Upload
others
View
0
Download
0
Embed Size (px)
Citation preview
Pigion
Ysgol Pen y Garth
Hydref / October 2019
Ar ddiwedd mis Hydref cafwyd asesiad ar gyfer y Siarter Iaith. Rydyn yn falch iawn i gyhoeddi ein bod wedi ennill y Wobr Arian gyda chlod. Diolch o galon i chi gyd am ymdrechu i ddod a’r Iaith Gymraeg i fywyd ein plant tu allan i’r ystafell ddosbarth. Diolch hefyd i Miss Morwenna Evans sydd wedi cydlynu yr holl digwyddiadau cyffrous. Ymlaen i’r Aur nawr!
At the end of October we were assessed for the Silver prize for our Welsh Language Charter work. We are proud to announce that we gained the silver award with flying colours. We wish to thank you all for your great efforts to ensure that you bring the Welsh language into your children’s lives outside school hours. We are very grateful to Miss Morwenna Evans who coordinated all the exciting events in the last year. Onto the gold now!
Llywodraethwyr
Mae tymor Dave Wilton wedi dod i ben a hoffwn ddiolch o waelod calon am ei arweiniad yn ystod y 3 mlynedd ddiwethaf. Llongyfarchiadau i Margaret Evans (Llywodraethrwriag gyfetholedig) sydd wedi ei hethol yn Gadeirydd y Llywodraethwyr am y flwyddyn academaidd hon. Mae gan Margaret brofiad eang fel cyn bennaeth un o ysgolion uwchradd mwyaf y Fro yn ogystal a bod yn ymgynghorydd. Edrychwn ymalen i gydweithio gyda hi a’r Bwrdd Llywodraethol.
Governors
Dave Wilton’s term as Chairman has come to an end. We would like to thank him from the bottom of our hearts for his leadership during the last three years. We would like to extend congratulations to Margaret Evans who’s been nominated as Chair for this academic year. She has a wealth of experience, as the previous Head of one of the biggest schools in the Vale, as well as being an adviser previously. We look forward to working with her.
To Newydd
Mae’r Awdurdod wedi rhoi gwybod o’r diwedd y bydd yr ysgol yn cael to newydd yn yr rhan wreiddiol o’r ysgol. Bydd hyn yn digwydd dros gyfnod o amser gan ddechrau gyda’r derbyn ar ôl y Nadolig. Bydd hyn yn golygu y bydd y dosbarth yn cael ei gwersi yn y Neuadd am ryw bythefnos ond byddwn yn sicrhau y bydd y disgyblion yn cael ystod eang o brofiadau yn ystod yr amser hwn. Cawn fwy o fanylion gan y Sir unwaith y bydd cadarnhad o’r dyddiad dechrau . Gofynnwn yn garedig am eich amynedd yn ystod y cyfnod yma pan fydd rhai ardaloedd ar yr iard allan o gyrraedd a bydd rhaid i ni wneud addasiadau o ran casglu’r plant ar ôl ysgol. Rydyn yn ddiolchgar tu hwnt i’r Llywodraethwyr o dan gadaeryddiaeth Dave Wilton am ei dyfalbarhad i berswadio’r sir am yr angen i gael to newydd.
New roof
The local authority have finally let us know that we will be having a new roof in the original part of the school. This will happen over a period of time, starting with the Reception class after Christmas. This means that those children will have their lessons in the hall for about a fortnight but we will ensure that the pupils will enjoy numerous worthwhile experiences during this time. We will receive more information from the county once they confirm a starting date. We politely ask for your patience and understanding during this time as a number of areas on the yard will be out of bounds. Alternative arrangements will have to be made regarding collecting your children from school. We are very grateful to the Governors, under Dave Wilton’s leadership, for their perseverance in persuading the county that a new roof is essential – not desirable!
Pigion
Ysgol Pen y Garth
Hydref / October 2019 Am dro drwy’r dosbarthiadau / A walk through the classrooms
Codi arian i Elusen Blwyddyn 5 fu’n trefnu Bore Coffi Macmillan eleni. Daeth nifer fawr o rieni am baned a chlonc a chodwyd swm anrhydeddus o £333.
Raising money for charity
Year 5 organised the Macmillan Coffee morning this year. A large number of their parents attended for a cuppa and a chat and they raised a large sum of £333. Well done!
Croeso i Miss Teleri Davies sydd wedi bod yn rhannu swydd gyda Mrs Smith yn y Meithrin y tymor hwn.
Llongyfarchiadau i Miss DeClaire ar enedigaeth Hudson ym Mis Medi.
Llongyfarchiadau i Mrs Laura Jones ar enedigaeth Finn ym mis Medi.
Mae’r dosbarth Meithrin wedi ymgartrefu yn hynod o dda eleni – da iawn chi!
We welcome Miss Teleri Davies who’s been sharing a job with Mrs Smith in the Nursery this term.
Congratulations to Miss DeClaire on the birth of her son Hudson in September.
Congratulations also to Mrs Laura Jones on the birth of Finn in September.
The Nursery children have settled in very well – da iawn chi!
Pori drwy stori – Roedd y neuadd yn llawn dop pan ddaeth rhieni, neiniau teidiau, a llawer aelod teulu arall i weld y Dosbarth Derbyn yn canu nifer o rigymau Cymraeg mor swynol. Roedd pob un wedi dysgu’r geiriau a pherformio mor hyderus a swynol ar ôl prin 7 wythnos yn yr ysgol. Bendigedig!
Pori drwy stori –The school hall was full to bursting when parents, grandparents and a number of additional family members came to visit the Reception classes to hear the children singing lots of tuneful melodies. They performed very successfully following barely 7 weeks in school. Lovely!
Pigion
Ysgol Pen y Garth
Hydref / October 2019
Bu’r Pwyllgor Eco yn cynrychiolu’r ysgol yng nghyfafod @PlasticFreePenarth yn ddiweddwar. Roedd cyfle i’r pwyllgor i rannu gwybodaeth am yr hyn rydyn yn gwneud yn yr ysgol i
leihau plastig yn yr ysgol. Yna cafwyd nifer o weithgareddau gan gynnwys, glanhau y traeth ym Mhenarth, dewis enw am y fenter Penarth di-blastig, dylunio baner i’r arddangos yn nhref Penarth, ysgrifennu addewid i greu Penarth di-blastig ac ysgrifennu negeseuon at aelodau’r cynulliad a’r cynghorwyr
lleol. Tipyn i brynhawn llewyrchus!
The Eco Committee represented the school in a @PlasticFreePenarth meeting recently. The committee had an opportunity to share information about what we are doing to reduce the use of plastic in school. They enjoyed a number of activities including cleaning up the beach, choosing a name for the Plastic Free venture, designing a flag to display in the town, writing a promise to create a Plastic Free Penarth and writing to members of the assembly and local advisers. What a hard-working crew!
Mae Blynyddoedd 1 a 2 wedi bod yn ymchwilio i barciau chwarae ac wedi bod yn cymharu parc lleol i Barc Ynys
Angharad ym Mhontypridd. Ar ôl ymweliad a’r ddau, doedd dim amheuaeth taw Parc Ynys Angharad oedd y ffefryn
am nifer o resymau.
Mae blwyddyn 1 a 2 wedi penderfynu cael anifail anwes yn y doesbarth. Ar ôl gwneud ymholiadau a chasglu llawer o ddata, bochdew oedd y dewis mwyaf poblogaidd. Bydd ‘Fudge’ yn ymuno â ni yn y tymor newydd.
Years 1 and 2 have been researching play parks and comparing the local park to Ynys Angharad Park in Ponty-
pridd. After visiting the two, there was no competition – Ynys Angharad Park was voted as the winner for a number of
reasons.
Years 1 and 2 have decided to welcome a pet to the class! After collecting data and making observations a hamster proved to be the most popular choice. ‘Fudge’ will arrive after half term.
Chwaraeon
Trefnodd Mr Hughes gem gyfeillgar yn erbyn Evenlode yn ddiweddar gyda sgôr anghygoel o 45-0. Rhagororol fechgyn!
Sports
Mr Hughes organised a ‘friendly’ against Evenlode recently and the outcome was astonishing. 45-0 to PYG! Hooray!! Well done to every team member!
Her Haf / Summer Challenge Llongyfarchiadau i’r bechgyn yma a gododd £150 drwy osod her i’r hunan dros yr Haf . Diolch enfawr i chi. Noa Davies (£70) am ddysgu’r wyddor Gymraeg ac i gyfri lan i 100 Gwilym Evans (£10) am ddysgu marchogaeth a mynd ar 2 wiren sip Ioan Lillford (£50) am ddringo’r Wyddfa Owain Sion (£20) am wylio rhaglenni Cymraeg yn unig ar y teledu
Congratulations to these boys who raised £150 for the PTA by setting challenges for themselves during the Summer holidays. A massive thanks to you all! Noa Davies (£70) for learning the Welsh alphabet and counting up to 100 Gwilym Evans (£10) for learning to ride a horse and going on 2 zip wires Ioan Lillford (£50) for climbing Snowdon Owain Sion (£20) for watching Welsh programmes only on Television.
Pigion
Ysgol Pen y Garth
Hydref / October 2019
Rydyn yn hynod o ffodus fod un o garfan Cymru yng nghwpan rygbi’r byd sef Owain Watkin yn gyn ddisgybl i Mrs Simmons. Mae Owain wedi danfon neges i ni i ddiolch am ein cefnogaeth ac mae’r ysgol wedi danfon neg-es nol i ddymuno lwc dda i’r tim yn y rownd gyn derfynnol. Roedd hwn yn brofiad gwych i’r plant! Diolch Mrs Simmons.
We are very fortunate that one of the Welsh rugby squad’s members (Owain Watkin) is an ex-pupil of Mrs Simmons. Owain has sent a message to thank us for our support and we’ve sent a message back to wish the team all the best in their semi-final. This was a fantastic experience for the children! Diolch Mrs Simmons.
RYDYN DAL YN CASGLU PACEDI CREISION GWAG i FYND TUAG AT GYNLLUN WALKERS
Diolch i bawb a fu’n casglu sticer o Aldi er mwyn i ni gael cit chwaraeon newydd i’r ysgol!
Diolch o galon rieni am brynu gwerth dros £300 o lyfrau yn ffair lyfrau Scholastic.
WE ARE STILL COLLECTING EMPTY CRISP PACKETS TO GO TOWARDS THE WALKERS PLAN.
Thank you to all who have been busy collecting stickers from Aldi to get new Sports kit for school!
Heartfelt thanks to parents for buying over £300 worth of books in the Scholastic book fair.
PWYSIG
Newid amser Cyngerdd Nadolig Blwyddyn 1 a 2
Gan taw’r unig ddyddiad oedd ar gael i logi Ystafelloedd Paget ar gyfer ein ffair Nadolig oedd
12/12/19 bydd rhaid i ni newid amser y cyngerdd.
Ar ddydd Mercher 11/12/19 bydd y cyngerdd gyda’r nos am 5.30yh (NID 2yp).
Ar ddydd Iau 12/12/19 bydd y gyngerdd am 1.30yp (NID 5.30yh).
IMPORTANT
A change to the time of Years 1 and 2 Christmas Concert
The only date available to hire the Paget Rooms for our Christmas Fair was 12/12/19. As a
result, the date of the concert has changed.
On Wednesday 11/12/19 the evening concert will be at 5.30pm (NOT 2pm).
On Thursday 12/12/19 the concert will be at 1.30pm (NOT 5.30pm)
Meddwlgarwch - Mae’r ysgol wedi buddsoddi (gyda chymorth y GRhA) mewn rhaglen Calm Cloud drwy’r ysgol gyfan. Mae hyn yn rhan o’n blaenoriaeth i wella lles disgyblion a mae cyfle dyddiol i ddisgyblion (a staff!) i fyfyrio.
Mindfulness – The school has invested in the ‘Calm Cloud’ programme which is a whole school programme (with the help of the PTA). This is part of our priority to improve the well-being of pupils and there is a daily opportunity for pupils (and staff!) to meditate.