4
Cyhoeddwyd gan Undeb yr Annibynwyr Cymraeg ac argraffwyd gan Wasg Morgannwg, 27 Ystad Ddiwyd. Mynachlog Nedd, Castell-nedd, SA10 7DR. Cofrestrwyd yn y Swyddfa Bost. Erthyglau, llythyrau at y Prif Olygydd: Y Parchg Ddr Alun Tudur 39 Dorchester Avenue, Pen-y-lan, Caerdydd, CF23 9BS Ffôn: 02920 490582 E-bost: [email protected] Archebion a thaliadau i’r Llyfrfa: y John Penri, 5 Axis Court, Parc Busnes Glanyrafon, Bro Abertawe ABERTAWE SA7 0AJ Ffôn: 01792 795888 E-bost: [email protected] tudalen 8 Y Pedair Tudalen Gydenwadol Mai 18, 2017 Y TYsT Golygydd Y Parchg Iwan Llewelyn Jones Fronheulog, 12 Tan-y-Foel, Borth-y-gest, Porthmadog, Gwynedd, LL49 9UE Ffôn: 01766 513138 E-bost: [email protected] Golygydd Alun Lenny Porth Angel, 26 Teras Picton Caerfyrddin, Sir Gâr, SA31 3BX Ffôn: 01267 232577 / 0781 751 9039 E-bost: [email protected] Dalier Sylw! Cyhoeddir y Pedair Tudalen Gydenwadol gan Bwyllgor Llywio’r Pedair Tudalen ac nid gan Undeb yr Annibynwyr Cymraeg. Nid oes a wnelo Golygyddion Y Tyst ddim â chynnwys y Pedair Tudalen. Golygyddion Dyma grynodeb o anerchiad Mrs Fioled Jones o’r gadair Gyfundeb Ceredigion. Cyflwynwyd yn y Cwrdd Chwarter a gynhaliwyd yn y Tabernacl, Pencader, lle mae Fioled yn aelod. Mae Fioled yn weithgar iawn gyda ‘Coda Ni’, mudiad Cristnogol yn ardal Pencader a Llandysul, sy’n cydweithio gyda Chymorth Cristnogol yn Burkina Faso. Bu Fioled mewn gwledydd eraill yn cynrychioli ei Harglwydd a’i chenedl. Hadau Cariad A ydych wedi ffeindio’ch hunan mewn sefyllfa rywbryd a gofyn “pam?”, dyna ‘n union effaith fy nheithiau i Lesotho a Nicaragua ac yna Burkina Ffaso, Gorllewin Affrica gyda Coda Ni. Gwreiddiau yng nghariad Iesu yw sylfaen ein magwraeth. Mae hadau tyfiant angen rhyddid i wreiddio er mwyn hau neges cariad allan yn ein cymunedau. A yw delwedd yr Annibynwyr yn fewnblyg a thraddodiadol? Dysgodd Iesu ni i gymysgu gyda phawb. Tyfodd y teimlad angerddol i ymweld o’m profiad gydag ymgyrchu Cymorth Cristnogol. Mae golau yn hanfodol i hadau wreiddio’n ddwfn. Fe ddaeth y cyfle i ymweld â Lesotho ar adeg anodd ac isel yn fy mywyd, ond dihunwyd ynof y cariad tuag at y rhai anghenus ac fe ymatebais i’r alwad. Daeth pwrpas i fywyd. “Mae yn olau ond cael gweld dy wyneb di “ Gwireddu’r Neges Rhaid credu yn yr achos, cael ffydd a gobaith yn y gallu i weithredu dros bobl. Mae Duw yn amyneddgar . Gras Duw yw’r nerth sy’n ein cario NI ‘mlaen ar adeg anodd heb ei haeddu. Rôl y Cristion, fel DYLANWAD PROFIADAU aelod o gymdeithas eglwys a chymuned, yw gwireddu neges Iesu i ni fynd allan i ganol pryderon pobl. Allwn ni ddim bwrw mlaen â phethau yn nerth ein hunain , pryd hynny i ni‘n methu Mae angen i ni greu perthynas gonest â Duw, ei gymryd gyda ni fel ffrind yn ein bywyd bob dydd, wrth ofyn am faddeuant. Codi Pont Pryderwn am faint fy nghyfraniad. Cofiais am bwrpas a her neges Iesu. Duw yn unig sy’n gwybod maint effaith ei gariad mae’n ei ddangos trwom ni. Ar y groes, cododd Iesu bont rhyngom ni a Duw, a thrwy ei ras a’i gariad, mae’n cynnig i ni groesi’r bont i weithredu. Mae angen i ni groesawu a rhannu cariad Iesu gyda phawb sy’n gwneud daioni. Dysgais gan bobol Burkina taw braint yw bywyd a bod Iesu yn cynnig cyfle arbennig a’r her yma i gydnabod yr angen am ei arweiniad i weithredu. Rydym yn ei siomi Ef yn gyson, ond mae Duw yn deall yn ei gariad. Aelodau yw gwir gyfoeth yr Eglwys, a cheisiwn arweiniad i gael ein dihuno ac i gydweithio. Mae lan i ni i fod o ddifri dros Eglwys Crist . Pŵer Cariad Duw Dylanwadodd fy mhrofiadau yn ddwfn arna i, gwelais sut mae ‘hadau gobaith’ Cymorth Cristnogol yn medru trawsffurfio tir a bywyd pobl gan eu codi i fywyd o obaith. Teimlais emosiwn dwfn yn nyfnder y gobaith a’r llawenydd diniwed yn eu llygaid. Yng nghanol erchylltra’r tlodi a’r gormes, mae ymateb y bobl wedi ychwanegu elfen arbennig i’m bywyd wrth i mi ddeall pa mor bwerus yw cariad Duw trwy Iesu. D’oes dim rhaid mynd i Affrica i brofi hynny! Trwy i ni ddarganfod Iesu, y mae ef yn ein galluogi i hau hadau’r cariad sbesial hwn allan o’n heglwysi. Wrth eu medi deuwn i ddeall anghenion pobl yn ein cymdeithas sydd yn ei dro yn agor llwybrau i gyrraedd at Iesu ac adeiladu ei Eglwys. Dyma her efengyl Iesu Grist a thrwy’r cwbl i gyd mae ei freichiau’n dal ar led tuag atom. Dyma gyfarfod llywodraethwyr Ysgol Saouga, ar gyrion y Sahara yn Burkina Faso. Cymdeithas Alzheimer’s Gan fod Alzheimer’s yn effeithio ar gymaint o’n haelodau a’n teuluoedd, penderfynodd Ebeneser, Caerdydd, fabwysiadu Elusen Alzheimer’s De Cymru fel ein helusen am 2016. Trwy nifer o weithgareddau amrywiol gan ystod eang o’r aelodau llwyddwyd i godi £6,500. Cyflwynwyd siec gan Melfyn Hopkins i gynrychiolwyr yr elusen sef Claire a Cheryl yn y cwrdd plant ym mis Ebrill. Gweddïwn y bydd yr arian yn gymorth i ymchwilio i’r cyflwr ac yn fodd i gynorthwyo teuluoedd sy’n ymdopi â sefyllfaoedd anodd. Diolch i bawb am eu haelioni cyson. Ymlaen yn awr i godi arian ar gyfer ein helusen am 2017 sef Y Neuro Foundation.

Undeb yr Annibynwyr Cymraeg - Alzheimer’s...2017/05/18  · se fydlwyd 1 867 Cyfrol 150 Rhif 20 Mai 18, 2017 50c. YPaPur wTYsTythnosol yr annibynwyr Cymraeg Dathlu’r Atgyfodiad

  • Upload
    others

  • View
    1

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

  • Cyhoeddwyd gan Undeb yr Annibynwyr Cymraeg ac argraffwyd gan Wasg Morgannwg, 27 Ystad Ddiwyd. Mynachlog Nedd, Castell-nedd, SA10 7DR. Cofrestrwyd yn y Swyddfa Bost.

    Erthyglau, llythyrau at y Prif Olygydd:

    Y Parchg Ddr Alun Tudur

    39 Dorchester Avenue, Pen-y-lan,

    Caerdydd, CF23 9BS

    Ffôn: 02920 490582

    E-bost: [email protected]

    Archebion a thaliadau i’r Llyfrfa:

    Tŷ John Penri, 5 Axis Court, Parc

    Busnes Glanyrafon, Bro Abertawe

    ABERTAWE SA7 0AJ

    Ffôn: 01792 795888

    E-bost: [email protected]

    tudalen 8 Y Pedair Tudalen Gydenwadol Mai 18, 2017Y TYsT

    Golygydd

    Y Parchg Iwan Llewelyn Jones

    Fronheulog, 12 Tan-y-Foel,

    Borth-y-gest, Porthmadog, Gwynedd,

    LL49 9UE

    Ffôn: 01766 513138

    E-bost: [email protected]

    Golygydd

    Alun Lenny

    Porth Angel, 26 Teras Picton

    Caerfyrddin, Sir Gâr, SA31 3BX

    Ffôn: 01267 232577 /

    0781 751 9039

    E-bost: [email protected]

    Dalier Sylw!Cyhoeddir y Pedair Tudalen

    Gydenwadol gan Bwyllgor Llywio’rPedair Tudalen ac nid gan Undeb yr

    Annibynwyr Cymraeg. Nid oes awnelo Golygyddion Y Tyst ddim â

    chynnwys y Pedair Tudalen.

    Golygyddion

    Dyma grynodeb o anerchiad Mrs Fioled

    Jones o’r gadair Gyfundeb Ceredigion.

    Cyflwynwyd yn y Cwrdd Chwarter a

    gynhaliwyd yn y Tabernacl, Pencader, lle

    mae Fioled yn aelod. Mae Fioled yn

    weithgar iawn gyda ‘Coda Ni’, mudiad

    Cristnogol yn ardal Pencader a

    Llandysul, sy’n cydweithio gyda

    Chymorth Cristnogol yn Burkina Faso.

    Bu Fioled mewn gwledydd eraill yn

    cynrychioli ei Harglwydd a’i chenedl.

    Hadau Cariad

    A ydych wedi ffeindio’ch hunan mewnsefyllfa rywbryd a gofyn “pam?”, dyna ‘nunion effaith fy nheithiau i Lesotho aNicaragua ac yna Burkina Ffaso, GorllewinAffrica gyda Coda Ni. Gwreiddiau yngnghariad Iesu yw sylfaen ein magwraeth.Mae hadau tyfiant angen rhyddid iwreiddio er mwyn hau neges cariad allanyn ein cymunedau. A yw delwedd yrAnnibynwyr yn fewnblyg a thraddodiadol?Dysgodd Iesu ni i gymysgu gyda phawb.

    Tyfodd y teimlad angerddol i ymweldo’m profiad gydag ymgyrchu CymorthCristnogol. Mae golau yn hanfodol i hadauwreiddio’n ddwfn. Fe ddaeth ycyfle i ymweld â Lesotho aradeg anodd ac isel yn fymywyd, ond dihunwyd ynof ycariad tuag at y rhai anghenusac fe ymatebais i’r alwad.Daeth pwrpas i fywyd. “Maeyn olau ond cael gweld dy

    wyneb di “

    Gwireddu’r Neges

    Rhaid credu yn yr achos, caelffydd a gobaith yn y gallu iweithredu dros bobl. Mae Duwyn amyneddgar. Gras Duwyw’r nerth sy’n ein cario NI‘mlaen ar adeg anodd heb eihaeddu. Rôl y Cristion, fel

    DYLANWAD PROFIADAU

    aelod o gymdeithas eglwys a chymuned,yw gwireddu neges Iesu i ni fynd allan iganol pryderon pobl. Allwn ni ddim bwrwmlaen â phethau yn nerth ein hunain , prydhynny i ni‘n methu Mae angen i ni greuperthynas gonest â Duw, ei gymryd gyda nifel ffrind yn ein bywyd bob dydd, wrthofyn am faddeuant.

    Codi Pont

    Pryderwn am faint fy nghyfraniad. Cofiaisam bwrpas a her neges Iesu. Duw yn unigsy’n gwybod maint effaith ei gariad mae’nei ddangos trwom ni. Ar y groes, cododdIesu bont rhyngom ni a Duw, a thrwy ei rasa’i gariad, mae’n cynnig i ni groesi’r bont iweithredu. Mae angen i ni groesawu arhannu cariad Iesu gyda phawb sy’ngwneud daioni. Dysgais gan bobol Burkinataw braint yw bywyd a bod Iesu yn cynnigcyfle arbennig a’r her yma i gydnabod yrangen am ei arweiniad i weithredu. Rydymyn ei siomi Ef yn gyson, ond mae Duw yndeall yn ei gariad. Aelodau yw gwirgyfoeth yr Eglwys, a cheisiwn arweiniad igael ein dihuno ac i gydweithio. Mae lan ini i fod o ddifri dros Eglwys Crist .

    Pŵer Cariad Duw

    Dylanwadodd fy mhrofiadau yn ddwfnarna i, gwelais sut mae ‘hadau gobaith’Cymorth Cristnogol yn medru trawsffurfiotir a bywyd pobl gan eu codi i fywyd oobaith. Teimlais emosiwn dwfn yn nyfndery gobaith a’r llawenydd diniwed yn eullygaid. Yng nghanol erchylltra’r tlodi a’rgormes, mae ymateb y bobl wediychwanegu elfen arbennig i’m bywyd wrthi mi ddeall pa mor bwerus yw cariad Duwtrwy Iesu. D’oes dim rhaid mynd i Affrica ibrofi hynny! Trwy i ni ddarganfod Iesu, ymae ef yn ein galluogi i hau hadau’r cariadsbesial hwn allan o’n heglwysi. Wrth eumedi deuwn i ddeall anghenion pobl yn eincymdeithas sydd yn ei dro yn agorllwybrau i gyrraedd at Iesu ac adeiladu eiEglwys. Dyma her efengyl Iesu Grist athrwy’r cwbl i gyd mae ei freichiau’n dalar led tuag atom.

    Dyma gyfarfod llywodraethwyr Ysgol Saouga, ar gyrion y

    Sahara yn Burkina Faso.

    CymdeithasAlzheimer’s

    Gan fod Alzheimer’s yn effeithio argymaint o’n haelodau a’n teuluoedd,penderfynodd Ebeneser, Caerdydd,fabwysiadu Elusen Alzheimer’s DeCymru fel ein helusen am 2016. Trwynifer o weithgareddau amrywiol ganystod eang o’r aelodau llwyddwyd i godi£6,500.

    Cyflwynwyd siec gan Melfyn Hopkins igynrychiolwyr yr elusen sef Claire aCheryl yn y cwrdd plant ym mis Ebrill.Gweddïwn y bydd yr arian yn gymorth iymchwilio i’r cyflwr ac yn fodd igynorthwyo teuluoedd sy’n ymdopi âsefyllfaoedd anodd. Diolch i bawb am euhaelioni cyson. Ymlaen yn awr i godiarian ar gyfer ein helusen am 2017 sef YNeuro Foundation.

  • sefydlwyd 1867 Cyfrol 150 Rhif 20 Mai 18, 2017 50c.

    Y TYsTPaPur wythnosol yr annibynwyr Cymraeg

    Dathlu’r Atgyfodiad

    Cafwyd oedfa yn llawn gobaith allawenydd yr atgyfodiad, ar fore Sul y Pasgyn Hope-Siloh. Roedd y rhannau arweiniolyng ngofal rhai o ieuenctid yr eglwys.Tywyswyd y gynulleidfa i fryn Calfaria a’rbedd gwag ar ffurf bwletin newyddion, oorsaf radio Jerwsalem yn diweddu gyda’rdatganiad ‘’Na! Nid marw fy Arglwyddâ’m Duw Cyfododd yr Iesu mae eto’nfyw!’’ Yn dilyn yr oedfa, cyflwynwydwyau Pasg i’r plant a’r ieuenctid.

    Ymweliad ag Ysgol Bryniago

    Daeth Marie Lynne a Derek o Glwb Plantac Ieuenctid Hope - Siloh i ymweld â ni ynystod ein gwasanaeth boreol yn YsgolBryniago, cyn gwyliau’r Pasg. Maent yndod atom yn aml a ni bob amser yn falchi’w gweld. Cyflwynodd Derek hanes yPasg i ni. Roedd ganddo sypreis i’r plantoedd yn ateb yn gywir, sef darn o wy Pasgblasus iawn! Roedd pawb wrth eu boddau!Hefyd roedd sypreis arall gan MarieLynne! Cyflwynodd gomic newydd y Pasgo’r enw “Arwyr Ancora“ i bob un oddisgyblion Blynyddoedd 4, 5 a 6.Edrychwn ymlaen at gael cwmni Derek aMarie Lynne yn fuan eto!

    Heledd Francis

    Cymorth CristnogolYn ystod yr wythnos hon (14-20 Mai)cynhelir Wythnos Cymorth Cristnogol acfe fydd gwirfoddolwyr ar draws Cymru yncynnal gweithgareddau i godi arian.Rhoddir sylw arbennig yn ystod yrWythnos eleni i angen ffoaduriaid. Niallwn fel Cristnogion gau ein llygaid a’nclustiau i’r gri am gymorth. Gwyddom ybydd y tristwch yn parhau heb heddwch achyfiawnder yn y tymor hir. Daw’r angenyn fyw iawn pan ddarllenwn hanes unteulu penodol.

    Stori Nejebar

    “Ffodd Nejebar Affganistan gyda’i theuluar ôl i’r Taliban fygwth lladd ei gŵr, Noor,a oedd yn athro. Nid bygythiad gwag oeddo – fe lofruddiodd y Taliban aelod arall o’rteulu i gychwyn. ‘Y dyddiau a’r wythnosauolaf yn Affganistan oedd y rhai mwyafanodd,’ meddai Noor. ‘Pan oeddwn ynmynd i’m gwaith, roedd fy nghalon yncuro’n galed. Doeddwn i ddim yn gwyboda fyddai fy nheulu yn dal yn fyw wedi imiddod adref.’

    Mae teulu Nejebar yn sownd yng

    Ngwlad Groeg. Pan gyrhaeddodd y teuluwersyll ffoaduriaid yno, roeddent yn credumai ond am 10 diwrnod y byddai rhaididdynt aros. Ond maent wedi bod yno amchwe mis bellach a dim arwydd eu bod amgael symud.

    Yr unig loches sydd ganddynt yn erbyny gwynt a’r glaw ydy eu pabell. Does dimysgol i’r plant. Mae eu plentyn ieuengaf,Sudai, sy’n bump, yn sâl, ond ni ŵyrNejebar a Noor beth sydd o’i le gydag efgan nad ydynt yn deall iaith meddyg ygwersyll, sy’n Roegwr.

    Gobaith Nejebar

    Nejebar yw’r graig sydd ynghanol bywyd yteulu, yn eu dal gyda’i gilydd ynghanol yrholl ansicrwydd. Mae hyd yn oed wedicroesawu Faraidoon a Farzad i’r teulu, daufrawd na wyddant ble mae eu rhieni, nahyd yn oed os ydynt yn fyw ai peidio.‘Mae gennym beth gobaith am ddyfodolein plant,’ meddai Nejebar. ‘Dim ond amgael bywyd heddychlon ydan ni. Rydan niam i’r plant gael mynd i’r ysgol. Y pethpwysicaf i ni yw’r plant.’”

    Cofiwch fod myrdd o syniadau amoedfaon ac am weithgareddau i godi arianar gael ar www.christianaid.org.uk/cymru

  • tudalen 2 Y Pedair Tudalen Gydenwadol Mai 18, 2017Y TYsT

    Diwrnod i’rGweinidogion

    Cyfundebau ac Eglwysi’r De

    Bethania, Tymbl Uchaf, ar

    ddydd Mawrth, 23 Mai

    2017. Byddwn yn cychwyn

    am 10.30am gyda choffi.

    Daw y Parchg Ddr John

    Morgans a’r Parchg Peter

    Noble atom i sôn am eu llyfr,

    Our Holy Ground, a bydd y

    Parchg Wayne Hawkins,

    Ysgrifennydd Cenhadaol

    CWM Ewrop, gyda ni i’n

    hysbrydoli yn ein cenhadaeth

    unwaith eto.

    Os am ginio, cysylltwch â

    Nerys Humphries yn Nhŷ

    John Penri cyn dydd hanner

    dydd, dydd Gwener, 19 Mai.

    Diwrnod i’rGweinidogion

    y Gogledd

    Festri Capel Coffa,Cyffordd Llandudno

    LL31 9HD

    Dydd Iau, 25 Mai2017

    10.30am – 3.30pm

    ‘Gwneud heb...’peryglon hepgor hanfodion

    yn y weinidogaethY Parchedig John Pritchard

    ‘Pa mor bwysig ywProtestaniaeth heddiw?’ Y Parchedig Rhodri Glyn

    Darperir cinio am ddim

    Edrychwn ymlaen atgroesawu’r

    gweinidogion i GyfforddLlandudno

    Cyfarfod Chwarter Cyfundeb ArfonYn dilyn gweddiagoriadol a gair o groesogan y Llywydd y ParchgJohn Pritchard,arweiniwyd y defosiwngan aelodau EglwysSalem. Cydganwyd yremyn, “Ceisiwch yngyntaf deyrnas ein Duwa’i gyfiawnder ef,”gyda’r Parchg Mererid Mair yn cyfeilio.Darllenwyd o Ioan, Pennod 21 gan MrsEdwina Parry ac fe’n harweiniwyd mewngweddi gan Miss NerysJackson.

    Y Gynhadledd

    Derbyniwydymddiheuriadau gan, yParchg J. Ronald Williamsa Mrs Catherine Watcyn,[Capel Coffa, Y Gyffordd]. Derbyniwyd Cofnodion yPwyllgor Gwaith agynhaliwyd ymMethlehem, Tal y Bont ar y21ain Mawrth 2017 fel rhaicywir.

    Materion yn codi:

    Derbyniwyd mantolen yCyfundeb ar gyfer 2016 yn unfrydol adiolchwyd i’r Trysorydd, Mr NevilleHughes am ei pharatoi.

    Hanes Jerwsalem

    Bu i Miss Elizabeth Hughes, EglwysJerwsalem, Llanberis adrodd am hanes yrachos yno. Nodwyd i’r Cwrdd Chwarterymgynnull yn Jerwsalem ddiwethaf yngNgorffennaf 2007. Mae 8 aelod yn parhau iaddoli’n gyson mewn oedfaon prynhawnSul drwy’r flwyddyn. O’r wyth mae 3 tros80 oed, 3 arall yn tynnu at 80 a 2 tua 70oed. Mae 2 ddiacon yn yr Eglwys, 3 aelodar y Pwyllgor Adeiladau gyda’r merchedyn glanhau’r adeiladau’n rheolaidd. Daethcyfnod y Parchg Gwynfor Williams i benfel Gweinidog yr Eglwys yn 1993. Erbynhyn, ni chenir emynau yn y gwasanaethauond cyd-ddarllenir hwynt. Mrs Iola Evansyw’r Ysgrifennydd Gohebol a MissHughes yw’r Drysoryddes. Cesglir arian yngyson at wahanol elusennau. Gwariwydcryn dipyn i gymhennu’r adeiladau tros yblynyddoedd ac mae angen peth gwariantpellach i’r dyfodol.

    Cydymdeimlo

    Cydymdeimlwyd â theuluoedd: Mr JohnWilliams [Unedig Gymraeg Llandudno],Mrs Edith Powell, Mr Evie Owen a mamMr Eric Jones [Salem, Caernarfon] ynogystal â Mr Emlyn Williams, cynysgrifennydd Eglwys Gerizim,Llanfairfechan. Dymunwyd gwellhad buan

    i: Y Parchg Ron Williams, GwennoRoberts, Eric Jones a Dafydd Owen[Salem, Caernarfon], Laura Roberts, GwenWilliams a Gwynfor Roberts [UnedigLlandudno] a Dilys Williams [Bethlehem,Tal y Bont] Gweddïwyd dros y galarus a’rsâl gan y Parchg Olaf Davies

    Dosbarthu Arian

    Derbyniwyd, yn unfrydol, y rheolau argyfer rhannu arian i Eglwysi AnnibynnolCyfundeb Gogledd Arfon yn unol â’rddogfennaeth a rannwyd i bob Eglwys

    gyda’r gwahoddiad i’r CwrddChwarter. Derbyniwyd, ynogystal, ychwanegiad bychan oeglurhad pellach i gymal 3 o’rcynllun. Rhoddwyd yr hawl i’rPwyllgor Gwaith lunio FfurflenniCais am gymorth ariannol ganEglwysi. Yn ogystal, rhoddwydyr hawl i’r Pwyllgor Gwaithdrefnu’r rhoddion i’r dyfodol, yncynnwys newid y symiau osbydd angen heb ymgynghorigyda’r Cwrdd Chwarter. Bydd yPwyllgor Gwaith yn trefnucyngor gan arbenigwr er mwyntrafod sut i fuddsoddi’r cyllid afydd yn weddill wedigweithredu’r cynllun. Nodwyd

    NA ddisgwylir bellach i Eglwysi’rCyfundeb gyfrannu tuag at goffrau’rCyfundeb yn flynyddol.

    Arolwg

    Croesawyd y Parchg Ddr. Geraint Tudura’r Dr. Hefin Jones, Caerdydd i rannu‘Canlyniadau Arolwg y Cyfundebau’. Bui’r Dr Tudur rannu canlyniadau cyffredinolam gyfundebau Cymru gyfan tracanolbwyntiodd Dr Jones ar ganlyniadauCyfundeb Gogledd Arfon yn benodol.Rhennir copi papur o ganfyddiadauGogledd Arfon i bob Eglwys yn yCyfundeb gyda’r ohebiaeth arferol.Rhannwyd y gynulleidfa yn bedwar grŵper mwyn trafod pwyntiau cadarnhaol ygallai’r Cyfundeb roi sylw iddynt. Daeth ycyfarfod i ben trwy weddi gan y Llywydd.

    Diolch

    Diolchwyd i Swyddogion ac aelodau ynSalem, Caernarfon am y croeso hynodgynnes a’r lluniaeth a baratowyd, wedi’rcyfarfod gan Mr Godfrey Northam[Carmel, Llanllechid]. Cynhelir y CyfarfodChwarter nesaf: ar y 5ed o Orffennaf 2017yng Nghapel Coffa, Y Gyffordd, pryd ybydd y Parchg Aled Davies, Chwilog ynarwain ar ‘Byw’r Beibl’. Hefyd byddwn yntrafod ymhellach ganlyniadau ‘Arolwg yCyfundebau’.

    (Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar 26ainEbrill 2017 ac yr oedd 26 yn bresennol)

    Ifor Glyn – Ysgrifennydd y Cyfundeb

    Y Parchg John

    Pritchard

    Salem, Caernarfon

  • Mai 18, 2017 Y Pedair Tudalen Gydenwadol tudalen 7Y TYsT

    Barn AnnibynnolGeiriau

    Dwi yn blentyn y 60au degawd chwyldro,llofruddio Kennedy a Martin Luther King,codi Wal Berlin, cychwyn rhyfel Fietnam,cychwyn yr opera sebon Coronation St, ytrawsblaniad calon cyntaf, glaniodd dyn ary lleuad am y trocyntaf, cychwynnoddiaith codio cyfrifiadurBASIC ac yn 1962rhyddhawyd senglgyntaf y Beatles.Ymddiheuriadau, nidgwers hanes syddgen i ond WAW dynai chi ddegawd.Meddyliwch yr hollgyfathrebu o amgylch jest y digwyddiadauyna! Ystyriwch wedyn pa mor syml oedd ycyfathrebu yna a pha mor effeithiol oeddlledaenu newyddion am be oedd yndigwydd yn ein byd, wir?

    Rhy Hawdd?

    Ystyriwch 2017 mae cyfathrebu heddiwmor hawdd rhy hawdd efallai, o ystyriedyn ddiweddar be sy’n dod atom dros yrIwerydd o enau’r Arlywydd Trump.Cyfathrebu effeithiol dwi ddim mor siŵr ohynny chwaith? Gallwch Drydar, postioneges Gweplyfr, e-bostio, neges destun,Skype, codi ffôn a hyd yn oed sgwennullythyr. Yr wythnos hon mi fyddwn wedibod wrth fy modd pe bawn yn gallu siaradFfrangeg er mwyn i mi ddeall trydarafieithus @EmmanuelMacron, a rhwyddhynt iddo, ond ar ddiwedd y dydd maecyfathrebu effeithiol yn fwy na iaith.

    Effeithiol

    Sgwn i be fyddai Iesu yn ei neud o’rcyfathrebu ma’? Os osodwyd erioedbatrwm i gyfathrebu fe osodwyd un ganIesu ei hun, yn syml bwrpasol hynod oeffeithiol. Roedd yn adnabod ei bobl ac yndeall sut i gael ei neges drosodd i’r plentynlleiaf, y pysgotwr wrth ei waith,pechaduriaid , offeiriaid, pobl mewn ofn acroedd ei neges yn golygu rhywbeth iddyntac yn cyffwrdd a’u calon.

    Grym Geiriau

    Mae ddigon gwir fredwch chi ddim tynnugeiriau yn ôl, maen nhw fel plu yn y gwyntunwaith maent wedi eu gollwng, maennhw mor anodd eu dal. Mae geiriau yngallu cyfleu’r ffasiwn hapusrwydd, yn gallutorri newyddion drwg, yn gallu brifo gydachelwydd a dychan. Onid yw casgliad olythrennau wedi eu rhoi at ei gilydd morbwerus. Roedd Iesu bob amser yndefnyddio geiriau i’r pwrpas cywir.Ystyriwch y damhegion, storiâu oeddent igyfleu neges mewn ffordd ddealladwy.Beth feddyliwch o’r geiriau mae yn eidefnyddio i ddenu pobl ato, y pysgotwyr, yllywodraethwr ifanc cyfoethog a’r dyntrethi bach anghynnes?

    Hoff Ddamhegion

    Mae plant ysgol Sul Porthmadog yngwybod mae fy hoff stori am Iesu yw’r unamdano yn porthi’r pum mil neu fel da nisôn, Iesu yn cael picnic mawr gyda’iffrindiau. Ond yn ail agos mae storiSacheus. Mae gen i ryw deimlad cynnesam y dyn bach yma. Dwi wrth fy modd yndychmygu’r olwg ar ei wyneb pan oeddIesu yn galw arno o’i guddfan. “Sacheus,tyrd i lawr ar dy union; mae yn rhaid i miaros yn dy dŷ di heddiw.” Ond mi faswn nihefyd wedi hoffi gweld wynebauanghrediniol trigolion Jerico ! Roedd Iesuyn gyfathrebwr penigamp

    Ail-drydar

    Mae gen i syniad y byddaiIesu heddiw yn eitha’ hoffo drydar. Mi fyddai’n hoffidisgyblaeth trydar sy’ncyfyngu neges i 140 sill a dwi’neithaf siŵr y byddai yn defnyddio dipyn ary # i dynnu sylw at eiriau #cariad#maddeuant #dilynwchfi #gwaredwr #goddefgarwch... Gallwn ei weld yn hoffitrydar sawl un fel @AledRoberts2016@Llawgoch @alededwradscym@irfonwilliams @MindCymru@BarackObama @Nigelrefowens ella ynail drydar negeseon bachog@SteveChalke @rhysllwyd@TonyCampolo. Un peth dwi reit siŵrohono, fe fyddai yn ateb negeseuon.

    Geiriau Doeth

    Mae atebion Iesu yn cynnig bywydnewydd i ni heddiw, i bawb sy’n credu,“Hyfryd eiriau’r Iesu bywyd ynddynt syddDigon byth i’n harwain i dragwyddol ddydd….”

    Beth am i ni i gyd drio bod ynddisgybledig o gwmpas ein cyfathrebu?Trio gwneud yn siŵr fod ein geiriau’nannog ac yn codi pobl, yn dangos cariad agoddefgarwch beth bynnag yw’ramgylchiadau gan fod yn eirwir. Beth am ini drio defnyddio geiriau’n ddoeth ganymwrthod â brifo a bychanu eraill? Betham beidio byth a lledaenu stori anwir ameraill neu ymosod arnynt pan fo rhywun ynei fan isaf?

    Bydded ein hymadroddion yn ddiffuantac ystyrlon, yn barchus ac urddasol bobamser.

    Elen Vaughan(Nid yw cynnwys y Barn Annibynnol o

    reidrwydd yn adlewyrchu safbwynt Undeb yr

    Annibynwyr na’r tîm golygyddol.)

    Gibea, Brynaman

    Dathlu 175 Mlwyddiant

    Bydd Capel Annibynnol Gibea,Brynaman, yn dathlu pen blwyddarbennig ar 21ain Mai eleni. Estynnircroeso i chwi ymuno â ni yn y dathliad.Bydd te am dri o’r gloch yna, i ddilyn,bydd gwasanaeth dan arweiniad YParchg John Gwilym Jones.

    Mae rhai cwestiynau anghywir wedi eucynnwys yn Adran Ch, Cynllun y Ffordd,sef Canlyniadau’r Ffydd o’r Daflen ‘Bethmae Cristnogion yn ei gredu heddiw?’(Blwyddyn 1, Rhan 3). Ymddiheurwn ynfawr am y camgymeriad hwn.

    Dyma’r cwestiynau cywir.

    Sesiwn CH: Canlyniadau’r Ffydd

    1) Sut fyddech chi’n diffinio cariad?2) Rhannwch stori am gariad sydd wedi

    herio’ch ffydd chi?3) Ym mha ffyrdd mae eich eglwys chi yn

    eich helpu i roi eich ffydd ar waith?4) Pa werth sydd i fentrau fel ‘Bugeiliaid y

    Stryd?’Robin Samuel

    YSGoL HAF Y GWEINIDoGIoN

    Mehefin 26-28, 2017Canolfan Halliwell

    Coleg Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant

    Caerfyrddin

    Prif thema: Dathliadau 2017

    Cadeirydd: Jill Hailey-Harries

    Dydd Llun 26

    4.00 Cyrraedd, cofrestri, coffi

    5.00 Darlith a thrafodaeth: Densil Morgan

    – Martin Luther.

    6.30 Swper

    7.30 Darlith Goffa W.T.Pennar Davies ac

    R.Tudur Jones: Eryn White –

    Wiliams Pantycelyn

    9.00 Epilog

    Dydd Mawrth 27:

    8.00 Brecwast

    9.00 Defosiwn

    9.15 Astudiaeth Feiblaidd: R. Alun Evans

    10.30 Coffi

    11.00 Darlith a thrafodaeth: Alun Tudur –

    Y Diwygiad Radical

    12.30 Cinio

    1.30 Prynhawn rhydd: trip dan ofal Jill a

    Guto

    5.00 Coffi

    5.30 Cyfarfod Busnes

    6.30 Swper

    7.30 Atgofion: Howell Mudd

    9.00 Epilog

    Dydd Mercher 28:

    8.00 Brecwast

    9.00 Defosiwn

    9.15 Astudiaeth Feiblaidd: R. Alun Evans

    10.30 Coffi

    11.00 Darlith a thrafodaeth ar lyfrau:

    Alun Lenny – Llyfrau Dadlennol

    12.30 Cinio