13
Sut oedd yr ysgol heddiw? YEAR 3. AGES 7 & 8 YEAR 3. AGES 7 & 8 YEAR 3. AGES 7 & 8 Canllaw ar ysgolion cynradd i rieni a gofalwyr 7–11 oed

How was school today? (Welsh)

Embed Size (px)

DESCRIPTION

Welsh version

Citation preview

Page 1: How was school today? (Welsh)

Sut oeddyr ysgolheddiw?

YEAR 3. AGES 7 & 8YEAR 3. AGES 7 & 8YEAR 3. AGES 7 & 8

Canllaw ar ysgolion cynradd

i rieni a gofalwyr7–11 oed

Page 2: How was school today? (Welsh)

3

Mae Llywodraeth Cymru o’r farn y bydd rhoi sylfaen gadarn i ddysgwyr ifancar gyfer y dyfodol o fudd i blant a Chymru gyfan yn yr hirdymor.

Mae gan rieni a gofalwyr ran hollbwysig i’w chwarae i helpu eu plant iddysgu ac, yn bwysicach, i fwynhau’r ysgol a dysgu.

Bydd y canllaw hwn yn helpu i egluro beth mae eich plentyn yn ei ddysguyn yr ysgol gynradd. Bydd yn rhoi syniadau i chi am sut i helpu eich plentyna ble i gael rhagor o wybodaeth. Bydd hefyd yn egluro sut caiff cynnyddeich plentyn ei fesur a sut byddwch yn cael gwybod am hyn.

Mae addysg plant yng Nghymru wedi’i rhannu’n bedair rhan neu bedwarcyfnod.

Ysgol gynradd Ysgol uwchradd

Mae’r canllaw hwn yn disgrifio’r cwricwlwm fel mae’n berthnasol i blantrhwng 7 ac 11 oed yng Nghyfnod Allweddol 2 mewn ysgolion cynradd.

Mae gwybodaeth am gyfnodau dysgu eraill eich plentyn ar gael ynwww.cymru.gov.uk/addysgasgiliau

Mae CyfnodAllweddol 2rhwng 7 ac11 oed.

Mae’r CyfnodSylfaen ar gyferplant rhwng 3 a 7 oed.

Mae CyfnodAllweddol 3rhwng 11 a14 oed.

Mae CyfnodAllweddol 4ar gyferdysgwyr hydat 16 oed.

1 2 3 4

2

Canllaw ar ysgolion cynradd i rieni a gofalwyr Cyfnod Allweddol 2; 7–11 oedCyflwyniad

ISBN: 978 0 7504 7470 2WG15565

© Hawlfraint y Goron Mai 2012

Page 3: How was school today? (Welsh)

5

Canllaw ar ysgolion cynradd i rieni a gofalwyr Cyfnod Allweddol 2; 7–11 oed

Bydd eich plentyn yn dilyn cwricwlwm cyfoethogac amrywiol sydd â’r nod o roi cyfleoedd iddo/iddiddysgu am y canlynol:• Cymraeg neu Gymraeg ail iaith • Saesneg• mathemateg • gwyddoniaeth • dylunio a thechnoleg• technoleg gwybodaeth a chyfathrebu (TGCh)• hanes• daearyddiaeth • cerddoriaeth • celf a dylunio

• addysg gorfforol.

Mae pob ysgol yn penderfynu ar fanylion yr hyn y bydd plant yn ei ddysgu a threfn y diwrnod ysgol, gan ystyried y gofynion sydd wedi’u nodi gan Lywodraeth Cymru. Maen nhw’n trefnu euhamserlenni eu hunain hefyd.

Mae athrawon yn llunio cynlluniau gwersi ac ynpenderfynu pa adnoddau a dulliau addysgu i’wdefnyddio. Cyfrifoldeb yr ysgol yw gwneud yn siwrbod ei chwricwlwm yn bodloni’r gofynion cyfreithiol.

Bydd ysgol eich plentyn yn gallu rhoi rhagor owybodaeth am y ffordd mae’n strwythuro’rcwricwlwm a’r sgiliau bydd eich plentyn yn eudatblygu, yn ogystal â manylion am y cynnwys y bydd eich plentyn yn ei ddysgu.

Mae rhagor o wybodaeth am addysg a’r cwricwlwmyng Nghymru ar gael ynwww.cymru.gov.uk/addysgasgiliau

4

Y cwricwlwm

Bydd plant rhwng 7 ac 11 oed yn dilyn rhaglenniastudio sydd wedi’u nodi yn y cwricwlwmcenedlaethol ar gyfer Cyfnod Allweddol 2. Byddeu haddysg yn adeiladu ar y profiadau a’r hynroedden nhw wedi’i ddysgu yn y Cyfnod Sylfaen.

Mae’r cwricwlwm yng Nghyfnod Allweddol 2 ynseiliedig ar bynciau a sgiliau. Mae’n rhoi sylfaengadarn mewn iaith, mathemateg a gwyddoniaeth,a bydd yn rhoi cyfle i blant gyflawni eu goraumewn cwricwlwm eang a chytbwys.

Mae darparu sgiliau llythrennedd a rhifedd dawrth wraidd y dysgu ar gyfer plant mewn ysgolioncynradd.

Rydym am sicrhau bod pob plentyn yn galludarllen, ysgrifennu a defnyddio rhifau er mwyncefnogi ei ddewisiadau yn y dyfodol wrth ddysguac mewn bywyd.

Beth mae fy mhlentyn ynei ddysgu?

Page 4: How was school today? (Welsh)

7

Cymraeg ail iaithBydd plant yn magu hyder wrth siarad yn Gymraeg,gan weithio fel unigolion ac aelodau o grwp, ac yn defnyddio ystod o eirfa, ymadroddion,brawddegau a chwestiynau.

Byddan nhw’n cael cyfleoedd i gymryd rhan mewn gweithgareddau drama a chwarae rôl.Byddan nhw’n datblygu i fod yn wrandawyrgweithredol ac ymatebol, a byddan nhw’n caelprofiad o ystod eang o destunau, gan gynnwysdeunyddiau dilys, wrth iddyn nhw ddatblygu i fodyn ddarllenwyr annibynnol ac effeithiol.

Byddan nhw’n ysgrifennu mewn ymateb i ystod osefyllfaoedd gan ddangos dealltwriaeth gynyddolo’r angen i siarad ac ysgrifennu yn unol â’r diben a’r gynulleidfa.

6

Cymraeg neu Saesneg Bydd plant yn dilyn rhaglen o siarad a gwrando,darllen ac ysgrifennu.

Bydd plant yn datblygu i fod yn siaradwyr hyderus,clir a diddorol wrth weithio fel unigolion ac felaelodau o grwp. Byddan nhw’n cael cyfleoedd i gymryd rhan mewn gweithgareddau drama achwarae rôl.

Byddan nhw’n datblygu i fod yn wrandawyr gweithredolac ymatebol mewn ystod eang o sefyllfaoeddhefyd, a byddan nhw’n cael y cyfle i ddarllen ystodeang o destunau ymestynnol, a hynny ar gyfermwynhad a gwybodaeth. Y nod yw sicrhau eu bodyn datblygu’n ddarllenwyr rhugl ac effeithiol.

Byddan nhw’n datblygu i fod yn ysgrifenwyrcymwys sy’n ysgrifennu’n glir mewn ystod offurfiau ac at ystod o ddibenion. Byddan nhw’nmeithrin dealltwriaeth gynyddol o’r angen i addasueu lleferydd a’u hysgrifennu i gyd-fynd â dibenion a chynulleidfaoedd gwahanol.

Byddan nhw’n dangos cywirdeb cynyddol wrthweithio, ac yn dysgu ystyried a gwerthuso eucyflawniadau eu hunain a chyflawniadau pobl eraill.

Canllaw ar ysgolion cynradd i rieni a gofalwyr Cyfnod Allweddol 2; 7–11 oedY cwricwlwm

Page 5: How was school today? (Welsh)

9

GwyddoniaethBydd gwyddoniaeth yn y cwricwlwm yn helpu planti ddysgu sut i gysylltu eu sgiliau, eu gwybodaeth a’udealltwriaeth wyddonol â bywyd bob dydd.

Bydd plant yn dysgu cydnabod y gallan nhwwerthuso syniadau gwyddonol drwy ddefnyddiogwybodaeth o arsylwadau a mesuriadau. Dylaigwyddoniaeth eu hannog i fod yn chwilfrydig acyn greadigol a dylai fod yn ddiddorol, pleserus,perthnasol a heriol. Caiff plant gyfleoedd i gynnig,archwilio a rhannu syniadau, ac estyn, mireinio adefnyddio eu sgiliau, eu gwybodaeth a’udealltwriaeth mewn sefyllfaoedd newydd.

Dylunio a thechnolegBydd ysgolion yn annog plant i fod yn greadigol a meddwl am syniadau newydd wrth ddylunio a gwneud a chyfuno’r sgiliau hyn â gwybodaeth a dealltwriaeth i gefnogi eu gwaith mewn pynciaueraill. Bydd plant yn dod yn ymwybodol o faterionsy’n ymwneud â chynaliadwyedd a’r amgylcheddyn yr unfed ganrif ar hugain ynghyd â’r hyn maepobl wedi’i gyflawni sydd wedi dylanwadu ar y byd.

8

MathemategBydd plant yn datblygu agweddau cadarnhaol atfathemateg ac yn estyn eu meddwl mathemategoldrwy fathemateg yn y cwricwlwm.

Bydd plant yn dysgu am ddatrys problemaumathemategol, cyfathrebu a rhesymu’nfathemategol mewn llawer o sefyllfaoedd gwahanola defnyddio ystod o brosesau mathemategol.Byddan nhw’n estyn eu defnydd o’r system rif, gan symud o gyfri’n ddibynadwy i gyfrifo.

Bydd ysgolion yn annog plant i geisio datrysproblem drwy ddefnyddio dull pen cyn defnyddiounrhyw ddull arall. Byddan nhw’n defnyddio dulliaucyfrifo ysgrifenedig sy’n briodol i’w lefeldealltwriaeth. Byddan nhw hefyd yn datblyguffyrdd o amcangyfrif ac yna’n defnyddio’r rhain i wirio eu cyfrifiadau, boed yn rhai ysgrifenedigneu’n rhai cyfrifiannell.

Bydd plant yn archwilio amrywiaeth helaeth o siapiau a’u priodweddau, yn defnyddio ystod o unedau ac offer ymarferol gyda chywirdebcynyddol, ac yn casglu, cynrychioli a dehongli dataat amryw o ddibenion. Byddan nhw’n dysgu dewis,trafod, esbonio a chyflwyno eu dulliau a’u rhesymugan ddefnyddio ystod gynyddol o iaith, diagramaua siartiau mathemategol.

Canllaw ar ysgolion cynradd i rieni a gofalwyr Cyfnod Allweddol 2; 7–11 oedY cwricwlwm

Page 6: How was school today? (Welsh)

11

DaearyddiaethBydd plant yn cymryd rhan mewn gweithgareddauymarferol a’u gwaith ymchwil eu hunain yn yrystafell ddosbarth ac yn yr awyr agored. Byddannhw’n datblygu sgiliau i gasglu gwybodaeth agwneud synnwyr ohoni, defnyddio mapiau, meddwlyn greadigol a rhannu syniadau drwy drafod.

Bydd plant yn datblygu eu diddordeb mewnlleoedd a’r byd o’u cwmpas drwy astudio eucymdogaeth eu hunain yng Nghymru, y bydehangach, gwahanol amgylcheddau a digwyddiadauyn y newyddion. Byddan nhw hefyd yn datblygu eudealltwriaeth o sut leoedd yw’r rhain a sut a phamy byddan nhw’n newid.

Celf a dylunioBydd celf a dylunio yn y cwricwlwm yn ysgogicreadigrwydd a dychymyg ac yn herio’r plant i lunio barn wybodus a gwneud penderfyniadauymarferol. Bydd hyn yn eu galluogi i gyfleu’usyniadau a’u teimladau gan ddefnyddio iaithweledol, cyffyrddol a synhwyraidd. Byddan nhw’ngwneud hynny drwy ymwneud â gwaith artistiaid,crefftwyr a dylunwyr, a thrwy gynnal ymchwiliadaucreadigol, a gwneud eu gwaith eu hunain.

Mae celf a dylunio yn cyfoethogi’r plant wrth iddynnhw archwilio, gwerthfawrogi a mwynhau celf.

10

Technoleg gwybodaeth achyfathrebu (TGCh)Bydd ysgolion yn annog plant i ystyried y math owybodaeth sydd ei angen arnyn nhw i gefnogi eutasgau a’u gweithgareddau a sut gallan nhw ddod o hyd i’r wybodaeth honno. Byddan nhw’n gwneudhynny drwy ddefnyddio ystod gynyddol o offer acadnoddau TGCh i ddarganfod, prosesu athrosglwyddo gwybodaeth berthnasol o nifer o ffynonellau diogel ac addas.

HanesBydd plant yn dysgu drwy holi am ffyrdd o fywgwahanol bobl mewn cyfnodau hanesyddol.Byddan nhw’n tynnu ar ddatblygiadau,digwyddiadau a phobl bwysig yn eu hardal, yngNghymru ac ym Mhrydain. Bydd plant yn caelprofiadau sy’n gwneud hanes yn ddiddorol, ynarwyddocaol ac yn rhywbeth i’w fwynhau.

CerddoriaethBydd plant yn dysgu drwy gymryd rhan weithredolmewn gwaith perfformio, cyfansoddi a gwerthusocerddoriaeth, a byddan nhw’n datblygu eusensitifrwydd i gerddoriaeth a’u dealltwriaethohoni. Byddan nhw’n datblygu sgiliau cerddorolsy’n ymwneud â rheoli a chyflwyno sain. Bydd ysgiliau hynny’n cynnwys canu, chwarae offerynnauac ymarfer yn ogystal â chreu cerddoriaeth ynfyrfyfyr, cyfansoddi a threfnu cerddoriaeth.

Canllaw ar ysgolion cynradd i rieni a gofalwyr Cyfnod Allweddol 2; 7–11 oedY cwricwlwm

Page 7: How was school today? (Welsh)

13

Llythrennedd a rhifeddCaiff pob plentyn ei gefnogi i ddatblygu sgiliaullythrennedd a rhifedd cadarn. Yn ogystal â dysguCymraeg, Saesneg a mathemateg, mae’r sgiliau hyn yn rhai y gall plant eu defnyddio mewnsefyllfaoedd gwahanol ac ar draws amrywiaetheang o weithgareddau.

Mae llythrennedd yn disgrifio set o sgiliau, yncynnwys siarad, gwrando, darllen ac ysgrifennu, sy’nein galluogi i wneud synnwyr o’r byd o’n cwmpas.

Mae rhifedd yn seiliedig ar hanfodion mathemategol.Mae rhifedd yn disgrifio’r set o sgiliau sydd eu hangeni fynd i’r afael â phroblemau go iawn mewnamrywiaeth o sefyllfaoedd drwy ddefnyddiorhesymu mathemategol i gynllunio sut i ddatrys y broblem, ac wedyn cynnal y prosesaumathemategol i ddod o hyd i’r ateb.

Bydd y plant yn datblygu sgiliau llythrennedd a rhifedd drwy’r holl bynciau yn y cwricwlwmcenedlaethol a thrwy ddefnyddio amrywiaeth eang o weithgareddau.

12

Addysg gorfforolDrwy weithgareddau antur, bydd plant yn dysgusut i nofio, bod yn ddiogel a theimlo’n hyderus yny dwr, a sut i ddarllen map neu ddilyn llwybrau, felei bod yn fwy diogel iddyn nhw fynd ymhellach acarchwilio glan y môr a chefn gwlad.

Bydd gweithgareddau cystadleuol yn rhoi cyfle iblant ddysgu sgiliau gemau a chwarae mewn tîm,yn ogystal â sut i redeg yn gyflymach, neidio’nuwch a thaflu’n bellach.

Bydd plant yn dechrau deall bod addysg gorfforolyn ymwneud â dysgu sut i deimlo’n iach apharhau’n ffit tra eu bod yn cael hwyl.

Beth arall bydd fy mhlentyn yn ei ddysgu?Cyfrifoldeb ysgolion yw cynllunio a darparucwricwlwm eang a chytbwys. Ochr yn ochr â’rcwricwlwm cenedlaethol, mae’n rhaid i ysgolionddarparu addysg grefyddol ac addysg bersonol a chymdeithasol (ABCh) hefyd.

Nid oes rhaid i ysgolion cynradd ddarparu addysg rhyw ond gallan nhw ddarparu rhaglenrhyw a pherthnasoedd ehangach os yw corffllywodraethu’r ysgol yn teimlo bod hyn yn briodol.Fodd bynnag, mae’n rhaid bod ganddyn nhw bolisiaddysg rhyw ysgrifenedig cyfredol.

Canllaw ar ysgolion cynradd i rieni a gofalwyr Cyfnod Allweddol 2; 7–11 oedY cwricwlwm

Page 8: How was school today? (Welsh)

15

• Siaradwch am y testun, y geiriau a’r rhifau rydychyn eu gweld o’ch cwmpas.

• Anogwch eich plentyn i siarad am gysyniadaumathemategol fel faint a pha mor fawr.

• Edrychwch am siapiau a phatrymau mewngwrthrychau bob dydd a’r byd o’ch cwmpas.

• Siaradwch â’ch plentyn am dasgau bob dydd sy’n defnyddio llythrennedd a rhifedd a’i gynnwysyn y tasgau hynny coginio, chwarae neu wyliochwaraeon, talu am y siopa, cynllunio taith neuchwarae gêm fwrdd gyda’r teulu neu ffrindiau.

• Ewch i amgueddfeydd ac orielau, os cewch ycyfle, a defnyddiwch eich llyfrgell leol lle cewchlawer o wybodaeth, cymorth, cyfrifiaduron i’wdefnyddio a gweithgareddau a digwyddiadau.

Presenoldeb yn yr ysgolWrth gwrs, y ffordd orau o helpu eich plentyn i ddysgu yw drwy wneud yn siwr nad yw’n colligwersi. Felly, rhowch y dechrau gorau posibl mewn bywyd i’ch plentyn drwy wneud yn siwrei fod yn mynd i’r ysgol bob amser.

14

Sut y galla i helpu fymhlentyn i ddysgu?

Mae rhieni yn chwarae rhan hollbwysig wrth helpu plant i ddysgu. Gallwch helpu eich plentyn i ddatblygu a dysgu drwy chwarae rhan, nid dimond gartref, ond yn yr ardd, y parc a’r siopau.

Syniadau ar gyfer dysgu gyda’chgilydd gartref• Gall treulio amser yn darllen gyda’ch plentyn, hyd

yn oed am ddim ond 10 munud y dydd, wneudgwahaniaeth gwirioneddol. Dewiswch ddeunydddarllen y mae’ch plentyn yn ei fwynhau fel llyfrau,cylchgronau, gwefannau, deunydd pacio athaflenni unrhyw destun, unrhyw le.

• Chwiliwch am gyfleoedd mewn bywyd bob dyddi ddefnyddio rhifau, p’un a yw hynny yn y siopau,siarad am y sgorau pêl-droed, chwilio am amsereich hoff raglenni teledu yn y cylchgrawn teleduneu ddefnyddio’r amserlen fysiau neu drenau igynllunio taith.

• Anogwch eich plentyn i ysgrifennu a dyluniopethau at amrywiaeth o ddibenion gwahanol, fel gwahoddiadau, llythyrau diolch, negeseuon e-bost, rhestrau siopa neu restrau ‘rhaid gwneud’.

Canllaw ar ysgolion cynradd i rieni a gofalwyr Cyfnod Allweddol 2; 7–11 oed

Page 9: How was school today? (Welsh)

17

Alla i dynnu fy mhlentyn yn ôl o’rcwricwlwm cenedlaethol?Nid oes hawl gan riant i dynnu plentyn yn ôl obynciau’r cwricwlwm cenedlaethol, nac o’rtrefniadau i asesu cynnydd plant yn y pynciau hyn.Fodd bynnag, mae gennych yr hawl i dynnu eichplentyn yn ôl o addysg grefyddol ac unrhywaddysg rhyw a all gael ei darparu.

16

Ydy plant ag anghenion addysgolarbennig yn dilyn y cwricwlwmcenedlaethol?Bydd y rhan fwyaf o blant, gan gynnwys y rhai aganghenion dysgu ychwanegol, yn gallu dilyn ycwricwlwm cenedlaethol. Fodd bynnag, ar adegau,gall pennaeth benderfynu na ddylai’r cwricwlwmcenedlaethol cyfan neu ran ohono fod ynberthnasol, dros dro, i blentyn ag anghenionaddysgol arbennig. Mewn achosion eithriadol iawn,fel plant sydd â Datganiadau Anghenion AddysgolArbennig gan yr awdurdod lleol, gall benderfynu naddylai’r cwricwlwm cenedlaethol fod yn berthnasolo gwbl a hynny’n barhaol. ‘Datgymhwyso’ yw’r termam hyn.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am beth sydd argael i blant ag anghenion addysgol arbennig ynwww.cymru.gov.uk/addysgasgiliau

Canllaw ar ysgolion cynradd i rieni a gofalwyr Cyfnod Allweddol 2; 7–11 oed

Page 10: How was school today? (Welsh)

19

Sut bydda i’n gwybod sut mae fymhlentyn yn dod yn ei flaen?Byddwch yn cael adroddiad ysgrifenedig ar gynnyddeich plentyn o leiaf unwaith y flwyddyn. Cewchgyfle hefyd i gwrdd ag athro/athrawes eich plentyn.

Bydd yr adroddiad blynyddol yn cynnwysgwybodaeth o’r asesiad hwn o’r cwricwlwmcenedlaethol. Bydd yr adroddiad blynyddol hefydyn cynnwys adborth oddi wrth athro/athraweseich plentyn ar gryfderau a meysydd i’w gwella,presenoldeb a chyflawniadau. Bydd yr adroddiadyn sail i drafodaeth am anghenion dysgu eichplentyn a’r camau nesaf.

Ar ddiwedd yr ysgol gynradd, bydd adroddiad eichplentyn yn cynnwys lefel y cwricwlwm cenedlaetholar gyfer pob pwnc craidd. Bydd hyn yn rhoi darluncryno i chi o gynnydd eich plentyn a’i lefel cyflawniadyn erbyn safonau’r cwricwlwm cenedlaethol.

Siart lefelau’r cwricwlwm cenedlaethol

Bydd yr adroddiad hefyd yn cynnwys gwybodaetham sut mae’r canlyniadau ar gyfer yr ysgol gyfan yncymharu â safonau lleol a chenedlaethol.

Am ragor o wybodaeth am adroddiadau ysgol ewch iwww.cymru.gov.uk/addysgasgiliau

18

Sut caiff fy mhlentyn ei asesu?

Mae gan bob pwnc yn y cwricwlwm cenedlaetholei set ei hun o dargedau heriol sy’n cwmpasu cyfreso gamau, neu lefelau, ar raddfa genedlaetholgyffredin. Ym mhob un o’r pynciau, caiff cynnyddeich plentyn ei asesu yn erbyn safonaucenedlaethol yn seiliedig ar wyth lefel aPherfformiad Eithriadol (PE). Mae hyn yn helpuathrawon i gynllunio gwersi yn unol ag oedran a gallu, ac yn helpu i asesu cynnydd y plant.

Mae athrawon yn asesu gwaith plant o ddydd iddydd, ym mhob pwnc ac ym mhob gweithgaredd.Yn benodol, byddan nhw’n asesu cynnydd yn ypynciau craidd, sef Cymraeg (naill ai fel iaith gyntafneu fel ail iaith), Saesneg, mathemateg agwyddoniaeth, a phan fydd plant yn cyrraedddiwedd yr ysgol gynradd ac ar fin mynd i’r ysgoluwchradd.

Bydd yr athro/athrawes yn penderfynu pa lefel arraddfa’r cwricwlwm cenedlaethol sy’n adlewyrchucynnydd eich plentyn orau ym mhob un o’r pynciaucraidd. Mae’r asesiad hwn yn defnyddio pob agweddar waith eich plentyn yn yr ysgol a’i waith cartref.

Asesu eich plentyn Canllaw ar ysgolion cynradd i rieni a gofalwyr Cyfnod Allweddol 2; 7–11 oed

Page 11: How was school today? (Welsh)

21

Mae’n bwysig cofio bydd plant gwahanol yncyflawni ar gyflymder gwahanol ond ar ddiwedd yr ysgol gynradd, bydd disgwyl i’r rhan fwyaf oblant gyrraedd Lefel 4 ar raddfa’r cwricwlwmcenedlaethol ym mhob pwnc craidd.

I gael gwybodaeth am ddisgrifiadau lefel ycwricwlwm cenedlaethol, ewch iwww.cymru.gov.uk/addysgasgiliau

Pwy sydd â’r hawl i gaeladroddiadau a gwybodaeth arall oddi wrth yr ysgol?Mae gennych yr hawl i gael copi o adroddiad eichplentyn oddi wrth yr ysgol. Mae gennych yr hawl i gael copi o adroddiad blynyddol y llywodraethwyrhefyd.

Mae gan rieni sydd wedi ysgaru neu wahanu aceraill a all fod â chyfrifoldeb rhiant dros blentyn yr un hawl i weld yr wybodaeth hon oni bai bodgorchymyn llys a fyddai’n atal hyn.

I gael rhagor o wybodaeth am rieni/gofalwyr achyfrifoldeb rhiant, ewch iwww.cymru.gov.uk/addysgasgiliau

Lefelau’r cwricwlwm cenedlaethol

20

Deilliannau 1, 2 a 3 y Cwricwlwm CenedlaetholGall athrawon baratoi adroddiad ar gynnydd plant sy’n gweithio tuag at y cam cyntaf ar y cwricwlwm cenedlaethol gan ddefnyddio’r tri cham ‘deilliant’ sy’n dod cyn iddyn nhw gyflawni Lefel 1.

Lefelau 1, 2 a 3 y Cwricwlwm Cenedlaethol I rai plant, gall perfformiad o dan y lefel ddisgwyliedig fod yn gamp fawr iawn.

Lefel 4 y Cwricwlwm CenedlaetholDyma’r lefel ddisgwyliedig ar gyfer plant ar ddiwedd yr ysgol gynradd bydd y rhan fwyaf o blant yn cyrraedd y lefel hon, ond nid pob un ohonyn nhw.

Lefelau 5, 6, 7 a 8 y Cwricwlwm Cenedlaethol Mae cyflawniad ar Lefel 5 neu’n uwch yn dangos eu bod yn cyflawni’n uwch na’r cyffredin.

Perfformiad Eithriadol (PE)Efallai y byddai disgwyl i rai plant gyflawni llawer uwch na’r lefel ddisgwyliedig.

H – Heb ddyfarnu lefelYn anaml iawn, mae amgylchiadau’n codi sy’n golygu nad oes gan ysgolddigon o wybodaeth na thystiolaeth i lunio asesiad athro/athrawes.

D – DatgymhwysoO dan rai amgylchiadau, gall y pennaeth benderfynu nad yw’r cwricwlwmcenedlaethol cyfan neu ran ohono yn berthnasol i unigolyn, er enghraifft,oherwydd anghenion addysgol arbennig plentyn.

Canllaw ar ysgolion cynradd i rieni a gofalwyr Cyfnod Allweddol 2; 7–11 oedAsesu eich plentyn

Page 12: How was school today? (Welsh)

23

Angen rhagor o wybodaeth?Gallwch gael rhagor o wybodaeth oddi wrth y ffynonellau canlynol.

• Eich ysgol – siaradwch ag athro/athrawes eichplentyn, y pennaeth neu aelod o’r corffllywodraethu.

• Eich awdurdod lleol.

• Ewch i’n gwefan ynwww.cymru.gov.uk/addysgasgiliau

 phwy galla i siarad os oes pryderongen i?Os oes pryderon gennych, dylech siarad agathro/athrawes eich plentyn yn gyntaf. Os yw ysgol eich plentyn wedi dewis unigolyn i fod ynbwynt cyswllt cyntaf ar gyfer pryderon neugwynion, gallech siarad â’r unigolyn hwnnw hefyd.

Os oes pryderon gennych o hyd, gallwch godi eichpryder fel cwyn. Bydd polisi’r ysgol ar ymdrin âchwynion yn rhoi gwybod sut i wneud hyn.

22

Symud yn ddidrafferth i’r ysgol uwchradd

Fel arfer, bydd plant yn symud i’r ysgol uwchraddyn y mis Medi cyn iddyn nhw droi’n 12 oed.

Pan fydd eich plentyn yn y flwyddyn olaf yn yrysgol gynradd, bydd yr awdurdod lleol yn anfongwybodaeth atoch sy’n egluro sut i wneud caisam le mewn ysgol uwchradd. Fel arfer, bydd hynyn digwydd yn ystod tymor cyntaf blwyddyn olafplant yn yr ysgol gynradd.

Mae’n rhaid bod gan ysgolion yng Nghymrugynllun pontio sy’n nodi sut byddan nhw’ngweithio gydag ysgolion uwchradd lleol i sicrhaubod y broses o symud i’r ysgol uwchradd morddidrafferth â phosibl.

Gallai trefniadau rhwng ysgol eich plentyn a’rysgolion uwchradd lleol gynnwys ymweliadau â’rysgol uwchradd fel bod plant yn gallu edrych ogwmpas a chwrdd â’r prif aelodau staff, sesiynaugwybodaeth, ac ymweliadau gan athrawonysgolion uwchradd â’r ysgol gynradd.

Cyfnod Allweddol 3 Canllaw ar ysgolion cynradd i rieni a gofalwyr Cyfnod Allweddol 2; 7–11 oed

Page 13: How was school today? (Welsh)