Upload
others
View
1
Download
0
Embed Size (px)
Citation preview
Noder os gwelwch yn dda: mae deunydd ategol ar gyfer y cynllun gweithdy yma i’w gael yn newislen Cyfnod Allweddol 3.
Cynllun Gweithdy Cyfnod Allweddol 3:
Dyddiad: Gwers:
Blwyddyn:
Nifer yn y dosbarth:
Cyfnod Allweddol: 3
Gallu: Cymysg
Ffocws:
Drama/Disgrifio
Adnoddau:
· PowerPoint
· Bwrdd gwyn rhyngweithiol
· Taflen gymeriadau
Teitl y gweithdy:
‘Dan y Wenallt’
Gweithgaredd Cynhesu:
Dangos y PowerPoint ar Dylan Thomas, hyd at y dudalen wag, a son ychydig amdano e.e. ganwyd yn Abertawe/ysbrydolwyd Dylan Thomas i ysgrifennu Dan Y Wenallt yng Nghei Newydd. Bydd rhai o’r dosbarth wedi bod yn yr ardaloedd e.e. Abertawe, Cei Newydd a Talacharn. Efallai bydd rhai yn cefnogi tîm pel-droed Abertawe.
Nodau ac Amcanion y gweithdy:
Erbyn diwedd y wers bydd y grwpiau i gyd wedi ystyried pwysigrwydd y synhwyrau, ac wedi ystyried nodweddion gwahanol gymeriadau i fynd ati i greu dramateiddiad.
Prif Ddigwyddiadau:
· Unigolion o’r dosbarth i ddarllen y detholiad o ‘Dan y Wenallt’ o flaen y dosbarth.
· Gwneud gweithgaredd rhyngweithiol 1 – synhwyrau.
· Gwneud gweithgaredd rhyngweithiol 2 – cymeriadau.
· Rhannu’r dosbarth yn ddau – y rhai a fwynheuodd weithgaredd 1 a’r rhai a fwynheuodd weithgaredd 2.
· Dosbarthu’r daflen cymeriadau i’r grwpiau (gweithgaredd 1), a’u cael i feddwl am nodweddion y cymeriadau.
· Llunio dramateiddiad byrfyfyr sy’n seiliedig ar y cymeriadau.
· Gwahodd y gweddill i edrych ar dudalen olaf y PowerPoint, a’u cael i ysgrifennu agoriad i’r ddramateiddiad, sy’n seiliedig ar y synhwyrau.
Diweddglo/Gwaith Estynedig:
Gwrando ar y perfformiadau gan y disgyblion
Y disgyblion i fynd ati i lunio eu dramau eu hunain yn seiliedig ar waith y wers.
CA3 Gweithdy Cyfrwng Gymraeg
Mae’r gweithdy yn cynnig cyfleoedd i ddatblygu’r elfennau o’r Fframwaith Llythrennedd, e.e. o fewn y llinyn llafaredd bydd cyfleoedd i ddisgyblion gyfleu syniadau a gwybodaeth, gwrando ac ymateb i safbwyntiau a chydweithio gydag eraill er mwyn datblygu ei dealltwriaeth o ddetholiad o waith Dylan Thomas sef ‘Dan y Wenallt’. Yn ogystal bydd y sesiwn yn rhoi cyfleoedd i ddatblygu elfennau o’r llinyn ysgrifennu drwy roi cyfleoedd i drefnu syniadau a gwybodaeth ac ysgrifennu’n gywir ar gyfer creu dramateiddiad byrfyfyr yn seiliedig ar y cymeriadau. Bydd agweddau o strwythur a threfn ac iaith yn greiddiol i’r dasg ysgrifenedig.
Mae’r gweithdy yn cynnig cyfleoedd i ddatblygu’r elfennau o’r Fframwaith Rhifedd megis llinyn defnyddio sgiliau rhif wrth nodi oedran, dyddiad geni a marw Dylan Thomas. Yn ogystal gwelir gyfle i gyfri sillau a gweld patrwm ar sail ffurf lenyddol y testun dan sylw.