View
0
Download
0
Category
Preview:
Citation preview
1
Mai-Awst 2016
2
Oriau agor Dydd Llun i ddydd Sadwrn 8.30am - 11.00pm Dydd Sul 12.00pm - 8.00pm
Bwyty Gorad Dydd Llun i ddydd Sadwrn 8.30am – archebion bwyd olaf am 9pm Dydd Sul 12.00pm – 6pm
Ciosg Copa Dydd Llun i ddydd Gwener 9.00am - 5.30pm (yn ystod y tymor)
Bar Ffynnon Dydd Llun i ddydd Sadwrn 8.30am - 11.00pm Dydd Sul 12.00pm - 8.00pm
Tocynnau Ar-lein www.pontio.co.uk 01248 38 28 28
Llinellau ffôn ar agor Dydd Llun i ddydd Sadwrn 10.00am - 8.30pm Dydd Sul 12.00pm - 6.00pm
Cofrestrwch i gael y newyddion diweddaraf ar www.pontio.co.uk
@TrydarPontio PontioBangor Pontio_Bangor PontioBangor
Os hoffech gopi o destun y rhaglen yma mewn print bras neu fersiwn clywedol, cysylltwch â ni ar 01248 388 421
Croeso i Pontio
Lawrlwythwch App Pontio ar gyfer iOS neu Android heddiw a bydd map cyfleus o’r adeilad yn eich poced, gyda modd chwilio am unrhyw un o’r mannau yn yr adeilad hefyd.
Neu chwiliwch am Pontio yn yr app store neu sganiwch y cod QR isod.
Ydych chi’n dod i Pontio cyn bo hir? Ddim yn hollol siŵr ble mae pethau?
Mae’r wybodaeth yn gywir wrth argraffu Rhif elusen cofrestredig: 1141565
1
Croeso i Mai-Awst 2016 yn Pontio Dyma rai o'r cynyrchiadau yn rhaglen yr haf y mae ein staff a'n gwirfoddolwyr yn edrych ymlaen atynt...
Eleri Davies Rheolwr Gweithrediadau Pontio
Cof cyntaf o brofi'r celfyddydau?
Cofio bod wrth fy modd yn gweld 'Joseph and the Amazing Technicolor Dreamcoat ' Manceinion.
Beth ydych chi'n edrych ymlaen ato yn rhaglen y tymor hwn?
Y cynhyrchiad newydd o Cyfri'r Geirie - roeddwn yn y cast gwreiddiol a fu'n perfformio yn Theatr Gwynedd!
Dic Ben Uwch Dechnegydd Theatr
Cof cyntaf o brofi'r celfyddydau?
Roeddwn yn yr ysgol gynradd, Ysgol Cefn Coch, Penrhyndeudraeth, pan ddaeth cwmni drama Hwyl a Fflag i ymweld â'r ysgol. Dydw i ddim yn cofio'r sioe ei hun na dim un o'r actorion heblaw Alun 'Sbardun' Huws, a oedd yn dod o Benrhyn! Yn gerddorol, fy nghof cyntaf yw Edward H. Dafis yn Neuadd Goffa Penrhyn yn 1975, fel rhan o ddathliadau Eisteddfod Genedlaethol Cricieth. Roeddwn yn 11 oed ac wedi dringo i mewn drwy ffenestr ochr gyda fy ffrindiau!
Beth ydych chi'n edrych ymlaen ato yn rhaglen y tymor hwn?
Dwi'n edrych ymlaen at gig 5ed pen-blwydd I KA CHING - maen nhw i gyd yn fandiau gwych a bydd yn gyfle arall i roi prawf ar y system sain!
Lan Anh Quan Gwirfoddolwr yn Pontio
Beth yw eich atgof cyntaf o brofi’r celfyddydau?
Y profiad cyntaf mae’n siŵr oedd mewn dosbarth arlunio. Cefais fy ysbrydoli'n ddiweddarach gan atgof o gymysgu lliwiau a siapiau haniaethol i fynychu digwyddiadau mewn orielau celf, a digwyddiadau tebyg, mor aml â phosib. Yn ystod y cyfnod rwyf wedi byw yng Nghymru a theithio o gwmpas, rwyf wedi cael profiadau anhygoel o fynd i lawer o orielau yn Lerpwl, Manceinion a Llundain. Drwy hyn rwyf wedi cael y cyfle i weld darluniau rwyf wedi darllen amdanynt o’r blaen.
Beth ydych chi’n edrych ymlaen ato yn rhaglen y tymor hwn?
Mae Bedtime Stories yn edrych fel profiad hollol wahanol!
2
Cerddoriaeth
Cerddorfa Symffoni a Chorws Prifysgol Bangor
BRAHMS: EIN DEUTSCHES REQUIEM
Liszt: Les Préludes
Chris Collins a Matthias Wurz (arweinyddion)
Bydd unawdwyr proffesiynol yn ymuno â Cherddorfa Symffoni a Chorws y Brifysgol ar gyfer perfformiad o gampwaith corawl Johannes Brahms, a ysgrifennwyd fel ymateb personol dwys i farwolaeth ei fam yn 1865. Mae’n waith o brydferthwch, pwyll a grym, sy'n myfyrio ar natur gylchol bywyd,
marwolaeth, ac adfywio. Yn wrthbwynt i’r Requiem ceir cerdd symffonig Liszt, Les Préludes, y mae'r sgôr ohoni’n cael ei rhagflaenu gan eiriau sy'n mynegi meddyliau tebyg: 'Beth arall yw'n bywyd ond cyfres o breliwdiau i'r Emyn anhysbys hwnnw, a'i nodyn cyntaf, dwys yn cael ei lafarganu gan Farwolaeth?'
Nos Sadwrn 7 Mai 7.30pm
Neuadd Prichard-Jones
£12/£10/£5 (Dan 18 oed a myfyrwyr)
3
Comedy Central Live yn cyflwyno
Comedi
Danny McLoughlinGeorge LewisNathan Caton
Nos Fawrth 10 Mai 8pm
Stiwdio
£10/£8 myfyrwyr a gostyngiadau
Ymunwch â ni am noson o chwerthin gyda thri digrifwr ar daith o amgylch Prydain.
Oedran 16+
Caniateir diodydd yn y stiwdio yn nigwyddiadau Comedy Central Live.
PontioTocyn anrhegAnrheg berffaith ar gyfer unrhyw achlysur
Gydag amrywiaeth eang o ddigwyddiadau ar gael yn Pontio, o ddrama i syrcas, cerddoriaeth byd a gigs i bale, panto, ffilm a mwy, prynwch docyn anrheg am £10, £20 neu £50.
Gallwch archebu oddi ar ein gwefan, www.pontio.co.uk, dros y ffôn ar 01248 38 28 28 neu ewch draw i’n Swyddfa Docynnau – bydd rhywbeth at ddant bawb.
4
Pedwarawd Llinynnol Allegri
Mae’r Pedwarawd Allegri yn dychwelyd i Fangor i berfformio Pedwarawd Anghytgord Mozart – y gellid bod wedi ysgrifennu ei ddechrau gan mlynedd a hanner yn ddiweddarach, Llythyrau Personol, Janacek – sy’n ddehongliad cerddorol o'i obsesiwn gyda'i awen, Kamilla Stosslova, a gorffennir gyda Thrydydd Pedwarawd ffarwél Brahms.
Gyda diolch i'r Radcliffe Trust
Nos Fercher, 11 Mai 7.30pm
Theatr Bryn Terfel
£14/£10/£5Dydd Gwener, 13 Mai, 1-2pm
Cyngerdd awr ginioStiwdio Pontio £12/£8/£5 myfyrwyr ac o dan 18
Bydd y cyngerdd hwn yn cynnwys symudiad unigol o Quarttetsatz Schubert – nad oes ond y symudiad hwn a dernyn yn bodoli ohono, darn operatig byr i bedwarawd gan Puccini, a ysgrifennwyd ar gyfer angladd Dug Savoy, a phedwarawd cynnar Mendelssohn yn A leiaf, a fodelwyd ar Bedwarawd op 132 yn A Leiaf Beethoven.
Cerddoriaeth
© GN Productions
5
Cabaret Pontio yn cyflwyno
Cerddoriaeth
Bella Hardy
Roedd 2015 yn flwyddyn brysur iawn i Bella Hardy gan iddi ryddhau ei seithfed albwm unigol, With The Dawn, a gafodd ganmoliaeth fawr.
Ar ôl haf o agor cyngherddau ar draws y DU ac Iwerddon, bu'n cefnogi'r enillydd Gwobr Grammy, Mary Chapin Carpenter, yn perfformio ar brif lwyfan Gŵyl Werin Caergrawnt, cyn
cychwyn ar daith benigamp yn yr hydref.
Ym Mai 2016 bydd Bella'n perfformio mewn detholiad bychan o sioeau arbennig, terfynol i hyrwyddo With The Dawn, gan berfformio gyda'i band pum aelod, a ffurfiwyd yn arbennig er mwyn dal hud yr albwm syfrdanol hwn wrth berfformio'n fyw.
Dewch a'ch ffrindiau i fwynhau noson hamddenol mewn arddull cabaret.
Caniateir diodydd yn y theatr ar gyfer digwyddiadau cabaret.
Nos Wener, 13 Mai 8pm
Theatr Bryn Terfel
£14/£12 myfyrwyr a gostyngiadau
“Nothing short of a masterpiece."
The Sunday TimeS
The Financial TimeS
The Guardian
“... a credit to her and the genre"
Q maGazine
6
Teulu
Dydd Sadwrn, 14 Mai 11am (yn Gymraeg) a 2pm (yn Saesneg)
Theatr Iolo yn cyflwyno
Bocsi a FfoniBoxy & Sticky
Theatr Iolo'n cyflwyno Bocsi a Ffoni
Crëwyd a chyfarwyddwyd gan Sarah Argent
Antur theatrig ddireidus i swyno a difyrru plant 3-5 oed (a'u teuluoedd)
Dw i wedi dod o hyd i focs.Dw i wedi dod o hyd i ffon.Gall y bocs fod yn beth bynnag rwyf eisiau iddo fod.Gallaf fod - Y tu mewn iddo. Y tu allan iddo. O dano. Ar ei ben. Y ffon hon oedd tegan cynta'r byd. Gallaf dapio gyda hi, ei thaflu a'i dal. Gallaf ei rhoi i sefyll ar fy mhen!
Stiwdio
£6/£20 Tocyn Teulu a Ffrindiau (4 person, o leiaf un o dan 18 oed)
“A charming and mischievous treat not to
be missed out on!" childrenS TheaTre reviewS
12:15 - 13:15 Lefel 2 PL2 15:15-16:15 Lefel 2 PL2
Gweithdy creu gyda bocsys AM DDIM i deuluoedd a phlant o bob oed. Dewch â bocsys gwag i greu beth bynnag gall yr ymennydd feddwl amdano… Gwisgoedd, tŷ bach twt, cerbydau - posibiliadau diddiwedd!
teulu
family
7
Dewch i gwrdd â chriw BLAS!Mae BLAS yn rhaglen gyfranogol yn y celfyddydau i bobl ifanc a gynhelir gan Pontio ac sy'n cyfarfod bob dydd Llun yn ystod y tymor.
Rydym wedi cael llawer o hwyl yn chwarae, creu a dysgu ers i’r sesiynau ddechrau.
Rydym wedi agor rhestr aros i bobl ifanc a hoffai ymuno â BLAS. I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â Mared Huws, Cydlynydd BLAS a Datblygu'r Celfyddydau, Pontio m.huws@bangor.ac.uk neu'r Swyddfa Docynnau drwy ffonio 01248 38 28 28.
“Dwi'n hoffi Pontio am ei fod yn WALLGO!!”
cian, 9
“Dwi'n hoffi drama, mae'n anghygoel”
FFlur, 10
“Dwi'n hoffi mynd i BLAS i actio. Y peth gorau am BLAS
ydi dysgu am actio” SaSkia, 11
Cofiwch ddefnyddio
#BLAS wrth drydaru!
Dosbarth 3 / BLWYDDYN 7, 8 & 9Dosbarth 2 /BLWYDDYN 5&6
Sesiynau:
5-6pm Blynyddoedd 3 a 4
6.15-7.15pm Blynyddoedd 5 a 6
7.30-8.30pm Blynyddoedd 7, 8 a 9
Dosbarth 1 / BLWYDDYN 3&4
8
Sinema Pontio
Wedi'r hirymaros, mae'r freuddwyd wedi ei gwireddu o'r diwedd ac mae gennym ffilmiau 7 diwrnod yr wythnos ym Mangor. Aethom i gael sgwrs gydag Emyr Glyn Williams, Cydlynydd Sinema Pontio, i weld sut aeth y tymor cyntaf ac i gael gwybod beth y gallwn ei ddisgwyl y tymor hwn.
"Er ei bod hi'n dal yn ddyddiau cynnar, mae'r wefr o allu cynnig y ffilmiau diweddaraf ar y sgrin fawr unwaith eto ym Mangor yn dal yn fyw i mi! Dwi'n gobeithio bod agor sinema ddigidol newydd sbon ym Mangor wedi gwneud i'n cynulleidfa deimlo'n rhan o'r gymuned sinematig ehangach unwaith eto.
"Dwi'n gwybod drwy sgwrsio gyda phobl eu bod yn croesawu'r cyfle i weld ffilmiau ar garreg eu drws, gyda llawer yn dod i weld y ffilmiau masnachol fel Spectre, Star Wars: The Force Awakens, The Lady in The Van, The Danish Girl, Hateful 8 a The Revenant. Ond yr hyn sy'n fwyaf annisgwyl yw bod y
gynulleidfa wedi bod i weld rhai o'r ffilmiau amgen a gwneud nosweithiau unigol yng nghwmni Brigitte Bardot a Jean Luc Godard a'r athrylith ffilmiau o Iran, Jafar Panahi, yn rhai llwyddiannus.
"Rydym yn bendant yn gwrando ar y sylwadau sy'n gofyn i ni ddangos rhagor o ffilmiau'n fyw drwy loeren, ffilmiau ‘arthouse’, rhai sydd â chynnwys gwleidyddol lleol a rhyngwladol ac yn fwy na dim, rhagor o ffilmiau i blant a phobl ifanc. Edrychwn ymlaen at ddatblygu'r rhaglen dros y misoedd nesaf."
Cyhoeddir rhaglen Sinema Pontio ar-lein a thrwy raglen fisol a ddosbarthir yn lleol ac yn y ganolfan.
I dderbyn bwletinau e-bost bob wythnos, crëwch gyfrif ar-lein yn www.pontio.co.uk gan roi tic wrth ymyl 'Ffilm' yn y categori diddordebau.
9
Dyma flas o rhai o'r darllediadau byw sy'n dod i sinema Pontio dros y misoedd nesaf. Gweler y rhaglen fisol neu'r wefan am wybodaeth bellach.
Darllediad byw drwy loeren
Nos Fercher, 18 Mai, 7.15pm
Sinema Byw o'r Tŷ Opera Brenhinol: Frankenstein (12A)
Mae Artist Preswyl y Royal Ballet, Liam Scarlett, wedi dewis Frankenstein, clasur gothig Mary Shelley, yn sail i'w fale naratif llawn cyntaf ar gyfer y prif lwyfan yn Covent Garden.
Darllediad byw drwy loeren
Nos Lun, 27 Mehefin, 7pm
Sinema Byw o'r Tŷ Opera Brenhinol: Werther (12A)
Yn seiliedig ar nofel Goethe, The Sorrows of Young Werther, mae opera Massenet yn adrodd y stori am gariad anobeithiol y bardd Werther tuag at Charlotte, sydd wedi ei hymrwymo i ddyn arall.
Darllediad byw drwy loeren
Nos Iau, 7 Gorffennaf, 6.45pm
Branagh Theatre Live: Romeo and Juliet (12A)
Mae tymor sinema byw Cwmni Kenneth Branagh yn parhau gyda gweledigaeth newydd o hanes torcalonnus Shakespeare am gariad gwaharddedig. Gan ddod â sêr ei ffilm enwog Cinderella yn ôl at ei gilydd, mae Kenneth Branagh yn cyfarwyddo Richard Madden a Lily James fel Romeo a Juliet a Syr Derek Jacobi fel Mercutio.
10
Yn y Caban
Dydd Mercher, 18 Mai 3-5pm
Sgyrsiau'r Caban I gyd-fynd â'r Ŵyl Newid Ymddygiad; dyma gyfle dan arweiniad yr actores Morfudd Hughes i ystyried y ffyrdd y mae'r celfyddydau'n gallu newid y ffordd rydym yn meddwl amdanom ein hunain ac am y byd o'n cwmpas.
Digwyddiad am ddim ond angen tocyn
Dydd Sadwrn, 4 Mehefin 2-7pm (galw heibio)
Synau'r Caban Sesiwn gerddoriaeth werin, gyda cherddorion yn byrfyfyrio yn y Caban. Bydd y sesiwn yn cael ei recordio, a'i darlledu ar raglen Georgia Ruth ar C2 Radio Cymru.
Nos Sadwrn, 9 Gorffennaf 6-8pm
Celf y Caban Rhaglen arlunydd preswyl gyfredol yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol (sy'n cynnwys gwaith Lisa Heledd Jones, Joanne Wardrop a Robyn Woolston) yn rhannu blas o'r gwaith celf sydd i'w weld yng Nghastell Penrhyn, a myfyrio ar sut y gall arlunwyr ymateb i hanes a llefydd.
Digwyddiad am ddim ond angen tocyn
Digwyddiad
Profwch nifer o ddigwyddiadau yn Caban, darn Celf Cyhoeddus Pontio, dros yr haf...
11
Nos Wener, 20 Mai 8pm
Off the Kerb Productions yn cyflwyno
Jeremy Hardy
Mae Jeremy Hardy yn dechrau ei bedwerydd degawd fel digrifwr standyp eleni. Dyna ffordd fwy dramatig o ddweud ei fod wedi dechrau 32 mlynedd yn ôl ac, os na fydd yn ennill y loteri, mae'n debyg bod ganddo o leiaf 32 mlynedd arall o'i flaen. Y llynedd, cafodd degfed cyfres Jeremy Hardy Speaks to the Nation ei darlledu ar Radio 4. Mae hefyd yn adnabyddus fel un sy'n ymddangos ar The News Quiz ac I'm Sorry I Haven't a Clue. Yn wir, dywedodd Alan Bennett yn ddiweddar ei fod yn ei hoffi “ond mai dim ond ar y radio y mae”.
Fodd bynnag, nid dim ond ar y radio y mae Jeremy. Mae ar daith drwy gydol y flwyddyn ac mae'n gwneud sioeau byw yn ddi-baid er 1984. Ar ôl mymryn o seibiant dros y gaeaf, mae'n ei ôl ar daith yn 2016.
Canllaw oedran 15+
Theatr Bryn Terfel
£14/£5 di-waith
“In an ideal world, Jeremy Hardy would be extremely famous, but an ideal world
would leave him without most of his best material.”
The Guardian
Comedi
12
Mae Pontio'n llawn corneli cudd a phob mathau o lefydd i berfformio a denu cynulleidfa iddynt.
Yn y sesiynau Platfform newydd, rydym yn gwneud y gorau o'r cyfleoedd i gael perfformiadau acwstig yn ein mannau cyhoeddus. Mwynhewch y gerddoriaeth dros beint, cappuccino neu bryd o fwyd, neu os ydych yn gwneud dim ond crwydro o gwmpas.
Mai 22, 1-2pm Blodau Gwylltion
Manon Steffan Ros ac Elwyn Williams
Gorffennaf 10, 1-2pm Blodyn
Cydweithio rhwng dau gerddor o Eryri gyda chefndiroedd cerddorol gwahanol. Mae Jenn yn feiolinydd gwerin traddodiadol a Sera yn gantores-gyfansoddwraig o gerddoriaeth gwerin-pop a chanu gwlad.
13
Dydd Iau, 26 Mai 2.30pm a 7.30pmDydd Gwener, 27 Mai 2.30pm
Re-LIVE
Yn ysbrydoledig a gwefreiddiol, mae Perthyn yn ddrama newydd rymus sy'n dilyn bywydau dau deulu wrth iddynt ddarganfod nad oes raid i gariad na chwerthin ddod i ben oherwydd dementia.
Mae'r cynhyrchiad dwyieithog hwn yn seiliedig ar gyfweliadau trylwyr Re-Live gyda phobl sy'n byw gyda dementia, eu teuluoedd a gofalwyr proffesiynol. Mae Perthyn yn chwalu mythau am ddementia ac yn taflu goleuni ar sut y gellir creu Cymru sy'n deall dementia drwy fod yn chi eich hun, bod yn y foment... perthyn.
Mae Perthyn yn ddrama newydd sbon a ysgrifennwyd gan Karin Diamond, a'i chyfarwyddo gan Peter Doran (Grav, Oh Hello!, Who's Afraid of Rachel Roberts?), ac mae’n gwbl hygyrch i siaradwyr Cymraeg a'r di-Gymraeg fel ei gilydd, a bydd yn mynd ar daith genedlaethol ym Mai a Mehefin 2016.
Cefnogir gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Sefydliad Baring, Gwanwyn, Chapter a Chwmni Theatr y Torch.
"Mae Perthyn yn mynd â ni y tu mewn i brofiadau pobl sy'n byw gyda dementia. Mae'n goleuo, yn herio ac yn difyrru i gyd ar yr un pryd. Paratowch i chwalu mythau!"
Mark Jones, Ymgynghorydd Gofal Dementia, Gwasanaeth Dementia Cynnar, Caerdydd
Theatr Bryn Terfel
£10/£8
Drama
14
Her Profi 2016
“Ddaru ni erioed ddychmygu y basa Menter Iaith Môn yn gweithredu ar ein syniad – mae’n gyffrous iawn y bydd ein project yn cael ei wireddu!” Katie ac Awen, Ysgol Tryfan, Enillwyr Her Profi 2016.
Heriwyd timau o bobl ifanc o Wynedd a Môn i ymateb i dri briff, a osodwyd gan Age Cymru Gwynedd a Môn, GISDA neu Menter Iaith Môn.
Uchafbwynt y project oedd cyflwyno’r syniadau i banel o feirniaid – gyda phob tîm yn gobeithio ennill £500 ar gyfer eu helusen er mwyn rhoi eu syniad ar waith.
Dros gyfnod o 12 wythnos gweithiodd y timau'n frwdfrydig gyda chymorth gan fyfyrwyr Prifysgol Bangor a mewnbwn gan gyflogwyr lleol, i ddatblygu eu syniadau.
15
Cerddoriaeth
Cyngerdd Gala Diwedd y Flwyddyn
Cerddorfa Symffoni Prifysgol Bangor
Côr Siambr Prifysgol Bangor
Cerddorfa a Chôr Cymdeithas Gerdd Prifysgol Bangor
Band Pres Prifysgol Bangor
Band Cyngerdd Prifysgol Bangor
Bydd chwech o ensembles gorau'r Brifysgol yn nodi diwrnod olaf y tymor academaidd gyda'u cyngerdd gala traddodiadol, eleni am y tro cyntaf yn Theatr Bryn Terfel. Mae'r rhaglen yn dwyn ynghyd amrywiaeth eang o glasuron ysgafn a phoblogaidd, ac yn dathlu blwyddyn arall o greu cerddoriaeth hyfryd yn y 'Coleg ar y Bryn'.
Nos Wener, 3 Mehefin7.30pm
Theatr Bryn Terfel
£12/£10/£5 (o dan 18 a myfyrwyr)
© Stephen Rees
16
Nos Sadwrn, 4 Mehefin 7.30pm
Theatr Bara Caws
Allan o Diwn - Emyr ‘Himyrs’ Roberts
Sioe un dyn gan un o ddynwaredwyr gorau Cymru, sy’n dilyn ei hanes o fod yn ddisgybl 6ed dosbarth oedd ‘allan o diwn’ â’r byd a’i bethau, at sefydlu un o grwpiau eiconig yr ‘80au, y Ficar, a’i galluogodd i wireddu ei freuddwyd,
ffeindio’i lais, a throi’n berfformiwr proffesiynol. Cynhyrchiad llawn hwyl a cherddoriaeth, parodïau a dynwarediadau, gydag ambell sylw dychanol ar y sîn roc Gymraeg.
Defnydd o iaith gref.
Theatr Bryn Terfel
£12/£10 myfyrwyr a gostyngiadau
Yn dilyn y sioe, dewch i ymlacio gyda ni – bydd Dyl Mei yn troelli recordiau o’r cyfnod, a chyfle i fwynhau diod neu ddau ym Mar Ffynnon.
Archebu: bwydabar@pontio.co.uk | 01248 383826
Mae Pontio bwyd a diod yn cael ei reoli a’i redeg gan Adran Gwasanaethau Masnachol y Brifysgol
Bwyd cartref blasus gyda naws CymreigBrecwast Cinio Swper Swper Cyn Theatr Coctels a Diodydd Egwyl
Ymwelwch â Bwyd a Diod yn pontio.co.uk am ein bwydlen llawn
Food & Drink
Bwyd a Diod
Untitled-4 5 18/02/2016 22:46:58
Drama
17
Archebu: bwydabar@pontio.co.uk | 01248 383826
Mae Pontio bwyd a diod yn cael ei reoli a’i redeg gan Adran Gwasanaethau Masnachol y Brifysgol
Bwyd cartref blasus gyda naws CymreigBrecwast Cinio Swper Swper Cyn Theatr Coctels a Diodydd Egwyl
Ymwelwch â Bwyd a Diod yn pontio.co.uk am ein bwydlen llawn
Food & Drink
Bwyd a Diod
Untitled-4 5 18/02/2016 22:46:58
18
Nos Fercher, 8 Mehefin 7.30pm
Prosiect 15
Geiriau i herio, ysbrydoli ac ennyn trafodaeth
1 noson 5 siaradwr 15 munud yr un...
Lowri Morgan Un cam ar y tro
Mae Lowri yn un o ddim ond chwech o bobl sydd wedi cwblhau marathon diarhebol o anodd Arctic Ultra - 6633.
Yr Athro Richard Wyn Jones Seiliau sigledig datganoli
Cyfarwyddwr Canolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd sydd wedi ysgrifennu'n helaeth ar wleidyddiaeth gyfoes Cymru, gwleidyddiaeth ddatganoledig y DU a chenedlaetholdeb.
Malcolm Allen Dod adref
Pêl-droediwr yn Uwchgynghrair Lloegr ac yn nhîm rhyngwladol Cymru gyda 14 cap dros Gymru i’w enw. "Pan symudais i Watford yn 16 oed doeddwn i ddim yn gallu siarad gair o Saesneg".
Ceryl Davies Ai cam-drin yw hyn? Lleisiau merched ifanc lleol mewn perthnasau agos.
Mae Ceryl Davies yn fyfyrwraig doethuriaeth yn yr Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol a Gwleidyddol ym Mhrifysgol Lincoln, ac mae hi hefyd yn gweithio gyda'r Gwasanaethau Cymdeithasol yng Ngwynedd.
Rhys Davies Cof iaith – a ydyw dwyieithrwydd yn gwarchod yr ymennydd?
Niwrolegydd ymgynghorol yng Nghanolfan Niwroleg Walton yn Lerpwl (ac yn dod i Ysbyty Gwynedd bob wythnos), ei ddiddordeb ymchwil yw clefydau niwro-ddirywiol, sy'n cynnwys dementia, clefyd Huntington ac aphasia (nam yn y rhan honno o’r ymennydd sy’n ymwneud ag iaith).
Cynhelir y digwyddiad yn Gymraeg. Bydd BBC Radio Cymru yn recordio'r noson a bydd yn cael ei ffilmio.
Addas i blant oedran uwchradd a hŷn.
Stiwdio
£12/£10
Digwyddiad
Arweinir y noson gan Betsan Powys, Golygydd Rhaglenni, BBC Radio Cymru
19
20
Drama
Cwmni Triongl
Miramar
Ar ôl marwolaeth ei gŵr, mae Enid, sy'n 74 oed, yn cael ei gorfodi i werthu'r tŷ y mae wedi byw ynddo am y rhan fwyaf o'i hoes. Mae'n edrych drwy ffenestr ei chymdogion wrth i'r perchnogion newydd gyrraedd i'w drawsffurfio'n dŷ haf. Maent yn ei ail-wneud, yn ei ailenwi ac yna'n dychwelyd i'r ddinas, gan
adael y tŷ yn wag. Mae Enid, sydd nawr yn ddigartref, yn penderfynu mynd i'r afael â’r mater ei hun. Sioe ddoniol, dywyll sy'n archwilio beth rydym yn ei alw'n 'gartref'.
Mae'r ddrama hon yn ddwyieithog (Cymraeg/Saesneg)
9+ (canllaw)
Dydd Gwener, Mehefin 10 2.30pm
Stiwdio
£12/£10
Pam na wnewch chi fwynhau pryd ym mwyty Gorad cyn neu ar ôl y perfformiad? Gallwch archebu bwrdd arlein neu drwy ffonio 01248 383 826
GORAD
21
Nos Wener, 10 Mehefin8pmCabaret Pontio yn cyflwyno
Holy Moly & The Crackers
Mae Holy Moly & The Crackers yn fand 'folkNroll sipsi' saith aelod.
Rhyddhawyd eu halbwm gyntaf, 'First Avenue' yn Hydref 2012 ac EP, 'Lilly' flwyddyn yn ddiweddarach, EP a ddisgrifiwyd fel "ail-ddychmygiad o dair cân draddodiadol gwerin/blŵs sy'n dwyn i gof gyfnodau o whisgi a gynnau ar steroids gwerin pync modern".
Maent yn gwneud argraff wrth deithio'n genedlaethol a rhyngwladol ac maent wedi chwarae dros 200 o sioeau ar draws y DU, yn cynnwys sioeau yn Llundain, Canolbarth Lloegr, Swydd Efrog, Newcastle a Chaeredin, lle roedd pob tocyn wedi ei werthu.
Mae'r band wedi perfformio mewn gwyliau mawr ar draws y wlad, yn cynnwys yng Ngŵyl Hop Farm, Secret Garden Party, Boomtown a Gŵyl Cornbury, lle roeddent yn agor i Jools Holland. Mae Holy Moly & The Crackers dan ddylanwad amrywiaeth eclectig o arddulliau ac artistiaid – grutian a grudio gonest Woody Guthrie, bwrlésg cawell-esgyrn sipsïaidd Gogol Bordello: pync, ska, reggae, gwerin, blŵs, honci-tonc, Balcan, etc. Maent felly'n chwarae cymysgedd unigryw o dempos gwerin/blŵs, waltz a hoe-downs a zazou Ffrengig mewn arddull carnifal rhyfeddol. Mae'n uchel, yn ffynci ac yn hwyl.
Theatr Bryn Terfel
£14/£12
Gyda chefnogaeth Band Pres Llareggub
Yn ymuno â Holy Moly & The Crackers ar y noson, bydd Band Pres Llareggub – cymysgedd ffyrnig ond blasus o jazz a hip hop wedi'i gyfuno â joch o bop Cymraeg yn cael ei dywallt trwy hen draddodiad y band gorymdeithio. Fel unrhyw grŵp pres cyfoes, maent yn gallu bloeddio'u fersiynau nhw o ganeuon pobl eraill ond mae eu deunydd gwreiddiol yn dal ei dir ac eisoes yn cynhyrfu'r dyfroedd.
Caniateir diodydd yn y theatr i'r digwyddiad hwn
Oedran 14+
Cerddoriaeth
22
Comedy Central Live yn cyflwyno
Maff BrownLarry DeanIan Smith
Ymunwch â ni am noson o chwerthin gyda thri digrifwr ar daith o amgylch Prydain.
Oedran 16+
Caniateir diodydd yn y stiwdio mewn digwyddiadau Comedy Central Live.
Nos Fawrth, 14 Mehefin 8pm
Stiwdio
£10/£8
Comedi
Ian Smith
23
Nos Iau, 16 Mehefin 7.30pm
Roman Rabinovich
Schumann: Papillons, op.2
Michael Brown: Surfaces (2015)
Schumann: Faschingsschwank aus Wien, op.26
Egwyl
Haydn: Sonata i'r Piano yn E fflat fwyaf, Hob XVI:49
Stravinsky: Petrushka (detholiadau)
Mae'n bleser gennym groesawu Roman Rabinovich i Pontio.
Perfformiodd Rabinovich gyda Cherddorfa Ffilharmonig Israel dan arweiniad Zubin Mehta pan nad oedd ond yn 10 oed. Yn fwy diweddar, enillodd y brif wobr yn 12fed Cystadleuaeth Meistr Piano Rhyngwladol Arthur Rubinstein yn Israel yn 2008 ac, yn 2014-15, fe'i dewiswyd gan neb llai nag Andras Schiff i berfformio yng nghyfres 'Syr Andras Schiff yn Dewis', gyda pherfformiadau yn Berlin, Zurich ac Efrog Newydd.
Mae hefyd wedi perfformio gyda cherddorfeydd enwog, yn cynnwys Orchestre de chambre de Paris, y Gerddorfa Radio Bwylaidd, Dohnányi Orchestra Budafok (Budapest) ac mewn neuaddau perfformio ar draws y byd. Mae'r bobl y mae wedi cydweithio â hwy’n ddiweddar, neu ar fin cydweithio â hwy ar brojectau cerddoriaeth siambr, yn cynnwys Steven Isserlis, Liza Ferschtman, Jennifer Stumm, a phedwarawdau llinynnol Amernet ac Ariel.
Theatr Bryn Terfel
£14/£12/£5 (myfyrwyr a rhai o dan 18)
© Balazs BoroczCerddoriaeth
Roman Rabinovich
24
Teulu
Upswing, mewn partneriaeth â Stratford Circus Arts Centre yn cyflwyno
Bedtime Stories
Cyd-gomisiynwyd gan Creative Black Country
Dathlwch yr amser hudolus o'r diwrnod pan mae straen a thyndra bywyd yn golchi i ffwrdd, a dewch i mewn i fyd o ddychymyg a breuddwydion gyda Bedtime Stories.
Gan swatio gyda'ch teulu a'ch ffrindiau mewn set stafell wely, cymerwch y cyfle hwn i ddadweindio a chael eich syfrdanu gan syrcas, theatr, dawns a thafluniadau gan gwmni syrcas Upswing.
Mae'r arloeswyr theatr syrcas, Upswing, yn un
o brif gwmnïau syrcas y DU. Maent wedi bod yn troi'r byd â'i ben i waered er 2006 gan gymysgu theatr awyr gyda dawns, cerddoriaeth, ac effeithiau gweledol syfrdanol.
Cynhyrchwyd gan Upswing, mewn partneriaeth â Stratford Circus Arts Centre gyda chefnogaeth yr Albany, Appetite Stoke, Arts Council England, The Austin and Hope Pilkington Trust, Creative Black Country, The Leche Trust, a The Point, Eastleigh.
Addas i'r teulu cyfan.
Dydd Sadwrn, 18 Mehefin Dydd Sul, 19 Mehefin 12.30pm a 3pm
Theatr Bryn Terfel
£10/£8/£30 Tocyn Teulu a Ffrindiau (4 o bobl, o leiaf un i fod o dan 18)
“an enchanting piece of family entertainment”
everyThinG TheaTre
“truly immersive, and truly different, piece of theatre”
children’S TheaTre reviewS
Ymunwch â ni ar gyfer gweithdy i’r teulu yn dilyn y sioe gyda chast Bedtime Stories! Ewch i’n gwefan neu cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau am ragor o wybodaeth.
teulu
family
25
Nos Wener, 24 Mehefin a Nos Sadwrn, 25 Mehefin7.30pm
Cyfri’r Geirie
Ysgol Glanaethwy yn cyflwyno hen stori ar newydd wedd.
Y sioe olaf i Glanaethwy ei pherfformio yn Theatr Gwynedd oedd ‘Cyfri’r Geirie’. Mae’r cyflwyniad newydd yma, felly, yn ‘pontio’ dau gyfnod wrth inni ddychwelyd gyda’n dehongliad diweddaraf o’r hen, hen stori ar lwyfan
newydd Canolfan Pontio. Hanes dwy genedl yn dod wyneb yn wyneb â’i gilydd yw sylfaen y sioe. Ceisio deall pam na allwn ddarganfod y ‘geirie’ iawn i gydweithio yn hytrach na ‘chyfrif’ y gost am fethu a chyfathrebu.
Drama gerdd liwgar fydd yn benllanw blwyddyn hynod yn hanes yr ysgol. Wedi eu llwyddiant ar Britain’s Got
Talent aeth y disgyblion ymlaen ar daith Brydeinig ac roedd Glanaethwy hefyd yn rhan ganolog o gynhyrchiad llwyddiannus ‘Les Miserables’ yng Nghanolfan y Mileniwm y llynedd. Y flwyddyn nesaf fe fyddan nhw’n teithio i’r Carnegie Hall i berfformio gwaith newydd gan Karl Jenkins.
Theatr Bryn Terfel
£12/£10 myfyrwyr a gostyngiadau
Ysgol Glanaethwy yn cyflwyno
Sioe Gerdd
26
Dawns
Ballet Cymru'n cyflwyno gan Roald Dahl
Little Red Riding Hood and The Three Little Pigs
Mae Ballet Cymru, cwmni sydd wedi ennill gwobr y "Critics' Circle", yn cyflwyno gweledigaeth eithriadol. Dwy stori gan storïwr mwyaf poblogaidd y byd, Roald Dahl.
Cafodd Roald Dahl ei eni a'i fagu yng Nghaerdydd, ac i ddathlu canrif ers geni'r awdur enwog hwn, mae dwy o’i straeon sy’n eithriadol boblogaidd yn dychwelyd i Gymru fel addasiadau bale. Mae Ballet Cymru wedi cael hawl gan Sefydliad Roald Dahl i gynhyrchu dau ddarn
o waith yn seiliedig ar rannau o lyfr Revolting Rhymes gan Roald Dahl, sef Little Red Riding Hood a The Three Little Pigs.
Does dim byd byth yn union fel mae'n ymddangos...
Cafodd y fale glasurol, eithriadol, hon ei choreograffu gan Darius James ac Amy Doughty, a'i hysbrydoli gan sgoriau cerddorol eithriadol gan y cyfansoddwr Paul Patterson, sy'n adnabyddus yn rhyngwladol.
Yn 2012, gyda chymorth Sefydliad Dahl, aethpwyd â'r cynhyrchiad ar daith ledled y Deyrnas Unedig, gan ymweld â Sadler's Wells, lle'r oedd Felicity, gwraig Roald Dahl, a Donald Sturrock yn bresennol. Cynlluniwyd y gwisgoedd gan Steve Denton a'r goleuo trawiadol gan John Bishop. Mae sawl peth annisgwyl a rhyfeddol yn rhan o'r perfformiad hwn!
Nos Sadwrn, 2 Gorffennaf 7.30pm
Theatr Bryn Terfel
£12/£10
teulu
family
27
MusicDigwyddiad
Dydd Sul, 3 Gorffennaf2-6pm, Stiwdio a Caban
Digwyddiad SynthesisMae synthesis yn gynllun peilot newydd i annog gwyddonwyr ac artistiaid sy'n gweithio yn y celfyddydau perfformio i ddatblygu syniadau sy'n 'Pontio' rhwng dau fyd.
Yn dilyn galwad am geisiadau yn gynharach eleni, dyma gyfle i rannu gwaith ar y gweill
gan y ddau bâr celfyddydau/gwyddoniaeth gafodd eu dethol.
Y Profiad Dawns Fertigol a Golau: Dr Ray Davies o Academi Ffotonics Cymru, yn Ysgol Peirianneg Electroneg, Prifysgol Bangor a Kate Lawrence, Dawns
Fertigol Kate Lawrence.
Llif/Flow: artistiaid amlgyfrwng Lisa Colbourne a Lisa Hudson a Dr Jonathan Malarkey, Eigionegydd, Ysgol Gwyddorau Eigion, Prifysgol Bangor.
Gweler y wefan am wybodaeth bellach.
Dydd Sul, 3 Gorffennaf, 2pm
In Parenthesis (12A)
Addasiad hyfryd y cyfansoddwr ifanc o Brydain, Iain Bell, o gerdd epig Rhyfel Byd I gan David Jones yw In Parenthesis Opera Cenedlaethol Cymru. Comisiynwyd yr opera gan Ymddiriedolaeth Nicholas John gyda 14-18 NOW, rhaglen gelf y DU ar gyfer canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf.
Mae’r milwr John Ball a’i gymrodyr yn y Ffiwsilwyr
Brenhinol Cymreig yn cael eu hanfon i'r Somme. Maent yn mynd i fyd rhyfedd yng Nghoedwig Mametz - y tu hwnt i amser, fel breuddwyd ond fel angau. Yn hytrach na thrafod erchyllterau rhyfel yn syml, mae In Parenthesis yn cynnig gobaith.
Mae cynhyrchiad cyfnod David Pountney yn hel atgofion ac yn cofio am ddigwyddiadau'r Somme.
Cafodd cynhyrchiad WNO ei recordio yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, ac mae hwn yn gyfle prin i’w weld am y tro cyntaf ar y sgrin.
Mae The Space yn cefnogi ffrydio In Parenthesis Streaming a’r microsafle. I gael gwybod mwy ewch i inparenthesis.org.uk Rhediad: 150 munud
Sinema
£10/£8
Darllediad o gynhyrchiad Opera Cenedlaethol Cymru
• T H I S I S T H E S P A C E • T H E S P A C E • T H E S P A C E • T H E S P A C E • T H E S P A C E •
28
Drama
Cwmni Theatr Arad Goch yn cyflwyno
Diwrnod Hyfryd Sali Mali
Mae Sali Mali wedi mynd am dro a does neb yn gallu dod o hyd iddi. Ble mae hi wedi mynd...?
Drama lwyfan i blant 3-7 oed a'u teuluoedd am gymeriadau enwog Mary Vaughan Jones - gyda cherddoriaeth, caneuon
a llawer o hwyl. Bydd y cynhyrchiad newydd hwn yn arddull unigryw Cwmni Theatr Arad Goch yn eich tywys i fyd anturus, hudolus ac arbennig Sali Mali.
Gyda chydweithrediad Gwasg Gomer.
Hyd y sioe – 50 munud
Addasrwydd Oedran – 3-7 oed a theuluoedd gyda phlant bach
Dydd Gwener, 8 Gorffennaf 10am a 1pm
Theatr Bryn Terfel
£6/£20 Tocyn Teulu a Ffrindiau (4 person, o leiaf un o dan 18 oed)
teulu
family
29
Dawns a Syrcas
NoFit State a Motionhouse
BLOCK
Mae Motionhouse a NoFit State Circus yn dod â'u harddulliau unigryw ynghyd ar gyfer BLOCK - gwaith cydweithredol newydd cyffrous.
Caiff ugain o flociau anarferol o fawr eu datgymalu a'u hail-greu yn amrywiaeth ddiddiwedd o siapiau i'r perfformwyr chwarae arnynt, eu symud a'u harchwilio.
Beth sy’n digwydd pan fo dawns a syrcas yn dod
wyneb yn wyneb? Pan ddônt ynghyd a rhwbio yn erbyn ei gilydd ac ymdoddi, y naill i'r llall?
Mae'r ddinas fodern yn nyth sy’n gyforiog o weithgarwch. Mae bywyd dynol yn llifo trwyddi. Mae â wnelo BLOCK â byw yn y ddinas, â'i hanghysonderau a'i heriau.
Byw yn fras, byw ar wib a byw, weithiau, yn y craciau - mae'r cast anhygoel hwn yn aros ar flaenau eu traed er mwyn goroesi a ffynnu ym myd y blociau.
Comisiynwyd gan Without Walls, Stockton International Riverside Festival, Norfolk & Norwich Festival a Out There International Festival of Circus & Street Arts.
Cydgynhyrchiad gan Archaos, Pôle National des Arts du Cirque Méditerranée a Le CITRON JAUNE, Centre National des Arts de la Rue.
45 munud
Dydd Sul, 10 Gorffennaf 2pm a 5pm
Man Llwytho Pontio
£5
30
Comedi
Nos Fawrth, 12 Gorffennaf 8pm
Comedy Central Live yn cyflwyno
Inel Tomlinson Jenny CollierJoel Dommett
Ymunwch â ni am noson o chwerthin gyda thri digrifwr ar daith o amgylch Prydain.
Oedran 16+
Caniateir diodydd yn y stiwdio mewn digwyddiadau Comedy Central Live.
Stiwdio
£10/£8
Joel Dommett
31
Comedi
Nos Wener, 15 Gorffennaf 7.30pm
Pontio yn cyflwyno Sioe gomedi a chabaret 5 Seren Caeredin
Whatever Happened to LaLa Shockette - the New Romantic '80s pop star?
Pam nad oedd Boy George yn hoffi halen Môn ?
A oedd David Bowie yn meddwl ei fod yn dew?
A oedd Gary Numan yn robot ‘yn y gwely’ ?
Caiff popeth ei ddatgelu yn y sioe gomedi a chabaret hynod ddoniol a theimladwy hon sydd wedi ennill gwobr 5*.
Byddwn yn dilyn camau y seren bop Rhamantiaeth Newydd o'r 80au cynnar, LaLa Shockette, alter-ego
Lowri-Ann Richards, o'i chartref distadl ar fferm laeth yng ngogledd Cymru i Top of the Pops, ymddangosiadau yn Wembley a bod yn seren eiconig.
Mae yma ganu gwych ar ganeuon gan artistiaid mor amrywiol â John Cale, David Bowie, Kate Bush a Gary Numan, a'r cyfan wedi ei blethu gydag anecdotau a straeon anghredadwy yn erbyn cefnlen o ffotograffau gwreiddiol a ffilmiau fideo o'r cyfnod bywiog a lliwgar hwn.
Meddyliwch... gwallt mawr o'r 80au, coleri gwynion dros y lle, siwtiau robotiaid a chryn dipyn o guriadau'r syntheseisydd.
Gwisgwch i fyny... pam lai?
Dyfeisiwyd ac ysgrifennwyd gan Lowri-Ann Richards a Robin Griffith.
Sylwch fod y sioe yn cynnwys goleuadau strôb.
Sioe Saesneg
Canllaw oed 12+
Stiwdio
£13.50/£11.50 myfyrwyr a gostyngiadau
Ymunwch â ni yn Bar Ffynnon i gael coctels hafaidd!
FFYNNON
32
Sioe Gerdd
Ysgol Ddawns a Chanolfan Celfyddydau Perfformio Gwynedd yn cyflwyno
The Wizard of Oz
Mae Ysgol Ddawns a Chanolfan Celfyddydau Perfformio Gwynedd wrth eu boddau eu bod yn ôl ym Mangor, yn perfformio yng nghanolfan newydd Pontio.
Dyma berfformiad gwych ganddynt o bantomein glasurol The Wizard of Oz gan Leonard H Caddy. Mae hi'n sioe i'w chofio, a gaiff ei mwynhau gan blant ac oedolion fel ei gilydd.
Gan ddod â'u holl ddoniau at ei gilydd, bydd disgyblion y ganolfan gelfyddydau perfformio leol yn cynnig sioe sy'n llawn canu, dawnsio ac actio i nodi eu bod yn eu holau ar y llwyfan yn eu tref eu hunain - hwyl a sbloets i bawb!
Dewch i ymuno â nhw ar eu taith ar hyd hen Lôn y Brics Melyn...
Hoffai Ysgol Ddaws a Chanolfan Celfyddydau Perfformio Gwynedd ddiolch yn fawr i'w noddwyr.
Nos Sadwrn, 16 Gorffennaf, 7pmDydd Sul, 17 Gorffennaf, 2pm
Theatr Bryn Terfel
£12 oedolion/£10 plant
www.keycareandsupport.com
33
Cerddoriaeth
Only Boys Aloud
Cyngerdd Academi Only Boys Aloud y Principality
Yn 2015 lansiodd Academi Only Boys Aloud y Principality broject peilot 6 mis i Only Boys Aloud yng Ngogledd Cymru: bu'n llwyddiant enfawr ac felly rydym wrth ein boddau fod gennym ni bellach 4 côr parhaol gyda chant o aelodau ar draws y gogledd - yng Nghaergybi, Caernarfon, Wrecsam a'r Rhyl.
Mae Academi 2016 yn cynnwys bechgyn o Gymru benbaladr ac yn dilyn perfformiadau yn Sain Dunwyd ac yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, mae'n dipyn o gyffro inni allu dod â'r Academi i Pontio y tymor hwn.
Sefydlwyd Academi Only Boys Aloud y Principality yn 2011 er mwyn i'r aelodau o Only Boys Aloud a oedd yn dangos addewid gerddorol neilltuol gael
hyfforddiant arbenigol ar eu pennau eu hunain a fyddai'n ddwysach na'r hyn sy'n bosibl yn ymarferion a pherfformiadau cyffredinol OBA. Wedi ei anelu at y bechgyn hŷn rhwng 16 a 19 oed yn OBA, mae 32 o leoedd ar gael bob blwyddyn ar y cwrs preswyl a gynhelir yng Ngholeg yr Iwerydd ar dir Castell eiconig Sain Dunwyd.
Nos Fercher, 20 Gorffennaf 7.30pm
Theatr Bryn Terfel
£12/£8
34
Grass
Edrychwch ar y llawr. Ar beth ydych chi'n sefyll?
Cymerwch olwg ar y ddaear a'i thrigolion gwingllyd yn y sioe ddawns wahanol hon i blant bach.
Mae ynddi bryfed genwair, gwlithod, malwod, morgrug yn torri allan i ddawnsio a digon o ffeithiau anhysbys am drychfilod. Mae Grass yn defnyddio perfformio, pypedau a thaflunio i ysbrydoli plant i edrych yn fanwl ar y byd o'u cwmpas, maeddu'u dwylo a chwarae!
Canllaw oedran 4+
Dydd Sadwrn, 23 Gorffennaf11am a 2pm
Stiwdio
£6/£20 Tocyn Teulu a Ffrindiau (4 o bobl, o leiaf un o dan 18)
Teulu
Second Hand Dance teulu
family
12:15 - 13:15 Sesiwn 1 yn PL2 15:15-16:15 Sesiwn 2 yn PL2
Gweithdy creu trychfilod AM DDIM gyda’r artist Eleri Jones. Addas ar gyfer teuluoedd 4+ oed. (lle i 20 ar y tro) Bydd hefyd sesiwn stori a bydd pryfed yn cael eu harddangos gan Ysgol Gwyddorau Biolegol, Prifysgol Bangor
35
Cerddoriaeth
Dydd Sadwrn, 23 Gorffennaf 3.30pm tan yn hwyr
Mae recordiau I KA CHING yn dathlu eu pumed pen-blwydd!
Dyma'r label Recordiau a enwyd yn Label yr Wythnos gan NME y llynedd ac sydd wedi rhyddhau cerddoriaeth gan artistiaid mwyaf cyffrous Cymru heddiw.
Dewch i ddathlu drwy'r dydd yn y gig yma gyda rhai o fandiau mwyaf llwyddiannus Cymru - Candelas, Sŵnami, Yr Eira, Palenco, Ysgol Sul, Y Cledrau, Siddi a mwy!
Mewn cydweithrediad â Pontio.
16+
ikaching.co.uk
Set acwstig yn Bar Ffynnon 3.30 - 4.30pm
Theatr Bryn Terfel o 4.30pm ymlaen
£12 o flaen llaw / £15 ar y diwrnod
Gig 5ed pen-blwydd I KA CHING
Candelas, Sŵnami, Yr Eira, Palenco, Ysgol Sul, Y Cledrau, Siddi a mwy
36
Pontio yng Nghaeredin!Mae Pontio, mewn cydweithrediad â Aine Flanagan Productions, yn falch o fedru dangos gwaith yng Ngwyl Fringe Caeredin eleni gyda chymorth gan gynllun Cymru yng Nghaeredin Cyngor Celfyddydau Cymru.
Profodd How to Win Against History, sioe gerdd ffyrnig a ffantastig gan Seiriol Davies am Henry Cyril Paget, 5ed Marcwis Môn, yn lwyddiant ysgubol yn ein rhaglen agoriadol, ac fe fydd cyfle i weld y sioe yn Assembly's Box Venue ger
George Square Gardens yn ystod Awst felly gwyliwch allan amdano yn rhaglen y Fringe.
Archebion Grŵp Rydym yn darparu ar gyfer grwpiau ac, yn achlysurol, gallwn gynnig gostyngiadau sylweddol. Cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau am fwy o wybodaeth ar 01248 38 28 28.
Mae’r holl archebion yn amodol ar ein telerau a’n hamodau safonol. Am fwy o wybodaeth ewch i’n gwefan https://www.pontio.co.uk/Online/term
Tâl Postio Ni chodir ffi pan fyddwch yn prynu tocynnau, ond codir £1 o dâl postio os gofynnwch am docynnau trwy’r post.Ni allwch ofyn am docynnau trwy’r post yn hwyrach na 10 niwrnod cyn y digwyddiad, er mwyn sicrhau eu bod yn eich cyrraedd mewn da bryd. Yna, fe allwch gasglu’r holl docynnau sydd wedi’u prynu ymlaen llaw o’r swyddfa docynnau.
Teuluoedd Lle nodir pris tocyn teulu, mae’r cynnig ar gael i grŵp o bedwar. Rhaid i o leiaf un aelod o’r grŵp fod o dan 18 oed.
Gostyngiadau Lle bynnag y bo ‘gostyngiadau’ wedi’i nodi ar gyfer digwyddiadauPontio, mae’r categorïau isod wedi’u cynnwys yn y diffiniad hwnnw: myfyrwyr a’r rhai dros 60. Mae plant a phobl ifanc yn cynnwys unrhyw un o dan 18 oed. Caiff plant dan 2 oed fynd i fewn am ddim.
Cynllun Mynediad Hynt Mae celf a diwylliant i bawb. Ond os oes gennych nam neu ofyniad mynediad penodol, yn aml, gall mwynhau ymweliad i theatr neu ganolfan gelf fod yn fwy cymhleth na dim ond archebu tocynnau a dewis beth i’w wisgo.
Mae Hynt yn gynllun cenedlaethol sy’n gweithio gyda theatrau a chanolfannau celf ar draws Cymru i wneud pethau’n glir ac yn gyson. Mae Pontio yn rhan o’r cynllun Hynt am ein bod yn credu ei fod yn cynnig yr arfer gorau oll i’n cwsmeriaid o ran polisi tocynnau a mynediad teg.
Cerdyn Aelodaeth yw Hynt Mae Hynt yn adnodd
Mae gan rai â cherdyn Hynt hawl i gael tocyn yn rhad ac am ddim i gynorthwyydd personol neu ofalydd yn Pontio a phob theatr a chanolfan gelf sy’n rhan o’r cynllun.
Ewch i www.hynt.co.uk neu www.hynt.cymru am wybodaeth ac arweiniad am y cynllun.
Gwybodaeth Gyffredinol
Awst
Recommended