12

Annwyl Gydweithiwr, - SchoolBeat · Dywedodd 74% o blant 11 – 18 oed y dylid trafod pornograffi mewn gwersi addysg rhyw. Arolwg Addysg Rhyw yr NSPCC (2013) “ ” Mae’n bwysig

  • Upload
    others

  • View
    0

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

  • Plant a’r Broblem o

    Annwyl Gydweithiwr,�Gobeithio’ch bod chi wedi mwynhau’r gwyliau haf.

    Cynnwys...NODWEDD ARBENNIGPlant a’r broblem o bornograffi ar-lein ............................................................................................ p 2-4RhGCYCG – Gwersi Perthnasau Mwy Diogel ...................................................................... p 5Eitem Arbennig: – E-sigarennau ............................................................................................................. p 6-7Ymgyrch BANG ............................................................................................................................................................ p 7Sbotolau ar Gyffur– Cyffuriau Sy'n Gwella Delwedd a Pherfformiad (cyffuriau IPED)..... p 8Ffonau Symudol a’r Gyfraith ..................................................................................................................... p 9Beth Sy’n Newydd?Deddf Sylweddau Seicoweithredol 2016 ...................................................................................... p 10Gwefan Newydd ‘Fearless’ ............................................................................................................................ p 12Deddf Meithrin Perthynas Amhriodol ............................................................................................... p 12

    2

    Mae’r rhifyn hwn yn llawn gwybodaeth, cyngor a newyddion i helpui’ch cefnogi chi a’ch ysgol. Nodwedd arbennig y tymor hwn ywPlant a'r Broblem o Bornograffi Ar-lein.

    Mae plant a phobl ifainc yn medru caelmynediad at bornograffi dim ond iddyntwasgu botwm. Mae plant mor ifanc ag 8oed yn gweld pethau ar-lein sy’n eupoeni ac yn eu dychryn. Pa un ai a ydyntyn gwylio pornograffi drwy ddamwainneu’n fwriadol, mae angen iddynt fedrusiarad am hyn gydag oedolion.

    Mae dros 50% oblant 11-16 oed wedigwylio pornograffiar-lein.Cymerwyd hyn o adroddiad agomisiynwyd gan Gomisiynydd PlantLloegr gyda’r NSPCC a PhrifysgolMiddlesex. ‘Doeddwn i ddim yn siŵ r osoedd e’n normal i’w wylio’, archwiliad oEffaith Pornograffi Ar-lein a Gwerthoedd,Agweddau, Credoau ac YmddygiadauPlant a Phobl Ifainc. (2016)

    ”“Bornograffi Ar-lein

  • 3

    Yn 2013, darganfu ymchwil gan yComisiynydd Plant bod gwyliopornograffi’n arwain at bobl ifainc yndatblygu:

    agweddau afrealistig tuag at ryw achydsyniad

    agweddau negyddol tuag at rolau ahunaniaeth mewn perthnasau

    agweddau ‘ffwrdd â hi’ tuag at ryw apherthnasau rhywiol

    cynnydd o ran ymddygiad rhywiol‘peryglus’

    disgwyliadau afrealistig o ddelwedd ycorff a pherfformiad.

    Ar ddechrau llencyndod, mae’nnaturiol i bobl ifainc fod ynchwilfrydig ynghylch rhyw. Mae’nadeg pan maen nhw hefyd ynagored i’w hamgylchedd a gall euhymenyddiau gael eu ‘gwifro’ ogwmpas y profiadau a’r wybodaethmaen nhw’n derbyn.

    Beth Mae’r Llywodraeth yn GwneudMae Llywodraeth y DU yn cyflwynomesurau newydd i helpu i gadwplant yn ddiogel rhag cynnwyspornograffig niweidiol.Mae’r Bil Economi Digidol yn cynnwysmesurau ar gyfer cyflwyno dilysu oed argyfer safleoedd pornograffig a’r gallu idynnu gwasanaethau talu yn ôl wrthsafleoedd sydd ddim yn cydymffurfio.Bydd gan y Bwrdd Categoreiddio FfilmiauPrydeinig bwerau i wneud i ddarparwyrgwasanaethau rhyngrwyd gyfyngu arfynediad i safleoedd pornograffig syddddim yn rhoi mesurau ddilysu oed llymmewn grym i ddiogelu plant.

    Rydw i o hyd yn gwyliopornograffi, ac mae peth ohono’neithaf ymosodol. Doeddwn i ddimyn credu ei fod yn effeithio arnaf ary dechrau, ond rwyf wedi dechrauedrych ar ferched ychydig ynwahanol yn ddiweddar ac mae’n fymhoeni. Hoffwn briodi yn y dyfodolond rwy’n ofni na fydd hynny’ndigwydd os fyddaf yn parhau ifeddwl am ferched fel hyn.Bachgen, cymerwyd o arolwg ganyr NSPCC yn 2015

    “”

    Gyda hanner pobl ifainc 11-16oed yn dweud eu bod nhw wedigweld pornograffi ar-lein, mae’ntanlinellu pwysigrwydd ymdrechionparhaus i leihau’r perygl y byddplant yn wynebu pornograffi ar-lein a rhoi sgiliau meddwlhollbwysig iddynt a chadernid ileihau effaith negyddol unrhywbornograffi maen nhw’n gweld.Wil Gardner, Prif Weithredwr aChyfarwyddwr Canolfan RhyngrwydDiogelach y DU, 2016

    “”

  • Mae Childline wedi gweldcynnydd o 6% mewn sesiynaucwnsela lle mae pobl ifainc ynsôn yn benodol am bryderonynghylch pornograffi ar-leinneu wefannau sydd âchynnwys niweidiol. NSPCC, 2015

    Beth fedrwn ni wneud amy broblem?Un peth sy’n medru helpu ywgosod rheoliadau rhiant arddyfeisiau digidol plant.

    Mae rheoliadau rhiant yn helpu i:

    flocio neu hidlo’r hyn y gellir ei weldwrth chwilio ar-lein

    gynllunio pa amser o’r dydd y galleich plentyn fynd ar-lein ac am bamor hir

    eu hatal rhag lawrlwytho apiau maennhw’n rhy ifanc ar eu cyfer

    rheoli’r cynnwys y gall aelodaugwahanol o’r teulu weld

    “”

    Dywedodd 74% o blant 11– 18 oed y dylid trafodpornograffi mewn gwersiaddysg rhyw. Arolwg Addysg Rhyw yr NSPCC (2013)

    “ ”

    Mae’n bwysig bod plant a phobl ifaincyn dysgu am berthnasau iach yn gysondrwy eu haddysg. Bydd dysgu ambethau cadarnhaol megis parch,cydraddoldeb, cyfeillgarwch, cariad,delwedd gadarnhaol o’r corff a datblyguhunan-hyder a chyfathrebu cadarnhaolyn helpu pobl ifainc i adnabodymddygiad iach mewn perthnasau.

    Llenwi’r Bylchau!Ffordd ymlaen yw i ysgolionarchwilio eu polisi o gwmpasperthnasau iach, y cwricwlwma gwasanaethau i bobl ifainc,er mwyn sicrhau:

    yr ymgynghorir â phobl ifainc am yrhyn sy’n cael ei gynnwys mewnaddysg am berthnasau

    bod polisïau’n cynnwys materion ogwmpas pornograffi

    bod diogelwch y rhyngrwyd apherthnasau diogelwch yn cael euharchwilio drwy gydol bywyd ysgolperson ifanc

    4

    Mae pobl ifainc eisiau i bornograffigael ei gynnwys fel pwnc yn eugwersi ABCh. Gall rhai gael eudylanwadu i ymddwyn ynamhriodol tuag at eraill, a allai fodyn droseddau rhyw yn ôl y gyfraith.Gall gwylio pornograffi hefydddylanwadu ar y ffenomenon oanfon negeseuon testun rhywiol.

  • 5

    bod staff sy’n cyflwyno’r cwricwlwm wedi’uhyfforddi’n briodol

    bod barn rhieni’n cael ei geisio a bod ymwybyddiaethyn cael ei godi ynghylch cynnwys amhriodol ar-lein

    bod sianeli drwy ba rai y gall pobl ifainc gael mynediadat gyngor os oes ganddynt bryderon ynghylch rhyw

    bod mewnbynnau gan arbenigwyr megis yr heddlu,nyrsys ysgol neu asiantaethau priodol ar gael igefnogi cyflwyniadau cwricwlwm.

    Holwch eich Swyddog Heddlu Cymunedol Ysgolion (SHCY) amwersi a gwasanaethau sy’n cefnogi dysgu am berthnasau iacha pharchus ar gyfer disgyblion 5-16 oed.

    Gwers Cyfnod Sylfaensy’n archwilio i gam-drindomestig mewn teulu.

    Gwers CA2 Is sy’narchwilio i ymddygiadiach ac afiach.

    Gwers CA2 Uwch sy’narchwilio i ddiogelwchpersonol.

    Gwers CA3 sy’narchwilio i gamfanteisiorhywiol.

    Gwers CA3 sy’n archwilioi gam-drin domestig mewnperthnasau rhwng poblifainc yn eu harddegau.

    Gwers CA4 sy’n archwilioi gydsyniad rhywiol a’rgyfraith.

    Mae’r adnoddau a’r gweithgareddau ar schoolbeat.org yn ddefnyddioliawn. Rwyf wedi defnyddio llawer o’r adran i athrawon er mwyn helpu’r plant ynfy nosbarth i gyfnerthu eu dysgu ar ôl gwers y swyddog heddlu cymunedolysgolion – Athro blwyddyn 6“ ”

  • 6

    EITEM ARBENNIG! EITEM ARBENNIG!

    Mae’r defnydd o Nicotin ganblant a phobl ifainc yn anniogel.Gall achosi caethiwed a gallniwedio’r ymennydd, sydd dal yndatblygu mewn plant a phobl ifainc.Nid oes gan e-sigarennaufanteision i blant a phobl ifainc.Mae pryder bod e-sigarennau’ncael eu hystyried yn ddiogel, ondnid yw hynny’n wir. Er bod perygloni iechyd yn is o lawer mewn e-sigarennau na sigarennau, nidydynt heb risgiau.Iechyd Cyhoeddus Cymru 2017

    E-sigarennauneu Systemau Electronig Cyflwyno Nicotin (ENDS)Yn ôl datganiad diweddar gan Iechyd Cyhoeddus Cymru (Ionawr2017) dylid cynnwys e-sigarennau ochr yn ochr â sylweddau eraillmegis Alcohol a Thybaco ym mhob addysg iechyd ar gyfer plant aphobl ifainc, a dylid eu cyflwyno fel rhywbeth sy’n niweidio iechyd.

    Mae hefyd pryderon: Y bydd defnydd eang o e-sigarennau’n

    ail-normaleiddio ysmygu.

    Gall defnyddio e-sigarennau leihau’rtebygolrwydd y bydd ysmygwyr ynrhoi’r gorau i ysmygu drwy ddisodli’rdulliau ar gyfer helpu pobl i roi’r goraui ysmygu sydd wedi’u profi’nwyddonol.

    Gall defnyddio e-sigarennau weithredufel porth i ddefnyddio Tybaco – ynarbennig ymysg plant a phobl ifainc.

    Er bod e-sigarennau’n cyflwyno peryglis o lawer ar gyfer pobl sydd eisoes ynysmygu na defnyddio Tybaco, nidydynt yn ddiogel. Mae consenswsrhyngwladol bod defnyddio e-sigarennau’n cyflwyno perygl posibl iiechyd pobl sydd ddim yn ysmygu.

    Mae angen ymchwil pellach ym mhobmaes, a bydd hynny’n parhau.

  • BANG!!!!Unwaith eto, yn ystod y cyfnod yn arwain atNos Galan Gaeaf a Noson Guto Ffowc,mae SHCY a SCC ar gael i ysgolion ermwyn cyflwyno negeseuon pwysig mewnperthynas ag ymddygiad pobl ifainc yn ycyfnod yn arwain at y dyddiadau allweddolhyn. Gall SHCY a SCC gyflwyno 2gwasanaeth o’r enwMwynhewch acArhoswch yn Ddiogel! (Cynradd) aBihafiwch Adeg Nos Galan Gaeaf(Uwchradd).Mae Mwynhewch ac Arhoswch ynDdiogel yn anelu i helpu disgyblion ifeddwl am eraill a chael hwyl, tra bodBihafiwch Adeg Nos Galan Gaeaf(BANG) yn anelu i helpu disgyblion i: ymddwyn yn gyfrifol am meddwl am eraill gwybod sut i beidio â chael eu hunain i

    helynt â’r gyfraith deall y peryglon sy’n gysylltiedig â

    chamddefnyddio tân gwyllt gwybod beth mae’r gyfraith yn dweud

    am dân gwyllt.

    Mwynhewch, byddwch yn gall adiogel, a meddyliwch am eraill!

    Galwch heibio i’r adran argyfer athrawon a disgyblionam ragor o wybodaeth.

    Mae disgyblion yn cael:

    eu hannog i fwynhau’r digwyddiadau hynwrth ymddwyn yn synhwyrol

    eu hatgoffa bod gwisgo dillad tywyll panmaen nhw allan gyda’r nos yn medru bodyn beryglus oherwydd mae’n bosibl nafydd gyrwyr yn eu gweld yn hawdd

    eu hannog i ddweud wrth eu rhieni blemaen nhw’n mynd

    eu hatgoffa y gall ymddygiad anghyfrifoleffeithio’n negyddol ar aelodau o’rgymuned sy’n agored i niwed

    gwybod sut y bydd ymddygiadannerbyniol yn cael ei drin.

    Felly’r prif neges yw:

    Mwynhewch, byddwch yn gall adiogel, a meddyliwch am eraill!

    7

    Mae argymhellion pellach yn cynnwys: Cyfyngu ar y defnydd o e-sigarennau

    mewn mannau a ddefnyddir gan blante.e. mewn ysgolion ac ar dir ysgolion,ac o gwmpas mynedfeydd i ysgolion.

    Gwaharddiad ar flasau e-hylif sy’ndebyg i flasau losin er mwyn lleihauapêl e-sigarnennau i blant a phoblifainc.

    Cyfyngiadau ar hysbysebu e-sigarnennau yn yr holl gyfryngau afyddai’n cael ei weld yn aml gan blanta phobl ifainc.

    Rhaglen orfodi i leihau gwerthu e-sigarennau i bobl ifainc sy’n iau na 18oed.

  • 8

    CYFFURIAUSbotolau Ar Gyffuriau!

    Cyffuriau a ddefnyddir gan bobli wella eu delwedd neu euperfformiad yw cyffuriau IPED(Cyffuriau sy’n Gwella Delwedda Pherfformiad). Maen nhw’n cynnwys:

    Steroidau Anabolig Pigiadau Lliw Haul Botox Tabledi Colli Pwysau

    Hefyd, mae niwed sylweddol yngysylltiedig â defnyddio cyffuriau IPED,gan gynnwys clefyd y galon a niwed i’rafu, yn ogystal â phroblemau sy’ngysylltiedig ag iechyd meddwl gangynnwys ymddygiad ymosodol aciselder dwysach. Hefyd, mae perygl oddioddef haint drwy chwistrellu cyffuriau.

    Nid yn y maes chwaraeon ynunig y mae’r defnydd o gyffuriauIPED yn broblem – mae’n broblemmewn cymdeithas hefyd. Mae nifer ybobl ifainc sy’n prynu ac yn cymrydsylweddau anghyfreithlon er mwyngwella delwedd yn peri pryder.

    “”

    Rydyn ni dal yn poeni am ynifer o bobl ifainc sy’n troi atsteroidau er mwyn gwelladelwedd a pherfformiad. Mae’nbroblem difrifol ar gyfer eincymdeithas a chenhedlaeth o boblifainc yn ogystal â’r maeschwaraeon.

    “”

    Mae defnyddio cyffuriau IPED o dan 18oed hefyd yn aflonyddu ar y broses odyfu ac yn ei ansefydlogi, a gall achosidifrod hirdymor.

    Dywedodd Nicola Sapstead, PrifWeithredwr y sefydliad UK Anti-Doping(UKAD),

    Nid yw Chwaraeon Cymru’n dioddefcamddefnyddio cyffuriau IPED o gwblyn y maes chwaraeon. Dywedodd BrianDavies, Cyfarwyddwr Chwaraeon Elitgyda Chwaraeon Cymru,

    “Rhain yw’r materion allweddol i ni,oherwydd wrth galon chwaraeon maecystadleuaeth deg, lle mae pobl yngwybod eu cyfrifoldebau ac yn cystadlu’nrhydd rhag cyffuriau sy’n gwellaperfformiad. Defnyddiwyd addysg, profitargedig a gwaharddiadau er mwynsicrhau cywirdeb chwaraeon.”

    (CYFFURIAU SY’NGWELLA DELWEDDA PHERFFORMIAD)IPED

    Ym mis Ionawr 2017, siaradodd RebeccaEvans, Gweinidog dros WasanaethauCymdeithasol ac Iechyd Cyhoeddusgyda Llywodraeth Cymru am y diwyllianto gamddefynddio cyffuriau IPED sy’nbygwth niweidio iechyd cenhedlaeth.

  • 9

    Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cynnalllawer o waith er mwyn mynd i’r afael â’rbroblem o gyffuriau IPED, gan gynnwysdatblygu’r wefan www.ipedinfo.co.uk ermwyn rhoi cyngor a gwybodaeth ynghylchlleihau niwed i’r rhai sy’n defnyddio cyffuriauIPED, neu’n ystyried eu defnyddio.

    Cyffuriau IPED a’r gyfraithRheolir Steroidau Anabolig felsylweddau Dosbarth C o dan Ddeddf Camddefnyddio Cyffuriau1971, ac wedi’i restri o danAtodlen 4, rhan 11 o ReoliadauCamddefnyddio Cyffuriau 2001. Mae cyfyngiadau pwysig bellachmewn grym ar gyfer pob CyffurGwella Delwedd a Pherfformiad odan Ddeddf 1971. Erbyn hyn, mae’n anghyfreithlonprynu Steroidau a chyffuriaucysylltiedig o du allan i’r DU drwy’rrhyngrwyd a thrwy archebu drwy’rpost a’u cael nhw wedi’u dosbarthu ichi. Mae cosbau’n cynnwys hyd at14 mlynedd o garchar a/neu ddirwy.

    Gyrru, FfônauSymudol a'r Gyfraith

    Mae defnyddio ffôn symudol yn eich llawwrth yrru wedi bod yn anghyfreithlon ers1af Mawrth 2017. Mae’r cosbau ar gyferdal a defnyddio’ch ffôn wrth yrru wedicynyddu. Bellach, y gosb yw 6 phwynta dirwy o £200.Nid yw’n anghyfreithlon defnyddio ffônnas delir yn y llaw, ond gall unrhyw adegnad yw sylw’r gyrrwr ar y ffordd fod ynberyglus.

    Gwobrau Heddlu Dyfed-Powys 2017Dathlwyd gwaith caled, ymrwymiada dewrder swyddogion, staff agwirfoddolwyr yng NgwobrauHeddlu Dyfed-Powys 2017, agynhaliwyd yn ystod y gwanwyn. Cyflwynwyd gwobrau ar gyfercategorïau’n cynnwys dewrder,amrywiaeth ar waith, plismona bro,aelod staff y flwyddyn, tîm y flwyddyn,gwirfoddolwr y flwyddyn ac arwranenwog y flwyddyn, gyda straeonysbrydoledig i’w clywed ganenwebedigion ledled yr Heddlu.

    Roedd Swyddogion HeddluCymunedol Ysgolion Dyfed-Powys ynllawn haeddu dod yn ail yn y categori“Tîm y Flwyddyn”, a derbyniodd y tîmganmoliaeth uchel am eu gwaith atalgyda phlant a phobl ifainc ledled yrardal heddlu.

    Gwers Gwedd GwallgofrwyddCA3 RhGCHYCG

  • 10

    Bu’n rhaid i berchnogion ‘headshop’ achyflenwyr eraill addasu i’r cyfreithiaunewydd a stopio masnachu’r cyffuriauhyn, sydd o bosibl yn beryglus. Maeheddluoedd hefyd wedi bod yn gweithiogydag Awdurdodau Lleol i addysgudefnyddwyr a defnyddwyr posibl am ygyfraith newydd a pheryglon posiblcymryd sylweddau anhysbys.

    Rhoddwyd pwerau i swyddogionstopio a chwilio pobl, cerbydau allongau, mynd i mewn i eiddo i’wchwilio, ac atafaelu a dinistriosylweddau seicoweithredol.

    Mae heddluoedd wediymrwymo i leihau’r niwed a achosirgan bob cyffur, ond ni fedrwn wneudhyn ar ben ein hun; mae ganwasanaethau atal, addysg ac iechydrôl hollbwysig i’w chwarae.Comander Simon Bray (ArweinyddCyngor Cenedlaethol Prif Swyddogionyr Heddlu ar gyfer SylweddauSeicoweithredol Newydd)

    “”

    Yn ddiweddar, mae RhGCYCGwedi diweddaru ei wers ar effeithiauniweidiol Sylweddau SeicoweithredolNewydd.

    Er nad yw’r Ddeddf newydd yn Troseddolimeddu ar sylweddau seicoweithredol,bydd hi’n drosedd meddu arnynt o fewncarchardai a dalfeydd, neu unrhyw le â’rbwriad o’u gwerthu i rywun arall. Hefyd,mae’n drosedd eu mewnforio, erenghraifft, eu prynu o wefan estron.

    DeddfSylweddauSeicoweithredol2016 Mae Deddf SylweddauSeicoweithredol 2016 yn darparugwaharddiad blanced argynhyrchu, cyflenwi a mewnforiosylweddau seicoweithredolnewydd. Mae’r ddeddfwriaeth honyn gwneud cyffuriau newydd sy’nymddangos ar y farchnad ynanghyfreithlon yn gynt nag erioed.

    Mae disgyblion yn dysgu: beth yw SSN, y gyfraith o gwmpas

    SSN sut i wrthod pwysau

    gan gyfoedion ble i fynd am

    gymorth a chyngor.

  • 11

    Dileu LluniauAnweddus Gall deimlo fel diwedd y byd iddisgybl pan mae delweddanghyfreithlon, anweddus o blentyn(o dan 18 oed) wedi’i phostio ar-lein.Mae’n wir bod person yn colli rheolaethar y ddelwedd ar ôl iddi gael ei phostio.

    Fodd bynnag, mae modd gwneudrhywbeth i helpu.Gellir cyflwynoadroddiad ar-leinSefydliad Gwylio’rRhyngrwyd (IWF)https://report.iwf.org.uk/en/

    Bydd IWF yn cysylltu â’r wefan er mwynceisio ei dileu. Dylai disgyblion wybod ygallant siarad â rhywun am gymorth,megis athro neu SHCY.

    Hefyd, gallant gysylltu âwww.meiccymru.orgneu www.childline.org.uk a siarad âchwnsler a fydd yn helpu.

    7 peth pwysig i’w cofio ar gyfer magucryfder mewn plant

    CYMHWYSEDD – Grymuso plant i wneud dewisiadau cadarnhaol.

    HYDER – Canolbwyntio ar y gorau ym mhob plentyn. Cydnabod panmae plentyn yn gwneud rhywbeth yn iawn a’i wobrwyo.

    CYSYLLTU – Helpu plant i ddatblygu perthnasau iach a chyfathrebucadarnhaol.

    CYMERIAD – Helpu plant i ddatblygu ymddygiad a gwerthoeddcadarnhaol.

    CYFRANIAD – Rhoi cyfleoedd i blant gyfrannu a chael ymdeimlado berthyn a phwrpas.

    YMDOPI – Helpu plant i ddysgu strategaethau i ymdopi â straen aphrofiadau negyddol eraill.

    RHEOLI – Helpu plant i ddysgu sut i gymryd cyfrifoldeb dros euhunain a phwy all helpu mpan mae pethau’n teimlo y tu allan i’wrheolaeth.

    123456

    7

  • 12

    Cyflwynwyd trosedd newydd o ran cyfathrebu’nrhywiol âphlentyn ar 3 Ebrill 2017Bellach, mae’n drosedd i unrhyw un sy’n18 oed neu hŷn i gyfathrebu’n fwriadol âphlentyn o dan 16 pan mae’r person yngweithredu ar gyfer diben rhywiol acmae’r cyfathrebu’n rhywiol neu wedi’ifwriadu i ennyn ymateb rhywiol.Mae’r drosedd yn berthnasol ar gyfercyfathrebu ar-lein ac all-lein, gangynnwys cyfryngau cymdeithasol, e-byst,negeseuon testun, llythyrau ac ati.

    Y gosb ar gyfer cael eich euogfarnu

    ar gyfer y drosedd hon yw hyd at 2flynedd o garchar a chael eich gosodyn awtomatig ar yGofrestr Troseddwyr Rhyw.