26
WWW.NIACEDC.ORG.UK Adolygiad o Un Wythnos Anhygoel Gall addysg oedolion olygu cynifer o bethau gwahanol, ond rwy’n hoffi’r ffordd y gall olygu cyflawni uchelgais neu grafu rhywbeth sy’n cosi neu ennill gallu newydd. Efallai ein bod yn fwy rhydd i ddeall y gall addysg fod yn addysg er ei fwyn ei hun. Efallai wrth i ni gyd fyw’n hirach fod angen yr ysgogiad y gall her ei roi i ni, ond am gyfanswm anhygoel mae’r holl ymdrechion unigol hyn yn ei wneud yma yng Nghymru. Griff Rhys Jones, Comedïwr, Actor 14 - 21 Mai 2011

WYTHNOS ADDYSG OEDOLION 2011

Embed Size (px)

DESCRIPTION

Adolygiad o Un Wythnos Anhygoel

Citation preview

Page 1: WYTHNOS ADDYSG OEDOLION 2011

WWW.NIACEDC.ORG.UK

Adolygiad o Un Wythnos Anhygoel

Gall addysg oedolion olygu cynifer o bethau gwahanol, ond rwy’n hoffi’r ffordd y gall olygu cyflawni uchelgais neu grafu rhywbeth sy’n cosi neu ennill gallu newydd. Efallai ein bod yn fwy rhydd i ddeall y gall addysg fod yn addysg er ei fwyn ei hun. Efallai wrth i ni gyd fyw’n hirach fod angen yr ysgogiad y gall her ei roi i ni, ond am gyfanswm anhygoel mae’r holl ymdrechion unigol hyn yn ei wneud yma yng Nghymru. Griff Rhys Jones, Comedïwr, Actor

14 - 21 Mai 2011

Page 2: WYTHNOS ADDYSG OEDOLION 2011

Yn 2011 cafodd bywydau eu newid ac mae’r dyfodol yn fwy disglair diolch i un wythnos anhygoel! Manteisiodd oedolion ledled Cymru ar y cyfle i roi cynnig ar ddysgu rhywbeth newydd drwy roi cynnig ar un o’r cannoedd o sesiynau blasu am ddim mewn lleoliadau ym mhob rhan o Gymru yn arddangosfa fwyaf Cymru o gyfleoedd a darpariaeth dysgu. I bawb a gymerodd ran, llongyfarchiadau a gobeithio i chi gael amser gwych. I’r rhai ohonoch a gollodd y cyfle, peidiwch â phoeni mae bob amser flwyddyn nesaf (mae manylion sut i gymryd rhan ar y dudalen gefn).

Cyfanswm Cyfranogwyr 21,555

Cyfanswm Digwyddiadau 902

Erthyglau yn y Wasg 219

Partneriaid Grŵp Gŵyl Ddysgu 340

Ymweliadau Gwefan NDC / Eich Dyfodol 12,938

Edrych ar Sianel YouTube 1,731

Negeseuon Twitter 380

Dilynwyr Twitter 560

CROESO I WYTHNOS ADDYSG OEDOLION 2011

WWW.NIACEDC.ORG.UK

Ffeithiau a Ffigurau

Page 3: WYTHNOS ADDYSG OEDOLION 2011

Rhannwyd yr Wythnos Addysg Oedolion yn chwe Diwrnod Thema ar wahân, pob un gyda’I ffocws arbennig ei hun ar agwedd o addysg oedolion. Mae’r dyddiau hyn yn helpu i ddangos yr amrywiaeth enfawr o gyfleoedd sydd ar gael i bawb yng Nghymru

Dydd Sadwrn 14 - Sul 15 Mai

Dydd Llun 16 Mai

Dydd Mawrth 17 Mai

Dydd Mercher 18 Mai

Dydd Iau 19 Mai

Dydd Sadwrn Mai 21

Dydd Gwener 20 Mai

WWW.NIACEDC.ORG.UK

hemaDiwrnodau

T

Page 4: WYTHNOS ADDYSG OEDOLION 2011

WWW.NIACEDC.ORG.UK

Trodd Wythnos Addysg Oedolion 2011 ei sylw at faterion byd-eang ac amgylcheddol gyda ‘Penwythnos Un Byd’. Roedd y penwythnos yn cefnogi Wythnos Cynaliadwyedd Cymru a threfnwyd digwyddiadau arbennig ledled Cymru i godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o faterion yn ymwneud â newid hinsawdd, yr amgylchedd, tlodi byd, datblygu a chynaliadwyedd. Roedd cyrsiau blasu a sesiynau am ddim yn cynnwys gwneud ffasiwn o ddeunyddiau eilgylch a defnyddio’r rhyngrwyd ar gyfer dibenion amgylcheddol, cyfrif eich ôl-troed carbon a chompostio eich gwastraff.

Mae’r Wythnos Addysg Oedolion yn cynnig cyfleoedd gwych i ddysgu rhywbeth newydd. Mae cymaint i gymryd diddordeb yno a bob amser fwy i ddysgu - p’un ai yw hynny’n ddysgu am fywyd gwyllt, cadwraeth neu fyw mewn ffordd sy’n diogelu ein hamgylchedd.Iolo Williams, Cyflwynydd Teledu, Arbenigwr Bywyd

Sylw ar ddigwyddiad: Tŷ Morwydden - Diwrnod Hwyl Gweithgaredd Eco i’r Teulu!

Agorodd Tŷ Morwydden ei drysau ar gyfer sesiynau ‘Rhoi Cynnig Arni’ am ddim mewn cerfio pren, gwehyddu helyg, gwneud wal garreg sych, gwneud potiau o bapur newydd, gwneud blychau adar a drymio.

Cefnogwyd a noddwyd Penwythnos Un Byd gan Sefydliad Confucius

Dydd Sadwrn 14 - Sul 15 Mai

Page 5: WYTHNOS ADDYSG OEDOLION 2011

WWW.NIACEDC.ORG.UK

Os ydych eisiau llwyddo mewn bywyd, bod yn fwy cadarnhaol ym mhopeth a wnewch a thyfu mewn hyder, yna rydych angen y sgiliau i lwyddo. Rhoddodd Diwrnod Sgiliau Bywyd y cyfleoedd i ddysgwyr gymryd rhan mewn amrywiaeth enfawr o weithgareddau sgiliau sylfaenol. Roedd y digwyddiadau yn amrywio o weithdai dweud stori, digwyddiadau sillafu hwyl yn seiliedig ar gemau a phosau, a dysgu popeth am gyllid teulu.

Sylw ar ddigwyddiad: : BAYLINGO!!

Cynhaliwyd diwrnod enfawr o sesiynau blasu’r Gymraeg yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, gyda digwyddiadau hwyl i’r holl deulu.Bu 300 o bobl yn bresennol yn y digwyddiad

Mae’r Wythnos Addysg Oedolion yn syniad gwych ac rwy’n rhoi fy nghefnogaeth lawn iddi. Os ydych yn poeni am arian neu ddim yn sicr yn union sut mae’n gweithio, does dim yn rhoi mwy o rym na rhoi ychydig o addysg i’ch hunan fel y medrwch eistedd yn syth a dweud, iawn, does gen i ddim ofn a medraf fynd i’r afael â’r bois mawr yn y dyfodol. Martin Lewis, MoneySavingExpert.Com

Dydd Llun 16 Mai

Page 6: WYTHNOS ADDYSG OEDOLION 2011

Rhoddodd digwyddiadau ym mhob rhan o’r wlad gyfle i ddysgwyr ymch-wilio sut mae treftadaeth ddiwyllian-nol Cymru yn effeithio ac yn gwella pob agwedd o’n bywydau. Cafodd amgueddfeydd, llyfrgelloedd, arbenig-wyr archif ac orielau celf i gyd gyfle i ddangos y diwylliant unigryw sy’n diffinio ein cenedl.

Mae’r Diwrnod Treftadaeth Ddiwylliannol yn darparu cannoedd o ddigwyddiadau am ddim ym mhob rhan o Gymru lle medrwch ddysgu am ein celf a’n treftadaeth fendigedig. Felly p’un ai ydych yn ddarpar Picasso neu’ch bryd ar efelychu Rolf Harris, mae wirioneddol rywbeth ar gael ar gyfer pawbNicola Heywood -Thomas, Cyflwynydd Teledu a Radio

Sylw ar ddigwyddiad: : Drama Diwrnod Treftadaeth Ddiwylliannol: ‘Byth yn Rhy Hwyr’

Llwyfannwyd drama’n delio gyda chyfleoedd ar gyfer cymryd rhan mewn addysg oedolion, a ddilynwyd gan weithdy trafod, mewn 3 lleoliad gwahanol ar draws WyneddBu 68 o bobl yn bresennol yn y digwyddiad

WWW.NIACEDC.ORG.UK

Dydd Mawrth 17 Mai

Page 7: WYTHNOS ADDYSG OEDOLION 2011

Mae dysgu rhywbeth newydd yn eich gwneud yn fwy hapus ac iach ac yn rhoi golwg lawer mwy cadarnhaol ar fywyd. Roedd Diwrnod Byw’n Egnïol yn gyfle i gymryd rhan mewn sesiynau blasu ‘teimlo’n dda’ ar bynciau fel bwyta’n iach, bwyd a maeth, bod yn egnïol, therapïau amgen, rheoli straen neu fyw gyda chyflyrau iechyd penodol. Roedd canfod mwy am sut i fwyta’n iachach ac arbed arian, sut i ostwng straen a ffyrdd i gadw’n egnïol yn rhoi o’r rhesymau gwych am gymryd rhan yn Diwrnod Byw’n Egnïol!

Gall bod yn egnïol a dysgu rhywbeth newydd eich helpu i deimlo’n well, gwneud ffrindiau newydd a throi eich bywyd o gwmpas. Gall Diwrnod Byw’n Egniol helpu i wneud y gwahaniaeth hwnnw Scott Quinnell, un o arwyr rygbi Cymru

Sylw ar ddigwyddiad: : Zumbathon

Bu sesiwn Zumba 2 awr wedi’i noddi yng Nghanolfan Chwaraeon Glynebwy, dan arweiniad hyfforddwyr ardystiedig, yn dathlu Diwrnod Byw’n Egniol a chodi arian ar gyfer Hosbis y Cymoedd.Bu 146 o bobl yn bresennol.

WWW.NIACEDC.ORG.UK

Dydd Mercher 18 Mai

Page 8: WYTHNOS ADDYSG OEDOLION 2011

WWW.NIACEDC.ORG.UK

Ym mhob rhan o Gymru ymrwymodd bus-nesau i roi cyfle i’w staff i ddysgu rhyw-beth newydd yn ystod Diwrnod Dysgu@ y Gwaith. Mae rhesymau da dros helpu staff i ddatblygu eu sgiliau drwy ddysgu ‘ar y swydd’. Caiff perfformiad a chynhyrchiant ei wella’n fawr, i ddechrau. Ond yr un mor bwysig, gall dysgu gynyddu ysbryd tîm a gostwng absenoliaeth a throsiant staff.

Sylw ar ddigwyddiad: : Diwrnod Dys-gu@ y Gwaith: 2011 at HMRC Wrecsam

Bu amrywiaeth eang o ddarparwyr dysgu ac elusennau’n cydweithio i ddangos yr amrediad o ddysgu sydd ar gael i staff HMRC. Roedd y partneriaid yn cynnwys Prifysgol Glyndŵr, Y Brifysgol Agored, TUC Cymru, Ambiwlans Sant Ioan,Hosbis Tŷ’r Eos a MacMillan Cancer. O’r 100 a gymerodd ran, dywedodd tua 30 y byddent yn bendant yn gwneud dysgu pellach yn y dyfodol

Noddwyd a chefnogwyd Diwrnod Dysgu@ y Gwaith gan Agored Cymru ac Undeb y GMB

Dydd Iau 19 Mai

Dylai bywyd fod un profiad dysgu mawr ac rydw i wedi dysgu llawer iawn o bethau newydd. Mae dod yn ddysgwr egnïol yn her ond yn un a all roi budd mawr i chi, eich teulu a’ch cymuned. Alex Jones, The One Show a Strictly Come Dancing

Page 9: WYTHNOS ADDYSG OEDOLION 2011

Rydym yn byw mewn byd sy’n newid - ac weithiau gall ymddangos ychydig yn ddryslyd gyda’r holl bethau digidol a’r teclynnau sy’n rheoli pob munud o’n bywydau. Mae’n wych os ydych yn ddewin digidol ond beth os ydych yn ei gael yn anodd ei ddeall? Cynhaliwyd cannoedd o ddigwyddiadau dysgu am ddim yn anelu i helpu dysgwyr fynd i’r afael gyda theclyn-nau ar hyd a lled Cymru, gan addysgu pobl sut i syrffio’r rhyngrwyd, argraffu o gamera digidol, uwchraddio eich cyfrifiadur, a sut i anfon eich neges Twitter gyntaf erioed.

Sylw ar ddigwyddiad: Clic Mawr Caerffili

Sesiynau Clic Cyntaf a gynhaliwyd ar draws y sir yn rhoi cyflwyniad i bobl i wahanol fathau o dechnolegau digidol.

Mae’r Wythnos Addysg Oedolion yn darparu miloedd o gyfleoedd ar draws Cymru, p’un ai ar gyfer dysgu am hwyl, neu ddysgu sgil newydd i gael swydd, mae rhywbeth allan yna ar gyfer pawb. Huw Stephens, BBC Radio One

Cefnogwyd Diwrnod Digidol gan British Telecom ac ymgyrch Clic Cyntaf y BBC.

WWW.NIACEDC.ORG.UK

Dydd Gwener 20 Mai

Page 10: WYTHNOS ADDYSG OEDOLION 2011

Does dim byd yn dod â theulu at ei gilydd fel dysgu rhywbeth newydd. Roedd Diwrnod Dysgu Teulu a Rhyng-genhedlaeth yn gyfle gwych i Famau, Tadau, Neiniau, Teidiau, bechgyn a genethod i gwrdd a chael hwyl yn canfod pethau newydd am y byd. Roedd cyfleoedd i ddysgu am gyfrifiaduron gyda’ch gilydd, ysgrifennu straeon gyda’ch gilydd, canfod eich talentau celf gyda’ch gilydd - hyd yn oed ddysgu sut i wneud cerddoriaeth gyda’ch gilydd. Mae ystadegau’n profi fod plant a gaiff eu hannog i ddysgu gydag aelodau hŷn y teulu yn cyflawni mwy yn yr ysgol. Mae dod â phobl ynghyd o wahanol genedlaethau hefyd yn helpu i chwalu’r rhwystrau rhwng yr hen a’r ifanc yn ein cymdeithas, ac yn gwella ysbryd cymunedol. Felly dewch mlaen Tad-cu, dangoswch i’r bobl ifanc beth fedrwch ei wneud!

Dyw hi bydd yn rhy hwyr i ddysgu ac mae’r Wythnos Addysg Oedolion yn profi’r pwynt! Terry Jones, Monty Python, Awdur, Cyfarwyddwr

Sylw ar ddigwyddiad: : Diwrnod Dysgu Teulu ym Mrynbuga Addysg GymunedolMwynhaodd dysgwyr arddangosfa ar seryddiaeth, dweud stori wrth bob oedran, gweithdai dawns teulu a’r cyfle i roi cynnig ar grefftau traddodiadol Gymreig.Bu 60 o bobl yn bresennol yn y digwyddiad.

WWW.NIACEDC.ORG.UK

Dydd Sadwrn Mai 21

Page 11: WYTHNOS ADDYSG OEDOLION 2011

Cynhaliwyd Seremoni Wobrwyo Ysbrydoli! Addysg Oedolion 2011 yn Neuadd y Brangwyn, Abertawe ddydd Iau 12 Mai. Bu 260 o westeion yn bresennol yn y digwyddiad a gweld 14 o wobrau cenedlaethol Ysbrydoli! yn cael eu cyflwyno yn dathlu dysgu teulu, grwpiau cymunedol, dysgu ac iechyd, dysgu a’r amgylchedd, dysgu addysg bellach ac addysg uwch a dysgu’r Gymraeg. Arweinydd y noswaith oedd y cyflwynydd teledu Amanda Prothe-

Am lwyddiant. Am ymrwymiad. Dydi hi byth yn rhyw hwyr nes ei bod hi’n llythrennol yn rhy hwyr. Mae pawb yma wedi cydio mewn ail gyfle. Rwy’n eu cymeradwyo am hynny. Ac rwy’n genfigennus ohonynt hefyd. Griff Rhys Jones, Comedïwr, Awdur. Cynhyrchydd, Actor

Claire Pinch, Dysgwr Addysg Oedolion y Flwyddyn, yn derbyn ei gwobr gan Nicola Dunne, Pearson Work Based Learning (chwith) ac Amanda Prothero Thomas (de)

WWW.NIACEDC.ORG.UK

Page 12: WYTHNOS ADDYSG OEDOLION 2011

WWW.NIACEDC.ORG.UK

AWARD WINNERS 2011

Dysgwr o Bell y FlwyddynRichard Zimbler Dysgwr Oedolyn Ifanc y Flwyddyn (cyfartal gyntaf)Charis Sebastian

Dysgwr Oedolyn Ifanc y Flwyddyn (cyfartal gyntaf) Luke Belmont

Dysgwr Sgiliau Sylfaenol y FlwyddynRachael Morgan

Dysgwr Galwedigaethol y FlwyddynClaire Pinch

Dysgwr Hŷn y Flwyddyn (cyfartal gyntaf)Derek Edwards

Dysgwr Hŷn y Flwyddyn (gyfartal gyntaf)Louise Gregory

Dysgwr Gweithle’r FlwyddynCheyanne Staley

Dysgwr Addysg Uwch y FlwyddynDebra White

Cefnogwyd Gwobrau Ysbrydoli! Addysg Oedolion gan City & Guilds, Agored Cymru, Y Brifysgol Agored, Dysgu Cymunedol Cymru, Colegau Cymru, Ufi learndirect a Pearson

Grŵp Cymunedol y FlwyddynGrŵp Hafal - Shan Davies,Sharon Harris, SusanneMahoney, Christina Hodges

Dysgwr Addysg Bellach y FlwyddynEirlys Bowler

Dysgwr Cymraeg y FlwyddynKay Holder

Dysgwr Cymunedol y FlwyddynKelly Amanda Williams

Dysgwr Teulu a Rhyng-genhedlaeth y Flwyddyn Prosiect Swazi Key Connections

Page 13: WYTHNOS ADDYSG OEDOLION 2011

Cynhaliwyd Seremoni Ysbrydoli! Tiwtoriaid a Mentoriaid 2011 yn Theatr Ddarlithio Reardon Smith yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Caerdydd ddydd Llun 16 Mai. Roedd mwy na 100 o westeion yn bresennol a chafodd 9 gwobr genedlaethol Ysbrydoli! eu cyflwyno yn dathlu’r goreuon mewn tiwtora a mentora yng Nghymru mewn pynciau a meysydd megis sgiliau sylfaenol, y Gymraeg, arloesedd, cynhwysiant digidol, ESOL, addysg uwch, addysg bellach a thiwtora cymunedol. Cyflwynydd y noson oedd Chris Needs, BBC Radio Cymru.

Mae eich straeon yn ein hysbrydoli i gyd ac rydych wedi cyflawni pethau gwych. Ond peidiwch rhoi’r gorau iddi yno! Daliwch ati. Daliwch ati i wneud gwahaniaeth i’ch hunan, eich teuluoedd a’ch cymunedau. Rydych wedi dangos fod gan ddysgu gydol oes y grym i newid bywydau ac yn y pen draw, gall pobl fel chi newid Cymru. Chris Needs, BBC Radio Wales

WWW.NIACEDC.ORG.UK

Page 14: WYTHNOS ADDYSG OEDOLION 2011

WWW.NIACEDC.ORG.UK

Tiwtor Addysg Uwch y FlwyddynMelaneia Warwick

Tiwtor ESOL y FlwyddynVictoria Jones

Arloesedd mewn Addysg OedolionStephanie Hardie

Tiwtor Cymunedol y Flwyddyn (cyfartal gyntaf)Hannah Woodward

Tiwtor Cymunedol y Flwyddyn (cyfartal gyntaf)Chris Tatam

Tiwtor Sgiliau Sylfaenol y FlwyddynRhian Evans

Tiwtor Galwedigaethol y FlwyddynHelen Hodgkinson

Gwobr Cynhwysiant DigidolMelinda Gardner

Addysg Bellach y FlwyddynDebi Norman

Tiwtor y Flwyddyn, Rhian Evans, yn derbyn ei gwobr gan Chris Needs, BBC Radio Cymru (chwith), Joyce Heath, Tiwtor y Flwyddyn 2010 (de) a Richard Spear, Cyfarwyddwr NIACE Dysgu Cymru (de pellaf)

Cefnogwyd Gwobrau Ysbrydoli! Tiwtoriaid a Mentoriaid gan City & Guilds, Agored Cymru, Dysgu Cymunedol Cymru, Colegau Cymru ac Ufi learndirect.

Page 15: WYTHNOS ADDYSG OEDOLION 2011

Anfonwyd datganiadau i’r wasg i’r holl wasg genedlaethol, lleol ac arbenigol a ysgogodd ar 219 erthygl yn ymwneud â’r Wythnos Addysg Oedolion. Roedd y sylw’n canolbwyntio’n bennaf ar straeon enillwyr gwobrau Ysbrydoli! a digwyddiadau lleol. Roedd y papurau newydd cenedlaethol a roddodd sylw i’r Wythnos Addysg Oedolion yn cynnwys: The Western Mail, The Daily Post, The South Wales Echo, The Big Issue, The South Wales Argus, The Western Telegraph, The Evening Post, Y Cymro, Golwg, The County Times a chyfres Celtic.

WYTHNOS ADDYSG OEDOLION YN Y WASG!

WWW.NIACEDC.ORG.UK

Page 16: WYTHNOS ADDYSG OEDOLION 2011

Wedi’u cynhyrchu mewn cysylltiad gyda grwpiau Gwyliau Dysgu, cyhoeddwyd canllawiau rhanbarthol ‘Beth sydd Ymlaen’ ar gyfer pob un o’r 22 sir yng Nghymru. Gallai unrhyw un oedd yn cyflwyno sesiwn flasu yn ystod yr Wythnos Addysg Oedolion lanlwytho digwyddiadau am ddim. Dosbarthwyd y canllawiau i bartneriaid darparu lleol ym mhob sir, a chynhyrchwyd 154,000 copi, gan roi sylw i’r cannoedd o weithgareddau oedd ar gael.

CANLLAWIAU RHANBARTHOL

WWW.NIACEDC.ORG.UK

Page 17: WYTHNOS ADDYSG OEDOLION 2011

CYFRYNGAU CYMDEITHASOL

Sianel YouTube NDC

Yn y flwyddyn ers ei sefydlu mae sianel YouTube NIACE Dysgu Cymru wedi denu 10,465 edrychiad, gyda 1,731 edrychiad ym mis Wythnos Addysg Oedolion 2011. Gan gynnwys llu o ffilmiau byr am addysg oedolion (yn cynnwys fideos am holl enillwyr gwobrau Ysbrydoli!) mae gan y safle rywbeth ar gyfer pawb sydd â diddordeb mewn addysg oedolion. Bu cynnydd enfawr yn nifer y gwylwyr eleni gyda dros 5,000 trawiad ers mis Ionawr yn unig! I weld am beth mae’r holl ffws, ewch i YouTube a chwilio am NIACEDC yn y rhestr sianeli.EdrychiadYouTube1,731 edrychiad o 1 Mai i 31 Mai (655 edrychiad yn yr un cyfnod yn 2010).

Sylw ar Radio

Unwaith eto bu Wythnos Addysg Oedolion ar y tonfeddi gydag ymgyrch wedi’i thargedu at bob un o’r 22 sir yng Nghymru. Cafodd hysbysebion 30 munud a ysgrifennwyd yn arbennig eu darlledu yn Gymraeg a Saesneg, a’u defnyddio ar orsafoedd radio cymunedol ledled Cymru.

Gwefan Eich Dyfodol. Eich Dewis. Yn eich dwylo chi

9,858 ymweliad rhwng 1 Mai a 31 Mai (5,996 ymweliad yn yr un cyfnod yn 2010). www.Yourfuturechoiceaction.org.uk

Gwefan Niacedc

3,080 ymweliad rhwng 1 Mai a 31 Mai (2,232 ymweliad yn yr un cyfnod yn 2010). www.niacedc.org.uk

WWW.NIACEDC.ORG.UK

Page 18: WYTHNOS ADDYSG OEDOLION 2011

Cafodd Trydar a Facebook eu defnyddio ar y cyd i helpu i hyrwyddo neges Addysg Oedolion. Ers 2010, mae’r nifer sy’n dilyn wedi codi o 160 i gynifer â 560. Fe roddodd tîm NDC 380 neges Twitter yn ystod yr ymgyrch eleni. Bu gan defny-dd Twitter beth llwyddiant a chaiff ei weld fel dull defnyddiol iawn wrth i’w boblogaeth dyfu o fewn y gymuned Addysg Oedolion a’r cyhoedd yn gyffredinol.

10 UCHAF TRYDARWYR WYTHNOS ADDYSG OEDOLION

NIACEDC (131) paulbrichardson (33)ClareSouthard (23)cerysfurlong (19)A470Training (15)CL3Project (15)AgoredCymru (12)SwanseaITeC (10)Communities1st (8)rscwales (7)

@Keep_Wales_Tidy RT @NIACEDC: More tasters #walw11 @Keep_Wales_Tidy have events around Wales - Make a Bat Box in Wrexham or Beach Clean in Llanelli.. htt ...

@rscwales RT @deesidecollege: Deeside College Celebrates Adult Learners Week with a full schedule of events - http://bit.ly/jQzwT0 #walw11

@AgoredCymru RT @NIACEDC: Lots going on in Swansea during #walw11 - family trees, execution talks, IT, glass art, playwork, sign language, maths..htt ...

@Discovermore Adult Learners week is 14th - 21st May, here's what's going on in Swansea! http://tinyurl.com/5t5vqce #WALW11

@trinitystdavid RT @NIACEDC: Lampeter Sat 14th May 10am Victoria Hall - Energy advice, Clothes swap, shop basket challenge, money tips, eco options..dont miss it #walw11

@GetITOnNPT RT @NIACEDC: For events during #walw11 in Neath Port Talbot, Carmarthenshire & Swansea have a look at last nights South Wales Evening Post.

@NIACEDC RT @CVandJobStore NEWS: Adult Learners week in Wales: http://www.cvjobstore.com/article/adult-learners-week-in-wales-97.htm #walw11

@NIACEDC RT @Communities2_0 know someone who shld come along to one of our events on Digital Day next Friday? bit.ly/kkzr7n #digitaldaywales #walw11

BLAS O’R TRYDAR:Daeth y Trydarwyr allan yn gryf yn ystod yr Wythnos Addysg Oedolion. Dyma olwg ar rai o’u negeseuon.

WWW.NIACEDC.ORG.UK

Page 19: WYTHNOS ADDYSG OEDOLION 2011

AROLWG CYFRANOGWYR FFÔN

Ar ddiwedd yr ymgyrch fe wnaethom arolygu 425 a gymerodd ran yn yr Wythnos Addysg Oedolion i gael eu sylwadau. Dyma rai o’r canlyniadau ...

WWW.NIACEDC.ORG.UK

Beth ydych chi’n meddwl y dylen ni wneud er mwyn hyrwyddo’r Wythnos Addysg Oedolion yn well y flwyddyn nesaf?

Ym mha fath o leoliad y cynhaliwyd y Sesiwn Flasu/Gweithgaredd Dysgu?

Page 20: WYTHNOS ADDYSG OEDOLION 2011

WWW.NIACEDC.ORG.UK

Pam wnaethoch chi fynychu'r Sesiwn Flasu/Gweithgaredd Dysgu?

Pa fath o sesiwn flasu aethoch chi iddi?

Beth ydych chi’n ei astudio/dysgu ar y cwrs y gwnaethoch lofnodi amdano?

Page 21: WYTHNOS ADDYSG OEDOLION 2011

Gwyddai tri-chwarter yr ymatebwyr fod y sesiwn flasu/gweithgaredd dysgu y buont ynddo yn rhan o Wythnos Addysg Oedolion.

Y pwnc mwyaf poblogaidd oedd sesiwn blasu crefft, gyda sesiwn Technoleg Gwybodaeth yn dilyn

Mae bron chwarter yr ymatebwyr wedi llofnodi ar gyfer cwrs.

Y prif reswm am beidio medru llofnodi am gwrs oedd ei bod yn rhy gynnar i lofnodi, gyda’r mwyafrif helaeth o’r rhai na fedrodd lofnodi am gwrs yn dweud y byddant yn bendant yn parhau i geisio gwneud hynny.

Mae bron dri mewn pump yn talu am y cwrs eu hunain.

Mae chwarter y cyrsiau am ddim.

Mae tri mewn pump o’r ymatebwyr ar gwrs sy’n arwain at dystysgrif neu ddyfarniad cydnabyddedig.

Mae bron hanner yr ymatebwyr yn debygol iawn i fynd ati i ddysgu yn y tair blynedd

Y nifer cyfartalog mewn digwyddiadau oedd rhwng 15 a 35.

Ar gyfartaledd, roedd dwywaith gymaint o fenywod yn mynychu ag o ddynion.

Mae pobl 50-74 oed yn llawer mwy tebygol o fynd i ddigwyddiad Wythnos Addysg Oedolion na phobl un ai iau neu hŷn.

Nid oes mwyafrif gan fwyafrif helaeth y rhai sy’n mynychu.

Prydeinwyr Gwyn yw’r rhan fwyaf o’r rhai sy’n mynychu.

WWW.NIACEDC.ORG.UK

Page 22: WYTHNOS ADDYSG OEDOLION 2011

Prif Gyfanswm Nifer Digwyddiadau Cyfranogwyr

Anglesey 7 280Blaenau Gwent 26 874Bridgend 14 318Caerphilly 136 2053Cardiff 72 5925 Carmarthenshire 7 791Ceredigion 16 422Conwy 13 61Denbighshire 25 185Flintshire 8 127Gwynedd 13 63Merthyr Tydfil 30 176Monmouthshire 21 572Neath Port Talbot 20 1109Newport 142 591Pembrokeshire 30 1084Powys 33 618Rhondda Cynon Taf 28 465Swansea 15 490Torfaen 21 450Vale of Glamorgan 20 710Wrexham 19 1463

Prif Gyfanswm 716 18827

Cynhaliwyd gweithgareddau diwrnod Dysgu@ y Gwaith le tu allan i Wyliau Dysgu. Cymerodd 2683 o bobl ran yn y digwyddiadau hynny. Prif Gyfanswm Nifer Digwyddiadau Cyfranogwyr 902 21,555

Grwpiau Gwyliau Dysgu

WWW.NIACEDC.ORG.UK

Ers 2005 bu NIACE Dysgu Cymru yn gweithio gyda darparwyr dysgu lleol i sefydlu partneriaethau Gŵyl Ddysgu ym mhob un o 22 awdurdod unedol Cymru. Mae'r grwpiau hyn yn cynnwys 340 o sefydliadau darparu addysg oedolion yn cydweithio i gynnal digwyddiadau proffil uchel ym mhob sir, ac i gydlynu digwyddiadau Wythnos Addysg Oedolion ar lefel leol. Tyfodd y cynllun i bwynt lle mae bron yr holl weithgareddau a gynhelir yn ystod yr Wythnos Addysg Oedolion yn gysylltiedig gyda grŵp Gŵyl Ddysgu leol.

Page 23: WYTHNOS ADDYSG OEDOLION 2011

AbertaweGower CollegeCity & County Swansea – Lifelong LearningCity & County Swansea - LibrariesCity & County Swansea - PlantasiaClybiau Plant CymruSwansea Community FarmCommunity Lives Consor-tiumCATSSwansea University, DACEARCAfrican Community CentreWEASwansea Museum

Blaenau GwentBlaenau Gwent Adult Educa-tion ServiceBlanau Gwent Library Ser-vicesColeg Gwent Library Ser-vicesWelsh for Adults CentreBridges into workUHOVICUVGenesis Project BGWEALlanhilleth Miners InstituteCommunities First Area Cwmtillery

CaerffiliCaerphilly LF/Community YMCCaerphilly CBCWEA (South Wales)

Caerphilly CBCChwarae TegCaerphilly CBCUniversity of Wales, NewportCommunity University of the Valleys (East)Coleg GwentBTCVCCBCGroundwork CaerphillyRhymney CF PartnershipCefn Fforest Community CentreCCBCCCBCBritannia Community AssociationCCBCMenter Iaith CaerffiliTarragan, Bargoed

Wales Co-operativeCADWCCBCCCBCUHOVIBridges into WorkGAVOCCBC

CaerdyddSRDCOpen UniversitySt Fagans: National History MuseumColeg Glan HafrenUWICCardiff University Barry College National Museum CardiffVAC Menter CaerdyddCommunities First MENFA – Mentoring For AllWelsh for AdultsCardiff People FirstTaff HousingBay ARTDyslexia Action Penylan House Afro Caribbean Society BVSNWACE Women Group (African – Caribbean Elder Women )ITECWEAThe Cardiff StoryBAWSOpeartreelanguagesCeltic Learners Network

U Learn CollegeCardiff School of Beauty HMRCThe WallichClassical Music Shiloh PentecostalFellowship ChurchCeltic Learners NetworkCardiff and Vale UHBCardiff, Vales and Valleys (Part of RNIB Group)

CeredigionMenter AbertifiDysgu BroAberystwyth UniversityCareers Wales WestCoppicewood CollegeHanes LlandochWelsh for AdultsWEATrinity St. David

Transition LlambedColeg CeredigionCredcer Credit UnionCABShared Earth Trust

ConwyNorth Wales TrainingCybiau Plant Cymru Kids ClubConwy Livrary ServicesColeg Llandrillo AbergeleConwy Voluntary Services Council

Sir DdinbychDenbighshire Heritage ServiceCreative Arts WorkshopBasket MakerRuthin Craft CentrePositive Action For StrokesSWRCFCo-OpColeg Llandrillo Cymru, DenbighDeeside College

Sir y FflintWEA HarlechDeeside CollegeAbakhan Fabrics

GwyneddColeg Menai Gwynedd Libraries Welsh for Adults (North Wales)Bangor UniversityGwynedd CouncilWelsh for Adults (Mid Wales)Communities First GwyneddColeg Llandrillo (Dolgellau, Pwllheli & Glynllifon)Coleg HarlechDeudraeth Cyf

Merthyr TudfulTydfil TrainingCommunities FirstTroedyrhiw Communities FirstLeisure ServicesMTCBC3G’sAge ConcernTown and Park Communities FirstWEAGroundwork3G’s

Bridges into Work,Merthyr CollegeTroedyrhiw Communities FirstCareers WalesMenter IaithSchool GatesWEAMerthyr Tydfil Housing AssociationVAMTCwm Taff LHBCyfarthfa Greenhouses, The Information Shop, Menter IaithMTCBCGlamorgan GatesNHSVAMTGellidegTaff Bargoed Communities FirstKeep Wales TidySafe and Secure TrainingUHOVIGlamorgan UniversityTrefechan Communities FirstMTCBCSafe and Secure TrainingNIACE Dysgu CymruDesigned to SmileTydfil TrainingTalk TrainingMerthyr Libraries, MTCBC

Pen-y-bont ar OgwrCyberlinkBridgend College Adult Community LearningBridgend Library and Infor-mation ServiceMenter Bro OgwrWelsh for Adults/ Welsh for the FamilyW.E.A.Careers WalesBridgend Library and Infor-mation ServiceChwarae Teg Agile NationBridgend Recreation Centre Bridgend CollegeBridgend Library and Infor-mation ServiceBridgend CollegeTSW Training LimitedBridges Into WorkBridgend Carers Centre

Partneriaid Gwyliau Dysgu

WWW.NIACEDC.ORG.UK

Page 24: WYTHNOS ADDYSG OEDOLION 2011

PowysColeg Powys NorthColeg Powys South Arts AliveWelsh for AdultsOpen UniversityBrecon MuseumBrecon LibraryTake pARTLantraPowys CC – Open DoorFamily CentreKeep Wales TidyElan Valley Visitor CentreTheatre Brycheiniog

Rhondda Cynon TafRCT CBCBryncynon StrategyFriends of Tonypandy Col-legeGarth Olwg Lifelong Learn-ing CentreInterlinkPenrhys PartnershipRowan Tree Cancer Ser-vicesTonyrefail Communities First

Sir DdinbychDenbighshire Heritage ServiceCreative Arts WorkshopBasket MakerRuthin Craft CentrePositive Action For StrokesSWRCFCo-OpColeg Llandrillo Cymru, DenbighDeeside College

Sir FynwyMulberry HouseLearn IT MonmouthBridges Community CentreUniversity of WalesColeg Gwent /Learn IT

Sir GaerfyrddinWEA South – West RegionCarmarthenshire County Council ACLColeg Sir GarLlanelli Multi Cultural Net-workJobforce WalesKeep Wales TidyWellbeing & Regeneration TrustFoothold RegenerationCAVS (Llanelli Multicultural Network)Swansea Univerity

Tor-faenTorfaen LibraryMacmillian Cancer InfoIT Centre CwmbranTALP – Celebration of AchievementTorfaen TextilesDigital HubTorfaen ACLTorfaen Museum TrustTorfaen Adult Learning Partnership

Ynys MonColeg Harlech WEAColeg MenaiHyfforddiant Parys TrainingAge CymruGyfra CymruMorloNational TrustKeep Wales TidySports DevelopmentANOBLifleong Learning and infor-mation ServicePlas Cybi

WrecsamWrexham County Borough CouncilGlyndwr UniversityYale CollegeColeg Harlech WEAAVOW

Mae’n rhwydd ymuno â’ch Grŵp Gŵyl Ddysgu agosaf! Efallai y gallwn gyn-nig cymorth a chyllid ar gyfer eich gweithgareddau felly pam na gysylltwch â ni? I gael mwy o wybodaeth ar sut i gymryd rhan yn y rhestr gynyddol o se-fydliadau partner, cysylltwch â’ch cyn-rychiolydd Gŵyl Ddysgu NIACE Dysgu Cymru:

GRWPIAU GOGLEDD CYMRUCYSWLLT: Rachel JonesE-BOST: [email protected]: 02920 370900 / 07717 303644

GRWPIAU DE CYMRUCYSWLLT: Essex HavardE-BOST: [email protected]ÔN: 02920 370900 / 07795 456664

GRWPIAU GORLLEWIN CYMRUCYSWLLT: Clare SouthardE-BOST: [email protected]ÔN: 02920 370900 / 07880 724 058

CANOLBARTH/DE DDWYRAIN CYMRUCYSWLLT: Kay SmithE-BOST: [email protected]ÔN:02920 370900 / 07880 724053

WWW.NIACEDC.ORG.UK

MAE EICH GRŴP GŴYL

DDYSGU LEOL EICH

EISIAU CHI!

Page 25: WYTHNOS ADDYSG OEDOLION 2011

WWW.NIACEDC.ORG.UK

I holl gefnogwyr a noddwyr yr Wythnos Addysg Oedolion

Diolch i chi!

Mae Cyfleoedd Nawdd ar gyfer 2012 yn cynnwys:

· Prif noddwr Wythnos Addysg Oedolion (12-19 Mai 2010)· Noddwr diwrnod thema: Penwythnos Un Byd, Diwrnod Sgiliau Bywyd, Di wrnod Treftadaeth Ddiwylliannol, Diwrnod Byw Egniol, Diwrnod Dysgu@ y Gwaith, Diwrnod Digidol, Diwrnod Dysgu Teulu a Rhyng-genhedlaeth· Prif noddwr neu noddwr partner Seremoni Wobrwyo Ysbrydoli!· Noddi cyhoeddi dros 150,000 o ganllawiau “Beth sydd Ymlaen” a ddosberthir ym mhob rhan o Gymru· Partner ymgyrch y Wasg a’r Cyfryngau: Hysbysebion radio, atodiadau papur newydd (1.5 miliwn o ddarllenwyr).

Rydym hefyd yn darparu pecynnau nawdd pwrpasol i weddu i anghenion a chyllideb unigol.Mae NIACE Dysgu Cymru hefyd eisiau ymrwymo gyda chwmnïau sy’n dymuno datblygu ac arddangos eu hymrwymiad i addysg oedolion drwy gydol y flwyddyn. Mae cyfleoedd yn cynnwys cynadleddau, adroddiadau ymchwil ac unrhyw brosiectau cyd-fuddiol eraill. Os hoffai’ch cwmni ymuno â’n rhestr o noddwyr proffil uchel, cymryd rhan yn yr ŵyl ddysgu fwyaf a hynaf o addysg oedolion yn y byd, a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i filoedd o oedolion yng Nghymru, cysylltwch ag Essex Havard, Cydlynydd Ymgyrchoedd a Chodi Arian ar 029 2037 0900 neu [email protected] .

Page 26: WYTHNOS ADDYSG OEDOLION 2011

14th - 23rd May 2011

Gwobrau Ysbrydoli!:

Dyddiad cau enwebiadau am wobrau: 10 Chwefror 2012

Panel Gwobrwyo: 5 Mawrth 2012

Seremoni Wobrwyo: 10 Mai 2012

Cyfryngau:

I gael yr wybodaeth ddiweddara am Addysg Oedolion a NIACE Dysgu Cymru, medrwch ein dilyn ar-lein mewn amrywiaeth o ffyrdd:

· Dod yn ffrind ar Facebook - chwilio am NIACE Dysgu Cymru· Trydar eich sylwadau atom ar gyflenwad Twitter NIACE Dysgu Cymru www.twitter.com/niacedc (a hefyd gadw llygad am #walw12)· Sianel YouTube NIACE Dysgu Cymru - chwilio am NIACEDC ar y rhestr sianeli! www.youtube.com/niacedc Grwpiau Gŵyl Ddysgu:

Os ydych yn ddarparydd ac yr hoffech gymryd rhan yn eich Grŵp Gŵyl Ddysgu lleol, yna cysylltwch ag Essex Havard yn NIACE Dysgu Cymru ar 02920 370900 neu drwy e-bost ar: [email protected]

Cyrsiau yn eich ardal:I gael gwybodaeth ar gyngor Dysgu a Gyrfaoedd, ffoniwch 0800 100 900 yn rhad ac am ddim.

WWW.NIACEDC.ORG.UK

AMSERLENNI A DYDDIADAU 2012