23
Adroddiad Blynyddol - Blwyddyn 1 Mwy na geiriau .... Fframwaith Strategol ar gyfer Gwasanaethau Cymraeg mewn Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Gofal Cymdeithasol ‘Dyw hi ddim yn ymarferol disgwyl i bawb gyfathrebu yn Gymraeg ond gall pawb ddangos parch a hyblygrwydd. Rhaid i’r gweithiwr gymryd cam yn ôl a dangos ychydig o wyleidd- dra proffesiynol ... Dydi o ddim yn gorfod costio pres. Agwedd ydi o, yr awydd i fod yn well. – profiad defnyddiwr

Mwy - NHS Wales than...Tachwedd 2012, gan gwblhau ymrwymiadau allweddol yn ‘Law yn Llaw at Iechyd’ a hefyd yn y ‘Rhaglen Lywodraethu’. Mae dau gynllun gweithredu 3 blynedd

  • Upload
    others

  • View
    1

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

Page 1: Mwy - NHS Wales than...Tachwedd 2012, gan gwblhau ymrwymiadau allweddol yn ‘Law yn Llaw at Iechyd’ a hefyd yn y ‘Rhaglen Lywodraethu’. Mae dau gynllun gweithredu 3 blynedd

Adroddiad Blynyddol - Blwyddyn 1

Mwyna

geiriau....Fframwaith Strategol ar gyfer Gwasanaethau Cymraeg mewn Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Gofal Cymdeithasol

‘Dyw hi ddim yn ymarferol disgwyl i bawb gyfathrebu yn Gymraeg ond gall pawb ddangos parch a hyblygrwydd. Rhaid i’r gweithiwr gymryd cam yn ôl a dangos ychydig o wyleidd-dra proffesiynol ... Dydi o ddim yn gorfod costio pres. Agwedd ydi o, yr awydd i fod yn well.

– profiad defnyddiwr

Page 2: Mwy - NHS Wales than...Tachwedd 2012, gan gwblhau ymrwymiadau allweddol yn ‘Law yn Llaw at Iechyd’ a hefyd yn y ‘Rhaglen Lywodraethu’. Mae dau gynllun gweithredu 3 blynedd

2WG24089 © Hawlfraint y Goron 2014

Manylion Cyswllt:

Uned Polisi Iaith Gymraeg

Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Llywordraeth Cymru

Parc Cathays

Caerdydd

CF10 3NQ

Ebost: [email protected]

Ffôn: 029 2082 3135

Page 3: Mwy - NHS Wales than...Tachwedd 2012, gan gwblhau ymrwymiadau allweddol yn ‘Law yn Llaw at Iechyd’ a hefyd yn y ‘Rhaglen Lywodraethu’. Mae dau gynllun gweithredu 3 blynedd

3

Lansiwyd ‘Mwy na Geiriau...’ fframwaith strategol ar gyfer y Gymraeg mewn iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, ym mis Tachwedd 2012 gan y cyn Ddirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Gwenda Thomas AC.

Am y tro cyntaf, galluogodd y fframwaith i ni sefydlu dull strategol clir o gryfhau gwasanaethau Cymraeg mewn iechyd, gwasanaethau cymdeithasol a gofal cymdeithasol. Un o’r egwyddorion craidd sydd wedi bod yn sylfaenol i’n strategaeth yw sefydlu dull sy’n cymryd y cyfrifoldeb oddi ar yr unigolyn ac yn gosod y cyfrifoldeb hwnnw ar y darparwr drwy gyfrwng y ‘Cynnig Rhagweithiol’.

Hwn yw’r adroddiad cyntaf ar y modd y cyflawnwyd y chwe amcan y bwriadem eu cyflawni yn ‘Mwy na Geiriau...’ ac mae’r adroddiad wedi canolbwyntio ar y cynnydd a wnaed rhwng mis Ebrill 2013 ac Ebrill 2014. Buom yn glir iawn ar hyd yr amser mai cyfnod o osod y sylfeini fyddai’r flwyddyn gyntaf ar gyfer y gwahaniaeth sylweddol y mae arnom ni i gyd eisiau ei weld o ran hygyrchedd gwasanaethau Cymraeg ar draws iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae dau gynllun gweithredu, y ddau yn dair blynedd o hyd, yn sail i ‘Mwy na Geiriau...’. Rwyf yn croesawu’r cyfle hwn i asesu’r cynnydd a wnaed yn erbyn y camau gweithredu hyn.

Y pethau allweddol y disgwyliem eu cyflawni yn ystod y flwyddyn gyntaf oedd: cryfhau arweinyddiaeth; mapio’r gweithlu a chychwyn y broses o dderbyn y cyfrifoldeb am gyfarfod ag anghenion iaith defnyddwyr drwy godi ymwybyddiaeth o egwyddor y ‘Cynnig Rhagweithiol’. Bwriad y ‘Cynnig Rhagweithiol’ yw gosod y cyfrifoldeb am wasanaethau iaith ar y darparwr ac nid ar ddefnyddiwr y gwasanaeth ac mae hyn yn allweddol ar adeg y cyswllt cyntaf un. Mae angen i’r rhai sy’n darparu gwasanaethau ddangos eu bod yn meddwl am anghenion pob unigolyn a rhaid i hynny gynnwys ei angen am y Gymraeg. Mae cyflawni ein dyletswyddau i ddarparu iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yn Gymraeg yn rhan annatod o ddarparu gofal diogel a thosturiol o ansawdd da ac mae’n neilltuol o bwysig pan fydd pobl, yn enwedig hen bobl, plant a’r rheiny sydd â dementia neu broblemau iechyd meddwl, ar eu mwyaf anghenus.

Gallwn weld oddi wrth yr wybodaeth a gasglwyd gennym yn y flwyddyn gyntaf fod yna ymrwymiad gwirioneddol i gyflawni newid. Cafodd grwpiau datblygu unigol eu sefydlu gan fyrddau iechyd lleol a gwasanaethau cymdeithasol i ganolbwyntio ar y camau gweithredu sydd eu hangen i gyflawni’r fframwaith strategol ac mae cynlluniau hyfforddiant a datblygiad yn eu lle er mwyn codi ymwybyddiaeth o anghenion siaradwyr Cymraeg. Mae gennym dystiolaeth

Rhagair Gweinidogol

Page 4: Mwy - NHS Wales than...Tachwedd 2012, gan gwblhau ymrwymiadau allweddol yn ‘Law yn Llaw at Iechyd’ a hefyd yn y ‘Rhaglen Lywodraethu’. Mae dau gynllun gweithredu 3 blynedd

4

hefyd fod byrddau iechyd lleol a darparwyr gwasanaethau cymdeithasol yn gweithio’n galed i ganfod a chofnodi anghenion iaith y cymunedau y maent yn eu gwasanaethu. Mae’r rhain yn gamau sylweddol ymlaen.

Er hynny, mae gennym ffordd bell i fynd i sylweddoli nodau’r strategaeth, ‘Mwy na Geiriau...’. Rhaid i ni symud ymlaen oddi wrth gynllunio darpariaeth i wneud newidiadau uniongyrchol yn y gwasanaeth fel y gall unigolion dderbyn gwasanaethau yn yr iaith y mae arnynt ei hangen a gweld y gwelliannau sy’n cael eu gwneud. Rhan o ddarparu gofal o safon yw sicrhau bod unigolion sydd angen gofal yn cael llais ac y gallent weithio gyda darparwyr y gofal hwnnw fel eu bod yn deall anghenion y naill a’r llall.

Gallwn ddarparu’r gofal gorau i bobl drwy wneud newidiadau bychain yn yr hyn a wnawn yn barod. Mae egwyddorion yr ymgyrch ‘Gwnewch y pethau bychain yn Gymraeg’ yn ein hatgoffa o hyn ac os gallwn sicrhau ein bod yn gwneud newidiadau bychain bob dydd, yna byddem yn parhau i wneud gwahaniaeth i’r rheiny sydd ei angen.

Seiliwyd yr adroddiad hwn ar waith Tasglu’r Gweinidog ar y Gymraeg mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a sefydlodd grwp gweithredu i fonitro ein cynnydd o ran cyflawni ‘Mwy na Geiriau...’. Hoffwn ddiolch i aelodau’r grwp hwnnw am yr arweiniad a’r cymorth y maent yn eu darparu’n gyson.

Rwyf yn benderfynol y byddem yn dal ati gyda’n hymrwymiad yn y maes hwn wrth i ni wneud gwahaniaeth gwirioneddol ym mywydau pob dydd siaradwyr Cymraeg ledled Cymru. Rhaid i ni felly barhau i gydweithio i sicrhau bod egwyddorion ‘Mwy na Geiriau...’ yn cael eu troi’n welliannau uniongyrchol ym mhrofiad cleifion Cymraeg ar draws ein GIG a’n gwasanaethau cymdeithasol a gwneud cynnydd pellach yn y flwyddyn sydd i ddod.

Mark Drakeford AC Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Page 5: Mwy - NHS Wales than...Tachwedd 2012, gan gwblhau ymrwymiadau allweddol yn ‘Law yn Llaw at Iechyd’ a hefyd yn y ‘Rhaglen Lywodraethu’. Mae dau gynllun gweithredu 3 blynedd

5

Y Cyd-destun

Gosod y sylfeini 6

Rhan 1

Gofal Iechyd

1. Rhagarweiniad 7

2. Cynllunio a darparu gwasanaethau (Amcan 1) 7

3. Comisiynu a’r Cynnig Rhagweithiol (Amcan 2) 8

4. Datblygu’r Gweithlu (Amcan 3) 9

5. Arweinyddiaeth (Amcan 4) 9

6. Addysg, Dysgu a Datblygiad (Amcan 5) 10

7. Strategaethau a Pholisïau (Amcan 6) 11

8. Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) 11

9. Y Gymdeithas Fferyllol Frenhinol (RPS) 12

10. Ysgol Fferylliaeth a Gwyddor Fferyllol 13

Rhan 2

Gwasanaethau Cymdeithasol a Gofal Cymdeithasol

1. Rhagarweiniad 14

2. Cynllunio a darparu gwasanaeth (Amcan 1) 15

3. Comisiynu a’r Cynnig Rhagweithiol (Amcan 2) 16

4. Datblygu Gweithlu (Amcan 3) 16

5. Yr Arolygiaethau a’r Rheoleiddwyr 17

6. Cyngor Gofal Cymru 18

7. Arweinyddiaeth (Amcan 4) 18

8. Addysg, Dysgu a Datblygiad (Amcan 5) 19

9. Strategaethau a Pholisïau (Amcan 6) 20

10. Y rhan a chwaraeir gan y trydydd sector 20

11. Comisiynydd Pobl Hyn 21

Atodiad 1 – Esiamplau o Arfer Gorau 22

Cynnwys

Page 6: Mwy - NHS Wales than...Tachwedd 2012, gan gwblhau ymrwymiadau allweddol yn ‘Law yn Llaw at Iechyd’ a hefyd yn y ‘Rhaglen Lywodraethu’. Mae dau gynllun gweithredu 3 blynedd

6

Y cyd-destun

Gosod y sylfeini

Lansiwyd y Fframwaith Strategol ar gyfer Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, ‘Mwy na Geiriau...’ ym mis Tachwedd 2012, gan gwblhau ymrwymiadau allweddol yn ‘Law yn Llaw at Iechyd’ a hefyd yn y ‘Rhaglen Lywodraethu’. Mae dau gynllun gweithredu 3 blynedd yn tanategu’r Fframwaith ei hun, y naill ar gyfer y GIG a’r llall ar gyfer sector y gwasanaethau cymdeithasol a gofal cymdeithasol. Rhydd y cynlluniau gweithredu fanylion y camau ymarferol sy’n angenrheidiol i gyflawni’r chwe amcan a eglurwyd yn y fframwaith strategol, y dechreuwyd ei weithredu ar 1 Ebrill 2013.

Mae ‘Mwy na Geiriau...’ yn strategaeth uchelgeisiol a’i nod yw gwella profiadau defnyddwyr o ofal drwy gynyddu mynediad at wasanaethau yn y Gymraeg. Mae’n cydnabod bod yna lawer o bobl na allant gyfathrebu a chymryd rhan effeithiol yn eu gofal hwy eu hunain, fel partneriaid cyfartal, ond drwy gyfrwng y Gymraeg.

Fel y rhagwelid pan gyhoeddwyd strategaeth ‘Mwy na Geiriau...’ a’i dau gynllun gweithredu cydrannol, mae’r flwyddyn gyntaf wedi canolbwyntio ar osod y sylfeini ar gyfer newid. Cadarnhaodd y fframwaith strategol mai’r elfennau allweddol y disgwylid eu cyflawni yn ystod y flwyddyn gyntaf fyddai: cryfhau arweinyddiaeth; mapio’r gweithlu a chychwyn y broses o dderbyn cyfrifoldeb am gyfarfod ag anghenion iaith defnyddwyr drwy godi ymwybyddiaeth o egwyddor y ‘Cynnig Rhagweithiol’.

Felly, canolbwyntiodd gynnydd y flwyddyn gyntaf ar ddatblygu prosesau fydd yn galluogi darparwyr gwasanaethau i gynnig darpariaeth ddwyieithog. Mae byrddau iechyd lleol, yr ymddiriedolaethau a darparwyr y gwasanaethau cymdeithasol wedi defnyddio’r flwyddyn gyntaf i asesu’r angen ieithyddol yn eu hardaloedd a gweld a oes modd iddynt ar hyn o bryd ddarparu gwasanaethau i ateb yr angen hwnnw. Bu llai o bwyslais ar ddatblygu gwasanaethau penodol a fydd yn gwneud gwahaniaeth uniongyrchol i’r bobl sydd ei angen. Rhaid i hyn fod y cam nesaf mewn cyflawni ‘Mwy na Geiriau...’.

Er mwyn cynorthwyo i fonitro strategaeth ‘Mwy na Geiriau...’, sefydlwyd grwp gweithredu gydag unigolion yn cynrychioli’r sectorau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol/gofal cymdeithasol ynghyd ag addysg uwch.

Y grwp gweithredu sy’n gyfrifol am oruchwylio’r broses fonitro, darparu barn arbenigol a chyngor ynghylch datblygu’r strategaeth a sicrhau bod y Tasglu Cymraeg, dan gadeiryddiaeth y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, yn derbyn yr wybodaeth berthnasol ddiweddaraf ynghylch cynnydd y strategaeth.

Strwythurwyd yr adroddiad hwn o amgylch y chwe amcan strategol canlynol sy’n tanategu ‘Mwy na Geiriau...’, a’r amcanion y mae’n rhaid i bob sefydliad anelu tuag atynt:

Amcan strategol 1: Gweithredu dull systematig lle bydd gwasanaethau Cymraeg yn rhan annatod o gynllunio a darparu gwasanaeth.

Amcan strategol 2: Adeiladu ar yr arferion da presennol, gan gynllunio, comisiynu a darparu gofal ar sail y ‘Cynnig Rhagweithiol’.

Amcan strategol 3: Cynyddu gallu’r gweithlu i ddarparu gwasanaethau Cymraeg o fewn meysydd blaenoriaeth a chodi ymwybyddiaeth iaith ymysg yr holl staff.

Amcan strategol 4: Creu arweinwyr a fydd yn meithrin ethos cefnogol o fewn sefydliadau fel bod defnyddwyr a gofalwyr Cymraeg yn derbyn gwasanaethau ieithyddol sensitif fel rhan naturiol o’u gofal.

Amcan strategol 5: Cynllunio a darparu rhaglenni addysg, dysgu a datblygu, sy’n adlewyrchu cyfrifoldeb y gwasanaethau i gynllunio a darparu gwasanaethau Cymraeg.

Amcan strategol 6: Strategaethau, polisïau ac arweinyddiaeth genedlaethol.

Page 7: Mwy - NHS Wales than...Tachwedd 2012, gan gwblhau ymrwymiadau allweddol yn ‘Law yn Llaw at Iechyd’ a hefyd yn y ‘Rhaglen Lywodraethu’. Mae dau gynllun gweithredu 3 blynedd

7

Mabwysiadwyd proses fonitro strwythuredig sy’n cynnwys tystiolaeth gan y sectorau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol. Cafodd gwybodaeth hefyd ei darparu a’i chytuno drwy adroddiadau blynyddol y ddau sector, gwybodaeth gan Gyngor Gofal Cymru, a gwybodaeth a roddwyd i Gomisiynydd y Gymraeg.

Yn unol â strategaeth ‘Mwy na Geiriau...’, a’i dau gynllun gweithredu, mae’r adroddiad hwn wedi ei rannu’n ddwy adran, y naill i’r sector iechyd a’r llall ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol a gofal cymdeithasol.

Rhan 1

Gofal Iechyd

1. Rhagarweiniad

1.1 Mae byrddau iechyd lleol ac ymddiriedolaethau wedi cyflogi swyddogion iaith Gymraeg ers 2008. Yn hynny o beth, cafodd y gwaith o weithredu’r fframwaith ‘Mwy na Geiriau...’ ei hyrwyddo gan y gwaith a gyflawnwyd, drwy gynlluniau iaith Gymraeg gwahanol fyrddau ac ymddiriedolaethau iechyd, gan unigolion oedd yn ymroddedig i yrru agenda’r iaith Gymraeg yn ei blaen. Fodd bynnag, er mwyn gweld y newid mawr, pwysig y mae strategaeth ‘Mwy na Geiriau...’ yn gofyn amdano, mae angen arweinyddiaeth gryfach ar draws y sector iechyd i yrru’r gweithrediad yn ei flaen.

1.2 Mae’n eglur bod arweinyddiaeth, ar draws yr holl adrannau o fewn byrddau iechyd lleol ac ymddiriedolaethau, yn allweddol er mwyn cyflawni amcanion y fframwaith strategol yn llawn a’u dwyn i mewn i’r prif lif. Heb yr arweinyddiaeth hon, mae yna berygl mai gwasanaeth ad hoc fydd siaradwyr Cymraeg yn ei dderbyn drwy’r amser yn hytrach na dull systematig o ddarparu gwasanaeth.

1.3 Mae ‘Mwy na Geiriau...’ yn cydnabod yr angen am weithlu rhagweithiol sy’n medru’r iaith. Yng nghynhadledd y Gymraeg mewn iechyd a gwasanaethau cymdeithasol a gynhaliwyd ym mis Mehefin 2014, codwyd cynllunio iaith fel blaenoriaeth gan swyddogion o Ganada a’u hintegreiddiad hwy o’r ‘Cynnig Rhagweithiol’ ar draws taleithiau Canada. Nodwyd pwysigrwydd cynllunio iaith fel yr agwedd allweddol ar lwyddiant darparu gwasanaethau dwyieithog, yn enwedig gwasanaethau rheng flaen.

2. Cynllunio a darparu gwasanaethau (Amcan 1)

2.1 Yn hanesyddol bu’n anodd cofnodi sgiliau iaith staff ar draws y GIG er mwyn mynd i’r afael ag anghenion iaith cymunedau. Roedd hyn yn bennaf oherwydd cyfyngiadau’r systemau TG oedd yn eu lle a’r gallu i hyrwyddo casglu data mewn ffordd ystyrlon.

2.2 Bydd cyflwyno system TG newydd – system gofnodion staff electronig 2 (ESR2) – a’r bwriad i gynnwys maes gorfodol o ddata iaith, yn mynd i’r afael â hyn. Dim ond megis cychwyn y mae’r system hon ond bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda’r datblygwyr i sicrhau bod casglu data iaith yn flaenoriaeth o’r dechrau.

2.3 Mae’r saith bwrdd iechyd lleol a thair ymddiriedolaeth wedi cydnabod pwysigrwydd datblygu strategaeth sgiliau iaith i gynorthwyo gyda chynllunio a darparu gwasanaeth. Bu hyn yn amlwg o’r cychwyn fel rhan o ddatblygiadau cynlluniau iaith Gymraeg byrddau iechyd lleol ac ymddiriedolaethau.

2.4 Oddi wrth yr wybodaeth a gasglwyd yn ystod blwyddyn gyntaf gweithredu ‘Mwy na Geiriau...’ mae’n eglur bod yr holl fyrddau iechyd lleol ac ymddiriedolaethau ar wahanol gyfnodau datblygiad. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, er enghraifft, wedi datblygu esiampl ardderchog o strategaeth sgiliau iaith a rhoddwyd cyfle i’r holl ymddiriedolaethau a byrddau iechyd eraill ddysgu oddi wrth hon. Mae strategaethau sgiliau iaith yn flaenoriaeth i’r sector iechyd er mwyn symud ymlaen i ddatblygu’r fframwaith ‘Mwy na Geiriau...’ ymhellach a gweithredu egwyddor y ‘Cynnig Rhagweithiol’.

Page 8: Mwy - NHS Wales than...Tachwedd 2012, gan gwblhau ymrwymiadau allweddol yn ‘Law yn Llaw at Iechyd’ a hefyd yn y ‘Rhaglen Lywodraethu’. Mae dau gynllun gweithredu 3 blynedd

8

Cyflawniad Blwyddyn 1:

• Mae’r byrddau iechyd lleol i gyd ac un ymddiriedolaeth yn awr yn defnyddio gwybodaeth broffilio cymunedau, seiliedig ar ffigurau’r cyfrifiad, i asesu anghenion ieithyddol y cymunedau a wasanaethir ar draws Cymru.

Blaenoriaethau ar gyfer gweithredu:

• Yr holl fyrddau iechyd lleol ac ymddiriedolaethau i ddatblygu strategaeth sgiliau Cymraeg fydd yn eu galluogi i broffilio medrau iaith eu staff. Caiff hyn ei gyflawni a’i fonitro gan y gweithlu a’r timau datblygu sefydliadol. (amcan strategol 1).

• Llywodraeth Cymru i sicrhau bod sgiliau cymhwysedd yn y Gymraeg yn cael eu cwblhau o fewn y system gofnodion staff electronig (ESR) bresennol. Bydd y system hon yn galluogi’r byrddau iechyd lleol a’r ymddiriedolaethau i fonitro sgiliau Cymraeg eu gweithlu. (amcan strategol 1).

3. Comisiynu a’r Cynnig Rhagweithiol (Amcan 2)

3.1 Un o’r blaenoriaethau allweddol yn ystod blwyddyn gyntaf strategaeth ‘Mwy na Geiriau...’ oedd gosod y sylfeini ar gyfer darparu gwasanaeth, oedd wedi ei wreiddio yn niwylliant y ‘Cynnig Rhagweithiol’. Y ‘Cynnig Rhagweithiol’ yw’r rhan fwyaf heriol o gyflawni’r strategaeth ac eto dyma’r agwedd bwysicaf os yw strategaeth ‘Mwy na Geiriau...’ i gael ei sylweddoli’n llawn ledled Cymru.

Awgryma’r dystiolaeth fod angen blaenoriaethu rhagor o waith i hybu ystyr y ‘Cynnig Rhagweithiol’, a bod angen i uwch reolwyr hyrwyddo hyn ar draws y byrddau iechyd a’r ymddiriedolaethau.

Mae tri phrif rwystr ar hyn o bryd:

• dim digon o ddealltwriaeth ynghylch nodau’r ‘Cynnig Rhagweithiol’.

• anawsterau recriwtio gweithlu sy’n meddu ar y sgiliau perthnasol.

• yr hyder i ddefnyddio’r sgiliau iaith Gymraeg sy’n bodoli eisoes.

3.2 Mae mynd i’r afael â’r mater cyntaf yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. Yn dilyn penodi aelod neilltuol o staff i hybu ‘Mwy na Geiriau...’, bu cyfathrebu’n uniongyrchol gyda’r sectorau iechyd a chymdeithasol yn flaenoriaeth. Datblygwyd taflen a’i dosbarthu i’r sectorau er mwyn ysgogi trafodaeth ynglyn â gallu gweithwyr yn y ddau sector i ddarparu’r ‘Cynnig Rhagweithiol’. Bu’r galw am y daflen hon yn galonogol ac mae dulliau eraill o gyfathrebu wrthi’n cael eu datblygu i gryfhau hyn. Mae hyn yn cynnwys pecyn hyfforddiant ar gyfer y sectorau a DVD o brofiadau defnyddwyr.

3.3 Mae angen mwy o waith er mwyn sicrhau bod y berthynas yn cael ei chryfhau gyda Chydwasanaethau’r GIG (y Cydwasanaethau yw’r sefydliad sy’n gyfrifol am brosesau caffael a recriwtio ar draws y Gwasanaeth Iechyd Gwladol). Bydd angen cryfhau datblygiadau caffael a chomisiynu hefyd. Fodd bynnag, mae cynnydd yn cael ei wneud ac mae Cydwasanaethau’r GIG bellach wedi penodi unigolyn penodol i fod yn gyfrifol am y Gymraeg.

Page 9: Mwy - NHS Wales than...Tachwedd 2012, gan gwblhau ymrwymiadau allweddol yn ‘Law yn Llaw at Iechyd’ a hefyd yn y ‘Rhaglen Lywodraethu’. Mae dau gynllun gweithredu 3 blynedd

9

Cyflawniad Blwyddyn 1:

• Mae ymarferion hybu cadarnhaol wrthi’n cael eu cynnal gyda golwg ar gymryd camau ymarferol i weithredu’r ‘Cynnig Rhagweithiol’

• Mae’r holl Fyrddau Iechyd Lleol wedi adrodd eu bod ar hyn o bryd yn buddsoddi mewn hybu’r ‘Cynnig Rhagweithiol’ drwy ddatblygu gweithgorau penodol a chynlluniau gweithredu (amcan strategol 2, cam gweithredu 1.3)

• Gyda chyllid gan Ganolfan Ymchwil NISCHR (Canolfan Ymchwil Glinigol y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Gofal Cymdeithasol ac Iechyd) cyfieithwyd cyfres o offerynnau asesu gwybyddol i’r Gymraeg gan Brifysgol Bangor, a chafodd eu dilysrwydd ieithyddol ei gadarnhau. (amcan strategol 2, cam gweithredu 2.2)

Blaenoriaethau ar gyfer gweithredu:

• Llywodraeth Cymru, mewn partneriaeth gyda’r sectorau iechyd a gofal cymdeithasol, i ddatblygu pecyn hyfforddiant ar y ‘Cynnig Rhagweithiol’ i gynnwys profiadau cleifion ac enghreifftiau o arfer gorau. (amcan strategol 2).

4. Datblygu’r Gweithlu (Amcan 3)

4.1 Mae darparu gweithlu sy’n meddu ar y sgiliau i gyfarfod ag anghenion iaith defnyddiwr y gwasanaeth yn ganolog i’r fframwaith. Mae gweithgaredd yn ystod blwyddyn gyntaf ‘Mwy na Geiriau...’ wedi canolbwyntio ar sicrhau dealltwriaeth o’r gweithlu hwn ac ar ddull strategol cynlluniedig o’i ddatblygu i’r dyfodol.

4.2 Awgryma’r dystiolaeth fod y staff sydd â’r sgiliau iaith perthnasol yn gwahaniaethu o un bwrdd iechyd lleol i’r llall. Mae ‘Mwy na Geiriau...’ yn annog hyfforddi siaradwyr Cymraeg presennol i gynyddu eu hyder a’u gallu i ddefnyddio’r Gymraeg gyda defnyddwyr gwasanaeth.

4.3 Bydd mapio’r gweithlu yn galluogi’r sector i gynllunio a chyd-drefnu’r ddarpariaeth Gymraeg yn fwy strategol. Roedd y camau gweithredu ar gyfer blwyddyn un yn ei gwneud yn ofynnol i’r sector ddangos ymrwymiad i’r fframwaith wrth gynllunio eu gweithlu. Ceir peth tystiolaeth fod hyn yn digwydd ond ar hyn o bryd nid yw’n gyson ar draws yr holl fyrddau iechyd lleol ac ymddiriedolaethau.

4.4 Mae cynllunio’r gweithlu’n hollbwysig ond dangosai’r wybodaeth a dderbyniwyd drwy ddefnyddio’r Cofnod Staff Electronig na all y gweithlu ar hyn o bryd ddarparu gwasanaeth Cymraeg cwbl integredig. Gall egwyddorion ‘Gwneud y pethau bychain yn Gymraeg’ gynnig llwyfan i atgoffa sefydliadau y gall newidiadau bychain wneud gwahaniaeth mawr. Gall annog yr aelodau hynny o staff, sy’n gallu ond heb fod yn hyderus i ddefnyddio’r Gymraeg, fod yn fan cychwyn da.

Blaenoriaethau ar gyfer gweithredu:

• Llywodraeth Cymru i fonitro datblygiad y maes ar y system Gofnodion Staff Electronig 2 newydd (amcan strategol 1 a 3).

5. Arweinyddiaeth (Amcan 4)

5.1 Mae’r byrddau iechyd lleol a’r ymddiriedolaethau wedi penodi Hyrwyddwyr y Gymraeg fel rhan o’r gwaith yr ymgymerwyd ag ef i gydymffurfio â’r dyletswyddau statudol sy’n ofynnol gan Gomisiynydd y Gymraeg a’r cynlluniau iaith Gymraeg. Fodd bynnag, mae cyflawni’r amcanion a eglurwyd yn ‘Mwy na Geiriau...’, yn gofyn am ddangos arweinyddiaeth ar draws pob lefel yn y sefydliad ac nid yw’n dibynnu ar swyddogaeth y Swyddog Iaith Gymraeg. Mae angen cryfhau a monitro’r ffordd hon o integreiddio cyfrifoldeb wrth inni symud i mewn i flwyddyn dau y strategaeth.

Page 10: Mwy - NHS Wales than...Tachwedd 2012, gan gwblhau ymrwymiadau allweddol yn ‘Law yn Llaw at Iechyd’ a hefyd yn y ‘Rhaglen Lywodraethu’. Mae dau gynllun gweithredu 3 blynedd

10

Blaenoriaethau ar gyfer gweithredu:

• Mae angen i’r byrddau iechyd lleol a’r ymddiriedolaethau ddangos ymrwymiad pellach i integreiddio perchnogaeth, gyda golwg ar bob cam gweithredu o fewn y fframwaith. Bydd hyn yn sicrhau nad y swyddogion iaith Gymraeg unigol yn unig sy’n gyfrifol am gyflawni’r strategaeth (tudalen 26 ‘Mwy na Geiriau...’, pwynt 5.4.3).

6. Addysg, Dysgu a Datblygiad (Amcan 5)

6.1 Mae hyfforddiant yn allweddol i sicrhau bod y gweithlu’n gallu cyflawni’r amcanion a amlinellwyd yn strategaeth ‘Mwy na Geiriau...’, ac yn enwedig yn gallu mabwysiadu dull y ‘Cynnig Rhagweithiol’ sy’n ganolog iddi.

6.2 Ceir tystiolaeth fod y sector iechyd wedi bod, i wahanol raddau, yn darparu hyfforddiant Cymraeg a sesiynau ymwybyddiaeth mewn perthynas â’u cynlluniau iaith Gymraeg. Casglwyd data ar hyn mewn ffordd systematig gan ei fod yn un o ofynion y cynlluniau iaith Gymraeg statudol ac yr adroddir amdano wrth Gomisiynydd y Gymraeg. Mae’n glir, fodd bynnag, fod y darlun yn amrywio ar draws yr holl fyrddau Iechyd lleol ac ymddiriedolaethau, yn dibynnu ar y flaenoriaeth a roddir, y gefnogaeth ariannol neu’r gallu i ddarparu o fewn y sefydliad.

6.3 Er mwyn i’r sector Iechyd fedru darparu gweithlu sy’n gallu cyflawni’r ‘Cynnig Rhagweithiol’ mae angen dull fforchog o gynnig addysg. Mae buddsoddi yn sgiliau presennol y gweithlu yn hanfodol ond, ochr yn ochr â hyn, mae’n rhaid hefyd cael buddsoddiad yng ngweithlu’r dyfodol. Y ffordd i gyflawni hyn yw gwneud datblygu ymwybyddiaeth o’r Gymraeg a sgiliau iaith Gymraeg yn rhan o ddarpariaeth addysg strategol y gweithlu a’r holl weithwyr iechyd proffesiynol.

6.4 Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi rhoi cymorth o fewn y sectorau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol er mwyn sicrhau cynnydd yn y cyfleoedd ar gyfer darpariaeth gyfrwng Cymraeg. Cafodd y gwaith hwn ei gryfhau mewn ymateb uniongyrchol i strategaeth ‘Mwy na Geiriau...’.

Mae cynlluniau datblygu yn eu lle ar gyfer Iechyd, Meddygaeth a Seicoleg, Nyrsio a Bydwreigiaeth, a chyflwynir modiwlau neu gyrsiau llawn drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae hyn yn rhan hanfodol o sicrhau llwyddiant y ‘Cynnig Rhagweithiol’ yn y dyfodol.

6.5 Mae gwaith pellach i’r sector ei wneud o ran sicrhau bod partneriaid allweddol megis Gyrfa Cymru a Job Centre Plus yn hybu pwysigrwydd a gwerth sgiliau dwyieithog yn y sector iechyd.

6.6 Mae gwaith i’w wneud hefyd gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y colegau proffesiynol a’r cyrff rheoleiddio ar gyfer gweithwyr iechyd proffesiynol yn deall ac yn hybu pwysigrwydd gweithlu a all gyfathrebu yn Gymraeg a darparu gwasanaeth yn Gymraeg.

6.7 Mae Dysgu Agored Cymru wedi lansio adnodd dysgu cyfrwng Cymraeg ar-lein am ddim gan y Brifysgol Agored yng Nghymru. Bydd hwn yn ehangu nifer yr adnoddau sydd ar gael i fyfyrwyr ac ymarferwyr Cymraeg. Drwy fynd i wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, gall dysgwyr gael mynediad at gyfleuster canfod cwrs sy’n nodi cyfleoedd astudio cyfrwng Cymraeg ffurfiol ledled Cymru.

Gall y wefan hon gynnig cymorth a chyfleoedd dysgu a all fod o gymorth i gynllunio’r gweithlu er mwyn cynyddu sgiliau iaith Gymraeg presennol y staff.

Page 11: Mwy - NHS Wales than...Tachwedd 2012, gan gwblhau ymrwymiadau allweddol yn ‘Law yn Llaw at Iechyd’ a hefyd yn y ‘Rhaglen Lywodraethu’. Mae dau gynllun gweithredu 3 blynedd

11

Cyflawniad Blwyddyn 1:

• Caiff yr ystadegau presennol ynghylch siaradwyr Cymraeg ar draws byrddau iechyd lleol ac ymddiriedolaethau eu casglu fel rhan o broses fonitro flynyddol y cynlluniau iaith Gymraeg. Cesglir yr wybodaeth yn bennaf drwy’r system gofnodion staff electronig.

Blaenoriaethau ar gyfer gweithredu:

• Parhau i weithio gyda’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol i hybu’r gwaith yn y maes hwn.

• Edrych i mewn i gyfleoedd i archwilio llwybrau gyrfa ar gyfer pobl ifanc sy’n dymuno mynd i mewn i’r proffesiwn.

7. Strategaethau a Pholisïau (Amcan 6)

7.1 Mae ‘Mwy na Geiriau...’ yn strategaeth sy’n berthnasol i Lywodraeth Cymru yn ogystal â’r sectorau iechyd, gwasanaethau cymdeithasol a gofal cymdeithasol. Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn glir bod yn rhaid i ni sicrhau bod anghenion siaradwyr Cymraeg yn cael eu gwireddu.

7.2 Yn ystod blwyddyn gyntaf gweithredu ‘Mwy na Geiriau...’ mae’r Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cryfhau ei threfniadau i sicrhau y gellir mesur pob polisi a rhaglen o ran ei heffaith ar yr iaith Gymraeg, gyda threfniadau newydd wedi cael eu sefydlu.

Enghraifft o hyn yw’r gweithdrefnau sydd bellach yn eu lle ar gyfer asesu effaith anghenion iaith fel rhan o ddatblygiad polisi. Mae’r broses hon yn mynd rhagddi ac yn cael ei mabwysiadu gan Lywodraeth Cymru er mwyn sicrhau cysondeb wrth asesu materion iaith. Mae hwn yn gam yn y cyfeiriad cywir.

7.3 Gofynnir i fyrddau iechyd lleol hefyd asesu strategaethau a pholisïau presennol i weld a ydynt yn cyflawni’r amcanion a osodwyd yn ‘Mwy na Geiriau...’. Bu asesiad iaith yn ganolog i gynlluniau iaith Gymraeg y byrddau iechyd lleol ac mae’n cael ei fonitro’n flynyddol. Mae gan bob bwrdd iechyd lleol ei ddull ei hun o fonitro neu hybu asesiad iaith ond adroddir ar yr holl ddulliau wrth Gomisiynydd y Gymraeg a cheir monitro blynyddol.

7.4 Mae byrddau iechyd lleol ac ymddiriedolaethau hefyd yn gyfrifol am ddyletswyddau statudol ehangach. Ochr yn ochr â darparu gwasanaethau gofal iechyd, dylai Cynlluniau Tymor Canolig Integredig (CTCI) ddangos yn eglur sut y bwriadant gyflawni’r dyletswyddau ehangach hyn (gan gynnwys y rheiny sy’n gysylltiedig â’r Gymraeg, Hawliau Dynol, Cydraddoldeb a Chynghorau Iechyd Cymunedol ac ati) a sut a phryd y maent yn mynd i gynnal yr asesiadau effaith angenrheidiol o fewn y cyfnod y mae’r cynllun yn ymwneud ag ef.

Bydd angen, fodd bynnag, monitro ymrwymiad y byrddau iechyd lleol o fewn datblygiad eu cynlluniau darparu tair-blynedd newydd.

Blaenoriaethau ar gyfer gweithredu:

• Llywodraeth Cymru i fonitro ymrwymiad i’r iaith Gymraeg fel rhan o gynlluniau darparu tair-blynedd newydd GIG Cymru. (Amcan strategol 6, cam gweithredu 2.2).

8. Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC)

8.1 Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn ystyried sut y gall gynnwys blaenoriaethau ‘Mwy na Geiriau...’ o fewn ei rhaglen waith bresennol ac wrth wneud hynny gynhyrchu gwybodaeth briodol, fydd yn fan cychwyn ar gyfer cam nesaf ‘Mwy na Geiriau...’.

Page 12: Mwy - NHS Wales than...Tachwedd 2012, gan gwblhau ymrwymiadau allweddol yn ‘Law yn Llaw at Iechyd’ a hefyd yn y ‘Rhaglen Lywodraethu’. Mae dau gynllun gweithredu 3 blynedd

12

8.2 Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru’n arolygu’r GIG yn erbyn set o safonau gofal iechyd ac mae hefyd yn rheoleiddio ac yn arolygu’r sector gofal iechyd annibynnol.

8.3 Fel rhan o’i gwaith cysylltiedig â’r GIG, mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru’n cynnal dau fath o arolygiad lle y gellir cynnwys blaenoriaethau ‘Mwy na Geiriau...’, - Arolygiad Urddas a Gofal Hanfodol ac ymweliadau ag Unedau Iechyd Meddwl.

8.4 Mae’r ddau ddull arolygu yn cynnig cyfle i gyfweld cleifion a’u holi’n uniongyrchol ynghylch y gofal y maent yn ei dderbyn. Mae’n fwriad gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru gynnwys y cwestiynau canlynol yn hyn:

• A ofynnwyd i chi ym mha iaith yr hoffech i bobl gyfathrebu â chi?

• Pa un yw’r iaith orau gennych chi?

• A gafodd eich anghenion iaith eu bodloni?

8.5 O fewn y ddwy fethodoleg, cynhelir rhai gwiriadau ar nodiadau/cofnodion cleifion. Pan fo cleifion wedi nodi bod eu dewis iaith yn unrhyw beth ar wahân i Saesneg, bydd Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn edrych ar y nodiadau i weld a yw hyn wedi’i gofnodi ynddynt.

8.6 Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn rheoli’r ymarfer hunanasesu yn erbyn y safonau ar gyfer gwasanaethau gofal iechyd. Yn yr asesiad hwn, cawn gyfle i ofyn cwestiynau sy’n mynd ymhellach na’r safonau a gyhoeddwyd a byddem yn cynnig gofyn i fyrddau iechyd lleol ddarparu datganiad a thystiolaeth i ddangos sut y maent yn cyflawni yn erbyn y ‘Cynnig Rhagweithiol’.

8.7 Mae data ynglyn â phrofiad cleifion eisoes yn cael ei nodi fel dangosydd a ddefnyddir i werthuso effeithiolrwydd yn y maes hwn. Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru’n edrych ar y data yma’n rheolaidd ac rydym yn credu y bydd, o’i gyfuno â’r gweithgarwch uchod a’r data sy’n deillio ohono, yn ffynhonnell gyfoethog o wybodaeth i ni greu darlun o sut y mae’r byrddau iechyd lleol yn meddwl y maent yn gwneud a beth y mae’r cleifion yn ei ddweud am yr hyn y maent yn ei dderbyn.

9. Y Gymdeithas Fferyllol Frenhinol (RPS)

9.1 Mae’r Gymdeithas Fferyllol Frenhinol yng Nghymru’n deall beth yw pwysigrwydd a gwerth mynediad at Fferyllwyr Cymraeg i gleifion yng Nghymru. Mae’r RPS yn ymrwymedig i sicrhau bod siaradwyr Cymraeg yn cael eu trin ag urddas a pharch pan fyddant yn defnyddio gwasanaethau Fferyllfa.

Enghreifftiau o’r camau a gymerwyd gan yr RPS:

• Mae gwefan yr RPS yn awr yn cynnwys dogfen ddwyieithog i gynnig cymorth ac arweiniad i fferyllwyr ynghylch defnyddio’r Gymraeg mewn fferyllfa. Mae 7 fforwm practis lleol (FfPLl) yng Nghymru, un yn ardal pob bwrdd iechyd lleol.

• Nod y FfPLl yw galluogi fferyllwyr o’r holl sectorau fferylliaeth i ddod ynghyd i rannu arfer gorau ac i roi arweiniad, gweledigaeth a chefnogaeth i aelodau lleol. Mae gan bob FfPLl bellach hyrwyddwr y Gymraeg, er mwyn sicrhau bod anghenion ein haelodau Cymraeg yn cael eu hateb ac i ystyried anghenion Cymraeg cleifion yn eu hardal.

• Cyhoeddwyd erthygl yn y Pharmaceutical Journal (Gorffennaf 2014) ynglyn â phwysigrwydd parchu siaradwyr Cymraeg a’u dewis iaith. Mae’r Pharmaceutical Journal yn gylchgrawn sy’n gydnabyddedig yn rhyngwladol, a daw â newyddion, dadansoddiad a barn i holl aelodau’r RPS a thanysgrifwyr ar draws y byd.

• Darparodd yr RPS lythyrau yn Gymraeg ar gyfer ein haelodau FfPLl yn Hywel Dda, yn rhoi gwybod iddynt am ddigwyddiadau oedd i ddod. Mae’n bwriadu ceisio cynyddu’r math hwn o weithgaredd dros y misoedd sydd i ddod.

Page 13: Mwy - NHS Wales than...Tachwedd 2012, gan gwblhau ymrwymiadau allweddol yn ‘Law yn Llaw at Iechyd’ a hefyd yn y ‘Rhaglen Lywodraethu’. Mae dau gynllun gweithredu 3 blynedd

13

10. Ysgol Fferylliaeth a Gwyddor Fferyllol

10.1 Mae’r Ysgol Fferylliaeth a Gwyddor Fferyllol hefyd wedi ymrwymo i gefnogi nodau ‘Mwy na Geiriau...’

Mae’r camau a gymerwyd gan yr ysgol yn cynnwys:

• Dyrannu myfyrwyr sy’n siarad Cymraeg i diwtoriaid personol sy’n siarad Cymraeg.

• Y cynlluniau datblygu personol i gynnwys y Gymraeg.

• Annog aelodaeth o’r Coleg Cymraeg a chymryd rhan yn y cynllun ‘sgiliau iaith’.

• Ymchwil yn canolbwyntio ar swyddogaeth y Gymraeg mewn fferylliaeth.

• Cyfleoedd i fyfyrwyr ymgynghori â chleifion yn Gymraeg ar y cwrs rhagnodi sydd heb fod yn feddygol.

• Datblygu dwy ffilm Gymraeg fer yn darlunio technegau ymgynghori da.

• Gweithdai sgiliau ymgynghori Cymraeg.

Page 14: Mwy - NHS Wales than...Tachwedd 2012, gan gwblhau ymrwymiadau allweddol yn ‘Law yn Llaw at Iechyd’ a hefyd yn y ‘Rhaglen Lywodraethu’. Mae dau gynllun gweithredu 3 blynedd

14

Rhan 2

Gwasanaethau Cymdeithasol a Gofal Cymdeithasol

1. Rhagarweiniad

Caiff gwasanaethau cymdeithasol eu darparu drwy 22 o Awdurdodau Lleol a darperir gofal a chymorth i oedolion a phlant gan amrywiaeth o gyrff gan gynnwys darparwyr preifat. Mae gan yr holl awdurdodau lleol eu cynlluniau iaith eu hunain a’u trefniadau hybu iaith. Bu hanes y gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru yn wahanol o ran eu perthynas â’r iaith Gymraeg, yn enwedig mewn perthynas â swyddogaeth arweiniol Cyngor Gofal Cymru sydd wedi bod yn rhagweithiol mewn:

• Sefydlu gofynion addysg a hyfforddiant.

• Datblygu a hybu gwybodaeth am ymwybyddiaeth o iaith.

• Cynhyrchu adnoddau dwyieithog ac arweiniad.

1.1 Fodd bynnag, mae ‘Mwy na Geiriau...’ yn cadarnhau pwysigrwydd iaith fel agwedd greiddiol ar ofal effeithiol o fewn polisi ehangach a gofynion deddfwriaethol Llywodraeth Cymru. Mae’n atgyfnerthu cyfrifoldeb ac atebolrwydd yr holl ddarparwyr ac yn gofyn am arweinyddiaeth a pherchnogaeth sy’n mynd ar draws y sector cyfan.

1.2 Mae’r cynnydd ar weithredu nodau ‘Mwy na Geiriau...’ ar draws darpariaeth y gwasanaethau cymdeithasol yn amrywio drwy Gymru ond mae newid sylweddol yn amlwg yn y rhan fwyaf o ardaloedd, gyda chydnabyddiaeth glir o bwysigrwydd deall anghenion cymunedau, canfod a chefnogi sgiliau iaith y gweithwyr presennol a chreu diwylliant rhagweithiol. Cytunwyd ar y cychwyn na fyddai monitro ‘Mwy na Geiriau...’ yn ofyniad ychwanegol ar y sector hwn ond yn hytrach yn rhan annatod o ofynion monitro’r gwasanaethau cymdeithasol.

1.3 Defnyddir yr ymatebion gan yr awdurdodau lleol i flwyddyn gyntaf ‘Mwy na Geiriau...’ i hysbysu blaenoriaethau i’r dyfodol, wrth i ni gychwyn ar yr ail flwyddyn. Bydd angen i ni sicrhau bod y broses ar gyfer casglu gwybodaeth am sgiliau iaith o fewn y sector mor gadarn â phosib er mwyn rhoi darlun cywir o’r newidiadau ar draws iechyd a gwasanaethau cymdeithasol.

1.4 Mae Cymdeithas Cyfarwyddwyr y Gwasanaethau Cymdeithasol (ADSS) wedi penodi dau Gyfarwyddwr i gymryd yr arweiniad mewn hybu a chefnogi gweithrediad ‘Mwy na Geiriau...’. Defnyddiodd yr ADSS Gynhadledd y Gwasanaethau Cymdeithasol 2014 fel llwyfan i ddangos arweinyddiaeth o ran codi proffil egwyddorion ‘Mwy na Geiriau...’ a’r newid sydd ei angen i gyflawni’r ‘Cynnig Rhagweithiol’. Roedd y gynhadledd yn ddwyieithog; dangosodd brif siaradwyr eu harweinyddiaeth drwy ddefnyddio’r Gymraeg a hefyd drwy greu amgylchedd dwyieithog.

1.5 At hynny, gosodwyd gofynion ar y siaradwyr i gyd ac arweinwyr gweithdai yn y gynhadledd i fynd i’r afael yn benodol ag egwyddorion craidd ‘Mwy na Geiriau...’. Gosododd hyn gyd-destun gwahanol i’r digwyddiad ac er mai dim ond yn rhannol y cyflawnwyd y nod, llwyddodd i osod tôn a bwriad clir. Roedd hyn yn galonogol ac mewn ymateb uniongyrchol i amcan strategol 6, cam gweithredu 4.1 –

‘ADSS Cymru i ymrwymo a rhoi arweinyddiaeth amlwg i weithrediad y fframwaith strategol.’

Mae yna, fodd bynnag, fwy o waith eto i’w wneud i sicrhau bod hyn yn elfen gyson o swyddogaeth holl gyfarwyddwyr y gwasanaethau cymdeithasol ac ADSS Cymru.

Page 15: Mwy - NHS Wales than...Tachwedd 2012, gan gwblhau ymrwymiadau allweddol yn ‘Law yn Llaw at Iechyd’ a hefyd yn y ‘Rhaglen Lywodraethu’. Mae dau gynllun gweithredu 3 blynedd

15

1.6 Mae yna bedair partneriaeth gofal cymdeithasol ranbarthol sy’n dod ag arweinwyr gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol at ei gilydd ar draws Cymru, er mwyn hybu gweithio ar y cyd a chynllunio iaith fel rhan o ddatblygu’r camau gweithredu yn ‘Mwy na Geiriau...’. Mae’r partneriaethau hyn wedi codi ymwybyddiaeth ac anogir dull partneriaeth o ddatblygu ‘Mwy na Geiriau...’ ar draws ardaloedd awdurdodau lleol.

1.7 Ar gyfer 2014-15 mae disgwyliadau Llywodraeth Cymru ar gyfer y sector yn datgan bod angen rhoi ystyriaeth i allu’r gweithlu i ddarparu a chyflawni gwasanaethau yn ddwyieithog. Bydd hyn yn parhau i gael ei adlewyrchu yng ngwaith Cyngor Gofal Cymru ond bydd hefyd yn nodwedd allweddol o ddatblygiad y strategaeth i ddatblygu’r gweithlu.

1.8 Mae gofynion data partneriaethau datblygu gweithlu gofal cymdeithasol yn gofyn am wybodaeth am iaith ac mae gwaith ar y gweill i gryfhau’r orchwyl o gasglu’r data hwn.

2. Cynllunio a darparu gwasanaeth (Amcan 1)

2.1 Awgryma’r wybodaeth a dderbyniwyd hyd yma fod Awdurdodau Lleol yn defnyddio dulliau gwahanol o gasglu a dadansoddi data fel sail i gynllunio gwasanaethau. Mae llawer eisoes yn defnyddio ffigurau’r cyfrifiad i gynllunio’r gwasanaethau a ddarperir ac mae yna eraill sydd ond megis dechrau mabwysiadu proses i ddechrau edrych ar ddarparu gwasanaeth iaith.

2.2 Yn ôl yr wybodaeth a dderbyniwyd, mae’r holl awdurdodau lleol wedi dangos ymrwymiad i gynllunio iaith fel rhan o ddarparu gwasanaethau, sy’n newid sylweddol o bwys. Mae ‘Mwy na Geiriau...’ wedi rhoi canolbwynt i’r broses gynllunio strategol hon.

2.3 Dengys yr wybodaeth a dderbyniwyd gan Gyngor Gofal Cymru fod yna oddeutu 5,911 o weithwyr cymdeithasol cofrestredig ledled Cymru. Mae 72.4% o’r rhain wedi rhoi gwybodaeth ynghylch eu sgiliau iaith Gymraeg. Nododd 13.6% eu bod yn siaradwyr Cymraeg rhugl a nododd 20% eu bod yn deall Cymraeg. Nid yw’r cwestiwn ynghylch gallu ieithyddol yn un gorfodol ac felly efallai mai amcangyfrif isel yw hwn gan mai’r duedd gyffredinol yw i bobl dybio bod eu gallu’n is nag ydyw.

2.4 Nid yw’r gweithlu cofrestredig ond rhan fechan o’r gweithlu cyfan o dros 69,000, a chydnabyddir nad oes digon o ddata cadarn ar gael ynghylch sgiliau’r gweithlu hwn o’u cymharu â phroffiliau sgiliau iaith y gymuned. Mae gwaith wrthi’n cael ei wneud gan Gyngor Gofal Cymru, sector y gwasanaethau cymdeithasol a Llywodraeth Cymru i wella’r data hwn i’r dyfodol.

Cyflawniad Blwyddyn 1:

• Oddi wrth yr wybodaeth a ddaeth i law, mae gan 20 allan o 22 awdurdod lleol gynllun gweithredu penodol i ganolbwyntio ar ddatblygu ‘Mwy na Geiriau...’. Defnyddir dull mwy cadarn o gasglu data sgiliau iaith i fod yn sail i gynllunio gwasanaeth.

2.5 Darperir llawer o ofal uniongyrchol yn y sector hwn gan gyrff preifat neu wirfoddol. Fforwm Gofal Cymru yw’r corff ymbarél ar gyfer y sector annibynnol. Mae gan Fforwm Gofal Cymru swyddogaeth bwysig mewn canfod a rhannu arfer gorau a chefnogi rheolwyr i greu’r diwylliant a datblygu sgiliau’r staff. Maent wedi dangos y gefnogaeth hon ac yn ymroi i gynghori rheolwyr ynghylch ffyrdd y gellir hyrwyddo’r iaith, megis gwisgo bathodynnau i ddynodi siaradwyr Cymraeg a chynnal peilot ar ddefnyddio llyfryn Cymraeg ar draws y sector.

2.6 Ceir nifer o esiamplau da o ddarparwyr yn gwneud pethau’n wahanol fel bod yna ddealltwriaeth o bwysigrwydd iaith a chreu diwylliant lle y mae’r Gymraeg yn cael ei chlywed a’i defnyddio.

Page 16: Mwy - NHS Wales than...Tachwedd 2012, gan gwblhau ymrwymiadau allweddol yn ‘Law yn Llaw at Iechyd’ a hefyd yn y ‘Rhaglen Lywodraethu’. Mae dau gynllun gweithredu 3 blynedd

16

2.7 Cafwyd dwy enghraifft ym mlwyddyn gyntaf ‘Mwy na Geiriau...’ oedd yn dangos y newid sylweddol mewn dealltwriaeth yng Nghyngor Sir y Fflint a Chyngor Sir Pen-y-bont ar Ogwr. Yn Sir y Fflint sefydlwyd ‘caffi dementia’ er mwyn cynyddu cyfleoedd i breswylwyr ddefnyddio’r Gymraeg ac edrych ar ffyrdd o integreiddio hyn i mewn i’r patrwm dyddiol yng nghartref gofal Llys Jasmine.

2.8 Yng Nghyngor Sir Pen-y-bont ar Ogwr mae cartref gofal preifat wedi dangos y gall newidiadau bychain iawn wneud gwahaniaeth mawr i bobl hyn â dementia. Mae ‘Foxtroy House’ wedi darparu sesiynau Cymraeg gan ddefnyddio cardiau fflach a dominos. Defnyddiwyd yr holl ffyrdd yma i ysgogi hel atgofion am sgyrsiau yn Gymraeg ac am ddiwylliant y preswylwyr.

3. Comisiynu a’r Cynnig Rhagweithiol (Amcan 2)

3.1 Mae comisiynu gwasanaethau’n effeithiol yn un o gyfrifoldebau allweddol yr awdurdodau lleol. Mae llawer o waith wrthi’n cael ei wneud yn genedlaethol i gryfhau a moderneiddio’r dull o gomisiynu yng ngoleuni’r gofynion yn neddfwriaeth newydd y gwasanaethau cymdeithasol. Bydd yn hollbwysig fod egwyddorion ‘Mwy na geiriau…’ wrth galon y strategaeth gomisiynu newydd.

3.2 Ar hyn o bryd, bratiog yw’r darlun. Fodd bynnag, mae yna enghreifftiau o awdurdodau lleol sydd wedi cydnabod yr angen i wella eu dull.

Mae prosesau craffu mewnol Llywodraeth Cymru, ynghylch ystyriaethau caffael, hefyd yn cynnwys cyfarwyddiadau ynglyn â’r Gymraeg. Mae’r paragraff canlynol wedi ei restru fel rhan o’r canllawiau caffael a rhoddir dolen gyswllt i’r ddogfennaeth berthnasol.

Contractau Gwasanaethau Cyhoeddus a Gwasanaethau a gyflawnir ar ein rhan gan drydydd parti: Bydd ein polisïau caffael yn sicrhau y bydd ystyriaethau’r iaith Gymraeg wedi eu cynnwys yn y prosesau caffael, fel bo’n briodol. Wrth wneud hynny, cawn ein harwain gan yr egwyddorion sydd wedi eu hegluro yng nghanllaw Bwrdd yr Iaith Gymraeg: Gosod Contractau Gwasanaeth Cyhoeddus a’r Gymraeg. Bydd Gwerth Cymru yn hybu’r dull hwn ar draws Cymru, fel yr arfer gorau.

3.3 Mae yna gynlluniau yn eu lle (sydd eto i gael eu cwblhau) i olrhain nifer y contractau caffael Cymraeg o 2015 ymlaen. Bydd angen monitro hyn.

Blaenoriaeth ar gyfer gweithredu:

• Llywodraeth Cymru i fonitro’r cynllun arfaethedig i olrhain contractau caffael Cymraeg o 2015 ymlaen. (amcan strategol 6, cam gweithredu 3.5)

Blaenoriaethau ar gyfer gweithredu:

• Llywodraeth Cymru i ledaenu arweiniad i’r sector ar egwyddor y ‘Cynnig Rhagweithiol’. (amcan strategol 2, cam gweithredu 1.1)

4. Datblygu Gweithlu (Amcan 3)

4.1 Mae gwybodaeth gadarn am y gweithlu’n hanfodol. Mae gwybodaeth am weithlu’r Gwasanaethau Cymdeithasol yn rhan o’r data a gesglir dan arweiniad uned ddata Llywodraeth Cymru. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth am sgiliau iaith ond nid mewn manylder. Mae gwybodaeth gadarn am y gwasanaethau hynny sy’n cael eu comisiynu yn llawer mwy anodd ei chasglu. Bu Cyngor Gofal Cymru, ers blynyddoedd lawer, yn dadlau o blaid set o ddata gofynnol, cenedlaethol.

4.2 Dengys y dystiolaeth hyd yn hyn y canolbwyntiwyd yn ystod y flwyddyn gyntaf ar sicrhau bod proses yn ei lle i ddechrau casglu gwybodaeth am sgiliau’r gweithlu. Caiff hyn ei gyflawni gan Gyngor Gofal Cymru gan eu bod hwy wedi creu templed ar gyfer adnabod anghenion iaith ac mae hwn yn cael ei rannu gyda’r sector.

Page 17: Mwy - NHS Wales than...Tachwedd 2012, gan gwblhau ymrwymiadau allweddol yn ‘Law yn Llaw at Iechyd’ a hefyd yn y ‘Rhaglen Lywodraethu’. Mae dau gynllun gweithredu 3 blynedd

17

4.3 Dengys yr wybodaeth am gynnydd blwyddyn un (seiliedig ar ugain o ymatebwyr) yr angen i ffurfioli casglu sgiliau iaith o fewn Awdurdodau Lleol. Ceir peth tystiolaeth fod staff yn amharod i roi gwybodaeth am eu sgiliau iaith gan eu bod yn aneglur ynghylch y ffordd y caiff yr wybodaeth ei defnyddio, neu’n ansicr o’u sylfaen sgiliau hwy eu hunain.

4.4 Rhoddwyd enghraifft o hyn gan Ddinas a Sir Abertawe lle mae 71 o staff wedi nodi eu bod yn siaradwyr Cymraeg ond mae’n hysbys i lawer mai tan gynrychioliad yw hyn gan fod adolygiadau blaenorol wedi dangos nifer mwy. Y rheswm a roddir am hyn yw diffyg hyder y staff yn eu gallu ieithyddol.

4.5 Fodd bynnag, mae yna enghreifftiau o archwiliadau sgiliau iaith yn cael eu cynnal, fel yng Nghyngor Sir Ynys Môn a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, er mwyn ystyried modelau addas ar gyfer gwasanaethau Cymraeg yn ôl gallu a pharodrwydd a hyder y staff i ddefnyddio’r iaith.

Blaenoriaethau ar gyfer gweithredu:

• Monitro casglu’r data fel rhan o strategaethau sgiliau iaith awdurdodau lleol (amcan strategol 3, cam gweithredu 1.1).

• Monitro llwyddiant y strategaethau sgiliau iaith ym mlynyddoedd 2 a 3 y fframwaith.

5. Yr Arolygiaethau a’r Rheoleiddwyr

5.1 Mae swyddogaeth yr arolygiaethau yn hanfodol os yw angen iaith a newid diwylliannol tuag at y ‘Cynnig Rhagweithiol’ yn mynd i fod yn greiddiol i wasanaethau iechyd a gofal, unigolyn-ganolog, o safon uchel.

5.2 Mae Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) yn rheoleiddio dros 6000 o wasanaethau a lleoliadau, o warchodwyr plant i gartrefi ar gyfer pobl hyn. Maent hefyd yn arolygu gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol ac yn cynnal adolygiadau cenedlaethol.

5.3 Mae AGGCC wedi dangos ymrwymiad gwirioneddol a realistig i’r strategaeth. Trwy ddatblygu cynllun gweithredu clir a gwneud hyn yn rhan o’r broses fonitro, mae gan y sefydliad ddull darparu clir sef:

• Sefydlu prosiect i oruchwylio gweithrediad ‘Mwy na geiriau...’ a gweithredu fel llysgenhadon o fewn yr Arolygiaeth.

• Asesu eu sylfaen sgiliau iaith presennol fel corff.

• Darparu hyfforddiant i staff ar ymwybyddiaeth ynghylch y strategaeth fel rhan o hyfforddiant gwasanaethau cwsmeriaid.

• Cynnwys nodau’r strategaeth wrth ddatblygu methodolegau, prosesau ac adroddiadau arolygu newydd.

• Buddsoddi mewn systemau TG a fydd yn casglu data iaith (bydd casgliad data blwyddyn lawn ar gael o 2016).

• Sefydlu systemau ar gyfer casglu data iaith a’r canlyniadau i bobl mewn gwasanaethau a reoleiddir.

• Sicrhau bod nodau ‘Mwy na geiriau…’ yn cael eu cynnwys fel rhan o’r fframwaith newydd ar gyfer arolygiadau awdurdodau lleol.

5.4 Yn 2014 dangosodd AGGCC ei hymrwymiad i gynllunio iaith drwy hybu ei gwaith a lansio strategaeth Gymraeg ‘Defnyddiwch eich Cymraeg’ yn yr Eisteddfod Genedlaethol am y tro cyntaf.

Bydd monitro hynt ac effaith y dull newydd hwn yn hollbwysig.

Page 18: Mwy - NHS Wales than...Tachwedd 2012, gan gwblhau ymrwymiadau allweddol yn ‘Law yn Llaw at Iechyd’ a hefyd yn y ‘Rhaglen Lywodraethu’. Mae dau gynllun gweithredu 3 blynedd

18

6. Cyngor Gofal Cymru

6.1 Mae Cyngor Gofal Cymru yn casglu sgiliau iaith y sector drwy ddefnyddio partneriaethau datblygu’r gweithlu ym mhob bwrdeistref sirol a chasglu gwybodaeth am sgiliau iaith drwy gyfrwng holiadur. Defnyddir yr wybodaeth i groesgyfeirio’r wybodaeth bresennol am sgiliau iaith.

6.2 Mae strategaeth sgiliau iaith wrthi’n cael ei datblygu er mwyn hysbysu’r sector sut i flaenoriaethu darpariaeth Gymraeg.

Canolbwyntir ar 5 maes:

• Fframwaith sgiliau iaith – gan gyfeirio at fframwaith Cyd-bwyllgor Addysg Cymru (defnyddir y fframwaith hwn hefyd gan y byrddau iechyd lleol ledled Cymru).

• Strategaeth sgiliau ar gyfer y Gymraeg yn eich gweithle.

• Yr iaith Gymraeg a’r Gweithlu.

• Yr iaith Gymraeg a’ch lleoliad gofal.

• Defnydd effeithiol o sgiliau iaith Gymraeg eich gweithlu.

6.3 Er mwyn mesur llwyddiant ‘Mwy na Geiriau...’ bydd angen i Lywodraeth Cymru fonitro sut y mae’n cael ei chyflawni gan y sector ym mlynyddoedd 2 a 3. Blynyddoedd dau a thri yw blynyddoedd cyflawni’r strategaeth a dyma’r adeg y bydd Llywodraeth Cymru’n gobeithio gweld gwahaniaeth yn y ddarpariaeth uniongyrchol i ddefnyddiwr y gwasanaeth.

6.4 Bu Cyngor Gofal Cymru a Fforwm Gofal Cymru yn gweithio gyda’i gilydd i gynnal peilot ar y strategaeth sgiliau iaith gyda chartrefi gofal penodol. Bydd gwybodaeth bellach ar gael yn dilyn monitro’r broses hon ym mlwyddyn dau y fframwaith.

6.5 Mae Cyngor Gofal Cymru wedi ffurfio panel partneriaeth er mwyn gyrru gwaith ‘Mwy na geiriau…’ yn ei flaen, yn enwedig y gwaith sy’n ymwneud â datblygu sgiliau iaith. Mae partneriaid o addysg uwch, awdurdodau lleol, Llywodraeth Cymru a’r sectorau preifat a gwirfoddol yn rhan o’r panel hwn. Mae pob agwedd ar waith y Cyngor yn ceisio adlewyrchu egwyddorion arfer da mewn perthynas â ‘Mwy na geiriau…’

6.6 Yn ychwanegol at edrych yn allanol ar yr angen am sgiliau iaith penodol yn y gweithle mae’r Cyngor hefyd yn edrych yn fewnol ac yn sicrhau bod yr wybodaeth hon yn cael ei rhannu gyda’r sector er mwyn rhoi arweiniad a chefnogaeth ar gyfer mentrau cynllunio iaith. Fel rhan o’r broses hon mae’r Cyngor wedi datblygu adnodd iaith sy’n gymorth i ddarparwyr o fewn y sector gydnabod pwysigrwydd sgiliau iaith, ta waeth pa mor fach, a chyflwyno cysyniad y ‘Cynnig Rhagweithiol’.

7. Arweinyddiaeth (Amcan 4)

7.1 Mae cysyniad yr hyrwyddwr iaith yn beth cymharol newydd i sectorau gwasanaethau cymdeithasol a gofal cymdeithasol, ond fe’i gwelir yn bwysig o ran rhoi cymorth a chyfeiriad i flaenoriaethau Cymraeg. Bu ymateb cadarnhaol i’r angen am hyrwyddwyr a, hyd yma, o’r 20 ymateb a dderbyniwyd mae ganddynt i gyd bellach hyrwyddwyr y Gymraeg yn arwain y gwaith hwn.

7.2 Bu arweinyddiaeth gan Brif Weithredwyr Gwasanaethau Cymdeithasol yn amlwg ac fel y disgwylid cafodd ddatganiadau ysgrifenedig o gefnogaeth i ‘Mwy na Geiriau...’ eu cynnwys fel rhan o’r Adroddiadau Blynyddol a ddarparwyd gan awdurdodau lleol.

7.3 Ym mlwyddyn gyntaf gweithredu’r strategaeth, roedd digwyddiadau hysbysebu’n hanfodol er mwyn rhoi arweiniad nid yn unig i unigolion oedd yn gweithio yn y sector ond hefyd i reolwyr oedd yn gyfrifol am ledaenu gwybodaeth i’r sector. Darparwyd digwyddiadau hyfforddi ar gyfer Fforwm Gofal Cymru mewn tri digwyddiad hysbysebu ar draws Cymru.

Page 19: Mwy - NHS Wales than...Tachwedd 2012, gan gwblhau ymrwymiadau allweddol yn ‘Law yn Llaw at Iechyd’ a hefyd yn y ‘Rhaglen Lywodraethu’. Mae dau gynllun gweithredu 3 blynedd

19

Cyflawniad Blwyddyn 1:

• Mae 20 o hyrwyddwyr y Gymraeg ar hyn o bryd wedi eu nodi ar draws sector y gwasanaethau cymdeithasol/gofal cymdeithasol (amcan strategol 2, cam gweithredu 4.1)

8. Addysg, Dysgu a Datblygiad (Amcan 5)

8.1 Caiff addysg a datblygiad yn sector y Gwasanaethau Cymdeithasol ei ddarparu gan brifysgolion, darparwyr addysg bellach a dysgu yn y gweithle gan gynnwys datblygiad parhaus.

8.2 Mae cyfleoedd i astudio’r cyfan neu ran o gwrs gwaith cymdeithasol yn Gymraeg yn dod yn gynyddol bwysig yng ngoleuni’r blaenoriaethau yn ‘Mwy na Geiriau...’ ynghylch cynyddu gweithlu Cymraeg ei iaith.

8.3 Mae cynyddu cyfleoedd hyfforddiant Cymraeg yn flaenoriaeth i’r sector hwn a bu rôl y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn bwysig i sicrhau bod yna banel pwnc Cymraeg sy’n datblygu rhaglenni gwaith cymdeithasol.

8.4 Caiff hyfforddiant gwaith cymdeithasol ei reoleiddio gan Gyngor Gofal Cymru ac mae’r Cyngor wedi gosod gofynion penodol ynghylch yr angen i’r holl raglenni gynnwys cyfeiriad at flaenoriaethau iaith.

8.5 Mae gan Gyngor Gofal Cymru ddata ar niferoedd y myfyrwyr gwaith cymdeithasol sy’n siarad Cymraeg a byddant yn defnyddio hwn fel rhan o strategaeth y gweithlu ar gyfer gweithwyr cymdeithasol a gynhelir gyda chyflogwyr a phrifysgolion.

Mae yna gynigion i Gyngor Gofal Cymru reoleiddio hyfforddiant gofal cymdeithasol yn y dyfodol a byddai hyn yn cryfhau ei ddylanwad o ran y cynnig iaith ac ymarfer sensitif i iaith yn y rhaglenni hyfforddiant hynny.

8.6 Ar hyn o bryd mae Prifysgol Bangor yn darparu cwrs MA mewn gwaith cymdeithasol. Mae’r brifysgol wedi datgan y bydd yn recriwtio 17 o fyfyrwyr Cymraeg allan o’r 22 bob blwyddyn ar gyfer y cwrs hwn. Mae hefyd dwy raglen yn Abertawe a Chaerdydd gydag elfennau Cymraeg, ond gyda’r bwriad i gynyddu’r ddarpariaeth hon.

8.7 Yn 2012 cyhoeddodd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ei gynllun academaidd. Dyma’r tro cyntaf i gynllun cenedlaethol swyddogol gael ei ddatblygu’n benodol ar gyfer addysg brifysgol yn y Gymraeg. Ar hyn o bryd mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn darparu:

• Meddygaeth.

• Gofal Iechyd.

• Seicoleg.

• Nyrsio a Bydwreigiaeth.

• Rhaglen ddatblygu Gwasanaethau Cymdeithasol.

Yr her gyda’r ddarpariaeth hon yw sicrhau ei bod yn cael y cyfle i dyfu a strwythuro ei hymrwymiadau yng ngoleuni newidiadau mewn polisi a deddfwriaeth. Bydd darparu mwy o’r cyfleoedd hyn yn gymorth gyda chynllunio gweithlu a gyda’r mater o allu ieithyddol ac mae angen rhoi’r adnoddau a’r ymrwymiad i barhau i gryfhau’r cyfleoedd ar gyfer y sector.

Page 20: Mwy - NHS Wales than...Tachwedd 2012, gan gwblhau ymrwymiadau allweddol yn ‘Law yn Llaw at Iechyd’ a hefyd yn y ‘Rhaglen Lywodraethu’. Mae dau gynllun gweithredu 3 blynedd

20

Cyflawniad Blwyddyn 1:

• Gall myfyrwyr ym Mhrifysgol Bangor astudio am radd mewn gwaith cymdeithasol yn gyfan gwbl yn Gymraeg. Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn bwriadu ehangu’r ddarpariaeth hon. Trwy weithio gyda Phrifysgol Abertawe, oherwydd ei bod wedi cyllido darlithydd, bydd y coleg yn datblygu ei raglenni is-raddedig. (amcan strategol 5).

• Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol mewn partneriaeth gyda Chyngor Gofal Cymru yn datblygu offer addysgol i fyfyrwyr y gellir ei ddefnyddio ym mhob Prifysgol sy’n darparu cyfleoedd mewn gwaith cymdeithasol.

9. Strategaethau a Pholisïau (Amcan 6)

9.1 Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn cynnwys darpariaeth benodol ar gyfer cymryd dewis iaith person i ystyriaeth. Mae dyletswydd gyffredinol dan y Ddeddf i ‘roi sylw i nodweddion, diwylliant a chredoau’r unigolyn (gan gynnwys, er enghraifft, iaith)’.

Cefnogir hyn gan y ddeddfwriaeth oedd yn bod eisoes a’r canllawiau ynghylch darparu gwasanaethau cyhoeddus yn y Gymraeg. Mae hyn yn cynnwys Deddf yr Iaith Gymraeg 1993, Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 ac, wrth gwrs, ‘Mwy na Geiriau...’ ei hun.

9.2 At hynny, fel y mae’r Memorandwm o Eglurhad a gyhoeddwyd ochr yn ochr â’r Ddeddf yn egluro, bydd is-ddeddfwriaeth yn cynnwys cyfeiriad penodol at yr iaith Gymraeg, er enghraifft, mewn cysylltiad â’r trefniadau asesu a chomisiynu newydd ar gyfer y gwasanaethau cymdeithasol a gofal cymdeithasol. Ceir esiampl o’r ffordd y mae’r Gymraeg wedi cael ei chynnwys yn eglur yn y ffordd yma yn y Trefniadau Asesu, Cynllunio ac Adolygu Integredig ar gyfer Pobl Hyn (cyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2013).

9.3 Fel y mae ‘Mwy na Geiriau...’ yn nodi, mae dewis iaith yn un o anghenion gofal. O ran asesu’r angen am ofal a chymorth dan y Ddeddf, mae’n ofynnol i’r awdurdodau lleol a’r byrddau iechyd lleol gydasesu’r amrediad o wasanaethau sydd eu hangen i ateb anghenion pobl yn yr ardal leol a darparu’r amrywiaeth a’r lefel o wasanaeth sydd ei angen – gan gynnwys drwy gyfrwng y Gymraeg.

9.4 Bu Fforwm Gofal Cymru yn llunio ei Gynllun Strategol ei hun ar gyfer 2013. Mae’r cynllun hwn yn cynnwys cyfeiriad neilltuol at ddatblygu’r fframwaith strategol.

Mae gan y Fforwm Gofal 22 o ardaloedd gweinyddol ar draws Cymru ac mae’r fforwm hwnnw wedi ei ymrwymo i ddarparu arweiniad a chefnogaeth i ddatblygu’r fframwaith ar draws y 22 ardal.

Cyflawniad Blwyddyn 1:

• Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn cynnwys darpariaeth benodol ar gyfer rhoi sylw i ddewis iaith person.

• Mae’r Trefniadau Asesu, Cynllunio ac Adolygu Integredig ar gyfer Pobl Hyn, a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2013, yn gwneud cyfeiriad penodol at yr angen i sicrhau bod pobl, fel rhan o’r asesiad, yn gallu cymryd rhan lawn drwy gael mynegi eu hunain yn yr iaith sydd orau ganddynt.

10. Y rhan a chwaraeir gan y trydydd sector

10.1 Mae’r trydydd sector yn sector mawr ac amrywiol ond mae iddo ran gynyddol bwysig mewn trawsnewid iechyd a gofal cymdeithasol a cheir cydnabyddiaeth o’r angen am berthynas newydd a gwahanol ar lefel genedlaethol, ranbarthol a lleol.

Page 21: Mwy - NHS Wales than...Tachwedd 2012, gan gwblhau ymrwymiadau allweddol yn ‘Law yn Llaw at Iechyd’ a hefyd yn y ‘Rhaglen Lywodraethu’. Mae dau gynllun gweithredu 3 blynedd

21

10.2 Mae gan y sector y potensial i chwarae rhan allweddol o ran sicrhau bod gwybodaeth a chyngor ar gael i bobl yn y Gymraeg a hefyd drwy ddatblygu asedau Cymraeg y gymuned fel rhan o adeiladu cymunedau cryf ar gyfer y dyfodol.

10.3 Dim ond megis dechrau y mae’r berthynas gyda thrydydd sector gofal cymdeithasol ar hyn o bryd o ran monitro a datblygu Mwy na Geiriau...’, er bod camau gweithredu bychain wedi cael eu cytuno er mwyn hybu’r strategaeth a sicrhau bod aelodau yn gwybod am ei nodau a’i hamcanion.

Blaenoriaethau ar gyfer gweithredu:

• Rhan y trydydd sector ar lefel fonitro i gael ei chytuno er mwyn sicrhau bod y sector hwn yn cael ei gynrychioli ar bob lefel. (amcan strategol 6).

• Llywodraeth Cymru i barhau i hybu ac integreiddio prosesau asesu effaith ar iaith er mwyn sicrhau integreiddiad iaith ar draws y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) newydd.

Gweithio mewn Partneriaeth

11. Comisiynydd Pobl Hyn

11.1 Yn ystod 2013-14 roedd bron i 30% o ymholiadau i’r Comisiynydd yn ymwneud ag iechyd a gwasanaethau cymdeithasol. Daeth pryder ynghylch darpariaeth iaith mewn iechyd a gofal cymdeithasol i’r amlwg fel rhan o’r ymchwiliadau i mewn i’r sectorau hyn neu adolygiadau penodol a gynhaliwyd gan y Comisiynydd.

11.2 Mae pobl hyn yn parhau i ddweud wrth y Comisiynydd eu bod wedi ‘gorfod gofyn’ am ddarpariaeth Gymraeg. Tynnwyd sylw at y diffyg urddas a pharch sy’n gysylltiedig â phobl yn methu â derbyn gwasanaethau yn Gymraeg fel rhan o adroddiad 2011 y Comisiynydd.

11.3 Mae adolygiad wrthi’n cael ei gynnal ar gartrefi nyrsio yng Nghymru ar hyn o bryd gan y Comisiynydd a chaiff casgliadau hwn eu rhannu gyda Llywodraeth Cymru.

Page 22: Mwy - NHS Wales than...Tachwedd 2012, gan gwblhau ymrwymiadau allweddol yn ‘Law yn Llaw at Iechyd’ a hefyd yn y ‘Rhaglen Lywodraethu’. Mae dau gynllun gweithredu 3 blynedd

22

Atodiad 1 – Esiamplau o Arfer Gorau

• Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu strategaeth sgiliau iaith gwbl integredig gan ddefnyddio meincnod y boblogaeth leol er mwyn penderfynu ar y nifer ‘digonol’ o siaradwyr Cymraeg sydd ei angen o fewn timau neu wasanaethau, er mwyn sicrhau bod y sgiliau cywir ar gael i ddarparu gwasanaethau Cymraeg.

Mae gan reolwyr ar draws y Bwrdd Iechyd gynlluniau gweithredu sy’n cynnwys nodi bylchau sgiliau a hefyd gynnig cynlluniau gwella posibl i gau’r bylchau sgiliau o fewn timau; byddai hyn yn cynnwys hyfforddiant a ffyrdd creadigol o weithio o gwmpas trosglwyddo dyletswyddau’n electronig ac ati.

• Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi lansio gwasanaeth atgoffa cleifion (drwy neges destun) gyda’r nod o leihau nifer yr apwyntiadau cleifion allanol a gollir. Bydd y system newydd hon, sy’n gwbl ddwyieithog, yn atgoffa pob claf am ei apwyntiad. Mae pob llwybr cyfathrebu’n gwbl ddwyieithog, gan roi dewis iaith i’r claf o’r cychwyn. Mae hyn yn benodol i’r gwasanaeth hwn.

• Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg (ABMU) – Mae therapydd iaith a lleferydd wedi dylunio pecyn offer ar gyfer therapyddion eraill i’w cynorthwyo i asesu plant dan 3 blwydd oed sy’n Gymraeg / yn ddwyieithog. Bydd gan y staff yn awr y sgiliau a’r gallu i gynnal asesiad o faterion geirfa sy’n dod i’r amlwg yn gynnar.

• Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf wedi dynodi ward benodol yn un o’i ysbytai i ofalu am gleifion sy’n defnyddio’r Gymraeg. Gall y cleifion yn Ward B2 yn Ysbyty Cwm Rhondda yn awr dderbyn gofal a thriniaeth drwy gyfrwng y Gymraeg o ganlyniad i gynllun peilot i gynorthwyo cleifion a fyddai’n hoffi derbyn eu gofal yn Gymraeg.

• Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi datblygu strategaeth benodol i hybu cysyniad y ‘Cynnig Rhagweithiol’ sydd wedi gwneud gwahaniaeth uniongyrchol i gleifion ac mae’r cam yma wedi arwain at well dealltwriaeth o’r cynnig.

• Mae adran Adnoddau Dynol Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn parhau i wella’r ffordd y mae’n casglu ac yn cofnodi sgiliau iaith y staff. Mae’r Cyngor wedi gofyn i’r holl staff yn ddiweddar i gwblhau arolwg gweithwyr cyflogedig oedd yn cynnwys manylion sgiliau iaith Gymraeg unigolion gan ddefnyddio cymwyseddau’r Gymraeg.

Mae gofynion Cymraeg yn awr wedi eu cynnwys o fewn contractau Gofal Plant, Gofal Cartref, Byw gyda Chymorth a Chefnogi Pobl ar gyfer Tai. Mae contractau cartrefi gofal preswyl yn cael eu datblygu’n rhanbarthol ar hyn o bryd a byddant yn cynnwys gofynion Cymraeg.

• Mae Cyngor Sir Gwynedd wedi comisiynu arolwg i arferion Cymraeg mewn cartrefi gofal ar draws y Sir. Bydd gwybodaeth am hyn i’w chael erbyn diwedd 2014.

• Mae Cyngor Sir Ddinbych yn cynorthwyo’r staff i wella a defnyddio eu sgiliau Cymraeg, yn enwedig mewn meysydd allweddol megis y Pwynt Mynediad Sengl a Phorth Cymorth Plant a Theuluoedd (a elwid gynt yn Dîm Cyswllt Cyntaf).

• Mae Cyngor Sir Ceredigion yn monitro 32 o ddarparwyr gwasanaethau gofal yn erbyn eu darpariaeth Gymraeg bresennol; bydd adroddiad ar y casgliadau ar gael ym mis Awst 2014. Bydd hwn yn nodi arferion da a hefyd yn cynnwys rhai o’r rhwystrau a’r cyfleoedd i ddatblygu ymhellach.

• Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen wedi cynnal arolwg o’r gweithlu gofal cymdeithasol ehangach ac yn awr mae ganddo restr gynhwysfawr o weithwyr gofal cymdeithasol a all gyfathrebu yn Gymraeg.

• Mae Cyngor Sir Fynwy wrthi’n adeiladu system gofnodi Gwasanaethau Cymdeithasol newydd a bydd hon yn cynnwys cofnodi’r ‘Cynnig Rhagweithiol’.

Page 23: Mwy - NHS Wales than...Tachwedd 2012, gan gwblhau ymrwymiadau allweddol yn ‘Law yn Llaw at Iechyd’ a hefyd yn y ‘Rhaglen Lywodraethu’. Mae dau gynllun gweithredu 3 blynedd

23

• Cyngor Gofal Cymru – rhoddwyd hyfforddiant ymwybyddiaeth iaith i holl aelodau’r staff.

• Mae Cyngor Sir Gaerfyrddin wedi datblygu cwrs newydd, a elwir Cwrs Cymraeg ar gyfer Gofalwyr yr Henoed, sydd ar gael ar gyfer staff mewnol a staff gwasanaethau gofal a gomisiynir.

• Mae Cyngor Sir Penfro wedi cynyddu ei hyfforddiant Cymraeg i staff eleni mewn ymateb uniongyrchol i anghenion y ‘Cynnig Rhagweithiol’. Bwriad yr hyfforddiant hwn yw annog siaradwyr Cymraeg presennol i ddefnyddio’r iaith a rhoi cyfleoedd i staff newydd ddysgu.

• Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn ystyried cydbwysedd ieithyddol mewn ffordd realistig er mwyn sicrhau bod modd cydweddu sgiliau iaith ac angen iaith. Drwy ganolbwyntio ar ddefnyddwyr gwasanaeth â dementia neu rai sy’n dioddef ôl-effeithiau strôc, blaenoriaethwyd cael 30% o leiaf o aelodau tîm i feddu ar sgiliau Cymraeg. Drwy wneud hyn maent wedi asesu’r galw am ddarpariaeth Gymraeg yn y sector hwn ac wedi ymateb drwy ymroi i gynllunio ffordd ymlaen.

• Mae Cyngor Sir Fynwy wedi cynnal prosiect peilot gyda chartref preswyl a phreswylydd Cymraeg. Roedd yn cynnwys hyfforddi’r staff a sicrhau bod yr unigolyn yn medru cael mynediad at ddeunyddiau Cymraeg a chael ymweliadau Cymraeg. Gwnaeth hyn wahaniaeth uniongyrchol i’r unigolyn dan sylw ac adolygir y sefyllfa ar adegau penodol drwy’r flwyddyn.