Upload
stonewall-cymru
View
235
Download
2
Embed Size (px)
DESCRIPTION
Â
Citation preview
Taclo iaithhomoffobaidd
CANLLAWIAUADDYSG
Stonewall Cymru
www.stonewallcymru.org.uk/ynyrysgol
Rhif Elusen 1101255
Gan Hannah Kibirige a Luke TrylDyluniwyd gan Lucy Ward
Taclo iaithhomoffobaidd
CANLLAWIAUADDYSG
Rhagair
Er gwaetha’r cynnydd mawr sydd wedi bod o ran hawliau pobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol (LHD)
yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae iaith homoffobaidd mor gyffredin ag erioed. Mae 99 y
cant o bobl ifanc lesbiaidd, hoyw a deurywiol yn dweud eu bod nhw’n clywed pobl yn defnyddio
ymadroddion fel ‘mae hynna mor hoyw’ a ‘ti mor gay’ mewn ffordd ddifrïol yn yr ysgol.
Yn anffodus, mae llawer o ysgolion yn dal i lynu at yr hen syniad am ‘sticks and stones’ – mai trais
corfforol sy’n ein brifo, ac nad yw geiriau’n effeithio arnon ni. Ond fel mae addysgwyr da yn ei
wybod, y gwir amdani yw hyn: mae gadael i ‘hoyw’ gael ei ddefnyddio i ddisgrifio rhywbeth gwael
heb i hynny gael ei herio yn gallu cael effaith negyddol iawn ar hunan-werth pobl ifanc hoyw.
Dyna pam y mae Stonewall Cymru wedi lansio ymgyrch newydd arloesol i wneud yn eglur pa mor
bwysig yw taclo iaith homoffobaidd. Rydyn ni wedi cynhyrchu cyfres o bosteri sy’n herio defnydd
o’r gair ‘hoyw’ neu ‘gay’, ochr yn ochr â’r canllaw yma i athrawon a chwaer-ganllaw i bobl ifanc
yn dangos sut y gallan nhw hefyd herio iaith homoffobaidd ymhlith eu cyfoedion.
Er mwyn bodloni’r galw amlwg am hyfforddiant i athrawon ar y mater yma, byddwn ni hefyd yn
cynnal seminarau Hyfforddi’r Hyfforddwyr ledled Cymru, fel rhan o’n rhaglen Hyrwyddwyr
Ysgolion. Bydd y seminarau undydd yma yn rhoi’r holl offer sydd eu hangen ar athrawon er
mwyn hyfforddi gweddill staff yr ysgol i daclo iaith a bwlio homoffobaidd.
Mae’r canllaw yma yn dangos sut mae rhai ysgolion ac awdurdodau eithriadol yn gwneud gwaith
da yn barod er mwyn taclo iaith homoffobaidd gyda phobl ifanc.
Mae eu profiadau nhw’n dangos nad oes rhaid i’r gwaith yma fod yn anodd, a bod manteision ar
gyfer holl gymuned yr ysgol. Gobeithiwn yn fawr y byddwch chi’n ymuno â nhw yn y gwaith
hollbwysig yma, ac yn bwysicach byth, y byddwch chi’n rhoi gwybod i ni beth arall y gallwn ni ei
wneud i’ch helpu chi ar y daith.
Andrew White
Cyfarwyddwr, Stonewall Cymru
1
Cynnwys
Cefndir 2
Beth yw iaith homoffobaidd? 4
Beth yw’r effaith? 7
Rhwystrau rhag taclo iaith homoffobaidd 11
Beth all ysgolion ei wneud – y pethau sylfaenol 14
Beth all ysgolion ei wneud – cynnwys pobl ifanc 22
Beth mae’r gyfraith yn ei ddweud 32
Syniadau ar gyfer gwersi 34
Datrys problemau 36
Deg prif argymhelliad 42
Adnoddau 44
Yr astudiaethau achos 46
Yn y pum mlynedd diwethaf gwelwyd cynnydd sylweddol yn y gwaith o
daclo bwlio homoffobaidd yn ysgolion Prydain. Dangosodd ymchwil gan
Brifysgol Caergrawnt ar gyfer Stonewall yn yr Adroddiad Ysgol, arolwg o
1,600 o bobl ifanc lesbiaidd, hoyw a deurywiol, bod lefelau bwlio
homoffobaidd yn dal i fod yn uchel, ond eu bod wedi cwympo 15 y cant
yn ystod y pum mlynedd diwethaf. Mae nifer yr ysgolion sy’n dweud yn
bendant bod bwlio homoffobaidd yn annerbyniol wedi mwy na dyblu,
ac erbyn hyn mae pobl ifanc bron â bod ddwywaith mor debygol o
deimlo eu bod nhw’n gallu siarad allan am fwlio homoffobaidd.
Fodd bynnag, dangosodd yr Adroddiad Ysgol hefyd mai ychydig o
gynnydd sydd wedi bod o ran taclo defnydd o iaith homoffobaidd yn
ysgolion Prydain, rhywbeth sy’n dal i fod yn endemig. Mae 99 y cant o
bobl ifanc hoyw yn dweud eu bod nhw’n clywed ymadroddion fel ‘mae
hynna mor hoyw’ a ‘ti mor gay’ yn yr ysgol, ac mae 96 y cant yn clywed
sylwadau homoffobaidd fel ‘pwff’ a ‘lezza’. Yn aml iawn mae defnydd o
iaith homoffobaidd yn digwydd heb i athrawon a staff eraill yr ysgol ei
herio, ac ar yr un pryd mae enwogion sy’n defnyddio iaith
homoffobaidd yn llygaid y cyhoedd yn annog ymddygiad tebyg gan
bawb arall.
Mae’r profiadau hyn gan fyfyrwyr i’w gweld hefyd yn yr Adroddiad
Athrawon, arolwg YouGov o 2,000 o athrawon ysgolion cynradd ac
uwchradd. Mae 95 y cant o athrawon uwchradd a 75 y cant o athrawon
cynradd yn clywed ymadroddion fel ‘mae hynna mor hoyw’ a ‘ti mor
gay’. Er hynny, mae dau draean o staff ysgolion uwchradd a dau ymhob
pump o staff ysgolion cynradd yn dweud nad ydyn nhw’n ymyrryd bob
amser pan fyddan nhw’n clywed yr iaith hon yn cael ei defnyddio. Mae
athrawon yn dweud wrthym bod nifer o resymau nad ydyn nhw’n
ymateb bob tro i iaith homoffobaidd, ond y rheswm fel arfer yw nad
oes ganddynt hyder a chefnogaeth i wneud hynny.
2
1 Cefndir
3
Mae iaith homoffobaidd yn cael effaith negyddol ar bobl ifanc hoyw,
gan wneud iddyn nhw deimlo’n llai hapus yn yr ysgol, ac yn llai tebygol
o gyrraedd eu llawn botensial. Yn yr achosion gwaethaf, mae iaith
homoffobaidd yn effeithio ar iechyd meddwl a lles pobl ifanc.
Mae’r canllaw yma yn cynnig ffyrdd ymarferol i athrawon ac arweinwyr
ysgol atal a thaclo iaith homoffobaidd. Gan dynnu ar brofiadau’r
ysgolion, yr awdurdodau lleol a’r ymddiriedolaethau academi sy’n
arwain y ffordd ar y gwaith yma ledled y wlad, mae’r canllaw yn rhannu
enghreifftiau sydd wedi eu profi o bolisïau, strategaethau a chynlluniau
gwersi er mwyn helpu ysgolion i gychwyn ar y gwaith pwysig yma.
4
Beth yw iaithhomoffobaidd?
Mae iaith homoffobaidd yn dod mewn sawl ffurf. Yn aml iawn mae’n
digwydd yn anymwybodol a heb fwriadu brifo rhywun. Er bod peth iaith
yn amlwg homoffobaidd, mewn achosion eraill gall fod yn anodd i
athrawon wybod beth sy’n cyfri fel iaith homoffobaidd. Cyn cychwyn
taclo’r broblem, mae’n bwysig bod holl staff yr ysgol yn gwybod yn
union sut mae iaith homoffobaidd yn swnio. Bydd bod yn eglur ynghylch
hyn yn helpu i wneud yn siŵr bod pob achos yn cael ei herio yn gyson.
‘Mae hynna mor hoyw’ neu ‘ti mor gay’
Y ffurf fwyaf cyffredin ar iaith homoffobaidd yw ‘mae hynna mor gay’ a
‘ti mor hoyw’. Mae 99 y cant o bobl ifanc hoyw yn dweud eu bod nhw’n
clywed yr ymadroddion yma yn cael eu defnyddio’n ddidaro yn yr ysgol.
Mae’r sylwadau yma yn cael eu defnyddio weithiau tuag at bobl sy’n
hoyw, neu bobl mae rhai yn credu sy’n hoyw. Fodd bynnag, fel arfer
maen nhw’n cael eu defnyddio i olygu rhywbeth da-i-ddim neu rywbeth
gwael, heb gysylltiad ymwybodol â chyfeiriadedd rhywiol o gwbl. Gallai
disgybl ddweud ‘mae’r esgidiau yna mor hoyw’ (i olygu eu bod yn wael
neu ddim yn cŵl) neu ‘paid â bod mor gay’ (i olygu paid â bod yn boen).
Weithiau, bydd athrawon yn teimlo nad oes rhaid iddyn nhw herio’r
defnydd eilradd yma o ‘gay’ neu ‘hoyw’.
2
‘‘‘‘Fel arfer mae geiriau a sylwadau gwrth-hoyw yn digwydd ymhob un wers,a 99.9 y cant o’r amser does dim byd o gwbl yn cael ei wneud am y pethLeo, 16 (de-ddwyrain Lloegr)
Hyd yn oed ar lefel cynradd mae galw plentyn arall yn hoyw yn dermsarhaus ar hyn o bryd. Jill, athrawes gynradd (Swydd Efrog a Humber)
5
‘No homo’
Fwy a mwy, mae pobl ifanc yn defnyddio’r ymadrodd ‘no homo’, fel
arfer ar ôl dweud rhywbeth maen nhw’n poeni a allai ymddangos yn
hoyw neu’n ferchetaidd, i wneud yn amlwg nad ydyn nhw’n hoyw. Er
enghraifft, ‘Dw i’n caru Wayne Rooney. No Homo’ neu ‘Mêts am byth
bois. No Homo’.
Sarhad homoffobaidd
Mae iaith homoffobaidd yn cyfeirio hefyd at dermau sarhaus sydd wedi
eu targedu’n benodol at bobl hoyw. Mae hyn yn cynnwys geiriau fel
‘pwff’, ‘queer’, ‘ffag’, ‘faggot’, ‘dyke’ a ‘lezza’. Mae 96 y cant o
ddisgyblion yn dweud eu bod nhw’n clywed y math yma o eiriau yn cael
eu defnyddio yn yr ysgol. Mae’r termau sarhaus yma yn cael eu
defnyddio yn erbyn disgyblion hoyw, ond hefyd yn aml yn erbyn
Mae iaith homoffobaidd i’w chlywed yn aml y tu allan i’r ystafell
ddosbarth hefyd, yn y cartref ac yn enwedig gan enwogion ac yn y
cyfryngau. Gall hyn wneud i bobl ifanc deimlo bod defnyddio iaith
homoffobaidd yn dderbyniol neu hyd yn oed yn cŵl.
‘‘‘‘‘‘I don’t want that one, it’s gay. Y DJ radio Chris Moyles yn cyfeirio at dôn ffôn symudol
Little gay-looking boy / So gay I can barely say it with a straight face-looking boy... geiriau cân gan y rapiwr Eminem yn 2013
Mae gan blant gamdybiaethau am ystyr a defnydd... mae’n ymddangos mai’rhyn sydd i’w weld ar y cyfryngau yw prif achos hyn. Tom, athro, ysgol ffydd annibynnol (de-ddwyrain Lloegr)
6
Nid dim ond wyneb yn wyneb mae iaith homoffobaidd yn digwydd;
mae yr un mor gyffredin ar-lein. Mae gwefan NoHomophobes.com yn
edrych ar ddefnydd o iaith homoffobaidd ar Twitter, ac mae ei
hymchwil yn dangos bod:
Mae pobl ifanc yn dweud wrth Stonewall bod iaith homoffobaidd yn
endemig ar wefannau rhwydweithio cymdeithasol, fel Facebook. Mae
hyn yn golygu bod pobl ifanc yn cael eu boddi â iaith homoffobaidd
ymhob agwedd ar eu bywyd.
‘‘Yr haf diwethaf ymosododd pobl arna i ar Facebook drwy gyfres osylwadau a negeseuon ar fy wal yn fy ngalw i yn ‘ffag’. Harry, 16, ysgol breifat un rhyw (gogledd-orllewin Lloegr)
‘‘‘‘Mae rhai termau fel ‘poof’ a ‘faggot’ yn dermau cyffredin rhwng y bechgynhŷn. Molly, cynorthwy-ydd canol dydd, ysgol gynradd (Yr Alban)
Rwy’n clywed ‘dyke’ a ‘homo’ ymhob gwers bron.Em, 16, ysgol uwchradd (Llundain Fwyaf)
disgyblion y mae rhai yn credu eu bod yn hoyw, neu sy’n wahanol
mewn rhyw ffordd, er enghraifft merched heini a bechgyn academaidd.
So gay: yn cael ei ddefnyddio 10,000 o weithiau’r dydd ar gyfartaleddNo homo: yn cael ei ddefnyddio dros 10,000 o weithiau’r dydd ar gyfartaleddFaggot: yn cael ei ddefnyddio dros 45,000 o weithiau’r dydd ar gyfartaleddDyke: yn cael ei ddefnyddio dros 4,000 o weithiau’r dydd ar gyfartaledd
7
3 Beth yw’r effaith?
Yn aml iawn mae pobl yn diystyru iaith homoffobaidd fel ‘cellwair
diniwed’ sydd heb fwriadu brifo rhywun. Fodd bynnag, pan fydd iaith
homoffobaidd yn cael ei defnyddio a neb yn ei herio, mae hyn yn cael
effaith negyddol eglur ar synnwyr pobl ifanc o berthyn, eu hunan-werth
a’u cyrhaeddiad yn yr ysgol.
Hunan-werth
Mae 84 y cant o bobl ifanc hoyw yn dweud bod clywed y gair ‘hoyw’ yn
cael ei ddefnyddio fel sarhad yn eu gofidio, ac mae bron i hanner (45 y
cant) yn dweud ei fod yn eu gofidio’n fawr. Pan fydd pobl ifanc hoyw,
llawer ohonyn nhw yn dechrau dod i delerau â’u rhywioldeb, yn clywed
y gair hoyw yn cael ei gyfystyru â rhywbeth negyddol, maen nhw’n
dechrau teimlo bod rhywbeth yn bod arnyn nhw. Mae hyn yn arwain
pobl ifanc hoyw i deimlo eu bod wedi’u hynysu yng nghymuned yr
ysgol. Mae dros hanner y bobl ifanc hoyw yn teimlo nad ydyn nhw
‘ddim yn perthyn’ yn yr ysgol. Mewn rhai achosion, mae hyn yn cael
effaith ddifrifol ar iechyd meddwl pobl ifanc. Mae bron i chwarter y
bobl ifanc hoyw a deurywiol (23 y cant) wedi ceisio lladd eu hunain ar
ryw adeg ac mae dros eu hanner (56 y cant) wedi hunan-niweidio.
Mewn llawer o achosion, mae hyn yn gysylltiedig â’r ffaith eu bod
nhw’n teimlo eu bod wedi’u hynysu gan ddiwylliant ysgol sy’n hybu
defnydd o iaith homoffobaidd.
‘‘‘‘...y broblem yw’r llif parhaus o sylwadau gwrth-hoyw mae pobl yn eu gwneudheb sylweddoli hynny hyd yn oed. Rwy’n teimlo’n ofnadwy drwy’r amser. Sophie, 15, ysgol uwchradd breifat (de-ddwyrain Lloegr)
Mae’n golygu nad ydw i eisiau bod yn fy ngwersi. Cat, 15, ysgol uwchradd ffydd (gorllewin canolbarth Lloegr)
8
Mae canlyniadau pellach i daclo iaith homoffobaidd; mae cysylltiad
eglur rhyngddo a gwelliant yn yr ysgol. Mewn ysgolion lle nad yw pobl
ifanc hoyw yn clywed defnydd o iaith homoffobaidd, maen nhw nid yn
unig yn teimlo’n hapusach, maen nhw’n gwneud yn well hefyd.
Teuluoedd gwahanolMae iaith homoffobaidd yn effeithio ar fwy na dim ond pobl ifanc hoyw.
Mae’n effeithio ar ddisgyblion sydd â ffrindiau a theulu hoyw hefyd, gan
awgrymu bod rhywbeth yn bod ar yr aelodau hyn o’u teulu a’u ffrindiau,
neu eu bod yn israddol. Erbyn hyn mae tua 20,000 o bobl ifanc yn cael
eu magu gan rieni o’r un rhyw. Dangosodd ymchwil gan Brifysgol
Caergrawnt yn adroddiad Teuluoedd Gwahanol bod clywed y gair ‘gay’
yn cael ei ddefnyddio fel sarhad yn peri gofid i blant y rhieni hyn, a’i fod
yn gwneud iddyn nhw feddwl bod rhywbeth yn bod ar eu rhieni.
Bwlio
Mae defnyddio iaith homoffobaidd yn barhaus yn gallu arwain pobl
ifanc i feddwl bod rhywbeth yn bod ar fod yn hoyw, a bod trin pobl
‘‘‘‘Pan fydd pobl yn dweud ‘gay’ ... dw i’n teimlo’n waeth na phobl eraill. Mark,
wyth oed
Hoffen i petai pobl yn stopio dweud pethau cas am bobl hoyw. Sian, naw oed
‘‘Un tro fe wnes i gerfio’r geiriau ‘dirty lesbian’ i fy nghlun gan fod pobl ynfy ngalw i’n hynny o hyd. Roeddwn i’n casáu fy hunan. Claudia, 17, academi uwchradd un rhyw (de-ddwyrain Lloegr)
9
hoyw yn llai ffafriol yn dderbyniol. Gall defnyddio iaith homoffobaidd
ddatblygu’n gyflym i fod yn fwlio homoffobaidd mwy difrifol. Ar hyn o
bryd mae dros hanner y bobl ifanc lesbiaidd, hoyw a deurywiol (55 y
cant) yn dweud eu bod yn profi bwlio. Mae’r rhan fwyaf (53 y cant) yn
dweud eu bod yn profi difrïo ar lafar, tra bod 16 y cant wedi profi cam-
drin corfforol, a chwech y cant wedi cael bygythiadau i’w bywydau.
Mae cysylltiad eglur rhwng methu â thaclo iaith homoffobaidd a lefelau
uchel o fwlio homoffobaidd. Mewn ysgolion lle nad yw athrawon byth
yn herio sylwadau homoffobaidd, mae’r gyfradd bwlio homoffobaidd yn
llawer uwch nag mewn ysgolion lle mae athrawon bob amser yn herio
sylwadau homoffobaidd pan fyddan nhw’n eu clywed (71 y cant o
gymharu â 43 y cant).
Mae iaith homoffobaidd yn atgyfnerthu syniadau negyddol am bobl
hoyw, ond mae hefyd yn arwain at anoddefgarwch cyffredinol ynghylch
bod yn wahanol. Lle mae iaith homoffobaidd yn gyffredin, mae pobl
ifanc, hoyw a syth, yn teimlo’n llai hyderus i fod yn nhw eu hunain ac i
gymryd rhan yn y gweithgareddau maen nhw’n eu mwynhau oherwydd
eu bod nhw’n poeni am gael eu labelu fel rhywun hoyw.
‘‘‘‘
Fe wnes i drio dod allan i bawb yn ddeurywiol pan oeddwn i’n 16 oed, ondroedd pobl yn gweiddi ‘bi-bi’ drwy’r wers, pawb yn meddwl eu bod nhw’nddoniol. Roedd yr athrawes yn sefyll yno, a ddywedodd hi ddim gair.Olivia, 18, academi uwchradd (gogledd-orllewin Lloegr)
Fe wnaethon nhw dorri i mewn i fy locer i a fandaleiddio fy mhethau i gydageiriau gwrth-hoyw. Thomas, 19 oed erbyn hyn, academi ffydd un rhyw (gogledd-orllewin Lloegr)
Troseddau casineb
Weithiau, bydd yr agweddau rhagfarnllyd y bydd pobl ifanc yn eu
datblygu oherwydd iaith homoffobaidd yn mynd y tu hwnt i fwlio.
Dangosodd arolwg YouGov ar ran Stonewall yn adroddiad Homophobic
Hate Crime: The Gay British Crime Survey 2013 fod un ymhob chwech o
bobl hoyw wedi dioddef troseddau casineb a digwyddiadau casineb,
gan godi i un ymhob pump o bobl 18-24 oed. Dywedodd hanner y
dioddefwyr bod y drwgweithredwyr o dan 25 oed, gan amlygu’r
dilyniant peryglus o iaith a bwlio homoffobaidd yn yr ysgol i droseddau
casineb homoffobaidd.
10
‘‘‘‘
Fe wnaeth yr heddlu siarad â rhieni pobl ifanc tua 12 oed oedd wedi bodyn homoffobaidd, yn fy sarhau i a fy mhartner ac yn fandaleiddio einrhandir ni. Roedd hi’n edrych fel bod hyn wedi datrys y broblem. Onddoeddwn i ddim yn teimlo’n hollol gyfforddus yn yr ardal ar ôl hynny.Maureen, 53 (Yr Alban)
Mae angen mwy o addysg mewn ysgolion, achos mae’r ymosodwyr yn euharddegau, yn fechgyn ac yn ferched! Morgan, 35 (Llundain)
‘‘‘‘Os caiff pobl eu magu mewn amgylchedd lle mae pawb yn dweud ‘o, maehynna mor gay’, maen nhw mewn amgylchedd lle mae hoyw yn cael eiweld fel rhywbeth drwg, neu negyddol, neu’n jôc. Zee-Tee Gwirfoddolwr Ymgyrch (Wiltshire)
Fe wnes i siarad gyda’r plant pan wnaethon nhw alw un o’r bechgyn ynhoyw am ei fod yn ddawnsiwr. Fe wnaethon nhw sylweddoli pa mordalentog oedd e wedyn, a dechrau edrych lan ato fe.Alison, athrawes, ysgol uwchradd (gorllewin canolbarth Lloegr)
Er gwaethaf effaith negyddol iaith homoffobaidd, dim ond 10 y cant o
athrawon sy’n ei herio bob tro mae’n digwydd, ac mae pobl ifanc yn
dweud wrthon ni mai’n anaml y mae’n cael ei drin yn yr un ffordd â
iaith hiliol neu rywiaethol.
Mae athrawon yn dweud bod nifer o resymau pam nad ydyn nhw bob
amser yn ymyrryd er mwyn taclo bwlio homoffobaidd:
‘Dyw e ddim yn homoffobaidd’
Mae hanner yr athrawon uwchradd a dros draean yr athrawon cynradd
nad ydyn nhw ddim bob amser yn ymyrryd mewn achosion o iaith
homoffobaidd yn dweud bod hyn oherwydd ‘nad oedden nhw’n credu
bod y disgyblion yn bod yn homoffobaidd’. Mae bron i hanner yr
athrawon uwchradd a chwarter yr athrawon cynradd yn credu mai ‘dim
ond cellwair diniwed’ yw’r iaith homoffobaidd maen nhw’n ei chlywed.
11‘‘Yn y cyd-destun yma does dim – neu does bron dim – cysylltiad rhwng ygair ‘gay’ a rhywioldeb. Mae’n air sy’n cael ei ddefnyddio yn lle ‘gwael’ neu ‘crap’. John, athro, ysgol uwchradd (gorllewin canolbarth Lloegr)
‘‘‘‘
Os bydd rhywun yn gwneud sylw hiliol neu rywiaethol bydd y staff a rhaio’r myfyrwyr yn gweithredu’n gyflym i roi cosb i’r myfyriwr sydd wedigwneud y sylw. Ond os bydd rhywun yn gwneud sylw homoffobaidd, doesneb yn dweud dim byd, ac mae pawb yn ei anwybyddu fel petai hi’n iawndweud pethau felly. Liam, 16, Uned Cyfeirio Disgyblion (Llundain)
Fe es i i weld yr athrawon, a’u hymateb nhw oedd: anwybydda nhw. Sacha, 19
4Rhwystrau rhag tacloiaith homoffobaidd
12
Yn aml mae athrawon yn ymateb fel hyn gan eu bod nhw’n credu ei
bod hi’n iawn i bobl ifanc ddefnyddio ‘hoyw’ a ‘gay’ i olygu rhywbeth
gwael, os nad oes cysylltiad â chyfeiriadedd rhywiol. Fodd bynnag, mae
defnydd o iaith homoffobaidd, beth bynnag yw’r bwriad, yn peri gofid i
bobl ifanc hoyw ac yn gwneud iddyn nhw deimlo eu bod wedi’u hynysu,
mae’n effeithio ar eu gwaith ysgol ac yn yr achosion gwaethaf, gall
arwain at broblemau iechyd meddwl.
‘Mae’n rhy gyffredin’
Mae rhai athrawon yn poeni bod defnydd o iaith homoffobaidd mor
gyffredin yn yr ysgol fel y byddai taclo pob achos yn cymryd gormod o
amser ac ymdrech. Gall hyn ei gwneud yn anodd perswadio’r holl
aelodau staff i daclo iaith homoffobaidd. Mae un ymhob chwech o
athrawon uwchradd yn dweud bod iaith homoffobaidd ‘yn rhy gyffredin
i ymyrryd ymhob achos’.
Mae ysgolion sydd wedi taclo iaith homoffobaidd yn llwyddiannus yn
dweud mai taclo pob achos yn gyson yw’r ffordd orau i helpu pobl ifanc i
ddeall na chaiff ei ddioddef.
‘‘‘‘O ran ymadroddion homoffobaidd fel ‘mae hynna mor gay’ a phethau erailltebyg, maen nhw mor gyffredin, does dim digon o amser yn y dydd iherio’r peth bob tro mae’n digwydd. Hope, ysgol uwchradd (de-orllewin Lloegr)
Petawn i’n delio gyda phob achos o gamymddwyn, fyddwn i byth ynllwyddo i wneud fy ngwaith – mae penderfyniad tactegol i anwybyddu’rpeth a symud y sefyllfa ymlaen drwy dynnu sylw at rywbeth arall yn aml ynniwtraleiddio sefyllfa. Sian, athrawes gynradd (Cymru)
‘‘Roedd hyn mewn ymateb i blentyn yn galw bachgen arall yn ‘gay’. Maehyn yn digwydd bron bob dydd, fel arfer pan maen nhw’n meddwl nadydw i ddim yn gallu clywed. Rydyn ni wedi trafod y peth o’r blaen feldosbarth. Yn yr achos yma, roedd y sylw wedi cael ei wneud mewn fforddeithaf ysgafn, felly roeddwn i’n teimlo’i bod hi’n bwysig rhoi sylw i’r matera thrafod pam ei fod yn amhriodol. Fe wnaethon ni drafod pam ei bod ynannerbyniol defnyddio’r gair ‘hoyw’ neu ‘gay’ hyd yn oed fel jôc, ac fewnaeth un disgybl gymharu’r peth â hiliaeth. Wedyn fe wnaethon nifeddwl am ansoddeiriau eraill. Cerys, athrawes, ysgol gynradd (Cymru)
13
Sylwadau homoffobaidd gan athrawonMae bron i un ymhob pump o bobl ifanc hoyw (17 y cant) yn dweud bod athrawon yn gwneud
sylwadau homoffobaidd yn yr ysgol. Pan fydd athrawon yn defnyddio iaith homoffobaidd, maen
nhw’n fodelau rôl i’r ymddygiad yma ymhlith pobl ifanc, gan wneud iddyn nhw feddwl ei bod hi
hefyd yn dderbyniol iddyn nhw ddefnyddio ymadroddion fel ‘mae hynna mor hoyw’ neu ‘ti mor gay’.
‘Chawson ni erioed hyfforddiant’
Y rhwystr pennaf rhag taclo iaith homoffobaidd yw diffyg hyfforddiant a chefnogaeth. Mae’r rhan
fwyaf o athrawon eisiau herio iaith homoffobaidd ond dydyn nhw ddim yn hyderus i wneud hynny.
Mae mwy na naw ymhob deg (94 y cant) o athrawon cynradd ac uwchradd yn dweud nad ydyn nhw
ddim wedi cael unrhyw hyfforddiant penodol ar daclo iaith a bwlio homoffobaidd. Mae rhai
athrawon hefyd yn dweud wrthon ni nad oes cefnogaeth gan arweinwyr ysgol iddyn nhw daclo iaith
homoffobaidd. Dim ond dau ymhob pump o athrawon uwchradd a llai na hanner yr athrawon
cynradd (46 y cant) sy’n dweud bod pennaeth yr ysgol yn dangos arweiniad eglur o ran taclo
homoffobia. Dim ond chwarter sy’n dweud hynny am eu llywodraethwyr ysgol.
‘‘‘‘Rwy’n clywed athrawon yn defnyddio’r gair ‘gay’ mewn ffordd negyddolbron cymaint â myfyrwyr. Zoe, 14, ysgol breswyl (gogledd-ddwyrain Lloegr)
Dydy athrawon ddim yn gwneud dim byd am y peth; mae hyd yn oedathrawon wedi dweud bod rhywbeth yn ‘gay’.Summer, 13, ysgol uwchradd breifat (dwyrain canolbarth Lloegr)
‘‘‘‘
Erbyn hyn mae ymadroddion fel ‘ti mor hoyw’ a ‘mae hynna mor gay’ yncael eu defnyddio’n gyffredin ymhlith disgyblion uwchradd, fel ffordd oddangos eu bod yn anhapus am rywbeth. Yn aml iawn dydy athrawon ddimyn ei herio, achos does dim hyfforddiant yn cael ei gynnig ar sut i’w daclo.Leah, athrawes, ysgol uwchradd (Swydd Efrog a Humber)
Mae angen gwneud llawer mwy o waith cyn bod homoffobia yn cael eidrin yn yr un ffordd â hiliaeth yn yr ysgol ac yn y gymuned ehangach. Siobhan, athrawes, ysgol uwchradd (Swydd Efrog a Humber)
14
5 Beth all ysgolion ei wneud– y pethau sylfaenol
Y newyddion da yw nad oes rhaid i daclo iaith homoffobaidd fod yn
anodd. Mae ysgolion ledled Prydain yn gwneud hynny’n barod, ac yn cael
canlyniadau gwych. Mae llawer o ffyrdd gwahanol o fynd ati i daclo iaith
homoffobaidd, ond y peth pwysicaf yw rhoi’r polisïau a’r prosesau ar
waith fel sylfaen i’ch gwaith. Mae’r gwaith mwy cyffrous yn dod wedyn.
Mae cael y pethau sylfaenol yn iawn yn lleihau’r tebygolrwydd y bydd
problemau’n codi, a bydd yn gwneud i athrawon a rhieni deimlo’n
llawer mwy hyderus ynghylch yr hyn mae’r ysgol yn ei wneud.
Polisi ysgol
Y ffordd orau o ddechrau taclo’r broblem yw creu polisi ysgol sy’n
datgan yn eglur bod iaith homoffobaidd yn annerbyniol ac na fydd yr un
aelod o gymuned yr ysgol yn dioddef iaith o’r fath – yn fyfyrwyr, yn
staff nac yn rhieni. Mae hyn yn amlinellu disgwyliad eglur gan yr ysgol
na fydd iaith homoffobaidd yn cael ei defnyddio ac nad yw’n
dderbyniol. Mae hefyd yn golygu y bydd staff yn teimlo’n hyderus
ynghylch safbwynt yr ysgol, a pha gamau maen nhw’n gallu eu cymryd,
ac y dylen nhw eu cymryd, pan fyddan nhw’n clywed iaith
homoffobaidd, ac wrth ymdrin â rhieni neu bobl eraill sy’n codi
pryderon.
Ychydig o werth sydd i bolisi ysgol nad oes neb yn gwybod amdano.
Gwnewch yn siŵr bod y polisi yn cael ei hyrwyddo ledled cymuned
gyfan yr ysgol, er enghraifft mewn cytundebau cartref ysgol, mewn
gwasanaethau, ar wefannau’r ysgol, mewn ystafelloedd dosbarth ac yn
y coridorau, ac yn y nosweithiau rhieni. Ni fydd esgus wedyn i’ch
disgyblion ddefnyddio iaith homoffobaidd ac mae rhieni yn fwy tebygol
15
o ymwneud â’r polisi a’i gefnogi hefyd. Rydyn ni i gyd yn gwybod bod
disgyblion yn aml iawn yn dysgu iaith homoffobaidd y tu allan i glwydi’r
ysgol. Os gallwch chi ddenu rhieni i’ch helpu chi i herio iaith
homoffobaidd, rydych chi’n llawer mwy tebygol o fod yn llwyddiannus
yn cael gwared arno yn llwyr.
Y polisïau gorau yw’r rhai sydd wedi eu llunio gan gymuned gyfan yr
ysgol. Dylech gynnwys disgyblion a rhieni wrth benderfynu ar eiriad
eich polisi, a chynnwys llywodraethwyr hefyd. Yn fwy na dim, byddwch
yn eglur ei fod yn rhywbeth mae’r ysgol gyfan yn ei gymryd o ddifrif, ac
yn arbennig felly arweinwyr yr ysgol.
Mae dwy reol syml y mae ysgolion yn eu defnyddio’n aml er mwyn
taclo iaith homoffobaidd a iaith ragfarnllyd arall:
Yn ymarferolYng nghyngor Caerfaddon a Gogledd-ddwyrain Gwlad yr Haf polisi’r ysgol yw’r sylfaen o ran
taclo iaith homoffobaidd. Mae ganddynt Grŵp Llywio Herio Homoffobia gweithgar, sy’n
cynnwys pobl ifanc. Yma gellir trafod gwahanol bolisïau a’u hyrwyddo mewn partneriaeth â’r
Grŵp Strategaeth Gwrth-Fwlio. Mae hyn yn golygu bod gwaith o ran archwilio a herio iaith
homoffobaidd yn cael ei rannu a’i hyrwyddo ledled yr adran Gwasanaethau Plant, gyda
gwaith penodol ar ddatblygu polisi.
1 Mae geiriau mae pobl yn eu defnyddio (neu y gallai pobl eu defnyddio) i ddisgrifio’u hunain
yn dderbyniol (e.e. hoyw, lesbiaidd, deurywiol, merch, du).
2 Mae geiriau neu ymadroddion sy’n awgrymu’n anghywir bod rhywun yn aelod o grŵp a/neu
sy’n cyfeirio at y grŵp penodol hwnnw mewn ffordd ddifrïol yn annerbyniol (e.e. faggot,
mae hynna mor hoyw, ti mor gay).
Weithiau bydd ysgolion yn pryderu y bydd rhieni yn cwyno ynghylch gwaith i daclo iaith
homoffobaidd. Fodd bynnag, y gwir amdani yw bod mwyafrif llethol y rhieni eisiau i’w plant
ddysgu mewn amgylchedd lle gallan nhw gyrraedd eu llawn botensial. Dangosodd arolwg
YouGov ar ran Stonewall bod 93 y cant o rieni a 92 y cant o bobl â ffydd yn credu y dylid
taclo bwlio homoffobaidd yn yr ysgol.
16
Hyfforddi staff
Gall herio iaith homoffobaidd ymddangos fel rhywbeth brawychus, yn
enwedig i staff sydd heb gael hyfforddiant ynghylch sut i fynd ati. Bydd
hyfforddiant yn gwneud i staff deimlo’n fwy hyderus i daclo iaith
homoffobaidd, a bydd hefyd yn eu helpu i wneud y gwaith yma yn fwy
effeithiol.
Cyn hyfforddi
Mae hyfforddiant yn fwyaf effeithiol pan fydd yn targedu’r problemau
penodol sydd yn yr ysgol. Y ffordd orau o wneud yn siŵr bod hyn yn
digwydd yw bod ysgolion yn ceisio ateb y cwestiynau canlynol cyn
gwneud sesiwn hyfforddi:
Pan fydd hi’n amlwg beth yw’r prif broblemau yn yr ysgol, gallwch
ddefnyddio hyn i gynllunio sesiwn.
Yn ymarferolMae data wedi chwarae rhan pwysig yng ngwaith gwrth-homoffobia yn Swydd Hertford.
Gwnaeth Herts for Learning Ltd., cwmni sy’n darparu addysgu, dysgu, arweiniaeth a chymorth
busnes i ysgolion ac yng ngosodiadau addysg, rhedeg arolwg efo 18 ysgol wirfoddol a chanfod
bod 40 y cant o ddisgyblion cynradd ac 85 y cant o ddisgyblion cyfun wedi defnyddio ‘gay’ naill
ai i achosi briw neu i olygu fod rhywbeth yn wael. Arweiniodd y canlyniadau yma at
hyfforddiant staff gan Herts for Learning, er mwyn sicrhau cysondeb yn yr ymateb i iaith
homoffobig. Rhoddwyd yr hyfforddiant helaeth yma i’r holl staff, yn cynnwys staff cefnogol.
Awgrym: Mae arolwg staff (a/neu arolwg disgyblion) di-enw byr yn ffordd gyflym ac effeithiol o
ddysgu’r wybodaeth hon
1 Pa fath o iaith homoffobaidd sy’n cael ei defnyddio, pa mor aml, a phwy sy’n ei
defnyddio?
2 Pa mor aml mae athrawon ac aelodau eraill o staff yr ysgol yn ymyrryd? Pa gamau
maen nhw’n eu cymryd?
3 Pa mor hyderus yw athrawon ac aelodau eraill o staff i ymyrryd?
4 Pam nad yw staff yn ymyrryd bob amser?
17
Dathlu gwahaniaeth –Herio homoffobia mewnysgolion cynradd
Allan Ag E – canllaw iathrawon ysgolionuwchradd
SPELL ITOUT tackling homophobia
in our schools
Darparu hyfforddiant
Does dim rhaid i hyfforddiant fod yn broses sy’n mynd ag amser. Mae’n
gwbl bosibl cynllunio sesiynau mor fyr â 30 munud, ac mae digon o
adnoddau’n bodoli i helpu. Mae Stonewall wedi datblygu DVDs hyfforddi
athrawon ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd, yn ogystal ag
astudiaethau achos a gweithgareddau chwarae rôl. Gall ysgolion lleol hefyd
weithio gyda’i gilydd i gynnig hyfforddiant. Mae cynnwys arweinwyr yr
ysgol yn yr hyfforddiant, o leiaf ar gyfer rhan o’r sesiwn, yn cyfleu’r neges
bod taclo iaith homoffobaidd yn rhywbeth mae’r uwch reolwyr yn ei
ystyried yn flaenoriaeth.
Mae ysgolion sydd wedi darparu hyfforddiant yn dweud wrth Stonewall
bod hyn wedi cael effaith uniongyrchol a chadarnhaol ar ddefnydd o
iaith homoffobaidd yn yr ysgol.
Gwerthuso a chamau dilynolGwerthuswch a yw’r staff yn teimlo’n fwy hyderus i daclo iaith
homoffobaidd yn dilyn yr hyfforddiant. Y ffordd hawsaf o wneud hyn yw
drwy holiadur dilynol. Mae’n annhebygol y bydd staff yn teimlo’n gwbl
hyderus ar ôl un sesiwn hyfforddi. Bydd gwerthuso hefyd yn helpu’r
ysgol i benderfynu pa hyfforddiant dilynol fydd ei angen o bosibl.
Yn ymarferolMae’r holl staff yn Ymddiriedolaeth Academi Perry Beeches yn
Birmingham wedi cael eu hyfforddi i adnabod iaith homoffobaidd
a’i herio. Mae’r Uwch Bennaeth wedi bod yn rhan o’r gwaith o
ddarparu’r hyfforddiant er mwyn gwneud yn eglur bod taclo iaith
homoffobaidd yn flaenoriaeth allweddol i ysgolion Perry Beeches.
Yn ymarferolDarparodd Ysgol Gynradd Dalmain, Lewisham hyfforddiant holl staff ar ddechrau’r
flwyddyn ysgol. Sylweddolodd y staff yn gyflym iawn bwysigrwydd taclo iaith
homoffobaidd. Ers i’r staff roi’r hyfforddiant ar waith, mae nifer yr achosion o iaith
homoffobaidd wedi disgyn yn sylweddol. I Dalmain, roedd dim ond dod â’r mater i flaen
meddwl y staff a’r disgyblion yn allweddol o ran taclo iaith homoffobaidd.
18
Mynd i’r afael â’r iaith bob tro mae’n digwyddWrth fynd i’r afael â iaith homoffobaidd mae cysondeb yn allweddol. Yr
ysgolion sydd wedi bod fwyaf effeithiol wrth herio iaith homoffobaidd
yw’r rhai sy’n mabwysiadu polisi dim goddefgarwch. Mae hyn yn golygu
bod pob aelod o staff, gan gynnwys y staff nad ydyn nhw’n addysgu, yn
herio iaith homoffobaidd pryd bynnag y bydd yn digwydd. Dylai staff
gyfeirio’n ôl at bolisi gwrth-fwlio’r ysgol, esbonio pam fod yr iaith yn
homoffobaidd, yr effaith mae’n ei chael ar bobl ifanc hoyw, a beth fydd
y canlyniadau i rai sy’n torri’r rheolau fwy nag unwaith. Dylai hyn
adlewyrchu gweithdrefnau’r ysgol ar gyfer ymdrin â sylwadau hiliol neu
rywiaethol.
Yn ymarferolCyn gwneud hyfforddiant, cwblhaodd disgyblion a staff yn Ysgol Alfred Salter, Southwark
holiadur cydraddoldeb. Dangosodd yr holiadur:
• Bod 75 y cant o’r disgyblion yn clywed bwlio/iaith homoffobaidd yn ddyddiol
• Bod 65 y cant o’r staff yn credu nad oedd defnyddio ‘gay’ i olygu rhywbeth gwael yn
homoffobaidd
• Nad oedd dim un aelod o staff wedi cael hyfforddiant i’w galluogi i gefnogi disgyblion
lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol (LHDT) nac i daclo homoffobia
Newidiodd yr ystadegau hyn yn gyflym yn dilyn hyfforddiant holl staff, ac erbyn hyn mae’r
ysgol yn Hyrwyddwr Ysgolion Cynradd, yn cynnig hyfforddiant bob tymor.
Mae seminarau Hyfforddi’r Hyfforddwyr Stonewall yn rhoi’r offer a'r sgiliau sydd eu hangen i
staff i hyfforddi gweddill eu staff ynghylch taclo bwlio a iaith homoffobaidd. Mae’n gyfle gwych
hefyd i rannu arferion gorau ac i ddysgu sut mae ysgolion eraill yn taclo iaith homoffobaidd yn
eu hystafelloedd dosbarth. Mae 100 y cant o’r rhai sy’n cymryd rhan yn yr hyfforddiant yn
dweud eu bod yn teimlo’n fwy hyderus i daclo homoffobia yn eu hysgol o ganlyniad i fynd ar y
cwrs. Mae’r seminarau hefyd yn rhoi cyfle i’r rhai sy’n cymryd rhan ddatblygu cynllun
gweithredu unigol ar gyfer eu hysgol ac i roi aelodaeth o raglen Hyrwyddwyr Ysgolion i’w
hysgol. I ddysgu rhagor, ewch i www.stonewallcymru.org.uk/hyrwyddwyrysgolion
19
‘‘Fe wnaeth un bachgen gyfeirio at fachgen arall fel ‘gay’, ac fe gafodd eiherio yn syth o flaen y dosbarth cyfan. Ei ateb oedd mai ‘hapus’ oedd e’nfeddwl, ond pan wnaeth e yr un peth eto, cafodd ei herio unwaith eto. Bu’nrhaid iddo ysgrifennu llythyr o ymddiheuriad ac fe gafodd wybod bod ydosbarth cyfan yn meddwl bod yr ymddygiad yn annerbyniol. Tracey, athrawes, ysgol gynradd (gogledd-orllewin Lloegr)
‘‘Fe glywais i un disgybl yn dweud wrth ei ffrind, ‘paid â dweud ‘mae hynnamor hoyw’ o flaen Mrs Brown, mae hi’n gwylltio’. Y broblem yw, fyddennhw ddim yn dweud hynny am bob athrawes. Sandra, 17, academi uwchradd (gorllewin canolbarth Lloegr)
Yn ymarferolYn Ysgol Uwchradd Cannock Chase, Swydd Stafford, caiff iaith homoffobaidd ei herio bob
tro, yn dawel ac yn sensitif yn y man cyntaf, ond mae modd ymdrin â’r mater yn fwy
llawdrwm os bydd angen. Mae hyn yr un peth â phob ffurf arall ar iaith ragfarnllyd, ac mae
gan yr ysgol bolisi dim goddefgarwch tuag atynt.
Fydd disgyblion ddim ond yn stopio defnyddio iaith homoffobaidd pan
fydd iaith o’r fath yn cael ei herio yn gyson a phan fo disgyblion yn
sylweddoli y byddan nhw’n wynebu canlyniadau go iawn am ei
defnyddio. Mae rhai athrawon yn dweud wrth Stonewall bod taclo iaith
homoffobaidd yn rhywbeth sy’n cael ei adael iddyn nhw fel athrawon
unigol neu’n cael ei weld fel eu cyfrifoldeb nhw. Ddylai hyn ddim bod;
mae’n creu risg gwirioneddol y bydd disgyblion yn osgoi defnyddio iaith
homoffobaidd o flaen yr athro penodol hwnnw, ond yn parhau i’w
defnyddio yn fwy cyffredinol.
Os yw staff yn amharod i herio iaith homoffobaidd yn gyson, atgoffwch
nhw nad ymarferiad ticio blychau yw hyn. Mae iaith homoffobaidd yn
cael effaith wirioneddol ar les pobl ifanc hoyw a phawb yn yr ysgol.
20
Mae cofnodi sut, pryd a ble y digwyddodd pob achos o iaith homoffobaidd
a pha gamau a gymerwyd o ganlyniad yn caniatáu i ysgolion weld
tueddiadau a mannau lle mae iaith homoffobaidd yn broblem. Mae hefyd
yn helpu i sicrhau bod pob achos yn cael ei drin yn yr un ffordd. Er
enghraifft, os bydd un criw o ffrindiau yn defnyddio iaith homoffobaidd yn
barhaus, efallai y bydd angen cyfarfod gyda rhieni. Os bydd achosion yn
digwydd ar draws blwyddyn gyfan, dylid trefnu gwasanaeth penodol i
ymdrin â’r peth. Ar y llaw arall, os oes iaith homoffobaidd i’w chlywed
ledled yr ysgol gyfan, efallai ei bod yn amser adolygu polisi’r ysgol neu
sicrhau bod athrawon yn teimlo’n ddigon hyderus i daclo’r peth.
Mae rhai staff yn poeni am herio iaith homoffobaidd gan y bydd wedyn
yn mynd ar gofnod ysgol disgybl. Fodd bynnag, mae modd gwneud yr
adrodd a’r cofnodi yn ddi-enw. Dim ond cyfres o sawl achos sy’n gorfod
mynd ar gofnod disgybl.
Yn ymarferolMae gan Ffederasiwn Cynradd Best Start, Hackney gronfa ddata ar-lein sy’n cofnodi ac yn
dal pob digwyddiad homoffobaidd. Mae’n cofnodi disgrifiadau manwl o bob achos, sy’n
golygu y gallan nhw edrych ar ddigwyddiadau fesul achos, neu asesu natur homoffobia yn ei
gyfanrwydd yn eu hysgolion cynradd.
Yn ymarferolMae Ysgol Gynradd Dalmain wedi cychwyn Llyfr Cydraddoldeb lle caiff bwlio sy’n
gysylltiedig â rhagfarn ei gofnodi. Caiff natur y bwlio ei gofnodi ac mae’r mentor dysgu yn
mynd ar ôl pob digwyddiad yn ddiweddarach.
Adrodd a chofnodi
‘‘Pan fydd athrawon yn clywed sylwadau gwrth-hoyw yn cael eu gwneudmaen nhw’n herio’r peth ar unwaith, yn cofnodi’r mater ac yn rhoi sylw iddo.Maen nhw hefyd yn cadw pobl i mewn. Juliet, 13, ysgol uwchradd breifat (de-ddwyrain Lloegr)
21
Yn ymarferolNod ymgyrch ZeeTee Cyngor Sir Wiltshire yw taclo iaith homoffobaidd. Mae’r ymgyrch wedi
creu fideo byr o bobl ifanc yn esbonio pam na ddylid defnyddio ‘gay’ i olygu rhywbeth
gwael. Mae’r fideo’n defnyddio enghreifftiau fel ‘gay trousers’ (hynny yw, dydy pobl hoyw
ddim yn edrych yn dda) a ‘gay bottom maths set’ (hynny yw, mae pobl hoyw yn ddwl) er
mwyn dangos pam fod defnyddio’r gair mewn ffordd negyddol yn annerbyniol.
Yn ymarferolCyflwynodd Ysgol Gynradd Holbrook yn Wiltshire bolisi dim goddefgarwch o iaith
homoffobaidd. Er bod defnydd o iaith o’r fath wedi lleihau, roedd y gair ‘gay’ wedi parhau i
fod yn drymlwythog. Daeth hyn yn eglur pan soniodd bachgen chwe blwydd oed fod ei
ewythr yn hoyw. ‘Alli di ddim dweud hynna!’ meddai ei gyd-ddisgyblion ar unwaith. Daeth
yn amlwg bod eu gwaith wedi cael effaith anfwriadol, sef awgrymu na ddylai’r gair ‘gay’
byth gael ei ddefnyddio. Sylweddolodd yr ysgol bod angen gwaith mwy cyffredinol er mwyn
esbonio ystyr y gair yn ei gyd-destun cywir.
Esbonio iaith
Mae gwahardd geiriau neu ymadroddion penodol yn gallu ymddangos fel y ffordd hawsaf o daclo
iaith homoffobaidd. Fodd bynnag, nid dyma’r dull gorau yn aml iawn – rydyn ni i gyd yn gwybod,
unwaith y byddwch chi’n dweud wrth rywun ifanc am beidio dweud rhywbeth, bydd am ei ddweud
o hyd! Mae llawer o ddisgyblion sy’n defnyddio iaith homoffobaidd yn gwneud hynny heb sylweddoli
eu bod nhw’n bod yn homoffobaidd ac yn brifo pobl hoyw, a byddan nhw’n stopio unwaith iddyn
nhw sylweddoli hynny. Esboniwch wrth ddisgyblion: wrth ddefnyddio’r gair ‘hoyw’ neu ‘gay’ mewn
ffordd negyddol i olygu rhywbeth gwael, maen nhw’n gwneud i bobl hoyw a phobl sydd â ffrindiau
neu deulu hoyw, deimlo’n wael amdanyn nhw eu hunain. Mae siarad am sylwadau hiliol neu
rywiaethol cyfatebol yn aml yn helpu pobl ifanc i ddeall pam fod iaith homoffobaidd yn annerbyniol.
Mae gwahardd iaith homoffobaidd heb esbonio pam yn gallu cael effeithiau anfwriadol. Mae
disgyblion yn dechrau meddwl bod y gair yn tabŵ a bod y gair ‘gay’ yn golygu rhywbeth gwael, ac
nad oes modd trafod unrhyw beth i’w wneud â phobl hoyw, rhywbeth a allai annog agweddau
homoffobaidd. Mae esbonio ystyr go iawn y gair ‘gay’ yn helpu i sicrhau na fydd hyn yn digwydd.
‘‘Fe wnes i siarad yn agored ac yn onest gyda’r plant am ystyr ‘bod yn hoyw’mewn gwirionedd, a thrafod pam nad oedd yn beth neis iawn nac ynberthnasol i’w ddefnyddio fel sarhad. Nikky, ysgol gynradd (gogledd-orllewin Lloegr)
22
Beth all ysgolion ei wneud– cynnwys pobl ifanc6Yr ysgolion sydd fwyaf effeithiol yn herio bwlio homoffobaidd yw’r rhai
sy’n mynd ati i gynnwys pobl ifanc yn eu gwaith. Os bydd pobl ifanc yn
dechrau hunan-blismona o ran defnyddio iaith homoffobaidd, mae’n
golygu bod achosion yn fwy tebygol o gael eu herio yn yr ysgol a thu
allan i glwydi’r ysgol.
Posteri ‘Hoyw, Deliwch â’r Peth’
Un o’r ffyrdd gorau o daclo iaith homoffobaidd yw gwneud i bobl ifanc
fyfyrio sut maen nhw’n defnyddio’r gair. Nod posteri ‘Hoyw, Deliwch â’r
Peth’ Stonewall Cymru yw gwneud hynny. Mae’r posteri yn mynd ati i
herio tybiaethau myfyrwyr bod defnyddio iaith homoffobaidd yn iawn
neu’n cŵl, ac yn annog pobl ifanc i feddwl pam maen nhw’n
defnyddio’r gair ‘gay’ yn y ffordd maen nhw.
Gall ysgolion ddefnyddio’r posteri mewn sawl ffordd. Un o’r ffyrdd
hawsaf yw codi’r posteri o gwmpas yr ysgol, yn y coridorau a’r
23
ystafelloedd dosbarth, a gadael i bobl ifanc gael eu trafodaethau eu
hunain amdanyn nhw. Ar ôl eu harddangos fel hyn, mae modd trefnu
gwasanaethau neu wersi i weld beth mae pobl ifanc yn ei feddwl am y
posteri, gan greu gofod ar gyfer trafodaeth ehangach am ddefnydd o
iaith homoffobaidd. Gweithgaredd dilynol arall fyddai annog pobl ifanc i
feddwl am eu sloganau eu hunain. Mae modd dangos y sloganau hyn
ochr yn ochr â phosteri Stonewall Cymru; mae disgyblion yn fwy
tebygol o deimlo cysylltiad â deunyddiau sydd wedi eu hysgrifennu gan
eu cyd-ddisgyblion ac yn eu llais eu hunain.
Os oes rhywun yn rhoi graffiti dros y posteri, dylid eu tynnu lawr a
chodi rhai eraill yn eu lle, ond mae posteri â graffiti drostyn nhw hefyd
yn fan cychwyn delfrydol ar gyfer trafodaeth am iaith homoffobaidd, ac
yn gyfle i atgoffa disgyblion am y rheolau sylfaenol.
‘‘Eleni fe wnaeth athro Saesneg newydd ymuno, sy’n hoyw dw i’n credu, acmae gyda fe boster Stonewall yn ei ystafell sy’n dweud ‘Mae Rhai Pobl ynHoyw, Deliwch â’r Peth’. Dw i ddim yn gwneud Saesneg, ond dw i’n gwybodachos dw i’n mynd i’r gymdeithas ddadlau, a fe sy’n rhedeg honno. Mae jystgweld y poster yn ei ystafell yn cŵl, yn enwedig mewn ysgol lle does nebbyth yn siarad am y peth, a neb byth yn trafod y peth. Mae gweld y posteryn ei ystafell yn cŵl iawn – mae’n brin, ond mae’n braf ei weld. Mike, 17
24
Yn ymarferolDefnyddiodd Ysgol Uwchradd Madeley, Crewe wasanaeth er mwyn mynd i’r afael â iaith
homoffobaidd. Fe wnaethon nhw’n siŵr eu bod nhw’n ymdrin â’r mater mewn ffordd
gadarnhaol, gan chwarae cân Tom Robinson ‘Glad to be Gay’ ar gychwyn y gwasanaeth.
Wedi hynny cafwyd ystadegau, fideo byr, lluniau ac enghreifftiau o’r mathau o iaith sy’n
annerbyniol yn yr ysgol, a chyflwynwyd y neges mewn ffordd gadarn.
Yn ymarferolAddasodd Ysgol Rokeby yn Newham grysau-T
‘Mae Rhai Pobl yn Hoyw. Deliwch â’r Peth’
Stonewall ar gyfer Mis Hanes LHDT i amrywiaeth o
nodweddion gan gynnwys ‘Mae Rhai Pobl yn
Ddu’, ‘Mae Rhai Pobl yn Asiaidd’ a ‘Mae Rhai Pobl
yn Fyr’ er mwyn dangos bod gwahaniaethu yn gallu effeithio ar bawb, ac i ddangos
pwysigrwydd dathlu gwahaniaeth a pheidio â defnyddio iaith ragfarnllyd.
Digwyddiadau, gwasanaethau a gwersi
Mae gwneud iaith homoffobaidd yn ganolbwynt digwyddiadau grŵp blwyddyn neu ysgol gyfan
fel gwasanaethau yn sicrhau bod yr holl ddisgyblion yn gwybod am bolisi’r ysgol. Mae modd
defnyddio gwasanaethau hefyd i roi sylw i fater penodol sydd wedi codi yn yr ysgol, ac mae’n
gyfle i gysylltu gwaith taclo iaith homoffobaidd â gwaith ehangach yr ysgol ar gynwysoldeb.
Gallech gynnwys iaith homoffobaidd, er enghraifft, mewn gwasanaeth am ymddygiad sy’n
annerbyniol yn yr ysgol.
Mae dyddiadau penodol fel Mis Hanes LHDT, wythnos gwrth-fwlio, Diwrnod Rhyngwladol yn
Erbyn Homoffobia a Thrawsffobia (IDAHOT) neu ddiwrnodau amrywiaeth ysgol gyfan yn gyfle i
ganolbwyntio ar iaith homoffobaidd. Mae rhai o’r ysgolion gorau, er enghraifft, wedi gofyn i
ddisgyblion greu cyflwyniadau, gweithgareddau chwarae rôl, posteri neu ffilmiau yn dangos pam
fod iaith homoffobaidd yn annerbyniol.
25
Yn ymarferolCanolbwyntiodd Ysgol Uwchradd Southend i Ferched yn Essex ar
fwlio homoffobaidd ar gyfer wythnos gwrth-fwlio. Fe wnaethon
nhw greu cyflwyniad yn canolbwyntio’n benodol ar iaith, a oedd yn
rhoi sylw i ddefnydd o’r termau pwff, hoyw a queer, yn ogystal â
chymharu’r ymadrodd ‘ti mor gay’ gydag ymadroddion fel ‘ti mor
Gristnogol/du/anabl’. Fe wnaeth hyn i’r disgyblion feddwl am yr
iaith maen nhw’n ei defnyddio.
Mae gan ffilm nodwedd Stonewall ar gyfer myfyrwyr, sef FIT, bennod
arbennig o’r enw ‘Karmel’s story’, sy’n edrych ar effaith iaith
homoffobaidd, ac yn benodol yr ymadrodd ‘that’s so gay’. Mae modd
dangos y bennod 15 munud hon i bobl ifanc a chael trafodaeth yn y
dosbarth wedyn sy’n annog disgyblion i feddwl pam fod Karmel yn
teimlo mor anhapus pan mae’n clywed rhywun yn dweud ‘that’s so gay’.
26
YmgyrchoeddYn aml iawn mae ysgolion yn gweld, wrth weithio i daclo iaith
homoffobaidd, bod disgyblion hoyw a syth eisiau cymryd rhan i geisio
helpu. Mae annog pobl ifanc i redeg eu hymgyrchoedd eu hunain yn
erbyn iaith homoffobaidd yn ffordd hwyliog ac effeithiol o gynnwys
disgyblion. Mae canllaw Gay, Deliwch â’r Peth! Stonewall Cymru yn
dangos effaith iaith homoffobaidd i bobl ifanc, yn eu paratoi nhw i herio
cyd-ddisgyblion pan fyddan nhw’n defnyddio ‘gay’ mewn ffordd
homoffobaidd, ac yn rhoi rhai syniadau iddyn nhw ynghylch rhedeg eu
hymgyrchoedd eu hunain yn yr ysgol.
Yn ymarferolMae holl ysgolion Perry Beeches yn cydnabod ac yn dathlu pob gŵyl,
a hynny heb eithrio materion hoyw. Bob mis Tachwedd mae’r holl
fyfyrwyr yn gweithio ar arddangosfeydd, trafodaethau, gwersi a
gwasanaethau sy’n ymwneud â iaith homoffobaidd a bwlio. Caiff
delweddau cadarnhaol o bobl hoyw eu rhannu o gwmpas yr ysgol, ac
mae modelau rôl cadarnhaol yn cael cefnogaeth i fod ‘allan’ ac i rannu
eu profiadau, gan gynnwys myfyrwyr, staff ac ymwelwyr â’r ysgol.
Ddylai cynnwys disgyblion ddim bod yn rhywbeth sydd wedi’i gyfyngu i
ddyddiau neu wersi penodol. Mae modd taclo iaith homoffobaidd ar
draws y cwricwlwm. Mewn gwersi Cymraeg neu Saesneg, gallwch
drafod gyda disgyblion sut mae iaith homoffobaidd yn cael ei defnyddio
yn y cyfryngau. Mewn gwersi Hanes, gallwch edrych sut mae ystyr y
gair hoyw/gay wedi newid dros amser. Gallwch hyd yn oed ddefnyddio
ystadegau ar iaith homoffobaidd sydd yn yr Adroddiad Ysgol fel rhan o
wers Mathemateg, neu annog disgyblion i fonitro iaith homoffobaidd ar
gyfer prosiect ystadegau.
27
‘‘‘Dydy e ddim yn digwydd yn aml, ond bob tro dw i’n clywed y gair ‘gay’ yncael ei ddefnyddio mewn ffordd negyddol, dw i’n herio’r peth. Maeathrawon yn cywiro myfyrwyr bob tro hefyd. Anaml dw i wedi clywed nebyn dweud ‘poof’, ‘queer’ na ‘faggot’ yma, os erioed. Paul, 16, coleg chweched dosbarth (de-orllewin Lloegr).
Mae canllaw Ymgyrch Ieuenctid Stonewall yn cynnig ffyrdd eraill i
ddisgyblion gychwyn taclo iaith homoffobaidd eu hunain, gan gynnwys
creu ffilmiau, ymgyrchoedd poster, cynnal trafodaethau a gwneud
cyflwyniadau a chynnal gweithdai neu wasanaethau ar gyfer eu cyd-
ddisgyblion. Mae gweithdai wedi’u harwain gan ddisgyblion yn rhoi
cyfle i ddisgyblion, ac yn enwedig disgyblion hoyw neu rai sydd â
ffrindiau neu deulu hoyw, drafod sut mae iaith homoffobaidd yn
effeithio arnyn nhw. Yn rhai o’r ysgolion gorau, mae disgyblion wedi
darparu gweithdai neu hyfforddiant ar gyfer athrawon yn esbonio pam
a sut y dylen nhw daclo iaith homoffobaidd.
Mae rhaglen Gwirfoddoli Ieuenctid Stonewall Cymru yn ffordd arall y
gall disgyblion ddysgu sut i redeg ymgyrchoedd er mwyn taclo bwlio
homoffobaidd. Caiff disgyblion eu hyfforddi gan Stonewall dros
benwythnos preswyl ynghylch sut i gynnal gweithdai a chyflwyniadau yn
eu hysgolion, ac maent yn cael cefnogaeth a chyngor drwy gydol eu
hymgyrch. I ddysgu rhagor am y rhaglen ewch i
www.youngstonewall.org.uk.
Mae ysgolion wedi gweld hefyd bod cynnwys grwpiau ieuenctid
lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol (LHDT) yn ffordd wych o
gyfleu’r neges i ddisgyblion, gan ganiatáu iddyn nhw glywed gan bobl
ifanc eraill y tu allan i gymuned yr ysgol sy’n aml yn teimlo’n fwy
cyfforddus yn rhannu eu profiadau.
28
Ymrwymiadau
Wrth gwrs, fydd pob disgybl ddim am redeg ymgyrch. Fodd bynnag, dylai
ysgolion geisio canfod ffordd o gynnwys pob disgybl yn y gwaith, er
enghraifft creu siarter iaith ysgol neu ymrwymiad i ddisgyblion ymrwymo
iddo. Gall yr ymrwymiad fod yn rhywbeth mor syml â ‘Wna i ddim
defnyddio iaith homoffobaidd’, neu ‘mae hoyw yn air cadarnhaol, ac fe
Yn ymarferolDefnyddiodd ymgyrch ZeeTee Wiltshire ffilm ‘chwalu’r mythau’ i
esbonio pam fod iaith homoffobaidd yn annerbyniol. Grŵp
ieuenctid wnaeth y ffilm, a oedd yn dangos pobl ifanc yn siarad yn
onest am y ffordd roedd iaith homoffobaidd yn effeithio arnyn nhw.
Cafodd y ffilm ei dangos mewn gwasanaethau mewn ysgolion
uwchradd ledled Wiltshire, ac mae wedi bod yn elfen bwerus o
ymgyrch ZeeTee. Cafodd bathodynnau ZeeTee, yn dathlu polisi dim
goddefgarwch o iaith homoffobaidd, eu dosbarthu yn y
gwasanaethau hefyd. Roedd y rhain yn cynnwys manylion y grŵp
ieuenctid, ffordd bellach o gynnwys pobl ifanc.
Mae Rhai Pobl yn Hoyw. Deliwch â’r Peth!
Yn ogystal â’n posteri am iaith homoffobaidd, gall ysgolion hefyd
ddangos ein posteri ‘Mae Rhai Pobl yn Hoyw. Deliwch â’r Peth’ o
gwmpas yr ysgol. Mae’r posteri yma ar gael yn Gymraeg, yn Saesneg,
mewn sawl iaith fodern ac yn Lladin.
29
Yn ymarferolYn Wiltshire, ar ôl gwylio fideo byr, bydd disgyblion yn cael cyfle i gefnogi ymgyrch ZeeTee
(dim goddefgarwch o iaith homoffobaidd) drwy lofnodi Ymrwymiad ZeeTee. Wedyn
byddan nhw’n cael breichled neu fathodyn ‘Parchu Gwahaniaeth’ am wneud hynny.
Mae ysgolion sydd â system swyddogion a/neu system cyfeillio yn
dweud mai un ffordd o annog disgyblion i blismona iaith homoffobaidd
yw rhoi cyfrifoldeb i ddisgyblion hŷn am daclo iaith homoffobaidd
ymhlith disgyblion iau yn yr ysgol.
wna i ei ddefnyddio yn gadarnhaol!’. Mae rhai ysgolion wedi mynd
ymhellach ac wedi gofyn i ddisgyblion ymrwymo i herio iaith
homoffobaidd sy’n cael ei defnyddio gan gyd-ddisgyblion ar y rhyngrwyd.
Mae llawer o ffyrdd creadigol o ddod ag ymrwymiad yn fyw, fel wal i
ddisgyblion ei llofnodi gyda neges (naill ai ar-lein neu yn yr ysgol) neu roi
bathodyn neu freichled i ddisgyblion sy’n llofnodi. Ffordd arall yw
defnyddio deiseb lle mae pob disgybl, er enghraifft yng nghyngor yr ysgol,
yn ceisio cael cymaint o’u cyd-ddisgyblion â phosibl i lofnodi. Bydd gofyn i
ddisgyblion lofnodi ar ôl gwasanaeth neu ar ôl digwyddiad am iaith
homoffobaidd yn annog rhagor o bobl ifanc i gymryd rhan.
‘‘Mae rhywun yn dweud rhywbeth bob tro. Mae’r rhan fwyaf o fyfyrwyr yncefnogi pobl hoyw, felly os na fydd athro yn dweud rhywbeth, byddmyfyriwr yn siŵr o ddweud rhywbeth. Dw i’n gwybod fy mod i wedidweud y drefn wrth bobl am y peth. Deb, 15, ysgol breswyl (Llundain Fwyaf)
30
Yn ymarferolYng Ngholeg Chwaraeon Derby Moor crëwyd canllaw i’r athrawon gan y myfyrwyr sydd yn
llysgenhadon gwrth-fwlïo yn eu hannog i herio bob defnydd o iaith homoffobaidd, yn
cynnwys enghreifftiau o eiriau a brawddegau fel ‘ti mor gay’ ac ‘mae hwnna mor gay’ yr
hoffent i’w athrawon mynd i’r afael â.
Yn ymarferolYn Ysgol Chew Valley, Bryste, y Grŵp Cynnwys Ieuenctid (YIG)
oedd yn cydlynu’r gwaith o fynd i’r afael â iaith homoffobaidd.
Mae disgyblion yn awgrymu wrth eu cyd-ddisgyblion y dylen
nhw ‘brynu geiriadur’ os byddan nhw’n clywed iaith
homoffobaidd, fel rhan o ymgyrch posteri debyg yn yr ysgol.
Erbyn hyn maen nhw’n gweithio ar hyfforddiant i staff er mwyn
taclo iaith homoffobaidd a sicrhau polisi dim goddefgarwch.
Grwpiau cydraddoldeb
Mae sefydlu grŵp cydraddoldebau, cynghrair hoyw-syth neu gyngor
ysgol sy’n cynnwys disgyblion yn ffordd o sicrhau bod polisïau yn
‘ddisgybl-gyfeillgar’. Pobl ifanc sy’n nabod eu cyd-ddisgyblion orau, a
bydd gweithio gyda nhw yn helpu ysgolion i ddysgu gwybodaeth
ddefnyddiol fel geiriau neu broblemau penodol sydd angen eu taclo.
Gall grwpiau cydraddoldeb drefnu deisebau, gorfodi polisi drwy gywiro
cyd-ddisgyblion pan fyddan nhw’n clywed iaith amhriodol, a hyd yn oed
drefnu digwyddiadau ar gyfer wythnos gwrth-fwlio a Mis Hanes LHDT.
31
Modelau rôl
Gall modelau rôl gael effaith wych ar bobl ifanc, yn enwedig o ran herio
stereoteipiau, grymuso disgyblion a phwysleisio’r neges bod iaith
homoffobaidd yn annerbyniol. Mae siarad am fodelau rôl lesbiaidd, hoyw
a deurywiol mewn gwersi, neu wahodd model rôl hoyw i’r ysgol i siarad
am iaith homoffobaidd mewn gwasanaeth, yn ffordd effeithiol o ddangos i
ddisgyblion bod defnyddio ‘gay’ yn negyddol yn sarhau pobl go iawn. Does
dim rhaid i fodelau rôl fod yn enwog; gallen nhw fod yn rhywun lesbiaidd,
hoyw neu ddeurywiol sy’n gweithio mewn busnes neu sefydliad lleol, yn
seleb neu hyd yn oed yn athro hoyw yn yr ysgol.
Gall disgyblion ac athrawon hefyd ddefnyddio modelau rôl i herio iaith
homoffobaidd a defnydd difrïol o’r gair ‘gay’. Er enghraifft, pan fydd
rhywun yn defnyddio:
Roeddwn i’n gwylio Gareth Thomas ar Big Brother ac roeddwn i’n edmyguei stori. Aaron, 15, ysgol uwchradd (gogledd-orllewin Lloegr)
Mae llond lle o bobl hoyw cŵl. Gallwch chi ddefnyddio pobl hoyw gan
gynnwys Lucy Spraggan, Derren Brown a Matthew Mitcham i ddangos
bod digon o bobl hoyw cŵl i’w cael.
Defnyddiwch enghreifftiau fel Alan Turing, y dyn wnaeth ddatrys cod
enigma yn yr Ail Ryfel Byd er mwyn rhoi mantais i’r cynghreiriaid,
neu’r bardd llawryfog Carol Ann Duffy, er mwyn dangos nad yw
dibwynt a hoyw yn golygu’r un peth.
Mae enghreifftiau fel cyn gapten rygbi Cymru ac ‘arwr y flwyddyn’
Stonewall Gareth Thomas, Chwaraewr Pêl-Fasged John Amaechi a’r
bocsiwr Orlando Cruz yn gallu dangos bod stereoteipio ar sail rhyw yn
anghywir, ac yn y cyd-destun yma, yn homoffobaidd.
Mae hynna mor hoyw –
i olygu rhywbeth sydd
ddim yn cŵl
Mae hynna mor gay –
i olygu rhywbeth
dibwynt
Mae hynna mor hoyw
– i olygu rhywbeth
merchetaidd
32
7 Beth mae’r gyfraithyn ei ddweud
Fel mae’r canllaw yma wedi ei ddangos, mae llawer o resymau da pam y
dylech daclo iaith homoffobaidd. Mae’n creu amgylchedd lle mae
disgyblion yn teimlo’n fwy hyderus i fod yn nhw eu hunain ac i ddatblygu
eu doniau, mae’n hybu hapusrwydd pobl ac mae cysylltiad eglur
rhyngddo a gwelliant yn yr ysgol. Yn ogystal, mae’r gyfraith hefyd yn
cefnogi hyn ac yn rhoi disgwyliad ar ysgolion i daclo iaith homoffobaidd.
Llywodraeth Cymru
Mae canllaw Llywodraeth Cymru Parchu Eraill: Bwlio Homoffobaidd yn
eglur bod angen i ysgolion fod yn rhagweithiol wrth daclo pob ffurf ar
fwlio, gan gynnwys bwlio homoffobaidd. Dylai ysgolion fod yn cymryd
camau i atal ymddygiad o fwlio, yn ogystal ag ymateb i achosion pan
fyddan nhw’n digwydd. Mae agwedd ataliol o ran bwlio yn golygu bod
ysgolion yn diogelu lles eu dysgwyr, rhywbeth y mae dyletswydd ar
ysgolion i’w wneud o dan Adran 175 Deddf Addysg ac Arolygiadau 2006.
Mae hefyd yn golygu bod ysgolion yn chwarae eu rhan er mwyn creu
cymdeithas lle mae pobl yn trin ei gilydd â pharch. Mae ysgolion yn
gwybod sut i atal ac ymateb i fwlio, a bydd ganddynt strategaethau ar
waith yn barod. Dylai atal bwlio homoffobaidd ac ymateb iddo fod yn
rhan o’r strategaethau hyn sy’n bodoli eisoes.
Y Ddeddf Addysg ac Arolygiadau
Mae Deddf Addysg ac Arolygiadau 2006 yn gosod dyletswydd ar gyrff
llywodraethu ysgolion yng Nghymru a Lloegr i hyrwyddo diogelwch a lles
y plant a’r bobl ifanc sydd yn eu gofal. Mae hyn yn cynnwys pobl ifanc
lesbiaidd, hoyw a deurywiol. Mae’r ffaith bod iaith homoffobaidd yn cael
effaith negyddol ar les y bobl ifanc hyn wedi ei brofi, ac yn hynny o beth,
mae cyfrifoldeb ar ysgolion i daclo’r mater.
33
Mae’r Ddeddf hefyd yn rhoi’r gallu i benaethiaid ymateb i bethau sy’n
digwydd y tu allan i oriau’r ysgol, er enghraifft ar drafnidiaeth
gyhoeddus, neu ddefnydd o iaith homoffobaidd ar y rhyngrwyd.
Estyn
Mae canllawiau arolygu Estyn yn disgwyl i waith ysgolion ym maes
bwlio, aflonyddu a gwahaniaethu gynnwys sut mae’n atal ac yn cael
gwared ar homoffobia. Bydd arolygwyr yn gwerthuso’r trefniadau ar
gyfer ymdrin â gwahaniaethu, aflonyddu a bwlio ochr yn ochr a’r
Fframwaith Arolygu Cyffredin.
Y Ddeddf Cydraddoldeb
Mae Dyletswydd Cydraddoldeb y sector cyhoeddus yn ei gwneud yn
ofynnol i bob ysgol yng Nghymru, Lloegr a’r Alban, gan gynnwys
academïau ac ysgolion rhydd, gael gwared ar wahaniaethu, hybu cyfle
cyfartal a meithrin perthnasau da. Mae penaethiaid a llywodraethwyr yn
gyfrifol am sicrhau bod eu hysgol yn bodloni’r dyletswyddau statudol
hyn. Mae taclo iaith homoffobaidd yn helpu ysgolion i fodloni’r
ddyletswydd hon.
Mae disgwyl i ysgolion gyhoeddi amcanion cydraddoldeb priodol i
oedran. Gan fod iaith homoffobaidd yn rhwystr i gyrhaeddiad disgyblion,
mae llawer o ysgolion wedi dewis ‘lleihau achosion o iaith
homoffobaidd’ fel un o’u hamcanion cydraddoldeb. Dylai fod gan
amcanion cydraddoldeb gamau gweithredu gwirioneddol sy’n caniatáu
ysgolion i fesur cynnydd.
I gael rhagor owybodaeth am DdeddfCydraddoldeb 2010,gweler dogfen StonewallSexual Orientation The Equality Act MadeSimple
34
‘Torri arferion’Ymarferiad hwyliog yw hwn, sy’n annog pobl ifanc i dorri’r arfer o ddweud ‘mae hynna mor gay’.
Trafodwch gyda disgyblion sut mae geiriau slang yn datblygu a sut mae ystyr geiriau’n gallu
newid neu fynd ar goll dros gyfnod o amser. Yna trafodwch ‘mae hynna mor gay’ a’r ffaith ein
bod ni wedi dechrau defnyddio’r ymadrodd mewn cyfnod pan oedd pobl wir yn credu bod bod
yn hoyw yn beth gwael, ac yn credu ei bod yn iawn cyfystyru bod yn hoyw â bod yn wael. Yna
trafodwch beth mae’r gair yn ei olygu, a sut mae’n effeithio ar bobl hoyw pan gaiff ei ddefnyddio
yn y ffordd anghywir.
Gofynnwch i’r disgyblion daflu syniadau ynghylch dewisiadau cadarnhaol eraill yn lle ‘mae hynna
mor gay’, ac wedyn meddwl am frawddegau cadarnhaol priodol lle gallech ddefnyddio’r gair ‘gay’.
Defnyddiwch weithgareddau chwarae rôl fel ffordd i bobl ifanc roi cynnig ar y dewisiadau eraill
maen nhw wedi meddwl amdanyn nhw. Anogwch nhw i actio sefyllfaoedd lle bydden nhw o
bosibl wedi dweud ‘mae hynna mor gay’ yn y gorffennol, ond gan ddefnyddio’r geiriau newydd
maen nhw wedi eu dewis yn lle.
Gorffennwch y wers gyda’r negeseuon allweddol y dylai’r disgyblion eu cofio: gwir ystyr y gair
‘gay’, a hoyw fel gair cadarnhaol.
Iaith homoffobaidd ar brawfMae’r ymarferiad yma yn wych ar gyfer dosbarth Cymraeg, Saesneg, y Gyfraith, Hanes neu ABCh.
Gofynnwch i ddisgyblion gymryd rhan mewn achos llys ffantasi, lle mae rhywun yn cael ei erlyn
am bostio ‘maen nhw mor gay’ o dan lun o bâr o esgidiau. Rhannwch y disgyblion yn wahanol
grwpiau – erlynydd, diffynnydd, cyfreithiwr amddiffyn, barnwr a rheithgor. Rhowch 10 munud i
bob grŵp i baratoi eu hachos, ac yna gofynnwch i’r disgyblion actio achos llys.
Dylai’r achos llys roi cyfle i’r disgyblion archwilio’r rhan fwyaf o’r rhesymau y mae dweud ‘mae
hynna mor gay’ yn annerbyniol. Gorffennwch y sesiwn drwy drafod sut mae cydbwyso’r hawl i
ryddid mynegiant yn erbyn trosedd casineb a iaith homoffobaidd.
8 Syniadau ar gyfer gwersi
35
Pwy ydw i?Mae’r ymarferiad yma yn helpu pobl i weld y byd yn ‘esgidiau pobl eraill’.
Datblygwch restr o nodweddion sy’n ein gwneud ni’n wahanol – gallai fod yn rhywun sy’n hoyw,
sydd â brawd neu chwaer hoyw, sydd â phroblemau symudedd, sydd â rhiant sengl, sydd o
gefndir lleiafrif ethnig, ac ati.
Dylech roi cymeriad gwahanol i bob disgybl, a dweud wrthyn nhw am geisio gweld y byd o’u
safbwynt nhw. Gallai disgyblion wneud gwaith byrfyfyr ac actio gwaith chwarae rôl ar sail eu
cymeriadau, neu greu straeon.
Ar y diwedd, dylai disgyblion ddod at ei gilydd i drafod y labeli, a meddwl sut y byddai pobl yn
teimlo petai un o’r nodweddion yn cael eu defnyddio yn negyddol (er enghraifft, dweud hoyw i
olygu rhywbeth gwael). Dylai disgyblion ddod i’r casgliad bod troi hunaniaeth rhywun yn
rhywbeth negyddol yn annerbyniol.
Herio iaith homoffobaiddMae’r ymarferiad yma yn helpu pobl ifanc i feddwl am ffyrdd o ymateb i iaith homoffobaidd.
Rhannwch y dosbarth yn grwpiau a rhowch weithgaredd chwarae rôl i bob grŵp lle mae rhywun
yn defnyddio’r gair ‘gay’ yn amhriodol. Er enghraifft, bydd rhywun yn dweud bod crys-t yn ‘gay’,
neu bydd rhywun yn dweud wrth eu ffrind am stopio bod yn ‘gay’. Anogwch y disgyblion i
weithio fel grŵp er mwyn penderfynu sut y bydden nhw’n ymateb a gofynnwch iddyn nhw eu
rhannu nhw gyda’i gilydd.
Gofynnwch i ddisgyblion feddwl pam nad ydyn nhw’n ymateb fel hyn fel arfer pan fydd pobl yn
defnyddio iaith homoffobaidd, ac i feddwl beth sy’n eu stopio nhw rhag gwneud ‘y peth iawn’.
Gwnewch restr o’r holl rwystrau yma ac yna gofynnwch i’r disgyblion fel grŵp feddwl am ffyrdd
o’u goresgyn. Er enghraifft, gallai disgybl ddweud ‘Rydw i’n poeni y bydda i’n gwneud fy hunan
yn amhoblogaidd’, ac un ateb i hynny yw, petai pawb yn dechrau herio iaith homoffobaidd, y
bobl sy’n defnyddio iaith homoffobaidd fydd yn amhoblogaidd, nid y rhai sy’n ceisio’i rwystro.
Erbyn y diwedd, dylai disgyblion deimlo’n fwy hyderus i ymateb i iaith homoffobaidd a gwybod
sut i wneud hynny.
Yn ymarferolFe wnaeth dosbarth yn Ysgol Southend i Ferched wneud parau o sbectol gyda labeli
gwahanol arnyn nhw er mwyn i’r disgyblion weld y byd o safbwyntiau gwahanol, er
enghraifft ‘rydych chi’n fyfyriwr sydd â phroblemau symudedd’ a ‘rydych chi’n ddisgybl
hoyw’. Roedd y rhain yn lleihau stigma a stereoteipiau, gan amlygu sut y gallai pobl hoyw
deimlo pan fydd ‘gay’ yn cael ei ddefnyddio i olygu rhywbeth gwael.
36
9 Datrys problemau
➧NACOES
➧OES
➧
YDY
➧NACYDY
Dydy staff ddim yn credu ei fod yn flaenoriaeth
Mae staff yn credu y bydd herio iaith homoffobaidd yn cymryd gormod o amser,
neu nad yw’n broblem go iawn yn yr ysgol.
A OES GAN YR YSGOL BOLISÏAU A GWEITHDREFNAU EGLUR ARDACLO IAITH HOMOFFOBAIDD?
Trefnwch gyfarfod staff i esbonio sut mae iaith homoffobaidd yn effeithio ar bobl ifanc,
ac i ateb unrhyw gwestiynau neu bryderon. Atgoffwch staff ynghylch ymrwymiad yr
ysgol i gydraddoldeb ac ynghylch eu cyfrifoldeb i wneud yn siŵr bod disgyblion yn
teimlo’n ddiogel. Cyfeiriwch at bolisïau perthnasol a rhowch sicrwydd i staff y byddan
nhw’n cael cefnogaeth i wneud y gwaith yma. A YW HYN YN HELPU?
Weithiau bydd staff yn teimlo mai dim ond ‘cellwair diniwed’ yw iaith homoffobaidd.
Unwaith y byddan nhw’n deall bod iaith homoffobaidd yn gallu effeithio ar unrhyw
un ifanc a pha mor ddifrifol y gall yr effeithiau fod, maen nhw’n fwy tebygol o’i herio.
37
➧YDY
➧
NAC YDY
Bydd staff yn teimlo’n fwy hyderus ac
yn teimlo eu bod yn gallu taclo iaith
homoffobaidd os oes gan yr ysgol bolisi
dim goddefgarwch eglur a rheolau
cyffredinol i’w dilyn.
Rhowch sicrwydd i’r staff y bydd defnydd o iaith homoffobaidd yn yr ysgol yn disgyn yn gyflym
os bydd yr ysgol gyfan yn mabwysiadu polisi dim goddefgarwch. Dywedwch wrth y staff am
ysgolion eraill sydd wedi gwneud y gwaith yma yn llwyddiannus, a sut maen nhw wedi ei
wneud, er enghraifft drwy wasanaethau, dangos posteri a gwersi. A YW HYN YN HELPU?
Gallai staff fod yn bryderus y bydd
gwahardd iaith homoffobaidd yn annog
rhai disgyblion i ddefnyddio mwy o iaith
o’r fath. Bydd dangos bod ysgolion eraill
wedi bod yn llwyddiannus wrth leihau
achosion yn helpu i leddfu eu pryderon,
yn ogystal â rhoi syniadau iddyn nhw ar
gyfer eu gwaith addysgu eu hunain.
Atgoffwch y staff, beth bynnag yw eu
barn eu hunain ynghylch taclo
homoffobia, y bydd gwrthod cydymffurfio
â pholisïau a gweithdrefnau’r ysgol yn
arwain at gamau disgyblu. Pwysleisiwch y
ffaith fod gan yr ysgol ddyletswydd
gyfreithiol o dan y Ddeddf Cydraddoldeb
a deddfwriaeth arall i daclo’r iaith yma a’i
fod yn rhywbeth y mae Estyn yn ei
ddisgwyl gan yr ysgol.
38
➧NACOES
➧NACYDY
➧
OES
➧YDY
➧NACYDY
Mae disgyblion yn dweud nad ydyn nhw’n golygu‘gay’ yn y ffordd yna
➧
YDY
Mae disgybl yn dweud ‘ti mor gay’ wrth ddisgybl arall.
OES GAN YR YSGOL BOLISI SY’N DATGAN YN EGLUR BOD IAITHHOMOFFOBAIDD YN ANNERBYNIOL?
Dywedwch wrth y disgybl fod
iaith homoffobaidd yn
annerbyniol. Esboniwch pam
fod iaith homoffobaidd yn gallu
tramgwyddo a brifo pobl, gan
wneud yn siŵr bod y disgybl yn
gwybod beth yw ystyr y gair
‘gay’. A YW’R DISGYBL YN DEALL?
Efallai y bydd rhaid i chi eu
hatgoffa eto, ond bydd disgyblion
yn dechrau deall pam fod iaith
homoffobaidd yn annerbyniol.
Yn aml iawn nid yw disgyblion yn
sylweddoli bod defnyddio’r gair
‘gay’ mewn ffordd negyddol yn
tramgwyddo pobl, a byddan
nhw’n stopio unwaith iddyn nhw
sylweddoli hynny.
Mae’r disgybl yn parhau i
ddefnyddio’r gair ‘gay’ mewn
ffordd negyddol, a gweddill y
dosbarth hefyd. Esboniwch yn
fwy manwl yr effaith mae iaith
homoffobaidd yn gallu’i chael ar
bobl eraill, a’i fod yn annerbyniol,
fel mae iaith hiliol yn
annerbyniol. A YW’N STOPIO?
Mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion
yn gwybod bod hiliaeth yn
annerbyniol, ac unwaith mae’r
gymhariaeth wedi cael ei
gwneud, byddan nhw’n
dechrau deall bod defnyddio
iaith homoffobaidd yn union yr
un peth.
39
➧NACYDY
➧YDY
➧
YDY
➧
NAC YDY
Bydd staff yn gallu ymateb i iaith homoffobaidd yn fwy
effeithiol os oes polisïau ar gael y gellir atgoffa pobl ifanc
amdanyn nhw.
Mae cael cosbau am
ddefnyddio iaith
homoffobaidd fwy nag
unwaith yn anfon
neges eglur bod iaith
homoffobaidd yn
annerbyniol, ac yn
gwneud i bobl ifanc
feddwl yn fwy gofalus
ynghylch ei defnyddio.
Mae cynnwys uwch
arweinwyr yn cyfleu
difrifoldeb yr ysgol
wrth ymdrin â iaith
homoffobaidd, ac
mae’n gwneud yn eglur
bod iaith homoffobaidd
yn annerbyniol ledled
yr ysgol.
Rhowch dasg berthnasol i’r disgybl,
fel ysgrifennu traethawd yn esbonio
pam fod iaith homoffobaidd yn brifo
pobl, a chyfeiriwch nhw at aelod o’r
uwch dîm rheoli i gael cosbau
pellach. YDY HYN YNGWEITHIO?
Tynnwch y disgybl o’r dosbarth a
siaradwch gyda nhw yn fwy manwl
am eu hymddygiad a pham ei fod
yn tramgwyddo. Esboniwch y
cosbau a fydd yn berthnasol os
byddan nhw’n parhau i ddefnyddio
iaith homoffobaidd.
YDY HYN YN HELPU?
Gwahoddwch y rhieni i mewn i
drafod ymddygiad y disgybl.
Cyfeiriwch at bolisi’r ysgol a’i
dyletswydd gyfreithiol i edrych
ar ôl lles yr holl ddisgyblion.
Mae’r rhan fwyaf o rieni yn
deall y dylai’r holl ddisgyblion
allu teimlo’n ddiogel yn yr
ysgol, a byddan nhw’n cefnogi
ymdrechion yr ysgol i greu
amgylchedd diogel.
40
➧NACOES
➧NACYDY
➧
OES
➧DO
➧NA
DD
O
Nid yw’r rhieni’n cefnogi
➧
YDY
Mae grŵp o rieni wedi cwyno am bwyslais yr ysgol ar daclo homoffobia.
OES GAN YR YSGOL BOLISI SY’N DATGAN YN EGLUR BOD IAITHHOMOFFOBAIDD YN ANNERBYNIOL?
Atgoffwch y rhieni bod hon yn
ysgol sy’n parchu gwahaniaeth
ac yn ei ddathlu. Esboniwch fod
taclo iaith homoffobaidd yn
ymwneud â gofalu am les a
diogelwch yr holl bobl ifanc yn
yr ysgol, ac nad trafod rhyw
yw’r bwriad. A DAWELWYDEU PRYDERON?
Yn aml bydd rhieni yn poeni
bod gwaith yn ymwneud â
thaclo homoffobia yn trafod
rhyw. Ar ôl esbonio’r gwaith,
bydd y rhan fwyaf o rieni yn
cytuno y dylai pobl ifanc allu
teimlo’n ddiogel ac wedi eu
cynnwys yn yr ysgol a byddan
nhw’n cefnogi ymdrechion yr
ysgol i greu diwylliant o barch.
Esboniwch wrth y rhieni y gall
iaith homoffobaidd effeithio ar
unrhyw un ifanc, gan gynnwys
eu mab neu eu merch nhw eu
hunain. Anfonwch lythyr adre yn
amlinellu agwedd yr ysgol ac yn
rhoi sicrwydd i rieni y byddan
nhw’n cael gwybod y
diweddaraf am yr hyn mae’r
ysgol yn ei wneud.
YDY HYN YN HELPU?
Bydd bod yn agored gyda rhieni
gan esbonio’n union beth mae’r
ysgol yn ei wneud, a pham, fel
arfer yn setlo’r rhan fwyaf o
bryderon. Y cwbl mae rhieni am
ei wybod yw y bydd eu plentyn
nhw yn teimlo’n ddiogel yn yr
ysgol, ac maen nhw eisiau iddyn
nhw barchu eraill hefyd.
41
➧NA
C Y
DY
N
➧YDYN
Gall athrawon ymateb i bryderon rhieni yn llawer haws os oes polisi eglur. Bydd rhoi
gwybod i rieni am bolisi’r ysgol cyn cychwyn ar y gwaith o daclo homoffobia a’u hannog nhw
i gefnogi’r polisi yn atal y rhan fwyaf o gwynion.
Mae cynnwys uwch arweinwyr yn
rhoi sicrwydd i rieni bod eu
pryderon yn cael eu cymryd o
ddifrif, ond mae hefyd yn anfon
neges gref bod yr ymrwymiad i
daclo iaith homoffobaidd yn
ymestyn ledled yr ysgol gyfan.
Byddwch yn eglur y bydd yr ysgol yn
parhau i herio iaith homoffobaidd.
Esboniwch bod y gyfraith ac Estyn yn
cefnogi ac yn ei gwneud yn ofynnol i’r
ysgol daclo iaith homoffobaidd, a
phwysleisiwch y ffaith bod taclo
rhagfarn a pharchu gwahaniaeth o
bob math yn rhan hanfodol o ethos
yr ysgol.
Gwahoddwch y rhieni i mewn i
drafod eu pryderon gyda’r uwch
arweinwyr. Gwnewch yn siŵr bod
gennych gynlluniau gwersi a
pholisïau addas i’w dangos iddyn
nhw. Siaradwch am y modd y gall
rhieni herio iaith homoffobaidd yn y
cartref hefyd. YDY RHIENI YNCEFNOGI?
Mewn gwirionedd, ychydig iawn o
rieni fydd yn parhau i wrthwynebu
unwaith y byddan nhw’n deall pam
fod yr ysgol yn taclo iaith
homoffobaidd a bod gan yr ysgol
ddyletswyddau cyfreithiol i’w
bodloni. Daliwch eich tir ac
esboniwch y dylen nhw anfon eu
plant i ysgol arall os ydyn nhw’n
anghytuno ag ethos yr ysgol.
42
Deg prif argymhelliad
1GWNEWCH Y PETHAU SYLFAENOL YN IAWN Er mwyn taclo iaith homoffobaidd yn llwyddiannus, dylai fod gan
ysgolion bolisi sy’n ei gwneud yn eglur bod defnyddio iaith o’r fath yn
annerbyniol, gyda chosbau am ei defnyddio. Mae cynnwys disgyblion
yn y gwaith o ysgrifennu’r polisi yn helpu i gael eu hymrwymiad.
2HERIWCH YN GYSON Dylai pob aelod o staff herio iaith homoffobaidd bob tro maen
nhw’n ei glywed. Mae hyn yn cynnwys ymadroddion dirmygus fel ‘ffag’,
‘no homo’, ‘mae hynna mor hoyw’ a ‘ti mor gay’, dim ots os ydyn nhw
wedi eu cyfeirio at ddisgybl neu at wrthrych.
3ESBONIWCH YR EFFAITH Mae angen gwneud mwy na gwahardd y gair ‘gay’. Dylai athrawon
esbonio union ystyr y gair wrth y disgyblion ac esbonio pam ei bod yn
bwysig ei ddefnyddio yn y ffordd gywir.
4CEFNOGWCH STAFF Y rhwystr pennaf i’r gwaith o daclo iaith homoffobaidd yw diffyg
hyder staff a diffyg hyfforddiant ar eu cyfer. Gwnewch yn siŵr bod eich
staff yn gwybod pam mae angen taclo iaith homoffobaidd, a sut i
wneud hynny. Mae hyn hefyd yn golygu bod angen i arweinwyr ysgol
fod yn rhagweithiol wrth ddangos eu hymrwymiad i’r gwaith o daclo
iaith homoffobaidd.
5CYFATHREBWCH GYDA’R RHIENIMae llawer o bobl ifanc yn dysgu defnyddio iaith homoffobaidd y tu
allan i amgylchedd yr ysgol. Bydd gwaith cyfathrebu â rhieni ynghylch
taclo iaith homoffobaidd yn eu hannog i daclo defnydd pobl ifanc o iaith
homoffobaidd yn y cartref, sy’n golygu y bydd yn llai tebygol o’u dilyn
nhw i’r ystafell ddosbarth.
10
43
6MESURWCH Y CYNNYDDDylai ysgolion gofnodi achosion o iaith homoffobaidd er mwyn
nodi unrhyw fannau â phroblemau mewn grwpiau o ffrindiau neu
grwpiau blwyddyn lle mae angen ymyrryd yn benodol. Mae adrodd ar
ddigwyddiadau a’u cofnodi hefyd yn caniatáu ysgolion i werthuso
llwyddiant eu gwaith a phenderfynu pa fentrau pellach sy’n ofynnol.
7CYNHWYSWCH BOBL IFANC Mae llawer o ffyrdd y gall ysgolion gynnwys pobl ifanc yn eu
gwaith o daclo bwlio homoffobaidd. Gall dangos posteri ‘Hoyw. Deliwch
â’r Peth!’ Stonewall Cymru helpu i ysgogi trafodaeth ac annog pobl
ifanc i feddwl am eu defnydd o iaith.
8GADEWCH I FYFYRWYR ARWAIN Y FFORDD Yr ysgolion sydd fwyaf llwyddiannus o ran taclo iaith homoffobaidd
yw’r rhai lle mae’r disgyblion yn dechrau hunan-blismona. Mae canllaw
‘Gay. Deliwch â’r Peth!’ Stonewall Cymru yn rhoi syniadau i ddisgyblion
ynghylch sut i stopio’u cyd-ddisgyblion rhag defnyddio iaith homoffobaidd.
9DATHLWCH WAHANIAETH Mae gwersi, gwasanaethau a chyflwyniadau sy’n herio defnydd o
iaith ond sydd hefyd yn mynd ati i gyfleu negeseuon cadarnhaol
ynghylch amrywiaeth yn annog pobl ifanc i feddwl bod gwahaniaeth yn
rhywbeth i’w ddathlu ac yn eu gwneud yn llai tebygol o ddefnyddio
iaith homoffobaidd.
PEIDIWCH AG AILDDYFEISIO’R OLWYNGall taclo iaith homoffobaidd ymddangos yn dasg frawychus i
gychwyn, ond mae llawer o ysgolion yn gwneud hynny’n llwyddiannus
yn barod. Dysgwch ganddyn nhw a rhannwch arferion gorau. Mae
seminarau Hyfforddi’r Hyfforddwyr Stonewall Cymru yn helpu ysgolion i
wneud hynny, gan greu cyfle i ysgolion rannu arferion gorau.
10
44
11 Adnoddau
Posteri Hoyw. Mae’n amser delio â’r peth sy’n herio iaith homoffobaidd
Sexual OrientationThe Equality ActMade Simple
Chwith: Canllaw Gay.Deliwch â’r peth! iddisgyblion ar dacloiaith homoffobaidd.Isod, posteri, cardiaupost a sticeri MaeRhai Pobl yn Hoyw.Deliwch â’r Peth!Mae posteri hefyd argael mewnamrywiaeth oieithoedd gwahanol.
Ewch i www.stonewallcymru.org.uk/addysg i archebu holl adnoddau addysg Stonewall Cymru.Gallwch roi gwybod i ni beth yw eich barn chi am ein deunyddiau drwy anfon neges [email protected]
45
DathlugwahaniaethHerio homoffobia mewn ysgolion cynradd
Teuluoedd Gwahanol:profiadau plant syddâ rhieni hoyw (2010)
Canllawiau Addysg – gan gynnwys Gweithiogyda chymunedau ffydd; Cynnwys teuluoeddgwahanol; Arweiniad ysgol effeithiol; Arferiongorau yn yr ysgol gynradd a Cefnogi pobl ifanclesbiaidd, hoyw a deurywiol
Mae posteri Teuluoedd Gwahanol yn helpuysgolion i ddathlu gwahaniaeth
SPELL ITOUT tackling homophobia
in our schools
DVDs hyfforddi Stonewall ar gyfer athrawoncynradd ac uwchradd: Celebrating Difference aSpell It Out
Felly... rydych chi’nmeddwl bod eichplentyn yn hoyw? Atebion i rai o’rcwestiynau cyffredinsydd gan rieni agofalwyr pan maennhw’n credu bod euplentyn yn hoyw, neupan fydd plentynnewydd ddod allan
DVD FIT Ffilm (yn Saesneg) iddisgyblion uwchraddsy’n rhoi sylw i bwncbwlio homoffobaidd
YR ADRODDIADYSGOLProfiadau pobl ifanc hoyw yn ysgolion Cymru yn 2012
The Teachers’ Report(2009) ArolwgYouGov o dros 2000o staff ysgolioncynradd ac uwchraddynghylch bwliohomoffobaidd
Yr Adroddiad YsgolProfiadau pobl ifanchoyw yn ysgolionCymru yn 2012
46
12 Yr astudiaethau achos
Mae’r astudiaethau achos yn y canllaw hwn yn enghreifftiau o arfer
gorau sydd wedi eu cymryd o 14 o ysgolion, awdurdodau lleol ac
ymddiriedolaethau academi ledled y wlad. Heb y cyfraniadau hyn gan
Hyrwyddwyr Ysgolion ac Addysg Stonewall a’r gwaith ardderchog maen
nhw wedi bod yn ei wneud, fyddai’r canllaw yma ddim yn bosibl.
Hoffen ni ddiolch i’r canlynol felly:
Cyngor Wiltshire
Cyngor Caerfaddon a Gogledd Ddwyrain Gwlad yr Haf
Herts for Learning Ltd, partner ddewisol Cyngor Swydd Hertford i
ddarparu gwasanaethau gwelliant ysgolion
Ymddiriedolaeth Academi Perry Beeches, Birmingham
Coleg Chwaraeon Cymunedol Derby Moor a Chanolfan Chweched
Dosbarth y Mileniwm, Derby
Ysgol Uwchradd Madeley, Crewe
Ysgol Uwchradd Southend i Ferched, Essex
Ysgol Rokeby, Bwrdeistref Newham Llundain
Ysgol Chew Valley, Bryste
Ysgol Uwchradd Cannock Chase, Swydd Stafford
Ffederasiwn Cynradd Best Start, Bwrdeistref Hackney Llundain
Ysgol Gynradd Alfred Salter, Bwrdeistref Southwark Llundain
Ysgol Gynradd Holbrook, Wiltshire
Ysgol Gynradd Dalmain, Bwrdeistref Lewisham Llundain
47
Rhaglen rhad ac am ddim chwe mis ydi Rhaglen Gwirfoddoli Ieuenctid Stonewall, yn cynnighyfforddiant a chefnogaeth i bobl ifanc i rhedeg ymgyrchoedd i ymgodymu ag homoffobia ynysgolion, colegau a phrifysgolion www.youngstonewall.org.uk
48
Cysylltwch â Stonewall Cymru
Mae popeth rydyn ni’n ei wneud yn seiliedig ar anghenion ysgolion,
athrawon a phobl ifanc. Cysylltwch â ni er mwyn rhannu eich profiadau
a rhoi eich barn am ein deunyddiau.
Stonewall Cymru
08000 50 20 20
www.stonewallcymru.org.uk/ynyrysgol
www.facebook.com/stonewallcymru
Twitter: @stonewallcymru
www.youtube.com/user/stonewallcymru
Stonewall
08000 50 20 20
www.stonewall.org.uk/atschool
www.facebook.com/stonewalluk
Twitter: @stonewalluk
www.youtube.com/user/stonewalluk
Stonewall Scotland
0131 474 8019
www.stonewallscotland.org.uk/atschool
www.facebook.com/stonewallscotland
Twitter: @stonewallscot