Upload
others
View
2
Download
0
Embed Size (px)
Citation preview
PARTNERIAETH DEFNYDD TIR Y MYNYDDOEDD DUON
SGILIAU AR GYFER DYFODOL FFERMIO AR YR UCHELDIR
ALISON DAVIES
RESOURCES FOR CHANGE
24 AWST 2018
1 | T u d a l e n
CYNNWYS
Crynodeb gweithredol ............................................................................................................................ 2
Cyflwyniad ............................................................................................................................................... 4
Cyd-destun ....................................................................................................................................... 4
Proses ...................................................................................................................................................... 6
Canfyddiadau .......................................................................................................................................... 7
Arolwg ar-lein .................................................................................................................................. 7
Cyfweliadau wyneb yn wyneb ......................................................................................................... 7
Chwilio ar y we ................................................................................................................................. 8
Galwadau Ffôn ................................................................................................................................. 8
Sesiwn galw heibio .......................................................................................................................... 8
Dadansoddiad ....................................................................................................................................... 10
Dewisiadau ............................................................................................................................................ 11
1. Gwyliau profiad yn y Mynyddoedd Duon ............................................................................. 11
2. Bwyta’r olygfa ....................................................................................................................... 12
3. Merched Cabanau Gwyliau’r Mynyddoedd Duon ................................................................ 14
4. Tir gwyllt y Mynyddoedd Duon ............................................................................................. 14
5. Rheoli'r mynydd .................................................................................................................... 15
6. Cost hyfywedd gweithgareddau ffermio .............................................................................. 16
7. Cylch Peiriannau a Phrynu .................................................................................................... 16
8. Cyswllt Ffermio – Menter ..................................................................................................... 16
9. Cynllun Ymsefydlu mewn Amaeth i Bobl Ifanc – Cymru ....................................................... 17
10. Ymddiriedolaeth Ddewisol ................................................................................................ 17
11. Profiad gwaith / ysgoloriaeth ............................................................................................ 17
12. Cennin Pedr a phlanhigion eraill ....................................................................................... 18
13. Y Mynyddoedd Duon ar gyfer Iechyd................................................................................ 19
14. Llwybrau'r Mynyddoedd Duon ......................................................................................... 19
Matrics sgiliau.................................................................................................................................... 20
Cysylltiadau lleol i adeiladu arnynt .................................................................................................... 21
Gwersi a Ddysgwyd ............................................................................................................................... 22
Atodiad: Y fframwaith Ymgynghori ....................................................................................................... 25
2 | T u d a l e n
CRYNODEB GWEITHREDOL
Mae Partneriaeth Defnydd Tir y Mynyddoedd Duon yn dod â ffermwyr a phorwyr, tirfeddianwyr,
Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Cyfoeth Naturiol Cymru, a Dŵr Cymru ynghyd.
Dyfarnwyd grant tair blynedd o £1,004,155.00 gan y Cynllun Rheoli Cynaliadwy i’r bartneriaeth, sy'n
cael ei ariannu gan yr UE a Llywodraeth Cymru. Nod y bartneriaeth yw gwella ansawdd cynefinoedd
ffermio ac amgylcheddol, diogelu cyfalaf naturiol megis dŵr a phridd, bywyd gwyllt a bioamrywiaeth,
a lles ac iechyd economaidd y rhai sy'n byw ac yn gweithio yn yr ardal eiconig hon.
Penodwyd Resources for Change ym mis Mawrth 2018 i wneud gwaith ymchwil ac i lunio adroddiad
terfynol sy'n arloesol ac sy'n mynd i'r afael ag anghenion cymdeithasol, amgylcheddol ac
economaidd y Mynyddoedd Duon.
Cynhaliwyd gwaith ymgysylltu ac ymgynghori gan ddefnyddio sawl techneg: arolwg ar-lein, sesiwn
galw heibio, ymweliadau wyneb yn wyneb a chyfweliadau ffôn. Roedd ymchwil ddesg yn cynnwys
gwybodaeth a data a ddarparwyd gan y partneriaid a chwiliadau ar y we. Cynhaliwyd sesiwn ddilysu
gyda'r Bwrdd Partneriaeth ym mis Gorffennaf pan gafodd canfyddiadau a chasgliadau interim eu
cyflwyno a'u trafod.
Yn gryno, mae R4C wedi rhannu’r canfyddiadau a nodir isod yn gryfderau ac yn wendidau:
CRYFDERAU
Sgiliau traddodiadol mewn amaethyddiaeth, stocmonaeth, plygu gwrychoedd, codi waliau cerrig
sychion
Diddordeb cyffredin gan fod gan bob un ohonynt hawliau pori (boed yn cael eu defnyddio ai
peidio) – cryfder mewn rhifau (100 o borwyr)
Mae gan bob un ohonynt dir ffridd a llwybrau’r Mynyddoedd Duon
Profiad o weithio ar y cyd – Partneriaeth Defnydd Tir y Mynyddoedd Duon, Glastir.
Lleoliad – mynediad hawdd i ganolfannau economaidd: Caerdydd, Bryste, Henffordd,
Birmingham, Llundain
Mae ffermwyr wrthi am gyfnodau maith, yn ffermio o un genhedlaeth i’r llall
Mae twristiaeth yn sylweddol yn lleol, gyda'r gwaith presennol o hyrwyddo Bannau Brycheiniog,
yn ogystal â'r Mynyddoedd Duon yn benodol.
Mae’r Parc Cenedlaethol yn hysbys ac yn cael ei hyrwyddo'n genedlaethol
GWENDIDAU
Dim cyfathrebu effeithiol/dibynadwy rhwng porwyr.
Seilwaith, rhyngrwyd, signal ffôn symudol gwan.
Nid yw pob ffermwr gweithredol yn gallu dod o hyd i gartref yn lleol.
Ni all pobl ifanc aros neu ddod o hyd i waith yn lleol.
Dywedir wrthym fod yr oedran cyfartalog yn uchel (disgrifir bron i 70 oed fel un o'r rhai iau)
Nid yw pawb sydd â hawliau pori yn manteisio ar hyn.
Mae llawer ohonynt yn dymuno parhau fel ag y maent, ond hefyd, mae angen incwm sicr arnynt
yn sgil Brexit.
Prin yw'r rhai sy'n ychwanegu gwerth at y cynnyrch sylfaenol.
3 | T u d a l e n
Mae ffin Cymru/Lloegr yn golygu gweithio gyda mwy o gyrff cyhoeddus sydd â meini prawf
gwahanol.
Rhywfaint o dwristiaeth aflonyddgar
Rheoliadau’r Parc Cenedlaethol
Cyflwynodd gwaith dadansoddi ac ymchwil pellach amrywiaeth o ddewisiadau ar gyfer datblygu
menter y byddai'r mwyafrif ohonynt yn ddelfrydol ar gyfer partneriaeth, Cwmni Buddiannau
Cymunedol neu Gwmni Cydweithredol. Maent hefyd yn cynnwys gofynion amrywiol o ran setiau
sgiliau, sy'n hanfodol, yn ein barn ni, i sicrhau cymuned gadarn sy'n cadw ei phobl ifanc ac yn denu
pobl eraill i ymuno.
Mae pedwar ar ddeg o ddewisiadau wedi eu cynnwys yn y brif ddogfen sy'n cynnig arloesedd a
diogelwch. Cyflwynir yma bump, gyda'u gofynion sgiliau i roi blas o'r dewisiadau a nodir:
DEWISIADAU CYFNOD INTERIM Y SGILIAU SYDD EU HANGEN GWYLIAU PROFIAD FFERM Gweithio gyda chyflenwyr eraill i greu ystod o gynhyrchion sy’n gwneud pecyn gyda'i gilydd e.e.
Dydd Sul Gwely a Brecwast, Pryd o fwyd gyda'r nos yn y dafarn / bwyty – bwyd lleol drwyddo draw,
Dydd Llun – diwrnod plygu gwrychoedd Fferm X gyda chinio
Dydd Mawrth – diwrnod rhydd, darperir pecyn cinio
Dydd Mercher – trefnu defaid ac ŵyn gyda chinio
Dydd Iau – Taith gerdded dywysedig – gyda phecyn cinio
Dydd Gwener – Diwrnod rhydd. Noson gwis gyda'r nos yn y dafarn (yr hyn y dylent fod wedi ei ddysgu yn ystod yr wythnos efallai). Barbeciw cig oen rhost ar gigwain.
Sgiliau pobl – gan gynnwys siarad â grwpiau, sgiliau TG i reoli archebion a chymryd taliadau ac yn y blaen Sgiliau eraill Hylendid bwyd ar gyfer paratoi bwyd Eraill nad ydynt yn sgiliau Yswiriant
BWYTA'R OLYGFA Datblygu sgiliau i ddarparu amrywiaeth o fwydydd a diodydd lleol drwy ddarparwyr twristiaeth a lleoedd eraill sy'n gwerthu bwyd a diod. Gallai hyn gynnwys bara a chynnyrch popty o Felin Talgarth a Seidr Brycheiniog a wneir ag afalau'r Mynyddoedd Duon. Prydau parod ar gyfer bythynnod gwyliau, mêl, selsig a bacwn gan Wild by Nature, cig eidion gan Black Mountain Beef. Datblygu cynhyrchion ychwanegol e.e. cwrw grug,
Sgiliau pobl – sgiliau rhwydweithio a negodi er mwyn trefnu telerau da gyda chyflenwyr Sgiliau hylendid bwyd ar gyfer paratoi bwyd Sgiliau arbenigol ar gyfer cynnyrch ychwanegol e.e. bragu ac ati Sgiliau marchnata a TG ar gyfer hyrwyddo a rheoli gwerthiant
RHEOLI'R MYNYDD Dod i gytundeb ar gyfer rheoli'r Mynyddoedd Duon a gweithio ar y cyd e.e. casglu, dipio, dileu'r clafr a throgod. Bydd hyn yn cymryd llai o amser, bydd lles yn cael ei wella, a bydd y tir yn cael ei reoli'n well.
Sgiliau pobl – gweithio'n gydweithredol mewn ffordd fwy ffurfiol, negodi, prynu a gwerthu sgiliau
TIR GWYLLT Y MYNYDDOEDD DUON Datblygu cynnig tir anghynhyrchiol a “gwyllt” i ymwelwyr, wedi ystyried gadael i blanhigion dyfu’n wyllt ar dir ychwanegol. Mae stad Knepp yn Sussex wedi caniatáu i 3,500 erw aildyfu’n wyllt ac erbyn hyn mae ganddi fusnes hyfyw gyda gwersylla, glampio, bythynnod, saffaris a chig organig o’r maes.
Anifeiliaid yn pori ar gyfer cynefin a bywyd gwyllt. Gwybodaeth am fywyd gwyllt a'r gallu i rannu hyn gyda grwpiau bach Sgiliau cynllunio i ddatblygu ystod o dripiau undydd (“saffaris”) ar gyfer gwahanol gynulleidfaoedd – gwylwyr adar / myfyrwyr / ac ati Yswiriannau perthnasol
4 | T u d a l e n
Y MYNYDDOEDD DUON AR GYFER IECHYD Yn gysylltiedig ag amcanion iechyd a lles y Llywodraeth drwy gynnig cyfleoedd i Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus yng Nghymru gyflawni eu hamcanion llesiant e.e. Taith gerdded hanner/un diwrnod ar gyfer pobl nad ydynt yn heini Cyfleoedd rheolaidd i wirfoddoli i grwpiau penodol e.e. pobl a gynorthwyir sydd ag anawsterau dysgu cymedrol (ffi i'w chodi ar yr Awdurdod Lleol) Cynllunio a hyrwyddo teithiau cerdded cylchol o wahanol bellteroedd Ysguboriau ioga
Dealltwriaeth o'r cyd-destun gwleidyddol er mwyn targedu gweithgareddau Sgiliau rhwydweithio gyda chyrff y tu allan i amaethyddiaeth e.e. Gwasanaethau Cymdeithasol / Cyrff iechyd gan gynnwys deall eu targedau Gwybodaeth am ddarparwyr, e.e. tywyswyr cerdded hyfforddedig, athrawon ioga ac ati
CYFLWYNIAD
Dyfarnwyd grant Cynllun Rheoli Cynaliadwy o £1,004,155.00 i Bartneriaeth Defnydd Tir y
Mynyddoedd Duon, sy'n cael ei ariannu gan yr UE a Llywodraeth Cymru. Mae gan y cyllid tair
blynedd nod cyffredinol gyda nifer o amcanion a meysydd gweithgarwch penodol.
Mae'r bartneriaeth yn dod â ffermwyr a phorwyr sy'n byw, yn gweithio ac yn rheoli da byw ar y
Mynyddoedd Duon ynghyd, gan weithio gyda pherchenogion tir, Awdurdod Parc Cenedlaethol
Bannau Brycheiniog, Cyfoeth Naturiol Cymru, a Dŵr Cymru, i drafod a chydweithio ar reoli,
cynaladwyedd a chadwraeth y Mynyddoedd Duon yn awr ac yn y dyfodol. ...... ei nod yw gwella
ansawdd cynefinoedd ffermio ac amgylcheddol, diogelu cyfalaf naturiol megis dŵr a phridd, bywyd
gwyllt a bioamrywiaeth, a lles ac iechyd economaidd y bobl sy'n byw ac yn gweithio yn yr ardal
eiconig hon.
Penodwyd Resources for Change (R4C) ym mis Mawrth 2018 i wneud gwaith ymchwil a chynhyrchu
adroddiad terfynol sy'n arloesol ac sy'n mynd i'r afael ag anghenion cymdeithasol, amgylcheddol ac
economaidd y Mynyddoedd Duon.
CYD-DESTUN
5 | T u d a l e n
Mae llai o bobl ifanc yn ymuno â'r diwydiant, yn enwedig ar ddaliadau mynydd ac ucheldir, lle bo
cynllunio ar gyfer olyniaeth yn cael ei ohirio yn aml am gyfnod amhenodol. Ynghyd â'r angen i gadw
a denu pobl ifanc, ceir gwerth
cydnabyddedig mewn cynnal sgiliau
traddodiadol, a'r angen i ddatblygu rhai
newydd. Mae'r prosiect hwn yn
bodloni'r gofynion a nodir yn Neddf yr
Amgylchedd (Cymru) 2016 a Deddf
Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol
(Cymru) 2015 gan edrych yn benodol ar
gadernid, ar gyfer y cymunedau a'r tir y
maent yn dibynnu arno. Nid oes angen
atgoffa cymunedau gwledig am effaith
ddinistriol Clwy'r Traed a'r Genau yn
2001 a fu bron â llorio’r economi a
chymunedau gwledig; eto, fe
ddechreuodd nifer o fusnesau newydd
ac arloesol oherwydd yr argyfwng
hwnnw a'r gydnabyddiaeth ei bod hi’n
hanfodol cynnwys cydnerthedd mewn
unrhyw gynllun busnes. Mae
cyfyngiadau sy'n deillio o TB a materion
eraill megis y dwymyn a gludir gan
drogod, y clafr a'r cydbwysedd rhwng
twristiaeth a rheoli stoc.
Canfu Prosiect Sgiliau Bwyd a Diod Cymru fod 45% o fusnesau bwyd wedi nodi bylchau mewn sgiliau
technegol; mae'r rhain yn arbennig o amlwg mewn meysydd sy'n ymwneud â rheoli busnes a
chyfrifyddu. Canfuwyd bod ffermwyr yn arbennig yn agored i fylchau sgiliau yn eu busnesau
oherwydd y tueddiad i greu rhaniad rhwng gweithgarwch ffermio a’r ochr fusnes o gynnal fferm.
Mae prosiect trawsffiniol y Mynyddoedd Duon yn cwmpasu 24,600 Ha ac, ynghyd â’r Gymdeithas
Porwyr, sydd â thros 100 o aelodau, mae'r Bartneriaeth yn cynnwys chwe ystad breifat, cyfleustodau
cyhoeddus a chyrff cyhoeddus yng Nghymru a Lloegr. Gydag oddeutu traean o ardal prosiect
Partneriaeth Defnydd Tir y Mynyddoedd Duon yn SoDdGA, mae'n bwysig iawn yn genedlaethol ac yn
rhyngwladol o ran ei faint, ei uchder a'r fflora a'r ffawna y mae'n eu cynnal.
Mae sgiliau ar gyfer Dyfodol Ffermio'r Ucheldiroedd yn un elfen o'r prosiect partneriaeth hwn. Mae'r
grŵp llywio wedi bod yn awyddus i'r gwaith hwn a'r papur Dewisiadau Cysyniad terfynol
ganolbwyntio ar y gymuned amaethyddol, sef y gynulleidfa darged ar gyfer ymgynghori. Mae'r
rhesymeg dros y pwyslais hwn wedi parhau'n ddyhead ac yn barodrwydd i’r bartneriaeth yn ei
chyfanrwydd er mwyn galluogi'r gymuned ffermio breswyl i elwa cymaint â phosibl ar y prosiect a
diogelu dyfodol eu teuluoedd a'u ffermydd drwy'r gwaith ymgysylltu a rhyngweithio hwn, ynghyd â'r
cyfle i brofi syniadau a thynnu menter entrepreneuraidd o'r tu allan i'r fro.
6 | T u d a l e n
PROSES
Yn sgil y cyfarfod dechreuol, pan gytunwyd ar y ddarpariaeth ar gyfer cyfathrebu a chysylltu, crëwyd
a chytunwyd ar Fframwaith Ymgynghori (atodedig) gan y Bwrdd. Yn ystod wythnos gyntaf mis Mai,
fe ddechreuodd yr ymgynghoriad wyneb yn wyneb ac fe aeth yr arolwg ar-lein yn fyw.
Mae'r Fframwaith Ymgynghori yn nodi'r cefndir, fframwaith rhesymegol a'r technegau penodol y
cytunwyd arnynt gyda'r grŵp llywio. Ar ôl cytuno ar y fframwaith, aeth yr arolwg ar-lein yn fyw, gyda
Chadeirydd ac Is-gadeirydd y Gymdeithas Bori wedi cytuno i ddosbarthu'r ddolen a'r e-bost
rhagarweiniol rhwng holl Aelodau'r gymdeithas. Darparwyd pum cyswllt yn gynnar ym mis Mai fel y
gellid cynnal rhai cyfweliadau, o'r cysylltiadau hyn casglwyd enwau eraill. Yn dilyn y cyfweliadau
grŵp wyneb yn wyneb cyntaf cynhaliodd Resources for Change ddadansoddiad mewnol; asesu'r
wybodaeth a gasglwyd, profi canfyddiadau i nodi themâu cyffredin a barnau unigol. Adolygwyd y
cwestiwn cyntaf a osodwyd, a gwnaed rhywfaint o addasiad er mwyn sicrhau proses ailadroddol.
Adolygwyd hefyd y gwaith prosiect partneriaeth a gynhaliwyd hyd yn hyn, ynghyd ag adroddiadau’r
Parc Cenedlaethol megis canlyniadau arolygon ymwelwyr a gwybodaeth arall a ddarparwyd gan y
Parc a'r Bartneriaeth.
Cynhaliwyd rhagor o gyfweliadau wyneb yn wyneb â phorwyr ac yna symudodd y pwyslais at
gyfweliadau ffôn a chwiliadau ar y we. Cynhaliwyd chwiliadau ar y we i chwilio am gyfleoedd lleol,
cenedlaethol a rhyngwladol. Nodwyd bod rhai o'r rhain yn addas ar gyfer sgyrsiau ffôn er mwyn
casglu rhagor o wybodaeth am y busnesau presennol, cyfleoedd i rannu sgiliau ac ychwanegu
gwerth.
Cynhaliodd tîm Resources for Change ddadansoddiad manwl a lywiodd y dewisiadau a gyflwynwyd
yn y cyfarfod dilysu ac a gynhwysir yn y ddogfen hon.
Cynhaliwyd sesiwn ddilysu gyda'r Bwrdd Partneriaeth a chyflwynwyd y broses a'r canfyddiadau
ynddi. Yna cafodd y Dewisiadau Allweddol eu cyflwyno a'u trafod.
7 | T u d a l e n
CANFYDDIADAU
Mae nifer yr ymatebion i bob dull ymgysylltu wedi bod yn wael, ac nid yw manylion cyswllt y 137 o
borwyr wedi eu darparu i Resources for Change; er hynny, gwnaed pob ymdrech i wneud iawn am
hyn drwy dechnegau ychwanegol megis digwyddiad galw heibio ac ymchwil ychwanegol ar y we. Bu
ymweld â'r ffermwyr hynny yr oedd eu henwau wedi eu darparu neu eu casglu o gyfweliadau
blaenorol yn effeithiol ac mae hyn wedi llywio ymchwil pellach.
Dilynodd y broses ymgynghori bedair techneg:
AROLWG AR-LEIN
Aeth yr arolwg ar-lein yn fyw yn ystod wythnos gyntaf mis Mai, dim ond dau unigolyn a ymatebodd.
Cafodd ei ail-lansio ym mis Mehefin ac ni chafwyd unrhyw ymatebion pellach, dengys ein cofnodion
nad aeth neb at yr holiadur i edrych hyd yn oed.
CYFWELIADAU WYNEB YN WYNEB
Cytunwyd y byddai manylion cyswllt y porwyr yn cael eu darparu i R4C erbyn dechrau mis Ebrill. Ar
ddiwedd y mis hwnnw, roedd y rheolwr prosiect yn gallu rhoi manylion am bum porwr. Cedwid yr
holl ddata cyswllt yn ddiogel gan R4C yn unol â deddfwriaeth diogelu data a GDPR. Trefnwyd
ymweliadau ymlaen llaw dros y ffôn, ac yn ystod yr ymweliadau hynny rhoddwyd tri enw arall
ynghyd â rhifau ffôn. O'r 8 porwr yr oeddem yn gallu cael eu manylion cyswllt, roedd pob un
ohonynt yn ddefnyddiol; gyda 7 yn cytuno i gyfweliad wyneb yn wyneb am 1.5-2 awr; dim ond un
oedd yn gallu ymateb i negeseuon e-bost.
Yn ystod cyfweliadau, roedd tueddiad i ganolbwyntio ar yr hyn a oedd o’i le, yn hytrach na
chyfleoedd; roedd yn anodd cael dyheadau. Nodwyd bod y porwyr yn credu bod eu lefelau sgiliau yn
uchel ac nad oedd angen hyfforddiant arnynt; er hynny, roedd yn amlwg bod eu hymatebion yn
canolbwyntio ar sgiliau traddodiadol. Fel arfer, caiff gwaith cadw cyfrifon a gweinyddu eu gwneud yn
Galw heibio Sesiwn galw heibio – 28 Mehefin 11am – 8pm
Ffôn Galwadau ffôn – 4
Wyneb Ymweliadau wyneb yn wyneb - 7
Arolwg Arolwg ar-lein – 5 Mai – Diwedd Gorffennaf
8 | T u d a l e n
lleol gan bobl yr ymddiriedir ynddynt pan nad oes gan y ffermwr y gallu i wneud hyn yn fewnol.
Roedd yn anodd casglu gwybodaeth am gynllunio strategol a chynllunio ar gyfer olyniaeth.
Roedd y materion a nodwyd yn cynnwys:
Oherwydd bod llai o borwyr yn defnyddio eu hawliau, mae'n anodd defnyddio defeidiogau.
Oherwydd TB, byddai'n anodd pori gwartheg gan y byddai canfod un adweithydd yn ardal
daliad y perchennog yn golygu casglu gwartheg o'r mynydd cyfan i gynnal profion cyffiniol a
allai gau'r holl ffermydd sy'n pori'r mynydd.
Mae tanbori yn cael effaith fawr, gyda chynnydd sylweddol yn y rhedyn dros y 40 mlynedd
diwethaf. Mae hyn wedi arwain at broblem gyda throgod ac y mae hefyd o bosibl yn berygl
tân.
Mae angen trwydded symud ar gyfer symud anifeiliaid o un cae i'r cae nesaf pan fydd y ffin
genedlaethol yn cael ei chroesi.
Mae diffyg meddwl a gweithredu cydgysylltiedig rhwng cyrff cyhoeddus a sefydliadau mawr
yn achosi anawsterau lleol.
Mynegwyd y safbwynt hefyd fod y daliadau sy'n amgylchynu'r Mynyddoedd Duon yn defnyddio eu
hawliau pori yn draddodiadol, a bod pob un ohonynt yn cyfrannu at y dirwedd ac yn cael y cyfle i
elwa ohono. Ar hyn o bryd, defnyddir sawl eiddo ar gyfer twristiaeth sy'n ddibynnol ar y dirwedd,
ond nid yw perchenogion yr eiddo mwyach yn cyfrannu at ei chynnal.
CHWILIO AR Y WE
Nododd chwiliadau ar y we nifer o fentrau sydd wedi eu lleoli yn y Mynyddoedd Duon. Rhestrir y
rhain ar dudalen 20. Maent yn cynnwys mentrau fferyllol, bwyd a diod, y celfyddydau a thwristiaeth.
Ceir cysylltiadau adnabyddus eraill â'r ardal megis nofelau, er enghraifft, On the Black Hill gan Bruce
Chatwin a Resistance gan Owen Sheers .
GALWADAU FFÔN
Yn sgil chwilio ar y we, cysylltwyd â rhai o'r busnesau dros y ffôn, gan alluogi'r ymchwilydd i gasglu
rhagor o fanylion am eu menter ac unrhyw gyfleoedd yr oeddent wedi eu nodi neu y byddent yn eu
hystyried ar gyfer y dyfodol.
SESIWN GALW HEIBIO
Ym mis Mai, daeth yn amlwg bod tair ymgynghoriaeth wahanol yn gweithio ar y prosiect cyffredinol
a bod angen iddynt ymgysylltu â'r un grŵp:
Resources for Change – Sgiliau ar gyfer Dyfodol Ffermio'r Ucheldir
AECOM – Gwasanaethau Ecosystem
ADAS – Gwerthusiad o'r prosiect cyfan
9 | T u d a l e n
Cytunwyd, gan eu bod i gyd angen ymgynghoriadau gyda’r porwyr, y byddai sesiwn galw heibio yn
briodol. Mewn ymgynghoriad â'r rheolwr prosiect a'r Bwrdd, anfonwyd y gwahoddiad canlynol at
bob partner gyda cheisiadau i’w ddosbarthu, yn enwedig drwy Gymdeithas y Porwyr:
Ychydig iawn o hyrwyddo a wnaed ar gyfer y diwrnod ac o ganlyniad roedd y nifer a oedd yn
bresennol yn llai na 20, ac roedd nifer ohonynt wedi cael ymweliad a'u holi gan Resources for
Change yn flaenorol.
Mae Partneriaeth Defnydd Tir y Mynyddoedd Duon, a'i chontractwyr Resources for Change,
AECOM ac ADAS, yn eich gwahodd i gael cwpanaid o de a sgwrs i helpu i lunio dyfodol ac
etifeddiaeth y prosiect Rheoli Adnoddau yn Gynaliadwy yn y Mynyddoedd Duon
Os ydych yn gwneud eich bywoliaeth o'r Mynyddoedd Duon, galwch i mewn i Neuadd Bentref
Llanbedr ddydd Iau, 28 Mehefin, unrhyw bryd rhwng 11am ac 8pm i gwrdd â ni am baned o de,
cacen a sgwrs – mae angen i ni drafod sut y gall y prosiect helpu eich busnes a gwella rheoli’r
adnoddau naturiol yn y Mynyddoedd Duon.
Mae Partneriaeth Defnydd Tir y Mynyddoedd Duon yn ceisio darganfod beth sydd ei angen i'n
helpu i greu dyfodol cryf a ffyniannus i'r Mynyddoedd Duon, teuluoedd a busnesau. Mae angen i
ni gasglu gwybodaeth am yr hyn yr ydych yn ei wneud ac unrhyw gynlluniau neu ddyheadau ar
gyfer y dyfodol; er mwyn dysgu o'ch gwybodaeth a'ch profiad lleol, yn ogystal â darganfod
unrhyw fylchau. Y diben yw casglu gwybodaeth a fydd yn ein helpu i lunio dewisiadau a
chyfleoedd y gallwn fanteisio arnynt, a chael rhywfaint o gyllid i wneud iddynt ddigwydd.
Hefyd, mae angen inni sicrhau bod y prosiect ar y trywydd iawn a'i fod yn bodloni eich
disgwyliadau, felly hyd yn oed os mai dim ond amser i gael paned sydd gennych, treuliwch yr
amser hwn gyda ni a gwnewch yn siŵr bod eich busnes a'ch teulu yn gallu elwa ar y gwaith hwn.
Bydd partneriaid wrth law hefyd i ateb unrhyw gwestiynau efallai y bydd gennych am y
Bartneriaeth neu'r Prosiect.
Ceisiwch gael amser i alw heibio, edrychwn ymlaen at eich gweld chi yno!
10 | T u d a l e n
DADANSODDIAD
Roedd y nifer cyfyngedig o borwyr yr oeddem yn gallu cysylltu â hwy yn llesteirio'r amcan i gael
tystiolaeth a oedd yn ansoddol ac yn feintiol; er hynny, dangosodd yr ymweliadau a'r cyfweliadau eu
bod yn rhannu barnau a gwaith, er bod rhai ymatebwyr yn canolbwyntio'n fwy ar ddatblygu
strategaethau tymor hirach sy'n cefnogi eu teulu estynedig ac yn cynnig cyflogaeth.
Gwnaeth Resources for Change ddadansoddiad o'r Cryfderau, Gwendidau, Cyfleoedd a Bygythiadau
ac fe’i cyflwynir isod:
CRYFDERAU Sgiliau traddodiadol mewn
amaethyddiaeth, stocmonaeth, plygu gwrychoedd, codi waliau cerrig sychion
Diddordeb cyffredin gan fod gan bob un ohonynt hawliau pori (boed yn cael eu defnyddio ai peidio) – cryfder mewn rhifau (100 o borwyr)
Mae gan bob un ohonynt ffridd a llwybrau’r Mynyddoedd Duon
Profiad o weithio ar y cyd – Partneriaeth Defnydd Tir y Mynyddoedd Duon, Glastir.
Lleoliad – mynediad hawdd i ganolfannau economaidd: Caerdydd, Bryste, Henffordd, Birmingham, Llundain
Mae’r ffermwyr wrthi am gyfnodau maith, yn ffermio o un genhedlaeth i’r llall
Mae twristiaeth yn sylweddol yn lleol, gyda'r gwaith presennol o hyrwyddo Bannau Brycheiniog, yn ogystal â'r Mynyddoedd Duon yn benodol.
Mae’r Parc Cenedlaethol yn hysbys ac yn cael ei hyrwyddo'n genedlaethol
GWENDIDAU Dim cyfathrebu effeithiol/dibynadwy rhwng
porwyr. Seilwaith, rhyngrwyd, signal ffôn symudol
gwan. Nid yw pob ffermwr gweithredol yn gallu dod
o hyd i gartref yn lleol. Ni all pobl ifanc aros, neu ddod o hyd i waith
yn lleol. Dywedir wrthym fod yr oedran cyfartalog yn
uchel (disgrifir bron i 70 oed fel un o'r rhai iau) Nid yw pawb sydd â hawliau pori yn manteisio
ar hyn. Mae llawer ohonynt yn dymuno parhau fel ag
y maent, ond gydag incwm sicr hefyd. Prin yw'r rhai sy'n ychwanegu gwerth at y
cynnyrch sylfaenol. Mae ffin Cymru/Lloegr yn golygu gweithio
gyda mwy o gyrff cyhoeddus sydd â meini prawf gwahanol.
Peth twristiaeth aflonyddgar Rheoliadau’r Parc Cenedlaethol
CYFLEOEDD
Cryfder mewn niferoedd ar gyfer prynu, gwerthu, trafod telerau. Byddai'n cynnwys cludo nwyddau, gwellt, yswiriant, cylch peiriannau (e.e. Llanllieni)
Pennu pris gweithgareddau ffermio i asesu’r ymarferoldeb
Grwpiau ffermio am y diwrnod rhwng 10 - £40 / unigolyn
Ychwanegu gwerth at gynnyrch lleol – Arloesi Bwyd Cymru
BYGYTHIADAU Cost-effeithiolrwydd y llafur
Mae'r gallu i fyw'n lleol yn gyfyngedig
Ymarferoldeb modelau busnes cyfredol yn sgil Brexit
Cynigwyd system dalu newydd – yr un arian ond rhagor o bobl.
Grym gwario pobl o’r tu allan ar gyfer cartrefi ymddeol / gwyliau. Prynir daliadau llai, gosod anheddau gwyliau neu anheddau a werthwyd.
Tensiwn rhwng y gymuned amaethyddol ac Adran yr Amgylchedd
11 | T u d a l e n
£6 miliwn ar gyfer y Cynllun Ymsefydlu mewn Amaeth i Bobl Ifanc er mwyn ymsefydlu neu ddatblygu
Gweithio gyda mentrau sydd eisoes yn bodoli i ddatblygu brand a marchnad ehangach.
Nid yw cynllunio ar gyfer olyniaeth yn bodoli i lawer o bobl
Diffyg strategaeth hirdymor ar gyfer llawer o bobl
Lles anifeiliaid (y clafr, TBF)
DEWISIADAU
Mae Resources for Change wedi nodi sawl dewis o ran datblygu mentrau, ategu ac ehangu'r rhai
presennol, ac ychwanegu gwerth at y cynigion presennol. Dylid nodi bod cyfle clir ar gyfer pen uchaf
y farchnad. Mae'n bosibl nad yw cerddwyr a gwersyllwyr yn farchnad allweddol i'r Bartneriaeth;
maent yn annhebygol o wario llawer yn lleol heblaw am ambell i beint neu becyn cinio. Nid yw'r
papur hwn yn cynnwys y math hwn o dwristiaeth; fodd bynnag, gallai'r cyfle i ddatblygu stondin
bwyd ar y stryd ar gyfer digwyddiadau megis Gŵyl y Dyn Gwyrdd ategu mentrau eraill. Bellach, ceir
marchnad gref gyda chyplau, teuluoedd a grwpiau sy'n cymryd seibiant byr yn y DU. Mae ffigurau
diweddar yng nghanolbarth Powys yn dangos bod nifer yr ymwelwyr wedi gostwng ychydig, ond bod
gwariant wedi cynyddu.
1. GWYLIAU PROFIAD YN Y MYNYDDOEDD DUON
Trwy gydweithio, gall ffermwyr, a
busnesau eraill sydd eisoes yn
bodoli, ddatblygu amrywiaeth o
becynnau gwyliau; ceir nifer o
fylchau yn y sgiliau lleol cyfredol,
felly mae angen i fusnesau
newydd a phobl leol gael eu
hyfforddi, neu eu recriwtio o du
allan i'r ardal. Un dewis yn unig y
mae hyn yn ei ddisgrifio, ond
dylid cynnwys profiadau eraill fel
bod pobl yn dychwelyd i ymweld
â’r ardal eto. Rhagwelwn y bydd
y pecyn hwn yn addas ar gyfer
grwpiau o 10 - 12 o bobl.
Gweithio gyda chyflenwyr eraill i greu ystod o gynhyrchion sy’n gwneud pecyn gyda'i gilydd. Byddem
yn awgrymu £600 - £800 y person yr wythnos. Byddai hyn yn holl gynhwysol.
a. Dydd Sul Gwely a Brecwast - bwyd lleol o Pryd o fwyd gyda'r nos mewn tafarn / bwyty sy’n gweini bwyd lleol £10 o lwfans
fesul unigolyn, b. Dydd Llun – Ymweliad â fferm, dysgu am blygu gwrychoedd a mathau eraill o ffiniau ar gyfer
caeau, gweithgaredd ymarferol gyda chinio ffermdy. c. Dydd Mawrth – Diwrnod rhydd gyda phecyn cinio neu daleb ar gyfer caffi lleol wedi ei
ddarparu e.e. Melin Talgarth
12 | T u d a l e n
d. Dydd Mercher – Wyna, bwydo mamogiaid, iechyd diadell, rhywfaint o weithgarwch ymarferol gyda chinio ffermdy wedi ei ddarparu.
e. Dydd Iau – Taith gerdded dywysedig – gyda phecyn cinio f. Dydd Gwener – Diwrnod rhydd. Noson gwis mewn tafarn (yr hyn y dylent fod wedi ei ddysgu
yn ystod yr wythnos efallai). Barbeciw cig oen rhost ar gigwain.
Dim ond un enghraifft yw hon; gall rhai pecynnau gynnwys rhaglen fwy strwythuredig gan gynnwys sgyrsiau, gweithgareddau dan do ac awyr agored megis crefft, coginio, gwneud clwydi, a gall tanau gwersyll apelio hefyd. Gall y dewisiadau fod mor eang ag y mae dychymyg a sgiliau yn caniatáu!
NEU
Mae ffermio am ddiwrnod gyda grwpiau o 10 - 12 o oedolion am £40/unigolyn yn cynnig cyfle i'r
ffermwr egluro pam mae tasgau penodol yn cael eu gwneud, ymgysylltu â'r cyhoedd ac addysgu
sgiliau sylfaenol; casglu wyau, bwydo stoc, cario gwair, tynnu ysgall, trwsio wal. Cysylltwch â CFfI a
fydd yn gallu darparu siaradwyr cyhoeddus, dangos sut i gneifio, graddio ac yn y blaen.
2. BWYTA’R OLYGFA
Datblygu sgiliau ac achrediad http://foodinnovation.wales/canolfan-diwydiant-bwyd-zero2five/ neu
http://www.cambriantraining.com/wp/cy/ er mwyn darparu amrywiaeth o fwydydd a diodydd lleol
sydd ar gael drwy ddarparwyr twristiaeth, Profiad y Mynyddoedd Duon ac allfeydd eraill. Gallai hyn
gynnwys bara a chynnyrch popty o Felin Talgarth a Seidr Brycheiniog a wnaed ag afalau'r
Mynyddoedd Duon. Prydau parod, cacennau, mêl, selsig a chig moch gan Wild by Nature, cig eidion
gan Black Mountain Beef a chig a physgod mwg gan Black Mountains Smokery, ac yn y blaen.
Gweler hefyd erthygl Michael Pollan yn y New York Times yn ôl yn 2001
https://michaelpollan.com/articles-archive/eat-your-view/.
Enghraifft: Mae Beechenhill Farm ar ffin Swydd Stafford a Swydd Derby wedi datblygu
amrywiaeth o fentrau arloesol ers iddi gael ei tharo gan Glwy'r Traed a'r Genau yn 2001. Mae'r
fferm organig yn darparu amrywiaeth o letyau ond mae hefyd yn defnyddio'r cysyniad bod pobl
yn dymuno cael profiad cyfan yn hytrach na lleoliad gwahanol yn unig. Mae twristiaid y DU yn
mynd dramor ac yn bwyta bwyd lleol ac yn profi gwahanol ddiwylliannau, pam na fyddent yn
gwneud hynny yn y fan yma? Cofiwch hefyd fod llawer o dwristiaid yn dod o du allan i'r DU,
maent yn dymuno profi ein diwylliant, ein treftadaeth a'n bwyd. Yn gyffredinol, nid yw cyfleoedd i
brofi ein treftadaeth a'n diwylliant yn y DU ar gael yn rhwydd. Mae llawer o ymwelwyr yn
cyrraedd eu bwthyn gwyliau gyda llwyth o fwyd y maent wedi dod gyda nhw neu mae cludiant
archfarchnad yn eu dilyn i’r safle. Mae Beechenhill yn cynnig gwasanaeth archebu a darparu
http://www.beechenhill.co.uk/.
13 | T u d a l e n
Camau syml iawn:
Cynigiwch afalau ar ffermydd y Mynyddoedd Duon i gwmni Seidr Brycheiniog, cânt eu casglu
o fewn 12 milltir i Bwlch.
Gwahoddwch wenynwr i sefydlu cychod gwenyn ar y Mynyddoedd Duon ac wedyn eu labelu
a'u gwerthu fel mêl y Mynyddoedd Duon.
14 | T u d a l e n
3. MERCHED CABANAU GWYLIAU’R MYNYDDOEDD DUON
Dewis arall i'w ystyried yw'r system ‘merch y caban gwyliau’. Mae merched y cabanau gwyliau yn
gweithio mewn caban am dymor; maent yn ymgymryd â'r holl ddyletswyddau cadw tŷ ac yn
ymgymryd â’r coginio i gyd. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid iddynt fod yn gogyddion da sy'n gallu
darparu amrywiaeth o brydau ar gyfer grwpiau sy’n dymuno treulio eu holl amser yn egnïol yn yr
awyr agored. Byddai addasu dull merch y caban gwyliau ar gyfer y Mynyddoedd Duon yn cynnig
cyfleoedd i bobl ifanc sy’n dymuno meithrin eu profiad yn y diwydiant lletygarwch a dod â lefel
newydd o lety ar gyfer gwesteion sy'n arbennig yn y Mynyddoedd Duon.
4. TIR GWYLLT Y MYNYDDOEDD DUON
Rydym yn awgrymu bod y Bartneriaeth yn derbyn nad yw pob un o'r 10,500 o hectarau byth am gael
eu pori a’u rheoli fel yr oeddent 50 neu 100 mlynedd yn ôl. Mae'n fwy buddiol gweithio gyda
llwyddiannau a chryfderau'r gymuned a'r dirwedd, yn hytrach na cheisio cyflawni'r borfa a'r
rheolaeth orau yn gyson ar gyfer y tir o dan y dulliau pori presennol. Rydym yn awgrymu newid y dull
o weithredu yn sylweddol. Nodwn mai mater cyfreithiol yw newid porfeydd a rheoli tir comin a bod
angen ymchwiliad sylweddol, ac mai dim ond un ohonynt sydd wedi ei gyflawni yn yr astudiaeth hon.
Er hynny, yn y dyfodol rhagweladwy, mae'n amlwg na fydd llawer o'r Mynyddoedd Duon yn
cyflawni'r rheolaeth orau o dan y system bresennol.
Rydym yn cynnig bod y bartneriaeth, y perchenogion a'r porwyr yn cydweithio i ystyried a chytuno ar
ba ardal (neu ardaloedd) sy'n realistig i'w rheoli o dan y dulliau pori presennol; mae ein hymchwil yn
Enghraifft: Mae ystad Knepp yn Sussex wedi caniatáu i 3,500 erw aildyfu’n wyllt ac erbyn hyn mae
ganddynt fusnes hyfyw yn darparu cig organig o’r maes, saffaris, gwersyllfa a darpariaethau ar
gyfer glampio. https://knepp.co.uk/. Nid yw'r tir yn Knepp yn addas ar gyfer ffermio dwys, er mai
dyma oedd y nod tan 2001. Gwerthir amrywiaeth o selsig, steciau a byrgyrs o hen wartheg hirgorn
Seisnig organig sy’n bwydo ar borfa ac a all grwydro’n rhydd, moch Tamworth, a cheirw coch a
danasod o’r Pasg tan ddiwedd mis Hydref, gan sicrhau cyflenwadau ar gyfer y prif dymor gwyliau.
Mae saffaris yn costio oddeutu £40 y person ac maent yn cynnwys sesiynau cacwn, gwyfynod ac
ystlumod, gwylio tylluanod a bywyd gwyllt arall yn ogystal â cheirw; maent hefyd yn cynnwys
dysgu am goed a chynefinoedd eraill.
15 | T u d a l e n
ein harwain i gredu y byddai ardaloedd sylweddol yn gorwedd y tu allan i'r rhai a nodwyd. Yna
byddai modd gweithio trwy Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i osod ffensys a dulliau eraill o
reoli stoc er mwyn galluogi system fwy radical a helaeth o reoli tir a fyddai'n cynnwys cynhyrchu stoc
a fyddai mor rhydd fel y gellid ei ystyried yn ‘wyllt’ at ddibenion marchnata. Byddem yn rhagweld
stoc gan gynnwys gwartheg a cheirw sydd â choleri rheoli data y gellir eu darllen ar y cyfrifiadur, heb
fod angen eu casglu. Byddai hyn yn cynnwys manylion am bori, porthiant maetholion, iechyd a
chrwydraeth. Yn Seland Newydd, mae'r coleri hyn hefyd yn cyfyngu ar grwydro o fewn ardal
benodol, er nad yw hyn yn bosibl o dan reoliadau'r UE.
Mae gan Ymddiriedolaeth John Muir gyfres o safonau Tir Gwyllt
http://www.wildlandmanagement.org.uk
O dan y dewis hwn, bydd angen i lawer gymryd cam yn ôl oddi wrth yr ymateb greddfol di-oed.
Dyma'r manteision:
Byddai hefyd yn helpu i fynd i'r afael â'r ffaith bod llai o borwyr yn defnyddio eu hawliau.
Mae'n gyffrous a byddai'n dangos y Mynyddoedd Duon yn arwain y ffordd.
Mae’n cyd-fynd â gofynion Gwasanaethau Ecosystem cytundebau cymhorthdal y dyfodol.
Mae’n rhoi brand marchnata cryf iawn i'r Mynyddoedd Duon i gyd
Sicrhau ffrwd incwm ddibynadwy ar gyfer y Bartneriaeth drwy:
o Wasanaethau Ecosystem
o Cynhyrchion gan gynnwys cig organig o’r maes a chynhyrchion â gwerth ychwanegol
o Cyfleoedd ar gyfer twristiaeth
o Cyfleoedd addysgol
Dyma’r anfanteision:
Mae’n radical - bydd rhywfaint o wrthwynebiad y bydd angen ei ystyried a'i drin yn ofalus.
Bydd Cysylltiadau Cyhoeddus o'r camau cynnar yn hanfodol.
Mae’n arloesol, felly ni fydd gan y Bartneriaeth lawer o enghreifftiau i ddysgu oddi wrthynt a
bydd angen iddynt arbrofi dulliau ar gyfer diogelu ffiniau a rheoli stoc
Mae rheoli stoc o bell yn gostus i'w sefydlu a bydd angen ymchwilio i'r dulliau a ddefnyddir y
tu allan i'r UE.
5. RHEOLI'R MYNYDD
Soniodd sawl porwr am faterion sy’n ymwneud ag iechyd anifeiliaid. Mae'n bwysig dod i gytundeb
ynghylch rheolaeth y Mynyddoedd Duon ac mae'r bartneriaeth yn gweithio mewn cydweithrediad i
ddileu'r problemau presennol ac yn parhau i gydweithio er mwyn casglu a throchi.
Bydd hyn yn cymryd llai o amser, bydd lles yn cael ei wella, a bydd y tir yn cael ei reoli'n well. Ceir
bygythiad i'r ardal gyfan pe byddai ymwelwyr neu haparchwiliadau yn canfod anifeiliaid mewn cyflwr
gwael; mae newyddion drwg yn teithio'n gyflym a byddai'n effeithio ar stoc a gwerthiannau cynnyrch
yn ogystal â niferoedd ymwelwyr.
16 | T u d a l e n
Byddai hwn yn gytundeb unigol a fydd yn creu manteision am flynyddoedd i ddod.
6. COST HYFYWEDD GWEITHGAREDDAU FFERMIO
Mae cyfrifo cost pob gweithgaredd ffermio yn ffordd wych o benderfynu pa gamau i'w cymryd i
wneud y fenter yn fwy cydnerth yn y dyfodol. Gyda'r wybodaeth wrth law, gellir gwneud
penderfyniadau ynghylch a yw'n well prynu peiriant neu roi’r gwaith ar gontract allanol. Bydd hyn yn
cynorthwyo o ran ymarferoldeb ac yn datblygu penderfyniadau ar sail gwybodaeth.
7. CYLCH PEIRIANNAU A PHRYNU
Cymdeithas gydweithredol o ffermwyr a busnesau amaethyddol sydd â'r nod cyffredin o leihau costau peiriannau a llafur yw cylch peiriannau. Yr amcan cyffredin yw lleihau costau sefydlog a newidiol drwy resymoli'r defnydd o lafur a pheirianwaith ar y cyd drwy eu rhannu mewn modd ffurfiol. Mae'n amlwg, i raddau, po fwyaf yw'r aelodaeth a po weithgar yw aelodaeth, y mwyaf yw'r ‘grym gwario’.
8. CYSWLLT FFERMIO – MENTER
Ni chynllunnir ar gyfer olyniaeth mewn sawl daliad, mae hyn yn ganfyddiad cyffredin yn y gymuned
ffermio ac mae Cyswllt Ffermio yn helpu i fynd i'r afael â hyn drwy eu rhaglen Fenter
https://businesswales.gov.wales/farmingconnect/cy/posts/mentro-cynllun-cyswllt-ffermio-
sy%E2%80%99n-paru-tirfeddianwyr-gyda%E2%80%99r-rheini-sy%E2%80%99n-chwilio-am-lwybr
Mae Mentro, platfform cyfleoedd ar y cyd blaengar Cyswllt Ffermio a lansiwyd 18 mis yn ôl,
yn cynorthwyo i hwyluso symudedd angenrheidiol o fewn y diwydiant amaeth yng
Nghymru. Trwy gynorthwyo i baru unigolion sy’n dymuno ystyried mentrau ar y cyd megis
ffermio ar gontract neu ffermio cyfran, a darparu cefnogaeth ac arweiniad ynglŷn â’r ffordd
orau i drefnu'r rhain, mae Mentro nawr yn hwyluso ateb angenrheidiol i nifer o unigolion
sydd naill ai’n dymuno arafu neu adael y diwydiant a'r rheini sy'n chwilio am fywoliaeth
newydd yn y diwydiant.
Enghraifft: Ceir enghreifftiau ardderchog o gylchoedd peiriannau a phrynu, sy'n cynnig cyfleoedd i
aelodau brynu bwyd, tanwydd, gwellt a nwyddau treuliadwy eraill am brisiau cystadleuol, trafod
yswiriant a gwasanaethau eraill, rhannu llafur, yn ogystal â chael hyfforddiant ac achrediad. Un
enghraifft o hyn a allai fod yn arbennig o ddefnyddiol yw rhannu offer Dyfais Adnabod Electronig
megis drafftiwr awtomatig, cofnodwr stoc a phrintiwr, pan fo cost y gwariant ar gyfer mwyafrif y
ffermydd teuluol yn rhy uchel. Mae'r manylion i'w gweld ar http://www.machineryrings.org.uk/.
17 | T u d a l e n
9. CYNLLUN YMSEFYDLU MEWN AMAETH I BOBL IFANC – CYMRU
Mae ail gyfran y Cynllun yn cau ar ddiwedd mis Awst, ond mae'r cynllun hwn a chynlluniau eraill sy'n
cael eu hariannu drwy Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn cynnig cyfleoedd i bobl ifanc.
Mae'n bwysig bod y Bartneriaeth yn cydweithio i nodi cronfeydd o'r fath a'u dewisiadau cysylltiedig
ar gyfer twf.
Yn gynharach eleni, lansiodd Ysgrifennydd y Cabinet Cynllun Ymsefydlu mewn Amaeth i Bobl Ifanc,
sydd werth £6 miliwn, er mwyn cefnogi dechreuwyr i’r diwydiant.
Bydd y cynllun yn cynnig cymorth cychwynnol i’r bobl ifanc sy'n perfformio orau sy’n ceisio sefydlu
busnes newydd neu ddatblygu busnes sydd eisoes yn bodoli. Bydd angen i ymgeiswyr llwyddiannus
ddangos bod ganddynt y rhinweddau sydd eu hangen i arwain busnesau deinamig ac ysgogi newid
cadarnhaol yn y diwydiant ehangach.
Ar ôl y cyfnod cyntaf ar gyfer ceisiadau, aeth 106 o bobl ifanc ymlaen i'r cam nesaf. Yn ddiweddar, yn
ystod Sioe Frenhinol Cymru, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet gyfnod newydd ar gyfer ceisiadau
sy’n dod i ben yr wythnos nesaf ar 29 Awst. https://llyw.cymru/hysbysiadau?_
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet:
“Ffermwyr ifanc yw dyfodol amaethyddiaeth a dyna pam mae denu'r ymgeiswyr ifanc mwyaf
uchelgeisiol i'r diwydiant yn un o fy mlaenoriaethau. A dyma nod ein cynllun Ymsefydlu mewn
Amaeth i Bobl Ifanc sy’n werth £6 miliwn. Dwi wrth fy modd bod 106 o bobl eisoes wedi llwyddo i
gyrraedd y cam nesaf.
“Mae 150 o leoedd ar gael ar y cynllun ac, yn Sioe Frenhinol Cymru, cyhoeddais y bydd cyfnod
ymgeisio newydd. A dim ond wythnos i fynd cyn y dyddiad cau, mae fy neges i bobl ifanc uchelgeisiol
yn un syml - dysgwch fwy am y cymorth sylweddol sydd ar gael drwy'r cynllun i sbarduno eich busnes
ffermio a'ch gyrfa yn y dyfodol.
“Dim ond ychydig dros saith mis sydd ar ôl cyn inni adael yr Undeb Ewropeaidd ac rydym yn
cydweithio â’r diwydiant i'w helpu i baratoi ar gyfer y newid a'r heriau sydd ar y gorwel.
10. YMDDIRIEDOLAETH DDEWISOL
Yn achos rhai ffermydd, bydd sefydlu Ymddiriedolaeth Ddewisol yn rhoi sicrwydd i'r perchenogion
presennol y bydd eu fferm yn aros yn un daliad ac na fydd yn cael ei llyncu gan fenter fwy, gyda'r tŷ
yn cael ei werthu neu ei osod fel bwthyn gwyliau. Mae hefyd yn rhoi cyfle i genhedlaeth arall gael
profiad o ffermio teuluol traddodiadol, gan adael incwm i fuddiolwyr. Mae cyngor proffesiynol yn
bwysig ond mae'r wefan hon yn darparu gwybodaeth ddefnyddiol:
https://www.saga.co.uk/magazine/money/personal-finance/inheritance/setting-up-a-trust-for-
beneficiaries-in-your-will
11. PROFIAD GWAITH / YSGOLORIAETH
18 | T u d a l e n
Mae gan Bartneriaeth y Mynyddoedd Duon a'r 137 o borwyr gyfle unigryw i greu rhywbeth a fydd yn
helpu i roi'r Mynyddoedd Duon ar fap y gymuned amaethyddol ymhell i'r dyfodol. O bryd i'w gilydd,
bydd ffermydd ar gael ac os yw'r bartneriaeth yn teimlo y gallant greu daliad i alluogi ffermwyr ifanc
nad oes ganddynt fferm yn y teulu i gael troed ar yr ysgol.
Mae cyfweliadau wedi dangos y cyfoeth o arbenigedd, yr wybodaeth am fframio, a’r stocmonaeth
sydd gan y gymuned ffermio leol, ac fel y nodwyd, mae'r CFfI lleol yn ennill cystadlaethau mewn
sgiliau traddodiadol, cneifio a graddio yn aml. Felly, rydym o'r farn bod y lleoliad hwn yn lle perffaith
i berson ifanc, brwdfrydig sydd wedi cwblhau ei radd neu Ddiploma Cenedlaethol Uwch mewn coleg
amaethyddol ac sydd angen cymryd y cam nesaf yn ei yrfa yn ffermio’r ucheldir. Byddai'r dewis o
gynnig ysgoloriaeth i ffermwr ifanc yn dod â dimensiwn newydd a chyffrous i'r cymunedau ac yn
helpu i wneud y Mynyddoedd Duon yn ‘wahanol’ i Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
Mae Fferm yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Llyndy Isaf yn Eryri wedi cynnal cynllun ysgoloriaeth 12
mis am 5 mlynedd. Mewn ymgynghoriad â CFfI, mae newydd gael ei newid i gynnig lleoliadau 3
blynedd sydd, yn eu barn nhw, yn cynnig hyfforddiant a mentora o ansawdd gwell.
https://www.nationaltrust.org.uk/cy_gb/craflwyn-and-beddgelert/features/fferm-llyndy-isaf-.
Mae'n bosibl na fydd y system a luniwyd i weithio i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn cyd-fynd â'r
bartneriaeth; er hynny, mae'n werth ystyried o ddifri y potensial ar gyfer cynllun o'r fath sy'n cynnig
cyfleoedd ffermio go iawn i bobl ifanc a fyddai'n cael eu hallgáu ar hyn o bryd.
Gallai cynllun prentisiaeth weithio hefyd, ond yr allwedd i'r ddau ddewis fyddai cynlluniau yn cael eu
cynnal gan y bartneriaeth yn hytrach na rhywbeth a ddygir ymlaen gan unigolion. Byddai arian
sefydlu ar gyfer cynllun o'r fath yn cael ei ganfod drwy nifer o gynlluniau grant, gyda thaliad o'r
cymorthdaliadau a'r gwerthiannau a gynhyrchwyd yn ystod y lleoliad.
12. CENNIN PEDR A PHLANHIGION ERAILL
Yn ôl ymchwil wyddonol, roedd galantamine a dynnwyd o gennin Pedr gwyllt ym Mwlgaria yn llesol
wrth drin clefyd Alzheimer. Fe'i trwyddedwyd gan NICE ym 1999; er hynny, datblygodd y diwydiant
fferyllol gyfansoddyn synthetig a oedd yn ymddangos fel pe bai'n diwallu'r anghenion ac nad oedd yn
difrodi fflora gwyllt. Yn fwy diweddar, mae tystiolaeth wedi dangos nad yw'r cynnyrch synthetig mor
effeithiol â'r un naturiol, ac mae treialon maes wedi dangos bod hinsawdd ac uchder y Mynyddoedd
Duon yn ddelfrydol ar gyfer cynaeafu galantamine o’r ansawdd gorau posibl; gelwir hyn yn ‘Effaith y
Mynyddoedd Duon’. Mae Agroceuticals, y Clas-ar-Wy yn arwain ac yn cynhyrchu'n fasnachol gyda
sawl cae o gennin Pedr yn tyfu uwchben y Gelli Gandryll, ceisir cael rhagor o safleoedd o flwyddyn i
flwyddyn. Ni chymerir tir sy’n cael ei ddefnyddio i gynhyrchu bwyd ac mae'r cnwd hwn yn darparu
incwm ychwanegol i'r ffermwr. Yn nodweddiadol, oddeutu £250 - £300 / Ha y flwyddyn fyddai’r
incwm ac mae rhai meini prawf y byddai angen eu bodloni, ond nid oes unrhyw gost ariannol i'r
ffermwr.
Mae dwy ffrwd waith i'r prosiect hwn: cynhyrchu, ac ymchwilio a dethol. Mae'r cwmni'n gweithio
gydag Athrofa'r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig, a dyma eu partner preifat mwyaf;
mae hefyd yn gweithio gyda 17 o brifysgolion.
19 | T u d a l e n
Ceir dau gyfle o leiaf:
Tyfu cennin Pedr a chyfrannu at drin afiechyd gwanychol mawr. www.agroceutical.com/
Cynnig ymweliadau i'r Mynyddoedd Duon i'r caeau bylbiau, fel gerddi enwog Keukenhof yn
yr Iseldiroedd i raddau helaeth, lle mae miloedd o bobl yn ymweld â nhw yn flynyddol i weld
y caeau tiwlip sydd bellach yn fyd enwog. keukenhof.nl/ên/ <https://keukenhof.nl/en/>
Mae angen ystyried cyfleoedd eraill o ran gweithio i ddatblygu defnydd meddyginiaethol ar
gyfer planhigion lleol, sy'n gofyn am gadw clustiau ar agor a bod yn barod i ymateb.
www1.kew.org/science/directory/projects/MedicUsesBritPlants.html
13. Y MYNYDDOEDD DUON AR GYFER IECHYD
Yn genedlaethol, rhoddir cryn bwyslais ar iechyd a gweithgarwch ataliol. Mae gan y Bartneriaeth y
cyfle i gysylltu â Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn ogystal ag awdurdodau lleol, Byrddau
Iechyd a Gwasanaethau Cyhoeddus. Mae amcanion Iechyd a Lles yn bodoli yng Nghymru a Lloegr er
eu bod yn cael eu mynegi'n wahanol. Croesewir cyfleoedd i gynnig gweithgareddau a fydd yn helpu i
gyflawni'r amcanion hyn, a gallai'r rhain gynnwys amrywiaeth eang o weithgareddau. Dyma rai
awgrymiadau:
Taith gerdded dywysedig hanner/un diwrnod ar gyfer pobl nad ydynt yn heini neu bobl â
chlefyd y galon neu ddiabetes; gallai hyn gynnwys darparu cinio iach (cynnyrch lleol, wrth
gwrs)
Cyfleoedd rheolaidd i wirfoddoli i grwpiau penodol e.e. cefnogi pobl sydd ag anawsterau
dysgu cymedrol (ffi i'w chodi ar yr Awdurdod Lleol)
Cynllunio a hyrwyddo teithiau cerdded cylchol o bellteroedd a heriau amrywiol
Mae ysguboriau ioga yn lleoliadau digynnwrf sy'n gynnes ac yn gysurus ar gyfer ymarfer corff
tawel megis ioga a pilates. Dim ond drwy’r gwasanaethau a restrwyd uchod y byddai'r rhain
yn denu pobl ond byddent yn tynnu marchnad lawer ehangach a allai gynnwys partïon o
wledydd eraill. Byddai cysylltiadau â darparwyr lletygarwch eraill yn cynnwys arlwywyr,
tafarndai a bwytai yn ogystal ag arweinwyr ar gyfer teithiau cerdded.
14. LLWYBRAU'R MYNYDDOEDD DUON
Mae cyfle i ddaliadau sydd â lle i gadw ceffylau dros nos mewn caeau neu stablau weithio gyda
darparwyr gwely a brecwast presennol neu ddatblygu cynnyrch sy'n benodol ar gyfer y frawdoliaeth
farchogaeth. Gellir datblygu llwybrau a reidiau ar gyfer marchogaeth neu yrru am daith diwrnod neu
Enghraifft: Yn sgil Clwy'r Traed a'r Genau yn 2001, datblygodd y gymuned leol o amgylch
Coedwig Dyfnant i'r de o Lyn Efyrnwy gyfres o lwybrau marchogaeth a gyrru ceffylau gyda'r
Comisiwn Coedwigaeth http://rainbowtrails.org.uk/. Mae'r prosiect hwn wedi cynnal
amrywiaeth o fusnesau lleol, gyda daliadau yn cynnig llety a chae ar gyfer ceffylau'r gwesteion.
Gellid datblygu cynllun tebyg o gwmpas y Mynyddoedd Duon
20 | T u d a l e n
hanner diwrnod. Byddai hyn yn cael ei gyfeirio at farchnad benodol sydd ag anghenion a
disgwyliadau penodol. Mae hefyd yn syniad da ychwanegu cwpl o ddigwyddiadau blynyddol sy'n
denu ymwelwyr undydd yn ogystal â'r farchnad wyliau. Gall hyn gynnwys taliadau, cinio ac elfen
gystadleuol neu gymdeithasol.
.
MATRICS SGILIAU
Rydym wedi rhestru pedwar o'r dewisiadau a nodi'r sgiliau a'r hyfforddiant perthnasol yn y matrics
isod. Mae hyn yn rhoi dealltwriaeth drwy gipolwg o'r ystod o sgiliau sydd eu hangen er mwyn
cyflwyno'r dewisiadau hyn yn unig. Ystyriwn fod hyn yn gryfder allweddol i unrhyw strategaeth.
Mae'r dewisiadau’n cynnig amrywiaeth o gyfleoedd gwaith a gyrfa i bobl ifanc a anwyd ac a fagwyd
yn yr ardal, yn ogystal â chynnig cyfleoedd a fydd yn denu pobl eraill i fyw yn y Mynyddoedd Duon.
Rydym wedi canolbwyntio ar sicrhau dyfodol cadarn i'r porwyr, ac ar gyfer y dyfodol hwnnw, mae’n
rhaid cael cymunedau, ysgolion, siopau, rhyngrwyd dibynadwy a'r holl bethau hynny sy'n ffurfio
cymdeithas gadarn.
Sgiliau / Tasgau
Cyfleoedd
Profiad o’r Mynyddoedd
Duon
Bwyta’r Olygfa
Tir gwyllt y Mynyddoedd
Duon
Cylch Prynu'r Mynyddoedd
Duon
Cyfathrebu Mewnol, Cydgysylltydd Gweinyddol – Swyddfa Cofnodion Troseddol ac yn y blaen
√ √ √ √
Cysylltiadau Marchnata Allanol, Datblygu Cysylltiadau Cyhoeddus a Phartneriaethau
√ √ √ √
TG, dylunio gwefannau, archebu, systemau cofnodi a chynnal a chadw
√ √ √ √
Safonau arlwyo √ √ Technoleg bwyd ac arloesi √ Hyfforddiant, hyfforddi’r hyfforddwr √ √ √ √ Arweinwyr cerdded/saffari √ √ Cludo a darparu bwyd √ √ √ Cludo ymwelwyr √ √ Ecoleg, monitro ac arolygu, √ Drôn - arolygu a monitro stoc helaeth √ √ Datblygu / llywodraethu mentrau √ √ √ √ ‘Cadw tŷ’, rheoli gwersylla / glampio √ √ Lladd-dy cig maes / helgig a chigyddiaeth √
21 | T u d a l e n
CYSYLLTIADAU LLEOL I ADEILADU ARNYNT
Nodwyd bod sawl busnes wedi defnyddio’r enw Mynyddoedd Duon, pan fyddant wedi eu lleoli yn y
Mynyddoedd Duon
Mae gan Ann Seymour, ffotograffydd, www.annseymour.co.uk fwy na 1,800 o ddilynwyr a dros 4,000 wedi hoffi ei gwaith ar Twitter. Mae hi wedi postio llawer o wybodaeth am y bartneriaeth.
Mae Coleg y Mynyddoedd Duon mewn cyfnod datblygu cynnar ond mae'n dyheu am gynnig agwedd sgiliau gwledig i'w gwricwlwm. Gwnaed yr awgrymiadau canlynol gan y bartneriaeth.
o syniad o brofiad ‘ransio’ lle bydd ymwelwyr yn talu am brofiad ar yr ucheldiroedd—profiad casglu a didoli defaid *
o rholio rhedyn â cheffylau* o profiad o godi waliau cerrig sychion* o profiad o blygu gwrychoedd*
Mae Wild by Nature Meats yn Longtown www.wildbynaturemeats.com yn fenter ifanc a ffyniannus sy'n cynhyrchu ac yn gwerthu amrywiaeth o gig o'u bridiau Herdwick, Oxford Sandy Black a Belted Galloway. Croesawir cyfle i feithrin cysylltiadau cryfach rhwng y bartneriaeth a'r porwyr.
Black Mountain Beef, Llangenau. www.blackmountainbeef.com/about-us.html Black Mountains Smokery, Crug Hywel. www.smoked-foods.co.uk/ Melin Talgarth – treftadaeth, becws, caffi, melin http://talgarthmill.com/ Break Free from Plastics Crickhowell http://www.brecon-radnor.co.uk Sudd afal – Brecon Beacons Cider https://www.welshcider.co.uk/mid-wales-producers Prosiect rhedyn Colin Morel; Hatteral Ridge Spring Water – Longtown http://www.hatterrallridge.co.uk/ WJ George – cigydd a lladd-dy (Talgarth) http://georgebutchers.co.uk/ Mae WoolCool, Stone, Swydd Stafford www.woolcool.com yn gwneud deunydd pecynnu
inswleiddiedig o wlân. Wrth ddilyn dewisiadau yn y ddogfen hon, byddem yn awgrymu y byddai'n briodol ceisio defnyddio cynnyrch a deunydd pacio sydd â chysylltiad agos â'r ardal a'i chynnyrch.
Mae Black Mountains Cycle Centre yn cynnig profiadau beicio yn y Mynyddoedd Duon ac yn agos atynt. https://blackmountainscyclecentre.com
Mae Mwynhewch Ddiwrnod Allan yn cynnig profiadau megis cerdded gyda dafad neu asyn, bwydo moch, bugeilio, ledled Bannau Brycheiniog, mae cyfleoedd i ffermwyr a phorwyr gymryd rhan yn y cynnig. https://gooddayout.co.uk/cymraeg/
Mae Black Mountains Barns a Longtown yn cynnig lleoliad ar gyfer digwyddiadau, ac arosiadau lles ac ymarfer corff. https://blackmountainsbarns.co.uk/
22 | T u d a l e n
GWERSI A DDYSGWYD
Mae'r broses y cytunwyd arni wedi nodi materion allweddol yr argymhellwn y dylid mynd i'r afael â
nhw ar unwaith. Yn ddiau, bydd canlyniad y gwaith o fynd i'r afael â'r materion yn effeithio'n
uniongyrchol ar ymarferoldeb yr holl ddewisiadau a nodir yn y ddogfen hon.
Y Cadeirydd a'r Is-gadeirydd sy'n gyfrifol am gyfathrebu yng Nghymdeithas y Porwyr. Mae 137 o
borwyr, ac nid yw llawer ohonynt yn defnyddio e-bost yn aml. Nid oes unrhyw gyfathrebu
effeithiol a dibynadwy rhwng y porwyr ac nid oes gan neb arall yr wybodaeth i gyfathrebu â nhw
ychwaith. Mae hyn wedi cael effaith ddifrifol iawn ar allu R4C i gasglu gwybodaeth, cyfweld
wyneb yn wyneb neu dros y ffôn; felly, byddai llawer o borwyr yn iawn i deimlo nad ydynt yn
cael eu cynnwys yn y broses. Credwn fod angen cywiro hyn fel mater o frys. Mae cyfathrebiadau
wedi bod yn wael iawn, ac mae wedi dod yn amlwg bod cyfran o'r Porwyr sydd ond yn gwybod
ychydig, os o gwbl, am y Bartneriaeth, er gwaethaf ymdrech sylweddol gan y rheolwr prosiect.
o Awgrymwn y dylai'r Gymdeithas gontractio gweinyddwr, mae nifer o fusnesau bach a
fyddai’n ysgwyddo'r gwaith o weinyddu'r Gymdeithas a chyfathrebu'n effeithlon heb
fawr o gost. Byddai hyn gyda rhywun sy'n deall rheoliadau data a chyllid ac sydd â
phrofiad o gyfrinachedd. Megis Our VA, y cwmni a gontractiwyd gan Resources for
Change, sydd wedi ei leoli yn Llangatwg.
Seilwaith, rhyngrwyd, signal ffôn symudol gwan. Mae'r seilwaith gwan yn effeithio ar bobl leol
a’u gallu i ddatblygu eu busnesau. Gellir goresgyn y cyfyngiad hwn, i ryw raddau. Mae
Llywodraeth Cymru yn annog pob busnes i gael band eang cyflym iawn, ond byddai rhai yn
gwerthfawrogi signal dibynadwy hyd yn oed!
o Bydd mentrau lleol i ddod â signal dibynadwy i'r Mynyddoedd Duon a'r ardaloedd lle nad
oes signal, neu fod signal gwael iawn yn gyfyngedig. Mae ITS Technology yn un cwmni
sy'n darparu technoleg ddigidol i gymunedau a ffermydd sy’n ynysig iawn.
https://www.itstechnologygroup.com/
Nid yw pob ffermwr gweithredol yn gallu dod o hyd i gartref yn lleol. Mae wedi dod yn amlwg
drwy rai o'r cyfweliadau bod pobl leol yn cael anhawster gwirioneddol wrth geisio dod o hyd i’w
cartref eu hunain. Mae rhai achosion lle bo tair cenhedlaeth yn gorfod rhannu llety, neu lle bo
teuluoedd yn byw mewn cartrefi symudol am ddegawdau oherwydd nad ydynt yn gallu adeiladu
ail eiddo ar y fferm pan fo’r busnes yn gallu dangos drwy faich gwaith a chynhyrchydd incwm,
fod angen cartref ychwanegol arnynt.
o Mae cyfyngiadau'r Parc Cenedlaethol ar adeiladu tai newydd wedi eu crybwyll gan sawl
ymatebwr.
o Nodir y meini prawf ar gyfer adeiladu yn y Parc Cenedlaethol yn Nodyn Cyngor
Technegol 6 Llywodraeth Cymru
https://gweddill.gov.wales/topics/planning/policy/tans/tan6/?skip=1&lang=cy
Mae'r Cynllun Datblygu Lleol yn diffinio hyn ar http://www.beacons-npa.gov.uk/wp-
content/uploads/Brecon-Written-Statement.pdf. Awgrymwyd y gallai gweithdy
cynllunio helpu'r porwyr i gyflwyno ceisiadau llwyddiannus.
23 | T u d a l e n
Mae rhai ymatebwyr wedi nodi nad yw pobl ifanc yn gallu aros, neu ddod o hyd i waith yn lleol,
mae hyn hefyd yn gysylltiedig â'r cyfleoedd ennill uwch sydd ychydig y tu allan i'r ardal, er
enghraifft adeiladu ar ffordd Flaenau'r Cymoedd.
o Byddai'r dewisiadau a gyflwynwyd gennym yn gwneud gwahaniaeth enfawr i'r cyfleoedd
gyrfaol sydd ar gael i bobl ifanc. Rydym yn awgrymu gweithio gyda cholegau lleol a
chynnig cyfleoedd i oedolion ifanc sydd wedi bod i brifysgol neu goleg ac sydd wedi
gweithio mewn ardaloedd eraill cyn dychwelyd neu symud i'r Mynyddoedd Duon i
weithio a magu eu teuluoedd.
Nid yw pawb sydd â hawliau pori yn manteisio ar hyn; er hynny, rydym hefyd wedi canfod bod
rhai yn pori mwy o lawer o stoc nag y mae eu hawliau yn ei ganiatáu. Ymddengys bod hyn yn
gweithio, ond mae'n anffurfiol iawn. Hefyd, ceir rhai ffermwyr a fyddai wrth eu bodd yn pori'r
mynydd ac yn gwybod beth yw manteision cig yr ucheldir.
o Byddai'n fuddiol pe gellid cynnal trafodaethau ffurfiol er mwyn rheoleiddio'r pori a
galluogi'r rhai sydd am wneud hynny i gael budd o bori, wrth gytuno ar ddefnyddiau
eraill ar gyfer y mannau nad ydynt yn cael eu pori ddigon ac sy’n troi’n wyllt.
Mewn rhai mannau, mae diffyg realaeth ynghylch cymorthdaliadau a dyfodol ffermio. Nid
swyddogaeth y darn hwn o waith yw mynd i'r afael â hyn yn fanwl; er hynny, mae angen i'r
Bartneriaeth fod yn ymwybodol a pharhau i ailadrodd bod cymorthdaliadau fel y maent ar hyn o
bryd, yn dod i ben, ac y bydd y rhai sy'n cael arian cyhoeddus (cymorthdaliadau) yn gorfod
cyflawni er lles y cyhoedd, a hynny fydd nwyddau a gwasanaethau megis y rhai a awgrymir yn y
ddogfen hon.
o Wrth gwrs, mae'n ddewis i bob ffermwr a yw'n dymuno denu a gwneud cais am
gymhorthdal; nid yw'n ofyniad.
Mae gan ffermydd sy'n pontio'r ffin rhwng Cymru a Lloegr lawer mwy o waith papur i ymdrin ag
ef. Mae’n rhaid iddynt fodloni meini prawf gwahanol hefyd. Mae hyn yn ychwanegu'n sylweddol
at eu llwyth gwaith ac o’r herwydd, eu costau, er enghraifft, gall symud stoc o un cae i gae arall
olygu bod angen trwyddedau symud arnynt. Mae rhai ymatebwyr hefyd wedi cofnodi peth
rhwystredigaeth pan fydd gwahanol gyrff, sefydliadau ac yn y blaen yn cyflawni eu hagenda eu
hunain heb drafod gydag eraill.
o Byddai trafodaethau rhwng y cyrff i ddeall sut y mae hyn yn effeithio ar fywyd dyddiol
ffermwyr yn ddefnyddiol.
o Mae'r cyfathrebiadau rhwng y sefydliadau a'r cyrff sy'n ymwneud â'r Mynyddoedd Duon
yr un mor bwysig â chyfathrebiadau rhwng y porwyr. Mae'n ymddangos mai'r rheswm
dros rywfaint o rwystredigaeth mewn rhai mannau yw nad ydynt yn gweld dull
cydgysylltiedig.
Yn gyffredinol, ni welwyd bod twristiaeth yn broblem; er hynny, ceir un eithriad, sef cerddwyr
cynllun Gwobr Dug Caeredin. Er y gwelir bod pobl ifanc yn gwneud eu gorau, cofnodwyd cryn
bryder ynghylch yr oedolion a oedd yn eu harwain. Rydym yn ymwybodol bod rhaid i'r
arweinwyr ganiatáu i'r bobl ifanc fynd ar eu pennau eu hunain, ond mae paratoi a monitro yn
bwysig iawn mewn amgylchedd o'r fath. Gallai newidiadau diweddar i brosesau cyflawni a
monitro'r Cynllun wneud y sefyllfa hon yn waeth.
o Efallai y byddai ymagwedd gan y Bartneriaeth neu'r Parc Cenedlaethol at gynllun Adran
yr Amgylchedd yn helpu i osgoi'r hyn y mae rhai o'r ymatebwyr wedi eu nodi fel ‘sefyllfa
a all arwain at ddamwain’.
24 | T u d a l e n
I gloi; mae Resources for Change wedi nodi amrywiaeth o ddewisiadau a fyddai'n gweithio fel
mentrau unigol ond a fyddai hefyd yn ategu ei gilydd. Mae'r sgiliau a nodwyd yn eang, maent yn
galluogi preswylwyr o bob oed a chefndir i fanteisio ar y cyfleoedd gyrfaol a'r incwm ychwanegol ar
gyfer eu busnesau presennol. Dywedodd llawer o’r ymatebwyr y byddai brand y Mynyddoedd Duon
yn fanteisiol ond roeddynt yn cydnabod y byddai cael cynnyrch tymhorol megis cig oen yn anodd ei
ddatblygu'n llwyddiannus fel yr unig gynnyrch; credwn fod y dewisiadau a gyflwynir yma yn cynnig
cyfleoedd ac arloesedd i sicrhau dyfodol cadarn i gymunedau'r Mynyddoedd Duon.
Diolch am y cyfle i ymgymryd â’r darn o waith hynod ddiddorol hwn.
25 | T u d a l e n
ATODIAD: Y FFRAMWAITH YMGYNGHORI
CYNNWYS:
DIBEN YR YMGYNGHORIAD
ETHOS YMGYNGHORI
AMSERLEN
TECHNEGAU CASGLU GWYBODAETH
MAPIO RHANDDEILIAID
CWESTIYNAU AR-LEIN
CYRRAEDD GRWPIAU ANODD EU CYRRAEDD
YSTYRIAETHAU MYNEDIAD YCHWANEGOL
CASGLU A STORIO DATA
DIOGELU DATA
SWYDDOGAETHAU A CHYFRIFOLDEBAU
ADRODD
Ebrill 2018
Alison Davies
Resources for Change
26 | T u d a l e n
DIBEN YR YMGYNGHORIAD
Mae Resources for Change wedi cael eu penodi gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau
Brycheiniog ar ran Partneriaeth Defnydd Tir y Mynyddoedd Duon i baratoi Papur Dewisiadau Profi
Cysyniad yn un o elfennau prosiect eu Cynllun Rheoli Cynaliadwy. Enw’r elfen hon o'r prosiect yw
Buddsoddi mewn Sgiliau Gwledig a Dyfodol Ffermio Mynydd. Bydd y gwaith yn nodi agweddau,
prosiectau a themâu y gellid canolbwyntio ar raglen sgiliau gwledig a chyllid arall ynddynt. Bydd yr
ymgynghoriad yn canolbwyntio ar y ffermwyr a'r porwyr ac yn cynnwys y gymuned wledig ehangach
pan fo hynny'n briodol. Mae'r ddogfen hon yn nodi'r fframwaith ar gyfer yr ymgynghoriad ond mae
hefyd yn caniatáu hyblygrwydd i'r gwaith ddatblygu a:
Bod yn flaengar,
Nodi bylchau sgiliau,
Cysylltu â cholegau a sefydliadau eraill,
Cynhyrchu adroddiad terfynol sy'n mynd i'r afael ag anghenion cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd y Mynyddoedd Duon.
ETHOS YMGYNGHORI
Mae Resources for Change yn mabwysiadu Safonau Cenedlaethol yr Alban o ran Ymgysylltu â'r
Gymuned a byddant yn gweithio tuag at y nodau hyn drwy'r contract i sicrhau bod ein prosesau yn
agored, yn deg ac yn gynhwysol:
27 | T u d a l e n
Mae'r cyllid ar gyfer y gwaith hwn yn cael ei ariannu drwy'r Cynllun Rheoli Cynaliadwy. Bwriad y
cynllun grant yw cefnogi'r gwaith o wella a rheoli ein hadnoddau naturiol a thrwy hynny gyfrannu at
les ein cymunedau gwledig.
Mae gan Resources for Change hanes o weithio yn unol ag egwyddorion datblygu cynaliadwy a bydd
yn ystyried ei effaith ar yr amgylchedd wrth ymgymryd â'r contract hwn. Wrth gwrs, bydd ysgogi i
gynnal cyfweliadau wyneb yn wyneb, stondinau cymorth a grwpiau ffocws yn angenrheidiol ac yn
hanfodol er mwyn bodloni'r nodau cymdeithasol a lles. Er hynny, mae technegau eraill wedi eu nodi
hefyd a fydd yn sicrhau eu bod yn bodloni anghenion y Bartneriaeth, y gymuned, wrth ystyried yr
effaith ar yr amgylchedd.
Mae dros 20 mlynedd o brofiad y tu ôl i'r darn hwn o waith, gan fod R4C wedi gweithio ym maes
datblygu adnoddau gwledig ers iddo gael ei sefydlu. Mae arbenigwyr wedi eu dwyn ynghyd fel y gall
yr arbenigedd ehangach yn nhîm R4C gloddio'n ddyfnach a thynnu sylw at y pethau mwyaf cain sy'n
gofyn am wybodaeth leol a thechnegol o safbwyntiau polisi strategol a ffermio’r ucheldir yn
ymarferol
28 | T u d a l e n
AMSERLEN
Bu rhywfaint o oedi yn yr amserlen y cytunwyd arni yn y cyfarfod cychwynnol ac rydym yn awyddus i
gael yr amser i siarad â'r ffermwyr a'r porwyr yn ystod eu ‘ffenestr’ amaethyddol gyfyngedig. Y
bwriad oedd cychwyn cyfweliadau ddechrau mis Mai, felly mae'n hanfodol bod manylion cyswllt yr
ymatebwyr ar gael fel blaenoriaeth.
Disgrifiad
1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24
Mawrth Ebrill Mai Mehefin Gorffennaf Awst
Y dechreuad
CA
FC
Ymchwil
Ddesg
Ymgynghori
ar y cynllun,
Ymgynghori â
phartneriaid
a
rhanddeiliaid
Ymweliadau
safle â
phartneriaid
Dadansoddi
dewisiadau
Dilysu
Adroddiad
Drafft a
Therfynol a
chyflwyniad
Rheoli
contractau,
cysylltu â
chleientiaid
29 | T u d a l e n
TECHNEGAU CASGLU GWYBODAETH
Rydym wedi creu matrics i nodi'r rhanddeiliaid ac yna'r dechneg/technegau mwyaf priodol i
ymgynghori â nhw.
Rydym hefyd wedi nodi, (ond nid oes gennym gadarnhad ar hyn o bryd) efallai y bydd gan y CFfI y
dewis o gymryd rhan drwy gynnal cyfweliadau lled-strwythuredig syml gydag ystod o randdeiliaid. Ni
fyddai'r rhain yn darparu'r wybodaeth fanwl y byddem yn gallu ei chasglu mewn cyfweliadau mwy
manwl ond bydd yn ychwanegu at ein dealltwriaeth a gellid cymryd camau dilynol pe bai'r angen yn
codi.
MAPIO RHANDDEILIAID
Grŵp Ymchwil ar y we/desg
Survey Monkey
Cyfweliad wyneb yn wyneb
Cyfweliad wyneb yn wyneb 3ydd parti
Cyfweliad dros y ffôn
Stondinau Grŵp ffocws
Digwyddiad sbarduno
Ffermwyr, Porwyr
Clybiau Ffermwyr Ifanc
Gweithwyr fferm
Arwerthwyr
Lladd-dai
Darparwyr twristiaeth
Allfeydd lleol
Darparwyr addysg
Grŵp NPTC
Coleg y Mynyddoedd Duon
Prentisiaethau
Ystadau Partneriaeth Defnydd Tir y Mynyddoedd Duon
Entrepreneuriaid
Nod y cyfweliadau lled-strwythuredig yw casglu gwybodaeth am y pynciau canlynol:
Sgiliau / arbenigedd - Mae arnom angen gwybod pa sgiliau ac arbenigedd sy’n ‘fewnol’, h.y. o fewn y grŵp rhanddeiliaid. Gallai hwn fod yn gyfle busnes anhysbys. Bydd rhanddeiliaid hefyd â chapasiti megis peiriannau neu gyfarpar y gellid eu defnyddio drwy gylch peiriannau, neu adeilad y gellid ei rentu i randdeiliad arall, yn ogystal â chyfleoedd i hyfforddi neu fentora.
30 | T u d a l e n
Bylchau mewn sgiliau – Mae arnom angen canfod yr hyn y mae rhanddeiliaid yn ei deimlo sy'n ddiffygiol. A oes rhaid iddynt drefnu rhai gofynion busnes penodol ar gontract allanol? A ydynt yn gallu cyflawni eu gofynion busnes megis ffurflenni TAW, a chwblhau a chyflwyno Glastir? A oes pethau'n eu rhwystro, materion sy'n peri pryder ynghylch y dyfodol?
o Os ydynt yn dymuno cynyddu’r sgiliau, sut byddent yn gwneud hyn? Llwybr ffurfiol llawn amser neu ran-amser, cyrsiau byr, achrediadau, ymweliadau ymchwil ac ati.
Dyheadau – Mae angen inni nodi unrhyw uchelgeisiau a nodau a nodir gan randdeiliaid, boed yn nodau syml sy'n ymwneud â'r dyheadau entrepreneuraidd neu’r busnes presennol.
o Gofynnir i rai rhanddeiliaid hefyd a fyddent yn hoffi cael cyfle i gyfarfod â phobl sydd â phrofiad datblygu busnes mwy arloesol.
Gwybodaeth ychwanegol / cyfarwyddyd cyswllt pellach – unrhyw wybodaeth bellach y gallwn ei chael yn ogystal â hysbyswyr allweddol y dylid ymgynghori â nhw.
31 | T u d a l e n
CWESTIYNAU AR-LEIN
Gall unrhyw aelod o bartneriaeth ffermio lenwi'r holiadur hwn a gallai gynnwys ymatebion gan
aelodau'r busnes.
1. A ydych chi'n ffermio ar eich pen eich hun neu'n rhan o bartneriaeth deuluol neu fusnes? a. Rwyf yn ffermio ar fy mhen fy hun b. Rwyf yn ffermio mewn partneriaeth
i. Â fy mhriod 1. Unig swydd / mae gan fy mhriod swydd arall hefyd
ii. Â fy mrawd / chwaer 1. Unig swydd / mae gan fy mrawd / chwaer swydd arall hefyd
iii. Â fy mhlentyn / plant 1. Unig swydd / mae gan fy mhlentyn /plant swydd arall hefyd
iv. Â phartner busnes 1. Unig swydd / mae gan fy mhartner busnes swydd arall hefyd
c. Ydych chi'n cyflogi unrhyw un arall? Ydw / Nac ydw i. Os ydych, nodwch sawl un sy’n llawn amser a rhan-amser
d. Oes gennych chi swydd arall hefyd?
2. Sgiliau / arbenigedd a. A oes gennych unrhyw sgiliau neu gymwysterau penodol? Oes / Nac oes b. Os Oes, rhestrwch nhw - testun rhydd
3. Bylchau sgiliau
a. A ydych chi'n cadw eich cofnodion eich hun ar hyn o bryd, TAW ac ati? Ydw / Nac ydw
i. Os nad ydych – a ydych chi'n talu am y gwasanaeth hwn Ydw / Nac ydw 1. Os ydych, pa gorff ydych yn ei dalu – Undeb Amaethyddol / cyfrifydd
/ arall, nodwch b. A ydych chi'n llenwi eich ffurflen SAF, yn cwblhau ac yn cyflwyno ffurflenni Glastir ac
ati eich hun? Ydw / Nac ydw i. Os nad ydych – a ydych chi'n talu am y gwasanaeth hwn Ydw / Nac ydw
1. Os ydych, pa gorff ydych yn ei dalu – Undeb Amaethyddol / cyfrifydd / arall, nodwch.
c. A oes sgiliau yr ydych yn dymuno eu cael i leihau eich costau / gwella eich gwybodaeth am sut i wneud y gwaith swyddfa? Oes / Nac oes
i. Os oes, pa fath o ddysgu a fyddai'n gweddu i chi? Llawn neu ran-amser, cyrsiau byr, grwpiau bach anffurfiol.
d. A oes unrhyw sgiliau eraill yr hoffech eu cael i'ch galluogi chi i ddatblygu eich busnes? Rhowch fanylion – testun rhydd
e. A hoffech chi gyflawni rhyw fath o achrediad?
4. Dyheadau – A oes gennych chi gynlluniau neu ddyheadau ar gyfer eich dyfodol a dyfodol eich teulu y mae angen ichi gasglu gwybodaeth bellach amdanynt neu wneud astudiaeth ddichonoldeb? Oes / Nac oes
a. Rhowch fanylion – Testun rhydd
5. Ydych chi a'ch teulu yn rhagweld mai ffermio yn y Mynyddoedd Duon yw eich dyfodol? Ydw / Nac ydw
32 | T u d a l e n
a. Hoffem wybod mwy ynghylch pam yr ydych wedi dewis yr ymateb hwnnw, rhowch ragor o fanylion.
6. A fyddech chi’n fodlon cymryd rhan mewn grŵp ffocws a gynhelir yn y Mynyddoedd Duon?
Byddwn / Na fyddwn
CYRRAEDD GRWPIAU ANODD EU CYRRAEDD
Rydym wedi nodi y bydd cyrraedd yr hysbyswyr, ffermwyr a’r porwyr allweddol yn heriol am sawl
rheswm:
Risg Lliniariad
Mae llawer ohonynt yn fusnesau unig a gallent fod yn amharod i dreulio amser yn ymateb i’r ymgynghoriad.
Mae’r cyfwelwyr wedi arfer â ffermio'r ucheldir a byddant yn gweithio o amgylch yr ymatebwyr naill ai drwy eu cyfarfod wyneb yn wyneb ar eu tir eu hunain neu drwy drefnu galwad ffôn ar adeg a diwrnod sy’n gweddu. Mae ymatebion ar-lein a chyfweliadau byr dros y ffôn yn ddewisiadau eraill i'r holl randdeiliaid
Maent yn symudol drwy gydol eu diwrnod gwaith
Gall cyfwelwyr gynnal eu trafodaeth wrth symud, gan wneud nodiadau i’w hysgrifennu'n ddiweddarach. Mae pob dull o ymgynghori yn cynnig amseroedd hyblyg gydag ar-lein yn gwbl hyblyg yn unol â dymuniad yr ymatebwr.
Bydd y rhan fwyaf yn methu â defnyddio ffôn symudol yn eu mannau gwaith ynysig.
Bydd tybiaeth mai dim ond ar gyfer galwadau byr y bydd ffonau symudol yn cael eu defnyddio ac nid ar gyfer cynnal trafodaethau manwl.
Gan amlaf maent yn ymdrin â stoc, sydd angen sylw ar adegau annisgwyl
Mae pethau annisgwyl yn digwydd, ac mae’n rhaid i les y stoc ddod yn gyntaf. Os bydd angen, byddwn yn aros neu'n ail drefnu apwyntiad.
Bydd rhai yn gyndyn i drafod eu busnes a'u dyheadau.
Mae'r holl wybodaeth ar gyfer yr ymgynghoriad yn ddienw a dim ond gyda chaniatâd llawn yr ymatebwr y byddai unrhyw wybodaeth benodol yn cael ei throsglwyddo. Os byddwn yn teimlo ein bod wedi wynebu rhwystr a bod angen mwy o wybodaeth arnom, byddwn yn dwyn hyn i sylw'r grŵp llywio.
YSTYRIAETHAU MYNEDIAD YCHWANEGOL
Byddwn yn gweithio mewn ardal wledig ac efallai na fydd modd cael mynediad ar gyfer pob cerbyd.
Ar gyfer y gwaith hwn, bydd pob ymweliad safle'n cael ei wneud gan bobl sydd wedi arfer gweithio
ar ffermydd ac yn yr ucheldiroedd; byddant yn teithio mewn cerbydau priodol ac yn gwisgo dillad
addas.
Bydd ymweliadau'n cael eu cynllunio a'u cynnal gan arbenigwyr a fydd yn gallu cyfweld a gwneud
asesiadau gweledol wrth fynd gyda'r ymatebwyr, gan ddefnyddio natur symudol y cyfweliad i
ychwanegu dyfnder ac ehangder i'r canfyddiadau pan fo hynny’n angenrheidiol.
33 | T u d a l e n
CASGLU A STORIO DATA
Bydd yr holl ddata a gesglir yn cael ei storio ar system ddiogel Resources for Change.
Bydd cyfweliadau dros y ffôn ac wyneb yn wyneb yn cael eu hysgrifennu ar ffurf nodiadau, yna
byddant yn cael eu teipio a'u storio gyda manylion cyswllt pob ymatebwr, yn y ffolder contract am
hyd y contract.
Gellir cael gafael ar ddata ar-lein drwy ein system a warchodir gyda chyfrineiriau na fydd ar gael ond
i staff R4C.
Cesglir data ymgynghori mewn cyfres o fatricsau sy'n hwyluso dadansoddiad ac a fydd yn cael ei
ddefnyddio gan y tîm mewnol yn ystod sesiynau dadansoddi i gloddio'n ddyfnach a llunio themâu
allweddol.
DIOGELU DATA
Yn unol â Rheoliadau Cyffredinol Diogelu Data (GDPR) a ddaw i rym ar 25 Mai 2018, bydd Resources
for Change yn ysgrifennu at bob unigolyn y mae angen inni gadw manylion cyswllt amdano gan
esbonio, ar ddiwedd y contract, y bydd ei fanylion yn cael eu dileu yn barhaol o'n system oni bai ei
fod yn gofyn i ni gadw mewn cysylltiad ag ef.
Yn ystod cyfnod y contract, bydd yr holl wybodaeth ar gyfer y gwaith hwn yn cael ei storio mewn
ffolder ar wahân ar ein system ddiogel gyda mynediad ar gyfer gweithwyr R4C yn unig; Nid oes gan
weithwyr cyswllt fynediad i'r system hon.
SWYDDOGAETHAU A CHYFRIFOLDEBAU
Alison Davies - bydd y Rheolwr Contract yn cysylltu â Bradley Welch, yn copïo negeseuon e-bost i
Mark Ward. Yn ei habsenoldeb, bydd hyn yn cael ei wneud gan Cerys Thomas. Fel arfer, bydd hyn yn
cynnwys e-bost ar ffurf pwyntiau bwled sy’n rhoi crynodeb o'r gwaith a wnaed a gwaith sydd ar y
gweill, yn ogystal â negeseuon e-bost a sgyrsiau ffôn anffurfiol yn ôl y gofyn. Rhwng y cyfnodau hyn,
Alison fydd eich pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer cefnogaeth a mewnbwn parhaus. Bydd Alison yn
adolygu'r cynnydd yn rheolaidd o’i gymharu â’r cynllun gwaith manwl; os nodir materion sy'n dod i'r
amlwg, bydd hi’n cysylltu â Mark cyn gynted â phosibl gydag awgrymiadau ar gyfer mesurau lliniaru.
Bydd Alison yn sefydlu ac yn cytuno ar yr ymgynghoriad â Bradley ac yn cynnal cyfweliadau lled-
strwythuredig gyda hysbyswyr allweddol, entrepreneuriaid a darparwyr addysgol posibl. Sefydlu
stondinau ymgynghori a chynnal grwpiau ffocws. Hwylusydd
Cerys Thomas - bydd yn cynnal ymchwil ddesg ac ymchwil ar y we a chyfweliadau dros y ffôn â
rhanddeiliaid allweddol yn y Mynyddoedd Duon ac yn ymchwilio i gyfleoedd addysgol ehangach y tu
allan i'r ardal gyda'r posibilrwydd o'u copïo neu o greu perthnasoedd defnyddiol. Stondinau cymorth
a grwpiau ffocws. Hwylusydd
34 | T u d a l e n
Ifan Davies - bydd yn cynnal cyfweliadau wyneb yn wyneb lled-strwythuredig â ffermwyr a phorwyr
yn ogystal â chefnogi grwpiau ffocws. Hwylusydd cymorth
Steve Evison - mae ganddo swyddogaeth ymgynghorol i gefnogi adolygiad o’r broses ymgynghori a
fydd yn cael ei gynnal ar ôl yr ychydig ddyddiau cyntaf er mwyn sicrhau ein bod yn cael yr wybodaeth
sydd ei hangen arnom. Cynhelir yr adolygiad hwn ddechrau mis Mai. Os bydd y Digwyddiad
sbarduno yn cael ei gynnal, bydd Steve yn arwain y gwaith dylunio.
ADRODD
Bydd yr wybodaeth ddiweddaraf yn cael ei hanfon at Bradley yn rheolaidd mewn e-bost ar ffurf
pwyntiau bwled ynghyd â galwadau ffôn yn ôl yr angen.
Bydd cyfarfod y Bwrdd Prosiect ar 31 Gorffennaf yng Nglan-wysg ar ffurf Sesiwn Ddilysu