24
BEST Prospectus Prospectws BEST 2014 2015 BEST, Welsh School of Architecture, 55 Park Place, Cardiff University, CF10 3AT BEST, Ysgol Bensaernïaeth Cymru, 55 Plas-y-Parc, Prifysgol Caerdydd, CF10 3AT Image / Llun: Charles Hosea 029 208 70990 [email protected] @best_wales www.best.cf.ac.uk

Best prospectus _V2

  • Upload
    best

  • View
    227

  • Download
    4

Embed Size (px)

DESCRIPTION

Sustainability Training in Wales, supported by the European Social Fund through the Welsh Government to deliver training until July 2015.

Citation preview

Page 1: Best prospectus _V2

BE

ST

Pro

spectus

Pro

spectw

s BE

ST

20

14

— 2

01

5

BE

ST, W

elsh Scho

ol o

f A

rchitecture, 55

Park P

lace, C

ardiff

University,

CF1

0 3

AT

BES

T, Ysgol B

ensaernïaeth C

ymru, 5

5 P

las-y-Parc,

Prifysgo

l Caerdydd,

CF1

0 3

AT

Imag

e / Llun: Charles H

osea

02

9 2

08

70

99

0

best@

cf.ac.uk@

best_w

alesw

ww

.best.cf.ac.uk

Page 2: Best prospectus _V2

02 BEST ProspectusProspectws BEST2014 — 2015

02

Page 3: Best prospectus _V2

Welcome to BEST

If you work in the built environment sector, you know these are challenging, but exciting times. BEST (Built Environment Sustainability Training) is here to help you meet those challenges by bringing you up to speed with the latest technologies, techniques and regulations in your field.

Our subsidised, accredited courses are delivered in a range of flexible, innovative ways – at times and places to suit you.

Drawing on academic expertise in the Welsh School of Architecture at Cardiff University, and delivered by leading training providers, BEST’s courses deliver transferable qualifications and skills in new technologies, applications and processes that will boost your prospects, help your company’s profitability, future-proof the built environment and enhance Wales’ reputation as the frontrunner of sustainability in the UK and EU.

The courses are available to professionals in disciplines across the built environment sector, either living or working in one of the Convergence areas of Wales. We are especialy keen to involve women and people over 50.

Cardiff University’s Welsh School of Architecture is the lead sponsor, working with The Building Futures Group, CITB, Constructing Excellence in Wales, the Energy Saving Trust, Proskills and Summit Skills.

I hope this prospectus will help you identify the course or courses that are right for you, but if you have any questions, please visit our website or contact a member of the BEST team.

I look forward to seeing you on a BEST course and reaping the benefits for yourself, your business and for Wales.

Dr Julie GwilliamDirector, BEST

Croeso i BEST

Os ydych chi’n gweithio yn y sector amgylchedd adeiledig, fe wyddoch fod y cyfnod hwn yn un llawn heriau, ond cyffrous. Mae BEST (Hyfforddiant Cynaladwyedd yr Amgylchedd Adeiledig) yma i’ch helpu i wynebu’r heriau hynny trwy wneud yn siŵr eich bod yn gyfarwydd â’r technolegau, technegau a rheoliadau diweddaraf yn eich maes.

Mae ein cyrsiau achrededig â chymhorthdal yn cael eu darparu mewn amryw o ffyrdd arloesol a hyblyg – mewn mannau hwylus pan mae’n gyfleus ichi.

Mae cyrsiau BEST, sy’n elwa ar arbenigedd academaidd Ysgol Bensaernïaeth Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd ac sy’n cael eu darparu gan ddarparwyr hyfforddiant blaenllaw, yn cynnig cymwysterau a sgiliau trosglwyddadwy mewn technolegau, cymwysiadau a phrosesau newydd a fydd yn hybu eich rhagolygon, yn gwneud eich cwmni’n fwy proffidiol, yn sicrhau dyfodol yr amgylchedd adeiledig ynghyd â gwella enw da Cymru fel arweinydd cynaladwyedd yn y DG a’r UE.

Mae’r cyrsiau ar gael i bobl broffesiynol mewn disgyblaethau ar draws y sector amgylchedd adeiledig sydd naill ai’n byw neu’n gweithio yn un o’r ardaloedd Cydgyfeirio yng Nghymru. Rydym yn arbennig o awyddus gweld menywod a phobl dros 50 oed yn cymryd rhan.

Ysgol Bensaernïaeth Cymru Prifysgol Caerdydd yw’r noddwr arweiniol; mae’n gweithio gyda Grŵp Dyfodol Adeiladu, Adeiladu Arbenigrwydd yng Nghymru, Construction Skills, yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni, Proskills, a Summit Skills.

Rwy’n gobeithio y bydd y prosbectws hwn yn eich helpu i gael hyd i’r cwrs neu gyrsiau sy’n addas i chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, ewch i’n gwefan neu cysylltwch ag aelod o dîm BEST.

Edrychaf ymlaen at eich gweld ar un o gyrsiau BEST lle byddwch yn elwa ar y manteision i chi eich hunan, i’ch busnes ac i Gymru.

Dr Julie GwilliamCyfarwyddwr, BEST

03Intro

ductio

n Cyflw

yniad

Page 4: Best prospectus _V2

04 1 Isle of Angelsey2 Conwy3 Denbighshire4 Gwynedd5 Ceredigion6 Pembrokeshire7 Carmarthenshire8 Swansea9 Neath Port Talbot

2

1

3

4

5

6 7

89

10

11

1213

14

15

04 Convergence Area MapMap Ardal Gydgyfeirio yng Nghymru

10 Bridgend11 Rhondda Cynon Taf12 Merthyr Tydfil13 Blaenau Gwent14 Caerphilly15 Torfaen

04

Page 5: Best prospectus _V2

BEST is supported by the European Social Fund through the Welsh Government to deliver training until July 2015. Cardiff University’s Welsh School of Architecture is the lead sponsor, working with The Building Futures Group, CITB, Constructing Excellence in Wales, the Energy Saving Trust, Proskills and Summit Skills.

How to use this prospectusThe prospectus is a catalogue of courses offered through the BEST programme. They are divided into three sections: Design and Plan; Build; and Manage and Use, as well as two introductory courses. Each course entry includes a brief description, its level, the number of credits it carries, and the number of hours involved.

Information about when and where courses are run, and how to apply, are included in a separate insert. If there is no insert with this copy of the prospectus, please visit www.best.cf.ac.uk or contact the BEST office 029 2087 0990 or [email protected]

Locations, funding and how to applyBEST courses are delivered at various locations and times, including by distance learning and online. For details, please see the insert accompanying this prospectus.

All BEST training is fully funded for those who work in the private sector and live or work within the Convergence Area in Wales (see map). The Convergence Area includes 15 local authorities: Isle of Anglesey, Conwy, Denbighshire, Gwynedd, Ceredigion, Pembrokeshire, Carmarthenshire, Swansea, Neath Port Talbot, Bridgend, Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tydfil, Blaenau Gwent, Caerphilly and Torfaen. If you are unsure whether you are eligible for the funded training please contact us, and we will be happy to advise

Details of specific funding available and how to apply for each course is on the insert, or can be obtained from the BEST office.

www.best.cf.ac.uk 029 2087 [email protected] @best_wales

Caiff BEST gymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru i gyflwyno hyfforddiant tan fis Gorffennaf 2015. Ysgol Bensaernïaeth Cymru Prifysgol Caerdydd yw’r noddwr arweiniol; mae’n gweithio gyda Grŵp Dyfodol Adeiladu, Adeiladu Arbenigrwydd yng Nghymru, Construction Skills, yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni, Proskills, a Summit Skills.

Sut i ddefnyddio’r prosbectws hwnMae’r prosbectws yn gatalog o gyrsiau sy’n cael eu cynnig trwy raglen BEST. Cafodd y rhain eu rhannu’n dair adran: Dylunio a Chynllunio; Adeiladu; a Rheoli a Defnyddio, yn ogystal â dau gwrs rhagarweiniol. Mae cofnod pob cwrs yn cynnwys disgrifiad byr, ei lefel, nifer y credydau sydd ganddo, a nifer yr oriau y mae’n rhaid eu neilltuo.

Mae gwybodaeth am ddyddiadau ac amserau pob cwrs, a sut i wneud cais, ar gael mewn mewnosodiad ar wahân. Os nad yw’r copi hwn o’r prosbectws yn cynnwys mewnosodiad, byddwch cystal â mynd i www.best.cf.ac.uk neu gysylltu â swyddfa BEST ar 029 2087 0990 neu [email protected]

Lleoliadau, ariannu a sut i wneud caisMae cyrsiau BEST ar gael mewn gwahanol leoliadau ac ar adegau gwahanol, gan gynnwys dysgu o bell ac ar-lein. Mae’r manylion ar gael yn y mewnosodiad sydd gyda’r prosbectws hwn.

Mae holl hyfforddiant BEST yn hollol ddi-dâl i’r sawl sy’n gweithio yn y sector preifat ac sy’n byw neu’n gweithio yn yr Ardal Gydgyfeirio yng Nghymru (gweler y map). Mae’r Ardal Gydgyfeirio yn cynnwys 15 o awdurdodau lleol: Ynys Môn, Conwy, Sir Ddinbych, Gwynedd, Ceredigion, Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin, Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, Pen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful, Blaenau Gwent, Caerffili a Thorfaen. Os ydych chi’n ansicr a ydych yn gymwys ar gyfer yr hyfforddiant wedi’i ariannu, byddwch cystal â chysylltu â ni a byddwn yn falch eich helpu.

Bydd y manylion am ariannu penodol yn y mewnosodiad, neu gallwch gysylltu â swyddfa BEST (geler uchod).

www.best.cf.ac.uk 029 2087 [email protected] @best_wales

05Intro

ductio

n Cyflw

yniad

Page 6: Best prospectus _V2

06 BEST ProspectusProspectws BEST2014 — 2015

06

Page 7: Best prospectus _V2

Equality and Diversity

BEST is encouraging Wales’ built environment sector employers to take up ‘The Challenge’ and commit to making positive changes to create a more inclusive working environment.

BEST is committed to promoting equality and embracing diversity in all of its practices and activities. We guarantee equality of opportunity for all, regardless of age; disability; gender reassignment; marriage and civil partnership; pregnancy and maternity; race; religion or belief; sex; or sexual orientation.

When you sign up to the BEST E&D Challenge, you will receive a number of free benefits to include:

— An assessment of your equal opportunity policies— A programme of one-to-one support — Advice and staff training— Help to develop equality in your organisation, regardless of starting point.

Public sector construction contracts are worth more than £37bn per year UK wide, this is a considerable 38% of all construction output.

Despite a Government pledge that at least 25% of all Central Government contracts should be awarded to small and medium sized businesses by 2015, many SME construction firms are finding it tough to win public sector work.

A strong starting point is to put policy and procedures in place to demonstrate transparency, equity and inclusive working practices that contribute to a working environment based on respect and dignity. We can help you demonstrate this to the public sector client, or main contractor, to show that you have met or are working towards meeting their required standards.

Good performance in this area can assist you when completing any pre-qualification questionnaires (PQQ), or completing the Supplier Qualification Information Database on sell2wales.

Public sector buyers are looking for performance in the following key areas: a company who can assist them in meeting targets linked to equality and diversity; a company that can maintain a positive and appropriate public image and legal compliance.

If you would like to take up the BEST employer challenge, and for free advice and support, contact us on: 029 2087 0990, email [email protected] or visit www.best.cf.ac.uk

07 Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae BEST yn annog cyflogwyr yn sector yr amgylchedd adeiledig yng Nghymru i ymgymryd â’r ‘Her’ ac ymrwymo i wneud newidiadau cadarnhaol i greu amgylchedd gwaith mwy cynhwysol.

Mae BEST yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb a chofleidio amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym ni’n gwarantu cydraddoldeb cyfle i bawb, heb ystyried oedran; anabledd; ailbennu rhywedd; priodas a phartneriaeth sifil; beichiogrwydd a mamolaeth; hil; crefydd neu gred; rhyw; neu dueddfryd rhywiol.

Pan fyddwch chi’n ymuno â Her Cydraddoldeb ac Amrywiaeth BEST, byddwch chi’n derbyn nifer o fanteision am ddim gan gynnwys:

— Asesiad o’ch polisïau cyfle cyfartal— Rhaglen o gymorth un i un— Cyngor a hyfforddiant i staff— Cymorth i ddatblygu cydraddoldeb yn eich sefydliad, beth bynnag yw eich man cychwyn.

Mae contractau adeiladu’r sector cyhoeddus werth dros £37bn y flwyddyn ar draws y DU. Mae hyn yn cyfrif am gyfran sylweddol, 38%, o’r holl gynnyrch adeiladu.

Er gwaethaf addewid y Llywodraeth y dylid dyfarnu o leiaf 25% o holl gontractau’r Llywodraeth Ganolog i fusnesau bach a chanolig erbyn 2015, mae llawer o fusnesau adeiladu o’r math hwn yn ei chael yn anodd sicrhau gwaith adeiladu sector cyhoeddus.

Man cychwyn cryf yw sefydlu polisi a gweithdrefnau i ddangos tryloywder, cydraddoldeb ac arferion gwaith cynhwysol sy’n cyfrannu at amgylchedd gwaith sy’n seiliedig ar barch ac urddas. Gallwn eich helpu chi i ddangos hyn i’r cleient sector cyhoeddus, neu’r prif gontractwr, i ddangos eich bod yn bodloni, neu yn gweithio at fodloni eu safonau gofynnol.

Gall perfformiad da yn y maes hwn eich cynorthwyo wrth gwblhau unrhyw holiaduron cyn-gymhwyso, neu gwblhau’r Gronfa Ddata Gwybodaeth Cymhwyster Cyflenwr ar GwerthwchiGymru.

Mae prynwyr yn y sector cyhoeddus yn edrych am berfformiad yn y meysydd allweddol canlynol: cwmni a all eu cynorthwyo i gwrdd â thargedau’n gysylltiedig â chydraddoldeb ac amrywiaeth; cwmni a all gynnal delwedd gyhoeddus gadarnhaol a phriodol a chydymffurfiaeth gyfreithiol.

Os hoffech chi ymgymryd â her cyflogwyr BEST, ac i gael cyngor a chymorth am ddim, cysylltwch â ni ar: 029 2087 0990, ebostiwch [email protected] neu ewch i www.best.cf.ac.uk

Introd

uction C

yflwyniad

Page 8: Best prospectus _V2

0808 BEST ProspectusProspectws BEST2014 — 2015

Page 9: Best prospectus _V2

Introductory

The ‘green’ economy in Wales is significant and growing. Commercial opportunities and increasing competition is driving the need for companies to develop their sustainability capabilities. BEST’s Introductory Courses are designed to raise awareness of sustainable practice and technologies and emerging business opportunities among the professional built environment workforce; encouraging the adoption of new and more sustainable ways of working.

Who is this training for?These courses are designed for anyone with an interest in the broad issues of sustainability in the built environment, the business benefits of the ‘green economy’ and an introduction to BIM across the sector. They are suitable to all construction and design professionals and all relevant professionals throughout the supply chain.

Sustainability in the built environmentThis awareness-raising module will help participants to understand how new technologies and sustainable practices can help their businesses develop. It will focus on the five key themes of the BEST Programme and will provide a pathway into the accredited training courses.

Level: IntroductorySelf-directed on-line

An introduction to building information modelling (BIM) This course has been designed to increase awareness and understanding of BIM across all three stages of the construction process: Design and Plan, Build, Manage and Use. The course will focus on the five key research themes of the BEST Programme: construction, energy, existing build, water and waste; and will provide a pathway into the accredited courses.

CQFW Level: 320 hours / 2 credits

Co

urses Cyrsiau

09 Rhagarweiniol

Mae’r economi ‘gwyrdd’ yng Nghymru yn bwysig ac yn tyfu. Oherwydd cyfleoedd masnachol a mwy o gystadleuaeth, mae cwmnïau’n gorfod rhoi mwy o bwyslais ar gynaladwyedd. Nod Cyrsiau Rhagarweiniol BEST yw codi ymwybyddiaeth y bobl broffesiynol ym maes amgylchedd adeiledig o arferion a thechnolegau cynaladwy a chyfleoedd newydd i fusnesau er mwyn eu cymell i ddefnyddio ffyrdd newydd o weithio sy’n fwy cynaladwy.

Ar gyfer pwy mae’r hyfforddiant hwn? Mae’r cyrsiau hyn ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb mewn cynaladwyedd yn gyffredinol yn yr amgylchedd adeiledig. Maent yn ymwneud â buddion yr ‘economi gwyrdd’ i fusnesau a chyflwyno Modelu Gwybodaeth Adeiladu (BIM) ar draws y sector. Maent yn addas i’r holl bobl broffesiynol ym maes adeiladu a dylunio a’r holl bobl broffesiynol perthnasol ledled y gadwyn gyflenwi.

Cynaladwyedd yn yr amgylchedd adeiledigBydd y modiwl codi-ymwybyddiaeth yn helpu cyfranogwyr i ddeall sut gall technolegau newydd ac arferion cynaladwy helpu eu busnesau i ddatblygu. Bydd yn canolbwyntio ar bump o themâu Rhaglen BEST a bydd yn fodd i arwain at gyrsiau hyfforddi achrededig.

Lefel: y manylion i’w cadarnhauHunangyfeiriedig ar-lein

Cyflwyniad i fodelu gwybodaeth adeiladu (BIM) Amcan y cwrs hwn yw codi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o BIM ar draws pob un o’r tri cham yn y broses adeiladu: Dylunio a Chynllunio; Adeiladu; a Rheoli a Defnyddio. Bydd y cwrs yn canolbwyntio ar bum thema ymchwil allweddol Rhaglen BEST: adeiladu, ynni, adeiladau presennol, dŵr a gwastraff; a bydd yn darparu llwybr at y cyrsiau achrededig.

CFQW Lefel: 320 awr / 2 gredyd

Page 10: Best prospectus _V2

01010 BEST ProspectusProspectws BEST2014 — 2015

Page 11: Best prospectus _V2

Design and Plan

Choices made at the Design and Plan stage of developments will have significant consequences for the long term sustainability of the built environment. The sustainable design and plan of new buildings not only helps to minimise carbon emissions and raw material use, it can create a built environment that is more sustainable and resilient for the future.

Who is this training for?These courses will be suitable for all design and construction professionals including: architects, building services engineers, civil engineers, , chartered surveyors, contractors, designers, ecologists, environmental professionals, estate managers, green deal providers, housing managers, landlords, landscape architects, land owners, sustainability officers, urban designers and all relevant professionals throughout the supply chain.

Air tightness and active moisture managementThe course is designed to outline and detail the vital role air tightness plays in the design of low energy and low carbon constructions for construction and design professionals.

CQFW Level: 4 50 hours / 5 credits

Sustainable architecture: retrofitting for climate change adaptation The course will enable participants to apply the techniques of low carbon design and energy efficiency to retrofit projects identified using key performance indicators (KPIs) to maximise the impact of sustainable design.

CQFW Level: 520 hours / 2 credits*

Sustainable architecture: the sustainability jigsaw and how it affects youThis course will enable participants to manage and prioritise legislative and regulatory requirements, giving an understanding of the role of planning, BREEAM, Building Regulations and The Code for Sustainable Homes in the construction process.

CQFW Level: 520 hours / 2 credits*

Dylunio a Chynllunio

Bydd y dewisiadau a wneir yn ystod y cam Dylunio a Chynllunio yn cael dylanwad pwysig ar gynaladwyedd hirdymor yr amgylchedd adeiledig. Mae dylunio a chynllunio adeiladau newydd yn gynaladwy nid yn unig yn helpu i leihau allyriadau carbon a’r defnydd o ddefnyddiau crai, ond gall hefyd greu amgylchedd adeiledig sydd yn fwy cynaladwy ac yn gryfach ar gyfer y dyfodol.

Ar gyfer pwy mae’r hyfforddiant hwn? Amcanwyd y cyrsiau hyn ar gyfer yr holl bobl broffesiynol ym maes dylunio ac adeiladu, gan gynnwys: penseiri, peirianwyr gwasanaethau adeiladu, peirianwyr sifil, syrfewyr siartredig, contractwyr, dylunwyr, ecolegwyr, gweithwyr amgylcheddol proffesiynol, rheolwyr ystadau, darparwyr y fargen werdd, rheolwyr tai, landlordiaid, penseiri tirwedd, perchnogion tir, swyddogion cynaladwyedd, dylunwyr trefol a’r holl weithwyr proffesiynol perthnasol drwy’r gadwyn gyflenwi gyfan.

Aerdyndra a rheoli lleithder yn weithredol Nod y cwrs hwn ar gyfer Pobl Broffesiynol ym Maes Adeiladu a Dylunio yw amlinellu a manylu ynghylch y rhan allweddol sydd gan aerdyndra wrth ddylunio adeiladau ynni isel a charbon isel .

CFQW Lefel: 450 awr / 5 credyd

Pensaernïaeth gynaladwy: ôl-osod wrth addasu ar gyfer newid yn yr hinsawdd Bydd y cwrs yn galluogi cyfranogwyr i ddefnyddio technegau dylunio carbon isel ac effeithlonrwydd ynni ar gyfer prosiectau ôl-osod a defnyddio dangosyddion perfformiad allweddol i wneud y gorau o ddylunio cynaladwy.

CFQW Lefel: 520 awr / 2 credyd*

Pensaernïaeth gynaladwy: Jig-so cynaladwyedd a’r effaith arnoch chiBydd y cwrs hwn yn galluogi cyfranogwyr i reoli a blaenoriaethu gofynion deddfwriaethol a rheolaethol, ac yn rhoi dealltwriaeth o swyddogaeth cynllunio, BREEAM, Rheoliadau Adeiladu a’r Cod Cartrefi Cynaladwy yn y broses adeiladu.

CFQW Lefel: 520 awr / 2 credyd*

*There are 6 Sustianable Architecture Courses: Study of 2 of these subjects contributes to the achievement of this module.

*Ceir 6 Chwrs Pensaernïaeth Gynaliadwy: mae astudio 2 o’r pynciau hyn yn cyfrannu at gyflawni’r modiwl hwn.

11C

ourses C

yrsiau

Page 12: Best prospectus _V2

01212 BEST ProspectusProspectws BEST2014 — 2015

Page 13: Best prospectus _V2

13 Design and Plan

Sustainable architecture: Passivhaus and other systemsFocusing on detailing aspects of Passivhaus design: glazing and shading, airtightness, orientation, ventilation etc., this course will give participants an understanding of the Passivhaus approach to design and its use in the UK.

CQFW Level: Level 520 hours / 2 credits*

Sustainable architecture: refurbishment and performance for pre-1919 buildingsThis course will focus on current and proposed legislative frameworks and their practical use in Wales, focusing on Cadw’s conservation principles, policies and guidance and with reference to variations in English Heritage’s approach.

CQFW Level: 520 hours / 2 credits*

Sustainable architecture: the place of homeThis course will demonstrate to participants an awareness of different approaches and models of sustainable communities, the impact of low-carbon design and the principles of urban design and the qualities of successful places.

CQFW Level: 520 hours / 2 credits*

Whole-life costing procurement and contractsSet in the context of the Sustainable Development remit of the Welsh Government and its impact on the design and construction sctors, this course will describe the principles and benefits of a whole life costing approach, distinguishing between initial costs, future costs over the life of the built asset and opportunity costs.

CQFW Level: 520 hours / 2 credits*

Planning for community and neighbourhood-scale renewable energyThe course is designed to provide planners and architects with an understanding of the requirements and issues around community-scale renewable energy developments so that they may better engage with developers, engineers and communities.

CQFW Level: 4Hours / Credits tbc

Dylunio a Chynllunio

Pensaernïaeth gynaladwy: passivhaus a systemau eraillYn canolbwyntio ar agweddau ar ddylunio Passivhaus: gwydro a chysgodi, aerdyndra, cyfeiriadedd, awyru, etc.; bydd y cwrs hwn yn rhoi dealltwriaeth o ddylunio Passivhaus a’r defnydd ohono yn y DG.

CFQW: Lefel: 520 awr / 2 credyd*

Adnewyddu adeiladau a godwyd cyn 1919 a’u perfformiadBydd y cwrs hwn yn canolbwyntio ar fframweithiau deddfwriaethol cyfredol ac arfaethedig a’r defnydd ymarferol ohonynt yng Nghymru, gan ganolbwyntio ar egwyddorion cadwraethol, polisïau a chanllawiau Cadw, gyda golwg ar amrywiadau yn ymagwedd English Heritage.

CFQW: Lefel: 520 awr / 2 credyd*

Pensaernïaeth gynaladwy: y rhan sydd gan y cartref i’w chwaraeBydd y cwrs hwn yn tynnu sylw’r cyfranogion at ymwybyddiaeth o ymagweddau a modelau gwahanol gymunedau cynaladwy, effaith dylunio carbon isel ac egwyddorion dylunio trefol a rhagoriaethau lleoedd llwyddiannus.

CFQW: Lefel: 520 awr / 2 credyd*

Prisio, caffael a chontractau oes-gyfanLluniwyd y cwrs hwn yng nghyd-destun cylch gwaith Datblygu Cynaladwy Llywodraeth Cymru a’i effaith ar y sectorau dylunio ac adeiladu. Bydd yn disgrifio egwyddorion a buddion prisio ar gyfer oes gyfan, yn gwahaniaethu rhwng costau cychwynnol, costau’r dyfodol yn ystod oes gyfan adeilad a chostau cyfle.

CFQW: Lefel: 520 awr / 2 credyd*

Cynllunio ar gyfer ynni adnewyddadwy ar raddfa cymuned a chymdogaethNod y cwrs yw rhoi dealltwriaeth i gynllunwyr a phenseiri o ofynion a materion yn ymwneud â datblygiadau ynni adnewyddadwy ar raddfa cymuned fel bod modd iddynt ymgysylltu’n well â datblygwyr, peirianwyr a chymunedau.

CFQW: Lefel: 4Awr / Credydau: y manylion i’w cadarnhau

*There are 6 Sustianable Architecture Courses: Study of 2 of these subjects ccontributes to the achievement of this module.

*Ceir 6 Chwrs Pensaernïaeth Gynaliadwy: mae astudio 2 o’r pynciau hyn yn cyfrannu at gyflawni’r modiwl hwn.

Co

urses Cyrsiau

Page 14: Best prospectus _V2

01414 BEST ProspectusProspectws BEST2014 — 2015

Page 15: Best prospectus _V2

15 Design and Plan

Collaborating to deliver sustainable urban drainage and water-sensitive urban designThe course will develop the participant’s understanding and benefits of Sustainable Urban Drainage (SuDS) and Water Sensitive Urban Design (WSUD) approaches, multi-discipline design, planning aspects and community engagement.

CQFW Level: 420 Hours: 2 workshop sessions and self-directed online learning / Credits tbc

Green roofs concept and designThis course will outline the concept, design, operation and maintenance of green roofs, focusing on new build and retrofit systems.

CQFW Level: 41-2 days / Credits tbc

Integrated catchment managementThis course supports Catchment Management Plan approaches being taken by Dwr Cymry Welsh Water and Natural Resources Wales and will upskill designers and the supply chain working within this new regulatory approach.

CQFW Level: 3-41-2 days / credits tbc

Designing out wasteThe purpose of this course is to enable professional architects and allied staff to be able to successfully design out waste by understanding how to prevent waste at design levels, how to improve design through material choices and an understanding of resource efficiency.

CQFW Level: 4 20 hours / 2 credits

Design for deconstruction This course will enable participants to design for deconstruction relating to a building’s end of life, to reduce the water that the demolition of a building would create as well as assist in developing markets for more material reuse.

CQFW Level: 4 20 hours / 2 credits

Dylunio a Chynllunio

Cydweithredu i ddarparu draenio trefol a dylunio trefol cynaladwy gyda golwg ar ddŵrBydd y cwrs yn gwella dealltwriaeth y cyfranogwyr o Ddraenio Trefol Cynaladwy (SUDs) a Dylunio Trefol Gyda Golwg ar Ddŵr (WSUD), dylunio amlddisgyblaethol, agweddau ar gynllunio ac ymgysylltu â chymunedau.

CFQW Lefel: 420 Awr: Dau sesiwn gweithdy a dysgu ar-lein hunangyfeiriedig / Credydau: y manylion i’w cadarnhau

Y cysyniad o doeon gwyrdd a’u dyluniad Bydd y cwrs hwn yn amlinellu’r cysyniad o doeon gwyrdd ynghyd â’u dylunio, eu defnyddio a’u cynnal a chadw. Bydd yn canolbwyntio yn bennaf ar adeiladau newydd, ond bydd peth sylw yn cael ei roi i systemau ôl-osod.

CFQW Lefel: 41-2 diwrnod / Credydau: y manylion i’w cadarnhau

Rheoli dalgylch integredigMae’r cwrs hwn yn cefnogi dulliau Cynllun Rheoli Dalgylch Dŵr Cymru Welsh Water a Chyfoeth Naturiol Cymru a bydd yn cyfoethogi sgiliau dylunwyr a’r gadwyn gyflenwi sy’n gweithio o fewn y dull rheoleiddiol newydd hwn.

CFQW Lefel: 3-41-2 ddiwrnod / Credydau: y manylion i’w cadarnhau

Dylunio i osgoi gwastraffPwrpas y cwrs hwn yw galluogi penseiri proffesiynol a staff perthynol i ddylunio i osgoi gwastraff, sut i wella dylunio trwy gyfrwng y defnyddiau a ddewisir a deall effeithlonrwydd adnoddau.

CFQW Lefel: 420 awr / 2 credyd

Cyflwyniad i ddylunio dadelfennu Bydd y cwrs yn galluogi cyfranogwyr i ddylunio ar gyfer dadelfennu adeiladau sydd wedi cyrraedd diwedd eu hoes. Mae dadelfennu’n golygu dymchwel adeilad yn drefnus er mwyn lleihau’r gwastraff ac ailgylchu defnyddiau.

CFQW Lefel: 420 awr / 2 credyd

Co

urses Cyrsiau

Page 16: Best prospectus _V2

01616 BEST ProspectusProspectws BEST2014 — 2015

Page 17: Best prospectus _V2

17 Build

New products and techniques are helping to ensure that our built environment is constructed in the most efficient way, minimising waste and emissions at all stages of the construction process and throughout the building’s life. These courses will provide participants with technical knowledge and expertise to understand and implement environmental technologies on site.

Who is this training for?Courses within this category are suitable for all relevant professionals, skilled trades and clients, including: architects, building control officers, electricians, Energy Saving Trust advisors, facilities managers, Green Deal advisors and assessors, heating and ventilation engineers, plumbers and retrofit/ARBED installers.

Best practice in site waste managementThis course will raise awareness on how to better manage construction and demolition waste, addressing the legal responsibilities of waste and highlighting areas of cost savings and potential penalties. The course will provide an understanding of the benefits of developing site waste management plans, when one should be produced and any exceptions.

CQFW level 310 hours / 1 credit

Adeiladu

Mae cynhyrchion a thechnegau newydd yn ein helpu i wneud yn siŵr fod ein hamgylchedd adeiledig yn cael ei adeiladu yn y ffordd fwyaf effeithlon – trwy leihau gwastraff ac allyriadau ym mhob cam o’r broses a thrwy gydol oes yr adeilad. Bydd y cyrsiau hyn yn darparu gwybodaeth ac arbenigedd technegol er mwyn deall technolegau amgylcheddol a’u defnyddio ar safleoedd adeiladu.

Ar gyfer pwy mae’r hyfforddiant hwn? Mae cyrsiau yn y categori hwn yn addas ar gyfer yr holl bobl broffesiynol perthnasol, crefftwyr â sgiliau a chleientiaid, gan gynnwys: penseiri, swyddogion rheoli adeiladau, trydanwyr, ymgynghorwyr yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni, rheolwyr cyfleusterau, ymgynghorwyr ac aseswyr y Fargen Werdd, peirianwyr gwresogi ac awyru, plymwyr a gosodwyr ôl-osod/ARBED.

Arferion gorau ar gyfer rheoli gwastraff ar y safleBydd y cwrs hwn yn codi ymwybyddiaeth ynglŷn â sut i reoli gwastraff Adeiladu a Dymchwel yn well, mynd i’r afael â’r cyfrifoldebau cyfreithiol sy’n ymwneud â gwastraff, a thynnu sylw at ffyrdd o arbed costau a dirwyon posibl. Bydd y cwrs yn rhoi dealltwriaeth o fuddion datblygu cynlluniau rheoli gwastraff ar y safle, pryd y dylid cynhyrchu cynllun o’r fath ac unrhyw eithriadau.

CFQW Lefel: 310 awr / 1 credyd

Co

urses Cyrsiau

Page 18: Best prospectus _V2

01818 BEST ProspectusProspectws BEST2014 — 2015

Page 19: Best prospectus _V2

19 Manage and Use

Through BIM, architects, planners and designers can model, predict and measure the environmental impact of each component of a building, helping to impact on sustainability throughout the construction process.

On completion, modern buildings are designed to help their occupants minimise their energy use, or even generate their own renewable power that can be exported to the grid. The challenge with existing buildings is in ensuring that they are fit for current and future climatic and user requirements.

Who is this training for?Courses are designed for all relevant professionals throughout the supply chain, including: ARBED/Nest installers, architects, building control officers, building services engineers, civil engineers, consultants, contractors, designers, Green Deal providers, housing associations, landscape architects, planners, plumbers, sustainability consultants and water professionals

Water efficiency equipment: design and planTraining will enable participants to understand the benefits of water efficiency, promoting increased usage of water efficiency technologies at design and installation stages.

CQFW Level: 3-41 day / credits tbc

Water efficiency equipment: InstallationThis course aims to provide retrofitting water efficiency technology skills to enable contractors to install the appropriate water efficiency kit.

CQFW Level: 31 day / credits tbc

Introduction to smart water metersThis course will raise awareness among designers and contractors of the benefits of smart water meters – facilitating greater visibility of consumption and bill management.

CQFW Level: 22 hours / credits tbc

Rheoli a Defnyddio

Trwy gyfrwng BIM, gall penseiri, cynllunwyr a dylunwyr fodelu, rhagweld a mesur effaith amgylcheddol pob elfen o adeilad, er mwyn cyfrannu at gynaladwyedd trwy gydol y broses adeiladu.

Cafodd adeiladau modern eu dylunio er mwyn helpu eu deiliaid i ddefnyddio cyn lleied o ynni â phosibl, neu hyd yn oed i gynhyrchu eu pŵer adnewyddadwy eu hunain fel bod modd wedyn ei fwydo i’r grid. Yr her ynglŷn ag adeiladau sy’n bodoli yw gwneud yn siŵr eu bod yn addas ar gyfer gofynion yn ymwneud â’r hinsawdd a gofynion eraill nawr ac yn y dyfodol.

Ar gyfer pwy mae’r hyfforddiant hwn? Mae cyrsiau ar gael i’r holl bobl broffesiynol perthnasol ledled y gadwyn gyflenwi, gan gynnwys: penseiri, dylunwyr, cynllunwyr, peirianwyr sifil, dylunwyr tirlun, gosodwyr ARBED/Nest, peirianwyr gwasanaethau adeiladu, contractwyr, plymwyr, swyddogion rheoli adeiladu, darparwyr y Fargen Werdd, cymdeithasau tai, pobl broffesiynol yn y diwydiant dŵr a swyddogion ac ymgynghorwyr cynaladwyedd.

Cyfarpar effeithlonrwydd dŵr: dylunio a chynllunio Bydd yr hyfforddiant yn galluogi cyfranogwyr i ddeall manteision effeithlonrwydd dŵr, gan hyrwyddo defnydd cynyddol o dechnolegau effeithlonrwydd dŵr ar y camau dylunio a gosod.

CFQW Lefel: 3-41 diwrnod / credydau: y manylion i’w cadarnhau

Gosod cyfarpar effeithlonrwydd dŵr (technegol)Nod y cwrs hwn yw darparu sgiliau ar gyfer technoleg effeithlonrwydd dŵr wrth ôl-osod er mwyn galluogi contractwyr i osod y cyfarpar effeithlonrwydd dŵr priodol.

CFQW Lefel: 31 diwrnod / credydau: y manylion i’w cadarnhau

Cyflwyniad i fesuryddion dŵr clyfar Bydd y cwrs hwn yn codi ymwybyddiaeth ymhlith dylunwyr a chontractwyr o fuddion mesuryddion dŵr clyfar – sy’n ei gwneud yn haws gweld faint o ddŵr sy’n cael ei ddefnyddio, fel bod modd rheoli biliau’n well o’r herwydd.

CFQW Lefel: 22 awr / credydau: y manylion i’w cadarnhau

Co

urses Cyrsiau

Page 20: Best prospectus _V2

02020 BEST ProspectusProspectws BEST2014 — 2015

Page 21: Best prospectus _V2

Manage and Use

Low carbon leadership This course will enable professionals in the built environment sector to develop their low carbon skills and knowledge and will support a step change to be made in the way such individuals, communities and businesses use their buildings to ensure they become more sustainable and to reduce carbon emissions.

This course is comprised of a suite of 3 modules at CQFW level 4 Each module will comprise of 30 hours of learning. Module i: Influencing change Module ii: Facilitating the Low Carbon use and development of existing buildings Module iii: Facilitating low carbon design and construction CQFW Level:4Hours: 30 - 3 credits

Making BIM work for youThis course has been designed to help managers and professionals understand how BIM can support business processes enabling built environment professionals to make the case for BIM and integrate BIM into business planning.

CQFW Level: 4Hours / Credits tbc

BIM for facilities managersThe course is designed to introduce facilities mangers to the principles of BIM and how its use can improve delivery, performance and management of assets, highlighting the benefits for carbon management and sustainability.

CQFW Level: 33 days / Credits tbc

Understanding building energy performance and post-occupancy assessmentThe course will provide knowledge and understanding of energy use in non-domestic buildings. Specifically, participants will be able to better recognise where and how energy is being used in buildings they manage and be able to target reductions in a structured and methodical manner.

CQFW Level: 44 days / Credits tbc

Manage and Use

Arweinyddiaeth carbon isel Bydd y cwrs hwn yn galluogi pobl broffesiynol yn y sector amgylchedd adeiledig i ddatblygu eu sgiliau a gwybodaeth am garbon isel. Bydd hefyd yn ategu newid sylweddol yn y ffordd y mae unigolion, cymunedau a busnesau o’r fath yn defnyddio’u hadeiladau trwy wneud yn siŵr eu bod yn fwy cynaladwy a bod llai o allyriadau carbon.

Mae’r cwrs hwn yn cynnwys cyfres o 3 modiwl ar lefel 4. Bydd pob modiwl yn cynnwys 30 awr o ddysgu Modiwl i: Dylanwadu Newid Modiwl ii: Hwyluso defnydd a datblygiad Carbon Isel mewn adeiladau sydd eisoes yn bodoli Modiwl iii: Hwyluso Cynllunio ac Adeiladu Carbon isel CFQW Lefel: 4Oriau: 30 – 3 credyd

Gwneud BIM i weithio i chiLluniwyd y cwrs hwn i helpu rheolwyr a phobl broffesiynol i ddeall sut gall BIM helpu busnesau a galluogi pobl broffesiynol yn y sector amgylchedd adeiledig i ddadlau’r achos o blaid BIM a chynnwys BIM ym mhroses gynllunio busnesau.

CFQW Lefel: 4Oriau / Credydau: y manylion i’w cadarnhau

BIM ar gyfer rheolwyr cyfleusterauNod y cwrs yw cyflwyno rheolwyr cyfleusterau i egwyddorion BIM, dangos sut i’w ddefnyddio i wneud gwell defnydd o asedau, a thynnu sylw at y buddion o ran rheoli carbon a chynaladwyedd.

CFQW Lefel: 33 diwrnod / Credydau: y manylion i’w cadarnhau

Deall perfformiad ynni adeilad ac asesiad ôl-ddeiliadaethBydd y cwrs hwn yn darparu gwybodaeth a dealltwriaeth ynghylch defnyddio ynni mewn adeiladau annomestig. Yn benodol, bydd cyfranogwyr yn gallu canfod yn well lle a sut mae ynni’n cael ei ddefnyddio yn yr adeiladau sy’n cael eu rheoli ganddynt. Gallant hefyd fod yn fwy trefnus ac effeithiol wrth fynd ati i arbed ynni.

CFQW Lefel: 44 diwrnod / Credydau: y manylion i’w cadarnhau

21C

ourses C

yrsiau

Page 22: Best prospectus _V2

022 BEST ProspectusProspectws BEST2014 — 2015

22

Page 23: Best prospectus _V2

The Credit and Qualifications Framework for Wales (CQFW)

The Qualifications and Credit Framework (QCF) is part of the wider Credit and Qualifications Framework for Wales (CQFW). These frameworks allow people and organisations to compare all types of qualifications and learning achievements at all levels. The CQFW is endorsed by the Welsh Government. This means that any qualification within the framework has been through a quality-assurance process to make sure it meets a set standard

You can find out more about the Credit and Qualifications Framework for Wales by visiting the website at www.cqfw.net

Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru (CQFW)

Mae’r Fframwaith Credydau a Chymwysterau (QCF) yn rhan o Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru (CQFW). Mae’r fframweithiau hyn yn galluogi pobl a sefydliadau i gymharu pob math o gymwysterau a chyflawniadau dysgu ar bob lefel. Mae CQFW yn cael ei gefnogi gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. Mae hyn yn golygu fod unrhyw gymhwyster oddi mewn i’r fframwaith wedi bod trwy broses sicrwydd ansawdd i wneud yn siŵr ei fod yn bodloni safon benodol.

Mae rhagor o fanylion am Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru ar y wefan yn www.cqfw.net

23C

ourses C

yrsiau

Page 24: Best prospectus _V2

024

www.best.cf.ac.uk