28
Safonau proffesiynol trosfwaol newydd i athrawon, tiwtoriaid a hyfforddwyr yn y sector dysgu gydol oes yng Nghymru Cyfarwyddyd ar y safonau proffesiynol ar gyfer tiwtoriaid Cymraeg i oedolion

Application of the professional standards for tutors of Welsh for Adults - in Welsh

Embed Size (px)

DESCRIPTION

Application of the professional standards for tutors of Welsh for Adults

Citation preview

Safonau proffesiynol trosfwaol newydd i athrawon,tiwtoriaid a hyfforddwyr yn y sector dysgu gydoloes yng NghymruCyfarwyddyd ar y safonau proffesiynol ar gyfer tiwtoriaid Cymraeg i oedolion

LLUK WfA Welsh 30/5/08 09:23 Page 1

2

Cyflwyniad 3

Adran 1Elfennau 7

Adran 2Elfennau a chanllawiau i fanylder 13

Cynnwys

LLUK WfA Welsh 30/5/08 09:23 Page 2

3

Dysgu gydol oes yn y du

Ym mis Mawrth 2007, rhoddodd Llywodraeth CynulliadCymru’r dasg o adolygu’r Standards for Teaching andSupporting Learning for Wales and England1 (FurtherEducation National Training Organisation - FENTO) i Ddysgu Gydol Oes y DU. Adolygwyd y safonau argyfer cyd-destun Lloegr yn 2006, a chyhoeddwydsafonau newydd ym mis Rhagfyr. Er bod yr angen amdrosglwyddoldeb trawsffiniol yn ystyriaeth, mae’radolygiad ar gyfer Cymru wedi bod yn gyfle i ddatblygusafonau i athrawon sy’n adlewyrchu unigrywiaeth y cyd-destun yng Nghymru.

Mewn termau generig, mae’r safonau proffesiynol iathrawon, tiwtoriaid a hyfforddwyr yn y sector dysgugydol oes yn disgrifio’r sgiliau, yr wybodaeth a’rrhinweddau y mae eu hangen ar bobl sy’n cyflawni’ramrywiaeth eang o rolau addysgu a hyfforddi a wneir yny sector gyda dysgwyr a chyflogwyr. Maent yn rhydd o gyd-destun a lefelau, er mwyn cynrychioli pob maesgwaith ac athrawon newydd, athrawon profiadol acaddysgwyr athrawon. Maent yn cynrychioli’r cylchaddysgu a dysgu y mae pob athro yn ymgysylltu ag ef:asesu cychwynnol, cynllunio a pharatoi, gwerthuso agwella ansawdd trwy ymateb i werthuso.

Estynnwyd y broses ymgynghori i Gymru ym misMehefin 2007, a’r safonau a gyhoeddwyd ym misMawrth 2008 yw canlyniad y broses hon. Dangosodddigwyddiadau ymgynghori a holiadur ar y we fodcefnogaeth gref i ymagwedd enerig y safonau ar gyferLloegr, wrth bwysleisio’r angen i’r safonau adlewyrchuanghenion penodol y sector yng Nghymru a chefnogigweledigaeth Y Wlad sy’n Dysgu. Ymdriniwyd â hyn trwygynnwys safonau sy’n ymwneud yn benodol âdwyieithrwydd, amrywiaeth ddiwylliannol, datblygiadcynaliadwy a dinasyddiaeth fyd-eang, gan alluogi drwy hyni’r safonau fodloni anghenion Cymru a chaniatáu iddyntgyd-fynd â’r safonau ar gyfer Lloegr. Yn hyn o beth, gellirymdrin ag ystyriaethau trawsffiniol a throsglwyddoldeb, a hefyd diogelu symudedd y farchnad lafur.

Diwygio hyfforddiant athrawon yng NghymruMae datblygu’r safonau yn gam cyntaf hanfodol yn ybroses o adeiladu fframwaith newydd o gymwysterau iathrawon yn y system addysg bellach yng Nghymru. Caiffy rhain eu datblygu oddi mewn i Fframwaith Credydau aChymwysterau Cymru (CQFW) a byddant yn cyd-fyndyn llawn â fframweithiau credyd eraill y DU.

Cyflwyniad

Datblygu safonau proffesiynol newydd i athrawon,tiwtoriaid a hyfforddwyr yn y sector dysgu gydoloes yng Nghymru

1Further Education National Training Organisation (FENTO), 1999, Standards for teaching and supporting learning in further education in England and Wales, FENTO

LLUK WfA Welsh 30/5/08 09:23 Page 3

4

Pwrpas y ddogfenhon Mae’r safonau proffesiynol newydd i athrawon yndisgrifio perfformiad cyson yn nhermau gwybodaeth,dealltwriaeth ac arfer proffesiynol athrawon. Oherwyddbod y safonau proffesiynol newydd yn ‘drosfwaol’ ac yn berthnasol i bob athro, teimlwyd ei bod yn briodolcynhyrchu cyfarwyddyd ar y safonau hyn ar gyfertiwtoriaid Cymraeg i Oedolion. Mae’r safonauproffesiynol newydd yn manylu ar wybodaeth,dealltwriaeth ac arfer proffesiynol pob athro mewnunrhyw rôl. Mae’r ddogfen hon yn dilyn yr un trywyddwrth fanylu’n benodol ar gyfer tiwtoriaid Cymraeg iOedolion ac mae’n disodli Safonau Galwedigaethol argyfer addysgu ym maes Cymraeg i Oedolion FENTO,20042. Bydd y ddogfen hon, ynghyd â’r safonautrosfwaol newydd, yn cefnogi datblygiad cymwysterauaddysgu cychwynnol i diwtoriaid Cymraeg i Oedolion.Bydd y ddogfen hefyd o ddefnydd wrth gynlluniocyfleoedd datblygiad proffesiynol parhaus.

Sgiliau iaith personol Mae angen i diwtoriaid Cymraeg i Oedolion feddu ar sgiliauiaith sy’n briodol i’r lefel addysgu. Dylid ystyried lefelau acanghenion iaith ar ddechrau a thrwy gydol gyrfa yn y sectordysgu gydol oes. Argymhellir bod pob tiwtor Cymraeg iOedolion yn manteisio ar hyfforddiant a chyfleoedd eraill iddatblygu a chynnal eu sgiliau iaith personol.

Trefn y ddogfen Safonau proffesiynol trosfwaol newydd i athrawon,tiwtoriaid a hyfforddwyr yn y sector dysgu gydol oes yng Nghymru3

Cyhoeddwyd y safonau hyn ym mis Mawrth 2008 a dylideu defnyddio ochr yn ochr â’r ddogfen hon. Mae dogfen ysafonau proffesiynol yn rhestru’r gwerthoedd, gwybodaeth,dealltwriaeth ac arfer proffesiynol a ddisgwylir gan bobathro yn y sector dysgu gydol oes yng Nghymru. Rhestrir ywybodaeth hon mewn parthau. Mae’r parthau’nadlewyrchu swyddogaethau’r rôl. Mae chwe pharth:

Parth A: Gwerthoedd ac arfer proffesiynol

Parth B: Dysgu ac addysgu

Parth C: Dysgu ac addysgu arbenigol

Parth D: Cynllunio ar gyfer dysgu

Parth E: Asesu i ddysgu

Parth F: Mynediad a chynnydd

Cyfarwyddyd ar y safonau

Mae’r ddogfen hon yn rhestru gwybodaeth ac arfer argyfer tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion yn erbyn parthau’rsafonau proffesiynol.

Wrth ddatblygu cyfarwyddyd ar y safonau proffesiynolar gyfer tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion yn benodol,roedd yr angen am Barthau B ac C yn ddi-angen yn ôlpob golwg ar y dechrau, gan yr ystyrir dysgu ac addysguo safbwynt pwnc penodol bob tro ar y rhaglenni hyn.Fodd bynnag darganfuwyd y byddai hyn yn cyfyngu ar y datganiadau manylder. Oherwydd hyn penderfynwydrhoi arfer dysgu ac addysgu arbenigol, wedi’u seilio aryr wybodaeth a’r ddealltwriaeth briodol, ym Mharth B,tra bod yr wybodaeth a’r ddealltwriaeth arbenigol,ynghyd â sut mae’n berthnasol i arfer proffesiynol, ym Mharth C.

Cyflwyniad

Dysgu gydol oes yn y du

2Further Education National Training Organisation (FENTO), 2004, Safonau Galwedigaethol ar gyfer addysgu ym maes Cymraeg i Oedolion / Occupational standardsfor teaching in the field of Welsh for Adults, FENTO

3Dysgu Gydol Oes y DU / Lifelong Learning UK (LLUK), 2008, Safonau proffesiynol trosfwaol newydd i athrawon, tiwtoriaid a hyfforddwyr yn y sector dysgu gydoloes yng Nghymru / New overarching professional standards for teachers, tutors and trainers in the lifelong learning sector in Wales, LLUK

LLUK WfA Welsh 30/5/08 09:23 Page 4

5

Mae datganiadau penodol yngl¿n â gwybodaeth neuarfer ar gyfer tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion wedi’urhestru yn erbyn y datganiadau gwerthfawrogi acymrwymo o fewn y parthau. Ni theimlwyd bod angenna phwrpas cynnig cyfarwyddyd ar wybodaeth adealltwriaeth pob datganiad arfer proffesiynol ar gyfertiwtoriaid Cymraeg i Oedolion. Mae rhai datganiadaugwerthfawrogi ac ymrwymo yn enerig ym mhob ystyr,ac ni ellir ychwanegu llawer atynt wrth eu gwneud ynbenodol i bynciau arbennig.

Mae gan y datganiadau ymrwymo a gwerthfawrogi godyn ôl llythyren y parth ac C am gwmpas, er enghraifftFC2. Mae pob datganiad gwerthfawrogi ac ymrwymoo’r safonau wedi’u cynnwys yn y ddogfen hon. Foddbynnag, pan na theimlwyd bod angen ychwanegiadarbenigol, esboniwyd hyn trwy nodi ‘Yn adlewyrchu’rsafonau proffesiynol yn unig.’

Rhestrir datganiadau yngl¿n â gwybodaeth neu arfer felelfennau trwy gydol y ddogfen hon. Ceir rhestrgynhwysfawr o’r rhain yn adran un y ddogfen hon.Maent ganddynt god llythyren y parth ac wedyn mewntrefnu rhifau.

Mae’r llythrennau CiO, yn dynodi elfen yn y Cyfarwyddydar gyfer tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion.

Darperir manylder sy’n awgrymu cynnwys yr elfen afyddai’n fwyaf defnyddiol i athrawon. Cefnogir defnyddy termau elfen a manylder yn dilyn ymgynghori. Byddyn ddefnyddiol ystyried canllawiau’r manylder i’r sawlsy’n gyfrifol am ddatblygu a darparu rhaglenni hyfforddiathrawon wrth benderfynu cynnwys mwy neu lai na’rhyn a restrir.

Ysgrifennwyd elfennau fel meysydd gwybodaeth acarfer ar gyfer tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion. Maent ynrhestru’r cyfarwyddyd penodol am unrhyw ddatganiadgwerthfawrogi neu ymrwymo. Mae gan y rhan fwyaf oddatganiadau gwerthfawrogi un elfen gysylltiedig, maegan rai lawer o elfennau, ac mae rhai heb yr un.

Dysgu gydol oes yn y du

LLUK WfA Welsh 30/5/08 09:23 Page 5

Dyma enghraifft o Barth B

Elfen CiO B2.1Defnyddio gweithgareddau ac adnoddau dysgu sy’n berthnasol i’r dysgwyr a’udefnydd o’r Gymraeg ac sy’n arfogi’r dysgwyr i ddefnyddio’r Gymraeg mewn cyd-destunau o’u dewis

(Dyma elfen ofynnol ar gyfer cymwysterau)

Mae tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion yn:

• Cynorthwyo dysgwyr i ddatblygu eu Cymraeg llafar ac ysgrifenedig mewncyd-destunau dilys a pherthnasol

• Defnyddio dulliau sy’n adeiladu ar ddefnydd cyfredol y dysgwyr o’rGymraeg ac ieithoedd eraill

• Defnyddio dulliau sy’n hyrwyddo annibyniaeth a chydweithrediad wrthddysgu Cymraeg ac yn amlygu cwricwlwm a methodoleg yn dryloyw

• Defnyddio dulliau sy’n cynorthwyo dysgwyr i feistroli a defnyddio ystod oamrywiaethau a chyweiriau iaith priodol a gwahaniaethu rhyngddynt yn ôl eu dyheadau personol yngl¿n â defnyddio’r Gymraeg

• Gwerthuso eu hymarfer proffesiynol eu hunain

(Dyma ganllawiau ar gyfer manylder. Mae’r eneghraifft benodol hon o fanylder ynymwneud ag arfer proffesiynol yn unig. Mewn mannau eraill, mae cyfarwyddyd arfanylder yn ymwneud â gwybodaeth a dealltwriaeth yn ogystal.)

Safon BC 2Cymhwyso a datblygu eu sgiliau proffesiynol euhun i ganiatáu i ddysgwyr gyflawni eu nodau

(Dyma ddatganiad ymrwymo o’r safonau proffesiynol)

6

Dysgu gydol oes yn y du

LLUK WfA Welsh 30/5/08 09:23 Page 6

7

Dysgu gydol oes yn y du

Adran 1:Elfennau

Elfen CiO A1.1Ystyried cefndiroedd, profiadau, amcanion a dyheadau dysgwyr

Elfen CiO A2.1Cysylltu caffaeliad Cymraeg â datblygiad mewn meysydd eraill

Elfen CiO A3.1Ymateb i faterion sy’n codi yn y dosbarth Cymraeg ynghylch amrywiaeth a chynhwysiant

Elfen CiO A4.1 Ymgymryd â datblygiad proffesiynol cysylltiedig ag ymchwil ryngwladol,genedlaethol a lleol i gaffael ail iaith

Elfen CiO A5.1 Cydweithio ag eraill i ddatblygu Cymraeg y dysgwyr mewn ystod o gyd-destunau

Yn adlewyrchu’r safonau proffesiynol yn unig

Yn adlewyrchu’r safonau proffesiynol yn unig

Mae tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion yn y sectordysgu gydol oes yn gwerthfawrogi:

Safon AC 1Dysgwyr, eu cynnydd a’u datblygiad, eu nodau a’udyheadau o ran dysgu a’r profiad y byddant yn dodag ef i’w dysgu

Safon AC 2Dysgu, ei botensial i fod o fudd i bobl ynemosiynol, yn ddeallusol, yn gymdeithasol ac yneconomaidd, a’i gyfraniad at ddatblygiad cynaliadwymewn cyd-destun cymunedol a byd-eang

Safon AC 3Cydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant adwyieithrwydd mewn perthynas â dysgwyr, y gweithlu a’r gymuned

Safon AC 4Pwyso a mesur a gwerthuso eu harfer proffesiynoleu hunain a’u datblygiad proffesiynol parhaus felathrawon

Safon AC 5Cydweithredu ag unigolion, grwpiau a/neusefydliadau eraill a chanddynt ddiddordeb dilys yng nghynnydd a datblygiad y dysgwyr

Mae tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion yn y sectordysgu gydol oes wedi ymrwymo i:

Safon AC 6Defnyddio codau ymarfer cytunedig a chynnalamgylchedd dysgu diogel

Safon A 7Gwella ansawdd eu harfer

Parth A:Gwerthoedd ac arferion proffesiynol

LLUK WfA Welsh 30/5/08 09:23 Page 7

8

Yn adlewyrchu’r safonau proffesiynol yn unig

Elfen CiO B2.1 Defnyddio gweithgareddau ac adnoddau dysgu sy’n berthnasol i nodau bywyd y dysgwyr a’u defnydd presennol o’r Gymraeg ac sy’n arfogi’r dysgwyri ddefnyddio’r Cymraeg mewn cyd-destunau o’u dewis

Elfen CiO B2.2Defnyddio dulliau dysgu Cymraeg sy’n ystyried cefndiroedd, hanesion,amcanion dysgu a hoffterau ac arddulliau gwybyddol

Elfen CiO B2.3 Defnyddio dulliau addas o weithio gyda dysgwyr â dysclecsia neu anawsteraugwybyddol, corfforol neu synhwyrol eraill

Elfen CiO B2.4 Defnyddio gwybodaeth am systemau iaith i godi ymwybyddiaeth y dysgwyr o strwythur y Gymraeg

Elfen CiO B2.5 Defnyddio gwybodaeth am systemau iaith i weithio’n systemataidd ac yngyfannol gyda dysgwyr i ddatblygu eu defnydd o’r Gymraeg

Elfen CiO B2.6Galluogi dysgwyr i ddatblygu sgiliau gwrando a darllen beirniadol mewnsefyllfaoedd cyfathrebol dilys

Elfen CiO B2.7Galluogi dysgwyr i ddatblygu fel siaradwyr ac ysgrifennwyr y Gymraeg mewnsefyllfaoedd cyfathrebu dilys

Elfen CiO B2.8Manteisio ar gyfleoedd hyfforddiant cychwynnol a hyfforddiant mewn swydd iddatblygu eu sgiliau proffesiynol eu hunain

Adran 1:Elfennau

Dysgu gydol oes yn y du

Mae tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion yn y sectordysgu gydol oes wedi ymrwymo i:

Safon BC 1Cynnal amgylchedd dysgu ysgogol, teg, cynhwysol a lle bo’n briodol, dwyieithog

Safon BC 2Defnyddio a datblygu eu sgiliau proffesiynol eu hunain er mwyn galluogi dysgwyr i gyflawni eu hamcanion

Parth B:Dysgu ac addysgu

LLUK WfA Welsh 30/5/08 09:23 Page 8

9

Dysgu gydol oes yn y du

Elfen CiO B3.1Deall Cymraeg fel cyfrwng dysgu yn ogystal ag amcan dysgu

Elfen CiO B3.2 Hwyluso rhyngweithiad dysgwr-tiwtor a dysgwr-dysgwr i gefnogi dysgu’r Gymraeg

Yn adlewyrchu’r safonau proffesiynol yn unig

Elfen CiO B5.1Defnyddio gwybodaeth ac ymwybyddiaeth arbenigol o anghenion ac amcaniondysgwyr i ddewis, datblygu a defnyddio adnoddau priodol, gan gynnwysadnoddau technoleg gwybodaeth cyfrifiadurol lle bo’n briodol

Safon BC 3Cyfathrebu’n effeithiol ac yn briodol gyda dysgwyri ychwanegu at y dysgu

Safon BC 4Cydweithio â chydweithwyr i fodloni anghenion dysgwyr

Safon BC 5Defnyddio amrediad o adnoddau dysgu i gefnogi dysgwyr

Parth C: Dysgu ac addysgu arbenigol

Elfen CiO C1.1 Dadansoddi defnydd dysgwyr o iaith a llythrennedd

Elfen CiO C1.2 Deall y berthynas rhwng iaith a hunaniaeth gymdeithasol, diwylliannol,gwleidyddol a chrefyddol

Elfen CiO C1.3 Deall rôl iaith mewn ffurfio, cynnal a thrawsffurfio perthnasoedd grym

Elfen CiO C1.4 Deall sut mae iaith yn amrywio ac yn newid a sut mae hyn yn dylanwadu ar ddefnydd o iaith a llythrennedd

Elfen CiO C1.5Deall ffactorau cymdeithasol, deallusol ac affeithiol all fod yn ddylanwad ar ddysgu iaith

Elfen CiO C1.6 Deall y ffyrdd gwahanol y gellir disgrifio a dadansoddi iaith

Elfen CiO C1.7 Dadansoddi cyfathrebu ar lefel sgwrs/testun

Mae tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion yn y sectordysgu gydol oes wedi ymrwymo i:

Safon CC 1Deall yr wybodaeth ddiweddaraf am ddysgu ac addysgu mewn perthynas â’u maes arbenigoleu hun

LLUK WfA Welsh 30/5/08 09:23 Page 9

Elfen CiO C1.8 Dadansoddi cyfathrebu ar lefel brawddeg ac ymadrodd

Elfen CiO C1.9 Dadansoddi cyfathrebu ar lefel gair

Elfen CiO C1.10 Dadansoddi nodweddion ffonolegol iaith

Elfen CiO C1.11 Gwybod y theorïau ac egwyddorion cyfredol ym maes caffael iaith a dwyieithrwydd

Elfen CiO C1.12Deall cyd-ddibyniaeth y pedair sgil: gwrando, darllen, siarad ac ysgrifennu

Elfen CiO C1.13Deall goblygiadau cyd-ddibyniaeth y pedair sgil ar gyfer cynllunio, addysgu ac asesu

Elfen CiO C1.14Dadansoddi’r prosesau cysylltiedig â’r pedair sgil

Elfen CiO C1.15 Gwybod amrediad o ddulliau dysgu ac addysgu sy’n gysylltiedig â’r pedair sgil

Elfen CiO C2.1Deall canfyddiadau am yr iaith Gymraeg ac ystyried eu heffaith ar symbyliad dysgwyr

Elfen CiO C2.2 Dangos gwybodaeth arbenigol am strategaethau sy’n codi diddordeb ac yn meithrin brwfrydedd dysgwyr

Yn adlewyrchu’r safonau proffesiynol yn unig

Gweler Elfen CiO A4.1

10

Adran 1:Elfennau

Dysgu gydol oes yn y du

Safon CC 2Meithrin brwdfrydedd dysgwyr a’u hysgogi yn eu maes arbenigedd eu hunain

Safon CC 3Cyflawni’r cyfrifoldebau statudol cysylltiedig â’u maes addysgu arbenigedd eu hunain

Safon CC 4Datblygu arfer da mewn addysgu yn eu maesarbenigedd eu hunain

LLUK WfA Welsh 30/5/08 09:23 Page 10

11

Dysgu gydol oes yn y du

Yn adlewyrch’r safonau proffesiynol yn unig

Yn adlewyrchu’r safonau proffesiynol yn unig

Yn adlewyrchu’r safonau proffesiynol yn unig

Mae tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion yn y sectordysgu gydol oes wedi ymrwymo i:

Safon DC 1Cynllunio i hyrwyddo cydraddoldeb, cefnogiamrywiaeth a bodloni amcanion ac angheniondysgu’r dysgwyr

Safon DC 2Cyfranogiad dysgwyr mewn cynllunio dysgu

Safon DC 3Gwerthuso eu heffeithiolrwydd eu hunain wrth gynllunio dysgu

Parth D: Cynllunio ar gyfer dysgu

Elfen CiO E1.1Defnyddio egwyddorion ac ymagweddau arbenigol at asesu dysgu iaith

Elfen CiO E2.1 Asesu gwaith dysgwyr y Gymraeg mewn modd teg a chynhwysol

Elfen CiO E3.1 Hwyluso cyfraniad dysgwyr a rhannu cyfrifoldeb mewn asesu dysgu Cymraeg

Elfen CiO E4.1 Defnyddio gwybodaeth arbenigol mewn deialog gyda dysgwyr fel rhan o’r broses asesu

Yn adlewyrchu’r safonau proffesiynol yn unig

Mae tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion yn y sectordysgu gydol oes wedi ymrwymo i:

Safon EC 1Dylunio a defnyddio asesu fel offeryn ar gyferdysgu a dilyniant

Safon EC 2Asesu gwaith dysgwyr mewn modd teg a chyfiawn

Safon EC 3Cyfranogiad dysgwyr a rhannu cyfrifoldeb yn y broses asesu

Safon EC 4Defnyddio adborth fel offeryn ar gyfer dysgu a dilyniant

Safon EC 5Gweithio o fewn systemau a gofynion ansawdd y sefydliad mewn perthynas ag asesu a monitrocynnydd dysgwyr

Parth E: Asesu ar gyfer dysgu

LLUK WfA Welsh 30/5/08 09:23 Page 11

Mae’r safonau proffesiynolnewydd i athrawon yn disgrifioperfformiad cyson yn nhermaugwybodaeth, dealltwriaeth acarfer proffesiynol athrawon.

12

Dysgu gydol oes yn y du

Elfen CiO F1.1 Cyfeirio dysgwyr y Gymraeg at gyfleodd dysgu a dilyniant ychwanegol

Yn adlewyrchu’r safonau proffesiynol yn unig

Yn adlewyrchu’r safonau proffesiynol yn unig

Elfen CiO F4.1Cydweithredu ag amrywiaeth o asiantaethau i gefnogi cyfleoedd ar gyfer datblygiad a dilyniant

Mae tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion yn y sectordysgu gydol oes wedi ymrwymo i:

Safon FC 1Annog dysgwyr i chwilio am gyfleodd dysgucychwynnol a phellach ac i ddefnyddiogwasanaethau o fewn y sefydliad

Safon FC 2Darparu cefnogaeth i’r dysgwyr o fewn ffiniau rôl y tiwtor

Safon FC 3Cynnal eu gwybodaeth broffesiynol eu hunain ermwyn darparu gwybodaeth am gyfleoedd ar gyferddilyniant yn eu maes arbenigedd eu hunain

Safon FC 4Ymagwedd amlasiantaeth at gefnogi cyfleoedd ar gyfer datblygiad a dilyniant y dysgwyr

Parth F: Mynediad a chynnydd

Adran 1:Elfennau

LLUK WfA Welsh 30/5/08 09:23 Page 12

13

Adran 2:Elfennau a chanllawiau i fanylder

Dysgu gydol oes yn y du

Elfen CiO A1.1Ystyried cefndiroedd, profiadau, amcanion a dyheadau dysgwyr

Mae tiwtoriaid CiO yn gwybod ac yn deall:

• Effaith profiadau dysgu a chyflawniadau blaenorol y dysgwyr, yng nghyd-destun pynciau eraill yn ogystal â’r Gymraeg, ar eu disgwyliadau o lwyddiant a’u gallu i ddysgu’n annibynol

• Pwysigrwydd adnabod a gwerthfawrogi cyflawniadau’r dysgwyr y tu allan i’r amgylchedd dysgu ffurfiol

• Sut y gall agweddau dysgwyr tuag at y cymunedau Cymraeg effeithio ar y dysgu

• Sut y gall agweddau cymunedau Cymraeg tuag at ddysgwyr effeithio ar y dysgwyr

• Sut y gall agweddau cymunedau di-Gymraeg tuag at ddysgwyr effeithio ar y dysgwyr

• Ffactorau sy’n deillio o ddysgu mewn cyd-destun penodol fel dysgu yn y gweithle neu ddysgu teuluol

• Bod rhai dysgwyr yn dysgu ar eu pennau eu hunain heb gysylltiad â chymunedau Cymraeg

• Sut i ddefnyddio cefndiroedd, profiadau, amcanion a dyheadau dysgwyr i gefnogi eu datblygiad fel siaradwyr Cymraeg

Elfen CiO A2.1Cysylltu caffaeliad Cymraeg â datblygiad mewn meysydd eraill

Mae tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion yn gwybod ac yn deall:

• Sut i gynyddu ymwybyddiaeth y dysgwyr am rôl y Gymraeg yn eucymunedau nhw a chymunedau ledled Cymru

• Sut i hyrwyddo gwerth y Gymraeg fel cyfrwng byw y tu allan i’r cyfrwngdysgu ffurfiol a meithrin brwdfrydedd y dysgwyr i gymryd rhan mewncymunedau Cymraeg

• Sut i gynyddu ymwybyddiaeth am botensial y Gymraeg i wella mynediad at addysg; cyflogaeth neu yrfa newydd a chyfleoedd cymdeithasol

• Sut i gynyddu ymwybyddiaeth am rôl y Gymraeg mewn datblygiadcynaliadwy sy’n cyfrannu at gymunedau cynaliadwy

Mae tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion yn y sectordysgu gydol oes yn gwerthfawrogi:

Safon AC 1Dysgwyr, eu cynnydd a’u datblygiad, eu nodau a’u dyheadau o ran dysgu a’r profiad y byddant yn dod ag ef i’w dysgu

Safon AC 2

Dysgu, ei botensial i fod o fudd i bobl ynemosiynol, yn ddeallusol, yn gymdeithasol ac yneconomaidd, a’i gyfraniad at ddatblygiad cynaliadwymewn cyd-destun cymunedol a byd-eang

Parth A:Gwerthoedd ac arferion proffesiynol

LLUK WfA Welsh 30/5/08 09:23 Page 13

14

Elfen CiO A3.1Ymateb i faterion amrywiaeth a chynhwysiant mewn perthynas â dysgwyrCymraeg

Mae tiwtoriaid Cymraeg i Ooedolion yn gwybod ac yn deall:

• Ystod ac amrywiaeth dyheadau’r dysgwyr ynghylch defnyddio’r Gymraega sut i gynorthwyo dysgwyr i wireddu’r dyheadau hyn

• Ystod y ffactorau personol, cymdeithasol ac economaidd a all effeithio argyflawniad a sut i annog dysgwyr i fynd i’r afael â’r ffactorau hyn

• Effaith a goblygiadau anableddau corfforol, namau ar y synhwyrau a salwchmeddwl ar ddysgwyr y Gymraeg ynghyd â strategaethau cefnogi

• Diffiniadau cyfredol o ddyslecsia, dyspracsia ac anawsterau dysgu penodoleraill ynghyd â strategaethau i gefnogi dysgwyr y Gymraeg gyda’r cyflyrau hyn

• Amrywiaeth ddiwylliannol yn yr amgylchedd dysgu â’i goblygiadau ar gyferdysgu ac addysgu

Elfen CiO A4.1 Ymgymryd â datblygiad proffesiynol cysylltiedig ag ymchwil ryngwladol,genedlaethol a lleol i gaffael ail iaith

Mae tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion yn gwybod ac yn deall:

• Sut y gall ymchwil ym maes caffael ail iaith, ynghyd â chanfyddiadautiwtoriaid a dysgwyr eu hunain, gyfrannu at ddysgu ac addysgu ac arferproffesiynol tiwtoriaid

• Pwysigrwydd rhannu arfer da â chyd-diwtoriaid mewn sesiynau hyfforddi

• Y berthynas rhwng polisïau cenedlaethol Cymraeg i Oedolion, strategaethaulleol/rhanbarthol, ac arfer proffesiynol tiwtoriaid eu hun yn y dosbarth

Elfen CiO A5.1 Cydweithio ag eraill i ddatblygu Cymraeg y dysgwyr mewn ystod o gyd-destunau

Mae tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion yn gwybod ac yn deall:

• Pwysigrwydd cydweithio â chydweithwyr yn lleol ac yn genedlaethol i gyfrannu at gynllunio, cyflwyno, datblygu, dilysu ac adolygu rhaglenni dysgu

• Pwysigrwydd cydweithio ag unigolion, grwpiau a sefydliadau lleol achenedlaethol sy’n cyfrannu at gynnydd a datblygiad y dysgwyr felsiaradwyr Cymraeg

Yn adlewyrchu’r safonau proffesiynol yn unig

Yn adlewyrchu’r safonau proffesiynol yn unig

Adran 2:Elfennau a chanllawiau i fanylder

Dysgu gydol oes yn y du

Safon AC 3Cydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant adwyieithrwydd mewn perthynas â dysgwyr, y gweithlu a’r gymuned

Safon AC 4Pwyso a mesur a gwerthuso eu harfer proffesiynol eu hunain a’u datblygiad proffesiynol parhaus fel athrawon

Safon AC 5Cydweithredu ag unigolion, grwpiau a/neusefydliadau eraill a chanddynt ddiddordeb dilys yng nghynnydd a datblygiad y dysgwyr

Mae tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion yn y sectordysgu gydol oes wedi ymrwymo i:

Safon AC 6Defnyddio codau ymarfer cytunedig a chynnalamgylchedd dysgu diogel

Safon AC 7Gwella ansawdd eu harfer

LLUK WfA Welsh 30/5/08 09:23 Page 14

15

Dysgu gydol oes yn y du

Yn adlewyrchu’r safonau proffesiynol yn unig

Elfen CiO B2.1 Defnyddio gweithgareddau ac adnoddau dysgu sy’n berthnasol i’r dysgwyr a’u defnydd presennol o’r Gymraeg ac sy’n arfogi’r dysgwyr i ddefnyddio’rCymraeg mewn cyd-destunau o’u dewis

Mae tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion yn:

• Cynorthwyo dysgwyr i ddatblygu eu Cymraeg llafar ac ysgrifenedig mewncyd-destunau dilys a pherthnasol

• Defnyddio dulliau sy’n adeiladu ar ddefnydd cyfredol y dysgwyr o’r Gymraeg ac ieithoedd eraill

• Defnyddio dulliau sy’n hyrwyddo annibyniaeth a chydweithrediad wrthddysgu Cymraeg ac yn amlygu cwricwlwm a methodoleg yn dryloyw

• Defnyddio dulliau sy’n cynorthwyo dysgwyr i feistroli a defnyddio ystod o amrywiaethau a chyweiriau iaith priodol er mwyn ddefnyddio’rGymraeg yn ôl eu dyheadau personol

• Gwerthuso eu hymarfer proffesiynol eu hunain

Elfen CiO B2.2Defnyddio ymagweddau at ddysgu Cymraeg sy’n ystyried cefndiroedd,hanesion, amcanion dysgu a hoffterau ac arddulliau gwybyddol

Mae tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion yn:

• Defnyddio amrediad o strategaethau er mwyn cynnig dysgu ac addysgugwahaniaethol a sicrhau mynediad i’r Gymraeg i ddysgwyr gydagamrywiaeth o sgiliau, profiadau a chefndiroedd ieithyddol ac addysgol

• Defnyddio ystod o ddulliau a thechnegau i osgoi gor-ddibyniaeth argyfieithu o Gymraeg i Saesneg

• Defnyddio ystod o ddulliau a thechnegau rheoli dosbarth er mwynadeiladu ar gryfderau a chyd-brofiadau dysgwyr

• Defnyddio dulliau sy’n hyrwyddo dysgu cydweithredol

Mae tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion yn y sectordysgu gydol oes wedi ymrwymo i:

Safon BC 1Cynnal amgylchedd dysgu ysgogol, teg, cynhwysola lle bo’n briodol, dwyieithog

Safon BC 2Defnyddio a datblygu eu sgiliau proffesiynol eu hunain er mwyn galluogi dysgwyr i gyflawni eu hamcanion

Parth B:Dysgu ac addysgu

LLUK WfA Welsh 30/5/08 09:23 Page 15

16

Elfen CiO B2.3 Defnyddio ymagweddau addas at weithio gyda dysgwyr â dysclecsia neu anawsterau gwybyddol, corfforol neu synhwyrol eraill

Mae tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion yn:

• Ystyried effaith gwahanol alluoedd a namau gwybyddol, corfforol a synhwyrol ar ddysgu Cymraeg

• Defnyddio amrediad o ddulliau dysgu iaith a gweithgareddau ac adnoddauaml-synhwyrol sy’n manteisio ar gryfderau dysgwyr eu hunain

• Galluogi dysgwyr i ddefnyddio adnoddau a thechnoleg gynorthwyolarbenigol ar gyfer dysgu iaith lle bo angen

Elfen CiO B2.4 Defnyddio gwybodaeth am systemau iaith i godi ymwybyddiaeth y dysgwyr o strwythur y Gymraeg

Mae tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion yn:

• Defnyddio technegau a therminoleg priodol i gynorthwyo dysgwyr iddatblygu dealltwriaeth o strwythur y Gymraeg yn llafar ac yn ysgrifenedig

• Defnyddio dulliau sy’n cynorthwyo dysgwyr i adnabod natur amrywiol a deinamig y Gymraeg

• Defnyddio dulliau sy’n galluogi dysgwyr i adnabod amrywiaethau ieithyddolmewn gwahanol gyd-destunau lle bo’n briodol

Elfen CiO B2.5 Defnyddio gwybodaeth am systemau iaith i weithio’n systemataidd ac yn gyfannol gyda dysgwyr i ddatblygu eu defnydd o’r Gymraeg

Mae tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion yn:

• Dadansoddi yr iaith a ddefnyddir at ddibenion dysgu ac addysgu

• Defnyddio terminoleg briodol yn ymwneud â sgwrs, gramadeg, geiriau a phonoleg

• Integreiddio datblygiad sgiliau gwrando, darllen, siarad ac ysgrifennu ar lefelau testun, brawddeg a gair

• Defnyddio dulliau sy’n galluogi dysgwyr i ddeall pwysigrwydd pwrpas,cynulleidfa a chyd-destun cymdeithasol

• Defnyddio dulliau sy’n meithrin creadigrwydd a hunan-fynegiant ac sy’n galluogi dysgwyr i ddefnyddio iaith berthnasol i gyd-destun

• Defnyddio dulliau sy’n galluogi dysgwyr i ddewis dros eu hunain ym mhaffordd maent am ddefnyddio’r Gymraeg

• Defnyddio cyrch-ddulliau sy’n galluogi dysgwyr i ddeall sut mae defnyddiaith yn gysylltiedig â haenau cymdeithasol, grym a hunaniaeth

Adran 2:Elfennau a chanllawiau i fanylder

Dysgu gydol oes yn y du

LLUK WfA Welsh 30/5/08 09:23 Page 16

17

Elfen CiO B2.6Galluogi dysgwyr i ddatblygu sgiliau gwrando a darllen beirniadol mewnsefyllfaoedd cyfathrebol dilys

Mae tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion yn:

• Defnyddio amrediad o ddulliau ac adnoddau i helpu dysgwyr i ddatblygusgiliau gwrando a darllen beirniadol y dysgwyr mewn amrywiaeth o gyd-destunau dilys, at wahanol ddibenion ac sy’n briodol i’w diddordebau,cyd-destunau ac amcanion

• Galluogi dysgwyr i wella eu gallu i ddeall, dehongli ac ymateb i destunaullafar ac ysgrifenedig

• Galluogi dysgwyr i ddatblygu strategaethau gwrando a darllen sy’nmanteisio ar y sgiliau sydd ganddynt eisoes yn y Gymraeg a’u gwybodaetho ieithoedd eraill

• Galluogi dysgwyr i wynebu heriau ieithyddol a diwylliannol er mwyn dealla dehongli testunau llafar ac ysgrifenedig

• Defnyddio amrediad o ymagweddau at wrando a darllen

Elfen CiO B2.7Galluogi dysgwyr i ddatblygu fel siaradwyr ac ysgrifennwyr y Gymraeg mewnsefyllfaoedd cyfathrebu dilys

Mae tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion yn:

• Defnyddio dulliau, testunau a deunyddiau i ddatblygu gallu’r dysgwyr i gyfathrebu’n effeithiol ag amrywiaeth o gynulleidfaoedd, at wahanolddibenion ar lefel testun (sgwrs), brawddeg a gair (geirfa) ac yn briodol i’w diddordebau, cyd-destunau ac amcanion

• Galluogi dysgwyr i ddatblygu strategaethau sy’n manteisio ar yr wybodaetha sgiliau sydd ganddynt eisoes yn y Gymraeg ac mewn eithoedd eraill

• Defnyddio dulliau sy’n galluogi dysgwyr i wynebu heriau ieithyddol,diwylliannol ac eraill i fynegiant llafar ac ysgrifenedig mewn amrywiaeth o gyd-destunau

• Defnyddio amrediad o ymagweddau at ddatblygu Cymraeg lafar ac ysgrifenedig

Elfen CiO B2.8Manteisio ar gyfleoedd hyfforddiant cychwynnol a hyfforddiant mewn swydd i ddatblygu eu sgiliau proffesiynol eu hunain

Mae tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion yn:

• Mynychu datblygiad proffesiynol yn unol â chynllun hyfforddiant a datblygu’r Ganolfan Cymraeg i Oedolion leol

Dysgu gydol oes yn y du

LLUK WfA Welsh 30/5/08 09:23 Page 17

18

Adran 2:Elfennau a chanllawiau i fanylder

Elfen CiO B3.1Deall Cymraeg fel cyfrwng dysgu yn ogystal ag amcan dysgu

Mae tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion yn:

• Defnyddio Cymraeg fel cyfrwng addysgu ar lefel sy’n briodol i gyrhaeddiadieithyddol y dosbarth

• Cyfathrebu’n glir ac yn effeithiol

• Defnyddio terminoleg briodol gyda dysgwyr

• Cefnogi dysgwyr i defnyddio terminoleg yn briodol

Elfen CiO B3.2 Hwyluso rhyngweithiad dysgwr-tiwtor a dysgwr-dysgwr i gefnogi dysgu’r Gymraeg

Mae tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion yn:

• Dangos ymwybyddiaeth o rôl rhyngweithiad mewn datblygiad iaith

• Sicrhau eu bod yn defnyddio iaith lafar ac ysgrifenedig ar lefel briodol i’r dysgwyr

Yn adlewyrchu’r safonau proffesiynol yn unig

Elfen CiO B5.1Defnyddio gwybodaeth ac ymwybyddiaeth arbenigol o anghenion acamcanion dysgwyr i ddewis, datblygu a defnyddio adnoddau priodol iddysgwyr y Gymraeg, gan gynnwys adnoddau technoleg gwybodaethcyfrifiadurol lle bo’n briodol

Mae tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion yn:

• Dylunio, addasu neu ddethol adnoddau o ystod briodol sy’n datblygudealltwriaeth gysyniadol ac yn hwyluso ymarfer iaith

• Defnyddio TGC i greu adnoddau dysgu Cymraeg, gan gydnabodproblemau cysylltiedig â chyfathrebu am iaith trwy TGC

• Dethol a defnyddio offer a realia priodol ar gyfer dysgu ac addysgu’r Gymraeg

• Addasu cynnwys ieithyddol adnoddau dysgu ac addysgu at ofynion grwpiauneu unigolion penodol, er enghraifft trwy symleiddio, estyn neu ad-drefnu

• Diweddaru deunyddiau ac adnoddau yn aml

• Defnyddio TGC ac adnoddau e-ddysgu sy’n cysylltu’n briodol agamcanion dysgu ac sy’n hybu diddordeb dysgwyr y Gymraeg mewntasgau a gweithgareddau

Dysgu gydol oes yn y du

Safon BC 3Cyfathrebu’n effeithiol ac yn briodol â dysgwyr i ychwanegu at y dysgu

Safon BC 4Cydweithio â chydweithwyr i godloni angheniondysgwyr

Safon BC 5Defnyddio amrediad o adnoddau dysgu i gefnogi dysgwyr

LLUK WfA Welsh 30/5/08 09:23 Page 18

19

Dysgu gydol oes yn y du

Elfen CiO C1.1 Dadansoddi defnydd dysgwyr o iaith a llythrennedd

Mae tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion yn gwybod ac yn deall:

• Bod disgwyliadau dysgwyr am ddefnydd iaith ar lafar ac yn ysgrifenedig yn amrywio yn ôl ffactorau cymdeithasol, diwylliannol a hanesyddol

• Bod cyd-destun yn effeithio ar ddewisiadau ieithyddolsiaradwyr/ysgrifenwyr a hefyd ar ddisgwyliadau gwrandawyr a darllenwyr

• Bod dysgwyr yn dymuno defnyddio ystod o arferion iaith a llythrennedd

Elfen CiO C.1.2 Deall y berthynas rhwng iaith a hunaniaeth gymdeithasol, diwylliannol,gwleidyddol a chrefyddol

Mae tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion yn gwybod ac yn deall:

• Y berthynas agos rhwng unigolion neu grwpiau a’r ffurfiau iaith maent yn eu defnyddio a sut y gall hyn gynnal hunaniaeth unigolyn neu grºp

• Bod defnydd o iaith lafar ac iaith ysgrifenedig yn adlewyrchu cysylltiadaucymdeithasol a diwylliannol

• Bod siaradwyr ac ysgrifenwyr yn dewis mathau o iaith, cyweiriau acarddulliau yn ôl ystod o ffactorau cymdeithasol a diwylliannol

Elfen CiO C1.3 Deall rôl iaith mewn ffurfio, cynnal a thrawsffurfio perthnasoedd grym

Mae tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion yn gwybod ac yn deall:

• Hierarchiaethau ac anghydraddoldebau cyfredol yn ymwneud â defnydd o iaith a llythrennedd a’u rôl mewn adlewyrchu a chynnal perthnasaucymdeithasol cyfredol

• Cefndir hanesyddol yr iaith Gymraeg a natur newidiol hierarchiaethaumewn defnydd iaith a llythrennedd a’r potensial am newid gan bobdefnyddiwr iaith

Mae tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion yn y sectordysgu gydol oes yng Nghymru wedi ymrwymo i:

Safon CC 1Deall a mynnu’r wybodaeth ddiweddaraf mewnperthynas â’u maes arbenigedd eu hunain

Parth C: Dysgu ac addysgu arbenigol

LLUK WfA Welsh 30/5/08 09:23 Page 19

20

Adran 2:Elfennau a chanllawiau i fanylder

Dysgu gydol oes yn y du

Elfen CiO C1.4 Deall sut mae iaith yn amrywio ac yn newid a sut mae hyn yn dylanwadu ar ddefnydd iaith a llythrennedd

Mae tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion yn gwybod ac yn deall:

• Bod ieithoedd yn ddeinamig a’u bod yn esblygu’n barhaol a sut mae’rGymraeg wedi newid ac yn parhau i newid

• Bod llawer o amrywiaethau a thafodieithoedd Cymraeg a bod ganddyntffurfiau llafar ac ysgrifenedig

• Statws y Gymraeg, effaith y Gymraeg ar gymunedau a’r defnyddcynyddol o’r Gymraeg ym myd addysg, technoleg, y cyfryngau,masnach a meysydd eraill

• Natur newidiol llythrennedd a thestunau, gan gynnwys y newid o dudalen i sgrîn a datblygiad testunau amlcyfrwng

Elfen CiO C1.5Deall y ffactorau cymdeithasol, deallusol ac affeithiol all fod yn ddylanwad ar ddysgu iaith

Mae tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion yn gwybod ac yn deall:

• Sut mae ffactorau cymdeithasol, diwylliannol, economaidd, ieithyddol a phersonol yn dylanwadu ar y broses dysgu yn achos oedolion sy’n dysgu Cymraeg

• Effaith ffactorau gwybyddol ar ddatblygiad ail iaith

• Effaith ffactorau affeithiol ar ddatblygiad ail iaith a sut y gall addysgu delio â’r rhain

• Sut i gynyddu creadigrwydd, pleser, ymreolaeth a grymuso trwy gaffael y Gymraeg fel iaith ychwanegol

Elfen CiO C1.6 Deall y ffyrdd gwahanol y gellir disgrifio a dadansoddi iaith

Mae tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion yn gwybod ac yn deall:

• Sut y gellir disgrifio iaith mewn amrywiaeth o ffyrdd mewn perthynas ânodweddion semantig, morffolegol, gramadegol, ysgrifenedig neu lafar

• Sut mae nodweddion iaith yn gysylltiedig â’i gilydd ac yn gyd-ddibynnol

• Sut y gellir disgrifio’r Gymraeg i bwysleisio gwahaniaethau a thebygrwydd i ieithoedd eraill

LLUK WfA Welsh 30/5/08 09:23 Page 20

21

Dysgu gydol oes yn y du

Elfen CiO C1.7 Dadansoddi cyfathrebu ar lefel sgwrs/testun

Mae tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion yn gwybod ac yn deall:

• Sut mae ffurf, cywair ac arddull yn gysylltiedig â chyd-destun, diben,cynulleidfa a modd testunau llafar ac ysgrifenedig

• Y berthynas rhwng cywirdeb a rhuglder a sut mae pwysigrwydd y ddau’namrywio mewn gwahanol gyd-destunau

• Dyfeisiau sy’n gwneud testunau’n gydlynol ac yn drefnus

• Agweddau allweddol ar bragmateg: sut mae siaradwyr neu ysgrifenwyr yn mynegi bwriad

• Y gwahaniaethau allweddol rhwng mynegiant llafar a mynegiant ysgrifenedig

• Sut i alluogi dysgwyr i adnabod a defnyddio iaith, diwyg a confensiynau sy’nbriodol i ffurf a chyd-destun

• Sut i alluogi dysgwyr i adnabod a defnyddio trefn, gramadeg, geirfa,ffonoleg neu atalnodi i fynegi’u hunain yn effeithiol

• Sut i alluogi dysgwyr i ddefnyddio nodweddion rhyngbersonol a nodweddion nad yw’n ieithyddol wrth siarad

• Sut i ddefnyddio testunau ysgrifenedig a llafar sy’n berthnasol i’r dysgwyr

Elfen CiO C1.8 Dadansoddi cyfathrebu ar lefel brawddeg ac ymadrodd

Mae tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion yn gwybod ac yn deall:

• Egwyddorion, rheolau a chonfensiynau cystrawen y Gymraeg

• Gwahanol ffyrdd o ddisgrifio gramadeg, er enghraifft, gramadeggyfarwyddol neu ddisgrifiadol

• Nodweddion gramadegol yr iaith lafar

• Nodweddion gramadegol yr iaith ysgrifenedig, gan gynnwys mathau ofrawddegau, mathau o gymalau ac ymadroddion, amser y ferf, treigladau,atalnodi,defnydd acenion ac eraill

• Sut i gymharu ffurfiau ysgrifenedig â ffurfiau llafar

• Sut i godi ymwybyddiaeth y dysgwyr nad oes modd cyfieithu cysyniadau a ffurfiau gramadegol yn uniongyrchol o un iaith i’r llall

LLUK WfA Welsh 30/5/08 09:23 Page 21

22

Elfen CiO C1.9 Dadansoddi cyfathrebu ar lefel gair

Mae tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion yn gwybod ac yn deall:

• Y prif theorïau sy’n gysylltiedig ag astudiaethau semanteg a geirfa, a’ugoblygiadau ar gyfer dysgu Cymraeg, gan gynnwys cadw a dwyn geiriau i gof, y cysylltiad rhwng iaith a meddwl, ac arwyddocâd corpws iaith

• Ystyr gwybod gair o safbwynt: ystyr a diffiniad; ynganiad; sillafu; cyd-destun; rhannau ymadrodd a chyfyngiadau cywair a gramadeg

• Sut i ddewis geiriau ar sail cyfyngiadau cywair a dull, cyfleoliad, diben a chyd-destun

• Budd dysgu a chofnodi geiriau mewn cyfuniadau ystyrlon

• Morffoleg y Gymraeg a’i goblygidau ar gyfer adeiladu geiriau

• Nodweddion sillafu Cymraeg

Elfen CiO C1.10 Dadansoddi nodweddion ffonolegol y Gymraeg

Mae tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion yn gwybod ac yn deall:

• Rôl pwyslais, rhythm a goslef mewn cyfleu ystyr

• Defnydd patrymau goslef i ddynodi ffwythiant

• Terminoleg sy’n gysylltiedig â phwyslais, rhythm a goslef

• Seiniau’r Gymraeg a rôl lle, ynganiad a llais

• Yr amrywiaeth o seiniau yn yr amrediad o dafodieithoedd Cymraeg

• Dylanwad iaith/ieithoedd a thafodiaith/tafodieithoedd eraill y dysgwyr arbob agwedd o ynganiad y Gymraeg

Elfen CiO C1.11 Gwybod y theorïau a’r egwyddorion diweddaraf ym maes caffael iaith a dwyieithrwydd

Mae tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion yn gwybod ac yn deall:

• Theorïau ac egwyddorion caffael ail iaith

• Theorïau ac egwyddorion dwyieithrwydd ac amlieithrwydd

• Theorïau ac egwyddorion caffael a datblygu iaith yn ystod plentyndod a sut mae’n rhaid addasu’r rhain ar gyfer dysgu oedolion

• Cysylltiadau rhwng theorïau ac egwyddorion caffael iaith a dwyieithrwyddac ymarfer dosbarth

Dysgu gydol oes yn y du

Adran 2:Elfennau a chanllawiau i fanylder

LLUK WfA Welsh 30/5/08 09:23 Page 22

23

Elfen CiO C1.12Deall cyd-ddibyniaeth y pedair sgil: gwrando, darllen, siarad ac ysgrifennu

Mae tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion yn gwybod ac yn deall:

• Bod gwahanol gyrch-ddulliau dysgu ac addysgu’n adlewyrchu modelaudamcaniaethol darllen, ysgrifennu, siarad a gwrando

• Natur aml-foddol cyfryngau newydd

• Dylanwad cyfryngau newydd ar brosesau darllen, ysgrifennu, siarad a gwrando

Elfen CiO C1.13Deall goblygiadau cyd-ddibyniaeth y pedair sgil ar gyfer cynllunio, addysgu ac asesu

Mae tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion yn gwybod ac yn deall:

• Sut i ddefnyddio eu dealltwriaeth o gyd-ddibyniaeth y pedair sgil wrthgynllunio, addysgu ac asesu

• Pwysigrwydd cynllunio gwersi i gynnwys y pedair sgil

• Sut i gynorthwyo dysgwyr i adnabod natur aml-foddol cyfryngau newydd

• Sut i gynorthwyo dysgwyr i ddatblygu a defnyddio cyfryngau newydd at ddibenion darllen ac ysgrifennu

Elfen CiO C1.14Dadansoddi’r prosesau sy’n gysylltiedig â’r pedair sgil

Mae tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion yn gwybod ac yn deall:

• Y prosesau gwybyddol ar gyfer deall, dehongli a chynhyrchu testunau

• Ffactorau cymdeithasol-ddiwylliannol wrth ddeall, dehongli a chynhyrchu testunau

• Sut mae ymagweddau’n amrywio yn ôl cyd-destun a diben

• Yr ystod o is-sgiliau mae eu hangen ar gyfer deall, dehongli a chynhyrchutestunau mewn amrywiaeth o gyd-destunau ac at amrywiaeth o ddibenion

• Ffactorau sy’n gwella dealltwriaeth a mynegiant

• Ffactorau sy’n rhwystro dealltwriaeth a mynegiant

Dysgu gydol oes yn y du

LLUK WfA Welsh 30/5/08 09:23 Page 23

24

Adran 2:Elfennau a chanllawiau i fanylder

Dysgu gydol oes yn y du

Elfen CiO C1.15 Gwybod amrediad o ddulliau dysgu ac addysgu sy’n gysylltiedig â’r pedair sgil

Mae tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion yn gwybod ac yn deall:

• Sut i ddefnyddio eu hymwybyddiaeth o brosesau’r pedair sgil wrthgynllunio, addysgu ac asesu dysgwyr

• Sut i gefnogi dechreuwyr i ddarllen ac ysgrifennu

• Sut i ddefnyddio ystod o destunau ysgrifenedig a llafar, ynghyd âgweithgareddau, sy’n adlewyrchu amrywiaeth ar ran diben, cynulleidfa,ffurf a ffwythiant

• Sut i ddefnyddio gwybodaeth am brosesau cysylltiedig â siarad ac ysgrifennui gynllunio rhaglenni a sesiynau sy’n ystyried proses yn ogystal â chynyrch

• Sut i ddefnyddio gwybodaeth am brosesau cysylltiedig â siarad acysgrifennu i ddatblygu rhuglder a chywirdeb y dysgwr

Elfen CiO C2.1Deall canfyddiadau am yr iaith Gymraeg ac ystyried eu heffaith ar symbyliad dysgwyr

Mae tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion yn gwybod ac yn deall:

• Yr amrywiaeth o ysgogiadau i ddysgu Cymraeg a’r berthynas â barngenedlaethol a rhynwqladol ehangach am yr iaith

Elfen CiO C2.2 Dangos gwybodaeth arbenigol am strategaethau sy’n codi diddordeb a meithrin brwfrydedd dysgwyr y Gymraeg

Mae tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion yn gwybod ac yn deall:

• Sut i fagu hyder dysgwyr, er enghraifft, gwerthfawrogi dysgu a phrofiadblaenorol, torri tasgau’n gamau priodol er mwyn creu cyfleoedd i lwyddo

• Effeithiau hyder, brwdfrydedd a gwybodaeth arbenigol y tiwtor ar hyrwyddo datblygiad iaith a llythrennedd y dysgwyr

• Sut i sefydlu’r Gymraeg fel iaith y grºp

• Sut i greu awyrgylch difygwth a pherthnasau cefnogol o fewn y grºp

Yn adlewyrchu’r safonau proffesiynol yn unig

Gweler Elfen CiO A4.1

Safon CC 2Meithrin brwdfrydedd dysgwyr a’u hysgogi yn eu maes arbenigedd eu hunain

Safon CC 3Cyflawni’r cyfrifoldebau statudol sy’n gysylltiedigâ’u maes addysgu arbenigol eu hunain

Safon CC 4Datblygu arfer da mewn addysgu yn eu maesarbenigedd eu hunain

LLUK WfA Welsh 30/5/08 09:23 Page 24

25

Dysgu gydol oes yn y du

Yn adlewyrch’r safonau proffesiynol yn unig

Yn adlewyrchu’r safonau proffesiynol yn unig

Yn adlewyrchu’r safonau proffesiynol yn unig

Mae tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion yn y sectordysgu gydol oes yng Nghymru wedi ymrwymo i:

Safon DC 1Cynllunio i hyrwyddo cydraddoldeb, cefnogiamrywiaeth a bodloni amcanion ac angheniondysgu’r dysgwyr

Safon DC 2Cyfranogiad dysgwyr mewn cynllunio dysgu

Safon DC 3Gwerthuso eu heffeithiolrwydd eu hunain wrthgynllunio dysgu

Parth D: Cynllunio ar gyfer dysgu

LLUK WfA Welsh 30/5/08 09:23 Page 25

26

Elfen CiO E1.1Defnyddio egwyddorion ac ymagweddau arbenigol at asesu ar gyfer dysgu iaith

Mae tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion yn gwybod ac yn deall:

• Gwahanol fathau o asesiadau iaith a therminoleg

• Sut i ddewis a defnyddio gwahanol fathau o asesu iaith (cychwynnol,diagnostig, ffurfiannol, crynodol) sy’n briodol i gyd-destun a diben

• Sut i asesu sgiliau iaith dysgwyr ar ddechrau rhaglen ddysgu

• Offer a threfniadau asesu sy’n adlewyrchu defnydd iaith ym mywydau dysgwyr

• Sut i weithredu cynllun asesu parhaus a gymeradwyir gan y GanolfanCymraeg i Oedolion leol

• Sut i baratoi dysgwyr at arholiadau cenedlaethol Cymraeg i Oedolion

Elfen CiO E2.1 Asesu gwaith dysgwyr y Gymraeg mewn modd teg a chynhwysol

Mae tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion yn:

• Dangos ymwybyddiaeth o amrywiaeth mewn cefndiroedd ieithyddol a diwylliannol y dysgwyr a goblygiadau hyn am asesu teg a chynhwysol

• Dangos ymwybyddiaeth o’r ystod o ffactorau a all effeithio ar ddysgwyriaith a llythrennedd â dyslecsia neu anawsterau dysgu eraill neu anableddaua goblygiadau hyn ar gyfer asesu teg a chynhwysol

Elfen CiO E3.1 Hwyluso cyfranogiad dysgwyr a rhannu cyfrifoldeb mewn asesu dysgu Cymraeg

Mae tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion yn:

• Dangos ymwybyddiaeth y gallai dysgwyr wedi cael gwahanol brofiadau o asesu, ac y gallai hyn effeithio ar eu hagweddau presennol tuag at asesu

• Defnyddio ffyrdd o ddatblygu a hwyluso hunanasesu ac asesu cymheiriaidyng nghyd-destun dysgu iaith

Elfen CiO E4.1 Defnyddio gwybodaeth arbenigol mewn deialog gyda dysgwyr fel rhan o’r broses asesu

Mae tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion yn:

• Gwybod ac yn deall pwysigrwydd defnyddio iaith briodol ar lafar ac yn ysgrifenedig wrth roi adborth i ddysgwr y Gymraeg

Yn adlewyrchu’r safonau proffesiynol yn unig

Adran 2:Elfennau a chanllawiau i fanylder

Dysgu gydol oes yn y du

Mae tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion yn y sectordysgu gydol oes yng Nghymru wedi ymrwymo i:

Safon EC 1Dylunio a defnyddio asesu fel offeryn ar gyferdysgu a dilyniant

Safon EC 2Asesu gwaith dysgwyr mewn modd teg a chyfiawn

Safon EC 3Cyfranogiad dysgwyr a rhannu cyfrifoldeb yn y broses asesu

Safon EC 4Defnyddio adborth yn offeryn ar gyfer dysgu a dilyniant

Safon EC 5Gweithio o fewn systemau a gofynion ansawdd y sefydliad mewn perthynas ag asesu a monitrocynnydd dysgwyr

Parth E: Asesu ar gyfer dysgu

LLUK WfA Welsh 30/5/08 09:23 Page 26

27

Elfen CiO F1.1 Cyfeirio dysgwyr y Gymraeg at gyfleodd dysgu a dilyniant ychwanegol

Mae tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion yn:

• Adnabod ffynonellau gwybodaeth, cyngor a chanllawiau sy’n berthnasol i Gymraeg i Oedolion ac yn cyfeirio dysgwyr atynt

• Adnabod cyfleoedd cenedlaethol, rhanbarthol a lleol am ddysguychwanegol ac yn cyfeirio dysgwyr atynt

• Adnabod amrywiaeth o adnoddau gan gynnwys TGC, sy’n darparucyfleoedd dysgu ychwanegol, ac yn cyfeirio dysgwyr atynt

• Hyrwyddo’r gwasanaethau sydd ar gael i ddysgwyr o fewn y sefydliad ac yn allgyrsiol

• Annog dysgwyr i fanteisio ar amrediad o gyfleoedd dysgu y tu allan i’r amgylchedd dysgu ffurfiol, gan gynnwys astudiaeth yn y cartref

• Annog dysgwyr i fanteisio ar bob cyfle i siarad Cymraeg y tu fewn a’r tu allan i’r amgylchedd dysgu ffurfiol

• Annog dysgwyr i gymryd cyfrifoldeb dros eu dysgu eu hun

Yn adlewyrchu’r safonau proffesiynol yn unig

Yn adlewyrchu’r safonau proffesiynol yn unig

Elfen CiO F4.1Cydweithredu ag amrywiaeth o asiantaethau i gefnogi cyfleoedd ar gyferdatblygiad a dilyniant

Mae tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion yn:

• Annog dysgwyr i fanteisio ar gyfleoedd a ddarperir gan sefydliadau eraill ar gyfer dysgu ffurfiol ac anffurfiol gan gynnwys gweithgareddaucymdeithasol, Sadyrnau siarad a chyrsiau preswyl

Dysgu gydol oes yn y du

Parth F: Mynediad a chynnydd

Mae tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion yn y sectordysgu gydol oes yng Nghymru wedi ymrwymo i:

Safon FC 1Annog dysgwyr i chwilio am gyfleodd dysgucychwynnol a phellach a defnyddio gwasanaethau o fewn y sefydliad

Safon FC 2Darparu cefnogaeth i’r dysgwyr o fewn ffiniau rôl yr athro

Safon FC 3Cynnal eu gwybodaeth broffesiynol eu hunain ermwyn darparu gwybodaeth am gyfleoedd ar gyferddilyniant yn eu maes arbenigedd eu hunain

Safon FC 4Cydweithredu ag amrywiaeth o asiantaethau er mwyn cefnogi cyfleoedd ar gyfer datblygiad a dilyniant y dysgwyr

LLUK WfA Welsh 30/5/08 09:23 Page 27

RW05

/08/

2740

Rhan o rwydwaith Sgiliau ar gyfer Busnes o 25 oGynghorau Sgiliau Sector a arweinir gan gyflogwyr

Dysgu Gydol Oes y DU

LONDON

5th Floor, St Andrew’s House, 18-20 St Andrew Street, London EC4A 3AY

LEEDS

4th Floor, 36, Park Row, Leeds LS1 5JL

EDINBURGH

Capital Business Centre, CBC House Suite 1924 Canning Street, Edinburgh EH3 8EG

Ffôn: 0870 757 7890Fax: 0870 757 7889Email: [email protected] Gwybodaeth a Chyngor: 020 7936 5798

www.lluk.org

Mae geirfa o’r termau a ddefnyddir yn y ddogfen hon ac mewn cyhoeddiadaueraill o Gymru ar gael ar wefan LLUK yn www.lluk.org/2819.htm

LLUK WfA Welsh 30/5/08 09:23 Page 28