234
Dadansoddiad ex-ante o effeithiau diwygiadau lles Llywodraeth y DU ar y cyflenwad llafur yng Nghymru Stuart Adam David Phillips Y Sefydliad Astudiaethau Cyllid Golygydd: Carol Lamble

An ex-ante analysis effects of the UK Government’s … · Web viewAriannwyd yr ymchwil hon gan Lywodraeth Cymru a Chanolfan er Dadansoddi Microeconomaidd Polisi Cyhoeddus ESRC yn

  • Upload
    vannhi

  • View
    215

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

Page 1: An ex-ante analysis effects of the UK Government’s … · Web viewAriannwyd yr ymchwil hon gan Lywodraeth Cymru a Chanolfan er Dadansoddi Microeconomaidd Polisi Cyhoeddus ESRC yn

Dadansoddiad ex-ante o effeithiau diwygiadau lles Llywodraeth y DU ar y

cyflenwad llafur yng Nghymru

Stuart Adam

David Phillips

Y Sefydliad Astudiaethau Cyllid

Golygydd: Carol Lamble

Page 2: An ex-ante analysis effects of the UK Government’s … · Web viewAriannwyd yr ymchwil hon gan Lywodraeth Cymru a Chanolfan er Dadansoddi Microeconomaidd Polisi Cyhoeddus ESRC yn

The Institute for Fiscal Studies

7 Ridgmount Street

London WC1E 7AE

Cyhoeddwyd gan

The Institute for Fiscal Studies

7 Ridgmount Street

London WC1E 7AE

Ffôn: +44 (0)20 7291 4800

Page 3: An ex-ante analysis effects of the UK Government’s … · Web viewAriannwyd yr ymchwil hon gan Lywodraeth Cymru a Chanolfan er Dadansoddi Microeconomaidd Polisi Cyhoeddus ESRC yn

Ffacs: +44 (0)20 7323 4780

E-bost: [email protected]

Gwefan: http:// www.ifs.org.uk

(h) Y Sefydliad Astudiaethau Cyllid, Chwefror 2013

ISBN: 978-1-909463-01-1

Page 4: An ex-ante analysis effects of the UK Government’s … · Web viewAriannwyd yr ymchwil hon gan Lywodraeth Cymru a Chanolfan er Dadansoddi Microeconomaidd Polisi Cyhoeddus ESRC yn

Rhagair

Ariannwyd yr ymchwil hon gan Lywodraeth Cymru a Chanolfan er Dadansoddi Microeconomaidd Polisi Cyhoeddus ESRC yn y Sefydliad Astudiaethau Cyllid (RES-544-28-0001). Hoffai'r awduron ddiolch i Carol Lamble am olygu'r testun a Richard Blundell, James Browne, Carl Emmerson, Andrew Hood, Robert Joyce a Paul Johnson yn y Sefydliad Astudiaethau Cyllid, a Sara Ahmad a Grŵp Llywio'r prosiect yn Llywodraeth Cymru, am eu sylwadau a'u cyngor. Rhaid diolch yn arbennig i Magali Beffy yn y Sefydliad Astudiaethau Cyllid, a wnaeth gryn dipyn o'r gwaith o ddatblygu modelau'r cyflenwad llafur a ddefnyddir ym Mhennod 5 o'r adroddiad hwn. Yr awduron sy'n gyfrifol am unrhyw wallau sy'n weddill.

Yn ystod haf a hydref 2012 y cynhaliwyd y dadansoddiad yn y papur hwn yn bennaf, ac mae'r diwygiadau lles a ddadansoddwyd yn cynnwys cyhoeddiadau a wnaed hyd at ac yn cynnwys Cyllideb 2012. Mae hyn yn golygu nad yw'r dadansoddiad yn cynnwys diwygiadau a gyhoeddwyd yn Natganiad yr Hydref 2012.

Mae'r Arolwg o Adnoddau Teuluoedd yn ddeunydd hawlfraint y Goron ac fe'i hatgynhyrchwyd gyda chaniatâd Rheolydd Llyfrfa Ei Mawrhydi ac Argraffydd y Frenhines yn yr Alban. Fe'i cafwyd gan y Gwasanaeth Data Economaidd a Chymdeithasol yn Archif Data'r DU.

Mae Stuart Adam a David Phillips yn Uwch Economegwyr Ymchwil yn y Sefydliad Astudiaethau Cyllid.

Gohebiaeth at: [email protected], [email protected].

Page 5: An ex-ante analysis effects of the UK Government’s … · Web viewAriannwyd yr ymchwil hon gan Lywodraeth Cymru a Chanolfan er Dadansoddi Microeconomaidd Polisi Cyhoeddus ESRC yn

Cynnwys

Crynodeb gweithredol 1

1. Cyflwyniad 8

2. Cymhellion i weithio a diwygiadau lles y llywodraeth glymblaid 102.1 Cwmpas ein dadansoddiad 102.2 Nodweddu cymhelliannau ariannol i weithio 112.3 Nodweddu effeithiau diwygiadau unigol 162.4 Cymhellion anariannol i weithio 202.5 Credyd Cynhwysol 252.6 Casgliad 33

3. Mesur effaith y pecyn diwygio cyfan ar gymhellion ariannol i weithio yng Nghymru

34

3.1 Effaith ddosbarthiadol y diwygiadau 353.2 Amcangyfrif cymhellion i weithio ymhlith poblogaeth Cymru 383.3 Cymhellion i weithio o gwbl 393.4 Cymhellion i'r rheini sy'n gweithio ennill mwy 453.5 Casgliad 50

4. Adolygiad o'r llenyddiaeth ar ymatebolrwydd y cyflenwad llafur 514.1 Cysyniadau, dulliau gweithredu ac anawsterau 524.2 Ymatebolrwydd oriau gwaith dynion a chyflogaeth 584.3 Ymatebolrwydd oriau gwaith menywod a chyflogaeth 614.4 Ymatebolrwydd incwm a chyflogau 654.5 Ymatebion tymor hwy 674.6 Casgliad 69

5. Modelu effaith y diwygiadau lles: amcangyfrif ac efelychu 715.1 Canlyniadau efelychu: effaith diwygiadau heb gynnwys Credyd Cynhwysol

72

5.2 Canlyniadau efelychu: effaith diwygiadau gan gynnwys Credyd Cynhwysol 78

6. Modelu effaith y diwygiadau lles: calibradu ac efelychu 866.1 Canlyniadau efelychu6.2 Dadansoddi sensitifrwydd

8793

6.3 Cymharu canlyniadau'r ddau ddull o fodelu'r cyflenwad llafur 996.4 Casgliad 102

7. Y rhyngweithio rhwng y diwygiadau lles a'r economi ehangach 1037.1 Sgil-effeithiau o ran cyflogi gweithwyr eraill 1037.2 Dylanwad amodau o ran y galw am lafur 1077.3 Yr effaith bosibl ar alw cyfanredol 1107.4 Casgliad 112

8. Casgliadau 113

Cyfeiriadau cyffredinol 115

Atodiad A. Cyfrifo cyfraddau treth gyfranogol ar gyfer pobl nad ydynt yn gweithio

118

Atodiad B. Tablau cryno hydwythedd o ran y llenyddiaeth 119Atodiad C. Cyfeiriadau ar gyfer yr adolygiad o lenyddiaeth 129Atodiad Ch. Modelau cyflenwad llafur dewis arwahanol 133Atodiad D. Methodoleg a thybiaethau ar gyfer Pennod 6 139

Page 6: An ex-ante analysis effects of the UK Government’s … · Web viewAriannwyd yr ymchwil hon gan Lywodraeth Cymru a Chanolfan er Dadansoddi Microeconomaidd Polisi Cyhoeddus ESRC yn

Crynodeb gweithredolMae'r DU ran o'r ffordd drwy'r broses o gyflwyno gostyngiadau termau real i wariant y llywodraeth nas gwelwyd erioed o'r blaen bron, wrth iddi geisio mynd i'r afael â'r diffygion enfawr mewn arian cyhoeddus. Fel rhan o hyn, mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi ac wrthi'n cyflawni gwerth £18 biliwn o doriadau i wariant lles (hynny yw, gwariant ar fudd-daliadau a chredydau treth) erbyn 2014. Mae hefyd wedi cyhoeddi cynlluniau i ddechrau cyflwyno Credyd Cynhwysol newydd ledled y DU o fis Hydref 2013, lle gwelir un budd-dal integredig yn disodli chwe budd-dal prawf modd. Credyd Cynhwysol yw'r newid mwyaf sylweddol i strwythur y gyfundrefn les ers y 1940au a'r nod yw lleihau costau a gwallau gweinyddol, symleiddio’r broses o wneud cais, annog pobl i gofrestru ac atgyfnerthu'r cymhelliant i weithio ymhlith y rheini sy'n wynebu'r cymhelliant gwannaf i weithio ar hyn o bryd.

Amcangyfrifwn fod diwygiadau lles llywodraeth glymblaid y DU yn lleihau cyfanswm yr hawliadau o ran budd-daliadau a chredydau treth yng Nghymru tua £520 miliwn (neu £590 miliwn os na chynhwysir Credyd Cynhwysol). Mae hyn yn cyfateb i tua £6.40 fesul teulu yr wythnos ar gyfartaledd (neu £7.26 os na chynhwysir Credyd Cynhwysol), sef tua 1.5% o'u hincwm net. Nid yw'n syndod bod y rheini yn y pumed uchaf o ran dosbarthiad incwm yn well eu byd, gan eu bod yn derbyn llai mewn budd-daliadau a chredydau treth i ddechrau ac, felly, yn teimlo llai o effaith yn sgil y toriadau. Eto i gyd, gwelwn nad y cartrefi tlotaf sydd ar eu colled fwyaf ar gyfartaledd, ond yr haen ganol is o ran dosbarthiad incwm. Mae hyn yn rhannol oherwydd bod cymorth mewn gwaith (yn enwedig Credyd Treth Gwaith) yn cael ei dorri'n fwy na chymorth allan o waith, ac yn rhannol oherwydd bod Credyd Cynhwysol yn berthnasol yn bennaf i'r traean o deuluoedd ar yr incwm isaf, sydd i raddau'n gwrthbwyso'r colledion a brofir gan y teuluoedd hynny yn sgil y toriadau ehangach i les. Cyplau â phlant lle mai dim ond un ohonynt sy'n ennill cyflog sydd ar eu colled fwyaf yn sgil y toriadau lles, ar gyfartaledd, ond hwythau hefyd sydd ar eu hennill fwyaf yn sgil Credyd Cynhwysol; ar y cyfan, felly, teuluoedd â phlant nad ydynt yn gweithio sy'n profi'r colledion mwyaf ar gyfartaledd, gan eu bod ar eu colled yn sgil Credyd Cynhwysol (os oes ganddynt gryn dipyn o incwm nas enillwyd, megis cynilion neu daliadau cynhaliaeth briodasol) a'r toriadau ehangach i fudd-daliadau. Caiff pensiynwyr, a theuluoedd heb blant lle mae pob oedolyn yn gweithio, eu diogelu rhag y toriadau ar y cyfan.

Fodd bynnag, mae'n bwysig edrych y tu hwnt i'r dadansoddiad hwn o'r rhai sydd ar eu hennill ac ar eu colled - sut y byddai hawliadau yn newid petai pawb yn parhau i ymddwyn yn yr un ffordd mewn ymateb i'r diwygiadau. Ar gyfer diwygiadau mor sylweddol â'r rhain, rhaid deall yr effaith bosibl ar ddewisiadau unigolion o ran p'un a ydynt yn gweithio ac i ba raddau. Eto i gyd, nid yw'r fath ddadansoddiad wedi'i gyhoeddi o'r blaen. Mae'r adroddiad hwn yn ceisio mesur, cyhyd â phosibl, effeithiau tebygol diwygiadau lles llywodraeth glymblaid y DU (heb gynnwys newidiadau treth) ar y cyflenwad llafur yng Nghymru. Am ei fod yn ddiwygiad mor fawr yn ei rinwedd ei hun, ac am mai dim ond yn raddol y caiff ei gyflwyno dros sawl blwyddyn, rydym yn gwahanu Credyd Cynhwysol o'r diwygiadau eraill ac yn ystyried effeithiau'r pecyn diwygio, gan hepgor Credyd Cynhwysol yn llwyr a thybio ei fod ar waith yn llawn.

Effeithiau diwygiadau lles y llywodraeth glymblaid ar gymhellion i weithioGwahaniaethwn rhwng dau fath o gymhelliant i weithio: y cymhelliant i fod mewn gwaith â thâl o gwbl; a'r cymhelliant i'r rheini sy'n gweithio i ennill mwy. Gall y cymhelliant ariannol i weithio o gwbl gael ei fesur gan ddefnyddio'r gyfradd dreth gyfranogol (CDG), cyfran yr holl enillion gros a gollir ar ffurf treth a budd-daliadau a dynnwyd yn ôl. Gall y cymhelliant i'r rheini sy'n gweithio ennill mwy gael ei fesur gan y gyfradd dreth ffiniol effeithiol (CDYE), cyfran cynnydd bach mewn enillion a gollir mewn treth a budd-

1

Page 7: An ex-ante analysis effects of the UK Government’s … · Web viewAriannwyd yr ymchwil hon gan Lywodraeth Cymru a Chanolfan er Dadansoddi Microeconomaidd Polisi Cyhoeddus ESRC yn

daliadau a dynnwyd yn ôl. Yn y ddau achos, mae niferoedd uwch yn golygu cymhellion gwannach i weithio.

Ymhlith holl boblogaeth oedran gweithio Cymru, amcangyfrifwn fod diwygiadau lles y llywodraeth glymblaid yn gostwng y CDG gyfartalog o 33.1% i 32.7%, heb gynnwys Credyd Cynhwysol, neu 32.3% gan gynnwys Credyd Cynhwysol. Mae'r newid bach hwn yn y CDG gyfartalog yn celu amrywiad llawer mwy ymhlith y boblogaeth: mae bron un o bob pedwar yn gweld eu CDG yn newid mwy na 10 pwynt canran ar ôl cyflwyno Credyd Cynhwysol, ac mae un o bob deg yn gweld eu CDG yn newid mwy nag 20 pwynt canran.

Efallai ei bod yn syndod mai dim ond gostwng y CDG gyfartalog 0.4 pwynt canran a wna diwygiadau lles Llywodraeth y DU, heb gynnwys Credyd Cynhwysol, sydd, ar y cyfan, yn cynnwys toriadau difrifol i fudd-daliadau prawf modd a chredydau treth. Mae'r esboniad i'w gael yn effaith diwygiadau credyd treth ar deuluoedd â phlant: ar y cyfan, mae diwygiadau'r glymblaid yn lleihau faint o gredydau treth y gall teuluoedd eu cael pan fyddant yn gweithio, tra, mewn gwirionedd, yn cynyddu'r credydau treth (er nid budd-daliadau) i'r teuluoedd hynny nad ydynt yn gweithio. Felly, mae'r diwygiadau yn dueddol o wanhau'r cymhelliant i deuluoedd â phlant fod â rhywun sy'n gweithio, yn enwedig os mai cyflog bach a enillir. Gorbwysir hyn ryw fymryn yn unig gan y ffaith yr atgyfnerthir cymhellion i gyplau fod ag ail bartner sy'n gweithio (gan fod llai o gymorth i gyplau lle mai dim ond un ohonynt sy'n ennill yn golygu bod llai i'w golli os bydd ail bartner yn dechrau gweithio), ynghyd ag oedolion unigol heb blant (y mae credydau treth yn llai pwysig iddynt) i weithio o gwbl.

Mewn rhai ffyrdd, caiff Credyd Cynhwysol effaith gwbl groes bron. Mae'n atgyfnerthu'r cymhellion i deuluoedd fod â rhywun sy'n gweithio, yn bennaf am ei fod yn fwy hael i deuluoedd ar incwm isel (yn enwedig cyplau â phlant) na'r system bresennol, tra'n cael fawr ddim effaith ar uchafswm yr hawliadau i deuluoedd nad ydynt yn gweithio (oni bai bod ganddynt gryn dipyn o incwm nas enillwyd, fel y trafodwyd eisoes). Fodd bynnag, gan fod Credyd Cynhwysol yn rhoi mwy o gymorth i gyplau lle mai dim ond un ohonynt sy'n ennill, mae gan gyplau fwy i'w golli os bydd ail bartner yn dechrau gweithio felly mae (darpar) ail enillwyr yn gweld cynnydd yn eu CDGau cyfartalog ac felly mae llai o gymhelliant iddynt weithio.

Un o effeithiau nodedig eraill Credyd Cynhwysol yw lleihau nifer y bobl yng Nghymru sy'n wynebu CDGau o dros 75% i lai na 10,000, o gymharu â 46,000 o dan system budd-daliadau sylfaenol 2010. Cyflawnir hyn am na chaiff Credyd Cynhwysol ei dynnu'n ôl ar lefelau incwm isel i'r un graddau â budd-daliadau sy'n bodoli eisoes. Tra bydd nifer y bobl sy'n wynebu'r CDGau uchel iawn hyn yn lleihau, bydd y nifer sy'n wynebu CDGau cymharol uchel yn cynyddu: bydd dros 60,000 yn fwy o bobl yn wynebu CDG sydd rhwng 50% a 75% o dan Gredyd Cynhwysol. Eto i gyd, mae lleihau'r niferoedd sy'n wynebu'r CDGau uchaf yn werthfawr iawn oherwydd y gwyro a achosir gan drethi yn cynyddu'n fwy na'r hyn sy'n gymesur i'w cyfradd. Gan ystyried Credyd Cynhwysol ochr yn ochr â gweddill y diwygiadau lles, mae'n amlwg y bydd y newidiadau mwyaf dramatig yn effeithio ar bobl sydd â phartneriaid nad ydynt yn gweithio a phlant, a fydd yn gweld eu CDG gyfartalog yn gostwng yn sylweddol (6.4 pwynt canran). Ar y llaw arall, mae'r rheini sydd â phartner sy'n gweithio a phlant yn wynebu CDGau sydd, ar gyfartaledd, 3.6 pwynt canran yn uwch ar ôl y diwygiadau na chyn y diwygiadau. Diolch i Gredyd Cynhwysol, mae'r diwygiadau'n atgyfnerthu'r cymhelliant i deuluoedd fod â rhywun sy'n gweithio, ond mae'n gwanhau'r cymhelliant i gyplau fod â'r ddau bartner yn gweithio.

Mae'r diwygiadau hefyd yn atgyfnerthu'r cymhellion i'r rheini sy'n gweithio ennill mwy, ar gyfartaledd: caiff y CDYE gyfartalog ei gostwng 1.1 pwynt canran (o 36.9% i 35.8%) gan y diwygiadau heb gynnwys Credyd Cynhwysol, a 0.4 pwynt canran arall (i 35.5%) unwaith yr ystyrir Credyd Cynhwysol. Wrth edrych ar hyn yn fanylach, gwelwn y canlynol:

Mae'r toriadau lles sylweddol (heb gynnwys Credyd Cynhwysol) yn lleihau nifer y bobl sy'n destun prawf modd ar ben treth incwm a chyfraniadau Yswiriant Gwladol tua 50,000, gan fod hawliadau llai

2

Page 8: An ex-ante analysis effects of the UK Government’s … · Web viewAriannwyd yr ymchwil hon gan Lywodraeth Cymru a Chanolfan er Dadansoddi Microeconomaidd Polisi Cyhoeddus ESRC yn

yn cael eu disbyddu ar lefelau incwm is (ac mae rhai grwpiau yn cael eu gwneud yn anghymwys yn gyfan gwbl). Felly, mae CDYEau cyfartalog yn gostwng i'r rhan fwyaf o fathau o deuluoedd ac ar y rhan fwyaf o lefelau enillion, er, ymhlith y rheini sy'n dal i fod yn destun prawf modd, mae CDYEau yn aml yn cynyddu ychydig oherwydd y cynnydd yn y gyfradd tynnu credyd treth yn ôl o 39% i 41%.

Mae Credyd Cynhwysol yn cynyddu CDYEau i nifer fechan â'r enillion isaf (o dan tua £7,000 y flwyddyn), ond ar wahân i hynny mae'n dueddol o ostwng CDYEau ar lefelau enillion isel (gyda'r cwymp mwyaf ar gyfer enillion o tua £12,000), gan mai ar lefelau enillion isel y gall pobl wynebu colli sawl budd-dal a chredyd treth ar yr un pryd ar hyn o bryd, y mae Credyd Cynhwysol yn eu dileu: o dan Gredyd Cynhwysol, ni fydd neb yn wynebu CDYE dros 81%. Mae rhieni unigol ar eu hennill yn arbennig yn sgil yr agwedd hon ar y diwygiadau. Fodd bynnag, i bobl a fyddai, fel arall, yn wynebu colli credyd treth ond heb fod unrhyw brawf modd arall, mae'r gyfradd tynnu'n ôl o 65% ar gyfer Credyd Cynhwysol yn fwy llym na'r hyn a wynebir ganddynt ar hyn o bryd, ac mae'r bobl hynny yn gweld cynnydd yn eu CDYEau.

Gan ystyried Credyd Cynhwysol ochr yn ochr â diwygiadau lles eraill, rhieni unigol sy'n sefyll allan, gyda'u CDYE gyfartalog yn gostwng 12.3 pwynt canran. Mae pobl sengl heb blant a chyplau lle mae'r ddau yn ennill yn profi gostyngiadau mwy cymedrol, tra bod enillwyr unigol (y mae nifer gymharol brin ohonynt) yn gweld eu cymhellion i ennill mwy yn gwanhau. Caiff CDYEau cyfartalog eu gostwng yn sylweddol ar gyfer enillion sydd rhwng £10,000 a £15,000 - lle'r oedd cymhellion ar eu gwannaf i ddechrau, sy'n ganlyniad hynod ddymunol.

Dim ond ymwneud â chymhellion ariannol i weithio a wna'r effeithiau hyd yma. Dyna'r unig rai y gallwn eu mesur, a'r unig rai a gaiff eu cynnwys yn ein dadansoddiad o'r cyflenwad llafur isod. Fodd bynnag, dylem hefyd gydnabod bod diwygiadau lles y llywodraeth yn cynnwys cryn newidiadau i gymhellion anariannol i weithio.

Tra bydd Credyd Cynhwysol yn newid hawliadau cyffredinol pobl mewn amgylchiadau gwahanol, gellir dadlau bod y ffordd y mae'n plethu elfennau gwahanol o gymorth yn un budd-dal yr un mor bwysig. Rhydd hyn y posibilrwydd o system symlach a chymhellion mwy tryloyw i weithio - er efallai gyda chymhelliant llai amlwg a pherthnasol i weithio na Chredydau Treth Gwaith, a chyda llawer mwy yn dibynnu ar ba mor llwyddiannus y bydd y camau a gymerir. Gall Credyd Cynhwysol hefyd ymestyn gofynion chwilio am waith i lawer mwy o enillwyr isel, yn enwedig y rheini mewn cyplau, na'r hyn sy'n gymwys ar hyn o bryd. Er enghraifft, ar hyn o bryd, yn achos cwpl sy'n hawlio ar y cyd, mae enillion wythnosol o fwy na £121.45 yn ddigon i symud oddi ar Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm ac felly nid oes angen bodloni gofynion chwilio am waith mwyach. Fodd bynnag, o dan Gredyd Cynhwysol, gall fod angen i gwpl sydd, gyda'i gilydd, yn ennill hyd at £433 yr wythnos chwilio am waith ag oriau hwy neu gyflog uwch.

Nid Credyd Cynhwysol yw'r unig ddiwygiad i fudd-daliadau sy'n cael ei gyflwyno a fydd yn effeithio ar gymhellion anariannol i weithio. Mae'r Rhaglen Waith yn cynnwys cryn dipyn o ad-drefnu 'o fudd-dal i waith', gyda thaliadau i ddarparwyr yn gwbl seiliedig ar ganlyniadau cyflogaeth erbyn 2014, a mwy o hyblygrwydd o ran y gwasanaethau a ddarperir (er bod y Rhaglen Waith yn llai radical yng Nghymru, lle mae'n disodli'r Fargen Newydd Hyblyg, nag mewn rhai rhannau eraill o'r DU). Ers mis Hydref 2011, mae rhieni unigol y mae eu plentyn ieuengaf yn 5 oed neu drosodd wedi cael eu symud o Gymhorthdal Incwm i Lwfans Ceisio Gwaith, gyda'r gofynion chwilio am waith ychwanegol sydd ynghlwm wrth hynny. Ac mae'r broses o symud hawlwyr Budd-dal Analluogrwydd i Lwfans Cyflogaeth a Chymorth, gyda'r ailbrofi cysylltiedig o ran cyflyrau meddygol, yn golygu bod llawer o bobl yn cael eu hystyried yn ffit i weithio, neu'n gorfod ymbaratoi ar gyfer dychwelyd i'r gwaith yn y pen draw. Er y gellir disgwyl i'r holl newidiadau hyn gynyddu nifer y bobl sy'n mynd o beidio â gweithio i weithio mewn egwyddor, yn ymarferol nid yw graddau'r effaith yn glir.

3

Page 9: An ex-ante analysis effects of the UK Government’s … · Web viewAriannwyd yr ymchwil hon gan Lywodraeth Cymru a Chanolfan er Dadansoddi Microeconomaidd Polisi Cyhoeddus ESRC yn

Ymatebion tebygol y cyflenwad llafur i'r newidiadau mewn cymhellion ariannol i weithioAr gyfer y diwygiadau hynny lle gallwn fesur eu heffaith ar gymhellion ariannol i weithio, amcangyfrifwn sut y gallai ymddygiad gwaith pobl ymateb i newidiadau mewn cymhellion ariannol mewn dwy ffordd. Un ffordd yw amcangyfrif modelau cyflenwad llafur newydd ('amcangyfrif ac efelychu'); y llall yw tybio graddau ymatebolrwydd gwahanol grwpiau o'r cyflenwad llafur, gan ddefnyddio adolygiad o dystiolaeth empirig bresennol ar ymddygiad y cyflenwad llafur, a chymhwyso'r tybiaethau hyn i'r newidiadau mewn CDGau a CYDEau a ddisgrifiwyd uchod ('calibradu ac efelychu').

Gall calibradu ac efelychu fod yn gymwys i'r boblogaeth oedran gweithio gyfan yng Nghymru. Fodd bynnag, dim ond i ran o'r boblogaeth y mae amcangyfrif ac efelychu yn gymwys: nid yw'n cwmpasu pobl sengl heb blant (y mae'n anodd amcangyfrif modelau ar eu cyfer), ac ymhlith gweddill y boblogaeth nid ydym yn cynnwys unrhyw oedolyn (a'i bartner) sy'n hunangyflogedig, yn anabl, yn 60 oed neu drosodd, yn 21 oed neu'n iau neu'n fyfyriwr, am ei bod yn anos pennu ymddygiad gwaith y grwpiau hyn mewn modelau safonol. Ac o ystyried bod yr hydwythedd sy'n rhan o 'galibradu ac efelychu' yn seiliedig, yn gyffredinol, ar fodelau cyflenwad llafur safonol, mae hefyd yn debygol mai calibradu sydd fwyaf dibynadwy ar gyfer yr un is-set o'r boblogaeth. Gan ddefnyddio'r ddwy ffordd hyn mewn perthynas â'r is-set honno o'r boblogaeth yn unig - tua 75% o famau unigol a 60% o oedolion mewn cyplau, sy'n cyfateb i tua 720,000 o'r 1.8 miliwn o oedolion o oedran gweithio yng Nghymru - nodwn y canlynol:

Rhagfynegir mai effaith gadarnhaol a gaiff y diwygiadau ar gyflogaeth ar y cyfan, er yn fach iawn, yn ôl y ddwy ffordd hyn. O lefel sylfaenol o gyflogaeth yn y sampl o 616,000, rhagfynegwn y bydd y diwygiadau, heb gynnwys Credyd Cynhwysol, yn cynyddu cyflogaeth tua 2,000 (ar sail amcangyfrif) neu 200 (yr amcangyfrif canolog ar sail calibradu), tra bod y diwygiadau yn cynnwys Credyd Cynhwysol yn cynyddu cyflogaeth 300 (ar sail amcangyfrif) neu 200 (ar sail calibradu). Fodd bynnag, gwelir amrywiadau ymhlith grwpiau gwahanol o'r boblogaeth.

Rhagfynegir y bydd y diwygiadau, heb gynnwys Credyd Cynhwysol, yn arwain at leihad bach yn nifer y mamau unigol sy'n gweithio, a chynnydd bach yn nifer y dynion a menywod mewn cyplau heb blant sy'n gweithio, a menywod mewn cyplau â phlant. Ar sail amcangyfrif, awgrymir bod cynnydd cymharol fach (1,300 neu 0.8%) yn nifer y dynion mewn cyplau â phlant sy'n gweithio, tra bod calibradu yn awgrymu nad oes unrhyw newid ymhlith y grŵp hwn.

Rhagfynegir y bydd y diwygiadau, heb gynnwys Credyd Cynhwysol, yn arwain at ychydig o gwymp yn nifer y cyplau ag un enillydd, a chynnydd bach yn y nifer â dau enillydd, yn enwedig ymhlith cyplau â phlant. Mae hyn yn adlewyrchu'r ffaith y bydd y rheini â phartneriaid nad ydynt yn gweithio yn wynebu cymhellion gwannach i weithio, tra bydd y rheini â phartneriaid sy'n gweithio yn wynebu cymhellion cryfach i weithio, yn dilyn y diwygiadau.

Rhagfynegir y bydd y diwygiadau, yn cynnwys Credyd Cynhwysol, yn arwain at gynnydd cymharol fach yn nifer y mamau unigol sy'n gweithio, cynnydd bach yn nifer y cyplau heb blant sy'n gweithio a lleihad bach yn nifer y cyplau â phlant sy'n gweithio. Rhagfynegir y bydd mwy o gymhellion i deuluoedd fod ag un person sy'n gweithio, ond llai o gymhellion ariannol i gyplau fod â'r ddau bartner yn gweithio o dan Gredyd Cynhwysol, yn lleihau i raddau bach nifer y teuluoedd nad ydynt yn gweithio a nifer y cyplau lle mae'r ddau yn ennill, ac yn cynyddu i raddau bach nifer y cyplau ag un enillydd a phobl sengl sy'n gweithio.

Gan edrych ar y boblogaeth gyfan o oedran gweithio (ar sail calibradu ac efelychu yn unig), mae ein set ganolog o dybiaethau yn awgrymu na fydd unrhyw newid mewn cyflogaeth yn sgil y diwygiadau heb gynnwys Credyd Cynhwysol, a chynnydd bach mewn cyflogaeth (5,000 o bobl) unwaith y cyflwynir Credyd Cynhwysol. Rhagfynegir y bydd y patrwm o newidiadau ar draws y boblogaeth yn debyg iawn i'r sampl lai o faint y gellir defnyddio'r ddwy ffordd ar ei chyfer:

4

Page 10: An ex-ante analysis effects of the UK Government’s … · Web viewAriannwyd yr ymchwil hon gan Lywodraeth Cymru a Chanolfan er Dadansoddi Microeconomaidd Polisi Cyhoeddus ESRC yn

Heb gynnwys Credyd Cynhwysol, rhagfynegir y bydd y diwygiadau yn arwain at leihad bach yn nifer y rhieni unigol sy'n gweithio (-400) a'r rheini mewn cyplau heb bartner sy'n gweithio (-1,700), gan leihau nifer y cyplau ag un enillydd. Caiff hyn ei wrthbwyso gan gynnydd bach a ragfynegir yn nifer yr oedolion sengl heb blant (+600), a'r rheini mewn cyplau â phartneriaid sy'n gweithio (+1,500), gan awgrymu cynnydd yn nifer y cyplau â dau enillydd.

Unwaith y caiff Credyd Cynhwysol ei gynnwys, mae'r darlun yn newid yn sylweddol. Disgwylir cynnydd yn nifer y rhieni unigol (+800), oedolion sengl heb blant (+1,800) a chyplau â phartneriaid nad ydynt yn gweithio (+3,900) sy'n gweithio, ond disgwylir i'r nifer leihau ymhlith cyplau â phlant sydd â phartneriaid sy'n gweithio (-2,700). Mae hyn yn adlewyrchu cymhellion cryfach i deuluoedd fod â rhywun sy'n gweithio, ond cymhellion gwannach i gyplau fod â'r ddau bartner yn gweithio.

Mae calibradu ac efelychu hefyd yn ein galluogi i ragfynegi effaith y diwygiadau ar gyfanswm nifer yr oriau a gaiff eu gweithio a'r cyfanswm a gaiff ei ennill yng Nghymru. Mae ein hamcangyfrifon canolog fel a ganlyn:

Heb gynnwys Credyd Cynhwysol, rhagfynegir y bydd y diwygiadau yn arwain at gynnydd o 0.4% yng nghyfanswm nifer yr oriau a gaiff eu gweithio yng Nghymru, a chynnydd o 0.2% (£58 miliwn) mewn enillion gros cyfanredol. O ystyried na ragfynegir i gyflogaeth gynyddu, mae hyn yn awgrymu cynnydd mewn oriau cyfartalog ac enillion fesul gweithiwr - er nad ydym yn pennu i ba raddau y mae hyn yn deillio o weithwyr presennol yn cynyddu eu horiau a'u henillion, nac ychwaith rai pobl yn rhoi'r gorau i weithio ac yn cael eu disodli gan yr un nifer o bobl wahanol yn symud i mewn i waith ag oriau hwy a chyflog uwch.

Rhagfynegir y bydd y diwygiadau, yn cynnwys Credyd Cynhwysol, yn arwain at gynnydd o 1.0% yng nghyfanswm nifer yr oriau a gaiff eu gweithio yng Nghymru, a chynnydd o 0.5% (£149 miliwn) mewn enillion cyfanredol. Fodd bynnag, mae'r newidiadau yn amrywio'n sylweddol ar draws y boblogaeth a disgwylir i rieni unigol weld cynnydd llawer mwy (7.0% ar gyfer cyfanswm yr oriau a gaiff eu gweithio a 5.1% ar gyfer enillion), fel y nifer gymharol fechan o fenywod â phlant nad yw eu partner yn gweithio (cynnydd o 11.2% ar gyfer oriau a 9.7% ar gyfer enillion).

Awgrymodd ein hadolygiad o'r llenyddiaeth ar y cyflenwad llafur fod ansicrwydd ynghylch y graddau y mae pobl yn ymateb i gymhellion ariannol i weithio, ac am y rheswm hwn cynhaliwn ddadansoddiad o sensitifrwydd lle tybiwn fod mwy neu lai o ymatebolrwydd nag yn ein senario ganolog. Dengys hyn y canlynol:

Ymddengys fod effaith y diwygiadau ar gyflogaeth, heb gynnwys Credyd Cynhwysol, yn agos at fod yn ddim o dan y senarios ymatebolrwydd isel, canolig ac uchel. Unwaith yr ychwanegir Credyd Cynhwysol, mae'r canlyniadau ychydig yn sensitif i'r tybiaethau a ddefnyddir: rhagfynegir y bydd cyflogaeth yn cynyddu 1,900 o dan y senario ymatebolrwydd isel, neu 13,200 o dan y senario ymatebolrwydd uchel. Fodd bynnag, yng nghyd-destun poblogaeth o oedran gweithio o 1,756,000, mae gwahaniaeth o ychydig dros 11,000 yn weddol fach.

Felly, er bod peth ansicrwydd ynghylch union effaith y newidiadau mewn cymhellion ariannol i weithio ar y cyflenwad llafur yn dilyn y diwygiadau lles, yn cynnwys Credyd Cynhwysol, mae'r holl senarios a ystyriwyd yn awgrymu y bydd yr effaith gyffredinol yn un gadarnhaol er yn gymharol fach.

Effeithiau ar y farchnad lafur yn yr amgylchedd economaidd ehangachMae'r effeithiau rhagfynegol ar y cyflenwad llafur a ddisgrifiwyd uchod yn 'cyfrifo'r' ymatebion unigol a ragfynegir ar draws poblogaeth Cymru. Fodd bynnag, mae nifer o resymau pam yn ymarferol - ac yn

5

Page 11: An ex-ante analysis effects of the UK Government’s … · Web viewAriannwyd yr ymchwil hon gan Lywodraeth Cymru a Chanolfan er Dadansoddi Microeconomaidd Polisi Cyhoeddus ESRC yn

enwedig yn y byrdymor - na fydd effeithiau'r diwygiadau lles o bosibl yn cyfateb i gyfuniad syml o ymatebion unigol y cyflenwad llafur a ragfynegir.

Mae'r modelau cyflenwad llafur a ddefnyddir gennym yn tybio'n benodol fod y farchnad lafur yn ddigon hyblyg fel bod pawb sydd am weithio am y gyfradd cyflog gyfredol yn gallu gwneud hynny (h.y. y galw am weithwyr yn cyfateb i'r gweithwyr sydd ar gael), ac nad yw'r gyfradd cyflog y mae cyflogwyr yn fodlon ei chynnig yn gostwng wrth i nifer y gweithwyr posibl gynyddu (h.y. mae'r galw am weithwyr yn gwbl hydwyth). Gall hyn fod yn frasamcan rhesymol yn yr hirdymor wrth i farchnadoedd ddod o hyd i gydbwysedd a bod cyflogwyr yn gallu buddsoddi mewn adnoddau ychwanegol i wneud gweithwyr ychwanegol yn fwy cynhyrchiol. Eto i gyd, yn y byrdymor, yn enwedig os oes diweithdra cymharol uchel fel sydd nawr, gall y tybiaethau hyn fod yn amhriodol.

Mae'r dystiolaeth empirig yn awgrymu, pan fo cryn ddiweithdra a bod y galw am weithwyr yn wan, mae effeithiau polisïau i gynyddu'r cyflenwad llafur ar gyflogaeth ac oriau gwaith yn llai cryf na'r hyn y mae modelau cyflenwad llafur safonol yn ei awgrymu: yn syml, ni chaiff pobl gynnig yr opsiwn o wneud y gwaith (ychwanegol) y maent am ei gael. Mae hyn yn awgrymu, po wannaf y farchnad lafur yng Nghymru, y lleiaf y byddai'r cynnydd a ragfynegir yn y cyflenwad llafur a ddymunir yn trosi'n gynnydd mewn cyflogaeth, yn y byrdymor o leiaf. Mae gwaith dadansoddi sy'n caniatáu i gyflogau gwympo mewn ymateb i gynnydd yn y cyflenwad llafur hefyd yn awgrymu bod diwygiadau lles yn cael effaith gadarnhaol llai amlwg ar oriau/cyflogaeth yn y byrdymor na phan dybir nad effeithir ar gyflogau.

Mae galw isel am weithwyr hefyd yn golygu y gall y diwygiadau gael sgil-effeithiau negyddol ar gyflogaeth a chyflogau pobl eraill: gyda mwy o bobl yn chwilio am waith (ychwanegol), a busnesau ddim eto'n tyfu i'w hamsugno (fel y byddem yn ei ddisgwyl yn yr hirdymor), gall gweithwyr presennol a phobl eraill sy'n chwilio am waith fod mewn sefyllfa lle cânt eu 'gwthio allan' gan y sawl sydd am weithio oriau hwy neu ddechrau gweithio, neu gallant weld eu cyflogau'n lleihau os bydd cyflogwyr yn torri cyflogau mewn ymateb i'r ffaith bod mwy o weithwyr posibl ar gael.

Mae'r dystiolaeth empirig ynghylch a gafodd diwygiadau lles blaenorol sgil-effeithiau negyddol yn gymysg; mae rhai astudiaethau o'r UD yn nodi effeithiau sylweddol, ond prin yw'r sgil-effeithiau a nodir gan astudiaethau o ddiwygiadau'r DU. Fodd bynnag, digwyddodd y diwygiadau cynharach hyn mewn cyfnod lle'r oedd yr economi a'r farchnad lafur yn llawer cryfach, lle byddai llai o sgil-effeithiau negyddol i'w disgwyl nag mewn marchnad lafur wannach.

Mae unrhyw sgil-effeithiau negyddol sy'n digwydd yn debygol o gael eu gweld fwyaf ymhlith grwpiau o weithwyr sy'n debyg iawn i'r rheini a gaiff eu hannog i ymuno â'r farchnad lafur neu gynyddu eu horiau gan y diwygiadau lles. Yn yr achos hwn, mae'r cymhelliant cryfach i lawer o deuluoedd fod â rhywun mewn gwaith â thâl isel yn golygu bod y fath effeithiau yn debygol o gael eu gweld fwyaf ymhlith cyflogeion cyflog isel/incwm isel presennol a phobl eraill sy'n chwilio am waith cyflog isel, yn enwedig y rheini o fewn y grwpiau hyn nad ydynt yn gweld eu cymhellion i weithio'n gwella (neu hyd yn oed yn eu gweld yn gwanhau, megis rhai ail enillwyr mewn cyplau). Fodd bynnag, mae hefyd yn bosibl y gwelir sgil-effeithiau cadarnhaol ar grwpiau eraill os oes ganddynt sgiliau sy'n ategu'r rheini y'u hanogir i gynyddu eu cyflenwad llafur gan y diwygiadau (fel enghraifft syml, os oes mwy o ddarpar weinwyr yna gallai cogyddion fod ar eu hennill hefyd).

Nid yn unig y gallai amodau byrdymor o ran y galw am weithwyr ddylanwadu ar effaith newid cyflenwad llafur dymunol unigolion ar gyflogaeth ac enillion gwirioneddol; mae hefyd yn debygol y bydd y gostyngiad mewn gwariant lles ynddo'i hun yn effeithio ar amodau byrdymor o ran galw yn yr economi ac felly'r gwaith sydd ar gael (yn ogystal ag effeithio ar gyflenwad llafur unigolion, sef prif ffocws yr adroddiad hwn). Mae llai o arian ym mhocedi pobl yn golygu eu bod yn prynu llai o nwyddau a gwasanaethau; yna mae'r cwmnïau sy'n eu cynhyrchu am gyflogi llai o bobl, gan olygu bod gan y bobl hynny lai o arian i'w wario, ac ati. Mae'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn amcangyfrif, ar draws y DU, fod torri gwariant lles 1% o CMC (maint y toriadau lles hyn fwy neu lai) yn lleihau CMC tua 0.6% yn y byrdymor - ac mae tystiolaeth y gallai'r effaith negyddol ar allbwn fod yn fwy na hyn ar

6

Page 12: An ex-ante analysis effects of the UK Government’s … · Web viewAriannwyd yr ymchwil hon gan Lywodraeth Cymru a Chanolfan er Dadansoddi Microeconomaidd Polisi Cyhoeddus ESRC yn

hyn o bryd, o ystyried nad yw'r economi yn gweithredu i'w chapasiti llawn a bod lefelau diweithdra yn weddol uchel. Wrth gwrs, byddai unrhyw dynhau cyllidebol yn lleihau galw cronnol mewn ffordd debyg (er bod graddau hynny yn dibynnu ar natur y tynhau), a gallai'r Canghellor ddadlau, heb gymryd y fath gamau, y gallai cyfraddau llog y DU godi (yn nodedig gan gynnwys cost fenthyca'r llywodraeth), a fyddai'n arwain at ei gostau ei hun.

CasgliadauMae diwygiadau lles llywodraeth glymblaid y DU yn atgyfnerthu cymhellion ariannol i weithio ryw fymryn, ar gyfartaledd, ac yn yr un modd mae effaith y diwygiadau ar gyflogaeth, oriau gwaith ac enillion yng Nghymru yn debygol o fod yn gadarnhaol ond yn fach. Mae'r newidiadau cyffredinol bach hyn yn celu cryn amrywiad ar draws y boblogaeth, yn nodedig gwahaniaethau pwysig rhwng yr effeithiau ar y prif enillydd a'r ail enillydd mewn cyplau. Fodd bynnag, erys cryn ansicrwydd, yn enwedig o ran yr effaith y gall newidiadau mewn cymhellion 'anariannol' i weithio (megis y symleiddio sy'n gysylltiedig â Chredyd Cynhwysol ac ehangu gofynion chwilio am waith ar gyfer hawlio budd-daliadau i fwy o bobl) ei chael ar gyflenwad llafur. At hynny, yn y byrdymor o leiaf, nid yw'n glir a fydd y sawl sydd am ddechrau gweithio neu gynyddu eu horiau yn gallu gwneud hynny, o ystyried bod disgwyl i lefelau gweddol uchel o ddiweithdra barhau yn y blynyddoedd i ddod. Anaml y caiff casgliad sy'n pwysleisio ansicrwydd ei groesawu. Eto i gyd, mae'n ein hatgoffa, er y gall gwaith dadansoddi damcaniaethol ac empirig gofalus arwain at ddealltwriaeth bwysig, mae'n gynhenid anodd darogan effeithiau diwygiadau mawr a chymhleth, sy'n cynnwys newidiadau niferus i gymhellion ariannol ac anariannol i weithio.

7

Page 13: An ex-ante analysis effects of the UK Government’s … · Web viewAriannwyd yr ymchwil hon gan Lywodraeth Cymru a Chanolfan er Dadansoddi Microeconomaidd Polisi Cyhoeddus ESRC yn

1. CyflwyniadMae'r DU ran o'r ffordd drwy broses sylweddol o gyflwyno gostyngiadau termau real i wariant y llywodraeth, wrth iddi geisio mynd i'r afael â'r diffygion enfawr yn ei harian cyhoeddus. Fel rhan o hyn, mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi ac wrthi'n cyflawni gwerth £18 biliwn o doriadau i wariant lles (hynny yw, gwariant ar fudd-daliadau a chredydau treth) erbyn 2014. Mae hyn yn cynnwys toriadau o ran lefelau hael budd-dal tai, budd-dal y dreth gyngor, budd-daliadau anabledd, credydau treth plant a chredydau treth gwaith, a budd-dal plant, yn ogystal â newid o ddefnyddio'r mynegai prisiau manwerthu a mynegai Rossi1 i'r mynegai prisiau defnyddwyr sy'n gyffredinol is wrth uwchraddio budd-daliadau i roi cyfrif am chwyddiant o un flwyddyn i'r llall. Mae Llywodraeth y DU hefyd wedi cyhoeddi cynlluniau i gyflwyno Credyd Cynhwysol o fis Hydref 2013, lle gwelir un budd-dal integredig yn disodli chwe budd-dal prawf modd. Mae hyn yn cynrychioli'r diwygiad strwythurol mwyaf sylweddol i strwythur y gyfundrefn les ers y 1940au a'r nod yw lleihau costau a gwallau gweinyddol, symleiddio’r broses o wneud cais, annog pobl i gofrestru a chynyddu'r cymhelliant i weithio ymhlith y rheini sy'n wynebu'r cymhellion gwannaf ar hyn o bryd.

Yn flaenorol, mae ymchwilwyr y Sefydliad Astudiaethau Cyllid wedi edrych ar effaith y newidiadau i'r gyfundrefn les ar incymau a chymhellion ariannol i weithio. Yn arbennig, mae cyfres o bapurau wedi ystyried sut mae effeithiau diwygiadau llywodraeth glymblaid y DU i dreth a lles, gyda'i gilydd, yn amrywio ar draws y dosbarthiad incwm, yn ôl rhyw, yn ôl math o deulu manwl ac ar draws y DU (Browne (2010, 2011a, 2011b, 2012)). Mae dadansoddiad rhagarweiniol o effaith Credyd Cynhwysol - gan ddefnyddio'r wybodaeth a oedd yn hysbys ar adeg ei lunio - ar incymau a chymhellion i weithio hefyd wedi cael ei gyhoeddi (Brewer, Browne and Jin (2011)). Un o nodweddion pwysig y gwaith hyd yma yw ei fod wedi ystyried effaith diwygiadau ar incymau a chymhellion i weithio sy'n golygu bod ymddygiad, a chyflenwad llafur yn arbennig, yn sefydlog.

Fel rhan o'r cam cyntaf ar asesu'r effaith ar y diwygiadau lles yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud defnydd helaeth o'r gwaith cynharach hwn. Diben yr adroddiad hwn (sy'n sail dystiolaeth ar gyfer cam 2 o'r asesiad) yw mynd un cam ymhellach wrth ddadansoddi ac ystyried effaith bosibl y diwygiadau ar ymddygiad cyflenwad llafur pobl yng Nghymru. Mae hefyd yn diweddaru'r dadansoddiad o incymau a chymhellion ariannol i weithio er mwyn rhoi mwy o wybodaeth am Gymru a chanolbwyntio'n arbennig ar y diwygiadau i'r gyfundrefn les (yn wahanol i effaith gyfunol newidiadau lles a threth fel y cynhaliwyd gynt).

Mae gweddill yr adroddiad fel a ganlyn. Ym Mhennod 2 disgrifiwn y diwygiadau lles sy'n digwydd rhwng 2010 a 2014, gan ganolbwyntio ar y mathau o unigolion a theuluoedd y bydd diwygiadau penodol yn effeithio arnynt fwyaf, ac effaith diwygiadau ar gymhellion ariannol ac anariannol i weithio. Mae Pennod 3 yn mesur effaith y diwygiadau hyn ar gymhellion ariannol i weithio ac incymau net teuluoedd ar draws y boblogaeth yng Nghymru gan ddefnyddio model microefelychu trethi a budd-daliadau'r Sefydliad Astudiaethau Cyllid, sef TAXBEN. Gwneir hyn ar wahân heb gynnwys a chan gynnwys Credyd Cynhwysol, gan ein galluogi i asesu effaith y diwygiad hwn ar ei ben ei hun, ac am mai dim ond yn rhannol y cyflwynir Credyd Cynhwysol erbyn 2014.

Ym Mhennod 4, trafodwn ganfyddiadau'r llenyddiaeth sy'n edrych ar ymatebolrwydd cyflenwad llafur i gymhellion ariannol i weithio, gan ganolbwyntio ar raddau'r ymatebion o ran oriau a chyflogaeth, a sut mae hyn yn amrywio ar draws y boblogaeth. Mae'r bennod hefyd yn trafod y llenyddiaeth ar effaith trethi a lles ar incwm a chyflogau, ac ar ymddygiad yn yr hirdymor, megis addysg, ffrwythlondeb a chyflenwad llafur yn ystod y cylch oes.

1 Mae Rossi yn fynegai prisiau sy'n debyg i'r Mynegai Prisiau Manwerthu ond nid yw'n cynnwys costau tai.

8

Page 14: An ex-ante analysis effects of the UK Government’s … · Web viewAriannwyd yr ymchwil hon gan Lywodraeth Cymru a Chanolfan er Dadansoddi Microeconomaidd Polisi Cyhoeddus ESRC yn

Rhydd Pennod 5 ganlyniadau'r broses efelychu mewn perthynas ag effaith y diwygiadau lles ar gyflenwad llafur yng Nghymru sy'n defnyddio modelau ar gyfer mamau unigol a chyplau â phlant a heb blant a amcangyfrifir gan ddefnyddio data o Arolwg Adnoddau Teulu'r DU. Mae'r camau hyn, sef 'amcangyfrif ac efelychu', wedi'u cynllunio i nodi effaith rhannau o'r diwygiadau lles y mae technegau symlach yn ei chael hi'n anodd ei wneud (megis y newid o neidio arwahanol o ran yr hawl i les ar 16 a 30 awr o waith yr wythnos o dan Gredyd Treth Gwaith i gyswllt gwell rhwng oriau a hawliad o dan Gredyd Cynhwysol). Fodd bynnag, mae'r modelau amcangyfrifedig yn eithrio niferoedd sylweddol o bobl, ac felly, ym Mhennod 6, defnyddir dull 'calibradu ac efelychu' amgen er mwyn efelychu effaith diwygiadau ar y boblogaeth gyfan sydd o oedran gweithio yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys gwneud tybiaethau ynghylch ymatebolrwydd oriau gwaith a chyflogaeth gwahanol grwpiau o bobl i newidiadau mewn cymhellion ariannol i weithio, gan ddefnyddio tystiolaeth a drafodir yn llenyddiaeth Pennod 4. Rhan allweddol o'r gwaith hwn yw profi natur sensitif canlyniadau i raddau'r ymatebolrwydd a dybir.

Yn syml, gall y penderfyniadau ynghylch cyflenwad llafur unigol sy'n sail i broses efelychu Pennod 5 a 6 gael eu cyfuno er mwyn cynrychioli Cymru gyfan. Fodd bynnag, ym Mhennod 7 trafodwn, yn ansoddol, sut y gall yr economi ehangach ddylanwadu ar effaith y diwygiadau lles, a sut y gall y diwygiadau lles effeithio arni. Mae hyn yn cynnwys y potensial am sgil-effeithiau ar grwpiau eraill o weithwyr nad yw'r diwygiadau lles yn effeithio arnynt yn uniongyrchol, yr effeithiau 'lluosog', gan fod newidiadau mewn pŵer prynu yn effeithio ar y galw cronnol yn yr economi, a'r cwmpas i effaith y diwygiadau fod yn wahanol yng nghyd-destun marchnad lafur lle mae galw isel am weithwyr, sy'n debygol o fod yn hynod berthnasol o ystyried bod disgwyl i ddiweithdra barhau'n uchel dros yr ychydig flynyddoedd i ddod. Daw Pennod 8 i gasgliad.

Yn ystod haf a hydref 2012 y cynhaliwyd y dadansoddiad yn y papur hwn yn bennaf, ac mae'r diwygiadau lles a ddadansoddwyd yn cynnwys cyhoeddiadau a wnaed hyd at ac yn cynnwys Cyllideb 2012. Mae hyn yn golygu nad yw ein dadansoddiad yn cynnwys rhai o'r diwygiadau sylweddol a gyhoeddwyd yn Natganiad yr Hydref 2012: y penderfyniad i gynyddu cyfraddau'r rhan fwyaf o fudd-daliadau oedran gweithio a chredydau treth presennol 1% - hynny yw, yn sylweddol is na'r chwyddiant disgwyliedig - yn ystod misoedd Ebrill, 2013, 2014 a 2015; a chyhoeddiad rhai paramedrau o Gredyd Cynhwysol, a fydd yn ei wneud yn llawer llai hael na'r hyn a fwriadwyd.

9

Page 15: An ex-ante analysis effects of the UK Government’s … · Web viewAriannwyd yr ymchwil hon gan Lywodraeth Cymru a Chanolfan er Dadansoddi Microeconomaidd Polisi Cyhoeddus ESRC yn

2. Cymhellion i weithio a diwygiadau lles y llywodraeth glymblaid2.1 Cwmpas ein dadansoddiadMae'r adroddiad hwn yn dadansoddi'r diwygiadau lles a roddwyd ar waith, neu y bwriedir eu rhoi ar waith, gan lywodraeth glymblaid y DU o'r adeg y'i hetholwyd ym mis Mehefin 2010 hyd at ac yn cynnwys mis Ebrill 2014.2 Dylid tynnu sylw at dair agwedd ar y ffocws hwnnw.

Yn gyntaf, canolbwyntiwn ar ddiwygiadau lles: nid archwiliwn ddiwygiadau i'r system drethi, megis y cynnydd sylweddol yn y gyfradd TAW a'r lwfans personol ar gyfer treth incwm a gyflwynwyd. Nid archwiliwn ychwaith ddiwygiadau i wasanaethau cyhoeddus. I ryw raddau, mae'r gwahaniaethau hyn yn fympwyol. Mae budd-daliadau yn effeithio ar gymhellion ariannol i weithio - y gydberthynas rhwng gwaith a gwobr ariannol - mewn ffordd debyg iawn i drethi, ac yn ddelfrydol dylai'r ddau gael eu dadansoddi gyda'i gilydd. Weithiau, gall y gwahaniaeth rhyngddynt fod braidd yn artiffisial, fel y tanlinellwyd gan y ddadl eithaf di-fudd o dan y llywodraeth Lafur flaenorol ynghylch a ddylai credydau treth gael eu hystyried yn ostyngiadau treth neu'n fudd-daliadau (cânt eu cynnwys yn ein dadansoddiad yn yr adroddiad hwn). Yn yr un modd, mae budd-daliadau a gwasanaethau cyhoeddus yn aml yn debyg iawn i'r pwynt lle mae'n anodd gwahaniaethu rhyngddynt: mae gofal plant a ddarperir gan y wladwriaeth neu a gaiff gymhorthdal ganddi yn ei gwneud yn fwy fforddiadwy i rieni weithio yn yr un modd â chredyd treth sy'n talu'r rhan fwyaf o'r gost. Serch hynny, at ddibenion ymarferol, rhaid i ni ddod o hyd i ryw ffordd o gyfyngu ar ein cylch gwaith ac felly, yn yr adroddiad hwn, canolbwyntiwn yn gyfan gwbl ar ddiwygiadau i fudd-daliadau a chredydau treth. Lle mae'n berthnasol i'n dadansoddiad empirig, rydym yn trin y system drethi y bwriedir ei rhoi ar waith yn 2014-15 ar hyn o bryd fel petai ar waith drwy gydol ein dadansoddiad.

Yn ail, edrychwn ar ddiwygiadau a weithredwyd (neu y bwriedir eu gweithredu) ar ôl i lywodraeth glymblaid y DU ddod i rym. Nid yw hynny'r un fath â diwygiadau a gyhoeddwyd gan y glymblaid: mae'r llywodraeth bresennol wedi dewis bwrw ymlaen â rhai newidiadau a gyhoeddwyd gan ei rhagflaenydd Llafur (megis cyfyngu ar Lwfans Tai Lleol i'r rhent gwirioneddol a delir, a chaniatáu i haelioni Taliadau Tanwydd Gaeaf leihau pan ddaeth cynnydd dros dro i ben) a chanslo rhai eraill (megis cyflwyniad 'credyd treth plant bach'). Mae'n bwnc dadleuol a ddylai gael y clod neu'r bai am bolisïau a gyhoeddwyd gan un llywodraeth ac a weithredwyd (neu y rhoddwyd y gorau iddynt) gan ei holynydd, ac roedd ein dewis braidd yn fympwyol. Yn ffodus, mae'r diwygiadau sy'n perthyn i'r categori hwn yn fach o gymharu â'r rhai a gyhoeddwyd gan y llywodraeth glymblaid ei hun, sy'n dileu rhywfaint o'r sensitifrwydd o ran y dewis hwn.

Yn drydydd, archwiliwn ddiwygiadau y bwriedir eu gweithredu hyd at ac yn cynnwys mis Ebrill 2014. Mae rhai o'r diwygiadau a gyflwynwyd gan Lywodraeth bresennol y DU yn effeithio ar y ffordd y mae cyfraddau budd-daliadau a chredydau treth yn codi o flwyddyn i flwyddyn, ac felly cânt effaith gynyddol dros amser. Po hiraf yr amserlen a ddewisir, y mwyaf y mae'r diwygiadau hyn yn dominyddu'r darlun. Felly, rhaid i ni benderfynu, i bob pwrpas, sawl blwyddyn o bolisi mynegeio newydd y dylid eu cyfrif yn ein dadansoddiad. Unwaith eto, nid oes ateb da i hyn, ac roedd mynd i fyny i ddiwedd cyfnod y llywodraeth bresennol i'w weld yn ddewis naturiol.

2 Fel y nodwyd yn y Rhagair a'r Cyflwyniad, fodd bynnag, nid ydym yn cynnwys diwygiadau a gyhoeddwyd yn Natganiad Hydref 2012, a ddaeth yn rhy hwyr i'w hymgorffori yn ein dadansoddiad.

10

Page 16: An ex-ante analysis effects of the UK Government’s … · Web viewAriannwyd yr ymchwil hon gan Lywodraeth Cymru a Chanolfan er Dadansoddi Microeconomaidd Polisi Cyhoeddus ESRC yn

Wrth edrych ar y diwygiadau hyd at fis Ebrill 2014, cynhwysir bron pob diwygiad mawr sydd yn yr arfaeth ar hyn o bryd. Ond efallai mai dim ond yn rhannol y bydd y diwygiad mwyaf oll, sef Credyd Cynhwysol, wedi'i gyflwyno. Mae cyfuniad o gyfnod cyflwyno hir a darpariaethau trosiannol sylweddol yn golygu y bydd cryn amser cyn i Gredyd Cynhwysol weithredu mewn modd 'sefydlog'. Dyna un rheswm pam, drwy gydol yr adroddiad hwn, y dadansoddwn y diwygiadau gan gynnwys a heb gynnwys Credyd Cynhwysol. Y rheswm syml arall yw bod Credyd Cynhwysol yn ddiwygiad mor fawr ei bod yn briodol ei ddadansoddi ar wahân.

Amlinellwn y ffordd y bydd Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut y bydd yn effeithio ar bobl yn Adran 2.5. Ond cyn hynny, edrychwn ar weddill y diwygiadau sy'n destun yr adroddiad hwn. Diwygiadau sy'n effeithio ar gymhellion ariannol i weithio yw ein prif ffocws yn yr adroddiad hwn, a'r unig ffocws yn y dadansoddiad empirig ym Mhenodau 3 i 6. Ar ôl trafod y rheini, yn Adran 2.4 trown at ystyried newidiadau i gymhellion anariannol i weithio, megis amodau chwilio am waith sydd ynghlwm wrth fudd-daliadau. Cyfrifir y rhestr lawn o ddiwygiadau yn Nhabl 2.1.

2.2 Nodweddu cymhellion ariannol i weithioMae cymhellion ariannol i weithio yn dibynnu ar y gydberthynas rhwng oriau gwaith ac incwm net (hynny yw, incwm ar ôl trethi a budd-daliadau). Bydd hyn yn amrywio rhwng pobl yn ôl y gyfradd cyflog y gallant ei mynnu a'r trethi a'r budd-daliadau sy'n daladwy ganddynt/iddynt ar lefelau enillion gwahanol.

Dengys Ffigur 2.1 y gydberthynas rhwng oriau gwaith ac incwm net - y 'cyfyngiad cyllidebol' - er enghraifft, rhiant unigol ar gyflog isel a rôl gwahanol fudd-daliadau a chredydau treth wrth ei greu. Wrth gwrs, un nodwedd amlwg yw'r nifer fawr o fudd-daliadau gwahanol dan sylw, a'r cymhlethdod cyfatebol yw un o'r rhesymau dros gyflwyno Credyd Cynhwysol mewn ymgais i symleiddio'r system. Gan ystyried y cyfyngiad cyllidebol yn ei gyfanrwydd, mae uchafswm mwy unffurf yn awgrymu bod y cymhellion i weithio yn wannach - ychydig iawn o incwm ychwanegol o weithio mwy o oriau. Dros ystod sylweddol ar oriau isel, mae'r cyfyngiad cyllidebol yn gwbl unffurf gan fod Cymhorthdal Incwm neu Lwfans Ceisio Gwaith (LCG) yn seiliedig ar incwm, sy'n ychwanegu at incwm hawlwyr i isafswm, yn lleihau bunt am bunt wrth i incwm preifat gynyddu hyd nes y cyrhaeddir yr isafswm hwnnw. Mae Credyd Treth Gwaith yn gymhelliant cryf i'r rhiant unigol hwn weithio 16 awr neu fwy yr wythnos; ond unwaith y cyrhaeddir y trothwy 16 awr nid oes llawer o fudd i'r rhiant unigol ennill mwy gan fod Budd-dal Tai, Budd-dal y Dreth Gyngor a chredydau treth yn lleihau wrth i enillion gynyddu.

Dengys Ffigur 2.1 y sefyllfa yn achos un unigolyn, nad yw'n enghraifft nodweddiadol o reidrwydd. Gydag amgylchiadau personol yn amrywio'n sylweddol a chryn gymhlethdod o ran y ffordd y mae'r rhwydwaith o fudd-daliadau gwahanol sy'n gorgyffwrdd yn ymateb i'r amgylchiadau hynny, mae cyfyngiadau cyllidebol yn amrywio'n fawr iawn ar draws y boblogaeth. Er mwyn deall yn llawn y cymhellion ariannol i weithio sy'n wynebu unigolyn, byddai angen edrych ar ei gyfyngiad cyllidebol llawn yn ddelfrydol. Fodd bynnag, er mwyn i’r dadansoddiad o'r boblogaeth gyfan fod yn hydrin, rhaid i ni gyflwyno rhai mesurau cryno.

Wrth ystyried y ffordd y mae diwygiadau'n effeithio ar gymhellion i weithio, gwahaniaethwn rhwng dwy agwedd: y cymhelliant i weithio o gwbl (yn wahanol i beidio â gweithio) a'r cymhelliant i'r rheini sy'n gweithio i ennill mwy - drwy weithio mwy o oriau, ceisio dyrchafiad neu symud i swydd sy'n talu'n well.

Mesurwn y cymhelliant i weithio o gwbl gan ddefnyddio'r gyfradd dreth gyfranogol (CDG), cyfran yr holl enillion a gymerir mewn treth a budd-daliadau a dynnwyd yn ôl, wedi'u cyfrifo fel:

CDG=1− Incwmnetmewn gwaith – Incwmnet allano waithEnillion gros

.

11

Page 17: An ex-ante analysis effects of the UK Government’s … · Web viewAriannwyd yr ymchwil hon gan Lywodraeth Cymru a Chanolfan er Dadansoddi Microeconomaidd Polisi Cyhoeddus ESRC yn

Noder nad dyma'r unig fesur o gymhellion i weithio sydd ar gael: mesur poblogaidd arall yw'r gyfradd ddisodli - incwm allan o waith net fel ffracsiwn o incwm mewn gwaith net. Mae Adam, Brewer a Shephard (2006) yn trafod nodweddion gwahanol y ddau fesur, ond er symlrwydd canolbwyntiwn ar y CDG yn yr adroddiad hwn.

Mesurwn y cymhelliant i'r rheini sy'n gweithio ennill mwy gan y gyfradd dreth ffiniol effeithiol (CDYE), cyfran cynnydd bach mewn enillion a gymerir mewn treth a budd-daliadau a dynnwyd yn ôl.

Yn y ddau achos, mae niferoedd uwch yn awgrymu cymhellion gwannach i weithio. Byddai sero yn golygu nad oedd unrhyw fudd ariannol o weithio (neu ennill mwy); byddai 100% yn golygu bod yr unigolyn wedi cael cadw ei holl enillion gros (neu enillion ychwanegol).

Wrth ystyried cymhellion i weithio aelodau o gyplau, yn yr adroddiad hwn canolbwyntiwn ar y gydberthynas rhwng ymddygiad gweithio unigolyn ac incwm net ei deulu. Mae hynny'n tybio'n benodol fod cyplau'n rhannu incwm yn llawn - nid yw hynny'n dybiaeth gwbl realistig, ond mae senarios eithafol amgen yn ymddangos hyd yn oed yn llai credadwy a modelu bargeinio cartrefi cwbl realistig yn llawer rhy anodd.

Ffigur 2.1 Cyfansoddiad cyfyngiad cyllidebol enghreifftiol yn 2012-13

Nodiadau: Mae'r enghraifft ar gyfer rhiant unigol sydd â dau o blant rhwng un a phedair oed, ac sy'n ennill £6.50 yr awr, heb unrhyw incwm preifat arall, dim costau gofal plant a dim aelod o'r teulu sy'n anabl, sy'n talu £80 yr wythnos mewn rhent i fyw mewn eiddo Band B treth gyngor mewn awdurdod lleol sy'n pennu cyfraddau'r dreth gyngor yn ôl y cyfartaledd cenedlaethol. Mae 'enillion net llai treth gyngor' yn cyfeirio at enillion ar ôl didynnu treth incwm, cyfraniadau YG cyflogeion a threth gyngor. Nid yw'r ffigur yn dangos symiau negyddol ar gyfer 'enillion net llai treth gyngor' ar yr ochr chwith lle mae treth gyngor yn fwy nag enillion net: heb fod unrhyw enillion (sero), mae 'enillion net llai treth gyngor' yn -£15.77, gyda Budd-dal Plant yn llenwi'r bwlch o'r hyn a ddangosir.Ffynhonnell: Cyfrifiadau'r awduron gan ddefnyddio TAXBEN.

12

Page 18: An ex-ante analysis effects of the UK Government’s … · Web viewAriannwyd yr ymchwil hon gan Lywodraeth Cymru a Chanolfan er Dadansoddi Microeconomaidd Polisi Cyhoeddus ESRC yn

Tabl 2.1 Diwygiadau lles a weithredwyd (neu y bwriedir eu gweithredu) ers mis Ebrill 2010

Diwygiad Cyhoeddwyd Gweithredwyd

Effaith refeniw yn 2014-15 (£m)c

1 Rhoi'r gorau i'r cynnydd dros dro mewn Taliadau Tanwydd Gaeaf fel bod y gyfradd yn gostwng o £250 i £200 (o £400 i £300 i bobl 80 oed neu drosodd) Cyllideb Mawrth 2010 Gaeaf

2011-12 +700

2 Lleihau'r oriau gwaith sy'n ofynnol ar gyfer CTG o 30 i 16 i bobl 60 oed neu drosodd neu sydd â phartner 60 oed neu drosodd Cyllideb Mawrth 2010 Ebrill 2011 -20

3 Newid y Lwfans Tai Lleol fel nad oes modd hawlio mwy na'r swm o rent a delir mewn gwirionedd (cyn hyn gellid cadw hyd at £15 yr wythnos os oedd y rhent a dalwyd islaw'r gyfradd LTLl)

Cyllideb 2009/ Cyllideb Mawrth 2010 Ebrill 2011 +170

4 Newid i uwchraddio'r rhan fwyaf o fudd-daliadau ar sail MPD (yn lle MPM neu Rossi) Cyllideb Mehefin 2010 Ebrill 2011 +7,555 a

5'Clo driphlyg' o ran Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth (yr uchaf o blith MPD, enillion cyfartalog neu 2.5%) o fis Ebrill 2012, ar ôl cynnydd yn unol â MPM ym mis Ebrill 2011 (yn uwch na'r clo triphlyg ar gyfer y flwyddyn honno)

Adolygiad o Wariant 2010Ebrill 2011/Ebrill 2012

-1,530a

6 Cynyddu Credyd Gwarantedig Credyd Pensiwn o'r un swm o arian parod â Phensiwn y Wladwriaeth ym mis Ebrill 2011 a mis Ebrill 2012

Cyllideb Mehefin 2010/ Datganiad Hydref 2011

Ebrill 2011/Ebrill 2012

-840

7 Rhewi arian parod o fewn y Credyd Cynilion Credyd Pensiwn am bedair blynedd o fis Ebrill 2011, gyda lleihad ym mis Ebrill 2012

Adolygiad o Wariant 2010/ Datganiad yr Hydref 2011

Ebrill 2011/Ebrill 2012

+600

8 Rhewi arian parod o fewn elfennau sylfaenol a 30 awr CTG am dair blynedd o fis Ebrill 2011, ac o fewn yr elfen cyplau a rhieni unigol ym mis Ebrill 2012

Adolygiad o Wariant 2010/ Datganiad yr Hydref 2011

Ebrill 2011/Ebrill 2012

+1,305

9 Cynyddu nifer yr oriau gofynnol ar gyfer CTG o 16 i 24 ar gyfer cyplau â phlant Adolygiad o Wariant 2010 Ebrill 2012 +54010 Dileu elfen dychwelyd i'r gwaith 50+ CTGb Cyllideb Mehefin 2010 Ebrill 2012 +3511 Gostwng cyfran y costau gofal plant cymwys a gwmpesir gan gredydau treth o 80% i 70% Adolygiad o Wariant 2010 Ebrill 2011 +390

12 Dileu elfen teulu Credyd Treth Plant yn syth ar ôl tynnu elfennau eraill o gredydau treth yn ôl (cyn hyn dim ond ar ôl i incwm fynd uwchlaw £50,000 y'i tynnwyd yn ôl) Cyllideb Mehefin 2010 Ebrill 2011/

Ebrill 2012 +455

13 Cynyddu'r gyfradd y tynnir credydau treth yn ôl o 39% i 41% Cyllideb Mehefin 2010 Ebrill 2011 +75514 Cynyddu elfen plentyn Credyd Treth Plant £180 uwchlaw chwyddiant Cyllideb Mehefin 2010/ Ebrill 2011 -1,610

13

Page 19: An ex-ante analysis effects of the UK Government’s … · Web viewAriannwyd yr ymchwil hon gan Lywodraeth Cymru a Chanolfan er Dadansoddi Microeconomaidd Polisi Cyhoeddus ESRC yn

Adolygiad o Wariant 201015 Dileu elfen baban Credyd Treth Plant Cyllideb Mehefin 2010 Ebrill 2011 +27516 Rhewi Budd-dal Plant mewn termau arian parod am dair blynedd Cyllideb Mehefin 2010 Ebrill 2011 +1,285

17 Rhoi'r gorau i dalu Budd-dal Plant i deuluoedd lle mae aelod yn ennill mwy na £50,000 Adolygiad o Wariant 2010/ Cyllideb 2012

Ionawr 2013 +1,740

18 Cyfyngu Grant Mamolaeth Cychwyn Cadarn i'r baban cyntaf a enir Cyllideb Mehefin 2010 Ebrill 2011 +75

19 Pennu cyfraddau Lwfans Tai Lleol ar y 30ain yn lle'r 50fed canradd o renti lleol Cyllideb Mawrth 2010/ Cyllideb Mehefin 2010 Ebrill 2011 +525

20 Cynyddu'r didyniadau Budd-dal Tai i breswylwyr nad ydynt yn ddibynnol ym mis Ebrill 2011 a'u huwchraddio yn ôl MPD wedyn Cyllideb Mehefin 2010 Ebrill 2011 +210a

21 Capio cyfanswm y rhent y gellir ei hawlio ar gyfer cyfansoddiad teuluol penodol o dan Lwfans Tai Lleol (waeth beth fo'r rhenti lleol) a diddymu'r cyfraddau uwchlaw'r gyfradd pedair ystafell wely Cyllideb Mehefin 2010 Ebrill 2011 +165

22 Cynyddu cyfraddau Lwfans Tai Lleol yn unol â MPD yn hytrach na rhenti gwirioneddol Cyllideb Mehefin 2010 Ebrill 2013 +265a

23 Torri Lwfans Tai Lleol (i'r 'gyfradd ystafell a rennir') ar gyfer oedolion sengl 25-34 oed heb blant Adolygiad o Wariant 2010 Ionawr 2012 +215

24 Torri Budd-dal Tai i bobl sy'n tanfeddiannu eiddo rhent cymdeithasolb Cyllideb Mehefin 2010 Ebrill 2013 +490

25 Pennu terfyn amser ar gyfer Lwfans Cyflogaeth a Chymorth cyfrannol i flwyddyn ac eithrio'r rheini â'r anableddau mwyaf difrifol Adolygiad o Wariant 2010 Ebrill 2012 +1,230

26Cyflwyno cap ar fudd-daliadau, £500 yr wythnos yn 2013-14 (£350 ar gyfer oedolion sengl), ar gyfer oedolion o oedran gweithio, ac eithrio'r sawl sy'n derbyn CTG neu Lwfans Byw i’r Anabl a'r rheini â'r anableddau mwyaf difrifol sy'n derbyn Lwfans Cyflogaeth a Chymorth

Adolygiad o Wariant 2010 Ebrill 2013 +330

27 Newidiadau i'r modd yr ymdrinnir â newidiadau mewn amgylchiadau o fewn y flwyddyn ar gyfer credydau trethb Cyllideb Mehefin 2010

Ebrill 2011/ Ebrill 2012/ Ebrill 2013

+1,410

28Disodli Budd-dal y Dreth Gyngor â chynlluniau ad-dalu treth gyngor lleol a lleihau'r arian sydd ar gael ar ei gyfer. Tybir bod y cynllun sydd ar waith ledled Cymru fel y system BDG bresennol ond bod uchafswm y dreth gyngor y gellir ei hawlio yn gostwng o 100% i 91%

Adolygiad o Wariant 2010 Ebrill 2013 +485

29 Cyflwyno'r Rhaglen Waith yn lle cynlluniau o fudd-dal i waith blaenorol (y Fargen Newydd Hyblyg yng Nghymru)b Adolygiad o Wariant 2010 Mehefin

2011 dd/gch

30 Ymestyn Rhwymedigaethau Rhieni Unigol, sy'n ei gwneud yn ofynnol i rieni unigol â phlant 5-9 oed hawlio Lwfans Ceisio Gwaith yn hytrach na Chymhorthdal Incwmb

Papur Gorchymyn Rhagfyr 2007/Cyllideb Mehefin 2010

Hydref 2010/Mai 2012

—d

14

Page 20: An ex-ante analysis effects of the UK Government’s … · Web viewAriannwyd yr ymchwil hon gan Lywodraeth Cymru a Chanolfan er Dadansoddi Microeconomaidd Polisi Cyhoeddus ESRC yn

31 Symud hawlwyr presennol budd-daliadau analluogrwydd i Lwfans Cyflogaeth a Chymorth, gan ailasesu eu cyflwr iechyd ar yr un prydb Cyllideb 2008 Hydref

2010 —dd

32 Disodli Lwfans Byw i’r Anabl â Thaliad Annibyniaeth Bersonol, gan ailasesu cyflwr iechyd hawlwyr ar yr un prydb Cyllideb Mehefin 2010 Ebrill 2013 +1,055

34 Cyflwyno Credyd Cynhwysol yn lle chwe budd-dal a chredyd treth prawf modd presennol Adolygiad o Wariant 2010 Hydref 2013 -140e

a Bydd y niferoedd hyn yn cynyddu o flwyddyn i flwyddyn am fod y diwygiadau hyn yn newid pa mor gyflym y mae cyfraddau budd-daliadau yn cynyddu dros amser.b Heb ei fodelu yn ein dadansoddiad empirig.c Effeithiau refeniw ar draws y DU. Noder: Mae effeithiau refeniw rhai diwygiadau yn dibynnu ar a yw eraill wedi digwydd; daw'r prisiadau a geir yma o ddogfennau Cyllideb, sy'n tybio bod y rheini a restrir yn fympwyol yn uwch yn y tabl prisiadau Cyllideb (neu mewn Cyllideb flaenorol) eisoes ar waith a bod y rhai sydd wedi'u rhestru'n is (neu mewn Cyllideb ddilynol) heb fod ar waith.ch Ariennir o fewn Terfyn Gwariant Adrannol cyffredinol yr Adran Gwaith a Phensiynau fel y'i cyhoeddwyd yn Adolygiad o Wariant 2010.d Nid ydym wedi llwyddo i ddod o hyd i amcangyfrif refeniw ar gyfer effaith ymestyn amodolrwydd i rieni unigol y mae eu plentyn ieuengaf yn 7-9 oed. Ceir £290 miliwn yn sgil ymestyn amodolrwydd i'r rheini y mae eu plentyn ieuengaf yn bump neu'n chwech oed.dd Nid ydym wedi llwyddo i ddod o hyd i amcangyfrif refeniw ar gyfer hyn.e Noder mai dyma'r gost ddisgwyliedig yn 2014-15, pan mai megis dechrau y bydd y broses o gyflwyno Credyd Cynhwysol. Disgwylir i'r gost yn 2017-18 fod yn £2,230 miliwn.Ffynhonnell: Cyllidebau Amrywiol.

15

Page 21: An ex-ante analysis effects of the UK Government’s … · Web viewAriannwyd yr ymchwil hon gan Lywodraeth Cymru a Chanolfan er Dadansoddi Microeconomaidd Polisi Cyhoeddus ESRC yn

2.3 Nodweddu effeithiau diwygiadau unigol Gall y diwygiadau a restrir yn Nhabl 2.1 gael eu rhannu'n bedwar prif grŵp: newidiadau o ran haelioni budd-daliadau 'rhwyd diogelwch'; toriadau i gymorth mewn gwaith; profion modd mwy manwl; a newidiadau i fudd-daliadau nad ydynt yn seiliedig ar brawf modd. Nawr ystyriwn bob un o'r rhain yn eu tro, ac yna trafodwn y diwygiadau hynny nad ydynt yn perthyn yn daclus i un o'r categorïau hyn.

Newidiadau o ran haelioni budd-daliadau rhwyd diogelwchMae'r rhan fwyaf o'r diwygiadau a restrir yn Nhabl 2.1 yn cynnwys newid yr uchafswm o gymorth prawf modd y gellir ei gael gan y rheini heb unrhyw incwm arall. Mae hyn yn cynnwys llawer o'r toriadau:

- Yr holl doriadau i Fudd-dal Tai a Budd-dal y Dreth Gyngor (diwygiadau 3, 19, 20 21, 22, 23, 24 a 28)

- Dileu elfen baban Credyd Treth Plant (diwygiad 15)

- Cyfyngu Grant Mamolaeth Cychwyn Cadarn i'r baban cyntaf a enir (diwygiad 18)

- Cyflwyno cap ar fudd-daliadau (diwygiad 27)

Mae lleihau haelioni budd-daliadau rhwyd diogelwch yn atchweliadol, gan beri colledion i'r rheini heb unrhyw incwm arall. Ond mae yn syml yn atgyfnerthu cymhellion i weithio'r sawl yr effeithir arnynt. Mae lleihad mewn incwm allan o waith yn amlwg yn atgyfnerthu'r cymhelliant i weithio o gwbl: mae'n golygu bod rhoi'r gorau i weithio yn llai deniadol i'r rheini sy'n gweithio ar hyn o bryd, ac mae'n rhoi mwy o hwb i'r rheini sydd allan o waith i ddod o hyd i swydd. Ac os yw budd-daliadau yn llai hael, mae'r ystod incwm lle cânt eu tynnu'n ôl yn fyrrach, felly bydd llai o bobl sydd eisoes mewn gwaith yn dal i fod â hawl i gael y budd-daliadau hyn ac yn wynebu'r anghymhelliant y'u tynnir yn ôl wrth i'w hincwm gynyddu.

Mewn rhai achosion mae'r llywodraeth wedi gwneud budd-daliadau rhwyd diogelwch yn fwy hael:

- Y cynnydd yn elfen plant Credyd Treth Plant (diwygiad 14)

- Cynnydd yn y Gwarant Credyd Pensiwn (diwygiad 6)

Caiff cynnydd o'r fath effaith groes, gan wanhau cymhellion i weithio'r rhai yr effeithir arnynt.

Ar gyfer newidiadau yn haelioni budd-daliadau rhwyd diogelwch, mae maint yr effeithiau refeniw a ddangosir yn Nhabl 2.1 yn ganllaw rhesymol (er nad yn gywir) i'r graddau y maent yn gwanhau cymhellion i weithio. Yn unigol, y rhai mwyaf sylweddol yw'r ddau a roddir, er bod y toriadau i Fudd-dal Tai a Budd-dal y Dreth Gyngor hefyd yn sylweddol, yn enwedig o'u hystyried fel un grŵp. Ond mae'r newidiadau amrywiol yn gymwys i bobl mewn amgylchiadau tra gwahanol: bydd pobl â phlant (heblaw am fabanod) yn dueddol o weld eu cymhellion i weithio yn gwanhau yn sgil y cynnydd mewn Credyd Treth Plant; bydd pobl sy'n rhentu eiddo yn y sector preifat yn aml yn gweld eu cymhellion i weithio yn gwanhau yn sgil y toriadau i Lwfans Tai Lleol. Gall rhai o'r diwygiadau, megis cyflwyno cap ar fudd-daliadau, gael effaith fawr ar gymhellion i weithio'r rheini yr effeithir arnynt, ond maent yn effeithio ar nifer gymharol brin o bobl ac felly ymddengys eu bod yn gymharol fach yn gyffredinol.

Toriadau i gymorth mewn gwaithMae CTG yn gynyddol ar y cyfan, gan roi cymorth i deuluoedd sy'n gweithio ac ar incwm isel - er mai'r teuluoedd tlotaf wrth gwrs yw'r rheini nad ydynt yn gweithio o gwbl. Mae'r glymblaid wedi cyhoeddi toriadau amser real i uchafswm CTG:

16

Page 22: An ex-ante analysis effects of the UK Government’s … · Web viewAriannwyd yr ymchwil hon gan Lywodraeth Cymru a Chanolfan er Dadansoddi Microeconomaidd Polisi Cyhoeddus ESRC yn

Rhewi arian parod o ran gwerth yr elfennau sylfaenol a 30 awr am dair blynedd a'r elfennau ychwanegol ar gyfer rhieni unigol a chyplau am flwyddyn (diwygiad 8)

Cynyddu'r oriau wythnosol y mae'n rhaid i gyplau â phlant eu gweithio er mwyn bod yn gymwys i gael CTG, o 16 i 24 awr (diwygiad 9)

Lleihau'r cymorth gofal plant a ddarperir drwy CTG (diwygiad 11)

Dileu'r bonws a gaiff y rheini sy'n 50 oed neu drosodd am hyd at flwyddyn os ydynt yn symud o fudd-daliadau i waith (diwygiad 10).

Mae'r toriadau hyn i CTG yn lleihau'r cymhelliant i rywun mewn teulu fod mewn gwaith â thâl isel. Fodd bynnag, gyda chymorth mewn gwaith llai hael i deuluoedd ar enillion isel, mae gan y rheini sy'n cael CTG cyn y diwygiadau lai i'w golli o gynyddu eu henillion uwchlaw'r pwynt lle mae'r hawl i gael CTG yn darfod. Felly, tra bod y diwygiadau hyn yn gwanhau'r cymhelliant i deuluoedd fod â rhywun mewn gwaith o gwbl, maent yn atgyfnerthu'r cymhelliant i'r rheini mewn gwaith ennill mwy.

Gan fod CTG yn destun prawf modd ar incwm cyfunol cyplau, mae'n hanfodol sylweddoli bod y diwygiadau hyn, at ei gilydd, yn gwanhau cymhellion i rywun yn y cwpl fod mewn gwaith, ac yn atgyfnerthu cymhellion i'r cwpl ennill mwy. Un ffordd y gall cwpl ennill mwy, wrth gwrs, yw i'r ddau bartner weithio yn hytrach nag un. Felly, yn achos cyplau, mae toriadau i CTG yn gwanhau'r cymhelliant i'r partner cyntaf fod mewn gwaith, ond atgyfnerthir y cymhelliant i'r ail bartner fod mewn gwaith. Mae bod yn gwpl lle dim ond un sy'n ennill yn dod yn llai deniadol, yn berthynol i fod yn gwpl nad yw'n ennill a chwpl lle mae'r ddau yn ennill.

Fodd bynnag, nid yw hyn yn wir am leihau elfen gofal plant CTG. Er mwyn bod yn gymwys i gael cymorth gofal plant, rhaid bod y ddau aelod o'r cwpl mewn gwaith â thâl; felly, nid yw ei leihau yn cael unrhyw effaith ar y cymhelliant i'r partner cyntaf fod mewn gwaith (gan fod y ffaith bod partner nad yw'n gweithio yn golygu nad ydynt yn gymwys i gael y cymorth gofal plant beth bynnag), ond mae'n gwanhau'r cymhelliant i ail enillydd fod mewn gwaith (gan fod gweithio yn golygu bod ganddynt hawl i lai o gymorth gofal plant na chyn y diwygiadau).

BLWCH 2.1: Elfen Credyd Cynilion Credyd PensiwnEfallai ei bod yn syndod bod torri elfen Credyd Cynilion Credyd Pensiwn (diwygiad 7) yn effeithio ar gymhellion i weithio mewn ffordd debyg i dorri CTG. Dim ond Credyd Gwarantedig Credyd Pensiwn (y caiff newidiadau iddo eu trafod ar wahân uchod) a gaiff y rheini nad ydynt yn gweithio ac sydd â fawr ddim incwm preifat, os o gwbl: nid oes ganddynt hawl i gael Credyd Cynilion. Mae llai o gymhelliant iddynt fod mewn gwaith ac ennill digon i'w gwneud yn gymwys i gael Credyd Cynilion os yw'r Credyd hwnnw'n llai. Ond i'r rheini sydd mewn gwaith ac yn derbyn Credyd Cynilion, mae Credyd Cynilion llai yn golygu bod llai i'w golli drwy ennill mwy - gan gynnwys, ar gyfer cyplau, fod ag ail bartner mewn gwaith.

17

Page 23: An ex-ante analysis effects of the UK Government’s … · Web viewAriannwyd yr ymchwil hon gan Lywodraeth Cymru a Chanolfan er Dadansoddi Microeconomaidd Polisi Cyhoeddus ESRC yn

Mae'r effaith a welir ar gymhellion i weithio yn sgil torri Credyd Cynilion Credyd Pensiwn yn wahanol i dorri CTG mewn dwy ffordd, yn deillio o'r ffaith bod yr hawl i gael Credyd Cynilion yn cael ei chyflwyno'n raddol wrth i incwm gynyddu uwchlaw trothwy yn hytrach na chael ei sbarduno gan drothwy oriau. Yn gyntaf, am fod Credyd Cynilion yn cael ei gyflwyno'n raddol, mae cynnydd yn y trothwy nid yn unig yn lleihau haelioni cyffredinol y Credyd Cynilion (gyda'r effeithiau a drafodir uchod); mae hefyd yn creu ystod fechan o incwm rhwng yr hen drothwy a'r trothwy newydd lle mae cynnydd bach mewn incwm yn llai gwerth chweil am nas gwobrwyir gan Gredyd Cynilion ychwanegol. Mae pobl sy'n ennill yn yr ystod hon bellach yn wynebu CDYE o 100% - collant Gredyd Gwarantedig Pensiwn Credyd bunt am bunt wrth iddynt ennill mwy - yn hytrach na 40% petai colli punt o Gredyd Gwarantedig yn cael ei wrthbwyso gan ennill 60c o Gredyd Cynilion. Ac yn ail, am nad oes gofyniad oriau gwaith er mwyn cael Credyd Cynilion Credyd Pensiwn, gall y rheini sydd â digon o incwm o ffynonellau eraill (megis pensiwn preifat) i gael Credyd Cynilion - fel y rheini ag incwm o bartner sy'n gweithio - ddarganfod bod Credyd Cynilion llai hael yn golygu bod llai ganddynt i'w golli o fod mewn gwaith.

Profion modd mwy manwlMae'r diwygiadau a drafodir hyd yma yn cynnwys newid yr uchafswm budd-daliadau a chredydau treth prawf modd y gellir eu cael. Ond mae diwygiadau lles y llywodraeth hefyd yn cynnwys cynnal profion modd mwy manwl ar gyfer credydau treth (diwygiadau 12 a 13) a chynnal prawf modd ar gyfer Budd-dal Plant am y tro cyntaf (diwygiad 17).

Nid yw'r diwygiadau hyn yn effeithio ar faint o gymorth y gall teuluoedd ei gael os nad ydynt yn gweithio; mae'r lleihad mewn haelioni yn digwydd ar draul y rheini mewn gwaith yn gyfan gwbl. Felly, maent yn lleihau'r cymhelliant i deuluoedd fod â rhywun mewn gwaith, ac yn benodol i fod ag enillion uwchlaw'r trothwy lle dechreuir tynnu cymorth yn ôl (£6,420 yn achos credydau treth a £50,000 yn achos Budd-dal Plant ar hyn o bryd) ac mae islaw'r pwynt lle byddai wedi cael ei dynnu'n ôl yn gyfan gwbl yn absenoldeb diwygiadau (sy'n amrywio yn ôl oriau gwaith a nifer y plant yn achos credydau treth; nid oes pwynt o'r fath yn achos Budd-dal Plant gan ei fod yn cael ei dalu waeth beth fo lefel yr incwm ar hyn o bryd).

I gyplau, yr unig beth sy'n berthnasol o ran Budd-dal Plant yw incwm y prif enillydd: mae'r diwygiad yn gwanhau'r cymhelliant i'r prif enillydd aros mewn gwaith (neu symud i mewn i waith) petai ei enillion yn fwy na £50,000 (oni bai bod y ddau bartner yn ennill mwy na £60,000). Yn achos credydau treth, bydd yr effaith ar gyplau yn aml yn debyg i dorri CTG: tra bod y cymhelliant i fod â phrif enillydd mewn gwaith yn cael ei wanhau, gall y lleihad mewn cymorth i gyplau ag un enillydd olygu bod llai i'w golli o fod ag ail enillydd mewn gwaith ac felly mae'r cymhelliant mewn perthynas â hynny'n gryfach. Fodd bynnag, nid yw hynny'n wir bob tro: petai enillion cyfunol y cwpl yn dal i olygu eu bod yn gymwys i gael credydau treth yn absenoldeb y diwygiadau (yn ddigon posibl o ystyried bod hawliad yn ymestyn i incwm teuluol o fwy na £58,000), mae'n bosibl y gall y diwygiadau leihau hawl y cwpl i raddau mwy os yw'r ddau bartner yn gweithio nag os mai dim ond un sydd, ac os felly mae'r cymhelliant i fod ag ail bartner mewn gwaith hefyd yn wannach.

Gan droi at gymhellion i'r rheini mewn gwaith ennill mwy, mae cynnal prawf modd ar Fudd-dal Plant yn amlwg yn lleihau'r cymhelliant i'r rheini mewn gwaith (dim ond y prif enillydd yn achos cyplau) ennill mwy drwy'r ystod £50,000 i £60,000, y caiff y budd-dal ei dynnu'n ôl ynddi.

Unwaith eto, mae effaith profion modd mwy manwl ar gredydau treth ar y cymhelliant i'r rheini mewn gwaith ennill mwy yn fwy cymhleth. Mae'r rheini sy'n wynebu colli 41c yn hytrach na 39c o gredydau treth am bob punt ychwanegol a gaiff ei hennill (diwygiad 13) yn amlwg yn wynebu cymhelliant gwannach i ennill mwy; ond mae'r broses tynnu'n ôl gyflymach hon yn golygu bod yr hawliad yn rhedeg

18

Page 24: An ex-ante analysis effects of the UK Government’s … · Web viewAriannwyd yr ymchwil hon gan Lywodraeth Cymru a Chanolfan er Dadansoddi Microeconomaidd Polisi Cyhoeddus ESRC yn

allan ar lefel incwm is, ac nid yw'r rheini nad ydynt yn gymwys mwyach yn wynebu colli unrhyw gredydau treth wrth iddynt ennill mwy nawr. Mae'r anghymhelliant yn gryfach ond mae'n gymwys i lai o bobl. Yn y cyfamser, mae'r newid i gynnal prawf modd ar elfen teulu Credyd Treth Plant (diwygiad 12) yn cynnwys fersiwn mwy eithafol o'r un ffenomenon (bellach caiff yr elfen teulu ei thynnu'n ôl ar yr un gyfradd o 41% â gweddill credydau treth, yn hytrach na'r 6.7% blaenorol), ond dechreuir hefyd ei dynnu'n ôl o lefel incwm is (yn syth ar ôl yr elfen plant, yn hytrach na'r £50,000 blaenorol). Mae'r newid olaf hwn yn golygu bod y posibilrwydd o golli credydau treth wrth i incwm gynyddu yn effeithio ar wahanol ran o'r dosbarthiad incwm, sy'n ddwysach ei phoblogaeth a lle y gall pobl fod yn fwy neu'n llai ymatebol i gymhellion o'r fath.

Newidiadau o ran haelioni budd-daliadau nad ydynt yn seiliedig ar brawf moddMae'r llywodraeth wedi cyflwyno rheol fwy hael ar gyfer pennu cynnydd blynyddol ym Mhensiwn sylfaenol y Wladwriaeth (diwygiad 5). Roedd y llywodraeth Lafur flaenorol wedi bwriadu symud o'i uwchraddio yn unol â chwyddiant MPM (neu'r uchaf o blith chwyddiant MPM a 2.5%, fel y bu ers 2002) i'w uwchraddio yn unol â thwf mewn enillion cyfartalog; yn lle hynny, mae'r llywodraeth glymblaid wedi symud i'w uwchraddio yn unol â ph'un bynnag sydd uchaf o blith twf mewn enillion cyfartalog, chwyddiant MPD neu 2.5%. Ym mis Ebrill 2011, lle (yn anarferol) y byddai chwyddiant MPM wedi bod yn uwch nag unrhyw un o'r mesurau eraill, cynyddodd y llywodraeth Bensiwn sylfaenol y Wladwriaeth yn unol â chwyddiant MPM, fel mai dim ond o fis Ebrill 2012 y byddai'r 'clo triphlyg' yn gymwys. Dros amser, bydd y rheol mynegeio newydd hon yn ychwanegu mwy a mwy o werth at Bensiwn y Wladwriaeth sy'n berthynol i'r hyn y byddai wedi bod fel arall. I'r cyfeiriad arall, gadawodd y glymblaid i gynnydd dros dro y llywodraeth Lafur flaenorol yn y Taliad Tanwydd Gaeaf ddod i ben (diwygiad 1).

Prin y caiff newidiadau yn haelioni budd-daliadau nad ydynt yn seiliedig ar brawf modd effaith ar gymhellion i weithio, gan fod y budd-daliadau hyn yn cael eu talu waeth beth fo incwm a statws gwaith. Yr unig effaith y gallant ei chael yw'r 'effaith o ran incwm': er na chaiff budd-daliadau uwch nad ydynt yn seiliedig ar brawf modd unrhyw effaith ar y wobr o weithio, gall yr incwm ychwanegol olygu bod llai o angen i'r sawl sy'n eu derbyn weithio..3

Gellid dadlau na ddylai rhewi Budd-dal Plant (diwygiad 16) gael ei gyfrif fel budd-dal nad yw'n seiliedig ar brawf modd, oherwydd (fel y trafodwyd uchod) caiff ei dynnu'n ôl o deuluoedd incwm uchel bellach. Fodd bynnag, yn ymarferol nid oes gan y rhan helaeth o deuluoedd â phlant unrhyw un sy'n ennill mwy na £50,000, felly yn y rhan fwyaf o achosion mae rhewi Budd-dal Plant yn dal i weithredu fel torri budd-dal nad yw'n seiliedig ar brawf modd o ran yr effaith a gaiff ar gymhellion ariannol i weithio.

Diwygiadau eraill sy'n effeithio ar gymhellion ariannol i weithioO ran toriadau lles y llywodraeth glymblaid, yr un mwyaf o bell ffordd yw'r newid i uwchraddio'r rhan fwyaf o gyfraddau budd-daliadau o oedran gweithio bob blwyddyn yn unol â mesur MPD o chwyddiant, yn hytrach na'r mesurau MPM a Rossi a ddefnyddiwyd gynt.4 Gan fod chwyddiant MPD fel arfer yn is na'r mesurau roedd yn eu disodli, mae'r newid hwn yn arwain at gyfraddau budd-daliadau sy'n raddol gwympo yn berthynol i'r hyn y byddent wedi bod fel arall. Roedd disgwyl eisoes i bedair blynedd o'r

3 Yn y jargon a gyflwynir gennym yn Adran 4.1, ni chaiff y diwygiadau hyn unrhyw effaith amnewid ond gallant gael effaith ar incwm. Noder nad yw'r diwygiadau hyn yn effeithio ar gyfraddau trethi cyfranogi (prif fesur y cymhelliant i weithio a ddefnyddir gennym yn yr adroddiad hwn) o gwbl, ond maent yn effeithio ar gyfraddau disodli (y mesur amgen a nodir uchod).4 Defnyddiwyd Rossi i uwchraddio Cymhorthdal Incwm, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth a Lwfans Ceisio Gwaith (ac o ganlyniad y trothwy ar gyfer tynnu Budd-dal Tai a Budd-dal y Dreth Gyngor yn ôl, a osodwyd ar yr un lefel honno), tra defnyddiwyd MPM i uwchraddio'r rhan fwyaf o'r budd-daliadau a chredydau treth eraill.

19

Page 25: An ex-ante analysis effects of the UK Government’s … · Web viewAriannwyd yr ymchwil hon gan Lywodraeth Cymru a Chanolfan er Dadansoddi Microeconomaidd Polisi Cyhoeddus ESRC yn

mynegeio is hwn gan ddechrau ym mis Ebrill 2011 arbed £7.6 biliwn y flwyddyn erbyn 2014-15 i'r Trysorlys, ffigur a wnaiff barhau i godi wedi hynny.5

Gan fod symud i uwchraddio MPD yn effeithio ar gyfraddau budd-daliadau mewn gwaith ac allan o waith, mae ei effeithiau yn cyfuno nodweddion y ddau. Yn gyffredinol, mae'n deg dweud, gan fod y system budd-daliadau yn ei chyfanrwydd yn gwanhau cymhellion i weithio, mae ei lleihau'n gyffredinol yn dueddol o atgyfnerthu cymhellion i weithio. Mae gwaith dadansoddi manylach yn dueddol o lunio'r darlun syml hwn hefyd. Caiff cymhellion i'r rheini mewn gwaith ennill mwy eu gwanhau (neu maent yn ddigyfnewid o leiaf) ym mhob achos bron: gyda budd-daliadau llai hael, mae profion modd yn ymestyn yn llai i fyny'r dosbarthiad incwm, felly mae llai o bobl mewn perygl o golli cymorth os enillant fwy. O ran y cymhelliant i weithio o gwbl, i'r rheini y byddai eu hincwm mewn gwaith yn golygu eu bod y tu hwnt i gwmpas profion modd, mae'r newid i fynegeio yn gweithredu fel newid syml yn haelioni'r budd-daliadau rhwyd diogelwch: gyda llai o gymorth mewn gwaith ar gael, mae ganddynt fwy o gymhelliant i aros mewn gwaith (neu symud i mewn i waith).

Fodd bynnag, mae rhai gwahaniaethau o ran y cymhelliant i weithio o gwbl ymhlith pobl sydd â hawl i gael CTG (neu a fyddai â hawl i'w gael petaent yn gweithio). O'r mesurau a ddefnyddiwyd gynt, mae chwyddiant Rossi yn dueddol o fod yn is na MPM; a chan fod Rossi wedi cael ei ddefnyddio i uwchraddio'r prif fudd-daliadau allan o waith tra bod MPM wedi'i ddefnyddio i uwchraddio CTG (ymhlith pethau eraill), mewn rhai achosion mae'r newid i MPD yn lleihau budd-daliadau allan o waith i raddau llai na budd-daliadau mewn gwaith. A hyd yn oed petai chwyddiant MPM a Rossi yr un peth, gallai uwchraddio yn unol â'r MPD is leihau incwm mewn gwaith i raddau mwy nag incwm allan o waith (gan gynyddu CDGau) mewn achosion lle mae uchafswm yr hawliad CTG yn fwy na'r uchafswm hawliad Cymhorthdal Incwm/ Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm - gwelir yr achosion mwyaf cyffredin ymhlith rhieni unigol a'r rheini sy'n gymwys i elfen gofal plant CTG.

Mae'n werth crybwyll dau ddiwygiad arall sy'n effeithio ar gymhellion ariannol i weithio.

Gan fod Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (LCCh) ond ar gael i bobl sydd allan o waith, mae unrhyw leihad yn ei haelioni, megis pennu terfyn amser ar gyfer LCCh cyfrannol (diwygiad 25), yn gwneud cymorth allan o waith yn llai hael tra'n gadael cymorth mewn gwaith yn ddigyfnewid, ac felly mae'n atgyfnerthu cymhelliant (darpar) hawlwyr i weithio. Fodd bynnag, mae hyn ond yn gymwys i (ddarpar) hawlwyr eu hunain: mae'r diwygiad yn effeithio ar gymhellion eu partneriaid i weithio'n wahanol. Efallai y bydd y rheini sy'n colli eu hawl i gael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (LCCh) cyfrannol yn dal i fod yn gymwys i gael LCCh seiliedig ar incwm - ond dim ond os yw incwm y teulu yn ddigon isel. Felly, mae partneriaid hawlwyr LCCh y mae eu hawliad cyfrannol bellach wedi'i gyfyngu i flwyddyn yn wynebu cymhellion gwannach i weithio, neu i ennill mwy, oherwydd gall gwneud hynny leihau neu ddileu hawliad y cwpl i LCCh seiliedig ar incwm.

Yn olaf, bu diwygiadau i'r ffordd y mae credydau treth yn trin newidiadau mewn amgylchiadau yn ystod y flwyddyn (diwygiad 27). Cyn y diwygiadau, nid ystyriwyd cynnydd mewn incwm hyd at £25,000 wrth gyfrifo credydau treth tan y flwyddyn flaenorol (mesur a gyflwynwyd mewn ymateb i'r problemau gyda gordaliadau a wynebodd credydau treth ar ôl iddynt gael eu diwygio yn 2003). Mae'r diwygiadau a gyhoeddwyd yng Nghyllideb Mehefin 2010 yn lleihau'r anwybyddiad hwn o £25,000 i £5,000. Mae hynny'n amlwg yn gwanhau cymhellion i weithio, gan fod ennill mwy bellach yn cael ei gyfateb yn gyflymach gyda lleihad mewn cymorth seiliedig ar brawf modd. Ar y llaw arall, ar yr un pryd cyhoeddodd y llywodraeth ei bod yn cyflwyno anwybyddiad ar gyfer cwymp mewn incwm o hyd at £2,500, nad yw mwyach yn peri cynnydd mewn credydau treth tan y flwyddyn ganlynol - atgyfnerthu cymhellion i weithio drwy wneud lleihad mewn enillion yn llai poenus. Ynghyd â newidiadau i ôl-ddyddio hawliadau

5 Noder bod yr effaith hon o ran refeniw hefyd yn cynnwys effaith newid i uwchraddio MPD mewn perthynas â phensiynau

gwasanaeth cyhoeddus, nas trafodir ymhellach yn yr adroddiad hwn.

20

Page 26: An ex-ante analysis effects of the UK Government’s … · Web viewAriannwyd yr ymchwil hon gan Lywodraeth Cymru a Chanolfan er Dadansoddi Microeconomaidd Polisi Cyhoeddus ESRC yn

credydau treth, disgwylir i'r newidiadau anwybyddu hyn godi £1.4 biliwn i'r Trysorlys, a dyma'n bendant yw'r mwyaf sylweddol o blith y tri diwygiad yn Nhabl 2.1 nad ydym yn ei fodelu yn ein dadansoddiad meintiol o benodau diweddarach (y lleill yw dileu'r credyd 50+ mewn CTG a thorri Budd-dal Tai ar gyfer y rheini sy'n 'tanfeddiannu' tai cymdeithasol).

2.4 Cymhellion anariannol i weithioMae'r llywodraeth wedi gwneud nifer o newidiadau i'r system budd-daliadau nad ydynt yn cael effaith uniongyrchol ar y gydberthynas rhwng oriau gwaith ac incwm net, ond a allai serch hynny effeithio ar ymddygiad gwaith pobl. Mae anawsterau wrth fesur yr effeithiau hynny yn golygu nad ydym yn eu hystyried mewn penodau dilynol o'r adroddiad hwn, ond yma disgrifiwn y prif newidiadau (heblaw am y rheini sy'n gysylltiedig â Chredyd Cynhwysol, a drafodir gennym yn yr adran nesaf) ac ystyriwn yr effeithiau posibl. Yn y bôn, er bod disgwyl iddynt gael effaith gadarnhaol ar y tebygolrwydd bod pobl yn dechrau gweithio, nid yw graddau'r effaith hon yn glir: gallai fod yn eithaf sylweddol (er enghraifft, yn fwy nag effaith y newidiadau mewn cymhellion ariannol i weithio) neu gallai fod yn fach iawn.

Y Rhaglen WaithMae cyflwyno’r Rhaglen Waith yn 2011, a wnaeth ddisodli'r Fargen Newydd Hyblyg mewn rhannau o'r wlad ac amrywiaeth o gynlluniau o fudd-dal i waith (megis rhaglenni Y Fargen Newydd amrywiol ac Ardaloedd Cyflogaeth) mewn mannau eraill, yn un o brif gonglfeini strategaeth o fudd-dal i waith y llywodraeth glymblaid. Bellach, caiff pobl sy'n ddi-waith ers cyfnod hir help i ddod o hyd i waith gan gymysgedd o sefydliadau preifat, gwirfoddol a chyhoeddus, a gaiff gryn ymreolaeth o ran y math o gymorth a roddir ganddynt a sut maent yn rheoli eu llwyth achos, yn amodol ar gyflawni'r addewidion a wnaed yn eu cynigion, a gweithdrefn gwyno. Rhennir Prydain Fawr yn 18 o ardaloedd, y mae gan bob un ddau neu dri darparwr, sydd yn eu tro â thua 1,000 o is-gontractwyr sy'n darparu gwasanaethau penodol, megis hyfforddiant neu leoliadau gwaith. Dros gyfnod o dair blynedd, rhoddir y gorau i dalu darparwyr rhwng £400 a £600 yr unigolyn ar y rhaglen yn 2011, gyda thaliadau yn lle hynny yn bennaf seiliedig ar gael pobl i mewn i waith cynaliadwy (h.y. taliad yn ôl canlyniadau). Telir ffi canlyniad swyddi i ddarparwyr am bob unigolyn y maent yn cael gwaith iddo am dri neu chwe mis o leiaf (mae'r cyfnod cyflogaeth sy'n ofynnol yn dibynnu ar ba mor bell roedd yr unigolyn o'r farchnad lafur i ddechrau), gyda thaliadau 'cynhaliaeth' ychwanegol yn daladwy bob pedair wythnos wedi hynny, am 1-2 flynedd (eto'n dibynnu ar ba mor bell roedd yr unigolyn o'r farchnad lafur). Nod hyn yw cymell darparwyr rhaglenni i berfformio'n dda, ac mae'r symiau a delir wedi'u cynllunio i adlewyrchu'r gwahaniaethau disgwyliedig yn yr ymdrech y bydd yn rhaid i ddarparwyr ei gwneud er mwyn cael gwahanol grwpiau o bobl i mewn i waith. Caiff llwyddiant gwahanol weithredwyr ei fonitro a bydd y rheini sy'n perfformio orau mewn ardal yn gweld newid o bum pwynt canran mewn llwyth achos tuag atynt, tra bod y rheini sy'n perfformio'n wael mewn perygl o golli eu contractau.

Er bod hyn yn newid mawr o gymharu â'r Fargen Newydd a'r Ardaloedd Cyflogaeth blaenorol, mae'n llai o newid i'r ardaloedd hynny lle mae'r Fargen Newydd Hyblyg wedi'i chyflwyno ers 2009, gan gynnwys Cymru gyfan. Yn arbennig, o dan y Fargen Newydd Hyblyg, roedd y gwaith o ddarparu a rheoli cymorth i bobl a fu'n ddi-waith ers cyfnod hir hefyd wedi'i gontractio allan i sefydliadau preifat a gwirfoddol, a oedd wedyn yn cynnig rhywfaint o hyblygrwydd o ran y gwasanaethau i'w darparu, ac y talwyd amdanynt yn rhannol ar sail canlyniadau cyflogaeth. Fodd bynnag, roedd y taliad seiliedig ar lwyth achos yn cynrychioli 40% o'r holl daliadau posibl (o gymharu â 0% arfaethedig o dan y Rhaglen Waith erbyn 2014), gyda 40% ychwanegol ar gael ar ôl tri mis o gyflogaeth barhaol, a'r 20% a oedd yn weddill yn dilyn chwe mis o gyflogaeth barhaol. I'r gwrthwyneb, o dan y Rhaglen Waith, gall darparwyr gael llai na hanner yr uchafswm taliad erbyn chwe mis o gyflogaeth barhaol; ni cheir yr uchafswm taliadau tan 15 mis o leiaf, a hyd at 30 mis, o gyflogaeth barhaol. Mewn egwyddor, dylai'r Rhaglen Waith felly sicrhau bod darparwyr

21

Page 27: An ex-ante analysis effects of the UK Government’s … · Web viewAriannwyd yr ymchwil hon gan Lywodraeth Cymru a Chanolfan er Dadansoddi Microeconomaidd Polisi Cyhoeddus ESRC yn

yn canolbwyntio'n fwy ar gyflogaeth hirdymor na'r Fargen Newydd Hyblyg y mae'n ei disodli. O dan y Fargen Newydd Hyblyg, mae'r taliad am ganlyniadau swyddi yr un peth ar gyfer pob cleient, tra o dan y Rhaglen Waith ceir taliadau uwch ar gyfer y cleientiaid hynny y tybir bod angen mwy o gymorth arnynt i ddod o hyd i waith. Nid yw eto'n glir a yw'r perthynoleddau ar gyfer gwahanol fathau o gleientiaid yn gywir, ond mewn egwyddor, dylai hyn leihau'r cymhellion a wynebwyd gan ddarparwyr yn flaenorol i dargedu cymorth at achosion 'hawdd' ac anwybyddu achosion anodd (Mulheirn a Menne (2008)).

Rhaid cymryd rhan yn y Rhaglen Waith ar ôl naw mis o hawlio LCG i'r rheini sy'n 18-24 oed, a 12 mis i'r rheini sy'n 25 oed neu drosodd. O dan y Fargen Newydd Hyblyg, a gyflwynwyd ledled Cymru yn 2009, symudodd pobl i gynlluniau a ddarparwyd ar ôl 12 mis ar LCG.6 Ar yr olwg gyntaf, mae hyn yn awgrymu, o dan y Rhaglen Waith, fod cymorth dwysach i ddod o hyd i waith yn dechrau'n gynt i'r rhai 18-24 oed ac ar yr un pryd i'r rhai sy'n 25 oed neu drosodd. Fodd bynnag, mae'r disgresiwn a roddir i ddarparwyr o dan y Rhaglen Waith yn ei gwneud yn anodd llunio casgliadau cadarn ynghylch a yw'r cynllun newydd yn gwneud mwy neu lai i annog gwaith na'r cynllun a ddisodlir ymhlith hawlwyr LCG.

Gall rhai o'r bobl ag 'anfanteision difrifol' sy'n derbyn LCG ymuno â'r Rhaglen Waith o'u gwirfodd ar ôl tri mis, ac mae'n rhaid i eraill wneud hynny ar ôl tri mis. Gall y bobl sy'n derbyn Cymhorthdal Incwm, Budd-dal Analluogrwydd a Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (LCCh) ymuno o'u gwirfodd ar unrhyw adeg, ac mae'n rhaid i'r rheini yr ystyrir eu bod 'yn agos at fod yn ffit i weithio' ymuno. Mae'n werth nodi y gallai'r grwpiau hyn hefyd ymuno â'r Fargen Newydd Hyblyg o'u gwirfodd.

Mae'r taliadau a roddir i gyflenwyr am gael y rheini ar LCCh y mae'n ofynnol iddynt gymryd rhan yn y Rhaglen Waith i mewn i waith parhaol yn uwch nag am gael y rheini sy'n derbyn LCG i mewn i waith parhaol, ond mae'r taliadau i bobl eraill sy'n derbyn LCCh a Chymhorthdal Incwm a Budd-dal Analluogrwydd yn is. Mae hyn er gwaethaf y ffaith bod y grwpiau hyn yn debygol o wynebu rhwystrau ychwanegol i waith o gymharu â'r sawl sy'n derbyn LCG, a gellid felly disgwyl iddynt fod angen adnoddau ychwanegol er mwyn cael gwaith. Yn ôl yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) mae taliadau yn is am mai o'u gwirfodd y mae'r grwpiau hyn yn cymryd rhan yn y rhaglen, ac mae'r rheini sy'n gwirfoddoli mewn gwirionedd yn debygol o symud i mewn i waith a bod angen llai o gymorth. Nid yw eto'n glir a welir hyn yn digwydd yn ymarferol.

I grynhoi, mae p'un a yw'r ymdrechion i wella cymhellion i ddarparwyr gyflawni a'r rhyddid ychwanegol i arloesi yn arwain at fwy o waith parhaol a chamu ymlaen mewn gwaith yn gwestiwn empirig. Disgwylir i ganlyniadau rhagarweiniol o werthuso'r Rhaglen Waith gael eu cyhoeddi ar 27 Tachwedd 2012, ar ôl i'r adroddiad hwn gael ei gwblhau. Mae DWP yn disgwyl i 36% o'r rheini a gyfeirir at y Rhaglen Waith gael swyddi y telir darparwyr amdanynt (h.y. yn para tri mis o leiaf neu chwe mis o leiaf, yn dibynnu ar y math o hawliwr) y byddai 28% wedi dod o hyd i waith heb y rhaglen, ac 8% oherwydd y rhaglen. O ran y sawl sy'n derbyn LCG, y rhagamcan gan DWP ar gyfer yr un ffigurau yw bod 40% yn cael gwaith am dri neu chwe mis o leiaf, y byddai 32% wedi cael gwaith beth bynnag, ac 8% yn cael eu helpu i mewn i waith oherwydd y rhaglen. Mae'r Swyddfa Archwilio Genedlaethol (2012) wedi cynnal adolygiad o'r rhagolwg hwn sy'n awgrymu bod hyn yn rhy optimistaidd, ac yn hytrach mae'n rhagfynegi y daw 26% o'r sawl sy'n derbyn LCG o hyd i waith ar y Rhaglen Waith, o gymharu â 25% amcangyfrifedig o dan y Fargen Newydd Hyblyg. Os yw hyn yn gywir, mae'n golygu nad yw'r cynllun yn gwneud fawr ddim i gynyddu'r niferoedd sy'n cael gwaith o gymharu â chynlluniau blaenorol. Mae'r Swyddfa Archwilio Genedlaethol hefyd yn rhybuddio na fydd darparwyr yn 'mantoli'r gyllideb' efallai ac y gellir methu â chyflawni targedau perfformiad gofynnol.

Mae tystiolaeth o effeithlonrwydd rhaglenni o'r fath o ffynonellau eraill yn eithaf prin. Fodd bynnag, mae Adolygiad Freud (Freud (2007)), a wnaeth argymell newid i'r model hwn o dalu, yn nodi tystiolaeth bod y

6 Mae hyn o gymharu â chwe mis ar gyfer pobl 18-24 oed o dan gynllun blaenorol y Fargen Newydd ar gyfer Pobl Ifanc, 18 mis ar gyfer pobl 25-49 oed o dan gynllun Y Fargen Newydd 25+ ac yn wirfoddol o chwe mis ar gyfer pobl 50+ oed. Daeth y cynlluniau hyn i ben yng Nghymru yn 2009 ond gwnaethant barhau mewn rhannau o’r DU nes cyflwyno’r Rhaglen Waith yn 2011.

22

Page 28: An ex-ante analysis effects of the UK Government’s … · Web viewAriannwyd yr ymchwil hon gan Lywodraeth Cymru a Chanolfan er Dadansoddi Microeconomaidd Polisi Cyhoeddus ESRC yn

system wedi perfformio'n dda yn Awstralia. Yn arbennig, mae'n nodi i daliadau yn ôl canlyniadau ynghyd â hyblygrwydd darparwyr o ran y cymorth a gynigiwyd arwain at gryn arloesi a gwell canlyniadau. Er enghraifft, defnyddiodd rhai darparwyr 'therapi grŵp' er mwyn helpu i wella cymhelliant, tra rhoddodd eraill gymorth i fynd i'r afael â dyledion, oherwydd nodwyd bod hyn yn rhwystr i rai adael rhwyd diogelwch budd-daliadau.

Rhwymedigaethau Rhieni Unigol Dros y blynyddoedd, mae'r gofynion sy'n gysylltiedig â gwaith o fewn y system budd-daliadau ar gyfer rhieni unigol wedi cynyddu'n raddol, ers cyflwyno Cyfweliadau sy'n Canolbwyntio ar Waith yn 2001 (Finn a Gloster (2010)). Fel rhan o hyn, gan ddechrau ym mis Tachwedd 2008, mae Rhwymedigaethau Rhieni Unigol wedi symud y rhan fwyaf o rieni unigol nad ydynt yn anabl â phlant hŷn o Gymhorthdal Incwm i LCG. Yna, disgwylir iddynt chwilio am waith yn gyfnewid am hynny, a chânt gymorth a chefnogaeth i wneud hynny. Weithiau, gall rhieni unigol â chyflwr iechyd neu anabledd aros ar Gymhorthdal Incwm, neu efallai y bydd gofyn iddynt hawlio LCCh yn lle hynny. Cyn mis Hydref 2010, roedd cynllun Rhwymedigaethau Rhieni Unigol yn gymwys i rieni unigol yr oedd eu plentyn ieuengaf yn 10 oed neu drosodd. Cafodd yr oedran hwn ei ostwng i saith oed ym mis Hydref 2010 (cynllun y gwnaeth y llywodraeth glymblaid ei etifeddu gan Lafur) cyn ei ostwng unwaith eto i bump oed ym mis Hydref 2011.

Gydag ambell eithriad, mae'n rhaid i rieni unigol sy'n cael Cymhorthdal Incwm gymryd rhan mewn Cyfweliadau sy'n Canolbwyntio ar Waith, ac mae'n rhaid i'r rhan fwyaf gwblhau cynllun gweithredu y cytunir arno gyda chynghorydd personol sy'n pennu nodau byrdymor a hirdymor er mwyn eu paratoi ar gyfer gwaith. Fodd bynnag, mae gofynion chwilio am waith LCG yn sylweddol uwch, er y rhoddir cymorth ychwanegol er mwyn dod o hyd i waith. Rhaid i'r sawl sy'n derbyn LCG fod ar gael i weithio, a bod yn chwilio am waith, a rhaid iddynt hefyd lofnodi Cytundeb Ceisio Gwaith, sy'n nodi'r hyn y maent wedi cytuno i'w wneud er mwyn dod o hyd i waith. Er mwyn sicrhau eu bod yn bodloni'r amodau hyn, ac er mwyn cynnig help a chyngor i ddod o hyd i waith, mae hefyd yn ofynnol i hawlwyr LCG ymweld â Chanolfan Byd Gwaith bob pythefnos o leiaf, a gallant gael eu galw i mewn i Ganolfan Byd Gwaith ar unrhyw adeg. Rhaid i'r rheini sy'n ddi-waith am fwy nag amser byr gymryd rhan mewn cyfweliadau manwl gyda staff y Ganolfan Byd Gwaith, a gallant gael eu cyfeirio at gyflogwyr penodol, neu gall fod yn ofynnol iddynt ehangu'r math o swyddi y maent yn chwilio amdanynt. Ar ôl 12 mis, mae'n ofynnol i hawlwyr gymryd rhan mewn cynllun cyflogaeth gorfodol megis y Rhaglen Waith, a drafodwyd uchod. Os na fodlonir yr amodau, gellir atal LCG.

Cynhaliodd Finn a Gloster (2010) adolygiad o'r dystiolaeth a oedd ar gael o effeithiau rhaglenni mewn gwledydd eraill sydd wedi cynyddu gofynion yn ymwneud â gwaith i rieni unigol, a/neu wedi rhoi cymorth ychwanegol i rieni unigol er mwyn eu helpu i ddod o hyd i waith, gan edrych yn benodol ar dystiolaeth o'r Unol Daleithiau. Wrth edrych ar lenyddiaeth o'r UD, gwelwyd tystiolaeth o effaith gadarnhaol gref ar gyflogaeth, a chwymp sylweddol yn nifer y llwythi achos lles, yn dilyn diwygiadau yn 1996 a wnaeth gynyddu'r gofynion yn ymwneud â gwaith, gwneud sancsiynau yn erbyn y rheini nad oeddent yn bodloni'r gofynion yn llymach, ac yn gyffredinol sicrhau bod dibyniaeth hirdymor ar fudd-daliadau lles allan o waith yn llai o opsiwn. Daethpwyd i'r casgliad fod y dystiolaeth a oedd ar gael yn awgrymu bod tua chwarter o'r cynnydd o 11.5 pwynt canran yng nghyfradd gyflogaeth rhieni unigol yn yr UD rhwng 1995 a 2000 yn deillio o gynyddu gofynion i rieni unigol geisio gwaith. Fodd bynnag, mae'n werth nodi i ddiwygiadau'r UD gael eu cyflwyno pan oedd economi a marchnad lafur gref, a chyflogaeth gynyddol yn fwy cyffredinol; efallai na fydd effeithiau diwygiadau o'r fath mewn economi wannach, fel y gwelir yng Nghymru a gweddill y DU ar hyn o bryd, mor gryf (gweler Adran 7.2 o'r adroddiad hwn).

Mae tystiolaeth yr UD hefyd yn awgrymu y bydd rhieni unigol mwy cyflogadwy yn dod o hyd i waith yn gyflymach ar ôl symud i LCG, gan adael carfan o hawlwyr budd-daliadau sy'n wynebu mwy o rwystrau i

23

Page 29: An ex-ante analysis effects of the UK Government’s … · Web viewAriannwyd yr ymchwil hon gan Lywodraeth Cymru a Chanolfan er Dadansoddi Microeconomaidd Polisi Cyhoeddus ESRC yn

gyflogaeth, ac a allai fod angen cymorth ychwanegol i gael gwaith. Mae rhieni unigol o'r fath yn debygol o fod â theuluoedd mawr, yn byw mewn tai cymdeithasol, â lefel isel o addysg ac â phroblemau iechyd meddwl neu gorfforol. Yng nghyd-destun y DU, gallai'r ffaith y bydd llawer o rieni unigol â phroblemau iechyd yn gallu symud i LCCh neu barhau i hawlio Cymhorthdal Incwm olygu nad yw'r grŵp hwn yn wynebu sancsiynau ac ymddieithrio o'r gyfundrefn les a chymorth cyflogaeth i'r un graddau â'r diwygiadau yn yr UD.

Mae'r dystiolaeth hefyd yn awgrymu bod cryn amrywiad o ran canlyniadau oherwydd dulliau gweithredu gwahanol y staff rheng flaen sy'n gweithredu'r diwygiadau. Gall hyn ddeillio o wahaniaethau yn y gallu i gyfleu gofynion i rieni unigol, helpu unigolyn i chwilio am waith neu orfodi unrhyw sancsiynau gorfodol. Mae'n debyg y bydd elfen o ddisgresiwn ar waith wrth bennu a yw pobl yn chwilio'n ddigon caled am waith, gyda thystiolaeth o'r Iseldiroedd a Sweden yn dangos bod cryn amrywiad o ran y ffordd y dehonglwyd ac y cymhwyswyd gofynion ac y pennwyd eithriadau ymhlith staff rheng flaen.

Felly, mae effaith Rhwymedigaethau Rhieni Unigol yn debygol o amrywio ymhlith rhieni unigol, a ledled y wlad yn ôl cyflwr y farchnad lafur, a sgiliau a dyfarniadau staff rheng flaen lleol. Mae arolwg ansoddol o rieni unigol (Lane et al. (2011)) yn awgrymu bod y newid o Gymhorthdal Incwm i LCG wedi rhoi 'hwb' i rieni unigol chwilio am waith, yn rhannol oherwydd gofynion chwilio am waith a gwaith LCG, ac yn rhannol oherwydd y stigma a'r ffwdan sy'n gysylltiedig â hawlio'r budd-dal. Mae rhieni unigol sydd eisoes yn agosach at y farchnad lafur yn nodi nad yw Rhwymedigaethau Rhieni Unigol yn newid eu hagweddau tuag at chwilio am waith, gyda'r rheini sydd ymhellach o'r farchnad lafur yn nodi teimladau eithaf cymysg. Mae'r gwaith o werthuso'r diwygiad yn mynd rhagddo ac nid yw'r canfyddiadau meintiol o'r effaith ar gyflogaeth a rhoi'r gorau i fudd-daliadau ar gael eto, ond caiff canlyniadau cynnar eu cyhoeddi yn ystod gwanwyn 2013.

Newid profion meddygol ar gyfer budd-daliadau anableddBydd newidiadau i'r profion meddygol y mae'r rheini sy'n dymuno hawlio budd-daliadau anabledd yn eu hwynebu hefyd yn effeithio ar gymhellion i weithio, drwy leihau incwm, a thrwy arwain newid i fudd-daliadau â mwy o ofynion chwilio am waith a mwy o gymorth gweithredol i ddod o hyd i waith.

Un newid mawr a wnaed ers yr Etholiad Cyffredinol yn 2010 fu symud hawlwyr presennol budd-daliadau analluogrwydd (Budd-dal Analluogrwydd, Cymhorthdal Incwm a dderbynnir ar sail anabledd a Lwfans Anabledd Difrifol) i LCCh. Er mwyn gwneud hyn, mae angen ailasesu eu hanabledd gan ddefnyddio prawf meddygol llymach, lle caiff hawlwyr eu rhannu'n dri chategori: y rhai y tybir eu bod yn ffit i weithio, a symudir i LCG a'r Rhaglen Waith; y rhai sy'n rhy sâl neu anabl i weithio ar hyn o bryd ond y disgwylir iddynt gymryd camau i ddychwelyd i'r gwaith yn y pen draw a roddir yn elfen 'Grŵp Gweithgarwch sy'n Gysylltiedig â Gwaith' (GGGG) LCCh; a'r rhai y tybir na fyddant byth yn gallu gweithio, a gaiff gymorth diamod drwy LCCh.

Mae ffigurau a gyhoeddwyd ar 6 Tachwedd 20127 yn dangos, o blith y 139,200 o hawlwyr budd-daliadau analluogrwydd a gafodd eu hailasesu rhwng mis Tachwedd 2011 a mis Chwefror 2012, cafwyd bod 36% yn ffit i weithio. Mae hyn yn golygu y byddai disgwyl i ychydig dros draean o gyn-hawlwyr budd-daliadau analluogrwydd chwilio am waith ar unwaith, neu golli budd-daliadau, a gellir eu rhoi ar y Rhaglen Waith. Felly, byddai'r grŵp hwn yn wynebu amodau llawer cryfach a oedd yn gysylltiedig â gwaith, y gellir disgwyl iddynt gynyddu'r niferoedd sy'n dychwelyd i'r gwaith. Cafodd 39% eu symud i elfen GGGG LCCh, gan olygu bod yn rhaid iddynt fynd i gyfweliadau sy'n canolbwyntio ar waith, ac o bosibl gymryd rhan mewn gweithgareddau sy'n ymwneud â gwaith megis hyfforddiant neu gynllunio sut i reoli eu cyflyrau er mwyn gallu gweithio. Unwaith y tybir eu bod yn 'agos at waith' byddent wedyn yn ymuno â'r Rhaglen

7 Employment and Support Allowance – Incapacity Benefits Reassessments: Outcomes of Work Capability Assessments, Great Britain, Adran Gwaith a Phensiynau (http://research.dwp.gov.uk/asd/workingage/esa_ibr/esa_ibr_nov12.pdf).

24

Page 30: An ex-ante analysis effects of the UK Government’s … · Web viewAriannwyd yr ymchwil hon gan Lywodraeth Cymru a Chanolfan er Dadansoddi Microeconomaidd Polisi Cyhoeddus ESRC yn

Waith (ac, fel y trafodwyd uchod, byddai darparwyr yn cael cyfraddau uwch am eu rhoi mewn gwaith). Yn olaf, cafodd 25% eu symud i elfen gymorth LCCh, nad yw'n rhagweld dychwelyd i'r gwaith.

Dylid nodi, ers 2009, y bu'n rhaid i lawer o hawlwyr budd-daliadau analluogrwydd gymryd rhan yn y rhaglen 'Llwybrau at Waith', lle mae'n ofynnol i'r rheini y tybir na allant weithio ar hyn o bryd, ond a allai weithio yn y dyfodol os cânt gymorth, fynd i gyfres o gyfweliadau sy'n canolbwyntio ar waith. Gallai'r rheini a oedd yn cymryd rhan yn Llwybrau at Waith hefyd ddewis cymryd rhan mewn gweithgareddau eraill sy'n gysylltiedig â gwaith megis hyfforddiant, rheoli cyflyrau a mentora (sef 'Dewisiadau'). Awgryma gwaith gwerthuso fod y rhaglen Llwybrau at Waith wedi cyflymu'r broses o roi'r gorau i fudd-daliadau analluogrwydd ymhlith y rheini a fyddai wedi rhoi'r gorau iddynt ymhen tua 12 mis heb y rhaglen. Mae tystiolaeth o gyflogaeth barhaol yn gymysg gyda chynlluniau peilot cam 1 yn dangos cynnydd sylweddol (chwe phwynt canran) mewn cyfraddau cyflogaeth hyd at 18 mis ar ôl ymuno â'r rhaglen (Adam et al. (2008)), a chynlluniau peilot cam 2 yn dangos effaith ansylweddol ar gyflogaeth. Oherwydd natur ddewisol yr elfennau 'Dewisiadau', ni fu modd gwerthuso effaith y rhaglenni hyn.

Gyda'i gilydd, mae'r newid o'r budd-daliadau analluogrwydd blaenorol i LCCh yn golygu bod disgwyl i tua 75% o'r rheini a gafodd eu hailasesu ddechrau chwilio am waith neu gymryd rhan mewn cynlluniau i baratoi ar gyfer gwaith yn y dyfodol. I'r gwrthwyneb, mae data gweinyddol o'r astudiaethau peilot yn awgrymu i tua 25% o'r llif i fudd-daliadau analluogrwydd gymryd rhan yn Llwybrau at Waith yn yr ardaloedd peilot (nid yw'r gwaith gwerthuso yn nodi ffigurau ar gyfer cyfran y stoc dan sylw). Gwelir y newid mwyaf yn y gyfran fawr o hawlwyr yr ailasesir eu bod yn ffit i weithio, ac felly yn destun gofynion chwilio am waith llawer mwy llym a mwy o gymorth gweithredol i ddod o hyd i waith; yn flaenorol, gallai'r bobl hyn fod wedi cael aros ar fudd-daliadau analluogrwydd, ac os tybiwyd eu bod yn gallu dod o hyd i waith heb gymorth, ni fyddent wedi bod yn destun y cynllun Llwybrau at Waith. Nid oes modd mesur effaith y newid hwn ar drosiannau i gyflogaeth, ond byddai disgwyl iddi fod yn effaith gadarnhaol. Efallai y bydd hefyd angen i'r rheini sy'n rhan o GGGG LCCh gymryd rhan mewn gweithgareddau paratoi ar gyfer waith gorfodol, a oedd yn wirfoddol o dan y rhaglen 'Dewisiadau'. Unwaith eto, nid oes modd mesur yr effaith ar gyflogaeth, ond gallai rhywun ddisgwyl effaith gadarnhaol fach.

Bydd y sawl sy'n hawlio Lwfans Byw i'r Anabl (LBA) hefyd yn cael ailasesiad meddygol o fis Ebrill 2013 o dan brawf meddygol llymach, y mae'r llywodraeth wedi dweud y bydd disgwyl iddo arwain at 20% o hawlwyr presennol yn colli eu hawl i gael y budd-dal. Gall y sawl sydd hefyd yn hawlio Cymhorthdal Incwm, LCG a Budd-dal Tai hefyd golli'r 'premiymau anabledd' a gânt fel rhan o'r budd-daliadau hynny. Mae hyn yn golygu bod y newid yn debygol o arwain at gwymp mwy sylweddol mewn incwm allan o waith ar gyfer y rheini a gaiff eu hailasesu nag incwm mewn gwaith, sy'n golygu bod y newid hwn o ran amodolrwydd yn debygol o gynyddu cymhellion i weithio. Fodd bynnag, ni all yr effaith gael ei mesur yn hawdd.

Newidiadau eraill i amodolrwydd a chymhellion i weithioCeir newidiadau bach eraill i amodolrwydd a all effeithio ar y graddau y mae pobl yn rhoi'r gorau i fudd-daliadau ac yn gweithio. Er enghraifft, mae DWP bellach yn caniatáu i hawlwyr LCG sydd wedi bod yn ei gael am fwy na chwe mis i wneud hyd at wyth wythnos o hyfforddiant heb golli'r budd-dal. Ar un llaw, gall gwneud hyfforddiant olygu bod pobl yn llai abl i weithio yn ystod y cyfnod hwnnw. Fodd bynnag, gall hefyd wella cyflogadwyedd a chymhelliant, gan eu helpu i ddychwelyd i weithio. Yn ogystal, mae'r Lwfans Menter Newydd ar gael i hawlwyr LCG sy'n 18 oed neu drosodd sydd am ddechrau eu busnes eu hunain o ddiwrnod cyntaf eu hawliad o fis Hydref 2012 (cyn hyn, roedd ar gael i'r sawl a fu'n hawlio LCG ers dros chwe mis). Rhydd wasanaeth mentora a chymorth busnes wrth ddatblygu cynllun busnes a dechrau gweithredu, ac ar ôl hynny gellir hawlio £65 yr wythnos o gymorth ariannol am 13 wythnos (swm tebyg i LCG) a £33 yr wythnos am 13 wythnos arall. Mae benthyciadau o hyd at £1,000 hefyd ar gael. Nid yw'n glir i ba raddau y gall symiau mor fach gymell hunangyflogaeth ac nid yw'r rhaglen wedi cael ei gwerthuso

25

Page 31: An ex-ante analysis effects of the UK Government’s … · Web viewAriannwyd yr ymchwil hon gan Lywodraeth Cymru a Chanolfan er Dadansoddi Microeconomaidd Polisi Cyhoeddus ESRC yn

eto. Fodd bynnag, mae Adams ac Oldfield (2012) yn awgrymu bod llawer o bobl ddi-waith, a phobl sy'n ddi-waith ers cyfnod hir, yn amharod i fentro. Felly, ‘for some [potential] businesses a small lump sum in addition to regular payments could provide an important boost’.

2.5 Credyd CynhwysolCyflwyno Credyd Cynhwysol fu'r ailstrwythuro mwyaf radical efallai o ran y system budd-daliadau ers y 1940au. Mae Credyd Cynhwysol yn fudd-dal newydd, a fydd yn disodli chwech o'r saith prif fudd-dal a chredyd treth presennol sy'n destun prawf modd ar gyfer y rheini o oedran gweithio: Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm, Budd-dal Tai, Credyd Treth Plant a Chredyd Treth Gwaith. Nid yw'r seithfed budd-dal presennol sy'n destun prawf modd ar gyfer y rheini o oedran gweithio, sef Budd-dal y Dreth Gyngor, yn cael ei gynnwys o fewn Credyd Cynhwysol, er ei fod yn cael ei ddiwygio (diwygiad 28 yn Nhabl 2.1). A bydd budd-daliadau ar gyfer y rheini sydd dros yr oedran cymhwyso ar gyfer Credyd Pensiwn (oedran Pensiwn y Wladwriaeth i fenywod, sydd wrthi'n cael ei godi o 60 i 65 rhwng 2010 a 2018) yn aros ar wahân i Gredyd Cynhwysol - er y bydd cyplau lle mae un partner dros ac un partner o dan yr oedran Credyd Pensiwn, a all ar hyn o bryd hawlio Credyd Pensiwn, yn gorfod, yn y dyfodol, hawlio Credyd Cynhwysol yn ei le (sydd fel arfer yn llai hael).8

Yn dilyn cynlluniau peilot chwe mis mewn rhannau o Ogledd-orllewin Lloegr, caiff Credyd Cynhwysol ei gyflwyno'n genedlaethol dros gyfnod o bedair blynedd gan ddechrau ym mis Hydref 2013. Bydd ceisiadau newydd ar gyfer y budd-daliadau presennol a restrwyd uchod yn dod i ben ym mis Hydref 2013, a bydd ceisiadau newydd ar gyfer credydau treth yn dod i ben ym mis Ebrill 2014; ceir ceisiadau newydd ar gyfer Credyd Cynhwysol yn lle hynny. Bydd y rheini sydd eisoes yn hawlio'r budd-daliadau a'r credydau treth presennol yn symud i Gredyd Cynhwysol yn raddol rhwng mis Ebrill 2014 a diwedd 2017, er, os ydynt, ar hyn o bryd, yn cael mwy nag y byddent fel arfer yn gymwys i’w gael o dan Gredyd Cynhwysol, byddant yn parhau i gael y swm uwch: ni fydd unrhyw un sy'n hawlio budd-dal ar hyn o bryd yn gweld y swm a gânt yn gostwng. Felly, er y bydd Credyd Cynhwysol yn dechrau effeithio ar bobl o fis Hydref 2013, mae'r cyfuniad o'i gyflwyno'n raddol iawn a rhoi diogelwch trosiannol i hawlwyr presennol yn golygu y bydd cryn dipyn o amser cyn i gyfraddau Credyd Cynhwysol fod yn gymwys i bawb. O ganlyniad i hyn, mewn adrannau diweddarach, modelwn y ddau senario eithafol: un sy'n anwybyddu Credyd Cynhwysol yn gyfan gwbl ac un sy'n ei drin fel petai wedi cael ei weithredu'n llawn ar unwaith heb unrhyw ddiogelwch trosiannol. Mewn gwirionedd, gwelir senario sydd rhywle rhwng y ddau am sawl blwyddyn.

Sut y bydd Credyd Cynhwysol yn gweithioEr bod prif nodweddion Credyd Cynhwysol yn glir bellach, mae angen i rai o'r manylion gael eu pennu'n derfynol o hyd. Ymhlith y materion eraill sy'n weddill, mae'r llywodraeth wedi cyhoeddi cap ar gyfanswm cost Credyd Cynhwysol a all olygu bod yn rhaid iddo fod yn llai hael, neu gael ei gyflwyno'n arafach, na'r sefyllfa fel arall efallai. Mae'r disgrifiad a geir yma yn cyfleu'r wybodaeth orau sydd ar gael ar hyn o bryd; ond gall newid.

I'r rheini heb anableddau, bydd yr uchafswm y gellir ei hawlio o dan Gredyd Cynhwysol yr un peth ag o dan y system bresennol, gan gynnwys y canlynol:

Lwfans safonol, y swm sylfaenol ar gyfer pob hawliwr (sy'n cyfateb i'r lwfans personol mewn Cymhorthdal Incwm a Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm)

8 Er na fydd Credyd Cynhwysol yn gymwys i bensiynwyr, unwaith y daw Budd-dal Tai i’r rheini o oedran gweithio yn rhan o Gredyd Cynhwysol, mae’r llywodraeth hefyd yn bwriadu disodli Budd-dal Tai i bensiynwyr ag elfen costau tai mewn Credyd Pensiwn, gan felly sicrhau rhywfaint o integreiddio ar gyfer pensiynwyr hefyd.

26

Page 32: An ex-ante analysis effects of the UK Government’s … · Web viewAriannwyd yr ymchwil hon gan Lywodraeth Cymru a Chanolfan er Dadansoddi Microeconomaidd Polisi Cyhoeddus ESRC yn

Elfen plant (sy'n cyfateb i gyfraddau Credyd Treth Plant) ac elfen gofal plant (sy'n cyfateb i elfen gofal plant Credyd Treth Gwaith)

Elfen tai (sy'n cyfateb i'r uchafswm Budd-dal Tai ar gyfer y rheini mewn llety a rentir - Lwfans Tai Lleol ar gyfer rhentwyr preifat - ac elfen Cymorth Llog Morgeisi Cymhorthdal Incwm a Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm i berchennog-ddeiliaid).

Bydd hefyd elfen anabledd, a fydd yn symlach na'r system bresennol o Lwfans Cyflogaeth a Chymorth a phremiymau anabledd mewn budd-daliadau eraill sy'n destun prawf modd: ni fydd unrhyw beth yn cyfateb i'r premiymau anabledd 'uwch' a 'difrifol' sy'n bodoli ar hyn o bryd yn y rhan fwyaf o fudd-daliadau sy'n destun prawf modd o fewn Credyd Cynhwysol, ac yn lle hynny bydd y premiwm a gaiff ei dalu ar hyn o bryd i'r 'grŵp cymorth' (y sawl â'r anableddau mwyaf difrifol) o fewn Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn cael ei gynyddu. Bydd hyn yn golygu bod pobl ag anableddau naill ai ar eu hennill neu ar eu colled (yn amodol ar y diogelwch trosiannol a drafodwyd uchod), ond bwriad y llywodraeth yw y bydd y newid yn niwtral o ran refeniw yn gyffredinol.

Fodd bynnag, er na fydd yr uchafswm cymorth a roddir yn newid fawr ddim o gymharu â'r system bresennol, bydd y ffordd y cynhelir prawf modd ar ei gyfer yn dra gwahanol. Ar hyn o bryd, mae gan bob budd-dal ei anwybyddiadau enillion a'i gyfradd tynnu'n ôl ei hun; caiff cynilion ac incwm arall nas enillwyd eu trin yn wahanol i fudd-daliadau a chredydau treth; a dim ond y rheini nad ydynt yn gwneud unrhyw waith (fwy neu lai) a gaiff Gymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith a Lwfans Cyflogaeth a Chymorth, gyda Chredyd Treth Gwaith ar wahân ar gyfer y rheini sydd mewn gwaith. Bydd Credyd Cynhwysol yn llawer symlach, gydag un set o anwybyddiadau, un gyfradd tynnu'n ôl gyffredinol, un ffordd o drin cynilion ac incwm nas enillwyd, a dim gwahaniaethu rhwng budd-daliadau mewn gwaith ac allan o waith.

Bydd gan bob teulu lefel benodol o enillion a anwybyddir cyn i Gredyd Cynhwysol ddechrau cael ei dynnu'n ôl. Bydd lefel yr anwybyddiadau o ran enillion yn amrywio yn ôl y math o deulu, a bydd yn is ar gyfer y rheini sy'n cael yr elfen tai nag ar gyfer eraill. Nid yw lefel yr anwybyddiadau wedi'i phennu'n derfynol eto; yn yr adroddiad hwn tybiwn y lefelau canlynol, yn unol â'r rhai a dynnir yn asesiad effaith y llywodraeth:

Tabl 2.2 Anwybyddiadau enillion blynyddol o fewn Credyd CynhwysolMath o hawliwr Ddim yn cael elfen tai Yn cael elfen tai

Sengl £700 £700

Rhiant Unigol £9,000£2,780 + £260 am yr ail a'r

trydydd plentyn

Cwpl heb blant £3,000 £1,920

Cwpl â phlant £7,250£2,440 + £260 am yr ail a'r

trydydd plentyn

Person anabl (neu gwpl lle mae'r naill bartner neu’r llall yn anabl)9 £7,000 £2,080

Mae'r anwybyddiadau o ran enillion yn chwarae rhan hollbwysig o fewn Credyd Cynhwysol. Gydag uchafswm hawliadau yn cael ei bennu'n gyfartal i'r rhai o dan y system bresennol ac un gyfradd tynnu'n ôl, anwybyddiadau o ran enillion yw'r unig ffordd i'r llywodraeth amrywio incymau mewn gwaith ar draws gwahanol fathau o deuluoedd. Heb reolau o ran oriau a budd-daliadau mewn gwaith ac allan o

9 Yn gymwys os yw’n uwch na’r anwybyddiad y byddai’r hawliwr yn ei gael fel arall.

27

Page 33: An ex-ante analysis effects of the UK Government’s … · Web viewAriannwyd yr ymchwil hon gan Lywodraeth Cymru a Chanolfan er Dadansoddi Microeconomaidd Polisi Cyhoeddus ESRC yn

waith ar wahân, mae anwybyddiadau uchel, i bob diben, yn cymryd lle Credyd Treth Gwaith wrth ehangu cymorth i lawer o deuluoedd sy'n gweithio ac ar incwm isel.

Am bob punt o enillion ar ôl treth uwchlaw'r anwybyddiad bydd Credyd Cynhwysol yn lleihau 65c. Dyma'r un gyfradd â'r hyn sy'n gymwys i dynnu Budd-dal Tai yn ôl ar hyn o bryd; mae'n fwy na'r gyfradd y tynnir credydau treth yn ôl;10 ac wrth gwrs mae'n llai na'r gyfradd tynnu'n ôl o 100% sy'n gymwys i Gymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm a Lwfans Cyflogaeth a Chymorth sy'n gysylltiedig ag incwm.

Caiff incwm nas enillwyd ei drin yn wahanol iawn i incwm a enillwyd. Ni fydd y rhan fwyaf o incwm nas enillwyd, heblaw am incwm llog (a gaiff driniaeth arbennig, gweler isod), yn destun anwybyddiad o gwbl, a bydd yn lleihau'r hawl i gael Credyd Cynhwysol bunt am bunt. Ar y cyfan, mae hyn yn dilyn y drefn bresennol ar gyfer incwm o'r fath o dan y budd-daliadau lles sy'n destun prawf modd, ond mae'n brawf modd llymach nag o dan gredydau treth, lle mae incwm nas enillwyd yn destun tapr o 41% ar hyn o bryd. O ganlyniad, gall hawlwyr presennol credydau treth sy'n dibynnu ar incwm nas enillwyd (e.e. rhieni unigol sydd allan o waith ac sy'n cael symiau mawr o daliadau cynhaliaeth iddynt eu hunain) fod ar eu colled yn sylweddol o bosibl yn sgil cyflwyno Credyd Cynhwysol.

Ni chaiff incwm o gynilion a buddsoddiadau ei gyfrif yn uniongyrchol ar gyfer prawf modd Credyd Cynhwysol. Yn hytrach, bydd yr asedau eu hunain yn lleihau hawliad. Anwybyddir cynilion sydd o dan £6,000, ond tybir bod unrhyw gynilion uwchlaw hynny yn creu incwm o £1 yr wythnos am bob £250 o gynilion (e.e. bydd cynilion o £7,000 yn arwain at incwm priodoledig o £4 yr wythnos). Os bydd cynilion uwchlaw £16,000, yna bydd y teulu yn colli pob hawl i gael Credyd Cynhwysol. Mae'r ffordd hon o drin incwm buddsoddi bron yn union yr un peth â'r ffordd y mae budd-daliadau sy'n destun prawf modd (Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith a Lwfans Cyflogaeth a Chymorth seiliedig ar incwm, Budd-dal Tai a Budd-dal y Dreth Gyngor) yn gweithredu ar hyn o bryd, ond mae'n llawer llymach na'r driniaeth bresennol o incwm o'r fath mewn credydau treth, lle caiff incwm buddsoddi islaw £300 y flwyddyn ei anwybyddu'n gyfan gwbl, ac mae incwm buddsoddi uwchlaw £300 y flwyddyn, yn ogystal ag unrhyw incwm arall nas enillwyd, yn destun tapr o 41%, ar y mwyaf.

Gan roi incwm nas enillwyd o'r neilltu, yn fras mae Credyd Cynhwysol yn cynnwys prawf modd llai llym na'r budd-daliadau y mae'n eu disodli, ac o ran cymhellion i weithio mae'n gwthio i'r cyfeiriad arall i raddau o'r diwygiadau i gynnal profion modd llymach a drafodwyd uchod. Dengys Ffigur 2.2 gyfyngiad cyllidebol ar gyfer rhiant unigol enghreifftiol (yn debyg i'r hyn a ddangoswyd ar ddechrau'r bennod) cyn ac ar ôl cyflwyno Credyd Cynhwysol.

Ffigur 2.2 Cyfyngiad cyllidebol ar gyfer rhiant unigol â dau o blant cyn ac ar ôl cyflwyno Credyd Cynhwysol

10 Noder, fodd bynnag, nad yw’r gwahaniaeth rhwng cyfraddau tynnu yn ôl credyd treth a Chredyd Cynhwysol cymaint â’r hyn y gallai'r prif ffigurau – 41% a 65% - ei awgrymu, am fod credydau treth yn cael eu tynnu yn ôl yn erbyn incwm cyn treth tra bod Credyd Cynhwysol yn cael ei dynnu yn ôl yn erbyn incwm ar ôl treth. Mae'r rheini sy'n talu treth incwm a chyfraniadau Yswiriant Gwladol cyflogeion, heb gael unrhyw fudd-daliadau eraill, yn wynebu cyfradd dreth ffiniol weithredol gyffredinol o 73% os wynebir tynnu credydau treth yn ôl (20c o dreth incwm + 12c o gyfraniadau YG cyflogeion + 41c o gredydau treth = 73c wedi'i golli am bob punt a enillir), o gymharu â 76.2% o dan Gredyd Cynhwysol (ar ôl talu 20c o dreth incwm a 12c o gyfraniadau YG cyflogeion, caiff eu Credyd Cynhwysol ei leihau 65% o'r 68c sy'n weddill, h.y. 44.2c, gan greu cyfanswm o 20c + 12c + 44.2c = 76.2c wedi'i golli am bob punt a enillir).

28

Page 34: An ex-ante analysis effects of the UK Government’s … · Web viewAriannwyd yr ymchwil hon gan Lywodraeth Cymru a Chanolfan er Dadansoddi Microeconomaidd Polisi Cyhoeddus ESRC yn

Nodiadau: Yn tybio rhiant unigol â dau o blant a all ddewis sawl awr i’w gweithio ar gyfradd cyflog benodol, sef £6.50 yr awr, ac sydd â rhent o £80 yr wythnos, dim anabledd a dim incwm arall. Yn anwybyddu treth gyngor ac ad-daliadau cysylltiedig.

Unwaith eto, mae'r cyfyngiad cyllidebol yn Ffigur 2.2 ar gyfer un unigolyn enghreifftiol yn unig, ac mae'r effaith ar gyfyngiadau cyllidebol yn amrywio'n sylweddol ymhlith pobl ag amgylchiadau gwahanol (gweler Brewer, Browne a Jin (2011) am ragor o enghreifftiau). Fodd bynnag, mae'r ffigur yn dangos nifer o effeithiau allweddol Credyd Cynhwysol. Mae'r newidiadau allweddol a wna Credyd Cynhwysol i'r cyfyngiad cyllidebol hwn fel a ganlyn:

O dan y system bresennol, caiff budd-daliadau allan o waith eu tynnu'n ôl bunt am bunt pan fydd incwm yn mynd uwchlaw anwybyddiad bach. O dan Gredyd Cynhwysol, bydd yr anwybyddiad yn llawer mwy, gan atgyfnerthu'r cymhelliant i'r rhiant unigol hwn wneud ychydig o oriau o waith â thâl yn unig bob wythnos, ac mae uwchlaw'r anwybyddiad lle tynnir Credyd Cynhwysol yn ôl ar gyfradd arafach na budd-daliadau allan o waith.

Daw'r rhiant unigol yn gymwys i gael Credyd Treth Gwaith pan fydd yn gweithio 16 awr neu fwy'r wythnos a chaiff daliad ychwanegol os yw'n gweithio 30 awr neu fwy'r wythnos, gan arwain at gynyddu'r cyfyngiad cyllidebol ar y pwyntiau hyn. Ni fydd taliad cyfatebol o dan Gredyd Cynhwysol, gan arwain at gyfyngiad cyllidebol llawer llyfnach.

Mae CDYEau uwchlaw'r trothwy lle dechreuir tynnu Credyd Cynhwysol yn ôl yn is nag o dan y system bresennol, ond maent yn dal i fod yn gymharol uchel. Pan fydd y rhiant unigol yn gweithio mwy nag 16 awr yr wythnos a'i fod yn cynyddu ei enillion o dan y system bresennol, bydd yn colli mwy na 90c o bob punt ychwanegol a enillir ganddo drwy gyfuniad o dreth incwm, cyfraniadau Yswiriant Gwladol a thynnu credydau treth a budd-dal tai yn ôl. Mae'r CDYE yn gostwng o dan Gredyd Cynhwysol i 76.2%:11 mae'r cynllun budd-daliadau integredig yn golygu mai dim ond un budd-dal a gaiff ei dynnu'n ôl, gan ddileu'r CDYEau uchel iawn a all fodoli o dan y system bresennol pan gaiff budd-daliadau eu tynnu'n ôl ar yr un pryd.

11 Mae'r CDYE hon yn uwch na'r gyfradd dapro o 65% ar gyfer Credyd Cynhwysol am fod treth incwm a chyfraniadau YG. Y rheswm dros hyn yw bod y rhiant unigol yn drethdalwr cyfradd sylfaenol (sy'n golygu ei fod yn talu 20c ychwanegol mewn treth incwm am bob punt ychwanegol a enillir) ac yn talu cyfraniadau YG cyflogeion (sy'n golygu ei fod yn talu 12c ychwanegol mewn cyfraniadau YG cyflogeion am bob punt ychwanegol a enillir). Mae'r asesiad o incwm ar gyfer Credyd Cynhwysol yn seiliedig ar incwm ar ôl treth incwm ac Yswiriant Gwladol, gan olygu bod y swm o Gredyd Cynhwysol a geir yn lleihau 65% o'r 68c sy'n weddill, sef 44.2c. Felly, mae'r CDYE gyffredinol yn 20c yn ogystal â 12c yn ogystal â 44.2c, sy'n cyfateb i 76.2c.

29

Page 35: An ex-ante analysis effects of the UK Government’s … · Web viewAriannwyd yr ymchwil hon gan Lywodraeth Cymru a Chanolfan er Dadansoddi Microeconomaidd Polisi Cyhoeddus ESRC yn

Mae Ffigur 2.2 yn anwybyddu treth gyngor ac ad-daliadau cysylltiedig. Er bod Credyd Cynhwysol ar ei ben ei hun yn arwain at ostwng y CDYEau cyffredinol uchaf, mae'r ffaith y bydd ad-daliadau treth gyngor yn dal i fod ar wahân i Gredyd Cynhwysol yn dal i arwain at y posibilrwydd y caiff dwy elfen o gymorth eu tynnu'n ôl ar yr un pryd, gan greu CDYEau sydd bron mor uchel ag o dan y system bresennol. Bydd y ffordd y bydd y cynllun ad-dalu treth gyngor newydd yng Nghymru yn rhyngweithio â Chredyd Cynhwysol yn peri goblygiadau mawr i gymhellion i weithio. Yn yr adroddiad hwn, tybiwn y bydd y cynllun ad-dalu treth gyngor yng Nghymru yn cyfrif Credyd Cynhwysol fel incwm at ddibenion y prawf modd (gyda lwfans ychwanegol sy'n cyfateb i elfen rhent Credyd Cynhwysol er mwyn sicrhau nad yw incwm o Gredyd Cynhwysol ar ei ben ei hun yn ddigon i leihau'r hawl i ad-daliad).12 Mae cyfrif Credyd Cynhwysol fel incwm at ddibenion y prawf modd yn awgrymu mai 80.96% yw'r uchafswm y gallai unigolyn ei wynebu o ran CDYE (petai Credyd Cynhwysol ac ad-daliad treth gyngor yn cael eu tynnu'n ôl ar yr un pryd â thalu treth incwm a chyfraniadau Yswiriant Gwladol ar eu henillion). Hynny yw, yn uwch na'r uchafswm o 76.2% o ran CDYE os na fyddai ad-daliad treth gyngor yn cael ei dynnu'n ôl ar yr un pryd â Chredyd Cynhwysol, ond yn is na'r 89.8% y gellid ei greu os na fyddai Credyd Cynhwysol yn cyfrif yn y prawf modd ar gyfer ad-daliad treth gyngor, heb sôn am y CDYEau hyd yn oed yn uwch a all ddeillio o'r system bresennol.

Symlrwydd, tryloywder ac amlygrwyddEr mor bwysig yw newidiadau i gymhellion ariannol i weithio, maent yn llai pwysig os nad yw pobl yn deall y cymhellion hynny yn y lle cyntaf. Un o ganlyniadau'r amrywiaeth o raglenni sy'n bodoli ar hyn o bryd yw nad yw pobl yn aml yn gwybod beth y mae ganddynt yr hawl i'w gael, heb sôn am yr hyn y byddai ganddynt hawl i'w gael petai eu hamgylchiadau'n wahanol. Nid yw llawer o deuluoedd sydd allan o waith yn ymwybodol y gallent barhau i hawlio Budd-dal Tai a/neu Fudd-dal y Dreth Gyngor petaent yn symud i mewn i waith â thâl isel.13 Felly, gallai pobl gael eu hannog i beidio â gweithio gan y canfyddiad o hawliadau a gollir nad yw'n wir. A chan fod llawer o'r rheini mewn gwaith byth yn dod i wybod y gallant hawlio Budd-dal Tai a Budd-dal y Dreth Gyngor, dim ond cyfran fechan o'r rheini y bwriadwyd iddynt eu derbyn sy'n cael cymorth: dim ond tua hanner y teuluoedd sy'n gweithio sydd â hawl i gael Budd-dal Tai sy'n ei hawlio, o gymharu â thros 90% o deuluoedd nad ydynt yn gweithio.14 Gwelir problemau tebyg am nad yw pobl yn sylweddoli y gall Credyd Treth Gwaith gael ei hawlio gan y rheini heb blant. O dan Gredyd Cynhwysol, bydd yn amlwg bod yr un budd-dal yn rhoi cymorth i deuluoedd ar incwm isel (er na fydd ar yr un lefel efallai) drwy gydol eu bywydau oedran gweithio waeth beth fo'u hamgylchiadau penodol neu newidiadau wedi hynny. Gan fod un rhaglen yn cwmpasu ystod eang o amgylchiadau, gallai pobl fod yn sicr y byddai eu hawliad yn parhau hyd yn oed petai eu hamgylchiadau'n newid. A chan y bydd cynifer yn gymwys i gael yr un budd-dal, efallai y bydd pobl yn fwy tebygol o wybod bod ganddynt hawl ac efallai y bydd llai o stigma ynghlwm wrtho. Bydd pobl yn ymwybodol o hafaliad syml: cânt gadw'r haen gyntaf o enillion; wedi hynny byddant yn colli 65c yn y bunt.

Ar y llaw arall, er mor gymhleth yw'r system bresennol, mae dadl dros ddweud bod Credyd Treth Gwaith yn rhoi arwydd clir o leiaf, os ydych yn gweithio'r oriau gofynnol, rhoddir cymorth i chi. Efallai na fydd Credyd Cynhwysol mor amlwg nac mor hawdd ei ddeall: pa effaith wirioneddol bynnag a welir ar incymau net, efallai y bydd anwybyddiadau uwch a chyfradd tynnu'n ôl gymedrol yn annelwig, ac efallai y'u hystyrir ychydig yn wahanol: cyfyngu ar y colledion o ddechrau gweithio yn hytrach na chynnig gwobr amlwg am wneud hynny. At hynny, os bydd pobl, ar gyfartaledd, yn goramcangyfrif dychwelyd i waith (yn hytrach na'i danamcangyfrif), gallai system symlach a mwy tryloyw wanhau cymhellion canfyddedig i

12 Yn benodol, tybiwn fod Llywodraeth Cymru yn gweithredu opsiwn 2 ym Mhennod 7 o'r adroddiad diweddar gan Adam a Browne (2012).

13 Turley a Thomas, 2006.14  Adran Gwaith a Phensiynau, 2010a

30

Page 36: An ex-ante analysis effects of the UK Government’s … · Web viewAriannwyd yr ymchwil hon gan Lywodraeth Cymru a Chanolfan er Dadansoddi Microeconomaidd Polisi Cyhoeddus ESRC yn

weithio mewn gwirionedd. Felly, efallai na fydd newidiadau mewn canfyddiadau yn ddiamwys gadarnhaol.

Nid oes unrhyw ffordd o fesur yr effaith y gallai newid canfyddiadau o'r budd o weithio o system symlach a mwy tryloyw ei chael. Arweiniodd rhaglenni eraill a anelodd at ei gwneud yn haws i hawlwyr budd-daliadau ddeall y budd ariannol o weithio, megis ‘Cyfrifiadau Gwell eu Byd mewn Gwaith’ a gyflwynwyd ar ddechrau'r 2000au, ganlyniadau nad oeddent yn awyddocaol iawn (Knight a Kasparova (2006)). Er enghraifft, tra bod mamau unigol a gafodd wybod am y budd ariannol o weithio yn fwy tebygol o ddechrau gweithio, sampl detholedig oedd hwn ac nid yw'r effaith yn debygol o fod yn achosol (byddai'r rheini a gafodd wybodaeth wedi bod yn fwy tebygol o ddechrau gweithio nag eraill beth bynnag). Roedd y rheini a gafodd wybod y byddent yn cael mwy o fudd o weithio yn debycach o ddechrau gweithio na'r rheini a gafodd wybod mai budd bach y byddent yn ei gael (ymhlith hawlwyr budd-daliadau byrdymor a oedd yn agos at y farchnad lafur o leiaf), ond nid yw'n glir ai'r wybodaeth a roddwyd oedd yn gyfrifol am hyn neu a fyddai hyn wedi digwydd beth bynnag.

Gall Credyd Cynhwysol helpu i symleiddio pethau mewn modd mwy ymarferol hefyd, gan leihau'r ffwdan i hawlwyr a lleihau problemau gweinyddol i'r llywodraeth. Ar hyn o bryd, rhaid i bobl wneud sawl cais am fudd-daliadau, gan roi'r un wybodaeth fwy neu lai i wahanol adrannau o'r llywodraeth. DWP sy'n gyfrifol am y rhan fwyaf o fudd-daliadau, ond caiff credydau treth a Budd-dal Plant eu rhedeg gan Gyllid a Thollau EM (CThEM), tra bod Budd-dal Tai a Budd-dal y Dreth Gyngor yn cael eu gweinyddu gan awdurdodau lleol. A phan fydd amgylchiadau teuluoedd yn newid (dechrau gweithio neu wella o salwch, er enghraifft), nid yn unig y mae'n rhaid iddynt yn aml wneud cais am gymorth o dan gynllun gwahanol, ond ceir oedi yn aml rhwng yr adeg y bydd taliad un budd-dal yn darfod a bod taliad un arall yn dechrau. Gall hyn beri caledi i deuluoedd ar adeg drosiannol, anodd a gall y potensial am broblemau gyfrannu at yr ymdeimlad nad ydynt am ddechrau gweithio. Mewn egwyddor, dylai Credyd Cynhwysol wneud y system budd-daliadau'n fwy effeithlon - er, yn ymarferol, mae llawer yn dibynnu ar allu Llywodraeth y DU i weinyddu'r system 'Gwybodaeth Amser Real', lle ceir gwybodaeth am incymau gan gyflogwyr, yn llwyddiannus, y mae cysylltiad agos rhwng Credyd Cynhwysol a hi.

Effaith newidiadau mewn amodolrwydd o dan Gredyd CynhwysolYn ogystal â newid cyfraddau tynnu budd-daliadau yn ôl ac anwybyddiadau incwm yn sylweddol, mae Credyd Cynhwysol yn cynnwys newid sylweddol i amodau chwilio am waith y rheini sy'n derbyn budd-daliadau sy'n destun prawf modd. Ar hyn o bryd, mae'r rheini sy'n derbyn LCG yn destun amodau chwilio am waith (a ddisgrifiwyd uchod wrth drafod Rhwymedigaethau Rhieni Unigol a'r Rhaglen Waith) os ydynt yn gweithio llai nag 16 awr yr wythnos. Os caiff 16 awr neu fwy eu gweithio yr wythnos ni ellir hawlio LCG, ond efallai y gellir hawlio Credyd Treth Gwaith, nad oes unrhyw amodau chwilio am waith yn gymwys iddo sy'n ei gwneud yn ofynnol i rywun chwilio am swyddi â mwy o oriau neu gyflog uwch.

O dan Gredyd Cynhwysol, caiff terfyn oriau ar gyfer gofynion chwilio am waith ei ddisodli gan drothwy enillion sy'n llawer llymach. Mae'r rheolau'n datgan y gellir disgwyl i bobl sengl chwilio am waith sy'n talu mwy (naill ai drwy fwy o oriau neu gyflog uwch) os ydynt yn ennill llai na 35 gwaith yr isafswm cyflog yr wythnos (£217 ar hyn o bryd),15 tra gellir disgwyl i gyplau ennill dwywaith y swm hwnnw (£433) rhyngddynt. Tybir yn awtomatig bod pobl hunangyflogedig yn bodloni'r amodau hyn (a chânt eu talu swm cymesur o Gredyd Cynhwysol). I gyplau, gall y gofynion chwilio am waith fod yn gymwys i unrhyw bartner nad yw'n gweithio'n llawn amser, er, ar gyfer y rheini sy'n gofalu am blentyn 5-12 oed, dim ond ceisio cynnydd yn eu cyflogau neu oriau drwy waith sy'n digwydd yn ystod oriau ysgol y bydd angen iddynt ei wneud (mae'r un peth yn gymwys i rieni unigol). Mae'n werth nodi mai uchafsymiau yw'r trothwyon hyn o ran enillion, a bydd gan DWP hyblygrwydd wrth bennu'r trothwy enillion na fydd pobl yn wynebu'r gyfundrefn amodolrwydd 'ddwys' lawn mwyach uwchlaw hynny. Mae'r llywodraeth yn

15 Yn seiliedig ar yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol ym mis Rhagfyr 2012.

31

Page 37: An ex-ante analysis effects of the UK Government’s … · Web viewAriannwyd yr ymchwil hon gan Lywodraeth Cymru a Chanolfan er Dadansoddi Microeconomaidd Polisi Cyhoeddus ESRC yn

poeni i raddau am y gost bosibl mewn adnoddau i DWP yn sgil ehangu'r amodolrwydd yn llawn i grŵp llawer mwy o bobl, ac yn ôl y wybodaeth ddiweddaraf, i ddechrau, bydd amodolrwydd llawn yn gymwys i grwpiau sy'n cyfateb yn fras i'r rheini sy'n destun cyfundrefn amodolrwydd bresennol Lwfans Ceisio Gwaith (Adran Gwaith a Phensiynau (2012)). Eto i gyd, ar adeg llunio'r adroddiad hwn, erys braidd yn aneglur pa hawlwyr yn union a fydd yn wynebu pa lefel o amodolrwydd i ddechrau a sut y bydd hyn yn newid dros amser.

Mewn egwyddor, mae symud o reol sy'n seiliedig ar oriau i reol sy'n seiliedig ar enillion yn newid y cymhellion a wynebir gan hawlwyr: yn hytrach na cheisio cynyddu eu horiau, a all fod yn anodd o ystyried ymrwymiadau eraill, gall hawlwyr geisio cynyddu eu henillion yn lle hynny. Fodd bynnag, bydd hawlwyr LCG yn colli eu hawliad os byddant yn ennill mwy na swm penodol, ac yn ymarferol eir uwchlaw'r swm hwn yn aml gyda llai nag 16 awr o waith. Yn achos person sengl sy'n hawlio LCG seiliedig ar incwm (neu unrhyw un sy'n hawlio LCG seiliedig ar gyfraniadau), unwaith y byddant yn ennill £76 yr wythnos nid ydynt yn gymwys i gael LCG mwyach neu maent yn destun amodau mewn perthynas ag ef. Felly, byddai gweithio ond wyth awr ar £10 yr awr yn ddigon i beidio â gorfod chwilio am swyddi sy'n talu mwy, tra efallai yn dal i fod yn gymwys i gael budd-daliadau eraill (megis Budd-dal Tai a Budd-dal y Dreth Gyngor). Yn achos cwpl sy'n hawlio LCG seiliedig ar incwm, bydd enillion sydd dros £121.45 yn dileu unrhyw hawliad, sy'n golygu bod gweithio 13 awr ar £10 yr awr yn ddigon i osgoi gofynion chwilio am waith ychwanegol.

Y newid mawr, felly, yw cynnydd yn y trothwy enillion y gall fod angen i rywun barhau i geisio gwaith sy'n talu mwy islaw hynny. Yn achos person sengl heb blant, er enghraifft, mae hyn yn cynyddu o £76 yr wythnos i £217 yr wythnos. Ac yn achos cyplau heb blant, mae hyn yn cynyddu o £121.45 yr wythnos i £433 yr wythnos. Mae hyn yn golygu, er enghraifft, y gall y partner nad yw'n gweithio mewn cwpl lle mae'r partner arall yn gweithio 35 awr ar £10 yr awr fod yn destun gofynion chwilio am waith o dan Gredyd Cynhwysol, ac efallai y bydd angen iddo chwilio am waith sy'n talu 13 gwaith yr isafswm cyflog o leiaf er mwyn bodloni'r amodau ar gyfer derbyn Credyd Cynhwysol.

Os gorfodir amodolrwydd hyd at uchafswm trothwy enillion, a chan dybio bod pawb y mae ganddynt hawl i'w gael yn derbyn Credyd Cynhwysol, amcangyfrifwn y byddai tua 170,000 o unigolion yng Nghymru yn wynebu amodolrwydd sy'n gysylltiedig â gwaith. Mae hyn o gymharu â thua 120,000 cyn cyflwyno Credyd Cynhwysol (unwaith eto gan dybio bod pawb sy'n gymwys yn ei hawlio).16 Felly, mae'n deg dweud y gallai'r diwygiadau, mewn egwyddor, ehangu gofynion chwilio am waith i lawer mwy o bobl ag enillion isel. Caiff hyn ei lywio gan ofynion chwilio am waith cynyddol i gyplau, y byddai'r nifer sy'n wynebu gofynion chwilio yn cynyddu o 25,000 i 75,000 (nid oes fawr ddim newid yn nifer y bobl sengl sy'n wynebu gofynion chwilio am waith). Ond oherwydd y bydd DWP yn cymhwyso amodolrwydd llawn i grŵp llai i ddechrau, mae ei effaith gychwynnol yn debygol o fod yn llawer mwy cyfyngedig (ac os na chaiff y grwpiau y mae amodolrwydd llawn yn gymwys iddynt eu hehangu y tu hwnt i rai presennol, erys yr effaith yn gyfyngedig).

Mae'n anodd asesu effaith ehangu gofynion chwilio am waith, yn rhannol am nad yw DWP, hyd yma, wedi nodi'n llawn pa fath o gamau y bydd angen i'r sawl sy'n derbyn Credyd Cynhwysol eu cymryd er mwyn bodloni'r gofynion. Yn ôl yr Adran Gwaith a Phensiynau (2011), bydd rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol i'r broses chwilio am waith fod yn 'effeithiol' a bydd angen tystiolaeth o chwilio gweithredol, ymgeisio am swyddi, creu a diweddaru proffiliau ar-lein a CVs, cofrestru gydag asiantaeth gyflogaeth, a cheisio geirdaon gan gyn-gyflogwyr. Fel y rheini nad ydynt yn gweithio, bydd disgwyl i hawlwyr sy'n gweithio ac sy'n destun amodau sy'n gysylltiedig â gwaith dderbyn unrhyw waith 'waeth beth fo'r math o waith a

16 Ffigurau wedi'u cyfrifo gan ddefnyddio model microefelychu budd-daliadau a threth y Sefydliad Asiantaethau Cyllidol, ac Arolwg

Adnoddau Teulu 2007-08, 2008-09 a 2009-10. Nid yw'r ffigurau'n cynnwys pobl hunangyflogedig y tybir eu bod yn ennill swm sy'n cyfateb i 35 gwaith yr isafswm cyflog o dan y gyfundrefn Credyd Cynhwysol.

32

Page 38: An ex-ante analysis effects of the UK Government’s … · Web viewAriannwyd yr ymchwil hon gan Lywodraeth Cymru a Chanolfan er Dadansoddi Microeconomaidd Polisi Cyhoeddus ESRC yn

chyflog', ar yr amod ei fod yn talu mwy na'i swydd bresennol, a'i fod o fewn 90 munud i'w cartref. Bydd disgwyl i'r rheini sy'n destun gofynion chwilio am waith dreulio cymaint o amser â phosibl yn chwilio am waith. I'r rheini nad ydynt yn gweithio, bydd rheoliadau'n nodi bod yn rhaid i hawlwyr, o leiaf, fod yn chwilio am waith am nifer yr oriau y disgwylir iddynt fod ar gael i'w gweithio o leiaf. Fodd bynnag, ni nodwyd am ba hyd y disgwylir i'r rheini sydd eisoes yn gweithio chwilio eto, ac ni nodwyd ychwaith raddau'r cymorth a roddir i'r bobl hyn ddod o hyd i waith (megis drwy gyfweliadau sy'n canolbwyntio ar waith, mentora neu gynlluniau o fudd-dal i waith eraill).

Er y gellir disgwyl i fwy o ofynion chwilio am waith ei gwneud yn fwy tebygol y bydd rhywun yn cael gwaith ac yn ennill mwy, nid yw hyn yn wir o reidrwydd. Er enghraifft, dywed Petrongolo (2009) i gynnydd mewn gofynion chwilio am waith pan gyflwynwyd LCG yn 1996 ei gwneud yn llai tebygol i bobl ddi-waith gael gwaith am gyfnod o hyd at bedair blynedd. Mae'n awgrymu y gallai hyn fod wedi digwydd am i'r amodolrwydd ychwanegol olygu bod y sawl na allent ddod o hyd i waith wedi gadael LCG a ‘become detached from the labour market ... no longer perceiving themselves as workers as they were no longer covered by labor force welfare’. Astudiodd Klepinger et al. (2002) effaith gofyniad chwilio am waith gan ddefnyddio arbrawf yn Maryland, UDA, a nododd fod gofynion chwilio am waith ychwanegol a thystiolaeth o'r chwilio hwnnw yn lleihau hyd cyfartalog hawliad yswiriant diweithdra wythnos o 12 i 11 wythnos, ond ni welwyd unrhyw effaith sylweddol ar ganlyniadau cyflogaeth nac enillion. Yn achos rhieni unigol, fel y trafodwyd uchod, mae'r adolygiad gan Finn a Gloster (2010) yn nodi tystiolaeth o effeithiau cadarnhaol parhaol ar gyflogaeth yn sgil gofynion ychwanegol sy'n gysylltiedig â gwaith (er bod y diwygiadau hyn yn cynnwys mwy na dim ond chwilio am waith). Fodd bynnag, nid yw'r graddau y mae'r canfyddiadau hyn yn gymwys i system budd-daliadau sydd â gofynion chwilio am waith sylweddol mwy ar gyfer budd-daliadau eraill (e.e. LCCh), ac i'r rheini sydd eisoes mewn gwaith ac y mae angen iddynt ennill mwy, yn glir. Mae hyn yn golygu, er y byddai rhesymu yn awgrymu effaith gadarnhaol gofynion chwilio am waith ychwanegol ar ennill mwy, dywed tystiolaeth sy'n bodoli eisoes fawr ddim wrthym ynghylch a ddylem ddisgwyl i hyn fod yn wir yn ymarferol. Mewn geiriau eraill, gallai effaith amodolrwydd llymach o dan Gredyd Cynhwysol ar gyflogaeth, oriau gwaith ac enillion fod yn eithaf mawr (yn fwy nag effaith newidiadau mewn cymhellion ariannol, er enghraifft) neu'n eithaf bach: nid yw diwygiadau blaenorol yn rhoi fawr ddim syniad i ni o'r hyn i'w ddisgwyl.

2.6 CasgliadMae'r llywodraeth glymblaid wedi cyflwyno nifer fawr o ddiwygiadau lles, gan arbed cryn dipyn o arian i'r Trysorlys yn y broses. Maent yn effeithio ar gymhellion ariannol i weithio mewn sawl ffordd wahanol, ac mae llawer ohonynt yn haeddu cael eu dadansoddi'n unigol yn eu rhinwedd eu hunain. Fodd bynnag, mae'n siŵr mai'r hyn sydd fwyaf diddorol a phwysig o safbwynt polisi yw effaith y pecyn cyffredinol o ddiwygiadau ar y boblogaeth gyfan. Mesur hynny yw pwnc trafod y bennod nesaf.

33

Page 39: An ex-ante analysis effects of the UK Government’s … · Web viewAriannwyd yr ymchwil hon gan Lywodraeth Cymru a Chanolfan er Dadansoddi Microeconomaidd Polisi Cyhoeddus ESRC yn

3. Mesur effaith y pecyn diwygio cyfan ar gymhellion ariannol i weithio yng NghymruMae archwilio'r ffordd y mae diwygiadau unigol yn effeithio ar bobl enghreifftiol yn ddefnyddiol. Eto i gyd, dim ond hyn a hyn y gellir ei gyflawni drwy edrych ar enghreifftiau unigol pan fydd amgylchiadau'n amrywio cymaint ac mae'n anodd bod yn siŵr pa mor gynrychioliadol yw unigolyn penodol. Ac ar ben hynny, pan fyddwn am asesu effaith gyfunol nifer fawr o ddiwygiadau sy'n rhyngweithio â nodweddion cartrefi mewn ffyrdd cymhleth, mae model microefelychu o'r system trethi a budd-daliadau yn amhrisiadwy. Mae'r bennod hon, ynghyd â Phenodau 5 a 6, yn gwneud defnydd helaeth o fodel microefelychu trethi a budd-daliadau'r Sefydliad Astudiaethau Cyllid, sef TAXBEN, a all gael ei ddefnyddio i gyfrifo sut y byddai systemau trethi a budd-daliadau gwirioneddol ac amgen yn effeithio ar incymau sampl gynrychioliadol o bobl Cymru - a sut y byddai'r un systemau trethi a budd-daliadau hynny yn effeithio ar eu hincymau petaent yn rhoi'r gorau i weithio, yn ennill mwy, ac ati. Ar gyfer yr adroddiad hwn, rhedwn TAXBEN ar ddata o'r Arolwg Adnoddau Teulu, gan gynyddu maint y sampl drwy gyfuno tair blynedd o ddata (o 2007-08 i 2009-10, gyda newidynnau ariannol wedi'u huwchraddio i efelychu poblogaeth 2012-13). O fewn y sampl gyfan, ceir 4,221 o unigolion yng Nghymru, y mae 2,782 ohonynt yn gweithio; mae pwysoliadau gros a ddarperir gyda'r data yn ein galluogi i uwchraddio'r canlyniadau er mwyn cyfateb i boblogaeth gyfan Cymru.

Dadansoddwn effeithiau'r pecyn diwygio lles drwy gyfrifo incwm a chymhellion i weithio pob teulu unigol o dan dair system trethi a budd-daliadau wahanol:

system sylfaenol â'r system budd-daliadau fel yr oedd ym mis Ebrill 2010, ychydig cyn i'r llywodraeth bresennol ddod i rym;

system fel y bwriedir iddi edrych ym mis Ebrill 2014, gyda'r holl ddiwygiadau lles a restrwyd yn Nhabl 2.1 (ac eithrio'r tri a nodwyd yn benodol yn y tabl), ond heb fod Credyd Cynhwysol ar waith;

system fel y bydd ym mis Ebrill 2014, unwaith eto gyda'r holl ddiwygiadau lles ar waith, ond y tro hwn gyda Chredyd Cynhwysol wedi'i fodelu fel petai wedi'i weithredu'n llawn heb unrhyw ddiogelwch trosiannol.

Er mwyn ein galluogi i edrych ar ddiwygiadau lles ar wahân i newidiadau mewn trethi, mae'r system drethi yn parhau fel y mae ar ei ffurf ddisgwyliedig yn 2014-15 ar gyfer y tair system. Mynegir yr holl systemau ym mhrisiau 2012-13, felly dim ond y diwygiadau amser real i fudd-daliadau sy'n berthnasol. Tybiwn fod yr holl fudd-daliadau a chredydau treth y gellir eu hawlio yn cael eu hawlio: er bod hynny yn amlwg yn dybiaeth afrealistig, mae'n anodd modelu sefyllfa lle nad yw hyn yn wir yn foddhaol ac mae'n anodd gwybod beth fyddai ymddygiad hawlio pobl petai newidiadau yn eu patrymau gwaith yn golygu bod eu hawliadau'n wahanol.

Prif ffocws y bennod hon yw amcangyfrifon microefelychu o'r ffordd y mae diwygiadau lles Llywodraeth y DU yn effeithio ar gymhellion i weithio poblogaeth gyfan Cymru. Ond cyn troi at hynny, mae'n ddefnyddiol edrych ar ddosbarthiad enillion a cholledion o'r diwygiadau.

34

Page 40: An ex-ante analysis effects of the UK Government’s … · Web viewAriannwyd yr ymchwil hon gan Lywodraeth Cymru a Chanolfan er Dadansoddi Microeconomaidd Polisi Cyhoeddus ESRC yn

3.1 Effaith ddosbarthiadol y diwygiadauAr Gam 1 o'i rhaglen ymchwil a ddadansoddodd effaith diwygiadau lles Llywodraeth y DU,17 aeth Llywodraeth Cymru ati i grynhoi gwaith blaenorol ymchwilwyr y Sefydliad Astudiaethau Cyllid, a fesurodd effaith ddosbarthiadol y diwygiadau trethi a budd-daliadau a weithredwyd (neu y bwriadwyd eu gweithredu) gan y llywodraeth glymblaid. Fel rhan o Gam 2 o'i rhaglen ymchwil, mae'r dadansoddiad a geir yma yn diweddaru'r gwaith hwnnw er mwyn cynnwys diwygiadau a gyhoeddwyd hyd at, a chan gynnwys Cyllideb 2012, ac mae'n ymdrin ag effaith y newidiadau mewn budd-daliadau ar wahân (yn hytrach nag edrych ar ddiwygiadau trethi a budd-daliadau gyda'i gilydd).

Amcangyfrifwn fod diwygiadau lles llywodraeth glymblaid y DU yn lleihau cyfanswm yr hawliadau o ran budd-daliadau a chredydau treth yng Nghymru tua £520 miliwn (neu £520 miliwn os na chynhwysir Credyd Cynhwysol). Mae hyn yn cyfateb i tua £6.40 fesul teulu'r wythnos ar gyfartaledd (neu £7.26 os na chynhwysir Credyd Cynhwysol), sef tua 1.5% o'u hincwm net.

Dengys Ffigur 3.1 sut mae'r colledion hyn yn amrywio ar draws y dosbarthiad incwm. Mae diwygiadau lles y glymblaid, heb gynnwys Credyd Cynhwysol, yn cymryd arian o hanner waelod y dosbarthiad incwm yn bennaf. Gan fod y rhan fwyaf o'r diwygiadau yn doriadau i fudd-daliadau sy'n destun prawf modd, nid yw'n syndod bod y rheini sydd ymhellach i fyny'r dosbarthiad incwm (sydd â hawl i gael llai o fudd-daliadau, os o gwbl) yn colli llai na'r hanner waelod, er bod cartrefi gwell eu byd yn colli allan yn sgil rhai toriadau i 'les dosbarth canol' megis rhewi Budd-dal Plant, tynnu Budd-dal Plant yn ôl lle mae incymau'n £50,000 a throsodd a thynnu elfen teulu Credyd Treth Plant yn ôl ar lefel incwm is nag o'r blaen. Ond, o fewn yr hanner incwm is, nid yw'r darlun yn gwbl atchweliadol: y rhai sydd ar eu colled fwyaf o ran arian parod a chanran yw'r teuluoedd hynny ar incwm isel i ganolig dengradd 4, yn rhannol am fod cymorth mewn gwaith (yn arbennig Credyd Treth Gwaith) yn cael ei dorri'n fwy sylweddol na chymorth allan o waith.

17 Llywodraeth Cymru (2012).

35

Page 41: An ex-ante analysis effects of the UK Government’s … · Web viewAriannwyd yr ymchwil hon gan Lywodraeth Cymru a Chanolfan er Dadansoddi Microeconomaidd Polisi Cyhoeddus ESRC yn

Ffigur 3.1 Colledion ar draws y dosbarthiad incwm yng Nghymru yn sgil y diwygiadau

Nodiadau: Pennir grwpiau dengradd incwm drwy rannu'r holl deuluoedd yng Nghymru yn 10 grŵp o'r un maint yn ôl incwm wedi'i addasu ar gyfer maint y cartref gan ddefnyddio graddfa gyfwerth McClements.Ffynhonnell: Cyfrifiadau'r awduron gan ddefnyddio TAXBEN a redwyd ar ddata wedi'i uwchraddio o Arolwg Adnoddau Teulu 2007-08 i 2009-10.

Mae Credyd Cynhwysol yn rhodd net bach, sy'n lleihau colledion teuluoedd o'r pecyn cyffredinol ar gyfartaledd. Y rheini ar incymau is sydd ar eu hennill fwyaf, felly mae'r pecyn cyffredinol, unwaith y caiff Credyd Cynhwysol ei gynnwys, yn edrych yn llawer llai atchweliadol, gyda'r pumed rhan o'r boblogaeth ar yr incwm isaf yn colli ychydig yn fwy na'r boblogaeth gyfan fel canran o incwm ac yn colli llawer llai na'r cyfartaledd mewn termau arian parod.

Dengys Ffigurau 3.2 a 3.3 golledion yn ôl y math o deulu, mewn termau arian parod ac fel canran o incwm yn y drefn honno. Yn nhermau arian parod, mae'r diwygiadau, heb gynnwys Credyd Cynhwysol, yn bwrw'r rheini â phlant yn fwy na'r rheini heb blant, ac maent yn bwrw cyplau ag un partner yn ennill yn fwy na phobl sengl neu gyplau lle mae'r ddau yn ennill. Felly, cyplau ag un partner yn ennill a chanddynt blant sydd ar eu colled fwyaf, tra bod oedolion sengl a chyplau lle mae'r ddau yn ennill nad oes ganddynt blant yn osgoi unrhyw effaith ar y cyfan ar gyfartaledd; mae rhieni unigol, cyplau ag un partner yn ennill nad oes ganddynt blant a chyplau lle mae'r ddau yn ennill a chanddynt blant rywle yn y canol.

36

Page 42: An ex-ante analysis effects of the UK Government’s … · Web viewAriannwyd yr ymchwil hon gan Lywodraeth Cymru a Chanolfan er Dadansoddi Microeconomaidd Polisi Cyhoeddus ESRC yn

Ffigur 3.2 Enillion a cholledion arian parod yn sgil y diwygiadau ar gyfer gwahanol fathau o deuluoedd yng Nghymru

Nodiadau: Pennir grwpiau dengradd incwm drwy rannu'r holl deuluoedd yng Nghymru yn 10 grŵp o'r un maint yn ôl incwm wedi'i addasu ar gyfer maint y cartref gan ddefnyddio graddfa gyfwerth McClements.Ffynhonnell: Cyfrifiadau'r awduron gan ddefnyddio TAXBEN a redwyd ar ddata wedi'i uwchraddio o Arolwg Adnoddau Teulu 2007-08 i 2009-10.

Mae Credyd Cynhwysol yn lleihau colledion cyplau lle mae un partner yn ennill yn sylweddol - yn enwedig i'r rheini â phlant - o ganlyniad i'w brawf modd llai llym o gymharu â'r system bresennol. Er gwaethaf natur gymharol gynyddol Credyd Cynhwysol, mae'n cynyddu colledion cyfartalog teuluoedd nad ydynt yn gweithio â phlant yn sylweddol. Y rheswm dros hynny yw, tra bod incwm allan o waith yn aros yr un peth i'r rhan fwyaf, mae'r rheini â chynilion sylweddol neu sy'n cael incwm nas enillwyd megis taliadau cynhaliaeth yn gweld yr adnoddau hynny'n cael eu cosbi'n drymach wrth gyfrifo'r hawl i gael Credyd Cynhwysol nag ar gyfer Credyd Treth Plant ar hyn o bryd. Nid yw pensiynwyr, na theuluoedd heb blant lle mae pob oedolyn yn gweithio, yn gweld effaith y toriadau lles na chyflwyno Credyd Cynhwysol i raddau helaeth.

37

Page 43: An ex-ante analysis effects of the UK Government’s … · Web viewAriannwyd yr ymchwil hon gan Lywodraeth Cymru a Chanolfan er Dadansoddi Microeconomaidd Polisi Cyhoeddus ESRC yn

Ffigur 3.3 Enillion a cholledion canrannol yn sgil y diwygiadau ar gyfer gwahanol fathau o deuluoedd yng Nghymru

Nodiadau: Pennir grwpiau dengradd incwm drwy rannu'r holl deuluoedd yng Nghymru yn 10 grŵp o'r un maint yn ôl incwm wedi'i addasu ar gyfer maint y cartref gan ddefnyddio graddfa gyfwerth McClements.Ffynhonnell: Cyfrifiadau'r awduron gan ddefnyddio TAXBEN a redwyd ar ddata wedi'i uwchraddio o Arolwg Adnoddau Teulu 2007-08 i 2009-10.

3.2 Amcangyfrif cymhellion i weithio ymhlith poblogaeth CymruMae ein dadansoddiad o gymhellion i weithio yn cwmpasu pob unigolyn yng Nghymru rhwng 19 oed ac oedran Pensiwn y Wladwriaeth (PyW). Nid ydym yn cynnwys y rheini dros PyW oherwydd mae eu cymhellion i weithio yn codi materion gwahanol ynghylch y gydberthynas rhwng rhoi'r gorau i weithio a dechrau hawlio pensiwn preifat a phensiwn y wladwriaeth, y gellir eu mesur orau mewn ffyrdd gwahanol.

Ar gyfer pob unigolyn yn y sampl, a phob un o'r tair system trethi a budd-daliadau, dechreuwn drwy gyfrifo sefyllfa'r teulu o ran trethi a budd-daliadau o ystyried ei ymddygiad gwirioneddol. Yn achos unigolion sy'n gweithio, cyfrifwn sefyllfa'r teulu o ran trethi a budd-daliadau os na fyddai'r unigolyn hwnnw yn gweithio (er mwyn amcangyfrif ei gyfradd drethi gyfranogol) a sefyllfa'r teulu o ran trethi a budd-daliadau petai'r unigolyn hwnnw yn ennill ychydig yn fwy.

Yn achos y rheini nad ydynt yn gweithio, amcangyfrifwn eu sefyllfa petaent yn gweithio er mwyn cyfrifo eu CDG (gweler Atodiad A am fanylion). Nid ydym yn dadansoddi CDYEau ar gyfer pobl nad ydynt yn gweithio oherwydd ymddengys fod canlyniadau ennill punt yn fwy ychydig yn llai perthnasol iddynt.

Felly, cyfrifwn CDGau ar gyfer y boblogaeth gyfan o oedran gweithio, a CDYEau ar gyfer y rheini sydd mewn gwaith.

38

Page 44: An ex-ante analysis effects of the UK Government’s … · Web viewAriannwyd yr ymchwil hon gan Lywodraeth Cymru a Chanolfan er Dadansoddi Microeconomaidd Polisi Cyhoeddus ESRC yn

Er mwyn cyfrifo CDGau a CDYEau ar gyfer unigolion mewn cyplau, edrychwn ar y ffordd y mae incwm net cwpl yn newid pan fydd yr unigolyn dan sylw yn rhoi'r gorau i weithio neu fod ei enillion yn newid ychydig, gan gadw cyflogaeth ac enillion y partner arall yn sefydlog.

Mae'r mesurau ar gyfer CDGau a CDYEau a ddefnyddir yma yn ymgorffori treth incwm, cyfraniadau YG cyflogeion a'r holl brif gredydau treth a budd-daliadau nawdd cymdeithasol. Nid ydynt yn ymgorffori cyfraniadau YG cyflogwyr, trethi anuniongyrchol (TAW a thollau cartref) na threthi cyfalaf (treth gorfforaethol, treth etifeddiaeth, tollau stamp, treth enillion cyfalaf, neu dreth incwm ar incwm cynilion). Er y gall y rhan fwyaf o'r trethi eraill hyn effeithio ar gymhellion i weithio yn bendant - gan greu bwlch rhwng yr hyn y mae cyflogwr yn barod i'w dalu i gyflogi rhywun a'r hyn y mae enillion gweithiwr yn ei alluogi i'w brynu ar ôl treth - nid effeithir arnynt gan y diwygiadau lles rydym yn edrych arnynt, ac er bod eu hepgor yn gwneud i'r cyfraddau trethi sydd ar waith edrych yn is nag ydynt mewn gwirionedd, ni ddylai effeithio ar y gwaith o gymharu systemau budd-daliadau amgen sy'n destun yr adroddiad hwn.

3.3 Cymhellion i weithio o gwblYmhlith holl boblogaeth oedran gweithio Cymru, amcangyfrifwn fod diwygiadau lles y llywodraeth glymblaid yn gostwng y CDG gyfartalog o 33.1% i 32.7%, heb gynnwys Credyd Cynhwysol, neu 32.3% gan gynnwys Credyd Cynhwysol. Er y gall newidiadau bach yr olwg mewn CDGau drosi'n effeithiau economaidd sylweddol, lleihad bach ydyw serch hynny. Fodd bynnag, mae'r newid bach hwn yn y CDG gyfartalog gyffredinol yn celu amrywiad llawer mwy ymhlith y boblogaeth: mae 36% o oedolion o oedran gweithio yng Nghymru yn gweld eu CDG yn newid fwy na 5 pwynt canran o ganlyniad i'r diwygiadau, mae 23% yn gweld newid o fwy na 10 pwynt canran, ac mae un o bob deg yn gweld newid o fwy nag 20 pwynt canran. Isod, disgrifiwn y patrwm o newidiadau.

Dengys Ffigur 3.4 ddosbarthiad CDGau yng Nghymru cyn ac ar ôl y diwygiadau. Gan ddarllen ar draws, gallwn weld, er enghraifft, fod gan tua 80% o oedolion o oedran gweithio CDG islaw 50%, gan olygu eu bod yn cael cadw dros hanner yr hyn a enillir ganddynt (neu'r hyn y byddent yn ei ennill petaent yn gweithio). Mae'r llinellau ar y siart yn eithaf agos at ei gilydd: nid yw diwygiadau lles y llywodraeth yn newid y darlun yn sylweddol. Fodd bynnag, un pwynt pwysig i'w nodi yw bod Credyd Cynhwysol yn gwneud cryn dipyn i ddileu'r cymhellion gwannaf oll i weithio a geir yn y system bresennol: mae nifer y bobl yng Nghymru sy'n wynebu CDGau uwchlaw 75% yn lleihau o tua 46,000 o dan y system sylfaenol i lai na 10,000. Canlyneb hynny yw y bydd mwy o bobl yn wynebu cymhellion cymharol wan nag ar hyn o bryd: mae nifer y bobl sy'n wynebu CDGau rhwng 50% a 75% yn cynyddu o 277,000 i tua 340,000, felly ar y cyfan mae tua 26,000 yn fwy o bobl yn wynebu CDG uwchlaw 50%. Eto i gyd, mae lleihau'r niferoedd sy'n wynebu'r CDGau uchaf yn werthfawr iawn oherwydd y gwyro a achosir gan drethi yn cynyddu'n fwy na'r hyn sy'n gymesur i'w cyfradd: yn syml, ar y cyfan, mae'n well bod â dau berson yn wynebu cyfraddau trethi o 50% nag un person ar 60% ac un ar 40%. Un o brif fanteision Credyd Cynhwysol yw ei fod yn disodli amrywiaeth o brofion modd sy'n gorgyffwrdd ag un integredig (er bod cymorth treth gyngor yn cael ei gadw ar wahân), gan symud o CDGau sy'n amrywio'n eang yn ôl amgylchiadau penodol teulu i CDGau sy'n fwy unffurf. O ganlyniad, mae gwasgariad cyffredinol CDGau yn is, sy'n dra dymunol.18

18 Mae gwyriad safonol y CDGau yn lleihau o 20.3% (neu 20.8% ar ôl y diwygiadau heblaw am Gredyd Cynhwysol) i 19.2%.

39

Page 45: An ex-ante analysis effects of the UK Government’s … · Web viewAriannwyd yr ymchwil hon gan Lywodraeth Cymru a Chanolfan er Dadansoddi Microeconomaidd Polisi Cyhoeddus ESRC yn

Ffigur 3.4 Dosbarthiad CDGau yng Nghymru

0%20

%40

%60

%80

%10

0%

Cyf

ran

y gw

eith

wyr

isla

w’r

CD

G h

on

0% 10% 20% 30% 40% 50% 60% 70% 80% 90% 100%Cyfradd drethi gyfranogol

2010 Clymblaid (heb CC)Clymblaid (gyda CC)

Noder: Diwygiadau budd-daliadau a chredydau treth yn unig, fel y disgrifiwyd yn Adran 1: system drethi yn parhau fel y mae ar ei ffurf ddisgwyliedig yn 2014-15. Mae'r sampl yn cynnwys pob unigolyn yng Nghymru rhwng 19 oed a PyW.Ffynhonnell: Cyfrifiadau'r awduron gan ddefnyddio model microefelychu trethi a budd-daliadau'r Sefydliad Astudiaethau Cyllid, sef TAXBEN, a gaiff ei redeg ar ddata wedi'i uwchraddio o Arolwg Adnoddau Teulu 2007-08 i 2009-10.

Dengys Ffigur 3.5 effaith y diwygiadau ar CDGau cyfartalog ar draws y dosbarthiad enillion, tra bod Tabl 3.1 yn dangos CDGau cyfartalog y grwpiau gwahanol yr effeithir arnynt.

Heb gynnwys Credyd Cynhwysol, mae'r diwygiadau yn cynyddu'n sylweddol CDGau cyfartalog ar y lefelau enillion isaf (o dan tua £11,000 y flwyddyn) ac yn eu gostwng ar lefelau enillion uwch na hynny, yn enwedig dros tua £17,000.

Ar gyfartaledd, mae CDGau yn cynyddu ar gyfer rhieni unigol ac (yn arbennig) y prif enillydd mewn cyplau â phlant, a'r ddau grŵp hyn sy'n cyfrif am y cwymp cyffredinol mewn CDGau cyfartalog ar lefelau enillion isel. Caiff y cynnydd yn eu CDGau cyfartalog ei lywio gan ddiwygiadau credydau treth: mae'r cynnydd yn elfen plant Credyd Treth Plant (cynyddu incwm allan o waith) a phrofion modd llymach credydau treth (lleihau incwm mewn gwaith) yn cynyddu CDGau ar gyfer y grwpiau hyn ar draws y dosbarthiad enillion cyfan; ar lefelau enillion isel, gwaethygir hyn gan doriadau i Gredydau Treth Gwaith.19

19 Mae’r cynnydd o 16 i 24 awr y mae'n ofynnol I rieni â phlant a phartneriaid nad ydynt yn gweithio eu gweithio er mwyn bod yn gymwys am CTG yn hynod bwysig. Mae hyn yn lleihau'n sylweddol eu cymhelliant i weithio yn y swyddi rhan-amser, cyflog isel hynny.

40

Page 46: An ex-ante analysis effects of the UK Government’s … · Web viewAriannwyd yr ymchwil hon gan Lywodraeth Cymru a Chanolfan er Dadansoddi Microeconomaidd Polisi Cyhoeddus ESRC yn

Ffigur 3.5 CDGau cyfartalog ar draws y dosbarthiad enillion (ac enillion posibl) yng Nghymru

25%

30%

35%

40%

0 10000 20000 30000 40000 50000 60000Enillion gros (£ y flwyddyn)

2010 Clymblaid (heb CC)Clymblaid (gyda CC)

Noder: Diwygiadau budd-daliadau a chredydau treth yn unig, fel y disgrifiwyd yn Adran 1: system drethi yn parhau fel y mae ar ei ffurf ddisgwyliedig yn 2014-15. Mae'r sampl yn cynnwys pob unigolyn yng Nghymru rhwng 19 oed a PyW.Ffynhonnell: Cyfrifiadau'r awduron gan ddefnyddio model microefelychu trethi a budd-daliadau'r Sefydliad Astudiaethau Cyllid, sef TAXBEN, a gaiff ei redeg ar ddata wedi'i uwchraddio o Arolwg Adnoddau Teulu 2007-08 i 2009-10.

Ond ar draws y rhan fwyaf o'r dosbarthiad enillion, ac ar gyfer y rhan fwyaf o'r grwpiau a ddangoswyd yn Nhabl 3.1, mae CDGau cyfartalog yn gostwng. Mae pobl sengl heb blant a phobl â phartneriaid sy'n gweithio yn cyfrif am dri chwarter yr oedolion yng Nghymru, ac mae'r grwpiau hyn yn gweld eu CDGau cyfartalog yn gostwng ar bob lefel o enillion. Mae oedolion sengl heb blant yn gweld eu hincwm allan o waith (nad yw'r cynnydd mewn Credyd Treth Plant yn effeithio arno wrth gwrs) yn lleihau o ganlyniad i newid i uwchraddio budd-daliadau MPD llai hael a'r toriadau penodol i Fudd-dal Tai a Budd-dal y Dreth Gyngor, tra, os ydynt yn gweithio, mae'r ffaith bod ganddynt enillion cyfartalog uwch ac uchafswm hawliadau budd-daliadau is na rhieni unigol yn golygu bod eu henillion yn fwy tebygol o'u rhoi y tu hwnt i gwmpas cymorth prawf modd (ac felly nid yw toriadau CTG yn effeithio arnynt).20 I'r rheini â phartneriaid sy'n gweithio, mae hyd yn oed yn debycach y byddai bod mewn gwaith yn rhoi incwm cyfunol y cwpl y tu hwnt i gwmpas prawf modd, felly prif effaith yr holl doriadau lles yw lleihau'r cymorth sydd ar gael gydag un partner yn gweithio a gollir os yw'r ail bartner yn gweithio hefyd.

I grynhoi: mae diwygiadau lles y llywodraeth, heblaw am Gredyd Cynhwysol, yn dueddol o wanhau'r cymhelliant i deuluoedd â phlant fod â rhywun sy'n gweithio, yn enwedig os mai enillion isel a gynigir; ond maent yn atgyfnerthu'r cymhellion i'r ail bartner mewn cyplau weithio ac i oedolion sengl heb blant weithio. Gan edrych ar y grwpiau eraill yn Nhabl 3.1, mae'r rheini sy'n 55 oed a throsodd yn llai tebygol o fod â phlant dibynnol ac yn debygol o fod ag enillion uwch na phobl iau, ac felly maent yn debycach o weld

20 Cofiwch hefyd fod y newid i fynegeio MPD yn lleihau cymorth mewn gwaith yn fwy na chymorth allan o waith i lawer o rieni unigol, ond nid i oedolion sengl heb blant gan fod eu cyfradd Cymhorthdal Incwm yr un peth â rhieni unigol ond mae eu cyfradd CTG yn is.

41

Page 47: An ex-ante analysis effects of the UK Government’s … · Web viewAriannwyd yr ymchwil hon gan Lywodraeth Cymru a Chanolfan er Dadansoddi Microeconomaidd Polisi Cyhoeddus ESRC yn

eu CDGau yn gostwng; tra bod lleiafrifoedd ethnig a'r rheini mewn tai rhent cymdeithasol yn debycach o fod â phlant dibynnol, yn debycach o fod yn unig enillydd mewn cwpl, ac yn achos rhentwyr cymdeithasol ag enillion cyfartalog sylweddol is na gweddill y boblogaeth, ac felly gwelant eu CDGau yn gostwng yn unol â hynny.

Tabl 3.1 CDG gyfartalog yng Nghymru fesul grŵp

Ebrill 2010

Newid o ran CDG gyfartalog(pwyntiau canran) o:

Nifer(miloedd)

Diwygiadau heb gynnwys CC

CCDiwygiadau gan gynnwys CC

Sengl, dim plant 37.2% -1.0 -0.8 -1.8 452Rhiant unigol 32.0% 2.2 -2.0 0.1 104Partner ddim yn gweithio, dim plant 38.8% 0.1 -3.9 -3.9 205

Partner ddim yn gweithio, plant 49.6% 9.5 -16.0 -6.4 123Partner yn gweithio, dim plant 22.4% -2.1 1.1 -1.0 460Partner yn gweithio, plant 33.0% -1.5 5.2 3.6 413

Heb blant 31.4% -1.3 -0.6 -1.9 1,117Â phlant 36.0% 1.2 -0.1 1.1 640

19-24 oed 29.1% -0.1 -0.5 -0.6 24525-54 oed 33.6% -0.1 0.0 -0.1 1,12255-PyW 34.1% -1.2 -1.5 -2.7 390

Gwyn 33.1% -0.4 -0.4 -0.8 1,681Ddim yn wyn 31.8% 0.4 -0.1 0.3 77

Cael budd-dal anabledd 44.4% -3.4 0.1 -3.3 196Partner yn cael budd-dal anabledd 42.2% 5.8 -9.6 -3.9 120

Dim un oedolyn yn y teulu yn cael budd-dal anabledd 31.1% -0.4 0.2 -0.2 1,482

Perchennog-ddeiliad 29.7% -0.7 -0.4 -1.2 1,296Unigolyn sy'n rhentu'n breifat 29.1% -1.2 0.7 -0.5 216Unigolyn sy'n rhentu tŷ cymdeithasol 47.6% 2.3 -5.5 -3.2 229

Gweithio 30.8% -0.2 -0.1 -0.3 1,198Ddim yn gweithio 37.9% -0.6 -1.1 -1.8 559

Pawb 32.7% -0.4 -0.4 -0.8 1,757Noder: Diwygiadau budd-daliadau a chredydau treth yn unig, fel y disgrifiwyd yn Adran 1: system drethi yn parhau fel y mae ar ei ffurf ddisgwyliedig yn 2014-15. Mae'r sampl yn cynnwys pob unigolyn yng Nghymru rhwng 19 oed a PyW.

42

Page 48: An ex-ante analysis effects of the UK Government’s … · Web viewAriannwyd yr ymchwil hon gan Lywodraeth Cymru a Chanolfan er Dadansoddi Microeconomaidd Polisi Cyhoeddus ESRC yn

Ffynhonnell: Cyfrifiadau'r awduron gan ddefnyddio model microefelychu trethi a budd-daliadau'r Sefydliad Astudiaethau Cyllid, sef TAXBEN, a gaiff ei redeg ar ddata wedi'i uwchraddio o Arolwg Adnoddau Teulu 2007-08 i 2009-10.

Mae Credyd Cynhwysol yn gostwng yn sylweddol CDGau cyfartalog ar lefelau enillion isel (o dan £10,000) ac yn eu gostwng ychydig ar lefelau enillion uchel (dros tua £40,000), heb fawr ddim newid amlwg ar gyfartaledd rhyngddynt (gweler Ffigur 3.5).

Caiff y gostyngiad mewn CDGau ar lefelau enillion uchel ei lywio'n gyfan gwbl gan bobl â phartneriaid nad ydynt yn gweithio a phlant, ac mae'n digwydd nid am eu bod yn cael cymorth mewn gwaith - mae'r lefelau enillion uchel hynny yn golygu eu bod allan o gyrraedd Credyd Cynhwysol a'r budd-daliadau y mae'n eu disodli - ond am fod Credyd Cynhwysol yn trin asedau ariannol yn llai hael yn y prawf modd na Chredyd Treth Plant, felly mae'r teuluoedd hynny â phlant sydd ag asedau ariannol sylweddol (cyfran sylweddol o'r enillwyr uchel) yn cael llai o gymorth na phetai neb yn y teulu yn gweithio. Mae'r gostyngiad mewn CDGau i enillwyr uchel yn digwydd o ganlyniad i'r ffaith bod llai o gymorth ar gael i gyplau nad ydynt yn gweithio â phlant na'r hyn a welwyd yn Ffigurau 3.2 a 3.3.

Mae rheswm mwy amlwg dros y gostyngiad mewn CDGau ar lefelau enillion isel sy'n deillio o Gredyd Cynhwysol: y prawf modd llai llym ar gyfer Credyd Cynhwysol o gymharu â'r budd-daliadau y mae'n eu disodli. Gydag anwybyddiadau enillion uwch, a chyfradd tynnu'n ôl unigol o 65%, caiff enillwyr isel gadw mwy o'r hyn a enillant, tra fel arfer yn gweld fawr ddim newid, os o gwbl, yn eu hincwm allan o waith. Fel y gwelsom yn Ffigurau 3.2 a 3.3, mae'r cynnydd yn haelioni cymorth mewn gwaith fwyaf amlwg ar gyfer cyplau lle mae un partner yn ennill - ac yn arbennig cyplau o'r fath â phlant - ac felly pobl heb bartneriaid sy'n gweithio sy'n gweld y dirywiad mwyaf nodedig yn eu CDGau cyfartalog. Gan ystyried y dirywiad mawr hwn mewn CDGau ar lefelau enillion isel a'r dirywiad llawer llai ar lefelau enillion uchel a drafodwyd uchod, mae'r rheini heb bartneriaid sy'n gweithio a phlant yn gweld eu CDG gyfartalog yn gostwng yn sylweddol 16 pwynt canran o ganlyniad i Gredyd Cynhwysol.

Yn hanfodol, cyfyngir ar effaith prawf modd llai llym ar ostwng CDGau i'r prif enillydd mewn teulu. Ochr arall y geiniog o ran y cymorth mwy hael sydd ar gael i'r prif enillydd mewn teulu yw bod gan gyplau fwy i'w golli os bydd ail enillydd yn gweithio hefyd. Felly, y rheini â phartneriaid sy'n gweithio yw'r unig fath o deulu yn y panel uchaf yn Nhabl 3.1 sy'n gweld eu CDGau cyfartalog yn cynyddu: 1.1 pwynt canran i'r rheini heb blant a 5.2 pwynt canran i'r rheini â phlant (unwaith eto'n adlewyrchu'r ffaith bod Credyd Cynhwysol yn fwy hael i gyplau lle mae un partner yn ennill â phlant na'r rheini heb blant) - a chofiwch fod gan lawer mwy o bobl bartneriaid sy'n gweithio na phartneriaid sydd ddim yn gweithio.

Gan droi at y dadansoddiadau eraill yn Nhabl 3.1, mae Credyd Cynhwysol yn peri gostyngiad nodedig mewn CDGau ymhlith rhentwyr cymdeithasol a'r rheini nad ydynt yn gweithio ar hyn o bryd - grwpiau sy'n dueddol o fod ag enillion is (os ydynt yn gweithio) ac sy'n llai tebygol o fod â phartneriaid sy'n gweithio na gweddill y boblogaeth, felly'r cymhelliant cryfach i fod â phrif enillydd yn y teulu sy'n effeithio arnynt fwyaf.

Ychydig iawn o'r rheini rhwng 55 a PyW sydd â phlant dibynnol, ac maent yn llawer mwy tebygol o fod â phartneriaid nad ydynt yn gweithio na phobl iau (nid lleiaf am fod eu partner wedi ymddeol efallai), felly maent yn dueddol o berthyn i grwpiau sy'n profi gostyngiad yn eu CDGau beth bynnag. Ond un rheswm penodol pam mae Credyd Cynhwysol yn atgyfnerthu'r cymhelliant i'r rheini sy'n 55 oed neu drosodd weithio yw'r ffaith, i'r rheini â phartneriaid sydd dros PyW menywod, y bydd angen i'r ddau bartner yn hytrach nag un fod wedi mynd heibio i'r oedran hwnnw er mwyn i'r cwpl fod yn gymwys am y cymorth allan o waith hael a roddir gan Gredyd Pensiwn unwaith y cyflwynir Credyd Cynhwysol.

Gan ystyried Credyd Cynhwysol ochr yn ochr â gweddill y diwygiadau lles a fodelir yma, nid yw CDGau cyfartalog yn newid fawr ddim ar lefelau enillion isel (gyda gostyngiadau yn sgil Credyd Cynhwysol yn gwrthbwyso cynnydd yn sgil diwygio credydau treth) ond maent yn gostwng pan fo enillion dros tua £12,000 (yn bennaf oherwydd y toriadau lles). Mae'n amlwg mai pobl â phartneriaid nad ydynt yn

43

Page 49: An ex-ante analysis effects of the UK Government’s … · Web viewAriannwyd yr ymchwil hon gan Lywodraeth Cymru a Chanolfan er Dadansoddi Microeconomaidd Polisi Cyhoeddus ESRC yn

gweithio a phlant sy'n gweld y newidiadau mwyaf dramatig: caiff cynnydd mawr yn eu CDGau (yn enwedig ar lefelau enillion isel) a achosir gan ddiwygiadau credydau treth ei wrthbwyso gan ostyngiad hyd yn oed yn fwy yn eu CDGau yn sgil Credyd Cynhwysol, gan eu gadael, fel grŵp, â'r gostyngiad cyffredinol mwyaf (6.4 pwynt canran) yn eu CDG gyfartalog. Caiff y newidiadau hyn o ran haelioni'r ymdriniaeth o brif enillwyr mewn cyplau â phlant effaith groes ar gymhellion i deuluoedd fod ag ail oedolyn mewn gwaith, gan olygu bod y rheini â phartneriaid sy'n gweithio a phlant yn wynebu CDGau sydd ar gyfartaledd 3.6 pwynt canran yn uwch ar ôl y diwygiadau na chyn y diwygiadau. Mae rhieni unigol yn gweld eu CDGau cyfartalog yn gostwng ychydig yn sgil Credyd Cynhwysol ynghyd â chynnydd bach yn sgil diwygiadau eraill, gan olygu nad oes fawr ddim newid ar gyfartaledd ar bob lefel o enillion. Mae pob grŵp heb blant yn gweld eu CDGau cyfartalog yn gostwng.

Mae'r rheini sy'n 55 oed neu drosodd yn gweld eu CDGau yn gostwng yn fwy yn sgil Credyd Cynhwysol a'r diwygiadau lles eraill na phobl iau. Mae hynny'n bwysig oherwydd, fel y gwelwn yn y bennod nesaf, mae penderfyniadau cyflogaeth pobl sy'n agos at oedran ymddeol yn ymateb yn llawer mwy i gymhellion ariannol na rhai pobl iau.

Mae'r rheini nad ydynt yn gweithio, sy'n wynebu cymhellion gwannach i weithio ar gyfartaledd na gweithwyr presennol ar hyn o bryd, yn gweld eu CDGau yn gostwng i raddau mwy na gweithwyr presennol, ar gyfartaledd: mae nodweddion y rheini nad ydynt yn gweithio, a'r hyn yr amcangyfrifwn y byddent yn ei ennill petaent yn gweithio, yn golygu bod diwygiadau lles y llywodraeth yn atgyfnerthu'r cymhelliant i'r rheini sydd allan o waith ddod o hyd i swydd yn llawer mwy nag y maent yn atgyfnerthu'r cymhelliant i'r rheini sy'n gweithio aros yno.

3.4 Cymhellion i'r rheini sy'n gweithio ennill mwyRydym wedi gweld bod diwygiadau lles y llywodraeth glymblaid yn atgyfnerthu cymhellion i weithio, ar gyfartaledd. Gwelwn hefyd fod y diwygiadau yn atgyfnerthu'r cymhelliannau i'r rheini sy'n gweithio ennill mwy: caiff y CDYE gyfartalog ei gostwng 1.1 pwynt canran (o 36.9% i 35.8%) gan y diwygiadau heb gynnwys Credyd Cynhwysol; ac mae'n gostwng 0.4 pwynt canran arall (i 35.5%) unwaith yr ystyrir Credyd Cynhwysol.

Dengys Ffigur 3.6 ddosbarthiad CDYEau ymhlith gweithwyr yng Nghymru Cyn y diwygiadau, roedd ychydig dros 600,000 o bobl yng Nghymru - hanner y boblogaeth sy'n gweithio - yn wynebu CDYE o 32% o dreth incwm a chyfraniadau YG (neu 30.6% os oeddent wedi'u heithrio o Ail Bensiwn y Wladwriaeth). Mae'r toriadau lles sylweddol (heb gynnwys Credyd Cynhwysol) yn lleihau nifer y bobl sy'n destun prawf modd ar ben hynny gryn dipyn, felly mae nifer y bobl â CDYEau o 32% neu 30.6% yn cynyddu ymhellach i 650,000. Yn yr un modd, ar y cyfan mae llai o bobl yn wynebu CDYEau sydd uwchlaw unrhyw lefel benodol dros 32% (mae'r llinell yn mynd am i fyny yn y Ffigur). Fodd bynnag, mae'r cynnydd yn y gyfradd tynnu credyd treth yn ôl o 39% i 41% yn golygu bod cryn nifer o'r bobl sy'n wynebu CDYE o 71% ar hyn o bryd (tynnu credyd treth yn ôl ar 39% ynghyd â threth incwm a chyfraniadau YG ar 32%) yn gweld eu CDYE yn cynyddu i 73% (a welir yn y ffigur fel newid i'r dde rhwng y llinell lwyd a'r llinell ddu doredig yn yr ymestyniad fertigol ychydig uwchlaw 70%).21 Mae'r gyfradd tynnu'n ôl uwch hefyd yn lleihau nifer y bobl yn y sefyllfa honno, er y gwrthbwysir hynny gan y ffaith bod elfen teulu Credyd Treth Plant bellach yn cael ei thynnu'n ôl ar yr un gyfradd o 41% yn hytrach na'r gyfradd o 6.7% a oedd yn gymwys cyn y diwygiadau.

Mae Ffigur 3.6 hefyd yn dangos bod Credyd Cynhwysol yn gostwng y CDYEau uchaf oll, yn yr un modd â'r hyn a welwyd yn Ffigur 2.4 lle mae'n gostwng y CDGau uchaf oll. O dan Gredyd Cynhwysol, ni fydd neb yn

21 I'r sawl sydd wedi'u heithrio o Ail Bensiwn y Wladwriaeth, mae'r CDYE gyfunol yn cynyddu o 69.6% i 71.6%.

44

Page 50: An ex-ante analysis effects of the UK Government’s … · Web viewAriannwyd yr ymchwil hon gan Lywodraeth Cymru a Chanolfan er Dadansoddi Microeconomaidd Polisi Cyhoeddus ESRC yn

wynebu'r CDYEau o 85% neu fwy a welir ar hyn o bryd yn sgil tynnu cyfuniad o gredydau treth, Budd-dal Tai a Budd-dal y Dreth Gyngor yn ôl ar ben treth incwm a chyfraniadau Yswiriant Gwladol - heb sôn am y CDYEau o 100% a wynebir ar hyn o bryd gan y rheini sy'n wynebu gweld eu Cymhorthdal Incwm, LCG seiliedig ar incwm neu LCCh sy'n gysylltiedig ag incwm yn cael eu tynnu'n ôl. Fodd bynnag, i'r rheini sy'n wynebu gweld eu credydau treth yn cael eu tynnu'n ôl ar hyn o bryd ond nid eu Budd-dal Tai, mae'r gyfradd tynnu'n ôl o dan Gredyd Cynhwysol yn fwy na'r hyn a welir ar hyn o bryd; felly, bydd llawer o'r grwpiau a drafodwyd uchod sy'n wynebu CDYE o 71% ar hyn o bryd (neu 73% ar ôl y diwygiadau eraill) yn wynebu CDYE o 76.2% o dan Gredyd Cynhwysol yn lle hynny.

Ffigur 3.6 Dosbarthiad CDYEau ymhlith gweithwyr yng Nghymru

0%20

%40

%60

%80

%10

0%

Cyf

ran

y gw

eith

wyr

isla

w’r

CD

YE

hon

0% 10% 20% 30% 40% 50% 60% 70% 80% 90% 100%Cyfradd dreth ymylol effeithiol

2010 Clymblaid (heb CC)Clymblaid (gyda CC)

Noder: Diwygiadau budd-daliadau a chredydau treth yn unig, fel y disgrifiwyd yn Adran 1: system drethi yn parhau fel y mae ar ei ffurf ddisgwyliedig yn 2014-15. Mae'r sampl yn cynnwys pob unigolyn yng Nghymru rhwng 19 oed a PyW.Ffynhonnell: Cyfrifiadau'r awdurdon gan ddefnyddio model microefelychu trethi a budd-daliadau'r Sefydliad Astudiaethau Cyllid, sef TAXBEN, a gaiff ei redeg ar ddata wedi'i uwchraddio o Arolwg Adnoddau Teulu 2007-08 i 2009-10.

Dengys Ffigur 3.7 effaith y diwygiadau ar CDYEau cyfartalog ar draws y dosbarthiad enillion, tra bod Tabl 3.2 yn dangos CDYEau cyfartalog y grwpiau gwahanol yr effeithir arnynt.

Dros enillion o £50,000, mae CDYEau cyfartalog yn cynyddu. Mae hyn yn deillio'n gyfan gwbl o'r ffaith bod Budd-dal Plant yn cael ei dynnu'n ôl rhwng incymau o £50,000 a £60,000 y flwyddyn, sy'n cynyddu CDYEau rhieni ag enillion yn yr ystod honno i raddau mwy nag y mae symud tynnu elfen plant Credyd Treth Plant yn ôl allan o'r ystod honno yn ei wneud.22

Ar wahân i hynny, mae'r diwygiadau, heb gynnwys Credyd Cynhwysol, yn gostwng CDYEau cyfartalog ar bob lefel o enillion. Gwelir hyn fwyaf ar lefelau enillion isel - o dan tua £15,000 y flwyddyn - er mae

22 Ymddengys fod Ffigur 3.7 yn dangos y cynnydd mewn CDYEau sy'n dechrau ar enillion o dan £50,000. Ond mae hynny ond o ganlyniad i'r llyfnhau ystadegol a ddefnyddir i greu'r ffigur: yn wir, nid oes neb sy'n ennill rhwng £45,000 a £50,000 yn gweld eu CDYE yn cynyddu.

45

Page 51: An ex-ante analysis effects of the UK Government’s … · Web viewAriannwyd yr ymchwil hon gan Lywodraeth Cymru a Chanolfan er Dadansoddi Microeconomaidd Polisi Cyhoeddus ESRC yn

rhywfaint o ostyngiad yr holl ffordd i fyny i £40,000 a thu hwnt.23 Mae'r gostyngiadau yn deillio'n bennaf o'r ffaith bod budd-daliadau prawf modd llai hael yn golygu eu bod yn rhedeg allan ar lefelau incwm is (neu maent yn diflannu'n gyfan gwbl ymhlith rhai grwpiau), fel bod rhai pobl sy'n wynebu gweld eu budd-daliadau yn cael eu tynnu'n ôl ar hyn o bryd heb unrhyw fudd-dal i'w golli mwyach.

Ffigur 3.7 CDYEau cyfartalog ar draws dosbarthiad enillion gweithwyr yng Nghymru

25%

30%

35%

40%

45%

50%

0 10000 20000 30000 40000 50000 60000Enillion gros (£ y flwyddyn)

2010 Clymblaid (heb CC)Clymblaid (gyda CC)

Noder: Diwygiadau budd-daliadau a chredydau treth yn unig, fel y disgrifiwyd yn Adran 1: system drethi yn parhau fel y mae ar ei ffurf ddisgwyliedig yn 2014-15. Mae'r sampl yn cynnwys pob unigolyn yng Nghymru rhwng 19 oed a PyW.Ffynhonnell: Cyfrifiadau'r awdurdon gan ddefnyddio model microefelychu trethi a budd-daliadau'r Sefydliad Astudiaethau Cyllid, sef TAXBEN, a gaiff ei redeg ar ddata wedi'i uwchraddio o Arolwg Adnoddau Teulu 2007-08 i 2009-10.

I'r rheini â phartneriaid nad ydynt yn gweithio a phlant, yn enwedig y rheini ag enillion isel, y mae CDYEau yn gostwng fwyaf. Mae hyn yn rhannol am fod cymhwysedd CTG wedi'i ddileu i'r rheini sy'n gweithio 16-24 awr yr wythnos, felly nid ydynt yn wynebu gweld eu CTG yn cael ei dynnu'n ôl mwyach dros yr ystod incwm £6,000 i £15,000; ond yn fwy cyffredinol, mae'r system budd-daliadau cyn y diwygiadau yn gymharol hael i gyplau lle mae un partner yn ennill, felly mae'r toriadau lles ehangach yn gadael llawer llai o'r rheini sy'n gweithio 24 awr neu fwy yn wynebu gweld eu budd-daliadau yn cael eu tynnu'n ôl. Mae rhieni unigol hefyd yn cael lefelau cymharol uchel o gymorth ac mae eu henillion cyfartalog isel yn golygu bod y rhan fwyaf o fewn cwmpas prawf modd, felly dyma'r grŵp sy'n gweld y gostyngiad mwyaf namyn un mewn CDYEau cyfartalog. Eto i gyd, mae'n werth nodi, i rieni unigol a rhieni â phartneriaid nad ydynt yn gweithio, fod ystod enillion (rhwng tua £15,000 a thua £22,000 i rieni unigol a £28,000 i rieni â phartneriaid nad ydynt yn gweithio) lle mae CDYEau cyfartalog yn cynyddu mewn

23 Gwelir gostyngiadau ar lefelau enillion mor uchel am fod y rheini â phlant yn wynebu tynnu elfen teulu Credyd Treth Plant yn ôl

ar hyn o bryd pan fo incwm y teulu rhwng £50,000 a £58,000 a bod gan rai cyplau lle mae'r ddau yn ennill, dyweder, un partner yn ennill £40,000 a'r llall yn ennill £15,000, gan eu rhoi yn yr ystod berthnasol ar gyfer tynnu Credyd Treth Plant yn ôl er nad oes gan yr un partner na'r llall incwm digon uchel i wynebu colli Budd-dal Plant.

46

Page 52: An ex-ante analysis effects of the UK Government’s … · Web viewAriannwyd yr ymchwil hon gan Lywodraeth Cymru a Chanolfan er Dadansoddi Microeconomaidd Polisi Cyhoeddus ESRC yn

gwirionedd. Y rheswm dros hynny yw bod y cynnydd yn y gyfradd tynnu credyd treth yn ôl o 39% i 41% yn effeithio arnynt; ac oherwydd, hyd yn oed gyda CTG llai hael a'r gyfradd tynnu'n ôl gyflymach hon, nid yw'r tapr 41% yn rhedeg allan yn gynt na'r tapr 39%, gan fod elfen plant Credyd Treth Plant wedi cynyddu a bod yr elfen teulu yn cael ei thynnu'n ôl ar yr un gyfradd o 41% yn syth wedyn (yn hytrach na chyfradd o 6.7% uwchlaw incymau o £50,000).

Tabl 3.2 CDYE gymedrig yng Nghymru fesul grŵp

Ebrill 2010

Newid o ran CDYE gyfartalog(pwyntiau canran) o:

Nifer(miloedd)

Diwygiadau heb gynnwys CC

CCDiwygiadau gan gynnwys CC

Sengl, dim plant 33.6% -1.4 -0.3 -1.7 258Rhiant unigol 63.0% -1.5 -10.8 -12.3 56Partner ddim yn gweithio, dim plant 39.8% 0.1 2.9 3.0 89

Partner ddim yn gweithio, plant 59.3% -2.2 2.8 0.6 64Partner yn gweithio, dim plant 30.5% -1.0 -0.1 -1.2 383Partner yn gweithio, plant 37.5% -1.0 -0.4 -1.5 350

Heb blant 32.7% -1.0 0.2 -0.8 729Â phlant 43.5% -1.2 -1.2 -2.5 469

19-24 oed 29.1% -0.6 2.1 1.6 14125-54 oed 38.8% -1.3 -0.8 -2.1 86755-PyW 34.2% -0.6 -0.2 -0.8 191

Gwyn 36.9% -1.2 -0.4 -1.5 1,148Ddim yn wyn 38.1% 0.3 -0.7 -0.3 50

Cael budd-dal anabledd 46.9% -1.7 -6.8 -8.5 22Partner yn cael budd-dal anabledd 46.3% 1.2 1.2 2.4 51

Dim un oedolyn yn y teulu yn cael budd-dal anabledd 36.4% -1.2 -0.3 -1.5 1,130

Perchennog-ddeiliad 35.1% -0.8 -0.4 -1.2 979Unigolyn sy'n rhentu'n breifat 41.7% -2.5 -0.5 -3.0 123Unigolyn sy'n rhentu tŷ cymdeithasol 52.3% -3.0 -0.3 -3.2 84

Pawb 36.9% -1.1 -0.4 -1.5 1,198Noder: Diwygiadau budd-daliadau a chredydau treth yn unig, fel y disgrifiwyd yn Adran 1: system drethi yn parhau fel y mae ar ei ffurf ddisgwyliedig yn 2014-15. Mae'r sampl yn cynnwys pob unigolyn yng Nghymru rhwng 19 oed a PyW.

47

Page 53: An ex-ante analysis effects of the UK Government’s … · Web viewAriannwyd yr ymchwil hon gan Lywodraeth Cymru a Chanolfan er Dadansoddi Microeconomaidd Polisi Cyhoeddus ESRC yn

Ffynhonnell: Cyfrifiadau'r awdurdon gan ddefnyddio model microefelychu trethi a budd-daliadau'r Sefydliad Astudiaethau Cyllid, sef TAXBEN, a gaiff ei redeg ar ddata wedi'i uwchraddio o Arolwg Adnoddau Teulu 2007-08 i 2009-10.

Fodd bynnag, mae rhieni unigol a phobl â phartneriaid nad ydynt yn gweithio yn cyfrif am leiafrif bach o weithwyr. Mae gan fwy na phedair rhan o bump o weithwyr yng Nghymru naill ai bartner sy'n gweithio hefyd neu maent yn sengl heb blant, ac mae'r rhain yn grwpiau sy'n gweld llai o ostyngiad yn eu CDYE cyfartalog. Mae pobl sengl heb blant yn gweld eu CDYE gyfartalog yn gostwng yn syml am fod toriadau budd-daliadau yn golygu bod llai ohonynt yn destun prawf modd.24 Y rheini sy'n ennill llai na thua £17,000 y flwyddyn sy'n gweld gostyngiadau'n bennaf: mae'r uchafswm cymorth i bobl sengl heb blant yn gymharol isel, felly mae'r rheini (y mwyafrif) sy'n ennill mwy na hynny yn llawer llai tebygol o berthyn i gwmpas prawf modd. Gall y diwygiadau effeithio ar CDYE cwpl lle mae'r ddau yn ennill dim ond os yw enillion cyfunol y cwpl yn golygu eu bod yn perthyn i gwmpas prawf modd o hyd. I'r rheini heb blant mae hynny'n brin, ac mae'r gostyngiad mewn CDYEau wedi'i gyfyngu i'r rheini sy'n ennill llai na thua £15,000. Mae'r ffaith bod y system budd-daliadau yn fwy hael i deuluoedd â phlant yn golygu bod cyplau â phlant lle mae'r ddau yn ennill yn fwy tebygol o berthyn i gwmpas prawf modd. Gall y sawl sy'n cael help gyda chostau gofal plant, er enghraifft, weld eu credyd treth yn cael ei dynnu'n ôl ymhell i fyny'r dosbarthiad incwm, a bydd y gostyngiad yng nghyfran y costau a gwmpesir o 80% i 70% yn lleihau'r pwynt rhedeg allan ac yn cymryd rhai ohonynt allan o gwmpas prawf modd (er y bydd eraill yn gweld eu CDYE yn cynyddu oherwydd y cynnydd yn y gyfradd tynnu credyd treth yn ôl o 39% i 41%); efallai y bydd eraill yn gweld eu CDYE yn gostwng am fod eu henillion yn mynd ag incwm cyfunol y cwpl i'r ystod £50,000 i £58,000 lle cafodd elfen teulu Credyd Treth Plant ei thynnu'n ôl cyn y diwygiadau (gweler troednodyn 23).

O'r holl grwpiau a nodwyd yn Nhabl 3.2, y rheini sy'n gweld y gostyngiadau mwyaf yn eu CDYEau yw'r sawl mewn llety a rentir. Mae'r gostyngiad mawr mewn CDYEau ar gyfer unigolion sy'n rhentu tai cymdeithasol yn adlewyrchu'r ffaith eu bod yn dueddol o fod ar incymau isel a'u bod yn destun prawf modd (yn enwedig gyda Budd-dal Tai ei hun yn rhoi cryn gymorth i deuluoedd ar incwm isel mewn llety a rentir), felly mae'r toriadau yn fwy tebygol o effeithio arnynt. Mae hynny'n llawer llai gwir am unigolion sy'n rhentu'n breifat, sy'n dueddol o fod ar incymau uwch ac yn llai tebygol o fod yn cael cymorth ar sail prawf modd (fel y dangosodd Tabl 3.2, mae eu CDYE gyfartalog cyn y diwygiadau yn llawer tebycach i un perchennog-ddeiliaid nag unigolion sy'n rhentu tai cymdeithasol); eto i gyd, mae'r toriadau helaeth i Lwfans Tai Lleol yn cael effaith sylweddol ar yr unigolion hynny sy'n rhentu'n breifat sy'n destun prawf modd - mae'r toriadau hyn yn dileu'r cymorth hwnnw, a'r anghymhellion cysylltiedig i ennill mwy, i lawer ohonynt.

Mae Credyd Cynhwysol yn cynyddu CDYEau cyfartalog ar y lefel enillion isaf oll (o dan tua £7,000 y flwyddyn) ac mae'n gostwng CDYEau cyfartalog ar lefelau enillion uwch na hynny, gyda'r gostyngiadau mwyaf ar enillion o tua £12,000.

Mae'r rhesymau y mae CDYEau cyfartalog yn cynyddu ar enillion isel isel yn fwy cynnil. Y prif reswm yw, er yn gyffredinol fod prawf modd llai llym yn gymwys i Gredyd Cynhwysol na'r budd-daliadau y mae'n eu disodli, byddai rhai pobl yn wynebu gweld Credyd Cynhwysol a/neu gymorth treth gyngor yn cael eu tynnu'n ôl ar ôl y diwygiad lle na fyddent wedi wynebu gweld budd-daliadau yn cael eu tynnu'n ôl i'r fath raddau cyn hynny. Ym mhob achos bron lle mae enillwyr isel iawn yn wynebu cynnydd yn eu CDYEau, pobl sy'n gweithio 16-24 awr ar gyflog isel sydd dan sylw. Ar hyn o bryd, mae gweithio 16 awr neu fwy yn golygu nad ydynt yn gymwys i gael Cymhorthdal Incwm na Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm, felly nid ydynt yn wynebu'r gyfradd tynnu'n ôl 100%. Efallai y byddant, neu efallai na fyddant, yn wynebu gweld credyd treth yn cael ei dynnu'n ôl, yn dibynnu ai 16, 40 neu 30 awr yw gofyniad oriau CTG ar gyfer

24 Pan fo incwm rhwng tua £6,000 a £13,000, gwrthbwysir hyn gan y gyfradd tynnu CTG yn ôl uwch; ond gan fod yn rhaid i bobl sengl heb blant fod yn gweithio 30 awr yr wythnos i fod yn gymwys I gael CTG, mae'r isafswm cyflog yn golygu ei bod braidd yn amhosibl perthyn i'r ystod hon ac ychydig o bobl sydd.

48

Page 54: An ex-ante analysis effects of the UK Government’s … · Web viewAriannwyd yr ymchwil hon gan Lywodraeth Cymru a Chanolfan er Dadansoddi Microeconomaidd Polisi Cyhoeddus ESRC yn

y math hwnnw o deulu; eto i gyd, efallai na fydd eu hincwm yn ddigon uchel iddynt wynebu gweld Budd-dal Tai neu Fudd-dal y Dreth Gyngor yn cael ei dynnu'n ôl, ac os felly byddant yn wynebu CDYE o 41% (os wynebant weld credyd treth yn cael ei dynnu'n ôl) neu sero (os nad dyna'r achos). O dan Gredyd Cynhwysol, dechreuir tynnu'n ôl cyn gynted ag y bydd enillion uwchlaw'r anwybyddiad perthnasol; i'r rheini sy'n cael yr elfen tai, mae'r anwybyddiad hwnnw'n is na'r pwynt lle dechreuir tynnu Budd-dal Tai yn ôl, gan greu ystod lle mae'r CDYE yn cynyddu. Ac yn yr adroddiad hwn, rydym wedi tybio bod Llywodraeth Cymru yn mabwysiadu math o gynllun ad-dalu treth gyngor lle, ar ôl cyflwyno Credyd Cynhwysol, dechreuir tynnu'r ad-daliad yn ôl o'r bunt gyntaf o incwm preifat. I'r sawl a oedd yn wynebu CDYE o sero gynt, mae hynny, ynddo'i hun, yn gynnydd. Nid yw'r rheini o dan 25 oed yn gymwys i gael CTG (oni bai bod ganddynt blant), a gwelant gynnydd o 2.1 pwynt canran yn eu CDYE gyfartalog yn rhannol am fod Credyd Cynhwysol yn ehangu hawliadau mewn gwaith (ac felly cynhelir prawf modd ar yr hawliadau hynny) iddynt am y tro cyntaf.

Gan roi'r enillwyr isaf oll o'r neilltu, mae Credyd Cynhwysol yn dueddol o ostwng CDYEau ar lefelau enillion isel, gan mai ar lefelau enillion isel y mae pobl yn wynebu taprau lluosog sy'n gorgyffwrdd ar hyn o bryd, y mae Credyd Cynhwysol yn eu dileu. Mae Credyd Cynhwysol yn gostwng y CDYE gyfartalog ar gyfer rhieni unigol sy'n gweithio 10.8 pwynt canran, sy'n sylweddol, am fod llawer ohonynt yn yr union sefyllfa honno nawr, yn amodol ar dynnu sawl budd-dal yn ôl ar yr un pryd y mae Credyd Cynhwysol yn eu dileu. Fodd bynnag, i bobl a fyddai, fel arall, yn wynebu colli credyd treth ond heb fod unrhyw brawf modd arall, mae'r gyfradd tynnu yn ôl o 65% ar gyfer Credyd Cynhwysol yn fwy llym na'r hyn a wynebir ganddynt ar hyn o bryd, ac mae'r bobl hynny yn gweld cynnydd yn eu CDYEau.

Gan ystyried Credyd Cynhwysol ochr yn ochr â diwygiadau lles eraill, rhieni unigol sy'n sefyll allan, gyda'u CDYE gyfartalog yn gostwng 12.3 pwynt canran. Mae pobl sengl heb blant a chyplau lle mae'r ddau yn ennill yn profi gostyngiadau mwy cymedrol, tra bod enillwyr unigol (y mae nifer gymharol brin ohonynt) yn gweld eu cymhellion i ennill mwy yn gwanhau. Atgyfnerthir y cymhellion i'r rheini sy'n gweithio ennill mwy yn enwedig y sawl sy'n rhentu llety, ac mae'n wannach yn arbennig ar gyfer y rheini o dan 25 oed. Caiff CDYEau cyfartalog eu gostwng yn sylweddol ar enillion o £10,000 i £15,000 - lle mae cymhellion ar eu gwannaf i ddechrau - ac maent yn gostwng ychydig o'r pwynt hwnnw hyd at enillion o tua £40,000, er bod CDYEau cyfartalog yn cynyddu ychydig yn gyffredinol ar gyfer yr enillwyr isaf oll a theuluoedd â phlant yn yr ystod £50,000 i £60,000.

3.5 CasgliadEr, ar yr olwg gyntaf, fod diwygiadau lles y llywodraeth yn ymddangos fel petaent yn cael effaith gymharol fach wrth atgyfnerthu cymhellion ariannol i weithio, rydym wedi gweld bod y cyfartaleddau'n celu newidiadau mwy sylweddol ar gyfer grwpiau gwahanol o'r boblogaeth, yn dibynnu ar enillion ac amgylchiadau teuluol (ymhlith pethau eraill). Cyplau â phlant lle mae un partner yn ennill sydd ar eu hennill fwyaf yn sgil Credyd Cynhwysol a hwythau sydd ar eu colled fwyaf yn sgil diwygiadau lles eraill y llywodraeth; yn yr un modd, gwelir y newidiadau mwyaf mewn cymhellion i weithio gan y rheini mewn cyplau ag un partner nad yw'n gweithio. Ond mae newidiadau yn haelioni'r cymorth a roddir i gyplau lle mae un partner yn ennill hefyd yn effeithio ar ba mor werth chweil yw hi i'r partner arall fod yn ennill mewn cwpl; a chan fod gan y rhan fwyaf o bobl mewn cyplau bartner sy'n gweithio, mae'r newidiadau llai hynny mewn cymhellion cyfartalog yn effeithio ar lawer mwy o bobl. Fodd bynnag, mae'r effeithiau a gaiff newidiadau mewn cymhellion ariannol i weithio ar batrymau gwaith pobl hefyd yn dibynnu ar ymatebolrwydd pobl i'r cymhellion hynny. Y cwestiwn hwnnw a ystyrir gennym nesaf.

49

Page 55: An ex-ante analysis effects of the UK Government’s … · Web viewAriannwyd yr ymchwil hon gan Lywodraeth Cymru a Chanolfan er Dadansoddi Microeconomaidd Polisi Cyhoeddus ESRC yn

4. Adolygiad o'r llenyddiaeth ar ymatebolrwydd y cyflenwad llafurHyd yn hyn, rydym wedi ystyried sut y mae'r diwygiadau i'r system budd-daliadau a chredyd treth a gyflwynwyd ers 2010 ac y bwriedir eu cyflwyno yn ystod y blynyddoedd nesaf yn effeithio ar y cymhellion ariannol i weithio a'r cymhellion anariannol i weithio. Fodd bynnag, mae effaith y diwygiadau ar ymddygiad gwaith pobl yng Nghymru yn dibynnu nid yn unig ar sut y bydd eu cymhellion i weithio yn newid ond hefyd ar ymatebolrwydd pobl i newidiadau o ran eu cymhellion i weithio. Felly, mae'r bennod hon yn ystyried y dystiolaeth o ran ymatebolrwydd pobl i newidiadau o ran cymhellion ariannol i weithio, sut y mae hyn yn amrywio ar draws y boblogaeth a'r dimensiynau o ran cyflenwad llafur pobl sydd fwyaf ymatebol (e.e. pa un a ydynt am weithio ai peidio, neu'r oriau gwaith os bydd unigolyn yn gweithio). Mae'r adolygiad hwn o dystiolaeth yn helpu i roi ein hamcangyfrifon ein hunain o ymatebolrwydd y cyflenwad llafur yng Nghymru, a drafodir yn y bennod nesaf, yn eu cyd-destun, ac yn rhoi cyfle i ni gael amrediadau credadwy ar gyfer maint yr ymatebion i'w defnyddio fel rhan o'r dull calibradu a gynhelir ym Mhennod 6. Ffocws yr adolygiad hwn yw crynhoi'r hyn sy'n hysbys am ymatebolrwydd y cyflenwad llafur yn hytrach nag adolygu'r dulliau a chanlyniadau darnau penodol o waith. Fodd bynnag, mae'n bwysig nodi'r canlyniadau hynny sydd fwyaf dibynadwy a chredadwy, ac er mwyn gwneud hyn, rhaid cynnal rhywfaint o drafodaeth am y dulliau a ddefnyddiwyd i gael y canlyniadau hyn. Rydym yn rhoi sylw penodol i adolygu papurau sy'n dadansoddi ymddygiad y cyflenwad llafur yn y DU (hyd eithaf ein gwybodaeth, nid oes unrhyw lenyddiaeth berthnasol sy'n ystyried Cymru yn arbennig), ond rydym yn defnyddio cronfa ehangach o waith ymchwil sy'n ystyried economïau datblygedig tebyg yn Ewrop a Gogledd America lle y bo'n briodol. Mae'n werth nodi wrth gynnal yr adolygiad hwn ein bod wedi defnyddio adolygiadau cynharach o'r llenyddiaeth gan Blundell a MaCurdy (1999), Meghir a Phillips (2010), Keane (2011) a Bargain et al. (2011).

Mae gweddill y bennod hon yn dilyn y drefn ganlynol. Yn Adran 4.1, cyflwynwn drafodaeth fer ar y ffordd y gall y cyflenwad llafur ymateb i gymhellion ariannol i weithio, sut y caiff yr ymatebion hyn eu meintioli, a rhai o'r materion sy'n ei gwneud hi'n anodd amcangyfrif ymatebolrwydd. Mae hyn yn helpu i ddeall pam ein bod yn rhoi mwy o bwys ar rai amcangyfrifon empirig o faint ymatebion nag eraill, ac i strwythuro'r drafodaeth ar yr amcangyfrifon. Yn Adran 4.2, rydym yn ystyried ymatebolrwydd oriau gwaith a chyflogaeth dynion i gymhellion ariannol i weithio, ac yn gwneud yr un peth i fenywod yn Adran 4.3. Ymhob achos, rydym yn ceisio nodi is-grwpiau sy'n debygol o fod yn fwy neu'n llai ymatebol i gymhellion ariannol i weithio. Gyda'i gilydd, mae Adrannau 4.2 a 4.3 yn darparu'r sail dystiolaeth o ran rhoi cyd-destun i'r amcangyfrifon a geir gennym ar gyfer ymatebolrwydd y cyflenwad llafur yng Nghymru ym Mhennod 5, ac o ran rhoi'r dull calibradu a ddefnyddir ym Mhennod 6 ar waith. Yn Adran 4.4, rydym yn symud ymlaen o ystyried oriau gwaith ac yn edrych ar y dystiolaeth o ran i ba raddau y mae incwm crynswth trethadwy neu gyfanswm incwm crynswth unigolyn yn ymateb i newidiadau o ran cymhellion ariannol i weithio: gall hyn arwain at ymatebion ehangach fel yr ymdrech a wneir gan unigolyn wrth weithio neu wrth anelu at ddyrchafiad. Mae hefyd yn werth nodi effeithiau tymor hwy'r newidiadau o ran cymhellion ariannol i weithio. Yn Adran 4.5, edrychwn ar y llenyddiaeth ar ymatebolrwydd tymor hwy dewisiadau pobl o ran gwaith, addysg, priodas a ffrwythlondeb i gymhellion ariannol i weithio, gan awgrymu o bosibl mai dim ond rhan o'r darlun cyfan a geir wrth ystyried yr effeithiau tymor byrrach ar gyflogaeth ac oriau gwaith y mae'r astudiaeth hon yn canolbwyntio arnynt. Nodir ein casgliad a chrynodeb o'n hadolygiad o'r llenyddiaeth yn Adran 4.6. Ceir tablau o ganlyniadau o'r astudiaethau a drafodir yn y bennod hon yn Atodiad B, a cheir rhestr cyfeiriadau yn Atodiad C.

50

Page 56: An ex-ante analysis effects of the UK Government’s … · Web viewAriannwyd yr ymchwil hon gan Lywodraeth Cymru a Chanolfan er Dadansoddi Microeconomaidd Polisi Cyhoeddus ESRC yn

4.1 Cysyniadau, dulliau gweithredu ac anawsterau Cyn i ni ystyried amrediad yr amcangyfrifon o ran ymatebolrwydd i gymhellion ariannol i weithio, mae'n werth ystyried yn fras y materion cysyniadol a methodolegol sy'n sail i'r amcangyfrifon hyn. Yn gyntaf, beth yw ystyr 'cyflenwad llafur', a sut rydym yn meintioli sut mae'n ymateb i newidiadau o ran cymhellion ariannol i weithio?

Wrth gyfeirio at gyflenwad llafur, rydym yn golygu'r ymdrech waith a gyflenwir gan unigolion am gydnabyddiaeth ariannol. Yn anffodus, yn gyffredinol, ni ellir arsylwi 'ymdrech waith', felly nid yw'n bosibl ystyried yn uniongyrchol sut y mae 'ymdrech waith' yn ymateb i gymhellion ariannol i weithio (er y gellir ystyried, fel y gwelir yn Adran 4.4, y gwneir hyn mewn ffordd anuniongyrchol drwy ystyried sut y mae newidiadau o ran cymhellion i weithio yn effeithio ar incwm). Yn hytrach, mae'r rhan fwyaf o'r gwaith ymchwil wedi canolbwyntio ar ystyried y gydberthynas rhwng pa un a yw unigolion yn gweithio, ac os felly, yr oriau y mae'n eu gweithio, a'r cymhellion ariannol i weithio. Mae'r model a amcangyfrifir gennym ym Mhennod 4 o'r math hwn, ac mae'r modelau hyn yn rhoi cyfle i ni drafod llawer o'r materion cysyniadol a methodolegol allweddol sy'n gysylltiedig â deall canlyniadau'r llenyddiaeth ar y cyflenwad llafur. Nid yw'r ffaith bod modelau o'r fath yn canolbwyntio ar y cysylltiad rhwng cymhellion ariannol i weithio a'r cyflenwad llafur yn golygu nad yw ffactorau eraill yn bwysig wrth egluro p'un a all pobl weithio neu p'un a ydynt yn barod i weithio. Er enghraifft, gall fod gan bobl wahanol ddewisiadau o ran incwm o gymharu â hamdden, neu gall fod cyfyngiadau sy'n golygu ei bod yn anodd iddynt weithio, megis gofal plant ac ymrwymiadau gofal eraill. Yn ogystal â chael effaith uniongyrchol ar y tebygolrwydd o ran p'un a fydd pobl yn gweithio ai peidio a'u horiau gwaith, gall ffactorau o'r fath ddylanwadu ar ymatebolrwydd pobl i newidiadau o ran cymhellion ariannol: gall y rheini na allant weithio oherwydd ymrwymiadau gofal plant fod yn anymatebol i newidiadau o ran cymhellion ar gyflog isel, ond yn ymatebol iawn ar gyflog cymedrol i uchel wrth i ofal plant ffurfiol ddod yn fforddiadwy iddynt. Mae'r gwahaniaethau hyn o ran ymatebolrwydd i'w gweld o fewn modelau'r cyflenwad llafur.

Dechreuwn gyda model sylfaenol o oriau gwaith. Mewn model o'r fath, bydd unigolion yn dewis nifer eu horiau gwaith yn seiliedig ar eu dewisiadau, eu hincwm nas enillir a'r cyflog net fesul awr. Sut y gallai pobl ymateb i newidiadau o ran eu cyflog net (er enghraifft, oherwydd newid yn y gyfradd y caiff budd-daliadau eu tynnu'n ôl wrth i incwm gynyddu), a sut y gallwn fesur graddau'r ymatebolrwydd hwnnw mewn ffordd gyson?

Yn gyntaf, dylid nodi bod newid o ran y cyflog net yn cynnwys dwy effaith cwbl wahanol:

Yn gyntaf, mae'n effeithio ar faint o enillion ychwanegol y bydd pobl yn eu cael o weithio ychydig yn fwy neu ychydig yn llai ar y ffin. Bydd cynnydd yn y cyflog net yn cynyddu faint y bydd pobl yn ei gael o weithio mwy ar y ffin, y gellid ei ystyried fel cynnydd o ran pris amser hamdden (h.y. amser lle na fydd pobl yn gweithio). Pan fydd pris rhywbeth yn codi, yn gyffredinol byddwn yn defnyddio llai ohono. Felly, mae'r cynnydd yn y cyflog net ffiniol yn golygu bod pobl yn cael llai o amser hamdden ac yn lle hynny, yn gweithio oriau hwy. Gelwir hyn yn effaith amnewid ac mae'n golygu bod pobl yn gweithio mwy pan fydd cyflogau net yn cynyddu.

Yn ail, mae'n effeithio ar faint o enillion a gaiff pobl o ystyried nifer benodol o oriau gwaith. Mae cynnydd yn eich cyflog net yn golygu eich bod yn well eich byd. Unwaith eto, mae'n ddefnyddiol ystyried sut y gallai hyn effeithio ar faint o amser hamdden y bydd pobl am ei gymryd. Rydym yn defnyddio mwy o'r rhan fwyaf o bethau po fwyaf yr incwm a gawn, felly bydd cynnydd yn y cyflog net a'r effaith ar incwm yn golygu y bydd pobl yn gweithio llai er mwyn iddynt allu cael mwy o amser hamdden.

Mewn egwyddor, mae hyn yn golygu bod cynnydd yn y cyflog net, yn ddamcaniaethol, yn cael effaith amwys ar faint y bydd pobl yn ei weithio: byddent yn gweithio mwy pe byddai'r effaith amnewid yn drech

51

Page 57: An ex-ante analysis effects of the UK Government’s … · Web viewAriannwyd yr ymchwil hon gan Lywodraeth Cymru a Chanolfan er Dadansoddi Microeconomaidd Polisi Cyhoeddus ESRC yn

na'r effaith ar incwm, ac i'r gwrthwyneb. Felly, yn gyffredinol, ymarfer empirig ydyw er mwyn pennu, nid yn unig raddau'r ymateb i newidiadau o ran cymhellion ariannol i weithio, ond hefyd gyfeiriad yr ymateb.

Sut rydym yn meintioli ymatebolrwydd pobl i gymhellion ariannol i weithio? Y cysyniad allweddol yn hyn o beth yw hydwythedd y cyflenwad llafur. Mae hyn yn mesur y newid canran yn y cyflenwad llafur fesul pob 1% o newid yn y cyflog net. Felly, er enghraifft, mae hydwythedd o 0.5 yn y cyflenwad llafur yn golygu y byddai cynnydd o 1% yn y cyflog net yn arwain at gynnydd o 0.5% yn y swm a llafur a gyflenwir. Mae tri phrif fath o hydwythedd sy'n berthnasol i'r broses o ddadansoddi sut y mae'r cyflenwad llafur yn ymateb i newidiadau o ran budd-daliadau a chredydau treth:

Mae'r hydwythedd nas digolledwyd o ran cyflogau yn mesur y newid canran yn y cyflenwad llafur o ystyried newid o 1% yn y cyflog net.

Mae'r hydwythedd a ddigolledwyd o ran cyflogau yn mesur y newid canran yn y cyflenwad llafur o ystyried newid o 1% yn y cyflog net ffiniol, pe bai lefel yr incwm yn parhau'n sefydlog. Mae hyn yn mesur yr effaith amnewid a drafodir uchod.

Mae'r hydwythedd o ran incwm yn mesur y newid canran yn y cyflenwad llafur o ystyried newid o 1% mewn incwm, gyda'r cyflog yn parhau'n sefydlog. Mae hyn yn mesur yr effaith ar incwm a drafodir uchod.

Er mwyn gweld pam ein bod yn ystyried mwy na dim ond yr hydwythedd cyffredinol nas digolledwyd, ystyriwch Ffigur 4.1, sy'n dangos (mewn print du) y cyfyngiad cyllidebol cychwynnol (sef yr amrywiol gyfuniadau o oriau gwaith a lefelau incwm net) y bydd unigolyn yn ei wynebu o dan system dreth lle mae'r gyfradd dreth ffiniol yn cynyddu fesul cam wrth i incwm gynyddu, ac (mewn print coch) y gromlin cyfddewis (sy'n dangos yr holl gyfuniadau o oriau gwaith a lefelau incwm net y maent yn eu hoffi llawn cymaint - neu llawn lleied - â'r opsiwn ar y cyfyngiad cyllidebol y byddant yn ei ddewis). Ceir yr opsiwn gorau pan fydd y cyfyngiad cyllidebol yn dangiadol â'r gromlin cyfddewis: yn yr achos hwn, maent yn dewis gweithio H o oriau bob wythnos i ddechrau, gydag enillion net o Y a chyflog ffiniol net o (1-t2)W. Nawr dychmygwch eu bod yn wynebu cyfradd dreth sy'n golygu bod eu cyflog ffiniol net yn gostwng 5% (i 0.95*(1-t2)W), fel y dangosir gan y llinell las. Nodwch nad yw hyn yn awgrymu bod eu hincwm net hefyd yn gostwng 5% gan mai dim ond i ran o'u henillion y mae'r newid yn y gyfradd dreth yn berthnasol. Mae hyn yn golygu y byddai angen meddu ar wybodaeth am hydwythedd cyflogau a ddigolledwyd a'r hydwythedd incwm er mwyn cyfrifo effaith y newid ar oriau gwaith yr unigolyn (hynny yw, y newid i G o ran oriau ac incwm net X). Drwy gyfuno'r ddwy effaith hyn, yn gyffredinol ceir gostyngiad mwy o ran oriau gwaith na'r gostyngiad a awgrymir gan yr hydwythedd cyflogau nas digolledwyd. Yn ein dadansoddiad calibradu ym Mhennod 6, rydym yn osgoi problemau o'r fath drwy ddilyn gwaith Saez a thybio cyfradd o sero ar gyfer lefel hydwythedd y cyflenwad llafur o ran incwm.

52

Page 58: An ex-ante analysis effects of the UK Government’s … · Web viewAriannwyd yr ymchwil hon gan Lywodraeth Cymru a Chanolfan er Dadansoddi Microeconomaidd Polisi Cyhoeddus ESRC yn

Ffigur 4.1 Ystyried newidiadau o ran cyfraddau treth o dan system dreth gynyddol

Cyn trafod sut y mae economegwyr yn amcangyfrif ymatebolrwydd oriau gwaith i gymhellion ariannol i weithio (ac yn efelychu effaith diwygiadau polisi), mae angen ymdrin â dau fater cysyniadol arall. Dangosir y ddau yn Ffigur 4.2. Y cyntaf yw'r ffaith bod rhai 'costau gwaith sefydlog' penodol (er enghraifft, o ran cymudo, gofal plant neu brynu dillad addas), sy'n golygu bod pobl mewn gwirionedd yn waeth eu byd pan fyddant yn gweithio ychydig oriau na phan na fyddant yn gweithio o gwbl: dyna pam bod incwm net yn y gwaith yn dechrau ar lefel is na'r incwm allan o waith. O ganlyniad, os yw pobl yn hoffi incwm ac amser hamdden, byddent yn dewis peidio â gweithio ychydig oriau (y naid am i lawr yn y cyfyngiad cyllidebol du). Os na fydd unigolyn yn gweithio (fel person A â chromliniau cyfddewis coch), mae'n bosibl na fyddai cynnydd bach yn y gyfradd cyflog net y byddent yn ei chael pe byddent yn gweithio yn arwain at unrhyw newid o ran ymddygiad, ond gallai ail gynnydd bach arwain at benderfyniad i ddechrau gweithio oriau sylweddol (hA). Hynny yw, mae costau gwaith sefydlog yn golygu y gall fod newidiadau arwahanol rhwng peidio â gweithio a gweithio llawer o oriau fesul wythnos na ellir eu dangos yn hawdd drwy hydwytheddau oriau gwaith syml. Yn lle hynny, gallai fod yn ddefnyddiol amcangyfrif hydwythedd cyflogaeth hefyd: ond mae'n bwysig gofyn 'hydwythedd mewn perthynas â beth?

Nid oedd hyn yn broblem wrth ystyried hydwythedd oriau gwaith o ran y cyflog (er, fel y trafodir uchod, mae angen ystyried pa un ai hydwythedd a ddigolledwyd neu hydwythedd nas digolledwyd sydd fwyaf priodol): gan fod y gyfradd dreth ffiniol effeithiol y mae pobl yn ei hwynebu fel arfer yn gyson ar gyfer newid ffiniol mewn incwm, mae cynnydd o 1% yn y cyflog ffiniol crynswth yn awgrymu cynnydd o 1% yn y cyflog ffiniol net, ac i'r gwrthwyneb, sy'n golygu nad yw'n bwysig p'un a gaiff hydwythedd ei gyfrifo o ran y cyflog ffiniol net neu'r gyfradd ffiniol crynswth. Ond, wrth ystyried y dewis arwahanol o ran pa un a ddylid gweithio ai peidio, mae o leiaf tri gwahanol fesur a allai fod o ddiddordeb, gan ddibynnu ar y cyd-destun: hydwythedd cyfranogi o ran budd o weithio; hydwythedd cyfranogi o ran incwm net mewn gwaith; neu'r hydwythedd cyfranogi o ran y cyflog/enillion crynswth. Yn gyffredinol, ni fyddant yr un

53

Page 59: An ex-ante analysis effects of the UK Government’s … · Web viewAriannwyd yr ymchwil hon gan Lywodraeth Cymru a Chanolfan er Dadansoddi Microeconomaidd Polisi Cyhoeddus ESRC yn

fath.25 Fel y mae, y math o hydwythedd sydd ei angen ar gyfer cynnal y math o ddadansoddiad o'r cyflenwad llafur a gynhelir gennym ym Mhennod 6 o'r adroddiad hwn (y dull 'calibradu ac efelychu') yw'r hydwythedd o ran budd o weithio', ond mae'r llenyddiaeth sy'n bodoli eisoes yn cyfeirio at hydwytheddau o ran yr incwm net mewn gwaith neu gyflogau crynswth. Felly mae'r adolygiad hwn o lenyddiaeth yn llunio amcangyfrifon o'r hydwythedd cyflogaeth o ran incwm/cyflogau, a gaiff eu trosi gennym wedyn i 'hydwytheddau o ran y budd o weithio' ym Mhennod 6. Nid yw'r broses drosi hon yn ddelfrydol, ond dyma'r gorau y gellir ei wneud o ystyried yr amgylchiadau. Gyda holl fesurau'r hydwythedd cyflogaeth, mae'n bwysig cydnabod y byddant yn amrywio yn ôl y system dreth a budd-daliadau (gan gynnwys y cymorth ariannol mewn gwaith ac allan o waith a gânt) a'r costau sefydlog y mae pobl yn eu hwynebu.

Mae'r gwahaniaeth rhwng symudiadau i mewn ac allan o waith a newidiadau ffiniol o ran oriau yn golygu y gellir amcangyfrif nifer o wahanol fathau o hydwytheddau o ran y cyflenwad llafur:

yr hydwythedd cyfanswm oriau, sy'n mesur effaith newid yn y cyflog net ar gyfanswm yr oriau gwaith, gan gynnwys newidiadau o ran cyflogaeth a newidiadau o ran oriau'r sawl sy'n gweithio;

yr hydwythedd cyflogaeth hunanesboniadol; yr hydwythedd oriau yn amodol ar weithio, a all fod yn hydwythedd a ddigolledwyd neu nas

digolledwyd, fel y trafodir uchod (mae hydwytheddau cyfanswm oriau a chyflogaeth yn hydwytheddau nas digolledwyd).

Mae'r dull 'calibradu ac amcangyfrif' yn gofyn am hydwytheddau cyflogaeth ac oriau yn amodol ar weithio, ond dim ond hydwytheddau cyfanswm oriau a ddarperir gan nifer o bapurau wrth gynnal gwaith dadansoddi yn ôl grwpiau demograffig (er enghraifft Bargein et al. (2011)), sy'n golygu ei bod yn werth eu cynnwys o fewn cwmpas yr adolygiad.

25 Yn gyffredinol, bydd yr hydwythedd o ran gwaith yn is na'r hydwythedd o ran incwm net mewn gwaith, am fod y llywodraeth yn rhoi budd-daliadau allan o waith i bobl. Mae hyn yn golygu bod cynnydd o 1% mewn incwm net mewn gwaith yn gynnydd o fwy nag 1% yn y budd-o-weithio, ac felly mae ymateb ymddygiadol penodedig yn awgrymu hydwythedd llai o ran y budd-o-weithio. Gall yr hydwythedd o ran y cyflog crynswth fod yn uwch neu'n is na'r hydwythedd o ran incwm net, gan ddibynnu ar yr amgylchiadau.

54

Page 60: An ex-ante analysis effects of the UK Government’s … · Web viewAriannwyd yr ymchwil hon gan Lywodraeth Cymru a Chanolfan er Dadansoddi Microeconomaidd Polisi Cyhoeddus ESRC yn

Ffigur 4.2 Ystyried newidiadau o ran cyfraddau treth lle ceir costau sefydlog a gostyngiadau o ran cyfraddau treth ffiniol wrth i incwm gynyddu

Gall y ffordd y bydd hawl i fudd-daliadau a chredydau treth yn amrywio o ystyried oriau gwaith ac incwm hefyd arwain at neidiau o ran y cyflenwad llafur. Y rheswm am hyn yw unwaith y caiff hawliau eu tynnu'n ôl yn llawn, bydd y cyflog ffiniol net yn cynyddu (dim ond achosion o dynnu treth yn ôl sy'n effeithio arno ar hyn o bryd, nid achosion o dynnu treth a budd-daliadau yn ôl), Ystyriwch berson B (â chromliniau cyfddewis pinc), sy'n gweithio nifer cymharol fach o oriau i ddechrau (hB1) ac ar y tapr budd-daliadau (nodwch y cyflog ffiniol net isel). Os caiff y gyfradd dreth ar incwm ar ôl tynnu budd-daliadau yn ôl yn llawn ei gostwng ychydig (fel y dangosir gan y cyfyngiad cyllidebol diwygio gwyrdd), bydd yn dewis cynyddu ei oriau gwaith yn sylweddol i hB2. Nodwch pe cyfyngwyd y cyflog net i fod yn gyson neu i ostwng (yn hytrach na chynyddu) gyda'r oriau gwaith, ni fyddai neidiau o'r fath yn bosibl os yw pobl yn gwerthfawrogi amser hamdden ac incwm. Ni all y dull 'calibradu ac efelychu' a llawer o fodelau safonol o'r cyflenwad llafur ystyried neidiau o'r fath yn y cyflenwad llafur (ac eithrio'r penderfyniad i ddechrau mewn swydd). Ond gan fod budd-daliadau a chredydau treth ar sail profion modd yn bwysig mewn llawer o wledydd fel y DU, mae hyn wedi arwain at sefyllfa lle y gwneir defnydd cynyddol o ddulliau sy'n gallu ymdopi'n well â nodweddion o'r fath.

Amcangyfrif ymatebolrwydd y cyflenwad llafurByddai adolygu'r amrywiol ffyrdd y gellid mesur ymatebolrwydd y cyflenwad llafur ac y gwnaed hynny yn dasg sylweddol (mae Blundell a MaCurdy (1999) a Keane (2011) yn darparu adolygiadau defnyddiol o'r llenyddiaeth o safbwynt technegol). Yn hytrach, rydym yn cymharu dau ddosbarth pwysig o fodelau, ac yn trafod nifer o anawsterau o ran nodi effeithiau achosol cymhellion ariannol i weithio ar ymddygiad gweithio. Yng ngweddill y bennod hon, rydym wedi rhoi'r pwys mwyaf ar y papurau hynny sydd wedi ymdrin â'r materion hyn orau, yn ein barn ni.

Mae cyfyngiadau cyllidebol cymhleth lle y gall y cyflogau ffiniol net gynyddu wrth i oriau ac incwm gynyddu yn ei gwneud hi'n anos modelu penderfyniadau llafur: ni allwch ddynodi model oriau gwaith

55

Page 61: An ex-ante analysis effects of the UK Government’s … · Web viewAriannwyd yr ymchwil hon gan Lywodraeth Cymru a Chanolfan er Dadansoddi Microeconomaidd Polisi Cyhoeddus ESRC yn

syml ond rhaid dynodi'r boddhad (neu'r defnydd) a gaiff unigolion o bob cyfuniad oriau-incwm net. Mae cyfrifiad o'r fath yn feichus pan fyddwch yn caniatáu i unigolion ddewis o blith nifer o opsiynau oriau parhaus, sydd i raddau helaeth yn nifer ddiderfyn, ac mae hyn wedi arwain at ddefnydd cynyddol o fodelau sy'n ymdrin â'r penderfyniad o ran faint o oriau i'w gweithio fel dewis arwahanol (e.e. llawn amser, rhan amser, peidio â gweithio) yn hytrach na dewis parhaus: os felly, dim ond y dewis gorau o blith y set fechan o opsiynau a ganiateir y bydd angen i chi ei ganfod. Mae'r modelau a amcangyfrifir gennym ac a ddefnyddir gennym ym Mhennod 5 o'r adroddiad hwn yn fodelau dewis arwahanol, a chafodd modelau o'r fath eu defnyddio'n gynyddol ar gyfer gwaith dadansoddi polisïau treth a budd-daliadau, yn enwedig yn y DU ac Ewrop (er enghraifft, gweler y drafodaeth ddiweddarach o'r papurau sy'n ystyried rhaglen Credydau Treth i Deuluoedd sy'n Gweithio y DU). Wrth ddefnyddio modelau o'r fath, mae'n bwysig sicrhau bod digon o opsiynau oriau arwahanol ar gael i nodi effeithiau'r diwygiadau ar ymddygiad, gan roi mwy o opsiynau i'r rheini y mae gan eu horiau amrywiaeth ehangach o werthoedd (e.e. menywod â phlant) na'r rheini sy'n gyffredinol naill ai'n gweithio'n llawn amser neu ddim yn gweithio o gwbl (e.e. dynion), a mwy o opsiynau pan fydd y cyfyngiadau cyllidebol y mae pobl yn eu hwynebu yn fwy cymhleth (e.e. pan fydd amodau oriau gwaith yn gysylltiedig â'r hawl i fudd-dal). Rydym o'r farn bod modelau o'r fath yn debygol o berfformio'n well na modelau oriau gwaith parhaus traddodiadol - nad ydynt, namyn rhai eithriadau prin, yn ymdopi'n llwyddiannus â chyfyngiadau cyllidebol cymhleth o'r fath - ar gyfer dadansoddi ymatebolrwydd y cyflenwad llafur yn ôl gweithwyr incwm isel a (chan fod profion modd wedi cael eu defnyddio ar lefel uwch ar y dosbarthiad incwm yn ystod y blynyddoedd diwethaf) gweithwyr incwm canolig.

Yn anffodus, mae nifer o broblemau econometrig sy'n ei gwneud hi'n anodd amcangyfrif hydwytheddau a modelau'r cyflenwad llafur. Er mwyn eu dangos, gadewch i ni gymryd fel esiampl trawsdoriad unigol o ddata yn cwmpasu enillion, oriau, incwm nas enillwyd a nodweddion demograffig nifer o unigolion. Pa anawsterau sy'n ein hatal rhag defnyddio'r gydberthynas rhwng oriau gwaith unigolion a'u cyflogau net i amcangyfrif hydwytheddau'r cyflenwad llafur?

Efallai mai'r broblem fwyaf amlwg, hyd yn oed ar ôl rheoli ar gyfer nodweddion demograffig arsylwadwy, yw'r ffaith ei bod yn debygol mai'r un bobl fydd y rheini sy'n dewis gweithio oriau hwy (am eu bod yn hoffi gweithio) a'r rheini sy'n gweithio'n galetach, sy'n fwy galluog, ac felly sy'n cynhyrchu mwy pan fyddant yn y gwaith. Mae hyn yn achosi cydberthynas gadarnhaol rhwng cyflogau ac oriau gwaith (h.y. mae'r rheini â chyflogau uchel hefyd yn gweithio oriau hir) y gellid ei dehongli'n amhriodol fel un o effeithiau achosol cyflogau ar oriau gwaith, gan arwain at duedd ar i fyny o ran hydwytheddau amcangyfrifedig y cyflenwad llafur. Un ateb cyffredin i'r broblem hon yw rheoli amrywiad o'r fath o ran chwaethau gwaith drwy dybio eu bod yn sefydlog dros gyfnod o amser (naill ai ar lefel unigolion neu ar lefel grwpiau demograffig) a nodi hydwytheddau'r cyflenwad llafur o newidiadau o ran cyflogau net a newidiadau o ran oriau gwaith dros amser. Mae'r dull hwn ar ei orau pan fydd fwyaf realistig bod y newidiadau o ran cyflogau net yn annibynnol ar unrhyw newidiadau o ran chwaethau gwaith: mae newidiadau oherwydd diwygiadau treth neu fudd-daliadau yn arbennig o ddefnyddiol yn hyn o beth. Rydym yn rhoi'r pwys mwyaf ar ganlyniadau astudiaethau sy'n defnyddio newidiadau o'r fath o ran cymhellion i weithio.

Ond gall trethi hefyd achosi problemau wrth geisio nodi hydwytheddau'r cyflenwad llafur. Er enghraifft, mae gan system treth incwm nodweddiadol gyfraddau treth gynyddol uwch ar lefelau incwm uwch. Mae hyn yn golygu wrth i oriau gwaith (ac felly incwm) gynnydd, bod y cyflog ffiniol net yn gostwng, gan arwain at gydberthynas negyddol rhwng cyflogau net ac oriau gwaith, gan arwain at duedd ar i lawr o ran hydwytheddau amcangyfrifedig y cyflenwad llafur. Cynigiwyd sawl dull ar gyfer ymdrin â'r problemau a grëir gan drethiant cynyddol a thynnu budd-daliadau yn ôl, er bod y rhain yn ddadleuol, ac mae rhai astudiaethau wedi dewis samplau sy'n debygol o fod yn destun cyfraddau treth ffiniol cyson er mwyn osgoi'r broblem - er bod perygl y gallai hyn olygu bod y canlyniadau yn llai cynrychioliadol. Unwaith eto,

56

Page 62: An ex-ante analysis effects of the UK Government’s … · Web viewAriannwyd yr ymchwil hon gan Lywodraeth Cymru a Chanolfan er Dadansoddi Microeconomaidd Polisi Cyhoeddus ESRC yn

credwn ei bod yn bwysig rhoi mwy o bwys ar astudiaethau sy'n ymdrin â'r mater hwn mewn ffordd ymarferol.

Yn olaf, mae'n werth trafod y problemau sy'n deillio o gyflogau a gamfesurwyd ac incwm nas enillir. Mae'n hysbys os caiff cyflogau cyfartalog eu mesur yn gywir, ond gyda rhywfaint o sŵn gwyn, yna y bydd amcangyfrifon o hydwythedd y cyflenwad llafur yn tueddu tuag at sero (cyfeirir at yr effaith hon weithiau fel tuedd wanhau). Felly, gall astudiaethau sy'n defnyddio cyflogau a gaiff eu cofnodi fesul awr nad ydynt yn ceisio rheoli ar gyfer gwall mesur o'r fath danddatgan graddau ymatebolrwydd y cyflenwad llafur. Ond beth os nad gwallau ar hap yw'r gwallau o ran y cyflogau a gaiff eu cofnodi? Mewn llawer o'r astudiaethau a gaiff eu trafod isod, a'r holl astudiaethau o'r DU, caiff cyflogau fesul awr eu cyfrifo drwy ddefnyddio cymhareb yr enillion wythnosol (blynyddol) i'r oriau gwaith wythnosol (blynyddol). Gadewch i ni dybio y caiff oriau gwaith ac enillion eu cofnodi gan gynnwys gwall anghydberthnasol. Felly, byddai cyflog fesul awr gwallus o isel yn cael ei gyfrifo ar gyfer unigolyn a fyddai'n cofnodi nifer o oriau gwaith gwallus o uchel, ac i'r gwrthwyneb. Mae hyn yn arwain at gydberthynas negyddol rhwng yr oriau a fesurir a'r cyflog fesul awr a gyfrifir, gan achosi tuedd negyddol yn yr hydwytheddau cyflog a amcangyfrifir. Yn wir, fel y noda Keane (2011), mae astudiaethau sy'n defnyddio mesurau cymhareb o'r fath o gyflogau yn dueddol o nodi hydwytheddau llai yn y cyflenwad llafur na'r rheini sy'n defnyddio mesurau uniongyrchol ar gyfer cyflogau fesul awr. Un rheswm pam y caiff astudiaethau o'r tu allan i'r DU eu cynnwys yn yr adolygiad hwn yw'r ffaith bod rhai astudiaethau o'r tu allan i'r DU yn defnyddio mesurau uniongyrchol ar gyfer cyflogau fesul awr. Yn fwy cyffredinol, rydym hefyd yn rhoi mwy o bwys ar astudiaethau sy'n ceisio goresgyn y problemau hyn o ran mesur cyflogau wrth lunio ein casgliadau.

Ystyriwn yn awr ymatebolrwydd gwahanol rannau o'r boblogaeth i newidiadau o ran cymhellion ariannol i weithio, gan gofio'r materion methodolegol rydym newydd eu trafod.

4.2 Ymatebolrwydd oriau gwaith dynion a chyflogaethYn yr adran hon, crynhown ganfyddiadau'r llenyddiaeth ar ymatebolrwydd dynion i newidiadau o ran cymhellion ariannol i weithio. Ein casgliad yw bod y rhan fwyaf o'r llenyddiaeth, yn enwedig ar gyfer y DU, yn nodi nad yw oriau gwaith dynion yn ymatebol iawn i gymhellion ariannol i weithio, er y gallai p'un a ydynt yn gweithio ai peidio fod rhywfaint yn fwy ymatebol, gyda rhywfaint o dystiolaeth bod hyn yn fwy perthnasol i'r rheini â lefelau addysg isel neu i ddynion sengl. Dyma yn sicr oedd barn Meghir a Phillips (2009) sy'n datgan ‘it would be a fair description to say that male hours adjustment to changes in marginal wages is very low indeed’, a daeth Blundell a MaCurdy (1999) i gasgliad tebyg. Mae Keane (2011) yn dadlau nad yw'r dystiolaeth yn ategu'r consensws tybiedig nad yw oriau gwaith dynion yn ymatebol i newidiadau o ran cymhellion ariannol i weithio, ac yn amlygu nifer o broblemau a allai beri tuedd ar i lawr wrth amcangyfrif ymatebolrwydd yn llawer o'r astudiaethau sydd, yn wir, yn nodi hydwytheddau bach yn y cyflenwad llafur. O ganlyniad, ein hail gasgliad yw bod tebygolrwydd gwirioneddol y gallai dynion fod yn fwy ymatebol na'r hyn a ystyriwyd yn gyffredinol; bydd yr arsylwad hwn yn helpu i lywio ein dadansoddiad o senarios gan ddefnyddio'r dull calibradu ym Mhennod 6 o'r adroddiad hwn.

Pa mor ymatebol yw oriau gwaith dynion?Mae'r llenyddiaeth fodern ar y cyflenwad llafur ymhlith dynion wedi canolbwyntio'n draddodiadol ar ystyried ymatebolrwydd eu horiau gwaith i gymhellion ariannol i weithio, gan anwybyddu'r penderfyniad o ran pa un a ddylid cyfranogi ai peidio. Caiff hyn ei lywio gan y ffaith bod lefelau cyflogaeth ymhlith dynion o'r prif oedran gweithio wedi bod yn gyffredinol uchel iawn, yn enwedig yn y 1970au a chyn hynny, pan gynhaliwyd yr astudiaethau cyntaf. Fel y gwelwn yn yr is-adran nesaf, mae hyn wedi dechrau

57

Page 63: An ex-ante analysis effects of the UK Government’s … · Web viewAriannwyd yr ymchwil hon gan Lywodraeth Cymru a Chanolfan er Dadansoddi Microeconomaidd Polisi Cyhoeddus ESRC yn

newid. Mae'r llenyddiaeth hefyd wedi canolbwyntio ar ymddygiad dynion priod yn hytrach na dynion sengl.

Mae nifer o bapurau wedi ystyried patrymau gwaith dynion yn y DU ac yn gyffredinol, gwelir bod lefel isel o ymatebolrwydd. Daeth llawer o'r papurau cynharach ar ddynion ym Mhrydain o hyd i hydwytheddau cyflog negyddol nas digolledwyd (cyfartaledd y rheini a arolygwyd yn Pencavel (1986) yw -0.16) sy'n awgrymu y byddai cynnydd yn y cyflog net yn arwain at ostyngiad o ran oriau gwaith, er bod hydwytheddau cyflog a ddigolledwyd (sy'n mesur effaith newid yn y cyflog ffiniol o ystyried incwm sefydlog) yn gyffredinol gadarnhaol ac yn dod i gyfartaledd isel, sef 0.13. Noda Pencavel (1986) a Keane (2011) fod llawer o'r meintiau sampl a ddefnyddir yn fach, mai dim ond trawsdoriadau data a ddefnyddir ac nad yw'r ffordd yr ymdrinnir â'r 'cyfyngiad cyllidebol' sy'n wynebu cartrefi wrth benderfynu faint i weithio yn rhoi cyfrif am y system dreth gynyddol. Mae'r astudiaethau hefyd yn dibynnu ar fesur cymhareb o'r cyflogau a gaiff eu cyfrifo fel enillion/oriau, a fydd yn arwain at duedd ar i lawr o ran amcangyfrifon o hydwytheddau cyflog. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid bod yn ofalus wrth ystyried yr amcangyfrifon hyn.

Mae gwaith Blundell a Walker (1986) yn cyflwyno astudiaeth fwy estynedig o'r cyflenwad llafur ymhlith dynion, sy'n gyson â sicrhau'r ymddygiad gorau dros oes y dyn (ac nid dim ond o fewn un cyfnod) ac o fewn y teulu. Unwaith eto, daw o hyd i hydwytheddau oriau gwaith negyddol bach nas digolledwyd ar gyfer dynion, a hydwythedd cadarnhaol bach a ddigolledwyd (0.024). Fodd bynnag, caiff rhai o'r tybiaethau sy'n sail i'r model eu beirniadu yn Keane (2011), ac mae'n bosibl y gallai'r ffaith iddo ddefnyddio mesur cymhareb o gyflogau fod wedi achosi tuedd ar i lawr yn y canlyniadau. Unwaith eto, mae hyn yn awgrymu y dylid bod yn ofalus wrth ddefnyddio'r canlyniadau hyn.

Nid oes llawer o bapurau mwy diweddar ar gael sy'n ystyried ymatebolrwydd oriau gwaith dynion i gymhellion ariannol i weithio yn y DU. Noda astudiaeth traws-Ewrop ddiweddar a gynhaliwyd gan ddefnyddio model EUROMOD o'r system treth a budd-daliadau (Bargain et al. (2011)) hydwythedd (nas digolledwyd) o rhwng 0.03 a 0.06 ar gyfer cyfanswm oriau gwaith dynion priod o Brydain gan ddibynnu ar flwyddyn y data a ddefnyddir. Caiff yr effaith hon ei llywio bron yn gyfan gwbl gan newidiadau o ran cyflogaeth: ymhlith y rheini sy'n gweithio, ceir bod oriau gwaith yn gymharol anymatebol i gymhellion ariannol i weithio (hydwythedd nas digolledwyd o -0.01). Mae'r papur yn darparu un o'r unig amcangyfrifon ar gyfer dynion sengl, ac yn nodi bod eu cyfanswm oriau yn sylweddol fwy ymatebol (hydwythedd cyfanswm oriau o 0.34), er y nodwyd bod oriau gwaith ymhlith y rheini sy'n gweithio yn anymatebol (hydwythedd o 0.02). Mae Tabl B.1(A) yn Atodiad B yn darparu canlyniadau'r papurau sy'n ystyried ymatebolrwydd oriau gwaith dynion ym Mhrydain.

Er mwyn cael sampl mwy o amcangyfrifon o ansawdd uchel, mae'n werth archwilio canfyddiadau papurau sy'n ystyried y cyflenwad llafur ymhlith dynion mewn economïau datblygedig eraill tebyg yng Ngogledd America a Gorllewin Ewrop. Mae Tabl B.1(B) yn Atodiad B yn darparu canlyniadau'r papurau sy'n ystyried ymatebolrwydd oriau gwaith dynion y tu allan i'r DU.

Mae'r llenyddiaeth fwyaf yn ystyried ymddygiad y cyflenwad llafur yn yr UD, ac mae'r llenyddiaeth fodern yn dilyn esiampl Hall (1973), sef y cyntaf i gynnig ateb i fodelu cyfyngiadau cyllidebol llinellol tameidiog (gweler Adran 4.1). Rhoddodd Wales a Woodland (1979) a Hausman (1981) gyfrif hefyd am y ffaith bod y rheini â dymuniad cryf i weithio yn ennill mwy ac felly eu bod yn wynebu cyfraddau treth uwch (a chyflogau net is). Nododd Wales a Woodland a Hausman hydwytheddau bach nas digolledwyd (0.14 a 0, yn y drefn honno), ond effeithiau mwy o lawer ar incwm sy'n awgrymu hydwytheddau mawr iawn nas digolledwyd (0.84 a 0.74, yn y drefn honno). Cofiwch os mai dim ond i gyfran fach o'r cyfyngiad cyllidebol y bydd y newidiadau o ran cyfraddau treth neu gyfraddau tynnu budd-daliadau yn ôl yn berthnasol, y gall yr hydwytheddau a ddigolledwyd fod yn fwy perthnasol na'r rhai nas digolledwyd.

Beirniadwyd y dulliau a ddefnyddiwyd yn y papurau hyn yn MaCurdy, Green a Paarsch (MGP, 1990) sy'n dadlau eu bod yn golygu bod y canlyniadau yn tueddu at ganfod hydwythedd cadarnhaol yn y cyflenwad

58

Page 64: An ex-ante analysis effects of the UK Government’s … · Web viewAriannwyd yr ymchwil hon gan Lywodraeth Cymru a Chanolfan er Dadansoddi Microeconomaidd Polisi Cyhoeddus ESRC yn

llafur. Gan ddefnyddio'r un data â Hausman ond dull sy'n goresgyn y broblem hon, ceir hydwythedd nas digolledwyd o 0 a hydwythedd a ddigolledwyd o 0.07. Mae eu dull yn ofalus ac mae'r papur hwn wedi dylanwadu ar lawer o'r llenyddiaeth a ddilynodd (gweler er enghraifft Blundell (1992), Meghir a Phillips (2010)), ond mae yna ddiffygion hefyd. Dengys Eklof a Sacklen (2000) fod y canlyniadau yn sensitif i'r diffiniad o gyflogau ac incwm di-lafur a ddefnyddir ac mai dyma sy'n llywio'r gwahaniaethau rhwng canlyniadau MGP a Hausman, yn hytrach na'r materion methodolegol a nodwyd gan MGP. Ond ni allant ddyblygu canlyniadau Hausman hyd yn oed wrth ddefnyddio'r un dull, ac awgrymant fod y canlyniadau a geir yn sensitif iawn i fân wahaniaethau yn y sampl. Ein barn ni am hyn yw er nad oes gan feirniadaeth MGP y grym y credwyd yr oedd ganddi'n wreiddiol, nad yw canlyniadau Hausman (1981) yn ddigon cadarn i roi llawer o bwys iddynt.

Mae astudiaethau eraill wedi tueddu i ddod hyd i hydwytheddau llawer llai o ran y cyflenwad llafur ar gyfer dynion. Ystyria cyfres o bapurau'r arbrofion NIT, fel y'u gelwid, a gynhaliwyd yn yr UD o 1968, a ddarparodd warant incwm i rai cartrefi a fyddai wedyn yn cael ei dapro ymaith (y grŵp trin) tra parhaodd cartrefi eraill i wynebu'r system treth a budd-daliadau safonol (y grŵp rheoli). Gan ddefnyddio'r data arbrofol hwn, canfu Burtless a Hausman (1978), sef un o'r papurau cyntaf i ymdrin â phroblemau modelu'r cyflenwad llafur pan gaiff budd-daliadau eu tapro, mai 0 oedd yr hydwythedd nas digolledwyd, gydag effeithiau bach ar incwm yn awgrymu hydwythedd a ddigolledwyd o rhwng 0.07 a 0.13. Canfu Pencavel (1986) fod wyth dadansoddiad arall o'r arbrofion hyn yn dod o hyd i hydwytheddau cadarnhaol bach nas digolledwyd (canolrif o 0.03), a hydwytheddau bach a ddigolledwyd (wedi'u clystyru'n gymharol agos o amgylch y canolrif, sef 0.13). Defnyddia Pencavel (2002) gyfres hirdymor o ddata o'r UD gan ddod i'r casgliad, gan ddibynnu ar y dull a ddefnyddir, y gall yr hydwytheddau nas digolledwyd ar gyfer dynion gwyn amrywio o gymharol negyddol (-0.175) i gymharol gadarnhaol (0.25).

Ceir llenyddiaeth hefyd sy'n ystyried ymddygiad yn Ewrop gyfandirol. Yn gyffredinol, daw'r papurau hyn i'r casgliad bod hydwytheddau cyflog bach nas digolledwyd ac a ddigolledwyd, gan awgrymu bod dynion yn cynyddu eu horiau gwaith pan fo'u cyflog net yn cynyddu, ond dim ond ychydig. Ceir llenyddiaeth ddatblygedig iawn yn Sweden a gafodd ddylanwad rhyngwladol oherwydd ei hansawdd uchel a'i harloesedd methodolegol. Daw cyfres o bapurau gan Blomquist a chyd-awduron (Blomquist (1983), Blomquist, Hansson a Brusewitz (1990), Blomquist, Ecklof a Newey (2001), Blomquist a Newey (2002)), gan ddefnyddio sawl gwahanol ddull, o hyd i hydwytheddau cyflog nas digolledwyd o fewn bandiau cymharol dynn rhwng 0.07 a 0.12. Daw astudiaethau sy'n defnyddio data o Ffrainc (Bouguignon a Magnac (1990)), yr Almaen (Kaiser et al. (1992)), a'r Iseldiroedd (van Soest et al. (1990), Euwals a van Soest (1999)) i'r casgliad bod oriau gwaith dynion yn dangos ymatebolrwydd isel i gymhellion ariannol i weithio. Canfu'r astudiaeth traws-wladol gan Bargain et al. (2011) hydwytheddau isel o ran oriau gwaith dynion mewn cyplau ledled Ewrop: ceir cyfartaledd hydwytheddau cyfanswm oriau gwaith nas digolledwyd o tua 0.1, a chyfartaledd hydwythedd oriau gwaith nas digolledwyd ymhlith y rheini sy'n gweithio o tua 0.01 i 0.02.

Gyda'i gilydd, ein barn ni o'r llenyddiaeth yw bod y rhan fwyaf o'r papurau mwy credadwy ers yr 1980au yn canfod bod ymatebolrwydd oriau gwaith dynion i newidiadau o ran cyflogau net a newidiadau o ran incwm nas enillir yn isel: golyga hyn fod yr hydwytheddau cyflog nas digolledwyd ac a ddigolledwyd yn fach, er bod yr ail yn debygol o fod ychydig yn uwch na'r cyntaf (sy'n golygu nad yw'n debygol na fydd unrhyw effeithiau ar incwm, ond ei bod yn debygol y byddant yn gymharol fach). Hynny yw, os byddant yn gweithio, prin y bydd dynion yn ymateb i newidiadau o ran cymhellion ariannol i weithio, ac yn amlach na pheidio, a bydd y mwyafrif llethol ohonynt yn dewis gweithio'n llawn amser. Byddai hydwythedd oriau gwaith nas digolledwyd o tua 0.0 i 0.1, yn ôl pob tebyg, yn 'amcangyfrif canolog' synhwyrol. Mae'r gwerth hwn yn debyg i'r gwerth a ragfynegwyd ar gyfer dynion yn y DU mewn meta-astudiaeth o'r llenyddiaeth ar y cyflenwad llafur (Evers et al. (2008)). Fodd bynnag, dylem nodi fod Keane (2011) yn datgan fod beirniadaethau blaenorol o lenyddiaeth o fath Hausman yn canfod y gallai hydwytheddau cyflog uchel a ddigolledwyd wedi cael eu gorbwysleisio, gan ddadlau bod llawer o'r papurau sy'n canfod hydwytheddau

59

Page 65: An ex-ante analysis effects of the UK Government’s … · Web viewAriannwyd yr ymchwil hon gan Lywodraeth Cymru a Chanolfan er Dadansoddi Microeconomaidd Polisi Cyhoeddus ESRC yn

bach yn defnyddio mesurau o gyflogau a allai achosi tuedd ar i lawr yn y canlyniadau. Ynghyd â'r effeithiau deinamig mawr posibl y byddwn yn eu trafod yn Adran 4.5, golyga hyn ei bod yn werth ystyried sut y bydd effeithiau'r diwygiadau lles yn wahanol os bydd y cyflenwad llafur ymhlith dynion yn fwy hydwyth (e.e. hydwythedd o 0.25).

Nid oes llawer o bapurau i ddynion sy'n ystyried sut y mae oriau gwaith dynion yn ymateb i gymhellion ariannol i weithio wedi ymchwilio i sut y mae'r hydwytheddau yn amrywio yn ôl grŵp demograffig. Yr unig eithriad yw astudiaeth EUROMOD, sy'n ystyried sut mae ymatebolrwydd yn amrywio gan ddibynnu ar leoliad incwm dyn o fewn y dosbarthiad incwm cartrefi: fel y mae, nid yw'n amrywio llawer i'r DU. Fel y gwelwn isod, mae mwy o dystiolaeth o ran sut y mae hydwytheddau cyflogaeth ac incwm trethadwy yn amrywio yn ôl y math o unigolyn.

Pa mor ymatebol yw penderfyniadau cyflogaeth dynion? Mae'r llenyddiaeth sy'n ystyried sut y mae cymhellion ariannol i weithio yn effeithio ar benderfyniadau cyflogaeth dynion yn gymharol gyfyngedig. Daw Bargain et al., a drafodir uchod, i'r casgliad y gellir priodoli'r cynnydd o ran cyfanswm oriau gwaith a ragfynegir yn bennaf neu'n llwyr i newidiadau o ran cyflogaeth. Amcangyfrifir bod yr hydwythedd cyflogaeth yn fach iawn i ddynion o Brydain mewn cyplau (0.06 i 0.08), ond yn sylweddol uwch i ddynion sengl o Brydain (0.22 i 0.35). Mae'r patrwm hwn o ymatebolrwydd sylweddol uwch i ddynion sengl o gymharu â dynion mewn cyplau yn rhywbeth sydd i'w weld fwyaf yn Ewrop, er nad yw'r awduron yn cynnig esboniad ar gyfer y ffenomenon hwn. Meghir a Phillips (2010) yw'r unig bapur arall y daethom ar ei draws sy'n amcangyfrif hydwytheddau cyflogaeth ar gyfer dynion o Brydain. Mewn astudiaeth ofalus sy'n ceisio rhoi cyfrif am lawer o'r problemau amcangyfrif a drafodir yn Adran 4.1, ceir bod yr hydwytheddau cyflogaeth yn amrywio yn ôl lefel addysg a statws partneriaeth. Amcangyfrifir bod yr hydwythedd cyflogaeth o ran incwm mewn gwaith yn gymharol isel ar gyfer dynion sydd wedi'u haddysgu i lefel uchel (y rheini a adawodd addysg llawn amser yn 19 oed neu'n hŷn), sef tua 0.04 i ddynion priod a thua 0.08 i ddynion sengl. Fodd bynnag, dônt ar draws ymatebion llawer mwy ymhlith y rheini a adawodd yr ysgol yn 16 oed neu'n iau (0.27 i ddynion sengl, 0.53 i ddynion priod).

Mae'r hydwytheddau mawr a geir i ddynion â lefelau addysg statudol yn Meghir a Phillips (2010) yn sylweddol fwy na'r rheini a gafwyd ar gyfer y boblogaeth gyffredinol o ddynion mewn gwledydd eraill. Canfu'r ddwy astudiaeth o'r UD (Eissa a Hoynes (2004) a Heim (2009)) a drafodir gan Bargain et al. hydwytheddau cyflogaeth bach i ddynion (0.03 a 0, yn y drefn honno), felly hefyd Aaberge et al. (1999, 2002) ar gyfer yr Eidal, Brink et al. (2007) ar gyfer Sweden, Labeaga et al. (2008) ar gyfer Sbaen a nifer o bapurau ar gyfer yr Almaen.

Ceir crynodeb o ganlyniadau'r astudiaethau hyn yn Nhabl B.1(C) yn Atodiad B.

Mae hefyd yn werth edrych y tu hwnt i'r llenyddiaeth gyffredinol ar y cyflenwad llafur ac ystyried y llenyddiaeth ar ymatebion i'r cymhellion i weithio a gaiff eu creu gan gynlluniau yswiriant lles a diweithdra. Mae Krueger a Meyer (2002) yn ystyried corff mawr o bapurau ar hyn o'r Unol Daleithiau ac Ewrop, ac yn canfod hydwythedd 'amser gwaith a gollwyd' (sy'n rhoi cyfrif am nifer y ceisiadau a hyd y ceisiadau hynny) o ran lefel budd-daliadau o tua 1 ar gyfer yswiriant diweithdra. Yn gyffredinol, ceir hydwytheddau is ar gyfer mathau eraill o yswiriant megis budd-daliadau anabledd. Mae Krueger a Meyer yn awgrymu nifer o resymau pam bod yr hydwytheddau yn fwy na'r rhai a geir yn y rhan fwyaf o astudiaethau ar gyfer dynion. Un dehongliad yw ei bod yn debygol y bydd gan y rheini y mae diweithdra yn debygol o effeithio arnynt lefelau addysg is neu incwm is na dynion yn gyffredinol; a chofiwch fod Meghir a Phillips (2010) yn nodi mwy o ymatebolrwydd ymhlith dynion â lefelau addysg isel.

Ar y cyfan, ymddengys fod penderfyniadau cyflogaeth dynion rywfaint yn fwy sensitif i gymhellion ariannol i weithio na'u horiau gwaith yn amodol ar weithio. Ymddengys y byddai hydwythedd cyflogaeth nas digolledwyd o tua 0.1 i 0.2 yn 'amcangyfrif canolog' synhwyrol yn seiliedig ar y dystiolaeth sydd ar

60

Page 66: An ex-ante analysis effects of the UK Government’s … · Web viewAriannwyd yr ymchwil hon gan Lywodraeth Cymru a Chanolfan er Dadansoddi Microeconomaidd Polisi Cyhoeddus ESRC yn

gael ar hyn o bryd o economïau datblygedig. Fodd bynnag, mae'n debygol bod 'graddiant' gyda dynion incwm/addysg is yn fwy ymatebol na dynion incwm/addysg uwch. Fel gyda hydwytheddau oriau gwaith, mae'r llenyddiaeth yn rhoi amrediad cymharol eang o ganlyniadau, ac felly unwaith eto mae'n werth profi sensitifrwydd y canlyniadau i hydwytheddau braidd yn fwy.

4.3 Ymatebolrwydd oriau gwaith menywod a chyflogaethNawr ystyriwn ymatebolrwydd menywod i gymhellion ariannol i weithio. Fel gyda'r rhan fwyaf o'r adolygiadau blaenorol o'r llenyddiaeth, down i'r casgliad bod cyfanswm oriau gwaith menywod rywfaint yn fwy ymatebol i gymhellion ariannol i weithio na dynion. Mae hyn yn adlewyrchu hydwytheddau rhywfaint yn uwch o ran oriau yn amodol ar weithio, ond ar y cyfan, mwy o ymatebolrwydd ar y ffin cyflogaeth, yn enwedig i'r rheini â phlant. Fodd bynnag, er ei bod yn ymddangos bod plant yn un o'r penderfynyddion allweddol o ran ymddygiad gwaith menywod, mae llawer o'r llenyddiaeth yn gwahaniaethu rhwng menywod sy'n briod/sy'n cyd-fyw a menywod sengl, ac rydym o'r farn ei bod yn ddefnyddiol dilyn y confensiwn hwn wrth nodi canfyddiadau'r llenyddiaeth yn fanylach.

Pa mor ymatebol yw menywod priod? Mae nifer o bapurau pwysig a dylanwadol sy'n ystyried ymddygiad cyflenwad llafur menywod priod o Brydain, ac yn wahanol i ddynion, mae sawl un o'r astudiaethau hyn yn dadansoddi'r canlyniadau yn ôl is-grŵp demograffig.

Efallai bod yr amcangyfrifon gorau i'w cael gan Blundell, Duncan a Meghir (1998), sy'n defnyddio sawl blwyddyn o ddata ac yn amcangyfrif effeithiau gan ddefnyddio tueddiadau gwahaniaethol o ran cyflogau clir o dreth ac oriau gwaith fesul grŵp addysg a charfan. Mae hyn yn caniatáu iddynt oresgyn llawer o'r problemau sy'n ei gwneud hi'n anodd nodi effaith cymhellion i weithio (yn hytrach na gwahaniaethau o ran dewis) ar y cyflenwad llafur. Ceir ganddynt fod hydwytheddau oriau gwaith 'o faint cymhedrol', ond eu bod yn gwahaniaethu yn ôl oedran y plentyn ifancaf. Ymhlith menywod priod heb blant, mae'r hydwythedd cyflog nas digolledwyd ac a ddigolledwyd yn cyfateb i 0.14, a cheir graddau tebyg o ymatebolrwydd ymhlith menywod â phlant 5 oed neu'n hŷn. Fodd bynnag, ceir bod y rheini â phlentyn ifancaf rhwng 0 a 4 oed yn llawer mwy ymatebol. Er enghraifft, yr hydwythedd nas digolledwyd yw 0.37 a'r hydwythedd a ddigolledwyd yw 0.44 ar gyfer y rheini â phlentyn ifancaf sy'n 3 neu 4 oed. Mae'r canlyniadau yn nodi bod oriau gwaith menywod priod â phlant ifanc yn llawer mwy ymatebol na'u partneriaid a menywod priod eraill, hyn yn oed o ystyried pa un a ydynt yn gweithio ai peidio (dim ond menywod cyflogedig a gynhwysir yn y sampl a ddefnyddir yn y papur hwn). Mae Arrelano a Meghir (1992) hefyd yn ystyried sut y mae ymatebolrwydd y cyflenwad llafur ymhlith menywod priod o Brydain yn amrywio yn ôl oedran y plentyn ifancaf, ond gan ystyried cyfanswm yr oriau gwaith yn hytrach na'r oriau gwaith yn amodol ar weithio. Heb fawr syndod, mae'r hydwytheddau a geir yn uwch na'r hydwytheddau yn Blundell, Duncan a Meghir (gan eu bod yn cyfeirio at gyfanswm yr oriau yn hytrach na'r oriau yn amodol ar weithio). Yr hydwythedd cyflog nas digolledwyd yw 0.37 ar gyfer menywod heb blant, gyda'r ymatebolrwydd yn sylweddol uwch i'r rheini lle mae pob plentyn o oedran ysgol (h.y. 5 oed neu drosodd). Mae hyn yn wahanol i Blundell, Duncan a Meghir, lle mae'r rheini â phlant cyn oed ysgol sydd fwyaf ymatebol, er y gall hyn adlewyrchu gwahaniaethau o ran ymddygiad ar y ffiniau cyflogaeth ac oriau. Noda Meghir a Phillips (2010) fod gwaith Arrelano a Meghir yn seiliedig ar dybiaeth mai dim ond drwy gyflogau y mae addysg yn effeithio ar y cyflenwad llafur: os, fel yr ymddengys o bosibl yn debygol, yw'r rheini â lefelau addysg uwch yn fwy tebygol o fod yn awyddus i weithio, byddai tuedd ar i fyny mewn perthynas â'r amcangyfrifon o'r hydwytheddau cyflog o'r astudiaeth hon.

Daw Bargain et al. (2011) i'r casgliad bod lefel gymharol isel o ymatebolrwydd, gyda hydwythedd cyfanswm oriau o ddim ond 0.09-0.12 ar gyfer menywod priod o Brydain yn gyffredinol, gyda thua tri

61

Page 67: An ex-ante analysis effects of the UK Government’s … · Web viewAriannwyd yr ymchwil hon gan Lywodraeth Cymru a Chanolfan er Dadansoddi Microeconomaidd Polisi Cyhoeddus ESRC yn

chwarter ohono yn deillio o newidiadau o ran cyflogaeth a chwarter yn deillio o newidiadau o ran oriau ymhlith y rheini sy'n gyflogedig. Mae'r hydwytheddau cyfanswm oriau ychydig yn uwch ar gyfer y rheini â phlant (0.11-0.13) na'r rheini heb blant (0.07-0.10), ac yn cynyddu yn unol â lleoliad menyw ar y dosbarthiad incwm cartrefi (maent tua dwywaith mor uchel i fenywod yn y cwintel uchaf na'r cwintel gwaelod). Nodir hydwythedd ganddynt sy'n cynyddu'n unol ag incwm y cartref mewn mwy na hanner y sampl/gwledydd a archwilir ganddynt, gan gynnwys yr Eidal, lle y noda papur dylanwadol cynharach gan Aaberge et al. (1999) hydwythedd sy'n llawer uwch i fenywod ymhlith y degfed tlotaf o gartrefi (3.44) nag ymhlith yr wyth-degfed canol (0.83) a'r degfed uchaf (0.04). Mae Blundell et al. (2000) hefyd yn amcangyfrif hydwythedd cyflog nas digolledwyd cymharol isel i fenywod priod, sef 0.14, ond nid yw'r papur yn dadansoddi'r canlyniadau yn ôl is-grŵp demograffig.

Nodir canlyniadau'r papurau hyn a gweddill y llenyddiaeth sy'n ymdrin â Phrydain yn Nhabl B.2(A) yn Atodiad B. Nododd papur gan Arrufat a Zabalza (1986) bod llawer mwy o ymatebolrwydd: hydwythedd cyfanswm oriau o 2.03, sy'n cynnwys hydwythedd cyflogaeth o 1.41 a hydwythedd oriau yn amodol ar gyflogaeth o 0.62. Mae hyn ar ben uchaf un yr hydwytheddau a gafwyd ar gyfer menywod priod mewn unrhyw economi ddatblygedig. Ar y llaw arall, nododd Blundell, Ham a Meghir (1987) hydwythedd cyfanswm oriau yn eu prif fanyleb o ddim ond 0.08, a nododd Blundell et al. (1988) hydwythedd cyflog nas digolledwyd o oriau sy'n amodol ar gyflogaeth o 0.09 (er bod hydwythedd incwm mawr yn awgrymu hydwythedd a ddigolledwyd cymharol uwch). Felly, ceir amrywiaeth eang o iawn o hydwytheddau ar gyfer menywod priod yn y DU.

Mae Tabl B.2(B) yn Atodiad B yn cynnwys amcangyfrifon o astudiaethau o economïau datblygedig eraill. Ar y cyfan, mae'r rhain yn atgyfnerthu'r darlun a gafwyd ar gyfer y DU: sef hydwytheddau cyfanswm oriau gwaith sy'n sylweddol uwch nag ar gyfer dynion, ar gyfartaledd, ond lle ceir gwahaniaethau sylweddol iawn rhyngddynt rhwng astudiaethau. Mae Bargain et al. (2011) yn awgrymu bod hydwytheddau yn amrywio yn unol â'r lefel gyflogaeth ymhlith menywod priod (maent yn uwch lle bo lefelau cyflogaeth yn is), sy'n awgrymu o bosibl mai'r canlyniadau ar gyfer gwledydd fel yr Iseldiroedd neu'r Almaen lle mae patrymau cyflogaeth yn debyg i'r DU sydd fwyaf perthnasol. Yn nodweddiadol, mae'r hydwytheddau cyflog nas digolledwyd ar gyfer cyfanswm oriau gwaith ar gyfer yr astudiaethau yn yr Iseldiroedd rhwng tua 0.5 a 1.0, ac mae astudiaethau diweddar yn yr Almaen yn amcangyfrif hydwytheddau o rhwng tua 0.25 i 0.4. Yn y ddwy enghraifft, efallai mai effeithiau ar gyflogaeth sy'n gyfrifol am tua hanner, gyda'r gweddill yn deillio o newidiadau o ran oriau yn amodol ar gyflogaeth; mae cyfraniad penderfyniadau cyflogaeth ychydig yn uwch yn y rhan fwyaf o weddill Ewrop. Yn nodweddiadol, canfu astudiaethau o America hydwytheddau cyfanswm oriau gwaith o tua 1, gyda Triest (1990) yn awgrymu bod tua saith rhan o ddeg ohono yn deillio o ymatebion cyflogaeth, a'r gweddill yn deillio o newidiadau o ran oriau yn amodol ar gyflogaeth.

Ceir llenyddiaeth sylweddol hefyd sy'n ystyried sut y mae cyflenwad llafur menywod priod neu fenywod sy'n cyd-fyw wedi ymateb i ddiwygiadau penodol i'r system les, er nad yw'r astudiaethau hyn yn gyffredinol yn cofnodi hydwytheddau tebyg. Mae'r Credyd Treth i Deuluoedd sy'n Gweithio ymhlith y polisïau a ddadansoddwyd fwyaf yng nghyd-destun y DU ac mae astudiaethau gan Blundell et al. (1999) a Brewer et al. (2005) yn nodi effeithiau polisi tebyg. Roedd mwy o hawl i gymorth mewn gwaith yn lleihau lefelau cyflogaeth menywod priod neu fenywod a oedd yn cyd-fyw â phartneriaid cyflogedig (tua 0.6 pwynt canran) ac yn eu cynyddu i'r rheini â phartneriaid di-waith (rhwng 0.1 a 1.3 pwynt canran). Y brif wers o'r gwaith hwn yw bod newidiadau i fudd-daliadau a gynlluniwyd i wella'r cymhellion i weithio a chynyddu lefelau cyflogaeth ymhlith y rheini â chyflogau isel o bosibl weithiau yn eu gwanhau i'r ail unigolyn sy'n ennill (yn aml menywod mewn cyplau).

Gan ystyried y llenyddiaeth yn ei chyfanrwydd, credwn ei bod yn deg dweud bod cyflenwad llafur menywod priod yn ymddangos yn fwy hydwyth na chyflenwad llafur dynion, o ran oriau gwaith ac o ran cyflogaeth. Ymddengys y byddai 'amcangyfrifon' canolog o tua 0.1 i 0.2 ar gyfer y ddau ddimensiwn ar gyfer menywod priod heb blant yn debygol, gyda'r hydwytheddau yn uwch i'r rheini â phlant ifanc, efallai

62

Page 68: An ex-ante analysis effects of the UK Government’s … · Web viewAriannwyd yr ymchwil hon gan Lywodraeth Cymru a Chanolfan er Dadansoddi Microeconomaidd Polisi Cyhoeddus ESRC yn

ddwywaith mor uchel â'r rheini heb blant (rydym yn rhoi pwys sylweddol ar ganfyddiadau Blundell, Duncan a Meghir (1998), sy'n bapur o ansawdd uchel). Fodd bynnag, mae'r amrediad o amcangyfrifon, fel y nodwyd gan Meghir a Phillips (2010), yn 'eang iawn' ac, fel gyda'r dynion, dylai profion sensitifrwydd ddefnyddio ffiniau cymharol eang. O ystyried canlyniadau rhai astudiaethau yn yr UD, Ewrop a'r DU, ni fyddai cyfanswm hydwytheddau o tua 1 ar gyfer menywod priod yn gyffredinol yn amhosibl, er y byddai'r rhan fwyaf ohono yn debygol o ddeillio o gyflogaeth yn hytrach na newidiadau o ran oriau. Mae hefyd yn bwysig cydnabod bod effeithiau ar incwm, pan gânt eu cofnodi, yn dueddol o fod rhywfaint yn uwch ar gyfer menywod na dynion, sy'n awgrymu y gall y dybiaeth nad oes unrhyw effeithiau ar incwm yn sail i'r dadansoddiad calibradu ym Mhennod 6 o'r adroddiad hwn achosi mwy o broblemau nag ar gyfer dynion.

Pa mor ymatebol yw menywod sengl? Mae astudiaethau sy'n ystyried ymddygiad menywod sengl wedi tueddu i ganolbwyntio ar fenywod sengl â phlant yn hytrach na menywod heb blant. Mae hyn yn adlewyrchu ffocws polisi penodol ar rieni unigol a'r ffaith bod yr amrywiad yn eu hymddygiad gwaith yn golygu ei bod yn haws amcangyfrif modelau'r cyflenwad llafur. Dengys Tabl B.2(C) yn Atodiad B ganlyniadau o astudiaethau o'r DU, a dengys Tabl B.2(D) yn Atodiad B ganlyniadau o astudiaethau tramor.

Mae'r llenyddiaeth o'r DU sy'n ystyried ymddygiad mamau sengl yn dechrau gyda Walker (1990) sy'n ystyried penderfyniadau cyflogaeth, ac yn nodi hydwythedd cyflogaeth o 0.7. Ceir hydwytheddau cyflogaeth mwy byth o 1.7 i 1.8 mewn papurau gan Ermisch a Wright (1991) a Jenkins (1992), er bod yr ail bapur ond yn dibynnu ar trawsdoriad unigol o ddata. Cynigir dull amgen darbwyllol gan Brewer et al. (2005) sy'n cyfuno'r defnydd o fodel strwythurol o'r cyflenwad llafur a chyfranogiad lles, gyda data yn cwmpasu'r cyfnod cyn ac ar ôl cyflwyno Credyd Treth y DU i Deuluoedd sy'n Gweithio. Nid ydynt yn cofnodi hydwythedd cyflogaeth nac oriau, ond mae'r hydwythedd a awgrymir oddeutu 1 (amcangyfrifir y bydd cynnydd o 10% yn yr incwm mewn gwaith cyfartalog o ganlyniad i'r diwygiad yn arwain at gynnydd o 10% yn y gyfradd gyflogaeth).

Mae Blundell, Duncan a Meghir (1992) yn ystyried sut y mae oriau gwaith rhieni unigol, yn amodol ar weithio, yn amrywio o ran cymhellion ariannol i weithio. Nodant hydwytheddau oriau sydd rhwng 0.14 a 0.34 ar gyfer rhieni unigol yn gyffredinol gan ddibynnu ar fanyleb, gyda'r hydwytheddau uchaf ar gyfer mamau unigol â phlant cyn oed ysgol (0.23 i 0.52) a'r hydwytheddau isaf ar gyfer y rheini â phlant o oedran ysgol uwchradd (0.11 i 0.26). Mae'r patrwm hwn yn debyg i'r patrwm a gafwyd ar gyfer mamau mewn cyplau yn y papur yn 1998 gan yr un awduron. Rydym yn rhoi cryn bwys ar y papur hwn, o ystyried ei ansawdd a'r ffaith ei fod yn canolbwyntio ar y DU.

Mae Blundell a Shephard (2011) yn ystyried hydwytheddau cyflogaeth, oriau gwaith (yn amodol ar weithio) a chyfanswm oriau gwaith ar gyfer mamau unigol yn y DU, ac fel papurau Ermisch a Wright a Jenkins, nodant hydwytheddau cyflogaeth a chyfanswm oriau uchel iawn. Er enghraifft, yr hydwythedd cyflogaeth cyfartalog nas digolledwyd yw 1.40 a'r hydwythedd cyfanswm oriau cyfartalog yw 1.53. Ar y llaw arall, dim ond 0.04 yw'r hydwythedd oriau yn amodol ar weithio, sy'n sylweddol is na'r ffigur mewn gwaith blaenorol. Nodir bod hydwytheddau cyflogaeth a chyfanswm oriau yn uwch ar gyfer rhieni unigol â phlant ifancach (er enghraifft, yr hydwythedd cyfanswm oriau ar gyfer menywod y mae eu plentyn ifancaf yn 4 oed neu'n iau yw 2.25 o gymharu â 1.00 ar gyfer y rheini y mae eu plentyn ifancaf yn 11 oed neu'n hŷn), er bod lefelau cyflogaeth gychwynnol llawer is ymhlith y rheini â phlant ifancach yn golygu bod y newidiadau pwynt canran yn y gyfradd gyflogaeth yn fwy i'r rheini â phlant hŷn.

Cynhaliwyd nifer o astudiaethau yn yr UD hefyd yn ystyried hydwytheddau'r cyflenwad llafur ar gyfer rhieni unigol, gan ganolbwyntio unwaith eto ar yr ymateb cyflogaeth. Mae Eissa a Liebman (1996) a Keane a Moffit (1998) yn nodi hydwytheddau cyflogaeth o tua 1, er yn yr achos cyntaf, y gall fod pryderon fod y grŵp rheoli a ddefnyddiwyd ar gyfer y gwaith dadansoddi (menywod sengl heb blant) yn amhriodol gan fod ganddynt lefelau cyflogaeth llawer uwch na rhieni unigol ar ddechrau'r cyfnod dadansoddi.

63

Page 69: An ex-ante analysis effects of the UK Government’s … · Web viewAriannwyd yr ymchwil hon gan Lywodraeth Cymru a Chanolfan er Dadansoddi Microeconomaidd Polisi Cyhoeddus ESRC yn

Mae'r llenyddiaeth sy'n ymdrin yn benodol â rhieni unigol yn gymharol brin ar gyfer Ewrop gyfandirol, er bod llenyddiaeth sy'n ystyried ymddygiad menywod sengl yn fwy cyffredinol (yn aml wedi'u cyfuno â dynion sengl). Mae astudiaeth traws-wladol Bargain et al. (2011) yn darparu set o amcangyfrifon ar gyfer menywod sengl, ar wahân yn ôl p'un a oes ganddynt blant ai peidio. Mae hydwytheddau yn amrywio'n sylweddol ar draws gwledydd a setiau data: amcangyfrifir bod hydwytheddau cyfanswm oriau gwaith ar gyfer menywod sengl â phlant dros 0.5 yng Ngwlad Belg, Gwlad Groeg, Iwerddon a'r Eidal ond eu bod yn 0.1 mewn sawl gwlad gan gynnwys Ffrainc (data 2001), yr Iseldiroedd, Sbaen (data 1998), Estonia, Hwngari a Gwlad Pwyl. Mae'r amcangyfrifon ar eu cyfer ar gyfer mamau sengl yn y DU yn 0.39 gan ddefnyddio data 1998 a 0.35 gan ddefnyddio data 2001, gyda ffigurau cyfatebol o 0.41 a 0.29 ar gyfer menywod sengl heb blant. Yn yr astudiaeth hon, er bod yr hydwytheddau yn gyffredinol ychydig yn uwch ar gyfer menywod sengl â phlant na'r rheini heb blant, mae'r gwrthwyneb yn wir mewn wyth o'r 25 o setiau data a ddefnyddiwyd (gan gynnwys data 2001 y DU).

Mae mwy o lenyddiaeth Ewropeaidd yn ystyried ymddygiad menywod sengl fel grŵp cyfunol, yn enwedig yn yr Almaen. Er enghraifft, noda Bargain et al. (2009) hydwythedd cyfanswm oriau gwaith o 0.267 ar gyfer menywod sengl wrth ddefnyddio model traddodiadol o'r cyflenwad llafur, ac 0.104 cymharol isel wrth ddefnyddio model lle y caiff cyfleoedd cyflogaeth eu cyfyngu gan alw gwan am lafur. Ceir bod tua dwy ran o dair o'r ymateb yn adlewyrchu newidiadau o ran cyflogaeth (hydwytheddau o 0.197 a 0.069, yn y drefn honno). Mae hwn yn bapur diddorol y dychwelwn ato ym Mhennod 5 wrth ystyried sut y gall effeithiau diwygiadau lles Llywodraeth y DU ar y cyflenwad llafur fod yn wahanol mewn marchnad lafur wedi'i nodweddu gan alw isel am weithwyr (yn enwedig gweithwyr â lefel sgiliau isel). Mae amcangyfrifon eraill ar gyfer menywod sengl yn yr Almaen hefyd yn tueddu i nodi hydwytheddau oriau a chyflogaeth cymedrol. Noda Clauss a Schnabel (2006) hydwythedd cyflogaeth o 0.18 ar gyfer menywod sengl, gyda hydwythedd cyfanswm oriau o 0.38. Noda Bargain ac Orsini (2006) hydwythedd cyflogaeth o 0.13 a hydwythedd oriau gwaith cyffredinol o 0.16, ar gyfer yr Almaen, gydag ymatebolrwydd ychydig yn is yn Ffrainc, ac ychydig yn uwch yn y Ffindir.

Gan ystyried y llenyddiaeth yn ei chyfanrwydd, credwn ei bod yn deg dweud ei bod yn ymddangos mai'r cyflenwad llafur ymhlith mamau sengl sydd fwyaf hydwyth o blith y grwpiau demograffig eang, gyda'r penderfyniad i gyfranogi neu beidio yn arbennig o ymatebol i gymhellion ariannol i weithio. Ni fyddai amcangyfrif canolog o hydwythedd cyflogaeth o tua 1 ar gyfer rhieni unigol yn afresymol, gyda hydwythedd oriau gwaith yn amodol ar weithio sy'n debyg i fenywod mewn cyplau â phlant yn ymddangos yn synhwyrol. Mae lefelau cyflogaeth ymhlith rhieni unigol yn y DU yn isel o gymharu â gweddill Ewrop, a cheir tystiolaeth bod ymatebolrwydd yn uwch pan fo cyflogaeth yn is: dyna pam, ynghyd â'r ffaith y caiff modelau eu hamcangyfrif yn nodweddiadol ar gyfer menywod sengl yn gyffredinol, na roddwn lawer o bwys ar yr amcangyfrifon nodweddiadol is o ymatebolrwydd a geir mewn astudiaethau mewn gwledydd Ewropeaidd fel yr Almaen. Fodd bynnag, mae'r amcangyfrifon hyn yn golygu ei bod yn werth ystyried effaith tybio lefelau is o ymatebolrwydd (er enghraifft, hydwythedd cyflogaeth o 0.4, a hydwythedd oriau yn amodol ar weithio o 0.1) yn ogystal â lefelau uwch (er enghraifft, hydwythedd cyflogaeth o 1.6, a hydwythedd oriau o 0.4). Nid yw'r astudiaethau a ystyriwyd yn cofnodi hydwytheddau cyflog a ddigolledwyd ar gyfer mamau unigol. Ond, ymddengys yn debygol, fel gyda menywod mewn cyplau, bod yr effeithiau ar incwm rywfaint yn uwch nag ar gyfer dynion, gan olygu unwaith eto bod yn rhaid trin yr effeithiau a ragfynegwyd gan y dull calibradu ac efelychu (Adran 6) yn fwy gofalus i raddau ar gyfer mamau unigol.

Mae'r dystiolaeth yn awgrymu bod hydwytheddau cyflogaeth ac, o bosibl, oriau gwaith yn amodol ar weithio, rywfaint yn uwch ar gyfer rhieni unigol â phlant rhwng 3 a 5 oed. Fodd bynnag, mae hydwytheddau cyflogaeth uwch ar gyfer y rheini â phlant yn y grŵp oedran hwn yn adlewyrchu, yn rhannol o leiaf, y ffaith bod lefelau cyflogaeth ymhlith mamau unigol o'r fath yn sylweddol is na'r lefelau ymhlith mamau unigol â phlant hŷn. Mae hyn yn golygu fod yr hydwytheddau mwy yn adlewyrchu newidiadau bach yn y niferoedd a gyflogir na'r hydwytheddau llai ar gyfer y rheini â phlant hŷn.

64

Page 70: An ex-ante analysis effects of the UK Government’s … · Web viewAriannwyd yr ymchwil hon gan Lywodraeth Cymru a Chanolfan er Dadansoddi Microeconomaidd Polisi Cyhoeddus ESRC yn

Ar gyfer menywod sengl heb blant, mae llawer llai o dystiolaeth ar gael: dim ond un papur sy'n darparu amcangyfrifon ar gyfer y DU rydym yn ymwybodol ohono ar gyfer y grŵp hwn. Fodd bynnag, gan ddefnyddio canlyniadau astudiaethau o'r Almaen, rydym o'r farn y byddai hydwythedd cyflogaeth o 0.1 i 0.2 a hydwythedd oriau o tua 0.1 yn senario ganolog gredadwy.

4.4 Ymatebolrwydd incwm a chyflogauFel y trafodwyd gennym yn Adran 4.1, gall unigolion ymateb i newidiadau o ran cymhellion ariannol i weithio mewn ffyrdd ac eithrio newid faint o oriau y byddant yn eu gweithio: gallent newid faint o ymdrech a wnânt yn ystod eu horiau gwaith, yn enwedig os byddant yn hunangyflogedig neu'n cael eu talu'n llawn neu'n rhannol ar sail perfformiad, neu gallent geisio osgoi trethi (neu, yn yr un modd, beidio â rhoi gwybod i'r rheini sy'n rheoli'r system budd-daliadau am enillion). Er na allwn arsylwi ymdrech-gwaith yn uniongyrchol, gallwn arsylwi'r incwm a gofnodir, a gellir ystyried hyn fel dirprwy am gyfanswm yr ymdrech (h.y. oriau ac ymdrech fesul awr). Mae llawer o'r llenyddiaeth ar ymatebolrwydd cyfanswm incwm ac incwm trethadwy i gymhellion ariannol i weithio yn canolbwyntio ar unigolion ag incwm uchel, yn rhannol oherwydd credir ei bod yn haws i unigolion o'r fath ymateb drwy aildrefnu eu materion ariannol, ond hefyd am fod y grŵp hwn wedi gweld newidiadau mawr i'w gyfraddau treth ffiniol (gostyngiadau mawr yn ystod y 1980au ac, yn fwy diweddar, cynnydd yn y DU) ac mae hyn yn arbennig o wir am lenyddiaeth o'r DU. Gan mai ffocws yr adolygiad hwn yw darparu gwybodaeth ar sut y gall y cyflenwad llafur gan bobl yng Nghymru ymateb i newidiadau yn y system les, a bod y rheini y caiff y newidiadau hyn effaith sylweddol arnynt yn tueddu i fod ar incwm isel i ganolig, mae perthnasedd uniongyrchol y canlyniadau o fewn llenyddiaeth y DU yn gyfyngedig. Rydym yn eu cynnwys er mwyn pwysleisio’r ffaith nad yr amser a gaiff ei weithio yw'r unig elfen o'r cyflenwad llafur sy'n bwysig, ac er mwyn i ymchwilwyr allu eu defnyddio yn y dyfodol. Fodd bynnag, mae rhai papurau, yn bennaf o'r UD, sy'n fwy uniongyrchol berthnasol.

Mae nifer o astudiaethau o'r UD yn ystyried sut y mae enillion yn ymateb i newidiadau o ran cymhellion ariannol i weithio ar gyfer pobl ar incwm is, gan ddefnyddio amrywiad a grëwyd gan y Credyd Treth Incwm a Enillwyd (CTIE). Mae Grogger (2003), er enghraifft, yn amcangyfrif y byddai cynnydd o $1,000 yn y CTIE yn arwain at gynnydd o 3.6 pwynt canran (tua 5%) o ran lefelau cyflogaeth mamau sengl yn yr UD, a chynnydd o $610 (tua 5% eto) o ran lefelau enillion crynswth cyfartalog. Mae hyn yn golygu naill ai nad oedd unrhyw effaith ar enillion crynswth y rheini a oedd eisoes wedi'u cyflogi, neu ar y gorau, dim ond cynnydd bach, os oedd gan y rheini a ddechreuodd weithio gyflogau is na'r cyfartaledd (ymddengys yn annhebygol y byddai newydd-ddyfodiaid yn ennill mwy na'r cyfartaledd).

Mae nifer o astudiaethau eraill o'r CTIE wedi dod o hyd i dystiolaeth bod lefelau enillion yn cynyddu fwy na lefelau cyflogaeth. Er enghraifft, mae gwaith nas cyhoeddwyd gan Chetty, Friedman a Saez yn defnyddio amrywiad o ran y 'clystyru' o gylch yr adegau lle caiff CTIE ei gyflwyno'n llawn a phan ddechreuir ei dynnu'n ôl er mwyn dadlau bod gwybodaeth am y CTIE yn amrywio'n sylweddol ledled yr UD. Wedyn, gan ddefnyddio'r ardaloedd â'r 'lefelau gwybodaeth isaf' fel grŵp rheoli, ystyrir effaith CTIE ar enillion ganddynt drwy gymharu enillion o gylch adeg geni plant cyntaf-anedig (pan fo'r hawl i CTIE yn cynyddu'n sylweddol). Er mai dim ond hydwythedd cyflogaeth bach a nodir ganddynt (0.09 neu 0.18 gan gynnwys hunangyflogaeth), mae'r amcangyfrifon o'r hydwytheddau enillion yn seiliedig ar gyflwyno'r CTIE yn sylweddol uwch (0.37 a 0.52), gan awgrymu naill ai cynnydd o ran oriau neu gynnydd o ran cyflog fesul awr. Fodd bynnag, mae'r amcangyfrifon o'r hydwytheddau enillion yn seiliedig ar dynnu'r CTIE yn ôl yn 0 (sy'n awgrymu gostyngiad mewn cyflogau). Mae Dahl et al. (2009, 2012) yn cymharu mamau sengl ag un plentyn â'r rheini a dau blentyn er mwyn asesu effaith CTIE ar dwf enillion. Mae gan y rheini â dau blentyn uchafswm hawl uwch i CTIE ac maent yn ennill mwy cyn y dechreuir tynnu'r CTIE yn ôl, ac felly mae mwy o gymhelliant iddynt gynyddu eu cyflogau. Noda'r astudiaeth fod cyflogau mamau â dau blentyn yn cynyddu'n gyflymach na chyflogau mamau ag un plentyn dros gyfnod o flwyddyn, tair blynedd a phum mlynedd, a noda fod eu cyflogau yn cynyddu'n gyflymach, gyda'r gwahaniaeth mwyaf yn

65

Page 71: An ex-ante analysis effects of the UK Government’s … · Web viewAriannwyd yr ymchwil hon gan Lywodraeth Cymru a Chanolfan er Dadansoddi Microeconomaidd Polisi Cyhoeddus ESRC yn

digwydd yn ystod y flwyddyn gyntaf mewn swydd. Roedd twf cyflogau ymhlith mamau â dau blentyn 18 pwynt canran yn uwch nag ar gyfer y rheini ag un plentyn ar ôl blwyddyn, tair blynedd a phum mlynedd, ar ôl cyflwyno'r CTIE (cyn hynny, nid oedd unrhyw wahaniaeth o bwys ystadegol).

Fodd bynnag, noda llenyddiaeth arall o'r UD fod cyflogau unigolion sy'n cael CTIE yn gostwng. Noda Leigh (2010), er enghraifft, fod cyflogau unigolion a oedd wedi gadael yr ysgol uwchradd yn gynnar ac a oedd yn cael CTIE wedi gostwng 5% o gymharu â'r unigolion hynny nad oedd yn ei gael a bod cyflogau graddedigion coleg wedi gostwng 2%, a nododd Rothstein (2008) fod 30% o'r cynnydd mewn incwm a gafodd mamau â lefel sgiliau isel o ganlyniad i'r CTIE yn cael ei golli ar ffurf cyflogau is. Caiff y gostyngiadau cyflog hyn eu dehongli nid fel gostyngiad mewn ymdrech, ond gan fod rhan o'r credyd treth yn dod i ran y cyflogwr (h.y. gall leihau cyflogau gan fod y cynnydd o ran credydau treth yn golygu bod yr unigolion sy'n eu cael yn barod i weithio am gyflog is).

Yr unig astudiaeth rydym yn ymwybodol ohoni a gynhaliwyd yn y DU o effaith lles ar gyflogau yw'r papur sydd yn yr arfaeth gan Azmat (2012). Canfu'r astudiaeth hon fod y cynnydd mewn cymorth ariannol mewn gwaith yn deillio o gyflwyno'r Credyd Treth i Deuluoedd sy'n Gweithio wedi arwain at ostyngiad o ran cyflogau'r rheini a oedd yn cael y credyd treth o gymharu â'r rheini nad oedd yn ei gael, (sy'n awgrymu y caiff 34% o'r hawl i'r credyd treth hwnnw ei golli ar ffurf cyflogau cymharol is), yn enwedig i ddynion, a rhywfaint o dystiolaeth o sgil-effaith o ran cyflogau is mewn diwydiannau lle mae nifer uchel i weithwyr yn cael y credyd treth. Fodd bynnag, gall Azmat hefyd brofi p'un a yw'r gostyngiad mewn cyflogau yn deillio o'r ffaith bod yr hawl i fudd-daliadau wedi cynyddu neu am fod y Credyd Treth i Deuluoedd sy'n Gweithio, yn wahanol i'r Credyd Teulu, a ddisodlwyd ganddo, yn cael ei dalu drwy gyflogau a'i fod felly yn fwy gweladwy i gyflogwyr. Noda mai'r ail effaith oedd yn allweddol, ac na chafodd y newid o ran hawl ei hun fawr effaith ar gyflogau, os o gwbl. Caiff budd-daliadau presennol a'r Credyd Cynhwysol newydd eu talu'n uniongyrchol i'r sawl sy'n eu cael yn hytrach na thrwy gyflogwyr; felly byddai canlyniadau Azmat yn awgrymu na fydd fawr effaith ar gyflogau, os o gwbl.

Hefyd, datblygwyd y llenyddiaeth ehangach ar sut y mae cyfanswm incwm ac incwm trethadwy yn newid mewn ymateb i newidiadau o ran cymhellion ariannol i weithio (y cyfeirir ati weithiau fel y 'Llenyddiaeth Ymatebolrwydd y Dreth Newydd') yn yr UD gan fwyaf. Mae astudiaeth Gruber a Saez (2002) o bosibl ymhlith yr astudiaethau mwyaf gofalus sy'n ceisio rheoli ar gyfer y materion niferus sy'n golygu ei bod yn anodd amcangyfrif ymatebolrwydd incwm a noda hydwythedd incwm trethadwy o 0.4 ar gyfer trethdalwyr yr UD yn gyffredinol. Fodd bynnag, caiff cryn dipyn o hyn ei lywio gan unigolion tuag at frig y dosbarthiad. O'r rheini â chyfanswm incwm sy'n fwy na $100,000, mae'r hydwythedd incwm trethadwy yn 0.57, ond dim ond 0.18 ydyw i'r rheini ag incwm o rhwng $10,000 a $50,000 a 0.11 i'r rheini ag incwm rhwng $50,000 a $100,000. Nid yw'r hydwytheddau cyfanswm incwm yn ystadegol wahanol i sero mewn gwirionedd ar gyfer unrhyw rai o'r grwpiau, gan awgrymu y gall yr ymateb ddeillio o newidiadau o ran osgoi treth yn hytrach na newidiadau o ran ymdrech gwaith. Noda astudiaethau eraill gan gynnwys y rheini gan Feldstein (1995) a Sillamaa a Veall (2000) hefyd fod hydwytheddau incwm trethadwy yn sylweddol uwch ar gyfer y rheini â'r incwm uchaf o gymharu â gweddill y boblogaeth (noda eu hastudiaethau lefelau uwch o ymatebolrwydd yn gyffredinol, er y gall hyn adlewyrchu methiannau methodolegol).

Mae dwy astudiaeth ddiweddar yn ystyried ymddygiad yn y DU, ond maent yn canolbwyntio ar yr 1% uchaf o enillwyr yr effeithiodd y toriadau yng nghyfraddau uchaf treth incwm yn y 1980au a'r penderfyniad i gyflwyno cyfradd treth incwm o 50% yn ddiweddar (i'w lleihau i 45% ym mis Ebrill 2013) arnynt. Noda'r ddwy hydwytheddau incwm trethadwy o tua 0.45 i 0.5, gan awgrymu cryn lefel o ymatebolrwydd ar gyfer y grŵp hwn, er gwaethaf y ffaith bod y dystiolaeth sydd ar gael yn awgrymu bod eu horiau gwaith yn gymharol anymatebol (dynion yw'r rhan fwyaf o'r 1% uchaf o enillwyr). Yn anffodus, nid oes hydwytheddau incwm trethadwy ar gyfer y rheini ar incwm isel a chanolig ar gael ar gyfer y DU ar hyn o bryd, er bod y Sefydliad Astudiaethau Cyllid wrthi'n cynnal rhaglen astudiaethau a bydd yn cyflwyno'r canlyniadau yn ystod y 12 mis nesaf.

66

Page 72: An ex-ante analysis effects of the UK Government’s … · Web viewAriannwyd yr ymchwil hon gan Lywodraeth Cymru a Chanolfan er Dadansoddi Microeconomaidd Polisi Cyhoeddus ESRC yn

Felly nid yw'n glir o'r llenyddiaeth ar ymatebion incwm i newidiadau lles a threth p'un a ddylid disgwyl i gyflogau godi neu ostwng mewn ymateb i well cymhellion ariannol i weithio. Yn wir, o ystyried y ddamcaniaeth economaidd, ni ddylai hyn ein synnu. Ar y llaw arall, bydd cynnydd o ran cymhellion ariannol i weithio yn annog pobl i weithio'n galetach, a all arwain at gynnydd o ran cyflogau fesul awr. Ond os bydd pobl yn barod i gynyddu eu cyflenwad llafur mewn ymateb i well cymhellion ariannol i weithio, mae'n bosibl y bydd cwmnïau yn gallu lleihau'r cyflogau a delir ganddynt ac y byddant yn barod i wneud hynny. Mae hyn yn golygu y bydd yn bwysig monitro beth sy'n digwydd i gyflogau unigolion sy'n cael budd-daliadau wrth i'r diwygiadau fynd rhagddynt.

4.5 Ymatebion tymor hwyNawr ystyriwn yn gryno'r llenyddiaeth sy'n ystyried effaith hirdymor cymhellion ariannol i weithio ar y cyflenwad llafur ac ymddygiad. Ffocws allweddol y gwaith hwn yw'r ffordd y mae cymhellion ariannol i weithio yn effeithio ar y broses o gaffael cyfalaf dynol, boed hynny drwy newid faint o addysg ffurfiol a gaiff unigolion, neu drwy newid faint o brofiad mewn swydd a gaiff unigolion. Mae'r llenyddiaeth wedi'i seilio'n bennaf ar yr UD a'r Almaen, er bod amcangyfrifon yn dechrau dod i'r amlwg ar gyfer y DU diolch i waith parhaus gan y Sefydliad Astudiaethau Cyllid. Mae'r canlyniadau a gofnodir yn y papurau hyn yn nodi o bosibl mai dim ond rhan fach o effaith bosibl diwygiadau lles ar ymddygiad gwaith yw'r effeithiau byrdymor ar oriau gwaith a chyfraddau cyflogaeth y mae'r papur hwn yn canolbwyntio arnynt. Mae cynnwys effeithiau o'r fath y tu hwnt i gwmpas y prosiect cyfredol, ond gallai fod yn rhan o brosiect tymor hwy ar ddeall ymddygiad gwaith pobl yng Nghymru a'r DU.

Mae un maes gwaith yn ystyried p'un a yw dysgu mewn swydd yn golygu bod newidiadau o ran oriau gwaith yn effeithio ar gynhyrchiant a chyflogau yn y dyfodol. Mae'r llenyddiaeth hon yn deillio o gydnabyddiaeth y gall cynhyrchiant unigolyn gynyddu'n uniongyrchol drwy waith neu y gellir neilltuo rhan o amser gwaith unigolyn i fuddsoddi yn ei gynhyrchiant (amcangyfrifodd papur cynnar yn y maes hwn, Heckman (1976) bod tua 35% o amser gwaith dyn 23 oed yn cael ei dreulio'n buddsoddi yn ei sgiliau). Mae Shaw (1989) yn defnyddio data ar ddynion rhwng 18 a 64 oed yn America gan ddod i'r casgliad bod cynnydd dros dro o 25% mewn oriau yn arwain at gynnydd o 12.8% mewn cyflogau fesul awr. Daeth Eckstein a Wolpin (1989) ac Altug a Miller (1990) i'r casgliad bod cyflogau menywod hefyd yn cynyddu yn dilyn cynnydd yn eu horiau gwaith. Mae'r gwaith hefyd yn rhoi syniad pam nad yw oriau gwaith pobl yn cynyddu dros eu hoes wrth i'w cyflogau gynyddu: mae'r cyfanswm sy'n dychwelyd i'r gwaith yn cynyddu lawer llai oherwydd, wrth iddynt heneiddio, mae gwerth 'dysgu drwy wneud' yn lleihau. Mae hyn yn bwysig gan ei fod yn awgrymu y gall newidiadau o ran cyflogau gael effeithiau sylweddol wahanol ar ymddygiad gwaith ar wahanol adegau yn ystod oes unigolyn: pan fydd unigolyn yn ifanc, mae'r cyflogau yn rhan llawer llai o'r elfen dychwelyd i'r gwaith na phan fydd yn hŷn, ac felly gall ymateb lai i newidiadau o ran cyflogau.

Ymchwiliodd Imai a Keane (2004) i hyn, gan ddatblygu model ymddygiad gweithio a chynilo mwy datblygedig sy'n cynnwys dysgu drwy wneud. Nodir ganddynt fod newid dros dro nas rhagwelwyd o 2% mewn cyflog yn arwain at newid o 0.6% mewn oriau i rywun 20 oed, ond bron i 4% i rywun 60 oed: y rheswm am hyn yw bod newid o 2% mewn cyflog yn newid llawer llai o ran cyfanswm yr elfen dychwelyd i weithio i'r gweithiwr ifanc. Mae Keane (2011) yn efelychu effaith cynnydd parhaol o 5% mewn treth ar oriau gwaith. Gan anwybyddu dysgu drwy wneud, caiff hydwythedd oriau nas digolledwyd o 0.24 (a fyddai'n arwain at ostyngiad o 1.2% mewn oriau gwaith). Fodd bynnag, gan ganiatáu ar gyfer dysgu drwy wneud, mae'r hydwythedd yn cynyddu i 0.4%, gan adlewyrchu effeithiau ail gylch: gostyngiad mewn oriau sy'n arwain at ostyngiad mewn cyflogau sy'n arwain at ostyngiad pellach mewn oriau, ac ati. Dros oes yr unigolyn, mae hyn yn arwain at effeithiau dramatig: mae cynnydd o 5% yn y gyfradd dreth yna arwain at ostyngiad mewn oriau gwaith sy'n cynyddu o 0.7% yn 20 oed, i 1.0% yn 45 oed, i 2.3% yn 50 oed a 9.4% yn 60 oed. Mae gwaith gan Adda et al. (2006) sy'n defnyddio data o'r Almaen wedi dod i'r casgliad y gall newidiadau o ran cymhellion ariannol i weithio hefyd effeithio ar y penderfyniad o ran p'un

67

Page 73: An ex-ante analysis effects of the UK Government’s … · Web viewAriannwyd yr ymchwil hon gan Lywodraeth Cymru a Chanolfan er Dadansoddi Microeconomaidd Polisi Cyhoeddus ESRC yn

a ddylid parhau mewn addysg ffurfiol neu ymuno â'r farchnad lafur. Nodir ganddynt y byddai cyflwyno credydau treth mewn gwaith yn yr Almaen yn cynyddu lefelau cyflogaeth dynion tua 1 pwynt canran, ond y byddai hefyd yn lleihau'r gyfran sy'n cymryd rhan mewn hyfforddiant galwedigaethol ffurfiol tua 6 pwynt canran wrth i'r elfen dychwelyd i hyfforddiant leihau. Mae hyn yn dangos y gall polisïau a gynlluniwyd i wella cymhellion i weithio i unigolion ag enillion isel hefyd wanhau'r cymhellion i bobl gymryd rhan mewn hyfforddiant. Mae gwaith sy'n mynd rhagddo yn y Sefydliad Astudiaethau Cyllid yn awgrymu y gall cymorth mewn gwaith i fenywod ar incwm isel gael effaith debyg yn yr hirdymor.

Mae'r llenyddiaeth ar fenywod yn aml yn ychwanegu dimensiynau ymddygiad ychwanegol gan gynnwys ffrwythlondeb a phriodas. Mae Van de Klaauw (1996) yn defnyddio data o'r UD ac yn modelu cyfranogiad y gweithlu a phenderfyniadau o ran priodi gan ganiatáu ar gyfer dysgu mewn swydd. Gan ddefnyddio model o'r fath, mae cynnydd o $1,000 mewn cyflogau ar bob oedran (7.3% ar gyfartaledd) yn arwain at gynnydd o 2.5 mlynedd o ran profiad gwaith erbyn 35 oed, gan awgrymu hydwythedd mawr iawn nas digolledwyd o 3.6. Mae hyn yn rhannol gan fod codiadau cyflog yn arwain at briodi'n hwyrach a thebygolrwydd uwch o wahanu (yn anffodus, ni chyflwynir canlyniadau sy'n diystyru effeithiau o ran profiad a/neu briodi). Mae Keane a Wolpin (2010) hefyd yn cynnwys ffrwythlondeb a'r penderfyniad o ran p'un a ddylid cymryd rhan mewn rhaglenni lles. Maent yn canfod bod cymhellion ariannol i weithio yn cael effeithiau mawr iawn ar gyflogaeth unwaith yr ystyrir y materion hyn. Er enghraifft, mae'r hydwythedd nas digolledwyd yn 0.6 ar gyfer menywod â lefel uchel o sgiliau ac ar lefel anhygoel o 9.2 ar gyfer menywod â lefel isel o sgiliau (2.8 yw'r cyfartaledd). Er enghraifft, gwelir bod cynnydd o 5% mewn cyflogau yn cynyddu lefelau cyflogaeth menywod â lefel sgiliau isel 47% (o 34% i 50% o'r grŵp), yn arwain at ostyngiad mawr o ran cyfraddau gadael yr ysgol uwchradd yn gynnar (o 42% i 24%), a gostyngiadau mawr o ran cyfranogiad lles ac achosion o feichiogrwydd ymhlith merched yn eu harddegau. Gellid dadlau bod graddau'r effeithiau hyn yn ymddangos yn amhosibl braidd ond, ar y lleiaf, maent yn dangos y gall polisïau treth a budd-daliadau gael effeithiau mawr ar waith drwy sianelau anuniongyrchol fel ffrwythlondeb. Ceir tystiolaeth bod ffrwythlondeb wedi ymateb i'r Credyd Treth i Deuluoedd sy'n Gweithio: Noda Brewer et al. (2011) fod cynnydd o ran haelioni budd-daliadau a chredydau treth i deuluoedd incwm isel yn arwain at gynnydd o 15% mewn perthynas â'r grwpiau nas effeithiwyd arnynt gan y diwygiadau, a allai fod wedi gwrthbwyso rhywfaint o'r cynnydd yn y cyflenwad llafur y gellid ei briodoli i'r newid polisi.

4.6 CasgliadMae'r llenyddiaeth ar y cyflenwad llafur yn helaeth a dim ond rhan ohoni a ystyriwyd gennym yn yr adroddiad hwn. Fodd bynnag, mae hyn yn rhoi dealltwriaeth allweddol i ni o ran ymatebolrwydd gwahanol grwpiau o'r boblogaeth, ac mewn perthynas â pha ddimensiynau (h.y. oriau neu gyflogaeth). Amlygodd hefyd y ffaith bod tystiolaeth y gall cymhellion ariannol i weithio arwain at newidiadau o ran cyflogau crynswth, ac addysg, ffrwythlondeb a phenderfyniadau o ran priodi, ac y gallai fod yn werth chweil (er yn heriol) rhoi agenda tymor hwy o ddatblygu modelau a all ystyried effeithiau o'r fath ar waith.

Yn ein barn ni, mae'r llenyddiaeth yn dangos mai oriau gwaith a phenderfyniadau cyflogaeth dynion sydd leiaf ymatebol i gymhellion ariannol i weithio, ac mai rhieni unigol a menywod priod â phlant sydd fwyaf ymatebol. Ymddengys fod menywod priod heb blant ychydig yn fwy ymatebol na dynion, ond ychydig yn llai ymatebol na menywod â phlant. Yn anffodus, prin yw'r wybodaeth am ymddygiad dynion sengl a menywod sengl heb blant. Fodd bynnag, ymddengys yn bosibl y gallent ymddwyn mewn ffordd debyg i ddynion priod/dynion sy'n cyd-fyw, gan fod gan y grwpiau hyn hefyd gyfraddau cyflogaeth cymharol uchel a'u bod yn gweithio fel 'norm'.

Yn gyffredinol, noda astudiaethau fod penderfyniadau cyflogaeth yn fwy ymatebol na phenderfyniadau oriau gwaith, yn enwedig ar gyfer grwpiau sy'n wynebu costau gwaith sefydlog uchel, megis rhieni unigol

68

Page 74: An ex-ante analysis effects of the UK Government’s … · Web viewAriannwyd yr ymchwil hon gan Lywodraeth Cymru a Chanolfan er Dadansoddi Microeconomaidd Polisi Cyhoeddus ESRC yn

ac unigolion ar gyflog isel. Ymddengys yn gyffredinol fod dynion yn anymatebol ar y ddau du, a hynny i raddau annheg, gydag ymatebolrwydd cyffredinol uwch ar gyfer menywod priod/menywod sy'n cyd-fyw yn adlewyrchu ymatebolrwydd uwch o ran oriau gwaith a chyflogaeth. Caiff y lefel uchel o ymatebolrwydd ymhlith rhieni unigol ei llywio'n bennaf gan hydwytheddau cyflogaeth uchel iawn.

Mae'r dystiolaeth o ran p'un a yw hydwytheddau cyflogaeth yn uwch ar gyfer grwpiau incwm isel neu grwpiau incwm uchel braidd yn gymysg, er bod gwaith a gynhaliwyd yn ddiweddar yn y DU wedi dod i'r casgliad bod hydwytheddau uwch yn berthnasol i unigolion â lefel sgiliau isel (ac felly incwm isel tebygol) yn hytrach nag unigolion â lefel sgiliau uchel. Mae'r llenyddiaeth sylweddol sy'n gwerthuso'r diwygiadau lles sy'n effeithio'n gyffredinol ar unigolion ag incwm isel i gymedrol hefyd yn tueddu i nodi effeithiau cymharol sylweddol, gan awgrymu lefel uwch o ymatebolrwydd i gymhellion ariannol i weithio nag ar gyfer y boblogaeth gyffredinol (gweler, er enghraifft, gwerthusiadau o'r Credyd Treth i Deuluoedd sy'n Gweithio yn y DU, a'r Credyd Treth Incwm a Enillwyd yn yr UD). Mae'r ffaith bod lefelau cyflogaeth yn gyffredinol is i ddechrau i unigolion â lefel sgiliau isel ac incwm isel hefyd yn awgrymu ei bod yn debygol y bydd mwy o gyfleoedd am ymateb ar y ffin gyflogaeth. Nid yw'n glir pa un a yw'r hydwytheddau oriau gwaith yn amrywio ar draws y dosbarthiad incwm. Fodd bynnag, ceir tystiolaeth bod incwm trethadwy'r rheini tuag at frig y dosbarthiad incwm yn fwy ymatebol i newidiadau o ran cymhellion ariannol i weithio, gan awgrymu eu bod o bosibl yn fwy ymatebol mewn ffyrdd ac eithrio oriau (er enghraifft, ymdrech, neu drwy newidiadau o ran ymddygiad osgoi treth).

Mae ein hadolygiad o'r llenyddiaeth wedi ei chael hi'n anodd dod o hyd i astudiaethau sy'n darparu amcangyfrifon o hydwytheddau oriau neu gyflogaeth yn ôl oedran. Fodd bynnag, mae dau faes gwaith yn awgrymu bod ymatebion, yn enwedig ar y ffin gyflogaeth, yn debygol o fod yn arbennig o fawr i'r rheini yn eu 50au neu'n hŷn. Yn gyntaf, mae'r llenyddiaeth ar ymatebion tymor hwy sy'n cynnwys dysgu mewn swydd yn awgrymu bod gweithwyr hŷn yn ymateb fwy i newidiadau o ran cymhellion ariannol i weithio gan nad ydynt bellach yn caffael cyfalaf dynol wrth weithio (gweler Adran 4.5). Mae rhan o ymatebolrwydd uwch gweithwyr hŷn yn adlewyrchu'r ffaith bod newid penodedig mewn cyflogau yn cyfateb i newid mwy yn yr elfen 'dychwelyd i'r gwaith' gyffredinol iddynt. Yn ail, mae'r llenyddiaeth ar effeithiau cymhellion i ymddeol ar gyflogaeth gweithwyr hŷn yn nodi effeithiau sylweddol o ran cyfoeth pensiwn a budd-daliadau anabledd (nad ydynt yn annog unigolion i weithio) a chronni pensiwn (sy'n annog unigolion i weithio). Er na chaiff y canfyddiadau hyn eu mynegi yn nhermau hydwytheddau'r cyflenwad llafur, mae canlyniadau gwaith o'r fath (gweler Gruber a Wise (1999, 2005)) yn awgrymu hydwytheddau cyflogaeth uwch na'r rheini a geir yn nodweddiadol ar gyfer y rhan fwyaf o'r boblogaeth (ac yn sicr ar gyfer dynion o'r prif oedran gweithio).

Mae'n anodd darparu meintoliad manwl gywir o'r canfyddiadau hyn, ond mae'r dull calibradu a ddefnyddir ym Mhennod 6 yn golygu bod angen i ni benderfynu ar hydwytheddau penodol i'w defnyddio. Gan fod cryn dipyn o ansicrwydd ynghylch maint ymatebion, caiff senarios ymatebolrwydd uchel, canolog ac isel eu hystyried yn yr ymarfer calibradu, gan ddefnyddio canfyddiadau a chasgliadau'r adolygiad hwn.

69

Page 75: An ex-ante analysis effects of the UK Government’s … · Web viewAriannwyd yr ymchwil hon gan Lywodraeth Cymru a Chanolfan er Dadansoddi Microeconomaidd Polisi Cyhoeddus ESRC yn

5. Modelu effaith y diwygiadau lles: amcangyfrif ac efelychuYn y bennod hon o'r adroddiad, rydym yn efelychu effaith y newidiadau o ran cymhellion ariannol i weithio (o ganlyniad i'r diwygiadau lles) ar y cyflenwad llafur ymhlith cyplau priod a chyplau sy'n cyd-fyw - gan gynnwys y rheini â phlant a'r rheini heb blant - a mamau unigol gan ddefnyddio modelau a amcangyfrifwyd ar gyfer y prosiect hwn. Mae'r gydberthynas hynod aflinol rhwng oriau gwaith ac incwm net a gynhyrchir gan y system dreth a budd-daliadau yn golygu ei bod yn anodd iawn modelu dewisiadau unigolion gan ystyried pob math posibl o oriau gwaith. Felly, yn lle hynny, defnyddiwn fodelau dewisiadau arwahanol lle y mae mamau unigol yn dewis rhwng set gymharol fach o opsiynau oriau, a lle y mae cyplau yn dewis rhwng set gymharol fach o gyfuniadau o opsiynau oriau. Yn benodol, mae mamau unigol yn dewis un o blith saith opsiwn (0 awr, 1 i 7 awr, 8 i 15 awr, 16 i 19 awr, 20 i 29 awr, 30 i 23 awr neu 35 awr neu fwy'r wythnos), mae menywod mewn cyplau yn dewis un o blith pum opsiwn (0 awr, 1-15 awr, 16-19 awr, 20-29 awr neu 30 awr neu fwy) ac mae dynion mewn cyplau yn dewis gweithio ai peidio. Mae'r modelau hyn yn caniatáu i ni amcangyfrif y gydberthynas rhwng incwm net unigolion a chyplau o dan bob opsiwn oriau a'r tebygolrwydd y bydd unigolion a chyplau yn dewis pob opsiwn oriau. Wedyn caiff effaith y diwygiadau lles ei hasesu drwy gyfrifo'r effaith ar incwm net ymhob opsiwn oriau ac, felly, ar y tebygolrwydd y caiff pob opsiwn oriau ei ddewis. Wedyn gallwn ddefnyddio'r canlyniadau hyn i efelychu effaith y diwygiadau ar gyflogaeth ac oriau gwaith.

Ceir gwybodaeth fwy cynhwysfawr am y fethodoleg yn Atodiad D o'r adroddiad hwn. Fodd bynnag, mae'n bwysig nodi'r grwpiau nas cynhwysir yn y model hwn. Yn gyntaf, ac yn fwyaf amlwg, nid yw ein model ar gyfer 'cyplau a mamau unigol' yn cynnwys tadau unigol nac oedolion sengl heb blant. Yn ail, nid yw'r amcangyfrif yn cynnwys pob oedolyn 21 oed neu'n iau neu sy'n cofnodi eu bod yn fyfyrwyr; y rheini sy'n 60 oed neu drosodd; a'r rheini sydd wedi’u cofrestru'n anabl neu sy'n cael budd-dal anabledd. Yn y model ar gyfer cyplau, mae hyn yn golygu mai dim ond y cyplau hynny lle mae'r ddau bartner rhwng 22 a 59 oed, nad ydynt yn fyfyrwyr ac nad ydynt yn anabl a gaiff eu cynnwys yn ein sampl. Gwnawn hyn am na fydd modelau safonol o'r cyflenwad llafur o bosibl yn briodol ar gyfer y grwpiau nas cynhwysir: mae'r ifanc yn wynebu penderfyniadau o ran addysg yn ogystal ag o ran p'un a ddylid gweithio ai peidio; mae posibilrwydd uwch y bydd unigolion 60 neu drosodd yn ymddeol na'r rheini sydd o dan 60 oed, ac ni allwn fodelu eu hincwm yn briodol os byddant wedi ymddeol (oherwydd pensiynau preifat); a bydd y rhyngberthynas gymhleth rhwng iechyd a chyflogaeth, na allwn ei modelu, yn effeithio ar benderfyniadau pobl anabl. Nesaf, nid ydym yn cynnwys yr oedolion hynny sy'n nodi eu bod yn hunangyflogedig neu sy'n cofnodi enillion neu golledion o hunangyflogaeth yn y dadansoddiad (gan olygu nad ydym yn cynnwys cyplau lle mae hyn yn berthnasol i un partner neu i'r ddau bartner). Yn olaf, nid ydym yn cynnwys y mamau unigol neu'r cyplau hynny ag incwm net gwirioneddol uchel iawn neu y rhagfynegir incwm net uchel iawn ar eu cyfer (mwy na thua £4,800 yr wythnos yn ôl prisiau 2012). Gwneir hyn oherwydd gall y nifer fach o arsylwadau ag incwm uchel iawn achosi i'r canlyniadau 'wyro', ac o leiaf at ddibenion dadansoddi effaith y diwygiadau lles ar y cyflenwad llafur, nid ydynt yn grŵp rydym yn awyddus i ganolbwyntio arno. Yn y pen draw, mae ein sampl yn cynnwys ychydig o dan hanner poblogaeth oedran gweithio Cymru (a thua hanner y bobl sy'n gweithio yng Nghymru). Ond mae'r sampl cyfyngedig hwn yn grŵp rydym yn llawer mwy hyderus y gallwn fodelu ymddygiad y cyflenwad llafur ar ei gyfer gan ddefnyddio'r model canonig a ddefnyddir yma.

Mae hefyd yn werth amlygu'r tri phrif gafeat i'r canlyniadau. Yn gyntaf, dim ond effaith y newidiadau o ran cymhellion ariannol i weithio y mae'r modelau yn caniatáu i ni eu hefelychu. Yng nghyd-destun y diwygiadau lles, mae hyn yn caniatáu i ni efelychu effaith newidiadau o ran yr uchafswm hawliau,

70

Page 76: An ex-ante analysis effects of the UK Government’s … · Web viewAriannwyd yr ymchwil hon gan Lywodraeth Cymru a Chanolfan er Dadansoddi Microeconomaidd Polisi Cyhoeddus ESRC yn

anwybyddiadau enillion a chyfraddau tapro, ond nid effaith pethau fel rhwyddineb trosglwyddo rhwng budd-daliadau mewn gwaith a budd-daliadau allano waith neu'r newidiadau o ran amodolrwydd (megis gorfod mynd i gyfarfodydd sy'n canolbwyntio ar waith). Fel y trafodwyd yn Adran 2, byddai disgwyl i'r newidiadau hyn gynyddu cyflogaeth ac enillion, ond nid yw'n hysbys p'un a fydd yr effaith mor fawr â hynny ai peidio. Yn ail, mae'n bwysig nodi bod y modelau a amcangyfrifwyd yn ystyried y cyflenwad llafur ymhlith rhieni unigol a chyplau, ac nid y galw am lafur. Ceir trafodaeth ansoddol o'r materion hyn ym Mhennod 7 wrth i ni drafod sut y gall y cyd-destun economaidd ehangach effeithio ar y diwygiadau lles a sut y gall y diwygiadau effeithio ar y cyd-destun hwnnw. Mae defnyddio'r dull 'calibradu ac efelychu' hefyd yn caniatáu i ni weld sut y mae dewis hydwytheddau is yn effeithio ar y canlyniadau. Yn olaf, am fod cyn lleied o famau unigol yn arbennig yn gweithio swyddi 1-15 awr, mae'n bosibl na fydd rhagfynegiadau'r model o effaith newidiadau o ran cymhellion ariannol i weithio wrth weithio oriau gwaith o'r fath mor ddibynadwy ag y byddem yn ei ddymuno (mewn gwirionedd, mater o ddefnyddio'r model i 'ragfynegi allan o'r sampl' ydyw).

Mae gweddill y bennod hon yn dilyn y drefn ganlynol. Nodir efelychiad o effaith y diwygiadau lles heb gynnwys y broses o gyflwyno Credyd Cynhwysol yn Adran 5.1. Mae Adran 5.2 yn ystyried effaith y set lawn o ddiwygiadau gan gynnwys Credyd Cynhwysol.

5.1 Canlyniadau efelychu: effaith diwygiadau heb gynnwys Credyd Cynhwysol Caiff effaith y diwygiadau lles ei hefelychu gan ddefnyddio ein modelau o'r cyflenwad llafur drwy efelychu ymddygiad mamau unigol a chyplau o dan y systemau diwygio a'i gymharu ag ymddygiad a efelychwyd o dan y system llinell sylfaen (sy'n cynnwys, fel y trafodwyd ym Mhennod 2, y system dreth fel y'i cynlluniwyd ar gyfer mis Ebrill 2014 a'r system budd-daliadau a chredydau treth ym mis Ebrill 2010, wedi'u haddasu'n briodol ar gyfer chwyddiant). Mae hyn yn efelychu tebygolrwyddau ar gyfer pob opsiwn oriau o dan y system llinell sylfaen a'r system diwygiadau, gan alluogi i ni gyfrifo'r newidiadau a ragfynegir o ran cyflogaeth, oriau gwaith ac ati.

Mae'n bwysig cofio bod y meini prawf a ddefnyddir ar gyfer dewis y sampl yn golygu nad yw'r ffigurau a nodir isod yn cynnwys pobl hunangyflogedig, pobl anabl, pobl 21 oed neu'n iau, pobl 60 oed neu drosodd, na'u partneriaid. Mae hyn yn golygu o blith y 264 o famau unigol yng Nghymru yn nhon 2007-08 i 2009-10 yr Arolwg Adnoddau Teulu (FRS) (gan ddefnyddio pwysoliadau poblogaeth, mae hyn yn cyfateb i 96,512 o famau unigol yng Nghymru), bod yr efelychiadau yn seiliedig ar sampl o 200 o famau unigol (neu 71,938 gan ddefnyddio pwysoliadau poblogaeth). O'r 2,693 o bobl o oedran gweithio mewn cyplau yng Nghymru yn yr FRS (1,125,736 gan ddefnyddio pwysoliadau poblogaeth), mae'r efelychiadau yn seiliedig ar sampl o 1,516 (647,732).

Yr effaith a ragfynegir ar gyflogaethDengys Tabl 5.1 y newid a ragfynegir o ran cyflogaeth o ganlyniad i'r newidiadau o ran cymhellion ariannol i weithio oherwydd y diwygiadau lles (heb gynnwys Credyd Cynhwysol) gan nodi'r canrannau a'r niferoedd ar gyfer mamau unigol, ac ar gyfer dynion a menywod mewn cyplau, gyda phlant a heb blant. Mae'r ddwy res gyntaf yn dangos y cyfraddau cyflogaeth a'r niferoedd a efelychwyd ar gyfer sampl yr amcangyfrif yn y system llinell sylfaen; mae'r ddwy res nesaf yn dangos effaith y diwygiadau ar gyflogaeth; ac mae'r ddwy res olaf yn dangos y ffigurau a efelychwyd ar gyfer cyflogaeth o dan y system diwygiadau.

Mae'r efelychiad yn awgrymu mai effaith y newidiadau o ran cymhellion ariannol i weithio yn dilyn y diwygiadau lles fydd cynnydd bach o ran lefelau cyflogaeth ymhlith y sampl efelychu, o 85.4% i 85.7%, sy'n cyfateb i 2,000 o bobl ychwanegol mewn gwaith cyflogedig. Gellir priodoli'r rhan fwyaf o hyn i gynnydd a efelychwyd yng nghyfradd gyflogaeth dynion mewn cyplau â phlant: o nifer a oedd eisoes yn

71

Page 77: An ex-ante analysis effects of the UK Government’s … · Web viewAriannwyd yr ymchwil hon gan Lywodraeth Cymru a Chanolfan er Dadansoddi Microeconomaidd Polisi Cyhoeddus ESRC yn

uchel, sef 91.5% i 92.2%, neu 1,300. Ar y llaw arall, mae model y cyflenwad llafur yn awgrymu gostyngiad bach ymhlith mamau unigol o 65.0% i 64.7% (neu 200 yn llai wedi'u cyflogi). Mae'r effaith a ragfynegir ar famau unigol yn gydnaws â'r hyn y byddem yn ei ddisgwyl o ystyried y cynnydd o ran CDGau cyfartalog yn dilyn y diwygiadau lles ar gyfer y grŵp hwn (gweler Tabl 3.1), gan adlewyrchu, yn rhannol o leiaf, ostyngiad o ran haelioni’r credyd treth gwaith.

Mae Tabl 5.2 yn dangos y newid a ragfynegir o ran cyflogaeth yn ôl grŵp ethnig a math o ddeiliadaeth tai. Dengys er bod cyfraddau cyflogaeth ychydig yn is ar gyfer aelodau'r sampl yng Nghymru nad ydynt yn wyn o gymharu â'r aelodau gwyn, bod yr effeithiau ar gyflogaeth yn debyg: sef cynnydd o 0.4 a 0.3 pwynt canran, yn y drefn honno, yn y gyfradd gyflogaeth. Fodd bynnag, rhagfynegir y bydd yr effeithiau yn sylweddol wahanol rhwng grwpiau deiliadaeth tai. Rhagfynegir y bydd y diwygiadau yn arwain at ostyngiad bach yn y gyfradd gyflogaeth ymhlith y rheini sy'n rhentu gan landlord cymdeithasol megis cymdeithas dai neu gyngor lleol (-0.2 pwynt canran)

72

Page 78: An ex-ante analysis effects of the UK Government’s … · Web viewAriannwyd yr ymchwil hon gan Lywodraeth Cymru a Chanolfan er Dadansoddi Microeconomaidd Polisi Cyhoeddus ESRC yn

Tabl 5.1 Effaith amcangyfrifedig diwygiadau lles (heb gynnwys Credyd Cynhwysol) ar gyflogaethMamau Unigol

Cyplau â Phlant Cyplau heb Blant Sampl CyfanDynion Menywod Dynion Menywod

Cyflogaeth yn y llinell sylfaen (%) 65.0 91.5 75.4 94.0 91.1 85.4Cyflogaeth yn y llinell sylfaen (nifer) 46,700 158,300 130,400 141,800 137,500 614,800

Newid o ran cyflogaeth (pwyntiau %) -0.3 0.7 0.1 0.3 0.2 0.3Newid o ran cyflogaeth (nifer) -200 1,300 100 500 400 2,000

Cyflogaeth ar ôl y diwygiadau (%) 64.7 92.2 75.5 94.3 91.4 85.7Cyflogaeth ar ôl y diwygiadau (nifer) 46,500 159,600 130,600 142,300 137,900 616,800Ffynhonnell: Amcangyfrif: FRS 1996–97 i 2009–10 a chyfrifiadau awduron. Efelychu: FRS 2007–08 i 2009–10 a chyfrifiadau awduron.

Tabl 5.2 Effaith amcangyfrifedig diwygiadau lles (heb gynnwys Credyd Cynhwysol) ar gyflogaethEthnigrwydd Deiliadaeth Tai

Gwyn Ddim yn Wyn

Rhent Cymdeithasol

Rhent Preifat Perchennog-Ddeiliad

Cyflogaeth yn y llinell sylfaen (%) 85.6 82.4 68.0 72.5 89.0Cyflogaeth yn y llinell sylfaen (nifer) 585,700 29,100 48,000 47,500 516,800

Newid o ran cyflogaeth (pwyntiau %) 0.3 0.4 -0.2 1.3 0.2Newid o ran cyflogaeth (nifer) 1,900 100 -100 800 1,400

Cyflogaeth ar ôl y diwygiadau (%) 85.9 82.8 67.8 73.7 89.2Cyflogaeth ar ôl y diwygiadau (nifer) 587,600 29,200 47,900 48,300 518,200Ffynhonnell: Amcangyfrif: FRS 1996–97 i 2009–10 a chyfrifiadau awduron. Efelychu: FRS 2007–08 i 2009–10 a chyfrifiadau awduron. Noder: Nid yw'r ffigurau ar gyfer grwpiau ethnigrwydd a grwpiau deiliadaeth tai yn cyfateb i'r cyfanswm a nodir yn Nhabl 5.1 am nad ymatebodd pawb i'r cwestiynau hyn.

73

Page 79: An ex-ante analysis effects of the UK Government’s … · Web viewAriannwyd yr ymchwil hon gan Lywodraeth Cymru a Chanolfan er Dadansoddi Microeconomaidd Polisi Cyhoeddus ESRC yn

, ond yn cynyddu cyflogaeth ymhlith unigolion sy'n rhentu'n breifat (1.1. pwynt canran) ac, i raddau llai, perchenogion-ddeiliaid (0.2 pwynt canran). Mae'r patrwm gwahaniaethol hwn yn ôl deiliadaeth tai yn gwneud synnwyr o ystyried canfyddiadau Pennod 3: amcangyfrifir y bydd y diwygiadau lles (heb gynnwys Credyd Cynhwysol) yn lleihau CDGau ac felly'n cynyddu'r cymhelliant i weithio o gwbl i berchenogion-ddeiliaid ac yn enwedig tenantiaid preifat, ond y byddant yn ei leihau i'r rheini sy'n rhentu gan landlord cymdeithasol.

Beth sy'n sbarduno'r canlyniadau hyn? Mae'r toriadau lles sy'n digwydd rhwng 2010 a 2014 yn awgrymu mai gostyngiad a efelechwyd mewn incwm allan o waith yn hytrach na chynnydd mewn incwm mewn gwaith sy'n sbarduno'r cynnydd bach a ragfynegir o ran lefelau cyflogaeth cyffredinol. Yn wir, dengys Ffigurau 3.2 a 3.3 bod y diwygiadau yn arwain at y gostyngiadau mwyaf mewn incwm i deuluoedd allan o waith, gyda gostyngiadau rhywfaint yn llai i gyplau ag un gweithiwr a rhieni unigol sy'n gweithio, ac effaith fach iawn ar gyplau â'r ddau bartner yn ennill heb blant ac oedolion sengl sy'n gweithio heb blant.

Gan fod y model ar gyfer cyplau yn modelu ymddygiad y ddau bartner ar y cyd, gellir ei ddefnyddio i ystyried effaith y diwygiadau ar nifer y cyplau heb waith, nifer y cyplau ag un partner yn ennill a nifer y cyplau â'r ddau bartner yn ennill, fel y gwneir yn Nhabl 5.3. Mae'n dangos na ragfynegir y bydd y diwygiadau lles (heb gynnwys Credyd Cynhwysol) yn arwain at fawr newid yn nifer y cyplau heb waith ac y bydd cynnydd bach iawn ymhlith cyplau â phlant a gaiff ei wrthbwyso gan ostyngiad bach iawn ymhlith cyplau heb blant. Fodd bynnag, mae'r model yn rhagfynegi gostyngiad bach yn nifer y cyplau ag un partner yn ennill, a chynnydd bach yn nifer y cyplau â'r ddau bartner yn ennill, yn enwedig ymhlith y rheini â phlant. Mae hyn yn gyson â'r newidiadau o ran cymhellion ariannol i weithio a ddisgrifir yn Adran 3. Dengys Tabl 3.1 fod y diwygiadau (heb gynnwys Credyd Cynhwysol) yn cynyddu CDGau cyfartalog (h.y. yn lleihau'r cymhellion ariannol i weithio) i'r rheini mewn cyplau â phartner nad yw'n gweithio (h.y. y rheini mewn cyplau ag un partner yn ennill), yn enwedig ymhlith teuluoedd â phlant, ac yn lleihau'r CDGau cyfartalog (atgyfnerthu'r cymhellion i weithio) i'r rheini â phartner sy'n gweithio (h.y. y rheini mewn cyplau â'r ddau bartner yn ennill). Mae hyn yn adlewyrchu, i raddau helaeth, ostyngiadau o ran haelioni'r Credyd Treth Gwaith sy'n golygu bod llai o fudd cael un partner yn gweithio, ac o ganlyniad bod llai o gymorth ariannol i'w golli pan fydd ail bartner yn dechrau gweithio.

Tabl 5.3 Effaith amcangyfrifedig diwygiadau lles (heb gynnwys Credyd Cynhwysol) ar nifer y cyplau â 0, 1 a 2 unigolyn yn ennill

% y cyplau â nifer benodedig yn ennill o dan Y System Llinell Sylfaen Y System Diwygiadau (heb

gynnwys Credyd Cynhwysol)

Pob CwpwlNeb yn ennill 2.0 2.0Un yn ennill 20.5 19.9Y ddau yn ennill 77.4 78.1

Cyplau â phlantNeb yn ennill 3.0 3.1Un yn ennill 27.0 26.1Y ddau yn ennill 70.0 70.8

Cyplau heb blant

74

Page 80: An ex-ante analysis effects of the UK Government’s … · Web viewAriannwyd yr ymchwil hon gan Lywodraeth Cymru a Chanolfan er Dadansoddi Microeconomaidd Polisi Cyhoeddus ESRC yn

Neb yn ennill 0.9 0.8Un yn ennill 13.1 12.7Y ddau yn ennill 86.0 86.4Ffynhonnell: Amcangyfrif: FRS 1996–97 i 2009–10 a chyfrifiadau awduron. Efelychu: FRS 2007–08 i 2009–10 a chyfrifiadau awduron.

75

Page 81: An ex-ante analysis effects of the UK Government’s … · Web viewAriannwyd yr ymchwil hon gan Lywodraeth Cymru a Chanolfan er Dadansoddi Microeconomaidd Polisi Cyhoeddus ESRC yn

Tabl 5.4 Effaith amcangyfrifedig diwygiadau lles (heb gynnwys Credyd Cynhwysol) ar oriau gwaith fesul wythnos

Mamau Unigol

Cyplau â Phlant Cyplau heb Blant Sampl CyfanDynion Menywod Dynion Menywod

Llinell sylfaenOriau gwaith cyfartalog 18.1 38.7 21.9 39.8 31.0 31.2Oriau gwaith cyfartalog os yn gweithio

26.9 Dd/G 28.4 Dd/G 33.8 Dd/G

% sy'n gweithio <16 awr 4.0 Dd/G 8.0 Dd/G 3.9 Dd/G% sy'n gweithio 16–29 awr 29.3 Dd/G 27.5 Dd/G 16.1 Dd/G% sy'n gweithio 30+ awr 31.8 Dd/G 39.9 Dd/G 71.1 Dd/G

Newid mewnOriau gwaith cyfartalog -0.2 0.4 0.2 0.1 0.1 0.1Oriau gwaith cyfartalog os yn gweithio

-0.1 Dd/G 0.2 Dd/G 0.0 Dd/G

yn gweithio 1–15 awr (pwynt %) 0.1 Dd/G -0.0 Dd/G -0.0 Dd/Gyn gweithio 16–29 awr (pwynt %) 0.0 Dd/G -0.7 Dd/G 0.1 Dd/Gyn gweithio 30+ awr (pwynt %) -0.4 Dd/G 0.9 Dd/G 0.2 Dd/G

DiwygiadOriau gwaith cyfartalog 17.9 39.1 22.1 39.9 31.1 31.4

Oriau gwaith cyfartalog os yn gweithio

26.8 Dd/G 28.6 Dd/G 33.8 Dd/G

% sy'n gweithio <16 awr 4.1 Dd/G 7.9 Dd/G 3.9 Dd/G% sy'n gweithio 16–29 awr 29.3 Dd/G 26.8 Dd/G 16.2 Dd/G

76

Page 82: An ex-ante analysis effects of the UK Government’s … · Web viewAriannwyd yr ymchwil hon gan Lywodraeth Cymru a Chanolfan er Dadansoddi Microeconomaidd Polisi Cyhoeddus ESRC yn

% sy'n gweithio 30+ awr 31.3 Dd/G 40.8 Dd/G 71.3 Dd/GFfynhonnell: Amcangyfrif: FRS 1996–97 i 2009–10 a chyfrifiadau awduron. Efelychu: FRS 2007–08 i 2009–10 a chyfrifiadau awduron.

77

Page 83: An ex-ante analysis effects of the UK Government’s … · Web viewAriannwyd yr ymchwil hon gan Lywodraeth Cymru a Chanolfan er Dadansoddi Microeconomaidd Polisi Cyhoeddus ESRC yn

Yr effaith a ragfynegir ar oriau gwaithYn ogystal â chyflogaeth, mae model y cyflenwad llafur yn caniatáu i ni efelychu effaith y diwygiadau ar faint o bobl sy'n dewis gweithio. Ar gyfer menywod, lle mae'r modelau yn cynnwys pedwar opsiwn oriau mewn gwaith i gyplau a chwech i famau unigol, mae Tabl 5.4 yn dangos y ffracsiynau a efelychwyd gan weithio 1-15 awr, 16-29 awr a 30+ awr, yn ogystal â'r oriau cyfartalog os yn gweithio, a'r oriau gwaith cyfartalog cyffredinol (gan gynnwys unigolion nad ydynt yn gweithio). Gan mai dim ond dau opsiwn y mae'r model ar gyfer cyplau yn eu cynnwys ar gyfer dynion (gweithio neu ddim gweithio), dim ond effaith y diwygiadau ar oriau gwaith cyfartalog cyffredinol (gan gynnwys unigolion nad ydynt yn gweithio) a gofnodir.

Ar gyfer mamau unigol, mae'r efelychiadau yn awgrymu gostyngiad o ran yr oriau gwaith cyfartalog (-0.2 fesul wythnos) ac oriau gwaith cyfartalog yn amodol ar weithio (-0.1 fesul wythnos). Caiff hyn ei lywio gan ostyngiad bach yn y ffracsiwn o famau unigol mewn gwaith llawn amser o 30 awr yr wythnos neu fwy (o 31.8% i 31.3%), a chynnydd bach yn y rheini sy'n gweithio mewn swyddi o 1 i 15 awr yr wythnos (o 4.0% i 4.1%). Gall hyn unwaith eto adlewyrchu'r gostyngiad yn haelioni'r credyd treth gwaith, sy'n anelu at hybu incwm wrth weithio 16 a 30 awr yr wythnos.

Ar gyfer menywod mewn cyplau â phlant, mae'r efelychiadau yn awgrymu cynnydd bach o ran oriau gwaith cyfartalog (0.2 fesul wythnos), ac oriau gwaith cyfartalog yn amodol ar weithio (0.2 fesul wythnos), wedi'i lywio gan gynnydd yn y ffracsiwn mewn gwaith llawn amser (o 39.9% i 40.8%) a gostyngiad yn y nifer sy'n gweithio 16-29 awr yr wythnos (o 27.5% i 26.8%). Caiff y cynnydd bach a ragfynegir o ran cyflogaeth ac oriau gwaith cyfartalog ymhlith menywod mewn cyplau heb blant hefyd ei lywio gan gynnydd bach yn y ffracsiwn sy'n gweithio'n llawn amser (o 71.1% i 71.3%). Mae hyn yn gyson â gostyngiadau o ran CDGau i'r rheini â phartneriaid sy'n gweithio ar gyfer y cyplau hynny â phartneriaid sy'n gweithio (sef mwyafrif helaeth y menywod mewn cyplau).

Ar gyfer dynion mewn cyplau, caiff y cynnydd yn y gyfradd gyflogaeth ei adlewyrchu mewn cynnydd yn yr oriau gwaith cyfartalog o 38.7 i 39.1 ymhlith y rheini â phlant, a chynnydd llai o 39.8 i 39.9 ar gyfer y rheini heb blant.

CrynodebGyda'i gilydd, effaith gadarnhaol fach iawn y disgwylir i'r diwygiadau lles (heb gynnwys Credyd Cynhwysol) ei chael ar y cyflenwad llafur, gan gynyddu cyflogaeth ac oriau gwaith cyfartalog ychydig. Fodd bynnag, mae gwahaniaethau ar draws y boblogaeth, a rhagfynegir y bydd gostyngiadau bach yn y cyflenwad llafur ymhlith rhieni unigol a'r rheini sy'n rhentu gan landlord cymdeithasol, ac y bydd cynnydd uwch na'r cyfartaledd yn y cyflenwad llafur ymhlith dynion mewn cyplau â phlant a thenantiaid preifat.

5.2 Canlyniadau efelychu: effaith diwygiadau gan gynnwys Credyd Cynhwysol Nawr, ailadroddwn ddadansoddiad yr adran flaenorol ond gan gynnwys Credyd Cynhwysol wedi'i gyflwyno'n llawn fel rhan o'r pecyn o ddiwygiadau sy'n cael ei ystyried.

Yr effaith a ragfynegir ar gyflogaethDengys Tabl 5.5 y newid a ragfynegir o ran cyflogaeth o ganlyniad i'r newidiadau o ran cymhellion ariannol i weithio oherwydd y diwygiadau lles (heb gynnwys Credyd Cynhwysol) a hynny o ran canrannau a'r niferoedd absoliwt ar gyfer mamau unigol, ac ar gyfer dynion a menywod mewn cyplau, gyda phlant a heb blant. Mae'r ddwy res gyntaf yn dangos y cyfraddau cyflogaeth a'r niferoedd a

78

Page 84: An ex-ante analysis effects of the UK Government’s … · Web viewAriannwyd yr ymchwil hon gan Lywodraeth Cymru a Chanolfan er Dadansoddi Microeconomaidd Polisi Cyhoeddus ESRC yn

efelychwyd ar gyfer sampl yr amcangyfrif yn y system llinell sylfaen; mae'r ddwy res nesaf yn dangos effaith y diwygiadau ar gyflogaeth; ac mae'r ddwy res olaf yn dangos y ffigurau a efelychwyd ar gyfer cyflogaeth o dan y system diwygiadau.

79

Page 85: An ex-ante analysis effects of the UK Government’s … · Web viewAriannwyd yr ymchwil hon gan Lywodraeth Cymru a Chanolfan er Dadansoddi Microeconomaidd Polisi Cyhoeddus ESRC yn

Tabl 5.5 Effaith amcangyfrifedig diwygiadau lles (gan gynnwys Credyd Cynhwysol) ar gyflogaethMamau Unigol

Cyplau â Phlant Cyplau heb Blant Sampl CyfanDynion Menywod Dynion Menywod

Cyflogaeth yn y llinell sylfaen (%) 65.0 91.5 75.4 94.0 91.1 85.4Cyflogaeth yn y llinell sylfaen (nifer) 46,700 158,300 130,400 141,800 137,500 614,800

Newid o ran cyflogaeth (pwyntiau %) +1.2 -0.3 -0.5 0.1 0.4 0.0Newid o ran cyflogaeth (nifer) 800 -400 -900 200 600 300

Cyflogaeth ar ôl y diwygiadau (%) 66.1 91.3 74.9 94.1 91.5 85.5Cyflogaeth ar ôl y diwygiadau (nifer) 47,600 157,900 129,600 142,000 138,100 615,100Ffynhonnell: Amcangyfrif: FRS 1996–97 i 2009–10 a chyfrifiadau awduron. Efelychu: FRS 2007–08 i 2009–10 a chyfrifiadau awduron

Tabl 5.6 Effaith amcangyfrifedig diwygiadau lles (gan gynnwys Credyd Cynhwysol) ar gyflogaeth Ethnigrwydd Deiliadaeth Tai

Gwyn Ddim yn Wyn

Rhent Cymdeithasol

Rhent Preifat Perchennog-Ddeiliad

Cyflogaeth yn y llinell sylfaen (%) 85.6 82.4 68.0 72.5 89.0Cyflogaeth yn y llinell sylfaen (nifer) 585,700 29,100 48,000 47,500 516,800

Newid o ran cyflogaeth (pwyntiau %) 0.1 -0.2 0.1 1.9 -0.1Newid o ran cyflogaeth (nifer) 400 -100 100 1,300 -1,000

Cyflogaeth ar ôl y diwygiadau (%) 85.6 82.2 68.1 74.4 88.8Cyflogaeth ar ôl y diwygiadau (nifer) 586,100 29,000 48,100 48,700 515,800Ffynhonnell: Amcangyfrif: FRS 1996–97 i 2009–10 a chyfrifiadau awduron. Efelychu: FRS 2007–08 i 2009–10 a chyfrifiadau awduron. Noder: Nid yw'r ffigurau ar gyfer grwpiau ethnigrwydd a grwpiau deiliadaeth tai yn cyfateb i'r cyfanswm a nodir yn Nhabl 5.1 am nad ymatebodd pawb i'r cwestiynau hyn.

80

Page 86: An ex-ante analysis effects of the UK Government’s … · Web viewAriannwyd yr ymchwil hon gan Lywodraeth Cymru a Chanolfan er Dadansoddi Microeconomaidd Polisi Cyhoeddus ESRC yn

Y gobaith yw y bydd Credyd Cynhwysol yn gwella cymhellion i weithio ac felly yn cynyddu lefelau cyflogaeth ac oriau gwaith. Fodd bynnag, mae canlyniadau'r efelychiadau yn awgrymu bod y newidiadau o ran cymhellion ariannol i weithio o dan Credyd Cynhwysol yn lleihau lefelau cyflogaeth ychydig o gymharu â'r system cyn Credyd Cynhwysol (ceir dadansoddiad yn Adran 5.1). Yn wir, rhagfynegir na fydd llawer o newid o ran cyflogaeth o gymharu â'i lefel o dan y system budd-daliadau a chredydau treth cyn-diwygiadau 2010 a ddefnyddir fel llinell sylfaen: ar gyfer y sampl efelychu, mae'r gyfradd gyflogaeth yn 85.5% o dan Gredyd Cynhwysol o gymharu â 85.4% o dan system 2010. Mae hyn yn sylweddol wahanol i'r hyn y gellid ei ddisgwyl o ystyried yr effaith ar CDYEau a CDGau a drafodir ym Mhennod 3, ac yn wahanol iawn i'r canlyniadau a gyflwynwyd yn null 'calibradu ac efelychu' Pennod 6, lle y rhagfynegir y caiff Credyd Cynhwysol effaith gadarnhaol gymharol sylweddol ar gyflogaeth. Yn Adran 6.3, trafodwn beth allai fod yn llywio'r gwahaniaethau hyn. Prif gasgliad hyn yw ei bod yn anodd penderfynu pa fodel sy'n debygol o roi'r canlyniadau mwy cywir; felly, ymddengys fod effaith Credyd Cynhwysol ar gyflogaeth yn ansicr iawn.

Gan ddychwelyd at Dabl 5.5, gellir gweld o gymharu â system les 2010, y rhagfynegir bod system les 2014 gan gynnwys Credyd Cynhwysol yn arwain at ostyngiad bach o ran cyflogaeth ymhlith dynion a menywod mewn cyplau â phlant, cynnydd o 1.2 pwynt canran yn y gyfradd gyflogaeth ymhlith rhieni unigol a chynnydd bach o ran cyflogaeth ymhlith dynion a menywod mewn cyplau heb blant. Mae'r canlyniadau ar gyfer y rheini mewn cyplau â phlant yn ddiddorol iawn: daw cynnydd o ran cyflogaeth oherwydd y diwygiadau lles cyn Credyd Cynhwysol yn ostyngiad bach. Mae hyn yn golygu y rhagfynegir y bydd Credyd Cynhwysol yn lleihau cyflogaeth i gyplau â phlant, ond na chaiff lawer o effaith ar gyflogaeth ymhlith cyplau heb blant, ac y caiff effaith gadarnhaol ar gyfer rhieni unigol. Mae'r patrymau hyn yn adlewyrchu'r ffaith bod Credyd Cynhwysol yn cynyddu CDGau i gyplau â phlant â phartner sy'n gweithio, gan felly leihau eu cymhellion i fod mewn gwaith; y caiff yr un math o effaith ar CDGau cyplau heb blant, ond i raddau llawer llai; a'i fod yn lleihau CDGau rywfaint i rieni unigol, gan felly gynyddu eu cymhelliant i fod mewn gwaith (gweler Tabl 3.1).

Dengys Tabl 5.6 sut mae'r effeithiau ar gyflogaeth yn wahanol yn ôl ethnigrwydd a deiliadaeth tai gan ddangos patrwm tebyg i'r un a geir ar gyfer y diwygiadau heb gynnwys Credyd Cynhwysol: prin yw'r gwahaniaeth rhwng pobl wyn a phobl nad ydynt yn wyn, ond ceir gwahaniaethau sylweddol yn ôl math o ddeiliadaeth. Yn arbennig, rhagfynegir y bydd y gyfradd gyflogaeth ymhlith ein sampl o denantiaid preifat yn cynyddu 1.9 pwynt canran, o gymharu â chynnydd o 0.1 pwynt canran ar gyfer tenantiaid cymdeithasol, a gostyngiad o 0.2 pwynt canran ar gyfer perchenogion-ddeiliaid.

Dengys Tabl 5.7 effaith y diwygiadau (gan gynnwys Credyd Cynhwysol) ar nifer y cyplau heb waith, y cyplau ag un partner yn ennill a chyplau â'r ddau bartner yn ennill. Ar ôl cyflwyno'r Credyd Cynhwysol, rhagfynegir y bydd nifer y cyplau heb waith yn gostwng tua 0.3 pwynt canran o 2.0% i 1.7% o gyplau yn y sampl. Caiff hyn ei lywio'n bennaf gan ostyngiad a ragfynegir o 3.0% i 2.5% o gyplau â phlant heb waith. Ynghyd â'r gostyngiadau a ragfynegwyd yn nifer y mamau unigol heb waith, mae hyn yn awgrymu bod y diwygiadau yn debygol o leihau nifer y plant a gaiff eu magu mewn teuluoedd heb waith, er mai dim ond gostyngiad bach a geir. Rhagfynegir y bydd nifer y cyplau ag un partner yn ennill â phlant yn cynyddu gryn dipyn, o 27.0% i 28.9% o gyplau â phlant yn y sampl. Mae hyn yn adlewyrchu'r gwell cymhellion i fod ag o leiaf un person yn gweithio: mae anwybyddiadau enillion uwch, a phroses arafach o dapro'r Credyd Cynhwysol o gymharu â'r taprau lluosog y mae teuluoedd weithiau yn eu hwynebu ar hyn o bryd, yn golygu y byddant yn gallu cadw mwy o'u henillion. Wedi'i gyfuno â'r toriadau cynharach i hawliau budd-dal, mae hyn yn golygu gostyngiad cymharol sylweddol mewn CDGau (cynnydd o ran cymhellion ariannol i weithio) i'r partner cyntaf sy'n ennill. Ar y llaw arall, rhagfynegir y bydd nifer y cyplau â'r ddau bartner yn ennill yn gostwng o 70.0% i 68.6% o gyplau â phlant. Y rheswm am hyn yw bod mwy o hawl i

81

Page 87: An ex-ante analysis effects of the UK Government’s … · Web viewAriannwyd yr ymchwil hon gan Lywodraeth Cymru a Chanolfan er Dadansoddi Microeconomaidd Polisi Cyhoeddus ESRC yn

Gredyd Cynhwysol pan fo un person yn gweithio yn golygu bod mwy o gymorth i'w golli pan fydd ail berson yn dechrau gweithio, a fydd yn nodweddiadol yn wynebu cyfradd tapro budd-daliadau uwch (e.e. caiff 65c o bob £ a enillir ei golli fel gostyngiad Credyd Cynhwysol o gymharu â cholli 39c fel gostyngiad credydau treth cyn y toriadau lles). Felly, yn gyffredinol, mae'r newidiadau a ragfynegir yn y niferoedd o gyplau lle nad oes unrhyw un yn ennill, lle mae un partner yn ennill a lle mae'r ddau bartner yn ennill yn gyson â'r newidiadau mewn CDGau a ddangosir yn Nhabl 3.1.

Tabl 5.7 Effaith amcangyfrifedig diwygiadau lles (gan gynnwys Credyd Cynhwysol) ar nifer y cyplau â 0, 1 a 2 unigolyn yn ennill

% y cyplau â nifer benodedig yn ennill o danY System Llinell Sylfaen Y System Diwygiadau (gan

gynnwys Credyd Cynhwysol)

Pob CwpwlNeb yn ennill 2.0 1.7Un yn ennill 20.5 21.4Y ddau yn ennill 77.4 76.9

Cyplau â phlantNeb yn ennill 3.0 2.5Un yn ennill 27.0 28.9Y ddau yn ennill 70.0 68.6

Cyplau heb blantNeb yn ennill 0.9 0.8Un yn ennill 13.1 12.8Y ddau yn ennill 86.0 86.4Ffynhonnell: Amcangyfrif: FRS 1996-97 i 2009-10 a chyfrifiadau awduron. Efelychu: FRS 2007-08 i 2009-10 a chyfrifiadau awduron.

Yr effaith a ragfynegir ar oriau gwaithMae Tabl 5.8 yn dangos effaith amcangyfrifedig y diwygiadau lles (gan gynnwys Credyd Cynhwysol) ar oriau gwaith. Ar gyfer y sampl cyfan, rhagfynegir na fydd oriau gwaith cyfartalog (gan gynnwys unigolion nad ydynt yn gweithio) yn newid o gymharu â'r system les (2010) llinell sylfaen. Fodd bynnag, mae hyn yn cuddio gwahaniaethau rhwng gwahanol rannau o'r boblogaeth.

Mae'r modelau yn rhagfynegi y bydd oriau gwaith cyfartalog pob mam unigol yn y sampl yn parhau'n gyson ar 18.1 ond yn gostwng o 26.9 i 26.5 i'r rheini sy'n gweithio. Mae hyn yn adlewyrchu cynnydd a ragfynegir yn nifer y rheini unigol sy'n gweithio rhwng 1 a 15 awr yr wythnos (o 4.0% i 4.15%), cynnydd o ran y rheini sy'n gweithio rhwng 16 a 29 awr (o 29.3% i 30.4%), wedi'u gwrthbwyso gan ostyngiad yn y rheini y rhagfynegir y byddant mewn gwaith llawn amser (o 31.8% i 30.9%).

Mae hyn yn adlewyrchu effaith Credyd Cynhwysol ar y cymhelliant i weithio gwahanol nifer o oriau. Bydd gweithio dim ond 1-15 awr yn dod yn llawer mwy deniadol wrth i anwybyddiadau uwch a chyfraddau tapro is ar gyfer budd-daliadau gynyddu lefelau incwm net o gymharu â'r lefelau cyn Credyd Cynhwysol: o dan y system llinell sylfaen, nid yw anwybyddiad enillion bach (£20 yr wythnos) a gostyngiad punt-am-bunt mewn Cymhorthdal Incwm wrth i enillion gynyddu yn darparu llawer o gymhelliant i weithio cyn

82

Page 88: An ex-ante analysis effects of the UK Government’s … · Web viewAriannwyd yr ymchwil hon gan Lywodraeth Cymru a Chanolfan er Dadansoddi Microeconomaidd Polisi Cyhoeddus ESRC yn

lleied o oriau. Ar y llaw arall, bydd cael gwared ar y neidiau mewn enillion ar 30 awr i unigolion ar gyflog isel y mae ganddynt yr hawl i Gredyd Treth Gwaith ar hyn o bryd yn lleihau incwm net a, thrwy hynny, y cymhelliant i lawer o famau unigol weithio oriau hwy. Gallai'r ffactor hwn hefyd chwarae

83

Page 89: An ex-ante analysis effects of the UK Government’s … · Web viewAriannwyd yr ymchwil hon gan Lywodraeth Cymru a Chanolfan er Dadansoddi Microeconomaidd Polisi Cyhoeddus ESRC yn

Tabl 5.8. Effaith amcangyfrifedig diwygiadau lles (gan gynnwys Credyd Cynhwysol) ar oriau gwaith fesul wythnos

Mamau Unigol

Cyplau â Phlant Cyplau heb Blant Sampl CyfanDynion Menywod Dynion Menywod

Llinell sylfaenOriau gwaith cyfartalog 18.1 38.7 21.9 39.8 31.0 31.2Oriau gwaith cyfartalog os yn gweithio

26.9 Dd/G 28.4 Dd/G 33.8 Dd/G

% sy'n gweithio 1–16 awr 4.0 Dd/G 8.0 Dd/G 3.9 Dd/G% sy'n gweithio 16–29 awr 29.3 Dd/G 27.5 Dd/G 16.1 Dd/G% sy'n gweithio 30+ awr 31.8 Dd/G 39.9 Dd/G 71.1 Dd/G

Newid mewnOriau gwaith cyfartalog 0.0 -0.1 -0.0 0.0 0.1 -0.0Oriau gwaith cyfartalog os yn gweithio

-0.4 Dd/G 0.1 Dd/G -0.0 Dd/G

yn gweithio 1–15 awr (pwynt %) 0.9 Dd/G 0.1 Dd/G 0.0 Dd/Gyn gweithio 16–29 awr (pwynt %) 1.1 Dd/G -1.0 Dd/G 0.3 Dd/Gyn gweithio 30+ awr (pwynt %) -0.8 Dd/G 0.4 Dd/G 0.0 Dd/G

DiwygiadOriau gwaith cyfartalog 18.1 38.6 21.9 39.8 31.1 31.2Oriau gwaith cyfartalog os yn gweithio

26.5 Dd/G 28.5 Dd/G 33.8 Dd/G

% sy'n gweithio 1–16 awr 4.9 Dd/G 8.1 Dd/G 3.9 Dd/G% sy'n gweithio 16–29 awr 30.4 Dd/G 26.6 Dd/G 16.5 Dd/G

84

Page 90: An ex-ante analysis effects of the UK Government’s … · Web viewAriannwyd yr ymchwil hon gan Lywodraeth Cymru a Chanolfan er Dadansoddi Microeconomaidd Polisi Cyhoeddus ESRC yn

% sy'n gweithio 30+ awr 30.9 Dd/G 40.3 Dd/G 71.1 Dd/GFfynhonnell: Amcangyfrif: FRS 1996-97 i 2009-10 a chyfrifiadau awduron. Efelychu: FRS 2007-08 i 2009-10 a chyfrifiadau awduron.

85

Page 91: An ex-ante analysis effects of the UK Government’s … · Web viewAriannwyd yr ymchwil hon gan Lywodraeth Cymru a Chanolfan er Dadansoddi Microeconomaidd Polisi Cyhoeddus ESRC yn

rhan wrth egluro'r gostyngiad bach a ragfynegir o ran lefelau cyflogaeth ymhlith dynion mewn cyplau â phlant (y bydd llawer ohonynt yn brif enillwr mewn teulu).

Ymhlith menywod mewn cyplau â phlant, mae'r darlun yn wahanol iawn: disgwylir i'r ffracsiwn sy'n gweithio mewn swyddi am 16 i 29 awr ostwng, a disgwylir i'r ffracsiwn sy'n gweithio 30 awr neu fwy yr wythnos gynyddu ychydig. Rhagwelir cynnydd bach o 0.1 awr yr wythnos o ran oriau gwaith cyfartalog cyplau heb blant.

CrynodebMae'r canlyniadau yn awgrymu ar gyfer y sampl a ystyriwyd, y bydd cyflwyno'r Credyd Cynhwysol, i raddau helaeth, yn gwrthbwyso'r cynnydd bach o ran lefelau cyflogaeth a ragfynegwyd o ganlyniad i'r diwygiadau lles cynharach, gan olygu na fydd llawer o newid o ran lefelau cyflogaeth o gymharu â'r canlyniadau o dan y system les llinell sylfaen (cynnydd o 300 o gymharu â lefel cyflogaeth llinell sylfaen o tua 615,000). Mae hyn yn deillio o ostyngiad a ragfynegir o ran lefelau cyflogaeth ymhlith cyplau â phlant, y ceir cynnydd cymharol sylweddol yn eu CDGau cyfartalog gan fod gan y rhan fwyaf ohonynt bartner sy'n gweithio.

Mae'r effaith negyddol y rhagfynegir y bydd Credyd Cynhwysol yn ei chael ar gyflogaeth ymhlith ein sampl o famau unigol a chyplau yng Nghymru yn groes i nodau'r polisi (sef annog unigolion i weithio a chynyddu lefelau cyflogaeth). Mae hefyd braidd yn annisgwyl o ystyried y dadansoddiad a gyflwynwyd ym Mhennod 3, a awgrymodd y bydd y Credyd Cynhwysol yn arwain at sefyllfa lle caiff y cymhellion ariannol i weithio (gostyngiad yn y CDG) eu hatgyfnerthu, ar gyfartaledd, yn enwedig i'r rheini mewn cyplau â phartneriaid nad ydynt yn gweithio. Fodd bynnag, gall adlewyrchu'r ffaith, er ei fod yn cynyddu'r cymhellion ariannol i fod ag un partner mewn cwpwl yn gweithio, ei fod yn lleihau'r cymhelliant i gael ail bartner yn gweithio. Mae'n bwysig cofio nad yw'r sampl y gallwn efelychu ymddygiad ar ei gyfer gan ddefnyddio ein modelau amcangyfrifedig o'r cyflenwad llafur yn cynnwys nifer sylweddol o bobl: ni chaiff tua 25% o famau unigol, a thua 42% o bobl o oedran gweithio mewn cyplau eu cynnwys o ganlyniad i'r meini prawf dewis sampl a ddefnyddir gennym i greu sampl sy'n addas ar gyfer amcangyfrif y model canonig o'r cyflenwad llafur a ddefnyddir gennym yn y bennod hon. Felly mae Pennod 6 yn defnyddio dull 'calibradu ac efelychu' i ddadansoddi effaith y diwygiadau ar y cyflenwad llafur ar gyfer y boblogaeth gyfan o oedran gweithio yng Nghymru. Mae Adran 6.3 o'r bennod yn cymharu canlyniadau’r ddau ddull o weithredu.

86

Page 92: An ex-ante analysis effects of the UK Government’s … · Web viewAriannwyd yr ymchwil hon gan Lywodraeth Cymru a Chanolfan er Dadansoddi Microeconomaidd Polisi Cyhoeddus ESRC yn

6. Modelu effaith y diwygiadau lles: calibradu ac efelychuEin hail ddull o fodelu effeithiau diwygiadau lles Llywodraeth y DU ar y cyflenwad llafur yw defnyddio dull calibradu. Mae hyn yn cynnwys rhannu'r boblogaeth i grwpiau (yn seiliedig ar incwm a nodweddion demograffig) a thybio hydwytheddau credadwy ar gyfer y cyflenwad llafur ar gyfer pob grŵp o weithwyr, yn seiliedig ar yr adolygiad o lenyddiaeth ym Mhennod 4. Yn benodol, rydym yn tybio hydwytheddau ar gyfer dau benderfyniad: y penderfyniad i fod mewn gwaith cyflogedig neu beidio (y penderfyniad 'helaeth' neu gyflogaeth); ac, i'r rheini sy'n gweithio, y penderfyniad pa un a ddylid cynyddu neu ostwng eu horiau gwaith cyflogedig ychydig (y penderfyniad 'dwys' neu oriau). Gellir cyfuno'r hydwytheddau hyn gyda'n newidiadau amcangyfrifedig o ran CDG a CDYE er mwyn rhagfynegi newidiadau o ran cyflogaeth ac oriau gwaith ar draws y boblogaeth. Caiff ein methodoleg a'r hydwytheddau a dybir gennym eu disgrifio'n fanylach yn Atodiad E.

Prif fantais y dull gweithredu hwn yw ei fod yn gymharol syml, yn dryloyw ac y gellir ei gymhwyso ar draws y boblogaeth gyfan. Mae'n golygu hefyd y gallwn ddefnyddio'r hyn a ddysgwyd o ddegawdau o waith ymchwil gofalus i hydwytheddau llafur a wnaed yn y gorffennol.26 Ond dylem gydnabod bod nifer o anfanteision, sy'n golygu mai dim ond fel canlyniadau dangosol y dylid ystyried y canlyniadau.

Yn gyntaf, dim ond canllawiau cyfyngedig a ddarperir gan y llenyddiaeth a gaiff ei hadolygu ym Mhennod 4 o ran pa hydwytheddau i'w dewis, am dri rheswm:

1. Mae'r llenyddiaeth yn llawer mwy datblygedig ar gyfer rhai grwpiau o'r boblogaeth nag eraill: yn arbennig, yn aml caiff y grwpiau a gaiff eu heithrio o'n model ym Mhennod 5 (pobl hunangyflogedig, pobl anabl, pobl dros 59 oed neu o dan 22 oed, a phartneriaid y bobl hyn oll, yn ogystal â'r grŵp mawr iawn o bobl sengl heb blant) eu heithrio o fodelau eraill hefyd am resymau tebyg, ac felly mae amcangyfrifon hydwythedd sy'n cynnwys y grwpiau hyn yn fwy anghyffredin. Felly er mai un o fanteision y dull calibradu a fabwysiedir yn y bennod hon yw'r ffaith y gellir ei gymhwyso i boblogaeth ehangach na'r dull amcangyfrif yn y bennod flaenorol, rhaid i ni gydnabod bod yr amcangyfrifon calibradu yn fwy ansicr ar gyfer y grwpiau ychwanegol hyn. Yn adran 6.3, felly, dangoswn sut y bydd ein canlyniadau yn newid drwy ond ystyried yr is-set o'r boblogaeth a gynhwyswyd yn ein dadansoddiad ym Mhennod 5.

2. Hyd yn oed lle ceir llenyddiaeth ddatblygedig, mae'n amlwg o Bennod 4 bod cryn ansicrwydd ynghylch yr hydwytheddau gan fod gwahanol astudiaethau yn arwain at wahanol ganfyddiadau.

3. Mae'r hydwytheddau cyflogaeth sydd eu hangen ar gyfer ein dull calibradu yn cynnwys hydwytheddau cyflogaeth o ran yr elfen budd o weithio (neu yn yr un modd, o ran un llai'r CDG). Fodd bynnag, fel y trafodir ym Mhennod 4, ni chyflwynir adroddiadau ar hydwytheddau ar y ffurf hon yn y llenyddiaeth ar y cyflenwad llafur: mae'r llenyddiaeth yn cyflwyno adroddiadau ar incwm mewn gwaith (neu enillion crynswth weithiau), yn hytrach na'r gwahaniaeth rhwng incwm mewn gwaith ac incwm allan o waith. Wrth ddewis pa hydwytheddau i'w tybio, rhaid i ni felly eu 'trosi' o un ffurf i'r ffurf arall. Rydym yn cynnal gwaith trosi o'r fath yn Atodiad E, ond gan mai dim ond o dan rai tybiaethau penodol, na fyddant yn gwbl berthnasol yn ymarferol, y mae'r trosiad yn ddilys, mae mwy o ansicrwydd byth o ran beth yw'r hydwytheddau gwirioneddol o ran budd o weithio.

26 Am y rhesymau hynny, defnyddiwyd y dull calibradu mewn nifer o astudiaethau diweddar, gan gynnwys Adam (2005), Immervol et al. (2007), Y Ganolfan Cyfiawnder Cymdeithasol (2009), Brewer, Saez a Shephard (2010) a Mirrlees et al. (2011).

87

Page 93: An ex-ante analysis effects of the UK Government’s … · Web viewAriannwyd yr ymchwil hon gan Lywodraeth Cymru a Chanolfan er Dadansoddi Microeconomaidd Polisi Cyhoeddus ESRC yn

O ystyried yr ansicrwydd ynghylch yr hydwytheddau gwirioneddol, mae'n bwysig cynnal dadansoddiad sensitifrwydd o wahanol hydwytheddau yn ogystal â chynnal dyfaliad canolog gorau o ran yr hydwytheddau. Cyflwynir dadansoddiad sensitifrwydd o'r fath gennym yn Adran 6.2.

Ail anfantais y dull calibradu yw ei fod yn tybio mai dim ond drwy newid eich CDG, sef cyfran yr enillion crynswth y byddwch yn ei chadw (gyda'r gweddill yn cael ei dalu mewn trethi neu ei golli mewn budd-daliadau) y gall newidiadau mewn trethi a budd-daliadau effeithio ar p'un a fyddwch yn dechrau gweithio, ac mai dim ond drwy newid eich CDYE, sef cyfran unrhyw enillion crynswth ychwanegol y byddech yn ei chadw y byddant yn effeithio ar eich oriau gwaith. Ond er bod CDGau a CDYEau yn fesurau cryno defnyddiol, nid ydynt yn rhoi'r darlun cyflawn. Nid ydynt yn ystyried 'effeithiau ar incwm' fel y'u trafodir ym Mhennod 4: ni chaiff pa un a fydd y diwygiadau yn eich gwneud yn fwy cyfoethog neu'n fwy tlawd (gan newid yr angen i weithio yn hytrach na'r enillion o weithio), ynddo'i hun, effeithio ar p'un a fyddwch yn gweithio na faint y byddwch yn ei weithio. Mae gwaith blaenorol gan ddefnyddio'r fethodoleg hon wedi tueddu i ganolbwyntio ar ddadansoddi diwygiadau sy'n niwtral o ran refeniw, lle y gellir dadlau y bydd effeithiau ar incwm yn tueddu i negyddu ei gilydd ar draws y boblogaeth, hyd yn oed os mai dim ond amcangyfrifiad bras yw hyn gan na fydd pawb yn ymateb yn yr un ffordd i newid yn eu hincwm. Yn ein hachos ni, mae'r diwygiadau rydym yn eu dadansoddi ymhell o fod yn niwtral o ran refeniw, gan olygu ei bod yn anos diystyru'r effeithiau ar incwm. Ar lefel ymarferol, mae anwybyddu effeithiau ar incwm yn ei gwneud hi'n anodd gwybod pa un a ddylid seilio'r hydwytheddau tybiedig ar yr hydwytheddau a ddigolledwyd neu'r hydwytheddau nas digolledwyd a amcangyfrifwyd yn y llenyddiaeth: er bod y rhan fwyaf o astudiaethau yn dod i'r casgliad bod yr effeithiau ar incwm yn gymharol fach, nid awgrymir o gwbl eu bod yn agos at ddim, ac yn aml mae amcangyfrifon o hydwytheddau a ddigolledwyd a hydwytheddau nas digolledwyd yn wahanol iawn.

Mae tybio mai dim ond drwy CDGau a CDYEau y mae newidiadau o ran cymhellion i weithio yn weithredol hefyd yn diystyru newidiadau sydyn o ran oriau gwaith heblaw am roi'r gorau i weithio'n llwyr, tybiaeth y gellir codi cwestiynau yn ei chylch. Er enghraifft, bydd y broses o gyflwyno'r Credyd Cynhwysol yn arwain at ddiddymu'r rheol 16 awr o ran cymhwysedd ar gyfer credyd treth. Gall rhywun sy'n gweithio 16 awr ar hyn o bryd er mwyn bod yn gymwys i gael Credyd Treth Gwaith benderfynu cwtogi ei oriau gwaith pan gaiff y rheol ei diddymu, hyd yn oed os na fydd y diwygiad yn effeithio ar y gyfran o unrhyw enillion ychwanegol y byddent yn cael ei chadw pe byddent yn parhau i weithio 16 awr. Mae'r rhain oll yn nodweddion sydd wedi'u cynnwys yn benodol yn y model a nodir yn y bennod flaenorol.

6.1 Canlyniadau efelychuDrwy'r boblogaeth oedran gweithio gyfan yng Nghymru, ein hamcangyfrif canolog yw y byddai'r canlynol yn berthnasol i'r diwygiadau, heb gynnwys y Credyd Cynhwysol:

ni fyddai unrhyw effaith ar y gyfradd gyflogaeth gyffredinol; byddai'r oriau gwaith cyfunol a gaiff eu gweithio gan gyflogeion yn cynyddu 0.4%; byddai enillion crynswth cyfunol yn cynyddu 0.2%, neu tua £60 miliwn.

Gan gynnwys Credyd Cynhwysol, amcangyfrifwn y byddai'r diwygiad yn:

cynyddu cyflogaeth 0.3 pwynt canran, neu tua 5,000 o bobl; cynyddu'r oriau cyfunol a gaiff eu gweithio 1.0%; cynyddu enillion crynswth cyfunol 0.5%, neu tua £150 miliwn.

88

Page 94: An ex-ante analysis effects of the UK Government’s … · Web viewAriannwyd yr ymchwil hon gan Lywodraeth Cymru a Chanolfan er Dadansoddi Microeconomaidd Polisi Cyhoeddus ESRC yn

Mae Tabl 6.1 yn rhoi manylion o'r newidiadau amcangyfrifedig o ran cyflogaeth, oriau ac enillion pobl â gwahanol amgylchiadau teuluol ar gyfer y diwygiadau, heb gynnwys y Credyd Cynhwysol. Nid yw'n syndod bod cyfraddau cyflogaeth yn codi'n gyffredinol ar gyfer y grwpiau hynny y mae eu CDGau cyfartalog yn gostwng. Felly, yn unol â'r newidiadau o ran cymhellion i weithio a ddisgrifir ym Mhennod 3, gwelwn fod cyflogaeth yn gostwng ymhlith rhieni unigol a phobl â phartneriaid nad ydynt yn gweithio, a'i bod yn cynyddu ymhlith pobl sengl heb blant a phobl â phartneriaid sy'n gweithio, gyda'r newidiadau gwrthbwysol hyn yn arwain at y newid cyffredinol o ddim o ran cyflogaeth y cyfeirir ato uchod.

Mae newidiadau mwy o ran cyflogaeth yn gysylltiedig â newidiadau mwy o ran CDGau, ond maent hefyd yn gysylltiedig â bod yn rhan o grŵp rydym yn tybio hydwytheddau cyfranogi uchel ar ei gyfer. Fodd bynnag, mae'r canlyniadau hefyd yn adlewyrchu amrywiadau o fewn y grwpiau hyn: mae effaith y diwygiadau lles ar CDGau yn amrywio'n sylweddol o fewn pob un o'r grwpiau hyn, a cheir amrywiad sylweddol hefyd o ran hydwytheddau o fewn grwpiau (yn arbennig yn ôl enillion ac oedran y plentyn ifancaf). Nid yw'r gyfradd gyflogaeth gyffredinol yn newid er gwaethaf y gostyngiad o ran CDGau cyfartalog gan fod y bobl hynny y caiff eu CDGau eu lleihau gan y diwygiad yn nodweddiadol yn llai ymatebol na'r rheini y caiff eu CDGau eu cynyddu.

Hyd yn oed o fewn y grwpiau gwahanol a nodir yn Nhabl 6.1, mae'r ffaith bod y newidiadau mor fach yn drawiadol. Yn fwyaf nodedig, ymhlith mamau â phartneriaid nad ydynt yn gweithio, dim ond 600 y mae'r nifer mewn gwaith cyflogedig yn gostwng er gwaethaf cynnydd o bron i 20 pwynt canran yn eu CDG gyfartalog. Y rheswm dros y canfyddiad syfrdanol hwn i raddau helaeth yw'r ffaith bod y grŵp hwn yn fach ac yn gymharol anymatebol, a'i fod yn wynebu CDGau isel o'r cychwyn.27

Ymhlith y grwpiau lle ceir cynnydd o ran cyflogaeth, mae'r cynnydd yn y gyfradd gyflogaeth yn gymharol gyson, sef tua 0.1-0.2 pwynt canran. Mewn termau absoliwt, mae hyn yn golygu y daw'r codiadau mwyaf o ran cyflogaeth o'r mwyaf niferus o blith y grwpiau hyn, sef pobl sengl heb blant a menywod â phartneriaid sy'n gweithio a heb blant, sydd gyda'i gilydd yn cyfrif am tua 1,200 yn fwy o bobl mewn gwaith.

Dim ond ar gyfer cyflogeion y nodir y newidiadau o ran oriau gwaith cyfunol (nid oes data mor gyflawn ar gael ar gyfer oriau gwaith pobl hunangyflogedig), ac maent yn adlewyrchu cyfuniad o newidiadau o ran nifer y bobl sy'n gweithio a newidiadau yn yr oriau a gaiff eu gweithio gan y rheini sydd eisoes wedi'u cyflogi. Yn unol â hyn, mae CDGau a CDYEau, a hydwytheddau cyflogaeth ac oriau yn effeithio arnynt. Heb unrhyw newid i'r gyfradd gyflogaeth gyffredinol, gallem ddisgwyl y byddai'r gostyngiad o ran CDYEau cyfartalog yn arwain at gynnydd yn yr oriau a gaiff eu gweithio - er y gallai hyn fod yn gymhleth oherwydd gallai'r rheini sy'n dechrau gweithio weithio gwahanol oriau i'r rheini sy'n rhoi'r gorau i weithio, a gall gweithwyr presennol y bydd eu CDYE yn cynyddu fod yn fwy neu'n llai ymatebol na'r rheini y bydd eu CDYE yn lleihau. Fel y mae, mae'r oriau cyffredinol yn cynyddu 0.4%. Mae oriau gwaith yn gostwng ymhlith y rheini â phartneriaid nad ydynt yn gweithio (ac eithrio mamau â phartneriaid nad

27 Er mwyn egluro'n llawnach, mae cynnydd o 19.6 pwynt canran yn CDG cyfartalog merched â phartneriaid nad ydynt yn gweithio yn arwain at ostyngiad o ddim ond 600 yn y nifer a gyflogir am y rhesymau canlynol:

- Mae gan y grŵp hwn CDGau isel. Fel y pwysleisiwyd ym Mhennod 3, bydd cynnydd yn y CDG cyfartalog o tua 40% i 60% (sef yr hyn a brofir yn nodweddiadol gan y grŵp hwn) yn cael effaith llawer llai ar ymddygiad nag, er enghraifft, cynnydd o 70% i 90%. Mae cynnydd o 40% i 60% yn golygu y caiff y budd-o-weithio ei leihau draean, lle y byddai cynnydd o 70% i 90% yn golygu y câi ei leihau dwy ran o dair.

- Mae gan y grŵp hwn gyfraddau amnewid uchel, felly mae'r hydwytheddau cymedrol o ran incwm mewn gwaith a awgrymir gan y llenyddiaeth (sef cyfartaledd o tua 0.26) yn awgrymu hydwytheddau isel braidd o ran y budd-o-weithio (sef cyfartaledd o tua 0.07).

Mae'r grŵp hwn yn fach iawn (45,000 o bobl) gyda chyfradd gyflogaeth isel iawn (34%), felly mae newid canrannol cymedrol yn y nifer a gyflogir (gostyngiad o 3.7%) yn cyfateb i newid bach iawn yn y nifer absoliwt a gyflogir (600).

89

Page 95: An ex-ante analysis effects of the UK Government’s … · Web viewAriannwyd yr ymchwil hon gan Lywodraeth Cymru a Chanolfan er Dadansoddi Microeconomaidd Polisi Cyhoeddus ESRC yn

ydynt yn gweithio), ond yn cynyddu ymhlith grwpiau eraill, mwy niferus. Nid yw enillion cyfunol yn newid o gymharu â'r oriau a gaiff eu gweithio, oherwydd gallai'r rheini o fewn pob grŵp sy'n dechrau gweithio neu'n cynyddu eu horiau gwaith fod yn ennill cyflog anarferol o uchel neu isel. Fel y gwelsom yn gynharach, mae'r toriadau lles yn effeithio ar gymhellion i weithio mewn ffyrdd gwahanol ar wahanol lefelau enillion.

Ar y cyfan, mae'r newidiadau a nodir yn Nhabl 6.1 yn fach - gan beri syndod efallai, o ystyried graddau'r toriadau lles. Unwaith y caiff Credyd Cynhwysol ei gynnwys (Tabl 6.2), mae'r newidiadau rywfaint yn fwy, ond yn dal yn gymharol fach. Mae cyfraddau cyflogaeth dynion a menywod â phartneriaid nad ydynt yn gweithio a heb blant yn cynyddu 2.0 ac 1.1 pwynt canran yn y drefn honno: mae'r ffigurau hyn yn cyfateb i fwy na 3,000 o deuluoedd ychwanegol yng Nghymru (y rheini sy'n dynesu at oedran ymddeol gan fwyaf) â rhywun mewn gwaith cyflogedig nag a fyddai wedi bod mewn gwaith fel arall. Mae'r codiadau canrannol mwyaf o ran oriau a gaiff eu gweithio ac enillion crynswth yn amlwg i'w gweld ymhlith rhieni unigol a mamau â phartneriaid nad ydynt yn gweithio, sef grwpiau ymatebol (er yn grwpiau bach) y mae'r cymhellion iddynt gynyddu eu henillion oherwydd y Credyd Cynhwysol (yn achos mamau unigol) a thoriadau budd-dal (yn achos mamau â phartneriaid nad ydynt yn gweithio) lawer yn uwch - enghraifft o atgyfnerthu'r cymhellion sy'n llawer mwy grymus am fod gan y grwpiau hyn CDYEau uchel iawn i ddechrau. Caiff gostyngiadau o ran cyflogaeth ac enillion eu cyfyngu i'r rheini â phlant y mae eu partneriaid yn gweithio: fel y gwelsom ym Mhennod 3, mae'r profion ar sail modd llawer llai bygythiol sy'n gysylltiedig â'r Credyd Cynhwysol yn lleihau'n sylweddol y cymhellion i deuluoedd â phlant sicrhau bod ail unigolyn yn gweithio - neu i'r ail unigolyn sy'n ennill o fewn teuluoedd o'r fath gynyddu ei enillion - am fod mwy o gymorth ar gael gan y wladwriaeth os mai dim ond un o'r cwpwl sy'n ennill cyflog sylweddol i'r teulu.

Er gwaethaf yr effaith andwyol hon ar ymddygiad (gwirioneddol neu bosibl) cyplau â dau berson yn ennill cyflog, mae'r amcangyfrifon hyn yn awgrymu y gallai diwygiadau lles y llywodraeth ysgogi ymatebion ymhlith y cyflenwad llafur sy'n ychwanegu tua £150 miliwn i enillion crynswth pobl yng Nghymru, ac y byddai'r gyfran fwyaf o'r enillion hynny yn mynd i rieni unigol, sef grŵp sy'n arbennig o agored i niwed.

90

Page 96: An ex-ante analysis effects of the UK Government’s … · Web viewAriannwyd yr ymchwil hon gan Lywodraeth Cymru a Chanolfan er Dadansoddi Microeconomaidd Polisi Cyhoeddus ESRC yn

Tabl 6.1 Effeithiau diwygiadau lles heb gynnwys Credyd Cynhwysol: amcangyfrifon canolog

Math o deulu Nifer Nifer a gyflogir

Newid o ran CDG gyfartalo

g

Newid o ran CDYE gyfartalo

g

Newid o ran nifer a gyflogir

Newid o ran y gyfradd

gyflogaeth (pwyntiau

canran)

Newid % o ran yr oriau cyfunol a

gaiff eu gweithio (heb gynnwys

pobl hunangyflogedig)

Newid % o ran enillion crynswth cyfunol

Newid o ran enillion

crynswth cyfunol (£m)

Sengl, dim plant 452,000 258,000 -1.0% -1.4% 600 0.1 0.6% 0.4% 22Rhiant unigol 104,000 56,000 2.2% -1.5% -400 -0.4 1.1% 0.5% 4Dyn, dim plant, partner sy'n gweithio 215,000 191,000 -1.9% -1.0% 300 0.2 0.4% 0.2% 11Dyn, dim plant, partner nad yw'n gweithio 99,000 52,000 -0.1% 1.6% -300 -0.3 -1.0% -0.4% -6Dyn, plant, partner sy'n gweithio 190,000 175,000 -2.4% -0.8% 400 0.2 0.4% 0.2% 9Dyn, plant, partner nad yw'n gweithio 78,000 49,000 3.7% 0.8% -500 -0.6 -1.9% -1.1% -16Menyw, dim plant, partner sy'n gweithio 245,000 192,000 -2.3% -1.0% 600 0.2 0.5% 0.3% 12Menyw, dim plant, partner nad yw'n gweithio

105,000 37,000 0.2% -2.0%-300 -0.3 -0.2% -0.3% -2

Menyw, plant, partner sy'n gweithio 223,000 175,000 -0.8% -1.3% 100 0.1 0.8% 0.7% 23Menyw, plant, partner nad yw'n gweithio 45,000 15,000 19.6% -11.9% -600 -1.2 1.8% 0.9% 2

Cyfanswm 1,756,000

1,198,000 -0.4% -1.1% 0 0.0 0.4% 0.2% 58

91

Page 97: An ex-ante analysis effects of the UK Government’s … · Web viewAriannwyd yr ymchwil hon gan Lywodraeth Cymru a Chanolfan er Dadansoddi Microeconomaidd Polisi Cyhoeddus ESRC yn

Tabl 6.2 Effeithiau diwygiadau lles gan gynnwys Credyd Cynhwysol: amcangyfrifon canolog

Math o deulu Nifer Nifer a gyflogir

Newid o ran CDG gyfartalo

g

Newid o ran CDYE gyfartalo

g

Newid o ran nifer a gyflogir

Newid o ran y gyfradd

gyflogaeth (pwyntiau

canran)

Newid % o ran yr oriau cyfunol a

gaiff eu gweithio (heb gynnwys

pobl hunangyflogedig)

Newid % o ran enillion crynswth cyfunol

Newid o ran enillion

crynswth cyfunol (£m)

Sengl, dim plant 452,000 258,000 -1.8% -1.7% 1,800 0.4 1.2% 0.6% 35Rhiant unigol 104,000 56,000 0.1% -12.3% 800 0.8 7.0% 5.1% 44Dyn, dim plant, partner sy'n gweithio 215,000 191,000 -1.1% -1.2% 700 0.3 0.3% 0.1% 7Dyn, dim plant, partner nad yw'n gweithio 99,000 52,000 -3.7% 3.9% 2,000 2.0 0.4% 0.5% 8Dyn, plant, partner sy'n gweithio 190,000 175,000 2.5% -2.0% -900 -0.5 0.3% 0.0% 0Dyn, plant, partner nad yw'n gweithio 78,000 49,000 -5.9% 3.5% 600 0.8 1.3% 0.5% 7Menyw, dim plant, partner sy'n gweithio 245,000 192,000 -0.9% -1.2% 500 0.2 0.8% 0.4% 18Menyw, dim plant, partner nad yw'n gweithio 105,000 37,000

-4.0% 1.8%1,200 1.1 1.3% 0.5% 3

Menyw, plant, partner sy'n gweithio 223,000 175,000 4.6% -0.9% -1,800 -0.8 0.1% 0.2% 7Menyw, plant, partner nad yw'n gweithio 45,000 15,000 -7.3% -8.8% 100 0.2 11.2% 9.7% 21

Cyfanswm 1,756,000

1,198,000 -0.8% -1.5% 5,000 0.3 1.0% 0.5% 149

92

Page 98: An ex-ante analysis effects of the UK Government’s … · Web viewAriannwyd yr ymchwil hon gan Lywodraeth Cymru a Chanolfan er Dadansoddi Microeconomaidd Polisi Cyhoeddus ESRC yn

6.2 Dadansoddi sensitifrwyddGan fod cryn dipyn o ansicrwydd ynghylch maint hydwytheddau'r cyflenwad llafur, yn yr adran hon, profwn sensitifrwydd y rhagfynegiadau cyflogaeth o ran y dewis o hydwytheddau, gan ddefnyddio'r llenyddiaeth i ddiffinio senarios ymatebolrwydd isel ac uchel. Ni ddylid ystyried eu bod yn rhoi terfyn uchaf ac isaf ar effaith bosibl y diwygiadau. Yn lle hynny, maent yn dangos i ba raddau y mae ansicrwydd ynghylch ymatebolrwydd pobl i gymhellion ariannol i weithio yn cyfateb i ansicrwydd ynghylch effeithiau tebygol y diwygiadau lles ar y cyflenwad llafur.

Senario ymatebolrwydd iselYn ein senario 'ymatebolrwydd isel', rydym yn lleihau'r hydwytheddau dwys a dybiwyd yn y senario ganolog tua thri chwarter (ond yn fwy i ddynion ac i fenywod sengl heb blant nag i fenywod eraill), fel mai'r hydwythedd dwys cyfartalog yw 0.038. Yn syml, caiff yr hydwytheddau dwys eu haneru o gymharu â'n senario ganolog, er mwyn sicrhau ar draws y boblogaeth gyfan a gaiff ei dadansoddi gennym, fod ein senario ymatebolrwydd isel ar gyfer hydwythedd dwys cyfartalog cyffredinol o 0.0159 o ran incwm mewn gwaith ac 0.064 o ran budd o weithio (gweler Atodiad E am fanylion llawn).

Roedd effeithiau'r diwygiadau heb gynnwys Credyd Cynhwysol ar y cyflenwad llafur yn ymddangos yn fach yn ein senario ganolog; os bydd yr hydwytheddau yn sylweddol is na hynny, bydd yr effeithiau, fwy neu lai, yn peidio â bodoli. Drwy'r boblogaeth oedran gweithio gyfan yng Nghymru, byddai'r lefelau ymatebolrwydd is hyn yn awgrymu y byddai'r canlynol yn berthnasol i'r diwygiadau heb gynnwys Credyd Cynhwysol;

prin iawn fyddai'r effaith ar y gyfradd gyflogaeth gyffredinol yng Nghymru; byddai'r oriau gwaith cyfunol a gaiff eu gweithio gan gyflogeion yn cynyddu 0.1%; byddai enillion crynswth cyfunol yn cynyddu 0.1%, neu tua £16 miliwn.

Dengys Tabl 6.3 fod yr effeithiau yn ymddangos yn fach ar draws amrywiaeth o amgylchiadau teuluol. Er y gallai rhai effeithiau fod yn gwrthbwyso ei gilydd ar lefel unigolion, mae'r darlun yn glir: os yw hydwytheddau'r cyflenwad llafur mor isel ag y mae rhywfaint o'r llenyddiaeth yn ei awgrymu, mae'n bosibl mai prin iawn fydd yr effaith a gaiff y newidiadau i gymhellion ariannol yn deillio o ddiwygiadau lles Llywodraeth y DU (heb gynnwys Credyd Cynhwysol).

93

Page 99: An ex-ante analysis effects of the UK Government’s … · Web viewAriannwyd yr ymchwil hon gan Lywodraeth Cymru a Chanolfan er Dadansoddi Microeconomaidd Polisi Cyhoeddus ESRC yn

Tabl 6.3 Effeithiau diwygiadau lles heb gynnwys Credyd Cynhwysol: senario ymatebolrwydd isel

Math o deulu Nifer Nifer a gyflogir

Newid o ran CDG gyfartalo

g

Newid o ran CDYE gyfartalo

g

Newid o ran nifer a gyflogir

Newid o ran y gyfradd

gyflogaeth (pwyntiau

canran)

Newid % o ran yr oriau cyfunol a

gaiff eu gweithio (heb gynnwys

pobl hunangyflogedig)

Newid % o ran enillion crynswth cyfunol

Newid o ran enillion

crynswth cyfunol (£m)

Sengl, dim plant 452,000 258,000 -1.0% -1.4% 300 0.1 0.2% 0.1% 6Rhiant unigol 104,000 56,000 2.2% -1.5% -200 -0.2 0.1% -0.1% -1Dyn, dim plant, partner sy'n gweithio 215,000 191,000 -1.9% -1.0% 200 0.1 0.1% 0.1% 3Dyn, dim plant, partner nad yw'n gweithio 99,000 52,000 -0.1% 1.6% -100 -0.1 -0.2% -0.1% -2Dyn, plant, partner sy'n gweithio 190,000 175,000 -2.4% -0.8% 200 0.1 0.1% 0.1% 4Dyn, plant, partner nad yw'n gweithio 78,000 49,000 3.7% 0.8% -200 -0.3 -0.5% -0.3% -4Menyw, dim plant, partner sy'n gweithio 245,000 192,000 -2.3% -1.0% 300 0.1 0.2% 0.1% 5Menyw, dim plant, partner nad yw'n gweithio

105,000 37,000 0.2% -2.0%-200 -0.2 -0.4% -0.3% -2

Menyw, plant, partner sy'n gweithio 223,000 175,000 -0.8% -1.3% 100 0.0 0.3% 0.2% 7Menyw, plant, partner nad yw'n gweithio 45,000 15,000 19.6% -11.9% -300 -0.6 -0.1% -0.2% 0

Cyfanswm 1,756,000

1,198,000 -0.4% -1.1% -100 0.0 0.1% 0.1% 16

94

Page 100: An ex-ante analysis effects of the UK Government’s … · Web viewAriannwyd yr ymchwil hon gan Lywodraeth Cymru a Chanolfan er Dadansoddi Microeconomaidd Polisi Cyhoeddus ESRC yn

Tabl 6.4 Effeithiau diwygiadau lles gan gynnwys Credyd Cynhwysol: senario ymatebolrwydd isel

Math o deulu Nifer Nifer a gyflogir

Newid o ran CDG gyfartalo

g

Newid o ran CDYE gyfartalo

g

Newid o ran nifer a gyflogir

Newid o ran y gyfradd

gyflogaeth (pwyntiau

canran)

Newid % o ran yr oriau cyfunol a

gaiff eu gweithio (heb gynnwys

pobl hunangyflogedig)

Newid % o ran enillion crynswth cyfunol

Newid o ran enillion

crynswth cyfunol (£m)

Sengl, dim plant 452,000 258,000 -1.8% -1.7% 800 0.2 0.3% 0.2% 8Rhiant unigol 104,000 56,000 0.1% -12.3% 400 0.4 1.7% 1.2% 10Dyn, dim plant, partner sy'n gweithio 215,000 191,000 -1.1% -1.2% 300 0.1 0.1% 0.0% 1Dyn, dim plant, partner nad yw'n gweithio 99,000 52,000 -3.7% 3.9% 800 0.8 0.7% 0.4% 7Dyn, plant, partner sy'n gweithio 190,000 175,000 2.5% -2.0% -400 -0.2 -0.1% -0.1% -5Dyn, plant, partner nad yw'n gweithio 78,000 49,000 -5.9% 3.5% 300 0.4 0.4% 0.3% 4Menyw, dim plant, partner sy'n gweithio 245,000 192,000 -0.9% -1.2% 200 0.1 0.3% 0.2% 7Menyw, dim plant, partner nad yw'n gweithio

105,000 37,000 -4.0% 1.8%500 0.4 0.4% 0.1% 1

Menyw, plant, partner sy'n gweithio 223,000 175,000 4.6% -0.9% -1,000 -0.4 -0.2% -0.1% -2Menyw, plant, partner nad yw'n gweithio 45,000 15,000 -7.3% -8.8% 0 0.1 3.3% 2.9% 6

Cyfanswm 1,756,000

1,198,000 -0.8% -1.5% 1,900 0.1 0.2% 0.1% 37

95

Page 101: An ex-ante analysis effects of the UK Government’s … · Web viewAriannwyd yr ymchwil hon gan Lywodraeth Cymru a Chanolfan er Dadansoddi Microeconomaidd Polisi Cyhoeddus ESRC yn

Unwaith y caiff Credyd Cynhwysol ei gynnwys, mae'r effeithiau yn edrych yn fach iawn o hyd (gweler Tabl 6.4). Yn ein senario ymatebolrwydd isel, rydym yn amcangyfrif y byddai'r set lawn o ddiwygiadau yn:

cynyddu cyflogaeth 0.1 pwynt canran, neu tua 1,900 o bobl; cynyddu'r oriau cyfunol a gaiff eu gweithio 0.2%; cynyddu enillion crynswth cyfunol 0.1%, neu tua £37 miliwn.

Mae patrwm ymatebion cadarnhaol a negyddol y cyflenwad llafur yn ymddangos yn debyg i batrwm ein senario ganolog, ond ar lefel is.

Senario ymatebolrwydd uchelYn ein senario 'ymatebolrwydd uchel', rydym i bob pwrpas yn dyblu'r hydwytheddau dwys a dybiwyd yn y senario ganolog (gan roi cyfartaledd o 0.32), ac yn cynyddu'r hydwytheddau dwys a dybiwyd naill ai 40% (i ddynion, ac i fenywod mewn cyplau heb blant, sydd o dan 55 oed) neu 75% (i fenywod eraill ac i'r rheini sy'n 55 oed neu'n hŷn). Rhydd hyn hydwythedd dwys cyfartalog cyffredinol o 0.63 (o ran incwm mewn gwaith) neu 0.208 (o ran budd o weithio).

Hyd yn oed gyda'r lefelau ymatebolrwydd uwch hyn, ni fyddai'r diwygiadau heb gynnwys Credyd Cynhwysol yn cael effaith net fawr ar y cyflenwad llafur cyffredinol ar draws y boblogaeth oedran gweithio gyfan yng Nghymru (gweler Tabl 6.5). Mae'r hydwytheddau uchel hyn yn awgrymu y byddai'r canlynol yn berthnasol i'r diwygiadau heb gynnwys Credyd Cynhwysol:

prin iawn fyddai'r effaith ar y gyfradd gyflogaeth (dim ond 300 o bobl ychwanegol mewn gwaith);

byddai'r oriau gwaith cyfunol a gaiff eu gweithio gan gyflogeion yn cynyddu 1.0%; byddai enillion crynswth cyfunol yn cynyddu 0.5%, neu tua £145 miliwn.

Fodd bynnag, gan gynnwys Credyd Cynhwysol, daw'r effeithiau rywfaint yn fwy (Tabl 6.6). Rydym yn amcangyfrif y byddai'r diwygiadau yn:

cynyddu cyflogaeth 0.7 pwynt canran, neu tua 13,000 o bobl; cynyddu'r oriau cyfunol a gaiff eu gweithio 2.7%; cynyddu enillion crynswth cyfunol 1.5%, neu dros £400 miliwn.

Mae'r set olaf o ganlyniadau yn awgrymu bod effeithiau cyffredinol sylweddol yn bosibl: nid yw cynnydd o 13,000 yn nifer y bobl mewn gwaith na chynnydd o £400 miliwn mewn enillion cyfunol yn newidiadau dibwys. Ond nid ydynt mor ddramatig ag y gellid bod wedi disgwyl, o ystyried y gwaith radical sy'n mynd rhagddo i ail-lunio'r system budd-daliadau. Felly er bod y dadansoddiad sensitifrwydd hwn yn dangos bod yr effeithiau a amcangyfrifir yn gymharol sensitif i'r hydwytheddau tybiedig, mae'r darlun sylfaenol yn glir: rydym yn disgwyl i'r diwygiadau gael effaith gyffredinol gymedrol ar y cyflenwad llafur, gydag effeithiau gwrthbwysol ar gyfer yr unigolyn cyntaf sy'n ennill a'r ail unigolyn sy'n ennill mewn cyplau.

96

Page 102: An ex-ante analysis effects of the UK Government’s … · Web viewAriannwyd yr ymchwil hon gan Lywodraeth Cymru a Chanolfan er Dadansoddi Microeconomaidd Polisi Cyhoeddus ESRC yn

Tabl 6.5 Effeithiau diwygiadau lles heb gynnwys Credyd Cynhwysol: senario ymatebolrwydd uchel

Math o deulu Nifer Nifer a gyflogir

Newid o ran CDG gyfartalo

g

Newid o ran CDYE gyfartalo

g

Newid o ran nifer a gyflogir

Newid o ran y gyfradd

gyflogaeth (pwyntiau

canran)

Newid % o ran yr oriau cyfunol a

gaiff eu gweithio (heb gynnwys

pobl hunangyflogedig)

Newid % o ran enillion crynswth cyfunol

Newid o ran enillion

crynswth cyfunol (£m)

Sengl, dim plant 452,000 258,000 -1.0% -1.4% 1,000 0.2 1.3% 0.8% 42Rhiant unigol 104,000 56,000 2.2% -1.5% -600 -0.6 3.9% 2.1% 18Dyn, dim plant, partner sy'n gweithio 215,000 191,000 -1.9% -1.0% 500 0.2 0.7% 0.4% 20Dyn, dim plant, partner nad yw'n gweithio 99,000 52,000 -0.1% 1.6% -400 -0.4 -1.5% -0.5% -9Dyn, plant, partner sy'n gweithio 190,000 175,000 -2.4% -0.8% 600 0.3 0.6% 0.3% 15Dyn, plant, partner nad yw'n gweithio 78,000 49,000 3.7% 0.8% -700 -0.9 -3.1% -1.9% -28Menyw, dim plant, partner sy'n gweithio 245,000 192,000 -2.3% -1.0% 900 0.4 1.0% 0.6% 22Menyw, dim plant, partner nad yw'n gweithio

105,000 37,000 0.2% -2.0%-400 -0.4 1.0% 0.2% 1

Menyw, plant, partner sy'n gweithio 223,000 175,000 -0.8% -1.3% 300 0.1 1.9% 1.7% 53Menyw, plant, partner nad yw'n gweithio 45,000 15,000 19.6% -11.9% -900 -2.0 6.9% 4.4% 9

Cyfanswm 1,756,000

1,198,000 -0.4% -1.1% 300 0.0 1.0% 0.5% 145

97

Page 103: An ex-ante analysis effects of the UK Government’s … · Web viewAriannwyd yr ymchwil hon gan Lywodraeth Cymru a Chanolfan er Dadansoddi Microeconomaidd Polisi Cyhoeddus ESRC yn

Tabl 6.6 Effeithiau diwygiadau lles gan gynnwys Credyd Cynhwysol: senario ymatebolrwydd uchel

Math o deulu Nifer Nifer a gyflogir

Newid o ran CDG gyfartalo

g

Newid o ran CDYE gyfartalo

g

Newid o ran nifer a gyflogir

Newid o ran y gyfradd

gyflogaeth (pwyntiau

canran)

Newid % o ran yr oriau cyfunol a

gaiff eu gweithio (heb gynnwys

pobl hunangyflogedig)

Newid % o ran enillion crynswth cyfunol

Newid o ran enillion

crynswth cyfunol (£m)

Sengl, dim plant 452,000 258,000 -1.8% -1.7% 3,400 0.8 2.5% 1.3% 73Rhiant unigol 104,000 56,000 0.1% -12.3% 1,600 1.6 23.7% 16.2% 138Dyn, dim plant, partner sy'n gweithio 215,000 191,000 -1.1% -1.2% 2,100 1.0 0.7% 0.3% 17Dyn, dim plant, partner nad yw'n gweithio 99,000 52,000 -3.7% 3.9% 4,900 5.0 0.8% 1.1% 18Dyn, plant, partner sy'n gweithio 190,000 175,000 2.5% -2.0% -1,200 -0.6 0.9% 0.3% 14Dyn, plant, partner nad yw'n gweithio 78,000 49,000 -5.9% 3.5% 900 1.2 2.6% 0.9% 12Menyw, dim plant, partner sy'n gweithio 245,000 192,000 -0.9% -1.2% 1,000 0.4 1.6% 0.9% 36Menyw, dim plant, partner nad yw'n gweithio

105,000 37,000 -4.0% 1.8%3,300 3.1 5.0% 2.4% 17

Menyw, plant, partner sy'n gweithio 223,000 175,000 4.6% -0.9% -3,000 -1.4 1.0% 1.0% 33Menyw, plant, partner nad yw'n gweithio 45,000 15,000 -7.3% -8.8% 200 0.4 27.9% 24.2% 51

Cyfanswm 1,756,000

1,198,000 -0.8% -1.5% 13,200 0.7 2.7% 1.5% 411

98

Page 104: An ex-ante analysis effects of the UK Government’s … · Web viewAriannwyd yr ymchwil hon gan Lywodraeth Cymru a Chanolfan er Dadansoddi Microeconomaidd Polisi Cyhoeddus ESRC yn

6.3 Cymharu canlyniadau'r ddau ddull o fodelu'r cyflenwad llafurO gymharu'r canlyniadau ar gyfer ein senario ganolog yn Adran 6.1 â'r canlyniadau yn Adrannau 5.2 a 5.3, mae'n amlwg, yn enwedig ar gyfer y set lawn o ddiwygiadau gan gynnwys Credyd Cynhwysol, bod y dull 'calibradu ac efelychu' a'r dull 'amcangyfrif ac efelychu' yn creu rhagfynegiadau cymharol debyg o'r effaith ar gyflogaeth, ond serch hynny, mae rhai gwahaniaethau amlwg, yn arbennig:

Mae'r modelau a amcangyfrifwyd yn rhagfynegi cynnydd o 2,000 o ran lefelau cyflogaeth ar gyfer ei sampl o famau unigol a chyplau yn dilyn y diwygiadau lles (heb gynnwys Credyd Cynhwysol), o gymharu â lefelau cyflogaeth sefydlog ar gyfer y boblogaeth ehangach o oedran gweithio yn ôl y dull calibradu ac efelychu.

Mae cynnwys Credyd Cynhwysol yn y set o ddiwygiadau yn arwain at ostyngiad yn yr effaith ar gyflogaeth i 300, sy’n nifer fach iawn, wrth ddefnyddio'r dull amcangyfrif ac efelychu, ond at gynnydd i 5,000 ar gyfer y boblogaeth gyfan o oedran gweithio yn ôl y dull calibradu ac efelychu.

Felly, rhagfynegir mai effaith negyddol fach (- 1,700) a gaiff y Credyd Cynhwysol ei hun ar lefelau cyflogaeth y sampl o rieni unigol a chyplau a gaiff eu cynnwys yn y modelau a amcangyfrifwyd, ond y bydd yn cynyddu lefelau cyflogaeth ymhlith y boblogaeth gyffredinol o oedran gweithio (+ 5,000) yn ôl y dull calibradu ac efelychu.

Y peth cyntaf i'w nodi yw bod gwahaniaethau sylweddol rhwng y poblogaethau a ystyrir gan y ddau ddull. Caiff y dull calibradu ac efelychu ei gymhwyso i bob oedolyn rhwng 19 oed ac oedran Pensiwn y Wladwriaeth. Ar y llaw arall, nid yw sampl y modelau a amcangyfrifwyd yn cynnwys oedolion sengl heb blant. Nid yw ychwaith yn cynnwys pobl 19-21 oed, y rheini sy'n 60 oed neu'n hŷn, y rheini â hawl i fudd-dal anabledd (heb gynnwys premiymau anabledd Cymhorthdal Incwm), y rheini sy'n hunangyflogedig na phartner unrhyw unigolion o'r fath. I ba raddau y mae'r gwahaniaethau hyn yn y samplau yn egluro'r gwahaniaethau yn y canfyddiadau?

Dengys Tablau 6.7 a 6.8 yr effaith y rhagfynegir y bydd y diwygiadau heb gynnwys Credyd Cynhwysol a chan gynnwys Credyd Cynhwysol yn ei chael, ar gyfer y ddau ddull, ar gyfer y sampl o rieni unigol a chyplau a gynhwyswyd yn y modelau a amcangyfrifwyd. Hynny yw, mae'n dangos pa wahaniaethau sy'n bodoli o hyd pan gaiff yr un sampl ei ddefnyddio gyda'r dull calibradu a'r dull amcangyfrif.

Dengys y canlyniadau ar gyfer y diwygiadau heb gynnwys Credyd Cynhwysol (Tabl 6.7) ar gyfer yr un sampl o famau unigol a chyplau, bod y dull amcangyfrif yn rhagfynegi cynnydd o 2,000 mewn lefelau cyflogaeth, tra bod y dull calibradu yn rhagfynegi cynnydd o 200 mewn lefelau cyflogaeth. Er bod y gwahaniaeth yn ymddangos yn fawr, dylid cofio ei fod yn seiliedig ar linell sylfaen cyflogaeth yn y sampl o 615,800, ac felly bod y ddau yn cynrychioli effeithiau bach iawn ar gyflogaeth. Gan edrych ar yr is-grwpiau sampl, gellir gweld bod y newidiadau a ragfynegir o ran y cyflenwad llafur yn debyg iawn i gyplau heb blant, i fenywod mewn cyplau â phlant ac i famau unigol. Ceir gwahaniaethau mwy i ddynion mewn cyplau â phlant, y mae'r dull amcangyfrif yn rhagfynegi cynnydd o tua 0.8% o ran lefelau cyflogaeth ar eu cyfer, o gymharu â newid prin iawn o ran lefelau cyflogaeth yn ôl y dull calibradu. Mae hyn yn awgrymu y gallai'r model amcangyfrif gael bod dynion yn fwy ymatebol i newidiadau o ran cymhellion ariannol i weithio na'r hyn a dybir gan ddefnyddio'r dull calibradu ac efelychu.

Ar ôl cynnwys Credyd Cynhwysol yn y set o ddiwygiadau a ystyriwyd (Tabl 6.8), down o hyd i effeithiau bach ar gyflogaeth yn ôl y ddwy dechneg: cynnydd o tua 300 (0.05%) yn ôl y dull amcangyfrif yn erbyn 200 (0.03%) yn ôl y dull calibradu. Yn yr enghraifft hon, mae'r rhagfynegiadau yn edrych yn debyg i bob grŵp.

99

Page 105: An ex-ante analysis effects of the UK Government’s … · Web viewAriannwyd yr ymchwil hon gan Lywodraeth Cymru a Chanolfan er Dadansoddi Microeconomaidd Polisi Cyhoeddus ESRC yn

Tabl 6.7 Cymharu effaith amcangyfrifedig y diwygiadau lles (heb gynnwys Credyd Cynhwysol) ar gyflogaeth fel y'i cafwyd gan ddefnyddio'r dull 'amcangyfrif ac efelychu' a'r dull 'calibradu ac efelychu'

Mamau

Unigol

Cyplau â Phlant Cyplau heb Blant Sampl Cyfan

Dynion Menywod Dynion Menywod

Llinell sylfaen cyflogaeth 46,700 158,300 130,400 141,800 137,500 614,800

Newid o ran cyflogaeth (amcangyfrif) -200 1,300 100 500 400 2,000

Newid o ran cyflogaeth (calibradu) -300 -0 100 200 200 200

Ffynhonnell: Amcangyfrif: FRS 1996-97 i 2009-10 a chyfrifiadau awduron. Efelychu: FRS 2007-08 i 2009-10 a chyfrifiadau awduron.

Tabl 6.8 Cymharu effaith amcangyfrifedig y diwygiadau lles (gan gynnwys Credyd Cynhwysol) ar gyflogaeth fel y'i cafwyd gan ddefnyddio'r dull 'amcangyfrif ac efelychu' a'r dull 'calibradu ac efelychu'

Mamau

Unigol

Cyplau â Phlant Cyplau heb Blant Sampl Cyfan

Dynion Menywod Dynion Menywod

Llinell sylfaen cyflogaeth 46,700 158,300 130,400 141,800 137,500 614,800

Newid o ran cyflogaeth (amcangyfrif) 800 -400 -900 200 600 300

Newid o ran cyflogaeth (calibradu) 500 -200 -1,000 300 500 200

Ffynhonnell: Amcangyfrif: FRS 1996-97 i 2009-10 a chyfrifiadau awduron. Efelychu: FRS 2007-08 i 2009-10 a chyfrifiadau awduron.

100

Page 106: An ex-ante analysis effects of the UK Government’s … · Web viewAriannwyd yr ymchwil hon gan Lywodraeth Cymru a Chanolfan er Dadansoddi Microeconomaidd Polisi Cyhoeddus ESRC yn

Gan ddefnyddio'r ffigurau yn y ddau dabl i ystyried effaith y Credyd Cynhwysol ar ei ben ei hun, mae'r dull amcangyfrif yn awgrymu ei fod yn arwain at ostyngiad o tua 1,7000 o ran lefelau cyflogaeth ar gyfer y boblogaeth gyfan, ond mae'r dull calibradu yn awgrymu nad oes unrhyw newid. Mae'r ddwy effaith yn fach ac, o gymharu â'r llinell sylfaen cyflogaeth, sef tua 600,000, prin y gellir gwahaniaethu rhyngddynt. Fodd bynnag, caiff y gwahaniaeth hwn ei lywio fwy neu lai'n llwyr gan ddynion mewn cyplau â phlant: rhagfynegir y bydd cyflwyno'r Credyd Cynhwysol yn lleihau lefelau cyflogaeth 1,700 ar gyfer y grŵp hwn yn ôl y model amcangyfrif, ond dim ond 200 yn ôl y dull calibradu ac efelychu. Mae'r gwahaniaeth hwn yn cyfateb i tua 1% o'r llinell sylfaen cyflogaeth ar gyfer y grŵp hwn.

Felly, er bod y rhagfynegiadau o ran yr effaith ar gyflogaeth o'r ddau ddull yn debyg, unwaith yr ystyrir y ffigurau yn fanylach, ymddengys fod rhywfaint o wahaniaeth ar gyfer dynion mewn cyplau â phlant. Mae hyn yn arwain at gwestiwn amlwg: pa un o'r rhagfynegiadau/modelau hyn y dylid ei gredu ar gyfer y grŵp hwn? Yn anffodus, nid yw'r ateb yn syml. Ar y naill law, mae'r dull calibradu ac efelychu yn seiliedig ar hydwytheddau oriau a chyflogaeth a ddewiswyd ar gyfer gwahanol grwpiau yn dilyn adolygiad manwl o'r llenyddiaeth empirig ar y cyflenwad llafur. Gan ddefnyddio canfyddiadau sawl gwahanol bapur, wedi'u pwysoli yn ôl eu hansawdd, dylid gallu llunio darlun mwy dibynadwy a mwy cynnil o'r graddau y mae gwahanol grwpiau yn ymateb i newidiadau o ran cymhellion i weithio. Yn arbennig, mae'n caniatáu i ni amrywio hydwytheddau yn ôl oedran y plentyn ifancaf, yn ôl incwm ac yn ôl statws cyflogaeth partner mewn ffordd fwy penodol na'r dull amcangyfrif ac efelychu. Yn ogystal, defnyddiodd dystiolaeth o astudiaethau sy'n gallu rheoli rhai o'r materion amcangyfrif a drafodir yn Adran 4.1 yn well na'r modelau canonaidd a ddefnyddiwyd yn ein dull amcangyfrif.

Fodd bynnag, mae anfanteision sylweddol yn gysylltiedig â'r dull calibradu ac efelychu hefyd, o gymharu â'r dull amcangyfrif. Yn gyntaf, nid yw'n caniatáu ar gyfer 'effeithiau ar incwm' lle y gall swm incwm unigolyn neu gyplau effeithio'n uniongyrchol ar eu penderfyniadau o ran y cyflenwad llafur (dim ond newidiadau o ran CDGau a CDYEau all effeithio ar ymddygiad o'r fath). Yn ail, nid yw'n rhoi cyfrif priodol am nodweddion penodol y diwygiadau hyn, megis diddymu'r 'neidiau' o ran hawl i daliadau lles, sef 16 a 30 awr, pan gaiff Credyd Cynhwysol ei gyflwyno. Yn drydydd, nid yw'n rhoi cyfrif am y ffaith bod cyplau yn debygol o wneud eu penderfyniadau llafur ar y cyd, gan ystyried ymddygiad y partner arall, ac unrhyw newidiadau o ran ymddygiad y partner arall. Yn bedwerydd, gan ddefnyddio tystiolaeth o amrywiaeth eang o astudiaethau, gan gynnwys y rheini y tu allan i'r DU, mae'n bosibl nad yw graddau'r ymatebolrwydd a dybiwyd yn yr achos canolog yn adlewyrchu'n briodol ymatebolrwydd pobl yng Nghymru.

O ystyried y dadleuon o blaid y ddau ddull, ni allwn ffafrio un amcangyfrif o'r effaith ar gyflogaeth ymhlith dynion mewn cyplau â phlant fwy nag amcangyfrif arall. Ond yr hyn sy'n glir yw bod y ddau ddull yn arwain at amcangyfrifon tebyg iawn o'r effaith ar gyfer y rhan fwyaf o'r grwpiau o'r boblogaeth a ystyriwyd, ac ar gyfer y sampl o famau unigol a chyplau yn gyffredinol.

Fodd bynnag, mae hyn yn golygu bod bwlch o hyd o ran yr effaith ar gyflogaeth a ragfynegir gan ddefnyddio'r dull calibradu ar gyfer y sampl cyffredinol a'r sampl amcangyfrif o rieni unigol a chyplau â phlant. Er enghraifft, ar ôl cyflwyno Credyd Cynhwysol, rhagfynegiad canolog y dull calibradu ac efelychu yw y bydd cynnydd o 5,000 (0.3 pwynt canran) o ran lefelau cyflogaeth ymhlith y boblogaeth o oedran gweithio, sef cyfanswm o 1,756,400, o gymharu â chynnydd o 200 (0.0 pwynt canran) ymhlith is-boblogaeth o 719,700. O'r 4,800 arall o weithwyr ychwanegol, dengys y canlyniadau yn Adran 6.1 bod tua 1,800 ohonynt yn oedolion sengl heb blant; mae'r 3,000 sy'n weddill yn gyfuniad o bobl sy'n hunangyflogedig, yn anabl, dros 59 oed, o dan 22 oed neu'n bartner i rywun o'r fath.

Fodd bynnag, nid ydym wedi cynnwys y grwpiau amrywiol hyn yn y modelau amcangyfrifedig ar gyfer y cyflenwad llafur ym Mhennod 5 gan ein bod yn pryderu nad model safonol o'r cyflenwad llafur gan ddefnyddio oriau a chyflogaeth fyddai'r ffordd orau o gyflwyno'r cymhellion i weithio a wynebir ganddynt, a'u hymatebion i'r cymhellion hynny. Mae modelau eraill yn aml yn hepgor yr un grwpiau hyn

101

Page 107: An ex-ante analysis effects of the UK Government’s … · Web viewAriannwyd yr ymchwil hon gan Lywodraeth Cymru a Chanolfan er Dadansoddi Microeconomaidd Polisi Cyhoeddus ESRC yn

am yr un rhesymau, ac felly prin yw'r dystiolaeth o ran ymatebolrwydd y grwpiau hyn i newidiadau yn eu CDYEau a'u CDGau. Ynghyd â'r gwahaniaethau o ran yr effeithiau a ragfynegir ar gyflogaeth a gafwyd yn y dadansoddiad sensitifrwydd yn yr adran flaenorol, down i'r casgliad bod effeithiau'r diwygiadau lles (gan gynnwys Credyd Cynhwysol) ar gyflogaeth braidd yn ansicr. Er yr ymddengys yn ein hasesiad ansoddol bod effaith y newid o ran cymhellion ariannol i weithio yn gymharol fach, mae'r ffaith bod llawer o'r ymateb yn deillio, yn ôl pob golwg, o'r grwpiau lle nad oes llawer o wybodaeth am eu hymatebolrwydd yn golygu na allwn fod yn gwbl hyderus o ran y casgliad hwn. Gan ychwanegu hyn at effaith ansicr y newidiadau o ran cymhellion ariannol (a drafodwyd yn Adrannau 2.4 a 2.5), golyga hyn y gallai'r effaith derfynol ar gyflogaeth fod yn uwch na'r senario 'ymatebolrwydd uchel' a gyflwynwyd yn Adran 6.2 hyd yn oed.

6.4 CasgliadMae'r amcangyfrifon canolog yn y bennod hon yn awgrymu nad yw'r diwygiadau heb gynnwys Credyd Cynhwysol yn debygol o gael lawer o effaith ar lefelau cyflogaeth cyffredinol - cynnydd bach, os o gwbl - ond rhagwelir y bydd cynnydd bach yn nifer y teuluoedd heb waith yng Nghymru. Fodd bynnag, gallai Credyd Cynhwysol wedyn arwain at gynnydd cymedrol o ran lefelau cyflogaeth a gostyngiad rhywfaint yn fwy yn nifer y teuluoedd heb waith yng Nghymru, gan olygu y byddai nifer y teuluoedd heb waith yn is nag y byddai wedi bod pe na chyflwynwyd unrhyw rai o ddiwygiadau lles Llywodraeth y DU. Er bod y diwygiadau heb gynnwys Credyd Cynhwysol yn lleihau'r cymhellion i weithio i'r rheini â phartneriaid nad ydynt yn gweithio ac yn eu hatgyfnerthu i'r rheini â phartneriaid sy'n gweithio, ar gyfartaledd, mae Credyd Cynhwysol yn cael effaith gwbl groes, gan gynyddu'r cymhelliant i deuluoedd fod â rhywun yn gweithio, ond gan leihau'r cymhelliant i gyplau fod â'r ddau bartner yn gweithio. Mae'r patrymau hyn, a'r effaith gymedrol ar gyflogaeth, yn unol â chanfyddiadau'r model amcangyfrifedig o'r cyflenwad llafur ym Mhennod 5 ac â'r hyn y gallem ei ddisgwyl o'r patrwm o newidiadau yn y cymhellion i weithio a ddisgrifir ym Mhennod 3. Mae'r effeithiau y rhagwelir y caiff y diwygiadau ar oriau gwaith ac enillion, er nad ydynt yn ddramatig, rywfaint yn fwy na'r effeithiau a ragwelir ar gyflogaeth.

Mae'r dadansoddiad sensitifrwydd a gynhaliwyd yn awgrymu rhywfaint o ansicrwydd ynghylch union effaith y Credyd Cynhwysol ar y cyflenwad llafur, ond o dan y senario ymatebolrwydd isel ac uchel, ymddengys fod yr effaith yn gadarnhaol ond yn fach. Fodd bynnag, nid yw hyn yn golygu y dylem fod yn orhyderus o ran ein hasesiad o effeithiau tebygol y diwygiadau. Yn gyntaf, fel y trafodwyd ym Mhennod 2 o'r adroddiad hwn, mae llawer o newidiadau i'r cymhellion anariannol i weithio a allai, o ran egwyddor, fod yn bwysicach na'r newidiadau o ran cymhellion ariannol (neu a allai, ar y llaw arall, gael fawr ddim effaith). Ac yn y bennod nesaf, ystyriwn pa un a all y rhyngweithio rhwng y diwygiadau a chyflwr y farchnad lafur a'r economi ehangach olygu, o leiaf yn y byrdymor, y gallai effaith y diwygiadau ar gyflogaeth, oriau gwaith ac enillion fod yn wahanol i'r newidiadau a ragwelwyd yn y cyflenwad llafur dymunol.

102

Page 108: An ex-ante analysis effects of the UK Government’s … · Web viewAriannwyd yr ymchwil hon gan Lywodraeth Cymru a Chanolfan er Dadansoddi Microeconomaidd Polisi Cyhoeddus ESRC yn

7. Y rhyngweithio rhwng y diwygiadau lles a'r economi ehangachYstyriodd Penodau 5 a 6 effaith y diwygiadau lles ar y cyflenwad llafur yng Nghymru, gan ddefnyddio model amcangyfrifedig o ymddygiad y cyflenwad llafur yng Nghymru, a dull 'calibradu', sy'n defnyddio setiau o hydwytheddau llafur tybiedig sy'n seiliedig ar adolygiad o'r llenyddiaeth am ymatebolrwydd y cyflenwad llafur. Yn syml, mae'r canlyniadau a gyflwynwyd yn cynrychioli effaith y diwygiadau lles i Gymru yn gyffredinol; caiff ymatebion unigolion a chyplau eu cyfuno gan ddefnyddio'r pwysoliadau poblogaeth a ddarparwyd gydag arolwg FRS er mwyn cynrychioli'r genedl. Fodd bynnag, mae nifer o resymau pam na fydd effeithiau'r diwygiadau lles o bosibl yn cyfateb i gyfuniad syml o'r ymatebion unigol a ragfynegir. Mae'r bennod hon yn trafod yn ansoddol sut y gall y diwygiadau ryngweithio gyda'r amgylchedd economaidd ehangach, gan gyfeirio at ddamcaniaeth economaidd sylfaenol a'r llenyddiaeth empirig sydd ar gael.

Ar hyn o bryd, ystyrir bod yr economi yn gymharol wan. Yn dilyn 'Dirwasgiad Mawr' lle gostyngodd allbwn 6.3% rhwng ei uchafbwynt yn ystod chwarter cyntaf 2008 hyd at ei isafbwynt yn ystod ail chwarter 2009, bu'r adferiad anghyson yn gymharol wan. Tyfodd yr economi 1.8% yn 2010, 0.9% yn 2011 ac mae'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn rhagfynegi y bydd yr economi wedi lleihau 0.1% yn 2012 (OBR (2012b)). Yn wir, erys yr economi 3.9% islaw ei huchafbwynt yn dilyn cyfnod o dros dair blynedd o 'adfer' (a oedd yn cynnwys dirwasgiad 'dwbl'). Mae lefelau diweithdra yn sylweddol uwch na chyn dirwasgiad diwedd y 2000au o hyd, sef 7.8% ar gyfer y DU yn gyffredinol, a 7.9% ar gyfer Cymru (SYG (2012)), er bod hyn yn dangos perfformiad cryfach nag y byddid wedi'i ddisgwyl o ystyried y perfformiad gwan o ran twf. Gan edrych i'r dyfodol, mae'r OBR yn rhagfynegi y bydd lefelau diweithdra yn codi yn 2013 i 8.2%, gan barhau ar y lefel hon yn 2014, cyn gostwng yn araf i 8.0% yn 2015, 7.6% yn 2016 a 7.1% yn 2017. Hynny yw, rhagfynegir y bydd lefelau diweithdra yn uwch na'r lefelau presennol yn ystod y tair blynedd nesaf ar gyfer y DU yn gyffredinol. Ac o ystyried y rhagfynegir y caiff mwy o swyddi eu colli yn y sector cyhoeddus (rhagfynegir y bydd lefelau cyflogaeth cyffredinol yn cynyddu gan y bydd mwy o swyddi yn y sector preifat), a chyfran gymharol uchel y swyddi sector cyhoeddus yng Nghymru, gellir disgwyl i'r farchnad lafur yng Nghymru fod yn arbennig o wan yn ystod y blynyddoedd nesaf. O ystyried lefelau diweithdra uchel parhaus, mae'n bwysig ymchwilio i ganfod pa un a allai hyn olygu y bydd y rheini sy'n ceisio dod o hyd i swyddi yn dilyn y diwygiadau yn gallu gwneud hynny, a pha un a fyddant yn gwthio gweithwyr neu geiswyr gwaith presennol allan.

Gan gofio'r materion hyn, mae Adran 7.1 yn ystyried y dystiolaeth o ran pa un a fydd newidiadau cyflogaeth ymhlith rhai grwpiau yn disodli (neu'n gwneud lle ar gyfer) eraill sy'n cystadlu am yr un swyddi na fydd y diwygiadau eu hunain yn effeithio'n uniongyrchol arnynt. Mae Adran 7.2 yn trafod sut y gall effaith y diwygiadau amrywio gan ddibynnu ar gyflwr y farchnad lafur (h.y. pa un a oes galw isel neu uchel am lafur), ac ystyriwn pa un a ellir defnyddio canlyniadau'r dull calibradu ac efelychu i ddeall sut y gall effaith y diwygiadau ar gyflogaeth ac oriau fod yn wahanol gan ddibynnu ar wahanol amodau economaidd. Mae Adran 7.3 yn trafod yr effaith y gall y diwygiadau lles ei chael ar y galw cyfanredol, gan ddefnyddio'r dystiolaeth sydd ar gael ar raddau'r sgil-effeithiau o ran gwariant newidiadau lles i weddill yr economi.

7.1 Sgil-effeithiau o ran cyflogi gweithwyr eraill Daw'r dadansoddiad ym Mhenodau 5 a 6 i'r casgliad bod cryn dipyn o ansicrwydd o ran effaith y diwygiadau lles ar y cyflenwad llafur yng Nghymru. Fodd bynnag, os yw'r senario ganolog ar gyfer y dull

103

Page 109: An ex-ante analysis effects of the UK Government’s … · Web viewAriannwyd yr ymchwil hon gan Lywodraeth Cymru a Chanolfan er Dadansoddi Microeconomaidd Polisi Cyhoeddus ESRC yn

calibradu ac efelychu yn gywir, byddai ffracsiwn y bobl o oedran gweithio mewn swyddi yn cynyddu 0.3 pwynt canran ar ôl cyflwyno'r Credyd Cynhwysol. Fodd bynnag, un o dybiaethau goblygedig y modelau a ddefnyddir yw bod y galw am lafur yn gwbl hydwyth: hynny yw, mae cyflogwyr yn barod i gyflogi pawb sy'n barod i weithio am y gyfradd cyflog gyfredol am eu lefel sgiliau, ac ni chaiff nifer y bobl a gaiff eu cyflogi effaith ar y gyfradd cyflog. Felly, gall pawb sy'n awyddus i dderbyn swydd yn dilyn y diwygiadau wneud hynny, a gall pawb sydd eisoes wedi'u cyflogi barhau i weithio. Mae'r Adran ganlynol (7.2) yn trafod sut y gall effaith y diwygiadau lles ar gyflogaeth gyffredinol ac oriau gwaith fod yn wahanol pan nad yw'r galw am lafur yn gwbl hydwyth (h.y. dim ond os bydd cyflogau yn gostwng y bydd cwmnïau yn barod i gyflogi mwy o bobl) neu os bydd wedi'i gyfyngu, gan arwain at fwlch rhwng y cyflenwad llafur a'r galw am lafur. Yma canolbwyntiwn ar fater penodol sy'n dod i'r amlwg o dan amgylchiadau o'r fath: y posibilrwydd y bydd sgil-effeithiau yn deillio o'r diwygiadau o ran cyflogaeth a chyflogau pobl nad yw'r diwygiadau yn effeithio'n uniongyrchol arnynt.

Mae darlun cyffredin o effaith bosibl y diwygiadau ar y farchnad lafur yn helpu i ddangos sut y gall sgîl-effeithiau ddigwydd. Dengys Ffigur 7.1 graff safonol o'r cyflenwad a'r galw economaidd ar gyfer y farchnad lafur, gyda chyflogau ar yr echel fertigol (Y) a'r cyflenwad llafur a'r galw am lafur ar yr echel lorweddol (X). Dengys y gromlin cyflenwad llafur (Ls) faint o lafur a gaiff ei gyflenwi am gyflog penodedig: mae'n goleddu am i fyny oherwydd er mwyn annog mwy o bobl i ddechrau gweithio, a gweithwyr presennol i weithio mwy, byddai'n rhaid i gwmnïau dalu cyflog uwch. Dengys y gromlin galw am lafur (Ld) faint o lafur y ceir galw amdano am gyflog penodedig: gan dybio mai dim ond os bydd cyflogau yn gostwng y bydd cwmnïau yn barod i gyflogi llafur ychwanegol (gan adlewyrchu o bosibl ostyngiad yn yr allbwn fesul gweithiwr wrth i nifer y gweithwyr gynyddu), mae'n goleddu am i lawr. Ceir cydbwysedd yn y farchnad lafur pan fydd y cyflenwad yn cyfateb i'r galw (gydag, i ddechrau, cyflogaeth L1 a chyflogau W1).

Gallwn gynrychioli cynnydd yn y cyflenwad llafur dymunol (megis yr hynny a allai ddigwydd yn dilyn y diwygiadau lles) drwy symud y gromlin cyflenwad llafur i'r dde (i Ls’): mae'r cynnydd mewn cymhellion i weithio yn golygu y byddai pobl yn barod i gyflenwi mwy o lafur am gyflog penodedig. Fodd bynnag, mae galw am lafur sy'n goleddu ar i lawr yn golygu nad yw cyflogwyr yn barod i gyflogi’r holl lafur ychwanegol a gyflenwyd am y gyfradd cyflog bresennol. Yn lle hynny, bydd cyflogwyr yn ymateb drwy ostwng cyflogau, a bydd cydbwysedd y farchnad lafur newydd yn cynnwys cyflog is, a chynnydd mewn cyflogaeth sy'n is nag y byddai wedi bod pe bai cyflogau wedi aros ar eu lefel gychwynnol.

104

Page 110: An ex-ante analysis effects of the UK Government’s … · Web viewAriannwyd yr ymchwil hon gan Lywodraeth Cymru a Chanolfan er Dadansoddi Microeconomaidd Polisi Cyhoeddus ESRC yn

Ffigur 7.1 Galw am lafur sy'n goleddu ar i lawr a sgil-effeithiau

Gallai hyn olygu na fydd rhai o'r rheini a fyddai wedi hoffi cynyddu eu cyflenwad llafur o ganlyniad i'r diwygiadau yn gallu gwneud hynny. Fodd bynnag, gallai hefyd olygu y caiff rhai gweithwyr eraill presennol eu 'gwthio allan' gan y rheini sy'n awyddus i weithio oriau hwy neu i ddechrau gweithio. Yn arbennig, mae'n bosibl na fydd y rheini na fydd eu cymhellion i weithio yn gwella yn unol â'r diwygiadau yn barod i weithio cymaint am y cyflog cydbwysedd newydd is, ac y byddant felly yn lleihau eu horiau neu'n gadael eu swyddi.

Mae'r sgil-effeithiau negyddol hyn yn debygol o fod yn uwch po fwyaf y bydd y gallu i amnewid rhwng y llafur a gyflenwir gan 'weithwyr newydd' a'r llafur a gyflenwir gan weithwyr presennol. Er enghraifft, mae'n debygol y bydd yn haws amnewid gweithwyr cyflog isel neu sgiliau isel am weithwyr sgiliau isel eraill na'r rheini â lefel sgiliau uwch. At hynny, o ran y graddau y mae swyddi sgiliau uchel yn defnyddio gwybodaeth a sgiliau sy'n benodol i'r swyddi hynny, mae'r gallu i amnewid rhwng gweithwyr sgiliau isel gwahanol yn debygol o fod yn uwch na graddau'r gallu i amnewid rhwng gweithwyr sgiliau uchel gwahanol. Yn wir, gall fod gan rai grwpiau o weithwyr sgiliau sy'n ategu ei gilydd yn hytrach na sgiliau y gellir eu hamnewid: felly gallai cynyddu'r cyflenwad mewn un grŵp arwain at gyfleoedd ychwanegol am waith i'r grŵp arall.

Canfu'r dadansoddiad o effaith y diwygiadau lles ar gymhellion i weithio (Pennod 3) fod cymhellion i weithio yn gwella fwyaf yn dilyn y diwygiadau i'r bobl hynny sy'n rhan o gyplau heb bartneriaid sy'n gweithio ac i oedolion sengl heb blant. Mae'r grwpiau hyn braidd yn heterogenaidd, ond o gofio bod y newidiadau mwyaf o ran cymhellion i weithio yn digwydd i'r rheini ag incwm o tua £15,000 i £25,000 (Ffigur 3.2), a bod penderfyniadau cyflogaeth yn ymddangos yn fwy ymatebol i gymhellion i weithio ar gyfer unigolion incwm/addysg isel a chanolig yn hytrach nag unigolion incwm uchel, mae unrhyw sgil-effeithiau negyddol yn debygol o fod wedi'u crynhoi ymhlith unigolion incwm/sgiliau isel i ganolig tebyg. Gall hyn gynnwys ail enillwyr mewn cyplau sy'n wynebu gostyngiad yn y cymhellion i weithio, neu oedolion sengl ifancach heb blant sy'n wynebu newidiadau llai o ran eu cymhellion i weithio.

Mae'n werth nodi bod sgil-effeithiau negyddol yn debygol o ddod yn llai pwysig dros amser. Y rheswm am hyn yw y bydd cwmnïau, dros amser, yn gallu buddsoddi mewn cyfalaf newydd (megis swyddfeydd,

105

Page 111: An ex-ante analysis effects of the UK Government’s … · Web viewAriannwyd yr ymchwil hon gan Lywodraeth Cymru a Chanolfan er Dadansoddi Microeconomaidd Polisi Cyhoeddus ESRC yn

ffatrïoedd a chyfarpar) er mwyn ategu'r cyflenwad llafur ychwanegol. Hynny yw, mae'r galw am lafur yn debygol o fod yn fwy hydwyth yn yr hirdymor nag yn y byrdymor, wrth i'r economi ddod o hyd i gydbwysedd newydd o allbwn uwch a chyflogaeth uwch.

Mae nodi pa un a gaiff newid mewn polisi treth neu les sgil-effaith ar y rheini na chaiff y newid effaith uniongyrchol arnynt yn anodd. Un o'r dulliau mwyaf cyffredin o ddadansoddi effaith diwygiadau yw cymharu newidiadau o ran cyflogaeth neu oriau gwaith y rheini y caiff y diwygiad effaith uniongyrchol arnynt (y 'grŵp trin') a'u cymharu â'r newidiadau o ran ymddygiad y rheini na chaiff effaith uniongyrchol arnynt (y 'grŵp rheoli'). Er mwyn defnyddio dull o'r fath i ddadansoddi graddau'r sgil-effeithiau, rhaid diffinio grŵp, na ddisgwylir i'r diwygiadau gael effaith uniongyrchol nac anuniongyrchol arno, ond sy'n ddigon tebyg i'r grwpiau hynny y gellir ei ddefnyddio fel grŵp rheoli. Mae hyn yn golygu y daw llawer o'r dystiolaeth empirig ar sgil-effeithiau o'r UD lle mae newidiadau polisi yn aml yn amrywio rhwng taleithiau, neu o raglenni peilot lle y cyflwynir diwygiadau mewn rhai ardaloedd ond nid mewn ardaloedd eraill (y dybiaeth weithredol yn hyn o beth yw y bydd y sgil-effeithiau wedi'u cyfyngu ar sail ddaearyddol).

Mae'r dystiolaeth empirig ar sgil-effeithiau diwygiadau lles yn gymysg, gan awgrymu bod effeithiau o'r fath yn debygol o fod yn gysylltiedig â chyd-destunau penodol i raddau helaeth, gan ddibynnu ar y diwygiadau penodol a'r grwpiau yr effeithir arnynt, ac amodau cyffredinol y farchnad lafur.

Er enghraifft, mae Bartik (2002) yn ystyried effaith diwygiadau lles a wnaed ganol y 1990au yn yr UD, a arweiniodd at gynnydd sylweddol o ran lefelau cyflogaeth ymhlith mamau unigol, ar gyflogau a chyfraddau cyflogaeth grwpiau nas targedwyd gan y diwygiadau. Y prif ganfyddiad yw effaith negyddol sylweddol ar lefelau cyflogau a chyflogaeth ymhlith dynion na wnaethant gwblhau eu cyfnod yn yr ysgol uwchradd. Ni ddaw Lubotsky (2004), ar y llaw arall, sy'n ystyried effaith diwygiadau ym Michigan ac yn yr UD, o hyd i lawer o dystiolaeth o effaith ar gyflogau na chyflogaeth ymhlith gweddill y boblogaeth.

Yn anffodus, fel gyda'r gwaith o'r UD a ddisgrifiwyd uchod, mae'r gwaith yn y DU ar sgil-effeithiau diwygiadau lles yn canolbwyntio ar ddiwygiadau sy'n anelu at wella cymhellion anariannol i weithio yn hytrach na chymhellion ariannol. Mae hyn am fod diwygiadau o'r fath yn aml yn cael eu treialu gan ddefnyddio astudiaethau peilot, lle bo newidiadau i gyfraddau budd-dal, taprau neu anwybyddiadau incwm a enillwyd bron bob amser yn cael eu cyflwyno ar sail genedlaethol yn y DU.

Ni ddaeth y gwerthusiad o'r Fargen Newydd ar gyfer Pobl Ifanc yn y DU, sef rhaglen a gynlluniwyd i gynyddu'r broses o symud ceiswyr gwaith ifanc allan o ddiweithdra, o hyd i unrhyw dystiolaeth o sgil-effeithiau ar gyfraddau dod o hyd i swyddi ymhlith rhannau eraill o'r boblogaeth (Blundell et al. (2004)). Mae'r canfyddiad hwn yn seiliedig ar yr amcangyfrifiad bod effaith y rhaglen ar gyfraddau gadael diweithdra ar gyfer y grŵp cymwys (19-24 oed) yr un peth pa un a ddefnyddir y grŵp cymwys yn byw mewn gwahanol ardaloedd o'r wlad lle na chyflwynwyd y rhaglen eto, neu bobl anghymwys rhwng 25 a 30 oed neu rhwng 31 a 40 oed (roedd y rhain yn rhy hen i gymryd rhan yn y rhaglen) yn yr un ardaloedd fel grŵp rheoli. Os cafwyd sgil-effeithiau negyddol, y disgwyliad fyddai y byddai'r effaith yn edrych yn fwy wrth ddefnyddio pobl 25 i 30 oed fel y grŵp rheoli nag wrth ddefnyddio pobl 31 i 40 oed. Y rheswm am hyn yw bod pobl 19 i 24 oed yn debygol o fod yn amnewidiadau agosach am bobl 25 i 30 oed na phobl 31 i 40 ac, fel y trafodwyd, mae'r sgil-effeithiau negyddol yn debygol o gael effaith ar grwpiau sy'n haws eu hamnewid â'r rheini y mae rhaglen yn effeithio'n uniongyrchol arnynt. Fodd bynnag, gan mai dim ond lefelau gadael diweithdra a ystyriwyd gan y gwerthusiad, yn hytrach na hyd y cyfnod hwnnw, ni all ystyried pa un a wnaeth cynnydd yn nifer y bobl 19 i 24 oed a adawodd diweithdra gynyddu nifer y gweithwyr hŷn a ddaeth yn ddi-waith. Fodd bynnag, mae astudiaeth macro-economaidd o'r rhaglen (Riley ac Young (2000)) yn awgrymu bod lefelau cyflogaeth ymhlith gweddill y boblogaeth wedi cynyddu ychydig bach o ganlyniad i'r rhaglen, yn bennaf oherwydd gostyngiad bach o ran cyflogau gan fod mwy o bobl ifanc yn gweithio.

106

Page 112: An ex-ante analysis effects of the UK Government’s … · Web viewAriannwyd yr ymchwil hon gan Lywodraeth Cymru a Chanolfan er Dadansoddi Microeconomaidd Polisi Cyhoeddus ESRC yn

Ni chanfu'r gwerthusiad o gynllun Llwybrau at Waith y DU, sef rhaglen a gynlluniwyd i wella cyfradd yr unigolion a oedd yn rhoi'r gorau i gael Budd-dal Analluogrwydd a dod o hyd i waith, lawer o dystiolaeth o sgil-effeithiau eang ar unigolion eraill (anghymwys) a oedd yn cael budd-daliadau allan o waith (Adam et al. (2008)). Fodd bynnag, roedd rhywfaint o dystiolaeth o effaith negyddol ar y tebygolrwydd y byddai'r rheini a oedd yn hawlio Lwfans Ceisio Gwaith yn dod o hyd i waith mewn ardaloedd lle y cyflwynwyd y cynllun ym mis Hydref 2003 (ond nid yn yr ardaloedd lle y cyflwynwyd y rhaglen ym mis Ebrill 2004). Mae'n werth nodi bod unigolion sy'n cael Lwfans Ceisio Gwaith yn nodweddiadol yn fwy tebygol o ddod o hyd i swyddi nac unigolion sy'n cael mathau eraill o fudd-daliadau, sy'n golygu, o bosibl, eu bod yn cynrychioli grŵp sy'n amnewidiad agos am yr unigolion a oedd yn cael Budd-dal Analluogrwydd a gafodd gymorth ac anogaeth i ddod o hyd i waith. Mae awduron y gwerthusiad yn cynnig nifer o esboniadau am y sgil-effeithiau gan gynnwys y ffaith na allai'r farchnad lafur ddarparu swyddi ar y pryd (diffyg galw am lafur), neu'r ffaith bod staff y Ganolfan Byd Gwaith wedi ei chael hi'n anodd ymdopi â'r nifer ychwanegol o bobl a oedd yn chwilio am waith, neu'n cael eu gwyro o grwpiau eraill er mwyn gweithredu cynllun Llwybrau at Waith.

Mae hyn yn codi pwynt pwysig. Mae'n bosibl nad dim ond o ganlyniad i amnewidolrwydd neu ategolrwydd gwahanol fathau o weithwyr y caiff diwygiadau lles sgil-effeithiau ar weddill y boblogaeth. Gall ddigwydd hefyd oherwydd newidiadau yn y ffordd y mae'r sefydliadau sy'n rhoi'r diwygiadau lles ar waith (megis y Ganolfan Byd Gwaith neu ddarparwyr O Fudd-dal i Waith) yn ymdrin â'u cleientiaid eraill. Ar y naill law, caiff adnoddau o bosibl eu harallgyfeirio o grwpiau eraill, gan leihau'r tebygolrwydd y byddant yn dod o hyd i swyddi neu'n llwyddo i gadw swyddi. Ond gall cynllun newydd hefyd annog defnydd ehangach o 'arfer gorau', gan wella ansawdd y cymorth a roddir i eraill, a thrwy hynny wella'r tebygolrwydd y byddant yn dod o hyd i swyddi neu'n llwyddo i gadw swyddi.

7.2 Dylanwad amodau o ran y galw am lafur Fel y trafodwyd yn Adran 7.1, mae'r rhan fwyaf o enghreifftiau o lenyddiaeth empirig sy'n bodoli eisoes ar ymatebolrwydd y cyflenwad llafur i drethi a lles, yn ogystal â'r modelau o'r cyflenwad llafur mewn perthynas â mamau unigol a chyplau a amcangyfrifwyd ar gyfer yr adroddiad hwn, yn seiliedig ar sefyllfa lle y gall unrhyw un sy'n awyddus i weithio am y gyfradd cyflog gyfredol wneud hynny, a lle mae'r galw am lafur yn gwbl hydwyth. Fodd bynnag, yng nghyd-destun lefelau diweithdra sylweddol a galw is am lafur, mae'n bosibl na fydd y dybiaeth hon yn briodol. Felly mae'n werth ystyried sut y gall effeithiau'r diwygiadau lles ar gyflogaeth ac oriau gwaith fod yn wahanol pan gaiff y galw am lafur ei gyfyngu. Hynny yw, sut y gallai cyflwr y farchnad lafur yng Nghymru effeithio ar effaith y diwygiadau lles ar gyflogaeth ac oriau gwaith?

Mae nifer o faterion cysyniadol ar wahân - ond y ceir cysylltiad rhyngddynt - i'w hystyried wrth ymdrin â'r cwestiwn hwn. Yn gyntaf, mae'n ddefnyddiol gwneud gwahaniaeth rhwng dwy ffordd wahanol y gall y galw am lafur gyfyngu ar y graddau y mae cynnydd o ran y cyflenwad llafur yn cyfateb i gynnydd o ran lefelau cyflogaeth. Un ffordd yw cromlin galw am lafur sy'n goleddu am i lawr fel bod unrhyw gynnydd yn y cyflenwad llafur yn arwain at ostyngiadau yn y cyflogau y mae cyflogwyr yn barod i'w cynnig (gweler Ffigur 7.1 uchod). Mewn achos o'r fath, bydd y farchnad lafur yn clirio fel bod y cyflenwad llafur yn cyfateb i'r galw am lafur, ond am gyflog is nag o'r blaen. Fel arall, pe na fyddai'r farchnad lafur yn clirio, byddai achosion o (dan-)ddiweithdra anwirfoddol: sef pobl a fyddai'n barod i weithio (neu weithio mwy) am y gyfradd cyflog gyfredol ond na fyddent yn gallu dod o hyd i swyddi (neu weithio oriau ychwanegol).

Yn yr ail achos, gyda stoc o weithwyr posibl yn barod i weithio am y gyfradd gyfredol ar y farchnad, ond gyda chyflogau yn gyndyn i ostwng cyn y diwygiadau, ymddengys yn debygol y byddai llawer o'r rheini y byddai'r diwygiadau wedi'u hannog i gynyddu eu cyflenwad llafur yn ei chael hi'n anodd gwneud hynny, gan leihau'r effaith gadarnhaol ar gyflogaeth ac oriau gwaith.

107

Page 113: An ex-ante analysis effects of the UK Government’s … · Web viewAriannwyd yr ymchwil hon gan Lywodraeth Cymru a Chanolfan er Dadansoddi Microeconomaidd Polisi Cyhoeddus ESRC yn

Mae nifer o bapurau yn ymdrin â diweithdra anwirfoddol o'r fath. Mae Blundell, Ham a Meghir (1987) yn un o'r papurau semenaidd yn y maes, gan fodelu cyflogaeth ac oriau gwaith menywod yn y DU o ganlyniad i broses dau gam: yn gyntaf, bydd menywod yn penderfynu pa un a ydynt am weithio o ystyried y cymhellion ariannol i weithio sydd ar gael iddynt, ac wedyn yn ceisio dod o hyd i swydd. Yn y model hwn, mae'r rheini a arsylwyd nad oeddent yn gweithio yn cynnwys dau grŵp ar wahân: y rheini nad oeddent am weithio o ystyried y cyflog y gallent ei fynnu yn y farchnad lafur; a'r rheini sydd am weithio ond nad ydynt yn gallu dod o hyd i swydd. Maent o'r farn bod caniatáu ar gyfer diweithdra anwirfoddol o'r fath yn arwain at ostyngiad yn hydwythedd amcangyfrifedig y cyflenwad llafur o gymharu â model safonol o'r cyflenwad llafur (i'r rheini sy'n gweithio neu sy'n chwilio am waith, mae'r hydwythedd yn negyddol hyd yn oed yn y model safonol). Mae Bargain et al (2010) yn defnyddio data o'r Almaen ac yn ystyried i ba raddau y mae amcangyfrifon o hydwytheddau'r cyflenwad llafur o fodelau safonol o'r cyflenwad llafur yn wyrdueddol o dan amrywiaeth o amgylchiadau, o ystyried y posibilrwydd o ddiweithdra anwirfoddol. Ceir ganddynt fod model safonol yn gyffredinol yn goramcangyfrif hydwythedd y cyflenwad llafur, ond gydag amrywiadau sylweddol o ran maint y duedd hon ar draws grwpiau demograffig. Er enghraifft, mae'r duedd yn fawr ac yn gadarnhaol ar gyfer rhannau o'r boblogaeth â lefelau uchel o ddiweithdra anwirfoddol (megis dynion sengl); fodd bynnag, mae'n negyddol, er nad yw o unrhyw bwys ystadegol, ar gyfer grwpiau lle bo'r diffyg cyflogaeth yn aml yn wirfoddol (megis menywod mewn cyplau). Daw Phipps (1991) o hyd i hydwytheddau tebyg llai o faint o ystyried galw cyfyngedig am lafur, y tro hwn gan ddefnyddio data o Ganada.

Oherwydd bod y canlyniadau hyn yn ymwneud ag effaith caniatáu ar gyfer diweithdra anwirfoddol ar y cyflenwad llafur dymunol yn hytrach na chyflogaeth wirioneddol, mae'r canfyddiadau mewn gwirionedd yn fwy perthnasol i effaith hirdymor y diwygiadau lles, yn hytrach na'r effaith byrdymor o ystyried galw cyfyngedig am lafur. Mae Bargain et al (2010) hefyd yn ystyried sut mae newidiadau a ragfynegir o ran cyflogaeth wirioneddol yn amrywio yn ôl y cyfyngiadau ar y galw am lafur. Ceir ganddynt fod y duedd yn fach pan fo'r diwygiad yn gymharol ddibwys a bo'r effaith wedi'i chanolbwyntio ymhlith grwpiau, megis menywod â phlant, sydd wedi dewis bod allan o'r farchnad lafur yn hytrach na'r rhai nad ydynt yn ddi-waith o'u gwirfodd. Fodd bynnag, pan fo diwygiadau yn fawr ac mai'r grwpiau hynny y caiff diweithdra anwirfoddol fwy o effaith arnynt, megis dynion sengl, yw'r grwpiau yr effeithir arnynt, mae effeithiau diwygiadau ar gyflogaeth yn sylweddol llai o ystyried cyfyngiadau ar alw am lafur. Mae Phipps (1991) yn cynnal efelychiadau tebyg gan ddefnyddio modelau lle mae'r galw wedi'i gyfyngu a lle nad yw'r galw wedi'i gyfyngu, gan ddod i'r casgliad lle y tybir bod cyfyngiadau sylweddol ar y galw am lafur, bod effeithiau polisïau ar gyflogaeth a fyddai fel arall wedi rhoi hwb sylweddol i gyflogaeth, mewn gwirionedd, yn ddim.

Felly mae'r canlyniadau hyn yn awgrymu yn y byrdymor o leiaf, y gallai lefelau diweithdra sylweddol a gwendidau yn y farchnad lafur yng Nghymru olygu na chaiff yr effaith gadarnhaol y rhagfynegwyd y câi'r diwygiadau lles ar y cyflenwad llafur ei hadlewyrchu mewn cynnydd yn nifer y bobl sy'n gweithio. Dros amser, wrth i'r farchnad lafur adfer, byddai disgwyl i'r cyfyngiadau hyn ar alw leihau, gan arwain at ymateb cyflogaeth cryfach. Ym mis Mawrth, rhagfynegodd yr OBR y byddai lefelau diweithdra ar gyfer y DU gyfan ar lefel o 8% o hyd yn 2014, cyn gostwng yn sylweddol i 6.3% yn 2016. Fodd bynnag, nid yw'r OBR yn cyflwyno ei rhagfynegiadau yn ôl gwlad a rhanbarth, a gallai'r ffaith ei bod yn dibynnu fwy ar ostyngiadau gwariant sylweddol yn y sector cyhoeddus yng Nghymru olygu nad yw'r rhagolygon ar gyfer y farchnad lafur yng Nghymru cystal.

Fel y trafodwyd, mae'r modelau 'rhwystr dwbl' sy'n cynnwys diweithdra anwirfoddol hefyd yn awgrymu bod y cyflenwad llafur o bosibl yn llai ymatebol yn yr hirdymor nag yr amcangyfrifid o fodelau sy'n anwybyddu'r nodwedd hon o'r byd sydd ohoni (h.y. y rhan fwyaf o fodelau). Hyd yn oed pe byddai'r marchnadoedd llafur yn clirio, fel na fyddai unrhyw ddiweithdra anwirfoddol, gall galw sy'n goleddu ar i lawr am lafur (fel yn Ffigur 7.1) hefyd effeithio ar y broses o amcangyfrifo hydwytheddau'r cyflenwad llafur a dibynadwyedd rhagfynegiadau o effaith diwygiadau polisi ar gyflogaeth ac oriau gwaith.

108

Page 114: An ex-ante analysis effects of the UK Government’s … · Web viewAriannwyd yr ymchwil hon gan Lywodraeth Cymru a Chanolfan er Dadansoddi Microeconomaidd Polisi Cyhoeddus ESRC yn

Dangoswyd gennym yn Adran 7.1 bod galw sy'n goleddu ar i lawr am lafur yn golygu bod effeithiau diwygiadau ar faint o lafur a ddefnyddir yn llai na'r cynnydd yn y cyflenwad llafur. Byddai hyn yn awgrymu y byddai efelychu diwygiadau gan ddefnyddio model o'r cyflenwad llafur yn arwain at sefyllfa lle y rhagfynegir cynnydd rhy fawr o ran lefelau cyflogaeth, o leiaf yn y byrdymor. Fodd bynnag, os bydd model yn nodi effeithiau cymhellion ariannol i weithio ar y cyflenwad llafur drwy gymharu sut mae cyflogaeth/oriau gwaith a chymhellion ariannol i weithio yn newid dros amser (er enghraifft, gan gymharu cyflogaeth cyn ac ar ôl diwygiadau treth), mae'n bosibl mai'r hyn a nodir mewn gwirionedd fyddai effaith gyfun y newid yn y cyflenwad llafur a'r galw sy'n goleddu am i lawr am lafur. Hynny yw, mae'n bosibl y byddai'r hydwythedd a gâi ei amcangyfrif yn briodol ar gyfer rhagfynegi effeithiau byrdymor diwygiadau ar gyflogaeth, ond y byddai'n tanamcangyfrif hydwythedd 'pur' y cyflenwad llafur, a allai fod yn fwy perthnasol yn y tymor hwy (pan fydd y galw am lafur yn fwy hydwyth). Os yw pob elfen arall yn gyfartal, byddai modelau sy'n nodi hydwytheddau'r cyflenwad llafur yn bennaf drwy amrywiadau o ran cymhellion i weithio drwy'r boblogaeth gyfan yn hytrach na thros amser yn amcangyfrif yr effaith 'bur' ar y cyflenwad llafur yn gywir ond byddai'n cynnig hydwytheddau a fyddai'n gor-ragfynegi effeithiau byrdymor diwygiadau ar gyflogaeth.

Gallai hyn awgrymu bod angen defnyddio hydwytheddau o amcangyfrifon cyfresi amser i ystyried effeithiau byrdymor diwygiadau ar gyflogaeth, a hydwytheddau o astudiaethau trawsadrannol i ystyried yr effeithiau tymor hwy ar gyflogaeth. Yn anffodus, nid yw hyn yn bosibl am o leiaf ddau reswm. Yn gyntaf, fel y nodir yn Meghir a Phillips (2010), defnyddio diwygiadau polisi dros amser yw un o'r ffyrdd mwyaf darbwyllol ar gyfer goresgyn y broblem bod cyflogau a'r cyflenwad llafur wedi'u cysylltu am resymau heblaw cyswllt achosol uniongyrchol. Felly mae astudiaethau sy'n defnyddio newidiadau polisi o'r fath yn aml yn darparu amcangyfrifon mwy credadwy nag astudiaethau trawsadrannol. Ar y llaw arall, mae'r rhan fwyaf o astudiaethau yn dibynnu ar amrywiadau trawsadrannol o ran cymhellion i weithio a chyflogaeth/oriau gwaith er mwyn cael y meintiau sampl angenrheidiol i lunio amcangyfrifon manwl gywir o'r cyflenwad llafur. Er mwyn llunio barn ar ba mor ymatebol yw'r cyflenwad llafur ar gyfer gwahanol rannau o'r boblogaeth, rhaid i ni felly ddefnyddio'r ddau fodel sy'n dibynnu ar amrywiadau cyfresi amser a'r rheini sy'n dibynnu ar amrywiadau trawsadrannol (yn bennaf) o ran cymhellion i weithio.

Mae Peichl a Siegloch (2011) yn ystyried sut y mae caniatáu ar gyfer cromliniau galw sy'n goleddu ar i lawr yn effeithio ar effaith diwygiadau lles damcaniaethol yn yr Almaen ar gyflogaeth ac yn dod i'r casgliad bod yr effeithiau ar alw yn gwrthbwyso tua chwarter yr effaith gadarnhaol y rhagwelwyd y byddai'r diwygiadau yn ei chael ar y cyflenwad llafur. Maent yn defnyddio data o 2009, sef blwyddyn pan oedd yr Almaen yng nghanol dirwasgiad difrifol, ond pan lwyddodd y farchnad lafur i ddal ei thir yn gymharol dda. Felly nid yw'n glir i ba raddau y mae'r canlyniadau yn berthnasol i Gymru.

Gall y 'senario ymatebolrwydd isel' a ddefnyddiwyd yn y dadansoddiad sensitifrwydd o ganlyniadau'r dull calibradu helpu o ran deall cymaint yn llai y gallai'r effeithiau fod yn y byrdymor os bydd y galw am lafur yn cael effaith andwyol ar newidiadau o ran cyflogaeth ac oriau. Yn gyffredinol, mae'r senario hon yn tybio nad yw oriau ond tua chwarter mor ymatebol i newidiadau o ran cymhellion ariannol â'r senario ganolog, a bod cyfranogiad tua hanner mor ymatebol. Yn unol â'r tybiaethau hyn, amcangyfrifir mai dim ond 0.1 pwynt canran y bydd y diwygiadau gan gynnwys Credyd Cynhwysol yn cynyddu cyflogaeth (o gymharu â 0.3 pwynt canran yn y senario ganolog). Er nad 'rhagfynegiadau' yw'r rhain o ran sut y bydd galw gwan am lafur yn effeithio ar effaith y diwygiadau ar gyflogaeth yn yr hinsawdd sydd ohoni, maent yn dangos bod yr effeithiau byrdymor yn debygol o fod yn sensitif iawn i'r graddau y mae'r galw yn cyfyngu ar ymatebion o'r ochr gyflenwi.

109

Page 115: An ex-ante analysis effects of the UK Government’s … · Web viewAriannwyd yr ymchwil hon gan Lywodraeth Cymru a Chanolfan er Dadansoddi Microeconomaidd Polisi Cyhoeddus ESRC yn

7.3 Yr effaith bosibl ar alw cyfanredol Yn ogystal â rhyngweithio â'r farchnad lafur, gall newidiadau o ran gwariant gan y rheini y mae'r diwygiadau lles yn effeithio arnynt (boed hynny'n uniongyrchol drwy newidiadau o ran hawliadau, drwy newidiadau o ran cyflogaeth ac oriau gwaith neu drwy sgil-effeithiau) achosi effaith economaidd ehangach. Er enghraifft, os bydd incwm teuluoedd yn gostwng o ganlyniad i ostyngiadau mewn taliadau lles, mae'n bosibl y byddant yn lleihau eu gwariant ar nwyddau a gwasanaethau. Gall y cwmnïau sy'n cynhyrchu'r nwyddau a'r gwasanaethau hyn ymateb i'r gostyngiad yn y galw am eu cynhyrchion ac felly refeniw drwy ddiswyddo gweithwyr a lleihau'r eitemau y byddant yn eu prynu gan eu cyflenwyr. Wedyn gall perchenogion a chyflenwyr y cwmni, a'r gweithwyr a ddiswyddwyd, leihau eu gwariant hwy, gan arwain at ostyngiadau pellach o ran lefel y galw, ac yn y blaen. Ni fydd yr effaith yn cynyddu'n ddiderfyn: ar bob cam, bydd rhywfaint o'r gostyngiad mewn incwm yn arwain at ostyngiad mewn cynilion yn hytrach na gostyngiad mewn gwariant, felly mae'r gostyngiadau ychwanegol o ran galw yn lleihau'n raddol ar hyd y gadwyn. A chyfyngir ymhellach ar yr effaith ar y galw am allbwn domestig, gan y bydd rhywfaint o'r gostyngiad mewn galw yn arwain at ostyngiad mewn mewnforion, gan leihau allbwn tramor yn hytrach nag allbwn domestig.

Mae'r enghraifft syml hon yn dangos dau ffactor allweddol sy'n dylanwadu ar faint y 'lluosogwyr ariannol' sy'n pennu effaith newid mewn gwariant ar fudd-daliadau a chredydau treth (ac, yn wir, gwariant ar wasanaethau cyhoeddus, buddsoddiad cyhoeddus neu newidiadau yn lefelau treth) ar faint yr economi: y tebygolrwydd y bydd pobl yn gwario yn hytrach na chynilo incwm ffiniol, a maint gollyngiadau mewn gwariant ffiniol ar ffurf mewnforion. Drwy ystyried y ffactor cyntaf, gellir deall i ryw raddau faint y lluosogwyr sy'n gysylltiedig â'r diwygiadau lles yng Nghymru.

Yn gyntaf, ceir tystiolaeth glir fod y tebygolrwydd o wario incwm ffiniol yn gostwng gyda lefel yr incwm. Hynny yw, mae newid o £1 yn incwm teulu incwm isel yn arwain at newid mwy yn eu gwariant na newid o £1 yn incwm teulu incwm uwch. Mae hyn yn adlewyrchu, yn rhannol, y ffaith bod teuluoedd incwm isel yn fwy tebygol o gael eu cyfyngu o ran credyd: pe byddent yn gallu cael benthyg arian er mwyn gwario mwy byddent yn gwneud hynny, ond ni allant gael gafael ar arian o'r fath, ac felly mae newidiadau i'w hincwm yn cael effaith uniongyrchol ar eu gwariant. Gall teuluoedd incwm uwch yn hytrach ymateb i ostyngiad yn eu hincwm yn rhannol drwy leihau eu cynilion neu drwy gynyddu eu benthyciadau. Gan fod y diwygiadau lles yn arwain at ostyngiadau mwy o ran incwm cartrefi tlotach na chartrefi mwy cyfoethog, gallem felly ddisgwyl i'r effaith ar wariant ac, o ganlyniad, yr effaith ar faint yr economi fod yn fwy, nag ar gyfer newidiadau sy'n effeithio'n bennaf ar incwm unigolion ac incwm uwch.

Yng Nghyllideb Mehefin 2010, cyhoeddodd yr OBR amcangyfrifon o faint y lluosogwyr ariannol ar gyfer nifer o wahanol fathau o wariant a threthi (OBR (2010)). Mae'r rhain yn dangos maint effaith diwygiad a gaiff effaith uniongyrchol o newid refeniw neu wariant 1% CMC ar lefel y Cynnyrch Mewnwladol Crynswth (CMC). Y lluosogwr a ddewiswyd ar gyfer newidiadau o ran gwariant lles yw 0.6, sy'n golygu yr amcangyfrifir y bydd mesur a gaiff effaith uniongyrchol o leihau gwariant lles 1% o'r CMC yn arwain at ostyngiad o 0.6% mewn CMC yn y byrdymor. Ar y llaw arall, mae'r OBR yn tybio mai dim ond lleihad o 0.3% a geir o ran CMC yn y byr dymor os ceir cynnydd mewn refeniw treth sy'n cyfateb i 1% o'r CMC drwy newidiadau treth incwm ac Yswiriant Gwladol.

Gyda'i gilydd, amcangyfrifir y bydd effaith uniongyrchol y diwygiadau lles yn lleihau gwariant lles tua 1% o'r CMC.28 Wedyn byddai lluosogwyr yr OBR yn awgrymu effaith o tua 0.6% o'r CMC ar allbwn yn y byrdymor i'r DU yn gyffredinol. Fodd bynnag, mae'n bwysig cydnabod y gall defnyddio dulliau eraill o leihau'r diffyg hefyd esgor ar gostau. Os yw lluosogwyr yr OBR yn gywir, byddai gostyngiadau mewn gwariant ar wasanaethau cyhoeddus yn cael effaith debyg ar lefel y CMC, a byddai gostyngiadau mewn

28 Mae'r toriadau lles yn cyfateb i ostyngiad mewn gwariant o £18 biliwn, wedi'i wrthbwyso gan gost Credyd Cynhwysol, sef £2 biliwn, gan olygu newid cyffredinol mewn gwariant ar les o £16 biliwn, mewn cyd-destun lle mae'r CMC tua £1,600 biliwn.

110

Page 116: An ex-ante analysis effects of the UK Government’s … · Web viewAriannwyd yr ymchwil hon gan Lywodraeth Cymru a Chanolfan er Dadansoddi Microeconomaidd Polisi Cyhoeddus ESRC yn

gwariant buddsoddi (sy'n cael ei leihau'n sylweddol iawn eisoes) yn cael effaith fwy byth (1% o'r CMC yn y byrdymor), a gall arwain at ostyngiad ym mhotensial cynhyrchiol hirdymor yr economi. Rhagfynegir y bydd cynnydd mewn refeniw treth yn arwain at effaith fyrdymor lai ar allbwn, ond unwaith eto, gall arwain at ostyngiadau tymor hwy mewn allbwn drwy ostyngiadau yn y cyflenwad llafur neu lefelau buddsoddi.

Mae'r diwygiadau lles yn digwydd yn ystod cyfnod o wendid economaidd; mae pa un a yw'r lluosogwyr ariannol yn debygol o fod yn fwy neu'n llai nag arfer yn y cyd-destun hwn yn destun trafod. Un ffactor allweddol yw i ba raddau y mae gwariant y rheini sy'n cael taliadau lles yn gwthio gweithgarwch economaidd arall allan. Pe bai'r economi yn gweithredu'n agos at ei chapasiti, mae'n bosibl na fyddai cynnydd yn y galw gan unigolion sy'n cael budd-daliadau yn arwain at gynnydd o ran allbwn economaidd a lefelau cyflogaeth cyffredinol, ond yn lle hynny, y byddai llafur a dulliau cynhyrchu yn cael eu harallgyfeirio o ddefnyddiau eraill. Yn yr un modd, gall gostyngiad yn y galw gan unigolion sy'n cael budd-daliadau ryddhau llafur a'r capasiti cynhyrchu at fathau eraill o ddefnydd yn hytrach na gweld gostyngiad mewn gweithgarwch economaidd cyffredinol. Byddai hyn yn awgrymu lluosogwr ariannol bach: mae gwariant y llywodraeth yn arwain at newidiadau o ran dyraniadau allbwn yn hytrach na'r lefel. Mewn cyfnod â chapasiti sbâr a lefelau sylweddol o ddiweithdra, fodd bynnag, gall effeithiau 'gwthio allan' gwariant y llywodraeth ar fudd-daliadau fod yn llai: wedyn byddai newidiadau o ran gwariant yn arwain at newidiadau o ran lefel yr allbwn, gan awgrymu lluosogwr ariannol uwch.

Gall y tebygolrwydd ffiniol i wario hefyd fod yn wahanol yn ystod cyfnod o ddirwasgiad. Os bydd mwy o bobl yn wynebu cyfyngiadau o ran cael credyd, ac felly yn fwy tebygol o wario incwm ffiniol, gall effeithiau'r lluosogwr fod yn fwy nag arfer. Ar y llaw arall, os bydd pobl yn fwy gofalus yn ystod cyfnodau o ddirwasgiad ac yn cynilo cyfran fwy o'u hincwm ffiniol yn hytrach na'i wario, gall y lluosogwyr fod yn llai.

O ystyried y gellir cyflwyno dadleuon cadarn o ran pa un a fyddai'r lluosogwr yn fwy neu'n llai yn ystod cyfnodau o wendid economaidd, mae pennu sut y mae'n amrywio'n ymarferol o reidrwydd yn gwestiwn empirig. Mae Auerbach a Gorodnichenko (2012) yn amcangyfrif maint lluosogwyr ariannol ar gyfer nifer o economïau datblygedig, ac yn dod i'r casgliad eu bod yn sylweddol fwy yn ystod cyfnodau o ddirwasgiad nag yn ystod cyfnodau o ffyniant economaidd. Er enghraifft, amcangyfrifir bod y lluosogwr ariannol ar gyfer pryniannau gan y llywodraeth yn ystod cyfnodau o ddirwasgiad yn cyrraedd uchafswm o 3.5 ar ôl tua dwy flynedd (er bod amrediad gwallau eang yn gysylltiedig â hyn, ac mai dim ond tebygolrwydd o 10% sydd y bydd yn llai na 0.6 neu'n fwy na 6.3) a chyfartaledd o 2.3 yn ystod y tair blynedd yn dilyn y newid, ond nid yw'r amcangyfrifon yn sylweddol wahanol yn ystadegol i 0 ar gyfer cyfnodau o ffyniant economaidd. Mae canlyniadau Bachmann a Sims (2011) yn debyg. Fodd bynnag, nid yw'n glir ar unwaith beth y mae'r amcangyfrifon hyn yn ei awgrymu ar gyfer maint y lluosogwyr ariannol i Gymru yn ystod y blynyddoedd nesaf: economi sy'n gweithredu islaw ei photensial (er enghraifft, gyda lefelau sylweddol o ddiweithdra) ond y disgwylir iddi ehangu'n araf.

Gan ddefnyddio data ar lefel taleithiau'r UD, mae Shoag (2010) yn ystyried sut y mae lluosogwyr ariannol yn amrywio gan ddibynnu pa un a yw lefelau cyflogaeth yn uwch neu'n is na'r cyfartaledd hirdymor, ac yn canfod lluosogwyr ychydig uwchlaw 3 am gyfnodau lle mae lefelau cyflogaeth islaw'r cyffredin a thua 1.5 pan fydd lefelau cyflogaeth yn uwch na'r cyffredin. Byddai hyn yn awgrymu y bydd effaith gostyngiadau gwariant ar les ar yr economi yn fwy na'r cyffredin tra bod yr economi yn gweithredu islaw ei photensial a bod lefelau cyflogaeth yn isel. Yn ogystal, daw archwiliad o effeithiau cyfuno ariannol yn ystod y cyfnod rhwng 2009 a 2011 gan y Gronfa Ariannol Ryngwladol (2012) o hyd i dystiolaeth y bu lluosogwyr ariannol rhwng 0.9 ac 1.7, yn hytrach na thua 0.5 yn ystod y tri degawd hyd at 2009.

Felly mae'r dystiolaeth empirig yn awgrymu bod effaith negyddol byrdymor toriadau lles ar allbwn economaidd a lefelau cyflogaeth yn debygol o fod yn fwy nag y gellid ei ddisgwyl yn nodweddiadol tra bo'r economi yn parhau'n gymharol anwadal. Fodd bynnag, mae'n bwysig cofio, yn y tymor hwy, wrth i'r

111

Page 117: An ex-ante analysis effects of the UK Government’s … · Web viewAriannwyd yr ymchwil hon gan Lywodraeth Cymru a Chanolfan er Dadansoddi Microeconomaidd Polisi Cyhoeddus ESRC yn

economi gryfhau a symud i gydbwysedd newydd, y byddai disgwyl i'r effeithiau byrdymor hyn bylu. Yn wir, o ystyried y cynnydd a ragfynegwyd yn y cyflenwad llafur, rhagwelir mai effaith hirdymor y diwygiadau fydd cynnydd o ran cyflogaeth (ac felly, o bosibl, allbwn economaidd).

Sut mae'r dystiolaeth yn cymharu â'r dadansoddiad o luosogwyr ariannol yng Ngham 1 o asesiad Llywodraeth Cymru o ddiwygiadau lles Llywodraeth y DU yng Nghymru (Llywodraeth Cymru (2012))? Gan ddefnyddio dull sy'n seiliedig ar dablau mewnbwn-allbwn, awgrymwyd y byddai lluosogwr o rhwng 1 ac 1.5 yn debygol i Gymru. Mae hyn yn sylweddol uwch nag amcangyfrif yr OBR ond mae o fewn amrediad amcangyfrifon y Gronfa Ariannol Ryngwladol, ac ychydig yn is na'r hyn a ganfuwyd ar gyfer cyfnodau o wendid economaidd a geir gan fwyaf mewn astudiaethau sydd wedi'u lleoli'n bennaf yn yr UD o amrywiadau cylchol mewn lluosogwyr ariannol. Heb ragor o wybodaeth am y dull a ddefnyddiwyd i gyfrifo amcangyfrif Llywodraeth Cymru, nid yw'n glir i ba raddau y gellir dibynnu arnom, ond nid yw'n ymddangos yn anghredadwy o fawr neu fach. Fel gyda ni, pwysleisiodd adroddiad Llywodraeth Cymru fod ei hamcangyfrifon yn anwybyddu effeithiau'r diwygiadau lles ar y cyflenwad llafur, ac yn yr hirdymor, y gall cynnydd o ran lefelau cyflogaeth arwain at gynnydd mewn allbwn economaidd.

7.4 Casgliad Mae'r bennod hon wedi trafod sut y gall y diwygiadau lles effeithio ar y cyd-destun economaidd ehangach a sut y gall y cyd-destun hwnnw effeithio ar y diwygiadau lles. Nid yw'n bosibl meintioli'r effeithiau hyn. Fodd bynnag, mae gwaith rhesymu economaidd ac astudiaeth o'r dystiolaeth empirig sydd ar gael yn awgrymu, yn y byrdymor, y gall cyfyngiadau ar y galw am lafur wanhau unrhyw effaith gadarnhaol a gaiff y diwygiadau ar y cyflenwad llafur, ac y gallai fod rhywfaint o sgil-effeithiau negyddol ar ffurf cyflogau is a lefelau cyflogaeth is i'r rheini sydd eisoes yn gweithio. Ymddengys yn debygol hefyd y caiff gostyngiadau o ran gwariant ar les effaith fyrdymor fwy ar yr economi na phe bai'r economi yn gryfach. Fodd bynnag, mae'n debygol hefyd mai effeithiau dros dro fydd yr effeithiau hyn, a bod yr effeithiau ar y cyflenwad llafur a gaiff eu dadansoddi ym Mhennod 5 a 6 o'r adroddiad hwn yn debygol o fod yn fwy perthnasol yn y tymor hwy, unwaith y bydd yr economi wedi addasu.

112

Page 118: An ex-ante analysis effects of the UK Government’s … · Web viewAriannwyd yr ymchwil hon gan Lywodraeth Cymru a Chanolfan er Dadansoddi Microeconomaidd Polisi Cyhoeddus ESRC yn

8. CasgliadauMae'r adroddiad hwn wedi ystyried effaith diwygiadau lles Llywodraeth y DU (fel y'u cyhoeddwyd hyd at Gyllideb 2012 a chan gynnwys hynny, ond heb gynnwys y cyhoeddiadau a wnaed yn ystod Datganiad Hydref 2012) ar y cymhellion ariannol ac anariannol i weithio sy'n wynebu cartrefi yng Nghymru, ac effeithiau posibl y newidiadau ar gyflogaeth ac oriau gwaith yng Nghymru, gyda'r dadansoddiad meintiol yn canolbwyntio ar y newidiadau o ran cymhellion ariannol.

Mae effaith y diwygiadau lles ar gymhellion ariannol i weithio yn gymharol glir. Mae'r toriadau lles yn golygu y caiff y cymhellion cyffredinol i weithio eu hatgyfnerthu ychydig a gostyngiad yn nifer y bobl mewn gwaith a allai golli eu budd-daliadau ar sail prawf modd pe byddent yn cynyddu eu henillion. Bydd y broses o gyflwyno'r Credyd Cynhwysol yn atgyfnerthu'r cymhellion ariannol i weithio ymhellach, ar gyfartaledd, gyda hawlwyr yn gallu ennill mwy cyn iddynt ddechrau colli eu budd-daliadau. Ni fyddai unrhyw un yn colli budd-daliadau ar y cyfraddau mwyaf cosbol sydd i'w cael yn y system bresennol.

Caiff y diwygiadau effeithiau gwahanol iawn ar y cymhellion i weithio sy'n wynebu pobl o dan wahanol amgylchiadau. Yn arbennig, mae'r diwygiadau, heb gynnwys y Credyd Cynhwysol, yn dueddol o wanhau'r cymhelliant i deuluoedd â phlant fod â rhywun sy'n gweithio, yn enwedig os mai enillion isel a gynigir; ond maent yn atgyfnerthu'r cymhellion i'r ail bartner mewn cyplau weithio ac i oedolion sengl heb blant weithio. Caiff Credyd Cynhwysol effaith gwbl groes: mae profion modd llai bygythiol yn atgyfnerthu'r cymhelliant i gyplau gael un partner yn gweithio, ond yn groes i hynny, gall cyplau fod ar eu colled fwy os bydd yr ail unigolyn yn ennill cyflog hefyd, sy'n golygu y bydd llai o gymhelliant i'r rheini â phartneriaid sy'n gweithio weithio o gwbl.

Mae'n amlwg hefyd y gall llawer mwy o bobl wynebu amodau chwilio am waith nag a oedd yn eu hwynebu ym mis Ebrill 2010: caiff rhieni unigol â phlentyn ifancaf rhwng 5 a 9 oed a chyn hawlwyr Budd-dal Analluogrwydd yr aseswyd eu bod yn ffit i weithio eu symud i Lwfans Ceisio Gwaith, ac mae'r Credyd Cynhwysol yn golygu bod llawer mwy o bobl mewn cyplau incwm isel yn destun gofynion chwilio am waith, er nad yw'r llywodraeth yn bwriadu gwneud defnydd llawn o'r pwerau hynny i ddechrau.

Mae canlyniadau gwaith modelu'r cyflenwad llafur yn awgrymu y bydd effaith y newidiadau o ran cymhellion ariannol i weithio ar gyflogaeth ac oriau gwaith yn gymharol fach: yr amcangyfrif canolog yw y bydd cyflogaeth yn cynyddu tua 5,000 (neu 0.3 pwynt canran), y bydd oriau gwaith cyfunol yn cynyddu tua 1% ac y bydd enillion cyfunol yn cynyddu 0.5%, ar ôl cyflwyno'r gyfres diwygiadau lawn (gan gynnwys y Credyd Cynhwysol). Caiff hyn ei lywio'n bennaf gan y Credyd Cynhwysol: rhagfynegir na fydd y diwygiadau eraill yn cael llawer o newid ar lefelau cyflogaeth cyffredinol, er bod disgwyl iddynt gynyddu oriau gwaith ac felly enillion cyfunol rywfaint. Dengys y dadansoddiad sensitifrwydd bod rhywfaint o ansicrwydd o ran y rhagfynegiadau hyn, ond, ar y cyfan, ymddengys fod effaith y newidiadau o ran cymhellion ariannol i weithio ar y cyflenwad llafur yn gadarnhaol, er yn gymharol fach.

Mae'r effeithiau a ragfynegir ar y cyflenwad llafur yn gyson â'r newidiadau o ran cymhellion i weithio: rhagfynegir y bydd y grwpiau hynny y rhoddir cymhellion cryfach iddynt yn gweld cynnydd yn y cyflenwad llafur, ac i'r gwrthwyneb. Yn arbennig, rhagfynegir y bydd y diwygiadau, heb gynnwys Credyd Cynhwysol, yn arwain at gynnydd o ran lefelau cyflogaeth ymhlith y rheini â phartneriaid sy'n gweithio, a gostyngiad o ran lefelau cyflogaeth ymhlith rhieni unigol a phobl â phartneriaid nad ydynt yn gweithio. Hynny yw, rhagfynegir y bydd y diwygiadau, heb gynnwys Credyd Cynhwysol, yn arwain at lai o deuluoedd sy'n gweithio, ond hefyd at fwy o deuluoedd lle mae'r ddau bartner yn gweithio. Fodd bynnag, i'r gwrthwyneb, rhagfynegir y bydd cyflwyno Credyd Cynhwysol yn lleihau nifer y teuluoedd heb waith, yn cynyddu nifer y cyplau lle mai un ohonynt sy'n ennill cyflog, ond yn lleihau nifer y cyplau lle mae'r

113

Page 119: An ex-ante analysis effects of the UK Government’s … · Web viewAriannwyd yr ymchwil hon gan Lywodraeth Cymru a Chanolfan er Dadansoddi Microeconomaidd Polisi Cyhoeddus ESRC yn

ddau ohonynt yn ennill cyflog. Gan gymryd yr holl ddiwygiadau gyda'i gilydd, y patrwm hwn sydd fwyaf amlwg.

Fodd bynnag, dylid pwysleisio bod ansicrwydd sylweddol o hyd ynghylch effaith gyffredinol y diwygiadau ar gyflogaeth, oriau gwaith ac enillion yng Nghymru.

Yn gyntaf, nid yw'n bosibl meintioli effaith debygol y newidiadau o ran amodolrwydd, tryloywder ac agweddau eraill anariannol cymhellion i weithio ar y cyflenwad llafur. Er y byddai disgwyl effaith gadarnhaol, nid yw maint effaith o'r fath yn glir: mae'n bosibl y gallai effaith y newidiadau anariannol hyn fod yn fwy na'r newidiadau o ran cymhellion ariannol i weithio, ond mae hefyd yn bosibl mai effaith fach iawn a gânt. Mae'r ansicrwydd hwn yn adlewyrchu, yn rhannol, y ffaith nad oes tystiolaeth ffurfiol ar gael o effaith newidiadau tebyg. Nid yw'n amlwg eto ychwaith faint yn union yn rhagor o bobl fydd yn destun gofynion chwilio am waith yn unol â'r Credyd Cynhwysol: mae'r rheoliadau yn caniatáu ehangu'r gofynion chwilio am waith i tua 50,000 yn rhagor o bobl yng Nghymru (ymhlith cyplau yn bennaf), ond nid yw'r Adran Gwaith a Phensiynau wedi ymrwymo i ddefnyddio'r opsiwn hwnnw'n llawn felly nid yw'n eglur faint o bobl ychwanegol fydd yn wynebu'r gofynion mewn gwirionedd.

Yn ail, mae tystiolaeth yn awgrymu y gall y diwygiadau gael effaith lai ar gyflogaeth mewn marchnad lafur wedi'i nodweddu gan alw isel am lafur a lefelau diweithdra uchel. Er ei bod yn debygol y byddai unrhyw gyfyngiadau ar alw yn golygu effaith llai byth ar gyflogaeth na'r rhagfynegiadau bach a wnaed gennym, o leiaf yn y byrdymor, nid yw'n eglur i ba raddau y bydd cyfyngiadau ar alw yn atal pobl rhag dechrau gweithio (neu'n arwain at sgil-effeithiau negyddol ymhlith gweithwyr eraill).

Yn drydydd, mae ein dadansoddiad ansoddol wedi dadansoddi effaith y diwygiadau ar gyflogaeth, oriau gwaith ac enillion, gan gadw nodweddion eraill teuluoedd yn sefydlog. Fodd bynnag, yn yr hirdymor, gall y diwygiadau effeithio ar benderfyniadau pobl am addysg, partneriaeth neu ffrwythlondeb, gallant effeithio ar faint o brofiad gwaith y bydd pobl yn ei gael neu gallant effeithio ar y cyflogau y mae cyflogwyr yn barod i'w cynnig ac yn gallu eu cynnig i weithwyr. Wedyn gall yr effeithiau tymor hwy hyn gael effeithiau ychwanegol ar y cyflenwad llafur. Er enghraifft, gall y cynnydd a ragfynegir yn y cyflenwad llafur ymhlith rhieni unigol a'r unigolyn cyntaf sy'n ennill cyflog mewn cyplau arwain at sefyllfa lle y byddant yn cael mwy o brofiad gwaith, gan arwain at gyflogau uwch, gwell cymhellion i weithio ac yn y pen draw, effaith fwy ar y cyflenwad llafur. Fodd bynnag, i'r gwrthwyneb, os bydd grwpiau o'r fath yn barod i weithio mwy am eu bod yn cadw cyfran uwch o'u cyflogau, mae'n bosibl y bydd cwmnïau yn gallu gostwng cyflogau (o leiaf hyd at yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol), lleihau cyflogau, ac o bosibl wella'r effaith ar y cyflenwad llafur yn y tymor hwy. Felly, gallai'r effeithiau tymor hwy gynyddu neu leihau effaith y diwygiadau ar y cyflenwad llafur, ac nid yw graddau'r effeithiau posibl hyn yn eglur ychwaith.

Felly mae effaith y diwygiadau ar gyflogaeth, oriau ac enillion yng Nghymru yn ansicr o hyd, gan fod sawl agwedd sy'n anodd eu modelu. Anaml y caiff casgliad sy'n pwysleisio ansicrwydd ei groesawu. Ond mae'n ein hatgoffa, er y gall gwaith dadansoddi damcaniaethol ac empirig gofalus arwain at ddealltwriaeth bwysig, y byddai'n wirion honni y gellir rhagweld effeithiau diwygiadau mawr a chymhleth, sy'n cynnwys newidiadau niferus i gymhellion ariannol ac anariannol i weithio, ac sy'n digwydd mewn hinsawdd economaidd arbennig o ansicr, yn berffaith.

114

Page 120: An ex-ante analysis effects of the UK Government’s … · Web viewAriannwyd yr ymchwil hon gan Lywodraeth Cymru a Chanolfan er Dadansoddi Microeconomaidd Polisi Cyhoeddus ESRC yn

Cyfeiriadau cyffredinolNoder: Ar gyfer gwaith a ddyfynnir yn yr adolygiad llenyddiaeth ym Mhennod 4, gweler Atodiad C. Mae'r rhestr cyfeiriadau hon yn cyfeirio at eitemau a ddyfynnir yng ngweddill yr adroddiad.

Adam, S. (2005), ‘Measuring the Marginal Efficiency Cost of Redistribution in the UK’, Papur Gwaith IFS Rhif W05/14 (http://www.ifs.org.uk/publications/3399)

Adam, S., A. Bozio, C. Emmerson, D. Greenberg a G. Knight, ’A cost-benefit analysis of Pathways to Work for new and repeat incapacity benefits claimants’, Adroddiad Ymchwil DWP Rhif 98, Yr Adran Gwaith a Phensiynau

Adam, S., M. Brewer ac A. Shephard (2006), ‘Financial Work incentives in Britain: Comparisons Over Time and Between Family Types’, Papur Gwaith IFS Rhif W06/20 (http://www.ifs.org.uk/publications/3747)

Adam, S. a J. Browne (2010), ‘Redistribution, Work incentives and Thirty Years of UK Tax and Benefit Reform’, Papur Gwaith IFS Rhif W10/24 (http://www.ifs.org.uk/publications/5367)

Adams, L. a K. Oldfield (2012), ‘Welfare to Self Employment’, Adroddiad Ymchwil yr Adran Busnes, Arloesedd a Sgiliau

Auerbach, A. ac Y. Gorodnichenko (2012), ‘Fiscal Multipliers in Recession and Expansion’, Papur Cynhadledd NBER

Bachmann, R. ac E. Sims (2011), ‘Confidence and the Transmission of Government Spending Shocks’, Mimeo

Bargain, O., M. Caliendo, P. Haan, a K. Orsini (2010), “”Making work pay” in a rationed labor market”, Journal of Population Economics, Cyfrol 23, Rhif 1, tud 323 – 351

Bargain, O., G. Orsini ac A. Peichl (2011), ‘Labor Supply Elasticities in Europe and the US’, Cyfres Papurau Gwaith EUROMOD EM1/11, Prifysgol Essex

Bartik, T. (2002), ‘Instrumental Variable Estimates of the Labor Market Spillover Effects of Welfare Reform’, Papur Gwaith Sefydliad Upjohn Rhif 02–78, Sefydliad Ymchwil i Gyflogaeth Upjohn

Blundell, R., A. Duncan a C. Meghir (1992), ‘Taxation in Empirical Labour Supply Models: Lone Parents in the UK’, Economic Journal, Cyfrol 102, tud 323 – 351. 265–278

Blundell, R., A. Duncan a C. Meghir (1998), ‘Estimating Labour Supply Responses Using Tax Reforms’, Econometrica, Cyfrol 66, Rhif 4, tud 323 – 351. 827–861

Blundell, R., J. Ham a C. Meghir (1987), ‘Unemployment and Female Labour Supply’, The Economic Journal, Cyfrol 97, Conference Edition, tud 44–64

Blundell, R., M. Costa Dias, C. Meghir a J. van Reenen (2004), ‘Evaluating the Employment Impact of a Mandatory Job Search Program’, Journal of the European Economic Association, Cyfrol 2, Rhif 4, tud 323 – 351. 569–606

Blundell, R. ac A. Shephard (2012), ‘Employment, Hours of Work and the Optimal Taxation of Low-Income Families’, Review of Economic Studies, Cyfrol 79, Rhif 2, tud 323 – 351. 481–510

115

Page 121: An ex-ante analysis effects of the UK Government’s … · Web viewAriannwyd yr ymchwil hon gan Lywodraeth Cymru a Chanolfan er Dadansoddi Microeconomaidd Polisi Cyhoeddus ESRC yn

Brewer, M., J. Browne ac M. Jin (2011), ‘Universal Credit: A Preliminary Analysis’, Nodyn Briffio IFS Rhif 116, IFS

Brewer, M., D. Saez ac A. Shephard (2001), ‘Means testing and tax rates on earnings’, yn Dimensions of Tax Design: The Mirrlees Review, J. Mirrlees, S. Adam, T. Besley, R. Blundell, S. Bond, R. Chote, M. Gammie, P. Johnson, G. Myles a J. Poterba (golygyddion), Gwasg Prifysgol Rhydychen

Browne, J. (2010), ‘The Impact of Tax and Benefit Reforms to be Introduced between 2010–11 and 2014–15 in Northern Ireland’, Nodyn Briffio IFS Rhif 114, IFS

Browne, J. (2011a), ‘Average Losses for Pensioner Households from Tax and Benefit Changes to be Introduced Between January 2011 and April 2014’, Mimeo, IFS

Browne, J. (2011b), ‘The Impact of Tax and Benefit Reforms by Sex: Some Simple Analysis’, Nodyn Briffio IFS Rhif 118, IFS

Browne, J. (2012), ‘The Impact of Austerity Measures on Households with Children’, Llundain: Y Sefydliad Teulu a Rhianta

Y Ganolfan Cyfiawnder Cymdeithasol (2009), Dynamic Benefits, Llundain: CSJ (http://www.centreforsocialjustice.org.uk/client/images/swf/CSJ%20dynamic%20benefits.zip).

Yr Adran Gwaith a Phensiynau (2011), ‘Universal Credit Policy Briefing Note 12’, Yr Adran Gwaith a Phensiynau

Finn, D. ac R. Gloster (2010), ‘Lone Parent Obligations: A review of recent evidence on the work-related requirements within the benefit systems of different countries’, Adroddiad Ymchwil yr Adran Gwaith a Phensiynau Rhif 632

Freud, D. (2007), ‘Reducing dependency, increasing opportunity: options for the future of welfare to work’, Adroddiad Annibynnol, Yr Adran Gwaith a Phensiynau

Immervol, H., H.J. Kleven, C.T. Kreiner ac E. Saez (2007), ‘Welfare Reform in European Countries: A Micro-Simulation Analysis’, The Economic Journal, Cyfrol 117 (Ionawr), 1–44 (http://elsa.berkeley.edu/~saez/immervoll-kleven-kreiner-saezEJ07euromod.pdf).

Y Gronfa Ariannol Ryngwladol (2012), ‘World Economic Outlook: October 2012’, Y Gronfa Ariannol Ryngwladol

Knight, G. a D. Kasparova (2006), ‘Lone Parents: In Work Benefit Calculations–work and benefit outcomes’, Adroddiad Ymchwil DWP Rhif 367, Yr Adran Gwaith a Phensiynau

Klepingr, D., T. Johnson a J. Joesch (2002), ‘Effects of Unemployment Insurance Work-Search Requirements: The Maryland Experiments’, Industrial and Labor Relations Review, Cyfrol 56, Rhif 1, tud 323 – 351. 3–22

Lane, P., J. Casebourne, L. Lanceley ac M. Davies (2011), ‘Lone Parent Obligations: work, childcare and the Jobseeker’s Allowance regime’, Adroddiad Ymchwil yr Adran Gwaith a Phensiynau Rhif 782

Lubotsky, D. (2004), ‘The Labor Market Effects of Welfare Reform’, Industrial and Labor Relations Review, Cyfrol 57, Rhif 2, tud 323 – 351. 249–266

116

Page 122: An ex-ante analysis effects of the UK Government’s … · Web viewAriannwyd yr ymchwil hon gan Lywodraeth Cymru a Chanolfan er Dadansoddi Microeconomaidd Polisi Cyhoeddus ESRC yn

Meghir, C. a D. Phillips (2010), ‘Labour supply and taxes’, yn The Mirrlees Review: Dimensions of Tax Design, J. Mirrlees, S. Adam, T. Besley, R. Blundell, S. Bond, R. Chote, M. Gammie, P. Johnson, G. Myles a J. Poterba (golygyddion), Gwasg Prifysgol Rhydychen

Mirrlees, J., S. Adam, T. Besley, R. Blundell, S. Bond, R. Chote, M. Gammie, P. Johnson, G. Myles a J. Poterba, Tax by Design: The Mirrlees Review, Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen ar ran y Sefydliad Astudiaethau Cyllid (http://www.ifs.org.uk/mirrleesReview)

Mulheirn, I. a V. Menne (2008), ‘The Flexible New Deal: Making it Work’, Sefydliad y Farchnad Gymdeithasol

Y Swyddfa Archwilio Genedlaethol (2012), ‘The Introduction of the Work Programme’, HC 1701, Sesiwn 2010–2012, Y Swyddfa Archwilio Genedlaethol

Y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol (2010), ‘Budget Forecast June 2010 Appendix C’, Y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol

Y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol (2012), ‘Economic and fiscal outlook, December 2012’, Y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol

Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (2012), ‘Regional Labour Market Statistics’, Y Swyddfa Ystadegau Gwladol

Peichl, A. ac S. Siegloch (2011), ‘Accounting for labor demand effects in structural labor supply models’, Labour Economics, Cyfrol 19, Rhif 1, tud 323 – 351. 129–138

Petrongolo, B. (2009), ‘The long-term effects of job search requirements: Evidence from the UK JSA Reform’, Journal of Public Economics, Cyfrol 93, tud 323 – 351. 1234–1253

Phipps, S. (1991), ‘Behavioural Response to UI Reform in Constrained and Unconstrained Models of Labour Supply’, The Canadian Journal of Economics, Cyfrol 24, Rhif 1, tud 323 – 351. 34–54

Riley, R. a G. Young (2000), ‘New Deal for Young People: Implications for Employment and the Public Finances’, Mimeo, Y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol

Shoag, D. (2010), ‘The Impact of Government Spending Shocks: Evidence on the Multiplier from State Pension Plan Returns’, Mimeo

Llywodraeth Cymru (2012), ‘Dadansoddi effaith diwygiadau lles Llywodraeth y DU yng Nghymru – dadansoddiad Cam 1’ (http://wales.gov.uk/topics/educationandskills/publications/reports/analysingreforms/?lang=cy).

117

Page 123: An ex-ante analysis effects of the UK Government’s … · Web viewAriannwyd yr ymchwil hon gan Lywodraeth Cymru a Chanolfan er Dadansoddi Microeconomaidd Polisi Cyhoeddus ESRC yn

Atodiad A. Cyfrifo cyfraddau treth gyfranogol ar gyfer pobl nad ydynt yn gweithioMae'n gymharol hawdd defnyddio model microefelychu trethi a budd-daliadau er mwyn gweithio allan beth fyddai incwm teulu os na fyddai'n gweithio. Fodd bynnag, er mwyn cyfrifo beth fyddai incwm teulu a CDG y rheini nad ydynt yn gweithio petaent yn dechrau gweithio, mae angen i ni wneud mwy o dybiaethau - yn arbennig, beth fyddai eu horiau a'u henillion petaent yn gweithio. Lluniwyd technegau econometrig niferus er mwyn cynnal y fath ddadansoddiad, ond yn y papur hwn dilynwn batrwm gweddol syml:29

Yn gyntaf, amcangyfrifwn hafaliad enillion log Swm Lleiaf Sgwariau Cyffredin ar gyfer pedwar band pedair awr (0–15, 16–23, 24–29 and 30+) gan ddefnyddio'r unigolion hynny a arsylwyd yn y categori oriau perthnasol yn ein data, gan atchwelyd enillion wythnosol log unigolion a arsylwyd a gyflogwyd yn y categori oriau perthnasol ar nodweddion amrywiol yn cynnwys oedran, rhyw, crefydd, ethnigrwydd, addysg, deiliadaeth tai, nifer ac oedrannau plant, statws partneriaeth a statws cyflogaeth ac enillion unrhyw bartner.30

Yna, defnyddiwn effeithiau amcangyfrifedig y nodweddion hyn ar enillion er mwyn rhagfynegi enillion y rheini nad ydynt yn gweithio petaent yn gweithio yn y band oriau hwnnw. Gan fod rhan sylweddol o'r amrywiad mewn enillion nas eglurir gan y nodweddion hyn, ychwanegwn derm gwall at bob rhagfynegiad sy'n deillio o'r dosbarthiad o weddillion. Mae hyn yn ein galluogi i gyfrifo CDG ddamcaniaethol ar gyfer pob unigolyn petai'n gweithio yn y band oriau hwnnw.

Nesaf, defnyddiwn fodel logit amlgategori sydd, unwaith eto, wedi'i amcangyfrif gan ddefnyddio ymddygiad a arsylwyd y gweithwyr yn ein data, er mwyn rhagfynegi'r tebygolrwydd y bydd pob unigolyn yn dewis gweithio ym mhob band oriau, yn amodol ar weithio o gwbl.

Er mwyn creu un CDG ar gyfer pawb nad ydynt yn gweithio, gwnaethom gyfrifo'r CDGau ar gyfer eu henillion a ragfynegwyd ym mhob un o'r pedwar band oriau ac yna nodi ffigur cyfartalog ar gyfer y pedair CDG hyn, a bwysolwyd gan ddefnyddio'r tebygolrwydd o weithio a ragfynegwyd ym mhob band oriau.

Mae anfanteision ynghlwm wrth hyn, sef yn bennaf fod enillion mewn gwaith yn brif benderfynydd o ran y penderfyniad i ddechrau gweithio, ac felly byddai'n naturiol disgwyl i'r enillion a enillwyd gan rywun nad oedd yn gweithio ar hyn o bryd fod yn is na'r rhai a enillwyd gan rywun a oedd yn gweithio ar hyn o bryd ac â nodweddion a arsylwyd union debyg. Gellir gwneud 'addasiadau dethol' fel y'u gelwir er mwyn goresgyn biasau a gyflwynir i'r model yn y ffordd hon, ond fel arfer mae'r rhain yn gofyn am dybiaethau cryf ynghylch y gydberthynas rhwng cyfradd cyflog unigolyn a sawl awr y mae'n penderfynu eu gweithio. Felly, dilynwn batrwm symlach, er mae'n debygol y bydd hyn yn goramcangyfrif enillion mewn gwaith y rheini nad ydynt yn gweithio. Mae cyfeiriad unrhyw fias dilynol yn ein hamcangyfrifon o CDGau ar gyfer yr unigolion hyn yn annelwig.

29 Mae'r fethodoleg hon yn dilyn yr hyn a geir yn Adam a Browne (2010), sy'n seiliedig ar yr hyn a geir yn Adam et al. (2008).30 Mae holl atchwelwyr a chyfeirnodau amcangyfrifedig yr hafaliadau hyn ar gael ar gais.

118

Page 124: An ex-ante analysis effects of the UK Government’s … · Web viewAriannwyd yr ymchwil hon gan Lywodraeth Cymru a Chanolfan er Dadansoddi Microeconomaidd Polisi Cyhoeddus ESRC yn

Atodiad B. Tablau cryno hydwythedd o ran y llenyddiaeth Tabl B.1(A) Amcangyfrifon o ymatebolrwydd oriau gwaith dynion (astudiaethau'r DU)Astudiaeth Data/Sampl Manylion y Model Hydwythedd nas Digolledwyd Hydwythedd a

DdigolledwydAstudiaethau y Cyfeiriwyd Atynt yn Pencavel (1987):Ashworth ac Ulph (1981) 335 o ddynion priod. Arolwg

anhysbys. Model strwythurol defnydd unigol

gyda dewis o oriau wedi'i fodelu dros gyfyngiad cyllidebol llawn (yn caniatáu

ar gyfer budd-daliadau yn ogystal â threthi)

-0.13 0.23

Atkinson a Stern (1980) Arolwg o Wariant Teulu 1973. 1,617 o ddynion cyflogedig

llawn amser

Model strwythurol o ddefnydd a chyflenwad llafur. Osgoi problemau newidiadau mewn cyfraddau trethi

ffiniol drwy ddewis sampl o drethdalwyr cyfradd sylfaenol

-0.16 -0.09

Blundell a Walker (1982) Arolwg o Wariant Teulu 1974. 103 o gyplau gyda dynion a

menywod yn gweithio

Model strwythurol o ddefnydd a chyflenwad llafur

-0.23 0.13

Blundell a Walker (1983) Arolwg o Wariant Teulu 1977. 308 o gyplau gyda dynion a

menywod yn gweithio

Model strwythurol o ddefnydd a chyflenwad llafur

-0.004 0.20

Brown, Levin ac Ulph (1976) Arolwg Preifat 1971 o 284 o ddynion priod â gwragedd

nad ydynt yn gweithio

dd/g -0.13 0.22

Brown et al. (1982, 1983) Arolwg Preifat 1980 o 3307 o gartrefi

Model strwythurol defnydd unigol gyda dewis o oriau wedi'i fodelu dros

gyfyngiad cyllidebol llawn (yn caniatáu ar gyfer budd-daliadau yn ogystal â

Teulu ag un gweithiwr:-0.33

Teulu â dau weithiwr:-0.06 i 0.14

Teulu ag un gweithiwr:0.17

Teulu â dau weithiwr:0.30 i 0.39

119

Page 125: An ex-ante analysis effects of the UK Government’s … · Web viewAriannwyd yr ymchwil hon gan Lywodraeth Cymru a Chanolfan er Dadansoddi Microeconomaidd Polisi Cyhoeddus ESRC yn

threthi)Layard (1978) Arolwg Cartrefi Cyffredinol

1974 gyda 2,700 o ddynion priod

Model llinellol o oriau gwaith -0.13 -0.09

Astudiaethau diweddarachBlundell a Walker (1986) Arolwg o Wariant Teulu 1980,

1,378 o gyplauModel strwythurol o ddefnydd unigol sy'n gyson ag optimeiddio lles gydol

oes

-0.07 0.024

Bargain et al. (2011) Data EU-SILC (Arolwg Cartrefi Cyffredinol), 1998 a 2001.

Priod

Model dewis arwahanol strwythurol gydag opsiynau saith awr ar gyfer pob

unigolyn (0, 10, 20,..., 60 awr).

System trethi-budd-daliadau 1998:

Oriau os yn gweithio: -0.01Cyfanswm yr oriau: 0.06

System trethi-budd-daliadau 2001

Oriau os yn gweithio: - 0.01Cyfanswm yr oriau: 0.03

dd/g

Tabl B.1(B) Amcangyfrifon o ymatebolrwydd oriau gwaith dynion (astudiaethau rhyngwladol) Astudiaeth Data/Sampl Manylion y Model Hydwythedd nas Digolledwyd Hydwythedd a

120

Page 126: An ex-ante analysis effects of the UK Government’s … · Web viewAriannwyd yr ymchwil hon gan Lywodraeth Cymru a Chanolfan er Dadansoddi Microeconomaidd Polisi Cyhoeddus ESRC yn

DdigolledwydWales a Woodland (1979) UDA: Dynion priod yn yr

Astudiaeth Banel o Ddynameg Incwm

Model oriau gwaith sy'n rhoi cyfrif am drethiant cynyddol gan dybio bod

cyflogau ac oriau yn cael eu mesur heb i wallau a chwaeth fod yn unffurf

ar draws y boblogaeth

0.14 0.84

Hausman (1981) UDA: Dynion priod yn yr Astudiaeth Banel o Ddynameg

Incwm

Model llinellol oriau gwaith sy'n rhoi cyfrif am drethiant cynyddol gan

dybio bod cyflogau ac oriau yn cael eu mesur heb i wallau a chwaeth amrywio ar draws y boblogaeth

0 0.77

MaCurdy, Green a Paarsch (1990)

UDA: Dynion priod yn yr Astudiaeth Banel o Ddynameg

Incwm

Model llinellol oriau gwaith sy'n rhoi cyfrif am drethiant cynyddol

(llyfnhau cyfraddau treth oddeutu pwyntiau lle mae cyfraddau ffiniol yn

newid) gan dybio bod cyflogau ac oriau yn cael eu mesur heb i wallau a

chwaeth amrywio ar draws y boblogaeth

0 0.07

Eklof a Sacklen (2000) UDA: Dynion priod yn yr Astudiaeth Banel o Ddynameg

Incwm

Meta-astudiaeth o Hausman a MaCurdy, Green a Paarsch sy'n ceisio

nodi pam mae canlyniadau'n amrywio cymaint drwy amrywio

tybiaethau'n systematig

0 i 0.078 0.055 i 0.488

Burtless a Hausman (1978) UDA: Data arbrofol NIT Model strwythurol defnydd unigol gyda dewis o oriau wedi'i fodelu dros

gyfyngiad cyllidebol llawn (yn caniatáu ar gyfer budd-daliadau yn

ogystal â threthi)

0 0.07 i 0.13

Wyth astudiaeth NIT wedi'u rhestru gan Pencavel (1986)

UDA: Data arbrofol NIT Amrywiol Cymedrig: 0.03 Cymedrig: 0.13

Pencavel (2002) UDA: Arolwg o'r Boblogaeth Gyfredol

Model oriau gwaith heb unrhyw driniaeth benodol o'r system trethi a

budd-daliadau. Dulliau amrywiol

-0.175 i 0.25

Blomquist (1983) Sweden: Arolwg Lefel Byw 1974, dynion cyflogedig i gyd

mewn cyplau 25-55 oed

Model llinellol o gyflenwad llafur gydag amrywiad o ran ffafriaeth ac

oriau parhaus

0.08 0.11

Blomquist et al. (1990) Sweden: Arolwg Lefel Byw Model llinellol a chwadratig o 0.12 0.13

121

Page 127: An ex-ante analysis effects of the UK Government’s … · Web viewAriannwyd yr ymchwil hon gan Lywodraeth Cymru a Chanolfan er Dadansoddi Microeconomaidd Polisi Cyhoeddus ESRC yn

1981, dynion cyflogedig i gyd mewn cyplau 25-55 oed

gyflenwad llafur gydag amrywiad o ran ffafriaeth ac oriau parhaus

Blomquist et al. (2001) Sweden: Arolygon Lefel Byw 1973, 1980 ac 1990, dynion cyflogedig i gyd 18-60 oed

Model hyblyg ('nad yw'n barametrig') o oriau gwaith sy'n caniatáu ar gyfer

trethi a budd-daliadau

0.08 0.09

Blomquist a Newey (2002) Sweden: Arolygon Lefel Byw 1973, 1980 ac 1990, dynion cyflogedig i gyd 18-60 oed

Model hyblyg ('nad yw'n barametrig') o oriau gwaith sy'n caniatáu ar gyfer

trethi a budd-daliadau

0.08

Bourguignon a Magnac (1990)

Ffrainc: Arolwg y Llafurlu 1985, cyplau 18-60 oed

Model cyflenwad llafur llinellol sy'n rhoi cyfrif am drethiant

0.10

Kaiser et al. (1992) Yr Almaen: Arolwg Panel Economaidd-Gymdeithasol

1983, dynion o oedran gweithio mewn cyplau

Model strwythurol defnydd unigol gyda dewis o oriau wedi'i fodelu dros

gyfyngiad cyllidebol llawn (yn caniatáu ar gyfer budd-daliadau yn

ogystal â threthi)

-0.04

van Soest et al. (1990) Yr Iseldiroedd: Arolwg Symudedd Llafur 1985, dynion

o oedran gweithio mewn cyplau

Model cyflenwad llafur llinellol sy'n rhoi cyfrif am drethiant gydag

amrywiad o ran ffafriaeth

0.19 0.28

Euwals a van Soest (1999) Yr Iseldiroedd: Arolwg Panel Economaidd-Gymdeithasol 1988, pobl sengl o oedran

gweithio

Model dewis arwahanol oriau gwaith gyda chostau gwaith sefydlog

Dewis rhydd o oriau:0.30–0.42

Oriau cyfyngedig:0.12 i 0.15

Bargain et al. (2011) Amrywiol: EU SILC, cyplau a phobl sengl, oedran gweithio

Model dewis arwahanol strwythurol gydag opsiynau saith awr ar gyfer

pob unigolyn (0, 10, 20,..., 60 awr).

CyplauOriau os yn gweithio: -0.01 i 0.03

Cyfanswm yr oriau: 0.04 i 0.26Pobl sengl

Oriau os yn gweithio: -0.08 i 0.09 Cyfanswm yr oriau: 0.03 i 0.67

Tabl B.1(C) Amcangyfrifon o ymatebolrwydd cyfranogiad cyflogaeth dynion (astudiaethau'r DU ac astudiaethau rhyngwladol) Astudiaeth Data/Sampl Manylion y Model Hydwythedd nas Digolledwyd Hydwythedd a

DdigolledwydBargain et al. (2011) Y DU: EU SILC, cyplau a phobl

sengl, oedran gweithioModel dewis arwahanol strwythurol

gydag opsiynau saith awr ar gyfer pob Cyplau

0.06 i 0.08

122

Page 128: An ex-ante analysis effects of the UK Government’s … · Web viewAriannwyd yr ymchwil hon gan Lywodraeth Cymru a Chanolfan er Dadansoddi Microeconomaidd Polisi Cyhoeddus ESRC yn

unigolyn (0, 10, 20,..., 60 awr). Pobl sengl0.22 i 0.35

Bargain et al. (2011) Amrywiol: EU SILC, cyplau a phobl sengl, oedran gweithio

Model dewis arwahanol strwythurol gydag opsiynau saith awr ar gyfer pob

unigolyn (0, 10, 20,..., 60 awr).

Cyplau0.03 i 0.27, cymedrig: 0.08

Pobl sengl0.04 i 0.62, cymedrig: 0.23

Meghir a Phillips (2010) Y DU: Arolwg Adnoddau Teulu 1996-2004, cyplau a phobl

sengl, 22-59 oed

Model dewis arwahanol cyfranogiad gydag amrywiad alldarddol mewn

cymhellion i weithio a ddarperir gan effaith wahaniaethol diwygiadau a

strwythur trethi

Lefel Isel o Addysg:Pobl Sengl: 0.27, Cyplau 0.53

Lefel Uchel o AddysgPobl Sengl: 0.08, Cyplau 0.04

Eissa a Hoynes (2004) UDA: Arolwg o'r Boblogaeth Gyfredol 1984-1996, 25-54

oed

Cymharu ymddygiad dynion mewn cyplau y mae polisi EITC yn effeithio arnynt â'r rheini nad effeithir arnynt

(dull gwahaniaeth mewn gwahaniaeth), a model cyfranogiad

dewis arwahanol a nodwyd gan ddefnyddio amrywiad mewn treth a hawliadau EITC ar draws teuluoedd

unigol

0.03

Heim (2009) UDA: Arolwg Panel 2001 o Ddynameg Incwm, priod, o

oedran gweithio

Model strwythurol defnydd teulu gyda dewis o oriau wedi'i fodelu dros

gyfyngiad cyllidebol llawn (yn caniatáu ar gyfer budd-daliadau yn ogystal â

threthi) ar y cyd ar gyfer cwpl

0

Aaberge et al. (1999) Yr Eidal: Arolwg o Incwm a Chyfoeth Cartrefi 1987, priod,

20-70 oed

Model strwythurol cyfranogiad ac oriau gwaith ar lefel teulu sy'n rhoi

cyfrif am system trethi a budd-daliadau

0.046

Aaberge et al. (2002) Yr Eidal: Arolwg o Incwm a Chyfoeth Cartrefi 1993, priod,

20-70 oed

Cyd-amcangyfrif o oriau a chyflogau unigolion gan ddefnyddio nifer

arwahanol o opsiynau oriau

0.06

123

Page 129: An ex-ante analysis effects of the UK Government’s … · Web viewAriannwyd yr ymchwil hon gan Lywodraeth Cymru a Chanolfan er Dadansoddi Microeconomaidd Polisi Cyhoeddus ESRC yn

Brink et al. (2007) Sweden: Data gweinyddol hydredol hyd at 1999, pobl

sengl

Model dewis arwahanol oriau a chyfranogiad gydag amrywiad o ran

ffafriaeth

0.35

Labeaga et al. (2008) Sbaen: Arolwg ECHP 1995, pob cwpl o oedran gweithio

Model dewis arwahanol oriau a chyfranogiad gyda chostau gwaith

sefydlog

0.11

Tabl B.2(A) Amcangyfrifon o ymatebolrwydd menywod mewn cyplau: cyfranogiad ac oriau gwaith (astudiaethau'r DU)Astudiaeth Data/Sampl Manylion y Model Hydwythedd nas Digolledwyd Hydwythedd a DdigolledwydBlundell, Duncan a Meghir (1998)

Arolwg o Wariant Teulu 1978-1992, menywod mewn cyplau

20-50 oed â phartneriaid cyflogedig

Model oriau gwaith yn amodol ar weithio, wedi'i amcangyfrif ar lefel

grŵp o dan y dybiaeth bod newidiadau gwahaniaethol mewn oriau ar lefelau carfannau oedran addysg yn adlewyrchu newidiadau gwahaniaethol mewn cymhellion i

weithio

Hydwytheddau oriau:Dim plant: 0.14

Ieuengaf yn 0-2 oed: 0.21Ieuengaf yn 3-4 oed: 0.37

Ieuengaf yn 5-10 oed: 0.13Ieuengaf yn 11+ oed: 0.13

Hydwytheddau oriau:Dim plant: 0.14

Ieuengaf yn 0-2 oed: 0.30Ieuengaf yn 3-4 oed: 0.44

Ieuengaf yn 5-10 oed: 0.17Ieuengaf yn 11+ oed: 0.16

Arrelano a Meghir (1992) Arolwg o Wariant Teulu 1983, menywod mewn cyplau, 20-

59 oed

Model cyfanswm oriau gwaith gyda chost sefydlog gweithio, a chaniatáu am drethi (ond nid budd-daliadau)

Hydwytheddau cyfanswm yr oriau:

Dim plant: 0.37

Hydwytheddau cyfanswm yr oriau:

Dim plant: 0.44

124

Page 130: An ex-ante analysis effects of the UK Government’s … · Web viewAriannwyd yr ymchwil hon gan Lywodraeth Cymru a Chanolfan er Dadansoddi Microeconomaidd Polisi Cyhoeddus ESRC yn

Ieuengaf yn 0-2 oed: 0.29Ieuengaf yn 3-4 oed: 0.50

Ieuengaf yn 5-10 oed: 0.71Ieuengaf yn 11+ oed: 0.62

Ieuengaf yn 0-2 oed: 0.50Ieuengaf yn 3-4 oed: 0.66

Ieuengaf yn 5-10 oed: 0.82Ieuengaf yn 11+ oed: 0.77

Bargain et al. (2011) EU SILC, cyplau a phobl sengl, oedran gweithio

Model dewis arwahanol strwythurol gydag opsiynau saith awr ar gyfer

pob unigolyn (0, 10, 20,..., 60 awr).

Hydwytheddau cyfanswm yr oriau:

Dim plant: 0.07 i 0.10Â phlant: 0.11 i 0.13

Oriau os yn gweithio: 0.02 i 0.03Cyfranogiad: 0.07 i 0.08

Blundell et al. (2000) Arolwg Adnoddau Teulu Model dewis arwahanol strwythurol gydag opsiynau oriau lluosog

Hydwythedd cyfanswm yr oriau: 0.13

Arrufat a Zabalza (1986) Arolwg Cartrefi Cyffredinol 1974, menywod priod â'u

gŵyr yn gweithio

Model strwythurol o ddefnydd unigol gyda dewis oriau parhaus

Hydwythedd cyfanswm yr oriau: 2.03

Hydwythedd cyfranogi: 1.41Oriau os yn gweithio: 0.62

Blundell, Ham a Meghir (1987)

Arolwg o Wariant Teulu 1981, menywod priod, 16-59 oed

Model rhwystr dwbl gyda dewis arwahanol o weithio yn amodol ar

allu cael gwaith

Hydwythedd cyfanswm yr oriau: 0.08

Blundell et al. (1988) Arolwg o Wariant Teulu 1980, menywod priod

Oriau os yn gweithio: 0.09

Tabl B.2 (B) Amcangyfrifon o ymatebolrwydd menywod mewn cyplau: cyfranogiad ac oriau gwaith (astudiaethau rhyngwladol)Astudiaeth Data/Sampl Manylion y Model Hydwythedd nas Digolledwyd Hydwythedd a DdigolledwydBargain et al. (2011) Amrywiol: EU SILC, cyplau a

phobl sengl, oedran gweithioModel dewis arwahanol strwythurol

gydag opsiynau saith awr ar gyfer pob unigolyn (0, 10, 20,..., 60 awr).

Hydwytheddau cyfanswm yr oriau:

Dim plant: 0.07 i 0.53Â phlant: 0.07 i 0.68

Oriau os yn gweithio: 0.01 i 0.13Cyfranogiad: 0.07 i 0.57

van Soest et al. (1990) Yr Iseldiroedd: Arolwg Symudedd Llafur 1985,

Model oriau parhaus gyda dewis arwahanol o gyfranogi mewn

Hydwythedd cyfanswm yr

125

Page 131: An ex-ante analysis effects of the UK Government’s … · Web viewAriannwyd yr ymchwil hon gan Lywodraeth Cymru a Chanolfan er Dadansoddi Microeconomaidd Polisi Cyhoeddus ESRC yn

oedran gweithio cyflogaeth, amrywiad o ran ffafriaeth oriau: 0.79van Soest (1995) Yr Iseldiroedd: Panel

economaidd-gymdeithasol 1987

Model dewis arwahanol oriau a chyfranogiad ar lefel teulu

Hydwytheddau cyfanswm yr oriau:

Model sylfaenol: 1.03Ag oriau cyfyngedig: 0.52

Ag oriau cyfyngedig a gwallau o ran rhagfynegi cyflogau: 0.47

van Soest a Das (2001) Yr Iseldiroedd: Panel economaidd-gymdeithasol

1995, 16-64 oed

Model dewis arwahanol oriau a chyfranogiad ar lefel teulu gyda

chostau gwaith sefydlog ac amrywiad o ran ffafriaeth

Hydwythedd cyfanswm yr oriau: 0.705

van Soest et al. (2001) Yr Iseldiroedd: Panel economaidd-gymdeithasol

1995, 16-64 oed

Model dewis arwahanol oriau a chyfranogiad ar lefel teulu gyda

chostau gwaith sefydlog ac amrywiad o ran ffafriaeth

Hydwytheddau cyfanswm yr oriau:

Yn gyffredinol: 1.04 i 1.16Lefel Isel o Addysg: 1.12 i 1.23

Lefel Uchel o Addysg: 0.83 i 0.95

Clauss a Schnabel (2006) Yr Almaen: Panel economaidd-gymdeithasol

2004, 05-20 oed

Model dewis arwahanol oriau a chyfranogiad ar lefel teulu

Hydwythedd cyfanswm yr oriau: 0.37

Hydwythedd cyfranogi: 0.14

Bargain ac Orsini (2006) Yr Almaen: Panel economaidd-gymdeithasol

1998, pobl o oedran gweithio â phartneriaid cyflogedig

Model dewis arwahanol oriau a chyfranogiad gyda chostau gwaith sefydlog a phartner gwrywaidd yn pennu ymddygiad heb gyfeirio at

bartner benywaidd

Hydwythedd cyfanswm yr oriau: 0.40

Hydwythedd cyfranogi: 0.33

Haan a Steiner (2005) Yr Almaen: Panel economaidd-gymdeithasol

2002, pobl o oedran gweithio, cyplau lle mae un partner

neu'r ddau bartner yn ennill

Model dewis arwahanol oriau a chyfranogiad ar lefel teulu. Yn

ymgorffori effeithiau galw am lafur

Hydwythedd cyfanswm yr oriau:

0.35 i 0.4

Cogan (1981) UDA: Astudiaeth Hydredol Model dewis oriau parhaus gyda Hydwythedd cyfanswm yr

126

Page 132: An ex-ante analysis effects of the UK Government’s … · Web viewAriannwyd yr ymchwil hon gan Lywodraeth Cymru a Chanolfan er Dadansoddi Microeconomaidd Polisi Cyhoeddus ESRC yn

1967 o Fenywod Aeddfed, 30-55 oed

chost sefydlog gweithio oriau: 0.86

Hausman (1981) UDA: Arolwg Panel 1975 o Ddynameg Incwm

Model llinellol o oriau gwaith sy'n caniatáu ar gyfer trethi a budd-

daliadau

Hydwythedd cyfanswm yr oriau: 0.91 i 1.00

Heckman (1974) UDA: Astudiaeth Hydredol 1967 o Fenywod Aeddfed, 30-

55 oed

Cyd-amcangyfrif o gyflogau a chyflenwad llafur

Hydwythedd oriau yn amodol ar 2000 awr y flwyddyn: 0.8

Triest (1990) UDA: Arolwg Panel 1983 o Ddynameg Incwm

Model llinellol o oriau gwaith sy'n caniatáu ar gyfer trethi ond nid

budd-daliadau

Hydwythedd cyfanswm yr oriau:

0.86 i 1.12Oriau os yn gweithio:

0.03 i 0.27

Tabl B.2 (C) Amcangyfrifon o ymatebolrwydd menywod sengl: cyfranogiad ac oriau gwaith (astudiaethau'r DU)Astudio Data/Sampl Manylion y Model Hydwythedd nas Digolledwyd Hydwythedd a DdigolledwydWalker (1990) Arolwg o Wariant Teulu 1979-

1984, menywod sengl â phlant

Model penderfyniad cyfranogi arwahanol sy'n rhoi cyfrif am incwm

budd-daliadau

Hydwythedd cyfranogi0.7

Ermisch a Wright (1991) Arolwg Cartrefi Cyffredinol 1973-1982, menywod sengl â

phlant

Model penderfyniad cyfranogi arwahanol sy'n rhoi cyfrif am gostau

sefydlog, trethi a budd-daliadau

Hydwythedd cyfranogi: Yn gyffredinol: 1.7

Yn gymwys i gael budd-daliadau: 1.8

Ddim yn gymwys i gael budd-daliadau: 1.2

Jenkins (1992) Arolwg 1989 o Rieni Unigol, menywod sengl â phlant

Dewis arwahanol peidio â gweithio, rhan-amser neu lawn-amser. Yn rhoi

cyfrif am gostau sefydlog a'r posibilrwydd na cheir cynnig swydd

Hydwythedd Cyfranogi: 1.8

Brewer et al. (2005) Arolygon Adnoddau Teulu Dewis arwahanol cyfranogiad ac Hydwythedd Cyfranogi: tua 1

127

Page 133: An ex-ante analysis effects of the UK Government’s … · Web viewAriannwyd yr ymchwil hon gan Lywodraeth Cymru a Chanolfan er Dadansoddi Microeconomaidd Polisi Cyhoeddus ESRC yn

1995-96 i 2002-03, menywod sengl â phlant

oriau gwaith, sy'n rhoi cyfrif am gostau sefydlog, cyfranogiad lles,

amrywiad o ran ffafriaeth a system trethi a budd-daliadau

Blundell, Duncan a Meghir (1992)

Arolwg o Wariant Teulu 1981-1986, menywod sengl â

phlant

Model oriau gwaith yn amodol ar weithio, sy'n rhoi cyfrif am drethi

ond nid budd-daliadau

Hydwytheddau oriau:Yn gyffredinol: 0.14 i 0.34

Cyn ysgol: 0.23 i 0.52Cynradd: 0.16 i 0.38

Uwchradd: 0.11 i 0.26Blundell a Shephard (2011) Arolwg Adnoddau Teulu 1997-

98 i 2002-03, menywod sengl â phlant rhwng 18 a 45 oed

sy'n byw ar eu pen eu hunain, nad ydynt yn anabl, 7,090

Dewis arwahanol cyfranogiad ac oriau gwaith, sy'n rhoi cyfrif am

gostau sefydlog, cyfranogiad lles, amrywiad o ran ffafriaeth a system

trethi a budd-daliadau

Hydwytheddau Cyfranogi:Yn gyffredinol: 1.40

Cyn ysgol: 2.27Cynradd: 1.76

Uwchradd: 1.09Hydwytheddau Oriau:

0.03 i 0.05 yn dibynnu ar oedran y plentyn ieuengaf

128

Page 134: An ex-ante analysis effects of the UK Government’s … · Web viewAriannwyd yr ymchwil hon gan Lywodraeth Cymru a Chanolfan er Dadansoddi Microeconomaidd Polisi Cyhoeddus ESRC yn

Tabl B.2(Ch) Amcangyfrifon o ymatebolrwydd menywod sengl: cyfranogiad ac oriau gwaith (astudiaethau rhyngwladol)Astudio Data/Sampl Manylion y Model Hydwythedd nas Digolledwyd Hydwythedd a DdigolledwydEissa a Liebman (1996) UDA: Arolwg o'r Boblogaeth

Gyfredol 1985-1991, menywod sengl â phlant

Yn cymharu cyflogaeth menywod sengl â phlant a heb blant yn dilyn

cyfres o ddiwygiadau a effeithiodd ar gymhellion i weithio mewn ffyrdd

gwahaniaethol

Hydwythedd Cyfranogi:1.16

Keane a Moffit (1998) UDA: SIPP 1989, Menywod sengl heb blant ac asedau isel-

cymedrol

Dewis arwahanol peidio â gweithio, a gweithio'n rhan-amser neu'n llawn-

amser, sy'n rhoi cyfrif am fudd-daliadau a'r budd-daliadau a gaiff eu

hawlio ond nid trethi

Hydwythedd Cyfranogi: 0.96

Hydwythedd Cyfanswm yr Oriau:1.82

Bargain et al. (2011) Amrywiol: EU SILC, menywod sengl â phlant, o oedran

gweithio

Model dewis arwahanol strwythurol gydag opsiynau saith awr ar gyfer

pob unigolyn (0, 10, 20,..., 60 awr).

Hydwythedd Cyfanswm yr Oriau:0.1 i 0.5

Bargain et al. (2009) Yr Almaen: Panel economaidd-gymdeithasol

2003, menywod sengl

Model dewis arwahanol oriau a chyfranogiad, gydag opsiwn galw am

lafur cyfyngedig.

Hydwythedd cyfanswm yr oriau:Traddodiadol: 0.27

Galw cyfyngedig: 0.10Hydwythedd cyfranogi:

Traddodiadol: 0.20Galw cyfyngedig: 0.07

Claus a Schnabel (2006) Yr Almaen: Panel economaidd-gymdeithasol

2004, menywod sengl

Model dewis arwahanol oriau a chyfranogiad

Hydwythedd cyfanswm yr oriau:0.38

Hydwythedd cyfranogi:0.18

Bargain ac Orsini (2004) Yr Almaen: Panel economaidd-gymdeithasol

1998, menywod sengl

Model dewis arwahanol oriau a chyfranogiad gyda chostau gwaith

sefydlog

Hydwythedd cyfanswm yr oriau:0.16

Hydwythedd cyfranogi:0.13

129

Page 135: An ex-ante analysis effects of the UK Government’s … · Web viewAriannwyd yr ymchwil hon gan Lywodraeth Cymru a Chanolfan er Dadansoddi Microeconomaidd Polisi Cyhoeddus ESRC yn

Atodiad C. Cyfeiriadau ar gyfer yr adolygiad o lenyddiaethAaberge, R., U. Colombino ac S. Strom (1999), ‘Labour Supply in Italy: An Empirical Analysis of Joint Household Decisions with Taxes and Quantity Constraints’, Journal of Applied Econometrics, Cyfrol 14, tt. 403–422

Aaberge, R., U. Colombino a T. Wennemo (2002), ‘Heterogeneity in the Elasticity of Labour Supply in Italy and some Policy Implications’, Papur Gwaith CHILD, Rhif 21/2002

Adda, J., C. Dustmann, C. Meghir a J.-M. Robin (2006), ‘Career Progression and Formal versus On-the-Job Training’, Papur Gwaith IZA

Altug, S. ac R. Miller (1990), ‘Household Choices in Equilibrium’, Econometrica, Cyfrol 58, Rhif 3, tt. 543–570

Arrelano, M. a C. Meghir (1992), ‘Female Labour Supply and On-the-Job Search: An Empirical Model Estimated Using Complimentary Datasets’, Review of Economic Studies, Cyfrol 59, tt. 537–559

Arrufat, J. ac A. Zabalza (1986), ‘Female Labour Supply with Taxation, Random Preferences and Optimization Errors’, Econometrica, Cyfrol 54, tt. 47–63

Azmat, G. (2012), ‘The Incidence of an Earned Income Tax Credit: Evaluating the Impact on Wages in the UK’, Mimeo

Bargain, O. a K. Orsini (2006), ‘In-work policies in Europe: Killing two birds with one stone?’, Labour Economics, Cyfrol 13, tt. 667–697

Bargain, O., G. Orsini ac A. Peichl (2011), ‘Labor Supply Elasticities in Europe and the US’, Cyfres Papurau Gwaith EUROMOD EM1/11, Prifysgol Essex

Bargain, O., M. Caliendo, P. Haan a K. Orsini (2009), ‘Making Work Pay in a Rationed Labour Market’, Journal of Population Economics, Cyfrol 23, Rhif 1, tt. 323–351

Blomquist, S. (1983), ‘The Effect of Income Taxation on the Labor Supply of Married Men in Sweden’, Journal of Public Economics, Cyfrol 22, Rhif 2, tt. 169–197

Blomqust, S., M. Eklof ac W. Newey (2001), ‘Tax Reform Evaluation Using Non-parametric Methods: Sweden 1980–1991’, Journal of Public Economics, Cyfrol 79, Rhif 3, tt. 543–568

Blomquist, S., U. Hansson–Brusewitz (1990), ‘The Effect of Taxes on Male and Female Labor Supply in Sweden’, Journal of Human Resources, Cyfrol 25, Rhif 3, tt. 317–357

Blomquist, S. ac W. Newey (2002), ‘Nonparametric Estimation with Nonlinear Budget Sets’, Econometrica, Cyfrol 70, Rhif 6, tt. 2455–2480

Bourguignon, F. a T. Magnac (1990), ‘Labor Supply and Taxation in France’, Journal of Human Resources, Cyfrol 25, Rhif 3, tt. 358–389

Blundell, R. (1992), ‘Labour Supply and Taxation: A Survey’, Fiscal Studies, Cyfrol 13, Rhif 3, tt. 15–40

130

Page 136: An ex-ante analysis effects of the UK Government’s … · Web viewAriannwyd yr ymchwil hon gan Lywodraeth Cymru a Chanolfan er Dadansoddi Microeconomaidd Polisi Cyhoeddus ESRC yn

Blundell, R., 265A. Duncan a C. Meghir (1992), ‘Taxation in Empirical Labour Supply Models: Lone Parents in the UK’, Economic Journal, Cyfrol 102, tt. 265–278

Blundell, R., 265A. Duncan a C. Meghir (1998), ‘Estimating Labour Supply Responses Using Tax Reforms’, Econometrica, Cyfrol 66, Rhif 4, tt. 827–861

Blundell, R., J. Ham a C. Meghir (1987), ‘Unemployment and Female Labour Supply’, Economic Journal, Cyfrol 97, atodol, tt. 44–64

Blundell, R., 265A. Duncan, J. McCrae a C. Meghir (2000), ‘The Labour Market Impact of the Working Families’ Tax Credit’, Fiscal Studies, Cyfrol 31, Rhif 1, tt. 75–103

Blundell, R., C. Meghir, E. Symons ac I. Walker (1988), ‘Labour supply specification and the evaluation of tax reforms’, Journal of Public Economics, Cyfrol 36, Rhif 1, tt. 23–52

Blundell, R. a T., MaCurdy (2009), ‘Labor Supply: A Review of Alternative Approaches’, yn Handbook of Labor Economics, Cyfrol 3, O. Ashenfelter a D. Card (gol), Elsevier

Blundell, R. ac A. Shephard (2012), ‘Employment, Hours of Work and the Optimal Taxation of Low-Income Families’, Review of Economic Studies, Cyfrol 79, Rhif 2, tt. 481–510

Blundell, R. ac I. Walker (1986), ‘A Life Cycle Consistent Empirical Model of Family Labour Using Cross Section Data’, Review of Economic Studies, Cyfrol 53, tt. 539–558

Brewer, M., 265A. Duncan, A. Shephard ac M. Suarez (2005), ‘Did Working Families Tax Credit work? The final evaluation of the impact of in-work support on parents’ labour supply and take-up behaviour in the UK’, adroddiad gan y Sefydliad Astudiaethau Cyllid ar gyfer CThEM

Brewer, M., 265A. Ratcliffe ac S. Smith (2011), ‘Does welfare reform affect fertility? Evidence from the UK’, Journal of Population Economics, Cyfrol 25, Rhif 1, tt. 245–266

Brink, A., G. Nordblom ac R. Wahlberg (2007), ‘Maximum Fee versus Child Benefit: A Welfare Analysis of Swedish Child-Care Fee Reform’, International Tax and Public Finance, Cyfrol 14, Rhif 4, tt. 457–480

Burtless, G. a J. Hausman (1978), ‘The Effects of Taxation on Labor Supply: Evaluating the Gary Negative Income Tax Experiments’, Journal of Political Economy, Cyfrol 86, Rhif 6, tt. 1103–1130

Clauss, M. ac R. Schnabel (2006), ‘Distributional and Behavioural Effects of the German Labour Market Reform’, Papur Gwaith ZEW

Dah, M., T. DeLeire a J. Schwabish (2009), ‘Stepping Stone or Dead End? The Effect of the EITC on Earnings Growth’, Papur Gwaith IZA, Rhif 4146, IZA

Dahl, M., J. Schwabish, T. DeLeire a T. Smeeding (2012), ‘The Earned Income Tax Credit and Expected Social Security Benefits among Low Income Women’, Papur Gwaith 2012–6 CBO, Swyddfa Cyllideb Gyngresol

Eckstein, Z. a K. Wolpin (1989), ‘Dynamic Labour Force Participation of Married Women and Endogenous Work Experience’, Review of Economic Studies, Cyfrol 56, Rhif 3, tt. 375–390

Eissa, N. a H. Hoynes (2004), ‘Taxes and the labor market participation of married couples: the earned income tax credit’, Journal of Public Economics, Cyfrol 88, Rhif 9, tt. 1931–1958

131

Page 137: An ex-ante analysis effects of the UK Government’s … · Web viewAriannwyd yr ymchwil hon gan Lywodraeth Cymru a Chanolfan er Dadansoddi Microeconomaidd Polisi Cyhoeddus ESRC yn

Eissa, N. a J. Liebman (1996), ‘Labor Supply Response to the Earned Income Tax Credit’, Quarterly Journal of Economics, Cyfrol 111, Rhif 2, tt. 605–637

Eklof, M. a H. Sacklen (2000), ‘The Hausman-MaCurdy Controversy: Why Do the Results Differ across Studies? Comment’, Journal of Human Resources, Cyfrol 35, Rhif 1, tt. 204–220

Ermisch, J. ac R. Wright (1991), ‘Welfare Benefits and Lone Parents’ Employment in Great Britain’, Journal of Human Resources, Cyfrol 26, tt. 424–456

Euwals, R. ac A. van Soest (1999), ‘Desired and actual labour supply of unmarried men and women in the Netherlands’, Labour Economics, Cyfrol 6, Rhif 1, tt. 95–118

Evers, M., R. de Mooij a D. van Vuuren (2008), ‘The Wage Elasticity of Labour Supply: A synthesis of empirical estimates’, De Economist, Cyfrol 156, tt. 25–43

Grogger, J. (2003), ‘The Effects of Time Limits, the EITC, and other Policy Changes on Welfare Use, Work and Income among Female-headed Households’, The Review of Economics and Statistics, Cyfrol 85, Rhif 2, tt. 394–408

Gruber, J. ac E. Saez (2002), ‘The elasticity of taxable income: evidence and implications’, Journal of Public Economics, Cyfrol 84, tt. 1–32

Hall, R. E. (1973), ‘Wages, Income and Hours of Work in the U.S. Labor Force’, yn Income Maintenance and Labor Supply, G. Cain a H. Watts (golygyddion), Markham

Hausman, J. (1981), ‘Labor Supply’, yn How Taxes affect Economic Behavior, H. J. Aaron a J. 265A. Pechman (golygyddion), Brookings Institution Press

Heckman, J. (1976), ‘Estimates of a Human Capital Production Function Embedded in a Life-Cycle Model of Labor Supply’, in Household Production and Consumption, N. Terleckyj (golygydd), NBER

Heim, B. (2009), ‘Structural Estimation of Family Labor Supply with Taxes: Estimating a Continuous Hours Model Using a Direct Utility Specification’, Journal of Human Resources, Cyfrol 44, Rhif 2, tt. 350–385

Imai, S. ac M. Keane (2004), ‘Intertemporal Labor Supply and Human Capital Accumulation’, International Economic Review, Cyfrol 45, Rhif 2, tt. 601–641

Jenkins, S. (1992), ‘Lone Mothers’ Employment and Full Time Work Probabilities’, Economic Journal, Cyfrol 102, tt. 310–320

Kaiser, H., P. Spahn and U. van Essen (1992), ‘Income Taxation and the Supply of Labour in West Germany’, Jahrbucher fur Nationalokonomie und Statistik

Keane, M. (2011), ‘Labor Supply and Taxes: A Survey’, Journal of Economic Literature, Cyfrol 49, Rhif 4, tt. 961–1075

Keane, M. ac R. Moffitt (1998), ‘A Structural Model of Multiple Welfare Participation and Labor Supply’, International Economic Review, Cyfrol 39, tt. 553–589

Keane, M. a K. Wolpin (2010), ‘The Role of Labor and Marriage Markets, Preference Heterogeneity, and the Welfare System in the Life Cycle Decisions of Black, Hispanic and White Women’, International Economic Review, Cyfrol 51, Rhif 3, tt. 851–892

132

Page 138: An ex-ante analysis effects of the UK Government’s … · Web viewAriannwyd yr ymchwil hon gan Lywodraeth Cymru a Chanolfan er Dadansoddi Microeconomaidd Polisi Cyhoeddus ESRC yn

Krueger, A. a B. Meyer (2002), ‘Labour Supply Effects of Social Insurance’, yn A. J. Auerbach ac M. Feldstein (golygyddion), Handbook of Public Economics 4, Amsterdam: North-Holland

Labeaga, J., X. Oliver ac A. Spadaro (2008), ‘Discrete choice models of labour supply, behavioural microsimulation and the Spanish tax reform’, Journal of Economic Inequality, Cyfrol 6, Rhif 3, tt. 247–273

Leigh, A. (2009), ‘Who Benefits from the Earned Income Tax Credit? Incidence among Recipients, Coworkers and Firms’, Papur Trafod IZA Rhif 4960, IZA

MaCurdy, T., D. Green a H. Paarsch (1990), ‘Assessing Empirical Approaches for Analyzing Taxes and Labor Supply’, Journal of Human Resources, Cyfrol 25, Rhif 3, tt. 415–490

Meghir, C. a D. Phillips (2010), ‘Labour supply and taxes’, yn The Mirrlees Review: Dimensions of Tax Design, J. Mirrlees, S. Adam, T. Besley, R. Blundell, S. Bond, R. Chote, M. Gammie, P. Johnson, G. Myles a J. Poterba (golygyddion), Gwasg Prifysgol Rhydychen

Pencavel, J. (1986), ‘Labor Supply of Men: A Survey’, in Handbook of Labor Economics, Cyfrol 3, O. Ashenfelter ac R. Layard (golygyddion), Elsevier

Pencavel, J. (2002), ‘A Cohort Analysis of the Association between Work Hours and Wages among Men’, Jouurnal of Human Resources, Cyfrol 37, tt. 251–274

Rothstein, J. (2008), ‘The Unintended Consequences of Encouraging Work: Tax Incidence and the EITC’, Papur Gwaith CEPS Rhif 165, CEPS

Shaw, K. (1989), ‘Life-Cycle Labor Supply with Human Capital Accumulation’, International Economic Review, Cyfrol 30, Rhif 2, tt. 431–456

Triest, R. (1990), ‘The Effect of Income Taxation on Labor Supply in the United States’, Journal of Human Resources, Rhif 25, tt. 635–664

van de Klaauw, W. (1996), ‘Female Labour Supply and Marital Status Decisions: A Life-Cycle Model’, Review of Economic Studies, Cyfrol 63, Rhif 2, tt. 199–235

van Soest, A., I. B. Woittiez ac A. J. Kapteyn (1990), ‘Labor Supply, Income Taxes, and Hours Restricts in the Netherlands’, Journal of Human Resources, Cyfrol 25, Rhif 3, tt. 517–558

van Soest, A. (1995), ‘Structural Models of Family Labor Supply: A Discrete Choice Approach’, Journal of Human Resources, Cyfrol 39, tt. 63–88

van Soest, A. ac M. Das (2001), ‘Family Labor Supply and the Proposed Tax Reforms in the Netherlands’, De Economist, Cyfrol 149, Rhif 2, tt. 191–218

van Soest, A., M. Das a X. Gong (2001), ‘A Structural labor supply model wit non-parametric preferences’, Journal of Econometrics (Annals), Cyfrol 107, tt. 345–374

Wales, T. ac A. Woodland (1979), ‘Labour Supply and Progressive Taxes’, Review of Economic Studies, Cyfrol 46, Rhif 1, tt. 83–95

Walker, I. (1990), ‘The Effect of Income Support Measures on the Labour Market Behaviour of Lone Mothers’, Fiscal Studies, Cyfrol 11, tt. 55–74

133

Page 139: An ex-ante analysis effects of the UK Government’s … · Web viewAriannwyd yr ymchwil hon gan Lywodraeth Cymru a Chanolfan er Dadansoddi Microeconomaidd Polisi Cyhoeddus ESRC yn

Atodiad Ch. Modelau cyflenwad llafur dewis arwahanol Yn ein hadolygiad o'r dystiolaeth bresennol o ymatebolrwydd cyflenwad llafur (Pennod 4), trafodwyd yn fras sut mae'r system trethi a budd-daliadau yn ei gwneud hi'n anodd amcangyfrif y gydberthynas rhwng cymhellion ariannol i weithio a chyflenwad llafur. Yn arbennig, ni allwch ddynodi model oriau gwaith syml ond rhaid dynodi'r boddhad (neu'r defnydd) a gaiff unigolion o bob cyfuniad oriau-incwm net. Mae cyfrifiad o'r fath yn feichus pan fyddwch yn caniatáu i unigolion ddewis o blith nifer o opsiynau oriau parhaus, sydd i raddau helaeth yn nifer ddi-derfyn, ac mae hyn wedi arwain at ddefnydd cynyddol o fodelau sy'n ymdrin â'r penderfyniad o ran faint o oriau i'w gweithio fel dewis arwahanol (e.e. llawn amser, rhan amser, peidio â gweithio) yn hytrach na dewis parhaus: os felly, dim ond y dewis o blith y set fechan o opsiynau a ganiateir y bydd angen i chi ei fodelu.

Yn yr adroddiad hwn, amcangyfrifwn a defnyddiwn dau fodel dewis arwahanol: un ar gyfer parau priod a chyplau sy'n cyd-fyw, a'r llall ar gyfer mamau unigol. Mae nodweddion sylfaenol y modelau hyn yn debyg iawn, gan ei gwneud hi'n bosibl eu cyd-osod yn yr is-adrannau canlynol.

Strwythur y modelau a'r dull o amcangyfrifUn o'r penderfyniadau allweddol sydd ynghlwm wrth ddatblygu modelau cyflenwad llafur dewis arwahanol yw'r opsiynau ar gyfer nifer yr oriau y gall unigolion eu dewis: os nad oes digon, gellir methu cryn dipyn o effaith newidiadau mewn cymhellion ariannol i weithio oriau amrywiol; os oes gormod, ni fydd digon o unigolion neu gyplau yn dewis opsiynau penodol i amcangyfrif y paramedrau angenrheidiol o ran modelau. O ystyried bod dosbarthiad oriau gwaith menywod yn llawer mwy gwasgaredig na dynion (sydd, os ydynt yn gweithio, yn gweithio'n llawn amser fel arfer), yn yr adroddiad hwn caniateir i fenywod ddewis o blith mwy o opsiynau oriau na dynion. Yn arbennig, caniateir i ddynion ddewis o blith dau opsiwn (dim gweithio, gweithio) a chaiff menywod mewn cyplau ddewis o blith pum opsiwn (dim gweithio, gweithio 15 awr neu lai, gweithio 16-19 awr, gweithio 20-29 awr, neu weithio 30 awr neu fwy yr wythnos). Tybir bod cyplau'n pennu eu horiau gwaith ar y cyd, yn seiliedig ar yr incwm net cyfunol y byddent yn ei gael o'r cyfuniad o oriau dynion a menywod a ddewisir: mae hyn yn golygu bod yr opsiynau yn creu cyfanswm o 10 awr ar gyfer y cwpl yn ei gyfanrwydd (dau i'r dyn, a luosir â phump i'r fenyw). Gall mamau unigol ddewis o blith saith opsiwn (dim gweithio, gweithio 1-7 awr, gweithio 8-15 awr, gweithio 16-19 awr, gweithio 20-29 awr, gweithio 30-34 awr, neu weithio 35 awr neu fwy'r wythnos).

Mae'r modelau dewis arwahanol a ddefnyddiwyd yn yr adroddiad hwn yn cynnwys amcangyfrif y gydberthynas rhwng nodweddion demograffig a chymhellion ariannol i weithio unigolion neu gyplau a'r tebygolrwydd (neu'r debygoliaeth) y byddant yn dewis pob opsiwn oriau. Yn ogystal ag amrywio â nodweddion a arsylwir, rydym hefyd yn caniatáu'r tebygolrwydd y dewisir gwahanol opsiynau oriau yn dibynnu ar amrywiadau nas arsylwyd o ran chwaeth gweithio drwy brofi am bresenoldeb 'mathau' penodol o gyplau neu famau unigol. Gwelwn dystiolaeth mai'r ffordd orau o egluro ymddygiad cyplau yw drwy fodel sy'n cynnwys dau fath, tra model sy'n cynnwys un math yn unig sydd orau i famau unigol.

Rhydd Blwch Ch.1 wybodaeth am fanyleb dechnegol y modelau a ddefnyddiwyd. Fodd bynnag, mae'n werth tynnu sylw at y newidynnau a geir yn y model cyflenwad llafur. Y newidynnau demograffig a geir yw: rhanbarth preswylio, carfannau geni (o'r 1940au i'r 1980au), blwyddyn arsylwi ariannol, nifer y plant yn ôl oedran (0, 1–10, 11–15, 16–17, 18–19), a lefel addysg (gan adael addysg amser llawn yn 16 oed neu iau, 17 neu 18 oed, neu 19 oed a throsodd). Mesurir cymhellion ariannol i weithio yn ôl incwm net amser real (h.y. wedi'i addasu ar gyfer chwyddiant) cwpl neu riant unigol o dan bob dewis oriau cadarnhaol a phan na weithir.

134

Page 140: An ex-ante analysis effects of the UK Government’s … · Web viewAriannwyd yr ymchwil hon gan Lywodraeth Cymru a Chanolfan er Dadansoddi Microeconomaidd Polisi Cyhoeddus ESRC yn

Blwch Ch.1: Manyleb dechnegol y modelauDyweder fod j = 0 i J o opsiynau oriau posibl. Mae'r tebygolrwydd y bydd pob mam unigol neu gwpl (sef h) yn dewis pob opsiwn oriau j yn gweithredu fel swyddogaeth y boddhad (neu ddefnydd) a gânt o'r opsiwn hwnnw sy'n berthynol i ddim gweithio, neu ddewis opsiwn oriau arall. Mae'r defnydd a geir o opsiwn j sy'n berthynol i fod â neb sy'n gweithio (opsiwn 0) yn dibynnu ar y math nas arsylwyd (k) o riant unigol neu gwpl, ac fe'i diffinnir fel a ganlyn:Uh,j,k–Uh,0,k = X’h(bj–b0) + Inch,jβj + Inch,0β0 + Cymru*Inch,jβCymru,j + Cymru*Inch,0βCymru,0

+ (λj–λ0)αk + εj

lle mae X’h yn cynrychioli nodweddion demograffig h, Inch,j yw incwm net h a geir ar ffurf j, ac mae Cymru yn ffug-elfen sy'n dynodi a geir h yng Nghymru. Mae bj, βjj, βCymru,j yn baramedrau i'w hamcangyfrif sy'n egluro effeithiau'r newidynnau demograffig a arsylwyd ac incymau mewn gwaith ac allan o waith ar ddefnydd. Mae αk yn derm sy'n nodi effaith h fel math k nas arsylwyd ar y defnydd a geir o dan opsiwn j = 1. Mae λj yn ffactor llwytho sy'n pwysoli effaith math nas arsylwyd yn wahanol yn dibynnu ar opsiwn oriau j = 2 i J. Yn ei hanfod, mae'r termau alffa a lambda yn golygu y gall y rhyngdoriadau amrywio yn ôl math k. Mae εj yn derm gwall sy'n anghydberthnasol i'r newidynnau esboniadol. Er mwyn nodi'r model mae angen i'r canlynol fod yn gymwysb0 = 0λ0 = 0 aλ1 = 1Os dosberthir εj gan ddefnyddio dosbarthiad gwerth eithafol, mae hyn yn cynhyrchu modelau logit amlgategori ar wahân ar gyfer pob math k nas arsylwyd:Ph(j = 1 | k) = exp(X’h(bj) + Inch,jβj + Inch,0β0 + Cymru*Inch,jβCymru,j + Cymru*Inch,0βCymru,0 + ( λ j) α k)

1+ exp(X’h(bj) + Inch,jβj + Inch,0β0 + Cymru*Inch,jβCymru,j + Cymru*Inch,0βCymru,0 + (λj)αk)Amcangyfrifir y tebygolrwydd o fod yn fath k hefyd, gadewch i hyn fod yn Pk. Felly:

Ph(g. = 1) = Ph(g. = 1 | g.)* Pg)Amcangyfrifir y model gan ddefnyddio'r dull tebygoliaeth fwyaf: mae hyn yn golygu y dewisir paramedrau i gynyddu'r debygoliaeth y byddai'r patrwm ymddygiad a arsylwyd yn cael ei ragfynegi gan y model.

Caiff model microefelychu trethi a budd-daliadau'r Sefydliad Astudiaethau Cyllid, sef TAXBEN, ei ddefnyddio i drosi incwm cyn treth amcangyfrifedig o dan bob opsiwn oriau yn incwm net gan ddefnyddio rheolau'r system trethi a budd-daliadau. Cyfrifir incwm cyn treth fel y swm o incwm nas enillwyd (megis incwm o gynilion), ac enillion gros, a gyfrifir fel y nifer gyfartalog o oriau o waith ar gyfer yr opsiwn oriau hwnnw wedi'i lluosi â'r gyfradd yr awr. Yn achos y rheini sy'n gweithio yn y data, arsylwn eu cyfradd yr awr: cyfrifir hyn fel enillion gros wythnosol wedi'u rhannu â'r oriau gwirioneddol. Yn achos y rheini nad ydynt yn gweithio yn y data, defnyddiwn wyth cyflog posibl o'r dosbarthiad o gyflogau a awgrymir gan gyfres o hafaliadau cyflog sydd wedi'u cynllunio i ragfynegi cyflogau pobl nad ydynt yn

135

Page 141: An ex-ante analysis effects of the UK Government’s … · Web viewAriannwyd yr ymchwil hon gan Lywodraeth Cymru a Chanolfan er Dadansoddi Microeconomaidd Polisi Cyhoeddus ESRC yn

gweithio yn seiliedig ar eu nodweddion a'r gydberthynas rhwng cyflogau a nodweddion y rheini sy'n gweithio. Gwneir hyn mewn ffordd sy'n rhoi cyfrif am y ffaith y gall y sawl sy'n gweithio fod yn 'sampl ddethol' (er enghraifft, yn amodol ar nodweddion arsylwadwy, gallant fod yn ennill cyflogau uwch na'r rheini nad ydynt yn gweithio).31 Yna, ystyrir bod y cyfraddau yr awr (boed yn rhai gwirioneddol neu'n rhai a ragfynegir) yn alldarddol i'r penderfyniad ynghylch cyflenwad llafur. Mewn geiriau eraill, ni chaiff yr oriau gwaith a ddewisir effeithio ar y gyfradd yr awr; a thybir bod y gyfradd yr awr yn anghydberthnasol i'r ffactorau nas arsylwyd sy'n effeithio ar y tebygolrwydd o ddewis opsiynau oriau penodol, ac eithrio'r newidyn 'math' nas arsylwyd. Mae hyn yn ein galluogi i drin y gydberthynas rhwng incwm net ym mhob opsiwn oriau a'r tebygolrwydd o ddewis y cyflwr hwnnw fel cydberthynas achosol.

Data a dewis samplauMae'r modelau a ddisgrifiwyd uchod wedi'u hamcangyfrif yn empirig gan ddefnyddio data o 14 o donnau'r Arolwg Adnoddau Teulu sy'n cwmpasu'r cyfnod 1996–97 i 2009–10. Mae'r arolwg hwn yn cynnwys gwybodaeth ddemograffig ac economaidd-gymdeithasol fanwl (gan gynnwys gwybodaeth am incwm a chyflenwad llafur) ar gyfer tua 25,000 o gartrefi bob blwyddyn ar draws y DU, y mae rhwng tua 1,100 a 1,300 ohonynt yng Nghymru. Gan ddechrau gyda'r samplau arolwg llawn, defnyddiwn nifer o amodau i gyfyngu'r set o gartrefi a ddefnyddir i amcangyfrif y modelau.

Yn gyntaf, nid yw'r amcangyfrif yn cynnwys pob oedolyn 21 oed neu'n iau neu sy'n cofnodi eu bod yn fyfyrwyr; y rheini sy'n 60 oed neu drosodd; a'r rheini sydd wedi'u cofrestru'n anabl neu sy'n cael budd-dal anabledd. Yn y model ar gyfer cyplau, mae hyn yn golygu mai dim ond y cyplau hynny lle mae'r ddau bartner rhwng 22 a 59 oed ac nad ydynt yn anabl a gaiff eu cynnwys yn ein sampl. Nid ydym yn cynnwys y rheini sy'n 21 oed neu'n iau na myfyrwyr gan ein bod yn modelu cyflenwad llafur yn amodol ar addysg, yn hytrach na modelu'r dewis rhwng gwaith ac addysg, na fyddai, efallai, yn briodol i grŵp oedran â llawer o bobl yn dal i fod mewn addysg amser llawn. Nid ydym yn cynnwys y rheini sy'n 60 oed neu drosodd oherwydd y cymhlethdodau sydd ynghlwm wrth ddelio â chymhellion i weithio adeg ymddeol. Er enghraifft, wrth amcangyfrif yr incwm net y byddai rhywun yn ei gael os na fyddai'n gweithio, ni allwn ystyried yr incwm y byddai'n ei gael o bensiynau preifat os gwnaeth ymddeol yn gynnar (nid yw'r FRS yn cynnwys gwybodaeth o'r fath), a all gael effaith sylweddol ar ei benderfyniad ynghylch cyflenwad llafur. Nid ydym yn cynnwys pobl anabl oherwydd ni allwn fodelu'r rhyngweithio rhwng cyflenwad llafur, statws iechyd a chymhellion ariannol i weithio (mae model statws iechyd a chyflenwad llafur ar y cyd y tu hwnt i gwmpas y prosiect hwn ac nid yw'r data'n ddigon cyfoethog i fodelu statws iechyd yn gywir beth bynnag). Mewn geiriau eraill, mae'r henoed a'r anabl yn grwpiau lle credwn fod y ffactorau sy'n effeithio ar benderfyniadau ynghylch cyflenwad llafur yn wahanol iawn i weddill y boblogaeth. Drwy hepgor y grwpiau hyn, dylai'r model amcangyfrifedig fod yn fwy addas i ddadansoddi ymddygiad gweddill y boblogaeth, er bod hynny'n digwydd ar draul lleihau cwmpas y model ychydig.

Nesaf, nid ydym yn cynnwys yr oedolion hynny sy'n nodi eu bod yn hunangyflogedig neu sy'n cofnodi enillion neu golledion o hunangyflogaeth yn y dadansoddiad (gan olygu nad ydym yn cynnwys cyplau lle mae hyn yn berthnasol i un partner neu i'r ddau bartner). Mae tri rheswm dros hyn. Yn gyntaf, gall ymddygiad unigolion hunangyflogedig fod yn wahanol iawn i unigolion cyflogedig: gall fod ganddynt fwy o hyblygrwydd i newid faint maent yn ei weithio mewn ymateb i newidiadau mewn cymhellion ariannol i weithio, neu newid faint maent yn nodi iddynt weithio (er enghraifft er mwyn manteisio ar reolau oriau i'r eithaf). Mae hyn yn golygu y gall rhywun fod am ganiatáu i lawer o baramedrau'r modelau amrywio ar gyfer unigolion hunangyflogedig, a all fod yn anodd o ystyried meintiau sampl cymharol fach yr hunangyflogedig. Yn ail, byddai angen ystyried penderfyniad ychwanegol: nid yn unig a yw rhywun yn gweithio ac am ba hyd, ond a yw rhywun yn gyflogedig neu'n hunangyflogedig. Yn drydydd, ar hyn o bryd,

31 Gwneir hyn gan ddefnyddio dull 'cywiro Heckman' safonol, lle defnyddir mesur wedi'i addasu o'r incwm y byddai rhywun yn ei gael allan o waith fel y ffactor sy'n effeithio ar y tebygolrwydd o weithio, ond nid y gyfradd yr awr y byddai rhywun yn ei chael os byddai'n gweithio.

136

Page 142: An ex-ante analysis effects of the UK Government’s … · Web viewAriannwyd yr ymchwil hon gan Lywodraeth Cymru a Chanolfan er Dadansoddi Microeconomaidd Polisi Cyhoeddus ESRC yn

nid yw TAXBEN, y model microefelychu trethi a budd-daliadau a ddefnyddir i gyfrifo incymau net ar yr opsiynau oriau gwahanol, yn gadael i rywun newid yr oriau neu'r 'gyfradd' yr awr a geir o hunangyflogaeth. O ystyried yr anawsterau eraill sydd ynghlwm wrth gynnwys hunangyflogaeth yn y model, ni fyddai'n ymarferol ehangu TAXBEN ar gyfer y prosiect hwn.

Yn olaf, nid ydym yn cynnwys y mamau unigol neu'r cyplau hynny ag incwm net gwirioneddol uchel iawn neu y rhagfynegir incwm net uchel iawn ar eu cyfer (mwy na thua £4,800 yr wythnos yn ôl prisiau 2012). Gwneir hyn oherwydd gall y nifer fach o arsylwadau ag incwm uchel iawn achosi i'r canlyniadau 'wyro', ac o leiaf at ddibenion dadansoddi effaith y diwygiadau lles ar y cyflenwad llafur, nid ydynt yn grŵp rydym yn awyddus i ganolbwyntio arno.

Ar ôl cymhwyso'r meini prawf dethol sampl hyn, mae ein samplau amcangyfrif yn cynnwys 22,857 o rieni unigol (y mae 1,073 ohonynt yng Nghymru) a 70,077 o gyplau (y mae 3,006 ohonynt yng Nghymru). Wrth efelychu effaith diwygiadau, dim ond y tair blynedd olaf o ddata (sy'n cwmpasu 2007–08 i 2009–10) a ddefnyddir gennym. Mae'r sampl efelychu yn cynnwys 4,719 o rieni unigol (y mae 200 ohonynt yng Nghymru), a 13,644 o gyplau (y mae 532 ohonynt yng Nghymru).

Y modelau amcangyfrifedig a 'hydwytheddau' cyflenwad llafurFel y trafodwyd ym Mlwch Ch.1, mae paramedrau'r model yn dweud wrthym sut mae nodweddion demograffig ac incwm net yn effeithio ar ddefnydd unigolyn neu gwpl o opsiwn oriau penodol sy'n berthynol i'r opsiwn lle nad oes neb yn gweithio. Nid yw hyn yr un peth ag effaith nodweddion ac incwm net ar y tebygolrwydd y bydd unigolyn neu gwpl yn dewis yr opsiwn oriau hwnnw: mae'r tebygolrwydd hwn yn dibynnu, nid yn unig ar ddefnydd o dan yr opsiwn oriau a ystyrir, ond hefyd yr opsiynau oriau eraill. Mae paramedrau'r modelau amcangyfrifedig ar gael gan yr awduron ar gais, ond mae'n werth tynnu sylw at rai canfyddiadau allweddol. Ar gyfer rhieni unigol:

Mae cael mwy o blant 15 oed ac iau, ac yn enwedig plant 10 oed ac iau, yn lleihau'r defnydd a gaiff mamau unigol o weithio, sy'n gwneud synnwyr o ystyried y costau gweithio ychwanegol sydd ynghlwm wrth gael mwy o blant.

Mae lefelau uwch o addysg yn gysylltiedig â mwy o flas am weithio, yn enwedig gwaith llawn amser.

Caiff yr incwm net a geir o dan yr opsiwn hwnnw effaith gadarnhaol gref ar y defnydd a geir o unrhyw opsiwn oriau cadarnhaol, a chaiff yr incwm net a fyddai'n deillio o beidio â gweithio effaith negyddol. Mae hyn yn golygu yr ymddengys fod cymhellion ariannol i weithio yn cael effaith gref ar benderfyniad gwaith mamau unigol.

Ymddengys fod cymhellion ariannol i weithio yn cael effaith debyg yng Nghymru â gweddill y DU ar y cyfan, heblaw am y defnydd a gaiff mamau unigol o weithio 16-19 awr yr wythnos, yr ymddengys fod swm yr incwm net y byddai rhywun yn ei gael o waith o'r fath yn cael llai o effaith yng Nghymru.

Ar gyfer cyplau:

Mae'r defnydd o opsiynau lle mae'r partner benywaidd yn gweithio'n llawn amser yn is i deuluoedd â phlant 15 oed ac iau, ac yn enwedig plant 10 oed ac iau, sy'n gwneud synnwyr o ystyried y costau ychwanegol i weithio y mae menywod mewn cyplau o'r fath yn debygol o'u hwynebu.

I'r gwrthwyneb, mae'r defnydd o opsiynau lle mae'r partner benywaidd yn gweithio'n rhan-amser a'r partner gwrywaidd yn gweithio yn uwch i'r rheini â phlant blwydd oed neu drosodd na'r rheini heb blant neu â babanod. Unwaith eto, mae hyn yn ymddangos yn bosibl.

O gymharu â chyplau lle nad oes gan y partner benywaidd ond y lefel statudol o addysg neu lai (h.y. gwnaeth adael addysg amser llawn yn 16 oed neu'n iau), mae'r cyplau hynny sy'n cynnwys menywod â lefelau uwch o addysg yn cael gwell defnydd o opsiynau oriau lle mae'r fenyw yn

137

Page 143: An ex-ante analysis effects of the UK Government’s … · Web viewAriannwyd yr ymchwil hon gan Lywodraeth Cymru a Chanolfan er Dadansoddi Microeconomaidd Polisi Cyhoeddus ESRC yn

gweithio mwy nag 20 awr yr wythnos. Mewn geiriau eraill, mae lefelau uwch o addysg ymhlith menywod i'w gweld yn mynd law yn llaw â mwy o flas am waith menywod.

Caiff yr incwm net y byddai'r cwpl yn ei gael o dan yr opsiwn hwnnw effaith gadarnhaol gref ar y defnydd a geir o opsiwn oriau, a chaiff yr incwm net y byddai'r cwpl yn ei gael os na fyddai'r un ohonynt yn gweithio effaith negyddol. Mae hyn yn golygu yr ymddengys fod cymhellion ariannol i weithio yn cael effaith gref ar benderfyniadau gwaith cwpl.

Ymddengys fod cymhellion ariannol i weithio yn hynod gref yng Nghymru.

Gallwn grynhoi effaith cymhellion ariannol i weithio ar ymddygiad cyflenwad llafur yn ein model ar gyfer rhieni unigol drwy gyfrifo 'hydwytheddau' cyfranogiad ac oriau o ran yr incwm net sy'n deillio o weithio. Er mwyn gwneud hyn, efelychwn yr effaith ar gyflogaeth ac oriau gwaith cyfartalog os bydd cynnydd o 10% yn yr incwm net ym mhob opsiwn oriau cadarnhaol. Nodwn y canlynol:

hydwythedd cyflogaeth o ran incwm mewn gwaith net o 1.16 hydwythedd cyfanswm oriau gwaith o ran incwm mewn gwaith net o 1.13

sydd ymhell o fewn yr ystod hydwytheddau cyflogaeth a chyfanswm oriau gwaith ar gyfer rhieni unigol mewn astudiaethau yn y DU a thramor.

Nid yw'n hawdd cyfrifo mesur tebyg gyda chyplau, ond mae'r cyfernodau ar incwm mewn gwaith ac allan o waith yn edrych yn bosibl.

Cyfyngiadau'r modelauMae'r modelau hyn yn gynrychioliadol o fodelau cyflenwad llafur canonig o ansawdd uchel sy'n ystyried y cysylltiad rhwng cymhellion ariannol i weithio a chyflenwad llafur, ond mae'n werth nodi eu cyfyngiadau yng nghyd-destun y prosiect hwn.

Yn gyntaf, ac yn fwyaf amlwg efallai, dim ond effaith y newidiadau o ran cymhellion ariannol i weithio y mae'r modelau yn caniatáu i ni eu hefelychu. Yng nghyd-destun y diwygiadau lles, mae hyn yn caniatáu i ni efelychu effaith newidiadau o ran yr uchafswm hawliau, anwybyddiadau enillion a chyfraddau tapro, ond nid effaith pethau fel rhwyddineb trosglwyddo rhwng budd-daliadau mewn gwaith a budd-daliadau allan o waith neu'r newidiadau o ran yr hyn y mae'n rhaid ei wneud er mwyn cael y budd-dal (megis gorfod mynd i gyfarfodydd sy'n canolbwyntio ar waith neu gymryd rhan mewn profiad gwaith di-dâl). Mae cysylltiad agos rhwng cymhellion anariannol i weithio a pheidio â hawlio budd-daliadau. Disgwylir i Gredyd Cynhwysol arwain at gynnydd o ran hawlio budd-daliadau, yn enwedig gan y rheini mewn gwaith. Gan fod TAXBEN yn fodel hawl i fudd-daliadau, mae ein hamcangyfrifon yn tybio'n benodol y bydd pawb yn hawlio'r budd-daliadau y mae ganddynt hawl i'w cael.

Yn ail, mae'n bwysig nodi bod y modelau a amcangyfrifwyd yn ystyried y cyflenwad llafur ymhlith rhieni unigol a chyplau, ac nid y galw am lafur. Os cyfyngir ar alw fel bod diweithdra gwirfoddol, efallai y bydd hydwythedd y cyflenwad llafur yn is na'r hyn a awgrymir gan fodelau cyflenwad llafur safonol (gweler er enghraifft Blundell et al. (1987) a Bargain et al. (2010)). Ceir trafodaeth ansoddol o'r materion hyn ym Mhennod 7 wrth i ni ystyried sut y gall y cyd-destun economaidd ehangach effeithio ar y diwygiadau lles a sut y gall y diwygiadau effeithio ar y cyd-destun hwnnw. Mae defnyddio'r dull 'calibradu ac efelychu' hefyd yn caniatáu i ni weld sut y mae dewis hydwytheddau is yn effeithio ar y canlyniadau.

Yn olaf, am fod cyn lleied o famau unigol yn arbennig yn gweithio swyddi 1-15 awr, mae'n bosibl na fydd rhagfynegiadau'r model o effaith newidiadau o ran cymhellion ariannol i weithio wrth weithio oriau gwaith o'r fath mor ddibynadwy ag y byddem yn ei ddymuno (mewn gwirionedd, mater o ddefnyddio'r model i 'ragfynegi allan o'r sampl' ydyw). O dan y gyfundrefn les bresennol, mae'r cymhellion ariannol i oedolion sengl â lefel sgiliau isel (ac yn arbennig mamau unigol) weithio mewn swyddi tâl isel sy'n llai nag 16 awr yr wythnos yn wan iawn (oherwydd tapro £1 am £1 Cymhorthdal Incwm a/neu Lwfans Ceisio Gwaith ar ôl anwybyddiad bach). Ond nid yw'n glir ai dyma'r rheswm y mae cyn lleied o famau unigol

138

Page 144: An ex-ante analysis effects of the UK Government’s … · Web viewAriannwyd yr ymchwil hon gan Lywodraeth Cymru a Chanolfan er Dadansoddi Microeconomaidd Polisi Cyhoeddus ESRC yn

mewn 'mân swyddi' o'r fath neu a ydynt yn anneniadol i famau unigol neu gyflogwyr am ryw reswm arall. Felly, nid yw'n glir pa mor ymatebol y maent yn debygol o fod i'r gwelliant mewn cymhellion ariannol i weithio mewn swyddi o'r fath o dan Gredyd Cynhwysol.

139

Page 145: An ex-ante analysis effects of the UK Government’s … · Web viewAriannwyd yr ymchwil hon gan Lywodraeth Cymru a Chanolfan er Dadansoddi Microeconomaidd Polisi Cyhoeddus ESRC yn

Atodiad D. Methodoleg a thybiaethau ar gyfer Pennod 6Y model ffurfiol32

Gadewch i ni dybio bod gan unigolyn i enillion sydd o dan y system trethi a budd-daliadau

sylfaenol a'i fod yn wynebu CDYE a CDG . Ar ôl y diwygiadau lles, mae unigolyn i yn wynebu CDGau a

CDYEau newydd a . Tybiwn fod gan unigolyn i hydwythedd cyflogaeth o ran o a

hydwythedd oriau gwaith o ran o .33 Mae'r ymateb dwys yn newid enillion i fel bod:

Mae'r ymateb cyfranogi yn trawsnewid unigolyn i yn gyfartaledd wedi'i bwysoli o unigolyn sy'n gweithio

(yn ennill ) â phwysau fel bod:

ac unigolyn nad yw'n gweithio (yn ennill 0) â phwysau .

Mae'r pwysau uwchlaw 1 pan gaiff y CDG ei gostwng, gan olygu bod y diwygiad yn cymell rhai unigolion nad ydynt yn gweithio i ddechrau gweithio.

Yna, ailgyfrifwn y cyfanswm cyflogaeth, oriau gwaith ac enillion ar ôl y diwygiad lle mae gan bob unigolyn

enillion â phwysau a dim enillion (sero) â phwysau 1- , a chyfansymiwn ar draws pob unigolyn sy'n gweithio. Noder nad yw'r cyfrifiad yn cynnwys unigolion nad ydynt yn gweithio cyn y diwygiad: nodir effeithiau mynediad drwy ddim ond edrych ar unigolion a oedd yn gweithio cyn y diwygiad. Trafodir hyn ymhellach isod.

Yn y cyfrifiadau hynny, dilynwn y llwybr tarw bod cyfraddau treth ar ôl y diwygiad yn cael eu cyfrifo yn

seiliedig ar enillion cychwynnol CDYE . Mewn egwyddor, dylent fod yn seiliedig ar

enillion ar ôl y diwygiad . Fodd bynnag, byddai presenoldeb anamgrymedd yn y cyfyngiad cyllidebol yn gwneud y broses gyfrifo wirioneddol yn fwy cymhleth (byddai proses gyfrifo fanwl gywir fwy na thebyg yn cael mân effaith ar ein cyfrifiadau cychwynnol a gyflwynir yma, am ein bod yn tybio hydwytheddau cymedrol).

Dehongli hydwytheddau cyflogaethCaiff canlyniadau'r model hwn eu llywio gan yr hydwytheddau a dybir gennym yn unig, ar y cyd â'r CDGau a'r CDYEau amcangyfrifedig a gyflwynwyd ym Mhennod 3. Felly, mae'r dewis o hydwytheddau yn hollbwysig. Yn y cyd-destun hwnnw, mae'n bwysig bod yn glir ynghylch union ystyr yr hydwytheddau a'r

32 Mae hyn yn seiliedig ar yr atodiad ar-lein i Brewer, Saez a Shephard (2010), sydd ar gael yn http://www.ifs.org.uk/mirrleesReview/dimensions.33 Mae'r hydwytheddau hyn yn cyfateb i hydwythedd cyflogaeth o ran y budd o weithio (mewn arian parod) (h.y. incwm mewn gwaith llai incwm allan o waith) a'r hydwythedd oriau o ran y gyfradd cyflog net, yn y drefn honno.

140

Page 146: An ex-ante analysis effects of the UK Government’s … · Web viewAriannwyd yr ymchwil hon gan Lywodraeth Cymru a Chanolfan er Dadansoddi Microeconomaidd Polisi Cyhoeddus ESRC yn

hyn y maent yn ei nodi. Mae'n werth tynnu sylw at ddwy agwedd ar hydwytheddau cyfranogi yn arbennig.34

Y mater cyntaf i'w nodi yw bod yn cael ei ddiffinio uchod fel hydwythedd cyflogaeth o ran 1 llai'r CDG. Mae hynny'n cyfateb i hydwythedd o ran y budd o weithio mewn arian parod (h.y. incwm mewn gwaith llai incwm allan o waith).35 Mae'n ateb y cwestiwn 'beth yw'r newid canrannol o ran y tebygolrwydd o weithio yn sgil newid o 1% yn y budd o weithio (neu yn sgil newid o 1% yn (1-CDG))?' Fodd bynnag, fel y trafodwyd ym Mhennod 4, nid yw hydwytheddau byth yn cael eu nodi ar y ffurf hon yn y llenyddiaeth ar gyflenwad llafur: mae'r llenyddiaeth yn cyflwyno adroddiadau ar incwm mewn gwaith (neu enillion crynswth weithiau), yn hytrach na'r gwahaniaeth rhwng incwm mewn gwaith ac incwm allan o waith. Maent yn ateb y cwestiwn 'beth yw'r newid canrannol o ran y tebygolrwydd o weithio yn sgil newid o 1% mewn incwm mewn gwaith?' Ar yr amod nad yw incwm allan o waith yn sero, bydd y ddau hydwythedd hyn yn wahanol i'w gilydd. Byddant yn dra gwahanol yn aml: os yw incwm mewn gwaith rhywun yn £100 a bod ei incwm allan o waith yn £90, yna mae effaith gyfranogi cynyddu ei incwm mewn gwaith o £100 i £101 yn cyfateb i gynnydd o 1% yn ei incwm mewn gwaith, ond mae'n gynnydd o 10% yn ei fudd o weithio: bydd y ddau hydwythedd yn wahanol o ffactor o 10! Mae felly'n hanfodol nad yw hydwytheddau o ran incwm mewn gwaith, a ddaw o'r llenyddiaeth, yn cael eu hymgorffori'n syml yn y fformiwlâu uchod fel petaent yn hydwytheddau o ran y budd o weithio.36

Sut, felly, y gallwn ddewis pa hydwytheddau i'w tybio pan nad yw'r llenyddiaeth yn rhoi unrhyw amcangyfrifon i ni o hydwytheddau a ddiffinnir yn y modd priodol? Yn anffodus, nid oes unrhyw ateb boddhaol i hyn. Fodd bynnag, mae un posibilrwydd. Mae'r model hwn eisoes yn tybio nad oes unrhyw effaith ar incwm: tybir mai dim ond dibynnu ar CDGau y mae penderfyniadau cyflogaeth, nas newidir gan newidiadau mewn incwm nad ydynt yn gysylltiedig â statws gwaith (nid yw ychwanegu £100 at incwm mewn gwaith ac allan o waith yn newid y CDG), felly ni chaniateir i a yw diwygiadau yn eich gwneud yn well eich byd neu'n waeth eich byd (gan newid yr angen i weithio yn hytrach na'r gwobr o weithio), ynddo'i hun, gael unrhyw effaith ar a ydych yn gweithio neu faint rydych yn ei weithio. Gan dybio nad oes unrhyw effaith ar incwm, dylai newid arian parod mewn incwm allan o waith gael yr un effaith â'r un newid arian parod mewn incwm mewn gwaith (ond gyda'r arwydd i'r gwrthwyneb, wrth gwrs). Mae hynny'n awgrymu mai un hydwythedd sydd o ran y budd o weithio. Gellir pennu'r hydwythedd hwn o ran y budd o weithio drwy luosi'r hydwythedd o ran incwm mewn gwaith ag 1 llai'r gyfradd ddisodli (lle caiff 'cyfradd ddisodli' ei diffinio fel incwm allan o waith fel ffracsiwn o incwm mewn gwaith). Felly, os yw'r llenyddiaeth ar gyfer rhieni unigol, dyweder, yn awgrymu hydwythedd cyflogaeth o ran incwm mewn gwaith o 0.8 a bod y gyfradd ddisodli ar gyfer rhieni unigol yn 65%, mae'r hydwythedd o ran y budd o weithio yn 0.35 x 0.8 = 0.28 (hynny yw, mae cynnydd o 1% yn y budd o weithio arian parod yn arwain at gynnydd o 0.28% yn y tebygolrwydd o weithio). Mae'r weithdrefn hon yn codi cwestiynau oherwydd - ar wahân i anwybyddu effeithiau ar incwm - nid ydym yn gwybod beth oedd yr union incymau allan o waith a'r cyfraddau disodli yn yr astudiaethau gwreiddiol: mewn gwirionedd, dylai'r gwaith o drosi hydwytheddau o ran incwm mewn gwaith yn hydwytheddau o ran y budd o weithio gael ei wneud yng nghyd-destun yr astudiaeth wreiddiol, a all fod yn wahanol i'r sefyllfa sydd ohoni: dylid o leiaf ddefnyddio'r cyfraddau disodli a oedd yn gymwys ar yr adeg honno, ac nid y cyfraddau disodli a gyfrifwyd nawr. Ond heb wybodaeth o'r fath yn yr astudiaethau gwreiddiol, ni allwn weld ffordd well na'r hyn a gynigir.

34 Am drafodaeth ehangach o nodweddion y model hwn gweler Immervol et al. (2007) ac Adam (2005).

35 yw'r budd o weithio fel ffracsiwn o enillion gros, felly wrth gyfrifo'r newid canrannol yn , mae'r ffigurau enillion gros (nas newidiwyd) o fewn rhifiadur a chyfenwadur yn canslo. Felly, mae newid o 1 y cant yn y budd o weithio yn awgrymu newid o 1 y cant yn .36 Ymddengys fod hwn yn gamgymeriad y mae pob darn o ymchwil blaenorol sydd wedi defnyddio'r fethodoleg hon wedi'i wneud.

141

Page 147: An ex-ante analysis effects of the UK Government’s … · Web viewAriannwyd yr ymchwil hon gan Lywodraeth Cymru a Chanolfan er Dadansoddi Microeconomaidd Polisi Cyhoeddus ESRC yn

Ail nodwedd yr hydwythedd cyfranogi y mae'n werth tynnu sylw ato yw'r ffaith nad yw'n baramedr ffafriaeth cynhenid, cysonyn nad yw'n amrywio ar gyfer pob unigolyn neu grŵp. Mae'r cynnydd canrannol o ran cyflogaeth grŵp penodol a fyddai'n deillio o gynnydd o 1% yn ei fudd o weithio yn dibynnu'n rhannol ar ymatebolrwydd yr unigolion dan sylw; ond mae hefyd yn swyddogaeth rifyddol o nifer y gweithwyr a'r bobl nad ydynt yn gweithio a geir yn y grŵp hwnnw ar hyn o bryd. Os mai dim ond un unigolyn o fath penodol sy'n gweithio ar hyn o bryd, byddai gweld un unigolyn arall o'r math hwnnw yn ymuno ag ef yn cyfateb i gynnydd o 100% yng nghyflogaeth y math hwnnw o unigolyn (tra byddai un unigolyn arall yn ymuno â grŵp o 1,000 o weithwyr yn gynnydd o 0.1%); ac mae cael unigolyn ychwanegol (neu gant o bobl ychwanegol) o fath penodol i symud i mewn i waith yn fwy tebygol os oes nifer fawr o bobl nad ydynt yn gweithio o'r math hwnnw i gychwyn.

Yr hyn sy'n allweddol i werthfawrogi hyn yw sylweddoli bod yr hydwythedd cyfranogi yn mesur y newid canrannol mewn cyflogaeth, ac nid y newid pwynt canran. Mewn grŵp o gant o bobl, byddai cynnydd o 50 i 60 o weithwyr ac o 80 i 90 o weithwyr ill dau yn gynnydd o 10 pwynt canran mewn cyflogaeth (a gallem ystyried eu bod, mewn rhyw ystyr, 'yr un mor ymatebol' yn y ddau achos); ond mae cynnydd o 50 i 60 yn gynnydd o 20% mewn cyflogaeth tra bod cynnydd o 80 i 90 yn gynnydd o 12.5%: mae gan y grŵp blaenorol hydwythedd uwch. A bod yr elfennau eraill yn gyfartal, bydd gan grwpiau â chyfraddau cyflogaeth is hydwytheddau uwch am y rheswm hwnnw'n unig.

Mae hyn yn helpu i egluro rhai canfyddiadau yn y llenyddiaeth, a adlewyrchir yn ein dewis o hydwytheddau isod. Mae hydwytheddau cyflogaeth yn dueddol o fod yn uwch ar lefelau enillion isel na lefelau enillion uchel, yn rhannol am fod gan y rheini ag enillion posibl isel gyfradd gyflogaeth is. Yn yr un modd, er y gall rhieni plant hŷn fod mewn sefyllfa well i addasu eu patrymau gwaith mewn ymateb i gymhellion ariannol na rhieni plant iau, mae ganddynt hefyd gyfraddau cyflogaeth uwch i gychwyn: mae'n nodweddiadol gweld (e.e. Blundell a Shephard (2012)) fod diwygiad yn creu mwy o absoliwt a chynnydd pwynt canran yng nghyflogaeth y rheini â phlant hŷn, ond cynnydd canrannol uwch yng nghyflogaeth y rheini â phlant iau, gan awgrymu bod gan rieni blant 3-4 oes hydwythedd uwch na rhieni plant 11-18 oed.

Yn wir, mae nifer ac ymatebolrwydd gwahanol fathau o bobl nad ydynt yn gweithio yn ymuno â'r model yn gyfan gwbl drwy ddewis hydwytheddau helaeth. Ni chaiff pobl nad ydynt yn gweithio eu defnyddio wrth galibradu ac efelychu o gwbl: nid yw'r CDGau a amcangyfrifwyd ar eu cyfer ym Mhennod 3 yn chwarae unrhyw ran o gwbl ac ni ddyrennir hydwytheddau iddynt. Yn ei hanfod, mae'r model yn ystyried gweithwyr presennol ac yn gofyn: o ystyried y newid yn CDG yr unigolyn hwn a'i hydwythedd tybiedig, pa gynnydd neu ostyngiad canrannol mewn pobl fel hyn y byddem yn disgwyl ei weld yn y farchnad lafur? Atebir hyn ar ffurf:37

Mae'r holl wybodaeth am bobl nad ydynt yn gweithio yn ymhlyg yn yr hydwythedd cyfranogi: er enghraifft, caiff yr hyn y byddai pobl nad ydynt yn gweithio yn ei ennill petaent yn gweithio ei ystyried wrth bennu pa weithwyr presennol y maent yn 'debyg' iddynt ac felly sawl gweithiwr sydd o 'fath' pob gweithiwr a allai symud i mewn i waith mewn ymateb i ddiwygiad.

Hydwytheddau tybiedig: senario canologMae'r dull calibradu a ddefnyddir ym Mhennod 6 yn ei gwneud yn ofynnol i ni gymryd casgliadau cyffredinol adolygiad o lenyddiaeth Pennod 4 ar faint ymatebion, a phwy sydd fwyaf ymatebol, a'i drosi'n

37 Mae hyn yn syml yn ailysgrifennu, mewn geiriau, yr hafaliad ar gyfer p a roddwyd uchod. Yn yr un modd, mae'r hafaliad ar gyfer z

yn nodi bod y newid canrannol yn oriau gwaith gweithwyr presennol yn cael ei roi drwy

142

Page 148: An ex-ante analysis effects of the UK Government’s … · Web viewAriannwyd yr ymchwil hon gan Lywodraeth Cymru a Chanolfan er Dadansoddi Microeconomaidd Polisi Cyhoeddus ESRC yn

hydwytheddau tybiedig manwl gywir. Mae hyn yn anodd, nid lleiaf oherwydd yr amrywiad sylweddol a geir rhwng canlyniadau gwahanol bapurau, ac oherwydd hyn edrychwn ar senarios ymatebolrwydd uchel ac isel yn y dadansoddiad o sensitifrwydd yn Adran 6.2.

Dengys Tabl D.1 yr hydwytheddau dwys (oriau gwaith) a ddefnyddiwyd yn ein senario canolog, yn seiliedig ar ein dehongliad o'r graddau a'r patrymau a geir yn y llenyddiaeth. Tybiwn lefel isel o ymatebolrwydd ymhlith y rhan fwyaf o ddynion a menywod sengl heb blant, gan ddefnyddio ystod eang o dystiolaeth o'r DU, Ewrop ac UDA. Yn achos menywod mewn cyplau heb blant, tybiwn fod hydwythedd ychydig yn uwch, gan adlewyrchu'r ffaith bod enillion ac oriau'r grŵp hwn yn debygol o fod yn is, sy'n dueddol o fod yn gysylltiedig â hydwytheddau uwch. Mae hydwytheddau dwys ar eu huchaf ymhlith menywod y mae eu plentyn ieuengaf oddeutu oedran meithrin a dechrau ysgol, gan adlewyrchu'r ffaith bod menywod sy'n gweithio o'r fath yn aml yn gweithio ychydig oriau ac yn wynebu llai o rwystrau i gynyddu eu horiau gwaith na'r rheini â'r plant ieuengaf y mae 'gofal plant' am ddim o'r fath ar gael i raddau llai. Mae hydwytheddau yna'n cwympo wrth i'r plentyn ieuengaf fynd yn hŷn, gan adlewyrchu'r ffaith bod oriau gwaith yn debygol o fod yn uwch. Wrth ddod i'r casgliadau hyn, mae canfyddiadau Blundell, Duncan a Meghir (1992, 1998), a ddaeth i ganlyniadau tebyg ar gyfer rhieni unigol a menywod mewn cyplau, wedi dylanwadu arnom yn fawr.

Tybir hefyd fod y rheini sydd ar frig y dosbarthiad enillion yn ymatebol iawn, er y dylid dehongli hyn fel eu hincwm trethadwy yn hytrach na bod eu horiau gwaith yn ymatebol. Mae hyn yn adlewyrchu hydwytheddau incwm trethadwy uchel a geir yn y llenyddiaeth (daw'r union amcangyfrifon a ddefnyddiwyd ar gyfer yr 1% uchaf o Brewer, Saez a Shephard (2010)). Fodd bynnag, yn ymarferol, mae hyn yn amherthnasol ar y cyfan gan fod y grŵp hwn yn rhy gyfoethog i'r diwygiadau lles effeithio arno.

Tabl E.1 Hydwytheddau dwys a ddefnyddiwyd: senario canologY rheini yn 1% uchaf dosbarthiad enillion y DU 0.46

Y rheini ym 4% nesaf dosbarthiad enillion y DU 0.35

Fel arall:Dynion 0.12Menywod sengl heb blant 0.12Menywod mewn cyplau heb blant 0.17Menyw â phlentyn 0-2 oed 0.20Menyw y mae ei phlentyn ieuengaf yn 3-5 oed 0.40

Menyw y mae ei phlentyn ieuengaf yn 6-10 oed 0.30

Menyw y mae ei phlentyn ieuengaf yn 11+ oed 0.20

Cyfartaledd 0.16

Fel y trafodwyd uchod, mae'r dewis o hydwytheddau eang (cyflogaeth) yn cael ei gymhlethu gan yr angen i drawsnewid yr hydwytheddau o ran incwm mewn gwaith yn y llenyddiaeth ar hydwytheddau o ran y budd o weithio a geir gan ein model. Er mwyn gwneud hyn, dewiswn a nodwn yn gyntaf hydwytheddau o ran incwm mewn gwaith, a fynegir mewn metrig y gellir ei gymharu â'r rheini yn y llenyddiaeth; yna nodwn yr hyn y mae'r niferoedd hyn yn ei awgrymu ar gyfer hydwytheddau o ran y budd o weithio.

Dengys Tablau D.2 a D.3 yr hydwytheddau cyflogaeth o ran incwm mewn gwaith a ddefnyddiwyd yn ein senario canolog. Yn gyffredinol, noda astudiaethau fod penderfyniadau cyflogaeth yn fwy ymatebol na phenderfyniadau oriau gwaith, yn enwedig ar gyfer grwpiau sy'n wynebu costau gwaith sefydlog uchel,

143

Page 149: An ex-ante analysis effects of the UK Government’s … · Web viewAriannwyd yr ymchwil hon gan Lywodraeth Cymru a Chanolfan er Dadansoddi Microeconomaidd Polisi Cyhoeddus ESRC yn

megis rhieni unigol ac unigolion ar gyflog isel. I'r rheini sydd o dan 55 oed, mae'r hydwythedd cyflogaeth cyfartalog yn 0.26 a chan ystyried y rheini sy'n 55 oed neu drosodd (y tybiwn fod ganddynt hydwytheddau uwch oherwydd y potensial i ymddeol), tybir bod yr hydwythedd cyflogaeth cyfartalog yn 0.317 (o gymharu â 0.16 ar y ffin dwys).

Er bod y dystiolaeth o ran p'un a yw hydwytheddau cyflogaeth yn uwch ar gyfer grwpiau enillion isel neu grwpiau enillion uchel braidd yn aneglur, mae rhesymu economaidd ac ymchwil a gynhaliwyd yn ddiweddar yn y DU yn awgrymu bod gan unigolion â lefel sgiliau isel (ac felly gyflog isel tebygol) hydwytheddau uwch nag unigolion â lefel sgiliau uchel. Mae hyn yn gwneud i ni dybio graddiant enillion cryf lle mae hydwytheddau bum gwaith yn uwch i'r rheini yn y pumed isaf o'r dosbarthiad incwm na'r rheini yn y pumed uchaf. Yn dilyn canfyddiadau'r llenyddiaeth, tybiwn hydwytheddau cymharol isel i ddynion, menywod sengl a menywod mewn cyplau â phartner nad yw'n gweithio, a hydwytheddau uwch i fenywod mewn cyplau â phlant, yn enwedig os oes ganddynt bartner sy'n gweithio, a rhieni unigol, lle gwelir hydwytheddau uchel yn aml. Yn unol â'r patrwm a nodwyd gan Blundell a Shephard (2012), tybiwn unwaith eto fod yr hydwythedd ar ei uchaf ymhlith menywod â phlant o oedran meithrin a dechrau ysgol, gyda dirywiad ymhlith y rheini â phlant hŷn sy'n adlewyrchu cyfraddau cyflogaeth llawer uwch (sydd bron yn fecanyddol yn awgrymu hydwythedd is).

Tabl D.2 Hydwytheddau eang o ran incwm mewn gwaith a ddefnyddiwyd ar gyfer y rheini rhwng 19 a 54 oed: senario canolog

Safle yn nosbarthiad enillion y DUCyfartal

edd20% â'r enillion

isaf

20% nesaf

20% ag enillion canolig

20% nesaf

20% â'r enillion uchaf

Dynion (ac eithrio tadau unigol) 0.227 0.182 0.136 0.091 0.045 0.129

Menywod sengl heb blant 0.216 0.173 0.130 0.086 0.043 0.153Menywod heb blant, partner nad yw'n gweithio 0.216 0.173 0.130 0.086 0.043 0.144

Menywod heb blant, partner sy'n gweithio 0.432 0.345 0.259 0.173 0.086 0.284

Rhieni unigol, plentyn ieuengaf yn:

0–2 1.195 0.956 0.717 0.478 0.239 0.9463–5 1.554 1.243 0.932 * * 1.366

6–10 1.195 0.956 0.717 0.478 0.239 0.95011+ 0.797 0.637 0.478 0.319 0.159 0.599

Menywod â phartner nad yw'n gweithio, plentyn ieuengaf yn:

0–2 0.324 * 0.194 * * 0.2943–5 0.421 * 0.253 0.168 * 0.304

6–10 0.324 0.259 0.194 0.130 0.065 0.22511+ 0.216 0.173 0.130 0.086 * 0.193

Menywod â phartner sy'n gweithio, plentyn ieuengaf yn:

0–2 0.755 0.604 0.453 0.302 0.151 0.5633–5 0.982 0.786 0.589 0.393 0.196 0.725

6–10 0.755 0.604 0.453 0.302 0.151 0.54611+ 0.504 0.403 0.302 0.201 0.101 0.351

Cyfartaledd 0.503 0.309 0.209 0.138 0.063 0.260* = Neb o'r math hwn yn y sampl.

144

Page 150: An ex-ante analysis effects of the UK Government’s … · Web viewAriannwyd yr ymchwil hon gan Lywodraeth Cymru a Chanolfan er Dadansoddi Microeconomaidd Polisi Cyhoeddus ESRC yn

Tabl D.3 Hydwytheddau eang o ran incwm mewn gwaith a ddefnyddiwyd ar gyfer y rheini rhwng 55 a PyW: senario canolog

Safle yn nosbarthiad enillion y DU Cyfartaledd20% â'r enillion

isaf20% nesaf 20% ag enillion

canolig20% nesaf 20% â'r enillion

uchaf0.75 0.7 0.6 0.5 0.4 0.605

Yna, mae'n rhaid i'r hydwytheddau cyflogaeth hyn o ran incwm mewn gwaith gael eu trosi'n hydwytheddau cyflogaeth o ran y budd o weithio. Gwnawn hyn drwy luosi'r ffigur ym mhob un o'r celloedd uchod ag un llai cyfradd ddisodli'r gell gyfartalog.38 Dangosir y canlyniadau yn Nhablau D.4 a D.5. Gan fod gan rai grwpiau gyfraddau disodli cyfartalog uwch nag eraill, mae hyn yn newid y perthynoleddau rhwng grwpiau ychydig. Fodd bynnag, yr hyn sy'n nodweddiadol yw'r graddau y mae hydwytheddau'n is yn ôl y diffiniad hwn. I'r rheini o dan 55 oed, dim ond 0.096 yw'r hydwythedd cyfartalog o ran y budd o weithio, o gymharu â 0.260 ar gyfer yr hydwythedd o ran incwm mewn gwaith; i'r rheini sy'n 55 oed neu drosodd mae'n 0.292 yn hytrach na 0.605. Ar draws y boblogaeth gyfan, mae'r hydwythedd cyfartalog yn 0.127 yn hytrach na 0.317.

38 Defnyddiwn gyfradd ddisodli'r gell gyfartalog yn hytrach na defnyddio cyfradd ddisodli pob unigolyn. Gwnawn hyn oherwydd rydym yn amau, lle mae cyfraddau disodli yn amrywio o fewn grŵp, fod un hydwythedd cyflogaeth gwirioneddol o ran incwm mewn gwaith ar gyfer pob unigolyn yn y grŵp, gan awgrymu dosbarthiad hydwytheddau o fewn grŵp o ran y budd o weithio sy'n adlewyrchu'r dosbarthiad cyfraddau disodli o fewn grŵp. Ymddengys i ni fod yr hydwythedd o ran y budd o weithio yn gysyniad economaidd mwy sylfaenol na'r hydwythedd o ran incwm mewn gwaith (yn yr ystyr bod damcaniaeth economaidd yn awgrymu y bydd penderfyniadau cyflenwad llafur pobl yn dibynnu ar rywbeth sy'n agosach at y budd o weithio nag incwm mewn gwaith) ac, os rhywbeth, mae'n fwy tebygol mai'r hydwythedd o ran y budd o weithio sy'n gyson o fewn grŵp y bydd. Felly, defnyddiwn gyfraddau disodli'r gell gyfartalog i bennu un hydwythedd o ran y budd o weithio ar gyfer pawb yn y gell, sydd, i bob pwrpas, yn trin yr hydwytheddau o ran incwm mewn gwaith a nodwyd uchod fel y cyfartaledd ar draws dosbarthiad sy'n adlewyrchu dosbarthiad cyfraddau disodli o fewn grŵp. I'r rheini sy'n 55 oed neu drosodd, defnyddiwn y gyfradd ddisodli gyfartalog ar gyfer y grŵp cyfan, yn hytrach na phob cwintel.

145

Page 151: An ex-ante analysis effects of the UK Government’s … · Web viewAriannwyd yr ymchwil hon gan Lywodraeth Cymru a Chanolfan er Dadansoddi Microeconomaidd Polisi Cyhoeddus ESRC yn

Tabl D.4 Hydwytheddau eang o ran y budd o weithio a ddefnyddiwyd ar gyfer y rheini rhwng 19 a 54 oed: senario canolog

Safle yn nosbarthiad enillion y DUCyfartal

edd20% â'r enillion

isaf

20% nesaf

20% ag enillion canolig

20% nesaf

20% â'r enillion uchaf

Dynion (ac eithrio tadau unigol) 0.080 0.090 0.073 0.053 0.031 0.065Menywod sengl heb blant 0.107 0.118 0.096 0.071 0.038 0.097Menywod heb blant, partner nad yw'n gweithio 0.049 0.076 0.072 0.056 0.034 0.061Menywod heb blant, partner sy'n gweithio 0.100 0.131 0.112 0.085 0.047 0.104

Rhieni unigol, plentyn ieuengaf yn:

0–2 0.360 0.439 0.345 0.274 0.163 0.3493–5 0.455 0.529 0.477 * * 0.483

6–10 0.322 0.379 0.325 0.285 0.162 0.31911+ 0.244 0.253 0.231 0.182 0.117 0.225

Menywod â phartner nad yw'n gweithio, plentyn ieuengaf yn:

0–2 0.069 * * 0.073 * 0.0703–5 0.096 * 0.088 0.078 * 0.089

6–10 0.070 0.079 0.070 0.063 0.047 0.06811+ 0.049 0.054 0.056 0.041 * 0.050

Menywod â phartner sy'n gweithio, plentyn ieuengaf yn:

0–2 0.121 0.175 0.162 0.128 0.076 0.1393–5 0.152 0.215 0.207 0.167 0.103 0.174

6–10 0.115 0.161 0.157 0.126 0.077 0.12811+ 0.087 0.113 0.110 0.086 0.050 0.094

Cyfartaledd 0.123 0.124 0.098 0.074 0.040 0.096* = Neb o'r math hwn yn y sampl.

Tabl D.5 Hydwytheddau eang o ran y budd o weithio a ddefnyddiwyd ar gyfer y rheini rhwng 55 a PyW: senario canolog

Safle yn nosbarthiad enillion y DU Cyfartaledd20% â'r enillion

isaf20% nesaf 20% ag enillion

canolig20% nesaf 20% â'r enillion

uchaf0.353 0.330 0.283 0.235 0.188 0.292

Hydwytheddau tybiedig: senario ymatebolrwydd iselMae pwysigrwydd yr hydwytheddau tybiedig yn y fethodoleg hon, ynghyd â'r ansicrwydd mawr yn eu cylch, yn golygu ei bod yn hanfodol cynnal dadansoddiad o sensitifrwydd.

Yn ein senario 'ymatebolrwydd isel', caiff yr hydwytheddau tybiedig ar y ffin dwys eu gostwng 90% (h.y. i sero bron) ar gyfer dynion a menywod sengl heb blant, a chânt eu gostwng ddwy ran o dair ar gyfer menywod eraill, fel y dangosir yn Nhabl D.6.39 Caiff yr hydwythedd dwys cyfartalog cyffredinol ei ostwng bron i dri chwarter, o 0.16 i 0.038. Mae hyn yn adlewyrchu canfyddiadau sawl papur (er enghraifft Bargain et al. (2011)) nad oes fawr ddim ymateb ar y dimensiwn hwn a bod yr holl ymateb o ran cyflenwad llafur yn digwydd ar y ffin cyflogaeth bron.

39 Ar wahân i'r 5% uchaf o enillwyr, lle tybiwn hydwytheddau o 0.2 ar gyfer yr 1% uchaf a 0.1 ar gyfer y 4% sy'n weddill. Eto i gyd, unwaith yn rhagor, mae'r hydwythedd dwys ar gyfer y grŵp hwn yn amherthnasol yn y bôn.

146

Page 152: An ex-ante analysis effects of the UK Government’s … · Web viewAriannwyd yr ymchwil hon gan Lywodraeth Cymru a Chanolfan er Dadansoddi Microeconomaidd Polisi Cyhoeddus ESRC yn

Tabl D.6 Hydwytheddau dwys a ddefnyddiwyd: senario iselY rheini yn 1% uchaf dosbarthiad enillion y DU 0.2

Y rheini ym 4% nesaf dosbarthiad enillion y DU 0.1

Fel arall:Dynion 0.012Menywod sengl heb blant 0.012Menywod mewn cyplau heb blant 0.057Menyw â phlentyn 0-2 oed 0.067Menyw y mae ei phlentyn ieuengaf yn 3+ oed 0.133

Menyw y mae ei phlentyn ieuengaf yn 6+ oed 0.100

Menyw y mae ei phlentyn ieuengaf yn 11+ oed 0.067

Cyfartaledd 0.038

Caiff hydwytheddau eang (cyflogaeth) eu haneru'n syml yn gyffredinol, gan gynnal patrwm perthynol ymatebolrwydd ar draws y boblogaeth. Unwaith eto, noder bod yn rhaid i'r hydwytheddau o ran incwm mewn gwaith (Tablau D.7 a D.8) gael eu haddasu er mwyn esgor ar hydwytheddau o ran y budd o weithio (Tablau D.9 a D.10) cyn y gallant gael eu defnyddio yn yr ymarfer calibradu. Ar draws y boblogaeth gyfan a ddadansoddir gennym, mae ein senario ymatebolrwydd isel ar gyfer hydwythedd eang cyfartalog cyffredinol o ran incwm mewn gwaith o 0.159, ac o ran y budd o weithio 0.064.

147

Page 153: An ex-ante analysis effects of the UK Government’s … · Web viewAriannwyd yr ymchwil hon gan Lywodraeth Cymru a Chanolfan er Dadansoddi Microeconomaidd Polisi Cyhoeddus ESRC yn

Tabl D.7 Hydwytheddau eang o ran incwm mewn gwaith a ddefnyddiwyd ar gyfer y rheini rhwng 19 a 54 oed: senario isel

Safle yn nosbarthiad enillion y DUCyfartal

edd20% â'r enillion

isaf

20% nesaf

20% ag enillion canolig

20% nesaf

20% â'r enillion uchaf

Dynion (ac eithrio tadau unigol) 0.114 0.091 0.068 0.045 0.023 0.064

Menywod sengl heb blant 0.108 0.086 0.065 0.043 0.022 0.076Menywod heb blant, partner nad yw'n gweithio 0.108 0.086 0.065 0.043 0.022 0.072

Menywod heb blant, partner sy'n gweithio 0.216 0.173 0.130 0.086 0.043 0.142

Rhieni unigol, plentyn ieuengaf yn:

0–2 0.598 0.478 0.359 0.239 0.120 0.4733–5 0.777 0.621 0.466 * * 0.683

6–10 0.598 0.478 0.359 0.239 0.120 0.47511+ 0.398 0.319 0.239 0.159 0.080 0.300

Menywod â phartner nad yw'n gweithio, plentyn ieuengaf yn:

0–2 0.162 * 0.097 * * 0.1473–5 0.210 * 0.126 0.084 * 0.152

6–10 0.162 0.130 0.097 0.065 0.032 0.11211+ 0.108 0.086 0.065 0.043 * 0.097

Menywod â phartner sy'n gweithio, plentyn ieuengaf yn:

0–2 0.378 0.302 0.227 0.151 0.076 0.2813–5 0.491 0.393 0.295 0.196 0.098 0.363

6–10 0.378 0.302 0.227 0.151 0.076 0.27311+ 0.252 0.201 0.151 0.101 0.050 0.176

Cyfartaledd 0.252 0.154 0.104 0.069 0.032 0.130* = Neb o'r math hwn yn y sampl.

senario iselSafle yn nosbarthiad enillion y DU Cyfartaledd

20% â'r enillion isaf

20% nesaf 20% ag enillion canolig

20% nesaf 20% â'r enillion uchaf

0.375 0.35 0.3 0.25 0.24 0.3

148

Page 154: An ex-ante analysis effects of the UK Government’s … · Web viewAriannwyd yr ymchwil hon gan Lywodraeth Cymru a Chanolfan er Dadansoddi Microeconomaidd Polisi Cyhoeddus ESRC yn

senario iselSafle yn nosbarthiad enillion y DU

Cyfartaledd

20% â'r enillion

isaf

20% nesaf

20% ag enillion canolig

20% nesaf

20% â'r enillion uchaf

Dynion (ac eithrio tadau unigol) 0.040 0.045 0.037 0.027 0.015 0.032Menywod sengl heb blant 0.053 0.059 0.048 0.035 0.019 0.049Menywod heb blant, partner nad yw'n gweithio 0.025 0.038 0.036 0.028 0.017 0.031Menywod heb blant, partner sy'n gweithio 0.050 0.065 0.056 0.042 0.024 0.052

Rhieni unigol, plentyn ieuengaf yn:

0–2 0.180 0.219 0.172 0.137 0.081 0.1753–5 0.228 0.265 0.239 * * 0.242

6–10 0.161 0.190 0.163 0.142 0.081 0.15911+ 0.122 0.126 0.116 0.091 0.058 0.112

Menywod â phartner nad yw'n gweithio, plentyn ieuengaf yn:

0–2 0.034 * 0.036 * * 0.0353–5 0.048 * 0.044 0.039 * 0.045

6–10 0.035 0.039 0.035 0.031 0.023 0.03411+ 0.027 0.028 0.021 * * 0.025

Menywod â phartner sy'n gweithio, plentyn ieuengaf yn:

0–2 0.060 0.087 0.081 0.064 0.038 0.0693–5 0.076 0.107 0.104 0.084 0.052 0.087

6–10 0.058 0.081 0.078 0.063 0.038 0.06411+ 0.044 0.056 0.055 0.043 0.025 0.047

Cyfartaledd 0.061 0.062 0.049 0.037 0.020 0.048* = Neb o'r math hwn yn y sampl.

Tabl D.10 Hydwytheddau eang o ran y budd o weithio a ddefnyddiwyd ar gyfer y rheini rhwng 55 a PyW: senario isel

Safle yn nosbarthiad enillion y DU Cyfartaledd20% â'r enillion

isaf20% nesaf 20% ag enillion

canolig20% nesaf 20% â'r enillion

uchaf0.177 0.165 0.141 0.118 0.094 0.146

Senario ymatebolrwydd uchelYn ein senario 'ymatebolrwydd uchel', cynhaliwn batrymau perthynol hydwytheddau dwys a dybiwyd yn y senario canolog, ond fe'u dyblir40 (Tabl D.11). Mae hyn yn adlewyrchu pryder a amlygwyd yn Keane (2011) bod y consensws bod ymatebion oriau gwaith yn fach braidd yn artiffisial. At hynny, fel y nodwyd ym Mhennod 4, mae hydwytheddau a ddigolledwyd sy'n rheoli effaith y newid mewn incwm pan fydd cyfradd dreth neu gyflog yn newid braidd yn fwy na hydwytheddau nas digolledwyd. Fel y trafodwyd ar ddechrau Pennod 6, mae ein dull calibradu yn tybio nad oes unrhyw effaith ar incwm, felly nid yw'n glir a ddylid defnyddio hydwytheddau sy'n cynnwys neu'n hepgor yr effeithiau o ran incwm.

Yn berthynol i'n senario canolog, mae hydwytheddau eang (cyflogaeth) yn cynyddu 40% i ddynion, a menywod mewn cyplau heb blant, sydd o dan 55 oed, ac maent yn cynyddu 75% i fenywod eraill a'r

40 Ar wahân i'r 5% uchaf o enillwyr.

149

Page 155: An ex-ante analysis effects of the UK Government’s … · Web viewAriannwyd yr ymchwil hon gan Lywodraeth Cymru a Chanolfan er Dadansoddi Microeconomaidd Polisi Cyhoeddus ESRC yn

rheini sy'n 55 oed neu drosodd (Tablau D12 i D.15). Mae'r cynnydd uwch ymhlith menywod sengl (gan gynnwys rhieni unigol), mamau mewn cyplau a'r rheini sy'n 55 oed neu drosodd yn adlewyrchu nifer o bapurau sy'n nodi bod grwpiau o'r fath yn ymatebol iawn i gymhellion ariannol i weithio (er enghraifft, Blundell a Shephard (2012) yn achos rhieni unigol). Ar y llaw arall, mae'r cynnydd ymhlith dynion a menywod mewn cyplau heb blant yn llai na'r cyfartaledd (40%), gan adlewyrchu'r ffaith bod llai o hydwytheddau cyfranogi ar gyfer y grwpiau hyn.

Gan ystyried y rheini sydd dros ac o dan 55 oed, mae'r hydwythedd eang cyfartalog cyffredinol a dybiwn yn 0.63 (o ran incwm mewn gwaith) neu'n 0.208 (o ran y budd o weithio).

150

Page 156: An ex-ante analysis effects of the UK Government’s … · Web viewAriannwyd yr ymchwil hon gan Lywodraeth Cymru a Chanolfan er Dadansoddi Microeconomaidd Polisi Cyhoeddus ESRC yn

Tabl D.11 Hydwytheddau dwys a ddefnyddiwyd: senario uchelY rheini yn 1% uchaf dosbarthiad enillion y DU 0.7

Y rheini ym 4% nesaf dosbarthiad enillion y DU 0.5

Fel arall:Dynion 0.24Menywod sengl heb blant 0.24Menywod mewn cyplau heb blant 0.34Menyw â phlentyn 0-2 oed 0.4Menyw y mae ei phlentyn ieuengaf yn 3+ oed 0.8

Menyw y mae ei phlentyn ieuengaf yn 6+ oed 0.6

Menyw y mae ei phlentyn ieuengaf yn 11+ oed 0.4

Cyfartaledd 0.32

Tabl D.12 Hydwytheddau eang o ran incwm mewn gwaith a ddefnyddiwyd ar gyfer y rheini rhwng 19 a 54 oed: senario uchel

Safle yn nosbarthiad enillion y DUCyfartal

edd20% â'r enillion

isaf

20% nesaf

20% ag enillion canolig

20% nesaf

20% â'r enillion uchaf

Dynion (ac eithrio tadau unigol) 0.318 0.254 0.191 0.127 0.064 0.180

Menywod sengl heb blant 0.378 0.302 0.227 0.151 0.076 0.267Menywod heb blant, partner nad yw'n gweithio 0.302 0.242 0.181 0.121 0.060 0.202

Menywod heb blant, partner sy'n gweithio 0.604 0.483 0.363 0.242 0.121 0.397

Rhieni unigol, plentyn ieuengaf yn:

0–2 2.091 1.673 1.255 0.837 0.418 1.6553–5 2.719 2.175 1.631 * * 2.390

6–10 2.091 1.673 1.255 0.837 0.418 1.66311+ 1.367 1.100 0.821 0.514 0.264 1.022

Menywod â phartner nad yw'n gweithio, plentyn ieuengaf yn:

0–2 0.567 * * 0.340 * 0.5153–5 0.737 * 0.442 0.295 * 0.533

6–10 0.567 0.453 0.340 0.227 0.113 0.39411+ 0.378 0.302 0.227 0.151 * 0.338

Menywod â phartner sy'n gweithio, plentyn ieuengaf yn:

0–2 1.322 1.058 0.793 0.529 0.264 0.9853–5 1.719 1.375 1.031 0.687 0.344 1.269

6–10 1.322 1.058 0.793 0.529 0.264 0.95611+ 0.881 0.705 0.529 0.353 0.176 0.614

Cyfartaledd 0.834 0.486 0.323 0.213 0.096 0.415* = Neb o'r math hwn yn y sampl.

151

Page 157: An ex-ante analysis effects of the UK Government’s … · Web viewAriannwyd yr ymchwil hon gan Lywodraeth Cymru a Chanolfan er Dadansoddi Microeconomaidd Polisi Cyhoeddus ESRC yn

Tabl D.13 Hydwytheddau eang o ran incwm mewn gwaith a ddefnyddiwyd ar gyfer y rheini rhwng 55 a PyW: senario uchel

Safle yn nosbarthiad enillion y DU Cyfartaledd20% â'r enillion

isaf20% nesaf 20% ag enillion

canolig20% nesaf 20% â'r enillion

uchaf1.31 1.23 1.05 0.88 0.7 1.09

Tabl D.14 Hydwytheddau eang o ran y budd o weithio a ddefnyddiwyd ar gyfer y rheini rhwng 19 a 54 oed: senario uchel

Safle yn nosbarthiad enillion y DUCyfartal

edd20% â'r enillion

isaf

20% nesaf

20% ag enillion canolig

20% nesaf

20% â'r enillion uchaf

Dynion (ac eithrio tadau unigol) 0.112 0.127 0.102 0.075 0.043 0.091Menywod sengl heb blant 0.187 0.207 0.168 0.123 0.067 0.170Menywod heb blant, partner nad yw'n gweithio 0.069 0.106 0.101 0.078 0.047 0.086Menywod heb blant, partner sy'n gweithio 0.140 0.183 0.157 0.119 0.066 0.145

Rhieni unigol, plentyn ieuengaf yn:

0–2 0.630 0.768 0.604 0.480 0.285 0.6113–5 0.797 0.926 0.835 0.846

6–10 0.563 0.664 0.569 0.499 0.284 0.55811+ 0.419 0.436 0.397 0.293 0.193 0.382

Menywod â phartner nad yw'n gweithio, plentyn ieuengaf yn:

0–2 0.120 0.127 0.1223–5 0.169 0.155 0.137 0.156

6–10 0.123 0.138 0.123 0.110 0.082 0.11911+ 0.086 0.094 0.098 0.072 0.087

Menywod â phartner sy'n gweithio, plentyn ieuengaf yn:

0–2 0.211 0.306 0.284 0.223 0.133 0.2433–5 0.267 0.376 0.362 0.293 0.181 0.305

6–10 0.201 0.282 0.274 0.221 0.134 0.22411+ 0.152 0.198 0.192 0.151 0.088 0.165

Cyfartaledd 0.201 0.192 0.150 0.113 0.060 0.151* = Neb o'r math hwn yn y sampl.

Tabl D.15 Hydwytheddau eang o ran y budd o weithio a ddefnyddiwyd ar gyfer y rheini rhwng 55 a PyW: senario uchel

Safle yn nosbarthiad enillion y DU Cyfartaledd20% â'r enillion

isaf20% nesaf 20% ag enillion

canolig20% nesaf 20% â'r enillion

uchaf0.618 0.577 0.494 0.412 0.330 0.512

152