6
bbc.co.uk Datganiadau Ariannol Llawn y BBC 2015/16 1 Y BBC yn y gwledydd Yn ystod 2015/16 gwariodd y BBC £177.7 miliwn yng Nghymru ar draws pob gwasanaeth a llwyfan. Mae’r cyfanswm gwariant yn cynrychioli cynnydd o £8.5 miliwn ar gynnwys rhwydwaith a chynnydd o £1.7 miliwn ar gynnwys lleol o gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Roedd teledu rhwydwaith yn 2015/16 yn cynnwys cynyrchiadau BBC Cymru The Game a rhifyn arbennig o Sherlock ynghyd â Casualty , Doctor Who, Crimewatch, Coast, Bargain Hunt a nifer o gynyrchiadau ffeithiol ar gyfer teledu yn ystod y dydd. O safbwynt lefelau cynnwys lleol, ychydig iawn o newidiadau a welwyd, gyda thua 700 awr o gynnwys teledu Saesneg yn ystod y ddwy flwyddyn (gan gynnwys ailddarllediadau) a chynnydd bach o 14 awr mewn cynnwys ar gyfer S4C yn sgil ailddarllediadau o Pobol y Cwm. Yn yr un modd, mae gwasanaethau radio BBC Cymru yn gymharol sefydlog o flwyddyn i flwyddyn gyda Radio Wales yn darlledu 7,439 awr yn 2015/16 a Radio Cymru yn darlledu 7,000 awr. Mae’r lleihad yn yr amser a dreuliodd cynulleidfaoedd y BBC yn gwylio ein hallbwn teledu yn 2015/16 yn adlewyrchu tueddiadau a newidiadau ehangach yn ymddygiad cynulleidfaoedd. Mae’r tudalennau canlynol yn rhoi rhagor o fanylion am berfformiad y BBC yng Nghymru, gan gynnwys incwm, gwariant lefel uchel a pherfformiad ar draws gwasanaethau a ddarperir yng Nghymru. Incwm Amcangyfrifon yw’r ffigurau hyn ar gyfer pob gwlad ac fe’u cyfrifwyd drwy gymhwyso cyfran y safleoedd trwyddedig i gyfanswm y trwyddedau sydd mewn grym. Mae union nifer y trwyddedau sydd mewn grym yn amrywio o ddydd i ddydd. Mae nifer y safleoedd trwyddedig yn wahanol i nifer y trwyddedau sydd mewn grym oherwydd, mewn rhai achosion, mae’n bosibl y bydd angen mwy nag un drwydded ar safle. Nid yw’r ffigurau yn cynnwys trwyddedau consesiynol i’r rhai sy’n byw mewn gofal preswyl. 2016 £m 2015 £m Incwm amcangyfrifedig Y DU 3,742.8 3,735.4 Cymru 186.5 186.0 Gwariant fesul gwasanaeth Gwariant uniongyrchol ac anuniongyrchol mewn perthynas â rhaglenni a gynhyrchwyd yn y wlad. 2016 £m 2015 £m Cynnwys rhwydwaith Teledu (gan gynnwys Chwaraeon a Phlant)* 69.4 60.8 Radio 3.8 3.8 Ar-lein a Red Button 1.5 1.6 Cyfanswm gwariant ar gynnwys rhwydwaith 74.7 66.2 Cynnwys lleol Teledu – BBC One 21.7 21.4 Teledu – BBC Two 12.0 10.5 Radio Wales 15.1 15.5 Radio Cymru 14.2 14.1 Ar-lein a Red Button 6.4 6.2 Cyfanswm gwariant ar gynnwys lleol 69.4 67.7 Cerddorfa Genedlaethol Cymru 4.7 4.6 S4C** 28.0 27.1 Datblygu 0.9 1.2 Cyfanswm 177.7 166.8 * Caiff cynnwys rhwydwaith ei briodoli ar sail Ofcom, sy’n eithrio cynyrchiadau tramor. ** Mae hyn yn cynrychioli’r rhaglenni teledu a gafodd eu comisiynu a’u cynhyrchu gan BBC Cymru a’u cyflenwi i S4C (h.y. nid yw’n cynnwys rhaglenni y gwnaeth S4C eu comisiynu’n uniongyrchol gan gynhyrchwyr eraill). Cymru

Y BBC yn y gwledydd Cymrudownloads.bbc.co.uk/aboutthebbc/insidethebbc/... · Yn ystod 2015/16 gwariodd y BBC £177.7 miliwn yng Nghymru ar draws pob gwasanaeth a llwyfan. Mae’r

  • Upload
    others

  • View
    0

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

Page 1: Y BBC yn y gwledydd Cymrudownloads.bbc.co.uk/aboutthebbc/insidethebbc/... · Yn ystod 2015/16 gwariodd y BBC £177.7 miliwn yng Nghymru ar draws pob gwasanaeth a llwyfan. Mae’r

bbc.co.uk Datganiadau Ariannol Llawn y BBC 2015/16 1

Y BBC yn y gwledydd

Yn ystod 2015/16 gwariodd y BBC £177.7 miliwn yng Nghymru ar draws pob gwasanaeth a llwyfan. Mae’r cyfanswm gwariant yn cynrychioli cynnydd o £8.5 miliwn ar gynnwys rhwydwaith a chynnydd o £1.7 miliwn ar gynnwys lleol o gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Roedd teledu rhwydwaith yn 2015/16 yn cynnwys cynyrchiadau BBC Cymru The Game a rhifyn arbennig o Sherlock ynghyd â Casualty, Doctor Who, Crimewatch, Coast, Bargain Hunt a nifer o gynyrchiadau ffeithiol ar gyfer teledu yn ystod y dydd.

O safbwynt lefelau cynnwys lleol, ychydig iawn o newidiadau a welwyd, gyda thua 700 awr o gynnwys teledu Saesneg yn ystod y ddwy flwyddyn (gan gynnwys ailddarllediadau) a chynnydd bach o 14 awr mewn cynnwys ar gyfer S4C yn sgil ailddarllediadau o Pobol y Cwm. Yn yr un modd, mae gwasanaethau radio BBC Cymru yn gymharol sefydlog o flwyddyn i flwyddyn gyda Radio Wales yn darlledu 7,439 awr yn 2015/16 a Radio Cymru yn darlledu 7,000 awr.

Mae’r lleihad yn yr amser a dreuliodd cynulleidfaoedd y BBC yn gwylio ein hallbwn teledu yn 2015/16 yn adlewyrchu tueddiadau a newidiadau ehangach yn ymddygiad cynulleidfaoedd.

Mae’r tudalennau canlynol yn rhoi rhagor o fanylion am berfformiad y BBC yng Nghymru, gan gynnwys incwm, gwariant lefel uchel a pherfformiad ar draws gwasanaethau a ddarperir yng Nghymru.

IncwmAmcangyfrifon yw’r ffigurau hyn ar gyfer pob gwlad ac fe’u cyfrifwyd drwy gymhwyso cyfran y safleoedd trwyddedig i gyfanswm y trwyddedau sydd mewn grym. Mae union nifer y trwyddedau sydd mewn grym yn amrywio o ddydd i ddydd. Mae nifer y safleoedd trwyddedig yn wahanol i nifer y trwyddedau sydd mewn grym oherwydd, mewn rhai achosion, mae’n bosibl y bydd angen mwy nag un drwydded ar safle. Nid yw’r ffigurau yn cynnwys trwyddedau consesiynol i’r rhai sy’n byw mewn gofal preswyl.

2016

£m2015

£m

Incwm amcangyfrifedig

Y DU 3,742.8 3,735.4

Cymru 186.5 186.0

Gwariant fesul gwasanaeth Gwariant uniongyrchol ac anuniongyrchol mewn perthynas â rhaglenni a gynhyrchwyd yn y wlad.

2016£m

2015£m

Cynnwys rhwydwaith

Teledu (gan gynnwys Chwaraeon a Phlant)* 69.4 60.8

Radio 3.8 3.8

Ar-lein a Red Button 1.5 1.6

Cyfanswm gwariant ar gynnwys rhwydwaith 74.7 66.2

Cynnwys lleol

Teledu – BBC One 21.7 21.4

Teledu – BBC Two 12.0 10.5

Radio Wales 15.1 15.5

Radio Cymru 14.2 14.1

Ar-lein a Red Button 6.4 6.2

Cyfanswm gwariant ar gynnwys lleol 69.4 67.7

Cerddorfa Genedlaethol Cymru 4.7 4.6

S4C** 28.0 27.1

Datblygu 0.9 1.2

Cyfanswm 177.7 166.8

* Caiff cynnwys rhwydwaith ei briodoli ar sail Ofcom, sy’n eithrio cynyrchiadau tramor.** Mae hyn yn cynrychioli’r rhaglenni teledu a gafodd eu comisiynu a’u cynhyrchu gan BBC Cymru a’u cyflenwi i S4C (h.y. nid yw’n cynnwys rhaglenni y gwnaeth S4C eu comisiynu’n uniongyrchol gan gynhyrchwyr eraill).

Cymru

Page 2: Y BBC yn y gwledydd Cymrudownloads.bbc.co.uk/aboutthebbc/insidethebbc/... · Yn ystod 2015/16 gwariodd y BBC £177.7 miliwn yng Nghymru ar draws pob gwasanaeth a llwyfan. Mae’r

bbc.co.uk Datganiadau Ariannol Llawn y BBC 2015/16 2

Y BBC yn y gwledydd

Oriau teleduOriau dewisol lleol^ (gan gynnwys ailddarllediadau) ar BBC One a BBC Two

2016

Oriau2015

Oriau

Drama, Comedi, Adloniant, Cerddoriaeth a'r Celfyddydau 31 27

Newyddion a Materion Cyfoes Dyddiol, Wythnosol 400 390

Chwaraeon a Hamdden 168 166

Addysg, Ffeithiol a Chrefydd 98 117

Plant – –

Cyfanswm 697 700

^ Cynnwys teledu a gomisiynwyd yn benodol ar gyfer cynulleidfaoedd yn y wlad.

S4C*

2016

Oriau2015

Oriau

Drama, Comedi, Adloniant, Cerddoriaeth a'r Celfyddydau** 246 220

Newyddion a Materion Cyfoes Dyddiol, Wythnosol 263 273

Chwaraeon a Hamdden 98 99

Addysg, Ffeithiol a Chrefydd 9 8

Plant – 2

Cyfanswm 616 602

* Mae hyn yn cynrychioli’r rhaglenni teledu a gafodd eu comisiynu a’u cynhyrchu gan BBC Cymru a’u cyflenwi i S4C (h.y. nid yw’n cynnwys rhaglenni y gwnaeth S4C eu comisiynu’n uniongyrchol gan gynhyrchwyr eraill).** Mae hyn yn cynnwys ailddarllediadau lle codwyd tâl ar BBC Cymru mewn perthynas â darlledu’r rhaglenni. Mae oriau 2016 yn cynnwys 100 awr o ailddarllediadau (gan gynnwys 77 awr o Pobol y Cwm) ac mae

oriau 2015 yn cynnwys 38 awr o ailddarllediadau (yn cynnwys 35 awr o Pobol y Cwm).

Oriau radioBBC Radio Wales

2016Oriau

2015Oriau

Newyddion a Materion Cyfoes 2,168 2,206

Cyffredinol 5,271 5,217

Cyfanswm 7,439 7,423

BBC Radio Cymru

2016Oriau

2015Oriau

Newyddion a Materion Cyfoes 1,418 1,323

Cyffredinol 5,582 5,613

Cyfanswm 7,000 6,936

Nifer y staffMae nifer gyfartalog y staff yn cynrychioli’r unigolion hynny a gyflogir i gefnogi’r gwasanaethau a gynhyrchir yng Nghymru yn uniongyrchol.

2016Nifer

2015Nifer

Nifer gyfartalog y bobl a gyflogwyd yn ystod y flwyddyn 1,158 1,145

Nifer gyfartalog yr unigolion yng Nghymru ar draws pob gwasanaeth gan gynnwys swyddogaethau cefnogi

2016Nifer

2015Nifer

Nifer gyfartalog y bobl a gyflogwyd yn ystod y flwyddyn 1,394 1,444

Page 3: Y BBC yn y gwledydd Cymrudownloads.bbc.co.uk/aboutthebbc/insidethebbc/... · Yn ystod 2015/16 gwariodd y BBC £177.7 miliwn yng Nghymru ar draws pob gwasanaeth a llwyfan. Mae’r

bbc.co.uk Datganiadau Ariannol Llawn y BBC 2015/16 3

Y BBC yn y gwledydd

Perfformiad Cymru fesul gwasanaeth

Teledu

Cynnwys (£m)Gwnaethom wario cyfanswm o £103.1 miliwn ar y gwasanaethau hyn y llynedd yng Nghymru

Cyrhaeddiad (%)Poblogaeth Cymru sy’n defnyddio’r gwasanaeth bob wythnos

Amser a dreuliwyd yn gwylio sianel bob wythnos (oriau:munudau)Y cyfnod o amser a dreuliodd gwylwyr cyffredin yng Nghymru gyda’r sianel bob wythnos

BBC One yw ein prif wasanaeth a sianel deledu fwyaf poblogaidd y DU. Mae’n uno ac yn ysbrydoli’r genedl gyda rhaglenni o safon ar draws amrywiaeth o genres yn cynnwys newyddion a materion cyfoes, drama, comedi, adloniant a ffeithiol. £77.1m

2014/15: £68.0m75.9% 2014/15: 77.5%

08:392014/15: 08:53

Mae BBC Two yn sianel genre cymysg sydd â rhaglenni treiddgar o sylwedd. Mae’n cynnwys y swm a’r amrywiaeth mwyaf o raglennu sy’n meithrin gwybodaeth ar y BBC, ynghyd â rhaglennu comedi, drama a chelfyddydol nodedig. £22.2m

2014/15: £15.2m49.9% 2014/15: 51.4%

03:172014/15: 03:19

Mae BBC Three yn arloesi yn barhaus i annog cynulleidfaoedd o bobl ifanc 16 oed i bobl yn eu 30au i feddwl ac i’w difyrru gyda rhaglennu comedi, drama a ffeithiol gwreiddiol sy’n dathlu talent Brydeinig newydd.

£0.4m* 2014/15: £1.4m

19.5%^ 2014/15: 20.8%

01:502014/15: 01:54

Nod BBC Four yw sicrhau mai hi yw’r sianel sy’n cynnig y cyfoeth deallusol a diwylliannol gorau ym Mhrydain, gan gynnig amrywiaeth uchelgeisiol o raglenni celfyddydol, cerddoriaeth, diwylliant a ffeithiol o’r DU ac yn rhyngwladol. £3.4m

2014/15: £3.3m 13.0% 2014/15: 13.2%

01:412014/15: 01:44

Mae sianel CBBC yn cynnig amserlen gymysg nodedig i blant rhwng 6 a 12 oed, gan ddarlledu rhaglenni o’r DU yn bennaf mewn amgylchedd ysgogol, creadigol a phleserus.

– 2014/15: £3.7m

4.4% 2014/15: 4.7%

02:352014/15: 02:21

Mae CBeebies yn cynnig cyfuniad o raglenni o ansawdd uchel, wedi’u cynhyrchu yn y DU yn bennaf, sydd wedi’u cynllunio i annog dysgu drwy chwarae mewn amgylchedd cyson ddiogel i blant o dan chwech oed.

–2014/15: £1.1m

6.6% 2014/15: 9.4%

04:192014/15: 04:22

Diffiniad o gyrhaeddiad: 15+ munud yn olynol ar gyfer pob sianel a gwasanaeth a chynulleidfaoedd 4+ oed (teledu). Ffynhonnell: BARB (cyrhaeddiad teledu a’r amser a dreuliwyd – mae pob sianel yn cynnwys ei sianel cyd-ddarlledu HD lle y bo’n berthnasol). BBC Three: ymhlith ei grwp targed o bobl ifanc rhwng 16 a 34 oed, cafwyd cyrhaeddiad o 25.2%. Gan fod y sianel wedi symud ar-lein, ceir data BARB ar gyfer BBC Three hyd at 14/02/2016.* Daeth BBC Three i ben fel gwasanaeth llinellol ym mis Mawrth 2016, ac fe’i disodlwyd â gwasanaeth ar-lein o fis Chwefror 2016. Roedd gwariant ar BBC Three Ar-lein yn rhan o wasanaeth BBC Ar-lein a Red

Button yn dilyn hynny.

Page 4: Y BBC yn y gwledydd Cymrudownloads.bbc.co.uk/aboutthebbc/insidethebbc/... · Yn ystod 2015/16 gwariodd y BBC £177.7 miliwn yng Nghymru ar draws pob gwasanaeth a llwyfan. Mae’r

bbc.co.uk Datganiadau Ariannol Llawn y BBC 2015/16 4

Y BBC yn y gwledydd

Perfformiad Cymru fesul gwasanaeth

Radio

Cynnwys (£m)Gwnaethom wario cyfanswm o £3.8 miliwn ar y gwasanaethau hyn y llynedd yng Nghymru

Cyrhaeddiad (%)Poblogaeth Cymru sy’n defnyddio’r gwasanaeth bob wythnos

Amser a dreuliwyd yn gwrando ar wasanaeth bob wythnos (oriau:munudau)Y cyfnod o amser a dreuliodd gwrandawyr cyffredin yng Nghymru gyda’r gwasanaeth bob wythnos

Mae BBC Radio 1 yn darlledu cymysgedd nodedig o gerddoriaeth newydd ac adloniant i bobl ifanc rhwng 15 a 29 oed ac yn cynnig newyddion, rhaglenni dogfen ac ymgyrchoedd cynghori i oedolion ifanc.

– 2014/15: –

24.9%+ 2014/15: 26.4%

07:492014/15: 07:12

Mae BBC 1Xtra yn chwarae'r gerddoriaeth ddu gyfoes orau â phwyslais cryf ar gyflwyno cerddoriaeth fyw o ansawdd uchel a chefnogi artistiaid newydd.

–2014/15: –

2.0%^ 2014/15: 1.8%

02:20§

2014/15: 02:55

Mae BBC Radio 2 yn darlledu cymysgedd unigryw o gerddoriaeth a rhaglenni llafar yn cwmpasu cymysgedd eang o allbwn pop a roc byw, comedi, rhaglenni dogfen a chrefyddol amrywiol, ac yn cynnal ymgyrchoedd gweithredu cymdeithasol i dros 14 miliwn o wrandawyr. –

2014/15: –36.6%** 2014/15: 38.2%

13:302014/15: 12:26

Mae BBC Radio 3 yn canolbwyntio ar gerddoriaeth glasurol, gan ddarparu sbectrwm eang o jazz, cerddoriaeth y byd, rhaglenni celfyddydol, crefydd a drama. Ceir pwyslais cryf ar berfformiadau cerddorol ledled y DU. £2.6m

2014/15: £2.6m3.4% 2014/15: 3.1%

05:422014/15: 06:43

Mae BBC Radio 4 yn orsaf radio sy'n cynnig gwasanaeth llafar cymysg, gyda newyddion a materion cyfoes treiddgar ac ystod eang o raglenni llafar eraill yn cynnwys drama, darlleniadau, comedi, rhaglenni ffeithiol a rhaglenni cylchgrawn. £1.2m

2014/15: £1.2m 16.6% 2014/15: 18.0%

11:512014/15: 11:43

Lansiwyd yr orsaf yn wreiddiol yn 2002 fel BBC 7, a chafodd ei hail-lansio ym mis Ebrill 2011 fel BBC Radio 4 extra. Y rhwydwaith digidol yn unig yw’r prif gyfrwng ar gyfer archif y BBC o adloniant llafar, yn cynnwys comedi, drama a darlleniadau. –

2014/15: –3.0% 2014/15: 3.0%

07:062014/15: 05:14

Mae BBC Radio 5 live yn darlledu newyddion a chwaraeon byw yn barhaus, gan gyflwyno straeon newyddion a digwyddiadau chwaraeon mawr wrth iddynt ddigwydd a darparu cyd-destun drwy ddadansoddiadau a thrafodaeth eang. –

2014/15: –9.1% 2014/15: 8.3%

06:332014/15: 06:02

Page 5: Y BBC yn y gwledydd Cymrudownloads.bbc.co.uk/aboutthebbc/insidethebbc/... · Yn ystod 2015/16 gwariodd y BBC £177.7 miliwn yng Nghymru ar draws pob gwasanaeth a llwyfan. Mae’r

bbc.co.uk Datganiadau Ariannol Llawn y BBC 2015/16 5

Y BBC yn y gwledydd

Radio

Cynnwys (£m)Gwnaethom wario cyfanswm o £3.8 miliwn ar y gwasanaethau hyn y llynedd yng Nghymru

Cyrhaeddiad (%)Poblogaeth Cymru sy’n defnyddio’r gwasanaeth bob wythnos

Amser a dreuliwyd yn gwrando ar wasanaeth bob wythnos (oriau:munudau)Y cyfnod o amser a dreuliodd gwrandawyr cyffredin yng Nghymru gyda’r gwasanaeth bob wythnos

Mae BBC Radio 5 live sports extra yn cynnig dewis ehangach o chwaraeon byw i wrandawyr drwy ymestyn y darllediadau byw o ddigwyddiadau chwaraeon amrywiol.

–2014/15: –

2.8% 2014/15: 1.7%

03:442014/15: 04:03

Mae BBC 6 Music yn orsaf radio ddigidol sy’n diddanu’r rhai sy’n mwynhau cerddoriaeth boblogaidd gyda gwasanaeth sy’n dathlu ysbryd amgen cerddoriaeth boblogaidd o’r 60au hyd heddiw, ynghyd â newyddion a rhaglenni dogfen am gerddoriaeth. –

2014/15: –3.1% 2014/15: 3.8%

08:112014/15: 09:41

Mae BBC Asian Network yn cynnig allbwn llafar a cherddoriaeth sy’n apelio at Asiaid Prydeinig, gyda ffocws cryf ar newyddion a materion cyfoes. Mae’n darlledu yn Saesneg yn bennaf, ond mae’n cynnig rhai rhaglenni mewn ieithoedd eraill. –

2014/15: –0.1% 2014/15: 0.6%

*

2014/15: *Diffiniad o gyrhaeddiad: 15+ munud ar gyfer pob gorsaf a chynulleidfaoedd 15+ oed. Ffynhonnell: RAJAR (Cyrhaeddiad radio a’r amser a dreuliwyd).Heb gynnwys y rhaglen ‘Coming up on 5 live sports extra’.+ BBC Radio 1: ymhlith ei grwp targed o bobl ifanc rhwng 15 a 29 oed, cafwyd cyrhaeddiad o 50.6% a’r amser a dreuliwyd oedd 07:17.^ BBC Radio 1Xtra: ymhlith pobl ifanc rhwng 15 a 24 oed, cafwyd cyrhaeddiad o 7.5%. ** Radio 2: ymhlith ei grwp targed o bobl 35+ oed, cafwyd cyrhaeddiad o 42.4% a’r amser a dreuliwyd oedd 14:47.* Mae maint y sampl ar gyfer amser fesul defnyddiwr yn rhy fach i’w chofnodi.§ Gall y ffaith bod y sampl yn llai arwain at fwy o amrywioldeb yn y data.

Perfformiad Cymru fesul gwasanaeth

Page 6: Y BBC yn y gwledydd Cymrudownloads.bbc.co.uk/aboutthebbc/insidethebbc/... · Yn ystod 2015/16 gwariodd y BBC £177.7 miliwn yng Nghymru ar draws pob gwasanaeth a llwyfan. Mae’r

bbc.co.uk Datganiadau Ariannol Llawn y BBC 2015/16 6

Y BBC yn y gwledydd

Newyddion

Cynnwys (£m)Ni wnaethom wario unrhyw arian ar y gwasanaethau hyn y llynedd yng Nghymru

Cyrhaeddiad (%)Poblogaeth Cymru sy’n defnyddio’r gwasanaeth bob wythnos

Amser a dreuliwyd yn gwylio neu’n gwrando ar wasanaeth bob wythnos (oriau:munudau)Y cyfnod o amser a dreuliodd gwylwyr neu wrandawyr cyffredin yng Nghymru gyda’r gwasanaeth bob wythnos

Mae sianel BBC News yn wasanaeth newyddion diduedd ac annibynnol 24 awr y dydd sy’n cynnig y newyddion diweddaraf, dadansoddiadau a dealltwriaeth o’r hyn sy’n digwydd. Mae’n rhoi sylw cyflym a chynhwysfawr i ddigwyddiadau lleol, rhai yn y DU a rhai rhyngwladol wrth iddynt ddigwydd. –

2014/15: – 12.5%* 2014/15: 12.4%

03:132014/15: 03:10

PARLIAMENT

BBC Parliament yw unig sianel y DU sy’n ymroddedig i wleidyddiaeth. Mae’n dangos dadleuon a phwyllgorau o San Steffan, Holyrood, Stormont, Bae Caerdydd a Strasbourg yn ogystal â rhaglenni gwleidyddol o bob cwr o’r DU. –

2014/15: –0.7%* 2014/15: 0.5%

01:532014/15: 01:48

Diffiniad o gyrhaeddiad: 15+ munud ar gyfer pob sianel a gwasanaeth a chynulleidfaoedd 4+ oed.Ffynhonnell: cyrhaeddiad ac amser a dreuliwyd BARB (teledu).* Byddai cyrhaeddiad tri munud ar gyfer sianel BBC News a BBC Parliament – yn unol â safonau’r diwydiant – yn 16.5% ac 1.4% yn y drefn honno (18.6% ac 1.6% ymysg y boblogaeth 16+ oed)

Digidol

Cynnwys (£m)Gwnaethom wario cyfanswm o £7.9 miliwn ar y gwasanaethau hyn y llynedd yng Nghymru

Cyrhaeddiad (%)Poblogaeth Cymru sy’n defnyddio’r gwasanaeth bob wythnos

Amser a dreuliwyd gyda phob gwasanaeth bob wythnos (oriau:munudau)Y cyfnod o amser a dreuliodd defnyddwyr cyffredin yng Nghymru gyda’r gwasanaeth bob wythnos

Mae BBC Ar-lein yn cynnwys portffolio’r BBC o gynhyrchion ar-lein ar gyfrifiaduron bwrdd gwaith, teledu cysylltiedig, ffonau symudol a thabledi, yn cynnwys newyddion, chwaraeon a’r tywydd; ein gwasanaethau i blant sef CBBC a CBeebies; a Gwybodaeth a Dysgu – yn ogystal â gwasanaethau teledu a radio a ddarperir ar IP, gyda rhaglenni byw ac ar alw ar gael ar BBC iPlayer.

£7.9m 2014/15: £7.8m

62.8% 2014/15: 67.3%

dd/g2014/15: dd/g

Diffiniad o gyrhaeddiad: 3+ munud ar gyfer y ddau wasanaeth, ac oedolion 16+ oed.Ffynhonnell: Arolwg Cross-Media Insight gan GfK, 16+. Data’r DU – blynyddoedd ariannol, data Cymru – blynyddoedd calendr.