8
Gwelodd Caerdydd yr haul am y tro cyntaf ers misoedd ar Sadwrn y 30ain o Ionawr. Yn ei gynhesrwydd, wrth i’r Cennin Pedr a’r Briallu arwyddo gwanwyn newydd, y crynhodd cynulleidfa gref o blant, ieuenctid a rhai hªn yng Nghapel y Crwys i sefydlu’r gweinidog newydd. Mi roedd blas gwanwyn ar y gwasanaeth; cynulleidfa bron llenwi’r capel, canu cyffrous a’r corau plant ac oedolion yn afaelgar eu cyflwyniadau, yn enwedig wrth i’r anthem ‘Clodforwn,’ Caradog Roberts, atseinio dwy’r adeilad, tair merch ifanc – Carys Bill, Mair Thomas a Rhian Melhuish yn cyflwyno’r emynau mor ystyrlon. Yn wir, trefnwyd y gwasanaeth, a oedd dan arweinad llywydd Henaduriaeth Morgannwg Llundain, Y Parchedig Anthony Willliams, yn ddeheuig o’i gychwyn gan i’r côr ein galw i addoli mor ddwys ddefosiynol – Sanctaidd, Sanctaidd, Sanctaidd – y darlleniadau heriol, i’r gynulleidfa (Effesiaid 4:1-15 ac i’r gweinidog (2Timotheus 4:1-5) a’r gweddïau o fawl a diolch (Owain Llyr Evans) ac am fendith ac arweiniad ein Tad Nefol (Glyn Tudwal Jones). Gan i’r Parch. Aled Huw Thomas dreulio rhan helaeth o’i weinidogaeth yn gaplan i’r lluoedd arfog roedd yn anorfod bod tinc gwahanol i’r gwasanaeth drwy gyflwyniad y Parch. Stephen Griffiths, Aberhonddu a siars y Parch. Marcus Robinson, y ddau yn gyn gaplaniaid. Bosib mai dyma’r tro cyntaf y bu sôn am yr eglwys fel Platfin y Crwys ac ambell Mainwaring neu Jones ac eraill o Dad’s Army ymlith yr aelodaeth. Ond roedd myfyrdod Marcus ar ddisgyblion Ffordd Emaus yn berthnasol a difyr – parodrwydd i gydgerdded, i wrando, derbyn hyfforddiant a meithrin gostyngeiddrwydd y Meistr a ‘gymerodd arno ei fod yn mynd ymhellach.’ Cawsom ein gwahodd i ddychmygu Marcus yn ‘marchio’ wrth iddo roi ‘marching orders’ i ninnau! Densil John gafodd glap y gynulleidfa wrth groesawu Aled drwy sylwi ar foelni cyn weinidogion y Crwys, o ganlyniad, fe dybiai, i’r diwinydda dwys a nodweddai’r eglwys, er gorfod cyfaddef nad dyma’r rheswm dros foelni eraill yn y gynulleidfa! Ac eto, roedd rhywbeth difrifol os cyfarwydd o drist yng nghlo ei groeso, ein bod fel enwadau yn gadael i fanion ein gwahanu a’n rhwystro ym mhrif reswm ein bodolaeth. Ond tristwch arall oedd i waeledd rwystro Delwyn Tibbot, blaenor hynaf y Crwys, rhag estyn y croeso ar ran yr eglwys ac o’r herwydd clywsom lais Bob Roberts, ei hysgrifennydd ymroddgar, yn darllen croeso craff a meddylgar Delwyn wrth bwysleisio’r gwahanol yn y gweinidog newydd. Clywsom leisiau eraill yn yr oedfa – Gareth Davies yn cyflwyno ar ran eglwys Ffordd Iddon, Llandrindod a Meirion Morris ar ran y Cyfundeb, Haydn Thomas yn darllen yr Ysgrythur, dau o flaenoriaid ifanc y Crwys, Hanna Jones a Alun Tobias, yn cyflwyno emynau ac ysgrifennydd yr Henaduriaeth yn croesawu. Aled Huw Thomas gafodd y gair olaf, wrth reswm, a hwnnw’n air o ddiolch ac o frwdfrydedd wrth edrych ymlaen. Troi darlleniad y siars yn ddelwedd wnaeth Cynwil Williams wrth gloi’r gwasanaeth: ‘aros gyda ni mae hi’n nosi’ a chyhoeddodd y fendith. Dyma oedfa hapus iawn o ddathlu’n ffydd: yng ngeiriau’r emyn olaf – Mawr oedd, mawr yw a mawr fydd Crist a’n pererindod ninnau’n amlygu’r mawredd hwnnw. Gwanwyn newydd yn hanes y Crwys, dyna’n gweddi, gyda’r gobaith am agor cwys newydd i gyfeiriad Bae Caerdydd. A gwanwyn oedd hi yn y festri wrth y byrddau hefyd oblegid y mwynhad cynnes, cyfforddus a gawsom wrth fanteisio ar ddarpariaeth helaeth a gwên siriol y chwiorydd. Dafydd Andrew Jones y G O LEU AD CYFROL CXLIV RHIF 7 DYDD GWENER, CHWEFROR 12, 2016 Pris 50c EGLWYS BRESBYTERAIDD CYMRU Gwahoddiad i’r Grawys … t. 2 • Bwrw golwg ar ‘Spotlight’ … t. 7 • Newyddion Lleol … t. 7, 8 yn calonogi yn ysbrydoli yn adeiladu Pan lansiwyd yr Apêl yng Nghymanfa Gyffredinol 2014 ni osodwyd targed penodol, er yr oeddwn yn meddwl yn nhermau £20,000. Ni feddyliais y byddai’r ymateb wedi bod mor anrhydeddus oherwydd erbyn 15 Ionawr 2016 roedd y cyfanswm a dderbyniwyd yn y Swyddfa ers y lansiad wedi cyrraedd £91,257.67. Ar ran Panel yr Apêl (Mrs Bethan Richards, Dr Gwyn Evans, Parchedig Ddr Hmar Sangkuma a Mr H Gwyn Jones) a minnau, dymunaf ddiolch i’r eglwysi, y gofalaethau ac unigolion am eu haelioni. Bydd darllenwyr Y Goleuad wedi darllen am sawl ymdrech glodwiw gydol y flwyddyn – gweithgaredd gan blant a phobl ifanc, chwiorydd y Cyfundeb yn lleol a chenedlaethol, yr henaduriaethau a’r Gymdeithasfa. Cyfrannodd nifer o unigolion, rhai ohonynt yn fisol drwy archeb banc, er dangos eu parch a’u cefnogaeth i’r cenhadon a fu yn lledaenu’r newyddion am Iesu Grist i drigolion Bryniau Casia/Jainta o 1841 ymlaen; bellach y mae’r gwaith yn nwylo’r brodorion a’n braint ni yw eu cefnogi yn eu cenhadaeth i’w pobl eu hunain yn enw’r Arglwydd Iesu Grist. Yn y cyfamser cedwir arian yr Apêl mewn cyfrif arbennig hyd nes bydd yr amser yn addas i’w ryddhau. Gweddïwn y bydd yr Arglwydd yn bendithio’n helaeth freuddwyd a bwriadau Pwyllgor Rheoli Ysbyty Dr H Gordon Roberts, o dan arweiniad Dr David Tariang. Trefor Lewis. APÊL Y LLYWYDD Parch Trefor Lewis Sefydlu y Parch Aled Huw Thomas, Eglwys y Crwys, Caerdydd Parch Anthony Williams (yn y blaen) yn sefydlu'r Parch Aled Huw Thomas

Sefydlu y Parch Aled Huw Thomas, Eglwys y Crwys, Caerdydd · 2018. 3. 27. · Gwelodd Caerdydd yr haul am y tro cyntaf ers misoedd ar Sadwrn y 30ain o Ionawr. Yn ei gynhesrwydd, wrth

  • Upload
    others

  • View
    29

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

Page 1: Sefydlu y Parch Aled Huw Thomas, Eglwys y Crwys, Caerdydd · 2018. 3. 27. · Gwelodd Caerdydd yr haul am y tro cyntaf ers misoedd ar Sadwrn y 30ain o Ionawr. Yn ei gynhesrwydd, wrth

Gwelodd Caerdydd yr haul am y trocyntaf ers misoedd ar Sadwrn y 30ain oIonawr. Yn ei gynhesrwydd, wrth i’rCennin Pedr a’r Briallu arwyddo gwanwynnewydd, y crynhodd cynulleidfa gref oblant, ieuenctid a rhai hªn yng Nghapel yCrwys i sefydlu’r gweinidog newydd. Miroedd blas gwanwyn ar y gwasanaeth;cynulleidfa bron llenwi’r capel, canucyffrous a’r corau plant ac oedolion ynafaelgar eu cyflwyniadau, yn enwedigwrth i’r anthem ‘Clodforwn,’ CaradogRoberts, atseinio dwy’r adeilad, tairmerch ifanc – Carys Bill, Mair Thomas aRhian Melhuish yn cyflwyno’r emynaumor ystyrlon. Yn wir, trefnwyd ygwasanaeth, a oedd dan arweinadllywydd Henaduriaeth MorgannwgLlundain, Y Parchedig Anthony Willliams,yn ddeheuig o’i gychwyn gan i’r côr eingalw i addoli mor ddwys ddefosiynol –Sanctaidd, Sanctaidd, Sanctaidd – ydarlleniadau heriol, i’r gynulleidfa(Effesiaid 4:1-15 ac i’r gweinidog(2Timotheus 4:1-5) a’r gweddïau o fawl adiolch (Owain Llyr Evans) ac am fendithac arweiniad ein Tad Nefol (Glyn TudwalJones). Gan i’r Parch. Aled Huw Thomasdreulio rhan helaeth o’i weinidogaeth yngaplan i’r lluoedd arfog roedd yn anorfodbod tinc gwahanol i’r gwasanaeth drwygyflwyniad y Parch. Stephen Griffiths,Aberhonddu a siars y Parch. MarcusRobinson, y ddau yn gyn gaplaniaid.Bosib mai dyma’r tro cyntaf y bu sôn amyr eglwys fel Platfin y Crwys ac ambellMainwaring neu Jones ac eraill o Dad’sArmy ymlith yr aelodaeth. Ond roedd

myfyrdod Marcus ar ddisgyblion FforddEmaus yn berthnasol a difyr –parodrwydd i gydgerdded, i wrando,derbyn hyfforddiant a meithringostyngeiddrwydd y Meistr a ‘gymeroddarno ei fod yn mynd ymhellach.’ Cawsomein gwahodd i ddychmygu Marcus yn‘marchio’ wrth iddo roi ‘marching orders’ ininnau!

Densil John gafodd glap y gynulleidfawrth groesawu Aled drwy sylwi ar foelnicyn weinidogion y Crwys, o ganlyniad, fedybiai, i’r diwinydda dwys a nodweddai’reglwys, er gorfod cyfaddef nad dyma’rrheswm dros foelni eraill yn y gynulleidfa!Ac eto, roedd rhywbeth difrifol oscyfarwydd o drist yng nghlo ei groeso, einbod fel enwadau yn gadael i fanion ein

gwahanu a’n rhwystro ym mhrif reswmein bodolaeth. Ond tristwch arall oedd iwaeledd rwystro Delwyn Tibbot, blaenorhynaf y Crwys, rhag estyn y croeso arran yr eglwys ac o’r herwydd clywsomlais Bob Roberts, ei hysgrifennyddymroddgar, yn darllen croeso craff ameddylgar Delwyn wrth bwysleisio’rgwahanol yn y gweinidog newydd.

Clywsom leisiau eraill yn yr oedfa –Gareth Davies yn cyflwyno ar ran eglwysFfordd Iddon, Llandrindod a MeirionMorris ar ran y Cyfundeb, Haydn Thomasyn darllen yr Ysgrythur, dau o flaenoriaidifanc y Crwys, Hanna Jones a AlunTobias, yn cyflwyno emynau acysgrifennydd yr Henaduriaeth yncroesawu. Aled Huw Thomas gafodd ygair olaf, wrth reswm, a hwnnw’n air oddiolch ac o frwdfrydedd wrth edrychymlaen. Troi darlleniad y siars ynddelwedd wnaeth Cynwil Williams wrthgloi’r gwasanaeth: ‘aros gyda ni mae hi’nnosi’ a chyhoeddodd y fendith.

Dyma oedfa hapus iawn o ddathlu’nffydd: yng ngeiriau’r emyn olaf – Mawroedd, mawr yw a mawr fydd Crist a’npererindod ninnau’n amlygu’r mawreddhwnnw. Gwanwyn newydd yn hanes yCrwys, dyna’n gweddi, gyda’r gobaith amagor cwys newydd i gyfeiriad BaeCaerdydd. A gwanwyn oedd hi yn y festriwrth y byrddau hefyd oblegid y mwynhadcynnes, cyfforddus a gawsom wrthfanteisio ar ddarpariaeth helaeth a gwênsiriol y chwiorydd.

Dafydd Andrew Jones

yGOLEUADCYFROL CXLIV RHIF 7 DYDD GWENER, CHWEFROR 12, 2016 Pris 50c

EGLWYS BRESBYTERAIDD CYMRU

Gwahoddiad i’r Grawys … t. 2 • Bwrw golwg ar ‘Spotlight’ … t. 7 • Newyddion Lleol … t. 7, 8

yn calonogi

yn ysbrydoli

yn adeiladu

Pan lansiwyd yr Apêl yng Nghymanfa Gyffredinol 2014 niosodwyd targed penodol, er yr oeddwn yn meddwl yn nhermau£20,000.

Ni feddyliais y byddai’r ymateb wedi bod moranrhydeddus oherwydd erbyn 15 Ionawr 2016 roeddy cyfanswm a dderbyniwyd yn y Swyddfa ers ylansiad wedi cyrraedd £91,257.67.

Ar ran Panel yr Apêl (Mrs Bethan Richards, Dr GwynEvans, Parchedig Ddr Hmar Sangkuma a Mr H GwynJones) a minnau, dymunaf ddiolch i’r eglwysi, ygofalaethau ac unigolion am eu haelioni. Bydddarllenwyr Y Goleuad wedi darllen am sawl ymdrechglodwiw gydol y flwyddyn – gweithgaredd gan blant aphobl ifanc, chwiorydd y Cyfundeb yn lleol a

chenedlaethol, yr henaduriaethau a’rGymdeithasfa.

Cyfrannodd nifer o unigolion, rhaiohonynt yn fisol drwy archeb banc, erdangos eu parch a’u cefnogaeth i’r cenhadon a fu yn lledaenu’r

newyddion am Iesu Grist i drigolion BryniauCasia/Jainta o 1841 ymlaen; bellach y mae’r gwaithyn nwylo’r brodorion a’n braint ni yw eu cefnogi yneu cenhadaeth i’w pobl eu hunain yn enw’r ArglwyddIesu Grist. Yn y cyfamser cedwir arian yr Apêl mewncyfrif arbennig hyd nes bydd yr amser yn addas i’wryddhau.

Gweddïwn y bydd yr Arglwydd yn bendithio’n helaethfreuddwyd a bwriadau Pwyllgor Rheoli Ysbyty Dr HGordon Roberts, o dan arweiniad Dr David Tariang.

Trefor Lewis.

APÊL Y LLYWYDD

Parch Trefor Lewis

Sefydlu y Parch Aled Huw Thomas, Eglwys y Crwys, Caerdydd

Parch Anthony Williams (yn y blaen) ynsefydlu'r Parch Aled Huw Thomas

Page 2: Sefydlu y Parch Aled Huw Thomas, Eglwys y Crwys, Caerdydd · 2018. 3. 27. · Gwelodd Caerdydd yr haul am y tro cyntaf ers misoedd ar Sadwrn y 30ain o Ionawr. Yn ei gynhesrwydd, wrth

Ar draws y byd bydd nifer o enwadauCristnogol sy’n dilyn yn fanwl calendraueglwysig yn dilyn disgyblaethau sy’ndeillio o’r Grawys.

Byddwn yn cofio am Grist ei hun ynencilio i’r anialwch i’w demtio gan ddiafol.Byddwn hefyd yn cofio i Iesu droedio’nfwriadol ac yn unplyg tuag at Jerwsalem,y groes a’i aberth a’r fuddugoliaeth drosbechod a’r bedd.

I nifer ohonom lle nad oedd calendreglwysig – heblaw am y Nadolig a’r Pasgefallai – yn ddylanwad mawr ar rythm einbywydau, gall tymor o’r fath ymddangosfel arfer dieithr braidd.

I lawer, mae’r gair Grawys yn golygu

tymor o wahardd – peidio bwyta siocled,yfed gwin, peidio â gwneud, ymatal rhag....... am ddeugain niwrnod.

Ond os ydym yn rhoi unrhyw werth i’rarfer tybed nad oes angen i ni gofio acailddarganfodpam y dechreuwyd yr arferyn y lle cyntaf.

Yn hanesyddol cyfnod oedd y Grawys igredinwyr newydd i gael eu hyfforddi yn yFfydd. Pendraw’r holl baratoi fyddai eubedydd, ar adeg y Pasg. Dros amserdatblygodd yr elfen o hunanymwadiad o’rarfer gan y credinwyr newydd i ymprydio.Iddyn nhw roedd ymprydio, sef ymwrthodâ bwyd fel disgyblaeth ysbrydol, ynarwydd eu bod yn perthyn i gymdeithas obobl oedd wedi eu neilltuo gan Dduw iDduw. Roedd yn fodd i ymwacáu ac ynarwydd eu bod yn bwrw ein hunain ynllwyr ar drugaredd Duw sy’n darparupopeth da.Tybed faint yn ein plith sy’n ymprydio’n

rheolaidd bellach? Yn ymprydio er mwynymwrthod â’r hunan, fel arwydd ein bodyn llwyr ddibynnol ar Dduw am ei ddaioni,fel mynegiant o’n hawydd amdano Efei hun, fel cyfle i roi’n bryd ar geisio Duw.

Hyd yn oed os nad ydym yn ymprydio ynystod y Grawys eleni, beth am neilltuoychydig mwy o amser i geisio Duw ei hunbob dydd – er mwyn ein byd drylliedig,ein Cymru dolurus, ein heglwysi gwantan,ein heneidiau lluddedig?

Os nad ydych wedi dechrau eisoes betham ymuno gyda nifer o ddarllenwyr yGoleuad sy’n dilyn y darlleniadau o’rSalmau.

Darlleniadau’r wythnos hon.

Salm 18: 46-50 Salm 19: 1-6 Salm 19: 7-14 Salm 20: 1-9 Salm 21: 1-6

2 Y Goleuad Chwefror 12, 2016

Gwahoddiadi’r Grawys

Wikimedia

Rydym wedi bod yn dilyn yn agosgynlluniau llywodraeth Llundain i gaelcorff arolygu OFSTED i arolygu lleoliadauaddysg tu fas i’r ysgol (‘out-of-schooleducational settings’) sy’n addysgu plantam fwy na 6-8 awr yr wythnos yn Lloegr.Bu ymgynghoriad ar y pwnc dros yNadolig. Mae hyn yn rhan o StrategaethGwrth-Eithafiaeth San Steffan.Mae nifer o fudiadau ac elusennauCristnogol, ymhlith eraill, wedi mynegipryder am hyn. Mae nifer yn bryderus ybyddai gan OFSTED yr hawl i arolygugweithgareddau Cristnogol, pan taw’rgwir reswm am y cynlluniau yw darganfoda yw rhai pobl ifanc mewn grwpiauIslamaidd yn cael eu radicaleiddio. Gantaw mater o ddiogelwch y DeyrnasUnedig yw’rcynlluniau, ereu bod ynymwneud agaddysg ynLloegr, rydymyn gwylio iweld afyddant yncael euhargymell argyfer Cymruhefyd.Cyhoeddodd

Nick Gibb, yGweinidog dros Ysgolion, ymateb i ddadlarwyddocaol ar y pwnc ymhlith AelodauSeneddol a gafwyd yn Westminster Hallar yr 20fed o Ionawr eleni.

• Dywedodd na fyddai’r llywodraeth ynarolygu ysgolion Sul neu

ddigwyddiadau unigryw felgwersylloedd haf wythnos o hyd. Ybwriad yw arolygu llefydd ble yderbynia plant addysg ddwys tu fâs i’rysgol am fwy na 6-8 awr yr wythnos.Y broblem gyda hyn yw nad yw’rllywodraeth wedi yn bod yn glir. Gallailleoliad, dyweder, gynnig 2 awr ar foreSul i blentyn neu berson ifanc, sefaddoliad ar y cyd ac Ysgol Sul, yna 2awr o glwb ieuenctid yn ystod yrwythnos, a 2 awr arall o weithgarwchychwanegol. Byddai hynny’n dod lanat 6 awr yr wythnos.

• Dywedodd Nick Gibb y byddaigrwpiau newydd sy’n addysgu tu fasi’r ysgol yn cael eu cofrestru’nawtomatig. Dywedodd taw barn yllywodraeth yw y dylid arolygu’rlleoliadau ond ble mae’r dystiolaeth igadarnhau bod ‘rhai gweithgareddaua waharddwyd efallai’n cymryd lle’.Mae nifer o fudiadau ac elusennauCristnogol wedi beirniadu’r holl syniaddrwy gydol y broses ymgynghori ar ysail fod y Comisiwn Elusennau ar gaeleisoes i helpu gyda phroblemau o’rfath.

• Dywedodd Nick Gibb ymhellach, nafydd gan ‘leoliadau tu fas i’r ysgol’ yrun dyletswyddau ag ysgolion i ‘hybugwerthoedd Prydeinig sylfaenol’, abod y llywodraeth am warchod rhyddidcrefydd. Roedd y ddogfenymgynghoriad yn gofyn a ddylai’r‘gweithgareddau a waharddwyd’gynnwys ‘dysgeidiaeth annymunol’(undesirable teaching), gan gynnwys‘dysgeidiaeth sy’n tanseilio neu’n

anghydnaws a gwerthoedd Prydeinigsylfaenol, neu sy’n hybu daliadaueithafol (teaching which underminesor is incompatible with fundamentalBritish values, or which promotesextremist views).

Ymatebodd Barnabas Fund, (elusenrydym fel enwad yn ei chefnogi am eigwaith gyda Christnogion sy’n cael euherlid yn rhyngwladol) yn gynnar i’rymgynghoriad ar ddiwedd 2015, ganddweud fod angen atgoffa San Steffanfod y cynlluniau’n mynd yn groes iganrifoedd o ddeddfwriaeth Brydeinig oblaid rhyddid crefydd, gan gynnwys ycanlynol:

Deddf Goddefiant, 1689, a ganiataoddmewn effaith fodolaeth addoldai nadoedd yn Anglicanaidd. Peidiodd y ddeddffelly â diffinio ‘gwir Gristnogaeth’ mewnperthynas ag Eglwys Loegr yn unig.

Diddymiad y Ddeddf Sgism yn 1719, felnad oedd rhaid i athrawon gydsynio âchredoau arbennig.

‘Dissenters Relief Act’ 1779, a olygai nadoedd angen i athrawon gael eutrwyddedu gan y llywodraeth.

Diddymiad yn 1812 o’r ‘Conventicle Acts’(1664 ac 1669) a’r ‘Five Mile Act’ (1665),yn rhoi rhyddid llawn i fodolaeth addoldaiheb eu cofrestru.

‘Places of Worship Registration Act’(1855); o dan y ddeddf hon, nid oeddrhaid i addoldai gofrestru.

Carys MoseleySwyddog Cyswllt yr Adran Eglwys a

Chymdeithas

Cynlluniau llywodraeth San Steffan i arolygu lleoliadau addysg tu fas i’r ysgol

Nick Gibb

Wikimedia

Page 3: Sefydlu y Parch Aled Huw Thomas, Eglwys y Crwys, Caerdydd · 2018. 3. 27. · Gwelodd Caerdydd yr haul am y tro cyntaf ers misoedd ar Sadwrn y 30ain o Ionawr. Yn ei gynhesrwydd, wrth

Yn syml iawn, ymgyrch blwyddyn gyfani hybu darllen y Beibl drwy gyfrwng yGymraeg yw Beibl Byw. Mae’n cael eigydlynu gan Gymdeithas y Beibl, Cyngoryr Ysgolion Sul a Gobaith i Gymru, acmewn cydweithrediad ag enwadauCymru.

DARGANFOD – DARLLEN – DEALLGyda chyhoeddi dau fersiwn o beibl.net,y Beibl Canllaw, a nifer o adnoddaudigidol newydd i hybu’r Beibl yn ystod2105, y teimlad unfrydol oedd bodangen treulio amser yn 2016 yncanolbwyntio ar helpu pobl o bob oeda phob cefndir i agor, i ddarllen, ac iymateb i neges y llyfr rhyfeddolhwn. Mae’r Beibl yn ganllaw sy’n

cynnig arweiniad a gobaith i’n bywydau.Gan fod Gobaith i Gymru, Cymdeithas

y Beibl a’r Cyngor Ysgolion Sul wedibuddsoddi amser ac adnoddau i baratoi’rgwahanol fersiynau credwn y gallmarchnata a hybu’r adnoddau hyn fod yngyfrwng bendith i lawer. Gwerthfawrogirpob cefnogaeth gan yr enwadau amudiadau Cristnogol yng Nghymru efo’rfenter gyffrous hon.Pwyslais ymgyrch Beibl Byw yw cael

pawb i feddwl am ffyrdd creadigol oannog pobl i droi at y Beibl o’r newydd.Eisoes trefnwyd nifer o ddigwyddiadau acrydym yn awyddus iawn i glywed ambrofiadau unigolion ac eglwysi wrth hybugweithgarwch Beibl Byw er mwyn annogeraill.

Aled ac Arfon

Llyfryn ymgyrch Beibl Byw a deunyddmarchnataParatowyd llyfryn 20 tudalen lliw llawnsy’n cyflwyno beth yw’r Beibl a pham eifod yn berthnasol i ni heddiw. Maent argael am y pris arbennig o £30 am 100.Cysylltwch â Chyngor yr Ysgolion Sul iarchebu: [email protected] llyfrnodau, sticeri a sticeri car ar

gael am ddim hefyd i’w defnyddio mewnachlysuron Beibl Byw. Mae gwasan -aethau ac astudiaethau hefyd yn cael euparatoi, ac fe fydd gwybodaeth am y rhainar dudalen Facebook Beibl Byw. Hoffwchy dudalen honno er mwyn cadw mewncysylltiad â’r newyddion diweddaraf.

Aled, Arfon a Christine

Chwefror 12, 2016 Y Pedair Tudalen Gydenwadol tudalen 3Y PEDAIR TUDALEN GYDENWADOLy4t y4t

Beth yw Beibl Byw 2016?

Dyma fy ngofid beunyddiol yn 2016, acni allaf yn fy myw â deall eincynrychiolwyr yn Senedd San Steffan ar 2Rhagfyr 2015 yn cefnogi’r Prif WeinidogDavid Cameron gyda mwyafrif o 180 obleidleisiau i fomio trefedigaethau gwladgythryblus Syria. Dysgwch, ffrindiauseneddol, o hanes trist Bush a Blair ynIrac. Diolch am y rhai dewr hynny,sosialwyr a chenedlaetholwyr yn bennaf,a wrthododd ymuno â’r bwriad gwirion achreulon o ymosod ar gartrefi poblddiniwed o’r awyr yng ngwlad druenusSyria. Cytunaf â Cameron a Hilary Bennfod bygythiad i bawb ohonom gan ISIL.Hwy yw’r creulonaf a welodd y byderioed ar wahân i’r Natsïaid (a dynaydynt, Ffasgwyr Islamaidd y DwyrainCanol). Ni wn i am neb arall ers oes Nerosydd yn barod i losgi Cristnogion yn fywa lladd eu cyd-Islamiaid a bomio’umosgau a phob synagog a phob addurn o’rhen fyd. Yr wyf yn erbyn bomio Syria ynsyml iawn am dri rheswm, a gobeithiafgael cefnogaeth darllenwyr y PedairTudalen.Yn gyntaf, rydym wedi gweld ers

blwyddyn a hanner nad ydi ymosodiadauo’r awyr gan awyrennau’r Unol Daleithiauwedi llwyddo o gwbl i ennill y dydd drosISIL. Methiant fu cyrchoedd Prydain

hefyd, ar wahân i ddifrodi’r meysyddolew. Yn ail, y gost. Mae’n anhygoel einbod yn torri ar lwfans yr anabl er mwynbomio cartrefi Syriaid dieflig a daionus.Mae pawb o dan yr ordd. Yn drydydd,dechrau mwy o frwydro yw’r bomiobondi grybwyll. Dyna oblygiadau bomioRwsia yno hefyd: estyn y rhyfel am ddwyflynedd arall o leiaf ac yna ailadeiladu o’radfeilion. Gwyddom o brofiad na ddawbuddug oliaeth; gwelsom hynny ynAfghanistan, Irac a nawr Syria.Oes gobaith? Oes, yn sicr. Mae’r hyn a

elwir yn Broses Fienna yn dangos bodllygedyn o obaith ar y gorwel. Nid yn2016, efallai, ond yn 2017 neu 2018.Byddwn yn ailadrodd y gweithredudiplomyddol a fu y tu ôl i’r ddealltwriaethrhwng Iran a’r Gorllewin ar arfauniwclear. Yn Fienna gwelwyd 19 owledydd wedi eu cynrych ioli ac yn barodi drafod o gwmpas y bwrdd sut y gellircael gobaith a heddwch yn Syria trwysianelau gwleidyddol. Rhaid i’r enwadaualw am hyn eleni, a mawr obeithiaf y dawarweinwyr y gwledydd i sefydlu rhywfesur o heddwch a chyfiawnder. Dymagyfrifoldeb Ewrop, cyfandir sy’n methullochesu ffoaduriaid o Syria; Rwsia, syddo dan bfier llygredig Putin; yr UnolDaleithiau, sy’n gofidio iddynt roi ail

gyfle i Obama ac yn ofni yn awr y gall ydyn gwallgof Donald Trump gyrraedd yTª Gwyn, mewn panig llwyr; SaudiArabia, sy’n lloerig o wrth-Gristnogol;Iran, sy’n ddigon tebyg o ran trin einbrodyr a’n chwiorydd; a Phrydain yngweld refferendwm ‘Na’ ar fater Ewrop ary gorwel. Mewn geiriau eraill, mae hi’nddu iawn arnom fel gwareiddiad. Wylafyn aml o flaen y set deledu wrth weldcymaint o ddioddefaint ymysg y plantbach a chymaint o ddinistrio militaraiddar hyd a lled y Dwyrain Canol, crudgwareiddiad a mangre geni TywysogTangnefedd, yr Arglwydd Iesu. Wylodd efdros Gaersalem. Gofidiaf am ein cyd-fforddolion sydd yn dioddef bob awr o’rdydd o law’r bleiddiaid ISIS.

Rhyfela a Rhyfela o Ddydd i Ddyddgan D. Ben Rees

Dechrau CanuDechrau CanmolSul, 14 Chwefror, 7.00 y.h.

Hefyd, 17 Chwefror am 1.30 y.h.Ymunwch â ni o Gapel y Tabernacl ymMhen-y-bont ar Ogwr ar gyfer CymanfaGanu. Yr arweinydd yw Iwan Guy gydaHuw Tregelles Williams ar yr organ.Yn ogystal â chlywed rhai o’n hoffemynau, cawn ddeuawd hyfryd o waithMendelssohn yng nghwmni’r sopranoGail Pearson a’r tenor ifanc, RobertLewis.

Page 4: Sefydlu y Parch Aled Huw Thomas, Eglwys y Crwys, Caerdydd · 2018. 3. 27. · Gwelodd Caerdydd yr haul am y tro cyntaf ers misoedd ar Sadwrn y 30ain o Ionawr. Yn ei gynhesrwydd, wrth

Trwy’r Grawys, beth am ichi fyfyrio bobdydd ar y bendithion sydd yn eich bywydac ymuno efo ni i roi diolch. Cewch eichysbrydoli gan gyfle dyddiol i roi,gweithredu a gweddïo dros gymunedaumewn angen. Mwynhewch Cyfra dyFendithion fel taith bersonol neurhannwch hi efo’r teulu, ffrindiau neu eicheglwys.

Eleni mae Cyfra dy Fendithion yncynnwys storïau o Bangladesh, y wlad yrydym yn canolbwyntio arni yn ystodWythnos Cymorth Cristnogol 2016.

Awgrymiadau yn unig yw’r symiau agynigir. Rhowch yn ôl eich gallu. Arddiwedd y cyfnod anfonwch eichcyfraniad at eich swyddfa CymorthCristnogol leol.

Wythnos 110–14 Chwefror

Newid hinsawdd

Dydd Mercher, 10

Dydd Mercher Lludw

Mae’r newidiadau mewn patrymautywydd yn Bangladesh dros yblynyddoedd wedi creu hafog a dinistriobywydau a chnydau pobl.

Rhowch £1 am bob pryd bwyd gewchchi heddiw, beth bynnag fo’r tywydd!

Dydd Iau, 11

Mae cyfartaledd glaw Llwyfandir yDogon, yn Mali, wedi disgyn 90 mm dros

yr 20 mlynedd diwethaf. Gweddïwch drosy teuluoedd a’r ffermwyr sy’n cael euheffeithio.

Gweddïwch hefyd dros ein partneriaidyn Mali sy’n helpu ffermwyr i addasu.

Dydd Gwener, 12

Malawi yw un o’r gwledydd a effeithiwydfwyaf gan newid hinsawdd. Mae glawtrwm, llifogydd a sychder yn bygwthbywoliaeth ffermwyr sy’n byw ar y tir.

Rhowch 50c am bob parth o dir syddgennych i dyfu bwyd.

Penwythnos, 13 a 14

O amgylch y byd fe effeithir ar einchwiorydd a’n brodyr gan newidhinsawdd. Mae holl bobl y byd yn rhannuein cartref cyffredin. Gelwir arnom i ofaluam y Ddaear ac am ein gilydd gydallawenydd, gan gydnabod bod y Ddaearyn gofalu amdanom ni.

Ar Ddydd San Ffolant, cynorthwywch igodi ymwybyddiaeth am newid hinsawdda sut y mae’n effeithio ar bawb a phopethyr ydym yn ei garu. Gwnewch, gwisgwcha rhannwch galon werdd gan ddilynesiampl hawdd christianaid.org.uk/greenhearts, ac yn eich gwasanaetheglwysig neu eich grfip cartref,archwiliwch sut mae ffydd yn berthnasol inewid hinsawdd.

Lawrlwythwch ein pecyn eglwys DyddSan Ffolant o christianaid.org.uk/greenhearts

Wythnos 2

15–21 Chwefror

Argyfyngau

Dydd Llun, 15

Mae poblogaeth Bangladesh yn un o’rdwysaf yn y byd ac mae’n wlad sydd wediwynebu sawl trychineb. Mae’rtrychinebau hyn yn gwthio’r tlawd a’rbregus i gylch gwaeth o dlodi.

Gweddïwch dros y gwledydd hyn sy’nwynebu trychinebau yn aml ond ynceisio addasu i hinsawdd sy’n newid.

Dydd Mawrth, 16

Mae teuluoedd sydd ddim yn ddibynnolar un ffynhonnell yn unig o incwm yn llaibregus mewn trychineb – gall pladdinistrio un cnwd, ond os ydych yn tyfumwy nag un mae’r effaith yn llai.

Rhowch 40c am bob llysieuyn sydd yneich rhewgell.

Dydd Mercher, 17Mae trychinebau newid hinsawdd felsychder, teiffwnau neu lefel y môr yn codiyn effeithio ar bob rhan o fywyd pobl: euheiddo, eu busnes, systemau ariannol aciechyd.

Ewch i christianaid.org.uk/emergenciesi ddarganfod sut ydym yn helpu poblmewn trychineb.

Dydd Iau, 18Mewn gwledydd fel Bangladesh lle maelefel uchel o drychinebau naturiol,defnyddir ysgolion fel cysgod, ganamharu ar addysg y plant.

Rhowch 10c am bob blwyddyn oaddysg a gwblhawyd gennych.

Dydd Gwener, 19Er bod trychinebau naturiol yn cael sylw’rcyfryngau mae’r effeithiau yn parhau ynhwy na’r sylw. Mae bron i ddwy filiwn obobl Mali yn parhau i ddioddef effaithsychder 2010 a 2012.

Rhowch 20c am bob diod a gewchheddiw.

Penwythnos, 20 a 21Diwrnod Byd-eang dros GyfiawnderCymdeithasol

Mae cyfiawnder yn agos iawn at galonCymorth Cristnogol. Dros y penwythnoshwn gweddïwch dros arweinwyr ygwledydd hynny ar draws y byd lle maeanghyfiawnder yn bodoli a thlodi’n dilyn.Mae ein partneriaid yn Bangladesh ynhyfforddi pobl sydd dan fygythiad o gollieu cartrefi oherwydd llifogydd. Feddinistrir eu cnydau jiwt a’u caeau padiyn gyson, gan eu caethiwo mewn tlodi.

Gweddïwch dros ffermwyr Bangladeshsy’n addasu i’w sefyllfa fregus.

tudalen 4 Y Pedair Tudalen Gydenwadol Chwefror 12, 2016Y PEDAIR TUDALEN GYDENWADOLy4t y4t

Cyfra dy fendithionTeithiwch drwy’r Grawys gyda Chymorth Cristnogol

Cofio’r Dr John S. DaviesGyda’r tristwch mwyaf y clywodd eigyfeillion, yn Abertawe a thrwy Gymrugyfan, am farw disyfyd y Dr John S.Davies. Roedd yn gyn-aelod o staffPrifysgol Abertawe, lle bu’n Ddeon yGyfadran Wyddoniaeth, ac roedd ynadnabyddus yn rhyngwladol am eiarbenigedd ym maes Cemeg Organig.Bu’n amlwg iawn yn hybu astudiogwyddoniaeth drwy’r Gymraeg, acyn 2012 fe’i hanrhydeddwyd âMedal Wyddoniaeth yr EisteddfodGenedlaethol. Yn arbennig yn y papurhwn, fe’i cofiwn fel Cristion gloyw aroes yn ddibrin o’i wasanaeth ynEglwys Annibynnol Bethel, Sgeti. Efoedd ysgrifennydd yr eglwys, a bu’nhynod egnïol a brwdfrydig yn meithrina chynnal y bartneriaeth gydenwadolrhwng Bethel ac Eglwys Bresbyteraiddy Trinity. Cydymdeimlwn yn ddwys â’ibriod, Ann, a’r teulu cyfan, a diolchwn iDduw amdano.

Cristnogaeth 21Encil y Gwanwyn yn Nant Gwrtheyrn8–9 Ebrill

6 o’r gloch nos Wener (swper) –3 o’r gloch brynhawn Sadwrn (yn cynnwys cinio)

Thema: PONTIOYng nghwmni:Mererid Hopwood, Geraint Rees, LizPerkins, Deri Tomos, Esyllt Maelor,Karen Owen, Dyfed Wyn Roberts,Awel Irene … ac eraill.

Am fwy o wybodaeth ac i gofrestrucysylltwch â:Catrin a Wes Evans, 97 Gorwel,Llanfairfechan, Gwynedd LL53 0DR01248 [email protected] fe ellir cofrestru drwy’r wefanwww.cristnogaeth21.org

I sicrhau lle, rhaid cofrestru o fewnpythefnos.

Page 5: Sefydlu y Parch Aled Huw Thomas, Eglwys y Crwys, Caerdydd · 2018. 3. 27. · Gwelodd Caerdydd yr haul am y tro cyntaf ers misoedd ar Sadwrn y 30ain o Ionawr. Yn ei gynhesrwydd, wrth

O blith plant Thomas Jones, daeth tri iamlygrwydd mawr. Cafodd y GwirAnrhydeddus Syr David Brynmor Jones,QC, ei eni ym Mhentre-poeth, Treforys, ar12 Mai 1852. Symudodd y teulu i Lundaina chafodd Brynmor ei addysg yn YsgolColeg y Brifysgol ac wedyn yn y coleg eihun, lle enillodd radd LLB. Cafydd ei alwi’r Bar gan y Deml Ganol yn 1876.Etholwyd ef yn ‘Bencher’ yno yn 1899 acyn Darllenydd yn 1911. Bu’n gweithio felbargyfreithiwr ar gylchdaith De Cymru hydnes iddo gael ei benodi’n Farnwr Sirol yn1885. Gadawodd y fainc yn 1892 i ymladdetholaeth Stroud yn llwyddiannus ar ran yBlaid Ryddfrydol, y flwyddyn y ‘cafoddsidan’. Yn ystod y flwyddyn ganlynol bu’naelod o’r Comisiwn Brenhinol ar DirCymru. Pan ddaeth yr etholiad nesaf yn1895 cyhoeddodd William Williams, AS(diacon yn Libanus), ei fod yn ymddeol.Cefnodd Brynmor Jones ar Stroud er mwynsefyll yn ei hen gartref, ac etholwyd ef ynddiwrthwynebiad yn Aelod Seneddol drosRanbarth Abertawe. Urddwyd ef yn farchogyn 1906. Bu’n gadeirydd Comisiwn yrHeddlu Metropolitanaidd, 1906–8. Penod -wyd yn Gofiadur Merthyr Tudful yn 1910 aChofiadur Caerdydd yn 1914. Byr iawn fuei gyfnod yng Nghaerdydd oherwyddcafodd ei wneud yn Farnwr yr Uchel Lys yrun flwyddyn gyda’r teitl mawr eddog Meistrmewn Gwallgofrwydd a’i benodi yr unpryd yn aelod o’r Cyngor Cyfrin. Cymerodd ran flaenllaw yn y gwaith o

baratoi Siartr Prifysgol Cymru agwasanaethodd y brifysgol fel CwnselAnrhydeddus ac Is-lywydd rhwng 1906 ac1918, gan dderbyn gradd Doethur yn yGyfraith er anrhydedd. Bu’n aelod oGomisiwn Brenhinol yr Eglwys yngNghymru yn 1907 ac yn Gadeiryddar y Blaid Seneddol Gymreig yn1910. Gwasanaethodd AnrhydeddusGymdeithas y Cymmrodorion fel Is-lywydd a Chadeirydd y Cyngor. Roeddganddo ddiddordeb mawr yn hanes Cymruac yn arbennig yn ei hanes cyfreithiol.Cyhoeddodd nifer o erthyglau ac mewncydweithrediad â Syr John Rhyscyhoeddodd ei History of the Welsh Peopleyn 1890.Yn 1892 priododd Florence Justina,

gweddw Abraham de Mattos Mocatta amerch yr Uwch-gapten Lionel Cohen.Bu farw Brynmor Jones yn Ilfracombe ar6 Awst 1921, flwyddyn ar ôl ei wraig.Brawd iddo oedd John Viriamu Jones.

Cafodd ef ei eni yn 1862 ym Mhentre-poeth. Roedd ei dad yn edmygydd mawr oJohn Williams, cenhadwr yn Erromanga, adyna ddull y brodorion o ynghanu ei enwteuluol; felly, Viriamu oedd enw’r mab. FelBrynmor, aeth i Ysgol Coleg y Brifysgol acwedyn i’r coleg ei hun, lle graddiodd yn19 oed gyda dosbarth cyntaf mewnDaeareg. Enillodd Ysgoloriaeth Bracken -bury i Goleg Balliol, Rhydychen, lle gafodd

radd dosbarth cyntaf mewn Mathemateg.Yn 25 oed penodwyd ef yn AthroMathemateg ac Anianeg a Phrifathro ColegForth, Newcastle upon Tyne. Symudodd iGaerdydd yn 1883 i fod yn brifathro cyntafColeg Prifysgol De Cymru a Mynwy.Casglodd nifer o ddynion disglair i staff ycoleg yn ogystal â £70,000 tuag at y coleg,a pherswadiodd Cyngor Dinas Caerdydd iroi tir ym mharc Cathays i’r coleg. Fel eifrawd Brynmor, bu’n frwd iawn dros yrymgyrch i sefydlu Prifysgol Cymru, ac fe’igwasanaethodd fel yr Is-ganghellor cyntaf,1895–6. Cymerodd ran flaenllaw yn ygwaith o sefydlu addysg ganolraddol yngNghymru ac ef oedd is-lywydd cyntaf yBwrdd Canolog (CWB). Ei hoff ddiddordeboedd dringo’r Alpau. Bu farw yn Genefa ar1 Mehefin 1901, a chladdwyd ef gyda’i dadym mynwent Dan-y-graig, Abertawe.Yr olaf o’r triawd hyn yw’r Gwir

Anrhydeddus Leifchild Stratten Leif-Jones.Ganwyd ef yn Llundain yn 1866. Cafodd eienwi ar ôl dau aelod blaenllaw ogynulleidfa Capel Bedford, sef y ParchedigJohn Liefchild, DD (nodwch y newid

sillafiad), a’r Parchedig Thomas Stratten.Bu farw ei fam pan oedd Leif yn bump oedac aeth y plant ieuengaf i Awstralia gyda’utad. Cafodd ei addysg yn Scotch College,Melbourne, a Choleg y Drindod,Rhydychen. Cafodd ei ethol yn aelodseneddol Rhyddfrydol dros Appleby,Westmorland, yn 1906 ond collodd y seddyn etholiad Ionawr 1910. Pleidleisiodd drosy cynnig i roi’r bleidlais i ferched yn 1908.Aeth yn ôl i’r Senedd ym mis Rhagfyr 1910i gynrychioli Rushcliffe, SwyddNottingham. Dilynodd ei frawd i’r CyfrinGyngor yn 1917. Gwrthododd gefnogiclymbaid Lloyd George a chollodd etholiad‘khaki’ 1918, gan ddod yn drydydd. Bu’naflwyddiannus yn erbyn un o RyddfrydwyrLloyd George yn etholaeth Camborne,Cernyw, yn 1922, ond cynrychiolodd ysedd yn 1923–4 ac 1929–31, gan golli i’rTorïaid yn 1914 ac 1931. Dyrchafwyd ef iDª’r Arglwyddi yn 1932 fel y BarwnRhayader ond bu’r farw’r teitl gydag ef, acychwanegodd Leif at Jones. Etholwyd ef ynLlywydd Cynghrair Dirwest y DeyrnasUnedig yn 1906. Cafodd y llysenw Tea-leafJones oherwydd ei safiad brwdfrydig drosddirwest. Bu farw yn Llundain ym misMedi 1939, yr olaf o feibion disglair taddisglair iawn.

Chwefror 12, 2016 Y Pedair Tudalen Gydenwadol tudalen 5Y PEDAIR TUDALEN GYDENWADOLy4t y4t

Plant y Parch. Thomas Jones(Rhan 2) gan Y Parchedig Ivor Rees

LlythyrAnnwyl Olygydd,

Diolch i’r Pedair Tudalen am dynnu sylw(15 Ionawr) at y rhifyn cyfredol o’rTraethodydd, sydd yn cynnwys erthygl odeyrnged a diolch gan yr Athro GruffyddAled Williams i’r Dr Brynley Roberts am eiolygyddiaeth am 16 mlynedd. Mae’nerthygl haeddiannol, gynnes a manwl igyfraniad maith ac amrywiol Dr Bryn.Roedd yn amhosibl nodi ei hollweithgarwch, wrth gwrs, ond fe hoffwnychwanegu un peth arall sy’n allweddol. Ers 2000 fe fu Bryn yn Olygydd

Cyffredinol Gair y Dydd, sef cyhoeddiadchwarterol gan eglwysi Cymru o ddeunydddefosiwn dyddiol. Mae’n parhau ynolygydd. Nid yw’n waith sydd yn cael nasylw na chlod, wrth gwrs, ond y mae’n rhanallweddol o fywyd Dr Bryn. Mae’ngyffredin erbyn hyn (ac efallai mai dynapam na chyfeiriwyd yn yr erthygl at Gair yDydd) i ystyried ‘crefydd’ yn fater ‘preifat’ac yn wahanol i gyfraniad cyhoeddus neubroffesiynol. Cyfrwng i fwydo a meithrin pobl yn eu

bywyd ysbrydol yw Gair y Dydd ac ynarbennig i ddeall a gwerthfawrogi sylfaen asylwedd ein hetifeddiaeth Gristnogol yn yBeibl. Ond i Bryn mae oblygiadau pellach ihynny, a dyna paham ei fod yn athro ysgolSul – dosbarth Beiblaidd – i oedolion ersbron i ddeugain mlynedd ac y mae hynnywedi golygu paratoi manwl, wythnosol.Ond i Bryn y mae’r dysgu hwnnw morbwysig – yn bwysicach, efallai – na’i holl

waith academaidd a golygyddol. Mae’ngwbwl ymroddedig i fywyd ei eglwys yngNghapel y Morfa, Aberystwyth, eglwyssydd wedi derbyn cymaint ganddo felarweinydd a thrwy ei ddylanwad tawel achyfeillgar. Fe fyddai Dr Lewis Edwards(sylfaenydd Y Traethodydd) wrth ei foddfod Y Traethodydd wedi cael golygydd felBryn (y byddai LE wedi ei alw yn ‘frawdyn y ffydd’), fod Cymru wedi caelysgolhaig mor ddisglair, a bod yr eglwyswedi cael gwasanaeth tyst morddiymhongar, gweithgar a chadarn. Hyd yn oed gyda’r ychwanegiad hwn o

lythyr, ni fyddai unrhyw ddiolch i Bryn ynddigonol. Ond gyda’r ychwanegiad hwn, ymae’n gwneud y deyrnged a’rgwerthfawrogiad yn fwy crwn a chyfan.Nid llythyr am Brynley Roberts yn unig ywhwn chwaith ond cyfle i werthfawrogi’rcreadigrwydd a’r diwylliant sydd weditarddu o Gristnogaeth na all fyth fod yn‘fater preifat’. Mae’r Efengyl yn eigogoniant ac yn ei hamrywiaeth yn cyfannubywyd unigolion a chenedl.Dymunwn yn dda iawn i’r Athro Densil

Morgan yn y dyfodol a diolch iddo amdderbyn y swydd. Y mae mwy nathraddodiad yn parhau yn yr olyniaeth, acfe fydd Densil Morgan yn yr olyniaethhonno.

Pryderi Llwyd Jones (Ysgrifennydd PanelGolygyddol Gair y Ddydd )

A ydych chi, ddarllenwyr annwyl y PedairTudalen, yn derbyn Gair y Dydd? Os nadydych – yna pam?

Cysylltwch ar unwaith â Glyn Williams, 12Coed y Glyn, Llanddudno, Conwy LL301JL. 01492 581439

Page 6: Sefydlu y Parch Aled Huw Thomas, Eglwys y Crwys, Caerdydd · 2018. 3. 27. · Gwelodd Caerdydd yr haul am y tro cyntaf ers misoedd ar Sadwrn y 30ain o Ionawr. Yn ei gynhesrwydd, wrth

Ers blynyddoedd fe fydd eglwysi acysgolion Sul yn gyfarwydd â chynnyrchllyfrau a DVDs Cyngor yr Ysgolion Sul aChyhoeddiadau’r Gair. Mae dros 800 odeitlau mewn print, ac i’w gweld arsilffoedd mewn siopau Cymraeg aChristnogol ledled Cymru, mewnllyfrgelloedd, ysgolion ac eglwysi. Maellawer o’r llyfrau o ddiwyg lliwgar,safonol, a nifer yn rhyngweithiol gydafflapiau, sticeri, jig-sos, ayyb. Undatblygiad nodedig yn ystod y misoedddiwethaf yw bod yna siop ddigidol hefydwedi ei lansio, lle mae modd prynufersiynau digidol o lawer iawn o’rcynnyrch.Os ewch i wefan ysgolsul.com a chlicio

ar SIOP, fe gewch fynediad i dros 150 offilmiau Beiblaidd Cymraeg pum munudo hyd, dros 50 o werslyfrau ysgol Sul ymae modd eu prynu ar-lein a’ulawrlwytho, yn ogystal â dros 30 o lyfraudefosiynol a llyfrau gweddi. Mantais fawry fersiynau digidol, wrth gwrs, yw bodmodd defnyddio ‘torri a phastio’ i greugwasanaethau wedi eu teilwra ianghenion yr eglwys leol.

Mae tair adran o fewn y siop ddigidol, sef:

1. Ffilmiau i’w lawrlwytho

Cyfres Ffilmiau Beibl Bach Stori Duw aBeibl Bach i Blant

Mae 44 o ffilmiau wedi’u hanimeiddio argael, yn seiliedig ar Beibl Bach Stori Duwgan Sally Lloyd-Jones a lluniau gan Jago.Addaswyd hwy i’r Gymraeg gan EleriHuws ac maen nhw’n cael eu darllen ganEirian Wyn. Mae ffilmiau Beibl BachStori Duw yn gwahodd plant i ddarganfoddrostynt eu hunain fod Iesu yng nghanolstori achub fawr Duw, ac yng nghanol eustori hwythau hefyd.

Mae 52 o ffilmiau ar gael yn y gyfresDVD Stori Duw, ac mae’r hanesion yncael eu darllen yn fywiog gan Mici Plwm.Yn y gyfres Beibl Bach i Blant mae 64 offilmiau pum munud, sy’n arbennig o

addas ar gyfer y plant lleiaf, ganddefnyddio testun a lluniau’r Beiblpoblogaidd hwn o waith Brenda WynJones.

Dyma ffilmiau sy’n addas i’w defnyddiofel rhan o wers neu wasanaeth mewnysgol, fel rhan o sesiwn ysgol Sul, feleitem mewn oedfa deulu yn y capel/yreglwys neu ar gyfer eu gwylio yn ycartref.

Manylion technegol: Mae pob ffilm tuaphum munud o hyd ac yn cael ei darparumewn fformat .MOV sy’n addas i’wchwarae ar gyfrifiadur, ar liniadur ac ardabled fel yr iPad. Gellir hefyd fewnosody ffilmiau yn rhan o gyflwyniadPowerPoint (nid yw hyn yn gweithio gydaphob fersiwn o PowerPoint). Noder: rhaidlawrlwytho’r ffeiliau i gyfrifiadur neuliniadur. Noder na ellir eu lawrlwytho ynuniongyrchol i iPad, ond gellir eu symudo gyfrifiadur i iPad ar ôl eu lawrlwytho.

2. Cyfres Gwerslyfrau’r Ysgol Sul(e-lyfrau)

Yn y siop ddigidol mae tua 60 owerslyfrau ysgol Sul y mae modd euprynu fel llyfrau PDF, sy’n caniatáurhannu ac argraffu oddi ar y cyfrifiadur.Mae pedair cyfres o werslyfrau ar gael yny cyfrwng yma, sef:

Cyfres Golau ar y GairCyfres o 40 o e-werslyfrau i athrawon arstorïau neu themâu arbennig, gyda phobllyfr yn cynnwys tair gwers ac un oedfadeulu – digon ar gyfer mis o waith. Un e-lyfr sydd ei angen ar yr ysgol Sul gan fody deunydd plant ac ieuenctid yngynwysedig fel taflenni ac atodiadau i’wllungopïo.

Cyfres Stori DuwMae nifer o e-werslyfrau (PDF i’wlawrlwytho) ac e-lyfrau atodol yn rhan o’rgyfres, gan gynnwys gwerslyfr dan 5, dan11 a than 15, llyfr crefftau ar gyfer plant

dan 5 a dan 11 oed, a chyfres owasanaethau teuluol i gyd-fynd â phobuned.

Cyfres MosaigCeir yma ddau lyfr adnodd gwerthfawr argyfer arweinyddion plant ac ieuenctidmewn eglwysi a chapeli bychain, yncynnwys amlinelliad o sesiynau grfip iblant o ystod oed eang (2–14 oed),gweithgareddau, gwasanaeth ar gyfer poboed, tudalennau i’w dyblygu achynghorion ymarferol i’r arweinyddion.

Cyfres Ffydd ar WaithDau werslyfr cynhwysfawr i ddisgyblionysgolion Sul 3–14 oed, yn cyflwynogwaith saith elusen, sef CymorthCristnogol, Plentyn y Nadolig, TorchBlind Trust, Cymdeithas yGwahangleifion, Gobaith i Gymru,Cymdeithas y Beibl ac Open Doors;cynhwysir adnoddau dysgu defnyddiol igyd-fynd â’r gwersi.

3. Llyfrau defosiynol ar gyfergwasanaethau cyhoeddus a defosiwnpersonol

Ceir tua 30 o lyfrau gwasanaeth a gweddi,fel ffeiliau PDF i’w lawrlwytho yn sythi’ch cyfrifiadur. Mae modd prynu pob teitlyn unigol am bris sy’n llai na phris copicaled o’r llyfr.

O ddewis y cynnyrch i’w brynu, maemodd talu drwy gyfrwng Paypal ac ynalawrlwytho ffilm neu lyfr yn syth i’chcyfrifiadur.

Ewch i ysgolsul.com a chliciwch ar SIOP.

tudalen 6 Y Pedair Tudalen Gydenwadol Chwefror 12, 2016Y PEDAIR TUDALEN GYDENWADOLy4t y4t

Lansio siop adnoddau digidol ysgolsul.com

E-bost Golygydd Y PEDAIR TUDALEN

Anfonwch eich erthyglau, hysbysebion,a.y.y.b. i’r cyfeiriad uchod.

[email protected]

Page 7: Sefydlu y Parch Aled Huw Thomas, Eglwys y Crwys, Caerdydd · 2018. 3. 27. · Gwelodd Caerdydd yr haul am y tro cyntaf ers misoedd ar Sadwrn y 30ain o Ionawr. Yn ei gynhesrwydd, wrth

SPOTLIGHTEnw ar dîm arbenigol o newyddiadurwyrsy’n gweithio i’r ‘Boston Globe’ ynAmerica yw ‘Spotlight’. Hwy a dorrodd ystori am offeiriaid Pabyddol yn camdrinplant yn rhywiol ar draws America rhwngy 1970au a dechrau’r ganrif bresennol, acymdrechion diflino awdurdodau’r Eglwys iguddio’r troseddau. Mae’r hanes y tu ôl i’rffilm yn wir, felly – yn ddychrynllyd o wir –ac mae’n ffilm ardderchog am sawlrheswm.

Yn un peth, mae ganddi gast cryf, gydagactorion fel Michael Keaton a MarkRuffalo yn chwarae’r prif gymeriadau. Athynny, mae’r sgript yn arbennig o dda,heb unrhyw ymgais i or-ddramateiddio.Yn wir, nid ydym yn gweld dim o’rdigwyddiadau sy’n sylfaen i’r stori, ac nidoes yr un plentyn yn cymryd rhan yn yffilm. Yn hytrach, mae’n canolbwyntio arwaith dygn, diflino tîm Spotlight ynbrwydro’n gyson yn erbyn grym anhygoelyr Eglwys Babyddol, sydd â dylanwad

aruthrol ar gyngor Boston, ei heddlu a’ibarnwyr. Ond o dipyn i beth daw’r tîm isylweddoli nad mater o ‘ychydig afalaudrwg yn y sach’ mo’r offeiriaid hyn syddwedi bod yn camdrin plant yn rhywiol,ond bod y broblem yn un systemaidd, ynymestyn ymhell y tu hwnt i ddinasBoston. Yn ara-deg maent yn dilyn ystori i fyny hierarchiaeth yr Eglwys, nesy gallant brofi’n ddigamsyniol bod y rhaisydd mewn awdurdod yn symud yroffeiriaid hyn o blwyf i blwyf ac yntalu teuluoedd y troseddwyr i gadw’ndawel.

Cyhoeddodd y ‘Boston Globe’ y stori arflyl yr Ystwyll, 2002, ac ers hynny y maemiloedd o bobl oedd yn blant ar y pryd(yn fechgyn a genethod) wedi dodymlaen i adrodd am yr hyn addigwyddodd iddynt mewn gwledydd ardraws y byd. Yn sicr mae’n bennod addylai godi cywilydd ar awdurdodau’rEglwys Babyddol, nid yn unig yn wynebdioddefaint yr holl blant a ymddiriedwydi’w gofal, ond hefyd oherwydd ei hymatebwyneb-galed, diedifar gyhyd.

Beth sydd wedi digwydd yn ystod yblynyddoedd ers hynny? Do, fe wnaeth yPab Bened ymddiheuro, fel y maeFfransis yntau wedi gwneud, ond pethaurhad yw geiriau. Nid yw’r Fatican wedibod yn barod i agor ei ffeiliau ar offeiriaidac esgobion euog, na mynd allan o’iffordd i gynorthwyo’r heddlu yn ygwahanol wledydd a gafodd eu cyffwrddgan y sgandal. A beth a ddaeth oCardinal Law, prif wrthrych y ffilm, a’rsawl a wnaeth gymaint i gelu’r gwir?Penododd y Pab Ioan Paul II ef yn brifoffeiriad un o eglwysi mwyaf Rhufain,Santa Maria Maggiore!

Fel sy’n amlwg, mae’r ffilm yn codi llawero gwestiynau na chafodd eu hateb eto.Mae hefyd yn pwysleisio rhywbeth sy’ngwbl anhepgor mewn unrhyw gymdeithasiach, sef gwasg rydd. Beth bynnag amddiffygion amlwg rhai adrannau o’r wasgym Mhrydain dros y blynyddoedddiwethaf, gadewch inni gofio mai’rTelegraph a ddatgelodd sgandal treuliauaelodau seneddol, a’r Guardian addangosodd mor eang oedd arfer rhai o’rpapurau tabloid o hacio ffonau pobl.

Pwynt arall, a godir yn y ffilm ei hun, ywholl gwestiwn diweirdeb offeiriaidPabyddol, yn ogystal â safiaddigyfaddawd yr Eglwys (fel bron pobeglwys arall) ar wrywgydiaeth. Onid yw’rddeubeth hynny, o’u gorfodi ar ddynion ogig a gwaed, yn rhwym o arwain atragrith a thwyll?

Rhaid cloi gyda dyfyniad o’r sgript ei hun:‘Mae’n cymryd pentref i fagu plentyn, aphentref i gamdrin plentyn.’ Ac yn ôl pobgolwg pentref bychan iawn yw’r EglwysBabyddol, fel Boston ar droad y ganrifhon. Ond ewch i weld y ffilm a barnwchdrosoch eich hun.

Glyn Tudwal JonesCaerdydd

Chwefror 12, 2016 Y Goleuad 7

Ordeinio LlywyddNewydd HenaduriaethGogledd Ddwyrain

Ordeiniwyd y Parchedig Huw PowellDavies yn Llywydd newyddHenaduriaeth y Gogledd Ddwyrain ynystod cyfarfod o’r Henaduriaeth ynEglwys Bethesda, Yr Wyddgrug nosFercher, Ionawr 20fed. Daeth tymor eiragflaenydd, Elwyn Evans o EglwysNoddfa, Oaker Avenue, Manceinion iben wedi ei anerchiad ymadawol –anerchiad oedd yn crynhoi ei brofiaddros y flwyddyn fel llywydd ac ynamlinellu’r her o’n blaenau. Diolch aphob bendith i’r ddau ohonynt.

John WilliamsY RhaglenGenhadolAr hyn o bryd mae yna bump o swyddigwag yn chwilio am berson ifancaddas i’w llenwi. Swyddi ydynt sy’ncynnig cyfle, drwy’r RhaglenGenhadol, i bobl ifanc i roi prawf ar eu‘galwad’ i’r weinidogaeth Gristnogion ofewn ein henwad, neu i waithCristnogol ehangach. Cyfleoedd ydyntsy’n cynnig cyflogaeth am gyfnod byro flwyddyn neu ddwy.

Gall pobl ifanc gael sgwrs bellachgyda swyddogion Bywyd aThystiolaeth fydd yn eu harwain drwy’rbroses o sut i wneud cais am gael eucynnwys ar y Rhaglen Genhadoldrwy’r Henaduriaeth bwrpasol.

Wythnos nesaf cawn ddarllen ambrofiad y Parch Lee Dutfield, Caerdyddo’r Rhaglen Genhadol.

Tybed a oes gennych bobl ifanc a allaielwa ar gyfleoedd o’r fath?

Gallwch ganfod mwy am y rhaglen,neu am leoliad y cyfleoedd, trwy gaelgair anffurfiol naill ai trwy swyddogionBywyd a Thystiolaeth EglwysBresbyteraidd Cymru neu drwy gaelsgwrs gyda’r Ysgrifennydd Cyffredinol.Rhif y swyddfa yng Nghaerdydd yw02920 627 465.

DiolchYn dydy bywyd yn rhuthro heibio pan’dych chi’n brysur neu’n mwynhau eichhun!

Blwyddyn i’r rhifyn hwn dechreuais ar ygwaith o fod yn Olygydd y Goleuad, acfe hedfanodd y flwyddyn heibio.

Felly wrth fwrw trem yn ôl dros yflwyddyn mae rheidrwydd arnaf i fynegidiolch i ddarllenwyr y Goleuad.

Diolch i bawb sydd wedi cyfrannu – ybobl hynny sydd wedi tynnu lluniau oryw ddigwyddiad neu gilydd a’i ddanfoner mwyn calonogi ac ysbrydoli’nhaelodau. Os na chynhwyswydnewyddion o’ch ardal chi mae ynareswm am hynny – sef na dderbyniwydy newyddion gennym ni!

Yr ydym yn awyddus i adlewyrchu’r hynsy’n digwydd ar lawr gwlad Cymru. Osgwelwch yn dda, danfonwch atomgyda’ch newyddion.

Diolch hefyd i’r rhai ddanfonodd negesat Taro’r Post, a diolch i’r llu ohonochsydd wedi danfon neges i ddiolch amryw erthygl neu’i gilydd ac sydd wedimynegi gwerthfawrogiad o hynny.

Watcyn James

Page 8: Sefydlu y Parch Aled Huw Thomas, Eglwys y Crwys, Caerdydd · 2018. 3. 27. · Gwelodd Caerdydd yr haul am y tro cyntaf ers misoedd ar Sadwrn y 30ain o Ionawr. Yn ei gynhesrwydd, wrth

WYTHNOS NESAF – MAGU PROFIAD DRWY’R RHAGLEN GENHADOL

8 Y Goleuad Chwefror 12, 2016

Llun gan Gwilym Williams.

Yn Henaduriaeth Môn yn Llanallgo, dyddMawrth, Ionawr 26ain daeth cyfnod Y ParchGeraint Roberts, Porthaethwy, fel Llywyddyr Henaduriaeth i ben.Diolchwyd iddo am ei waith a

throsglwyddwyd y Llywyddiaeth i Mr JohnCadwaladr Jones, Cemaes. Pob dymuniadda i John yn y gwaith.

Llun Margaret Hughes

Yn Henaduriaeth Môn yn Llanallgo, dyddMawrth, Ionawr 26ain cyflwynodd YParchedig Geraint Roberts, Llywydd yrHenaduriaeth dystysgrif i Mr GwilymWilliams.Mae yn Flaenor ac Ysgrifennydd Moreia,

Llangefni ac yn gyn-ddirprwy Brifathro ynYsgol Gyfun Llangefni.Roedd Gwilym wedi treulio tair blynedd

yn dilyn cwrs rhan amser yn y Coleg Gwynym Mangor. Teitl y cwrs oedd ‘Archwilio’rFfydd Gristnogol’.Cwblhaodd y cwrs yn llwyddiannus a

chyflwynwyd y dystysgrif iddo a’i gomisiynufel Pregethwr Lleyg. Mae Gwilym eisoeswedi ei gomisiynu i weinyddu’rSacramentau gan Henaduriaeth Môn.

Gofalaeth Llanilar a’r CylchBob blwyddyn fel Gofalaeth o 11 o eglwysi bellach, rydym yncasglu arian at achos da lleol yn Oedfaon yr Ofalaeth a gynhelir ary Sul cyntaf ym mhob mis. Y llynedd buom yn cefnogi CartrefYsbaid Bryn Siriol, Penparcau, Aberystwyth. Cartref ydyw sydd yngofalu am unigolion o dan anfantais yn feddyliol neu’n gorfforol amgyfnodau o hyd at wyth wythnos y flwyddyn. Sefydlwyd y cartrefrhyw ddeuddeg mlynedd yn ôl er mwyn darparu ysbaid i ofalwyrardal yr Ofalaeth a’r tu hwnt. Y llynedd, cyfanswm yr arian âgasglwyd oedd £1,274.85.Yn y llun gwelir Alan Evans, Trysorydd Gofalaeth Llanilar a’r cylch,yn cyflwyno siec i Karen Dagg, rheolwraig Cartref Ysbaid BrynSiriol. Hefyd mae’r Parch Nicholas Bee, Gweinidog yr Ofalaeth, yrAthro Ioan Williams, Cadeirydd Pwyllgor yr Ofalaeth, a dau o’rpreswylwyr, Gary Parker a Megan Isaac.

Nicholas Bee

Llongyfarchiadau a Throsglwyddo’r Awenau ym Môn

Anfoner pob gohebiaeth, newyddion, ysgrifau, a.y.y.b.at y Parch. Ddr. R. Watcyn James, 94 Heol Penygarn,Tycroes, Rhydaman SA18 3PF.e-bost: [email protected] i Swyddfa’r Goleuad, Gwasg y Bwthyn,Lôn Ddewi, Caernarfon, Gwynedd LL55 1ER. (01286) 672018. e-bost: [email protected]

Os na nodir yn wahanol nid yw barn y cyfranwyro angenrheidrwydd yn farn y golygydd na’r GymanfaGyffredinol.

Cyhoeddwyd gan Eglwys Bresbyteraidd Cymru acargraffwyd gan Wasg y Bwthyn, Caernarfon. Cofrestrwydyn y Swyddfa Bost fel Newyddiadur.

06

9 770017 170003

I S S N 0 0 1 7 - 1 7 0 0

Awgrymodd nodynam Ddechrau CanuDechrau Canmol a ymddangosodd ynddiweddar yn y Goleuad mai ‘dihareb’oedd y llinell ‘Beibl i bawb o bobl y byd.’Daeth y neges ganlynol mewn ymateb!

Annwyl Olygydd,

Diddorol fyddai gwybod pryd y bydd llinello farddoniaeth yn troi yn ddihareb. Ond efallai nad yw trefnydd hys bys

DCDC yn gyfarwydd ag englyn RhobertWilliam (1744 - 1815) o’r Pandy (ger yBala) –

Llyfr doeth yn gyfoeth i gyd, – wych lwyddiantA chleddyf yr ysbryd,

A gair Duw Nef yw hefyd,Beibl i bawb o bobl y byd.

Yn gywir iawn,

Dan Puw, Parc,Y Bala.

Taro’rPost

Derbyn Aelodauyng ngofalaeth y GarnLlawenydd mawr i ofalaeth y Garn oeddy newydd fod dau berson ifanc am gaeleu derbyn i gyflawn aelodaeth eglwysigyn ddiweddar.

Derbyniwyd Tomos Watson yn gyflawnaelod mewn gwasanaeth arbennig ymMhen-llwyn, Capel Bangor ar 3 Ionawr.Yn yr un modd, Ffion Evans yngnghapel y Garn, Bow Street ar 17Ionawr.

Yn y lluniau, gwelir y Gweinidog, yParchedig Wyn Morris yn cyflwyno copio beibl.net i’r ddau ohonynt. Dymunwnfendith Duw ar Ffion a Tomos.

Wyn Morris