Upload
others
View
0
Download
0
Embed Size (px)
Citation preview
Adnodd Addysgiadol SchoolBeat LLYFR
3
RHIFYN ARBENNIG DIOGELWCH Y RHYNGRWYD
LLYFRGWEITHGAREDDAU
I BLANT 9-11 OED
BYDDWCH YN SEIBER DDIOGEL!
Ymwybyddiaeth ar-lein Torrwch set o gardiau paru ar y dudalen gyferbyn (neu fel arall, lawrlwythwch o'r ddolen ganlynol: https://schoolbeat.cymru/fileadmin/teachers/ks2u/be-cyber-safe/cym/follow-up/3a.%20matching%20cards_cym.pdf
Cymysgwch y cardiau yn dda ac yna didolwch i dri chategori: • Cerdyn gair allweddol • Cerdyn gwybodaeth • Cerdyn cyngor diogelwch
Bydd angen i chi gyfatebu’r cerdyn gair allweddol gyda’r cerdyn gwybodaeth cywir a’r cerdyn cyngor diogelwch cywir ar gyfer y nodwedd honno. Ceir enghraifft isod: Dylid amseru amseru’r weithgaredd hon. Gwiriwch y rhain yn erbyn yr atebion a ddarperir trwy glicio’r linc uchod. Bydd yr atebion yn hybu trafodaeth ac yn rhoi cyfle i gywiro unrhyw gamdybiaethau. I gael gwybodaeth bellach efallai y bydd rhieni / gofalwyr am ddarllen y ffeithiau ychwanegol a ddarperir ar www.thinkuknow.co.uk neu Childnet.com
2
SpamDefnyddiwch hidlydd spam
e-byst na wnaethoch ofyn amdanynt gan bobl nad ydych yn eu hadnabod
Cyfeiriad e-bost
defnyddiwch ffugenw, peidiwch â rhoi eich
manylioneich cyfeiriad ar-lein
Firysau dilëwch hwy heb eu hagor
gallant ddileu eich ffeiliau a dinistrio eich cyfrifiadur neu deithio mewn e-bost, drwy
atodiadau neu ddolenni
Seibr-fwlio
dysgwch sut i flocio negeseuon/
dywedwch wrth oedolyn
pan fydd rhywun yn defnyddio’r rhyngrwyd neu
ffôn symudol i gynhyrfu rhywun arall yn fwriadol
✃
3
Seibr-ffrind
cyfathrebwch gyda phobl yr ydych yn eu
hadnabod mewn bywyd go iawn yn unig
ffrind yr ydych ond yn ei adnabod ar y rhyngrwyd
neu seibr-ofod
Phishing peidiwch â datgelu unrhyw wybodaeth
bersonol
bydd rhai e-byst yn ceisio eich twyllo i ddatgelu gwybodaeth bersonol
Negeseua gwib
gwnewch yn siŵr eich bod yn adnabod y bobl sydd ar
eich rhestr cysylltiadau mewn bywyd go iawn
pobl yn cyfarfod ar-lein i siarad â’i gilydd
Stafell sgwrsio
defnyddiwch safle sydd â chymedrolwr
amgylchedd agored lle gall pobl siarad â’i gilydd
Gwe gamera
trowch y camera i’r cyfeiriad arall pan na fydd
yn cael ei ddefnyddio
camera digidol a ddefnyddir i dynnu lluniau a’u trosglwyddo
dros y rhyngrwyd
Cerddo-riaeth
llawrlwythwch gerddoriaeth o wefannau
cyfreithlon yn unig
Os ydych yn lawrlwytho cerddoriaeth P2P (peer to peer) efallai y byddwch yn gadael i ddefnyddwyr
eraill gael myndediad at eich cyfrifiadur
Gosodiad preifatr-
wydd
newidiwch y gosodiadau fel mai dim ond eich ffrindiau yn y byd go iawn all gael
mynediad i’ch gwefan
diogelwch i wneud yn siŵr eich bod yn ddiogel rhag dieithriaid a allai anfon
negeseuon nad ydych eu heisiau.
Rhannu
ffeiliau
diogelwch eich hun drwy lawrlwytho clipiau sain a fideo o wefannau
cyfreithlon yn unig
caiff clipiau sain a fideo amheus eu hanfon o gwmpas gan ddefnyddio
rhwydweithiau a rennir a gallai eich rhieni fynd i drafferthion mawr
Bluetooth
diffoddwch eich ffôn/ cyfrifiadur pan na’i defnyddir
gan y gall unrhyw un gael mynediad at eich gwybodaeth
pan fydd ymlaen
cysylltiad diwifr ar gyfer ffonau, cyfrifiaduron, bysellbadiau ac ati sy’n caniatáu iddynt gyfathrebu
4
BYDDWCH YN SEIBER DDIOGEL!Dyma stori Nathan. Mae wedi cwrdd â rhywun ar ystafell sgwrsio ar y we. Rhoddodd Nathan ei ‘Addy’ (sef ei gyfeiriad e-bost sy’n cael ei ychwanegu at rhestr o ffrindiau) i’r unigolyn yma, sef Emily, ac mae wedi bod yn cysylltu â hi gan ddefnyddio negeseuon uniongyrchol. Mae angen cyngor ar Nathan ynglŷn â beth i’w wneud.
Astudiwch y senario ar y sgriniau cyfrifiadur isod ac ar y dudalen gyferbyn.Gallwch hefyd lawrlwytho copi mawr y gellir ei argraffu o'r adnodd trwy glicio ar y ddolen ganlynol: https://schoolbeat.cymru/fileadmin/teachers/ks2u/be-cyber-safe/cym/follow-up/4b.%20A5%20Scenario%20cards_cym.pdf
Helo, rydw i w
edi
cyfarfod rhywu
n ar y
rhyngrwyd a’i
henw yw
Emily. Mae eis
iau
gwybod ble ryw
y’n byw
fel y gall alw
i’m
gweld.
Beth ddylwn i
ei wneud?
Mi fyddwn i yn...
Mi fyddwn i yn...
Helo. Mae Emily wedi anfon llun ohono ei hun. Mae’n bert iawn. Beth ydych chi’n ei feddwl? Mae wedi gofyn imi anfon llun ohonof i iddi. Beth ddylwn i ei wneud?
5
Helo. Mae Emily
eisiau fy nghyfa
rfod
am pitsa. Mae ei
siau
cyfarfod y dydd
Sadwrn yma.
Beth ddylwn i ei
wneud?
Mi fyddwn i yn...
Helo. Rwy’n meddwl fy mod me
wn
trwbl. Dywedais wrth Emily f
y
mod yn casáu un o’r bechgyn
yn
yr ysgol a dywedais ei henw
wrthi. Mae Emily yn dweud on
i
bai fy mod yn dechrau dweud
pethau wrthi amdana’ i fy hu
n,
ei bod yn mynd i roi pethau
ofandwy amdana’ i ar y
rhyngrwyd. Os dywedaf wrth f
y
nhad bydd yn flin iawn
oherwydd mae wedi dweud wrth
a’
i am beidio sgwrsio ar y we.
Beth ddylwn i ei wneud?
Mi fyddwn i yn...
Mi fyddwn i yn...
Helo. Mae Emily wedi anfon neges heddiw. Mae’n dweud ei bod yn flin iawn oherwydd na wnes i ei ateb ddoe. Y peth ydy, roeddwn yn brysur yn gwneud gwaith cartref a doedd gen i ddim amser. Dydw i ddim eisiau cweryla. Ddylwn i ymddiheuro?
Os yw rhywun rydych chi'n ei adnabod ar-lein yn unig yn gofyn i chi, i gwrdd â nhw, am wybodaeth bersonol neu am luniau neu fideos - DWED WRTH OEDOLYN ‘RWYT YN YMDDIRIED YNDDO!
COFIWCH!
6
BYDDWCH YN SEIBER DDIOGEL
SSAFF
Peidiwch byth â datgelu eich enw, cyfeiriad, lluniau, rhif eich ffôn symudol, na’ch cyfrinair – byddai hynny fel rhoi allwedd drws y ffrynt i ddiethryn!
MEDDWL ETO
Cyn mynd i gwrdd â rhywun rydych wedi eu cyfarfod ar y we - gall hynny fod yn beryglus iawn. Peidiwch â mynd i gwrdd ag unrhyw un heb ganiatâd eich rhieni a dylen nhw ddod gyda chi.
AROS FUNUD
Cyn agor negeseuon a ffeiliau wrth bobl ddieithr Efallai bod firws neu negeseuon cas ynddynt a gallent eich cael chi i drwbl.
RHAID COFIO
Efallai bod eich seiber-gyfeillion yn dweud celwydd am bwy ydynt. Arhoswch mewn ystafelloedd sgwrsio cyhoeddus ac os byddwch yn teimlo’n annifyr am rhywbeth – yna ewch oddi yno!
TEIMLO’N ANNIFYR
Dywedwch wrth riant/warcheidwad neu oedolyn cyfrifol os bydd rhywun yn gwneud i chi deimlo’n annifyr neu’n bryderus.
M
ART
7
Dyluniwch ganllaw ‘Deg Awgrym Da’ i hyrwyddo defnydd cadarnhaol o gyfathrebu digidol. Gallwch lawrlwytho'r poster isod trwy glicio ar y ddolen ganlynol, a allai eich helpu
https://schoolbeat.cymru/fileadmin/teachers/ks2u/be-cyber-safe/cym/follow-up/8a._Be_Cyber_Safe_A4.pdf
10 AWGRYM DA AR GYFER DEFNYDDIO'R RHYNGRWYD YN DDIOGEL
8
CWIS CYNGOR DIOGELWCH RHYNGRWYDGan ddefnyddio'r Straeon Rhyngrwyd bywyd go iawn, trafodwch a phenderfynnwch ar y ffordd orau o weithredu i'r bobl ifanc. 1. Mi wnes i gyfarfod â Sam mewn ystafell sgwrsio ar y we. Rydym wedi bod
mewn cysylltiad am ychydig wythnosau. Mae eisiau cwrdd. Beth yw eich barn chi? Gillian, 12 oed a. Cyfarfod, rydych chi'n dod ymlaen yn dda b. Byddwn yn mynd â fy ffrind gyda mi i'r cyfarfod c. Peidiwch â chyfarfod, ond nid oes unrhyw niwed wrth sgwrsio d. Dywedwch wrth eich rhiant ble a phryd rydych chi'n cwrdd a mynd â nhw gyda chi
2. Mae Gwyn wedi gofyn am fy rhif ffôn a chyfeiriad e-bost. Rydym wedi bod mewn cysylltiad am ychydig wythnosau. Rydyn ni'n dod ymlaen yn dda iawn. Rydym ni'n gefnogwyr Man U. Beth ddylwn i ei wneud? Ian, 11 oed a. Mae hwn yn syniad da b. Parhewch i sgwrsio ond peidiwch â rhoi manylion personol iddo c. Stopiwch sgwrsio ar unwaith d. Parhau i sgwrsio a thrafod gydag oedolyn dibynadwy
3. Anfonodd Jack lun ohono ataf yn chwarae rygbi. Mae eisiau llun ohonof i. Beth ddylwn i ei wneud? Sian,12 oed a. Mae hwn yn syniad da b. Peidiwch ag anfon llun, dywedwch wrth oedolyn c. Peidiwch ag anfon ond parhau i sgwrsio d. Anfonwch lun o wyneb Sian yn unig
4. Mae Sarah wedi gofyn am fy nghyfeiriad cartref. Rydyn ni wedi bod yn ffrindiau ar y rhyngrwyd ers misoedd. Mae hi eisiau ymweld â'm cartref. Beth ddylwn i ei wneud? Janet, 13 oed a. Mae hwn yn syniad da b. Parhewch i sgwrsio ond peidiwch â rhoi eich manylion personol c. Stopiwch sgwrsio ar unwaith d. Parhau i sgwrsio a thrafod gydag oedolyn dibynadwy
5. Oherwydd i mi wrthod cwrdd â Gary fy “ffrind” ystafell sgwrsio. Nawr mae'n bygwth ysgrifennu pethau cas amdanaf. Beth ddylwn i ei wneud? Lowri, 11 oed a. Peidiwch â dweud wrth unrhyw un arall b. Cadwch y neges a'i riportio c. Cytuno i gwrdd, i'w atal rhag cyflawni ei fygythiad d. Siaradwch ag oedolyn dibynadwy
9
6. Am y mis diwethaf mae rhai pobl ar fy rhestr gyswllt IM bob amser yn ysgrifennu pethau cas ac erchyll amdanaf. Beth ddylwn i ei wneud? Imran, 12 oed a. Cadwch ef i chi'ch hun, anwybyddwch nhw a. Cadwch y negeseuon a rhoi gwybod amdanynt a. Stopiwch sgwrsio ar unwaith a. Siaradwch ag oedolyn dibynadwy
1. PEIDIWCH BYTH ag ymateb i decst spam neu decst gan rywun
nad ydych chi'n ei adnabod, oherwydd mae'n bosibl y bydd y sawl sydd wedi anfon y neges atoch chi'n dal i anfon rhagor o negeseuon atoch chi o hyd. Mae'n bosibl hefyd bod firysau ar y negeseuon hyn ac fe all hynny atal eich ffôn rhag gweithio.
2. DDYLECH CHI BYTH ANFON NEGES LLUN AT NEB NAD YDYCH CHI'N EI ADNABOD YN Y BYD GO IAWN - hyd yn oed os ydych chi wedi bod yn siarad â nhw ar lein a'ch bod chi'n meddwl eich bod yn eu hadnabod nhw. Dydych chi byth yn gwybod go iawn pwy yw pobl os nad ydych chi wedi'u cyfarfod nhw wyneb yn wyneb. Os bydd rhywun yn gofyn i chi anfon neges llun atyn nhw ac nad ydych chi'n gwybod pwy ydyn nhw, dylech chi ddweud wrth oedolyn rydych chi'n ymddiried ynddo.
3. PEIDIWCH BYTH Â RHOI RHIF EICH FFÔN SYMUDOL i neb nad ydych chi'n ei adnabod yn y byd go iawn. Weithiau, bydd pobl yn dweud celwydd am bwy ydyn nhw er mwyn twyllo pobl i roi eu rhif ffôn a'u manylion personol iddyn nhw, er enghraifft enw'u hysgol a lle maen nhw'n byw. Cofiwch fod pobl nad ydych chi'n eu nabod yn y byd go iawn yn dal yn ddieithriaid. Os rhowch chi rif eich ffôn symudol i rywun, hyd yn oed i bobl rydych chi wedi'u cyfarfod ar y Rhyngrwyd, cofiwch nad ydych chi'n gwybod pwy ydyn nhw go iawn. Peidiwch byth â threfnu i gyfarfod â nhw oherwydd maen nhw'n ddieithriaid.
4. PEIDIWCH BYTH Â THREFNU I GYFARFOD â rhywun nad ydych chi'n ei adnabod. Dylech chi gadw'r neges a dylech chi bob tro ddweud wrth oedolyn rydych chi'n ymddiried ynddo.
5. SONIWCH WRTH OEDOLYN RYDYCH CHI'N YMDDIRIED YNDDO ar unwaith os ydych chi'n gofidio neu'n poeni am rywbeth sydd wedi digwydd ar lein.
6. Cofiwch GADW UNRHYW NEGESEUON sydd wedi achosi gofid i chi. Bydd angen i chi eu dangos nhw i bwy bynnag y byddwch chi'n dweud wrthynt – byddan nhw'n gallu'ch helpu, a byddan nhw'n gallu rhoi cyngor da i chi am beth arall y gallwch chi ei wneud. Peidiwch byth â phoeni am fynd i drwbl – nid chi yw'r un sydd wedi gwneud rhywbeth o'i le.
Atebion 1.Dywedwch wrth eich rhiant ble a phryd rydych chi'n cwrdd a mynd â nhw
gyda chi 2. Parhau i sgwrsio a thrafod gydag oedolyn dibynadwy 3. Peidiwch ag anfon llun, dywedwch wrth oedolyn
4. Parhau i sgwrsio a thrafod gydag oedolyn dibynadwy 5. Cadwch y neges a'i riportio + Siaradwch ag oedolyn dibynadwy 6. Cadwch y negeseuon a rhoi gwybod amdanynt + Stopiwch sgwrsio ar
unwaith + Siaradwch ag oedolyn dibynadwy
COFIWCH!
10
AROLWG FFON
SYMUDOL Pam mae angen ffôn symudol arnom? Sut mae aelodau'ch cartref yn defnyddio eu ffonau symudol?
Cynhaliwch yr arolwg byr hwn gydag aelodau o'ch teulu, yna atebwch y 4 cwestiwn ar y dudalen gyferbyn
Faint sydd â ffôn symudol? . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
Faint sydd â ffôn symudol sy’n gallu cysylltu â’r rhyngrwyd?. . . . . . . . . . .
Faint sy’n cael defnyddio ffôn symudol ffrind neu berthynas? . . . . . . . . .
Faint sy’n defnyddio ffôn symudol bob dydd? . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
Faint sy’n defnyddio ffôn symudol i fynd ar y Rhyngrwyd bob dydd? . . . . . .
Faint sy’n ei ddefnyddio fel ffôn i siarad? . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
Faint sy’n ei ddefnyddio i decstio?. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
Faint sy’n ei ddefnyddio ar gyfer rhywbeth arall? . . . . . . . . . . . . . . . . .
LLUNIWCH SIART O'CH CANLYNIADAU:
>
11
Dyma wnes i ddarganfod… 1. Mae fy nheulu yn defnyddio ffonau symudol i…
2. Mae gan fy nheulu angen ffonau symudol oherwydd…
3. Trafodwch gyda’ch teulu - Ydy ffonau symudol yn eich rhoi chi mewn perygl?
Holwch Taid a Nain Tadcu a Mamgu!
Sut oedd pobl yn cyfathrebu â’i gilydd cyn i ffonau symudol gael eu dyfeisio?
12
GWEITHGAREDD CRACIO’R CÔD
Atebion: Colofn 1: Laugh out loud; oh my gosh; in my honest opinion; best friends forever; got to go; see you soon; Colofn 2: later; thanks; exciting; hugs and kisses; what you doing; wait; Colofn 3: you’re a cutie; text me back; love/ heart; cool; ha‐ha only joking; sorry; what’s up?
LOL OMG IMHO BFF G2G SYS
URAQT TMB
13
GÊM FFOLI AR Y FFÔNMae'r gêm hon yn helpu plant i adolygu risgiau a chanlyniadau cadarnhaol neu negyddol defnyddio neu gamddefnyddio ffonau symudol. Bydd angen i chi lawrlwytho ac argraffu'r adnoddau ar gyfer y gêm. Maent i gyd ar gael trwy glicio: https://schoolbeat.cymru/fileadmin/teachers/ks2u/picture-this/cym/follow-up/6a.%20Gem%20Bwrdd%20Ffoli%20ar%20y%20Ffon.pdf
• Argraffwch ddigon o ‘Gynfasau gêm bwrdd Ffoli ar y Ffôn’ i ganiatáu un rhwng dau berson.
• Argraffwch becyn o gardiau ‘Ffoli ar y Ffôn’.
• Bydd angen i chi ludo'r cwestiynau a ddarperir ar gefn 11 cerdyn ffôn melyn ac 11 cerdyn ffôn glas.
• Bydd angen dis a 2 gownter plastig ar bob pâr hefyd
I chwarae: • Gosodwch y bwrdd gyda
dwy set o luniau ffôn mewn pentyrrau lliw, (sgriniau melyn a glas)
• Taflwch y dis–Y chwaraewr sy'n taflu'r rhif uchaf sy'n dechrau gyntaf
• Symudwch y botwm un sgwâr ar gyfer pob rhif a deflir ar y dis
• Os byddwch yn glanio ar lun ffôn, codwch gerdyn o'r pentwr cywir, darllenwch beth sydd arno'n uchel a dilynwch y cyfarwyddiadau
• Bydd y chwaraewyr yn eu tro yn ceisio symud i ben draw'r bwrdd
• Y cyntaf i gyrraedd y diwedd sy'n ennill!
Mae mwy o adnoddau y gellir eu lawrlwytho ar gael ar ein
gwefan hefyd!