28
Archwiliad Diabetes Pediatrig Cenedlaethol Comisiynwyd gan y Bartneriaeth Gwella Ansawdd Gofal Iechyd Rheolir gan y Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant Adroddiad Rhieni a Gofalwyr 2015-16

Archwiliad Diabetes Pediatrig Cenedlaethol...Ysmygu Dywedodd 3.1% o blant a phobl ifanc a holwyd eu bod yn ysmygu. Colesterol uchel Cafwyd mewn 21.8% o bobl ifanc (12 oed neu’n hŷn)

  • Upload
    others

  • View
    0

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

  • Archwiliad Diabetes Pediatrig Cenedlaethol

    Comisiynwyd gan y Bartneriaeth Gwella Ansawdd Gofal IechydRheolir gan y Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant

    Adroddiad Rhieni a Gofalwyr 2015-16

  • Archwiliad Diabetes Pediatrig Cenedlaethol: Adroddiad Rhieni a GofalwyrMae Diabetes mellitus (diabetes) yn gyflwr lle mae lefel y glwcos yn eich gwaed yn rhy uchel oherwydd nad yw’r corff yn gallu ei ddefnyddio’n iawn.

    Mae diabetes Math 1 yn effeithio ar tua dau o bob mil o blant yng Nghymru a Lloegr (yn 2015-16 roedd ychydig dros 2800 o achosion newydd).

    Diabetes Math 1 sydd gan 96% o blant a phobl ifanc. Mae gan 4% ddiabetes Math 2 neu fathau prin eraill o ddiabetes.

    2

    Archwiliad Diabetes Pediatrig Cenedlaethol 2015-16

  • 3

    Archwiliad Diabetes Pediatrig Cenedlaethol 2015-16

    Mae’r Archwiliad Diabetes Pediatrig Cenedlaethol (NPDA) yn cael ei wneud yn flynyddol yng Nghymru a Lloegr. Gofynnir i’r clinig y byddwch yn mynd iddo gyflwyno gwybodaeth am ofal diabetes eich plentyn. Yr unig nod yw darparu gwybodaeth er mwyn gallu gwella ansawdd y gofal a roddir i blant a phobl ifanc yr effeithir arnynt gan ddiabetes.

    Mae’r adroddiad hwn yn rhoi crynodeb i rieni a gofalwyr o ganfyddiadau dau adroddiad cenedlaethol a gynhyrchwyd gan yr NPDA eleni.

    Mae adroddiad Prosesau Gofal (archwiliadau gofal iechyd) a Chanlyniadau’r NPDA yn edrych i weld a yw plant a phobl ifanc yn derbyn yr archwiliadau diabetes sy’n cael eu hargymell, faint sy’n cyrraedd eu targedau glwcos gwaed a faint sydd wedi datblygu, neu sydd â risg uwch o ddatblygu, cymhlethdodau diabetes.

    Mae adroddiad Derbyniadau Ysbyty’r NPDA yn adrodd ar faint o bobl sy’n cael eu derbyn i’r ysbyty oherwydd eu diabetes, a’r rhesymau am hynny, ac fe’i cynhyrchir pob tair blynedd.

    Trosolwg

  • Archwiliad Diabetes Pediatrig Cenedlaethol:Prosesau Gofal a Chanlyniadau 2015-16

    Mae’r adran yma’n crynhoi prif ganfyddiadau adroddiad yr NPDA ar Brosesau Gofal a Chanlyniadau, a edrychodd ar ansawdd y gofal a dderbyniodd plant a phobl ifanc gyda diabetes ym mhob clinig yng Nghymru a Lloegr, a beth oedd eu canlyniadau.

    Mae’r archwiliad yn ddefnyddiol i rieni a gofalwyr oherwydd mae’n rhoi gwybodaeth am y prif archwiliadau gofal iechyd y dylai eich plentyn fod yn eu cael, a gwybodaeth bwysig am ganlyniadau clinigau, fel HbA1c cyfartalog.

    Yn 2016 cafodd 173 o glinigau diabetes yng Nghymru a Lloegr eu harchwilio gan ddarparu gwybodaeth am dros 28,400 o blant a phobl ifanc dan 25 oed.

    4

    Archwiliad Diabetes Pediatrig Cenedlaethol 2015-16

  • 5

    Archwiliad Diabetes Pediatrig Cenedlaethol 2015-16

    1. HbA1c (sy’n mesur lefel y glwcos yn y gwaed)

    2. Taldra a phwysau (archwiliad twf iach)

    3. Pwysedd gwaed – archwiliad gorbwysedd (pwysedd gwaed uchel)

    4. Albwmin wrinol – archwiliad o niwed i’r arennau

    5. Thyroid – archwiliad o weithrediad y thyroid (clefyd y thyroid)

    6. Sgrinio’r llygad – archwiliad clefyd y llygad (retinopathi)

    7. Archwiliad traed – archwiliad o niwed i’r nerfau neu i’r pibellau gwaed (niwropathi)

    Edrychodd yr NPDA ar faint o blant a phobl ifanc gyda diabetes Math 1 a dderbyniodd archwiliadau iechyd pwysig yn y flwyddyn archwilio hon (2015-16), gan gynnwys y canlynol:

    Cyflawni archwiliadau iechyd pwysig

    Diabetes Math 1

  • Archwiliad Diabetes Pediatrig Cenedlaethol 2015-16

    6

    Dangosir isod ganrannau’r plant a’r bobl ifanc gyda diabetes yng Nghymru a Lloegr a dderbyniodd bob un o’r archwiliadau iechyd pwysig hyn:

    99% 94%83%

    52%71% 65%

    55%

    25%

    99% 98% 91%

    66%78%

    66% 66%

    36%

    0%10%20%30%40%50%60%70%80%90%

    100%

    2014/15 2015/16

    HbA1

    c (po

    b oed

    )

    Taldr

    a a Ph

    wysa

    u (po

    b oed

    )

    Pwys

    edd g

    waed

    (12+

    oed)

    Albwm

    in wr

    inol (1

    2+ oe

    d)

    Thyro

    id (po

    b oed

    )

    Sgrin

    io’r ll

    ygad

    (12+

    oed)

    Arch

    wiliad

    traed

    (12+

    oed)

    Pob u

    n o’r s

    aith p

    roses

    (12+

    oed)

    Mae hyn yn welliant calonogol ar y nifer a dderbyniodd yr archwiliadau rhwng 2014-15 a 2015-16. Mae’r archwiliadau hyn yn bwysig i ganfod unrhyw broblemau sy’n gysylltiedig â diabetes ac i roi cyngor os oes unrhyw beth yn cael ei ganfod.

    Holwch eich clinig diabetes i drefnu bod eich plentyn yn derbyn yr archwiliadau iechyd pwysig hyn. Mae’n eithriadol bwysig eich bod yn mynd i’ch clinig er mwyn i’r archwiliadau hyn gael eu cofnodi.

  • 7

    Dylai eich clinig gynnig archwiliadau pwysig eraill, gan gynnwys:

    1. Sgrinio am Glefyd y Thyroid (pob blwyddyn) a Chlefyd Coeliag pan wneir y diagnosis o ddiabetes Math 1.

    2. Mae holi am ysmygu’n bwysig er mwyn gallu rhoi help i dorri’n ôl neu roi’r gorau’n llwyr i ysmygu, lle bo angen.

    3. Asesiad sgrinio seicolegol oherwydd mae problemau fel iselder ac anhwylderau bwyta’n fwy cyffredin.

    4. Cynnig rhaglen addysg ffurfiol i helpu plant, pobl ifanc a’u rhieni i ofalu’n hyderus am y diabetes.

    Canrannau’r plant a’r bobl ifanc a dderbyniodd archwiliadau i sgrinio am glefyd thyroid a choeliag pan gawsant ddiagnosis o ddiabetes Math 1 yn 2015-2016:

    68% 62%

    0%10%20%30%40%50%60%70%80%90%

    100%

    Clefyd thyroid Clefyd coeliag

    2015-16

    Archwiliad Diabetes Pediatrig Cenedlaethol 2015-16

  • 8

    Beth y mae hyn yn ei feddwl?

    Nid yw’r holl blant a phobl ifanc gyda diabetes yn cael eu harchwilio pob blwyddyn am arwyddion sy’n rhybuddio bod ganddynt risg o gymhlethdodau’n gysylltiedig â’u diabetes.

    Dylai rhieni a gofalwyr ofyn i’w tîm diabetes drefnu bod eu plentyn yn derbyn yr archwiliadau iechyd hyn fel rhan o asesiad blynyddol. Gall canfod problemau’n gynnar leihau’r risg o gymhlethdodau pellach nes ymlaen.

    Dylai rhieni a gofalwyr ofyn i’w clinig am addysg ffurfiol, priodol i oedran i helpu eu plentyn i reoli eu diabetes os na chawsant gynnig hyn eisoes.

    Canrannau’r plant a’r bobl ifanc gyda diabetes Math 1 a dderbyniodd archwiliadau eraill yn 2015-16 o’i gymharu â 2014-15:

    57% 56% 57%71%

    79%69%

    0%

    10%

    20%

    30%

    40%

    50%

    60%

    70%

    80%

    90%

    100%

    2014-15 2015-16

    Wedi derbyn addysg �urfiol

    Statws ysmygu wedi’i gofnodi

    Asesiad seicolegol wedi’i ystyried

    Archwiliad Diabetes Pediatrig Cenedlaethol 2015-16

  • 9

    HbA1cDangosydd lefel y glwcos yn y gwaed dros y chwech i wyth wythnos flaenorol yw HbA1c.

    Argymhellir y dylai pobl gyda diabetes Math 1 geisio anelu at HbA1c targed o 48 mmol/mol (6.5%) neu’n is.Ystyrir bod HbA1c o dros 75 mmol/mol (9%) yn dangos lefel glwcos gwaed uchel iawn ac mae’n gysylltiedig â risg uwch o ddatblygu cymhlethdodau’n ymwneud â diabetes.

    Targedau HbA1c

    Mae nifer o ffactorau’n chwarae rhan mewn gwella a chynnal lefelau HbA1c da, gan gynnwys:

    • profion rheolaidd i fesur glwcos gwaed,• cadw at drefn feunyddiol, cyfrif

    carbohydradau ac addasu dosys inswlin,

    • ymarfer corff a dysgu’n barhaus am ddiabetes.

    Archwiliad Diabetes Pediatrig Cenedlaethol 2015-16

  • 10

    Mae hyn yn newyddion da ac yn glod i’r holl waith caled sydd wedi’i wneud i wella gofal diabetes mewn plant a phobl ifanc dros y chwe blynedd diwethaf.

    Fodd bynnag, mae’r sefyllfa’n amrywio ar draws gwahanol glinigau a rhwydweithiau gyda rhai’n llwyddo i sicrhau lefelau HbA1c gwell nag eraill. Cafwyd bod lefelau HbA1c cyfartalog uwch hefyd ymhlith plant hŷn a rhai sy’n byw mewn rhannau mwy cymdeithasol ddifreintiedig o’r wlad.

    Yn y blynyddoedd diwethaf mae’r HbA1c cyfartalog cenedlaethol wedi gostwng i blant a phobl ifanc gyda phob math o ddiabetes, gan ddangos bod diabetes yn cael ei reoli’n well:

    60

    62

    64

    66

    68

    70

    72

    74

    2005-06 2006-07 2007-08 2008-09 2009-10 2010-11 2011-12 2012-13 2013-14 2014-15 2015-16

    Lloegr Cymru

    Aver

    age

    HbA

    1c le

    vels

    (mm

    ol/m

    ol)

    Blwyddyn

    Mae mwy o wybodaeth am y gwahaniaethau hyn ar gael ym mhrif adroddiad 2015-16 yr NPDA neu yn adroddiadau diabetes pediatrig y clinigau unigol, ar wefan y NPDA yn: www.rcpch.ac.uk/npda.

    Archwiliad Diabetes Pediatrig Cenedlaethol 2015-16

  • 11

    Cymhlethdodau diabetes Math 1

    Clefyd y llygad

    Cafwyd arwyddion cynnar o risg uwch o fynd yn ddall mewn 13.8% o bobl ifanc (12 oed neu’n hŷn).

    Albiwminwria (arwydd sy’n rhybuddio am glefyd yr arennau)

    Cafwyd mewn 9.7% o bobl ifanc (12 oed neu’n hŷn).

    Ysmygu

    Dywedodd 3.1% o blant a phobl ifanc a holwyd eu bod yn ysmygu.

    Colesterol uchel

    Cafwyd mewn 21.8% o bobl ifanc (12 oed neu’n hŷn).

    Pwysedd gwaed uchel

    Cafwyd mewn 26.3% o bobl ifanc (12 oed neu’n hŷn).

    HbA1c

    Cafwyd bod gan 6.5% o blant a phobl ifanc lefel HbA1c o dan 48 mmol/mol a bod gan 24.5% lefel o dros 75 mmol/mol.

    Dros eu pwysau

    Cafwyd bod 16.5% o blant 0-11 oed a 20.8% o bobl ifanc 12+ oed dros eu pwysau.

    Archwiliad Diabetes Pediatrig Cenedlaethol 2015-16

  • 12

    Beth y mae hyn yn ei feddwl?

    Dylai rhieni a gofalwyr siarad â’u clinig diabetes am ganlyniadau’r archwiliadau sgrinio a thrafod cynlluniau i leihau’r risg o ddatblygu cymhlethdodau.

    Mae angen i blant a phobl ifanc gyda diabetes, a’u teuluoedd, anelu at lefelau glwcos gwaed iach i leihau eu risg o ddatblygu cymhlethdodau.

    Archwiliad Diabetes Pediatrig Cenedlaethol 2015-16

  • 13

    Cyflawni archwiliadau iechyd pwysig

    Diabetes Math 2

    Dangosir isod ganrannau’r plant a phobl ifanc gyda diabetes Math 2 yng Nghymru a Lloegr a dderbyniodd bob un o’r archwiliadau iechyd pwysig hyn yn 2015-16:

    97% 94%85%

    59%52% 47% 50%

    17%

    0%

    10%

    20%

    30%

    40%

    50%

    60%

    70%

    80%

    90%

    100%2015/16

    HbA1

    c (po

    b oed

    )

    Taldr

    a a Ph

    wysa

    u (po

    b oed

    )

    Pwys

    edd g

    waed

    (pob

    oed)

    Coles

    terol

    (pob o

    ed)

    Albwm

    in wr

    inol (p

    ob oe

    d)

    Sgrin

    io’r ll

    ygad

    (12+

    oed)

    Arch

    wiliad

    traed

    (12+

    oed)

    Pob u

    n o’r s

    aith p

    roses

    (12+

    oed)

    Archwiliad Diabetes Pediatrig Cenedlaethol 2015-16

  • 14

    Dangosir isod ganrannau’r plant a phobl ifanc gyda diabetes Math 2 a dderbyniodd archwiliadau iechyd eraill:

    Cyflawni archwiliadau iechyd eraill

    58%

    80%

    58%

    0%

    10%

    20%

    30%

    40%

    50%

    60%

    70%

    80%

    90%

    100%

    Statws ysmygu wedi’i gofnodi

    2015-16

    Wedi derbyn addysg �urfiol

    Asesiad seicolegol wedi’i ystyried

    Lefel gyfartalog y HbA1c mewn plant a phobl ifanc gyda diabetes Math 2 oedd 51 mmol/mol o’i gymharu â 65 mmol/mol ar gyfer rhai gyda Math 1.

    Targedau HbA1c

    Archwiliad Diabetes Pediatrig Cenedlaethol 2015-16

  • 15

    Cymhlethdodau diabetes Math 2

    Clefyd y llygad

    Cafwyd arwyddion cynnar o risg uwch o fynd yn ddall mewn 5.4% o bobl ifanc (12 oed ac yn hŷn).

    Albiwminwria (arwydd yn rhybuddio o glefyd yr arennau)

    Cafwyd mewn 14.5% o bobl ifanc (12 oed ac yn hŷn).

    Ysmygu

    Dywedodd 2.1% o blant a phobl ifanc a holwyd eu bod yn ysmygu.

    Colesterol uchel

    Cafwyd mewn 26% o bobl ifanc (12 oed ac yn hŷn).

    Pwysedd gwaed uchel

    Cafwyd mewn 40.4% o bobl ifanc (12 oed ac yn hŷn).

    Archwiliad traed

    Nid yw’r NPDA yn cofnodi cymhlethdodau traed ond roedd50% o bobl ifanc wedi derbyn archwiliad traed.

    Dros eu pwysau

    Cafwyd bod 78.5% o blant a phobl ifanc dros eu pwysau.

    Archwiliad Diabetes Pediatrig Cenedlaethol 2015-16

  • 1816

    Mae gwelliannau sylweddol wedi bod yn y gofal a roddir i blant a phobl ifanc gyda diabetes, fel y gwelwn o’r nifer uwch o archwiliadau iechyd a lefelau HbA1c cyfartalog cenedlaethol gwell.

    Dylai rhieni a gofalwyr plant a phobl ifanc gyda diabetes siarad â’u clinigau diabetes am dderbyn a thrafod canlyniadau archwiliadau gofal iechyd sy’n briodol i’w hoed.

    Dylai rhieni a gofalwyr weithio â’u tîm diabetes i gyflawni’r lefel HbA1c orau bosib ar gyfer eu plentyn drwy anelu at lefelau glwcos gwaed sydd o fewn y targedau a osodwyd gan eu clinig.

    Mae cymorth a chefnogaeth barhaus i blant a phobl ifanc gyda diabetes yn bwysig. Dylai hyn gynnwys pecynnau addysg ffurfiol, asesiad seicolegol a chymorth parhaus ynghyd â tharged glwcos gwaed i leihau’r risg o gymhlethdodau hirdymor.

    Darllen NPDA pellachEwch i www.rcpch.ac.uk/npda i weld neu lawrlwytho:

    • Yr adroddiad NPDA cenedlaethol llawn ar gyfer 2015-16

    • Adroddiadau unigol yn crynhoi perfformiad pob uned diabetes pediatrig a gymrodd ran yn yr archwiliad

    • Adroddiadau Mesur Profiad Cleifion a Rhieni Unigol (PREM) ar gyfer pob uned a gymrodd ran. Mae’r rhain yn cynnwys adborth gan rieni a chleifion am eu profiadau o ddefnyddio’r gwasanaethau hyn.

    Prif gasgliadauArchwiliad Diabetes Pediatrig Cenedlaethol 2015-16

  • 17

    Archwiliad Diabetes Pediatrig Cenedlaethol: Adroddiad ar Dderbyniadau Ysbyty 2012-2015

    Mae’r adran hon yn crynhoi adroddiad Derbyniadau Ysbyty’r NPDA a edrychodd ar y nifer a dderbyniwyd i’r ysbyty o ganlyniad i’w diabetes rhwng Ebrill 2012 a Mawrth 2015 a’r rhesymau am hynny. Mae’r canlyniadau’n seiliedig ar wybodaeth am dderbyniadau a gasglwyd gan eich ysbyty a thîm diabetes lleol.

    Roedd yr adroddiad yn canolbwyntio ar:• Cetoasidosis diabetig (DKA)• Hypoglycaemia• Derbyniadau eraill heb gysylltiad â DKA neu

    hypoglycaemia.

    Archwiliad Diabetes Pediatrig Cenedlaethol 2015-16

  • Beth yw DKA, Hypoglycaemia ac achosion eraill sy’n gysylltiedig â diabetes?

    Mae DKA yn digwydd o ganlyniad i ddiffyg inswlin sy’n arwain at ddatblygu cetonau sy’n achosi asidosis. Mae’n aml yn gysylltiedig â lefelau glwcos gwaed uchel oherwydd ni all y corff ddefnyddio glwcos pan fydd lefel yr inswlin yn isel.

    Mae Hypoglycaemia yn golygu ‘lefelau glwcos gwaed isel’ – llai na 4 mmol/l. Mae hyn yn rhy isel i roi digon o egni ar gyfer gweithgareddau’r corff.

    Crynodeb o’r prif ganfyddiadau ar gyfer derbyniadau ysbyty mewn plant a phobl ifanc gyda phob math o ddiabetes

    Rhwng 2012 a 2015 roedd 30,714 o achosion lle derbyniwyd plant a phobl ifanc i’r ysbyty oherwydd eu diabetes• Ar draws tair blwyddyn archwiliad, arhosodd y gyfradd

    derbyniadau cysylltiedig â diabetes yr un fath heb fynd i lawr, er y gwelliannau cenedlaethol mewn rheoli diabetes a’r cynnydd yn nifer yr archwiliadau iechyd a wnaed dros y blynyddoedd diwethaf

    • Roedd gan rai grwpiau cleifion gyfradd derbyniadau uwch, gan gynnwys merched, pobl ifanc yn eu harddegau a rhai sy’n byw mewn ardaloedd difreintiedig.

    18

    Archwiliad Diabetes Pediatrig Cenedlaethol 2015-16

  • 19

    Derbyniadau ysbyty mewn plant a phobl ifanc gyda diabetes Math 1

    Derbyniwyd bron i 1/4 o’r holl blant a phobl ifanc gyda diabetes Math 1 i’r ysbyty, am resymau’n gysylltiedig â’u diabetes, o leiaf unwaith ym mhob blwyddyn archwiliad rhwng 2012 a 2015.

    Y rhesymau am y derbyniadau hyn ar draws y tair blwyddyn archwiliad, yng Nghymru a Lloegr, oedd

    21%

    7%

    7%65%

    DKA not at diagnosis

    DKA at diagnosis

    Hypoglycaemia

    Other diabetes relatedcauses

    DKA nid ar adeg y diagnosis

    DKA ar adeg y diagnosis

    Hypoglycaemia

    Achosion eraill cysylltiedigâ diabetes

    DKA ymhlith plant a phobl ifanc gyda diabetes Math 1Roedd DKA ar adeg y diagnosis yn bresennol mewn 23% o achosion newydd o ddiabetes Math 1 drwy gydol cyfnod yr archwiliad.

    Ar gyfer rhai a dderbyniwyd i’r ysbyty gyda DKA heb fod yn gysylltiedig â diagnosis o ddiabetes:

    • Roedd rhai gyda HbA1c o dros 80mmol/mol 12 gwaith yn fwy tebygol o gael eu derbyn gyda DKA o’i gymharu â rhai gyda HbA1c o dan 58mmol/mol.

    • Roedd risg uwch fach o gael eu derbyn gyda DKA ymhlith rhai ar therapi pwmp inswlin. Mae’n bwysig gwybod am hyn wrth i’r defnydd o bympiau inswlin gynyddu. Dylech drafod hyn gyda’ch darparwr gofal ar ddechrau’r therapi pwmp inswlin.

    Archwiliad Diabetes Pediatrig Cenedlaethol 2015-16

  • 2220

    Derbyniadau hypoglycaemia ymhlith plant a phobl ifanc gyda diabetes Math 1• Roedd tua 2% o’r holl blant a phobl ifanc gyda diabetes Math

    1 wedi cael eu derbyn i’r ysbyty gyda hypoglycaemia.

    • Roedd gan rai gyda HbA1c rhwng 58 – 80 mmol/mol risg uwch o gael eu derbyn i’r ysbyty o’i gymharu â rhai gyda llai na 58 mmol/mol.

    • Mae gan blant a phobl ifanc sy’n byw yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig risg is o gael eu derbyn i’r ysbyty gyda hypoglycaemia na rhai sy’n byw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig.

    Derbyniadau eraill cysylltiedig â diabetes ymhlith plant a phobl ifanc gyda diabetes Math 1• Roedd tua 65% o’r holl dderbyniadau cysylltiedig â diabetes

    ymhlith plant a phobl ifanc am ‘resymau eraill cysylltiedig â diabetes’, gyda thua hanner y rhain er mwyn ceisio sefydlu eu diabetes.

    Archwiliad Diabetes Pediatrig Cenedlaethol 2015-16

  • 21

    Pwy sydd â’r risg fwyaf o gael eu derbyn?Mae nifer o ffactorau’n effeithio ar gyfraddau derbyn. Er mwyn gwahanu effaith pob ffactor, defnyddiwyd prawf ystadegol i ganfod pa rai oedd yn gysylltiedig â risg uwch. Dengys y tabl isod pa ffactorau oedd yn cynyddu risg claf o gael ei dderbyn i’r ysbyty oherwydd DKA nid ar adeg y diagnosis, hypoglycaemia ac am resymau eraill cysylltiedig â diabetes, ymhlith plant a phobl ifanc gyda diabetes Math 1.

    Nodweddion DKA nid ar adeg y diagnosis

    Hypogly- caemia

    Derbyniadau diabetes eraill

    Merched o’i gymharu â bechgyn

    Rhai’n byw mewn ardaloedd difreintiedig o’i gymharu â rhai’n byw yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig

    Rhai dan 5 oed

    Rhai dros 5 oed

    Rhai gyda HbA1c o dros 80 mmol/mol

    Rhai gyda diabetes ers amser hirach (dros flwyddyn)

    Rhai’n defnyddio pwmp inswlin o’i gymharu â phigiadau inswlin

    Archwiliad Diabetes Pediatrig Cenedlaethol 2015-16

  • 22

    Gall eich clinig diabetes eich helpu i osgoi derbyn eich plentyn i’r ysbyty drwy:

    Darparu addysg ar sut i hunan-reoli’r diabetes pan fydd eich plentyn yn sâl (‘rheolau diwrnodau sâl) a sut i osgoi neu drin hypoglycaemia.

    Darparu mynediad 24 awr at gyngor arbenigol ar ddiabetes.

    Darparu cynllun gofal unigol er mwyn sicrhau’r lefel HbA1c gorau posib.

    Mae’r NPDA wedi creu offeryn adrodd ar-lein – Canlyniadau NPDA Ar-lein – i’w gwneud yn haws i rieni, pobl ifanc gyda diabetes a chlinigwyr i gymharu’r gofal a roddir gan eu clinig gyda’r gofal a roddir gan glinigau eraill yn yr ardal neu’r wlad.

    Mae Canlyniadau NPDA Ar-lein yn golygu y gallwch:

    Gwirio perfformiad eich clinig

    Gweld a lawrlwytho adroddiad cryno blynyddol ar berfformiad eich clinig.

    Gweld a chymharu canlyniadau mesuriadau archwiliadau NPDA penodol, fel canlyniadau HbA1c, archwiliadau Sgrinio Llygad a pherfformiad ar ddarparu Addysg Ffurfiol.

    Archwiliad Diabetes Pediatrig Cenedlaethol 2015-16

  • 23

    Cael gafael ar ddata gan eich clinigEwch i’r wefan Canlyniadau NPDA yn:

    http://npda-results.rcpch.ac.uk

    Mae gan y dudalen gartref wybodaeth gefndir am y NPDA a mynediad i’r Adroddiad Cenedlaethol.

    Mae adroddiadau blynyddol ar gyfer pob clinig ar gael rhwng 2014-15 a 2015-16.

    Gallwch weld sut y perfformiodd pob clinig, ardal a Grŵp CCG / Bwrdd LHB unigol yn erbyn mesuriadau archwiliadau unigol rhwng 2014-15 a 2015-16.

    Gallwch weld sut y perfformiodd eich darparwr gofal o’i gymharu â darparwyr gofal eraill.

    Am fwy o wybodaeth am sut i ddefnyddio Canlyniadau NPDA Ar-lein, ewch i wefan yr NPDA lle gallwch lawrlwytho canllaw i ddefnyddwyr.

    Archwiliad Diabetes Pediatrig Cenedlaethol 2015-16

  • 24

    • Mynegai Mas y Corff (BMI) Mae hwn yn mesur maint person ar sail eu pwysau a’u taldra. Fe’i defnyddir i benderfynu a yw rhywun yn bwysau iach ar gyfer eu taldra.

    • Colesterol Sylwedd brasterog sy’n hanfodol i’r corff weithio’n iawn. Mae lefelau uchel o golesterol yn gallu effeithio ar iechyd.

    • Clefyd coeliag Clefyd awto-imiwn (sy’n golygu bod y system imiwnedd yn ymosod mewn camgymeriad ar feinwe iach yn y corff) a achosir gan adwaith y perfedd i glwten.

    • Glwcos Siwgr gwaed sy’n gweithio fel y brif ffynhonnell egni i’r corff.

    • Partneriaeth Gwella Ansawdd Gofal Iechyd (HQIP) Corff annibynnol a sefydlwyd i hyrwyddo ansawdd mewn gofal iechyd, i gynyddu’r effaith y mae archwiliadau clinigol yn ei gael ar wella ansawdd gofal iechyd.

    • Archwiliadau gofal iechyd pwysig Dyma’r gwahanol fesuriadau y dylai gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eu cymryd fel rhan o ofalu am rai gyda diabetes.

    • Cetonau Cemegion gwenwynig a gynhyrchir pan fydd y corff yn torri braster i lawr yn ynni’n hytrach na glwcos oherwydd diffyg inswlin.

    GeirfaArchwiliad Diabetes Pediatrig Cenedlaethol 2015-16

  • 25

    • NICE Mae’r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) yn darparu canllawiau ac iechyd cenedlaethol i wella iechyd a gofal cymdeithasol.

    • Rhaglen Addysg Ffurfiol Rhaglen o addysg ar sut i hunan-reoli diabetes, wedi’i deilwrio i anghenion y plentyn neu’r person ifanc a’i deulu ef neu ei theulu hi, ar yr adeg y gwneir y diagnosis cychwynnol ac yn barhaus drwy gydol yr amser y bydd y plentyn neu’r person ifanc yn mynychu’r clinig diabetes. Cynigir y rhaglen hon yn ychwanegol at yr addysg a roddir yn y sesiynau ymgynghori rheolaidd i gleifion allanol.

    • Clefyd thyroid Clefyd lle mae’r thyroid yn cynhyrchu naill ai gormod neu ddim digon o hormon.

    • Albwmin wrinol Prawf wrin i wirio am bresenoldeb protein o’r enw albwmin. Mae rhywfaint o albwmin yn gollwng i’r wrin pan fydd niwed i’r arennau. Felly gellir defnyddio albwmin wrinol fel prawf o glefyd yr arennau.

    Archwiliad Diabetes Pediatrig Cenedlaethol 2015-16

  • Adnoddau eraillOs oes gennych gwestiynau am ofal eich plentyn, cofiwch gael gair â’ch darparwr gofal iechyd a’ch tîm diabetes.

    Mae mwy o wybodaeth am reoli diabetes, derbyn cymorth ac archwiliadau clinigol ar gael drwy fynd i’r gwefannau canlynol:

    • Cymdeithas Deietegwyr y DU: www.bda.uk.com

    • Plant gyda Diabetes: www.childrenwithdiabetesuk.org

    • Rhwydwaith Diabetes Plant a Phobl Ifanc: www.cypdiabetesnetwork.nhs.uk

    • Diabetes (math 1 a math 2) mewn plant a phobl ifanc: diagnosis a rheoli: https://www.nice.org.uk/guidance/ng18

    • Diabetes UK: www.diabetes.org.uk

    • Teuluoedd gyda Diabetes: www.familieswithdiabetes.co.uk

    • Y Bartneriaeth Gwella Ansawdd Iechyd: www.hqip.org.uk

    • Sefydliad Ymchwil i Ddiabetes mewn Pobl Ifanc: www.jdrf.org.uk

    • Addysg am ddiabetes Math 1: www.type1diabetestraining.co.uk

    • Gwasanaeth cymorth diabetes i bobl ifanc: www.upbete.co.uk

    • GIG Digidol: www.digital.nhs.uk

    • Cymdeithas Clinigwyr Diabetes Plant: www.a-c-d-c.org

    Prosesu teg Nid oes angen caniatâd ysgrifenedig i gyflwyno data am gleifion i’r archwiliad. Fodd bynnag mae gan gleifion yr hawl i ddewis peidio â bod yn un o’r rhai y cyflwynir data amdanynt a dylent siarad â’u tîm diabetes os nad ydynt am gael eu cynnwys.

    Ymwadiad Defnyddir pob delwedd yn yr adroddiad hwn i bwrpas enghreifftiol yn unig. Mae unrhyw berson a ddangosir yn y cynnwys yn fodel, nid oes ganddynt unrhyw berthynas na chysylltiad â RCPCH na chwaith ag unrhyw agwedd ar ofal iechyd corfforol.

    26

    Archwiliad Diabetes Pediatrig Cenedlaethol 2015-16

  • 27

    NodiadauArchwiliad Diabetes Pediatrig Cenedlaethol 2015-16

  • Y Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant,5-11 Theobalds Road, London, WC1X 8SH

    Mae’r Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant (RCPCH) yn elusen sydd wedi’i chofrestru yng Nghymru a Lloegr (1057744) ac yn yr Alban (SC038299)