21
Cymunedau yn Gyntaf a Dwyieithrwydd: Ateb yr Her

Cymunedau yn Gyntaf a Dwyieithrwydd: Ateb yr Herestynllaw.org/uploads/ateb_yr_her.pdf · 2012. 6. 19. · awdit cymunedol ehangach, yn gymorth i asesu natur ieithyddol cymuned, sef

  • Upload
    others

  • View
    0

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

Page 1: Cymunedau yn Gyntaf a Dwyieithrwydd: Ateb yr Herestynllaw.org/uploads/ateb_yr_her.pdf · 2012. 6. 19. · awdit cymunedol ehangach, yn gymorth i asesu natur ieithyddol cymuned, sef

Cymunedau yn Gyntaf a Dwyieithrwydd: Ateb yr Her

Page 2: Cymunedau yn Gyntaf a Dwyieithrwydd: Ateb yr Herestynllaw.org/uploads/ateb_yr_her.pdf · 2012. 6. 19. · awdit cymunedol ehangach, yn gymorth i asesu natur ieithyddol cymuned, sef

Dwyieithrwydd:

Y Gymraeg a Chymunedau yn Gyntaf

Datblygu : Dwyieithrwydd

Ateb yr Her

Yn ôl y ddogfen ‘Iaith Pawb’, sefcynllun gweithredu ar gyferCymru ddwyieithog agyhoeddwyd gan LywodraethCynulliad Cymru, y nod yw creu"cenedl wirioneddol ddwyieithog,sef gwlad lle gall pobl ddewisbyw eu bywydau trwy gyfrwng yGymraeg neu’r Saesneg, a llemae presenoldeb y ddwy iaith ynffynhonnell amlwg a hyglyw ofalchder a chryfder i bob unohonom."

Ond pa berthynas sydd rwngIaith Pawb â rhaglen Cymunedauyn Gyntaf? Y gwirionedd yw bodrhaglen Cymunedau yn Gyntaf ynallweddol os am weld gwiredduamcanion Iaith Pawb, ac maeLlywodraeth y Cynulliad ynbenderfynol o roi sylw teilwng i’riaith Gymraeg o fewn y rhaglen.

Mae strategaethau Llywodraeth yCynulliad ar yr iaith Gymraeg aChymunedau yn Gyntaf ynymrwymiadau tymor hir sy’n cyd-fynd ac yn cefnogi ei gilydd drwyannog a hyrwyddo strategaethaua chynlluniau cymunedol. Wrth ibartneriaethau lleol Cymunedauyn Gyntaf fabwysiadudwyieithrwydd, bydd yn ddulleffeithiol o gyflawni amcanionrhaglen Cymunedau yn Gyntaf.

Mae dros 580,000 o siaradwyrCymraeg yng Nghymru yn ôlcyfrifiad 2001, sef mwy nag unym mhob pump o’r boblogaeth

(20.8%), ac mae mwy nag un ymmhob pedwar (28.4%) yn medduar rywfaint o sgiliau Cymraeg sefdros 800,000 o’r boblogaeth.Mae’r cymunedau gyda’rcanrannau uchaf o siaradwyrCymraeg yn dueddol o fod yngNgogledd Orllewin, GorllewinCanolbarth a De Orllewin Cymru,ond mae niferoedd sylweddoliawn o siaradwyr Cymraeg ymmhob rhan o Gymru, er nad yw’rcanrannau bob amser ynadlewyrchu hynny. Does dim unward etholiadol yn unrhyw le yngNghymru gyda llai na 5% o’iphoblogaeth yn siarad Cymraeg,a gobaith Llywodraeth y Cynulliadyw gweld partneriaethauCymunedau yn Gyntaf yn ymatebi ddyheadau ac anghenionsiaradwyr Cymraeg a siaradwyrdi-Gymraeg o fewn eucymunedau.

Mae iaith yn fwy na dull ogyfathrebu yn unig. Mae’nymwneud â hunaniaeth,diwylliant a gwead cymdeithasol.O ganlyniad, os ydych yn dymunoestyn allan at siaradwyr Cymraeg,eu cynnwys yng ngweithgareddCymunedau yn Gyntaf, a sicrhaueu cyfranogiad wrth anelu igyflawni amcanion Cymunedauyn Gyntaf, un o’r dulliau gorau owneud hynny yw trwy gyfrwngeu dewis iaith.

01RHIF

DROSODD

Page 3: Cymunedau yn Gyntaf a Dwyieithrwydd: Ateb yr Herestynllaw.org/uploads/ateb_yr_her.pdf · 2012. 6. 19. · awdit cymunedol ehangach, yn gymorth i asesu natur ieithyddol cymuned, sef

Gwerth Defnyddio’r Gymraego fewn Cymunedau yn GyntafMae cynyddu’r defnydd o’rGymraeg yn mynd i fod yn ddulleffeithiol o gyflawni amcanionCymunedau yn Gyntaf, a thrwyweithredu’n ddwyieithog, parchucyfle cyfartal a sicrhaucynhwysiant cymdeithasol, fe allpartneriaethau a phrosiectau:■ Gynyddu hyder a hunan-barchsiaradwyr a chymunedauCymraeg eu hiaith■ Cynnig cyfle i ddatblygu sgiliaucymdeithasol a galwedigaethol■ Cyfrannu at les a safon bywaelodau’r gymuned ■ Cynnig cyfleoedd economaiddnewydd■ Gwella safon gwasanaethaucyhoeddus■ Hyrwyddo cyfranogaeth acannog dinasyddiaeth weithredol

6 Thema Lorweddol RhaglenCymunedau yn GyntafMae cynyddu defnydd o’r iaithGymraeg drwy ddatblygudwyieithrwydd o fewnpartneriaethau a phrosiectauCymunedau yn Gyntaf yn galludylanwadu’n uniongyrchol ar y 6thema sy’n gwbl greiddiol i’rrhaglen.

■ Swyddi a Busnes. Gall yGymraeg fod yn fanteisiol ifusnesau o ran hunaniaethddiwylliannol neu ddenucwsmeriaid newydd a chreumarchnad newydd. Gall godihyfedredd aelodau’r gymuned yny Gymraeg fod o fantais i’wcyfleoedd cyflogaeth.

■ Iechyd a Lles. Gall prindercyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraegyn gymdeithasol effeithio aransawdd bywyd yr henoed. Maemedru delio â chleifion o boboed yn eu dewis iaith yn gwellaansawdd y gofal, ac yn gallu caeleffaith ar ansawdd bywydaucleifion.

■ Cymuned Weithgar. Gallmudiadau gwirfoddol Cymraeggyfrannu’n sylweddol at fywydcymdeithasol yr ardal. Galldefnyddio’r Gymraeg arwain atgyfranogaeth gymunedolehangach.

■ Trosedd a Diogelwch yGymuned. Gall iaith fod ynallweddol wrth wneud gwaithaddysgol â phlant ac wrthgyfathrebu â phobl ifanc. Galliaith fod yn elfen hollbwysig wrthddelio â phryderon dioddefwyr.

■ Addysg a Hyfforddiant.Gall cyrsiau addysg gydol oescyfrwng Cymraeg ddenu mwy ofyfyrwyr yn ôl i fyd addysg. Gallrhieni fod angen cymorth wrthfagu eu plant yn ddwyieithog.

■ Yr Amgylchedd. Yn amliawn mae cysylltiad rhwngamgylchedd cymuned a’rdiwylliant Cymraeg, e.e. enwaulleoedd, hanes a chwedlau lleol.Mae parchu’r amgylcheddnaturiol a hwyluso cyfleoeddCymraeg ill dau yn allweddol iddatblygu cymunedaucynaliadwy.

Mae’r gyfres hon o daflennicymorth yn cynnig cyngor arfaterion penodol sy’n ymwneud âdatblygu dwyieithrwydd, achynyddu’r defnydd o’r Gymraego fewn partneriaethau aphrosiectau Cymunedau ynGyntaf.

Am wybodaeth bellach cysylltwchâ Menter a Busnes ar 01352 707830 neu [email protected]

01RHIF

Dwyieithrwydd: Ateb yr Her

Page 4: Cymunedau yn Gyntaf a Dwyieithrwydd: Ateb yr Herestynllaw.org/uploads/ateb_yr_her.pdf · 2012. 6. 19. · awdit cymunedol ehangach, yn gymorth i asesu natur ieithyddol cymuned, sef

Cyflwyniad i Broffiliau IaithBeth yw Proffil Iaith?Mae proffiliau iaith, naill ai ar eupennau eu hunain neu fel rhan oawdit cymunedol ehangach, yngymorth i asesu natur ieithyddolcymuned, sef mapio patrymau athueddiadau ieithyddol mewnardal ddaearyddol benodol. Ogasglu gwybodaeth amddarpariaeth a defnydd yr iaithGymraeg yn lleol, mae moddcyrraedd at unigolion arhwydweithiau Cymraeg euhiaith, eu cynnwys yn rhaglenniCymunedau yn Gyntaf amanteisio ar eu cyfranogiad ibrosiectau Cymunedau yn Gyntaftra’n cryfhau’r Gymraeg ar lefelgymunedol ar yr un pryd.

Pam Creu Proffil Iaith?Does dim un adran etholiadolyng Nghymru gyda llai na 5% o’iphoblogaeth yn medru’rGymraeg yn ôl cyfrifiad 2001 -ond yn aml iawn, mae anghenionsiaradwyr Cymraeg yn cael euhesgeuluso a’u hanwybydduoherwydd bod y rhwydweithiauCymraeg yn medru bod yn‘anweledig’, sydd yn ei dro ynarwain at gamdybiaeth nad oesunrhyw siaradwyr Cymraeg ofewn ardal benodol ac nad oesunrhyw alw am ddarpariaethGymraeg.

Mae proffil iaith cynhwysfawr yncreu darlun cywir a chyflawn o’rsefyllfa ieithyddol, sydd yn ei droyn gymorth amhrisiadwy i’r sawlsy’n defnyddio’r canlyniadau wrthiddynt drefnu cynlluniau datblygucymunedol. Mae’n fodd o sicrhaubod prosiectau yn cydnabod, ynparchu ac yn darparu ar gyferaelodau o’r ddwy brif gymunedieithyddol yng Nghymru.

Sut i Greu Proffil Iaith?Mae’r Mentrau Iaith ynffynonellau gwerthfawr o gyngor.Bydd nifer ohonynt â phrofiad ogreu proffiliau iaith, a bydd pobun o’r mentrau yn medru cynnigcymorth ynglyn â chyrraedd atfudiadau a rhwydweithiauCymraeg yn lleol.

Gallwch edrych ar ystadegau’rcyfrifiad am ffigurau moel ynglynâ niferoedd siaradwyr Cymraeg ynyr ardal, ond o ran sgiliau iaith aphatrymau defnydd iaith, byddangen bod yn fwy creadigol yn ydulliau a ddefnyddir i gasglugwybodaeth. Gallwch ystyriedholiaduron, cyfweliadau gydagunigolion a mudiadaucymunedol/gwirfoddol/masnachol,cyfarfodydd cyhoeddus, grwpiau‘ffocws’, holi sefydliadau addysgac ati.

02RHIF

DROSODD

^

^

Dwyieithrwydd: Ateb yr Her

Datblygu : Dwyieithrwydd

Page 5: Cymunedau yn Gyntaf a Dwyieithrwydd: Ateb yr Herestynllaw.org/uploads/ateb_yr_her.pdf · 2012. 6. 19. · awdit cymunedol ehangach, yn gymorth i asesu natur ieithyddol cymuned, sef

Bydd y math o wybodaeth y byddei hangen arnoch yn cynnwys :■ Nifer a chanran siaradwyrCymraeg yn ôl ward a chyngorcymuned, yn siaradwyr rhugl arhai sydd â sgiliau amrywiol yn yGymraeg;■ Manylion demograffegsiaradwyr Cymraeg – yn ôloedran, rhyw, dosbarthcymdeithasol, gwaith ac ati;■ Nifer a natur grwpiaucymdeithasol a chrefyddolcyfrwng Cymraeg a dwyieithogpenodol yn yr ardal;■ Patrymau cymdeithasolehangach siaradwyr Cymraeg e.e.cymdeithasau, sefydliadau,canolfannau cymdeithasol gydachanrannau uchel o siaradwyrCymraeg yn eu mynychu;■ Patrwm darpariaeth AddysgBlynyddoedd Cynnar cyfrwngCymraeg yn lleol e.e. MudiadYsgolion Meithrin, darpariaethawdurdodau lleol, prosiectaudatblygu;■ Nifer y plant sy’n mynychuysgolion cyfrwng Cymraeg neuddwyieithog;■ Nifer y dosbarthiadau Cymraegi Oedolion a nifer y myfyrwyr;■ Cyfryngau cyfathrebu lleol achenedlaethol – cyrhaeddiad,darpariaeth a defnydd.

Ar Ôl Cwblhau’r Proffil IaithCofiwch mai man cychwyn ywcreu’r proffil iaith. Does dimpwrpas i’r canlyniadau eistedd arsilff mewn swyddfa. Y cam nesafyw defnyddio’r wybodaeth i greurhaglen waith fydd yn:

■ Cynyddu hyder siaradwyrCymraeg a dysgwyr iddefnyddio’r Gymraeg, fel eu bodyn medru chwarae rhan lawn yny gwaith o adfywio eucymunedau. ■ Codi ymwybyddiaeth o’rGymraeg a’r diwylliant sy’ngysylltiedig â’r iaith Gymraeg ofewn y gymuned, gyda’r bwriadfod y Gymraeg i’w gweld a’ichlywed fwyfwy yn yr ardal. ■ Cynyddu’r cyfleoedd sydd gansiaradwyr Cymraeg a dysgwyr iddefnyddio’r Gymraeg.

Drwy roi lle dyledus i’r Gymraegyn rhaglen waith Cymunedau ynGyntaf, mae siaradwyr Cymraegyn fwy tebygol o gyfranogi am eubod yn teimlo bod y cynllun ynparchu ac yn cydnabod eu hiaith,yn gynhwysol ac yn berthnasoliddynt. Byddant yn teimloperchnogaeth o’r cynllun.

Crynodeb yn unig a geir ar ydaflen hon. Am fanylion llawnynglyn â chreu proffil iaith,cyfeiriwch at ddogfen "CreuProffil Iaith Cymunedol" abaratowyd gan Menter a Busnesa Chwmni Iaith ar gyferRhwydwaith Gefnogi Cymunedauyn Gyntaf.

Am wybodaeth bellach cysylltwchâ Menter a Busnes ar 01352 707830 neu [email protected]

02RHIF

^

Dwyieithrwydd: Ateb yr Her

Page 6: Cymunedau yn Gyntaf a Dwyieithrwydd: Ateb yr Herestynllaw.org/uploads/ateb_yr_her.pdf · 2012. 6. 19. · awdit cymunedol ehangach, yn gymorth i asesu natur ieithyddol cymuned, sef

Datblygu Gwefan DdwyieithogYn aml iawn un o’r pwyntiaucyswllt cyntaf rhwng PartneriaethCymunedau yn Gyntaf ac aelodauo’r gymuned fydd y wefan.Mae’r rhan fwyaf o bobl ynymwybodol o bwysigrwydd caelgwefan atyniadol, ddefnyddiol ahawdd ei thramwyo, ond ydychchi erioed wedi ystyried caelgwefan fydd yn llwyddo igyflawni’r amcanion hyn drwygyfrwng y ddwy iaith swyddogolyng Nghymru?

Cyn mynd ati, dyma grynodeb orai o’r egwyddorion sylfaenol acarferion da i’w hystyried:

Cyfeiriad GweOs oes gan eich mudiad deitldwyieithog, beth am gaelcyfeiriadau gwe yn y ddwy iaithe.e.www.cymunedauyngyntaf.info awww.communitiesfirst.infogyda’r cyfeiriadau gwahanol ynarwain at dudalen hafan yn yriaith gyfatebol, neu at dudalenhafan gwbl ddwyieithog syddwedyn yn cynnig dewis iaith.

Tudalen Fflach neu Hafan Os ydych yn creu tudalen hafanddwyieithog, neu dudalen fflachfydd yn arwain at eich hafan,dylech anelu at sicrhaucydraddoldeb yn y ddwy iaith oran cynnwys a dyluniad, gangynnig dewis iaith i’r darllenyddfydd yn eu harwain at adranGymraeg neu adran Saesneg eichgwefan. Os ydych yn creutudalennau hafan ar wahân yn yGymraeg a’r Saesneg, dylidsicrhau eto eu bod yn gydradd oran diwyg a chynnwys, ac yncynnig dewis iaith er mwyn myndâ’r darllenydd at y dudalen hafangyfatebol yn yr iaith arall.

Cynnig Dewis IaithDylid cynnig dewis iaith i’rdarllenydd ar bob tudalen drwygyfrwng botwm wedi ei farcio‘Cymraeg’ neu ‘English’, fydd yncyfeirio’r darllenydd at y dudalengyfatebol yn yr iaith honno. Niddylai botwm dewis iaithgyfeirio’r defnyddiwr yn ôl at yrhafan. Byddai hynny ynglogyrnaidd ac yn ei gwneud ynanodd i’r rheini sydd yn dymunogweld tudalennau yn y ddwyiaith o bryd i’w gilydd. Dylidgosod y botwm dewis iaithmewn man amlwg a hwylus, obosib ar frig pob tudalen.

03RHIF

DROSODD

www.

Dwyieithrwydd: Ateb yr Her

Datblygu : Dwyieithrwydd

Page 7: Cymunedau yn Gyntaf a Dwyieithrwydd: Ateb yr Herestynllaw.org/uploads/ateb_yr_her.pdf · 2012. 6. 19. · awdit cymunedol ehangach, yn gymorth i asesu natur ieithyddol cymuned, sef

Cymraeg a Saesneg ClirHoll ddiben gwefan yw cael eigweld, ei darllen, ei deall a’idefnyddio. Mae hynny’n wir amyr iaith wreiddiol a’r cyfieithiad.Dylid ceisio sicrhau Cymraeg aSaesneg clir ar wefannau, ganosgoi cyfieithiadau clogyrnaidd,llythrennol. Mae taflenwybodaeth 5 yn y gyfres hon,"Gweithio gyda Chyfieithydd" ynrhoi cyngor ac arweiniad ynglyn âchyfieithu deunydd i’r Gymraegneu’r Saesneg.

Prawf-ddarllenAr ôl i destun gwefan gael eigyfieithu, ei ddylunio a’i gysodi,mae’n bwysig bod y deunydd yncael ei brawf-ddarllen cyn‘llwytho i fyny’ neu ‘mynd ynfyw’. Bydd hyn yn sicrhau bod ywefan derfynol yn gwbl gywir yny ddwy iaith, ac yn osgoi gwallaua all ddigwydd yn ystod y brosesddylunio. Yn ddelfrydol, y personsydd wedi cyfieithu’r testunfyddai’r dewis gorau i brawf-ddarllen cyfieithiad ywefan. Cyfeiriwch at Daflen 5 yny gyfres hon am fanylion pellach.

AcenionErbyn hyn mae’r rhan fwyaf odeipiau a ffontiau cyfrifiadurol yngallu ymdopi ag acenionCymraeg (e.e. y to bach : â, ê, î,ô, w, y.)

Mae’n bwysig sicrhau bod eichgwefan chi yn arddangos yracenion i gyd yn gywir, sydd etoyn tanlinellu pwysigrwydd prawf-ddarllen y deunydd ar ôl cysodi adylunio eich gwefan. Maemeddalwedd benodol ar gael i’chcynorthwyo yn hyn o beth. Gellircael cyngor arbenigol i ddylunwyrgan Fwrdd yr Iaith Gymraeg. www.bwrdd-yr-iaith.org.uk

Diweddaru DeunyddOs oes newidiadau acychwanegiadau i’w gwneud i’chgwefan, boed hynny’nddiweddaru deunydd neu ynstraeon newyddion, dylid anelu iwneud y diweddariadau yn yddwy iaith ar yr un pryd, allwytho’r newidiadau i fyny i’rwefan ar yr un pryd er mwynsicrhau cydraddoldeb cynnwys.

Addasrwydd ar Gyfer Pobl âNam ar eu GolwgMae gan RNIB Cymru ganllawiauynglyn â llunio deunydd sy’naddas ar gyfer pobl sydd â namar eu golwg. Gall hyn gynnwys y lliwiau addefnyddir, maint y testun, diwygtudalen ac ati. Cyfeiriwch at ycanllawiau hyn, ac unrhywbethau a weithredir mewn uniaith, cofiwch gymryd yr uncamau yn yr iaith arall – gangofio bod siaradwyr Cymraeg a

siaradwyr di-Gymraeg yn galludioddef o nam ar eu golwg.

Llyfrgell GyhoeddiadauDylid rhoi gwybod ym mhaiaith/ieithoedd mae amrywiolgyhoeddiadau ar gael, ynghyd âmaint, fformat ac amser llwytho’rffeil. Dylid osgoi cyfieithu teitlaudogfennau i’r Gymraeg neu’rSaesneg oni bai eu bod ar gaelyn yr ieithoedd hynny.

Os am greu gwefan wirioneddolddwyieithog, dylid bob amseranelu at yr egwyddor ganolog ogydraddoldeb o ran cynnwys ac oran dylunio. Mae manylioncyflawn i’w cael yn yr adrangyhoeddiadau ar wefan Bwrdd yrIaith Gymraeg. www.bwrdd-yr-iaith.org.uk

Am wybodaeth bellach cysylltwchâ Menter a Busnes ar 01352 707830 neu [email protected]

03RHIF

^ ^

^

^

Dwyieithrwydd: Ateb yr Her

Page 8: Cymunedau yn Gyntaf a Dwyieithrwydd: Ateb yr Herestynllaw.org/uploads/ateb_yr_her.pdf · 2012. 6. 19. · awdit cymunedol ehangach, yn gymorth i asesu natur ieithyddol cymuned, sef

Dylunio Dwyieithog a Hunaniaeth GorfforaetholWrth gynllunio unrhyw ddarn owaith, cofiwch ystyried y ddwyiaith o’r cychwyn cyntaf. Rhaidi’r person fydd yn creu’r gwaith,a’r dylunydd fydd yn cysodi’rgwaith, wybod fod y Gymraeg a’rSaesneg yn mynd i gael llecydradd. Ystyriwch y ddwy iaithwrth gynllunio logo a delweddaugweledol neu wrth benderfynu ar‘strap-line’ neu slogan ar gyferymgyrch neu brosiect.

CyfieithuMae’n hanfodol cael cyfieithu osafon, a sicrhau bod y gwaith yncael ei brawf-ddarllen. Gall hynosgoi camgymeriadau diangen allfod yn embaras ac yn gostus i’wnewid. Ceir manylion ynglyn â"Gweithio gyda Chyfieithydd" yn y5ed daflen wybodaeth yn y gyfreshon.

CynllunMae nifer o ddulliau o gynlluniodeunydd dwyieithog yn bodoli,rhai yn fwy addas ar gyferdibenion penodol na’i gilydd:■ Colofnau Cyfochrog – lle mae’rddwy iaith ochr yn ochr ar yr undudalen.■ Tudalennau Cyfochrog – llemae’r ddwy iaith ochr yn ochrond ar dudalennau gwahanol.■ Fesul Bloc – lle mae bloc oddeunydd mewn un iaith, a bloccyfatebol yn yr iaith arall ar yr undudalen.■ Pen a Gwaelod – lle mae’rdudalen wedi ei rhannu yn ddwy,gydag un iaith ar y pen, a’r llall ary gwaelod.■ Cefn wrth Gefn – lle mae uniaith ar un ochr i’r ddalen, a’riaith arall ar yr ochr arall.■ Ben i Waered – lle mae clawr adeunydd mewn un iaith i’wgweld wrth ddal y ddogfen unffordd, a’r clawr a’r deunydd ynyr iaith arall i’w gweld wrthfflipio’r ddogfen drosodd yn eichdwylo.■ Olynol - lle mae’r fersiynaullawn yn ymddangos un ar ôl yllall.Ceir rhestr lawn o fanteision acanfanteision y dulliau uchod owefan Bwrdd yr Iaith.

04RHIF

DROSODD

^

Dwyieithrwydd: Ateb yr Her

Datblygu : Dwyieithrwydd

Page 9: Cymunedau yn Gyntaf a Dwyieithrwydd: Ateb yr Herestynllaw.org/uploads/ateb_yr_her.pdf · 2012. 6. 19. · awdit cymunedol ehangach, yn gymorth i asesu natur ieithyddol cymuned, sef

Gwahanu’r IeithoeddMae angen i’r darllenydd fedrugwahaniaethu rhwng y ddwyiaith, pa bynnag gynllun addewisir. Mae modd defnyddiolliw, cysgod lliw, ffontiau atheipiau i gyflawni hyn.

Defnydd a ChymwysiadauGallwch gymhwyso’regwyddorion a’r cynghoriondylunio i bob agwedd o’chgwaith o ddydd i ddydd e.e.arwyddion mewnol ac allanol,gwybodaeth ar gerbydau,deunydd papur, cardiau busnes,dogfennau byr, taflenni,ffurflenni, cyhoeddiadau hir,anfonebau, ffurflenni archeb,deunydd arddangos,hysbysebion, deunydd pecynnuac ati.

O gynllunio dwyieithrwydd ynofalus, mae modd creu deunyddatyniadol a hawdd ei ddarllen yny ddwy iaith, fydd yn atgyfnerthuethos dwyieithog a chynhwysoleich partneriaeth. A chofiwchnad ydy cynhyrchu a chyhoeddipethau mewn dwy iaith yndyblu’r gost.

Mewn gwirionedd bydd yn costiodipyn mwy i chi gyhoeddideunydd mewn un iaith yn unig,ac yna mynd ati i gyhoeddi’rdeunydd mewn iaith arallrhywbryd eto.

Ceir mwy o wybodaeth am ypwnc yma yn y ddogfen"Canllawiau Dylunio Dwyieithog"o fewn adran gyhoeddiadauBwrdd yr Iaith Gymraeg.www.bwrdd-yr-iaith.org.uk

Am wybodaeth bellach cysylltwchâ Menter a Busnes ar 01352 707830 neu [email protected]

04RHIF

Dwyieithrwydd: Ateb yr Her

Page 10: Cymunedau yn Gyntaf a Dwyieithrwydd: Ateb yr Herestynllaw.org/uploads/ateb_yr_her.pdf · 2012. 6. 19. · awdit cymunedol ehangach, yn gymorth i asesu natur ieithyddol cymuned, sef

Gweithio gyda ChyfieithyddMae cyfieithu deunyddysgrifenedig i’r Gymraeg ynogystal â chael cyfleusteraucyfieithu ar y pryd mewncyfarfodydd a chynadleddau yngamau pwysig allwch chi eucymryd er mwyn cryfhau delweddddwyieithog ac apêl eich mudiad.Mae’n bwysig gwybod ble i droier mwyn dod o hyd i gyfieithyddneu asiantaeth gyfieithu gymwysall wneud y gwaith i chi ynbroffesiynol.

Mae cyfieithu - ysgrifenedig neuar y pryd - yn sgil arbenigol, fellycofiwch nad yw unigolion o fewneich mudiad sy’n digwydd bod ynsiarad Cymraeg o reidrwydd ynmynd i fedru gwneud gwaithcyfieithu, nac o reidrwydd ynmynd i fod yn gyfforddus yngwneud hynny. Er tegwch iddynnhw, peidiwch â throi atynt bobtro mae angen cyfieithu deunydd.Ceisiwch ymgorffori’r amserlengyfieithu mewn i’r amserlenweinyddol ehangach er mwynsicrhau nad yw cyfieithu yn‘broblem ar y funud olaf’.

Mentrau IaithMewn rhai ardaloedd, bydd eichMenter Iaith leol yn gallucyfieithu eitemau byr fel posteri,tocynnau, arwyddion a thaflenni.Yn ogystal, mae rhai o’r mentrauyn cyflogi cyfieithwyr cymunedolsydd â chyfraddau arbennig argyfer mudiadau sectorgwirfoddol, ac sy’n cynnig

cyfieithu ysgrifenedig a chyfieithuar y pryd (CAYP). Bydd rhaiMentrau ar y llaw arall yn gallurhoi benthyg offer CAYP i chi, acyn gallu eich rhoi mewn cysylltiadâ chyfieithwyr lleol. Cysylltwchâ’ch Menter Iaith leol am fanylionllawn ynglyn â’r unionwasanaethau a gynigir, a’rffioedd a godir. Ceir hyd i restrgyflawn o fanylion cyswllt hollFentrau Iaith Cymru arwww.mentrau-iaith.com

Llinell Gyswllt â’r GymraegMae Bwrdd yr Iaith yn cynniggwasanaeth cyfieithu a golygudros y ffôn ar gyfer darnau byr owaith. Mae Llinell Gyswllt â’rGymraeg ar gael ar 0845 6076070 ar gyfer cyfieithu hyd at 30o eiriau, neu ar gyfer golygu hydat 75 o eiriau. Mae’rgwasanaeth ar gael o ddydd Lluni ddydd Gwener o 9.00 – 5.00Maent hefyd yn cynnig cyngorcyffredinol ynglyn â materiondwyieithrwydd – adnodddefnyddiol iawn. Mae’rgwasanaeth yn rhad ac am ddim,heblaw wrth gwrs am gost yralwad.

Cymdeithas CyfieithwyrCymruMae yna gymdeithas broffesiynolo’r enw Cymdeithas CyfieithwyrCymru, sy’n cynrychioli ac ynachredu cyfieithwyr. Gellir caelhyd i’w gwefan arwww.cyfieithwyrcymru.org.uk

05RHIF

DROSODD

ac yno fe gewch hyd i restrau o’raelodau yn ôl eu lleoliaddaearyddol. Mae graddfeyddaelodaeth yn bodoli sy’n dynodiprofiad y cyfieithydd – aelodaethsylfaenol ac aelodaeth gyflawn.Mae aelodaeth sylfaenol yncaniatáu i berson gyfieithu o danoruchwyliaeth, tra bod aelodaethgyflawn yn dynodi bodcyfieithydd yn gymwys i weithioar ei liwt ei hun heboruchwyliaeth.

^

..

^

Dwyieithrwydd: Ateb yr Her

Datblygu : Dwyieithrwydd

Page 11: Cymunedau yn Gyntaf a Dwyieithrwydd: Ateb yr Herestynllaw.org/uploads/ateb_yr_her.pdf · 2012. 6. 19. · awdit cymunedol ehangach, yn gymorth i asesu natur ieithyddol cymuned, sef

Pwyntiau Eraill i’w Hystyried■ Mae’n werth penodi unperson i weithredu fel cyswlltrhwng eich mudiad a’rcyfieithydd, i drafod telerauariannol ac i gytuno ar ddyddiad idderbyn y gwaith yn ôl. Bydd yperson yma hefyd yn gallu bodyn bwynt cyswllt i’r cyfieithyddrhag ofn bydd unrhywgwestiynau neu ymholiadauynglyn â chynnwys y gwaith yncodi yn ystod y broses. Fel arferbydd cyfieithwyr yn codi tâl fesulmil o eiriau a gyfieithir.

■ Wrth e-bostio gwaith atgyfieithydd, ffoniwch i wneud ynsiwr fod y gwaith wedi cyrraedd,a bod unrhyw atodiadau yngyflawn ac yn ddealladwy. Ynarferol, e-bost yw’r dull mwyafhwylus a dibynadwy i anfon aderbyn gwaith ysgrifenedig.

■ Sicrhewch fod y cyfieithydd yndeall cyd-destun unrhyw waith,ac er mwyn sicrhau cysondeb,rhowch wybod i’r cyfieithydd osoes termau Cymraeg gan eichmudiad yn barod - ar gyferslogan ymgyrch neu eirfaarbenigol, er enghraifft.

■ Ymgynghorwch â’r cyfieithyddynglyn â’r feddalwedd bydd ef/hiyn ei defnyddio, er mwyn sicrhauei bod yn cyfateb â’ch systemauchi.

■ Mae cael cyfieithydd i ddarllenproflenni Cymraeg yn gallu arbedamser ac arian yn y tymor hir. Felarfer, mae’n fwy cyfleus i’r sawlsydd wedi cyfieithu’r gwaith ynwreiddiol ddarllen y proflenni,ond fe all fod tâl ychwanegol amwneud hyn. Wrth gytuno ardelerau gyda’r cyfieithydd ymlaenllaw, trafodwch beth yn unionsy’n cael ei gynnwys yn y pris:cyfieithu yn unig neu gyfieithu adarllen proflenni.

■ Os ydych yn cyflogi cyfieithyddar y pryd ar gyfer cyfarfod neugynhadledd, sicrhewch eich bodyn anfon deunydd ysgrifenedige.e. cofnodion, adroddiadau,cyflwyniadau, agenda neuddogfennau atodol at ycyfieithydd ymlaen llaw.

■ Gwnewch yn siwr bod eichstaff yn ymwybodol o’r angen iganiatáu cyfnod digonol yn yramserlen weinyddol i gyfieithudeunydd ysgrifenedig i’rGymraeg. Peidiwch â gadael igyfieithu fod yn fater sy’n cael eiystyried ar ddiwedd y broses ogreu dogfen. Dylai’r Gymraeg a’rSaesneg gael eu hystyried yngyfochrog drwy gydol y brosesgreu.

Ar ddiwedd y dydd, dibencyfieithu dogfen yw iddi gael eidarllen a’i deall gan siaradwyrCymraeg, felly mae sicrhauansawdd a safon y cyfieithu ynhollbwysig. Wrth ddefnyddio‘Cymraeg Clir’, a gweithio gydaChymdeithas Cyfieithwyr Cymru achyfieithwyr cymwys, mae moddcyflawni’r nod.

Am wybodaeth bellach cysylltwchâ Menter a Busnes ar 01352 707830 neu [email protected]

05RHIF

^

^

^

^

Dwyieithrwydd: Ateb yr Her

Page 12: Cymunedau yn Gyntaf a Dwyieithrwydd: Ateb yr Herestynllaw.org/uploads/ateb_yr_her.pdf · 2012. 6. 19. · awdit cymunedol ehangach, yn gymorth i asesu natur ieithyddol cymuned, sef

Trefnu Digwyddiadau DwyieithogOs ydych yn ystyried trefnudigwyddiad yn enw partneriaethleol Cymunedau yn Gyntaf, betham fynd ati i sicrhau bod yrachlysur yn un sy’n rhoi ystyriaethgyfartal i’r Gymraeg a’r Saesneg.Mae creu naws ddwyieithog yncydnabod ac yn adlewyrchu naturddwyieithog Cymru, ac yncydnabod y siaradwyr Cymraegsydd yn eich ardal. Mae hefyd yndangos agwedd gynhwysol sy’ncwmpasu aelodau o’r ddwy brifgymuned ieithyddol.

Mae natur yr achlysur yn mynd iddylanwadu ar yr union gamau ygallwch eu cymryd er mwyn creunaws ddwyieithog.

Cymdeithasol / AnffurfiolDylai unrhyw weithgareddaucymdeithasol ac anffurfiol godi’nnaturiol o ddyheadau’r gymunedleol. Os ydych o ddifrif ynglyn agadlewyrchu natur ieithyddol ygymuned, meddyliwch amgamau y gellid eu cymryd ermwyn i’r iaith Gymraeg gael eigweld a’i chlywed yn eichgweithgareddau. Gall eichMenter Iaith leol eich cynghoria’ch cynorthwyo gyda nifer o’relfennau hyn:■ Os mai cyngerdd, neu achlysurcerddorol sy’n cael ei drefnu,ystyriwch logi bandiau Cymraegeu hiaith yn ogystal â bandiauSaesneg■ Trefnwch weithgareddau sy’n

meithrin gwerthfawrogiad adealltwriaeth ehangach o’r iaithGymraeg a’r diwylliant sy’ngysylltiedig â’r iaith Gymraeg■ Ewch ati i feithrin perthynasagosach â sefydliadau, grwpiaucymdeithasol a chlybiau sy’ngweithredu drwy gyfrwng yGymraeg yn lleol■ Trefnwch gystadleuaeth gyda’rysgol leol i gynllunio deunyddhyrwyddo neu boster dwyieithogar gyfer un o’ch gweithgareddau■ Sicrhewch fod negeseuondwyieithog ar faneri ac unrhywddeunydd hyrwyddo atodol felbalwns■ Ceisiwch drefnu bodanerchiadau a chyhoeddiadaullafar yn digwydd yn y ddwy iaith

Hyrwyddo’r achlysur -gwnewch hynny yn ddwyieithoger mwyn dangos o’r cychwyncyntaf mai digwyddiad sy’nberthnasol i’r siaradwyr Cymraega’r di-Gymraeg fel ei gilydd ydyw.Ystyriwch y ddwy iaith wrthfeddwl am bosteri, rhaglenni,tocynnau mynediad, deunyddarddangos, hysbysebion print(beth am ddefnyddio papuraubro a phapurau Cymraeg?),cyfweliadau radio (beth amdrefnu i siaradwr Cymraegddefnyddio gorsafoedd radioCymraeg/dwyieithog i ledaenu’rneges?)

06RHIF

DROSODD

^

^

Dwyieithrwydd: Ateb yr Her

Datblygu : Dwyieithrwydd

Page 13: Cymunedau yn Gyntaf a Dwyieithrwydd: Ateb yr Herestynllaw.org/uploads/ateb_yr_her.pdf · 2012. 6. 19. · awdit cymunedol ehangach, yn gymorth i asesu natur ieithyddol cymuned, sef

Ffurfiol – Cyfarfodydd aChynadleddauOs mai eich bwriad yw cynnalcyfarfod ffurfiol gan sicrhau eifod yn achlysur dwyieithog achynhwysol, mae pethauychwanegol y gallwch ystyried eugwneud.■ Os ydych chi'n trefnu gofalplant, holwch ynglyn aganghenion ieithyddol y plentyn■ Croesawch bobl i’r cyfarfod /cynhadledd yn ddwyieithog■ Sicrhewch fod y deunydd i gydar gael yn y ddwy iaith (byrddauarddangos, baneri, arwyddionllwyfan, sloganau, bathodynnau,pecynnau croeso, agenda,adroddiadau, cofnodion,dogfennau atodol, cyflwyniadauPowerPoint ac ati)■ Cadeirio yn Gymraeg /dwyieithog lle mae hynny’n bosib■ Sicrhewch fod y cadeirydd yncefnogi ac yn annog defnydd o’rddwy iaith [Cyfeiriwch at daflenwybodaeth 7 "Cynnal a ChadeirioCyfarfodydd Dwyieithog" amfanylion pellach]■ Meddwl am ddulliau ohwyluso gweithdai dwyieithog,heb adnoddau cyfieithu ffurfiol■ Trefnu bod o leiaf un o’r prifsiaradwyr yn gwneud anerchiadyn Gymraeg

■ Trefnwch offer cyfieithu ar ypryd a chyfieithydd os oes euhangen. Weithiau mae moddasesu anghenion cyfieithu ymlaenllaw drwy ofyn i bobl nodi eudewis iaith ar ffurflenni cofrestru,gyda chwestiwn syml tebyg i "Afyddech chi’n dymuno cyfrannui’r cyfarfod yn Gymraeg?"[Cyfeiriwch at daflen wybodaeth5 "Gweithio gyda Chyfieithydd"am fanylion ynglyn â dod o hyd igyfieithydd ac offer]■ Anfonwch gopïau o’r hollddeunydd ysgrifenedig at ycyfieithydd diwrnod neu ddauymlaen llaw

Cofiwch mai eich nod yw creuawyrgylch lle mae pobl ynteimlo’n ddigon cysurus igyfrannu yn eu dewis iaith. Maenormaleiddio’r defnydd o’r iaithGymraeg mewn cyfarfod ffurfiol -yn weledol ac ar lafar - yngymorth i greu naws gynhwysol,ac yn cryfhau a chadarnhau ethosdwyieithog eich partneriaeth.

Os yw’r bartneriaeth yn cael eigweld fel corff Saesneg eigyfrwng, ni fydd siaradwyrCymraeg sy’n mynychucyfarfodydd y bartneriaeth ynteimlo bod anogaeth iddyntddefnyddio’r Gymraeg.

Gallant deimlo bod yn rhaididdynt gyfrannu yn Saesneg ermwyn i’w sylwadau gael eucymryd o ddifrif ac i’wcyfraniadau gael unrhywhygrededd. Neu wrth gwrs feallant benderfynu peidio âchyfrannu o gwbl, neu hyd ynoed beidio â mynychudigwyddiadau’r bartneriaeth.

Mae clywed y Gymraeg yn cael eisiarad o lwyfan, neu gangadeirydd yn amlygu statws yriaith o fewn cyfarfod neugynhadledd, ac o ddefnyddio’rGymraeg i bwrpas cymharolrymus, mae’n gwneud y defnyddo’r iaith Gymraeg yn haws i eraillac yn rhoi amlygrwydd adilysrwydd i’r Gymraeg a fyddai,fel arall, wedi eu gwadu iddi ofewn y cyfarfod.

Am wybodaeth bellach cysylltwchâ Menter a Busnes ar 01352 707830 neu [email protected]

06RHIF

^

^

Dwyieithrwydd: Ateb yr Her

Page 14: Cymunedau yn Gyntaf a Dwyieithrwydd: Ateb yr Herestynllaw.org/uploads/ateb_yr_her.pdf · 2012. 6. 19. · awdit cymunedol ehangach, yn gymorth i asesu natur ieithyddol cymuned, sef

Cynnal a Chadeirio Cyfarfodydd DwyieithogAr ôl i chi gwblhau’r trefniadauar gyfer cyfarfod dwyieithog, achael pawb ynghyd mewn ystafellbwyllgor neu neuadd gynhadledd[gweler taflen wybodaeth 6"Trefnu DigwyddiadauDwyieithog"] cofiwch mai’r camcyntaf yn unig yw hynny. Mae’nhanfodol sicrhau bod pawb sy’nbresennol yn teimlo bodanogaeth a chefnogaeth iddyntddefnyddio eu dewis iaith. Doesdim angen cyfieithu o’r Saesnegi’r Gymraeg am mai matergoddefol yw gwrando argyfraniadau, yn wahanol i wneudcyfraniad sydd yn fatergweithredol.

Nid yw cyfieithu deunyddgweledol, a llogi offer achyfieithydd ar y pryd yn ddigonynddo ei hun. Ewch gamymhellach er mwyn sicrhau bod yGymraeg a’r Saesneg yn cael eugweld a’u clywed ymhob agweddo’r cyfarfod. Dyma sut i gynydducyfranogaeth, a sicrhau bodsylwadau a dyheadau siaradwyrCymraeg a siaradwyr di-Gymraego fewn y gymuned, ac o fewn ybartneriaeth yn cael eu lleisio.

Y CadeiryddMae gan y cadeirydd ddylanwadaruthrol ar rediad y cyfarfod, acef neu hi yn y pen draw fydd yndiffinio ac yn cynnal y nawsieithyddol, ac yn creu’r awyrgylchcynhwysol. Y cadeirydd mewngwirionedd yw’r allwedd ilwyddiant yr achlysur fel cyfarfodsy’n wirioneddol ddwyieithog,boed y cadeirio yn digwydd trwygyfrwng y Gymraeg neu’rSaesneg. Fe allai’r cadeiryddystyried gweithredu’rawgrymiadau canlynol:

■ Croesawu cynrychiolwyr ynddwyieithog.■ Dwyn sylw at yr offer cyfieithu.Esbonio mai adnodd ydyw syddyn caniatáu i bobl ddi-Gymraegddeall cyfraniadau a wneir ynGymraeg.■ Esbonio sut mae’r offer yngweithio gan dynnu sylw at yrheolydd sain a rhif y sianel ar yffonau-clust.■ Gall y cadeirydd gyfeirio atbwysigrwydd gwrando argyfraniadau a wneir yn Gymraeg,gan esbonio materion hawliaucyfartal h.y. mae gwrthod gwisgoclust-ffonau a gwrthod gwrandoyn fwriadol ar gyfieithiad ogyfraniad a wneir yn Gymraeggyfystyr a diystyru sylwadauperson ar sail eu dewis iaith.Mewn geiriau eraill, mae hyn yngwahaniaethu yn erbyn rhywun

ar sail eu hiaith. ■ Croesawu’r cyfieithydd, aphrofi’r offer. Sicrhau nad oesunrhyw un yn cael trafferthiongyda’r offer.■ Atgoffa pawb i ddychwelyd euffonau-clust ar ddiwedd ycyfarfod.■ Holi os oes gan bawb, na fyddyn deall cyfraniadau Cymraeg,ffonau-clust.■ Pwysleisio bod y mudiad, felcorff dwyieithog, yn awyddus isiaradwyr Cymraeg a dysgwyrdeimlo’n ddigon hyderus igyfrannu yn eu dewis iaith.■ Cadeirio yn Gymraeg lle’nbosib, neu...

07RHIF

DROSODD

Dwyieithrwydd: Ateb yr Her

Datblygu : Dwyieithrwydd

Page 15: Cymunedau yn Gyntaf a Dwyieithrwydd: Ateb yr Herestynllaw.org/uploads/ateb_yr_her.pdf · 2012. 6. 19. · awdit cymunedol ehangach, yn gymorth i asesu natur ieithyddol cymuned, sef

Cofiwch nad oes angen trefnuoffer cyfieithu bob tro. Maegweld cyfieithydd yn eistedd ynsegur drwy gydol cyfarfod ynddefnydd gwael o adnoddaupartneriaeth. Os ydy pawb ynsiarad Cymraeg, neu os nad oesunrhyw un wedi nodi eu bod ynbwriadu cyfrannu yn Gymraeg,gwastraff adnoddau fyddai taluam offer a chyfieithydd. Gallwchasesu’r anghenion cyfieithu drwyofyn cwestiwn syml ar y ffurflengofrestru tebyg i "A fyddech chi’ndymuno cyfrannu i’r cyfarfod ynGymraeg?". Os yw’r cyfarfod ynachlysur agored i’r gymuned, hebyr angen i gofrestru ymlaen llaw,dylech anelu i drefnu bodcyfleusterau cyfieithu ar gael.

Yn ddi-os, y dull gorau o sicrhaucyfraniadau Cymraeg o’r llawr, ywdrwy ddefnyddio’r Gymraeg o’rllwyfan neu o’r gadair. Mae hynyn normaleiddio’r defnydd o’rGymraeg, ac yn ei gwneud ynhaws i gyfranwyr ddefnyddio’rGymraeg. Dyw sicrhau cadeirioCymraeg/dwyieithog ddim ynbosib bob tro, ond fel mae’rcanllawiau uchod yn dangos,mae modd i gadeirydd di-Gymraeg gymryd camau pendanter mwyn cynyddu cyfranogaethtrwy gyfrwng y Gymraeg ynogystal â’r Saesneg, ac i gyfleu achryfhau’r neges fod y ddwy iaithyn gyfartal o fewn y cyfarfod, aco fewn y bartneriaeth.

Am wybodaeth bellach cysylltwchâ Menter a Busnes ar 01352 707830 neu [email protected]

■ Esbonio, fel cadeirydd, na allsiarad Cymraeg ond ei b/fod ynawyddus i glywed y Gymraeg ynystod y cyfarfod.■ Sicrhau bod o leiaf un o’r prifsiaradwyr yn annerch trwygyfrwng y Gymraeg.■ Defnyddio ‘mat bwrdd’Cymdeithas Cyfieithwyr Cymrusy’n nodi canllawiau arfer da igadeiryddion.■ Parhau â’r anogaeth iddefnyddio Cymraeg, yn gyson ynystod y cyfarfod.

O ddilyn y canllawiau hyn, fefydd y cadeirydd wedi cymrydcamau sylweddol tuag at hwylusomynediad a mynegiant o fewncyfarfod neu gynhadledd.

Mae’n bosib oherwydd rhesymaucost neu ymarferoldeb na fyddhi’n bosib cyfieithu pob gweithdyneu grwp trafod sy’n rhan ogynhadledd. Mewn achosion felhyn mae na opsiynau eraill i’whystyried er mwyn hwylusocyfraniadau Cymraeg. Weithiaugall cadeirydd sesiwn benodolgeisio cyfieithu a chrynhoicyfraniadau a wneir yn Gymraeg,gellir cynnal gweithdai ar saildewis iaith, neu ail redeg rhaisesiynau gydag offer cyfieithu osyw’r amserlen yn caniatáu.

^

Dwyieithrwydd: Ateb yr Her

07RHIF

Page 16: Cymunedau yn Gyntaf a Dwyieithrwydd: Ateb yr Herestynllaw.org/uploads/ateb_yr_her.pdf · 2012. 6. 19. · awdit cymunedol ehangach, yn gymorth i asesu natur ieithyddol cymuned, sef

Ymwneud â Rhwydweithiau CymraegMae anelu i gyrraedd at, acymwneud â rhwydweithiauamrywiol yn lleol yn greiddiol iamcanion partneriaethauCymunedau yn Gyntaf. Gallamrywiaeth ymwneud â chant amil o elfennau gwahanol - ogefndir ethnig, i grefydd, iabledd/anabledd ac ati. Atddibenion y daflen hon, byddwnyn canolbwyntio ar yr elfen iaith,gan edrych ar sut i gyrraedd atsiaradwyr Cymraeg a dysgwyr ofewn rhwydweithiau Cymraeg,a’u cynnwys yngngweithgareddau’r bartneriaeth,ac elwa o’u cyfranogiad.

Pam?Mae’r manteision i’r bartneriaetho ymwneud â rhwydweithiauCymraeg, gan sicrhau cyfranogiadsiaradwyr Cymraeg yn cynnwys:

■ Bod yn fwy cynhwysol ac ynfwy cynrychioladol o gymdeithas

■ Medru ymateb yn well ianghenion y gymuned leol

■ Denu mwy o wirfoddolwyr adefnyddwyr

■ Medru manteisio ar syniadau addaw gan bobl o gefndiroeddgwahanol

Sut?Er mwyn gwneud y bartneriaetha’i gweithgareddau yn ddeniadoli rwydweithiau o siaradwyrCymraeg, ystyriwch sut i yrru’r’signalau’ cywir at yrhwydweithiau hynny:

Arwyddion Gweledol ■ Ydy enw a delwedd ybartneriaeth yn ddwyieithog?■ Oes gennych ddeunyddhyrwyddo dwyieithog?■ Ydy gwefan y bartneriaeth argael yn y Gymraeg a’r Saesneg?

[Cyfeiriwch hefyd at daflennigwybodaeth 3 a 4 yn y gyfreshon "Datblygu GwefanDdwyieithog" a "DylunioDwyieithog a HunaniaethGorfforaethol".]

08RHIF

DROSODD

Dwyieithrwydd: Ateb yr Her

Datblygu : Dwyieithrwydd

Page 17: Cymunedau yn Gyntaf a Dwyieithrwydd: Ateb yr Herestynllaw.org/uploads/ateb_yr_her.pdf · 2012. 6. 19. · awdit cymunedol ehangach, yn gymorth i asesu natur ieithyddol cymuned, sef

Perthnasedd■ Ydych chi’n cydnabodanghenion iaith y gymuned, acyn darparu deunydd priodol?■ Ydych chi’n medru delio agaelodau o’r gymuned yn y ddwyiaith?■ Ydych chi’n rhoi dewis iaithgydag unrhyw wasanaethau agynigir?■ Ydych chi’n cynnal cyfarfodyddyn ddwyieithog?

[Cyfeiriwch hefyd at daflennigwybodaeth 2, 6 a 7 yn y gyfreshon "Cyflwyniad i Broffiliau Iaith","Trefnu DigwyddiadauDwyieithog", "Cynnal a ChadeirioCyfarfodydd Dwyieithog".]

Ymwneud yn Rhagweithiol■ Ystyriwch rwydweithio a rhoicyflwyniadau (Cymraeg) i grwpiauCymraeg yn lleol. Urdd GobaithCymru, Capeli ac Eglwysi,Ysgolion, Corau, Merched yWawr, canolfannau iaith ac ati.■ Ewch ag arddangosfa iddigwyddiadau Cymraeg■ Defnyddiwch y wasg a’rcyfryngau Cymraeg – yn enwedigPapurau Bro. Radio Cymru, radiolleol, Golwg, Y Cymro, S4C ac ati

Gall eich Menter Iaith leol fod ogymorth mawr yn hyn o beth.

Cynnwys Pobl■ Ceisiwch adnabod unigolion amudiadau yn lleol all fod ynddolenni cyswllt rhwng ybartneriaeth â rhwydweithiauCymraeg lleol■ Gweithiwch gydag unigolion amudiadau Cymraeg sydd eisoesyn weithgar o fewn ybartneriaeth■ Ceisiwch gynnwys grwpiauCymraeg mewn unrhywbrosiectau neu ddigwyddiadau adrefnir, gan ystyried y ddwy iaitho’r cychwyn cyntaf

Addasu■ Newidiwch ddiwylliant mewnoly bartneriaeth i adlewyrchu’chdyheadau ac ymrwymiad iddwyieithrwydd. Gall hyn olyguasesu eich dulliau recriwtio aphenodi, eich gallu i weithreduyn ddwyieithog yn fewnol ynogystal ag yn allanol, a’chdefnydd o dechnoleggwybodaeth Gymraeg.

[Cyfeiriwch hefyd at daflennigwybodaeth 9 a 10 yn y gyfreshon "Y Gymraeg a Chyflogaeth","Y Gymraeg a ThechnolegGwybodaeth"]

Am wybodaeth bellach cysylltwchâ Menter a Busnes ar 01352 707830 neu [email protected]

Dwyieithrwydd: Ateb yr Her

08RHIF

Page 18: Cymunedau yn Gyntaf a Dwyieithrwydd: Ateb yr Herestynllaw.org/uploads/ateb_yr_her.pdf · 2012. 6. 19. · awdit cymunedol ehangach, yn gymorth i asesu natur ieithyddol cymuned, sef

Y Gymraeg a ChyflogaethEr mwyn i unrhyw fudiad fedrugweithredu gofyniondwyieithrwydd yn llwyddiannus,mae angen nifer digonol osiaradwyr Cymraeg ymhlith ystaff. Mae’n beth amlwg iddweud, ond bydd mudiad gydarhai staff dwyieithog yn galludiwallu anghenion dwyieithrwyddyn haws na mudiad heb unrhywstaff dwyieithog. Mae’rcanllawiau isod yr un morberthnasol i staff a gwirfoddolwyro fewn eich partneriaeth.

Y Gymraeg fel SgilO ystyried y Gymraeg fel sgilychwanegol, byddwch yn gweldbod eich staff yn meddu arlefelau amrywiol o’r sgil. Nidyw’n fater syml o siarad Cymraegneu beidio â siarad Cymraeg, ondyn fater o alluoedd amrywiol ofewn y sbectrwm iaith. Gallwchgeisio cyplysu’r sgiliau sy’nbodoli, gydag anghenion adyletswyddau o fewn disgrifiadauswyddi e.e. cyswllt uniongyrcholâ’r cyhoedd, ateb y ffôn,gweithio gyda grwpiau Cymraeglleol a.y.b.

Recriwtio a PhenodiPan ddaw hi’n adeg llenwi rhaiswyddi penodol, gallwch ystyriedos ydych eisiau hysbysebu amrywun sy’n meddu ar y sgil a’rgallu i gyfathrebu yn y ddwy iaith- boed hynny’n ddymunol neu ynhanfodol.

Byddwch wedi pennu’r angen ifeddu ar y Gymraeg fel sgil ymysgnifer o sgiliau eraill, ar sail angen,ac ni ellir ei ddehongli felgwahaniaethu hiliol.

Mae’n bwysig bod gennychdrefniadaeth recriwtio sy’n glynuat arfer da, ac sydd ynwrthrychol, cyson a theg.Sicrhewch wrth hysbysebu aphenodi, bod unrhyw ofynion ynadlewyrchu anghenion sgiliau’rswydd dan sylw.

Asesu Anghenion Ieithyddol yMudiadYstyriwch i ba raddau maedisgwyl i swydd benodol ddod igysylltiad â’r cyhoedd. I baraddau mae angen gwneudhynny yn ddwyieithog? Oesangen medru ysgrifennu a lluniodeunydd yn y ddwy iaith? Ydy’ranghenion yma yn ddymunol,neu yn hanfodol yn eich tyb chi?Cofiwch mai asesu’r swydd yw’rnod, nid asesu deiliad presennol yswydd.

09RHIF

DROSODD

Dwyieithrwydd: Ateb yr Her

Datblygu : Dwyieithrwydd

Page 19: Cymunedau yn Gyntaf a Dwyieithrwydd: Ateb yr Herestynllaw.org/uploads/ateb_yr_her.pdf · 2012. 6. 19. · awdit cymunedol ehangach, yn gymorth i asesu natur ieithyddol cymuned, sef

Yn gyfochrog â hyn, gwnewchawdit o sgiliau iaith y staff a’rgwirfoddolwyr – sgiliau llafar,sgiliau ysgrifenedig, medrusrwydda.y.b. Yna cymharwch ycanlyniadau ar gyfer y swyddi, â’rcanlyniadau ar gyfer y sgiliau sy’nbodoli o fewn eich mudiadeisoes. Os oes bylchau yn yddarpariaeth ddwyieithog yn caeleu canfod, gall eich mudiadystyried yr opsiynau sy’n bodoli ofewn strategaeth hyfforddi ermwyn cau’r bylchau sy’n eichrhwystro rhag darparugwasanaethau yn y Gymraeg a’rSaesneg:

■ Hyfforddiant YmwybyddiaethIaith■ Gwella’r defnydd o’r sgiliauiaith sy’n bodoli o fewn ygweithlu presennol. Sicrhau bodstaff sy’n meddu ar sgiliau yn yGymraeg a’r Saesneg yn y swyddimwyaf addas e.e. swyddi sy’ngolygu cyswllt rheolaidd â’rcyhoedd ac aelodau’r gymuned.■ Cynnig cyrsiau gloywi iaith istaff sydd, efallai, wedi colli hyderyn eu Cymraeg, sydd ddim wediarfer ei defnyddio yn y gweithleneu sydd heb ddefnyddio’rGymraeg ers dyddiau ysgol.■ Cynnig cyrsiau dysgu Cymraegi staff sy’n awyddus i fynd ati o’rcychwyn i ddysgu sgil newydd.

Wrth gwrs, mewn mudiadcymharol fach, mae hi’n mynd ifod yn anoddach cyflawni rhai o’rargymhellion uchod, oherwyddgyda nifer isel o staff agwirfoddolwyr, byddech yndisgwyl i’r amrediad o sgiliaugwahanol fod yn is.

Mae’n bosib bydd rhai staff yndymuno cynyddu eu sgiliau drwygyrsiau dysgu a gloywi iaith, arhaid cofio hefyd gall fod rhaistaff na fydd yn dymuno cynyddueu sgiliau iaith. Rhaid parchu’rfarn hon, a pheidio â gorfodiunrhyw un i fynychu cyrsiau iaithyn groes i’w hewyllys. Yn yr unmodd, rhaid peidio â symudsiaradwyr Cymraeg i swyddi eraillo fewn y mudiad er mwyncyflawni angheniondwyieithrwydd, yn groes i’whewyllys.

Cofiwch ei bod yn hanfodol bodunrhyw broses adolygu yn cael eigwneud yn agored ac mewnmodd sensitif. Esboniwch wrth ystaff beth yw eich bwriad wrthwneud y fath adolygiad er mwynosgoi creu unrhyw deimladau obryder, drwgdybiaeth na dicter.

Ni ddylai unrhyw aelod staffdeimlo dan fygythiad nac o dananfantais o ganlyniad i unrhywbolisïau nac adolygiadau staffio.Mater o gydraddoldeb ydyw yn ybôn, ac o wneud unrhywadolygiad mewn modd addas,dylech gael cefnogaeth eich staff.

[Gyda diolch i ‘CyngorGweithredu Gwirfoddol Cymru’am lawer o’r wybodaeth.]

Am wybodaeth bellach cysylltwchâ Menter a Busnes ar 01352 707830 neu [email protected]

09RHIF

Dwyieithrwydd: Ateb yr Her

Page 20: Cymunedau yn Gyntaf a Dwyieithrwydd: Ateb yr Herestynllaw.org/uploads/ateb_yr_her.pdf · 2012. 6. 19. · awdit cymunedol ehangach, yn gymorth i asesu natur ieithyddol cymuned, sef

Y Gymraeg a Thechnoleg GwybodaethOs ydych yn awyddus iGymreigio’ch partneriaeth ynfewnol yn ogystal ag yn allanol,mae nifer o becynnaumeddalwedd yn bodoli er mwyngalluogi staff sy’n ddysgwyrneu’n siaradwyr Cymraeg iddefnyddio’r Gymraeg ar eucyfrifiaduron. Mae’r hyn sy’nbodoli yn amrywio oryngwynebau Cymraeg ar gyfer ysystemau mwyaf poblogaidd,ynghyd â phecynnau gloywi iaitha phecynnau gwirio Cymraeg.Ceir crynodeb o’r cynnyrch sy’nbodoli, ar y daflen hon - ond nidyw’r rhestr o reidrwydd yncynnwys pob pecyn TechnolegGwybodaeth Cymraeg sydd ar yfarchnad.

Microsoft Office 2003 aMicrosoft Windows XPDiolch i gydweithrediad rhwngBwrdd yr Iaith a Microsoft, gydachymorth arbenigol gan ‘Draig’,‘Cymen’ a ‘Chanolfan Bedwyr’,mae modd cael rhyngwynebCymraeg ar gyfer Office 2003 aWindows XP. Bydd hyn yncaniatáu i chi ddefnyddio’rcymwysiadau canlynol ynGymraeg : Internet Explorer, Excel2003, Word 2003, Outlook2003, PowerPoint 2003 a ControlPanel. Gallwch lawrlwytho’rfeddalwedd yn rhad ac am ddimdrwy ymweld âwww.microsoft.com/uk/office/cymruwales

www.microsoft.com/uk/windows/cymruwalesneu drwy gysylltu â Bwrdd yrIaith am CD fydd yn cynnwys yfeddalwedd.

To BachMae cwmni Draig TechnologyCyf. wedi datblygu pecyn sy’n eigwneud hi’n haws teipio nodauac acenion Cymraeg arfysellfwrdd. Mae modd lawrlwytho ‘To Bach’ yn rhad acam ddim o wefan DraigTechnology wrth ymweld âwww.draig.co.uk. Cewch fanylionyma hefyd am fwy o gynnyrch ycwmni.

GoogleMae www.google.co.uk yncynnig rhyngwynebau mewnnifer o ieithoedd gan gynnwys yGymraeg. Ewch i’r wefan,cliciwch ar ‘Preferences’ adewiswch ryngwyneb Cymraeg.

Canolfan Bedwyr, PrifysgolBangorMae Canolfan Bedwyr wedidatblygu nifer o adnoddauTechnoleg Gwybodaethdefnyddiol. Mae modd lawrlwytho rhannau ohonynt ynrhad ac am ddim ‘ar brawf’ amgyfnod penodol, ac yna gallwchbrynu copïau drwy gysylltu â’rganolfan, neu mewn siopauCymraeg.

10RHIF

DROSODD

www.

Dwyieithrwydd: Ateb yr Her

Datblygu : Dwyieithrwydd

Page 21: Cymunedau yn Gyntaf a Dwyieithrwydd: Ateb yr Herestynllaw.org/uploads/ateb_yr_her.pdf · 2012. 6. 19. · awdit cymunedol ehangach, yn gymorth i asesu natur ieithyddol cymuned, sef

CysgliadPecyn meddalwedd cynhwysfawrsy’n cynnwys:

CySill 3 - Gwirydd sillafu agramadeg Cymraeg, athesawrws.

Cysgeir – Geiriadur Cymraeg aSaesneg cynhwysfawr, sydd hefydyn cynnwys geiriaduronterminoleg arbenigol■ Y Termiadur Ysgol (ACCAC) -termau wedi'u safoni ar gyferysgolion Cymru ■ Geiriadur Termau Archaeoleg ■ Termau Gwaith a GofalCymdeithasol ■ Termau Asiantaeth yrAmgylchedd Cymru ■ Termau Hybu Iechyd ■ Termau Iechyd Meddwl Plant aPhobl Ifanc ■ Termau Cyllid ■ Termau Nyrsio aBydwreigiaeth.

Meddalwedd Rhydd Gymraeg■ OpenOffice.org (cyfres oraglenni – fel Microsoft Office)gan gynnwys gwirydd sillafuCymraeg■ Fersiwn Cymraeg o’r gwe-lywiwr Mozilla■ ‘To Bach’ – meddalwedd argyfer teipio llythrennau acennogyn hawdd.

Mae Cysgliad yn addas ar gyferWindows 98 / NT / 2000 / ME /XP

Pecynnau Eraill : Cymarfer(Fersiwn y Gweithle a fersiwnColeg).Pecynnau Craidd ac Uwch argael. Gloywi Iaith Rhyngweithiolar gyfer Cymry Cymraeg adysgwyr sy’n ysgrifennu Cymraegyn y gweithle, neu sy’n astudiomewn colegau a phrifysgolion.

Mae modd cael manylion llawnam becynnau Canolfan Bedwyrdrwy ymweld â’u gwefanwww.bangor.ac.uk/ar/cb/meddalwedd.php.

Trwy ddefnyddio meddalweddCymraeg a Saesneg o fewn eichswyddfa, rydych yn creuhinsawdd gynhwysol sy’n rhoiparch a statws i’r ddwy iaith ofewn y gweithle. Maenormaleiddio’r defnydd o’rGymraeg o fewn maes TechnolegGwybodaeth yn sicrhau bod ganeich staff yr adnoddau priodol i’wgalluogi i weithio trwy gyfrwng yddwy iaith.

Am wybodaeth bellach cysylltwchâ Menter a Busnes ar 01352 707830 neu [email protected]

10RHIF

Dwyieithrwydd: Ateb yr Her

365 Graphics 01824 707024