Upload
others
View
1
Download
0
Embed Size (px)
Citation preview
Rhaglen Addysg ac YmwybyddiaethForol Moroedd Byw
Helpu i Warchod Bae Ceredigion drwy addysg ac ymchwil
www.cbmwc.orgwww.welshwildlife.org
The Wildlife TrustSouth and West Wales
De a Gorllewin Cymru©
Matt
hew
Ro
bert
s
© J
ess
ica G
rim
ble
y
© B
rian
Mitch
ell
Dysgu a Charu Moroedd BywMae Canolfan Bywyd Gwyllt Morol Bae Ceredigion yn rhan o YmddiriedolaethNatur De a Gorllewin Cymru ac mae wedi ymrwymo i warchod bywyd gwylltmorol Bae Ceredigion drwy gyfrwng addysg ac ymchwil. Rydyn ni’n darparugweithdai amgylcheddol morol drwy gydol y flwyddyn a gweithgareddau iysgolion a grwpiau o bob oed.
Plant (5-16 oed) Rydyn ni’n cynnig amrywiaeth o weithgareddau a gweithdai addysgforol cyffrous i annog plant i ddysgu am ein hamgylchedd morolrhyfeddol. Mae posib cysylltu ein gweithdai ni i gyd â’r CwricwlwmCenedlaethol yng Nghyfnodau Allweddol 1 - 4. Hefyd maen nhw’ncefnogi sgiliau allweddol fel cyfathrebu, holi, datblygu acadlewyrchu. Mae ein gweithdai a’n gweithgareddau’n gyfle i blantdreulio amser yn yr awyr agored a chael blas uniongyrchol ar fydnatur, gan ddarparu profiad dysgu rhagorol a chyffrous.
Grwpiau Oedolion
Rydyn ni’n darparu gweithdai a sgyrsiau morol i oedolion hefyd. Mae ein sgyrsiau’n
gyfle i grwpiau o oedolion ddysgu am yr amgylchedd morol lleol, ein gwaith
cadwriaethol ac ymchwil hanfodol Canolfan Bywyd Gwyllt Morol Bae Ceredigion.
Hefyd rydyn ni’n cynnig pecynnau dyddiau corfforaethol hwyliog a difyr i ddiwallu
anghenion eich busnes a chael eich tîm allan o’r swyddfa i ganol byd natur.
Gellir addasu ein sgyrsiau, ein gweithdai a’n dyddiau corfforaethol i weddu
i’ch diddordebau a’ch gofynion chi. Cysylltwch â Swyddog
Ymwybyddiaeth Moroedd Byw i drafod hyn.
Gweithgareddau a Gweithdai
1. Saffari Traeth
Mae ein gweithdai Saffari Traeth ni’n gyfle iblant gael profiad uniongyrchol o fywyd gwylltrhyfeddol y môr sydd i’w ganfod ar hydarfordir Cymru.
Bydd y gweithdy’n dechrau gyda chyflwyniad a sgwrs am
iechyd a diogelwch yn ein Hystafell Ddarganfod a bydd y
myfyrwyr yn cael offer a chanllawiau adnabod. Wedyn
byddwn yn mynd ar antur ar hyd y pyllau creigiog a’r glannau
tywodlyd sy’n rhan o’n harfordir ni, gan chwilio am
greaduriaid a phlanhigion y môr ar ein taith. Gan ddefnyddio
canllawiau wedi’u hargraffu, bydd y plant yn dysgu sut i
adnabod y pethau maent yn eu darganfod.
Defnyddir gemau hwyliog a thrafodaethau i ddysgu am
wahanol rywogaethau a chynefinoedd ar hyd ein harfordir a
sut maent yn addasu i’w hamgylchedd.
2. Pwy sy’n bwyta pwy?
Mae’r gweithdy pwy sy’n bwyta pwy yn gyflei fyfyrwyr ddysgu am gadwyni bwyd morol.
Byddwn yn trafod y gwahanol rywogaethau morol, beth
maen nhw’n ei fwyta a beth sy’n eu bwyta nhw! Bydd y
myfyrwyr yn dysgu am y gwahaniaeth rhwng ysglyfaethwr
ac ysglyfaeth gyda gemau a gweithgareddau hwyliog.
Hefyd caiff y plant gyfle i ddarganfod pa rywogaethau sy’n
byw yn ein hacwariwm ni a phenderfynu ble maen nhw’n
ffitio yn y gadwyn fwyd.
Gellir cysylltu’r gweithdy yma â Saffari Traeth am gyfle
i gael profiad uniongyrchol gyda rhai o’r rhywogaethau
a drafodwyd yn ystod y gweithdy.
© M
att
hew
Ro
bert
s©
Sara
h P
err
y
© S
ara
h P
err
y©
Sara
h P
err
y
3. Byddin yn erbyn Sbwriel
Mae ein hamgylchedd morol dan fygythiadoherwydd sbwriel morol ac mae angen einhelp ni. Mae’r gweithdy yma’n gyfle i fyfyrwyrweithio’n ymarferol a bod yn Fyddin yn erbynSbwriel.
Bydd trafodaethau a gemau’n gyfle i fyfyrwyr ddysgu am y
gwahanol fathau o sbwriel morol a’i effeithiau ar amgylchedd
y môr, a sut gallwn ni i gyd weithredu er mwyn helpu i gadw
amgylchedd y môr yn lân.
Ar ôl briff iechyd a diogelwch yn ein Hystafell Ddarganfod,
byddwn yn mynd allan ar ein traethau lleol gyda bagiau bin,
teclynnau casglu sbwriel a menig. Bydd y plant yn dysgu sut
i gofnodi’r sbwriel maen nhw’n ei ddarganfod mewn
gwahanol gategorïau, a bydd sgyrsiau’n cael eu cynnal am
darddiad y sbwriel a pha effaith all ei chael. Daw’r gweithdy i
ben gyda gweithgaredd crefft creaduriaid y môr wedi’u
hailgylchu yn ein Hystafell Ddarganfod.
4. Ymchwil Tanddwr
Cyfle i fynd am drip o dan y môr heb wlychu!
Cewch drafod a dysgu am wahanol gynefinoedd a
rhywogaethau morol sydd i’w canfod yn lleol ac o bob cwr
o’r byd. Gan ganolbwyntio ar ddetholiad o rywogaethau
lleol, byddwn yn trafod eu cynefinoedd, eu haddasiadau, eu
cylch bywyd a’r gadwyn fwyd. Hefyd bydd y myfyrwyr yn
cael cyfle i fynd ar ein profiad realiti rhithiol newydd 360
gradd, Cyrch Fôr Bae Ceredigion, i archwilio byd tanddwr
Bae Ceredigion. Daw’r gweithdy i ben gyda gweithgaredd
crefft yn ein Hystafell Ddarganfod, gan roi cyfle i’r myfyrwyr
greu rhai o’r rhywogaethau a drafodwyd.
© C
BM
WC
© C
BM
WC
© S
teve
Dee
5. Dod yn Dditectif Dolffiniaid
Bae Ceredigion yw’r lle gorau yn y DU i weld dolffiniaid trwyn potel.
Mae’r gweithdy hwn yn gyfle i’r myfyrwyr fod yn dditectifs dolffiniaid a helpu i gynnal ein
hymchwil pwysig. Bydd y gweithdy’n dechrau gyda thrafodaethau a gemau er mwyn i’r
myfyrwyr ddysgu am famaliaid y môr. Wedyn byddwn yn mynd allan i Harbwr Ceinewydd
gyda ffurflenni arolygu a chaiff y cyfranogwyr gyfle i fod yn ymchwilwyr
morol. Bydd y myfyrwyr yn dysgu sut rydyn ni’n cynnal ein hymchwil
ac yn cael cyfle i ganfod dolffiniaid drostynt eu hunain. Daw’r
gweithdy i ben gyda gweithgaredd crefft yn ein Hystafell
Ddarganfod a chaiff y plant gyfle i wneud eu crefftau
dolffin eu hunain i fynd adref gyda nhw.
© S
ara
h P
err
y©
Sara
h P
err
y
6. Dyddiau Corfforaethol
Gallwn gynnig amrywiaeth o ddyddiau corfforaethol am gyfle i chi godi allan o’r swyddfa ac i
ganol byd natur. Gall y gweithgareddau gynnwys megaffawna morol neu arolygu traethau,
glanhau traethau a gemau meithrin tîm. Mae ein gweithgareddau ni i gyd yn gyfle i grwpiau
ddysgu sgiliau newydd ac yn annog meithrin tîm a chyfathrebu, gan ddysgu hefyd am yr
amgylchedd morol lleol. Hefyd gall y pecynnau gynnwys trip ar gwch gyda busnes eco-
dwristiaeth lleol - Tripiau Cwch yn Arolygu Dolffiniaid am gyfle i weld dolffiniaid trwyn potel,
llamhidyddion, morloi ac adar gydag arbenigwyr Ceinewydd. Gall y dyddiau corfforaethol
hefyd cynnwys lluniaeth a chinio.
Costau
Trefnir ein gweithdai gan ein Swyddog Ymwybyddiaeth Moroedd Byw sydd wedi cael
archwiliad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Bydd aelod gwybodus o’n tîm Moroedd
Byw yn cynnal y gweithdy. Mae asesiadau risg wedi cael eu cynnal ar gyfer ein
gweithgareddau ni i gyd ac maent ar gael ar gais.
Gellir addasu ein gweithdai ni i gyd i fodloni eich gofynion a’ch diddordebau penodol chi.
Gellir cynnal gweithdai yn ein Hystafell Ddarganfod ni yng Ngheinewydd, ble cewch gyfle i
archwilio ein harfordir lleol rhyfeddol, neu gall ein staff a’n gwirfoddolwyr ymroddedig ddod â
rhai o’n gweithdai i’ch ysgol chi. Byddwn yn darparu’r holl offer a’r adnoddau dysgu sy’n
ofynnol ar gyfer y gweithgaredd, gan gynnwys siacedi llachar i blant yn ystod gweithgareddau
awyr agored. Rhaid i blant ddod â dillad ac esgidiau addas ar gyfer y gweithdy.
Mae ein Hystafell Ddarganfod yn lle penodol ar gyfer dysgu a gweithgareddau. Mae’r
cyfleusterau’n cynnwys y canlynol:
• Bwrdd gwyn rhyngweithiol • Taflunydd
• Toiled • Desgiau a seddau
• Ystod o adnoddau addysgol
GWEITHGAREDD COST
Siaradwr yn rhoi sgwrs am ryw 45 munud £40 (a theithio)
Dwy awr o weithgareddau dosbarth gyda chyfarfod ymlaen llaw £60
Sgyrsiau hyfforddi athrawon sy’n para am ryw awr £40
Ymweliad maes hanner diwrnod/diwrnod llawn â’r Ganolfan £2/3 y plentyn
(isafswm o £30 am hanner
diwrnod a £50 am ddiwrnod
llawn)
Dyddiau Corfforaethol Cysylltwch â ni i drafod
Ymweld â ni©
Sara
h P
err
y
FROM ABERYSTWYTH
LANARTH
CROSS INN
B4342
A486
A487
FROM CARDIGAN
A487
SYNOD INN
A486
A4342
FROM CARDIGAN
FROM ABERYSTWYTH
CARDIGAN BAYMARINE WILDLIFECENTRE
NEW QUAY
Canolfan Bywyd Gwyllt Morol Bae Ceredigion,Adeilad Patent Slip, Teras Glanmor, Ceinewydd,
Ceredigion, SA45 9PS01545 560224 [email protected] www.cbmwc.org www.welshwildlife.org
/CBMWC
/WTSWW
@CBMWC
@WTSWW
Dilynwch ni ar Facebook, Twitter or Instagram
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, neu os am archebu gweithdy, cysylltwch â ni.
A486
Mae Canolfan Bywyd Gwyllt
Morol Bae Ceredigion yn lle
perffaith ar gyfer ymweliad
gan eich grŵp. Mae ar Lithrfa
Patent yng Ngheinewydd,
Ceredigion ac mae gennym
fynediad hwylus a diogel i
arfordir rhyfeddol Ceinewydd
a lle penodol ar gyfer
gweithdai dan do. Hefyd mae
gennym ganolfan ymwelwyr
sy’n llawn gwybodaeth am yr
ardal leol a bywyd gwyllt y
môr yma, a siop anrhegion
fechan.