50

15.08.27 Director's Report 2014-15 v3.0 Cabinet - Welsh

  • Upload
    others

  • View
    1

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

Page 1: 15.08.27 Director's Report 2014-15 v3.0 Cabinet - Welsh
Page 2: 15.08.27 Director's Report 2014-15 v3.0 Cabinet - Welsh

2

CYNNWYS

RHAGAIR

3

1 CRYNODEB CYFLAWNIADAU 2014/15

11

2 DIOGELU 2.1 Cadw Plant yn Ddiogel 2.2 Cadw Oedolion sy’n Agored i Niwed yn Ddiogel

13 13 14

3 CYNORTHWYO GOFALWYR 3.1 Gofalwyr ifanc 3.2 Oedolion sy’n ofalwyr

16 16 17

4 GWASANAETHAU I BLANT A’U TEULUOEDD 4.1 Plant Mewn Angen 4.2 Plant sy’n derbyn gofal 4.3 Adnoddau - Gwasanaethau Plant 4.4 Plant yn y System Cyfiawnder Troseddol 4.5 Cefnogi Plant Anabl yn eu Pontio i Oedolaeth

19 19 20 24 29 31

5 GWASANAETHAU I OEDOLION 5.1 Asesu a Rheoli Gofal

5.1.1 Gwasanaethau i Bobl Hŷn a Phobl Hŷn â Salwch Meddwl 5.1.2 Gwasanaethau i Bobl sydd â Nam Corfforol a Ar y synhwyrau 5.1.3 Gwasanaethau i Bobl â Salwch Meddwl 5.1.4 Gwasanaethau i Bobl ag Anabledd Dysgu 5.1.5 Gwasanaethau i Bobl â Phroblemau Camddefnyddio Sylweddau

5.2 Gwasanaethau Ailalluogi i Bobl 5.3 Gwasanaethau Trawsbynciol

5.3.1 Integreiddio a Gweithio gyda Phartneriaid 5.3.2 Comisiynu 5.3.3 Taliadau Uniongyrchol

32 32 32 33 34 35 36 37 38 38 39 40

6 Y CYD-DESTUN SEFYDLIADOL 6.1 Cyllid

6.1.1 Cyllid – Gwasanaethau Plant 6.1.2 Cyllid – Iechyd a Gofal Cymdeithasol

6.2 Gweithlu 6.3 Cwynion a Boddhad/Cyfranogiad Cwsmeriaid

6.3.1 Cwynion 6.3.2 Boddhad/Cyfranogiad Cwsmeriaid

6.4 Arweinyddiaeth a Chymorth Corfforaethol a Gwleidyddol

41 41 41 41 42 43 43 44 45

7 ATODIAD Atodiad 1 Gwybodaeth Ariannol

49 49

Page 3: 15.08.27 Director's Report 2014-15 v3.0 Cabinet - Welsh

3

RHAGAIR Fel Cyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol y Cyngor mae’n rhan o’m gwaith i adrodd i chi bob blwyddyn ar ba mor dda yr wyf yn credu fod Gwasanaethau Cymdeithasol y Cyngor yn perfformio yn gyffredinol. Mae'r adroddiad sy'n dilyn yn ymwneud â'r flwyddyn 2014/15 ac yn ganlyniad i broses o ddadansoddi ar sail gwasanaeth unigol, a gynhaliwyd gan Reolwyr Gweithredol (RhG) yn y Cyfarwyddiaethau Plant ac Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a oedd ar wahân yn flaenorol. Yna, roedd dadansoddiad pob RhG yn destun i broses o herio a oedd yn cynnwys ei brofi gyda thimau staff. Wrth baratoi'r adroddiad, rydym wedi adeiladu ar y newidiadau i fformat a dull gweithredu a gyflwynwyd yn yr adroddiad diwethaf, unwaith eto gyda phwyslais ar fwy o dryloywder. Er ei fod yn dechnegol o ran natur, mae’r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at negeseuon allweddol am sut rydym yn perfformio. Cynhyrchwyd crynodeb gweithredol mwy hygyrch ar gyfer ei gyhoeddi a’i ledaenu. Ffigyrau Pennawd – Cyd-destun Mae gan Gaerdydd boblogaeth o 354, 294 (fel yn 2014) gyda 73,087 o blant a phobl ifanc 0-17 oed a 279,269 o oedolion 18 oed a hŷn. O'r rhain, mae 2,557 yn derbyn gwasanaethau gan y Gwasanaethau Plant a 4,644 ynn derbyn gwasanaethau gan Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar unrhyw un adeg; mae miloedd lawer yn croesi ein trothwy mewn unrhyw flwyddyn benodol. Cynorthwyir miloedd o bobl i gyflawni gwell canlyniadau trwy ddarparu cymorth tymor byr, neu o ganlyniad i gyfnod o ofal, sydd yna’n mynd ymlaen i fyw bywydau annibynnol.

Dyfyniad person ifanc: “Yr ydych yn wir yn fy mlino fel cosi, ond

pan fyddaf yn dod atoch - rydych yn hyfryd!”

Dyfyniad gofalwr maeth: “Diolch yn fawr am heno, roedd y bechgyn wrth eu boddau. Nid wyf erioed wedi cwrdd â

gweithiwr cymdeithasol sydd wedi rhoi cymaint o ofal a gwaith i blant, rydych yn un mewn miliwn. Diolch yn fawr am ddod â nhw adref, ac arhosodd C yn eich car sydd yn gam ymlaen.

Maent i gyd yn gadarnhaol iawn heno ac mae eu hystafelloedd yn edrych yn wych."

Dyfyniad teulu: Diolch am yr holl help, cefnogaeth, cyngor a phopeth arall yr ydych wedi ei wneud i mi a'r plant. Rydych yn anhygoel ac

rydym yn mynd i’ch colli.”

Dyfyniad rhiant: “Heb waith caled, dealltwriaeth a

chefnogaeth y Gweithiwr Cymdeithasol, ni allwn i fod wedi gwneud y newidiadau

sydd eu hangen.”

Dyfyniad swyddog proffesiynol (Cydlynydd Diogelu Plant ysgol gynradd): “Diolch i chi .. am y cyngor a'r cymorth.. a gefais y prynhawn yma – helpodd y gweithiwr

cymdeithasol fi i deimlo'n hyderus wrth ddelio â materion gwahanol amddiffyn plant a oedd yn cyflwyno yn yr ysgol y prynhawn yma. Cefais brofiad cadarnhaol iawn o’ch ffonio

y prynhawn yma ac roeddwn yn awyddus i drosglwyddo fy niolch.”

Page 4: 15.08.27 Director's Report 2014-15 v3.0 Cabinet - Welsh

4

Derbyniodd y Gwasanaethau Plant 28,354 o gysylltiadau yn 2014/15, a daeth 4,195 yn atgyfeiriadau. Roedd 650 o blant yn derbyn gofal ar 31ain Mawrth 2015, a 255 wedi eu cynnwys ar y Gofrestr Amddiffyn Plant. Derbyniodd Iechyd a Gofal Cymdeithasol 7,440 o ymholiadau a 392 o atgyfeiriadau Amddiffyn Oedolyn Bregus yn ystod 2014/15. Aseswyd neu adolygwyd 8,082 o oedolion yn ystod y flwyddyn ac roedd 4,644 yn derbyn gwasanaethau ar 31ain Mawrth 2015 (1,078 yn cael gofal preswyl a gofal nyrsio a 3,566 yn derbyn gwasanaethau yn y gymuned). GWASANAETHAU CYMDEITHASOL CAERDYDD YN GYFFREDINOL Yr wyf yn falch o allu adrodd bod Cyngor Dinas Caerdydd yn parhau i wella mewn meysydd allweddol er gwaetha'r pwysau ariannol difrifol. Darperir y gwasanaethau hyn mewn cyd-destun o gynnydd arwyddocaol a pharhaus yn y galw ac mae hyn yn cyflwyno heriau gwirioneddol o ran sicrhau cysondeb ansawdd a safon y gwasanaeth mewn rhai meysydd allweddol. Mae gwasanaethau i oedolion a phlant sy'n agored i niwed yn parhau i fod yn flaenoriaeth glir ar gyfer Cyngor Dinas Caerdydd, ac mae’r Cyngor yn parhau i roi lefel cymharol uchel o ddiogelwch i wasanaethau gofal cymdeithasol. Serch hynny, rwyf yn rhannu pryder mawr gyda chyd Gyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol fod y gostyngiadau parhaus mewn cyllid llywodraeth leol yn gyffredinol yn bygwth cynaliadwyedd a hyfywedd y gwasanaethau cymunedol sy'n cyfrannu'n sylweddol at les y gymuned. Rydym hefyd yn gwybod bod yna feysydd gwasanaethau gofal cymdeithasol sydd angen sylw ychwanegol i wella, rhai’n sylweddol felly. Mae ein ffocws strategol cryf ar wella gwasanaeth wedi ein galluogi i greu'r amodau ar gyfer llwyddiant yn y meysydd hynny, ond unwaith eto mae'r cyd-destun ariannol yn gwneud hyn gymaint yn fwy heriol. Mewn perthynas â Gwasanaethau Plant, yn ystod 2014-15 canolbwyntiodd y Gyfarwyddiaeth ar wella perfformiad mewn perthynas â dangosyddion sydd â'r arwyddocâd mwyaf ar gyfer arferion diogel ac effeithiol yn ymwneud â phlant. Mae'r rhai a ddewiswyd ar gyfer y ffocws hwn yn seiliedig ar ganllawiau a gytunwyd rhwng Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol (ADSS), Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC). Dangosodd yr alldro blynyddol welliant cyffredinol yn erbyn y Dangosyddion Perfformiad hyn, gyda rhai eithriadau, ac mae'r duedd gyffredinol yn gadarnhaol. Ar y llaw arall, mae perfformiad yn erbyn nifer o Ddangosyddion Perfformiad cenedlaethol sydd wedi'u dynodi'n Ddangosyddion Strategol Cenedlaethol a Mesurau Atebolrwydd Perfformiad yn llai calonogol yn 2014-15. Mae'n fwriad gan y Gyfarwyddiaeth ganolbwyntio ar y DP’ion hyn pan fo gwelliant pellach mewn perthynas â'r rhai y cytunwyd arnynt gan Gymdeithas y Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol, AGGCC a Chymdeithas Llywodraeth Leol

Dyfyniad defnyddiwr gwasanaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol: “Rydych wedi fy helpu i adennill fy

annibyniaeth ar ôl cael fy rhyddhau o'r ysbyty. Roeddwn yn fregus iawn ac yn methu hyd yn oed ymolchi. Mae eich

merched wedi fy helpu yn ôl i lle roeddwn cyn fy amser diwethaf yn yr ysbyty.”

Dyfyniad defnyddiwr gwasanaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol: "Rydych wedi darparu gwasanaeth

proffesiynol gydol yr amser. Mae pob aelod o staff wedi bod yn gyfeillgar ac yn

ystyriol iawn ac wedi ymdrechu i ddarparu cyfleuster gofal a chymorth cyflawn bob

amser."

Page 5: 15.08.27 Director's Report 2014-15 v3.0 Cabinet - Welsh

5

Cymru yn fwy sicr. Bydd y ffocws strategol cryfach sydd wedi nodweddu gwaith y Gyfarwyddiaeth yn 2014-15 yn darparu sail ar gyfer gwella perfformiad yn erbyn Dangosyddion Strategol Cenedlaethol a PAMs. Mae ystyriaethau tebyg yn berthnasol mewn perthynas â Gwasanaethau Oedolion. Er bod perfformiad yn erbyn cyfran o ddangosyddion yn is na'r targed a thu ôl i’r perfformiad ar draws Cymru ac yn y grŵp meincnodi (Abertawe, Casnewydd, Caerffili, Pen-y-bont ar Ogwr, Castell-nedd Port Talbot a Thorfaen), mae'n galonogol gweld, o'i gymharu ag alldro 2013/14, fod 25 o ddangosyddion perfformiad (DP) yn dangos tystiolaeth gwelliant yn 2014/15. Wedi dweud hynny, nid yw cystal hyd yma ag y mae angen iddo fod a bydd angen i'r Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol newydd adeiladu ar y llwyfan hwn i sicrhau perfformiad llawer cryfach yn 2015/16 ac ar gyfer y dyfodol. Rydym yn argyhoeddedig y gellir ymateb yn fwy effeithiol i lawer o'r heriau hyn, boed yn rhai ariannol, perfformiad neu fel arall, drwy ymuno â Chyfarwyddiaethau Cyngor eraill a chyfuno adnoddau i gefnogi pobl sy’n agored i niwed mewn ffyrdd newydd. Mae llawer o enghreifftiau lle rydym wedi cychwyn projectau newydd neu wedi sicrhau cynnydd go iawn yn barod yn ystod y flwyddyn, gan gynnwys strategaethau ar y cyd mewn perthynas â thai a llety, dulliau mwy clyfar o ddefnyddio technoleg newydd, moderneiddio arferion gwaith, pwyntiau mynediad cyhoeddus integredig neu 'byrth', ac ymgysylltu â phartneriaid yn fwy cynhyrchiol. Serch hynny, bydd hyn yn cymryd amser i gael effaith uniongyrchol a gwella darpariaeth ar gyfer dinasyddion a phlant. Fel mae ein ffigyrau perfformiad yn awgrymu isod, bu cynnydd calonogol ond mae angen ei gyflymu ac mewn rhai achosion yn sylweddol felly.

DANGOSYDDION PERFFORMIAD CENEDLAETHOL - POB GWASANAETH CYMDEITHASOL

Perfformiad Caerdydd 2014/15 o

gymharu â thargedau lleol 17 ar y targed

15 is na'r

targed; uwch

na’r trothwy ar

gyfer ymyrraeth

rheolwr

17 yn is na’r

trothwy am

ymyrraeth

rheolwr

9 ddim yn

briodol ar gyfer

gosod targedau

Perfformiad Caerdydd 2014/15 o

gymharu â 2013/14 25 wedi gwella 10 statig 22 yn gwrthod

1 ddim yn

briodol ar gyfer

cymharu Perfformiad Caerdydd 2014/15 o

gymharu â Grŵp Meincnodi

2013/14 19 yn uwch 4 yr un fath 33 yn is

2 ddim yn

addas ar gyfer

meincnodi

Caerdydd 2014/15 o gymharu â

chyfartaledd Cymru 2013/14 20 yn uwch 5 yr un fath 31 yn is

2 ddim yn

addas ar gyfer

meincnodi

Ffocws Cryfach ar Newid Strategol a Thrawsffurfiol Mae adroddiad eleni yn rhoi tystiolaeth o newid mewn ffocws o blaid newid strategol yn y ffordd yr ydym yn darparu gwasanaethau tra'n parhau â'r cynnydd a gyflawnwyd yn 2013/14 o ran gwella sefydlogrwydd ac ansawdd y gwasanaeth yn gyffredinol. Mae hyn yn cynnwys sefydlu Bwrdd Diogelu Corfforaethol trawsbynciol; ymgysylltu helaeth gan y Gwasanaethau Plant ac Iechyd a Gofal Cymdeithasol mewn ystod o brojectau integredig a

Page 6: 15.08.27 Director's Report 2014-15 v3.0 Cabinet - Welsh

6

gynlluniwyd i ail-lunio gwasanaethau ac mewn rhaglen ranbarthol o integreiddio gwasanaethau sy'n tyfu ac sy’n fwy effeithiol. Yn y Gwasanaethau Plant mae hyn yn cynnwys gwaith sylweddol ar ddatblygu Strategaeth Help Cynnar ac Ataliol; gweithio i sefydlu Canolbwynt Diogelu Amlasiantaeth; cychwyn dull cryfach o sicrwydd ansawdd; ac ymgysylltiad rheolwyr yn y gwaith o ddatblygu Strategaeth Gweithlu newydd. Mewn perthynas ag Oedolion, gwnaed llawer o gynnydd o ran rhoi trefniadau Gateway newydd yn eu lle; sefydlu methodoleg comisiynu fwy craff a mwy effeithiol ar gyfer gofal yn y cartref; tendro electronig ar gyfer gofal preswyl i wella dewis; datblygiadau newydd gyda'r trydydd sector i gysylltu pobl ynysig a diamddiffyn gyda gwirfoddolwyr; rhaglen o hyfforddiant dementia; a chryfhau asesiadau ar gyfer y rhai sydd â nam ar y synhwyrau. 'Cyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol' Newydd Rydym wedi gweld llawer o gynnydd dros y 2 flynedd ddiwethaf i sicrhau sefyllfa gyffredinol well ar gyfer ystod o Wasanaethau Cymdeithasol Oedolion a Phlant. Mae'n amlwg erbyn hyn bod hyd yn oed mwy i'w ennill wrth ddwyn ynghyd y ddwy Gyfarwyddiaeth ar wahân i fod yn endid integredig sengl. Mae hyn yn arbennig o amlwg mewn perthynas â phontio pobl ifanc i oedolaeth, dulliau teulu cyfan o ymdrin â bregusrwydd ac anfantais, a threfniadau mynediad ar y cyd ac atgyfeirio. Mae'r dadleuon o ran dod â datblygu'r gweithlu, perfformiad, sicrwydd ansawdd a gallu datblygu strategol dan arweiniad proffesiynol unedig ac unigol hefyd yn gymhellol. Rydym yn hyderus yng ngoleuni'r materion hyn a dyfodiad Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru) 2014, bod yr amseriad yn iawn erbyn hyn i sefydlu Cyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol sengl o dan un Cyfarwyddwr unigol. “Mwy na Geiriau” Gwnaed cynnydd sylweddol yn ystod 2014/15 gan gynnwys:

Mae'r Cydlynydd Iaith Gymraeg wedi cynllunio a chyflenwi sesiwn hyfforddi i bob rheolwr mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac mae’n parhau i ddatblygu'r rhaglen ar gyfer grwpiau eraill. Mae'r sesiwn yn cynnwys ymwybyddiaeth o’r iaith Gymraeg, cyflwyniad y fframwaith Mwy Na Geiriau gyda chynllun gweithredu i reolwyr er mwyn cynnwys asesiadau sgiliau ar gyfer yr holl staff yn y Gyfarwyddiaeth.

Gofyn i ddefnyddwyr gwasanaethau os oeddynt wedi cael y cyfle i gyfathrebu â staff gofal cymdeithasol yn y Gymraeg; mae bellach yn gwestiwn gorfodol yn yr ymarferiad adborth boddhad cwsmeriaid gyda'r holl ddefnyddwyr gwasanaeth.

Mae angen i iaith yn cael ei chynnwys yn y pwysiad o ddarpariaeth gwasanaeth o fewn y prosesau bidio a ddefnyddir yng Nghaerdydd ar gyfer comisiynu gofal cartref a gofal preswyl a nyrsio.

Cyfarfu Cydlynydd yr Iaith Gymraeg â darparwyr yn y sector annibynnol i edrych ar ofynion Mwy Na Geiriau a’u cydlynwyr gweithgareddau, er mwyn awgrymu ffyrdd i gynnwys y Gymraeg yn eu digwyddiadau a gweithgareddau gyda defnyddwyr gwasanaeth.

Rydym wedi gosod yr ap ‘Gofalu Trwy'r Gymraeg’ ar y dyfeisiau symudol a roddir i'r holl staff gofal cartref mewn menter gofal cartref newydd sydd i fod i gael ei lansio ym mis Gorffennaf 2015. Rydym yn bwriadu darparu hyfforddiant ymwybyddiaeth

Page 7: 15.08.27 Director's Report 2014-15 v3.0 Cabinet - Welsh

7

iaith Gymraeg i staff gofal i gefnogi hyn.

Erbyn hyn mae gennym amcan corfforaethol yn ein Cyfarwyddiaeth Busnes Cynlluniau i 'Asesu gallu eich tîm i ddarparu gwasanaeth dwyieithog yng Nghymru”.

Mae llawer yn dal i fod angen ei wneud ac rydym wedi cryfhau ein rhaglen o weithgarwch fel y gall y cynnydd barhau i mewn i 2015/16 a chynnal y Cynllun Gweithredu ar gyfer Blwyddyn 3 y Strategaeth. GWASANAETHAU I OEDOLION

DANGOSYDDION PERFFORMIAD CENEDLAETHOL – IECHYD A GOFAL CYMDEITHASOL

Perfformiad Caerdydd 2014/15 o

gymharu â thargedau lleol 1 ar darged

3 yn is na’r

targed; yn

uwch na’r

trothwy ar

gyfer

ymyrraeth

rheolwr

5 yn is na’r

trothwy ar

gyfer

ymyrraeth

rheolwr

2 ddim yn

addas i

dargedu

Perfformiad Caerdydd 2014/15 o

gymharu â 2013/14 3 wedi gwella 1 statig 7 yn gwrthod 0

Perfformiad Caerdydd 2014/15 o

gymharu â Grŵp Meincnodi 2013/14 3 yn uwch 0 yr un fath 7 yn is

1 ddim yn

addas i

feincnodi

Caerdydd 2014/15 o gymharu â

chyfartaledd Cymru 2013/14 4 yn uwch 0 yr un fath 6 yn is

1 ddim yn

addas i

feincnodi

NEGES ALLWEDDOL – Mae gwasanaethau i oedolion agored i niwed yn parhau i fod yn flaenoriaeth uchaf gan y Cyngor, yn derbyn cefnogaeth gref gan y Cabinet a'r Prif Weithredwr. Rydym yn arbennig o ymrwymedig i wella atal er mwyn gwneud y gorau o'r cyfleoedd i bobl fyw mor annibynnol a diogel ag y bo modd. Yn ystod 2014/15 bu prif ffocws y Gyfarwyddiaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar reoli'r galw cynyddol am wasanaethau sydd dan bwysau yn barod. O ganlyniad, mae cyflenwad gwasanaeth wedi parhau i symud o fodel dibyniaeth, gan newid y pwyslais ar yr hyn y gall pobl ei wneud, yn hytrach na'r hyn na allant ei wneud. Y prif flaenoriaethau fu i gynyddu mynediad at wasanaethau cyffredinol tra'n lleihau dibyniaeth trwy atal ac ymyrraeth gynnar er mwyn gwella gallu a gwneud y mwyaf o sgiliau. Mae’r ffocws mwy hwn wedi cynnwys:

Gwasanaeth Byw yn Annibynnol newydd i ddarparu gwasanaeth cyfannol i ddefnyddwyr dros 60 oed, er mwyn eu galluogi i aros yn annibynnol ac yn eu cartrefi eu hunain.

Cefnogi mwy o bobl i fyw yn annibynnol yn eu cartrefi eu hunain - gan gyrraedd cyfanswm o 3,324 yn derbyn gofal cartref a phecynnau preswyl ar ddiwedd Chwarter 4.

Page 8: 15.08.27 Director's Report 2014-15 v3.0 Cabinet - Welsh

8

Rhagori ar ein targed o 65% gyda phobl rydym wedi eu helpu yn ôl i annibyniaeth oherwydd y cynnydd yn y niferoedd sy’n cael mynediad i wasanaethau ail-alluogi.

Cynyddu nifer yr asesiadau gofalwyr a gwblhawyd yn ystod 2014/15 o 27% (o 469 yn 2013/14 i 596 yn 2014/15 596).

Gwella’r nifer sy'n derbyn Taliadau Uniongyrchol o 9.8% (o 501 yn 2013/14 i 550 yn 2014/15).

Cynnydd chwarter ar ôl chwarter yn nifer y defnyddwyr Teleofal o gymharu â 2013/14.

GWASANAETHAU PLANT

DANGOSYDDION PERFFORMIAD CENEDLAETHOL – GWASANAETHAU PLANT

Perfformiad Caerdydd 2014/15 o

gymharu â thargedau lleol 16 ar darged

12 yn is na’r

targed; yn

uwch na’r

trothwy ar

gyfer

ymyrraeth

rheolwr

12 yn is na’r

trothwy ar

gyfer

ymyrraeth

rheolwr

7 ddim yn

briodol i osod

targed

Perfformiad Caerdydd 2014/15 o

gymharu â 2013/14 22 wedi gwella 9 statig 15 yn gwrthod

1 ddim yn

briodol ar

gyfer cymharu

Perfformiad Caerdydd 2014/15 o

gymharu â Grŵp Meincnodi 2013/14 16 yn uwch 4 yr un fath 26 yn is

1 ddim yn

addas i

feincnodi

Caerdydd 2014/15 o gymharu â

chyfartaledd Cymru 2013/14 16 yn uwch 5 yr un fath 25 yn is

1 ddim yn

addas i

feincnodi

NEGES ALLWEDDOL – Mae Gwasanaethau Plant yn parhau i fod yn brif flaenoriaeth i'r Cyngor, yn derbyn cefnogaeth gref gan y Cabinet a'r Prif Weithredwr. Mae'r ffocws parhaus ar wella yn ystod y flwyddyn wedi sicrhau gwasanaeth llawer mwy sefydlog a chreu amodau ar gyfer llwyddiant yn y dyfodol. Mae hyn wedi galluogi'r gwasanaeth i droi ei sylw at gynnydd sylweddol mewn meysydd allweddol o ddatblygiad strategol, yn enwedig o amgylch atal ac integreiddio gan gynnal gwaith i wella arferion ar lawr gwlad. Bu 2014/15 yn flwyddyn o weithgaredd sylweddol o fewn y Gwasanaethau Plant gydag adlinio gwasanaethau, sefydlu Uned Ddiogelu integredig a sefydlu Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol. Mae'r darlun cyffredinol yn un o welliant, gyda gwell perfformiad yn cael ei adrodd yn erbyn 22 o ddangosyddion perfformiad cenedlaethol. Roedd meysydd a flaenoriaethwyd yn ystod y flwyddyn yn cynnwys:

Prydlondeb asesiadau cychwynnol - cynyddu i 50.6% (2,044 / 4,042) o 40.1% (1,670 / 4,162) yn 2013/14.

Prydlondeb adolygiadau amddiffyn plant cychwynnol – cynyddu i 90.7% (486 / 536) o 83.8% (424 / 506) yn 2013/14.

Page 9: 15.08.27 Director's Report 2014-15 v3.0 Cabinet - Welsh

9

Cynlluniau gofal yn eu lle ar ddechrau derbyn gofal – cynyddu i 75.0% (249 / 332) o 65.2% (192 / 307) yn 2013/14.

Yn ystod y flwyddyn roedd pwyslais ar recriwtio a chadw – lleihaodd canran y swyddi gwag gweithwyr cymdeithasol o 30.1% yn Chwarter 1 i 24.8% yn Chwarter 4. Ochr yn ochr â hyn, mae nifer y gweithwyr cymdeithasol a gyflogir drwy asiantaeth wedi lleihau o 55 i 32 ac mae ein trosiant staff wedi gostwng o 20.3% yn 2013/14 i 14.8% yn 2014/15. Mae hyn, ynghyd â'r gwelliannau a nodwyd uchod, yn gosod y seiliau ar gyfer gwelliant parhaus yn 2015/16.

Page 10: 15.08.27 Director's Report 2014-15 v3.0 Cabinet - Welsh

10

HERIAU I’R DYFODOL 4 Prif Her sy’n Wynebu Gwasanaethau Cymdeithasol Caerdydd:

1. Gostwng y gost o ddarparu gwasanaethau cymdeithasol yng nghyd-destun sylfaen cyllideb sy'n crebachu.

2. Sicrhau aliniad strategol a gweithredol â gofynion y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru) 2014, gan dalu sylw arbennig i well canlyniadau ar gyfer dinasyddion, plant a phobl ifanc.

3. Gwneud y mwyaf o gyfraniad partneriaid wrth ddarparu gofal cymdeithasol effeithiol ar gyfer plant, pobl ifanc ac oedolion.

4. Cynnal a datblygu gweithlu effeithiol sy'n gallu ymateb i ddisgwyliadau sy'n gysylltiedig â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru) 2014.

7 Prif Her i’r Gwasanaethau Plant:

1. Cwblhau a gweithredu Strategaeth Help Cynnar ac Atal wedi’i hailffocysu gyda phartneriaid i sicrhau darparu gwasanaethau prydlon ar y lefel isaf bosibl i ddiwallu'r angen.

2. Datblygu a gweithredu trefniadau rhyngasiantaethol newydd ar gyfer rheoli atgyfeiriadau a'r galw wrth y drws ffrynt er mwyn sicrhau bod atgyfeiriadau priodol yn cael eu derbyn.

3. Paratoi Strategaeth Plant sy'n Derbyn Gofal sydd â'r nod o wneud y profiad o dderbyn gofal neu adael gofal y gorau y gall fod o fewn yr adnoddau; hyrwyddo sefydlogrwydd; galluogi plant i ffurfio ymlyniadau cadarn a pharhaol; a gwella eu cyfleoedd bywyd a chanlyniadau, ar y cyd ag Addysg ac eraill.

4. Datrys Strategaeth Camfanteisio'n Rhywiol ar Blant ryngasiantaethol gydlynol sy'n amddiffyn ac yn grymuso plant a phobl ifanc, ac sy'n wynebu ac yn ymdrin yn effeithiol â’r cyflawnwyr.

5. Datblygu a chwblhau model arfaethedig ar gyfer darparu gwasanaethau cymdeithasol i blant ac ymyrraeth gwaith cymdeithasol i wella effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd gwasanaethau.

6. Cynyddu ailfodelu’r gwasanaethau ar gyfer plant anabl ledled Caerdydd i wella effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd y gwasanaethau.

7. Ymestyn a gwella gwasanaethau i blant a phobl ifanc sy’n profi anawsterau

ymddygiad emosiynol cynnar / iechyd meddwl. 8 Prif Her i Iechyd a Gofal Cymdeithasol:

1. Cyflenwi cymorth tai a gofal cymdeithasol integredig gwell gyda gwasanaethau iechyd i wella canlyniadau ar gyfer y rheiny sydd angen cefnogaeth i fyw'n annibynnol.

Page 11: 15.08.27 Director's Report 2014-15 v3.0 Cabinet - Welsh

11

2. Gweithio gyda'n partneriaid iechyd i leihau cyfanswm trigolion Caerdydd sy'n profi oedi wrth drosglwyddo o'r ysbyty.

3. Gwella perfformiad yn y llwybr cynllunio gofal.

4. Cynyddu'r nifer sy'n derbyn Taliadau Uniongyrchol fel dewis amgen i ddarpariaeth gofal uniongyrchol i drigolion Caerdydd.

5. Cefnogi Gofalwyr drwy sicrhau bod pob gofalwr yn cael cynnig Asesiad Gofalwr a chynyddu'r nifer o Asesiadau Gofalwyr a wneir erbyn 2016.

6. Ehangu'r ystod o ddewisiadau llety â chymorth ar gyfer oedolion ifanc sy'n agored i niwed.

7. Gweithio mewn partneriaeth gyda rhanddeiliaid eraill i amddiffyn oedolion sy'n agored i niwed rhag niwed drwy ddatblygu rhaglen gydlynol o hyfforddiant ac ymwybyddiaeth ar gyfer yr holl staff rheng flaen.

8. Gwella effeithiolrwydd y cymorth pontio ar gyfer plant anabl ac agored i niwed yn agosáu at oedolaeth.

Page 12: 15.08.27 Director's Report 2014-15 v3.0 Cabinet - Welsh

12

1. CRYNODEB CYFLAWNIADAU 2014/15 Mae llawer wedi cael ei gyflawni gan dimau staff ymroddedig ym mhob maes gwasanaeth ar adeg o alw a phwysau cynyddol. Dyma rai o'r uchafbwyntiau:

1. Sefydlu Uned Ddiogelu integredig ar draws Gwasanaethau Plant, Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac Addysg.

2. Sefydlu Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol a gynhelir gan Gaerdydd.

3. Adlinio’r Gwasanaethau Plant.

4. Recriwtio llwyddiannus o weithwyr cymdeithasol i Wasanaethau Plant.

5. Gwelliant o ran prydlondeb asesiadau cychwynnol yn y Gwasanaethau Plant o 40.1% (1,670 / 4,162) yn 2013/14 i 50.6% (2,044 / 4,042) yn 2014/15.

6. Gostyngiad mewn llwyth achosion gweithwyr cymdeithasol ar gyfartaledd mewn timau rheoli achosion Gwasanaethau Plant o 24.5 ar 30ain Mehefin 2014 i 19.7 ar 31ain Mawrth 2015.

7. Adroddiad arolygu LAC cadarnhaol.

8. Cynnydd tuag at weithredu Cynllun Maethu Uwch yn 2015/16.

9. Cyflwyno Cymhorthfa Gyfreithiol wythnosol er mwyn osgoi drifft neu oedi mewn gofal cynllunio ar gyfer plant a phobl ifanc.

10. Ariannu ar y cyd wedi ei sicrhau gyda Chyngor Bro Morgannwg a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro ar gyfer capasiti uwch reolwr newid.

11. Cryfhau trefniadau llywodraethu rhianta corfforaethol drwy sefydlu Pwyllgor Ymgynghorol Rhianta Corfforaethol.

12. Sicrhau darpariaeth fwy effeithiol ar gyfer Eiriolaeth.

13. Cyflenwi hyfforddiant ymarfer gorau parthed: Plant Sy'n Derbyn Gofal i 208 o staff.

14. Cyflwyno hyfforddiant parthed: Ecsbloetio Plant yn Rhywiol a Masnachu mewn Pobl i 115 o staff.

15. Uwch ymrwymiad wedi ei sicrhau i sefydlu Canolbwynt Diogelu Amlasiantaeth (neu fodel tebyg).

16. Adnewyddu llywodraethu partneriaeth mewn perthynas â phlant a theuluoedd.

17. Cyflwyniad llwyddiannus o weithredu Asesu Integredig ar 30ain Ebrill 2014.

18. Gweithredu 'Proactis' (System Tendro Electronig) ym mis Awst 2014 i wella'r sefyllfa farchnad cartrefi gofal a nyrsio i bobl hŷn.

Page 13: 15.08.27 Director's Report 2014-15 v3.0 Cabinet - Welsh

13

19. Dechrau cyflwyno system APL 'Matrics' i wella comisiynu Gofal Cartref ar gyfer yr holl grwpiau defnyddwyr gwasanaeth ym mis Gorffennaf 2014.

20. Defnyddio 2 Swyddog Cefnogi Gofalwyr mewn ysbytai a ariennir drwy’r Mesur Gofalwyr.

21. Gweithredu proses weithredol fwy effeithiol ar gyfer trosglwyddo o Wasanaethau Plant i Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

22. Dyfarnu contract partneriaeth Trydydd Sector i "Age Connects" yn Hydref 2014 ar gyfer project peilot 12 mis, i fapio’r adnoddau sydd ar gael yn y trydydd sector i bobl hŷn mewn cymunedau ac a fydd yn llywio cynlluniau comisiynu yn y dyfodol.

23. Datblygu Rhaglen Hyfforddiant Ailalluogi Dementia er mwyn sicrhau bod y staff sy'n gweithio mewn lleoliadau cymunedol â’r holl wybodaeth a'r sgiliau angenrheidiol i gefnogi pobl â dementia.

24. Cydleoli 2 Dîm Adnoddau Cymunedol (URT) yng Nghaerdydd mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro ar ddiwedd Mawrth 2014.

25. Gweithio'n agos â Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro i ddatblygu gwasanaethau byddar iechyd meddwl yn ystod 2014/15.

26. Gweithio mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro a Chyngor Bro Morgannwg i wella llywodraethu trwy’r Bwrdd Partneriaeth Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid (DoLS) ac i ddadansoddi galw, blaenoriaethu gweithredu i gyflenwi Trefniadau Asesiadau Diogelu rhag Colli Rhyddid yn dilyn Dyfarniad y Llys Goruchaf.

27. Grŵp Llywio ar y Cyd Anhwylderau'r Sbectrwm Awtistig (ASD) yn datblygu cynllun gweithredu cadarn i gyflwyno'r Strategaeth ASD ar y cyd rhwng Cyngor Caerdydd, Bro Morgannwg, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, y trydydd sector, rhieni a defnyddwyr gwasanaeth.

28. Strategaeth Cyfleoedd Dydd ar gyfer Anabledd Dysgu 2014-17 wedi’i chyflenwi a chynnydd yn y nifer o gyfleoedd dydd ystyrlon yn seiliedig ar y model 'dilyniant'.

29. Tîm Cyffuriau Alcohol Cymunedol (CADT) yn sefydlu gwasanaeth ar gyfer 5 unigolyn digartref yn Chwefror 2015.

30. Gweithredu a chyflenwi’r Gronfa Cydweithredu Rhanbarthol a Phrojectau Cronfa Gofal Canolraddol.

31. Ymestyn yr arolwg bodlonrwydd cwsmeriaid Asesu ac Adolygu i gynnwys Timau Anabledd Dysgu a Thimau Gwasanaethau Iechyd Meddwl ar gyfer Pobl Hŷn. Eleni, rydym wedi dechrau defnyddio'r wybodaeth o'r arolygon i hysbysu Sgoriau Ansawdd Darparwyr ar gyfer Gofal yn y Cartref.

Page 14: 15.08.27 Director's Report 2014-15 v3.0 Cabinet - Welsh

14

2. DIOGELU Sefydlwyd yr Uned Adolygu Diogelu Annibynnol ym mis Hydref 2014, yn dilyn sefydlu Bwrdd Lleol Diogelu Plant Caerdydd a Bro Morgannwg rhanbarthol (BLlDP) ym mis Hydref 2013, sy'n darparu llywodraethu strategol mewn perthynas ag effeithiolrwydd trefniadau diogelu amlasiantaeth ar gyfer plant. Mae rôl yr uned ddiogelu sydd newydd ei sefydlu yn bennaf yn un o Sicrwydd Ansawdd ac mae’n cynnwys tair prif elfen.

1. Darparu cyngor annibynnol, adolygu, monitro a herio arferion diogelu mewn perthynas â phlant ac oedolion sy'n agored i niwed yng Nghaerdydd.

2. Darparu Adolygiad Annibynnol ar gyfnodau statudol rheolaidd o Gynllun Gofal bob Plentyn sy’n Derbyn Gofal a'i gyflenwad a sicrhau sylw priodol i anghenion pob plentyn yn gydnaws â'r Cynllun Gofal; darparu'r un rôl mewn perthynas â Chynlluniau Llwybr y rhai sy'n gadael gofal.

3. Darparu rôl arweinyddiaeth a chyfarwyddyd i'r cyngor ehangach i gefnogi llywodraethu diogelu corfforaethol.

Fel y cyfryw, mae’n gyfrifol yn weithredol am:

Swyddogaethau Swyddog Adolygu Annibynnol statudol a threfniadau Cynhadledd Achos Amddiffyn Plant ar gyfer plant.

Prosesau ac arferion statudol i gefnogi amddiffyn oedolion sy'n agored i niwed (POVA).

Dyletswyddau diogelu statudol mewn perthynas â phlant mewn addysg, neu blant yr effeithir arnynt gan drwyddedu a hebrwng.

Lletya’r Bwrdd Lleol Diogelu Plant Rhanbarthol a seilwaith cysylltiedig. Cefnogi gweithrediad y Bwrdd Diogelu Corfforaethol.

2.1 Cadw Plant sy'n Agored i Niwed yn Ddiogel Mae rolau Cadeirydd y Gynhadledd Achos a'r Swyddog Adolygu Annibynnol wedi cael eu huno, gan gynyddu capasiti. Sefydlwyd dwy swydd arall i gryfhau diogelu - sef Swyddog Adolygu Gwasanaethau Integredig Cymorth i Deuluoedd a Swyddog Adolygu Cynllun Llwybr. Sicrhawyd cyllid yn ychwanegol i ymgymryd ag archwilio allweddol, gwaith ymchwiliol a datblygiad mewn perthynas â cham-fanteisio’n rhywiol ar blant (CSE). Mae Bwrdd Diogelu Corfforaethol wedi ei sefydlu ac mae wedi datblygu cynllun gweithredu i gryfhau cydymffurfiaeth diogelu corfforaethol yn sylweddol, ac ymateb i'r cynigion gwella a wnaed yn adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru Hydref 2014 yn dilyn ei hastudiaeth o drefniadau diogelu corfforaethol yn y Cyngor. Gwnaed gwaith sylweddol â phartneriaid ac yn arbennig yr heddlu i ddatblygu Strategaeth Camfanteisio’n Rhywiol ar Blentyn (CSE) cydlynol mewn ymateb i bryderon cenedlaethol yn deillio o Rotherham, Swydd Rhydychen ac mewn mannau eraill. Mae'r strategaeth rhyngasiantaethol allweddol ar darged i’w chymeradwyo'n derfynol gan Fwrdd Lleol Diogelu Plant Caerdydd a’r Fro ym mis Gorffennaf 2015 a gan Gabinet y Cyngor. Yn y cyfamser cynhaliwyd nifer o fentrau penodol i gryfhau effeithiolrwydd gweithredol. Roedd y rhain yn cynnwys adolygiad o'r gronfa ddata Gwasanaethau Plant i wella casglu

Page 15: 15.08.27 Director's Report 2014-15 v3.0 Cabinet - Welsh

15

gwybodaeth a datblygu trefniadau panel newydd ar gyfer sicrhau ansawdd a goruchwylio’r holl achosion Gwasanaethau Plant lle nodir bregusrwydd CSE. Bu'r Cyfarwyddwr yn ymwneud yn sylweddol â gwaith Fforwm Diogelu Rhanbarthol De Cymru wrth ystyried ystod o ddatblygiadau strategol i gryfhau diogelu, gan gynnwys yr ymateb rhanbarthol a chenedlaethol i gam-fanteisio’n rhywiol ar blant. Bwrdd Lleol Diogelu Plant Caerdydd a Bro Morgannwg Wedi ei sefydlu ym mis Rhagfyr 2013, mae'r Bwrdd newydd wedi gallu atgyfnerthu ei waith partneriaeth ac ailffocysu ar flaenoriaethau diogelu ar y cyd gan gynnwys ei rôl allweddol wrth gynnal Adolygiadau Ymarfer Plant; sicrwydd ansawdd ymarfer trwy archwilio achosion; sicrhau rhaglen hyfforddi effeithiol a deinamig ar gyfer pob gweithiwr proffesiynol; a chysylltu â'r agenda genedlaethol ehangach. Cytunodd y Bwrdd hefyd, yn absenoldeb fforwm ranbarthol briodol ar gyfer ffocysu ar ddatblygiadau effeithiol mewn perthynas â gwasanaethau i blant, i ddarparu cefnogaeth i raglen datblygu strategol sy'n cynnwys:

Sefydlu Canolbwynt Diogelu Amlasiantaeth yng Nghaerdydd. Ailfodelu gwasanaethau i Blant ag Anabledd. Ailfodelu gwasanaethau i Blant ag Anawsterau Emosiynol ac Iechyd Meddwl.

Meysydd Datblygu yn 2015/16

Cwblhau a dechrau gweithredu'r Strategaeth Camfanteisio’n Rhywiol ar Blant rhyngasiantaethol.

Egluro a chryfhau'r trefniadau llywodraethu mewn perthynas â phryderon diogelu sydd ar hyn o bryd yn ‘pontio’ rhwng Cyfarwyddiaethau Cyngor neu bartneriaethau amlasiantaeth, e.e. trais ar sail anrhydedd, priodasau dan orfod, masnachu mewn pobl a radicaleiddio.

Datblygu Fframwaith Sicrwydd Ansawdd y Gwasanaethau Cymdeithasol i ddwyn ynghyd yr elfennau sicrwydd ansawdd ac elfennau dysgu gweithgareddau allweddol y Gyfarwyddiaeth.

2.2 Cadw Oedolion sy’n Agored i Niwed yn Ddiogel Sefydlwyd Bwrdd Diogelu Oedolion Caerdydd a Bro Morgannwg rhanbarthol ym mis Chwefror 2014, a chynhaliodd ei gyfarfod cyntaf ym Mawrth 2014. Mae'r Bwrdd Diogelu Oedolion yn darparu llywodraethu strategol o ran effeithiolrwydd trefniadau rhyngasiantaethol ar gyfer amddiffyn oedolion sy'n agored i niwed ar draws Caerdydd a Bro Morgannwg. Yn ystod y flwyddyn, mae'r bwrdd newydd wedi gallu sefydlu is-grwpiau priodol, cychwyn datblygiadau i gefnogi rheoli perfformiad effeithiol a datblygu rhaglen waith effeithiol i hyrwyddo llywodraethu integredig gydlynol. Mae adroddiad gweithgaredd chwarterol newydd i gefnogi'r bwrdd wrth wneud penderfyniadau hefyd wedi cael ei ddatblygu. Bydd gweithrediad y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru) 2014 (gweithredir yn 2016) yn gosod amddiffyn oedolion sy'n agored i niwed ar sail statudol debyg i blant, a bydd hyn yn cryfhau proffil ymdrin â'r risgiau i oedolion agored i niwed. Cychwynnwyd nifer o ddatblygiadau i wella comisiynu gwasanaethau gofal o ansawdd i ddinasyddion gan gynnwys:

Page 16: 15.08.27 Director's Report 2014-15 v3.0 Cabinet - Welsh

16

Cyflwyno fframweithiau/ rhaglenni sicrwydd ansawdd er mwyn gwella comisiynu gofal cartref a gofal preswyl ar gyfer yr holl grwpiau defnyddwyr gwasanaeth a ddechreuodd ym mis Gorffennaf 2014. Amcan y modelau caffael newydd hyn a ddechreuodd ym mis Tachwedd 2014 gyda chyflwyniad y System Brynu Ddeinamig newydd (DPS) a Proactis, a rhestr darparwyr achrededig, yw gwella ansawdd y gwasanaethau gofal ar gyfer diogelwch a lles yr holl grwpiau defnyddwyr gwasanaeth hyn.

Mynychir y Cyfarfodydd Monitro Ansawdd ar y Cyd Misol (JQMM) gan gynrychiolwyr ar draws iechyd, gofal cymdeithasol a'r arolygiaeth. Mae JQMM yn caniatáu i'r mynychwyr ymdrin â phryderon am ddarparwyr gwasanaeth, a’u blaenoriaethu, a gall fod yn rhagflaenydd i weithredu’r broses dyrchafu pryderon awdurdodau lleol. Mae cynllun busnes Diogelu Oedolion Agored i Niwed yn gosod blaenoriaethau allweddol gan gynnwys gwaith i gryfhau trothwyon asesu risg ar gyfer ennyn camau diogelu, cynhwysiant a boddhad defnyddwyr gwasanaeth, a'r mecanwaith/ proses ar gyfer codi pryderon proffesiynol. Meysydd Datblygu yn 2015/16

Parhau â rhaglen waith strategol y Bwrdd Diogelu Oedolion rhanbarthol i gynnwys: o rhaglen gydgysylltiedig o hyfforddiant ac ymwybyddiaeth o cyfres effeithiol o adroddiadau monitro oedolion agored i niwed ynglŷn â

gofynion diogelu allweddol er mwyn sicrhau bod cydymffurfiad yn cael ei fonitro a'i gofnodi.

Datblygu Fframwaith Sicrwydd Ansawdd y Gwasanaethau Cymdeithasol i ddwyn ynghyd yr elfennau sicrwydd ansawdd a dysgu gweithgareddau allweddol yn y Gyfarwyddiaeth

Sicrhau bod gofynion diogelu newydd y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru) 2014 mewn perthynas ag oedolion sy'n agored i niwed yn cael eu rhoi ar waith yn effeithiol.

Page 17: 15.08.27 Director's Report 2014-15 v3.0 Cabinet - Welsh

17

3. CYNORTHWYO GOFALWYR Yn ystod y flwyddyn rydym wedi datblygu Strategaeth Gofalwyr ar draws Cyngor Dinas Caerdydd, Cyngor Bro Morgannwg a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro (BIP C&F) rhyngasiantaethol sengl. Mae hyn yn rhoi eglurder, cysondeb a hygyrchedd o ran ymrwymiadau polisi ar y cyd ar draws y rhanbarth ac yn integreiddio cynllunio strategol ar gyfer Gofalwyr Ifanc, Gofalwyr sy'n Oedolion Ifanc a Gofalwyr sy'n Oedolion mewn un ddogfen. Mae'r newidiadau a fydd yn deillio o'r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru) 2014 yn golygu:

Y bydd gofalwyr yn cael statws cyfartal i ddefnyddwyr gwasanaeth. Y bydd gan ofalwyr hawl i wasanaethau yn eu rhinwedd eu hunain. Bod rhaid i'r Cyngor ddarparu pwynt gwybodaeth a chyngor i ofalwyr y gellir eu

cyfeirio ato. 3.1 Gofalwyr ifanc Yn gyffredinol mae Gofalwyr Ifanc yn blant a phobl ifanc dan 18 oed sy'n darparu, neu'n bwriadu darparu, gofal, cefnogaeth neu gymorth i aelod o'r teulu. Fodd bynnag, cydnabyddir bod y cysyniad o Ofalwyr Ifanc yn ymestyn hyd at 25 oed. Efallai y bydd y person sydd ag anghenion gofal â salwch corfforol, anabledd, problemau iechyd meddwl neu nam ar y synhwyrau, anawsterau dysgu, neu gall fod yn camddefnyddio sylweddau. Mae'r rhan fwyaf o Ofalwyr Ifanc yn gofalu am riant, ond gallai’r person sydd ag anghenion gofal fod yn frawd neu chwaer, mam-gu neu dad-cu, neu unrhyw aelod arall o'r teulu. Mae ystod o wasanaethau cyffredinol a rhai wedi'u targedu i Ofalwyr Ifanc ar draws y ddinas. Mae’r Gofalwyr Ifanc hynny sy'n bodloni'r trothwyon ar gyfer Gwasanaethau (Cymdeithasol) Plant hefyd yn gallu cael mynediad i'r ystod o wasanaethau ychwanegol. Mae Gwasanaethau Plant wedi nodi swyddogion allweddol yn y Gwasanaeth Derbyn ac Asesu, Gwasanaeth Ymyriadau Teuluol a Chymorth, a thimau Iechyd ac Anabledd Plant i arwain ar faterion Gofalwyr Ifanc er mwyn cryfhau adnabod Gofalwyr Ifanc. Y ffocws sylweddol i Wasanaethau Plant Caerdydd wrth ddatblygu'r strategaeth ar draws oedran oedd sicrhau ei bod yn amlygu’n briodol yr effaith benodol yr oedd ymgymryd â chyfrifoldebau gofalu am aelodau o'r teulu yn ei chael ar Ofalwyr Ifanc a chysylltu'r strategaeth i’r rhwymedigaethau a gynhwysir yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (UNCRC). Parhaodd y gwaith yn 2014/15 i ddatblygu ystod o ddeunyddiau o'r fath i gynyddu ymwybyddiaeth a chefnogi adnabod Gofalwyr Ifanc ar draws Caerdydd a Bro Morgannwg. Y darn mwyaf arwyddocaol o waith i ddod allan o'r llif gwaith hwn fu datblygu offeryn e-ddysgu i weithwyr proffesiynol er mwyn eu galluogi i adnabod a chefnogi Gofalwyr ifanc. Mae'r modiwl wedi cael ei hybu'n weithredol ymhlith staff ysgolion Caerdydd drwy'r Gwasanaeth Seicoleg Addysg a hyd yn hyn mae wedi cael derbyniad da iawn. Mae cyflwyno'r modiwl e-ddysgu hwn yn ysgolion Caerdydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol i godi ymwybyddiaeth ac wedi cryfhau gallu'r staff addysgu i adnabod a nodi Gofalwyr Ifanc. Fodd bynnag, nid yw hyn eto wedi cael effaith sylweddol ar y nifer o Ofalwyr Ifanc sy’n cael eu hatgyfeirio at y Gwasanaethau Plant am asesiad o'u hanghenion. Mae'r gwasanaeth yn parhau’n ymrwymedig i newid y trefniadau ar gyfer asesu anghenion Gofalwyr Ifanc, ac er bod y trefniadau hyn yn parhau i eistedd gyda'r Gwasanaeth Derbyn

Page 18: 15.08.27 Director's Report 2014-15 v3.0 Cabinet - Welsh

18

ac Asesu, rydym yn hyderus y byddai’r integreiddio hwn o fewn y Gwasanaeth Ieuenctid yn llai o stigma i Ofalwyr Ifanc ac yn ysgogi cynnydd mewn atgyfeiriadau am gefnogaeth a chymorth. Yn y cyfamser, aseswyd pob Gofalwr Ifanc a ddaeth yn hysbys i'r gwasanaeth yn 2014/15 a darparwyd gwasanaeth i 83.3% (10/12) , o gymharu â 68.4% (13/19) yn 2013/14. Meysydd Datblygu yn 2015/16

Datblygu a gweithredu trefniadau newydd i Asesiadau Gofalwyr Ifanc. Cyflwyno fesul cam y modiwl e-ddysgu i Weithwyr Cymdeithasol a staff Gofal

Cymdeithasol yn y Gwasanaethau Plant.

3.2 Oedolion sy’n ofalwyr Mae seibiant yn parhau i fod y gwasanaeth y gofynnir amdano amlaf i gefnogi gofalwyr ac mae’n parhau i gael ei ddarparu, fel arfer drwy becyn gofal ar gyfer y defnyddiwr gwasanaeth. Rydym hefyd wedi gwella gwybodaeth a ddarperir i ofalwyr ac wedi ei gwneud yn fwy hygyrch trwy sicrhau ei bod ar gael drwy'r Canolbwyntiau Cymunedol. Rydym wedi gwella cynnig yr Asesiad Gofalwyr i ofalwyr hysbys (18 oed a throsodd) yn ystod y flwyddyn. Cafodd 64.4% (2,079 / 3,229) o ofalwyr hysbys gynnig asesiad angen yn eu rhinwedd eu hunain o gymharu â 50.2% (1,382 / 2,751) yn 2013/14. Hefyd cafwyd cynnydd yn nifer y gofalwyr a gofnododd Asesiad Gofalwyr wedi’i gwblhau (547 yn 2014/15 o 454 yn 2013/14). Fodd bynnag, gostyngodd y gyfradd cwblhau i 26.3% (547/2,079) o 32.9% (454/1,382) yn 2013/14, ac mae angen sylw pellach i’r maes hwn.

. Mae Grŵp Strategaeth Cynllunio a Gofalwyr wedi datblygu Strategaeth Gofalwyr interim i’w roi ar waith, gyda datblygiad strategaeth tymor hirach sy'n dechrau unwaith y bydd y Rheoliadau a'r Canllawiau ar gyfer Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru) 2014 mewn perthynas â gofalwyr yn hysbys. Mae gweithio ar y cyd gyda Chyngor Bro Morgannwg a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro wedi parhau i wella, e.e. cynnal digwyddiadau ar y cyd ar gyfer Wythnos Gofalwyr a Diwrnod Hawliau Gofalwyr. Mae hyn hefyd wedi cynnwys ymestyn y ddwy swydd Swyddog Cefnogi Gofalwyr mewn ysbytai (a ariennir drwy’r Mesur Gofalwyr) sydd wedi cefnogi 175 o ofalwyr eleni trwy ddarparu cyngor a gwybodaeth neu gyfeiriad i sefydliadau perthnasol. Maent hefyd wedi cwblhau 76 o Asesiadau Gofalwyr.

Page 19: 15.08.27 Director's Report 2014-15 v3.0 Cabinet - Welsh

19

Cynhaliwyd adolygiad o'r holl wasanaethau Gofalwyr a gomisiynir ac mae adnoddau yn cael eu hadlinio i adlewyrchu'r ffordd fwyaf effeithiol a chynaliadwy o ddarparu gwasanaethau sy'n diwallu ein rhwymedigaethau statudol cyfredol i ofalwyr yn 2015/16. Yr effaith a fwriedir gyda’r uchod yw cefnogi gofalwyr i wella ansawdd eu bywydau, tu allan i'w rôl ofalu, trwy ddarparu ystod o wasanaethau iddynt a'r person y maent yn gofalu amdano. Meysydd Datblygu yn 2015/16 Sicrhau bod yr holl ofalwyr yn cael cynnig Asesiad Gofalwyr. Cynyddu’n sylweddol gyfradd cwblhau’r Asesiadau Gofalwyr.

Page 20: 15.08.27 Director's Report 2014-15 v3.0 Cabinet - Welsh

20

4. GWASANAETHAU I BLANT A’U TEULUOEDD 4.1 PLANT MEWN ANGEN Darperir gwasanaethau i blant mewn gan y Gwasanaeth Derbyn ac Asesu a'r Gwasanaeth Plentyn mewn Angen. Ar 31ain Mawrth 2015, roedd y Gwasanaethau Plant yn gweithio gyda 255 o blant ar y Gofrestr Amddiffyn Plant a 1,624 o blant mewn angen. Mae'r Gwasanaeth Derbyn ac Asesu yn darparu un pwynt cyswllt i Wasanaethau Plant Caerdydd ar gyfer gweithwyr proffesiynol ac aelodau o'r cyhoedd drwy Bwynt Mynediad Plant (CAP). Mae'r gwasanaeth yn cynnal asesiadau cychwynnol sy'n penderfynu a yw’r plentyn yn bodloni'r meini prawf ar gyfer asesu neu ddarpariaeth gwasanaethau pellach. Mae'r Tîm Integredig Cymorth i Deuluoedd (IFST) wedi cael ei ail-alinio gyda'r Gwasanaethau Derbyn ac Asesu - mae hyn wedi galluogi adnabod yn gynnar deuluoedd mewn argyfwng, ac wedi caniatáu ymyrraeth gynnar i osgoi’r posibilrwydd o deuluoedd yn chwalu. Gyrrwyd y trafodaethau ymlaen yn gynnar yn 2014/15 ynglŷn â sefydlu Canolbwynt Diogelu Amlasiantaeth (MASH) yn y chwarter olaf yn dilyn ymweliad â MASH Cwm Taf. Mae'r partneriaid allweddol bellach wedi ymrwymo i'r cyfeiriad hwn ac mae ariannu ar y cyd wedi cael ei gytuno rhwng y Cyngor a'r Heddlu i symud ymlaen i weithredu fel blaenoriaeth allweddol ar gyfer y Bwrdd Gwasanaethau Lleol ar y Cyd. Cynyddodd y perfformiad o ran prydlondeb asesiadau cychwynnol o 40.1% (1,670 / 4,162) yn 2013/14 i 50.6% (2,044 / 4,042) yn 2014/15. Cafodd alldro 2014/15 ei effeithio'n andwyol gan berfformiad gwael iawn yn y chwarter cyntaf a'r perfformiad annigonol yn yr ail chwarter, llawer ohono'n ymwneud â chlirio ôl-groniadau. O dan arweinyddiaeth newydd, mae perfformiad llawer gwell yn ystod ail hanner y flwyddyn yn rhoi hyder i ni y gallwn gyflawni perfformiad sy'n uwch na'r cyfartaledd yng Nghymru yn 2015/16.

Datblygwyd Strategaeth Help Cynnar ac Atal yn barod i'w chymeradwyo gan y Bwrdd Plant a Theuluoedd sy'n Agored i Niwed. Nod y strategaeth hon yw darparu'r lefel iawn o gymorth ar yr adeg gywir i deuluoedd lle bynnag y bônt yn byw yng Nghaerdydd. Mae Gwasanaeth Plentyn mewn Angen yn darparu gwasanaethau rheoli achosion i blant mewn angen (gan gynnwys plant ag anableddau), plant ar y Gofrestr Amddiffyn Plant neu'r rhai sydd o fewn yr arena Llysoedd.

Page 21: 15.08.27 Director's Report 2014-15 v3.0 Cabinet - Welsh

21

Cyflwynwyd system olrhain electronig ar gyfer unrhyw blentyn sy’n destun i achosion Llys, er mwyn sicrhau glynu at yr holl derfynu amser a gyfarwyddir gan y Llys. Mae cynllun "Cymhorthfa Gyfreithiol" wedi ei gyflwyno gyda'r nod o osgoi oedi mewn asesiadau a chynllunio gofal. Rhagwelir trwy fabwysiadu ymagwedd ragweithiol o ran ymyrryd yn gynnar, asesiadau a chynllunio gofal, dim ond y plant hynny y mae eu hamgylchiadau yn gofyn am ymyrraeth gyfreithiol fydd yn cael eu cyflwyno gerbron y Llys. Mae'r timau Iechyd ac Anabledd Plant wedi cael eu hadlinio i eistedd o fewn y Gwasanaeth Plentyn mewn Angen gyda'r nod o wella gwasanaethau yn sylweddol ar gyfer plant ag anghenion ychwanegol. Mae nifer y plant sy'n manteisio ar Daliadau Uniongyrchol wedi cynyddu 45% i 110 ar 31ain Mawrth 2015, o 76 ar 31ain Mawrth 2014. Cynhaliwyd 48.2% (1,324 / 2,748) o adolygiadau Plentyn mewn Angen ar amser yn 2014/15 o gymharu â 55.1% (982 / 1,782) yn 2013/14. Mae Rheolwyr Tîm yn adrodd bod adolygiadau yn cael eu cynnal sy'n awgrymu bod problemau gyda’r ffordd y maent yn cael eu cofnodi, ac anawsterau gydag adrodd. Y farn gyffredinol yw nad yw'r ffigyrau hyn yn gynrychiolaeth gywir o berfformiad, felly bydd gwaith yn cael ei wneud i wella cofnodi ac adrodd er mwyn i’r perfformiad yr adroddir amdano adlewyrchu realiti.

Meysydd Datblygu yn 2015/16

Cwblhau cynigion a gweithredu trefniadau rhyngasiantaethol newydd (MASH) ar gyfer rheoli atgyfeiriadau a'r galw wrth y drws ffrynt er mwyn sicrhau derbyn atgyfeiriadau priodol.

Datblygu rhaglen waith i ymgysylltu'n effeithiol gydag ysgolion ac asiantaethau eraill i sicrhau bod atgyfeiriadau yn briodol ac o ansawdd uchel.

Gweithredu Strategaeth Help Cynnar ac Atal wedi’i hailffocysu gyda phartneriaid i sicrhau bod gwasanaethau prydlon yn cael eu darparu ar y lefel isaf bosibl i ddiwallu'r angen.

Cynyddu ailfodelu gwasanaethau ar gyfer plant anabl ledled Caerdydd i wella effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd y gwasanaethau.

Adolygu cynllun peilot Cymhorthfa Gyfreithiol a gweithredu ar y gwersi a ddysgwyd

er mwyn osgoi drifft ac oedi wrth gynllunio gofal.

Page 22: 15.08.27 Director's Report 2014-15 v3.0 Cabinet - Welsh

22

4.2 PLANT SY’N DERBYN GOFAL Mae'r Gwasanaeth Plant sy'n Derbyn Gofal (LAC) yn darparu gwasanaethau rheoli achosion i blant sy'n derbyn gofal a phobl ifanc sy'n gadael gofal. Ar 31ain Mawrth 2015, roedd y Gwasanaethau Plant yn gweithio gyda 650 o blant sy'n derbyn gofal a 330 o bobl ifanc sy'n gadael gofal a phlant sy'n ceisio lloches. Yn ystod 2014/15 gwnaed cynnydd yn y meysydd canlynol: Cynhaliwyd Arolygiad Cenedlaethol Cynllunio Gofal Plant sy'n Derbyn Gofal a Gadawyr Gofal sy’n Arddangos Ymddygiadau sy'n Agored i Niwed neu Beryglus gan Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) ym Mai 2014. Ni fynegwyd unrhyw bryderon mawr a dyfynnwyd meysydd o arfer da yng Nghaerdydd yn yr adroddiad lleol a chenedlaethol; ystyriwyd bod y trefniadau ar gyfer diogelu plant sy'n derbyn gofal yn rhesymol. Roedd effaith y profiad Arolygu a’r adroddiad yn gadarnhaol i ymarferwyr o ran cydnabod arferion da ac argymhellion ar gyfer datblygiad pellach. Addysgu Plant sy'n Derbyn Gofal (LAC) Cafodd y broses ar gyfer cwblhau Cynlluniau Addysg Personol amserol (CAPau) ei hadolygu a'i haddasu er mwyn symleiddio a chyflymu'r broses, i alluogi gweithwyr cymdeithasol i gael cyfle mwy realistig o gwblhau'r broses o fewn yr amserlenni gofynnol. Darparwyd sesiynau briffio i weithwyr cymdeithasol, athrawon a gofalwyr maeth ar y cyd, yn barod i'w rhoi ar waith ar 1af Mai 2015. Effaith y newid a'r sesiynau briffio yw galluogi gweithwyr cymdeithasol i wella perfformiad, i’w holl randdeiliaid gael gwell dealltwriaeth o'r broses, ac i weithio gyda'n gilydd, a dylai pob un o’r rhain gael effaith gadarnhaol ar blant a phobl ifanc a'u haddysg. Nid oedd yr effaith yn amlwg yn alldro 2014/15 - 20.4% (47/230) o gymharu â 23.9% (51/213) yn 2013/14 - gan na fydd y newid yn cael ei gyflwyno tan yn gynnar yn 2015/16.

Yn 2014/15 parhaodd y Gwasanaethau Plant i weithio'n agos gydag Addysg i wella canlyniadau addysg ar gyfer plant sy'n derbyn gofal. Mae’r cyfraddau presenoldeb ar gyfer plant sy'n derbyn gofal yn yr ysgol gynradd ac uwchradd wedi gwella i 96.9% o 94.7% a 93.6% o 91.5% yn y drefn honno. Nid oedd unrhyw waharddiadau parhaol am y 4edd flwyddyn yn olynol a lleihaodd nifer cyfartalog y diwrnodau gwaharddiad cyfnod penodol i 4.9 o 6.6.

Page 23: 15.08.27 Director's Report 2014-15 v3.0 Cabinet - Welsh

23

Mewn perthynas â chyrhaeddiad, arhosodd cyflawniad Dangosydd Pwnc Craidd (Mathemateg, Gwyddoniaeth a Saesneg/ Cymraeg) yng Nghyfnod Allweddol 2 yr un fath ar 65% (15/23 yn 2014/15 a 13/20 yn 2013/15), tra bod perfformiad ar Gyfnod Allweddol 3 wedi gwella i 37.0% (10/27) o 35.9% (14/39).

Fodd bynnag, cynyddodd nifer y symudiadau ysgol nad ydynt yn rhai trosiannol ar gyfer plant sy'n derbyn gofal i 17.8% (68/382) o 13.3% (44/331) yn 2013/14. Oherwydd y cynnydd yn nifer y plant sy'n derbyn gofal yn ystod y flwyddyn, cafwyd cynnydd o 51 blant sy'n derbyn gofal a oedd o oedran ysgol gorfodol. Rydym hefyd yn ymwybodol bod 26 o blant ychwanegol wedi eu lleoli i'w mabwysiadu, neu wedi’u mabwysiadu, yn ystod y flwyddyn felly bydd rhai o'r symudiadau hyn wedi bod am resymau positif.

Hyfforddiant Arfer Gorau Cwblhawyd datblygu cyfres newydd o enghreifftiau CareFirst dan arweiniad ymarferwyr ar gyfer lles plant sy’n derbyn gofal, a chyflenwyd Hyfforddiant Arfer Gorau (eto o dan

Page 24: 15.08.27 Director's Report 2014-15 v3.0 Cabinet - Welsh

24

arweiniad ymarferwyr). Bu effaith y datblygiadau a hyfforddiant yn gadarnhaol iawn ar ymarferwyr oherwydd roeddynt yn gwerthfawrogi'r newidiadau a dysgu amdanynt oddi wrth y bobl sy'n 'gwneud y swydd'. Yr effaith ddisgwyliedig ar gyfer plant sy'n derbyn gofal yw y bydd cofnodi o ansawdd llawer gwell. Tynnwyd sylw at Hyfforddiant Arfer Gorau yng Nghymru yn Uwchgynhadledd Cymru ar Blant sy’n Derbyn Gofal yn Chwarter 4. Mae’r gwaith bron wedi’i gwblhau ar gyfres arall o ddogfennau yn ymwneud â Chynlluniau Llwybr a bydd hyfforddiant a arweinir gan ymarferwyr yn cael ei gyflenwi. Cryfhau Monitro Lleoliadau Mae Tîm Rheoli'r Gwasanaeth LAC yn parhau i adolygu achosion o blant mewn gofal preswyl neu tu allan i'r ardal yn fisol i sicrhau bod lleoliadau newydd yn cael eu canfod ar gyfer unrhyw blentyn neu berson ifanc y gellir diwallu eu hanghenion yn well drwy eu dychwelyd i leoliad yn ardal Caerdydd neu i leoliad maethu. Yn 2014/15 roedd y gwasanaeth yn llwyddiannus wrth ddychwelyd 6 o blant o leoliadau tu allan i'r ardal ac yn ogystal gwireddwyd arbedion o £365,000. Mae rheolwyr hefyd yn cynnal ymweliadau monitro â lleoliadau i gryfhau ein trefniadau sicrhau o ran addasrwydd lleoliadau, diogelu a gwerth am arian. Cynllun Maethu Uwch Bu staff allweddol o fewn y Gwasanaeth Plant sy'n Derbyn Gofal yn ymwneud yn y broses gomisiynu a thendro ar gyfer y Cynllun Maethu Uwch. Bydd y cynllun yn weithredol yn gynnar yn 2015/16. Yr effaith ar y staff dan sylw oedd perchnogaeth y cynllun sy'n hanfodol i’r cynllun lwyddo. Yr effaith ddisgwyliedig ar blant a phobl ifanc yw'r cyfle i 'gamu i lawr' o ofal preswyl/ peidio mynd i ofal preswyl, ac i fyw yn agosach i'r cartref mewn lleoliad teulu gyda chefnogaeth gofleidiol. Yr effaith ddisgwyliedig ar y gwasanaeth yw gwireddu arbedion sylweddol yn y gyllideb. Trefnodd a chyflwynodd Rheolwyr Tîm LAC 14+ ddau ddiwrnod datblygu ar gyfer staff yn y gwasanaeth cyfan ac un ar y cyd â'r Gwasanaeth Ymgynghorydd Personol (YP), a chafodd y ddwy fenter effaith gadarnhaol iawn ar forâl ac ymarfer. Cynllun Hyfforddi Plant sy'n Derbyn Gofal y Cyngor Mae'r Cynllun Hyfforddi’r Cyngor ar gyfer Plant Sy'n Derbyn Gofal yn gwbl weithredol, gyda Chydlynydd wedi’i benodi yn Chwarter 4. Mae'r cynllun eisoes wedi cael effaith gadarnhaol iawn ar y 5 o bobl ifanc sy’n mwynhau lleoliadau, gyda 20+ o bobl ifanc yn aros am leoliadau. Bu Cyfarwyddiaethau’r Cyngor yn gefnogol iawn i'r cynllun ac i'r bobl ifanc. Roedd 56.1% (32/57) o'r rhai 19 oed sy'n gadael gofal mewn addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth yn 2014/15, o gymharu â 53.2% (25/47) yn 2013/14. Tai a Llety - Mentrau Newydd ar gyfer Plant sy'n Derbyn Gofal Roedd staff allweddol yn y tîm LAC 14+ yn rhan hanfodol o ddatblygu gwaith gyda Tai i ddatblygu amrywiaeth o lety sydd ar gael i bobl sy'n gadael gofal a phobl ifanc ddigartref. Cafwyd effaith gadarnhaol iawn o ran arbedion, gan leihau'r defnydd o lefydd gwely a brecwast i ddim, sy’n effaith gadarnhaol i bobl ifanc. Mae effaith gadarnhaol ehangach ar staff o ran morâl gan fod y berthynas rhwng y ddau faes gwasanaeth wedi gwella'n sylweddol, ac mae hyn yn ei dro wedi cael effaith gynyddol ar bobl ifanc. Roedd 91.2% (52/57) o'r rhai sy'n gadael gofal mewn llety addas nad oedd yn un brys yn 2014/15, o gymharu â 91.5% (43/47) yn 2013/14.

Page 25: 15.08.27 Director's Report 2014-15 v3.0 Cabinet - Welsh

25

Cydnabod Cyflawniad LAC Unwaith eto, cyflenwodd y gwasanaeth Seremoni Gwobrwyo 'Bright Sparks' i ddathlu cyflawniadau plant a phobl ifanc sy'n derbyn gofal a chydnabod cyfraniadau rhanddeiliaid allweddol i wella bywydau’r bobl ifanc hynny. Mae’r digwyddiad yn cael effaith gadarnhaol iawn ar bawb sy'n mynychu. Meysydd Datblygu yn 2015/16

Datblygu gwaith partneriaeth pellach gydag Addysg i wella canlyniadau addysg ar gyfer plant sy’n derbyn gofal a rhai sy'n gadael gofal.

Paratoi Strategaeth Plant sy'n Derbyn Gofal sydd â'r nod o wneud y profiad o dderbyn gofal neu adael gofal y gorau y gall fod o fewn yr adnoddau; hyrwyddo sefydlogrwydd; galluogi plant i ffurfio ymlyniadau cadarn a pharhaol; a gwella eu cyfleoedd bywyd a chanlyniadau, ar y cyd ag Addysg ac eraill..

Cyfrannu at ddatblygiad cynigion ar y cyd ag Iechyd a phartneriaid eraill i gefnogi a gwella iechyd plant sy’n derbyn gofal a’r rhai sy'n gadael gofal.

Gwella effeithiolrwydd Cynllunio Llwybrau i sicrhau bod pobl ifanc yn cael eu cefnogi yn eu pontio i oedolaeth.

4.3 ADNODDAU - GWASANAETHAU PLANT Mae adran Strategaeth, Comisiynu ac Adnoddau y Gyfarwyddiaeth yn cynnwys amrywiaeth o wasanaethau cymorth uniongyrchol a ddarperir yn fewnol, fel Maethu, Mabwysiadu, Llety â Chymorth, Cymorth i Deuluoedd a Gwasanaethau Ymyrraeth a'r Gwasanaeth Ymgynghorydd Personol. Mae'r maes gwasanaeth hefyd yn darparu ystod o wasanaethau sy'n cefnogi swyddogaethau allweddol Gwasanaethau Plant megis Dysgu a Datblygiad Staff, Cefnogi Busnes, Canfod Lleoliadau i Blant Sy'n Derbyn Gofal (LAC), a Pholisi a Pherfformiad. Yn ogystal, mae'r maes gwasanaeth yn gyfrifol am gomisiynu ystod o wasanaethau a ddarperir yn allanol ar gyfer plant sy'n derbyn gofal, megis maethu annibynnol a lleoliadau preswyl (drwy'r Uned Leoli fewnol), Eiriolaeth Annibynnol a Chynlluniau Ymwelydd Annibynnol, y Cynllun Gwell Gwasanaeth Maethu, a’r Gwasanaeth Cyswllt dan Oruchwyliaeth, a chymorth sesiynol a gwasanaethau seibiant dros nos ar gyfer plant anabl.

Page 26: 15.08.27 Director's Report 2014-15 v3.0 Cabinet - Welsh

26

Yn ystod y flwyddyn, ni oedd yr awdurdod lleol cyntaf yng Nghymru i gomisiynu Gwasanaeth Maethu Gwell sy’n Talu yn ôl Canlyniadau ar gyfer plant sy'n derbyn gofal a leolir mewn darpariaeth breswyl cost-uchel y tu allan i Gaerdydd. Bu hwn yn ddull arloesol o gomisiynu, gan gynnwys panel hyder o bobl broffesiynol/ defnyddwyr gwasanaeth fel rhan o'r broses werthuso. Mae’r Project LAC newydd yn cymryd ffurf Cynllun Maethu Gwell gyda chymorth therapiwtig cofleidiol a bydd yn weithredol yn ystod chwarter cyntaf 2015/16. Ail-gomisiynwyd y Gwasanaeth Eiriolaeth a’r Gwasanaeth Ymwelydd Annibynnol (IV) yn ystod y flwyddyn, a daeth y newid mewn darparwr â chyfleoedd yn ei sgil i gryfhau gwaith cyfranogi o fewn y gwasanaeth. Mabwysiadu Datblygodd y gwaith gyda Rhondda Cynon Taf (RhCT), Merthyr a Bro Morgannwg i ddatblygu Gwasanaeth Mabwysiadu Rhanbarthol gynnydd sylweddol yn ystod y flwyddyn gyda dyddiad lansio ar y 1af Mehefin 2015 i Wasanaethau Mabwysiadu Rhanbarthol y Fro, y Cymoedd a Chaerdydd newydd (VVC) a letyir gan Fro Morgannwg. Roedd y terfyn amser a osodwyd yn allanol ar gyfer sefydlu'r gwasanaeth yn heriol a chafwyd oedi na ellid ei osgoi wrth geisio cael y gwasanaeth mabwysiadu cydweithredol rhanbarthol newydd ar ei draed ac yn rhedeg. Cafodd hyn effaith ansefydlogi ar y gwasanaeth, gyda rhai aelodau o staff yn penderfynu chwilio am swydd arall, ond roedd hyn yn cael ei liniaru yn sylweddol drwy ddefnyddio dau reolwr asiantaeth mabwysiadu profiadol iawn a gafodd effaith gadarnhaol ac a ymbwyllodd y tîm. O ran perfformiad, mae'r tîm yn parhau i weithio'n galed i wella canlyniadau ac mae mwy o blant wedi cael eu lleoli i'w mabwysiadu a chafwyd mwy o ddarpar fabwysiadwyr nag yn y flwyddyn flaenorol, er gwaethaf y tarfu a achoswyd gan y newid i drefniant rhanbarthol. Bu Caerdydd yn llwyddiannus yn ei gais i gynnal elfennau canolog y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol (NAS) a oedd yn cynnwys penodi i 4 swydd yn y tîm canolog, gan gynnwys y Cyfarwyddwr Gweithrediadau, comisiynu’r wefan a gweithredu'r fframwaith perfformiad. Er gwaethaf amserlenni hynod heriol ar gyfer gweithredu, roeddem yn falch o lansio'r gwasanaeth ar 5ed Tachwedd 2014, gan gwrdd â holl ofynion Llywodraeth Cymru. Roedd y sylw cadarnhaol a gafwyd am lansiad y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol (NAS) ar y cyfryngau yn well na’r disgwyl, ac roedd y cyflawniadau sy'n gysylltiedig â lansiad yr NAS yn adlewyrchu'n dda ar allu Cyngor Dinas Caerdydd i gynnal gwasanaeth cenedlaethol mor bwysig. Rydym yn dechrau gweld yr effaith gadarnhaol y mae elfennau canolog yr NAS yn ei gael - yn enwedig mewn perthynas â hyrwyddo gwaith partneriaeth rhwng y rhanbarthau a'r Asiantaethau Mabwysiadu Gwirfoddol a thrwy'r sylw cadarnhaol ar y cyfryngau ar fabwysiadu y mae’r NAS wedi gallu ei hyrwyddo. Ar lefel leol, mae hyn wedi cael effaith sylweddol ar y niferoedd o bobl sy’n mynegi diddordeb mewn bod yn fabwysiadwyr ers i'r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol gael ei lansio ym mis Tachwedd 2014. Maethu Arolygwyd ein Gwasanaeth Maethu gan Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) ym mis Chwefror 2015. Nododd yr adroddiad arolygu y gwelliannau canlynol ers yr arolygiad blynyddol diwethaf:

Roedd y tîm rheoli wedi cryfhau. Ymgynghorwyd â phlant yn ystod ymweliadau cefnogi gofalwyr maeth.

Hefyd nododd y meysydd canlynol y mae’r gwasanaeth yn eu gwneud yn dda:

Page 27: 15.08.27 Director's Report 2014-15 v3.0 Cabinet - Welsh

27

Cadw grŵp profiadol o ofalwyr maeth. Elwa o grŵp staff brwdfrydig a phrofiadol.

Er bod rhywfaint o gynnydd wedi'i wneud i ddangos ansawdd y gwasanaeth a ddarperir a'r effaith ar blant a phobl ifanc, cydnabyddir bod llawer eto i'w wneud er mwyn i'r Gwasanaeth Maethu ddatblygu fframwaith perfformiad sy'n seiliedig ar ganlyniadau cadarn, a bydd hyn yn flaenoriaeth ar gyfer 2015/16. Mae gwaith wedi parhau ar yr ymgyrch recriwtio Maethu a chryfhawyd y brandio eleni drwy ddefnyddio storïau am ofalwyr maeth go iawn a sut y maent wedi gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau'r plant sy'n derbyn gofal y maent yn gofalu amdanynt. Mae'n siomedig nad yw'r ymgyrch wedi creu cynnydd sydyn yn y ffigyrau recriwtio ac ar adeg ysgrifennu'r adolygiad hwn, mae'r Gwasanaeth Maethu wedi recriwtio 5 o ofalwyr maeth prif ffrwd, a derbyniwyd 86 mynegiant o ddiddordeb. Roedd 2 ofalwr yn cael eu hasesu ar adeg ysgrifennu'r adroddiad. Ar yr un pryd mae nifer y plant a leolir mewn lleoliad maeth allanol wedi cynyddu. Yn ogystal, mae'r Gwasanaeth Maethu wedi cymeradwyo 2 ofalwr maeth sy'n berthnasau yn ogystal â'i ofalwyr prif ffrwd. Yn ychwanegol at recriwtio a chefnogi/ goruchwylio gofalwyr maeth prif ffrwd, dylid cydnabod fod y Gwasanaeth Maethu yn gwneud gwaith sylweddol ar asesu dichonoldeb aelodau o'r teulu yn dod yn ofalwyr maeth sy'n berthnasau. Cynhaliwyd 80 asesiad dichonoldeb ar y cyd gyda gweithwyr cymdeithasol Rheoli Achosion a chynhaliwyd project asesu dichonoldeb penodol eleni ar y cyd ag un o'r Timau Plentyn mewn Angen (CiN). Roedd hyn yn heriol o ystyried y galwadau ar y Gwasanaeth Maethu heb unrhyw adnoddau ychwanegol. Cynhaliodd y Gwasanaeth Maethu 17 asesiad dichonoldeb llawn yn ystod y project peilot. Rhwng 1af Ebrill 2014, a 31ain Mawrth 2015 derbyniwyd hefyd 13 o hysbysiadau newydd ynghylch trefniadau maethu preifat posibl. Cwblhaodd y Gwasanaeth Maethu 4 Asesiad Maethu Preifat llawn ac ar adeg ysgrifennu'r crynodeb hwn roedd ganddo 5 achos Maethu Preifat agored. Cydnabyddir y bydd angen gwneud gwelliannau parhaus mewn perthynas â chodi ymwybyddiaeth, gan fod y nifer o drefniadau Maethu Preifat sy’n hysbys ar hyn o bryd i Wasanaeth Maethu Caerdydd yn is na'r disgwyl. Disgwylir yn y dyfodol y bydd dull cynlluniedig cyson gan Gyngor Dinas Caerdydd i sicrhau bod Maethu Preifat yn cael ei hyrwyddo'n gadarnhaol ac yn gyhoeddus ar draws ei gynulleidfa darged yn codi ymwybyddiaeth o Faethu Preifat ymhellach, ac y bydd hyn yn dechrau cael ei adlewyrchu yn y ffigyrau a roddir yn yr Adroddiad Blynyddol ar Faethu Preifat ar gyfer 2015/16. Atal O fewn Partneriaeth Caerdydd, mae’r Gwasanaethau Plant wedi parhau i arwain ar y gwaith o ddatblygu Strategaeth Help Cynnar ac Atal. Yn ystod y flwyddyn, mae'r Grŵp Llywio amlasiantaeth hir sefydledig wedi datblygu fframwaith sy'n hyrwyddo ymyrryd yn gynnar ac i ymdrin â phroblemau sy'n dod i'r amlwg gan blant, pobl ifanc a'u teuluoedd, neu gyda’r boblogaeth sydd fwyaf mewn perygl o ddatblygu problemau, cyn gynted ag y bo modd. Disgwylir i'r Strategaeth gael ei lansio ym Medi 2015 yn dilyn cymeradwyaeth gan y Cyngor a sefydliadau partner a gynrychiolir ar y Bwrdd Rhaglen Plant a Theuluoedd sy'n Agored i Niwed. Mae'r Strategaeth Help Cynnar ac Atal yn cydnabod mai dull amlasiantaethol cydlynol sydd fel arfer orau i blant y mae eu hanghenion a'u hamgylchiadau’n eu gwneud yn fwy agored i niwed, ac mae gwaith wedi'i wneud i ddatblygu Llwybr Help Cynnar ar gyfer cael mynediad at wasanaethau ac Asesu Help Cynnar a’r Broses Gynllunio gyda Swyddog Proffesiynol Arweiniol i weithio'n agos gyda'r plentyn a'r teulu er mwyn sicrhau eu bod yn

Page 28: 15.08.27 Director's Report 2014-15 v3.0 Cabinet - Welsh

28

derbyn yr holl gymorth sydd ei angen arnynt. Mae'r dull yn dibynnu ar gael ystod o Wasanaethau Targedu i gefnogi’r ymyriadau hyn (e.e. Dechrau'n Deg, Teuluoedd yn Gyntaf). Mae'r dull yn cydnabod y bydd Gwasanaethau Arbenigol yn cael eu darparu os yw anghenion y plentyn mor fawr fel eu bod angen ymyrraeth statudol a/neu arbenigwr i'w cadw'n ddiogel neu i sicrhau eu datblygiad parhaus. Disgwylir felly, yn dilyn ei weithredu, y bydd y Strategaeth yn gwella canlyniadau i deuluoedd drwy ymyrryd yn gynnar. Disgwylir hefyd y bydd effaith y Strategaeth yn arwain at ostyngiad mewn atgyfeiriadau i'r Gwasanaethau Plant a gostyngiad o 55 ym mhoblogaeth LAC Caerdydd dros y 3 blynedd gyntaf y mae’r Strategaeth yn weithredol. Gwaith Datblygu Partneriaeth Strategol Mae gwaith wedi'i wneud yng nghyd-destun y Bwrdd Lleol Diogelu Plant (BLlDP) i amlinellu cyfleoedd posibl ar gyfer gweithio integredig ar draws Cynghorau Caerdydd a Bro Morgannwg a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro (BIP C&F) er mwyn cefnogi newid a datblygiad o ran y ffordd y mae gwasanaethau ar gyfer plant a phobl ifanc yn cael eu cyflwyno ar draws y ddwy ardal awdurdod lleol. Mae trafodaethau rhwng y ddau awdurdod lleol wedi cytuno ar yr ardaloedd a ystyriwyd gan y Pwyllgor Gwaith Bwrdd Lleol Diogelu Plant ym mis Tachwedd 2014, a chytunwyd y bydd cyllid teiran ar gael i sefydlu swydd Rheolwr Newid Busnes ar lefel RhG, i symud ymlaen flaenoriaethau canlynol y tri phartner statudol:

Plant ag Anabledd - i symud y gwaith o ddatblygu model gwasanaeth newydd ymlaen i'r cam nesaf yn seiliedig ar y cysyniadau allweddol sy'n gysylltiedig â model gwasanaeth 0-25 oed.

Gwasanaeth Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed (CAMHS) - i arwain gweithrediad newid gwasanaethau fel rhan o'r project gwella Iechyd Emosiynol a Meddyliol Caerdydd a'r Fro i hwyluso newid amlasiantaethol ac integreiddio gwasanaethau i Blant a Phobl Ifanc.

Drws Ffrynt - Ailfodelu rheoli atgyfeiriadau drws ffrynt ar drothwy’r Gwasanaethau Plant - er mwyn cefnogi datblygiad Canolbwynt Diogelu Amlasiantaeth neu fodel tebyg.

Ymyriadau Teuluol a Gwasanaeth Cefnogi Bu hon yn flwyddyn heriol i'r Gwasanaeth Ymyriadau a Chymorth Teuluol oherwydd bod dyfodol y gwasanaeth yn fregus yn sgil y pwysau ariannol ar y Gyfarwyddiaeth mewn blynyddoedd presennol ac i'r dyfodol. Mae ansicrwydd y dyfodol i’r Gwasanaeth Ymyriadau a Chymorth Teuluol yn golygu na fu modd llenwi swydd rheoli allweddol yn ystod y flwyddyn ac mae’r bylchau mewn gallu ac adnoddau rheoli wedi cyfyngu ar faint o waith datblygu y bu’n bosibl i’r gwasanaeth ei wneud. Yn yr un modd, golygodd dadgomisiynu’r gwasanaethau cymorth i deuluoedd allanol pwrpasol yn 2014/15 fod pwysau ychwanegol ar y gwasanaeth mewnol i gau rhai o'r bylchau a oedd yn deillio o’r golled, er enghraifft y Gwasanaeth Cynadleddau Grŵp Teulu, Gwasanaeth Arbenigol ar gyfer Teuluoedd Duon a Lleiafrifoedd Ethnig a Gwasanaethau Rhianta Arbenigol ar gyfer Rhieni ag Anawsterau dysgu. Mae'r cynnig i gomisiynu’n allanol y gwasanaeth cyswllt dan oruchwyliaeth yn 2015/16 hefyd wedi peri heriau i gynnal y gwasanaeth presennol cyn i’r gwasanaeth fynd allan i dendr. Mae'r Strategaeth Help Cynnar ac Atal newydd wedi ei chynllunio i ailffocysu partneriaid ar ffyrdd o ymdrin â'r bylchau hyn yn fwy effeithiol. Er gwaethaf yr heriau, mae’r Gwasanaeth Ymyriadau a Chymorth Teuluol yn parhau i fod yn ymatebol i anghenion teuluoedd, gan ddarparu ymyriadau rhianta sy'n seiliedig ar dystiolaeth, cyswllt dan oruchwyliaeth a gwasanaeth ar alwad tu allan i oriau sy'n cael ei reoli drwy'r Tîm Dyletswydd Argyfwng (EDT). Ceir tystiolaeth o’r effaith gadarnhaol y mae ymyriadau Gwasanaeth Ymyriadau a Chymorth Teuluol wedi eu cael ar deuluoedd i atal

Page 29: 15.08.27 Director's Report 2014-15 v3.0 Cabinet - Welsh

29

chwalu, cefnogi sefydlogrwydd lleoliadau i leoliadau maeth a hyrwyddo ailuno teuluoedd lle bu plant yn derbyn gofal. Nododd yr adborth a gafwyd gan deuluoedd fod ymyriadau’r Gwasanaeth Ymyriadau a Chymorth Teuluol wedi bod yn gadarnhaol o ran perthynas deuluol, ac mae’r data ystadegol yn awgrymu lefel o lwyddiant o ran lleihau'r angen am ymyriadau statudol megis yr angen i roi enwau plant ar y Gofrestr Amddiffyn Plant (CPR) neu i aros ar y Gofrestr Amddiffyn Plant. Mae’r Gwasanaeth Ymyriadau a Chymorth Teuluol hefyd wedi cynnal darnau allweddol o waith i ddatblygu'r Gwasanaeth LATCH, a bu lletya swyddi Gweithwyr Cymdeithasol LATCH a throsglwyddiad swyddi Gweithwyr Cymdeithasol LATCH o dimau Iechyd ac Anabledd Plant i’r Gwasanaeth Ymyriadau a Chymorth Teuluol yn gamp sylweddol eleni ac yn un sydd wedi cryfhau'r berthynas gyda'r Elusen LATCH, ac mae wedi cynyddu ei hyder yn y Gwasanaethau Plant i allu bodloni ei hanghenion yn briodol. Gadawyr Gofal Gwnaed gwaith sylweddol gyda'r Tîm LAC 14+, Adnoddau Gadawyr Gofal, cydweithwyr Tai, a phartneriaid allanol i ddatblygu llwybr llety i bobl sy'n gadael gofal a phobl ifanc digartref sy’n agored i niwed a rhaglen a fydd yn cefnogi pobl ifanc sy'n agored i niwed i ddatblygu'r sgiliau sydd eu hangen arnynt i fyw'n annibynnol yn llwyddiannus. Yn anffodus, nid yw'r gwaith hwn wedi symud ymlaen mor gyflym ag y byddem wedi ei ddymuno yn ystod y flwyddyn o ganlyniad i bwysau sy'n gwrthdaro, a diffyg capasiti swyddogion. Disgwylir y bydd y gwaith hwn yn mynd yn ôl ar y trywydd iawn yn chwarter olaf 2014/15 wrth i berthnasau gael eu hadfywio a'u cryfhau gyda chydweithwyr o’r adran Tai - partner allweddol yn y gwaith hwn. Cafodd y Project Llety ar y Cyd i Bobl Ifanc hwb newydd yn Chwefror 2015 pan gafodd ei ail-lansio fel project o fewn y Rhaglen Plant sy’n Agored i Niwed. Disgwylir cynnydd cyflym nawr bod statws y project wedi cael ei ddyrchafu. Disgwylir hefyd y bydd y gwaith agosach gyda chydweithwyr o’r adran Tai yn darparu cyfleoedd i’r Gwasanaethau Plant gael budd o adnoddau megis Cyllido Cefnogi Pobl. Er enghraifft, datblygwyd achos busnes i ddefnyddio ychydig o gyllid Cefnogi Pobl i wella capasiti yn ein Cynllun Llety â Chymorth. Bydd hyn yn ein galluogi i gamu i lawr mwy o bobl sy'n gadael gofal a phobl ifanc digartref sy’n agored i niwed o leoliadau rheoledig drud mewn modd mwy amserol, gan sicrhau eu bod yn derbyn y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt drwy drefniant llety â chymorth, i'w paratoi ar gyfer byw'n annibynnol. Mae'r Gwasanaeth Ymgynghorydd Personol (YP) wedi gweithio'n galed i recriwtio i swyddi gwag a chynyddu ei gapasiti yn ystod y flwyddyn. Mae penodi i ddwy uwch swydd YP newydd yn llwyddiant mawr, ac mae hyn wedi cryfhau'r trefniadau rheoli o fewn y tîm. Er bod recriwtio yn parhau, rhagwelir y bydd y tîm wedi’i staffio'n llawn ac yn gallu cynnig gwasanaeth i bob un o'r bobl ifanc sydd â hawl i YP erbyn Chwarter 2 2015/16. Rhoddodd yr adborth a ddarparwyd gan bobl ifanc yn ystod yr arolygiad LAC a wnaed yn ystod y flwyddyn dystiolaeth fod pobl ifanc ar y cyfan yn fodlon ar y gwasanaeth a dderbyniant gan eu YP a'u bod yn gwerthfawrogi'r berthynas sydd ganddynt â'u YP a'r gefnogaeth y mae maent yn eu derbyn. O ganlyniad i'r gwaith a wnaed gan y Panel Rhiant Corfforaethol yn ystod y flwyddyn yn ymwneud â Phontio, mae’r Cabinet wedi cytuno i gynyddu'r grant sy'n daladwy i'r rhai sy'n gadael gofal pan maent yn gadael gofal o £1,100 i £2,000.

Page 30: 15.08.27 Director's Report 2014-15 v3.0 Cabinet - Welsh

30

Eiriolaeth Mae'r arwyddion yn dangos bod y gwasanaeth eiriolaeth newydd yn gweithio'n dda. Mae ei gylch gwaith wedi cael ei ymestyn i ddarparu eiriolaeth i bob plentyn mewn angen sydd angen eiriolaeth yn ychwanegol at blant sy'n derbyn gofal a rhai sy'n gadael gofal, ac mae'r sefydliad wedi gweithio'n galed i godi ymwybyddiaeth o'r cynllun newydd fel bod gweithwyr proffesiynol a phlant a phobl ifanc yn ymwybodol o eiriolaeth a hawl i Ymwelydd Annibynnol ac yn gwneud y defnydd gorau o'r gwasanaeth. Meysydd Datblygu yn 2015/16

Ail-gomisiynu’r gwasanaeth cyswllt dan oruchwyliaeth i gwrdd yn well â'r lefel ac ystod o anghenion.

Gweithredu'r Cynllun Maethu Gwell i gynyddu'r ystod o wasanaethau yng Nghaerdydd a'r ardaloedd cyfagos ar gyfer plant sy'n derbyn gofal sydd ag ymddygiad heriol.

Ehangu'r ystod o ddewisiadau llety â chymorth i oedolion ifanc sy'n agored i niwed ar y cyd â Chymunedau er mwyn cynyddu'r dewis i bobl ifanc ac optimeiddio effeithlonrwydd ariannol.

Optimeiddio’r cyfleoedd i gydweithio ar draws y rhanbarth ac yn ehangach lle mae potensial i ddarparu gwasanaethau mwy effeithiol.

4.4 PLANT YN Y SYSTEM CYFIAWNDER TROSEDDOL Mae'r Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid (GTI) yn anelu at atal a lleihau troseddu ac aildroseddu gan bobl ifanc. Ar 31ain Mawrth 2015 roedd y Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid yn gweithio gyda 216 o bobl ifanc o dan 18 oed. Yn ystod y flwyddyn mae GTI wedi cefnogi nifer llai o newydd-ddyfodiaid tro cyntaf (CALl) - 133 o 187 yn 2013/14. Dechreuodd 130 o blant Orchmynion Llys statudol, dechreuodd 97 o blant Rybuddion a Rhybuddion Amodol ac aeth 15 o blant i’r ddalfa, o gymharu â 146, 137 a 19 yn y drefn honno yn 2013/14. Yn ystod 2014/15 mae’r GTI wedi hyfforddi 20 o wirfoddolwyr newydd ac wedi cyflenwi 3 noson hyfforddi i Ynadon Heddwch. Derbyniodd 14 o staff achrediad AET i ddarparu modiwlau addysg i bobl ifanc. Cytunwyd ar Strategaeth Remand gyda'r gwasanaethau rheoli achosion Gwasanaethau Plant. Ymwelodd yr Arolygiad Thematig Cenedlaethol Diogelu Cymunedol a Digwyddiadau Diogelu'r Cyhoedd â Chaerdydd ym mis Rhagfyr 2014, ar ôl ymweld â 30 o safleoedd yng Nghymru a Lloegr i gyd. Ffocws yr arolygiad oedd ystyried defnydd Caerdydd o Adolygiad Dysgu Estynedig (ELR) yn dilyn hunanladdiad person ifanc ym mis Chwefror at 2013. Roedd yr adborth yn cynnwys y canlynol:

Cydnabod bod y broses wedi dangos cydweithio partneriaeth cryf rhwng Gwasanaethau Plant a GTI.

Cydnabod bod y broses yn un briodol ac yn eiddo i Fwrdd Rheoli'r GTI a'r Bwrdd Lleol Diogelu Plant.

Page 31: 15.08.27 Director's Report 2014-15 v3.0 Cabinet - Welsh

31

Cydnabod bod pob un o'r uchod wedi’i ategu a gyda thystiolaeth trywydd archwilio clir ar bob pwynt a safle o lywodraethu.

Caerdydd oedd yr unig le ymhlith y 30 o safleoedd yr ymwelwyd â hwy yn genedlaethol a oedd yn defnyddio arfer gorau mewn perthynas â'r ELR.

Mae pob un o'r uchod wedi cynorthwyo gwelliant cyffredinol perfformiad yn erbyn dangosyddion perfformiad allweddol GTI yn arbennig y CALl’au yn dilyn rhai addasiadau mewn ymarfer gweithredol. Meysydd Datblygu yn 2015/16

Archwilio'r potensial am gydlyniad pellach rhwng y Strategaeth Help Cynnar ac Atal a Pholisi Atal a Chanllawiau Ymarfer y Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid (YOS)

Gorffen ailstrwythuro'r Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid yng nghyd-destun cyfleoedd i symud ymlaen ymhellach y cydweithio ac uno posibl gyda Bro Morgannwg.

Archwilio'r ffordd y mae'r Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid yn gweithio gyda genethod a menywod ifanc a nodi ystod o adnoddau rhyw-benodol.

Cwblhau archwiliad y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid (BCI) eleni mewn perthynas â gwaith atal a gwaith sy'n gysylltiedig â dioddefwyr a nodi unrhyw ddysgu o'r ymarfer.

Gyda chymorth y wybodaeth y bydd pecyn cymorth aildroseddu’r Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid yn ei gynnig i ni o’r 1af Ebrill, archwilio sut orau i leihau cyfraddau aildroseddu.

Integreiddio trefniadau sy'n gysylltiedig â chymryd cyfrifoldeb am Ganolfan Ymbresenoli Pobl Ifanc Caerdydd, i mewn i drefniadau rheoli’r GTI.

Page 32: 15.08.27 Director's Report 2014-15 v3.0 Cabinet - Welsh

32

4.5 CEFNOGI PLANT AG ANABLEDD YN EU PONTIO I OEDOLAETH Mae'n cael ei gydnabod yn eang bod y cyfnod o bontio o blentyndod i fod yn oedolyn yn brofiad a allai fod yn fwy heriol i berson ifanc ag anabledd dysgu a/neu nam ar y synhwyrau. Mae'r pwyslais ar wneud y newid mor esmwyth â phosibl, er mwyn sicrhau ei fod yn brofiad cadarnhaol ar adeg o newid sylweddol. Mae Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn darparu neu'n trefnu ystod o wasanaethau cefnogaeth yn ystod y cyfnod hwn o newid, gan gynnwys cymorth gwaith cymdeithasol, cyngor a gwybodaeth a chysylltu â’r gwasanaethau iechyd. Yn 2014/15, trosglwyddwyd 40 o achosion o’r Gwasanaethau Plant i Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Rydym wedi gweithredu proses weithredol fwy effeithiol o’r Gwasanaethau Plant i Iechyd a Gofal Cymdeithasol drwy:

Symleiddio'r grŵp pontio gweithredol i sicrhau bod yr holl wybodaeth yn cael ei rhannu am achosion pontio i’r dyfodol. Nodir yr achosion pontio a chynhelir cyfarfodydd gweithredol rheolaidd i adolygu trosglwyddo'r rhain ar draws y ddwy Gyfarwyddiaeth.

Cynnal a chwblhau adolygiad systemau cyfan o'r broses bontio. Bydd argymhellion i barhau i wella’r llwybrau ar gyfer pobl ifanc yn cael eu datblygu mewn cynllun ar y cyd rhwng y Cyfarwyddiaethau.

Gweithio gyda chydweithwyr yn Gyrfa Cymru, Coleg Caerdydd a’r Fro a thimau Iechyd ac Anabledd Plant i helpu i gefnogi’r rhai sy'n dymuno aros mewn addysg bellach leol

Yr effaith a fwriedir yw bod y person ifanc a'u teulu/ gofalwr (wyr) yn cael cefnogaeth lawn i wneud y dewisiadau iawn yn ystod y cyfnod sylfaenol hwn o newid. Meysydd Datblygu yn 2015/16

Gwella effeithiolrwydd y cymorth pontio ar gyfer plant anabl ac agored i niwed wrth iddynt agosáu at oedolaeth er mwyn sicrhau pontio esmwyth i oedolaeth.

Page 33: 15.08.27 Director's Report 2014-15 v3.0 Cabinet - Welsh

33

5. GWASANAETHAU I OEDOLION 5.1 ASESU A RHEOLI GOFAL Mae’r timau Asesu a Rheoli Gofal (ACM) (mewn partneriaeth ag Iechyd, Cyngor Bro Morgannwg a’r trydydd sector) yn sicrhau cyflenwi asesiad effeithiol o wasanaeth rheoli gofal i unigolion a'u teuluoedd, gan sicrhau mynediad at wasanaethau i ddiwallu eu hanghenion cymdeithasol. Mae hyn yn cynnwys comisiynu ystod o wasanaethau i ddiwallu anghenion cymwys, e.e. gofal yn y cartref a byw â chymorth. Ar 31ain Mawrth 2015, roedd 7,626 o oedolion yn hysbys i’r timau Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Roedd 3,566 yn byw gartref gyda phecynnau gofal cartref a threfnwyd lleoliadau gofal preswyl neu nyrsio i 1,078 o bobl. Rhai enghreifftiau o'r mathau o wasanaethau a ddarperir ar gyfer y 2,982 o oedolion eraill sy’n hysbys i Iechyd a Gofal Cymdeithasol yw:

Pobl ar y cam atgyfeirio, asesu neu gynllunio gofal sydd eto i dderbyn pecyn gofal. Oedolion sy'n derbyn pecyn gofal a gomisiynwyd drwy gyfranogiad iechyd a

gwasanaethau cymdeithasol, gan gynnwys pecynnau Gofal Iechyd Parhaus. Gofalwyr sy’n hysbys i'r gwasanaethau cymdeithasol sy'n cael cymorth, asesiadau

gofalwyr ac adolygiadau. Pobl sy’n agored i'r timau therapi galwedigaethol a thimau mewn ysbytai. Oedolion sy'n derbyn mewnbwn gan weithiwr cymorth lle mae gweithgareddau

cymunedol wedi cael eu sefydlu a'u monitro. Nifer o achosion sydd yn disgwyl i’w cau ar y system cofnodion cleientiaid.

Mae adroddiadau monitro gweithgarwch Asesu a Rheoli Gofal (ACM) misol newydd wedi cael eu rhoi ar waith ac wedi cael eu defnyddio ar gyfer gwella gweithredu a chynllunio strategol. 5.1.1 Gwasanaethau i Bobl Hŷn a Phobl Hŷn â Salwch Meddwl Yn darparu swyddogaeth asesu a rheoli gofal ac ymyrraeth gwaith cymdeithasol i ddefnyddwyr gwasanaeth, lle mae anghenion parhaus cymhleth a chymorth amlddisgyblaethol i bobl hŷn ag anghenion iechyd meddwl, gan gynnwys dementia. Mae'r timau yn cynnwys gweithwyr cymdeithasol, nyrsys a seiciatryddion. Nifer y bobl 65 oed neu drosodd a oedd yn cael cefnogaeth ar 31ain Mawrth 2015 oedd 3,427, yn cynnwys 537 o bobl hŷn gyda salwch meddwl. Cyfradd y bobl hŷn (65 oed neu hŷn) a gynorthwywyd i fyw gartref fesul 1,000 o'r boblogaeth sy'n 65 oed neu drosodd ar 31ain Mawrth 2015 oedd 44.12. Nodwch fod y DP hwn wedi cael ei nodi gan Swyddfa Archwilio Cymru (SAC) fel un sy’n anaddas ar gyfer meincnodi oherwydd bod awdurdodau lleol yn defnyddio canllawiau gwahanol. Cyfradd y bobl hŷn (65 oed neu drosodd) y mae'r awdurdod yn rhoi cymorth iddynt mewn cartrefi gofal fesul 1,000 o'r boblogaeth 65 oed neu hŷn ar 31ain Mawrth 2015 oedd 18.00.

Page 34: 15.08.27 Director's Report 2014-15 v3.0 Cabinet - Welsh

34

Er mwyn sicrhau bod y gwasanaeth yn parhau i gwrdd â'i ddisgwyliadau darparu gwasanaethau yn ystod 2014/15 rydym wedi:

Cyflenwi gweithrediad Asesu Integredig llwyddiannus ar 30ain Ebrill 2014. Arweiniodd hyn at broses asesu symlach ar gyfer pobl hŷn.

Ail-gyflunio timau asesu a rheoli achosion a thimau adolygu ym mis Tachwedd 2014 i facsimeiddio capasiti.

Ym mis Hydref 2014 dyfarnwyd y contract partneriaeth Trydydd Sector i "Age Connects". Mae'r project hwn wedi cael llwyddiant mawr o ran nodi a recriwtio gwirfoddolwyr sydd wedyn yn cael eu paru ag unigolion yn y gymuned er mwyn helpu i ymdrin ag ynysu cymdeithasol.

O ran symud ymlaen gyda chynlluniau ar gyfer integreiddio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol i bobl hŷn sydd ag anghenion cymhleth; yn ystod 2014/15 ac mewn partneriaeth â'r Asiantaeth Gwella Gwasanaethau Cymdeithasol (SSIA), Iechyd a Bro Morgannwg, datblygodd y Cyngor raglen hyfforddiant dementia ar gyfer staff ail-alluogi i'w cefnogi wrth weithio gyda phobl â dementia.

Mae'r gwasanaeth hefyd wedi cyfrannu at y cynllun dementia 3 blynedd ac mae’n parhau i weithredu ei Strategaeth Pobl Hŷn.

Y canlyniad a fwriedir o’r uchod yw parhau i gyflenwi proses asesu ansawdd sy'n diwallu anghenion pobl ac yn cadw pobl yn ddiogel - gan gynnwys canolbwyntio ar unigolion â dementia. Meysydd Datblygu yn 2015/16

Cynyddu nifer y bobl sy'n gallu aros yn eu cartrefi, i fyw'n annibynnol ac yn ddiogel, gyda'r ymyrraeth leiaf bosibl, er mwyn hyrwyddo eu hurddas.

5.1.2 Gwasanaethau i Bobl sydd â Nam Corfforol a Nam ar y Synhwyrau I ddarparu ymyrraeth gwaith cymdeithasol i ddefnyddwyr gwasanaeth, lle mae anghenion parhaus cymhleth, gan gynnwys pobl â nam ar y synhwyrau sy'n effeithio ar eu golwg, clyw, neu'r ddau.

Page 35: 15.08.27 Director's Report 2014-15 v3.0 Cabinet - Welsh

35

Nifer y bobl 18-64 oed sydd â nam corfforol a gefnogwyd ar 31ain Mawrth 2015 oedd 1,069. Nifer y bobl â nam ar y synhwyrau sy'n 18 oed a throsodd a gefnogwyd oedd 626. Canran y defnyddwyr 18-64 oed a gefnogwyd yn y gymuned yn ystod y flwyddyn oedd 91.97% (2,335 / 2,539) ar 31ain Mawrth 2015. Y gyfradd o oedolion dan 65 oed y mae'r awdurdod yn eu helpu i fyw gartref (fesul 1,000 o oedolion) sydd ag anabledd corfforol neu ar y synhwyrau oedd 2.12.

O fis Gorffennaf i fis Medi 2015 ac mewn partneriaeth ag Action on Hearing Loss a Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Deillion (RNIB) gwnaethom recriwtio a hyfforddi Gweithwyr Colli Synhwyrau, a aeth ati wedyn i weithio yn yr ysbyty rhwng mis Hydref a mis Tachwedd 2014. Rôl y Gweithiwr Colli Synhwyrau yw cefnogi pobl sydd wedi colli eu synhwyrau (colli clyw neu golli eu golwg, neu'r ddau) sydd yn yr ysbyty, fel eu bod yn dychwelyd adref yn gallu rheoli eu colled synhwyrau yn well a byw yn fwy annibynnol o ganlyniad. Hefyd gweithiodd Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn agos yn 2014/15 gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro i ddatblygu gwasanaethau byddar i wella mynediad i arwyddwyr Iaith Arwyddion Prydain (BSL) i'r Timau Iechyd Meddwl Cymuned (TIMC) ac i ddarpariaeth cleifion mewnol mewn ysbytai. Y canlyniad a fwriedir o’r uchod yw parhau i ddarparu proses asesu ansawdd sy’n diwallu anghenion pobl ac yn cadw pobl yn ddiogel - gan gynnwys canolbwyntio ar unigolion sydd â cholled synhwyrau. Meysydd Datblygu yn 2015/16

Cynyddu nifer y bobl sy’n gallu aros yn eu cartrefi, i fyw’n annibynnol ac yn ddiogel, gyda’r ymyrraeth leiaf bosibl, er mwyn hyrwyddo eu hurddas.

Gwelliannau i’r System Cofnodi Cleientiaid (CareFirst). 5.1.3 Gwasanaethau i Bobl â Salwch Meddwl Mae Cyfarwyddiaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cyngor Dinas Caerdydd yn gweithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro i ddarparu gwasanaethau iechyd meddwl i oedolion o oedran gwaith drwy 5 Tîm Iechyd Meddwl Cymuned (CMHT) a Thîm Iechyd Meddwl Fforensig Cymuned.

Page 36: 15.08.27 Director's Report 2014-15 v3.0 Cabinet - Welsh

36

Mae'r Timau Iechyd Meddwl Cymuned yn cynnig gofal amlddisgyblaethol a chynllun triniaeth i oedolion o oed gweithio sy'n byw gyda salwch meddwl difrifol ac asesiadau ac ymyriadau cyflym i oedolion sy'n profi argyfwng iechyd meddwl. Nifer y bobl a gefnogwyd gyda salwch meddwl ar 31ain Mawrth 2015 oedd 1,411. Mae pob CMHT yn derbyn cyfartaledd o 80 o atgyfeiriadau bob mis yn bennaf gan Feddygon Teulu a wardiau ysbytai. Mae 70% i 80% o'r bobl a atgyfeiriwyd i’r Timau Iechyd Meddwl Cymuned yn cael diwallu eu hanghenion yn ystod cyfnod asesu ymyriadau’r tîm, a chânt eu hatgyfeirio’n ôl yn ddiogel i ofal iechyd sylfaenol am driniaeth a monitro parhaus. Mae’r 20% i 30% sy'n weddill angen gofal iechyd meddwl eilaidd arbenigol a thriniaeth ddwysach gan y Timau Iechyd Meddwl Cymuned. Cyfradd yr oedolion dan 65 oed y mae'r awdurdod yn eu helpu i fyw gartref (am bob 1,000) o oedolion â salwch meddwl oedd 1.05, ar 31ain Mawrth 2015.

Yn ystod y flwyddyn rydym wedi parhau i gryfhau'r berthynas waith gyda'r nifer o bractisau meddygon teulu ar draws Caerdydd drwy gyfres o Ddiwrnodau Agored Tîm. Rydym hefyd wedi tendro am wasanaeth Cymorth Hyblyg newydd ar gyfer oedolion sydd â salwch meddwl sy'n byw yn eu cartrefi eu hunain a fydd yn galluogi pobl i fyw'n annibynnol tra'n cael eu cefnogi tuag at adferiad.

  

Rydym wedi diwygio cytundeb gwasanaeth presennol gyda sefydliad Trydydd Sector lleol i wella'r gwasanaeth y gallwn ei gynnig i ofalwyr a theuluoedd pobl gyda salwch meddwl. Y canlyniad a fwriedir o’r uchod yw parhau i ddarparu proses asesu ansawdd sy’n diwallu anghenion pobl ac yn cadw pobl yn ddiogel - gan gynnwys ffocysu ar fodel adfer i wella lles meddyliol. Meysydd Datblygu yn 2015/16

Ehangu'r ystod o ddewisiadau llety â chymorth ar gyfer oedolion ifanc sy'n agored i niwed.

5.1.4 Gwasanaethau i Bobl ag Anabledd Dysgu Mae'r Gwasanaeth Anabledd Dysgu yn wasanaeth amlddisgyblaethol gyda staff gwaith cymdeithasol, nyrsio a therapi yn cefnogi oedolion ag anabledd dysgu o 18 oed. Mae'r gwasanaeth hefyd yn cefnogi'r broses bontio i bobl ifanc sy’n symud o’r Gwasanaethau Plant i ofal cymdeithasol oedolion.

Page 37: 15.08.27 Director's Report 2014-15 v3.0 Cabinet - Welsh

37

Nifer y bobl a gefnogwyd gydag Anabledd Dysgu ar 31ain Mawrth 2015 oedd 1,122. Cyfradd yr oedolion dan 65 oed y mae'r awdurdod yn eu helpu i fyw gartref (fesul 1,000 o oedolion) ag Anableddau Dysgu oedd 3.05 ar 31ain Mawrth 2015.

Yn ystod y flwyddyn mae Cynllunio Gwasanaeth a phrosesau cydweithio wedi eu cryfhau yn sgil sefydlu Grŵp Gweithredu Anabledd Dysgu amlasiantaethol Caerdydd a Bro Morgannwg, gyda chylch gwaith i gyflawni blaenoriaethau strategol y Bwrdd Strategol Anabledd Dysgu. Mae Grŵp Llywio Anhwylderau'r Sbectrwm Awtistig ar y cyd (ASD) wedi datblygu cynllun gweithredu cadarn i gyflwyno'r Strategaeth ASD ar y cyd rhwng Cyngor Dinas Caerdydd, Bro Morgannwg, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, y trydydd sector, rhieni a defnyddwyr gwasanaeth. Mae'r Strategaeth Cyfleoedd Dydd ar gyfer Anabledd Dysgu 2014-17 wedi cael ei chyflawni ac rydym wedi cynyddu’r nifer o gyfleoedd dydd ystyrlon yn seiliedig ar y model 'dilyniant'. Sicrhawyd dyfarniad contract mewn perthynas â darpariaeth byw â chymorth i oedolion ag anabledd dysgu. Y canlyniad a fwriedir o’r uchod yw parhau i ddarparu proses asesu ansawdd sy’n diwallu anghenion pobl ac yn cadw pobl yn ddiogel - gan gynnwys ffocysu ar barhad gwasanaeth, gwell dewis ac ansawdd. Meysydd Datblygu yn 2015/16

Ehangu'r ystod o ddewisiadau llety â chymorth ar gyfer oedolion ifanc sy'n agored i niwed.

5.1.5 Gwasanaethau i Bobl â Phroblemau Camddefnyddio Sylweddau Mae'r gwasanaeth yn cynnig ymyriadau i bobl sydd â phroblemau cyffuriau ac alcohol a'u teuluoedd. Nifer y bobl a gefnogwyd gan y Tîm Alcohol a Chyffuriau Cymunedol (CADT) ar 31ain Mawrth 2015 oedd 55.

Page 38: 15.08.27 Director's Report 2014-15 v3.0 Cabinet - Welsh

38

Yn ystod y flwyddyn gwnaethom barhau i fod yn rhanddeiliaid yn y consortiwm Mynediad i Wasanaethau Cyffuriau ac Alcohol (EDAS). Ein blaenoriaeth yn ystod 2014/15 oedd sicrhau bod y 'daith' o EDAS mor ddi-dor a diogel â phosibl. Sefydlodd CADT wasanaeth i 5 unigolyn digartref ym mis Chwefror 2015. Cyflawnwyd hyn gyda Landlord Cymdeithasol Cofrestredig i nodi llety addas. Mae'r llety addas wedi helpu i wella'r canlyniadau ar gyfer yr unigolion hyn. Y canlyniad a fwriedir o’r uchod yw parhau i ddarparu proses asesu ansawdd sy’n diwallu anghenion pobl ac yn cadw pobl yn ddiogel - gan gynnwys ffocysu ar gefnogaeth a chynghori. Meysydd Datblygu yn 2015/16

Datblygu dull integredig gyda'r Uned Ddibyniaeth Gymunedol i wella canlyniadau ar gyfer pobl â Difrod Ymenyddol yn gysylltiedig ag Alcohol, drwy sefydlu clinig misol ar y cyd.

5.2 GWASANAETHAU AILALLUOGI I BOBL Mae ailalluogi yn wasanaeth byr a dwys, fel arfer wedi ei gyflenwi yn y cartref i helpu pobl sydd wedi dioddef dirywiad yn eu hiechyd a/ neu gynnydd yn eu hanghenion cymorth. Nod y tîm yw helpu pobl i adennill sgiliau neu ddysgu ffyrdd eraill o wneud pethau a fydd yn eu cadw'n ddiogel ac yn annibynnol yn eu cartrefi. Cynyddodd Gwasanaeth Ailalluogi y Cyngor y ganran y bobl sy'n cyflawni annibyniaeth lawn yn dilyn ailalluogi, i 76.6% (121/158) yn Chwarter 4 2014/15 o 70.8% (136/192) yn Chwarter 4 2013/14. Danfonwyd 8,880 o eitemau cyfarpar yn ystod 2014/15 a derbyniodd 337 o bobl gefnogaeth Teleofal barhaus.

O ran Oedi wrth Drosglwyddo Gofal, mae’r holl bartneriaid rhanbarthol (Cyngor Bro Morgannwg, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro) yn cyfarfod ar lefel strategol uwch yn gynnar yn 2015/16 i symud ymlaen gynlluniau i barhau i gyflawni ar osgoi derbyniadau ac i gytuno ar ailgynllunio proses fel y gellir rhyddhau cleifion yn gyflymach. Datblygwyd ‘Tŷ Technoleg’. Mae’r Tŷ Technoleg yn darparu cyfleuster hyfforddi unigryw sy'n dangos amrywiaeth o offer adsefydlu ac ailalluogi yn ogystal â chymhorthion sy'n hyrwyddo a chynnal bywyd annibynnol. Bydd y lansiad swyddogol ym mis Mehefin 2015.

Page 39: 15.08.27 Director's Report 2014-15 v3.0 Cabinet - Welsh

39

Cyflawnwyd cyd-leoliad 2 Dîm Adnoddau Cymunedol Caerdydd (CRTs) mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn 2014/15 ac mae gwaith yn parhau i wella integreiddio gwasanaethau. Mae'r CRT yn wasanaeth amlddisgyblaethol sy'n cynnwys gweithwyr proffesiynol gofal iechyd a chymdeithasol sy'n cefnogi dinasyddion Caerdydd i fyw yn ddiogel yn eu cartrefi ar ôl asesiad cychwynnol. Mae chwech o fflatiau wedi cael eu hailfodelu fel llety 'camu-i-lawr'. Mae'r fflatiau hyn wedi eu lleoli yn Nelson House, Minton Court a Fflatiau Lydstep. Mae'r project hwn wedi ei anelu at liniaru problemau sy'n gysylltiedig ag oedi wrth ryddhau cleifion a throsglwyddo gofal mewn ysbytai. Y canlyniad a fwriedir o'r uchod yw rhyddhau amserol ac annibyniaeth gynyddol yn y cartref. Meysydd Datblygu yn 2015/16

Cynyddu nifer y bobl sy’n gallu aros yn eu cartrefi, i fyw’n annibynnol ac yn ddiogel, gyda’r ymyrraeth leiaf bosibl, er mwyn hyrwyddo eu hurddas.

Gweithio gyda'n partneriaid iechyd i leihau cyfanswm nifer trigolion Caerdydd sy'n profi oedi wrth drosglwyddo o'r ysbyty.

Gweithredu'r rhaglen hyfforddiant ailalluogi dementia. 5.3 GWASANAETHAU TRAWSBYNCIOL 5.3.1 Integreiddio a Gweithio gyda Phartneriaid Er mwyn bodloni ein heriau y mae'n rhaid i ni gyflawni'r hyn rydym yn ei wneud yn fwy effeithlon. Mae hyn yn cynnwys cydweithio â'n partneriaid ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro (BIP C&F), Bro Morgannwg, rhanbarth De Ddwyrain Cymru a'r Trydydd Sector. Mae hyn eisoes wedi creu cyfleoedd cyffrous, e.e. cais llwyddiannus a gweithredu'r project 'Gateway ar gyfer Byw'n Annibynnol' Caerdydd a'r Fro. Yn ystod y flwyddyn rydym wedi gweithio mewn partneriaeth â rhanddeiliaid eraill i amddiffyn oedolion sy'n agored i niwed rhag cael eu niweidio drwy ein cyfraniad parhaus ac ymrwymiad i raglen waith strategol y Bwrdd Diogelu Oedolion rhanbarthol. Mae Cyngor Dinas Caerdydd wedi gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Bro Morgannwg, BIP C&F a phartneriaid y Trydydd Sector i gynhyrchu'r Cynllun Dementia 3 Blynedd ar y cyd â defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr. Lansiwyd y Cynllun ym mis Gorffennaf 2014 ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd. Buom yn gweithio mewn partneriaeth ag Age Connects i helpu ymdrin ag ynysu cymdeithasol a darparu cymorth i grwpiau cymunedol bach. Mae grŵp arweinyddiaeth newydd wedi'i sefydlu i ymdrin ag Oedi wrth Drosglwyddo Gofal, sy'n cynnwys Aelodau Cabinet Cyngor Bro Morgannwg a Dinas Cyngor Caerdydd, Cadeirydd y BIP C&F a swyddogion perthnasol eraill. Yn ystod 2014/15 ac mewn partneriaeth â'r Asiantaeth Gwella Gwasanaethau Cymdeithasol (SSIA) rydym wedi datblygu Rhaglen Hyfforddi Ailalluogi Dementia er mwyn

Page 40: 15.08.27 Director's Report 2014-15 v3.0 Cabinet - Welsh

40

sicrhau bod y staff sy'n gweithio mewn lleoliadau cymunedol gyda’r holl wybodaeth a'r sgiliau angenrheidiol i gefnogi pobl â dementia. Bydd y Cyngor yn cyflwyno Rhaglen Hyfforddi Ailalluogi Dementia (ar gyfer gweithwyr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol a staff gofal cartref) o fis Ebrill/ Mai 2015 ymlaen. Mae'r cyd-leoliad y 2 Dîm Adnoddau Cymunedol (CRTs) yng Nghaerdydd gyda BIP C&F wedi gwella gwaith partneriaeth rhwng y sefydliadau, gan alluogi penderfyniadau i gael eu gwneud yn fwy effeithlon. Yn ystod 2014/15, parhaodd y Gyfarwyddiaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol i integreiddio gwasanaethau Anabledd Dysgu ymhellach drwy gyfeiriad a blaenoriaethau’r Bwrdd Strategol Anabledd Dysgu, ac mae hefyd yn gweithio gyda'r BIP C&F i ddatblygu model o Ofal Iechyd Meddwl Cymuned i wella effeithlonrwydd o fewn y timau. Mae’r Gronfa Byw'n Annibynnol (ILF) i fod i gau ar 30ain Mehefin 2015. Rydym wedi gweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru a'r ILF yn ystod y cyfnod trosglwyddo, a rhoddwyd cefnogaeth i dderbynwyr ILF gan weithwyr cymdeithasol dynodedig sy'n arwain ar y gwaith. Rydym wedi gweithio mewn partneriaeth â'r BIP C&F a Chyngor Bro Morgannwg i wella llywodraethu trwy’r Bwrdd Partneriaeth Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid (DoLS) ac i ddadansoddi galw, gan flaenoriaethu gweithredu i gyflawni Asesiadau DoLS yn dilyn Dyfarniad y Llys Goruchaf Rydym wedi gweithredu a chyflenwi projectau’r Gronfa Cydweithredu Rhanbarthol (RCF) a Chronfa Phrojectau Gofal Canolraddol (ICF), ac rydym wedi dechrau gweithio i weithredu proses weithredol fwy effeithiol ar gyfer trosglwyddo o Wasanaethau Plant i Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar gyfer unigolion ag anableddau dysgu. Y canlyniad a fwriedir o’r uchod yw gweithio gyda phobl a phartneriaid i ddylunio, cyflenwi a gwella gwasanaethau. Meysydd Datblygu yn 2015/16

Gweithio gyda phartneriaid BIP ar ddatblygu’r model 'Rhyddhau i Asesu', trwy wella'r Tîm Adnoddau Cymunedol, gyda phwyslais ar fan preswyl arferol yr unigolyn fel yr amgylchedd gorau posibl i gwblhau eu hasesiad integredig, a thrwy hynny wella canlyniadau a lleihau Oedi wrth Drosglwyddo Gofal.

5.3.2 Comisiynu Yn ystod 2014/15 rydym wedi gweithredu 'Proactis' (System Tendro Electronig) i wella'r sefyllfa marchnad cartrefi gofal a nyrsio i bobl hŷn. Cyflwynwyd y system rhestr darparwyr achrededig 'Matrics' (APL) i wella comisiynu gofal cartref ar gyfer yr holl grwpiau defnyddwyr gwasanaeth ym mis Gorffennaf 2014, a bydd yn cyflenwi gwasanaethau gofal mwy personol a dewis ehangach o wasanaethau i bob dinesydd. Rydym wedi ail-dendro contract gwasanaeth byw â chymorth allanol ar gyfer pobl ag Anabledd Dysgu, ac yn ychwanegol at hyn, mae'r Strategaeth Cyfleoedd Dydd ar gyfer Anabledd Dysgu 2014-17 wedi cael ei gytuno a Blwyddyn 1 wedi ei chyflenwi.

Page 41: 15.08.27 Director's Report 2014-15 v3.0 Cabinet - Welsh

41

Cytunwyd ar y Strategaeth Gomisiynu Pobl Hŷn yn 2014 ac mae'n gweithio ochr yn ochr â 'Bywydau Ystyrlon & Phwrpasol: Fframwaith ar gyfer Pobl Hŷn; Caerdydd a Bro Morgannwg 2014-24’. Mae hon yn ddogfen partneriaeth sy’n cefnogi cynllun 5 mlynedd ar gyfer Pobl Hŷn. Mae'r Strategaeth Gorfforol a Synhwyrau yn parhau i gael eu darparu drwy ei chynllun gweithredu 3 blynedd. Nid ydym wedi gallu cwblhau'r gwaith o ddatblygu Strategaeth Comisiynu Iechyd Meddwl yn ystod 2014/15, ond rydym wedi cydweithio'n agos â Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro wrth ddatblygu 'Law yn Llaw at Strategaeth Iechyd Meddwl' Caerdydd a'r Fro a'r Cynllun Cyflawni sy'n nodi cyflawniadau a blaenoriaethau ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl ar draws grŵp rhanddeiliaid eang. Ym mis Hydref 2014 dyfarnwyd contract partneriaeth Trydydd Sector i "Age Connects" ar gyfer project peilot 12 mis, sy'n mapio’r adnoddau trydydd sector sydd ar gael i bobl hŷn. Y canlyniad a fwriedir o’r uchod yw gwella canlyniadau i bobl - gwerth am arian, ansawdd gwell a mwy o ddewis. Meysydd Datblygu yn 2015/16

Cynnal adolygiad o Wasanaethau Dydd sy'n darparu gwasanaeth cynaliadwy sy'n diwallu anghenion y defnyddwyr.

Adolygu a dadansoddi manteision projectau caffael y flwyddyn flaenorol i ystyried ffyrdd mwy effeithiol ac effeithlon o gomisiynu gwasanaethau yn 2015/16.

5.3.3 Taliadau Uniongyrchol Taliadau Uniongyrchol yw taliadau rheolaidd a wneir i bobl ag anghenion gofal neu i berson addas a enwir, fel y gall unigolion wneud dewisiadau am y ffordd y maent yn derbyn eu gofal a chymryd rheolaeth o'u gwasanaethau gofal yn uniongyrchol. Ar y cyfan mae’r nifer sy’n manteisio ar Daliadau Uniongyrchol wedi gwella dros y flwyddyn gan gynyddu 9.78% (o 501 yn 2013/14 i 550 yn 2014/15); yn arbennig ar gyfer pobl ag anableddau dysgu lle mae'r cynnydd ar gyfer y grŵp hwn wedi bod yn 35.71% (o 70 yn 2013/14 i 95 yn 2014/15). Ar 31ain Mawrth 2015, roedd cyfanswm yr oedolion sy'n defnyddio Taliadau Uniongyrchol yn 550, gyda 51 o bobl ychwanegol wedi’u cadarnhau fel rhai sy’n 'Gweithio tuag at Daliadau Uniongyrchol'. Yn ystod y flwyddyn buom yn gweithio'n agos gyda'n darparwr cymorth Taliadau Uniongyrchol er mwyn sicrhau bod gan bobl y wybodaeth a'r help sydd eu hangen arnynt i reoli eu Taliadau Uniongyrchol. Mae trafodaethau’n parhau gyda'n darparwr cymorth i gytuno ar welliannau i wasanaethau, e.e. system ffurfiol Gwasanaeth Paru Cynorthwyydd Personol (PAMS) sy'n sicrhau fod pwll wrth gefn o Gynorthwywyr Personol ar gael i ddinasyddion Caerdydd sydd eisoes ar y cynllun Taliadau Uniongyrchol, y gellir eu paru yn addas at eu hanghenion i ymdrin â sefyllfaoedd cynlluniau wrth gefn. Y canlyniad a fwriedir o’r uchod yw bod pobl yn cael eu grymuso i gael mwy o reolaeth dros y gofal a'r cymorth a dderbyniant, i'w helpu i fyw yn fwy annibynnol

Page 42: 15.08.27 Director's Report 2014-15 v3.0 Cabinet - Welsh

42

Meysydd Datblygu yn 2015/16

Cynyddu’r nifer sy’n manteisio ar Daliadau Uniongyrchol fel dull amgen i ddarparu gofal uniongyrchol i drigolion Caerdydd.

6. Y CYD-DESTUN SEFYDLIADOL 6.1 CYLLID 6.1.1 Gwasanaethau Plant Mae'r sefyllfa alldro ar gyfer Gwasanaethau Plant am 2014/15 yn dangos gorwariant o £2,312,000 o gymharu â £570,000 yn 2013/14. I raddau helaeth, mae’r newid yn adlewyrchu'r cynnydd mewn lleoliadau allanol, costau cymorth Gadael Gofal, costau cyfreithiol allanol uwch a ffioedd llys, ffioedd Mabwysiadu a lwfansau ychwanegol, a chost ymestyn y gwasanaeth gwaith cymdeithasol a reolir yn allanol (£225,000). Yn ystod y flwyddyn, cyflawnodd y Gwasanaethau Plant £2,516,000 o arbedion. Bu twf digyffelyb yn nifer y plant sy'n mynd i mewn i'r system derbyn gofal gyda 37 yn fwy o blant angen maethu yn ystod y flwyddyn ar gost lleoliadau cyfartalog fesul lleoliad o £37,000 y flwyddyn. Roedd hefyd gynnydd graddol yn nifer y lleoliadau preswyl yn 2014/15 (59 ar 31ain Mawrth 2015 o gymharu â 52 ar 31ain Mawrth 2014). Mae'r gorwariant ar fabwysiadu yn adlewyrchu cynnydd yn y lwfansau a ffioedd yn dilyn cynnydd sylweddol yn y niferoedd o roddwyd i’w mabwysiadu yn 2013/14 a 2014/15 - rhoddwyd 45 o blant yn 2014/15, o gymharu â 29 yn 2013/14 a 16 yn 2012/13. Fodd bynnag, mae'r gwariant cynyddol ar fabwysiadu wedi atal gwariant ychwanegol ar ffurfiau mwy costus o ofal. 6.1.2 Cyllid – Iechyd a Gofal Cymdeithasol Mae'r sefyllfa alldro ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar gyfer 2014/15 yn dangos gorwariant o £5,242,000. Cyflawnwyd cyfanswm arbedion o £3,229,000 yn erbyn y targed arbedion o £6,213,000, gan adael diffyg o £2,984,000 yn y flwyddyn ariannol. Caiff hyn ei adlewyrchu yn sefyllfa alldro’r Gyfarwyddiaeth. Roedd y gorwariant yn adlewyrchu pwysau ar wasanaethau a gomisiynir yn allanol ar gyfer pobl hŷn, pobl ag anableddau dysgu, pobl ag anableddau corfforol a gwasanaethau iechyd meddwl. Mae hefyd yn adlewyrchu cynnydd yn y lefel o oriau gofal a ddarperir drwy Daliadau Uniongyrchol ar draws y gwasanaeth (10% +) yn ystod 2014/15, serch bod y twf cyfunol gofal cartref ac oriau Taliadau Uniongyrchol yn llai nag mewn blynyddoedd blaenorol. Bydd ymateb i bwysau’r gyllideb a'r galw y mae'r Cyngor a'i bartneriaid yn y sector cyhoeddus yn ei wynebu yn ystod 2015/16 yn golygu ail-ddylunio cyflenwad a chomisiynu gwasanaethau i’r dyfodol. Meysydd Datblygu yn 2015/16

Integreiddio'n llawn Gynlluniau Busnes y Gyfarwyddiaeth, cynlluniau gwella cysylltiedig a strategaethau ataliol allweddol yn fwy effeithiol â'r Cynllun Ariannol Tymor Canolig.

Page 43: 15.08.27 Director's Report 2014-15 v3.0 Cabinet - Welsh

43

Gwireddu ymrwymiad arbedion2015/16. Lliniaru twf pellach yn y nifer o blant sy'n mynd i'r system derbyn gofal. Sicrhau bod mesurau yn eu lle i liniaru pwysau’r galw mewn perthynas â gofal

cymdeithasol i oedolion 6.2 GWEITHLU Mae Caerdydd wedi parhau i weithio'n agos gydag ystod eang a hir-sefydlog o bartneriaid, yn ogystal â datblygu mentrau newydd gydag eraill megis Cefnogi Arloesedd Gwasanaethau Cyhoeddus drwy ddefnyddio Dylunio yn Rhanbarthau Ewrop (SPIDER). Yn ddiweddar penodwyd rheolwr hyfforddiant Caerdydd i fwrdd Gofal Cymdeithasol strategol ym Mhartneriaeth y De Ddwyrain (SCIPSE). Yn 2014/15 bu ail-alinio staff yn y ganolfan hyfforddi er mwyn symleiddio swyddogaethau ac atgyfnerthu adnoddau. Parhaodd y ganolfan hyfforddi i hwyluso ystod eang iawn o raglenni parhaus a newydd fel a ganlyn:

Rhaglen hyfforddiant a datblygu gadarn a chydweithredol y Bwrdd Lleol Diogelu Plant.

Hyfforddiant ar y cyd a rhaglen ddatblygu gyda Bro Morgannwg i wneud y gorau o adnoddau gan gynnwys y Tîm Integredig Cymorth i Deuluoedd; Timau Iechyd Meddwl; Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro; hyfforddiant ar y cyd ar Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru) 2014; Hyfforddiant sy'n Ffocysu ar Unigolion; datblygu hyfforddiant i gefnogi Bwrdd Diogelu Oedolion Caerdydd a’r Fro newydd; Rhaglen Sefydlu Maethu ar y cyd newydd.

Mae cryfhau cydweithio rhanbarthol ar draws De Ddwyrain Cymru hefyd yn parhau i chwarae rhan sylweddol, yn cynnwys cyflwyno hyfforddiant Llawlyfr Asesu Rhiant (PAM) a hyfforddiant Sgiliau Llys ac Amlinelliad o Gyfraith Gyhoeddus (PLO)/ Adolygiad Cyfiawnder Teuluol. Mewn datblygiad cyffrous eleni rydym wedi bod yn gweithio gyda'r Asiantaeth Gwella Gwasanaethau Cymdeithasol (SSIA) i ddatblygu adnodd hyfforddi dementia ar gyfer ailalluogi er mwyn sicrhau bod y staff sy'n gweithio mewn lleoliadau cymunedol gyda’r holl wybodaeth a'r sgiliau angenrheidiol i gefnogi pobl ag dementia. Yn ogystal, mae cyflwyno hyfforddiant o fewn y Cyfarwyddiaethau wedi cefnogi rhaglenni allweddol o ddatblygiad gan gynnwys:

Gweithredu 'Dull Cymru Gyfan o symleiddio Asesiad Unedig' ar gyfer pob aelod o staff Iechyd a Gofal Cymdeithasol perthnasol.

Cefnogi cyflwyno Strategaeth Recriwtio a Chadw Staff y Gwasanaethau Plant, yn enwedig mewn perthynas â hyrwyddo Caerdydd gyda myfyrwyr lletyol, ffeiriau recriwtio a phartneriaid academaidd.

Secondiad hyfforddi Gweithiwr Cymdeithasol (12 o fyfyrwyr). Rhaglen Datblygu Rheolwyr Tîm SSIA. Rhaglen Cyfuno Gweithiwr Cymdeithasol (12).

Mae perfformiad o ran Adolygiadau Perfformiad Personol a Datblygu (PPDRs) wedi gwella gyda 88% a 84% o gydymffurfiaeth â chwblhau'r taflenni amcanion a 83% a 87% o gydymffurfiad gydag adolygiadau bob 6 mis wedi’u cyflawni gan y Gwasanaethau Plant ac Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn y drefn honno, ar adeg ysgrifennu. Rydym yn cydnabod fod lle ar gyfer perfformiad gwell fyth a bod ansawdd a chynnwys PPDRs angen sylw er

Page 44: 15.08.27 Director's Report 2014-15 v3.0 Cabinet - Welsh

44

mwyn sicrhau bod eu bod yn gosod amcanion ystyrlon sy’n cyd-fynd yn effeithiol â blaenoriaethau strategol. Rydym wedi cryfhau ein cysylltiadau gydag Academi Caerdydd dros y flwyddyn gan wneud system archebu ar-lein ar gael i gwsmeriaid allanol ac ehangu'r defnydd o hyfforddiant e-ddysgu gan staff y Gyfarwyddiaeth. Fel rhan o'n rôl o ran cynnal y sector gofal cymdeithasol cymunedol-eang rydym wedi gwneud ein hyfforddiant ar gael ac yn hygyrch i sefydliadau y tu allan i'r Cyngor, e.e. y trydydd sector a darparwyr annibynnol – mynychodd 2,726 o'r tu allan i'r Cyngor ein hyfforddiant yn y flwyddyn hyd at 31ain Mawrth 2015. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod ei bod yn amserol adfywio'r Bartneriaeth a Strategaeth Datblygu’r Gweithlu Gofal Cymdeithasol nawr ac mae Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Plant wedi cymryd rôl y Cyfarwyddwr Gweithlu Rhanbarthol dros Gaerdydd a Bro Morgannwg. Meysydd Datblygu yn 2015/16

Datblygu Strategaeth Gweithlu Rhanbarthol i Gaerdydd a Bro Morgannwg i gefnogi cyflenwad y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru) 2014.

Rhesymoli Partneriaeth Datblygu'r Gweithlu Gofal Cymdeithasol ar sail yr ôl-troed rhanbarthol ac mewn cydweithrediad ag Academi Caerdydd.

Datblygu Fframwaith Sicrwydd Ansawdd ar gyfer y Gwasanaethau Cymdeithasol i ddwyn ynghyd elfennau sicrwydd ansawdd ac elfennau dysgu gweithgareddau allweddol yn y Gyfarwyddiaeth.

Nodi'r gofynion hyfforddi a datblygu staff allweddol i alluogi’r gwasanaethau gwaith cymdeithasol gael eu mobileiddio’n fwy effeithiol.

Asesu anghenion hyfforddiant i ddarparu gwasanaeth dwyieithog yng Nghymru. Ymestyn elfennau hyfforddiant Strategaeth Recriwtio a Chadw y Gwasanaethau

Plant.

6.3 CWYNION A BODDHAD/CYFRANOGIAD CWSMERIAID 6.3.1 Cwynion Mae'n amlwg nad yw’r trefniadau presennol ar gyfer rheoli cwynion ar wahân mewn perthynas â phlant ac oedolion sy'n derbyn gwasanaethau cymdeithasol yn cefnogi ymagwedd gydlynol tuag at sicrwydd ansawdd ar draws y gwasanaethau cymdeithasol yn eu cyfanrwydd yn effeithiol, ac mae hyn yn rhwystro dysgu effeithiol o'u canlyniadau. O ganlyniad, mae perfformiad mewn perthynas â chwynion yn amrywiol. Mae dyfodiad Cyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol integredig newydd yn cynnig cyfle delfrydol i roi sylw i hyn a sefydlu swyddogaeth integredig unigol yn 2015/16. Plant Derbyniodd y Gwasanaethau Plant 195 o gwynion yn ystod 2014/15, cynnydd o 33% ar y 150 o gwynion a dderbyniwyd yn ystod 2013/14. Roedd cwynion gan blant a phobl ifanc yn ystod y flwyddyn yr un fath ar 26. Roedd 12 ymchwiliad Cam 2 yn 2014/15 o gymharu â 6 yn 2013/14 ac roedd 1 Panel Adolygu Cam 3, o gymharu â dim yn y flwyddyn flaenorol. Cafwyd 1 ymchwiliad gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru - y cyntaf ers 2009.

Page 45: 15.08.27 Director's Report 2014-15 v3.0 Cabinet - Welsh

45

Mae cwynion Cam 1 yn cael eu datrys yn gyflym ac yn effeithiol sy'n golygu mai dim ond canran fach o gwynion - 7% (14) sy’n symud ymlaen i Gam 2, Cam 3 neu i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Oedolion O ran oedolion, yn 2014/15 cawsom 56 o gwynion ffurfiol - gostyngiad o 14 o gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Cafodd tair o'r cwynion hyn eu tynnu'n ôl ar gais y defnyddiwr gwasanaeth. Themâu O'r cwynion a dderbyniwyd yn ystod 2014/15, nodwyd y themâu canlynol mewn perthynas â phlant ac oedolion:

Yr angen i ddarparwyr gofal wella ansawdd. Cyfathrebu gwael. Gweithwyr Cymdeithasol yn ymateb i alwadau. Oedi wrth ddarparu gwybodaeth neu wasanaethau. Defnyddwyr gwasanaeth yn anhapus gyda chanlyniad yr asesiadau

Meysydd Datblygu yn 2015/16

Archwilio systemau i nodi meysydd i'w gwella, yn arbennig ffocysu ar ymatebion amserol i ymholiadau a phryderon yn ystod 2014/15.

Creu Uned Gwynion Gwasanaethau Cymdeithasol integredig. Datblygu canllawiau arfer da i reolwyr ymateb i gwynion.

6.3.2 Boddhad/Cyfranogiad Cwsmeriaid Yn gyffredinol, mae'r Cyngor yn ymroddedig iawn i wella cyfranogiad gan blant a phobl ifanc wrth lunio blaenoriaethau'r Cyngor a'r agenda gyffredinol. Mae ein llwyddiant fel Cyngor cyfan yn hyn o beth yn cael ei gydnabod gan Lywodraeth Cymru, yn dilyn ymweliad gan yr Adran Llywodraeth Leol a Chymunedau a gyflwynodd sylwadau fel a ganlyn: "Roeddem yn falch iawn gyda'r lefel o ymrwymiad rhagweithiol i gyfranogiad a ddangosir yn Nghaerdydd ac yn enwedig gyda'r lefel o ymgysylltiad amlwg ar lefel strategol a gyda'r Aelodau. Roedd yn amlwg eich bod wedi symud ymlaen ers y newidiadau i'r Cabinet a bod y proffil a gwaith ynghylch cyfranogiad plant a phobl ifanc yn sicr yn flaenoriaeth gan eich awdurdod. Dangoswyd llawer o enghreifftiau ardderchog o arfer da a gwaith arloesol... ". Er nad ydynt yn ymwneud yn llwyr â phlant sy'n derbyn cymorth y gwasanaethau cymdeithasol, mae’r cynnydd hwn yn cynnig fframwaith gwych i ymgorffori cyfranogiad yng ngwaith y Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol, ac yn galluogi dull Cyngor cyfan tuag at yr agenda grymuso sy'n gynhenid yn y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru) 2014. Oedolion Yn ystod y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31ain Mawrth 2015, anfonwyd 3,572 o holiaduron; ymatebodd 1,141 gan roi cyfradd ymateb o 32%. Ymatebodd 1,050 o bobl i'r cwestiwn ynghylch bodlonrwydd gyda'r gofal cyffredinol a gefnogaeth a gawsant ac roedd 96% o'r rhain (1,006) yn dangos eu bod yn fodlon. Roedd lefelau boddhad yn amrywio o 75% i 100% ar draws y gwahanol arolygon.

Page 46: 15.08.27 Director's Report 2014-15 v3.0 Cabinet - Welsh

46

Mae rhaglen dreigl o arolygon Boddhad Cwsmeriaid wedi parhau yn ystod 2014/15. Eleni, cynhwyswyd saith o arolygon yn y rhaglen dreigl: Cyngor a Gwybodaeth (C2C), Asesu ac Adolygu (i Dimau Bobl Hŷn, Timau Nam Corfforol ac ar y Synhwyrau), Tîm Adnoddau Cymunedol, Asesiad Gofalwyr, Tîm Alcohol a Chyffuriau Cymunedol, Tîm Diogelu Oedolion sy’n Agored i Niwed a'r Tîm Therapi Galwedigaethol. Cynhaliwyd yr arolwg blynyddol ar gyfer y Gwasanaeth Dyletswydd Argyfwng hefyd. Rydym wedi ymestyn yr arolwg bodlonrwydd cwsmeriaid Asesu ac Adolygu i gynnwys Timau Anabledd Dysgu a'r Timau Gwasanaethau Iechyd Meddwl ar gyfer Pobl Hŷn. Eleni, rydym wedi dechrau defnyddio'r wybodaeth o'r arolygon i hysbysu'r Sgoriau Ansawdd Darparwyr ar gyfer Gofal yn y Cartref. Plant Yn ystod y flwyddyn, ymatebodd y Cabinet i Ddigwyddiad Gwrando a gynhaliwyd gan y Pwyllgor Craffu Plant a Phobl Ifanc. Gwnaed a derbyniwyd yr argymhellion canlynol:

Mae'n rhaid i'r Cabinet sicrhau bod y rhai sy'n gwneud penderfyniadau yn ymgysylltu'n rheolaidd â phlant sy'n derbyn gofal (gan gynnwys y rhai 11 oed ac iau) lle bynnag y bo modd er mwyn sicrhau bod eu barn yn cael ei chlywed yn ystod datblygu a gweithredu pob strategaeth gofal cymdeithasol, polisïau a chynlluniau a chynlluniau gofal unigol.

Dylai’r Gwasanaethau Plant ystyried y fformat hwn o ddigwyddiad gwrando fel fforwm effeithiol ar gyfer derbyn plant sy’n derbyn gofal 11 oed ac iau, i fynegi eu barn. Bydd Gwasanaethau Plant yn defnyddio'r dull hwn yn rheolaidd yn y dyfodol

Dylai'r Pwyllgor Craffu Plant a Phobl Ifanc a /neu'r Pwyllgor Ymgynghorol Rhianta Corfforaethol barhau i gynnal digwyddiadau gwrando rheolaidd gyda grwpiau gwahanol o blant sy'n derbyn gofal er mwyn helpu i ddeall eu persbectif ar feysydd i'w gwella ym maes gofal cymdeithasol.

Dylai’r Gwasanaethau Plant ddatblygu dulliau ychwanegol o ymgysylltu gyda phlant iau sy'n derbyn gofal, er mwyn eu galluogi i fod yn ymwybodol o adolygiadau LAC, a chymryd rhan weithredol ynddynt ac mewn cyfarfodydd a phenderfyniadau sy'n effeithio arnynt.

Mewn perthynas â'r Adroddiad Cyfarwyddwr hwn, bu’r uwch reolwyr, ochr yn ochr ag aelodau o'r Pwyllgor Ymgynghorol Rhianta Corfforaethol, yn cymryd rhan mewn sesiwn her wyneb yn wyneb â phobl ifanc ar sail eu dadansoddiad eu hunain o'r adroddiad. Roedd hwn yn brofiad cadarnhaol ac o fudd i bawb, a rhai o'r negeseuon allweddol a ddaeth gan y bobl ifanc oedd:

Mae pobl ifanc eisiau i ni ymgynghori â hwy ac eisiau i’w barn gael ei hystyried. Mae cyswllt yn fater allweddol i bobl ifanc, ac mae angen iddynt ddeall y rhesymau

y tu ôl trefniadau cyswllt y cytunwyd arnynt (e.e. pan fydd cyswllt yn cael ei oruchwylio/ amlder y cyswllt).

Nid yw pobl ifanc yn hoffi'r acronym "LAC" gan ei fod yn awgrymu eu bod yn brin o rywbeth.

Mae'r Cynllun Llwybr yn ddogfen bwysig. Meysydd Datblygu yn 2015/16

Ymestyn yr arolygon i ddefnyddwyr Gwasanaethau Iechyd Meddwl yn 2015/16.

Page 47: 15.08.27 Director's Report 2014-15 v3.0 Cabinet - Welsh

47

Datblygu dulliau mwy rheolaidd a systematig ar gyfer casglu adborth yn rheolaidd gan blant sy'n derbyn gofal a chan blant mewn angen a'u teuluoedd.

6.4 ARWEINYDDIAETH A CHYMORTH CORFFORAETHOL A GWLEIDYDDOL Gwerthoedd a Blaenoriaethau’r Cyngor Mae cynorthwyo ac amddiffyn Pobl sy'n Agored i Niwed yn dal i fod yn un o 4 Brif Flaenoriaeth y Cyngor a chaiff hyn ei adlewyrchu yn y gefnogaeth barhaus ac uniongyrchol a ddarperir i'r Gwasanaethau Cymdeithasol yn ystod 2014/15. Yng nghyd-destun heriau ariannol sylweddol ledled y Cyngor, mae'r Cyngor wedi ail-alinio cyllidebau gwerth £10.89m i ateb cynnydd yn y galw o ran plant ac oedolion yn ystod 2014/15. O'u cymryd ynghyd â thair blaenoriaeth arall y Cyngor ac adnewyddu Gwerthoedd Craidd y Cyngor, gwelir y ddarpariaeth Gwasanaethau Cymdeithasol fel un sy’n chwarae rôl strategol hanfodol wrth wella canlyniadau i ddinasyddion, teuluoedd a chymunedau ar draws y ddinas. Mae Pwyllgorau Craffu Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc a Gwasanaethau Cymunedol ac Oedolion yn chwarae rhan bwysig o ran cefnogi'r ymgyrch tuag at well perfformiad ar draws y gwasanaethau cymdeithasol. Mae’r ddau Bwyllgor wedi ymgymryd ag ymholiadau arwahanol er mwyn cryfhau proffil corfforaethol yr heriau allweddol sy'n effeithio ar bobl sy’n agored i niwed. Cryfhau’r Gwasanaethau Cymdeithasol fel Endid Unedig Ers mis Gorffennaf 2013, mae’r gwasanaethau i blant ac oedolion wedi elwa o arweinyddiaeth Cyfarwyddwr pwrpasol ond ar wahân, yn ystod cyfnod pan oedd angen canolbwyntio ar feysydd allweddol o welliant. Mae'r Cyngor wedi dod i'r casgliad ei bod yn awr yn amserol, yn enwedig yng ngoleuni Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru) 2014 ac er mwyn galluogi gwell integreiddio strategol, i sefydlu Cyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol sengl o dan Gyfarwyddwr unigol yn weithredol o 2015/16. Bwriad hyn yw sicrhau ffocws cryfach ar ddulliau 'teulu cyfan'/ systemau cyfan ac ar integreiddio cryfach gyda phartneriaid, gan fanteisio ar gyfleoedd i rannu arloesi, adnoddau a chostau yn fwy effeithiol Rhaglen Gwella Cadarn a Datblygu Sefydliadol Parhaodd y Bwrdd Gwella Gwasanaethau Plant, a gadeirir gan y Prif Weithredwr ac a gefnogir gan Dîm Cymorth Annibynnol allanol, i chwarae rhan allweddol mewn ymarfer heriol, gan sicrhau cynnydd yn erbyn y Cynllun Gwella y cytunwyd arno a symud rhwystrau i newid tu mewn i’r Cyngor. Hefyd ystyriwyd y Cynllun Gwella Gwasanaethau Plant yn ofalus drwy gydol y flwyddyn gan Fforwm Her y Cyngor, dan gadeiryddiaeth yr Arweinydd, a'i gefnogi gan ystod o gyfoedion allanol a 'chyfeillion beirniadol'. Ynghyd ag Addysg, y Gwasanaethau Plant oedd y gyfarwyddiaeth gyntaf yn y Cyngor i gymryd rhan yn y Fforwm Her newydd ac i fanteisio ar y diwylliant dysgu sefydliadol gynyddol sy’n llifo ohono. Ymestynnwyd y datblygiadau hyn ymhellach gan Raglen Datblygu Trefniadaeth y Prif Weithredwr sydd wedi'i chynllunio i gryfhau rheoli perfformiad, arloesi, gweithio traws-gyfarwyddiaeth ac atebolrwydd tryloyw. Fel rhan o hynny, sefydlwyd Bwrdd Plant a Theuluoedd sy'n Agored i Niwed, a gadeirir gan y Cyfarwyddwr, sy'n cynnwys yr holl bartneriaid perthnasol yn y sector statudol a'r trydydd sector. Galluogodd hyn alinio amcanion strategol partneriaid a chyfarwyddiaethau eraill y Cyngor yn fwy effeithiol fel y gall ymrwymiad ar y cyd at ganlyniadau gwell i blant gael eu trosi’n rhaglenni pendant o newid. Yn bwysig iawn, mae hyn wedi arwain at ymrwymiad cryfach i ryddhau cyllid i

Page 48: 15.08.27 Director's Report 2014-15 v3.0 Cabinet - Welsh

48

adnodd a rennir, er mwyn i'r newidiadau ddigwydd, gan gynnwys swyddi a ariennir ar y cyd. Chwaraeodd y bartneriaeth newydd rôl allweddol yn ystod ail hanner y flwyddyn, wrth symud ymlaen â’r datblygiadau Canolbwynt Diogelu Amlasiantaeth, datblygu Strategaeth Help Cynnar ac Atal, a datblygu atebion newydd i lety i bobl ifanc a’r rhai sy'n gadael gofal fyw’n annibynnol. Yn yr un modd, sefydlwyd Bwrdd Oedolion sy’n Agored i Niwed hefyd yn fwy diweddar gyda golwg ar alluogi gwell 'gafael' ar ddatblygu modelau newydd o gyflenwi. Yn ogystal, mae’r holl gyfarwyddiaethau yn destun i herio mewn cyfarfodydd 'Siambr Sêr' rheolaidd sy'n canolbwyntio ar faterion perfformiad lefel uchel a bydd hyn yn cael ei hwyluso ymhellach gan y Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol integredig newydd. Ymgysylltu Staff Y ffactor allweddol ar gyfer datblygiad llwyddiannus ffyrdd newydd o gyflenwi gwasanaethau i'r gymuned yw ymgysylltiad gweithredol y staff. Yn ychwanegol at ymgysylltu da gan staff y gyfarwyddiaeth mewn sioeau teithiol dan arweiniad y Prif Weithredwr, mae’r cyfarwyddiaethau yn parhau i ymgysylltu'n uniongyrchol â staff rheng flaen gan ddefnyddio gwahanol gyfryngau, gan gynnwys cylchlythyrau; gwaith cysgodi gan y Cyfarwyddwr; staff yn cysgodi’r Cyfarwyddwr am ddiwrnod; gweithdai staff wedi’u hwyluso gyda'r Cyfarwyddwr; fforymau datblygu tîm rheoli rheolaidd gyda Rheolwyr Tîm. Gwell Rhianta Corfforaethol Yn dilyn adolygiad o dan arweiniad y Pwyllgor Craffu Plant a Phobl Ifanc cytunwyd i sefydlu Pwyllgor Ymgynghorol Rhianta Corfforaethol newydd (CPAC) fel is-bwyllgor y Cabinet, i’w gadeirio gan y Dirprwy Arweinydd ac i gymryd lle’r Panel Rhiant Corfforaethol blaenorol, er mwyn rhoi mwy o flaenoriaeth i anghenion plant sy'n derbyn gofal a phlant mewn angen. Mae gwaith y panel yn awr yn canolbwyntio ar sicrhau mwy o dryloywder ac atebolrwydd gyda'r holl werthusiadau allanol ac adroddiadau, adroddiadau cwynion ac adborth eiriolaeth, yn cael ystyriaeth fanwl a rheolaidd. Mae rôl hyrwyddwr y CPAC yr un mor bwysig. Yn y cyd-destun hwn, mae CPAC wedi ystyried ystod eang o faterion cymhleth sy'n effeithio ar blant ac wedi hyrwyddo newid mewn perthynas â gwasanaethau i bobl sy'n gadael gofal, gan gynnwys cynnydd o £900 yn y grant i’r rhai sy'n gadael gofal; gosod disgwyliadau uwch mewn perthynas â dull mwy strwythuredig o ymgysylltu'n uniongyrchol â phlant sy'n derbyn gofal; rhaglen fwy rhagweithiol o ddatblygu aelodau dan nawdd CPAC ar gyfer cyflwyno yn 2015/16. Mae'r holl waith hwn yn cael ei wella ymhellach gan ymweliadau aelodau â thimau rheng flaen, a oedd yn 2014/15 yn cynnwys ymweliadau gan yr Arweinydd a'r Dirprwy Arweinydd ac aelodau o'r Pwyllgor Craffu Plant a Phobl Ifanc. Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru) 2014 (SSWB) Mae trefniadau llywodraethu a rheoli projectau rhanbarthol da yn eu lle i facsimeiddio parodrwydd ar gyfer y Ddeddf ym mis Ebrill 2016. Mae'r rhain wedi adeiladu ar y trefniadau sy'n bodoli eisoes a sefydlwyd i hybu iechyd ac integreiddio gofal cymdeithasol. Mae ystod eang o staff a rheolwyr wedi cymryd rhan mewn digwyddiadau ymgynghori cenedlaethol wrth i’r cyfrannau o ganllawiau drafft gael eu cyhoeddi. Er, mae nifer sylweddol o staff wedi cymryd rhan mewn hyfforddiant ymwybyddiaeth DGCLl ac mae'r digwyddiadau ymgynghori wedi cael eu cymryd i fyny gan wybod bod yr amser sydd ar gael rhwng cyhoeddi’r canllawiau newydd a gwaith paratoi yn fewnol er mwyn gallu gweithredu’n effeithiol yn heriol iawn. Rydym wedi sefydlu swydd ranbarthol i hwyluso’r gweithrediad ac wedi penodi cymorth tebyg i alinio hyn gyda'r dimensiwn Datblygu'r

Page 49: 15.08.27 Director's Report 2014-15 v3.0 Cabinet - Welsh

49

Gweithlu, y mae’r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghaerdydd yn Gyfarwyddwr arweiniol rhanbarthol arno. Bwrdd Diogelu Corfforaethol Sefydlwyd Bwrdd Diogelu Corfforaethol newydd yn y pedwerydd chwarter, sy'n cynnwys cynrychiolaeth gref gan bob cyfarwyddiaeth ac yn cael ei gefnogi gan gynllun gweithredu cynhwysfawr, gan ganolbwyntio'n benodol ar yr argymhellion gwella a gafwyd yn adroddiad Medi 2014 o ymweliad Swyddfa Archwilio Cymru ym mis Mawrth 2014. Bydd y bwrdd yn cael ei gadeirio gan yr Aelod Cabinet Gwasanaethau Corfforaethol a Pherfformiad a bydd yn galluogi sicrwydd ansawdd tryloyw ynghylch trefniadau diogelu corfforaethol y Cyngor, gyda chefnogaeth Adroddiad Diogelu Corfforaethol Blynyddol. Meysydd Datblygu yn 2015/16

Meincnodi perfformiad gwasanaeth â dinasoedd craidd, neu sefydliadau meincnodi perthnasol, er mwyn gyrru gwell canlyniadau i ddinasyddion, busnesau ac ymwelwyr.

Sefydlu’r Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol integredig newydd ar y cyfle cyntaf.

Cymryd camau i integreiddio ymhellach y gwasanaethau’n fewnol lle bo'n berthnasol ac gydag iechyd neu bartneriaid eraill.

Adnewyddu ac ail-ddarparu datblygiad Aelodau Rhianta Corfforaethol. Cryfhau ymgysylltiad uniongyrchol gyda phlant ymhellach

Page 50: 15.08.27 Director's Report 2014-15 v3.0 Cabinet - Welsh

50

7. ATODIAD ATODIAD 1: GWYBODAETH ARIANNOL ATODOL Mae 383 o swyddi cyfwerth ag amser llawn sefydledig yn y Gwasanaethau Plant yn darparu gwasanaethau i 2,557 o ddefnyddwyr gwasanaeth. Mae 691 o swyddi cyfwerth ag amser llawn sefydledig o fewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn rheoli 4,644 o ddyraniadau achos. Mae'r siartiau isod yn dangos y cyllidebau ar gyfer y meysydd gwasanaeth hyn fel canran o gyllideb gyffredinol y Cyngor. Cyllideb gwariant net y Gwasanaethau Plant 2014/15 = £44,921,000

Childrens Services net budget as a % of the Council net budget 2014/15

8%

Cyllideb gwariant net y Gwasanaethau Oedolion 2014/15 = £95,145,000

Health and Social Care net budget as a % of the Council net budget 2014/15

16%

Cyllideb gwariant net y Cyngor Cyfan (bob gwasanaeth) £585,288,000