Upload
phungduong
View
221
Download
1
Embed Size (px)
Citation preview
Gwerthiant yn Ewrop Gwerthiant yn America Gwerthiant yn Asia
Pennod 1 Dadansoddi data
Yn aml mae’r oes hon yr ydym yn byw ynddi yn cael ei galw’n Oes Gwybodaeth ac un o’r sgiliau pwysicaf sy’n ofynnol mewn busnes yw’r gallu i ddeall a thrin gwahanol fathau o ddata. Mae pobl wedi dweud pe bai’r holl ddata sy’n cael eu cynhyrchu yn y byd yn ystod un diwrnod yn cael eu rhoi ar DVD a’u gosod un ar ben y llall, bydden nhw’n cyrraedd y lleuad ac yn ôl. Dan yr amgylchiadau hyn mae’r gallu i ddewis data perthnasol ac anwybyddu’r hyn sy’n cael ei alw’n ‘sŵn cefndir’ h.y. data amherthnasol, yn hanfodol.
Mae data i’w cael ar sawl ffurf gan gynnwys tablau, siartiau a graffiau. Mae data’n cael eu cyhoeddi mewn sawl lle: papurau newydd, cylchgronau a chyfnodolion; adroddiadau blynyddol cwmnïau a gwefannau cwmnïau; adroddiadau gan asiantaethau ymchwil marchnata ayb. Rhan o sgìl yr ymchwilydd yw darganfod y wybodaeth berthnasol yn y lle cyntaf. Yn ffodus, mae peiriannau chwilio ar y rhyngrwyd wedi gwneud y broses hon yn haws nag yn y gorffennol. Ar ôl i fusnes ymchwilio i wybodaeth, efallai bydd angen ei chyflwyno ar ffurf wahanol (e.e. o dabl i siart cylch) yn barod i gael ei dehongli a’i dadansoddi gan ddadansoddwyr busnes.
Siartiau cylch
Siart crwn sy’n cael ei rannu’n sectorau i ddangos canrannau neu werth cymharol categorïau gwahanol o ddata yw siart cylch. Er enghraifft, mae’r siart cylch isod yn dangos gwerthiant busnes mewn rhannau gwahanol o’r byd (Ewrop, America ac Asia).
Mae siart cylch yn rhoi cynrychioliad gweledol da o’r meintiau neu’r rhannau cymharol o rywbeth cyfan. Gall hyn ei gwneud yn haws cymharu’r categorïau gwahanol o’r data nag y byddai pe bai’r un data’n cael eu cyflwyno mewn tabl.
Gall siart cylch gael ei ddefnyddio i ddangos incwm marchnad, cyfran o’r farchnad ar gyfer cynhyrchion neu rywbeth mwy penodol fel y derbyniadau gwerthiant ar gyfer mathau gwahanol o pizza sy’n cael eu gwerthu gan gadwyn pizza. Nid yw siartiau cylch ar eu pen eu hunain yn rhoi gwybodaeth fanwl iawn, ond maen nhw’n rhoi darlun cyffredinol o’r wybodaeth sy’n cael ei chyflwyno.
Gall siartiau cylch helpu busnesau i wneud penderfyniadau. Er enghraifft, pe bai pizza penodol gyda madarch, tiwna ac afal pîn arni wedi cael gwerthiant cyfrannol llai nag unrhyw pizza arall roedd busnes yn ei werthu, efallai byddai’n ystyried dileu’r cynnyrch neu ei hyrwyddo fwy.
Fodd bynnag, dydy siartiau cylch ddim yn effeithiol iawn ar gyfer dangos cynnydd neu ostyngiad cyfrannau dros amser gan nad yw tueddiadau’n cael eu dangos ac nid yw’n bosibl allosod data. Hefyd, nid ydyn nhw’n dangos perthynas achosol fel effaith gwariant hysbysebu ar dderbyniadau gwerthiant, sy’n golygu y byddai angen gwybodaeth ychwanegol (efallai ar ffurf naratif) i ategu data sy’n cael eu cyflwyno mewn siartiau cylch.
Cyfran o’r farchnad Archfarchnadoedd y DU Gwanwyn 2015Lidl Iceland Eraill4% 2% 5%
Waitrose5%
Aldi 5% Tesco28%
6%
Morrisons11%
Asda17%
Sainsbury's17%
Mae’r tabl canlynol yn rhoi’r gyfran o’r farchnad ar gyfer y prif archfarchnadoedd ar ddechrau 2015 (wedi’i thalgrynnu i’r canran agosaf):
ArchfarchnadCyfran o’r farchnad
(Gwanwyn 2015)
Tesco 28%Asda 17%Sainsbury’s 17%Morrisons 11%Y Co-operative 6%Aldi 5%Waitrose 5%Lidl 4%Iceland 2%Eraill 5%
D.S.: Dylai cyfanswm y cyfrannau mewn siart cylch adio i 100%, er mwyn i’r ‘cylch’ fod yn
gyflawn. Gall y wybodaeth yn y tabl uchod gael ei chyflwyno ar ffurf siart cylch, fel sydd i’w weld
isod:
Os gwnewch chi gymharu’r data yn y siart cylch â’r data yn y tabl, dylech chi sylwi bod y siart cylch yn haws ei ddeall gan ei fod yn cyflwyno’r wybodaeth yn fwy clir a gweladwy. Ar gipolwg mae’n bosibl ateb cwestiynau fel “pa archfarchnad sydd â’r gyfran fwyaf/leiaf? Pa un sydd fwyaf, Aldi neu Lidl? Beth yw cyfran Morrisons o’r farchnad?” ayb.
61.3
47.8
17.516.7
7060
50
40
3020
10
0
Affrica Asia ac Oceania México aChanolbarth America
De America
2014 Miliynau o fagiau coffi2015 Miliynau o fagiau coffi
63.3
45.6
16.1 17.3
Siartiau bar
Mae siartiau bar yn ffordd weledol arall o gyflwyno data. Fel arfer mae data’n cael eu grwpio yn gategorïau gan ddefnyddio barrau petryal gydag uchder y bar yn cynrychioli’r amlder ar gyfer y categori hwnnw. Gall y barrau hyn gael eu cyflwyno’n fertigol neu’n llorweddol. Bydd un echelin yn dangos y categorïau sy’n cael eu cymharu a bydd yr echelin arall yn dangos yr amlder.Mae’r tabl isod yn dangos manylion cynnyrch coffi byd-eang yn ôl cyfandir yn 2014 a 2015:
2014
Miliynau o fagiau o goffi
2015
Miliynau o fagiau o goffiAffrica 16.1 17.5Asia ac Oceania 45.6 47.8México a Chanolbarth America 17.3 16.7De America 63.3 61.3
O gyflwyno’r un wybodaeth ar ffurf siart, fel isod, mae’n llawer haws ei dehongli:
Mae’n glir ar unwaith pa gyfandir yw’r mwyaf pwysig a pha un yw’r lleiaf pwysig. Mae’r siart hefyd yn dangos pa gyfandir sydd â’i gynnyrch wedi cynyddu a pha gyfandir sydd â’i gynnyrch wedi gostwng, sy’n gymhariaeth ddefnyddiol i’w gwneud.
Mae’r colofnau’r gwledydd wedi’u cyflwyno yn nhrefn y wyddor ond maen nhw’n gallu cael eu trefnu unrhyw ffordd. Ffordd arall bosibl o’u cyflwyno yw yn y drefn esgynnol gyda’r gwledydd â’r cynnyrch isaf ar y chwith yn cynyddu i’r gwledydd â’r cynnyrch uchaf ar y dde. Pa ffordd bynnag mae’r data’n cael eu cyflwyno, byddai’r siart bar yn rhoi’r un wybodaeth.
Mae siartiau bar yn galluogi cyflwyno data mewn fformat clir. Maen nhw’n arbennig o ddefnyddiol i grynhoi maint mawr o ddata mewn fformat gweledol. Gall gwerthoedd allweddol gael eu hamlygu’n gyflym iawn ac maen nhw’n cael eu defnyddio’n helaeth drwy’r byd busnes cyfan i ddangos data ariannol allweddol. Fodd bynnag, gall siartiau bar symleiddio data yn ormodol ac efallai bydd angen esboniadau ychwanegol i roi dadansoddiad cywir o’r data. Hefyd gall data gael eu haddasu i ddangos canlyniadau a phatrymau camarweiniol.
Histogramau
Mae histogramau’n edrych yn weledol debyg i siartiau bar. Y prif wahaniaeth yw bod histogramau’n dangos data meintiol a bod siartiau bar yn dueddol o ddangos data dosbarthol.
Mae’r data mewn histogram yn ddi-dor ac felly does dim bylchau rhwng y barrau sy’n cynrychioli’r cyfyngau
China UsaF ranceU KIndia
90 100Dim bylchau80
72 80 80
53 60 50
33 40 30 3525
20
ChinaUDA Ffrainc DUIndia 1020304050
Incwm cwsmeriaid500
450
400
350
300
250
200
150
100
50
0
10 15 20 25 30 35 40 45 50 55Incwm (£000)
gwahanol. Mae arwynebedd pob bar mewn cyfrannedd â’r amlder ar gyfer pob cyfwng. Mae gan yr echelin-x a’r echelin-y raddfa.
Mewn siart bar mae uchder y bar yn dangos amlder y categori, a dim ond yr echelin-y sydd â graddfa rifiadol.
Bylchau100
80
60
40
20
Categorïau
Siart Bar
Amrediad Rhifau
Histogram
Enw cywir y tabl sy’n sail i’r histogram yw tabl amlder. Mae’r tabl canlynol yn dangos amlder canlyniadau ar gyferarolwg o incwm cwsmeriaid:
Canlyniadau arolwg o incwm cwsmeriaid:
Incwm mewn £000 Amlder
10–14 20015-19 33020-24 40025-29 42030-34 44035-39 40040-44 32545-49 26550-54 180
Gall y wybodaeth yn y tabl uchod gael ei chyflwyno mewn histogram, fel sydd i’w weld isod:
Nife
r o
gwsm
eria
id
Graff 1: ICO arwydd o gyfansawdd prisiau dyddiol
Presenoldeb Sinema yn y DU60
50
40
30
20
10
0
1990 1995 2000 2005 2010
14-23 oed 24-33 oed 34-43 oed 44-53 oed
Prif fantais defnyddio histogram i ddangos data yw ei fod yn dangos siâp y dosraniad ar gyfer set mawr o ddata. Mae histogramau’n rhagorol ar gyfer dangos data sydd â chategorïau cronolegol neu grwpiau rhifiadol. Mae defnyddio histogramau i ddangos data hefyd yn helpu i ddarlunio gwahaniaethau mawr mewn siâp neu gymesuredd y data sydd wedi’u casglu.
Mae gan histogramau wendidau pan fyddan nhw’n cael eu defnyddio i ddangos data. Yn gyntaf ni all histogramau gael eu defnyddio ar gyfer gwerthoedd union gan fod y data wedi’u grwpio’n gyfyngau. Hefyd bydd effeithiolrwydd data yn lleihau pan fydd ystod y data yn rhy eang. Beth fyddai diben histogram sy’n cael ei ddefnyddio i ddadansoddi oed darllenwyr cylchgrawn pe bai’r ystod yn 0-20 oed, 20-40 oed ac yn y blaen? Mae’r data yn llai ystyrlon o bosibl os yw’r grwpiau’n rhy fawr.
Graffiau llinell
Gall graffiau llinell gael eu defnyddio i gymharu dau newidyn. Mae’r echelin-x yn cynrychioli newidyn di-dor (e.e. amser) ac mae’r echelin-y yn cynrychioli’r ail newidyn (e.e. maint neu werth). Mae graff llinell yn cael ei blotio fel cyfres o bwyntiau ac yna mae’r rhain yn cael eu cysylltu i roi llinell ddi-dor. Mae’r graff llinell yn dangos y berthynas rhwng y ddau newidyn.
Mae’r graff llinell isod yn dangos pris coffi drwy gydol y cyfnod o fis Hydref 2013 i fis Hydref 2014. Pe bai’r wybodaeth hon wedi cael ei chyflwyno fel tabl byddai wedi bod yn anodd nodi’r duedd yn hawdd. Fel graff llinell mae’r cynrychioliad gweledol yn llawer mwy clir ac yn codi cwestiynau fel “Pam cododd pris coffi mor sydyn ar ôl mis Chwefror 2014?”
Prisiau dyddiol dangosydd cyfansawdd y Sefydliad Coffi Rhyngwladol (ICO) (o fis Hydref 2013 i fis Hydref 2014)
Ffynhonnell: www.ico.org
Gall graffiau llinell hefyd gynrychioli data ar gyfer nifer o gategorïau gwahanol. Mae’r graff llinell isod yn dangos yn glir gwerth a phatrwm grwpiau oedran gwahanol sy’n mynd i’r sinema yn y DU:
Mae graffiau llinell yn arf cynrychioli defnyddiol iawn i fusnes. Mae modd cyflwyno amrywiaeth fawr o ddata marchnad, data economaidd a data ariannol i nifer o randdeiliaid i ddangos perfformiad busnes ac i ddadansoddi tueddiadau’r farchnad.
Senti
au U
DA/p
wys
Mapiau
http://www.metoffice.gov.uk/learning/rain/how-much-does-it-rain-in-the-uk
Mae mapiau hefyd yn ffordd ddefnyddiol o gyflwyno gwybodaeth yn weledol. Mae’r map hwn yn dangos y glawiad cyfartalog blynyddol yn y Deyrnas Unedig rhwng 1981 a 2010. Mae golwg sydyn ar y map yn dangos mai ochr orllewinol y DU gafodd y lefelau uchaf o lawiad. Gydag ychydig o ddealltwriaeth o ddaearyddiaeth mae modd gweld hefyd mai ardaloedd tir uchel, fel Eryri yng Nghymru, oedd fwyaf gwlyb.
Gallai’r wybodaeth hon fod yn ddefnyddiol i fusnes sy’n chwilio am rywle cymharol sych i adleoli iddo neu i fusnes sy’n gwerthu ymbaréls! Ond byddai’n well i’r olaf o’r rhain edrych hefyd ar fap sy’n dangos dosbarthiad poblogaeth yn y DU, sy’n amlygu’r ffaith bod angen gwybodaeth ychwanegol i wneud penderfyniadau gwybodus, yn lle gwneud penderfyniadau ar sail data cyfyngedig.
Mae’r map canlynol yn ffordd syml iawn ond effeithiol o ddangos gwerthiant cerddoriaeth byd-eang yn ôl rhanbarth daearyddol. Nid yw defnyddio mapiau bob amser yn addas ond pan fydd yn bosibl gallan nhw gyflwyno data busnes mewn ffordd atyniadol ac effeithiol.
http://guitarcan.com/all/music-industry-markets-sales-data/
Mynegrifau
Mae mynegrifau’n cael eu defnyddio er mwyn gwneud data rhifiadol yn haws eu deall. Maen nhw’n ddull defnyddiol o ddangos newidiadau dros amser mewn data fel lefelau prisiau, lefelau incwm defnyddwyr neu gynnyrch economaidd. Mae defnyddio mynegrifau yn galluogi safoni data dros amser fel ei bod yn hawdd cymharu’r data.
Mae’r enghraifft isod yn esbonio sut mae hyn yn gweithio.
Tybiwn mai £400 oedd y gwerthiant cyfartalog wythnosol yn y flwyddyn 2000 ar gyfer busnes sy’n gwerthu hufen iâ. Defnyddiwn y flwyddyn 2000 fel y ‘mynegrif sail’, sydd gan amlaf yn cael ei roi fel 100. I drawsnewid gwerth yn fynegrif, rydyn ni’n defnyddio’r fformiwla ganlynol:
Mynegrif ar gyfer unrhyw gyfnod amser=
Gwerth yn y cyfnod Gwerth yn y cyfnod sail
× 100
Felly ar gyfer y flwyddyn gyntaf, sef y flwyddyn 2000, (ein blwyddyn indecs) mae’r cyfnod amser yr un peth â’r cyfnod sail (y flwyddyn indecs), sy’n rhoi:
400400
× 100 = 100
Yn 2010 roedd y gwerthiant cyfartalog wythnosol wedi cynyddu i £465. I droi gwerth gwerthiant cyfartalog wythnosol2010 yn fynegrif defnyddiwn yr un fformiwla, sy’n rhoi:
46
5 40
0
× 100 = 116.25
Drwy gymharu mynegrifau’r flwyddyn 2000 (y flwyddyn sail o 100) a’r flwyddyn 2010 (116.25) gallwn ddehongli hyn i olygu bod gwerthiant cyfartalog wythnosol wedi cynyddu 16.25% (116.25-100) mewn termau ariannol.
Mae mynegrifau’n ddefnyddiol mewn busnes oherwydd bod rheolwyr yn aml yn poeni am y ffordd y gall gwerthoedd fel prisiau defnyddiau crai, nifer y gweithwyr a’r cwsmeriaid, gwerthiant, cynnyrch, cynhyrchedd ac elw ayb. newid dros amser. Mae mynegrifau yn aml yn cael eu defnyddio ar gyfer dadansoddi economaidd. Efallai mai’r mwyaf adnabyddus o’r math hwn o ddata yw mesurau ar gyfer chwyddiant fel yr Indecs Prisiau Defnyddwyr - Consumer Price Index (CPI) neu’r Indecs Prisiau Adwerthu - Retail Price Index (RPI).
Un o fanteision defnyddio mynegrifau yw cymharu newidiadau dros amser a gwneud gwerth y newidiadau hyn yn glir. Er enghraifft, wrth fesur newidiadau prisiau, mae lefelau prisiau yn y flwyddyn gyfredol (y ffigur indecs) yn cael eu cymharu â lefelau prisiau yn y flwyddyn flaenorol (ffigur indecs y flwyddyn flaenorol). Bydd hyn yn rhoi cyfradd y cynnydd mewn prisiau i ni – chwyddiant. Mae’r math hwn o ddata yn ddefnyddiol i reolwyr oherwydd y gall o bosibl ddangos faint dylai cyflogau a phrisiau newid.
Gadewch i ni ystyried enghraifft arall gan ddefnyddio gwybodaeth am brisiau. Tybiwn fod basged o nwyddau wedi costio £250 yn y flwyddyn 2013. Dyma fydd ein blwyddyn sail (felly’r mynegrif yw 100). Yn y flwyddyn ganlynol roedd yr un fasged o nwyddau yn costio £260. Er mwyn cyfrifo’r gwerth indecs ar gyfer 2014 rydyn ni’n defnyddio’r fformiwla isod:
£260£250
× 100 = 104
Gallwn ddefnyddio’r un broses ar gyfer y flwyddyn ganlynol (2015). Os oedd yr un fasged o nwyddau nawr yn costio£265 rydyn ni eto yn defnyddio’r fformiwla (gan gofio rhannu bob amser â gwerth y flwyddyn sail):
Indecsau chwyddiant y DUar sail Ion 1988=100
300.0
250.0
200.0
CPIRPIX RPI AEI
150.0
100.0
50.0
0.0
19891991199319951997199920012003200520072009198819901992199419961998200020022004200620082010
Mae’r mynegrifau sydd wedi eu cyfrifo uchod i’w gweld yn y tabl isod:
Bl 1 (2013)
(Blwyddyn sail)Bl 2 (2014) Bl 3 (2015)
Cost y fasged £250 £260 £265Mynegrif 100 104 106
Yn yr achos hwn mae cost y fasged nwyddau wedi cynyddu bob blwyddyn ac o ddefnyddio mynegrifau mae’n hawddgweld bod y prisiau erbyn Blwyddyn 3 (2015) wedi cynyddu 6 y cant ers y flwyddyn sail 2013 (106 – 100).
Gall mynegrifau gael eu cyflwyno hefyd ar ffurf graff, fel sydd i’w weld yn indecsau chwyddiant y DU
isod:
https://en.wikipedia.org/wiki/Retail_price_index#/media/File:UKinflation.png
Mae’r cyfuniad o ddefnyddio mynegrifau a graff llinell yn rhoi cyflwyniad clir o’r data ac mae’n helpu i ddangos patrwm clir. Mae defnyddio mynegrifau yn galluogi cymharu setiau gwahanol o brisiau yn yr un graff. Fyddai hynny ddim wedi bod yn bosibl gyda data crai.
Un o nodweddion mynegrifau yw eu bod yn galluogi cymharu data sydd â symiau cychwynnol gwahanol yn hawdd fel bod cyfraddau newid yn gallu cael eu gweld yn glir.
Dychmygwch fod y cwmni pizza sydd wedi’i grybwyll eisoes am gymharu cyfraddau twf mathau gwahanol o pizza a’i fod eisiau gallu gweld hyn yn weledol. Mae amrywiaeth o ffyrdd o wneud hyn – un fyddai cyfrifo newidiadau canrannol flwyddyn ar flwyddyn – ond mae mynegrifau’n gweithio’n dda.
Dychmygwch fod y gwerthiant fel sydd i’w weld isod:
Pob ffigur£m
2011 2012 2013 2014 2015 2016
Margherita £2 500 £2 750 £3 000 £3 200 £3 150 £3 100Pepperoni £750 £800 £850 £900 £950 £1 000Funghi £10 £12 £15 £18 £21 £24
Gwerthiant Pizza £m3500
3000
2500
2000
1500
1000
500
0 2011 2012 2013 2014 2015 2016
Margherita Pepperoni Funghi
Gwerthiant Pizza £m300
250
200
150
100
50
0
2011 2012 2013 2014 2015 2016
Margherita Pepperoni Funghi
O ddangos hyn fel graff llinell, mae’n anodd iawn gweld beth sy’n digwydd oherwydd y ffigurau cychwynnol gwahanol iawn:
Os gwnawn ni ddefnyddio mynegrifau, yna byddwn yn trefnu mai’r ffigurau yn 2011 fydd y sail ar gyfer pob pizza.Gan ddefnyddio’r fformiwla sydd wedi’i rhoi o’r blaen, yr indecs ar gyfer pizzas Margherita ym mhob blwyddyn fydd:
2012 2013 2014 2015 2016£2750/£2500 £3000/£2500 £3200/£2500 £3150/£2500 £3100/£2500
× 100 × 100 × 100 × 100 × 100
=110 =120 =128 =126 =124(2011=100 blwyddyn sail)
O wneud yr un fath ar gyfer y pizzas eraill, rydyn ni’n cael:Pob ffigur £m 2011 2012 2013 2014 2015 2016
Margherita 100 110 120 128 126 124Pepperoni 100 106.7 113.3 120 126.7 133.3
Funghi 100 120 150 180 210 240
Mae’n glir o’r tabl mai’r perfformiwr cymharol orau yw’r pizza Funghi - ond mae hyn yn amlygu un o gyfyngiadau mynegrifau, sef eu bod nhw’n canolbwyntio ar y newid mewn data, nid ar y lefelau absoliwt. Pizzas Margherita sy’n dal i fod y gwerthwr gorau o bell ffordd, ond gwerthiant pizzas Funghi sy’n tyfu cyflymaf:
Themâu trafodaeth
Gan ddefnyddio’r rhyngrwyd chwiliwch am enghreifftiau o ddata busnes sydd wedi’u cyflwyno fel:
• Siartiau cylch
• Histogramau
• Siartiau llinell
• Mynegrifau
Copïwch y data i mewn i ddogfen Word a dehonglwch y data yn gryno.
Cyflawnwch ymchwil cynradd o’ch dosbarth yn yr ysgol er mwyn casglu rhywfaint o ddata dosbarthol, fel eu hoff raglen deledu, ble aethon nhw ar eu gwyliau, lliw eu llygaid, hoff fwyd parod (takeaway) ayb. Casglwch y data hyn mewn tabl, yna lluniwch siart bar i ddangos y data.
Gwnewch ragor o ymchwil cynradd i gasglu rhai newidynnau meintiol, fel taldra, pa mor bell o’r ysgol maen nhw’nbyw, sawl cwpanaid o de maen nhw’n ei yfed mewn wythnos, ac yn y blaen.
Lluniwch dabl amlder a histogram i ddangos y canlyniadau.
Mae data sydd wedi’u cyflwyno mewn tablau a graffiau bob amser yn fwy defnyddiol i bobl sy’n gwneud penderfyniadau busnes na data sydd wedi’u cyflwyno ar ffurf ysgrifenedig. Trafodwch y gosodiad hwn gan gyfeirio at enghreifftiau priodol.
Esboniwch pam mae mynegrifau’n ddefnyddiol i gyflwyno data busnes.
Esboniwch pam gallai mynegrifau fod yn gamarweiniol.
Deall mynegrifau:
http://www.economicsonline.co.uk/Competitive_markets/Index_numbers.html
http://www.economicshelp.org/macroeconomics/definitions/index_numbers/