35
Canllawiau rheoli perfformiad

Canllawiau rheoli perfformiad

  • Upload
    linore

  • View
    61

  • Download
    3

Embed Size (px)

DESCRIPTION

Canllawiau rheoli perfformiad. Rheoli perfformiad Rhan Ch: gwerthuseion. Cyflwyniad i’r rheoliadau rheoli perfformiad diwygiedig Ionawr 2011 a rôl y gwerthusai (i’w rhoi ar waith erbyn Ionawr 2013). Amcanion y sesiwn. - PowerPoint PPT Presentation

Citation preview

Page 1: Canllawiau rheoli perfformiad

Canllawiau rheoli perfformiad

Page 2: Canllawiau rheoli perfformiad

Rheoli perfformiadRhan Ch: gwerthuseion

Cyflwyniad i’r rheoliadau rheoli perfformiad diwygiedig Ionawr 2011 a rôl y gwerthusai

(i’w rhoi ar waith erbyn Ionawr 2013)

Page 3: Canllawiau rheoli perfformiad

Amcanion y sesiwn• Deall gofynion y rheoliadau diwygiedig a sut i’w

rhoi ar waith yn effeithiol.

• Adolygu rôl rheoli perfformiad wrth godi safonau yn eich ysgol.

• Adolygu sut mae rheoli perfformiad wedi’i wreiddio yng nghyd-destun ehangach prosesau gwella’r ysgol.

• Adolygu gweithredu’r broses rheoli perfformiad, gan gynnwys rolau a chyfrifoldebau’r rhai sy’n rhan ohoni.

• Deall rôl y gwerthusai.

Page 4: Canllawiau rheoli perfformiad

Atgrynhoi a throsolwg o’r gofynion rheoli perfformiad

diwygiedig

Page 5: Canllawiau rheoli perfformiad

Gofynion diwygiedigAmserlen • Rheoliadau diwygiedig a gyflwynwyd ym mis Ionawr 2012.• Defnyddio’r trefniadau diwygiedig erbyn 31 Rhagfyr 2012.Diwygiadau• Mae gan reoli perfformiad gysylltiad glir â:

– safonau ac ymarfer proffesiynol– blaenoriaethau ysgol gyfan a chenedlaethol– data perfformiad dysgwyr

– cynnydd tâl.• Mae ymarferwyr yn cynnal a chadw cofnod ymarfer, adolygu a

datblygu. • Mwy o gyfranogiad gan yr awdurdod lleol ym mhroses rheoli

perfformiad yr ysgol.• Mae gan Estyn fynediad i amcanion perfformiad penaethiaid.• Dylech gadw dogfennau rheoli perfformiad am o leiaf tair blynedd.

Page 6: Canllawiau rheoli perfformiad

Diben rheoli perfformiad

‘Mae rheoli perfformiad yn helpu ysgolion i wella drwy gefnogi a gwella gwaith penaethiaid fel unigolion ac fel arweinwyr timau ysgol. Mae’n gosod fframwaith i athrawon ac arweinwyr gytuno ar flaenoriaethau ac amcanion a’u hadolygu yng nghyd-destun cynlluniau gwella’r ysgol. Mae’n canolbwyntio sylw ar wneud addysgu ac arwain yn fwy effeithiol er budd disgyblion, athrawon ac ysgolion.’

Rheoli perfformiad i benaethiaid

(Llywodraeth Cymru, 2012)

Page 7: Canllawiau rheoli perfformiad

Rôl rheoli perfformiad yn y broses gwella’r ysgol

Mae rheoli perfformiad yn cefnogi:• ysgolion i wella drwy gefnogi a gwella gwaith ymarferwyr fel unigolion ac mewn timau• athrawon i ddiwallu anghenion dysgwyr a gwella safonau.

Mae rheoli perfformiad yn arddangos ymrwymiad yr ysgol i: • ddatblygu’r holl ymarferwyr yn effeithiol • sicrhau boddhad yn y swydd• lefelau uchel o arbenigedd • dilyniant ymarferwyr yn eu galwedigaeth ddewisol.

Page 8: Canllawiau rheoli perfformiad

Y cylch gwerthuso

Page 9: Canllawiau rheoli perfformiad

Y cylch gwerthuso

• Bydd y pennaeth yn pennu amser y cylch gwerthuso i bob athro/athrawes.

• Rhaid i’r corff llywodraethu bennu cylch gwerthuso ar gyfer y pennaeth.

• Fel arfer blwyddyn fydd hyd y cylch gwerthuso.

Page 10: Canllawiau rheoli perfformiad

Y cylch gwerthuso

Adolygu CynllunioHunanfyfyrio Gwerthuswr HunanddadansoddiCyfarfod adolygu a gwerthusai DadansoddiadDatganiad gwerthuso strategol

Gosod amcanionCytuno ar

ddatblygiad Monitro proffesiynol parhaus

Adolygiadau anffurfiol yn ystod y flwyddyn Arsylwad addysgu Ffynonellau cytunedig eraill o dystiolaeth sy’n briodol i rôl

yr athro/athrawes

Page 11: Canllawiau rheoli perfformiad

Rolau a chyfrifoldebau’r gwerthusai

Page 12: Canllawiau rheoli perfformiad

Rolau a chyfrifoldebau yn y broses rheoli perfformiad

Partneriaid allweddol• Corff llywodraethu/corff perthnasol.• Pennaeth.• Gwerthuswr(gwerthuswyr).• Gwerthusai(gwerthuseion).• Awdurdod lleol.• Llywodraeth Cymru.

Page 13: Canllawiau rheoli perfformiad

Rôl y gwerthusai• Trafod, cynllunio a gosod amcanion gyda’i

gwerthuswr(gwerthuswyr).• Cymryd rhan mewn trefniadau monitro ac

adolygu.• Trafod a nodi anghenion datblygiad proffesiynol.

Page 14: Canllawiau rheoli perfformiad

Cyfrifoldebau’r gwerthusaiRhaid i’r gwerthuseion:• drafod pennu amcanion gyda’r gwerthuswr, gan

ystyried cyd-destun yr ysgol, y disgrifiad swydd a’r safonau proffesiynol priodol

• hwyluso’r broses drwy nodi a darparu data perthnasol a thystiolaeth o berfformiad

• cymryd rhan mewn trefniadau monitro • cadw a chynnal cofnod ymarfer, adolygu a

datblygu cyfredol• cyfrannu at yr adolygiad blynyddol yn erbyn

amcanion a pherfformiad cyffredinol • trafod a nodi anghenion datblygiad proffesiynol i

gefnogi ymarfer proffesiynol.

Page 15: Canllawiau rheoli perfformiad

Gwybodaeth a dealltwriaethRhaid bod gan werthuseion dealltwriaeth gadarn o:• gyd-destun yr ysgol• data perfformiad ysgol gyfan gan gynnwys Set Data Craidd Cymru Gyfan • blaenoriaethau gwella’r ysgol• blaenoriaethau gwella’r awdurdod lleol a chenedlaethol• data lefel dysgwyr a gwybodaeth ar y grwpiau addysgu y mae ganddynt gyfrifoldeb drostynt • y safonau proffesiynol diwygiedig ar gyfer ymarferwyr addysg yng Nghymru• gweithdrefnau rheoli perfformiad.

Page 16: Canllawiau rheoli perfformiad

Adolygu perfformiad

Page 17: Canllawiau rheoli perfformiad

Y cyfarfod gwerthuso blynyddol

Mae’n gyfle ffurfiol i:• gydnabod cyflawniadau a dathlu llwyddiant• trafod meysydd i’w gwella a datblygiad

proffesiynol pellach

ac os dymunir:• cytuno ar flaenoriaethau ar gyfer y dyfodol, gan

gynnwys amcanion ar gyfer y cylch rheoli perfformiad dilynol.

Page 18: Canllawiau rheoli perfformiad

Yr adolygiad perfformiad• Rhaid i’r gwerthuswr(gwerthuswyr) a’r gwerthusai

gynnal adolygiad gwerthuso blynyddol gyda’r amcan o:

– asesu’r graddau y mae’r gwerthusai wedi cyflawni’r amcanion ar gyfer y cylch

– pennu a fu llwyddiant cyffredinol mewn perfformiad wrth gadarnhau bod y gwerthusai wedi bodloni’r safonau proffesiynol ar gyfer athrawon

– nodi’r angen ar gyfer cefnogaeth, hyfforddiant a datblygiad ychwanegol.

• Dylid ystyried cofnod ymarfer, adolygu a datblygu’r gwerthusai wrth adolygu perfformiad.

Page 19: Canllawiau rheoli perfformiad

Cynllunio ar gyfer yr adolygiad perfformiad blynyddol

• Caniatáu digon o amser ar gyfer yr adolygiad.• Rhaid i’r gwerthusai(gwerthuseion) gael gwybod yn ysgrifenedig am ddyddiad y cyfarfod adolygu o leiaf 10 niwrnod ysgol ymlaen llaw. • Dylid anfon y cofnod ymarfer, adolygu a datblygu at werthuswr(gwerthuswyr) o leiaf pum niwrnod cyn y cyfarfod adolygu.

Page 20: Canllawiau rheoli perfformiad

Paratoi ar gyfer yr adolygiad perfformiad blynyddol

• Pennu sut i gadw cofnodion ac ysgrifennu’r datganiadau gwerthuso.

• Nodi data a thystiolaeth briodol i’w defnyddio yn unol â’r rheoliadau.

• Penderfynu sut caiff amcanion o’r cylch diwethaf eu hystyried.

• Dylai’r gwerthusai hunanfyrfyrio cyn y cyfarfod.• Cytuno ar drefniadau monitro ac adolygu gan

gynnwys arsylwadau addysgu.

Page 21: Canllawiau rheoli perfformiad

Hunanfyfyrio’r gwerthusaiDylai’r gwerthusai ystyried perfformiad yn erbyn:• ei asesiad ei hun o berfformiad yn erbyn yr

amcanion• tystiolaeth o berfformiad yn y cylch• manteision unrhyw datblygiad proffesiynol a

gafwyd• unrhyw adolygiadau a gynhaliwyd yn ystod y

flwyddyn• unrhyw ffactorau sydd wedi effeithio ar berfformiad• amcanion posib ar gyfer y cylch nesaf.

Page 22: Canllawiau rheoli perfformiad

Dogfennaeth i’w hystyried• Unrhyw ddata a gwybodaeth perfformiad ysgol

perthnasol.• Cynllun gwella’r ysgol/cynllun gwella’r ardal.• Cofnod hunanwerthuso’r ysgol/ardal.• Cynllun ôl-arolygiad Estyn.• Y safonau proffesiynol diwygiedig ar gyfer

ymarferwyr addysg yng Nghymru.• Unrhyw deunyddiau perthnasol eraill, gan

gynnwys y rheini o arolygiadau’r awdurdod lleol a’r matrics categoreiddio rhanbarthol.

Page 23: Canllawiau rheoli perfformiad

Y datganiad gwerthuso• Rhaid i’r gwerthuswr(gwerthuswyr) cyflwyno

datganiad ysgrifenedig o fewn 10 niwrnod ysgol.• Rhaid darparu anghenion hyfforddiant a datblygu

mewn atodiad.• Gall y gwerthusai ychwanegu sylwadau at y

datganiad o fewn 10 niwrnod – bydd y rheini yn ffurfio rhan o’r datganiad.

• Mae’r datganiad gwerthuso’n bersonol ac yn gyfrinachol.

• Dylid rhoi copi o’r datganiad gwerthuso i’r personél priodol.

Page 24: Canllawiau rheoli perfformiad

Gosod amcanion

Page 25: Canllawiau rheoli perfformiad

Gosod yr amcanion• Byddai tri amcan fel arfer yn ddigonol.• Dylai amcanion y gwerthusai:

– gyfrannu at wella cynnydd dysgwyr yn ysgol

– ystyried tystiolaeth briodol gan gynnwys gwybodaeth am berfformiad yr ysgol

– canolbwyntio ar ddisgwyliadau allweddol a blaenoriaethau datblygu lle gellir llunio barn sy’n seiliedig ar dystiolaeth

– cael eu cofnodi yn y datganiad o amcanion.

Page 26: Canllawiau rheoli perfformiad

Mae angen i’r amcanion fod yn:

• glir – heb unrhyw bosibilrwydd o amwysedd neu ddryswch ynglŷn â’r deilliant a fwriedir

• cryno – gan ddefnyddio cyn lleied o eiriau a phosib i gyfleu’r bwriad

• mesuradwy – wedi’u mynegi fel y gellir cytuno ar feini prawf a fydd yn dangos a yw’r amcan wedi’i gyflawni ai peidio

• heriol – yn ddigon heriol, o gofio amgylchiadau’r ysgol, i gyflawni gwelliant sylweddol

• datblygol – yn cefnogi gwelliant yr ysgol a’r gwerthusai.

Page 27: Canllawiau rheoli perfformiad

Nodi anghenion datblygiad proffesiynol

Dylai datblygiad proffesiynol:• gefnogi’r gwerthusai wrth wella sgiliau a

gwybodaeth • cefnogi amcanion cytunedig• datblygu cryfderau• mynd i’r afael â meysydd ar gyfer datblygiad

personol neu dwf proffesiynol• nodi cyfleoedd i rannu arfer da.

Page 28: Canllawiau rheoli perfformiad

Monitro perfformiad

Page 29: Canllawiau rheoli perfformiad

Monitro perfformiad• Dylai gweithdrefnau monitro:

– gael eu trafod a’u cytuno yn y cyfarfodydd cynllunio– cynnwys amrywiaeth o ddulliau.

• Dylid monitro cynnydd drwy gydol y flwyddyn.• Dylid casglu tystiolaeth ddigonol a phriodol er

mwyn sicrhau y llunnir barn gadarn.• Rhaid i’r gwerthusai gynnal a chadw cofnod

ymarfer, adolygu a datblygu cyfredol.

Page 30: Canllawiau rheoli perfformiad

Monitro cynnyddGall ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau monitro i gasglu digon o dystiolaeth briodol er mwyn sicrhau y llunnir barn gadarn. Gellir casglu tystiolaeth o ffynonellau amrywiol gan gynnwys:

• cyfarfodydd yn ystod y flwyddyn rhwng y gwerthuswr(gwerthuswyr) a’r gwerthusai

• cofnod ymarfer, adolygu a datblygu’r gwerthusai

• cynllun gwella’r ysgol/cynllun gwella’r ardal

• data a gwybodaeth perfformiad ysgol

• y broses hunanwerthuso barhaus yr ysgol

• arsylwadau addysgu (lle y bo’n addas).

Page 31: Canllawiau rheoli perfformiad

Arsylwadau addysgu• Natur, diben a chanolbwynt wedi’u cytuno rhwng y

gwerthuswr a’r gwerthusai cyn yr arsylwad.• Rhaid i arsylwadau at ddiben rheoli perfformiad gael eu

cyflawni gan arsylwr â statws athro/athrawes cymwysedig (SAC) yn unig.

• Dylid cynnal arsylwadau yn ystod gwersi a gweithgareddau sydd wedi’u cynllunio ymlaen llaw.

• Rhaid rhoi o leiaf pum niwrnod ysgol o rybudd.• O leiaf un arsylwad y flwyddyn ar gyfer rheoli perfformiad.• Rhoddir adborth cyn gynted â phosib (o fewn pum niwrnod

ysgol fel arfer).• Dylid cofnodi canlyniadau’r arsylwad, gan gynnwys

adborth – dylid rhoi cyfle i’r gwerthusai ychwanegu sylwadau.

Page 32: Canllawiau rheoli perfformiad

Myfyrio a thrafod – hunanwerthuso

A. Ym mha ffordd y mae’r gwerthuseion yn:

• trafod gosod amcanion gyda’u gwerthuswr(gwerthuswyr) o fewn cyd-destun yr ysgol, y disgrifiad swydd a’r safonau proffesiynol priodol?

• hwyluso’r broses drwy nodi a darparu data a thystiolaeth berthnasol?

• cymryd rhan mewn trefniadau monitro a chynnal a chadw cofnod ymarfer, adolygu a datblygu cyfredol?

• cyfrannu at yr adolygiad blynyddol yn erbyn amcanion a pherfformiad cyffredinol?

• trafod a nodi anghenion datblygiad proffesiynol i gefnogi ymarfer proffesiynol?

B. Sut mae rheoli perfformiad wedi’i wreiddio ym mhrosesau gwella’r ysgol?

C. A oes unrhyw agweddau y gellir eu gwella?(Defnyddiwch daflen ysgogi 4 i hwyluso’r drafodaeth.)

Page 33: Canllawiau rheoli perfformiad

Rôl y gwerthuswr• Cytuno a chofnodi amcanion gyda’r gwerthusai.• Monitro ac adolygu perfformiad trwy gydol y

cylch.• Trafod a nodi anghenion datblygiad proffesiynol.• Trefnu adolygiad y gwerthusai.• Paratoi’r datganiad gwerthuso blynyddol.• Gwneud argymhellion ysgrifenedig lle mae’r

gwerthusai yn gymwys am gynnydd cyflog yn unol â Dogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol, lle bo’n addas.

Page 34: Canllawiau rheoli perfformiad

Y broses rheoli perfformiad

Nodir arfer gorau rheoli perfformiad drwy:

• ymrwymiad i gyrhaeddiad a lles dysgwyr

• gwerthfawrogi’r rôl hanfodol sydd gan athrawon

• ymrwymiad i berfformiad a lles staff

• meithrin naws o ymddiriedaeth rhwng yr athro/athrawes a’r gwerthuswr, sy’n caniatáu gwerthuso cryfderau a nodi meysydd i’w datblygu’n drwyadl

• annog rhannu arfer da

• integreiddio rheoli perfformiad yn yr ymagwedd gyffredinol at arwain a rheoli’r ysgol.

Page 35: Canllawiau rheoli perfformiad

Ac yn olaf . . .

‘Mae rheoli perfformiad yn canolbwyntio sylw ar wneud addysgu ac arwain mwy effeithiol er budd disgyblion, athrawon ac ysgolion.’

Rheoli perfformiad i athrawon

(Llywodraeth Cymru, 2012)