55
Tactegau enghreifftiol ar gyfer cyrraedd cynulleidfaoedd targed

Example tactics for reaching target audiences - IER-W · Web viewAdran Addysg, Cyfranogiad mewn addysg, hyfforddiant a chyflogaeth gan bobl 16-18 oed yn Lloegr Cyfrifiad 2011 Cymunedau

  • Upload
    others

  • View
    4

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

Example tactics for reaching target audiences - IER-W

Tactegau enghreifftiol ar gyfer cyrraedd cynulleidfaoedd targed

Gweithgarwch a phartneriaid lleol ar gyfer grwpiau nas cynrychiolir yn ddigonol a grwpiau nad ymgysylltir cymaint â nhw

Tactegau enghreifftiol ar gyfer cyrraedd cynulleidfaoedd targed

Mae targedu grwpiau y mae’n anos ymgysylltu â nhw yn dal i fod yn her i Swyddogion Cofrestru Etholiadol. Isod mae nifer o dactegau enghreifftiol ar gyfer cyrraedd cynulleidfaoedd amrywiol. Bwriedir y rhain i weithredu fel sylfaen ar gyfer cynhyrchu syniadau ynghylch dulliau sy’n effeithiol ar gyfer yr heriau o ran demograffeg a chofrestru yn eich ardal chi. Wrth i chi ddatblygu tactegau, ystyriwch hefyd ffyrdd posibl o fesur eu gwerth. Dylech ddarllen y ddogfen hon ochr yn ochr â’r canllawiau cofrestru craidd sydd ar gael ar ein gwefan, yn enwedig Rhan 1: Cynllunio ar gyfer cyflawni gweithgarwch cofrestru etholiadol.

Mae hon yn ddogfen fyw felly rydym yn croesawu enghreifftiau o weithgareddau yr ymgymerwyd â nhw yn eich ardal chi.

Rydym wedi cydweithio â Chymdeithas y Gweinyddwyr Etholiadol (AEA) a’r Scottish Assesors Association (SAA) i nodi enghreifftiau penodol o arfer da o ran cofrestru etholiadol. Mae’r enghreifftiau canlynol wedi’u cyhoeddi ar ein gwefan a defnyddir blychau i dynnu sylw atynt yn y canllawiau hyn:

Defnyddio llechi mewn cofrestru etholiadol

Cyfathrebu

Cyrraedd trigolion cartrefi gofal

Canfasio personol effeithlon

Annog ymatebion

Cyrraedd myfyrwyr

Defnyddio’r data sydd ar gael yn effeithiol

Rheoli prosesau cofrestru yn effeithiol

Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol yr UE (GDPR) a Bil Diogelu Data

Dylai egwyddorion diogelu data fod yn rhan annatod o'ch gwaith ymgysylltu - gan gynnwys eich gwaith gyda phartneriaid. Dylech gadw cofnodion o'r data yr ydych yn ei brosesu, er mwyn dangos bod yr holl wybodaeth yn cydymffurfio gydag egwyddorion prosesu data personol, gan sicrhau ei fod yn cael ei brosesu yn gyfreithlon, yn deg ac mewn modd tryloyw (gweler 2, 8 ac 11 ein hadnodd i weinyddwyr ar GDPR am fwy o wybodaeth).

Cynulleidfaoedd:

Myfyrwyr

Pobl sy’n symud cartref

Pobl ifanc

Cyrraeddwyr oedran

Y boblogaeth dros dro a chartrefi amlfeddaniaeth

Grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig

Pobl ag anableddau

Pobl dros 75 oed

Teuluoedd wedi’u hymddieithrio

Trigolion gwledig

Trigolion sy’n byw mewn cymunedau y tu ôl i gatiau neu mewn parciau carafannau

Cyrraedd myfyrwyr

Gweler hefyd: Pobl ifanc, Cyrraeddwyr oedran

Ffeithiau allweddol

· 3.7 miliwn yn y DU

· 88% rhwng 15 a 24 oed

· 89% sengl

· 46% yn rhentu

· Mae 128,000 mewn neuaddau preswyl myfyrwyr

Bydd cyrraedd myfyrwyr yn golygu defnyddio cyfuniad o’r dulliau a gyflwynir yn y cyfarwyddyd - cysylltiad uniongyrchol, gweithio gyda phartneriaid, codi ymwybyddiaeth. Gall myfyrwyr dros 16 oed fod yn y coleg, y brifysgol neu’r chweched dosbarth, naill ai’n byw gartref neu mewn llety rhent.

Nodweddion sy’n effeithio ar ymgysylltu

· Wedi’u dylanwadu’n fawr gan gyfoedion, mae ennill parch yn bwysig

· Allan mewn mannau cymdeithasol fel bariau, sinemâu a siopau yn aml

· Canolbwyntio ar ddiddordebau allweddol e.e. cerddoriaeth, teithio, technoleg gan ddarparu cyfleoedd i godi ymwybyddiaeth o gwmpas y rhain

· Maent yn symud yn aml ac yn aml fe’u cesglir mewn ardaloedd daearyddol penodol

· Gall myfyrwyr addysg uwch gofrestru mewn mwy nag un lleoliad

Defnydd o’r cyfryngau a chyfathrebu

· Defnydd uchel o’r rhyngrwyd

· Dod i gysylltiad rheolaidd â hysbysebu awyr agored fel posteri mewn arosfannau bysiau

· Presenoldeb cymedrol mewn sinemâu

· Dod i rywfaint o gysylltiad â’r teledu, radio, papurau newydd a chylchgronnau

Adnoddau i’w defnyddio gyda myfyrwyr

Ar ein gwefan ceir adnoddau y gallwch eu defnyddio i ymgysylltu â myfyrwyr:

· Adnoddau ymgysylltu â’r cyhoedd: https://www.electoralcommission.org.uk/cymru/i-am-a/electoral-administrator/running-electoral-registration/public-engagement-resources

· Adnoddau cyfranogi: https://www.electoralcommission.org.uk/cymru/i-am-a/electoral-administrator/participation-resources-for-local-authorities

· Adnoddau ar gyfer partneriaid: https://www.electoralcommission.org.uk/find-information-by-subject/electoral-registration/partnership-working/resources-for-partners

Rhannu arfer da

Mae nifer o Swyddogion Cofrestru Etholiadol yn cydweithio â phrifysgolion yn eu hardal er mwyn cynnwys cofrestru etholiadol yn y broses o gofrestru myfyrwyr. I gael gwybodaeth ac enghreifftiau ymarfer o sut mae rhai Swyddogion Cofrestru Etholiadol yn annog myfyrwyr i gofrestru, gweler ein hadnodd rhannu arfer da, ‘Cyrraedd myfyrwyr’.

Mae Llywodraeth y DU hefyd wedi cyhoeddi canllawiau

ar gyfer Swyddfa'r Myfyrwyr ar gofrestru myfyrwyr. Bwriad y canllawiau yw hwyluso cofrestru etholiadol myfyrwyr drwy gyfarwyddo Swyddfa'r Myfyrwyr o'r camau y dylent ddisgwyl bod darparwyr Addysg Uwch yn eu cymryd o ran hyrwyddo cofrestru etholiadol a chyfranogiad etholiadol ymysg poblogaeth eu myfyrwyr.

Cyswllt uniongyrchol

Enghreifftiau o weithgareddau

· Defnyddiwch ddata sydd ar gael - fel data Treth Gyngor ar y nifer o dai sydd wedi’u heithrio rhag Treth Gyngor gan fod myfyrwyr yn byw ynddynt

· Lle y bo modd, sicrhewch fod eich gohebiaeth a’ch deunyddiau yn cynnwys negeseuon sy’n fwy tebygol o fod yn dderbyniol i fyfyrwyr.

· Yn y byd sydd ohoni ar gyfer llawer o fyfyrwyr, mae’n bosibl mai eu rhieni oedd yn eu cofrestru o’r blaen, neu’n delio ag unrhyw ohebiaeth ar eu rhan. Gallai gweithgarwch sy’n targedu rhieni gynnwys negeseuon ar godi cofrestriad pleidleiswyr gyda’u plant, gan gynnwys pwysleisio y gall myfyrwyr gofrestru yn eu cartref a’u prifysgol fel ei gilydd.

Gweithio gyda phartneriaid

Enghreifftiau o weithgareddau

· Meithrin perthnasau gyda’r brifysgol fel y gallant helpu i adnabod ble y gallent helpu - efallai y bydd cyfleoedd iddynt gynnwys gwybodaeth gofrestru mewn dogfennau ymrestru, neu gyflwyno’r pwnc mewn sesiynau briffio i groesawu myfyrwyr.

· Gweithio gyda neuaddau preswyl i gofrestru myfyrwyr wrth iddynt gyrraedd. Gallai monitor neuaddau ymgysylltiedig godi’r neges wyneb yn wyneb â myfyrwyr hefyd

· Cysylltu â llywydd eich cangen leol o undeb y myfyrwyr i’ch helpu i adnabod cyfleoedd i ledaenu’r neges

· Ymgysylltu â landlordiaid mawr sy’n darparu llety i fyfyrwyr er mwyn cynnwys gwybodaeth gofrestru gyda chontractau rhentu

Enghreifftiau o bartneriaid

· Gwasanaethau cymorth i fyfyrwyr prifysgol

· Cynrychiolydd undeb y myfyrwyr

· Neuaddau preswyl unigol

· Landlordiaid preifat i fyfyrwyr

Codi ymwybyddiaeth

Mae myfyrwyr yn gynulleidfa heriol a gallai gweithgareddau gynnwys yr awgrym y bydd codi ymwybyddiaeth yn cynyddu’r posibilrwydd y byddant yn deall y broses a chofrestru nes ymlaen, os nad ydynt yn cofrestru mewn ymateb uniongyrchol i’r gweithgaredd. Bydd angen i chi ystyried sut i amseru gweithgareddau codi ymwybyddiaeth fel bod y gweithgareddau’n cael eu cyd-drefnu a fel bod hysbysebu’n cael yr effaith fwyaf i’w weld gan gymaint o bobl gymaint o weithiau â phosibl.

Enghreifftiau o weithgareddau

· Cysylltwch â’r brifysgol er mwyn gwirio pa gyfleodd hysbysebu maent yn eu cynnig neu y byddent yn fodlon eu cynnig er mwyn cyrraedd myfyrwyr, a deall y costau cysylltiedig. Gallai’r rhain gynnwys:

· Hysbysebu ar faneri ar fewnrwyd y brifysgol neu wefan undeb y myfyrwyr

· Cynnwys gwybodaeth neu ffurflen mewn bag nwyddau wythnos y glas

· Hysbysebu ar waith papur myfyrwyr

· Hysbysebu mewn papurau newydd, cylchgronnau neu gylchlythyrau myfyrwyr

· Postio ar eu cyfrif Twitter neu Facebook

· Hysbysebu ar sgriniau plasma, sianeli teledu mewnol ac arbedwyr sgrîn y brifysgol

· Stondinau hyrwyddol mewn prif adeiladau y tu allan i wythnos y glas.

· Dosbarthu taflenni ar y campws trwy strwythurau’r brifysgol neu gyda chaniatâd

· Mewn dinasoedd mawr lle mae myfyrwyr yn dibynnu ar gludiant cyhoeddus, ystyriwch hysbysebu ar fysiau ac mewn arosfannau

· Cynhaliwch stondin yn wythnos y glas - bydd angen i chi ystyried yn ofalus sut y gallwch gyflwyno cymhellion i fyfyrwyr i’w cael i ymddiddori gan ystyried hefyd gost-effeithiolrwydd y gweithgaredd hwn. Byddwch yn cystadlu gyda’r gymdeithas gwrw a difyrion tebyg. Gallech ystyried cyflwyno cystadleuaeth, a rhoi anrhegion i ffwrdd am ddim .

· Ystyriwch hysbysebu yn yr awyr agored ar y prif lwybrau i brifysgolion ac mewn mannau i fyfyrwyr. Gellai hyn fod yn fyrddau poster y telir amdanynt neu safleoedd mae’r cyngor yn berchen arnynt.

Rhannu arfer da

Mae nifer o Swyddogion Cofrestru Etholiadol yn cydweithio â phrifysgolion yn eu hardal er mwyn cynnwys cofrestru etholiadol yn y broses o gofrestru myfyrwyr. I gael gwybodaeth ac enghreifftiau ymarfer o sut mae rhai Swyddogion Cofrestru Etholiadol yn annog myfyrwyr i gofrestru, gweler ein hadnodd rhannu arfer da, ‘Cyrraedd myfyrwyr’.

Cyrraedd pobl sy’n symud cartref

Gweler hefyd: Poblogaethau symudol, rhentwyr preifat a phreswylfeydd cymunol

Ffeithiau allweddol

· 2 filiwn yn eu cyfeiriad cyfredol am lai na 12 mis

· 1.3 miliwn wedi byw yn eu cyfeiriad cyfredol am 1-2 flynedd

· 35% o rentwyr preifat wedi bod yn eu cyfeiriad cyfredol am lai nag un flwyddyn

Mae ymchwil wedi dangos bod y bobl hynny sydd wedi symud yn ddiweddar ymhlith y rhai sydd fwyaf mewn perygl o fod yn absennol o’r gofrestr. Mae cyfleoedd i godi ymwybyddiaeth yn cynnwys cysylltiad uniongyrchol, gweithio gyda phartneriaid, a hysbysebu a’r cyfryngau.

Nodweddion sy’n effeithio ar ymgysylltu

· Ddim yn ymwybodol o’r angen i ail-gofrestru neu ddiweddaru manylion

· Gallent ragdybio bod cofnodion cyngor yn cael eu diweddaru yn awtomatig

· Canolbwyntio ar flaenoriaethau eraill ynghylch symud cartref

· Gallent gysylltu â gwasanaethau cyngor eraill ynghylch y newid cyfeiriad

· Gallent fod yn gosod gwasanaethau newydd fel band eang

· Gallent fod yn defnyddio busnesau lleol i sefydlu cartref

· Efallai nad ydynt wedi ailgyfeirio post o’u hen gyfeiriad

Adnoddau i’w defnyddio gyda phobl sy’n symud cartref

Ar ein gwefan ceir adnoddau y gallwch eu defnyddio i ymgysylltu â phobl sy’n symud cartref:

· Adnoddau ymgysylltu â’r cyhoedd: https://www.electoralcommission.org.uk/cymru/i-am-a/electoral-administrator/running-electoral-registration/public-engagement-resources

· Adnoddau cyfranogi: https://www.electoralcommission.org.uk/cymru/i-am-a/electoral-administrator/participation-resources-for-local-authorities

· Adnoddau ar gyfer partneriaid: https://www.electoralcommission.org.uk/find-information-by-subject/electoral-registration/partnership-working/resources-for-partners

Rhannu arfer da

I gael gwybodaeth ac enghreifftiau ymarfer o sut mae rhai Swyddogion Cofrestru Etholiadol yn targedu darpar etholwyr a chyfathrebu â nhw, gweler ein hadnodd rhannu arfer da, ‘Cyfathrebu’.

Cyswllt uniongyrchol

Enghreifftiau o weithgareddau

· Bydd ffurflenni ymholiadau’r cartref yn helpu i adnabod trigolion mewn tai nad oes gennych fanylion ar eu cyfer

· Gellid briffio staff rheng flaen cyngor sy’n delio ag ymholiadau cyhoeddus am newid cyfeiriad er mwyn pwysleisio bod angen cofrestru i bleidleisio mewn cyfeiriad newydd. Gallai’r ymholiadau hyn fod am unrhyw wasanaeth cyngor, fel:

· Treth gyngor

· Trwyddedau parcio

· Ysgolion

· Dyddiadau casglu gwastraff ac ailgylchu

· Efallai fod gan eich gwefan hysbysiad ‘newid cyfeiriad’, sy’n anfon manylion i wahanol adrannau ynghylch ble mae rhywun wedi symud

· Efallai fod adrannau, darparwyr gwasanaethau a staff rheng flaen eraill mewn cysylltiad â thrigolion newydd i’r ardal - ac efallai eu bod yn anfon cyfathrebiadau y gellid darparu gwybodaeth ynddynt

Gweithio gyda phartneriaid

Enghreifftiau o weithgareddau

· Efallai y bydd yn bosibl ymgysylltu ag asiantau tai a landlordiaid mawr lleol - gan gynnwys tai cymdeithasol - er mwyn cynnwys gwybodaeth gyda chytundebau rhentu neu er mwyn darparu taflenni pan drosglwyddir allweddau

· Mae’n debygol y bydd pobl sydd newydd symud yn defnyddio busnesau penodol - efallai y bydd siopau DIY a siopau nwyddau cartref lleol yn gallu arddangos posteri neu osod taflenni ar hysbysfyrddau

· Efallai y bydd busnesau lleol sy’n danfon nwyddau yn fodlon cynnwys taflenni gyda’u danfoniadau i gwsmeriaid newydd

· Gellid cysylltu â grwpiau, cymdeithasau trigolion a fforymau cymunedol ar-lein lleol ynghylch rhoi gwybodaeth ar eu gwefannau neu flogiau, ac arddangos posteri ar hysbysfyrddau

· Hefyd efallai yr hoffai’r partneriaid hyn godi’r mater mewn cyfarfodydd, neu hyd yn oed rhedeg gweithdai ymgysylltu, a allai o bosibl gychwyn cyfleoedd eraill ar gyfer ymgysylltu â thrigolion

· Gallai gwirfoddolwyr gyda phleidiau gwleidyddol sy’n canfasio ddrws-i-ddrws helpu i ledaenu’r neges am gofrestru

Enghreifftiau o bartneriaid

· Asiantau tai

· Landlordiaid preifat a chymdeithasol

· Siopau DIY a gwella cartref

· Busnesau lleol sy’n danfon i’r cartref

· Fforymau cymunedol, cymdeithasau trigolion a grwpiau lleol eraill

· Busnesau lleol sydd â gwefannau y gallai pobl sy’n symud cartref ymweld â nhw, fel y rhai hynny sy’n darparu gwybodaeth am yr ardal leol

· Adrannau a darparwyr gwasanaethau eraill

· Cwmnïau cyfleustodau

Codi ymwybyddiaeth

Bydd angen i chi ystyried sut i amseru gweithgareddau codi ymwybyddiaeth fel bod y gweithgareddau’n cael eu cyd-drefnu a fel bod hysbysebu’n cael yr effaith fwyaf i’w weld gan gymaint o bobl gymaint o weithiau â phosibl. Hefyd ystyriwch ffyrdd i gyfrifo’r nifer o drigolion a gyrhaeddir gan y gweithgaredd.

Enghreifftiau o weithgareddau

· Gellid lleoli hysbysebion mewn mannau mae pobl sy’n symud cartref yn debygol o ymweld â nhw. Er enghraifft efallai y bydd trigolion newydd yn ymuno â chanolfannau hamdden, gofrestru mewn meddygfeydd a gellid darparu taflenni, posteri neu becynnau cofrestru yn y lleoliadau hyn.

· Gellid arddangos hysbysebion ar-lein ar ardaloedd y wefan mae pobl sy’n symud cartref yn debygol o ymweld â nhw.

· Efallai y bydd busnesau a sefydliadau cymunedol lleol yn fodlon gosod hysbysebion baner ar eu gwefannau.

Cyrraedd pobl ifanc

Gweler hefyd: Myfyrwyr, cyrraeddwyr oedran, poblogaethau symudol

Ffeithiau allweddol

· 16.7m o bobl 18-34 oed yn y DU

· Mae 2.96m yn byw gyda rhieni

· Mae 5.6m yn byw fel cwpl yn eu cartref eu hunain

· Mae 958,000 yn byw ar eu hunain

· Mae 672,000 yn byw fel rhieni unigol

· Mae 128,000 mewn neuaddau preswyl myfyrwyr

Mae ‘pobl ifanc’ yn garfan amrywiol iawn - gall gynnwys myfyrwyr, rhieni plant ifanc, y rheini mewn cyflogaeth neu’r rheini sy’n ceisio gwaith. Fel carfan gyfan, mae’r grŵp yn tueddu i gael eu tan-gofrestru, yn arbennig pan eu bod yn syrthio i gategorïau eraill sy’n gael eu tan-gofrestru. Hefyd maent yn llai tebygol o ymgysylltu â’r broses bleidiau gwleidyddol a ‘gwleidyddiaeth’ draddodiadol, ond efallai y byddant yn ymddiddori mewn gwleidyddiaeth mater unigol.

Nodweddion sy’n effeithio ar ymgysylltu

· Llai tebygol o ymgysylltu â gwleidyddiaeth

· O bosibl yn ymgysylltu â gwleidyddiaeth ar faterion penodol

· Yn cael eu dylanwadu gan gyfoedion a/neu deulu

· Yn dibynnu ar y teulu i’w cofrestru o’r blaen

· Anymwybodol o’r angen i gofrestru i bleidleisio

· Blaenoriaethau eraill fel astudio, cymdeithasu, chwilio am waith, magu plant ifanc

Defnydd o’r cyfryngau

· Dod i gysylltiad rheolaidd â’r rhyngrwyd a’r cyfryngau cymdeithasol

· Defnydd uchel o ffôn clyfar a negeseuon testun

· Dod i gysylltiad rheolaidd â hysbysebu awyr agored fel posteri mewn arosfannau bysiau

· Dod i gysylltiad canolig â’r sinema

· Dod i rywfaint o gysylltiad â’r cyfryngau ‘traddodiadol’ - teledu, radio, papurau newydd a chylchgronnau

Adnoddau i’w defnyddio gyda phobl ifanc

Ar ein gwefan ceir adnoddau y gallwch eu defnyddio i ymgysylltu â phobl ifanc:

· Adnoddau ymgysylltu â’r cyhoedd: https://www.electoralcommission.org.uk/cymru/i-am-a/electoral-administrator/running-electoral-registration/public-engagement-resources

· Adnoddau cyfranogi: https://www.electoralcommission.org.uk/cymru/i-am-a/electoral-administrator/participation-resources-for-local-authorities

· Adnoddau ar gyfer partneriaid: https://www.electoralcommission.org.uk/find-information-by-subject/electoral-registration/partnership-working/resources-for-partners?

Rhannu arfer da

I gael gwybodaeth ac enghreifftiau ymarfer o sut mae rhai Swyddogion Cofrestru Etholiadol yn targedu darpar etholwyr a chyfathrebu â nhw, gweler ein hadnodd rhannu arfer da, ‘Cyfathrebu’.

Cyswllt uniongyrchol

Enghreifftiau o weithgareddau

· Lle gallwch adnabod bod pobl ifanc yn byw mewn cyfeiriad (fel trwy ddata addysg), gellir addasu cyfathrebiadau ar gyfer y gynulleidfa honno.

· Gall cyfathrebiadau â rhieni pobl ifanc amlygu’r angen i godi cofrestru gydag aelodau teulu

· Ystyriwch gyfathrebu’n uniongyrchol yn y fformat mwayf cyfleus i bobl ifanc, er enghraifft negeseuon testun neu’r cyfryngau cymdeithasol.

· Archwiliwch eich prosesau ar gyfer delio ag ymholiadau sy’n dod trwy’r cyfryngau cymdeithasol - mae’n debygol y disgwylir ymatebion yn gyflym.

· Efallai fod eich awdurdod lleol yn cyflogi pobl ifanc, gan gynnwys prentisiaid, a allai gynghori ar gyfathrebu â phobl ifanc yn eich ardal

· Gellid postio cardiau post neu daflenni a dargedir yn uniongyrchol i bobl ifanc

· Efallai fod adrannau, darparwyr gwasanaethau a staff rheng flaen eraill mewn cysylltiad â phobl ifanc yn yr ardal - ac efallai eu bod yn anfon cyfathrebiadau y gellid darparu gwybodaeth ynddynt

· Efallai fod data ar gael i gysylltu a gweithio gyda phobl ifanc yn uniongyrchol, er enghraifft gallech dargedu pobl ifanc mewn tai dros dro.

Gweithio gyda phartneriaid

Enghreifftiau o weithgareddau

· Cysylltwch â sefydliadau sy’n darparu gwasanaethau ar gyfer pobl ifanc, fel rhwydweithiau gwirfoddoli ieuenctid, grwpiau chwaraeon a darparwyr hyfforddiant ar gyfer swyddi a sgiliau. Efallai y byddant yn fodlon fflagio cofrestru i aelodau.

· Efallai y bydd gan dimau awdurdod lleol gysylltiad wyneb yn wyneb gyda grwpiau o bobl ifanc a gallech siarad â nhw er mwyn adnabod cyfleoedd ar gyfer fflagio cofrestru.

· Os oes gennych gyngor neu rwydwaith debyg i berson ifanc, gallai fod yn ddefnyddiol i geisio eu barn ynghylch ymgysylltu â phobl ifanc yn yr ardal a’u hannog i gofrestru. Gallent helpu hefyd trwy gyfathrebu trwy eu sianeli eu hunain.

· Hefyd efallai fod gan dimau eraill wybodaeth am unigolion sy’n cysylltu a dylanwadu ar bobl ifanc, ac a allai fod yn ymwybodol o fecanweithiau cyfathrebu presennol. Felly er enghraifft gallent fod mewn cysylltiad ag eiriolwyr cymunedol, gwirfoddolwyr, gwasanaethau gofal ac ati.

· Ymgysylltwch â darparwyr addysg i wirio a allant arddangos deunyddiau neu hyrwyddo cofrestru ymhlith eu myfyrwyr.

· Bydd pobl ifanc yn syrthio i lawer o gategorïau cymdeithasol eraill felly gellid defnyddio data er mwyn adnabod cyfleoedd eraill i adnabod partneriaid priodol. Er enghraifft, gallai pobl ifanc yn eich ardal fod yn rhieni - a gellid eu cyrraedd trwy weithio gyda grwpiau i rieni ifanc, canolfannau plant, y Swyddfa Gofrestru Genedigaethau, Marwolaethau a Phriodasau ac ati.

· Efallai fod cyflogwyr mawr yn eich ardal sy’n cyflogi niferoedd mawr o bobl ifanc. Efallai y byddant yn fodlon fflagio cofrestru trwy fecanweithiau cyfathrebu mewnol, yn arbennig os oes diddordeb ganddynt mewn cynyddu cysylltiadau cymunedol neu os oes ganddynt agenda ynghylch cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol.

· Yn yr un modd efallai y gellid ymgysylltu â busnesau lleol gyda phobl ifanc fel cwsmeriaid er mwyn eu cael i ledaenu’r neges.

· Efallai y byddwch yn fodlon adnabod sefydliadau a hoffai’ch cefnogi wrth redeg digwyddiadau ar gyfer pobl ifanc neu a allai gyflenwi gweithgareddau eu hunain. Er enghraifft gallech gysylltu â Bite the Ballot i gael gwybodaeth.

Enghreifftiau o bartneriaid

· Clybiau chwaraeon a chlybiau i oedolion ifanc

· Rhwydweithiau gwirfoddoli

· Sefydliadau addysg

· Busnesau a chyflogwyr

· Sefydliadau cymorth i rieni

· Cyflogwyr lleol mawr

· Grwpiau ffydd

· Darparwyr hyfforddiant ynghylch swyddi a sgiliau

Codi ymwybyddiaeth

Bydd angen i chi ystyried sut i amseru gweithgareddau codi ymwybyddiaeth fel bod y gweithgareddau’n cael eu cyd-drefnu a fel bod hysbysebu’n cael yr effaith fwyaf i’w weld gan gymaint o bobl gymaint o weithiau â phosibl. Hefyd ystyriwch ffyrdd i gyfrifo’r nifer o bobl ifanc a gyrhaeddir gan y gweithgaredd.

Enghreifftiau o weithgareddau

· Adolygwch ddata, lle mae ar gael, ar arferion pobl ifanc yn lleol - ac ystyriwch gyfleoedd ar gyfer hysbysebu yn y meysydd hyn. Er enghraifft, cludiant cyhoeddus, campfeydd, mannau siopa, sinemâu, clybiau nos.

· Ystyriwch a oes gan gyfryngau cymdeithasol yr awdurdod lleol gynulleidfa sylweddol o bobl ifanc, ac i ba raddau mae o gymorth i helpu gwybodaeth godi ymwybyddiaeth.

· Ystyriwch roi hysbysebion ar unrhyw wasanaethau ar-lein a ddefnyddir gan bobl ifanc.

· Efallai y bydd gofod cost-isel y cyfryngau ar gael ar wefannau masnachol gyda chynulleidfa ifanc - gwefannau rhestru, canllawiau i fariau ac ati.

Cyrraedd cyrraeddwyr oedran

Gweler hefyd: Pobl ifanc

Ffeithiau allweddol

· 16-18 mewn addysg llawn-amser 69%

· Mewn addysg ran-amser 6%

· Mewn dysgu seiliedig ar waith 6%

· NEET (ddim mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant) 9%

Fel pobl ifanc yn gyffredinol, gall cyraeddwyr oedran fod yn llai tebygol o ymgysylltu â gwleidyddiaeth pleidiau yn yr ystyr draddodiadol, ac efallai nad ydynt yn ymwybodol o’r angen i gofrestru i bleidleisio.

Nodweddion sy’n effeithio ar ymgysylltu

· Ymddieithrio rhag gwleidyddiaeth ymhlith rhai carfannau

· Yn cael eu dylanwadu gan gyfoedion a/neu deulu

· Yn dibynnu ar y teulu i’w cofrestru o’r blaen

· Ddim yn ymwybodol o’r angen i gofrestru yn ffactor posibl

· Rhai’n fwy tebygol o dderbyn negeseuon gan gyfoedion na gan ffigyrau o awdurdod

· Blaenoriaethau eraill fel astudio, cymdeithasu, chwilio am waith

Defnydd o’r cyfryngau

· Dod i gysylltiad rheolaidd â’r rhyngrwyd a’r cyfryngau cymdeithasol

· Defnydd uchel o ffôn clyfar a negeseuon testun

· Dod i gysylltiad rheolaidd â hysbysebu awyr agored fel posteri mewn arosfannau bysiau

· Dod i gysylltiad canolig â’r sinema

· Dod i rywfaint o gysylltiad â’r cyfryngau ‘traddodiadol’ - teledu, radio, papurau newydd a chylchgronnau

Adnoddau i’w defnyddio gyda chyrraeddwyroedran

Ar ein gwefan ceir adnoddau y gallwch eu defnyddio i ymgysylltu â chyrraeddwyr oedran:

· Adnoddau ymgysylltu â’r cyhoedd: https://www.electoralcommission.org.uk/cymru/i-am-a/electoral-administrator/running-electoral-registration/public-engagement-resources

· Adnoddau cyfranogi: https://www.electoralcommission.org.uk/cymru/i-am-a/electoral-administrator/participation-resources-for-local-authorities

· Adnoddau ar gyfer partneriaid: https://www.electoralcommission.org.uk/find-information-by-subject/electoral-registration/partnership-working/resources-for-partners?

Rhannu arfer da

I gael gwybodaeth ac enghreifftiau ymarfer o sut mae rhai Swyddogion Cofrestru Etholiadol yn targedu darpar etholwyr a chyfathrebu â nhw, gweler ein hadnodd rhannu arfer da, ‘Cyfathrebu’.

Cyswllt uniongyrchol

Enghreifftiau o weithgareddau

· Gall cyfathrebiadau â rhieni cyrraeddwyr oedran amlygu’r angen i godi cofrestru gydag aelodau teulu

· Gallai cyfathrebiadau presennol a anfonir yn uniongyrchol at bobl 16-17 oed gynnwys gwybodaeth am gofrestru.

· Ystyriwch gyfathrebu’n uniongyrchol mewn fformat y gallai pobl ifanc ei gael fel yr un mwyaf cyfleus, er enghraifft negeseuon testun neu’r cyfryngau cymdeithasol.

· Archwiliwch eich prosesau ar gyfer delio ag ymholiadau sy’n dod trwy’r cyfryngau cymdeithasol - mae’n debygol y disgwylir ymatebion yn gyflym.

· Efallai fod adrannau, darparwyr gwasanaethau a staff rheng flaen eraill mewn cysylltiad â thrigolion newydd i’r ardal - ac efallai eu bod yn anfon cyfathrebiadau y gellid darparu gwybodaeth ynddynt

Gweithio gyda phartneriaid

Enghreifftiau o weithgareddau

· Cysylltwch â sefydliadau sy’n darparu gwasanaethau ar gyfer pobl 16-17 oed. Gallai’r rhain gynnwys clybiau ieuenctid, rhwydweithiau gwirfoddoli, grwpiau chwaraeon a darparwyr hyfforddiant. Efallai y byddant yn fodlon tynnu sylw aelodau i gofrestru.

· Efallai y bydd gan dimau awdurdod lleol a’u cysylltiadau yn cysylltu wyneb yn wyneb gyda phobl ifanc 16-17 oed a gallech siarad â nhw er mwyn nodi cyfleoedd ar gyfer tynnu sylw at gofrestru.

· Hefyd efallai fod gan dimau eraill wybodaeth am unigolion sy’n cysylltu ag a dylanwadu ar bobl ifanc 16-17 oed, ac a allai fod yn ymwybodol o fecanweithiau cyfathrebu presennol. Felly er enghraifft gallent fod mewn cysylltiad ag eiriolwyr cymunedol, gwirfoddolwyr, gwasanaethau gofal ac ati.

· Efallai y bydd yn bosibl i ymgysylltu ag ysgolion a grwpiau ieuenctid - o bosibl er mwyn rhedeg sesiynau sy’n canolbwyntio ar gofrestru. Sfydliadau allanol a hoffai’ch cefnogi wrth redeg digwyddiadau ar gyfer pobl ifanc neu a allai gyflenwi gweithgareddau eu hunain. Er enghraifft gallech gysylltu â Bite the Ballot i gael gwybodaeth.

Enghreifftiau o bartneriaid

· Ysgolion a cholegau

· Rhwydweithiau gwirfoddoli ar gyfer pobl ifanc

· Clybiau hamdden, chwaraeon a chymdeithasol

· Cartrefi plant

· Cyflogwyr yn darparu cynlluniau hyfforddi

Codi ymwybyddiaeth

Bydd angen i chi ystyried sut i amseru gweithgareddau codi ymwybyddiaeth fel bod y gweithgareddau’n cael eu cyd-drefnu a fel bod hysbysebu’n cael yr effaith fwyaf i’w weld gan gymaint o bobl gymaint o weithiau â phosibl. Hefyd ystyriwch ffyrdd i gyfrifo’r nifer o drigolion a gyrhaeddir gan y gweithgaredd.

Enghreifftiau o weithgareddau

· Adolygwch ddata, lle mae ar gael, ar arferion pobl ifanc 16-17 oed - ac ystyriwch gyfleoedd ar gyfer hysbysebu yn y meysydd hyn. Er enghraifft, cludiant cyhoeddus, hamdden, mannau siopa, sinemâu.

· Darparwch wybodaeth am gofrestru - a lle bynnag mae’n bosibl - rywun i eguro pethau’n bersonol gan y gallai’r grŵp hwn fod yn arbennig o anghyfarwydd â’r broses

· Ystyriwch a oes gan gyfryngau cymdeithasol yr awdurdod lleol gynulleidfa sylweddol o bobl ifanc, ac i ba raddau mae o gymorth i helpu gwybodaeth godi ymwybyddiaeth.

· Ystyriwch roi hysbysebion ar unrhyw wasanaethau ar-lein a ddefnyddir gan bobl ifanc.

· Efallai y bydd gofod cost-isel y cyfryngau ar gael ar wefannau masnachol gyda chynulleidfa ifanc - gwefannau rhestru, canllawiau i fariau ac ati.

Beth mae pobl eraill wedi’i wneud i ymgysylltu â phobl ifanc

Aeth swyddogion etholiadol o Gyngor Sir Gâr i gonfensiwn lleol ar gyfer ffermwyr ifanc. Roedd swyddogion y Cyngor yn cymysgu â’r bobl ifanc ym Maes Sioe’r Tair Sir yng Nghaerfyrddin yn siarad am bwysigrwydd yr etholiadau a oedd ar ddod ac yn dosbarthu gwybodaeth ac anrhegion am ddim.

Cyrraedd grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig nas cynrychiolir yn ddigonol

Ffeithiau allweddol

· 7m (14%) yn y DU o’r oedran 18 ac yn hŷn heb fod yn wyn

Mae hwn yn grŵp eithriadol o amrywiol na ellir ei ystyried fel cyfanrwydd, felly mae’n arbennig o bwysig y bydd gennych fynediad i ddata demograffaidd ar eich ardal er mwyn llawn ddeall y dadansoddiad o drigolion a’u lleoliad daearyddol. Mae rhai grwpiau duon a lleiafrifoedd ethnig yn fwy tebygol o gael eu tan-gofrestru, ac mae hyn yn gymwys hefyd i unigolion sydd â chenedligrwydd arall. Er enghraifft, mae ymchwil wedi dangos bod gwladolion Dwyrain Ewropeaidd wedi’u tan-gofrestru.

Ymchwil

Mae ein hymchwil wedi dangos mai dim ond 77% o bobl o gymunedau BME oedd wedi’i cofrestru (o gymharu ag 86% o bobl wyn). Canfu Astudiaeth Etholiad Lleiafrifoedd Ethnig Prydain nad oedd 28% o ymatebwyr Du Affricanaidd wedi’u cofrestru o gymharu ag 17% o ymatebwyr Du Caribiaidd ac Indiaidd. Fodd bynnag, bydd y gwahaniaeth gwirioneddol o ran tan-gofrestru rhwng y grwpiau hyn yn llai gan nad yw’r amcangyfrifon hyn yn ystyried cymhwysedd, a chanfu’r ymchwil fod y gymuned Ddu Affricanaidd yn cynnwys cyfran uwch o bobl anghymwys na chymunedau eraill.

Hefyd canfu Astudiaeth Etholiad Lleiafrifoedd Ethnig Prydain fod bron i dri o bob 10 ymatebwr BME (28%) wedi adrodd nad oeddynt wedi’u cofrestru gan nad oeddynt yn credu bod ganddynt yr hawl i bleidleisio. Er ei fod yn debygol o fod yn wir nad oedd yr hawl i bleidleisio gan ymatebwyr penodol, efallai fod rhai eraill ddim yn ymwybodol ynghylch cymhwysedd ar gyfer gwladolion o’r Gymanwlad.

Nodweddion sy’n effeithio ar ymgysylltu

· Eithriadol o amrywiol gan beri bod ystadegau lleol ynghylch demograffeg yn allweddol

· Mae 60% o leiafrifoedd ethnig yn ail neu drydedd cenhedlaeth, ac wedi’u hintegreiddio i gymdeithas Prydain

· Mewn rhai grwpiau, gall eu diwylliant eu ‘hunain’ fod yn drech

· Y duedd Ddu/Caribiaidd - poblogaeth sy’n heneiddio

· Y duedd Ddu/Affricanaidd - y gymuned ifancaf sy’n tyfu’n gyflymaf (daeth tri o bob pump i’r DU ers 1990)

· Y duedd Bacistanaidd/Bangladeshaidd - grŵp ifanc, yn adlewyrchu cyfraddau ffrwythlondeb uchel

· Y duedd Asiaidd Arall - lefel uchel o weithgarwch economaidd yn aml

Defnydd o’r cyfryngau

· Mae 18% o BME yn gwylio teledu prif ffrwd yn unig

· Mae 16% o BME yn gwylio teledu ethnig yn unig

· Mae gwefannau yr ystyrir eu bod yn sianel ddefnyddiol gan hysbysebwyr, hefyd:

· Cyfryngau cymdeithasol sy’n cynnwys trafodaeth a chyfranogiad

· Digwyddiadau fel y rheini a gynhelir mewn arenâu rhanbarthol

Adnoddau i’w defnyddio gyda grwpiau BME

Ar ein gwefan ceir adnoddau y gallwch eu defnyddio i ymgysylltu â grwpiau BME:

· Adnoddau ymgysylltu â’r cyhoedd: https://www.electoralcommission.org.uk/cymru/i-am-a/electoral-administrator/running-electoral-registration/public-engagement-resources

· Adnoddau cyfranogi: https://www.electoralcommission.org.uk/cymru/i-am-a/electoral-administrator/participation-resources-for-local-authorities

· Adnoddau ar gyfer partneriaid: https://www.electoralcommission.org.uk/find-information-by-subject/electoral-registration/partnership-working/resources-for-partners?

Rhannu arfer da

I gael gwybodaeth ac enghreifftiau ymarfer o sut mae rhai Swyddogion Cofrestru Etholiadol yn targedu darpar etholwyr a chyfathrebu â nhw, gweler ein hadnodd rhannu arfer da, ‘Cyfathrebu’.

Cyswllt uniongyrchol

Enghreifftiau o weithgareddau

· Efallai y bydd staff rheng flaen sy’n gweithio gyda grwpiau BME yn gallu codi’r neges ynghylch cofrestru a chael eu briffio i ddarparu gwybodaeth ddefnyddiol er mwyn cefnogi cofrestru.

Gweithio gyda phartneriaid

Enghreifftiau o weithgareddau

· Nodwch y grwpiau ac elusennau cymunedol sy’n gweithio gyda’r grŵp targed neu sy’n cynnwys aelodau o’r grŵp, a allai’ch helpu i ddatblygu cyfleoedd i ledaenu’ch neges. Gallai’r rhain gynnwys grwpiau cymdeithasol, clybiau swyddi a sgiliau, grwpiau menywod.

· Ysgrifennwch at eiriolwyr cymunedol ac arweinwyr crefyddol i ofyn iddynt roi cofrestru ar yr agenda gyda’u cymunedau. Hefyd efallai y bydd grwpiau datblygu’r ardal leol a grwpiau trigolion mewn ardaloedd daearyddol targed yn ddefnyddiol. Mae’n bwysig sefydlu pam fod codi’r pwnc ac annog cyfranogiad mor bwysig i’r grŵp hwnnw.

· Gweithiwch gyda chyfleusterau sydd â nifer uchel o ymwelwyr o’ch cynulleidfa darged - efallai y bydd gennych ganolfan ddiwylliannol neu addysgol, neu ganolfan ar gyfer pobl iau neu hŷn.

· Cynhwyswch sefydliadau gwirfoddol ambarél gan efallai y byddant yn gallu fflagio i wirfoddolwyr perthnasol naill ai’n uniongyrchol neu drwy gylchlythyrau - er enghraifft gallent gynnwys mentoriaid yn gweithio gyda mewnfudwyr diweddar neu bobl ifanc.

· Efallai y bydd busnesau lleol fel siopau bwyd ethnig, tai bwyta a lleoliadau yn gallu helpu i ledaenu’r neges i gwsmeriaid trwy ddarparu gwybodaeth ar hysbysfyrddau neu daflenni.

Enghreifftiau o bartneriaid

Codi ymwybyddiaeth

Bydd angen i chi ystyried sut i amseru gweithgareddau codi ymwybyddiaeth fel bod y gweithgareddau’n cael eu cyd-drefnu a fel bod hysbysebu’n cael yr effaith fwyaf i’w weld gan gymaint o bobl gymaint o weithiau â phosibl. Hefyd ystyriwch ffyrdd i gyfrifo’r nifer o drigolion a gyrhaeddir gan y gweithgaredd.

· Gallai digwyddiadau a gwyliau cymunedol a gynhelir mewn ardaloedd gyda chasgliadau o grwpiau BME targed - neu a anelir at grwpiau’n benodol - ddarparu cyfle i gyrraedd cymunedau penodol. Er enghraifft efallai y gallech osod stondin, ddarparu gwybodaeth ar stondin ar gyfer gwasanaeth arall, neu efallai y gallech arddangos posteri.

· Nodwch sianeli awdurdod lleol sy’n cyrraedd nifer fawr o’r grŵp targed ac y gellir eu defnyddio i ddarparu gwybodaeth. Gallai’r rhain gynnwys canolfannau cyswllt, llyfrgelloedd, cyfleusterau hamdden, a chanolfannau cymunedol.

· Gall amgylcheddau cymunedol lleol neu sianeli’r cyfryngau sy’n annog trafodaeth fod yn ofodau defnyddiol ar gyfer codi ymwybyddiaeth ymhlith grwpiau BME - er enghraifft fforymau trigolion lleol a chanolfannau cymunedol.

· Gellid lleoli hysbysebion y telir amdanynt mewn lleoliadau daearyddol â niferoedd uchel o’r grŵp targed. Fel arall, gallech drefnu cael stondin neu ymgymryd â marchnata ar y stryd mewn ardal siopa.

Cyrraedd y boblogaeth dros dro a chartrefi amlfeddaniaeth

Gweler hefyd: Pobl sy’n symud cartref, trigolion wedi’u hymddieithrio, pobl ifanc, myfyrwyr

Ffeithiau allweddol

· 2 filiwn yn eu cyfeiriad cyfredol am llai na 12 mis

· 35% o rentwyr preifat wedi bod yn eu cyfeiriad cyfredol am llai nag un flwyddyn

· Yn cynnwys is-grwpiau amrywiol sy’n benodol i ardal, er enghraifft gweithwyr proffesiynol ifanc, myfyrwyr, pobl mewn tlodi, unigolion ar wahân

Mae pobl sydd wedi symud yn ddiweddar yn fwy tebygol o fod wedi’u tan-gofrestru, ac mae hyn yn cynnwys y rhai hynny sy’n symud yn aml. Mae’r grŵp hwn yn cynnwys pobl mewn sefyllfaoedd cymdeithasol gwahanol iawn - o weithwyr proffesiynol ifanc sy’n rhentu gyda ffrindiau, i deuluoedd newydd o fewnfudwyr sy’n sefydlu ble i fyw, i unigolion ar wahân sy’n byw mewn tai amlfeddiannaeth heb yr incwm i gael llety tymor hirach. Efallai nad ydynt yn ymwybodol o’r angen i gofrestru, neu efallai eu bod wedi’u hymddieithrio o’r broses wleidyddol, ond mae’n ffaith gyffredin i bobl sy’n symud yn aml bod angen iddynt ail-gofrestru pan eu bod yn symud. Hefyd, mae’n bosibl bod plant neu bobl ifanc o dan 18 oed yn byw gydag oedolion sy’n rhan o’r boblogaeth dros dro, a’u bod nhw hefyd yn gymwys i gofrestru.

Nodweddion sy’n effeithio ar ymgysylltu

· Ddim yn ymwybodol o’r angen i ail-gofrestru neu ddiweddaru manylion

· Gallent ragdybio bod cofnodion cyngor yn cael eu diweddaru fel mater o drefn

· Maent yn debygol o gael eu casglu mewn lleoliadau daearyddol penodol, yn arbennig ardaloedd trefol

· Mae gan wahanol is-grwpiau (mewnfudwyr diweddar, gweithwyr proffesiynol ifanc, unigolion ar wahân, pobl mewn tlodi ac ati) ffyrdd o fyw sy’n wahanol iawn a ysgogir gan bethau gwahanol iawn felly mae’n bwysig i segmentu’r grŵp

· Maent yn canolbwyntio ar flaenoriaethau eraill fel ymsefydlu yn y DU, byw mewn dinas newydd, chwilio am waith ac ati

· Gallant fod yn ynysig neu’n byw gydag pobl nad ydynt yn eu adnabod sy’n anhebygol o dynnu sylw at yr angen i gofrestru ac efallai na fyddant yn trosglwyddo post neu negeseuon

· Gallent gysylltu â gwasanaethau cyngor eraill ynghylch y newid cyfeiriad

· Efallai nad ydynt wedi ailgyfeirio post o’u hen gyfeiriad

Adnoddau i’w defnyddio gyda phoblogaethau symudol

Ar ein gwefan ceir adnoddau y gallwch eu defnyddio i ymgysylltu â phoblogaethau symudol:

· Adnoddau ymgysylltu â’r cyhoedd: https://www.electoralcommission.org.uk/cymru/i-am-a/electoral-administrator/running-electoral-registration/public-engagement-resources

· Adnoddau cyfranogi: https://www.electoralcommission.org.uk/cymru/i-am-a/electoral-administrator/participation-resources-for-local-authorities

· Adnoddau ar gyfer partneriaid: https://www.electoralcommission.org.uk/find-information-by-subject/electoral-registration/partnership-working/resources-for-partners?

Rhannu arfer da

I gael gwybodaeth ac enghreifftiau ymarfer o sut mae rhai Swyddogion Cofrestru Etholiadol yn targedu darpar etholwyr a chyfathrebu â nhw, gweler ein hadnodd rhannu arfer da, ‘Cyfathrebu’.

Cyswllt uniongyrchol

Enghreifftiau o weithgareddau

· Gall data fel gwybodaeth o’r cyfrifiad neu ddata arall o’r awdurdod lleol eich helpu i ddeall mynychder symudedd a natur symudedd yn eich ardal gofrestru.

· Gall segmentu’r grŵp i is-grwpiau yn seiliedig ar eu nodweddion eich helpu i adnabod ffyrdd priodol i’w cyrraedd. Er enghraifft efallai fod llawer o rentwyr preifat yn eich ardal yn fyfyrwyr, neu efallai fod llawer o dai cost-isel mewn un lleoliad yn dai amlfeddiannaeth.

· Bydd ffurflenni ymholiadau’r cartref yn helpu i adnabod trigolion mewn tai nad oes gennych fanylion ar eu cyfer

· Gellid briffio staff cyngor rheng flaen sy’n delio ag ymholiadau cyhoeddus am newid cyfeiriad er mwyn pwysleisio bod angen cofrestru i bleidleisio mewn cyfeiriad newydd. Gallai’r ymholiadau hyn fod am unrhyw wasanaeth cyngor.

· Efallai fod gan eich gwefan hysbysiad ‘newid cyfeiriad’, sy’n anfon manylion i wahanol adrannau ynghylch ble mae rhywun wedi symud

· Efallai fod adrannau, darparwyr gwasanaethau a staff rheng flaen eraill mewn cysylltiad â thrigolion newydd i’r ardal - ac efallai eu bod yn anfon cyfathrebiadau y gellid darparu gwybodaeth ynddynt

· Gellid darparu gwybodaeth yn uniongyrchol trwy’r drws mewn ardaloedd rhentu’r dref neu ddinas.

Gweithio gyda phartneriaid

Enghreifftiau o weithgareddau

· Un ffordd o gyrraedd pobl sy’n symud yn rheolaidd yw trwy’r gwasanaethau ac asiantaethau eraill maent yn delio â nhw pan eu bod yn symud, er enghraifft ysgolion, treth cyngor, budd-dal tai ac ati

· Efallai fod elusennau a gwasanaethau eraill yn gweithio gyda rhai o’r grwpiau hyn ac efallai y gallech feithrin perthnasau gyda nhw. Er enghraifft efallai fod pobl sy’n byw mewn tai amlfeddiannaeth yn chwilio am dai cymdeithasol, efallai eu bod yn derbyn cymorth iechyd y meddwl, neu efallai eu bod wedi’u rhyddhau o’r carchar yn ddiweddar.

· Hefyd ceisiwch gynnwys elusennau sy’n gweithio gyda phobl ddigartref a grwpiau sy’n cysylltu â chymunedau o deithwyr.

· Efallai y bydd yn bosibl ymgysylltu â landlordiaid - gan gynnwys tai cymdeithasol - er mwyn darparu gwybodaeth i denantiaid.

· Gellid ymgysylltu â phreswylfeydd amlfeddiannaeth mwy fel hostelau yn uniongyrchol.

· Gellid cysylltu â grwpiau, cymdeithasau trigolion a fforymau cymunedol ar-lein lleol ynghylch rhoi gwybodaeth ar eu gwefannau neu flogiau, ac arddangos posteri ar hysbysfyrddau

· Gallai gwirfoddolwyr gyda phleidiau gwleidyddol sy’n canfasio ddrws-i-ddrws helpu i ledaenu’r neges am gofrestru

Enghreifftiau o bartneriaid

· Landlordiaid preifat a chymdeithasol

· Busnesau lleol sy’n danfon

· Elusennau a sefydliadau a gwasanaethau cymorth

· Fforymau cymunedol, cymdeithasau trigolion a grwpiau lleol eraill

· Adrannau a darparwyr gwasanaethau eraill

Codi ymwybyddiaeth

Bydd angen i chi ystyried sut i amseru gweithgareddau codi ymwybyddiaeth fel bod y gweithgareddau’n cael eu cyd-drefnu a fel bod hysbysebu’n cael yr effaith fwyaf i’w weld gan gymaint o bobl gymaint o weithiau â phosibl. Hefyd ystyriwch ffyrdd i gyfrifo’r nifer o drigolion a gyrhaeddir gan y gweithgaredd.

Enghreifftiau o weithgareddau

· Ystyriwch boblogaethau dros dro mewn unrhyw hysbysebion y byddwch yn eu trefnu - er enghraifft efallai y byddwch yn gallu hysbysebu mewn ardal rentu, neu o gwmpas canolbwyntiau cludiant cyhoeddus.

· Gellid defnyddio fan hysbysebu symudol i ymweld ag ardaloedd neilltuol y dref neu ddinas er mwyn hyrwyddo’r neges

Mae gwasanaethau etholiadol Leeds yn sicrhau eu bod yn defnyddio arbenigedd mewnol ar gyfer targedu cynulleidfaoedd sy’n anos i’w cyrraedd. Hefyd maent wedi datblygu perthynas ardderchog gyda Sefydliad Big Issue er mwyn annog pleidleiswyr i gofrestru ymhlith pobl ddigartref.

Cyrraedd pobl anabl a thrigolion gydag anghenion cyfathrebu atodol

Ffeithiau allweddol

· Mae dros 11 miliwn o bobl gyda salwch hirdymor, nam neu anabledd cyfyngol ym Mhrydain

· Mae cyffredinolrwydd anabledd yn cynyddu gydag oed – mae 15 y cant o oedolion o oedran gwaith a 45 y cant o oedolion dros oed Pensiwn y Wladwriaeth ym Mhrydain Fawr yn anabl

Cyswllt uniongyrchol

Enghreifftiau o weithgareddau

· Cynhyrchu cyfathrebu ar fformatau amgen megis print bras, Braille, hawdd ei ddarllen a sain.

· Ble fo’n bosibl, gofynnwch i breswylwyr am eu gofynion cyfathrebu er mwyn osgoi gwneud tybiaethau am eu fformat dewisol.

· Sicrhewch fod gwefannau a chyfathrebu ar-lein yn bodloni gofynion hygyrchedd.

· Sicrhewch y cynhyrchir deunydd ysgrifenedig mewn Cymraeg (neu Saesneg) clir, gyda maint ffont rhesymol a chyferbyniad lliw da i’w wneud yn ddarllenadwy i gymaint o bobl â phosibl.

· Dylai gohebiaeth a ffurflenni gynnwys gwybodaeth amlwg i ddweud ble gall pobl ddall ag a nam ar eu golwg gael cymorth.

· Sicrhau fod staff rheng flaen a chanfaswyr yn cael cyfarwyddyd ar sut i gyfathrebu’n effeithiol gyda phobl fyddar ac a nam ar eu clyw.

· Byddwch yn ymwybodol y bydd rhai etholwyr byddar o bosibl eisiau cyfathrebu gyda staff trwy e-bost, ffôn testun neu Typetalk.

· Dylid hefyd ystyried dolenni sain yn y swyddfa, os nad ydynt eisoes wedi eu gosod.

· Adolygu eich cynllun hygyrchedd, a sicrhau fod trigolion gyda llai o fudoledd a defnyddwyr cadeiriau olwyn yn gallu cael mynediad at eich swyddfa.

Gweithio gyda phartneriaid

Enghreifftiau o weithgareddau

· Efallai y bydd darparwyr gwasanaethau awdurdodau lleol yn gallu nodi dulliau i gysylltu â phobl anabl sy’n defnyddio gwasanaethau penodol.

· Os yw’ch ardal yn cynnwys darpariaeth llety preswyl ar gyfer nam neu gyflwr penodol, gallech gysylltu â thrigolion neu reolwyr i ymholi am y fformat dewisol ar gyfer cyfathrebu ac yna anfon ffurflenni a llythyrau yn uniongyrchol ar y fformat hwnnw.

· Efallai y bydd elusennau, sefydliadau cymorth a grwpiau cymdeithasol yn barod i ymgysylltu ag aelodau ar gofrestru – neu efallai y byddant yn gallu cynnig cymorth un i un ble fo angen.

· Cysylltwch â phapurau newydd llafar lleol.

Codi ymwybyddiaeth

Enghreifftiau o weithgareddau

· Sicrhewch fod eich cynlluniau codi ymwybyddiaeth yn cynnwys detholiad o ffrydiau fydd yn cyrraedd etholwyr anabl. Gallai dibynnu ar un ffrwd yn unig eithrio rhai pobl anabl penodol: er enghraifft, efallai na fydd defnyddio posteri yn unig yn fanteisiol i etholwyr â nam ar eu golwg.

· Sicrhewch fod cyhoeddusrwydd wedi ei anelu at bobl â nam ar eu golwg yn cynnwys gwybodaeth glir ar pa wybodaeth cofrestru a ffurflenni fyddant yn derbyn a phryd, beth yw’r dyddiadau cau, a ble allant gael cymorth i gwblhau’r ffurflen.

· Sicrhewch fod gan dimau gwasanaethau etholiadol a staff cymorth y daflen ffeithiau ar gyfer cartrefi gofal yng Nghymru a Lloegr y gellir ei haddasu i adlewyrchu amgylchiadau lleol. Hefyd, mae canllawiau ar geisiadau a gynorthwyir ar gael ar gyfer Cymru a Lloegr sy’n esbonio’r hyn y gall rhywun ei wneud er mwyn helpu rhywun arall i gofrestru.

Cyrraedd Rhai Dros 75 Oed

Gweler hefyd: Cyrraedd pobl anabl

Ffeithiau allweddol

· mae un o bob chwe person yn y boblogaeth dros 65 oed

· 2,890,000 o bobl dros 80 oed yn y Deyrnas Unedig

· 430,000 o drigolion yn 90 oed a hŷn yn 2011

· mae 45% o oedolion dros oed Pensiwn y Wladwriaeth ym Mhrydain yn anabl (Swyddfa Materion Anabledd)

Yn draddodiadol, mae pobl hŷn yn fwy tebygol o fod wedi cofrestru. Fodd bynnag, gall fod angen cymorth ychwanegol arnynt i gwblhau ffurflenni, a gwybodaeth am fynediad a phleidleisio absennol (gan gynnwys gwybodaeth am hepgoriadau llofnod lle y bo’n briodol).

Cyswllt uniongyrchol

Enghreifftiau o weithgareddau

· Sicrhewch y cynhyrchir gohebiaeth ar fformatau sy’n cyrraedd cymaint o bobl â phosibl – er enghraifft, efallai yr hoffech ddarparu gwybodaeth mewn print bras.

· Mae lleiafrif arwyddocaol o bobl hŷn yn debygol o fod ag anabledd, felly dylech sicrhau fod staff rheng flaen yn cael eu briffio’n i gyfathrebu’n effeithiol gyda thrigolion sydd â nam ar eu golwg neu glyw neu anghenion mudoledd.

· Efallai y bydd aelodau’r teulu mewn safle da i godi cofrestru gyda’u perthnasau hŷn felly ystyriwch godi hyn mewn gohebiaeth arall - yn arbennig os nodir fod gan yr unigolyn hwn gyfrifoldebau gofal.

Gweithio gyda phartneriaid

Enghreifftiau o weithgareddau

· Nodwch gartrefi preswyl a llety gwarchod yn yr ardal ac ymgysylltu â’r rhain ynglŷn â chofrestru.

· Gallai gwasanaethau awdurdod lleol a phartner megis tai a chludiant nodi cyfleoedd i gyrraedd pobl hŷn.

· Gweithiwch gyda sefydliadau cymunedol, elusennau a grwpiau cymdeithasol i nodi cyfleoedd i ledaenu negeseuon cofrestru a chefnogi cofrestriad ble fo angen.

· Efallai y bydd gwirfoddolwyr megis cyfeillion gwirfoddol yn gallu darparu cymorth un i un ac y gellid ymgysylltu â nhw trwy strwythurau gwirfoddoli lleol.

Codi ymwybyddiaeth

· Enghreifftiau o weithgareddau

· Ystyriwch roi hysbysebion mewn lleoliad ble bydd pobl hŷn yn ymweld â nhw yn eich ardal – gallai hyn gynnwys clinigau, llyfrgelloedd, canolfannau cymunedol.

· Sicrhewch fod gan dimau gwasanaethau etholiadol a staff cymorth y daflen ffeithiau ar gyfer cartrefi gofal yng Nghymru a Lloegr y gellir ei haddasu i adlewyrchu amgylchiadau lleol. Hefyd, mae canllawiau ar geisiadau a gynorthwyir ar gael ar gyfer Cymru a Lloegr sy’n esbonio’r hyn y gall rhywun ei wneud er mwyn helpu rhywun arall i gofrestru.

Rhannu arfer da

I gael gwybodaeth ac enghreifftiau ymarfer o sut mae rhai Swyddogion Cofrestru Etholiadol yn cyrraedd pobl sydd mewn cartrefi gofal, gweler ein hadnodd rhannu arfer da, ‘Cyrraedd trigolion cartrefi gofal’.

Cyrraedd trigolion wedi ymddieithrio

Bydd cyrraedd unigolion a phobl ifanc sydd wedi ymddieithrio os ydynt yn darged yn eich ardal yn galw am ddefnyddio cyfuniad o ymagweddau. Mae hon yn gynulleidfa helaeth, ac efallai y bydd rhai aelodau yn ddefnyddwyr amlwg gwasanaethau cymdeithasol ac yn wynebu amrywiaeth o heriau cymhleth megis dyled, problemau iechyd meddwl, perthnasau treisgar, cyswllt gyda throseddau a thriwantiaeth teuluol. Hefyd, gall oedolion sydd wedi ymddieithrio ddylanwadu ar y plant a phobl ifanc sy’n byw gyda nhw a all fod yn gymwys i gofrestru hefyd.

Nodweddion sy’n effeithio ar ymgysylltu

· Teimlo nad yw’r negeseuon ar eu cyfer nhw

· Diffyg ymddiriedaeth mewn awdurdod a chludydd y neges

· Anodd ysgogi oherwydd diffyg diddordeb posibl neu fod ganddynt bryderon eraill

· Anoddach i gael neges atynt, felly mae angen ailadrodd ac ailymweld

· Efallai bod blaenoriaethau eraill

· Treulio llawer o amser adref

· Yn cael anhawster gyda neu dim mynediad at dechnoleg neu’r rhyngrwyd

Defnydd o’r cyfryngau

· Defnydd mawr o’r teledu, papurau newydd a radio

· Defnydd canolig o gylchgronau

· Defnydd isel o gyfryngau awyr agored a’r rhyngrwyd

Cyswllt uniongyrchol

Enghreifftiau o weithgareddau

· Defnyddiwch wasanaethau sydd â chyswllt uniongyrchol â’r gynulleidfa hon i nodi sut i gyrraedd unigolion. Efallai y bydd rhai cartrefi yn ymddiried yn y rhai y maent wedi meithrin perthynas â nhw dros gyfnod o amser yn unig.

· Sicrhewch fod gwybodaeth yn yr awdurdod lleol ar beth sydd yn gweithio ar y stepen drws a gyda chartrefi unigol yn cael ei rannu gyda staff sy’n gwneud ymweliadau cartref. Er enghraifft, efallai y bydd rhai cartrefi yn ymateb i ysgogiadau a chosbau, gall eraill fod yn agored i ddyfalbarhad.

· Ystyriwch ddetholiad o ddulliau cyfathrebu, i rai gellid anwybyddu llythyr tra bydd galwadau ffôn neu ymweliadau personol yn cael mwy o effaith

Gweithio gyda phartneriaid

Enghreifftiau o weithgareddau

· Ymgysylltwch ag elusennau sy’n gweithio gyda’r grŵp targed – gallai’r rhain gynnwys grwpiau sy’n cefnogi pobl ddigartref, y rhai mewn dyled, gyda phroblemau dibyniaeth neu faterion iechyd meddwl, neu’r rhai sy’n profi cam-drin domestig.

· Efallai y bydd siopau lleol yn barod i arddangos posteri a thaflenni.

Cyrraedd trigolion gwledig

Mae ardaloedd gwledig yn amrywio ac mae gan nifer gyswllt da a llawer o gyfleusterau gerllaw, tra bod ardaloedd eraill yn fwy ynysig. Bydd gan hyd yn oed ardaloedd cysylltiedig drigolion sy’n dal wedi eu hynysu i raddau ac y gall fod yn anoddach ymgysylltu â nhw. Dylai dulliau cyfathrebu sicrhau yr ystyrir trigolion gwledig, yn arbennig y rhai na ellir eu cyrraedd trwy hysbysebu mewn dinas a thref.

Gweithio gyda phartneriaid

Enghreifftiau o weithgareddau

· Efallai y bydd cymunedau bychain yn dibynnu ar wasanaethau megis danfon presgripsiynau meddygol gwirfoddol, darparwyr gofal ac ymwelwyr iechyd.

· Efallai hefyd y bydd busnesau megis faniau bwyd yn danfon i’r ardal ac yn barod i ymgysylltu ar gofrestru.

· Gellid ymgysylltu gyda strwythurau megis Cynghorau Plwyf a Gwarchod y Gymdogaeth i ddarparu gwybodaeth neu i nodi cyfleoedd i ymgysylltu â thrigolion.

· Efallai y bydd trigolion eu hunain yn barod i ledaenu’r neges i gymdogion a ffrindiau ac fe allai fod werth codi hyn mewn gohebiaeth.

Codi ymwybyddiaeth

Enghreifftiau o weithgareddau

· Gellid gosod posteri hysbysebu ger lleoliadau sydd fwyaf tebygol o gael eu sylwi gan breswylwyr lleol – gallai’r rhain gynnwys hysbysfyrddau, safleoedd bws, neuaddau pentref a blychau post.

· Bydd rhai cymunedau gwledig yn cynnal digwyddiadau rheolaidd megis dosbarthiadau ymarfer corff, cyngherddau neu grwpiau hanes ac fe ellid darparu taflenni yn y rhain.

· Ble ceir canolfannau megis siopau, Swyddfeydd Post a meddygfeydd, edrychwch ar ddarparu gwybodaeth yn y lleoliadau hyn.

· Gall papurau bro a chylchlythyrau pentref gynnig cyfleoedd i ddarparu manylion ar gofrestru. Efallai y bydd rhai yn cynnig gofod hysbysebu rhad.

Trigolion sy’n byw mewn cymunedau y tu ôl i gatiau neu mewn parciau carafannau

Mae’n debygol bod nifer o’ch trigolion yn byw mewn cymunedau sydd â mynedfeydd sy’n cael eu rheoli’n llym. Gallai’r rhain gynnwys parciau carafannau, cymuned o dai sydd â phorthorion, neu flociau aml-lawr sydd â ffonau mynediad neu systemau diogelwch.

Gall canfaswyr wynebu heriau penodol wrth geisio cael mynediad gan borthorion. Er enghraifft, mae’n bosibl i ffonau symudol leihau nifer y cysylltiadau ‘llwyddiannus’ ac, felly, olygu bod angen ymweld fwy nag unwaith (a’i bod yn cymryd mwy o amser) i gael mynediad. Mae angen i ganfaswyr fod yn hyderus ac yn ddyfeisgar, a meddu ar strategaethau di-ffael ac ‘iaith gwerthu’ er mwyn cael mynediad.

Mae’n bosibl na fydd llythyrau sydd wedi’u cyfeirio at “y preswylydd” bob amser yn cyrraedd y person cywir yn y cymunedau hyn, gan olygu na fydd rhai trigolion yn ymwybodol bod llythyrau a dogfennau, er enghraifft Ffurflen Ymholiad y Cartref, wedi cael eu hanfon atynt. Yn yr un modd, mae’n bosibl na fydd pobl sy’n byw dros dro mewn parc carfannau yn ymwybodol bod modd iddynt gofrestru, neu efallai y byddant yn poeni am oblygiadau ymddangos ar ddogfennaeth ffurfiol. Bydd codi ymwybyddiaeth a chydweithio â phartneriaid yn helpu i ymgysylltu â’r trigolion hyn a’u gwneud yn fwy tebygol o ymateb i Ffurflen Ymholiad y Cartref a Gwahoddiad i Gofrestru.

Gweithio gyda phartneriaid

Enghreifftiau o weithgareddau

· Dylech feithrin cydberthnasau â phorthorion. Mae’r unigolion hyn yn delio â nifer fawr o bobl sy’n ceisio cael mynediad ac, yn aml, maent yn amddiffynnol iawn o’u trigolion. Mae’n cymryd amser a dyfalbarhad i feithrin cydberthnasau – dros nifer o flynyddoedd weithiau – ond, pan fydd porthorion yn ymddiried ynoch, gallant fod yn ffynhonnell bwysig o wybodaeth a chymorth.

· Dylid cysylltu â rheolwyr safle parciau carafannau oherwydd mae’n bosibl y gallant roi gwybodaeth i Swyddogion Cofrestru Etholiadol am newidiadau mewn perthynas â thrigolion

· Gall fod modd ymgysylltu â gwerthwyr tai a landlordiaid mawr lleol er mwyn cynnwys gwybodaeth gyda chytundebau rhent neu ddosbarthu taflenni wrth drosglwyddo allweddi.

· Gellid cysylltu â grwpiau ardal leol, cymdeithasau trigolion a fforymau cymunedol ar-lein ynglŷn â chyhoeddi negeseuon ar eu gwefannau neu flogiau ac arddangos posteri ar hysbysfyrddau.

· Cydweithiwch â sefydliadau fel Cymdeithas Parciau Gwyliau a Chartref Prydain a all fod yn barod i ddosbarthu canllawiau i’w rheolwyr/landlordiaid.

· Un ffordd arall o gyrraedd y trigolion hyn yw drwy’r gwasanaethau ac asiantaethau eraill y maent yn ymwneud â nhw, er enghraifft ysgolion, y dreth gyngor, budd-daliadau tai ac ati.

· Efallai y bydd teithwyr yn ymgartrefu mewn lleoliadau sydd wedi’u dynodi gan yr awdurdod lleol. Bydd swyddogion mewn cynghorau unedol a chynghorau sir yn gyfrifol am gynnal a chadw’r safleoedd dynodedig hyn ac mae’n bosibl y gallant helpu Swyddogion Cofrestru Etholiadol i nodi’r bobl a fyddai’n gymwys i gofrestru.

Codi ymwybyddiaeth

Enghreifftiau o weithgareddau

· Lle mae canolfannau megis siopau, tafarnau, Swyddfeydd Post, a meddygfeydd ar gael ar gyfer cymunedau y tu ôl i gatiau, dylech ystyried darparu gwybodaeth yn y lleoliadau hyn.

· Gellid gosod posteri hysbysebu yn agos i leoliadau y bydd trigolion cymunedau o’r fath yn fwyaf tebygol o sylwi arnynt – gallai’r rhain gynnwys hysbysfyrddau, safleoedd bysiau, neuaddau pentref a blychau post.

· Gall cylchlythyrau lleol a chylchgronau pentref gynnig cyfleoedd i ddarparu gwybodaeth am gofrestru. Efallai y bydd rhai yn cynnig gofod hysbysebu rhad.

· Dosbarthwch ganllawiau drwy sefydliadau fel Cymdeithas Parciau Gwyliau a Chartref Prydain yn atgoffa landlordiaid a rheolwyr parciau carafannau o’u cyfrifoldebau a phwysigrwydd cofrestru pleidleiswyr.

· Hefyd, gellid darparu gwybodaeth yn esbonio pam mae angen cynnal ymweliadau personol, a pham mae’r ymweliadau hynny’n cael eu cynnal drwy gydol y flwyddyn bellach.

· Efallai y bydd adrannau, darparwyr gwasanaethau a staff rheng flaen eraill yn cysylltu â’r bobl hyn ac yn anfon gohebiaeth y gellid cynnwys gwybodaeth ynddi.

� Data o MEC (2013)

� Cymunedau a Llywodraeth Leol, Arolwg Tai Lloegr 2010-11

� Cyfrifiad 2011

� Adran Addysg, Cyfranogiad mewn addysg, hyfforddiant a chyflogaeth gan bobl 16-18 oed yn Lloegr

� Cyfrifiad 2011

� Cymunedau a Llywodraeth Leol, Arolwg Tai Lloegr 2010-11

� Swyddfa Materion Anabledd, dyfynnu Arolwg Adnoddau Teulu 2010/11

� Cyfrifiad 2011