Cyhoeddwyd gan Undeb yr Annibynwyr Cymraeg ac argraffwyd gan Wasg Morgannwg, 27 Ystad Ddiwyd. Mynachlog Nedd, Castell-nedd, SA10 7DR. Cofrestrwyd yn y Swyddfa Bost.
Erthyglau, llythyrau at y Prif Olygydd:
Y Parchg Ddr Alun Tudur
39 Dorchester Avenue, Pen-y-lan,
Caerdydd, CF23 9BS
Ffôn: 02920 490582
E-bost: [email protected]
Archebion a thaliadau i’r Llyfrfa:
Tŷ John Penri, 5 Axis Court, Parc
Busnes Glanyrafon, Bro Abertawe
ABERTAWE SA7 0AJ
Ffôn: 01792 795888
E-bost: [email protected]
tudalen 8 Y Pedair Tudalen Gydenwadol Mai 18, 2017Y TYsT
Golygydd
Y Parchg Iwan Llewelyn Jones
Fronheulog, 12 Tan-y-Foel,
Borth-y-gest, Porthmadog, Gwynedd,
LL49 9UE
Ffôn: 01766 513138
E-bost: [email protected]
Golygydd
Alun Lenny
Porth Angel, 26 Teras Picton
Caerfyrddin, Sir Gâr, SA31 3BX
Ffôn: 01267 232577 /
0781 751 9039
E-bost: [email protected]
Dalier Sylw!Cyhoeddir y Pedair Tudalen
Gydenwadol gan Bwyllgor Llywio’rPedair Tudalen ac nid gan Undeb yr
Annibynwyr Cymraeg. Nid oes awnelo Golygyddion Y Tyst ddim â
chynnwys y Pedair Tudalen.
Golygyddion
Dyma grynodeb o anerchiad Mrs Fioled
Jones o’r gadair Gyfundeb Ceredigion.
Cyflwynwyd yn y Cwrdd Chwarter a
gynhaliwyd yn y Tabernacl, Pencader, lle
mae Fioled yn aelod. Mae Fioled yn
weithgar iawn gyda ‘Coda Ni’, mudiad
Cristnogol yn ardal Pencader a
Llandysul, sy’n cydweithio gyda
Chymorth Cristnogol yn Burkina Faso.
Bu Fioled mewn gwledydd eraill yn
cynrychioli ei Harglwydd a’i chenedl.
Hadau Cariad
A ydych wedi ffeindio’ch hunan mewnsefyllfa rywbryd a gofyn “pam?”, dyna ‘nunion effaith fy nheithiau i Lesotho aNicaragua ac yna Burkina Ffaso, GorllewinAffrica gyda Coda Ni. Gwreiddiau yngnghariad Iesu yw sylfaen ein magwraeth.Mae hadau tyfiant angen rhyddid iwreiddio er mwyn hau neges cariad allanyn ein cymunedau. A yw delwedd yrAnnibynwyr yn fewnblyg a thraddodiadol?Dysgodd Iesu ni i gymysgu gyda phawb.
Tyfodd y teimlad angerddol i ymweldo’m profiad gydag ymgyrchu CymorthCristnogol. Mae golau yn hanfodol i hadauwreiddio’n ddwfn. Fe ddaeth ycyfle i ymweld â Lesotho aradeg anodd ac isel yn fymywyd, ond dihunwyd ynof ycariad tuag at y rhai anghenusac fe ymatebais i’r alwad.Daeth pwrpas i fywyd. “Maeyn olau ond cael gweld dy
wyneb di “
Gwireddu’r Neges
Rhaid credu yn yr achos, caelffydd a gobaith yn y gallu iweithredu dros bobl. Mae Duwyn amyneddgar. Gras Duwyw’r nerth sy’n ein cario NI‘mlaen ar adeg anodd heb eihaeddu. Rôl y Cristion, fel
DYLANWAD PROFIADAU
aelod o gymdeithas eglwys a chymuned,yw gwireddu neges Iesu i ni fynd allan iganol pryderon pobl. Allwn ni ddim bwrwmlaen â phethau yn nerth ein hunain , prydhynny i ni‘n methu Mae angen i ni greuperthynas gonest â Duw, ei gymryd gyda nifel ffrind yn ein bywyd bob dydd, wrthofyn am faddeuant.
Codi Pont
Pryderwn am faint fy nghyfraniad. Cofiaisam bwrpas a her neges Iesu. Duw yn unigsy’n gwybod maint effaith ei gariad mae’nei ddangos trwom ni. Ar y groes, cododdIesu bont rhyngom ni a Duw, a thrwy ei rasa’i gariad, mae’n cynnig i ni groesi’r bont iweithredu. Mae angen i ni groesawu arhannu cariad Iesu gyda phawb sy’ngwneud daioni. Dysgais gan bobol Burkinataw braint yw bywyd a bod Iesu yn cynnigcyfle arbennig a’r her yma i gydnabod yrangen am ei arweiniad i weithredu. Rydymyn ei siomi Ef yn gyson, ond mae Duw yndeall yn ei gariad. Aelodau yw gwirgyfoeth yr Eglwys, a cheisiwn arweiniad igael ein dihuno ac i gydweithio. Mae lan ini i fod o ddifri dros Eglwys Crist .
Pŵer Cariad Duw
Dylanwadodd fy mhrofiadau yn ddwfnarna i, gwelais sut mae ‘hadau gobaith’Cymorth Cristnogol yn medru trawsffurfiotir a bywyd pobl gan eu codi i fywyd oobaith. Teimlais emosiwn dwfn yn nyfndery gobaith a’r llawenydd diniwed yn eullygaid. Yng nghanol erchylltra’r tlodi a’rgormes, mae ymateb y bobl wediychwanegu elfen arbennig i’m bywyd wrthi mi ddeall pa mor bwerus yw cariad Duwtrwy Iesu. D’oes dim rhaid mynd i Affrica ibrofi hynny! Trwy i ni ddarganfod Iesu, ymae ef yn ein galluogi i hau hadau’r cariadsbesial hwn allan o’n heglwysi. Wrth eumedi deuwn i ddeall anghenion pobl yn eincymdeithas sydd yn ei dro yn agorllwybrau i gyrraedd at Iesu ac adeiladu eiEglwys. Dyma her efengyl Iesu Grist athrwy’r cwbl i gyd mae ei freichiau’n dalar led tuag atom.
Dyma gyfarfod llywodraethwyr Ysgol Saouga, ar gyrion y
Sahara yn Burkina Faso.
CymdeithasAlzheimer’s
Gan fod Alzheimer’s yn effeithio argymaint o’n haelodau a’n teuluoedd,penderfynodd Ebeneser, Caerdydd,fabwysiadu Elusen Alzheimer’s DeCymru fel ein helusen am 2016. Trwynifer o weithgareddau amrywiol ganystod eang o’r aelodau llwyddwyd i godi£6,500.
Cyflwynwyd siec gan Melfyn Hopkins igynrychiolwyr yr elusen sef Claire aCheryl yn y cwrdd plant ym mis Ebrill.Gweddïwn y bydd yr arian yn gymorth iymchwilio i’r cyflwr ac yn fodd igynorthwyo teuluoedd sy’n ymdopi âsefyllfaoedd anodd. Diolch i bawb am euhaelioni cyson. Ymlaen yn awr i godiarian ar gyfer ein helusen am 2017 sef YNeuro Foundation.
sefydlwyd 1867 Cyfrol 150 Rhif 20 Mai 18, 2017 50c.
Y TYsTPaPur wythnosol yr annibynwyr Cymraeg
Dathlu’r Atgyfodiad
Cafwyd oedfa yn llawn gobaith allawenydd yr atgyfodiad, ar fore Sul y Pasgyn Hope-Siloh. Roedd y rhannau arweiniolyng ngofal rhai o ieuenctid yr eglwys.Tywyswyd y gynulleidfa i fryn Calfaria a’rbedd gwag ar ffurf bwletin newyddion, oorsaf radio Jerwsalem yn diweddu gyda’rdatganiad ‘’Na! Nid marw fy Arglwyddâ’m Duw Cyfododd yr Iesu mae eto’nfyw!’’ Yn dilyn yr oedfa, cyflwynwydwyau Pasg i’r plant a’r ieuenctid.
Ymweliad ag Ysgol Bryniago
Daeth Marie Lynne a Derek o Glwb Plantac Ieuenctid Hope - Siloh i ymweld â ni ynystod ein gwasanaeth boreol yn YsgolBryniago, cyn gwyliau’r Pasg. Maent yndod atom yn aml a ni bob amser yn falchi’w gweld. Cyflwynodd Derek hanes yPasg i ni. Roedd ganddo sypreis i’r plantoedd yn ateb yn gywir, sef darn o wy Pasgblasus iawn! Roedd pawb wrth eu boddau!Hefyd roedd sypreis arall gan MarieLynne! Cyflwynodd gomic newydd y Pasgo’r enw “Arwyr Ancora“ i bob un oddisgyblion Blynyddoedd 4, 5 a 6.Edrychwn ymlaen at gael cwmni Derek aMarie Lynne yn fuan eto!
Heledd Francis
Cymorth CristnogolYn ystod yr wythnos hon (14-20 Mai)cynhelir Wythnos Cymorth Cristnogol acfe fydd gwirfoddolwyr ar draws Cymru yncynnal gweithgareddau i godi arian.Rhoddir sylw arbennig yn ystod yrWythnos eleni i angen ffoaduriaid. Niallwn fel Cristnogion gau ein llygaid a’nclustiau i’r gri am gymorth. Gwyddom ybydd y tristwch yn parhau heb heddwch achyfiawnder yn y tymor hir. Daw’r angenyn fyw iawn pan ddarllenwn hanes unteulu penodol.
Stori Nejebar
“Ffodd Nejebar Affganistan gyda’i theuluar ôl i’r Taliban fygwth lladd ei gŵr, Noor,a oedd yn athro. Nid bygythiad gwag oeddo – fe lofruddiodd y Taliban aelod arall o’rteulu i gychwyn. ‘Y dyddiau a’r wythnosauolaf yn Affganistan oedd y rhai mwyafanodd,’ meddai Noor. ‘Pan oeddwn ynmynd i’m gwaith, roedd fy nghalon yncuro’n galed. Doeddwn i ddim yn gwyboda fyddai fy nheulu yn dal yn fyw wedi imiddod adref.’
Mae teulu Nejebar yn sownd yng
Ngwlad Groeg. Pan gyrhaeddodd y teuluwersyll ffoaduriaid yno, roeddent yn credumai ond am 10 diwrnod y byddai rhaididdynt aros. Ond maent wedi bod yno amchwe mis bellach a dim arwydd eu bod amgael symud.
Yr unig loches sydd ganddynt yn erbyny gwynt a’r glaw ydy eu pabell. Does dimysgol i’r plant. Mae eu plentyn ieuengaf,Sudai, sy’n bump, yn sâl, ond ni ŵyrNejebar a Noor beth sydd o’i le gydag efgan nad ydynt yn deall iaith meddyg ygwersyll, sy’n Roegwr.
Gobaith Nejebar
Nejebar yw’r graig sydd ynghanol bywyd yteulu, yn eu dal gyda’i gilydd ynghanol yrholl ansicrwydd. Mae hyd yn oed wedicroesawu Faraidoon a Farzad i’r teulu, daufrawd na wyddant ble mae eu rhieni, nahyd yn oed os ydynt yn fyw ai peidio.‘Mae gennym beth gobaith am ddyfodolein plant,’ meddai Nejebar. ‘Dim ond amgael bywyd heddychlon ydan ni. Rydan niam i’r plant gael mynd i’r ysgol. Y pethpwysicaf i ni yw’r plant.’”
Cofiwch fod myrdd o syniadau amoedfaon ac am weithgareddau i godi arianar gael ar www.christianaid.org.uk/cymru
tudalen 2 Y Pedair Tudalen Gydenwadol Mai 18, 2017Y TYsT
Diwrnod i’rGweinidogion
Cyfundebau ac Eglwysi’r De
Bethania, Tymbl Uchaf, ar
ddydd Mawrth, 23 Mai
2017. Byddwn yn cychwyn
am 10.30am gyda choffi.
Daw y Parchg Ddr John
Morgans a’r Parchg Peter
Noble atom i sôn am eu llyfr,
Our Holy Ground, a bydd y
Parchg Wayne Hawkins,
Ysgrifennydd Cenhadaol
CWM Ewrop, gyda ni i’n
hysbrydoli yn ein cenhadaeth
unwaith eto.
Os am ginio, cysylltwch â
Nerys Humphries yn Nhŷ
John Penri cyn dydd hanner
dydd, dydd Gwener, 19 Mai.
Diwrnod i’rGweinidogion
y Gogledd
Festri Capel Coffa,Cyffordd Llandudno
LL31 9HD
Dydd Iau, 25 Mai2017
10.30am – 3.30pm
‘Gwneud heb...’peryglon hepgor hanfodion
yn y weinidogaethY Parchedig John Pritchard
‘Pa mor bwysig ywProtestaniaeth heddiw?’ Y Parchedig Rhodri Glyn
Darperir cinio am ddim
Edrychwn ymlaen atgroesawu’r
gweinidogion i GyfforddLlandudno
Cyfarfod Chwarter Cyfundeb ArfonYn dilyn gweddiagoriadol a gair o groesogan y Llywydd y ParchgJohn Pritchard,arweiniwyd y defosiwngan aelodau EglwysSalem. Cydganwyd yremyn, “Ceisiwch yngyntaf deyrnas ein Duwa’i gyfiawnder ef,”gyda’r Parchg Mererid Mair yn cyfeilio.Darllenwyd o Ioan, Pennod 21 gan MrsEdwina Parry ac fe’n harweiniwyd mewngweddi gan Miss NerysJackson.
Y Gynhadledd
Derbyniwydymddiheuriadau gan, yParchg J. Ronald Williamsa Mrs Catherine Watcyn,[Capel Coffa, Y Gyffordd]. Derbyniwyd Cofnodion yPwyllgor Gwaith agynhaliwyd ymMethlehem, Tal y Bont ar y21ain Mawrth 2017 fel rhaicywir.
Materion yn codi:
Derbyniwyd mantolen yCyfundeb ar gyfer 2016 yn unfrydol adiolchwyd i’r Trysorydd, Mr NevilleHughes am ei pharatoi.
Hanes Jerwsalem
Bu i Miss Elizabeth Hughes, EglwysJerwsalem, Llanberis adrodd am hanes yrachos yno. Nodwyd i’r Cwrdd Chwarterymgynnull yn Jerwsalem ddiwethaf yngNgorffennaf 2007. Mae 8 aelod yn parhau iaddoli’n gyson mewn oedfaon prynhawnSul drwy’r flwyddyn. O’r wyth mae 3 tros80 oed, 3 arall yn tynnu at 80 a 2 tua 70oed. Mae 2 ddiacon yn yr Eglwys, 3 aelodar y Pwyllgor Adeiladau gyda’r merchedyn glanhau’r adeiladau’n rheolaidd. Daethcyfnod y Parchg Gwynfor Williams i benfel Gweinidog yr Eglwys yn 1993. Erbynhyn, ni chenir emynau yn y gwasanaethauond cyd-ddarllenir hwynt. Mrs Iola Evansyw’r Ysgrifennydd Gohebol a MissHughes yw’r Drysoryddes. Cesglir arian yngyson at wahanol elusennau. Gwariwydcryn dipyn i gymhennu’r adeiladau tros yblynyddoedd ac mae angen peth gwariantpellach i’r dyfodol.
Cydymdeimlo
Cydymdeimlwyd â theuluoedd: Mr JohnWilliams [Unedig Gymraeg Llandudno],Mrs Edith Powell, Mr Evie Owen a mamMr Eric Jones [Salem, Caernarfon] ynogystal â Mr Emlyn Williams, cynysgrifennydd Eglwys Gerizim,Llanfairfechan. Dymunwyd gwellhad buan
i: Y Parchg Ron Williams, GwennoRoberts, Eric Jones a Dafydd Owen[Salem, Caernarfon], Laura Roberts, GwenWilliams a Gwynfor Roberts [UnedigLlandudno] a Dilys Williams [Bethlehem,Tal y Bont] Gweddïwyd dros y galarus a’rsâl gan y Parchg Olaf Davies
Dosbarthu Arian
Derbyniwyd, yn unfrydol, y rheolau argyfer rhannu arian i Eglwysi AnnibynnolCyfundeb Gogledd Arfon yn unol â’rddogfennaeth a rannwyd i bob Eglwys
gyda’r gwahoddiad i’r CwrddChwarter. Derbyniwyd, ynogystal, ychwanegiad bychan oeglurhad pellach i gymal 3 o’rcynllun. Rhoddwyd yr hawl i’rPwyllgor Gwaith lunio FfurflenniCais am gymorth ariannol ganEglwysi. Yn ogystal, rhoddwydyr hawl i’r Pwyllgor Gwaithdrefnu’r rhoddion i’r dyfodol, yncynnwys newid y symiau osbydd angen heb ymgynghorigyda’r Cwrdd Chwarter. Bydd yPwyllgor Gwaith yn trefnucyngor gan arbenigwr er mwyntrafod sut i fuddsoddi’r cyllid afydd yn weddill wedigweithredu’r cynllun. Nodwyd
NA ddisgwylir bellach i Eglwysi’rCyfundeb gyfrannu tuag at goffrau’rCyfundeb yn flynyddol.
Arolwg
Croesawyd y Parchg Ddr. Geraint Tudura’r Dr. Hefin Jones, Caerdydd i rannu‘Canlyniadau Arolwg y Cyfundebau’. Bui’r Dr Tudur rannu canlyniadau cyffredinolam gyfundebau Cymru gyfan tracanolbwyntiodd Dr Jones ar ganlyniadauCyfundeb Gogledd Arfon yn benodol.Rhennir copi papur o ganfyddiadauGogledd Arfon i bob Eglwys yn yCyfundeb gyda’r ohebiaeth arferol.Rhannwyd y gynulleidfa yn bedwar grŵper mwyn trafod pwyntiau cadarnhaol ygallai’r Cyfundeb roi sylw iddynt. Daeth ycyfarfod i ben trwy weddi gan y Llywydd.
Diolch
Diolchwyd i Swyddogion ac aelodau ynSalem, Caernarfon am y croeso hynodgynnes a’r lluniaeth a baratowyd, wedi’rcyfarfod gan Mr Godfrey Northam[Carmel, Llanllechid]. Cynhelir y CyfarfodChwarter nesaf: ar y 5ed o Orffennaf 2017yng Nghapel Coffa, Y Gyffordd, pryd ybydd y Parchg Aled Davies, Chwilog ynarwain ar ‘Byw’r Beibl’. Hefyd byddwn yntrafod ymhellach ganlyniadau ‘Arolwg yCyfundebau’.
(Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar 26ainEbrill 2017 ac yr oedd 26 yn bresennol)
Ifor Glyn – Ysgrifennydd y Cyfundeb
Y Parchg John
Pritchard
Salem, Caernarfon
Mai 18, 2017 Y Pedair Tudalen Gydenwadol tudalen 7Y TYsT
Barn AnnibynnolGeiriau
Dwi yn blentyn y 60au degawd chwyldro,llofruddio Kennedy a Martin Luther King,codi Wal Berlin, cychwyn rhyfel Fietnam,cychwyn yr opera sebon Coronation St, ytrawsblaniad calon cyntaf, glaniodd dyn ary lleuad am y trocyntaf, cychwynnoddiaith codio cyfrifiadurBASIC ac yn 1962rhyddhawyd senglgyntaf y Beatles.Ymddiheuriadau, nidgwers hanes syddgen i ond WAW dynai chi ddegawd.Meddyliwch yr hollgyfathrebu o amgylch jest y digwyddiadauyna! Ystyriwch wedyn pa mor syml oedd ycyfathrebu yna a pha mor effeithiol oeddlledaenu newyddion am be oedd yndigwydd yn ein byd, wir?
Rhy Hawdd?
Ystyriwch 2017 mae cyfathrebu heddiwmor hawdd rhy hawdd efallai, o ystyriedyn ddiweddar be sy’n dod atom dros yrIwerydd o enau’r Arlywydd Trump.Cyfathrebu effeithiol dwi ddim mor siŵr ohynny chwaith? Gallwch Drydar, postioneges Gweplyfr, e-bostio, neges destun,Skype, codi ffôn a hyd yn oed sgwennullythyr. Yr wythnos hon mi fyddwn wedibod wrth fy modd pe bawn yn gallu siaradFfrangeg er mwyn i mi ddeall trydarafieithus @EmmanuelMacron, a rhwyddhynt iddo, ond ar ddiwedd y dydd maecyfathrebu effeithiol yn fwy na iaith.
Effeithiol
Sgwn i be fyddai Iesu yn ei neud o’rcyfathrebu ma’? Os osodwyd erioedbatrwm i gyfathrebu fe osodwyd un ganIesu ei hun, yn syml bwrpasol hynod oeffeithiol. Roedd yn adnabod ei bobl ac yndeall sut i gael ei neges drosodd i’r plentynlleiaf, y pysgotwr wrth ei waith,pechaduriaid , offeiriaid, pobl mewn ofn acroedd ei neges yn golygu rhywbeth iddyntac yn cyffwrdd a’u calon.
Grym Geiriau
Mae ddigon gwir fredwch chi ddim tynnugeiriau yn ôl, maen nhw fel plu yn y gwyntunwaith maent wedi eu gollwng, maennhw mor anodd eu dal. Mae geiriau yngallu cyfleu’r ffasiwn hapusrwydd, yn gallutorri newyddion drwg, yn gallu brifo gydachelwydd a dychan. Onid yw casgliad olythrennau wedi eu rhoi at ei gilydd morbwerus. Roedd Iesu bob amser yndefnyddio geiriau i’r pwrpas cywir.Ystyriwch y damhegion, storiâu oeddent igyfleu neges mewn ffordd ddealladwy.Beth feddyliwch o’r geiriau mae yn eidefnyddio i ddenu pobl ato, y pysgotwyr, yllywodraethwr ifanc cyfoethog a’r dyntrethi bach anghynnes?
Hoff Ddamhegion
Mae plant ysgol Sul Porthmadog yngwybod mae fy hoff stori am Iesu yw’r unamdano yn porthi’r pum mil neu fel da nisôn, Iesu yn cael picnic mawr gyda’iffrindiau. Ond yn ail agos mae storiSacheus. Mae gen i ryw deimlad cynnesam y dyn bach yma. Dwi wrth fy modd yndychmygu’r olwg ar ei wyneb pan oeddIesu yn galw arno o’i guddfan. “Sacheus,tyrd i lawr ar dy union; mae yn rhaid i miaros yn dy dŷ di heddiw.” Ond mi faswn nihefyd wedi hoffi gweld wynebauanghrediniol trigolion Jerico ! Roedd Iesuyn gyfathrebwr penigamp
Ail-drydar
Mae gen i syniad y byddaiIesu heddiw yn eitha’ hoffo drydar. Mi fyddai’n hoffidisgyblaeth trydar sy’ncyfyngu neges i 140 sill a dwi’neithaf siŵr y byddai yn defnyddio dipyn ary # i dynnu sylw at eiriau #cariad#maddeuant #dilynwchfi #gwaredwr #goddefgarwch... Gallwn ei weld yn hoffitrydar sawl un fel @AledRoberts2016@Llawgoch @alededwradscym@irfonwilliams @MindCymru@BarackObama @Nigelrefowens ella ynail drydar negeseon bachog@SteveChalke @rhysllwyd@TonyCampolo. Un peth dwi reit siŵrohono, fe fyddai yn ateb negeseuon.
Geiriau Doeth
Mae atebion Iesu yn cynnig bywydnewydd i ni heddiw, i bawb sy’n credu,“Hyfryd eiriau’r Iesu bywyd ynddynt syddDigon byth i’n harwain i dragwyddol ddydd….”
Beth am i ni i gyd drio bod ynddisgybledig o gwmpas ein cyfathrebu?Trio gwneud yn siŵr fod ein geiriau’nannog ac yn codi pobl, yn dangos cariad agoddefgarwch beth bynnag yw’ramgylchiadau gan fod yn eirwir. Beth am ini drio defnyddio geiriau’n ddoeth ganymwrthod â brifo a bychanu eraill? Betham beidio byth a lledaenu stori anwir ameraill neu ymosod arnynt pan fo rhywun ynei fan isaf?
Bydded ein hymadroddion yn ddiffuantac ystyrlon, yn barchus ac urddasol bobamser.
Elen Vaughan(Nid yw cynnwys y Barn Annibynnol o
reidrwydd yn adlewyrchu safbwynt Undeb yr
Annibynwyr na’r tîm golygyddol.)
Gibea, Brynaman
Dathlu 175 Mlwyddiant
Bydd Capel Annibynnol Gibea,Brynaman, yn dathlu pen blwyddarbennig ar 21ain Mai eleni. Estynnircroeso i chwi ymuno â ni yn y dathliad.Bydd te am dri o’r gloch yna, i ddilyn,bydd gwasanaeth dan arweiniad YParchg John Gwilym Jones.
Mae rhai cwestiynau anghywir wedi eucynnwys yn Adran Ch, Cynllun y Ffordd,sef Canlyniadau’r Ffydd o’r Daflen ‘Bethmae Cristnogion yn ei gredu heddiw?’(Blwyddyn 1, Rhan 3). Ymddiheurwn ynfawr am y camgymeriad hwn.
Dyma’r cwestiynau cywir.
Sesiwn CH: Canlyniadau’r Ffydd
1) Sut fyddech chi’n diffinio cariad?2) Rhannwch stori am gariad sydd wedi
herio’ch ffydd chi?3) Ym mha ffyrdd mae eich eglwys chi yn
eich helpu i roi eich ffydd ar waith?4) Pa werth sydd i fentrau fel ‘Bugeiliaid y
Stryd?’Robin Samuel
YSGoL HAF Y GWEINIDoGIoN
Mehefin 26-28, 2017Canolfan Halliwell
Coleg Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant
Caerfyrddin
Prif thema: Dathliadau 2017
Cadeirydd: Jill Hailey-Harries
Dydd Llun 26
4.00 Cyrraedd, cofrestri, coffi
5.00 Darlith a thrafodaeth: Densil Morgan
– Martin Luther.
6.30 Swper
7.30 Darlith Goffa W.T.Pennar Davies ac
R.Tudur Jones: Eryn White –
Wiliams Pantycelyn
9.00 Epilog
Dydd Mawrth 27:
8.00 Brecwast
9.00 Defosiwn
9.15 Astudiaeth Feiblaidd: R. Alun Evans
10.30 Coffi
11.00 Darlith a thrafodaeth: Alun Tudur –
Y Diwygiad Radical
12.30 Cinio
1.30 Prynhawn rhydd: trip dan ofal Jill a
Guto
5.00 Coffi
5.30 Cyfarfod Busnes
6.30 Swper
7.30 Atgofion: Howell Mudd
9.00 Epilog
Dydd Mercher 28:
8.00 Brecwast
9.00 Defosiwn
9.15 Astudiaeth Feiblaidd: R. Alun Evans
10.30 Coffi
11.00 Darlith a thrafodaeth ar lyfrau:
Alun Lenny – Llyfrau Dadlennol
12.30 Cinio