywedodd bron 20% oymatebwyr eu bod yn cuddio’uhunaniaeth rhywiol yn y gweithle.

Roedd pobl LGB gydag anabledd ynllawer iawn mwy tebygol o ddioddefrhagfarn ym mhob agwedd ar fywyd.

Mae ymatebwyr h^yn yn dioddef llai oragfarn o’u cymharu â grwpiau oed eraill.Roeddent hefyd yn llai tebygol o wneudeu hunaniaeth rhywiol yn hysbys ac yn llaitebygol o fod yn weithgar yn y gymuned.Gyda’i gilydd gallai’r nodweddion hynarwain at eithrio cymdeithasol i bobl LGBh^yn.

Nid oedd siarad Cymraeg fel iaith gyntaf,na byw mewn rhan arbennig o Gymru(de, gorllewin/canolbarth neu’r gogledd)yn effeithio fawr ddim ar y tebygrwydd oddioddef erledigaeth gorfforol nacunrhyw ffurf arall ar ragfarn.

Roedd mwy na hanner yr ymatebwyr yndweud bod amddiffyniad y gyfraithohonynt yn ddiffygiol a chwarter yndweud eu bod wedi cael eu haflonyddu,neu wedi dioddef rhagfarn yn eu herbyngan yr heddlu. Yn gyffredinol, roedd barna phrofiad pobl o’r heddlu’n gymysg,efallai’n adlewyrchu’r gwaith rhagweithiola wnaed gan wasanaethau’r heddlu mewnperthynas â throseddau’n deillio o gasinebhomoffobaidd.

Gall mynychter yr enghreifftiaufictimeiddio pobl ifanc LGB yn yr arolwgfod yn arwydd o fwlio ysgol. Mae’r lefelaucynyddol o fwlio mewn lleoliadauaddysgol yn cael effaith negyddol ddifrifolar iechyd a lles cymdeithasol pobl ifancpobl LGB.

Roedd y mwyafrif o ymatebwyr yn teimlobod y rhwystrau, a’r atebion, igydraddoldeb i hoywon i’w darganfod ar lefel cymdeithas, ac yn rhoi llai ogyfrifoldeb arnynt eu hunain, neu’rgymuned LGB, fel ffynhonnell rhwystrauac atebion. Roedd canfod atebion ermwyn cael cydraddoldeb hoyw yncynyddu gydag oed ond yn gostwng ar ôl trigain oed.

Prif Gasgliadau

Hwn oedd yr arolwg mawr cyntaf o’i fath iganfod problemau ac anghenion unigrywpobl LGB ar draws Cymru. Roedd yr arolwgyn archwiliadol ei natur, yn canolbwyntio aramrywiol feysydd profiad a chanfyddiad, osafbwyntiau, i rwystrau ac atebion er mwyncyrraedd cydraddoldeb, i lefelau fictimeiddiocorfforol. Felly, nid oedd yr arolwg wedi’igynllunio i archwilio unrhyw ffenomenaarbennig oedd yn perthyn i’r boblogaethLGB Gymreig. Yn hytrach, cafwyd cipolwg arfywyd LGB Cymru lle gellid canfod perthynasag eraill a themâu ar draws profiadaucymdeithasol. Ymhlith rhai o’r casgliadaumwyaf arwyddocaol roedd y canlynol:

Perthynas ag eraillYn nhermau hyd perthynas nid oeddgwahaniaeth arwyddocaol rhwng dynion amerched. Cyfartaledd hyd perthynas oeddrhwng 2 a 5 mlynedd. Mae cyfrannaucyffelyb o ddynion a merched yn cydfyw gydachymar, a chyfrannau tebyg iawn wedigwneud trefniadau cyfreithiol. Roedd tua 1ym mhob 5 o ymatebwyr yn dweud eu bodyn gofalu am blentyn. Roedd mwy na 60% oymatebwyr yn dweud y byddent yn dymunomagu plentyn gyda’u cymar yn y dyfodol.

Spacerattop

Amlygrwydd Tueddfryd RhywiolGwelwyd bod cyfrannau uwch o’rymatebwyr ‘allan’ i bobl yn eu teulu o’igymharu â phobl eraill fel cymdogion neugydweithwyr. Y bobl yr oedd ymatebwyr ynlleiaf tebygol o fod allan iddynt oeddcydweithwyr, yr asiantaeth budd-daliadau a’rbanc. Roedd mwy na hanner yr ymatebwyrallan i’w meddyg teulu. Ar y raddfaamlygrwydd, gwelwyd gwahaniaethauystadegol arwyddocaol yn y sgoriau yn ôl oedyr atebwyr. O’r holl gategoriau oed, y rhaioedd rhwng 18-25 oed gafodd y sgoriauuchaf ar y raddfa amlygrwydd o’i gymharuâ’r rhai oedd dros 60 a gafodd y sgôr isaf.

Digwyddiadau yn y Gymuned O’i gymharu â merched, roedd dynion ynsylweddol fwy tebygol o fod yn rhan oddigwyddiadau’r gymuned (fel gwarchod ygymdogaeth, timau troseddwyr ifanc,canolfan yr enfys ayyb.), gweithgareddauLGB (BLAG, FFLAG, prosiect GYL ayyb.)1, a gwleidydiaeth leol. Roedd ymatebwyr oOgledd Cymru yn fwy tebygol o fod ynweithgar mewn gwleidyddiaeth leol o’ucymharu ag ymatebwyr yn byw yn Ne Cymru neu Ganolbarth-Gorllewin Cymru.

1 BLAG – Pobl Ddeurywiol, Lesbiaidd aHoyw – Gr ^wp cyswllt Heddlu De CymruFFLAG – Teuluoedd a Ffrindiau Lesbiaid aHoywon GYL – Llinell Ifanc Hoyw.

4 5

Page 4: Eich Cyfrif Neu'ch Eithrio

Spacerattop

Profiadau o WahaniaethuRoedd mwy nag 1 o bob 3 o ymatebwyr yndweud eu bod wedi dioddef trais corfforolneu fwlio. Gwelwyd perthynas gyson rhwngrhyw a gwahaniaethu oherwydd tueddfrydrhywiol. Mae’n ymddangos bod merched ynllai tebygol o ddioddef trais corfforol, o gaelgwrthod mynediad at eu plant, o beidio âchael eu dewis am swydd, o gael eudiswyddo, o gael eu taflu allan o’u llety, ogael eu haflonyddu gan yr heddlu, o beidio âderbyn yr un addysg neu hyfforddiant ac ogael eu hecsploitio’n economaidd.

Roedd y rhai ag anabledd yn fwy tebygol obrofi gwahaniaethu yn eu herbyn drwyddidraw. Roedd ymatebwyr h^yn yn dioddef llaio ragfarn na grwpiau oed eraill.

Rhwystrau ac Atebion: Cyrraedd Cydraddoldeb i HoywonO ran rhwystrau canfyddedig i gydraddoldebi hoywon roedd lefelau cytuno dynion amerched yn debyg iawn. Y patrwm awelwyd oedd bod ymatebwyr yn fwy tebygolo feddwl bod rhwystrau i gydraddoldeb ihoywon yn deillio o ystyriaethaucymdeithasol nag o ystyriaethau cymunedLGB neu ystyriaethau personol. Patrwmtebyg oedd i’r atebion. Roedd canfyddiadauymatebwyr o’r atebion yn canolbwyntiomwy ar y gymdeithas yn gyffredinol nag ar ylefel bersonol neu LGB. Gwelwyd hefyd bodcanfyddiadau o atebion yn tueddu igynyddu’n raddol gydag oed, ond yn disgynwedi i ymatebwyr gyrraedd 60 oed.

Spacerattop

OedRoedd yn amlwg iawn bod pobl h^yn yntueddu i fod yn llai gweledig fel LGB, ynymwneud llai â gweithgareddau’r gymunedac yn cael eu heithrio o fywyd cymdeithasolLGB. O ganlyniad, mae pobl h^yn LGB mewnperygl o gael eu heithrio’n gymdeithasolsydd â chanlyniadau eraill o ran eu lles a’uhiechyd. Un elfen bwysig sy’n cyfrannu at yreithrio gymdeithaol hwn yw’r ofn heneiddiosy’n cronni ym meddyliau pobl iau LGB.Mae’r ofn hwn yn arwain at eithrio pobl h^ynLGB. Er mwyn osgoi eithrio cymdeithasol yny dyfodol, rhaid atal y broses gylchdröol hyn.

Bwlio ysgolRoedd y rhai dan 25 oed yn nodi lefel uchelo drais corfforol a bwlio o’i gymharu agarolygon cenedlaethol a lleol eraill. Mae’nbur debyg bod cyfran helaeth o’rfictimeiddio hwn yn digwydd yn yr ysgol,gan fod 44% o’r rhai dan 25 yn disgrifio’uhunain fel myfyrwyr. Fodd bynnag, maeangen mwy o ymchwil i ganfod lle a phabryd y cafodd y bobl ifanc eu fictimeiddio yngorfforol neu eu bwlio. Mae lefel uchelfictimeiddio corfforol yn y sampl Cymreig yndestun pryder, o gofio bod bwliohomoffobaidd yn cael effaith ddifrifol iawn oran absenoldeb o’r ysgol, perfformiad mewnarholiadau, iechyd meddwl a chael syniadauam hunan-laddiad. Er bod y DfEE aLlywodraeth Cynulliad Cymru wedi cymrydcamau positif i atal bwlio homoffobaidd ynyr ysgol, bach iawn fydd hyn yn ei gyflawnines i Adran 28 o’r Ddeddf Lllywodraeth Leolgael ei diddymu

Spacerattop

CyflogaethRoedd y sampl Cymreig yn dweud llawer amfaterion cyflogaeth mewn perthynas â’uhunaniaeth rywiol. Yn fwyaf trawiadol,roedd 25% yn dweud iddynt gael eudiswyddo oherwydd eu rhywioldeb. Mae hynyn fwy na dwywaith cyfartaledd y DU i boblLGB. Oherwydd yr agweddau negyddol hyntuag at bobl LGB, roedd rhai ymatebwyr yndweud eu bod yn dioddef o aflonyddu yn ygweithle. Gwelwyd yn yr arolwg bodniferoedd y bobl LGB oedd yn anfodlondatgelu’u hunaniaeth rywiol yn debyg i’r hyna welwyd mewn ymchwil arall ganStonewall. Ar hyn o bryd, nid oesdeddfwriaeth gartref sy’n gwahardd triniaethannheg i bobl LGB yn y gweithle. Tra boddeddfwriaeth Ewropeaidd yn cael eichyflwyno, mae’n gwestiwn a fydd hyn ynddigonol i amddiffyn yn llawn hawliau poblLGB ym mhob gweithle.

Spacerattop

Fictimeiddio a Chyfiawnder TroseddolRoedd lefelau cyffredinol trais corfforol abwlio ychydig yn uwch nag a welwyd mewnarolygon eraill gan Stonewall. Fel sy’n arferolmewn ymchwil o’r math hwn, roedd rhai o’rdisgrifiadau ansoddol o fictimeiddio ynrhywiol iawn eu natur ac yn erchyll.Weithiau, dywedodd ymatebwyr bod euplant hefyd yn dioddef gan bobl oedd yncyflawni troseddau casineb homoffobaidd.Roedd mwy na hanner yr ymatebwyr ynteimlo nad oeddent yn cael eu hamddiffyngan y gyfraith, a chwarter yn dweud iddyntddioddef gwahaniaethu neu eu haflonyddugan yr heddlu. Yn fwy cyffredinol, roeddelfennau ansoddol yr arolwg yn nodiamrywiaeth o brofiadau gyda’r heddlu.Mae’n debyg bod strategaethaurhagweithiol gan yr heddlu wrth ymwneud âthroseddau casineb homoffobaidd, agostyngiad yn yr heddluo brwd ar droseddauanwedduster difrifol, yn dwyn ffrwyth, ac ynllwyddo i wella’r berthynas gecrus a furhwng yr heddlu a’r gymuned LGB.

6 7

25% yn dweud iddynt gael eu diswyddo oherwydd eurhywioldeb. Mae hyn yn fwy na dwywaith cyfartaledd yDU i bobl LGB.

Page 5: Eich Cyfrif Neu'ch Eithrio

Argymhellion

Mae argymhellion polisi’r adroddiad hwn ynymestyn y tu hwnt i ffiniau Cymru.

Mae mwyafrif y pynciau a amlygir gan yrarolwg hwn yn endemig i broblemehangach, sy’n amlwg nid yn unig yn y DU ond yn fyd-eang. Fodd bynnag, rhaidbod yn ymarferol ac mae’r argymhellion isodyn berthnasol i gyrff lleol, gan gynnwysCynulliad Cenedlaethol Cymru, awdurdodauaddysg lleol, cynghorau sir, cyrff elusennol,gwasanaethau cymdeithasol a gofal iechyd a gwasanaethau heddlu lleol.

CyffredinolNi ddylai cydraddoldeb LGB mwyach fodyn bwnc cydraddoldeb ail-reng yngNghymru. Dylai Cynulliad CenedlaetholCymru, Cymdeithas Awdurdodau LleolCymru a chyrff cyhoeddus eraill roiblaenoriaeth gyfartal i gydraddoldeb LGBar yr agenda gydraddoldeb.

Dylai pob corff cyhoeddus fod danorfodaeth statudol i roi blaenoriaeth iweithredu cydraddoldeb.

Yn wyneb y gwahaniaethau mewngwahaniaethu rhwng Cymru a rhannaueraill o’r DU, rhaid i unrhyw GorffCydraddoldeb Unigol newydd gydnaboddatganoli fel bod y gwahaniaethauunigryw hyn yn cael triniaeth gyflawn arraddfa leol.

Perthynas ag eraillDylai partneriaethau cyfunrywiol sifil gaelcydnabyddiaeth y gyfraith.

Mwy a gwell mynediad i wybodaeth amhawliau mabwysiadu.

Dylai Cynulliad Cenedlaethol Cymru roicanllawiau i’r GIG yng Nghymru am yrhyn ddylai perthynas agosaf ei olygu.

Spacerattop

Addysg a IeuenctidMwy o gefnogaeth i’r grwpiau sy’ncynghori pobl sy’n ‘dod allan’, ynarbennig mewn ardaloedd gwledig. Maehyn yn wir am bobl ifanc a hen LGB, fel eigilydd.

Wedi diddymu Adran 28 o’r DdeddfLlywodraeth Leol, mwy o gefnogaeth ialluogi athrawon i gynghori ac i ddelio âhunaniaeth rywiol a bwlio yn agored acyn rhydd heb ofni dial.2

Cydnabod a chynnwys pynciau LGB wrthddysgu fframwaith cyfnod allweddolAddysg Bersonol a Chymdeithasol yCwricwlwm Cenedlaethol.

Mwy o gefnogaeth i gyflwyno polisigwrth-fwlio homoffobaidd.

Cefnogaeth i staff LBG.

Mwy o hyfforddiant cyfle cyfartal acamrywiaeth i athrawon, a hynny’n gyson.

Cosbi athrawon a geir yn euog o fwliohomoffobaidd neu o gamdrin aelodaueraill o’r staff neu fyfyrwyr/disgyblion.

2 Mae Stonewall Cymru wedi datblyguhyfforddiant ac adnoddau i athrawon ar bynciau LGB.

Spacerattop

Datblygu’r Gymuned ac OedCodi cyfraniad gwirfoddol merched aphobl h^yn LGB yn y gymuned adigwyddiadau LGB

Lleihau eithrio cymdeithasol pobl h^yn LGBo’r prif ‘sîn’ cymdeithasol LGB yngNghymru trwy greu grwpiau cefnogi ahyrwyddo delwedd bositif i heneiddio.

Darparu hyfforddiant cyson mewncydraddoldeb ac amrywiaeth i weithwyrcymdeithasol a gofal iechyd, gan roi sylwarbennig i’r problemau unigryw sy’nwynebu pobl LGB, y rhai h^yn a’r rhai iau.

Mwy o adeiladu gallu a hynny’nrhanbarthol. Rhoi mwy o gefnogaeth irwydweithiau rhanbarthol er mwyn rhoigwell mynediad i wasanaethau, a’uhyrwyddo i bobl LGB o bob oed yn ycymunedau lleol.

CyflogaethDylai’r Llywodraeth edrych yn fanwl ar yconsesiynau presennol a roddir i gyrffcrefyddol, a’r cyrff hynny sy’n honni eubod yn cael eu rheoli gan egwyddorioncrefyddol, yng nghyfarwyddyd fframwaithyr UE ar driniaeth gyfartal mewncyflogaeth. Ar lefel leol, rhaid i’r CynulliadCenedlaethol wneud safiad yn erbyn yconsesiynau hyn a chomisiynu archwiliado’r effaith fyddent yn ei gael yng Nghymru.

Spacerattop

Profiadau o WahaniaethuCyflwyno deddfwriaeth ‘TroseddauCasineb’ i ddelio â thrais homoffobaiddyn deillio o gasineb, a difrod i eiddo.

Cyflwyno deddfwriaeth ‘TroseddauCasineb’ sy’n cydnabod bodolaethgwahaniaethu lluosog, yn cynnwysgwahaniaethu yn erbyn merched,lleiafrifoedd ethnig a phobl LGB gydaganabledd.

Cyflwyno deddfwriaeth gyffelyb i’rDdeddf Cysylltiadau Hiliol a’r DdeddfGwahaniaethu ar sail Rhyw.

Parhau i gefnogi hyfforddiant mewn cyflecyfartal ac amrywiaeth i’r hollwasanaethau heddlu.

Hyrwyddo ymhellach grwpiau cyswllt achyfarfodydd rhwng yr heddlu a’rgymuned LGB.

Cyflwyno deddfwriaeth gartref yn erbyngwahaniaethu yn y gweithle sy’ncydnabod tueddfryd rhywiol.

Cynulliad Cenedlaethol Cymru i gyflwynoCôd Ymarfer ar gyfle cyfartal acamrywiaeth yn y gweithle mewnperthynas â thueddfryd rhywiol, rhyw, hil ac anabledd.

8 9

Ni ddylai cydraddoldeb LGB mwyach fod yn bwnccydraddoldeb ail-reng yng Nghymru - dylai cyrff cyhoedduseraill roi blaenoriaeth gyfartal i gydraddoldeb LGB ar yragenda gydraddoldeb.

Page 6: Eich Cyfrif Neu'ch Eithrio

Methodoleg

Dewis y SamplMae’r sampl a ddadansoddir yn yr adroddiadhwn yn cynnwys 354 o lesbiaid, dynionhoyw a phobl ddeurywiol a rhai sydd wedinewid eu rhyw.3

Mabwysiadwyd strategaeth samplu bwriadusar gyfer yr ymchwil hwn. Ar gyferdosbarthu’r holiaduron, targedwydardaloedd a digwyddiadau lle roedd poblLGB yn debyg o fod yn bresennol. Roedd yprif safleoedd yn cynnwys: EisteddfodGenedlaethol T ^y Ddewi, Mardi GrasCaerdydd, cynhadledd flynyddol gyntafStonewall Cymru yng Nghaerdydd, ac amrywo glybiau nos a grwpiau lleol ledled Cymru.Defnyddiwyd sawl cronfa ddata aelodaeth iddosbarthu’r arolwg, gan gynnwysStonewall Cymru, Pwyllgor Lesbiaid aHoywon TUC Cymru a Llinell LesbiaiddGogledd Cymru. Ac yn olaf, defnyddiwydgwefannau (fel Hoyw Cymru) i ddosbarthu’rholiadur.

Spacerattop

Mae’n debyg mai Mardi Gras a chynhadleddflynyddol Stonewall Cymru ddenodd y rhanfwyaf o ymatebwyr. Mae’n debyg bodamlygrwydd yr ymatebwyr lesbiaidd yn yrarolwg yn ganlyniad y ffaith i’r holiadur gaelei ddosbarthu gan y cylchgrawn lesbiaiddWomanzone.

Mae diffyg grwpiau cymuned neufframwaith da o gymunedau ar drawsrhannau helaeth o’r Gymru wledig yn eigwneud yn fwy anodd cael mynediad atbobl LGB yn yr ardaloedd hynny. MaeStonewall Cymru ar hyn o bryd yn ymchwilioi ffyrdd o ychwanegu at eu gallu i wneudhyn a gwella’r isadeiledd cymunedol ar sailranbarthol.

Man cychwyn yn unig yw’r astudiaeth hon.Ni ddylid rhagdybio o gwbl bod ymethodoleg wedi arwain at sampl sy’ngynrychioliadol o’r holl bobl LGB sy’n bywyng Nghymru. Dylid trin canlyniadau’rastudiaeth hon fel ymgais gyntaf i gael hyd iganfyddiadau a phrofiadau’r bobl LGB hynnyyng Nghymru a fedrodd ateb yr arolwg.

10

3 Disgrifiodd un ymatebwr ei hunaniaeth rywiol fel trawsrywiedig (gwryw i fenyw) ac un arall yndrawsrywiedig (menyw i gwryw).Doedd yr arolwg ddim yn gwneud yn glir a fyddai’r ymatebwyrhyn yn disgrifio’u hunaniaeth rywiol fel cyfunrhywiol, deurywiol, neu anghyfunrywiol. Gan eubod yn ymateb i “Arolwg Cymru - y Gymuned Lesbiaidd, Hoyw a Deurywiol,” rhaid i ni gymrydyn ganiataol eu bod yn hoyw. Fodd bynnag, yn y dyfodol bydd yr arolwg yn cael ei addasu iwneud hyn yn glir. Gan adlewyrchu hunaniaeth rywiol mwyafrif yr ymatebwyr, ac i hyrwyddo’rcyflwyniad, defnyddiwn yr acronym LGB drwy gydol yr adroddiad hwn.

Hwn oedd yr arolwg mawr cyntaf o’i fath i ganfodproblemau ac anghenion unigryw pobl LGB ar draws Cymru.