1
Hawlfraint © 2012 WISE KIDS. Trwydded Creative Commons: CC BY-NC-ND 3.0 Bwlio Seiber a Negeseuon o Natur Rhywiol Bwlio Seiber a Negeseuon o Natur Rhywiol http://creativecommons.org/licenses/by-nc-nd/3.0/deed.en_GB www.wisekids.org.uk Allwch chi ddim dianc rhagddo oherwydd gall y troseddwyr anfon negeseuon testun neu bostio sylwadau unrhyw amser o’r dydd. Weithiau hefyd bydd yn anodd gweithio allan pwy sy’n anfon y negeseuon. Mae rhai pobl ifanc hefyd wedi bod yn gysylltiedig â digwyddiadau ’secstio’ – h.y., defnyddio‘u ffonau symudol, camerau neu gamerau gwe i greu ac anfon delweddau a fideos cignoeth ohonyn nhw’u hunain neu o’u cariadon. Mae hyn yn anghyfreithlon yn y DU ac yn drosedd y gellid ei herlyn os yw’r delweddau/fideos o rywun sy’n iau na 18 oed. Da chi, dywedwch wrth eich ffrindiau am hyn! Gall canlyniadau cymdeithasol ac emosiynol y gweithredoedd hyn fod yn ddifrifol. Felly beth allwch chi ei wneud? Mae rhwydweithiau cymdeithasol, sgwrsio, messenger, negeseuon testun, chwarae gemau a gweithgareddau Rhyngrwyd eraill yn wych pan fyddan nhw’n cael eu defnyddio mewn ffordd bositif! Yn anffodus, mewn nifer fach o achosion mae’r technolegau hyn wedi’u defnyddio i aflonyddu a bychanu eraill. Dyma beth yw ystyr ‘bwlio seiber’ a gall fod yn beth ofnadwy am nifer o resymau: Oherwydd natur cyhoeddus a firal y Rhyngrwyd, gellir lledaenu’r e-gynnwys negyddol hwn yn rhwydd, gan ddefnyddio YouTube,Gweplyfr a hyd yn oed dechnolegau fel Bluetooth. Gall eraill sy’n gweld y cynnwys hwn hefyd ei storio neu wneud copїau ohono felly mae’n amhosib ei ddileu. Mewn rhai achosion, defnyddir cynnwys o’r fath i lunio proffiliau ffug neu wefannau ffug o’r dioddefwr! Peidiwch fyth â rhannu nag anfon unrhyw un o’r negeseuon hyn ymlaen ond cadwch nhw fel tystiolaeth. Yn y DU, mae yna achosion wedi bod o bobl ifanc yn cael eu herlyn am fwlio seiber Os dewch ar draws unrhyw ddigwyddiadau bwlio/bwlio seiber, neu os cewch chi eich hun unrhyw negeseuon cas, neu rai sy’n aflonyddu arnoch, blociwch yr anfonwr (os yn bosib) a dywedwch wrth eich rhieni neu wrth oedolyn yr ydych yn ymddiried ynddo ar unwaith! Efallai y byddwch am ofyn i’ch rhieni ddweud wrth eich athro ysgol os yw’r bwlio’n ymwneud â phlant eraill o’r ysgol. Mae gwefan CyberMentors hefyd yn rhoi cefnogaeth dda: http://www.cybermentors.org.uk Os cafodd proffil ffug ei sefydlu, neu os yw rhywun yn postio sylwadau neu negeseuon cas ar-lein, gallwch riportio hyn drwy ddefnyddio’r cyfleuster ‘Report Abuse’ sydd ar y gwefannau eu hunain. Bydd sawl cwmni fel Gweplyfr yn gweithredu’n gyflym i ddileu’r cynnwys cas neu’r cyfrif. Am fwy o wybodaeth gweler: http://www.facebook.com/safety a http://www.google.com/support/youtube Os ydych chi neu rywun y gwyddoch amdano wedi derbyn negeseuon/ cynnwys rhywiol amhriodol, gallwch riportio hyn i’r Ganolfan Ymelwa ar Blant a Gwarchodaeth Ar-lein (CEOP): https://www.ceop.police.uk/Ceop-Report. Os ydych chi wedi cael eich hunan yn gysylltiedig â digwyddiad secstio dywedwch wrth eich rhieni neu wrth oedolyn yr ydych yn ymddiried ynddo. Mae’n hawdd cael eich twyllo i wneud pethau ar-lein, felly peidiwch â bod ofn mynd am help. Gallwch hefyd siarad â rhywun yn Childline ar 0800-1111. Cofiwch os bydd bywyd rhywun mewn perygl, cysylltwch â’r heddlu ar unwaith!

WISE KIDS Leaflet: Cyberbullying and Sexting (in Welsh)

Embed Size (px)

Citation preview

Page 1: WISE KIDS Leaflet: Cyberbullying and Sexting (in Welsh)

Hawlfraint © 2012 WISE KIDS. Trwydded Creative Commons: CC BY-NC-ND 3.0

Bwlio Seiber a Negeseuon o Natur RhywiolBwlio Seiber a Negeseuon o Natur Rhywiol

http://creativecommons.org/licenses/by-nc-nd/3.0/deed.en_GB

www.wisekids.org.uk

Allwch chi ddim dianc rhagddo oherwydd gall y troseddwyr anfon negeseuon testun neu bostio sylwadau unrhyw amser o’r dydd. Weithiau hefyd bydd yn anodd gweithio allan pwy sy’n anfon y negeseuon.

Mae rhai pobl ifanc hefyd wedi bod yn gysylltiedig â digwyddiadau ’secstio’ – h.y., defnyddio‘u ffonau symudol, camerau neu gamerau gwe i greu ac anfon delweddau a fideos cignoeth ohonyn nhw’u hunain neu o’u cariadon. Mae hyn yn anghyfreithlon yn y DU ac yn drosedd y gellid ei herlyn os yw’r delweddau/fideos o rywun sy’n iau na 18 oed. Da chi, dywedwch wrth eich ffrindiau am hyn! Gall canlyniadau cymdeithasol ac emosiynol y gweithredoedd hyn fod yn ddifrifol.

Felly beth allwch chi ei wneud?

Mae rhwydweithiau cymdeithasol, sgwrsio, messenger, negeseuon testun, chwarae gemau a gweithgareddau Rhyngrwyd eraill yn wych pan fyddan nhw’n cael eu defnyddio mewn ffordd bositif! Yn anffodus, mewn nifer fach o achosion mae’r technolegau hyn wedi’u defnyddio i aflonyddu a bychanu eraill. Dyma beth yw ystyr ‘bwlio seiber’ a gall fod yn beth ofnadwy am nifer o resymau:

Oherwydd natur cyhoeddus a firal y Rhyngrwyd, gellir lledaenu’r e-gynnwys negyddol hwn yn rhwydd, gan ddefnyddio YouTube,Gweplyfr a hyd yn oed dechnolegau fel Bluetooth.

Gall eraill sy’n gweld y cynnwys hwn hefyd ei storio neu wneud copїau ohono felly mae’n amhosib ei ddileu. Mewn rhai achosion, defnyddir cynnwys o’r fath i lunio proffiliau ffug neu wefannau ffug o’r dioddefwr!

• Peidiwch fyth â rhannu nag anfon unrhyw un o’r negeseuon hyn ymlaen ond cadwch nhw fel tystiolaeth. Yn y DU, mae yna achosion wedi bod o bobl ifanc yn cael eu herlyn am fwlio seiber

• Os dewch ar draws unrhyw ddigwyddiadau bwlio/bwlio seiber, neu os cewch chi eich hun unrhyw negeseuon cas, neu rai sy’n aflonyddu arnoch, blociwch yr anfonwr (os yn bosib) a dywedwch wrth eich rhieni neu wrth oedolyn yr ydych yn ymddiried ynddo ar unwaith! Efallai y byddwch am ofyn i’ch rhieni ddweud wrth eich athro ysgol os yw’r bwlio’n ymwneud â phlant eraill o’r ysgol. Mae gwefan CyberMentors hefyd yn rhoi cefnogaeth dda: http://www.cybermentors.org.uk

• Os cafodd proffil ffug ei sefydlu, neu os yw rhywun yn postio sylwadau neu negeseuon cas ar-lein, gallwch riportio hyn drwy ddefnyddio’r cyfleuster ‘Report Abuse’ sydd ar y gwefannau eu hunain. Bydd sawl cwmni fel Gweplyfr yn gweithredu’n gyflym i ddileu’r cynnwys cas neu’r cyfrif. Am fwy o wybodaeth gweler: http://www.facebook.com/safety a http://www.google.com/support/youtube

• Os ydych chi neu rywun y gwyddoch amdano wedi derbyn negeseuon/ cynnwys rhywiol amhriodol, gallwch riportio hyn i’r Ganolfan Ymelwa ar Blant a Gwarchodaeth Ar-lein (CEOP): https://www.ceop.police.uk/Ceop-Report. Os ydych chi wedi cael eich hunan yn gysylltiedig â digwyddiad secstio dywedwch wrth eich rhieni neu wrth oedolyn yr ydych yn ymddiried ynddo. Mae’n hawdd cael eich twyllo i wneud pethau ar-lein, felly peidiwch â bod ofn mynd am help. Gallwch hefyd siarad â rhywun yn Childline ar 0800-1111. Cofiwch os bydd bywyd rhywun mewn perygl, cysylltwch â’r heddlu ar unwaith!