7
y gloran papur bro blaenau’r rhondda fawr rhifyn 274 2il gyfrol 20c Medi 12 CAFFI NEWYDD NEUADD Y PARC Agorwyd caffi newydd yn Neuadd y Parc, Cwmparc yr wyth- nos ‘ma. Roedd caffi yno yn y gorffennol, ond nawr, mae’r caffi wedi cael ei ailad- durno, ac mae’n cael ei redeg gan wirfod- dolwyr. Torodd y

Y Gloran

Embed Size (px)

DESCRIPTION

papur bro blaenau'r rhondda fawr misol, 12 tudalen

Citation preview

Page 1: Y Gloran

y gloranpapur bro blaenau’r rhondda fawr

rhifyn 274 2il gyfrol

20c Medi 12

CAFFI NEWYDDNEUADD Y PARCAgorwyd caffi newydd yn Neuadd y Parc, Cwmparc yr wyth-nos ‘ma. Roedd caffi yno yn y gorffennol, ond nawr, mae’r caffi wedi cael ei ailad-durno, ac mae’n cael ei redeg gan wirfod-dolwyr. Torodd y

Page 2: Y Gloran

Cynghorwr Cennard Davies y ruban i agor y caffi, a daeth nifer o aelodau o’r gymuned i weld y lle newydd ac i ddangos eu cefnogaeth. Cafodd ysbryd cymunedol arbennig ei ddangos pan ddaeth dau weithiwr i mewn i gael cinio. Yn y pendraw, helpon nhw ma’s drwy hongian y bwrdd bwydlen ar y wal!

Dywedodd cadeirydd y pwyllgor, Joanne Jones, “Does dim lle arall yng Nghwmparc i eistedd i gael cwpan a sgwrs, felly roedd y pwyllgor yn teimlo ei bod hi’n bwysig i greu lle i gwrdd. Mae’n fwy pwsig nag erioed nawr, achos mae dyfodol y neuadd dan fygythiad, oherwydd prinder arian. Tasai’r caffi yn llwyddiannus, basai fe’r cefnogi’r neuadd a’i gal-luogi i aros ar agor.

Mae nifer o ddosbarthiadau a gwaithgareddau yn digwydd yn Neuadd y Parc, fel gwneud gemwaith, crefft siwgr, ioga, disgo dan 9 oed, llythrennu, ar-lunio dyfrlliw. Os nadoes arian yn dod i mewn i’r neuadd, fydd dim dosbarthiadau ar gael i bawb yn y gymuned.

Pe hoffai unrhywun helpu ma’s neu wirfoddoli yn y caffi, ffoniwch Lorraine yn swyddfa Neuadd y Parc ar 776920. Mae’r caffi yn agor o 10yb - 2yp, dydd Llun i ddydd Iau, a bydd croeso mawr i bawb.

Caffi Newydd yn Neuadd y Parc

Torri’r ruban i agor’ y caffi

Canu am eu cinio

golygyddol y gloranDYFODOL STRYD FAWR EIN TREFI

CYMDEITHAS GYMRAEG TREORCIMae rhaglen Cymdeithas Gymraeg Treorci ar gyfer Tymor 2012-13 wedi ei chyhoeddi. Cynhelir y cy-farfod cyntaf, nos Iau, 27 Medi pan fydd Y Prifardd Aled Gwyn [Caerdydd] yn rhoi sgwrs ar ‘Hiwmor y Gorllewin’. Fe’i dilynir ar 25 Hydref gan yr aw-dur a’r ddarlledwraig adnabyddus, Bethan Gwanas [Dolgellau] a fydd yn trafod amrywiol agweddau ar ei bywyd a’i gwaith. Yn hytrach na chynnal cyfar-fod yn Hermon ym mis Tachwedd, gobeithir y bydd yr aelodau’n cefnogi sioe Nadolig Ysgol Gyfun y Cymer a gynhelir yn y Parc a’r Dâr nos Fawrth a nos Fercher, 27 - 28 ain..Y siaradwr fydd yn agor ail ran y rhaglen ar 31 Ionawr fydd y darlledwr Arfon Haines Davies a fydd yn trafod ei brofiadau ym myd y teledu. Wedyn ar 28 Chwefror ceir noson o drafod creiriau a hen bethau yng nghwmni’r Dr Felix Aubel [Trelech] Bydd

croeso i aelodau ddod â hen bethau er mwyn cael eu hanes a barn am eu gwerth. Bydd cyngerdd yng nghwmni Parti’r Efail yn cloi’r tymor, nos Iau, 28 Mawrth.Fel arfer, cynhelir y cyfarfodydd yn festri Hermon gan ddechrau am 7.15 ‘r gloch. Gellir cael tocyn tymor, pris £5, gan y trysorydd, Ceri Llewelyn (773151) neu’r ysgrifennydd, Cennard Davies (435563). Croeso i bawb.

Ledled yr ynysoedd hyn, mae masnachwyr ein strydoedd siopa yn poeni am eu dyfodol. Yn wythnosol, clywir ei bod yn gyfyng ar siopau bach a bod eu perchnogion yn ei chael hi’n anodd i gael dau ben llinyn ynghyd. Un o olygfeydd trisaf y cymoedd yw gweld bod cymaint o’r siopau hyn wedi cau a’u ffe-nestri wedi eu byrddio yn arwydd gweladwy o gyni economaidd. Mae Cyngor Rhondda Cy-non Taf yn cadw cownt wythnosol o nifer y bobl sy’n ymweld â chanol-fannau ein trefi a dengys y ffigurau hyn fod gostyngiad sylweddol wedi digwydd yn nifer y siopwyr dros y flwyddyn ddiwethaf. O brif drefi’r Rhondda Fawr, Treorci yw’r fwyaf llewyrchus o bell ffordd, er gwaethaf

y gostyngiad. Un o’r rh-esymau am hyn, efallai, yw absenoldeb unrhyw archfarchnad fawr gan fod yr un ystadegau’n dangos yn glir yr effaith ddrwg a gafodd Asda ar brif stryd Tonypandy. Yn sicr, bydd perchnogion siopau Treorci yn hapus bod cais cynllunio Tesco ar gyfer y Cae Mawr wedi ei ddiddymu am y tro gan y Cyngor.

Rheswm arall dros lewyrch canol Tre-orci yw’r gwaith cyson a wneir gan y Siambr Fasnach a pherchnogion siopau unigol i ddenu mwy o gwsmeriaid a da yw gweld bod to newydd o fasnachwyr ifanc yn weithgar yn y cyfeiriad hwn. Yn y rhifynnau nesaf bydd Y Gloran yn tynnu sylw at rai o’r rhain gan fod eu

cyfraniad yn hanfodol i lwyddiant ein trefi. Yn eironig, mae dif-fyg swyddi yn y sector cyhoeddus wedi gorfodi llawer o raddedigion i droi’n entrepreneuriaid ac erbyn hyn nid yw’n anghyffredin gweld gwŷr gradd yn troi at fyd busnes i ennill bywolia-eth. Ceir nifer o engh-reifftiau o hyn yn lleol ac rydyn ni i gyd wedi elwa ar fenter a dychymyg y bobl hyn. A bod yn deg, bu’r Cyngor yn trefnu achlysuron i ddenu pobl i’n canolfannau siopa ar adegau arbennig o’r flwyddyn, yn enwedig y Nadolig, ond datblyg-wyd hyn ymhellach gan unigolion blaengar trwy sefydlu gŵyl gerdd ac eisteddfod lwyddiannus yn ystod yr haf, ynghyd â ffair greiriau. Llwyd-dodd y mentrau hyn i

ddenu llawer mwy o bobl i ganol y dref nag a welir ar ddydd Sadwrn arferol. Dyma’r math o fentrau sydd eu hangen i wrthweithio drwg effaith yr archfarchnadoedd ar ganol ein trefi. Gall ein siopau bach gynnig gwasanaeth personol a chynnig amrywiaeth i drefi sydd mewn perygl o fynd mor debyg i’w gilydd wrth iddynt gael eu meddiannu gan y cad-wyni arferol o siopau a chaffis. Mawr obeithiwn y bydd y Cyngor yn rhoi cefnogaeth ymarferol i’n masnachwyr lleol ac yn ceisio lledu unrhyw arfer da i drefi eraill ar draws y sir.Golygydd

LLYTHYRDerbyniwyd y llythyr hwn oddi wrth Dafydd Guto, Llanrug, Gwynedd. Oes rhywun sy’n gwybod mwy am y digwyddiad hwn? [Gol.]

Annwyl Syr,Wedi taro ar y canlynol yn Y Genedl Gym-reig, Rhagfyr 25, 1894 a rhyw feddwl y byd-dai o ddiddordeb i ddarllenwyr Y loran. A oes ‘chwaneg o’r hanes ar gael, tybed?‘Cymerodd digwyddiad cyffrous iawn le yn Porth, Rhondda, brydnawn Sadwrn. Fel yr oedd Mrs Catherine Bowen, gwraig i lowr, yn cerd-

ded trwy Gridge (sic) street, agorodd y ddaear, a diflanodd y ddynes, er dychryn a braw nid bychan i’r llygad-dystion, y rhai, ar ôl rhedeg i’r lle, a fethent ei gweled, gan ei bod wedi cwympo i ogof dan y ddaear, tua 30 troedfedd o ddyf-nder. Fel yr oedd glowr o’r enw Jones yn cael ei anfon i lawr, torrodd y rhaff a diflanodd yntau o’r golwg. O’r diwedd, gallodd dyn o’r enw Rogers achub Jones a Mrs Bowen. Nid oedd y ddiwethaf wedi ei hanafu yn ddrwg iawn, ond bu farw y blaenaf ddydd Sul.’

Pob dymuniad da i’r papur,Dafydd Guto

Page 3: Y Gloran

Mae llawer o ofid yn yr ardal ynglŷn â dyfodol swddfa ddosbarthu’r Post yn Nhreorci. Flw-yddyn yn ôl, galwodd y cynghorwyr lleol gyfarfod i geisio dod o hyd i fwriadau’r Sw-yddfa Bost. Er ei bod yn amlwg ar y pryd taw’r bwriad oedd symud yr uned i Ferndale, dywed-wyd bod swyddogion y Post yn dal i drafod y mater. Cafwyd cryn dipyn o wrthwynebiad i’r bwriad i symyd pawb i’r Rhondda Fach yn ys-tod y cyfarfod hwnnw a chyhoeddwyd y tro hwn bod yr awdurdodau wedi gwrando ar ofidiau’r cyhoedd ac wedi pend-erfynu rhoi’r gorau i’r bwriad hwnnw. Dywed-

wyd, fodd bynnag, taw symud pawb i Gwm Cly-dach yw’r dewis opsiwn bellach. Cynulleidfa LuosogEr gwaethaf y tywydd drwg, cystadleuaeth o du’r Gemau Olympaidd ar y teledu a’r ffaith ei bod yn adeg gwyliau, daeth torf sylweddol ynghŷd i wrando ar Ian Edwards, Cyfarwyddwr Dosbarthu’r Post Bren-hinol a Gary Watkins, Ysgrifennydd Rhanbar-thol Undeb y CWU, yn annerch. Dywedodd Mr Edwards fod y gwaith ymgynghori yn dal i fynd yn ei flaen ac nad oedd penderfyniad terfynol wedi ei wneud eto. Ar ran yr Undeb, dywedodd Gary Watkins

y byddai’n well gan ei weithwyr symud i Gwm Clydach na Ferndale, ond eu dewis cyntaf fyd-dai aros yn ardal Treorci. Esboniwyd fod y Post Brenhinol wedi edrych ar y posibilrwydd o add-asu rhan o ffatri Burb-erry at y gwaith ond bod y gost o wneud hynny’n rhy uchel. Colli AdnoddauDywedodd y cadeirydd, Cennard Davies fod yr ardal wedi colli llawer o adnoddau yn ddiwed-dar gan gynnwys pwll nofio Treherbert, ffatri Burberry, Banc Barclays, Treherbert a chanolfan ailgylchu Treorci a bod colli pob un o’r rhain yn gwanhau gwead econo-mi Rhondda Uchaf. Aw-

grymodd y byddai colli’r Swyddfa Ddosbarthu yn Nhreorci yn ergyd pellach i’r ardal. Mewn ateb i cwestiwn, dy-wedodd Ian Edwards na fyddai unrhyw ddirywiad yn ansawdd y gwasana-eth gan y byddai trigo-lion lleol yn gallu casglu parseli o’u swyddfa bost leol a gwneud hynny’n ddi-dâl. Pwysodd nifer yn y gynulleidfa ar y Post i edrych ar obsiynau eraill yn yr ardal cyn penderfynu ar leoliad yn derfynol. Addawodd y swyddogion i wneud hyn ond, wrth adael y cyfarfod, doedd neb yn teimlo’n hyderus iawn y bydden nhw’n newid eu meddyliau.

SWYDDFA DDOSBARTHU TREORCI

newyddion lleol DEUNYDD AR GYFER POB RHIFYN I MEWN ERBYN DECHRAU’R MIS OS GWELWCH YN DDA

TREHERBERTGan fod Merryl a Ge-raint Davies ar eu gwyliau wrth i’r Gloran fynd i’r wasg, rydyn ni’n ddiolchgar i’r Cyngh. Irene Pearce am roi inni newyddion Treherbert y mis hwn. [Gol.]Ar 17 Medi rhwng 10 - 1pm bydd Llyfrgell Tre-herbert yn cynnal bore yn dwyn y teitl ‘Rhannu Atgofion’ pryd y bydd cyfle i’r cyhoedd ddod â hen luniau a dogfen-nau er mwyn iddynt gael eu sganio a chael eu cynnwys yn yr archif digidol. Mae’n bwysig fod pethau o’r fath yn cael eu cofnodi, felly twriwch yn eich drodiau a chypyrddau a dewch yn llu.Mae Tony Willis, gynt o Stryd Ninian wedi derbyn MBE yn rhestr anrhydeddau’r Frenhines am ei wasanaeth i’r hen a’r methedig. Mae Tony wedi dioddef o ME ers blynyddoedd ac yn gaeth i gadair olwynon, ond dyw hynny ddim yn ei rwystro rhag helpu eraill. Llongyfarchiadau calon-nog iddo.Llongyfarchiadau i Tŷ Ross ar ennill gradd 5 am lanweithdra ei gegin yn dilyn arolwg diwed-dar. Dyma’r radd uchaf y gellir ei hennill.Ddydd Gwener, 12 Hydref rhwng 9.30 - 3.30pm cynhelir cwrs ‘Trafod eich Arian’

yn Swyddfa CwmNi. Pwrpas y cwrs fydd helpu pobl i drefnu eu harian a thalu biliau. Os oes gennych ddiddordeb, ffoniwch 777536 am ragor o fanylion.Mae CwmNi yn gobe-ithio hefyd drefnu cwrs BSL Lefel 1 ar Iaith Arwyddion [British Sign Language] tua diwedd mis Medi. Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno, ffoniwch 777536.Mae Clwb Bechgyn a Merched Treherbert yn chwilio am ragor o hyf-forddwyr pêl-droed ar gyfer eu timau dan 11 a 12. Roedd y timau’n llw-yddiannus iawn y tymor diwethaf ond mae gwir angen rhagor o help. Cy-sylltwch ag un o’r swyd-dogion ar 778145 os oes gennych ddiddordeb.

TREORCILlongyfarchiadau calon-nog i Geraint Williams, gynt o Stryd Regent, ar gael ei benodi’n olynydd i Brian Flynn, yn rhe-olwr ar dimau pêl-droed iau Cymru. Bu Geraint, sy’n 50 oed ac yn gyn-chwaraewr rhyngwladol, yn rheolwr ar dimau Colchester a Leyton Ori-ent. Ar ôl colli ei swydd yn leyton, bu’n gweithio gyda thimau iau clybiau yn y Bencampwriaeth a’r Uwch-Gynghrair a hefyd

y gweithio ar ran Juven-tus, y tîm enwog o’r Ei-dal. Am y ddwy flynedd nesaf bydd yn cyd-weithio’n glos â Chris Coleman, rheolwr prif dîm Cymru. Dymunwn iddo bob llwyddiant yn ei swydd newydd.Aeth aelodau’r WI ar daith ddirgel ddechrau mis Awst. Doedd neb yn gwybod pen draw’r daith a bu llawer o ddyfalu. Yn y diwedd, cyrhaed-don nhw Newbury a chafodd pawb ddiwrnod wrth eu bodd. Diolch i Anita Bound a’i chwaer, Marion Jones am wneud yr holl drefniadau.Pob dymuniad da am ad-feriad llwyr a buan i Mrs Ann Evans, Tŷ Pengelli sydd wedi cwympo a thorri ei harddwrn yn ddiweddar a hefyd i Mr Alwyn Phillips, Teras Tynybedw sydd heb fod yn hwylus ers tro..Llongyfarchiadau calon-nog i Mrs Iris Morgan, gynt o Deras Troedyrhiw ar ddathlu ei phen-blwydd yn 100 oed yn ddiweddar. Mae Mrs Morgan bellach yng nghartref gofal Tŷ Ross, Treherbert. Dymunwn iddi bob cysur a hapusr-wydd.Nos Lun, 24 Medi bydd Pwyllgor Cancr Tre-orci yn cynnal cwis yn nhafarn y RAFA am 7.30 o’r gloch. Y cwisfeistr, fel arfer, fydd Mr Noel Henry. Dewch yn llu i

EICHGOHEBWYRLLEOL :Rhowch wybod iddyn nhw os byddwch chi ei-siau rhoi rhywbeth yn Y GLORAN

Treherbert:Geraint a Merrill Davies

Cwmparc:D G Lloyd

Treorci:Mary Price

Y PentreTesni PowellAnne Brooke

Ton Pentre a’r GelliHilary Clayton Graham John

Page 4: Y Gloran

roi prawf ar eich gwy-bodaeth gyffredinol a chael noson o hwyl yn y fargen.Yn nhymor y gwyliau, roedd yn dda gweld Rob a Pat Howard yn ôl yn eu cynefin a’r ddau bellach wedi ymgartrefu yn Perth, Awstralia. Cafodd Pat [Hendy gynt] ei magu ar y Stryd Fawr a daw ei gŵr, Rob, o Dreherbert.Pob dymuniad da i Mrs Iris Thomas, Stryd Dumfries sydd wedi dod adref ar ôl treulio cyfnod yn yr ysbyty. Hefyd i Mrs Eirlys Davies, Stryd Luton sydd yn Ysbyty Cwm Rhondda ar hyn o bryd a Mrs Mary Pauline, Stryd Fawr sy’n treulio cyfnod yng

nghartref gofal Pentwyn.Mae eu ffrinriau oll yn dymuno iddynt bob cysur ac adferiad llwyr a buan.Roedd yn flin iawn gan bawb glywed am farwolaeth Jose Elias, Woodland Vale. Roedd Jose yn gymeriad adna-byddus yn yr ardal, yn aelod ffyddlon yn Provi-dence, Ynyswen ac yng Nghlwb Henoed Treorci. Gwelir ei heisiau hefyd yn y cyfarfodydd PACT a fynychai’n selog. Coffa da amdani.Un arall a fu farw’n ddiweddar yw Mrs Dor-othy Picken, Heol Tyle Du, gweddw’r diweddar Alf Picken, ill dau eto’n adnabyddus yn yr ardal. Cydymdeimlwn â’u

merch, Dorothy a’r teulu oll yn eu profedigaeth a hefyd â theulu Mr Emlyn Lewis, Bryn Rhodfa.Bydd pawb hefyd yn gweld eisiau Mr Mal Witticase, Stryd Stu-art a fu farw yn dilyn cystudd byr. Roedd Mal yn gymeriad bywiog iawn, yn aelod o Glwb y RAFA ac yn barod iawn ei gymwynas. Cydym-deimlwn â’r teulu yn eu colled.Pob dymuniad da i Mr Brian Brown, Stryd Re-gent sydd wedi derbyn llawdriniaeth yn ddiwed-dar. Da yw ei weld o gwmpas y dref unwaith eto a dymunir iddo well-had llwyr a buan.Yn y dyfodol agos, bydd cais cynllunio yn dod o

flaen Pwyllgor Cynllunio Rh.C.T. i godi 9 o dai ar ytir sydd rhwng Bryn Rhodfa a Heol Tyle Du. Gwrthododd y Cyngor ddau gais blaenorol i ddatblygu’r safle.

Y PENTRELlongyfarchiadau i David a Caroline Wil-cox, Stryd Albert, ar ddathu eu Priodas Aur. Ddechrau Medi cyn-haliwyd gwasanaeth yn Eglwys Sant Pedr pryd y buon nhw’n adnewyddu eu haddunedau. Pob hapusrwydd a iechyd i’r ddau i’r dyfodol.Roedd trigolion Llys Si-loh wrth eu bodd yn cael Lily Sheppard yn ôl yn

eu plith ar ôl treulio tri mis yn derbyn triniaeth yn yr ysbyty. Pob dymu-niadda iddi.Bu nifer o drigolion Llys Siloh yn dathlu eu pen-blwyddi’r mis hwn gan gynnwys Betty Cooper, Olwen Williams, Viv Evans ac Esme Holmes. Dymunwn iddynt bob cysur a rhwyddineb i’r dyfodol.Mae pawb yn y llys yn hapus i estyn croeso twymgalon i Mr a Mrs John , Iris Pearse a Mrs Pat Vaughan sydd wedi symud i mewn yn ddiweddar gan gynnig iddynt arhosiad hir a dedwydd.Cynhelir cyfarfodydd PACT Y Pentre ddydd Mawrth cyntaf pob mis yn Llys Nazareth. Estyn-nir gwahoddiad cynnes i bawb i ddod i gwrdd â swyddogion yr heddlu

a’r cynghorwyr lleol, Shelley Rees a Maureen Weaver.Pob dymuniad da i Margaret Whatley, Stryd Baglan, oedd yn dathlu ei phen-blwydd 12 Medi a hefyd i Terry Hurst, 6 Medi. Ymhlith rhai eraill o drigolion yr ardal sy’n dathlu’r mis hwn mae Irene, Llys Nazareth heb anghofio Jaqueline Wigley, Stryd Llywelyn a Sybil Allen a gafodd achos i ddathu ym mis Awst.

TON PENTRERoedd yn ddrwg gen-nym dderbyn y newyd-dion am farwolaeth Mr Ken Tomkinson, Upper Canning. Yn frodor o Dreorci, roedd Ken yn aelod ffyddlon yn Eglw-ys Sant Ioan cyn i’w

iechyd ddirywio. Roedd yn aelod o’r enwog ‘Giang o Bedwar’ gyda Les Chinnock, Len Gale a Len Peake a oedd yn gyfrifol am drawsffurfio a chynnal y tir o gwmpas yr eglwys. Llwyddon nhw i ennill y wobr am yr ‘Ardd Eglwys Orau’ ar sawl achlysur. Cy-dymdeimlwn â’i wraig, Brenda a’r teulu oll yn eu profedigaeth.Yn dilyn cystudd hir a ddioddefodd yn ddewr, bu farw Brian Morris, Uplands, Ystrad. Bu Brian yn aelod o staff Adran Addysg Rhondda Cynon Taf cyn ymd-deol ac yn uchel iawn ei barch gan bawb. Cydym-deimlwn yn gywir iawn â’i weddw, Sheila a’r plant yn eu colled.Nos Wener, 28 Medi cynhelir noson yng Nghlwb Pêl-droed Ton

Pentre i godi arian at Glybiau Bechgyn a Merched yr ardal. Y gŵr gwadd fydd y cyn-bêl-droediwr lliwgar, Mick-ey Thomas a chwarae-odd dros nifer o dimau’r brif adran. Hefyd bydd y digrifwr, Phil Howe, yn darparu’r adloniant.Pob dymuniad da am wellhad llwyr a buan i ddau o aelodauHebron sydd wedi bod yn yr ysbyty, sef Mrs Gwen Evans, Stryd Whitfield a Mr Glan Lewis Stryd Canning.Cymeriad adnabyddus arall a ymadawodd â ni yn ddiweddar, ac yntau’n 81 oed oedd Viv Tho-mas, Stryd Matexa. Bu Viv yn athro uchel ei barch mewn sawl ysgol yn yr ardal ac yn ŵr amlwg ym myd y cam-pau. Am flynyddoedd bu’n ddyfarnwr rygbi ac

Page 5: Y Gloran

yn weinyddwr ym maes athletau. Cydymdeim-lwn â’i deulu oll yn eu hiraeth.Thema Gŵyl Fedi plwyf Ystradyfodwg eleni fydd, ‘Dewch i Ddathlu’. Bob nos Lun yn ystod y mis bydd gwahanol siaradwyr yn trafod agweddau ar y thema hwn yn ystod yr oedfa gymun. Cynhaliwyd y sesiwn cyntaf am 7 o’r gloch, 3 Medi pan anerchwyd gan y Parch Christopher Smith, Arch-ddeacon Morgannwg.Rhwng dydd Mercher a dydd Gwener, 19 -21 Medi bydd Grŵp The-atr Ieuenctid Act 1 yn cyflwyno ‘13 - Y sioe

gerdd’ bob nos am 7.15 pm yn theatr y Ffenics gyda matinee arben-nig am 2 pm ar y dydd Sadwrn. Dewch yn llu i gefnogi’r grŵp talentog hwn o bobl ifainc.

CWMPARCTrist yw cofnodi marw Josie Elias Woodland Vale Treorci priod y diweddar Ieuan Elias o Gwmparc. Symu-dodd hi a Ieuan yma o Broadstairs dros ugain mlynedd yn ôl. Roedd yn adnabyddus i lawer ac wedi setlo yn Nhreorci yn iawn dros y blynyd-doedd. Roedd yn aelod ffyddlon yn Providence

Treorci.

Hefyd drwg clywed am farw Ron Morgan gynt o Stryd Tallis. Symudodd ef a diweddar priod yn Brent Knoll rhyw deud-deg mlynedd yn ôl i fyw gyda Helen ei ferch a’r teulu a chydymdeimli â hi yn ei cholled. Hefyd cydymdeimlir â’i dwy chwaer Anita Bound Treorci a Marion Tan y Fron.

Mae’n dda clywed fod Maisie Holmes gynt o 103 Stryd Tallis wedi setlo mewn cartref yn ymyl Malmesbury er mewn bod yn agos at ei mab Brian.

-

Llongyfarchiadau i Anna Baik a’i phartner Carl ar enedigaeth eu mab Ceri ar 24 Awst yn eu cartref ym Mhryste. Llongy-farchiadau hefyd i’w dadcu a mamgu, Nam Ju ac Anne Baik.

Dw’i wedi bod yn dysgu Cym-raeg am 8 mlynedd, yn gynta yn Nhreherbert gyda Sue MacMil-lan, ac yn ddiweddar gyda Jane Davies yng Ngholeg Llwynypia. Mae’r cwrs yn cael ei drefnu gan Brifysgol Morgannwg, ac mae e’n ardderchog …. a llawer o hwyl!

I ddechrau yn y gystadleuaeth, roedd rhaid i fi ysgrifennu darn amdana i fy hun; manylion fy nheulu, ble a sut dwi’n dysgu ac yn y blaen. Cystadlodd 37 bobl yn ‘Dysgwr y Flwyddyn’ eleni, a cha-fodd pawb eu gwahodd i’r rownd gyn-derfynol, ar Skype (ar y we), neu yn bersonol.Ym mis Mai es i i Goleg Iwerydd, San Dunwyd /St Donats (yn y Fro) am y cyfweliad. Daeth 2 ffrind gyda fi, Hawys James a Mary Jenkins. Treulion ni ddiwrnod hyod ddiddorol yn y Coleg, yn gwneud gwahanol weithgareddau, e.e. twmpath, sgwrs gan yr Archd-

derwydd am hanes yr Eisteddfod, cwis, origami, a llawer o weith-gareddau eraill – yn Gymraeg i gyd, wrth gwrs!Pan gyrhaeddodd yr amser ar gyfer fy nghyfweliad, gadewais i’r neuadd er mwyn mynd i’r ystafell gyfweld lle roedd Siân Lloyd (newyddiadurwraig), Elwyn Hughes (Prifysgol Bangor), a Dr Rachel Heath Davies (Canolfan Cymraeg i Oelolion, Caerdydd) yn aros. Doedd y cwestiynau ddim yn gymhleth, ac roedd Sian, Elwyn a Rachel yn gyfeillgar iawn. Roedd e fel sgwrs, nid fel cyfweliad! Ar ddiwedd y diwrnod cyhoeddon nhw enwau y 4 a oedd yn llwyddi-annus yn mynd ymlaem i’r rownd derfynol.

Gorffenodd y dydd gyda perf-formiad hir gitar. Roedd e’n brofiad diddorol iawn. Beth am y flwyddyn nesa? Hmmmmm….. cawn ni weld!

[Un a gymerodd ran yng nghys-tadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn eleni oedd Siân (Jane) Brownnutt, Treherbert. Fe’i gwelsom yn y rhaglen deledu ond yma mae hi’n sôn am y profiad.]“O ble rydych chi’n dod?” “Sut ydych chi’n dysgu Cymraeg?” Sut ydych chi’n defnyddio’r iaith o ddydd i ddydd?”Roeddwn i yn y cyfweliad am ‘Dysgwr y flwyddyn’. Ond i ddechrau yn y dechrau……

Dysgwr y Flwyddyn 2012[Yn ein cyfres ar wŷr busnes newydd yr ardal mae Huw Davies, y mis hwn, wedi ymweld â thafarn y Lion, Treorci, i siarad â’r rheolwr new-ydd, Adrian Emmett.]Ar nosweithiau Sadwrn ganrif yn ôl, enillai fy nhad ffyrling neu ddimai trwy helpu mynychwyr y tafarn i fynd ar gefn eu ceffylau wrth iddyn nhw ymadael â’r Lion yn Stryd Bute, Treorci. Weithiau, byddai rhai ohonynt mor feddw ar ôl cyrraedd y cyfrwy nes iddynt gwympo’n glwt i’r ddaear ar yr ochr arall. Mae’r cylch metel a ddefnyddid i glymu’r ceffylau o hyd i’w weld yn sownd yn y pafin y tu fa’s i’r tafarn - ond daeth tro ar fyd yn hanes y Llew erbyn heddiw.

Ar noson desog o haf eleni (do, fe gawson ni ambell un!), mae’r Llew dan ei sang. Rhai cwsmeriaid tu fa’s yn wynebu’r stryd fawr yn eistedd ar gadeiriau crand newydd o gwmpas bordydd deniadol; eraill y y tu fewn yn mwynhau sgwrs neu yn gwylio amrywiaeth o raglenni ar sgriniau eang nifer o setiau teledu. Yna, yng nghefn y tafarn, yn yr ardd ddeniadol mae rhai ifainc a rhai hŷn yn mwynhau dod a phryd o fwyd. Mae hyd yn oed pabell helaeth ar gael os na fydd tywydd Treorci mor gyfandirol ei naws ag arfer. Mae hwn yn ddarlun gwahanol iawn i dafarnau gwerinol y cy-moedd. Yn wir mae yma awyrgylch cyfandirol,

diwylliant y boulevard, efallai, ond gyda stamp y Rhondda arno! Egni a gweledigaethY person â’r egni a’r weledigaeth i drawsnew-id y Lion yn y fath fodd yw’r entrpreneur ifanc lleol, Adrian Emmett. Cafodd Adrian ei fagu yn Ynyswen gan ei rieni, Peter a Susan Emmett ynghyd â’i chwiorydd o efeilliaid, Leanne a Rebecca. Derbyniodd ei addysg yn Ysgol Gyn-radd Gymraeg Ynyswen ac Ysgol Gyfun Cymer Rhondda lle y cafodd lwyddiant academaidd ac ar y cae rygbi a symud ymlaen wedyn i brifysgol ym Mryste i ddilyn cwrs mewn busnes a chyfrifiadureg. Dechreuodd ei ddid-dordeb mewn tafarnau

pan gafodd swydd yn helpu yn y Pig & Whis-tle, Ynyswen yn ystod gwyliau’r coleg a thros y penwythnosau. Ym Mryste, enillai arian ar ben ei grant prifysgol trwy weithio mewn clwb nos mawr a daeth yn am-lwg iddo y gallai wneud gyrfa ohoni yn y maes hwnnw. Enillodd brofiad a gweithio ei ffordd i fyny trwy’r rhengoedd mewn clybiau o fri yn yr Alban ac yng ngogledd Lloegr. Yna, ychydig dros flwyddyn yn ôl, ar ôl ennill cymaint o brofiad, ac yntau bellach am redeg ei fusnes ei hun, dechreudd chwilio am gyfle i ddatblygu busnes. Gan ei fod yn caru’r ardal lle cafodd ei godi ac am greu rhyweth a fyddai o fudd nid yn

Y LLEW’N MYND O NERTH I NERTH

Page 6: Y Gloran

unig iddo ef ond i’r gymuned, bachodd ar y cyfle i reoli tafarn y Llew, Treorci.Creu rhywbeth gwaha-nolDros gyfnod o amser, roedd Adrian wedi datblygu athronia-eth fusnes yr oedd yn awyddus i’w rhoi ar waith. Roedd e am greu rhywbeth gwahanol y byddai cwsmeriaid lleol a rhai o bellach i ffwrdd yn ei gydnabod fel y lle i gymdeithasu.

Roedd e am sicrhau bod y Llew yn lle diogel i’w fynychu ac o’r dechrau cyflogodd gwarchodwyr drws cymwys ar adegau prysur. Ceisiai sicrhau hefyd fod hen ac ifanc yn teimlo’n gartrefol yno. O ganlynian, mae’r Llew yn cynnig dewis o gwrw a lager traddodia-dol ynghyd â’r diodydd alcoholig newydd y by-ddai cwsmariaid sefydli-adau ffasiynol Caerdydd a Llundain yn gyfarw-ydd â nhw. Yn ogystal

mae bwyd o safon dda ar gael i’w fwyta oddi mewn neu y tu fa’s. Mae bargeinion ‘dau bryd am un’ ar gael un noson tra bod nosweithiau cyri a phasteiod yn digwydd dro arall. Mae Adrian yn ymwybodol o bwysi-grwydd rhoi rhywbeth yn ôl i’r gymuned, felly cadwch olwg am Her Presenoldeb y Llew’, partneriaeth rhwng y tafarn ac ysgolion lleol i hyrwyddo presenoldeb disgyblion yn yr ysgol

- yr allwedd i lwyddiant academaidd. Yn naturiol hefyd, mae pwyslais ar yr iaith Gymraeg o fewn y busnes gyda rhyw 10 o’r staff yn siarad yr iaith. Mae’r rhain yn cynnwys ffrind ysgol Adrian a’i gyd-chwarae-wr rygbi o Dreherbert, Daniel Rees. Felly, peidiwch â cholli’r cyfle i godi eich peint yn iaith y nefoedd!

Y LLEW’N MYND O NERTH I NERTHys

golio

n a ph

rifys

golio

n YSGOL GYFUN Y CYMERCYMER YN DATHLU CYNNY-DD ARALL YNG NGHANLYNI-ADAU LEFEL UWCHUnwaith eto eleni, mae holl waith caled ac ymroddiad myfyrwyr Ysgol Gyfun CymerRhondda wedi dwyn ffrwyth wrth iddynt dderbyn eu canlyniadau Safon Uwch eleni. Derbyniodd 70% o fyfyrwyr Safon Uwch o leiaf dwy radd A*-C eleni, gwelliant o 9% ers canlyniadau 2011. Llwyddodd pob myfyriwr a astudiodd Lefel Uwch i dderbyn gradd A*-E. Ymhlith ein canlyni-adau gorau eleni roedd Laura Rob-erts, Cynan Williams, Abe Samp-son a Cameron Jones a enillodd 14 gradd A*-C rhyngddynt. Fe fydd pob myfyriwr nawr yn parhau ar

ei lwybr dysgu unigol, gyda llawer ohonynt yn cychwyn ar eu cyrsiau prifysgol ym mis Medi.Yn ogystal, cafwyd canlyniadau AS addawol iawn eleni. Ymhlith ein canlyniadau gorau roedd Samuel Kelland a dderbyni-odd 3 A ac 1 C; Owain Curnell a dderbyniodd 2 A a 2 B a Thomas Vaughan a dderbyniodd 1 gradd A a 2 radd B.Roedd yn ddiwrnod o ddathlu i un disgybl ym Mlwyddyn 9 eleni he-fyd wrth iddo gasglu ei ganlyniad ar gyfer modiwl AS Technoleg Gwybodaeth Cymhwysol. Llwyd-dodd Tressdon Llewellyn, sy’n 14 oed, i ennill gradd C ar ôl sefyll ei arholiad TGAU tair blynedd yn

gynnar y llynedd. Fe fydd nawr yn cwblhau’r cwrs AS yn ystod y flwyddyn nesaf.

Meddai Ms Rhian Morgan Ellis, Pennaeth Ysgol Gyfun Cymer Rhondda “ Ry’n ni moralch o’r ffaith bod ein myfyrwyr wedi gwireddu’u potensial eleni. Ni fyddai hyn wedi bod yn bosib oni bai am waith caled y myfyrwyr, ymroddiad ein staff, a chefnogaeth ein rhieni. Rydym wedi gwella ein perfformiad o flwyddyn i flwyd-dyn, sy’n sicrhau’r cyfle gorau i’n myfyrwyr fedru symud ymlaen tuag at ddyfodol llwyddiannus. Llongyfarchiadau mawr i bawb!”

Ysgol Gyfun Cymer RhonddaAROLYGWYR ARHOLIADAU ALLANOL

Fel ysgol rydym yn chwilio am Gymry Cymraeg neu ddysgwyr i weithredu fel arolygwyr arholiadau allanol. Mae angen arolygwyr i sicrhau bod yr arho-

liadau yn cael eu cynnal yn ôl rheolau’r byrddau arholi fel bod ein disgyblion yn cael y cyfle gorau i

lwyddo. Bydd yr oriau’n hyblyg yn ystod y cyfnodau arho-liad – misoedd Tachwedd, Ionawr, Mawrth, Mai a

Mehefin. Y tâl yw £8 yr awr. Os oes diddordeb gennych, cysylltwch a’r ysgol:

Ffôn: 01443 680800

Page 7: Y Gloran