8
Mae hanes y disgyblion agosaf at Iesu, yn ystod ei amser yn eu plith, yn profi eu bod wedi deall pwy ydoedd; mai ef oedd yr un yr oeddent wedi hir ddisgwyl amdano, sef y Meseia (y Crist). Gwybod heb ddeall? Ond mae’r hanes yn dangos nad oeddent wedi deall arwyddocad llawer o’r hyn oedd ef wedi ei lefaru wrthynt. Dacw Pedr yn gofyn am eglurhad i un o’r damhegion. (Mathew 15.16) Meddai Iesu: A ydych chwithau’n dal mor ddi-ddeall? Neu beth am Iesu’n cyhuddo rhai o arweinwyr yr Iddewon oedd yn ei wrthwynebu? (Ioan 5.39) Yr ydych yn chwilio’r Ysgrythurau oherwydd tybio yr ydych fod ichwi fywyd tragwyddol ynddynt hwy. Ond tystiolaethu amdanaf fi y mae’r rhain; eto ni fynnwch ddod ataf fi i gael bywyd. I ba raddau felly gallwn ni ddeall meddwl Crist? Deall meddwl Crist Rwy’n credu mai un ffordd o ddeall rhyw gymaint ar feddwl Crist yw trwy fyfyrio ar ei ddefnydd o’r teitl ‘Mab y Dyn’. Cyn dilyn y trywydd hwn gadewch inni edrych ar eiriau allan o lyfr Daniel. (Daniel 7.13-14) Fel yr oeddwn yn edrych ar weledigaethau’r nos, gwelais un fel mab dyn yn dyfod ar gymylau’r nef; daeth at yr Hen Ddihenydd a chael ei gyflwyno iddo. Rhoddwyd iddo arglwyddiaeth a gogoniant a brenhiniaeth, i’r holl bobloedd o bob cenedl ac iaith ei wasanaethu. Yr oedd ei arglwyddiaeth yn dragwyddol a digyfnewid, ac ni ddinistrir ei frenhiniaeth. Rwyf wedi dyfynnu’r geiriau allan o Lyfr Daniel oherwydd bod Iesu yn dangos ei fod yn ymwybodol bod geiriau’r weledigaeth yn cael eu gwireddu yn ei fywyd. Daw hynny yn amlwg wrth edrych ar hyn mae Iesu yn ei ddweud amdano’i hun. Ar achlysur iachau dyn oedd yn dioddef o barlys mae’n dweud wrth y rhai oedd yn ei wrthwynebu fod ganddo ef, Mab y Dyn, awdurdod i faddau pechodau ar y ddaear. Pan mae disgyblion Iesu yn cael eu cyhuddo o dorri’r Saboth mae Iesu yn ei hamddiffyn gan ddweud ei fod ef, Mab y Dyn, yn Arglwydd ar y Saboth. Wrth baratoi’r disgyblion ar gyfer y weithred arbennig yr oedd ef yn ei wynebu, mae Iesu, unwaith eto, yn mabwysiadu’r teitl, Mab y Dyn. Wrth fynd i fyny i Jerwsalem cymerodd Iesu’r deuddeg disgybl ar wahân, ac ar y ffordd dywedodd wrthynt; ‘Dyma ni’n mynd i fyny i Jerwsalem; fe gaiff Mab y Dyn ei draddodi i’r prif offeiriaid a’r ysgrifenyddion; condemniant ef i farwolaeth, a’i drosglwyddo i’r estroniaid i’w watwar a’i fflangellu, a’i groeshoelio; ac ar y trydydd dydd fe’i cyfodir. (Mathew 20.17-19). Enghraifft arall sydd werth rhoi sylw iddi yw’r achlysur pan mae’r Iesu’n ceryddu Iago a Ioan am fod yn hunan geisiol yn eu hawydd i ennill y blaen ar y disgyblion eraill. Dywedodd Iesu wrth y disgyblion; ‘Pwy bynnag sydd am fod yn fawr yn eich plith, rhaid iddo fod yn was i chwi, a phwy bynnag sydd am fod yn flaenaf yn eich plith, rhaid iddo fod yn gaethwas i chwi, fel Mab y Dyn, na ddaeth i gael ei wasanaethu, ond i wasanaethu, ac i roi ei einioes yn bridwerth dros lawer. (Mathew 20.27-28) Rydym wedi gweld bod Iesu wedi gwneud yn glir i’w ddisgyblion beth oedd yn ei wynebu, ond mae hefyd wedi dweud wrthynt y byddai’n cael ei atgyfodi. Mae’r geiriau nesaf yn tynnu ein sylw at ei ail ddyfodiad. Pan ddaw Mab y Dyn yn ei ogoniant, a’r holl angylion gydag ef, yna bydd yn eistedd ar orsedd ei ogoniant. Fe gesglir yr holl genhedloedd ger ei fron, a bydd ef yn eu didoli oddi wrth eu gilydd, fel y mae bugail yn didoli’r defaid oddi wrth y geifr. (Mathew 25.31-32) Mae geiriau cyntaf gweddi’r Iesu yng ngwydd ei ddisgyblion, ar achlysur Swper Gfiyl y Pasg, yn cadarnhau, i raddau helaeth iawn, yr hawl oedd ganddo i fabwysiadu’r enw ‘Mab y Dyn’. O Dad, y mae’r awr wedi dod. Gogonedda dy Fab, er mwyn i’r Mab dy ogoneddu di. Oherwydd rhoddaist iddo ef awdurdod ar bob dyn, awdurdod i roi bywyd tragwyddol i bawb yr wyt ti wedi eu rhoi iddo ef. A hyn yw bywyd tragwyddol; dy adnabod di, yr unig wir Dduw, a’r hwn a anfonaist ti, Iesu Grist. (Ioan 17.1-3) Ac onid yw cwpled cyntaf emyn fawreddog George Rees yn rhoi darlun hynod o bwy yw Mab y Dyn, yn ei berthynas â Duw ac yn ei berthynas â’r Cristion? O Fab y Dyn, Eneiniog Duw, fy Mrawd a’m Ceidwad cry’, ymlaen y cerddaist dan y groes a’r gwawd heb neb o’th du; cans llosgi wnaeth dy gariad pur bob cam, ni allodd angau’i hun ddiffoddi’r fflam. (CFf. 541) Tom Williams, Dinbych. CYFROL CXLIX RHIF 6 DYDD GWENER, CHWEFROR 5, 2021 Pris 50c yn calonogi yn ysbrydoli yn adeiladu y G O LEU AD EGLWYS BRESBYTERAIDD CYMRU Taro’r Post … t. 2 • Sylw o’r Seidin … t. 7 • Dyma gyfarfod hyfryd iawn … t. 8 • Iesu … Mab y Dyn Yr Hen Ddihenydd (William Blake The Ancient of Days, Llyfrgell Fitzwilliam, Caergrawnt) <http://www.blakearchive.org/exist/blake/archive/object.xq?objectid= europe.k.illbk.01&java=no>

yGOLEUAD · 2021. 2. 3. · ei gilydd. Dymuniadau gorau i’r Golygyddion – gweinidogion sydd ar y rheng flaen y dyddiau hyn. Gweddïwn y bydd Duw yn bendithio’r fenter gyffrous

  • Upload
    others

  • View
    2

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

Page 1: yGOLEUAD · 2021. 2. 3. · ei gilydd. Dymuniadau gorau i’r Golygyddion – gweinidogion sydd ar y rheng flaen y dyddiau hyn. Gweddïwn y bydd Duw yn bendithio’r fenter gyffrous

Mae hanes y disgyblion agosaf at Iesu, ynystod ei amser yn eu plith, yn profi eu bodwedi deall pwy ydoedd; mai ef oedd yr unyr oeddent wedi hir ddisgwyl amdano, sefy Meseia (y Crist).

Gwybod heb ddeall?Ond mae’r hanes yn dangos nad oeddentwedi deall arwyddocad llawer o’r hynoedd ef wedi ei lefaru wrthynt.

Dacw Pedr yn gofyn am eglurhad i uno’r damhegion. (Mathew 15.16)

Meddai Iesu: A ydych chwithau’ndal mor ddi-ddeall?

Neu beth am Iesu’n cyhuddo rhai oarweinwyr yr Iddewon oedd yn eiwrthwynebu? (Ioan 5.39)

Yr ydych yn chwilio’r Ysgrythurauoherwydd tybio yr ydych fod ichwifywyd tragwyddol ynddynt hwy.Ond tystiolaethu amdanaf fi y mae’rrhain; eto ni fynnwch ddod ataf fi igael bywyd.

I ba raddau felly gallwn ni ddeallmeddwl Crist?

Deall meddwl Crist

Rwy’n credu mai un ffordd o ddeallrhyw gymaint ar feddwl Crist yw trwyfyfyrio ar ei ddefnydd o’r teitl ‘Mab yDyn’. Cyn dilyn y trywydd hwngadewch inni edrych ar eiriau allan olyfr Daniel. (Daniel 7.13-14)

Fel yr oeddwn yn edrych arweledigaethau’r nos, gwelais un felmab dyn yn dyfod ar gymylau’r nef;daeth at yr Hen Ddihenydd a chaelei gyflwyno iddo. Rhoddwyd iddoarglwyddiaeth a gogoniant abrenhiniaeth, i’r holl bobloedd obob cenedl ac iaith ei wasanaethu.Yr oedd ei arglwyddiaeth yndragwyddol a digyfnewid, ac niddinistrir ei frenhiniaeth.

Rwyf wedi dyfynnu’r geiriau allan o LyfrDaniel oherwydd bod Iesu yn dangos eifod yn ymwybodol bod geiriau’rweledigaeth yn cael eu gwireddu yn eifywyd. Daw hynny yn amlwg wrth edrychar hyn mae Iesu yn ei ddweud amdano’ihun.

Ar achlysur iachau dyn oedd yn dioddef obarlys mae’n dweud wrth y rhai oedd yn eiwrthwynebu fod ganddo ef, Mab y Dyn,awdurdod i faddau pechodau ar y ddaear.

Pan mae disgyblion Iesu yn cael eucyhuddo o dorri’r Saboth mae Iesu yn eihamddiffyn gan ddweud ei fod ef, Mab yDyn, yn Arglwydd ar y Saboth.Wrth baratoi’r disgyblion ar gyfer yweithred arbennig yr oedd ef yn eiwynebu, mae Iesu, unwaith eto, ynmabwysiadu’r teitl, Mab y Dyn.

Wrth fynd i fyny i Jerwsalemcymerodd Iesu’r deuddeg disgybl arwahân, ac ar y ffordd dywedoddwrthynt; ‘Dyma ni’n mynd i fyny iJerwsalem; fe gaiff Mab y Dyn eidraddodi i’r prif offeiriaid a’rysgrifenyddion; condemniant ef ifarwolaeth, a’i drosglwyddo i’restroniaid i’w watwar a’i fflangellu, a’igroeshoelio; ac ar y trydydd dydd fe’icyfodir. (Mathew 20.17-19).

Enghraifft arall sydd werth rhoi sylw iddiyw’r achlysur pan mae’r Iesu’n ceryddu

Iago a Ioan am fod yn hunan geisiol yn euhawydd i ennill y blaen ar y disgyblioneraill.

Dywedodd Iesu wrth y disgyblion;‘Pwy bynnag sydd am fod yn fawryn eich plith, rhaid iddo fod yn wasi chwi, a phwy bynnag sydd am fodyn flaenaf yn eich plith, rhaid iddofod yn gaethwas i chwi, fel Maby Dyn, na ddaeth i gael eiwasanaethu, ond i wasanaethu,ac i roi ei einioes yn bridwerth droslawer. (Mathew 20.27-28)

Rydym wedi gweld bod Iesu wedigwneud yn glir i’w ddisgyblion bethoedd yn ei wynebu, ond mae hefydwedi dweud wrthynt y byddai’n cael eiatgyfodi. Mae’r geiriau nesaf yn tynnuein sylw at ei ail ddyfodiad.

Pan ddaw Mab y Dyn yn eiogoniant, a’r holl angylion gydag ef,yna bydd yn eistedd ar orsedd eiogoniant. Fe gesglir yr hollgenhedloedd ger ei fron, a bydd efyn eu didoli oddi wrth eu gilydd,fel y mae bugail yn didoli’r defaidoddi wrth y geifr. (Mathew 25.31-32)

Mae geiriau cyntaf gweddi’r Iesu yngngwydd ei ddisgyblion, ar achlysurSwper Gfiyl y Pasg, yn cadarnhau, iraddau helaeth iawn, yr hawl oeddganddo i fabwysiadu’r enw ‘Mab yDyn’.

O Dad, y mae’r awr wedi dod.Gogonedda dy Fab, er mwyn i’rMab dy ogoneddu di. Oherwyddrhoddaist iddo ef awdurdod ar bobdyn, awdurdod i roi bywydtragwyddol i bawb yr wyt ti wedi eurhoi iddo ef. A hyn yw bywydtragwyddol; dy adnabod di, yr unigwir Dduw, a’r hwn a anfonaist ti,Iesu Grist. (Ioan 17.1-3)

Ac onid yw cwpled cyntaf emynfawreddog George Rees yn rhoi darlunhynod o bwy yw Mab y Dyn, yn eiberthynas â Duw ac yn ei berthynas â’rCristion? O Fab y Dyn, Eneiniog Duw, fy Mrawd a’m

Ceidwad cry’, ymlaen y cerddaist dan y groes a’r gwawd

heb neb o’th du; cans llosgi wnaeth dy gariad pur bob cam, ni allodd angau’i hun ddiffoddi’r fflam.

(CFf. 541)

Tom Williams, Dinbych.

CYFROL CXLIX RHIF 6 DYDD GWENER, CHWEFROR 5, 2021 Pris 50c

yn calonogi

yn ysbrydoli

yn adeiladu

yGOLEUADE G LW Y S B R E S B Y T E R A I D D C Y M R U

• Taro’r Post … t. 2 • Sylw o’r Seidin … t. 7 • Dyma gyfarfod hyfryd iawn … t. 8 •

Iesu … Mab y Dyn

Yr Hen Ddihenydd

(William Blake The Ancient of Days, LlyfrgellFitzwilliam, Caergrawnt)

<http://www.blakearchive.org/exist/blake/archive/object.xq?objectid=europe.k.illbk.01&java=no>

Page 2: yGOLEUAD · 2021. 2. 3. · ei gilydd. Dymuniadau gorau i’r Golygyddion – gweinidogion sydd ar y rheng flaen y dyddiau hyn. Gweddïwn y bydd Duw yn bendithio’r fenter gyffrous

Gyda syndod a thristwch y clywais am ybwriad i uno Y Goleuad a Seren Cymru,ac fel cyn olygydd Y Goleuad am ddengmlynedd rwy’n cefnogi yr apêl i ohirio’rpenderfyniad fel yn y llythyr gan yParchedigion yn y rhifyn cyfredol.Hoffwn wybod pwy fyddai yn argraffu’rcylchgrawn newydd yma, am fod ygwaith yn hanfodol i Wasg y Bwthyn..

Yn gywir,

John Gruffydd Jones.

––––––––––

Annwyl Olygydd,

Tristwch a syndod oedd darllen y llythyra ymddangosodd yn y Goleuad ynddiweddar am ddyfodol y papur.Dywedir yn y llythyr, ‘Nid oes unrhywwrthwynebiad i gydweithio â’rBedyddwyr wrth gwrs.’ Os nad oesgwrthwynebiad, pam codi llais yn erbyny datblygiad hwn? Mae’n wir nad yw’rAnnibynwyr am fod yn rhan o’r cynllun –gresyn am hynny – ond eu dewis hwy ywhynny. Nid yw’n syndod fod yrAnnibynwyr am fod yn annibynnol. Ooedi’r cynllun hwn nes i’r Annibynwyrbenderfynu ymuno, mae’n bosib nachawn byth bapur cyd-enwadol. Gydallaw, pasiwyd yr egwyddor o uno’rpapurau yng Nghymanfa Gyffredinol2019 yn Wrecsam. Nid yw’n deg fodpenderfyniad un enwad yn llesteiriobwriadau y ddau enwad arall.

Hyd yn oed os yw ‘rhesymau ariannol’yn ffactor dros y penderfyniad awnaed, credaf fod hyn yn arwydd oeciwmeniaeth ymarferol ar waith, ac ynddatblygiad sydd i’w groesawu’n fawr.Trwy ddirgel ffyrdd……

Y mae papurau o bob math bellach ynsymud ar-lein, ac mae cyhoeddiCenn@d ar-lein hefyd i’w groesawugan fod y gynulleidfa sy’n debygol o’iddarllen gymaint yn fwy.

Mae Cenn@d yn mynd i ddod agarbenigedd ac adnoddau dau enwad atei gilydd. Dymuniadau gorau i’rGolygyddion – gweinidogion sydd ar yrheng flaen y dyddiau hyn. Gweddïwn ybydd Duw yn bendithio’r fenter gyffroushon. Mae’n fenter sy’n haeddu eincefnogaeth a’n gweddïau.

Ifan Roberts

––––––––––

Annwyl Olygydd,

Yn dilyn darllen y llythyr ymddangosoddyn eich rhifyn dyddiedig y 29ain o Ionawr2021, dyma anfon gair yn ceisio ymatebi’r pwyntiau godwyd gan y rhaiarwyddodd y llythyr. Yn ychwanegol, yr

ydym wedi derbyn gohebiaeth bellachgan rai dros y dyddiau diwethaf.

O ran cyd-destun, ac i ateb y sylw ‘na fuhanner digon o drafod’, nodwn fod ydrafodaeth hon wedi cychwyn ers tuachwarter canrif, trafodaeth arweiniodd atgyhoeddi’r Pedair Tudalen Gydenwadol.Fel y gwyddoch, cyfaddawd oedd ypenderfyniad hwnnw inni, gan maidyhead Eglwys Bresbyteraidd Cymru o’rcychwyn oedd gweld cyhoeddiadcydenwadol llawn. Gyda hynny mewngolwg, dros y ddwy flynedd a hannerddiwethaf, yr ydym wedi parhau i geisiosylweddoli hyn. O ran ein trafodaethfewnol, mae ein Hadran Gyhoeddi ynnaturiol wedi arwain, Adran sy’ncynnwys cynrychiolwyr o bobHenaduriaeth, a hwythau yn eu tro wedicyfeirio’r mater i Fwrdd y Gymanfa, ac i’rGymanfa ei hun. Gwnaed hynny yngngoleuni penderfyniad Undeb yrAnnibynwyr Cymraeg yn eu cyfarfod ymMehefin 2019. Hoffwn nodi hefyd fod ydrafodaeth wedi cynnwys cyfarfodyddgyda’r Eglwys Fethodistaidd, gan eu bodhwythau hefyd yn cyhoeddi cyfnodolynCymraeg.

Yr ydym yn cytuno’n llwyr y byddaicyhoeddiad fyddai’n cynnwys ein hollbartneriaid sy’n gweinidogaethu yn yGymraeg yn rhagori, ond eto, y maecydweithio eciwmenaidd yn y maes hwnyn ymarferiad yn yr hyn sy’n bosibl. Ymae rhyddid partneriaid yn y broses iddod i’w penderfyniadau eu hunain ynrhywbeth yr ydym yn ei gydnabod a’ianrhydeddu. Yr ydym yn credu y dylemgeisio dwyn perswâd, ond nid dwynpwysau. Mi fyddai un llais cydenwadolllawn mewn newyddiadur wythnosol ynfynegiant clir o’n hundod, ond mynegiantfyddai hynny. Credwn fod ein hundod ynllawer iawn mwy sylfaenol nag unrhywfynegiant mewn un cyfeiriad arbennig.Nid ydym yn tybio, petaem yn cychwyntrafodaeth newydd ar hyn gyda’npartneriaid, y byddai’r ateb fymryn ynwahanol.

Ym Medi 2019, anfonwyd gohebiaeth i’rHenaduriaethau a’r Gymdeithasfa wrth i’rbwriadau a’r partneriaid ddod yn fwyeglur, ond ni chafwyd unrhyw ymateb ynmynegi anfodlonrwydd. Adroddodd yrYsgrifennydd Cyffredinol hyn ar lafar i’rTair Cymdeithasfa yn yr un modd.Treuliwyd 2020 yn crisialu’r materionymarferol, gan gynnwys parhadtudalennau cydenwadol pe baipenderfyniad i beidio symud ymlaengyda’r bwriad. Oherwydd yr angen amofod i’r trafodaethau hyn, gohiriwyd ybwriad gwreiddiol i lansio ddechrau’rflwyddyn hon, gan fynd yn hytrach am fisMawrth. Cadarnhawyd hyn gan yGymanfa yn y cyfarfod ym mis Hydref, ahoffwn nodi na fu i unrhyw un fynegisafbwynt i’r gwrthwyneb yn y cyfarfodagored hwnnw chwaith.

Mae’n wir fod y Cyfundeb wedi bod yncyhoeddi newyddiadur wythnosol ar

golled ariannol, yn ei werthu am 50c yrhifyn, er ei fod yn costio £1.60 y rhifyni’w anfon drwy’r wasg ac i’ch blwchpostio. (Roedd yr incwm yn 2019 tua£18,000 o’i gymharu â chost o £58,500.)Er hynny, hoffem bwysleisio nadystyriaethau ariannol oedd yn gyrru einpenderfyniad yn hyn, er y manteisioninni fel enwad. Wedi nodi hyn, mae’ndebyg, petai’r drafodaeth yn cychwynheddiw, y byddai’r ystyriaethau ariannolyn chwarae rhan fwy blaenllaw yngngoleuni profiadau ein heglwysi a’usefyllfa yn ystod y misoedd diwethaf.

O ran ymestyn trafodaeth, yn sicrbyddwn yn adrodd ar yr ohebiaeth yma iBwyllgor Gwaith Bwrdd y Gymanfa y mishwn. Er eu bod hwy’n gweithredu ar ranyr Adran Gyhoeddi dros y cyfnod yma,nid oes ganddynt awdurdod i wyrdroipenderfyniad y Gymanfa Gyffredinol, acyn sicr ni fyddai ein Llywydd yn caniatáuhynny. Os barnant fod gohirio ynbosibilrwydd, mi fydd angen ystyriedoblygiadau hynny o ran ein perthynas agUndeb Bedyddwyr Cymru, cyhoeddiwythnosol cydenwadol, gan na fyddaicyllid na galw am y deunyddcydenwadol, ac felly, y posibilrwydd ogyhoeddi’r Goleuad ar ffurf fersiwnpedwar tudalen yn unig. Yn y cyfan, felyn achos eich gohebwyr, gofynnwn amweddïau eich darllenwyr wrth inni ddod iystyried hyn.

Marian Beech Hughes(Cadeirydd yr Adran Gyhoeddi)

Marcus Robinson(Llywydd y Gymanfa Gyffredinol)

Meirion Morris(Ysgrifennydd Cyffredinol)

––––––––––

Annwyl golygydd,

Wedi darllen y llythyr ‘Gofyn am ohirio’(29 Ionawr 2021) y geriau a ddaeth immeddwl oedd Amherthnasol a Dadrithio.

Defnyddiwyd y gyntaf o’r ddau air ganein Prif Weinidog Boris Johnson iddisgrifio agwedd Ms Sturgeon arwahanol pynciau, gan anwybyddu yrargyfwng firws: ‘irrelevant’, amherthnasol.I dreulio amser ac egni yn trin y gorssydd ynglªn ag uno cylchronnauenwadol tra y mae ein haelodau yngweiddi allan am arweiniad a chysur yndatgelu meddyliau hynod o blwyfol.

Wedi synnu a’m dadrithio, disillusionedfod y llythyr gan rhai o’n harweinyddionblaenaf.

Buaswn wedi disgwyl gwell ganddynt.

Mwy priodol fyddai, danfon eullongyfarchiadau i’r golygydd Dr WatcynJames am lwyddo i ddod a’r cylchgrawnallan bob wythnos, o dan amgylchiadaumor anodd.

Gair addas byddai: O agor fy llygaid iweled …

Geraint Pritchard Seion, Croesoswallt

2 Y Goleuad Chwefror 5, 2021

Taro’rPostAnnwyl Olygydd,

Page 3: yGOLEUAD · 2021. 2. 3. · ei gilydd. Dymuniadau gorau i’r Golygyddion – gweinidogion sydd ar y rheng flaen y dyddiau hyn. Gweddïwn y bydd Duw yn bendithio’r fenter gyffrous

Gwers 31

Ananias a Saffeira

GweddiNefol Dad, bydd hanes fel y darlleniadhwn yn peri braw i ni, ac na ddylem roibri ar bethau’r byd, a dibrisio’r trysorauysbrydol sydd mor angenrheidiol.Helpa ni i ymarfer y doniau nefol apheidio â phoeni am yr hyn sy’ndymhorol a thros dro. Amen.

Darllen Actau 4:32–5:11

CyflwyniadHanesyn annisgwyl yn llif penodaucynnar Llyfr yr Actau yw hanesAnanias a Saffeira, gfir a gwraig adwyllodd yr egwyddor gynnar o rannupopeth yn gyffredin rhwng aelodau’reglwys, ac a syrthiodd yn farw panwynebwyd hwy gan gwestiwn Pedr.Roeddent yn berchen tir a gwerthwydyr eiddo, a dewis y ddau oedd rhoicyfran o’r arian i’r gymuned ogredinwyr Cristnogol yn hytrach narhoi’r cyfan. Rhaid bod arweinwyr ygymuned hon wedi deall hynny, a holi’rddau yn annibynnol ar ei gilydd.Dywedodd Ananias gelwydd wrth yrapostolion a syrthiodd yn farw o’ublaen. Oriau yn ddiweddarach daeth eiwraig yn ôl o’i dyletswyddau, agofynnwyd iddi hi am fanylion ygwerthiant. Rhoddodd yr un ateb â’i

phriod, a phan sylweddolodd fod yrapostolion yn gwybod am eu twyll,syrthiodd hithau yn farw hefyd.Claddwyd y ddau yn yr un man. Pechody ddau oedd eu bod wedi rhoi prawf aryr Ysbryd Glân. Rhaid bod Luc yn cofnodi’r hanes ar

bapur ddeugain mlynedd ar ôl y cyfnodhwn, ond roedd yr hanes ynarwyddocaol i arfer ac egwyddorion yrEglwys Fore. Roedd hanes Ananias aSaffeira yn rhybudd i’r cynulleidfaoeddCristnogol ar draws y degawdau. Yn yrun modd, mae’n rhaid bodgolygyddion y Testament Newydd,ganrifoedd yn ddiweddarach, yn teimlobod yr hanes hwn yn bwysig. Nid oesunrhyw ymdrech i esbonio’r hanes naachos marw’r ddau, ond bod y tystion ifarwolaeth Ananias wedi cael ofnmawr. Yr un ffaith heriol oedd fod yrapostolion yn credu mai dylanwadSatan oedd parodrwydd y ddau i geisiotwyllo’r Ysbryd Glân, a bod i hynny eiganlyniadau.

MyfyrdodTybed beth oedd dyfaliad yr apostolionam amserlen ailddyfodiad Iesu? Aoeddent yn disgwyl i ddiwedd y bydddigwydd yn ystod eu hoes hwy, ac ybyddent yn gweld y byd yn dod i ben?Heb os, roedd gan yr Eglwys Foredybiaeth fod rhywbeth chwyldroadol iddigwydd, a bod angen iddynt rannupopeth yn gyffredin. Bu rhannu eiddo a

chefnogi ei gilydd yn egwyddorsylfaenol i’r eglwys ar hyd ycanrifoedd. Bu’r arfer o baratoi ar gyfery bywyd nefol yn bwysicach na darparuar gyfer bywyd ar y ddaear. Mae’nnodwedd a welir ar draws y gwledyddac ar hyd y canrifoedd: lle bu diwygiadgwelir dyfnhau’r dwyster ysbrydol, abydd hynny’n cael effaith ar agweddpobl at eiddo a natur gymunedol ygynulleidfa.Efallai nad yw’r eglwysi yn rhannu

eiddo fel cynt, na bod y syniad ogymuned yr un mor fyw, ond ceirewyllys i gefnogi achosion dyngarol, owaith Cymorth Cristnogol hyd at estyncyfraniad i’r Banc Bwyd. Yr hyn sy’nanghyson â’r meddylfryd haelionusyw’r agwedd hunanol sy’n gwrthodneu’n methu gweld cyfrifoldeb iymateb i ofynion eraill. Ceir negesdebyg gan Iesu pan sonia mewn damegam y gfir a adeiladodd ysguboriausylweddol er mwy diogelu ei gynnyrch,ond nad oedd i wybod pryd y byddai’nmarw (Luc 12:18). Yr un yw negeshanes y gfir ifanc cyfoethog, a gafoddei feddiannu’n llwyr gan ei eiddo fel eifod yn byw yn ei dristwch heriol (Luc18:18–30). Nid mesur eiddo neugyfoeth sy’n ganolog ond agwedd yperson at gyfoeth, a’r gwahaniaethrhwng bod yn hael a bod yn hunanol.

GweddiDrugarog Dduw, maddau i ni am roicymaint o bwys ar gyfoeth ac eiddo, amethu gweld ein cyfrifoldeb iddefnyddio’r adnoddau sydd gennym erlles eraill. Wrth ddiolch am esiampl yrEglwys Fore, boed i ni dderbyn eincyfle i gyfrannu fel yr wyt wedi einllwyddo, ac i beidio â cheisio sylw amyr hyn a wnawn. Amen.

Trafod ac ymateb

• Beth yw eich ymateb chi i’r hanesdychrynllyd hwn? Pam y tybiwch chii Luc gynnwys yr hanes yn llyfr yrActau, ei gyfrol ar hanes cymdeithasryfeddol yr Ysbryd Glân yn yrEglwys Fore?

• A oes ofn pechu yn erbyn yr YsbrydGlân arnom ni? (cf. Mathew 12:31–2;Effesiaid 4:30; 1 Ioan 5:16)

• Beth mae’r hanes yn ei ddweud amagwedd Duw at y pechod o ragrith ynei eglwys, at lygredd ac at burdeb eieglwys? (Gw. dyfarniad yr Arglwyddar eglwys lwgr Thyatira –Datguddiad 2:23)

• Sut mae diogelu ein hunain rhaghunan-dwyll mewnol a rhagrithallanol? (cf. Rhufeiniaid 12:2)

Chwefror 5, 2021 Y Pedair Tudalen Gydenwadol tudalen 3Y PEDAIR TUDALEN GYDENWADOLy4t y4t

Adnabod Cymeriadau’r Testament Newydd –Actau’r Apostolion

Cyfres o astudiaethau Beiblaidd ar gyfer y cartref neu grfipgan y Parch. Denzil I. John

Mae testun a chyflwyniad fideo o’r deunydd hwn ar gael ar wefany Cyngor Ysgolion Sul: https://www.ysgolsul.com/?page_id=804

Sul, 7fed ChwefrorOedfa

Dechrau Canu Dechrau Canmolam 11:00yb

Yr wythnos yma bydd yr oedfa o danofal Melda Grantham.

––––––––––Dechrau Canu Dechrau Canmol

nos Sul, am 7:30yh

Yr wythnos yma, Lisa fydd yn crwydroYnys Môn ac yn ymweld â rhai o

eglwysi harddaf yr ynys.

Caniadaeth y CysegrSul, 7fed Chwefror7:30yb a 4:30yp

Y Parchedig R. Alun Evans sy’ncyflwyno emynau sy’n canolbwyntio ar

ein ffydd.

––––––––––

Oedfa Radio Cymru7 Chwefror am 12:00yp

yng ngofalAllan Pickard, Caerdydd

Page 4: yGOLEUAD · 2021. 2. 3. · ei gilydd. Dymuniadau gorau i’r Golygyddion – gweinidogion sydd ar y rheng flaen y dyddiau hyn. Gweddïwn y bydd Duw yn bendithio’r fenter gyffrous

Mae’r gwleidydd Darren Millar wediymddiswyddo o’i rôl ar fainc flaen yCeidwadwyr yn dilyn yr ymateb i’r storiam grfip o wleidyddion yn yfed alcoholyn adeilad Senedd Cymru ym misRhagfyr. Daeth y feirniadaeth yn sgil y ffaith

fod Llywodraeth Cymru, bedwardiwrnod ynghynt, wedi cyflwynogwaharddiad ar fwytai, caffis athafarndai rhag gwerthu alcohol, i atallledaeniad Coronafirws. Ymunodd Paul Davies, arweinydd y

Ceidwadwyr Cymreig ar y pryd, ondsydd hefyd bellach wedi ymddiswyddo,â Darren Millar, yn ogystal â’r AelodLlafur Alun Davies, sydd wedi’i atalrhag breintiau Grfip Llafur y Senedd, acAelod Torïaidd arall o’r Senedd ar un o’rddwy noson. Dywedodd Millar nadyw’n credu iddo dorri’r rheolau ond eifod wedi ymddiswyddo er hynny.Dywedodd Mr Millar, Aelod Senedd

Gorllewin Clwyd, mewn datganiad:“Mae hon wedi bod yn wythnos anodd.Rwyf am ymddiheuro i ’nheulu, fynghyd-weithwyr a’r etholwyr amunrhyw embaras y gallai rhai o’r straeonyn y cyfryngau fod wedi’u hachosi ynystod y dyddiau diwethaf hyn.“Cafwyd rhai adroddiadau anghywir

ac annheg, ac felly rwyf am nodi’r gwir.“Fel sydd wedi digwydd yn y rhan

fwyaf o wythnosau ers mis Medi, a’rSenedd yn cyfarfod ar ffurf ‘hybrid’ ymMae Caerdydd, ar 8 a 9 Rhagfyr yllynedd, defnyddiais y trefniant hunan-wasanaeth a oedd ar gael i Aelodau’rSenedd. Ar y ddwy noson cefais bryd ofwyd wedi’i baratoi ymlaen llaw a’iaildwymo yn y microdon, a’i fwyta wrthyfed diod alcoholig a thrafod materiongwaith â chyd-weithwyr.”Ychwanegodd: “Roedd pellter

cymdeithasol yn cael ei gynnal drwygydol y ciniawau gwaith hyn, ac ynsyml, ni chroesodd fy meddwl i, fynghyd-weithwyr na’r tîm arlwyo fod ytrefniadau hyn yn amhriodol.“Roedd aelod o’r staff arlwyo yn

bresennol yn ystafell y tîm am gyfnodbyr ar ôl i mi gyrraedd ar 8 Rhagfyr ondni fu’n gweini diod i mi, ac ni ofynnaisam un. Mewn gwirionedd, anogais yraelod o’r staff i fynd adref a chau’rcownter gan iddo fod yn ddiwrnod hiriddi. Nid oedd unrhyw aelodau o’r staffarlwyo’n bresennol ar 9 Rhagfyr acroedd y cownter ar gau am y nosongyfan.“Er fy mod wedi cael cyngor na wnes

i dorri rheoliadau Coronafirws, mae’nddrwg iawn gennyf am fy

ngweithredoedd, yn enwedig o ystyriedeffaith y cyfyngiadau anodd y mae pobla busnesau’n eu dioddef.“Am y rheswm hwn ac o gofio bod

Paul Davies wedi ymddiswyddo felArweinydd grfip Ceidwadwyr Cymruyn y Senedd, rwyf wedi penderfynucamu i lawr o’m rôl ar fainc flaen yCeidwadwyr yn Senedd Cymru.”Ychwanegodd Mr Millar, sy’n parhau

i fod yn Aelod o’r Senedd, ei fod yncydweithredu yn yr ymchwiliadau i’rmater.Yn gynharach yn y pandemig, heriodd

Mr Millar Lywodraeth Cymru dros eiphenderfyniad i gau addoldai.Dywedodd wrth gylchgrawn

newyddion Premier ym mis Hydref: “Adweud y gwir, mae Cymru yn wlad lle

mae gennym eglwysi a chapeli ar bobcornel ac maen nhw’n gwneud llaweriawn o waith cadarnhaol yn eucymunedau lleol, hyd yn oed yn fwyfelly oherwydd pandemig yCoronafirws. Yr hyn sy’n cynnal poblffydd yw eu perthynas â Duw, fellymae’r maeth ysbrydol sy’n dod o allumynychu’r eglwys ar ddydd Sul ynamlwg yn bwysig iawn iddyn nhw.”Cafodd ei ganmol gan rai arweinwyr

eglwysig am “sefyll i fyny dros boblffydd”.Ymatebodd Rebecca Evans, Aelod

Llafur o’r Senedd, ar y pryd drwyddweud ei bod yn gwerthfawrogipwysigrwydd eglwysi ond, ganychwanegu: “Allwn ni ddim edrych arbob math o leoliad, oherwydd rydym ynedrych ar gysylltiadau pobl yngyffredinol ac yn ceisio lleihau nifer ycysylltiadau sydd gennym. Ond rwy’ngwerthfawrogi’r anawsterau y bydd yneu hachosi i bobl.”Mae Darren Millar yn parhau’n

gadeirydd y Grfip Trawsbleidiol arFfydd yn Senedd Cymru hyd yn hyn,grfip y bu ynglªn â’i sefydlu yn eiflynyddoedd cynnar yn y Senedd.

(Addaswyd o erthygl yn PremierChristian News gan Cara Bentley25.1.21). Gellir derbyn ebost newyddionganddynt o ymofyn ar y wefan:https://premierchristian.news/ neudderbyn copi cyntaf o’u cylchgrawn misolPremier Christianity yn rhad.)

tudalen 4 Y Pedair Tudalen Gydenwadol Chwefror 5, 2021Y PEDAIR TUDALEN GYDENWADOLy4t y4t

Gwleidydd o Gristion yn ymddiswyddo felprif chwip y Ceidwadwyr yn y Senedd

LlythyrauAnnwyl Gyfeillion,

Hoffwn dynnu sylw eich darllenwyr atgyfarfod arbennig o GymrodorionCaerdydd a fydd yn cyfarfod ar5 Chwefror am 7:30yh ar Zoom.

Y Gair a’r Genedl: DathluCanmlwyddiant R. Tudur Jones(1921–1998) – Darlith gan yr AthroDensil Morgan.

Mae croeso i unrhyw un ymuno yn ycyfarfod: nid yw’n gyfyngedig iaelodau’r Cymrodorion yn unig ac nichodir ffi.I gael y ddolen, cysyllter â’r

ysgrifennydd, Gwynn Matthews, drwyebostio: [email protected]

Diolch am eich diddordeb,

Gwynn Matthews (Ysgrifennydd)

Annwyl ddarllenwyr,

Gair byr yw hwn i dynnu sylwdarllenwyr y Pedair Tudalen at gyfresFeiblaidd fyddai o bosibl o ddiddordebiddynt. Enw’r gyfres yw Pobl y Beibl,ac mae’n cynnwys deg cyflwyniadllafar ar Powerpoint – tua ¼ awr yr un –ar rai o brif gymeriadau’r Beibl. Pwrpasy gyfres hon yw ein helpu i ddeall rhaio gymeriadau mawr y Beibl – eucryfderau a’u gwendidau – a dysgu rhaigwersi pwysig o’u bywydau i ni ymaheddiw.Bydd y gyfres ar gael yn y Gymraeg

ar YouTube (Ebenezer Baptist ChurchAberavon) yn wythnosol. (Mae cyfresdebyg ar gael hefyd yn y Saesneg ar yrun sianel.) Hyderwn y bydd ydarllenwyr yn defnyddio’r gyfres felcyfle i rannu’r neges Gristnogol â phobly tu fewn a thu fas i waliau’r capel.

Yn ddiolchgar,

Peter Davies

Page 5: yGOLEUAD · 2021. 2. 3. · ei gilydd. Dymuniadau gorau i’r Golygyddion – gweinidogion sydd ar y rheng flaen y dyddiau hyn. Gweddïwn y bydd Duw yn bendithio’r fenter gyffrous

Bu’r tywydd yn enbyd yr wythnos ymaa diolchwn am gartrefi i fod ynddynt.Doedd neb y bues i’n siarad efo nhw yncofio cymaint o ddfir yn rhaeadru o bobtwll a chornel o’r blaen. Yr ydym yncofio ac yn gweddïo dros y rheiny syddwedi gorfod gadael eu cartrefi mewncymaint o lefydd ar draws Cymru. Aninnau’n cael ein gorchymyn i aros ynein cartrefi, mae’n ofid pellach panmae’r cartref hwnnw’n cael ei ddifrodioherwydd y tywydd. Gwyn ein byd oscawsom gyfle i drugarhau wrth rai addadleolwyd, a’u cynorthwyo. Ondmeddyliwn hefyd am y rheiny ledled ybyd sy’n byw mewn ansicrwydd o’r fathheb wybod pryd fydd yn rhaid iddynnhw adael eu cartrefi ar fyr rybudd.Os oedd y tywydd yn ansefydlog, yna

diolchwn i Dduw am yr elfen osefydlogrwydd a deimlwyd yn fyd-eangwrth i Arlywydd newydd gael ei sefydluyn yr Unol Daleithiau. Yr oeddem

ninnau, fel Cymorth Cristnogol allawer o fudiadau eraill, yn falch oweld yr Unol Daleithiau yn ailymunoâ chytundeb Paris ar newid hinsawdd,gan addo cyrraedd targedau lleihaucarbon a fydd yn helpu cymaint sy’ndioddef effeithiau newid hinsawdd drosy byd i gyd.Ar ôl yr eira a’n caethiwodd

ymhellach ynghanol ein caethiwedmawr, fe sylwais ar rai’n edrych tua’rawyr ac yn rhyfeddu at brydferthwch ycymylau trawiadol; eraill yn tynnulluniau a’u postio ar eu cyfrifon ar y we.Fe fyddem yn aml yn sôn am y tywyddcyn i’r pandemig ddwyn ein sgwrs. Felhyn y dywedodd yr Arglwydd Iesu amarwyddion y tywydd: “Gyda’r nos feddywedwch, ‘Bydd yn dywydd teg,oherwydd y mae’r wybren yn goch.’ Acyn y bore, ‘Bydd yn stormus heddiw,oherwydd y mae’r wybren yn goch acyn gymylog.’ Gwyddoch sut i ddehongli

golwg y ffurfafen, ond ni allwchddehongli arwyddion yr amserau.”(Mathew 16:2–3)Yr ydym, fel y rhai sy’n tynnu

lluniau’r cymylau, yn ddigon parod isylwi ar arwyddion y tywydd, ond bethyw ‘arwyddion yr amserau’ yr ydymni’n byw ynddyn nhw, tybed? Bethddywed y rheiny wrthym wrth innisylwi, gwaredu a gofidio am helbulgwlad a byd? Ynghanol ein cyfyngiadaua’n sylwi, beth mae Duw yn ceisio’iddweud wrthym? A yw’n ein tynnu ynnes ato ef ei hun? A yw’n ein galw iweddi ac ymbil? A yw’n dangosanghenion inni na welsom nhw erioedo’r blaen yn ein cymdeithas?Fe ofynnodd y brenin Dafydd am

arweiniad Duw wrth iddo geisio ymladdbrwydr eto yn erbyn y Philistiaid. Wediennill un frwydr, fe wrthododd gymrydarweiniad Duw yn ganiataol ac fegafodd ei arwain y tro hwn i wylio amarwydd bod y tywydd yn newid ac iwrando am sfin y gwynt yn troi ymmrig y coed morwydd ac yna i ymosodar ôl hynny (1 Cronicl 14). Roedd sfiny gwynt yn arwydd iddo fod Duw yn eiarwain o’r newydd ac yn mynd ar yblaen iddo yn y frwydr, yn barod i roibuddugoliaeth.Bydded i ninnau ynghanol ein

hamserau rhyfedd ninnau fod yn agoredi glywed y ‘sfin ym mrig y morwydd’,gwybod beth yw’r arwydd gwahanol yrydym i’w geisio mewn amseraugwahanol fod Duw eto’n mynd ar yblaen, yn barod i gynnig ei arweiniaddrwy dro yng ngwynt ei Ysbryd inniddehongli ac ymateb i arwyddion einhamserau ninnau.

(Gol.)

Chwefror 5, 2021 Y Pedair Tudalen Gydenwadol tudalen 5Y PEDAIR TUDALEN GYDENWADOLy4t y4t

Arwyddion tywydd a’r amserau

Gyda thristwch mawr y clywsomam farwolaeth Dr Vivian Jones, einLlywydd Anrhydeddus. Ef, ynanad neb, oedd prif sefydlyddCristnogaeth 21 yn 2008, a chyfrannoddyn hael o ran ei amser, ac yn ariannol, igeisio creu man diogel i ysgogitrafodaeth onest ac agored arGristnogaeth gyfoes, ymchwilgar. Yn frodor o’r Garnant, bu’n weinidog

yn yr Onllwyn, Blaendulais a’rAllt-wen. Derbyniodd ei addysg yngNgholeg y Brifysgol, Bangor, a CholegBala–Bangor, ac wedyn yng NgholegDiwinyddol Princeton, U.D.A.

Treuliodd 15 mlynedd yn weinidogar eglwys fentrus a blaengar Plymouth,Minneapolis, cyn ymddeol i’r Hendy.Wedi dychwelyd i Gymru, cyhoeddoddnifer o gyfrolau diwinyddol pwysigmegis Helaetha dy Babell (2004), YNadolig Cyntaf (2006), Menter Ffydd(2009), Byw’r Cwestiynau (2013) aSymud Ymlaen (2015), ac wedyndilynodd ei hunangofiant, A Childhoodin a Welsh Mining Valley (2017).Roedd yn ddiwinydd mawr ei

ddylanwad, yn feddyliwr praff, ynllenor medrus, yn gyfaill ffyddlon ac yngwmnïwr difyr, llawn direidi. Yn eihenaint, roedd yn benderfynol ofeistroli’r dechnoleg ddiweddaraf ermwyn hyrwyddo gwaith C21 ar y wefannewydd. Bu ef a’i wraig, Mary, yn bywmewn cartref gofal yn Llanelli dros yblynyddoedd diwethaf.Estynnwn ein cydymdeimlad llwyraf

â Mary a’r merched, Anna a Heledd, a’uteuluoedd. Roedd yn fraint caeladnabod Vivian, ac mae dyled y bydcrefyddol yng Nghymru yn fawr iddo.

Emlyn Davies

Colli Vivian JonesCynhwysir isod y deyrnged a

ymddangosodd ar wefanCristnogaeth 21 i’rParch. Vivian Jones.

Page 6: yGOLEUAD · 2021. 2. 3. · ei gilydd. Dymuniadau gorau i’r Golygyddion – gweinidogion sydd ar y rheng flaen y dyddiau hyn. Gweddïwn y bydd Duw yn bendithio’r fenter gyffrous

Trafodwyd yr ymdrech frechu yn erbynCovid-19 yng nghyfarfod FforwmFfydd Cymru pan gyfarfu 32 oarweinwyr crefyddol yng Nghymru ynrhithiol ar Ionawr 20fed.Yn dilyn y cyfarfod, trydarodd

Llywodraeth Cymru i ddweud ‘bod ybrechlyn yn derbyn cefnogaethcymunedau ffydd, ac yr ydym yngwybod y byddwch yn helpu eichcymunedau i wneud penderfyniadau ar

sail yr wybodaeth sydd ar gael. Diolchyn fawr.’Cadeirir y corff hwn gan y Prif

Weinidog neu ei ddirprwy, ac mae’raelodaeth yn adlewyrchu hollgymunedau ffydd Cymru. Mae’rMwslimiaid, Iddewon, Hindwiaid,Sikhiaid a’r Bahai yn cael eucynrychioli yno, yn ogystal ag eglwysiCristnogol sydd yn perthyn i Cytûn,Cyngor Eglwysi Rhyddion Cymru a’r

Gynghrair Efengylaidd. Cynrychioliryr Eglwys yng Nghymru a’r EglwysGatholig ar wahân hefyd, ac fe geircynrychiolaeth lawn yn gyson. Yngnghyfarfod yr wythnos diwethafcafwyd trafodaeth ar y trefniadaubrechu yng Nghymru, ac roedd pawbyn gytûn yn cefnogi LlywodraethCymru yn eu hymgyrch bresennol. Ynnaturiol, cyfeiriwyd at y proffwydigwae sy’n ceisio gwenwyno meddyliauparthed brechu, ond ni wnaeth nebfynegi cefnogaeth i’r safbwynt yna. Ynwir, ceisio canfod ffyrdd o rwystrohynny oedd y meddylfryd. Un awgrymhollol ymarferol ddaeth o du’rMwslimiaid oedd y gellid defnyddio eumosgiau i gyflwyno brechiadau, adywedwyd y byddai’r syniad yn cael eidrosglwyddo. Syniad arall agymeradwywyd oedd tynnu llun o’rsgrin Zoom a’i ddefnyddio gydadatganiad, ac y byddai’r llun ar gael i’wddefnyddio gan y Llywodraeth.

Rheinallt Thomas

tudalen 6 Y Pedair Tudalen Gydenwadol Chwefror 5, 2021Y PEDAIR TUDALEN GYDENWADOLy4t y4t

Fforwm Ffydd Cymru yn hyrwyddo’r ymdrech frechu

Rhai o’r 32 oedd yn bresennol yn y Fforwm Ffydd yn nodi eu cymeradwyaeth iymdrech frechu Llywodraeth Cymru

Cyfeiriad Golygydd Y PEDAIR TUDALEN

Huw Powell-Davies

neu Llifor, 60 Ffordd Rhuthun,Yr Wyddgrug, CH7 1QH

Anfonwch eich erthyglau, hysbysebiona.y.y.b. i’r cyfeiriad uchod.

Mae’r Pedair Tudalen Gydenwadol yncael eu cynnwys yn rhan o bapurauwythnosol tri enwad, sef Y Goleuad(Eglwys Bresbyteraidd Cymru), SerenCymru (Undeb Bedyddwyr Cymru) a’rTyst (Undeb yr Annibynwyr Cymraeg).

[email protected]

Os yw pandemig y coronafeirws wedidysgu unrhyw beth i ni, mae wedigwneud i ni sylweddoli pa mor bwysigyw’n hysgolion a phob unigolyn sy’nrhan o waith ysgolion, boed ynathrawon, cynorthwywyr dosbarth,staff y swyddfa a’r gegin a gofalwyr.Mae hefyd wedi tanlinellu morhanfodol yw, nid yn unig yr addysg agaiff ein plant yn yr ysgol, ond hefyd ygymdeithas a’r gofal. Cytuno?Os felly, mae angen i ni garu ein

hysgolion a dangos y cariad hwnnwwrth ddod yn rhan o ymgyrch weddidros ein hysgolion. Bwriad y mudiad

Gweddi dros Ysgolion (Prayer forSchools) yw gwneud pob ysgol yndestun gweddi. Ac mae gwahoddiad ibob un ohonom ymuno yn y gweddïohwn. Wrth ddilyn y ddolen:

<https://www.prayforschools.org/loveourschools/> cewch fynediad atadnoddau a gwybodaeth i’chcynorthwyo i wneud hyn. Ar y dudalenwe, ceir dolen bellach at ddarpariaethcyfrwng Cymraeg.’Dewch i ni garu’n hysgolion – a

gweddïo’n gyson drostynt.

Catrin Roberts

EGLWYSI CYLCH CARN INGLI(Bethlehem, Caersalem, Ebeneser,

Jabes, Tabor)

Mae’r Gweinidog, y Parchg Alwyn Daniels,bellach wedi ymddeol wedi deugainmlynedd o weinidogaeth ymroddedig athystiolaeth loyw yn ein cylch a thu hwnt.

Byddwn yn cyflwyno tysteb i ddangos eingwerthfawrogiad o’i waith a’i wasanaeth efa Jean, ei briod, pan fydd amgylchiadau’ncaniatáu.

Os carech chi gyfrannu, gellir anfon siec,taladwy i “Cyfrif Tabor, Bethlehem,Caersalem a Jabes”, at Gwenno Eynon,Glan Gwaun, Pontfaen, Abergwaun, SirBenfro SA65 9SG, cyn CHWEFROR 28,2021.

DIOLCH YMLAEN LLAW.

Page 7: yGOLEUAD · 2021. 2. 3. · ei gilydd. Dymuniadau gorau i’r Golygyddion – gweinidogion sydd ar y rheng flaen y dyddiau hyn. Gweddïwn y bydd Duw yn bendithio’r fenter gyffrous

ROEDD YNO GAPELYn y llawlyfr ar gyfer GwirfoddolwyrMynyddoedd Eryri 2020 fel hyn y maeAwdurdod Parc Cenedlaethol Eryri ynsôn am ardal Cwm Brwynog, gerllawLlanberis: ‘Roedd yng Ngwaun CwmBrwynog bump ar hugain o gartrefi, onddim ysgol, na siop, na thafarn, a dimtrydan na ffo� n – ond roedd yno gapel!Mae gweddillion Capel Hebron i’wgweld dros eich ysgwydd dde, yr ochrdraw i’r rheilffordd a chwt GorsafHebron’.

‘Roedd yno Gapel !’ Wyddoch chidyma’r capel cyntaf y bûm i ynddo foerioed: Capel Gwaun Cwm Brwynoguwchlaw Llanberis. Cofiwch chi. cobynbach oeddwn i ar y pryd, wedi mynd igrwydro llechweddau isa’r cwm rhwngviaduct Pwll Morwyn a Stesion Hebron.Ymddangosodd llun yn ddiweddar oadfeilion yr hen gapel fel y mae erbynhyn – y to wedi hen ddiflannu a’r llecynhynod hwn yn gwbl agored i wyntoedd

a stormydd Eryri. Cafodd y llun uchod eidynnu yn ôl yn 2010 gan Mr HefinOwen, Llanberis, ac rwy’n hynodddiolchgar iddo am gael ei defnyddioyma fel hyn. Fel plentyn roeddwn wediceisio dychmygu pwy oedd yn addoli yny llecyn arbennig yma, a phabregethwyr fyddai’n ymweld â’r fath lear y Sul. Wrth imi sefyll yno, roeddwnhefyd yn dychmygu rhyw henbregethwyr yn mynd i hwyl yn y pulpud,a sfin y gynulleidfa ym morio canu ynatsain drwy’r Cwm ar noson braf o ha’pan fyddo’r drysau yn llydan agored.

Yn dilyn gosod y llun uchod ar dudalen‘Llanberis Ddoe a Heddiw’ ar Facebookbu trafodaeth frwd a diddorol ynglªn â’rllecyn hynod hwn fu’n aelwyd ameithrinfa ysbrydol i bobl Iesu GristGwaun Cwm Brwynog. Wedi ymchwiliotipyn i’r hanes dyma ganfod erthygl oarchif Eco’r Wyddfa, gan Rol Williams,awdur cyfrolau ‘Heibio Hebron’ ‘TuUcha’r Giât’, yn nodi peth o hanes yradeilad hynafol hwn a hanes holldrigolion yr anheddau yn y cwm. R BrynWilliams ganodd am y rhain yn ei gerddi’r Cwm ym 1946:

‘Tyddynnod bach a theios llawn,a’r Cymun Cymraeg wrth dân o fawn; a gwerin dlawd yn byw’n gyfoethog, yng Ngwauncwmbrwynog’

Ymhen blynyddoedd cefais wrando ar yParch R. Bryn Williams yn pregethu yngNghapel Henllan Dyffryn Clwyd ar rywbnawn Sul, heb fawr sylweddoli maiyntau a fu’n weinidog ar yr hen gapelwrth Stesion Hebron. Hen furddunbellach ydyw a fu’n seintwar, seiat ac ynsanctaidd yng ngolwg ac yng nghofllawer o’r ffyddloniaid, ond sydd bellacha’i ddrws ar glo.

‘Roedd yno gapel !’ – dyna fydd hanesambell i le decini wedi’r waredigaethsy’n dod inni mewn brechlyn rhag yCovid 19. Roedd yno gapel … roedd

yno gynulleidfa… roedd ynogymdeithas, fydd ein hanes mewnambell fro. Ond mewn sawl ardal arall fefydd y pethau hyn yn parhau wrth i boblglosio, a chynorthwyo’i gilydd i barhau’rdystiolaeth i’r Creawdwr, ac Arglwyddpob cwm a chantre’ a chynefin. Wrthgloi ei gerdd a ddarllenwyd ynngwasanaeth datgorffori Hebron feganodd y Parch R Bryn Williams fel hyngan fynegi teimladau cywir iawn llawero ffyddloniaid sydd wedi gweld dirwynpethau i ben wedi blynyddoedd oaddoli a gwasanaethu ffyddlon ydyddiau hyn:

Eithr erys hyd awr fy niweddAtgofus dangnefedd dy gwmnïaethAc ni thaw y lleisiauA lyn wrth dy furiau briw.

Er hynny, ‘Mor brydferth yw dybreswylfod O Arglwydd y lluoedd’ (Salm84:1), o hyd ym meddwl a chalon sawlun o hyd, ac wrth fynd am dro ar hyd ywlad, fe ddywedwn ninnau hefyd wrthoedi ar fin y ffordd, a dweud, ‘Roeddyma gapel!’

Jim Clarke

Chwefror 5, 2021 Y Goleuad 7

Sylw o’rSEIDIN

Manylion gan Sarah: [email protected]

Manylion mewngofnodi Zoomhttps://us02web.zoom.us/j/83243383071Rhif ffôn os am ymuno: 0203 901 7895.

Rhif cyfarfod: 832 4338 3071

Dewch i’r wleddGogledd Ddwyrain(henaduriaethau Conwy-Dyfrdwy/ Dyffryn Clwyd / GogleddDdwyrain / Trefaldwyn)Nos Lun, 7yh: Ionawr 18, 25.Chwefror 8, 22. Mawrth 8, 22.

Gogledd Orllewin(henaduriaethau Môn, Arfon,Gorllewin Gwynedd)Pnawn dydd Mawrth, am 1:30:Ionawr 19, 26. Chwefror 9, 23.Mawrth 9, 23.

Y De (henaduriaethauMorgannwg-Llundain / Myrddin /Ceredigion-Gogledd Penfro)Pnawn dydd Gwener, am 1:30:Ionawr 15, 29. Chwefror 12, 26.Mawrth 12, 26.

Cwestiwn Mawr?‘Y cwestiwn mawr yw … Bethddygodd Iesu Grist i’r byd go iawn,os na ddaeth â heddwch i’r byd,ffyniant byd-eang a byd gwell? Betha ddygodd ef?

Mae’r ateb yn syml iawn…Daeth âDuw, ac yr ydym yn awr ynadnabod ei wyneb, yn awr ynmedru galw arno. Yn awr gwyddomy llwybr sy’n rhaid i ni, fodau dynol,ei gymryd yn y byd hwn. Daeth Iesuâ Duw atom, a gyda Duw ygwirionedd am ein dechreuadaua’n tynged: ffydd, gobaith, cariad.Caledwch ein calonnau ein hunainsy’n peri i ni synied bod hyn ynannigonol. Yn wir, bod gallu Duw yngweithio’n dawel yn y byd hwn; ondhwn yw’r grym gwirioneddol acarhosol. Drosodd a thro, o bryd i’wgilydd, mae’n ymddangos bodachos Duw yn wynebu ei dranc a’iddiwedd. Eto, drosodd a thro,mae’n profi ei hun i fod yr un pethsy’n wirioneddol yn parhau ac ynachub.’

Pab Bened XVI (Joseph Ratzinger),Jesus of Nazareth:

From the Baptism in the Jordanto the Transfiguration

E-bost a’r GoleuadGall pwy bynnag sydd am anfon erthyglaua lluniau i’r Goleuad wneud hynny ar:

[email protected]

Page 8: yGOLEUAD · 2021. 2. 3. · ei gilydd. Dymuniadau gorau i’r Golygyddion – gweinidogion sydd ar y rheng flaen y dyddiau hyn. Gweddïwn y bydd Duw yn bendithio’r fenter gyffrous

8 Y Goleuad Chwefror 5, 2021

• Wythnos nesaf – Trem ar y Goleuad •

Oni wyddost?

Dyma gyfarfod hyfryd iawn…

EMYN 113: Duw Abraham, molwch ef

GWEDDIO Arglwydd, lleferaist dy Air;ymgnawdolodd dy Air; cyhoeddaist air ynewyddion da drwy’r proffwydi gynt, drwyangylion, bugeiliaid, doethion, yn dy Fab,drwy’r apostolion a thrwy dy eglwys;llefara wrthym ni eto drwy dy YsbrydGlân. Llanwa’n calonnau gyda’r fathlawenydd fel y byddwn yn dystion sy’nmethu ymatal rhag canu dy glod. Llanwa’rddaear oll gyda’th fawl, drwy Iesu Grist,Amen.

CYFLWYNIADWrth wrando ar ambell i wleidydd neuarweinydd yn cael ei holi, fyddwch chi,weithiau o leiaf, yn dechrau dadlau gyda’rradio gan ddweud, ‘Pam na wnei di ateb ycwestiwn?’ A dacw blentyn bach sy’nllawn chwilfrydedd ac yn llawn ogwestiynau. ‘Mae isio’i ti fynd i’r gwelyrfian.’ ‘Pam? Dwi ddim wedi blino?’‘Gafael yn fy llaw yng nghanol yr holl bobl‘ma.’ Pam? Sut mae car yn gweithio? Pamfod eira’n wyn? A’r chwilfrydedd hwnnw, ygallu i ofyn y cwestiwn cywir a cheisio amateb cywir sydd wrth wraidd einmeddygaeth a’n hymchwil gwyddonol.

Ac onid ydym ninnau hefyd yn llawn ogwestiynau am werth, am bwrpas, amgyfeiriad bywyd? Am ddiben a phendraw’rdaith? A beth sydd wedyn? Ai ‘llithro i’rllonyddwch mawr yn ôl’ yn unig yw eintynged?

Ac weithiau byddwn yn cael trafferth iddod o hyd i’r geiriau, i adnabod ycwestiwn, ac i gyrraedd y fan lle’r rydymyn fodlon derbyn ateb. Wedi’r cyfan,weithiau, mae gofyn cwestiwn, ar bencwestiwn, ar ben cwestiwn, nid yn unig ynein drysu’n hunain, neu’n cymylu’r mater,neu’n cawlio’r person yr ydym yn eu holi,ond hefyd yn ffordd o’n hatal rhagwynebu’r ateb neu oblygiadau ymarferolunrhyw ateb a gawn yn y newyddion daam Iesu Grist. Weithiau, ‘rydym yngwybod yr ateb ond wedi ei anghofio, neuweithiau ‘dydyn ni ddim am ei glywed.

Yn ein darlleniad heddiw fe welwngwestiynau ar ben cwestiynau’n cael eupentyrru ar ben ei gilydd.

DARLLENIAD: Eseia 40: 21-31

MYFYRDODRoedd yr hen genedl yn y gaethglud ymMabilon ac eilunod pwerus i’w gweld ar

furiau a themlau ym mhob man. Gallai’rymerawdwr ymffrostio yn ei lwyddiannaua maint ei deyrnas. Fel ninnau, ar brydiau,yn ddiamau byddai’r rhai a gaethgludwydyn llefain, ‘lle wyt ti Dduw yng nghanol hynoll i gyd? Lle wyt ti pan mae dy bobl yndioddef? Ble wyt ti pan mae offeiriaid ypaganiaid yn llafarganu eu clod i’weilunod? Yn union fel y clywn ninnau ynhysbysebion y teledu o ddydd i ddydd.

Ateb Eseia wrth y rhai oedd yn ymholi felhyn oedd troi’r cwestiwn yn ei ôl.

1. Gair y proffwyd – Gwyddoch achofiwch – ad 21-24

Oni wyddoch? Wrth gwrs eich bod chi?Oni chlywsoch? Wrth gwrs y clywsochchi? Dyw’r ateb i’r hyn sy’n eich blinoddim yn ddieithr i chi- mae o’n hysbys ersdechrau’r greadigaeth! Nid yw’r Arglwyddi’w gyfyngu i’w greadigaeth – darluniamewn iaith farddonol sut y mae’n ‘eisteddar gromen y ddaear’, mai locustiaid yw eithrigolion. Pabell tros y cyfan yw ei drigfanef. Y mae ei drefn a’i lywodraeth dros ycyfan. Onid ydych yn sylweddoli nad yw’rTeyrn a’r unben mwyaf ym Mabilon, fel euduwiau, ond yn ‘ddiddim’ yn ‘dryblith’ – ynanrhefn ac yn ddryswch. Nid oes iddyntbarhad na grym, na bywyd. Dim ondanadl sydd ei angen a diwreiddirllywodraeth y mwyaf cadarn olywodraethwyr y byd; difethir eu teyrnas,chwelir eu hanrhydedd.

Oni wyddoch hyn? Wrth gwrs eich bodchi!

2. Gair Duw – Codwch eich llygaid –ad 25-26

Ydych chi’n poeni nad oes delw ohonofgennych? Ydych chi am fy nghyfyngu iryw adeilad, neu ddelw, neu seremonineu ddefod? Mae o fel pe bai’r Arglwyddyn troi’r cwestiwn yn ôl ac yn gofyn gan eibobl am fesur, neu ddelw, neu ffurf briodolar ei gyfer. Gwyr yr Arglwydd na lwyddwnni fyth i ddod o hyd i fesur, neu ddelw, neugymhariaeth sy’n ei fesur. I bwy ydw i’ndebyg, meddai? Ai fel llew ac adenyddBabilonaidd, neu fwystfil o’r dyfroedd; neuefallai gallai’r sêr unigol fy nghynrychioliac awgrymu ffurf ar fy nghyfer. Tebyg ibwy ydw i mewn gwirionedd? Addolai’rBabiloniaid y sêr a’r planedau agrymoedd y nef. Ond codwch eich llygaid.Dydw i ddim fel rheiny. Nid serenmohonof, na haul, na lleuad. Wedi’r cyfan,Duw a’i creodd. Ac o’r biliynau o sêr ac o

blanedau yn y greadigaeth galwodd bobun allan, ‘eu llu fesul un.’ Pa nerth allaigyflawni hyn? Nid oes un yn angofganddo.

Felly, a pha gorff, neu gerflun, neuddarlun neu unrhyw beth arall hoffech chigyfyngu ar allu’r Hollalluog?

3. Duw yn y doc – ad 27-31

Yn awr, gosoda dy Farnwr mewn llysbarn. Pam eich bod yn cwyno am beidioâ chael gwrandawiad? ‘Pam y dywedi,O Jacob?’ (ad 27) Mae’r Arglwydd yngweld eich calon, yn deall eich meddwl acyn gwybod eich bod yn amau ei allu a’iffyddlondeb. Ond mae’n gwybod beth yrydych yn ei feddwl wrth i chi dybied nadyw’n gweld eich cyflwr ac nad oes otsganddo. Pam wyt ti’n meddwl nad oes otsgan yr Arglwydd am ei bobl? Y tro hwn,mae’n cyfarch bob un yn bersonol.Rho gynnig ar ateb. ‘Oni wyddost?’ (ad 28cymharer ag ad 21) Wrth gwrs ygwyddost. Gwyddost Ei fod yndragwyddol, yn grëwr, yn Fod sydd y tuhwnt i’th ddeall na’th amgyffrediad acnad yw ei nerth yn pallu, yn lleihau nacyn cilio.

Yn wir fe wyddost o brofiad nid yn unig eifod yn gyflawn ei allu, ond ei fod ynrhannu ei nerth gyda gweinion y byd.Onid ydym ni yn ddiffygiol – mewndoethineb, gwybodaeth, moesau ac egni?Yn ddi-rym? Bydd hyd yn oed y cryfaf ogorff, dyfnaf ein deall, mwyaf cadarn eiffydd ar adegau yn gwegian.Mor hael yw’r Arglwydd. Mae crëwr ybydysawd yn cynnig i ni, weiniaid, obaithac adnewyddiad ganddo, ac ynddo ef eihun.

Llipa a diymadferth yw’r eryr pan mae’ncolli ei blu; felly ninnau hefyd. Ond wrthi’w blu newydd dyfu trawsnewidir y cyw ifod yn eryr aeddfed brenhinol ei olwg a’irym.

Nid i’r nef yn unig y codwn ni ein golygon,ond at groes yr Arglwydd Iesu Grist- eigoncwest a’i atgyfodiad. Codwn eingolygon at y Duw sy’n cadw ei air sy’ntywallt allan ei Ysbryd Glân arnom i’nhail-eni a’n creu o’r newydd. Dyma’r unsy’n ei hadnewyddu a’n galluogi i redegheb flino, i rodio heb ddiffygio.’

Oni wyddost hyn?

Wrth gwrs dy fod!

EMYN 579: Ti yw’r un sy’n adnewyddu

Os na nodir yn wahanol nid yw barn y cyfranwyr o angenrheidrwydd yn farn y golygydd na’r Gymanfa Gyffredinol.Anfoner pob gohebiaeth, newyddion, ysgrifau, a.y.y.b. at y Parch. Ddr. R. Watcyn James, Eryl, Capel Bangor, Aberystwyth SY23 3LZ. e-bost: [email protected]

Cyhoeddwyd gan Eglwys Bresbyteraidd Cymru ac argraffwyd gan Wasg y Bwthyn, Caernarfon.