7
TUDALEN 1 M ae gan Gymru y rhwydwaith ddyrys fwyaf rhyfeddol o lwybrau cyhoeddus sy’n cynnig y ffordd orau o ddod i adnabod y wlad. Mae’r rhwydwaith hon yn cynnig cyfleoedd am boddhad mawr, iechyd da, cyfle i ymlacio ac i gael hwyl i bawb ar garreg y drws. Yn ogystal â’r manteision cymdeithasol a chymunedol hyn mae mantais fawr i fusnes oherwydd rhwydwaith y llwybrau yw asgwrn cefn y £548 miliwn a gynhyrchir gan gerddwyr i Gymru bob blwyddyn. Gwireddu’r holl fanteision hyn yw’r rheswm am lansio’r her Defnyddia dy Llwybrau. Mae’r her Defnyddia dy Llwybrau yn cynnig ffordd i’r 33,211km (20,756 o filltiroedd) o lwybrau Cymru gyfan gael eu cerdded dros y flwyddyn i ddod. Gall unrhyw un gymryd rhan drwy ddewis sgwâr 1km o’r map ar wefan y Cerddwyr, cerdded y llwybrau yn y sgwâr hwnnw, dweud wrth yr awdurdod lleol am unrhyw broblemau ynglˆyn â’r llwybrau, ac yna rhoi’r sgwâr ar wefan ryngweithiol i droi’r sgwâr yn wyrdd. Neu gallwch wneud hyn i gyd drwy gysylltu â’r Cerddwyr ar y ffôn, drwy’r post ac ati. Mae’r sgwariau yn ddigon bach (dim ond 1km sgwâr) i bobl gerdded ei lwybrau mewn llai na diwrnod. Bydd angen i bobl fenthyg map, gwisgo eu hesgidiau cerdded a mynd ar hyd y llwybrau gan nodi unrhyw beth sydd angen ei drin. Gall Cerddwyr lleol roi gwybodaeth a chefnogaeth. Yn y pen draw bwriadwn i’r holl lwybrau yng Nghymru gael eu harchwilio, h.y. yr holl ddotiau a llinellau toriad gwyrdd ar y mapiau Explorer AO (1:25000) neu’r dotiau a’r llinellau toriad pinc ar y map 1:50000. Mae’r her yn estyn i holl hawliau tramwy cyhoeddus gael eu cerdded gan gynnwys yr holl lwybrau cyhoeddus, llwybrau march, ffyrdd a ddefnyddir fel llwybrau cyhoeddus, isffyrdd wedi eu cyfyngu, isffyrdd yn agored i bob traffig a llwybrau eraill gyda mynediad cyhoeddus. Os bydd cerddwyr yn dod o hyd i broblemau ychwanegol i ddefnyddwyr fel merlotwyr ar y llwybrau march mae’n gwneud synnwyr i roi gwybod i’r awdurdod lleol am y rhain hefyd. Mae gadael wybod i’r awrdurdod lleol unrhyw broblemau a ganfyddir ar y llwybrau (a cyswllt lleol Y Cerddwyr) neu i roi canmoliaeth iddynt yn rhan bwysig o’r dasg. Rydym eisoes yn gwybod fod llawer o broblemau ar lwybrau Cymru oherwydd dim ond 40% ohonynt sy’n hawdd i’w defnyddio (cyfeirier at y dangosyddion perfformiad a gynhyrchwyd gan Uned Data Llywodraeth Leol Cymru). Dymunwn ddangos fod y llwybrau yn cael eu cerdded a rhoi gwybod i’r awdurdod lleol am broblemau ar y llwybr ac am lwybrau da hefyd. Mae’r her yn canolbwyntio ar lwybrau sydd wedi eu cofnodi’n swyddogol ar y map diffiniol. Os nad yw’r llwybrau wedi eu cofnodi ond eu bod yn ymddangos ar y llawr mae’r rhain yn cael eu galw yn ffyrdd coll (cysylltwch â’r Cerddwyr am wybodaeth bellach). Mae hon yn her enfawr, a gobeithio y bydd pobl yn ei mwynhau ac yn ei defnyddio i adnabod eu llwybrau yn well. Defnyddia dy Lwybrau – ymateb i’r her Lansio ‘Defnyddia dy Lwybrau’ yn y Sioe Frenhinol. O’r chwith i’r dde Ron Williams, Cadeirydd Y Cerddwyr Cymru, Carwyn Jones AC, Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad, Roger Thomas, Prif Weithredwr CCGC, a Beverley Penney, Cyfarwyddydd Cymru. Yn y rhifyn yma: Cerdded yr arfordir – y cynlluniau’n datblygu Cystadleuaeth ffotograffig mewn cysylltiad gyda: www.defnyddiadylwybrau.info YR ELUSEN SY’N GWEITHIO AR RAN CERDDWYR RHIFYN 65 Y Arfyd Parry Jones

Welsh Rambler 65 - Cymraeg

Embed Size (px)

DESCRIPTION

The Newsletter of the Ramblers Society in Wales. Printed "work and turn" English and Welsh

Citation preview

Page 1: Welsh Rambler 65 - Cymraeg

TUDALEN 1

Mae gan Gymru y rhwydwaith ddyrys fwyafrhyfeddol o lwybrau cyhoeddus sy’n cynnig

y ffordd orau o ddod i adnabod y wlad. Mae’rrhwydwaith hon yn cynnig cyfleoedd am boddhadmawr, iechyd da, cyfle i ymlacio ac i gael hwyl ibawb ar garreg y drws. Yn ogystal â’r manteisioncymdeithasol a chymunedol hyn mae mantais fawri fusnes oherwydd rhwydwaith y llwybrau ywasgwrn cefn y £548 miliwn a gynhyrchir gangerddwyr i Gymru bob blwyddyn. Gwireddu’r hollfanteision hyn yw’r rheswm am lansio’r herDefnyddia dy Llwybrau.

Mae’r her Defnyddia dy Llwybrau yn cynnigffordd i’r 33,211km (20,756 o filltiroedd) o lwybrauCymru gyfan gael eu cerdded dros y flwyddyn iddod. Gall unrhyw un gymryd rhan drwy ddewissgwâr 1km o’r map ar wefan y Cerddwyr, cerdded yllwybrau yn y sgwâr hwnnw, dweud wrth yrawdurdod lleol am unrhyw broblemau ynglyn â’rllwybrau, ac yna rhoi’r sgwâr ar wefan ryngweithioli droi’r sgwâr yn wyrdd. Neu gallwch wneud hyn igyd drwy gysylltu â’r Cerddwyr ar y ffôn, drwy’rpost ac ati. Mae’r sgwariau yn ddigon bach (dimond 1km sgwâr) i bobl gerdded ei lwybrau mewnllai na diwrnod. Bydd angen i bobl fenthyg map,gwisgo eu hesgidiau cerdded a mynd ar hyd yllwybrau gan nodi unrhyw beth sydd angen ei drin.

Gall Cerddwyr lleol roi gwybodaeth a chefnogaeth.

Yn y pen draw bwriadwn i’r holl lwybrau yngNghymru gael eu harchwilio, h.y. yr holl ddotiau allinellau toriad gwyrdd ar y mapiau Explorer AO(1:25000) neu’r dotiau a’r llinellau toriad pinc ar ymap 1:50000. Mae’r her yn estyn i holl hawliautramwy cyhoeddus gael eu cerdded gan gynnwysyr holl lwybrau cyhoeddus, llwybrau march, ffyrdda ddefnyddir fel llwybrau cyhoeddus, isffyrdd wedieu cyfyngu, isffyrdd yn agored i bob traffig allwybrau eraill gyda mynediad cyhoeddus.

Os bydd cerddwyr yn dod o hyd i broblemauychwanegol i ddefnyddwyr fel merlotwyr ar yllwybrau march mae’n gwneud synnwyr i roigwybod i’r awdurdod lleol am y rhain hefyd. Maegadael wybod i’r awrdurdod lleol unrhywbroblemau a ganfyddir ar y llwybrau (a cyswllt lleolY Cerddwyr) neu i roi canmoliaeth iddynt yn rhanbwysig o’r dasg. Rydym eisoes yn gwybod fodllawer o broblemau ar lwybrau Cymru oherwydddim ond 40% ohonynt sy’n hawdd i’w defnyddio

(cyfeirier at y dangosyddion perfformiad agynhyrchwyd gan Uned Data Llywodraeth LeolCymru).

Dymunwn ddangos fod y llwybrau yn cael eucerdded a rhoi gwybod i’r awdurdod lleol ambroblemau ar y llwybr ac am lwybrau da hefyd.Mae’r her yn canolbwyntio ar lwybrau sydd wedi eucofnodi’n swyddogol ar y map diffiniol. Os nad yw’rllwybrau wedi eu cofnodi ond eu bod ynymddangos ar y llawr mae’r rhain yn cael eu galwyn ffyrdd coll (cysylltwch â’r Cerddwyr amwybodaeth bellach).

Mae hon yn her enfawr, a gobeithio y bydd poblyn ei mwynhau ac yn ei defnyddio i adnabod eullwybrau yn well.

Defnyddia dy Lwybrau– ymateb i’r her

Lansio ‘Defnyddia dy Lwybrau’ yn y Sioe Frenhinol. O’r chwith i’r dde Ron Williams, Cadeirydd YCerddwyr Cymru, Carwyn Jones AC, Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad, RogerThomas, Prif Weithredwr CCGC, a Beverley Penney, Cyfarwyddydd Cymru.

Yn y rhifyn yma:� Cerdded yr arfordir – y cynlluniau’n datblygu� Cystadleuaeth

ffotograffig mewncysylltiad gyda:www.defnyddiadylwybrau.info

YR ELUSEN SY’N GWEITHIO AR RAN CERDDWYR

RHIFYN 65

Y

Arfy

d Pa

rry

Jone

s

rambler_65_CYMRU 28/9/06 11:02 PM Page 1

Page 2: Welsh Rambler 65 - Cymraeg

TUDALEN 2

HYDREF 2006Y

Y ‘Prif Wirfoddolwr’,Malcolm WilkinsonMae Malcolm yn Is-Gadeirydd y CerddwyrCymru ac mae’n aelod diflino, arloesol,trwyadl ac annwyl iawn o Grwp DyffrynClwyd ac Ardal Gogledd Cymru a wnaed ynarwr lleol am ei waith gwirfoddol i’r Cerddwyr,Cymdeithas Trigolion Ffridd, GrwpGweithredu Traeth Ffridd a ChymdeithasAmgylchedd Prestatyn a’r Cylch. CyflwynoddChris Ruane AS rodd i Malcolm gan daluteyrnged iddo am ei waith eithriadol droslawer o achosion gwerth chweil. Trefnodd yr‘Experience Corp’ De Parti’r Arwyr acychwanegodd Malcolm at eu henwauanrhydeddus. Llongyfarchiadau Malcolm.

2006/7TACHWEDD5ed – CyfarfodCyffredinol Blynyddol(CCB) Ardal Gwent Fwyaf11ed – CCB Ardal Morgannwg13ed – CCB Ardal Sir Gaerfyrddin18ed – CCB Ardal Sir BenfroRHAGFYR26ain-1af Ion – Gwyl Gerdded y

GaeafIONAWR 200713ed – CCB Ardal Gogledd Cymru13ed – CCB Ardal PowysMAWRTH/EBRILL10ed-11ed – Cyngor yr Alban24ain-25ain – Cyngor Cymru, Y

Barri, Caerdydd31ed-1af Ebrill – Cyngor

Cyffredinol, Reading

Helo eto …Mae gennym lawer o newyddion i chi yn y rhifyn hwn.

Aeth y gwaith o lansio her Defnyddia dy Lwybrau yn Sioe Frenhinol Cymru â oeddyn herio pobl i gerdded y 33,211km, (20,756 o filltiroedd) o lwybrau Cymru gyfan drosy flwyddyn i ddod yn dda iawn gyda’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynllunio aChefn Gwlad, Carwyn Jones AC a Roger Thomas, Prif Weithredwr Cyngor Cefn GwladCymru yn hynod frwdfrydig a chefnogol.

Efallai eich bod wedi gweld y cyhoeddusrwydd sy’n ymwneud â lansio LlwybrArfordir Ynys Môn. Cyhoeddodd Prif Weinidog Cymru, Rhodri Morgan, AC y byddgennym lwybr o amgylch arfordir Cymru ond dywedodd nodiadau’r datganiad i’r wasgfod mynediad agored i’r arfordir yn fater na fyddai’n cael ei dderbyn oherwyddgwrthwynebiad gan ffermwyr. Fel y gwelwch ar dudalen 4, rydym wedi cael hynny wediei ddiwygio bellach felly mae mynediad agored yn dal yn ddewis. Mae y Cerddwyr ynanelu at fynediad fel yr addawyd yn adran 3 Deddf CGHT (CROW) h.y. mynediad ardroed i draethau a blaendraeth, clogwyni, morgloddiau ac aberoedd (a thir cyfagos) –yn unol â dymuniadau 94% o’r bobl a arolygwyd.

Daeth contract Richard Granville i ben ym mis Gorffennaf a chyn iddo fynd i ffwrddi’r Shetlands am ei wyliau, cawsom bryd o fwyd i ddymuno’n dda iddo. Eindymuniadau gorau i Richard.

Rydym yn falch fod pobl wedi mwynhau rhifyn diwethaf YCerddwr/Welsh Rambler – diolch i chi am yr adborth da ac adeiladol,rydym bob amser yn awyddus i weld a chyhoeddi eich llythyrau a’chnegeseuon ebost. Diolch i’r holl wirfoddolwyr sydd wedi helpu YCerddwyr mewn cymaint o ffyrdd dros yr haf.

Mwynhewch y cerdded!BeverleyCyfarwyddydd Cymru

Teyrngedau

Cyllid ar gyfergwell mynediadMae’r Cynulliad wedi dyrannu £350,000 iAwdurdodau’r Parciau Cenedlaethol i wellamynediad i bobl gydag anableddau. Darllenwch amy ddiwrnod gwych cafodd defnyddwyr cadeiriauolwyn o Gogledd Cymru yn Abergwyngregyn.

Cymdeithas y Cerddwyr, 3 Iard y Cowper,Ffordd Curran, CAERDYDD. CF10 5NB

Ffon: 029 2064 4308 • Ffacs: 029 2064 5187Ar y we: www.ramblers.org.uk

e bost: [email protected]

Mae Cymdeithas y Cerddwyr yn elusen gofrestredig (rhif1093577) ac yn gwmni a gyfyngir gan warant yng Nghymru a

Lloegr (rhif 4458492).Swyddfa gofrestredig: Camelford House, 87-89 Albert

Embankment, Llundain, SE1 7TW.

AELODAETHY ffigur aelodaeth yng Nghymru ar 31

Awst 2006 yw 7,008 sy’n gynnyddblynyddol o 0.5%.

Yn gyffredinol mae cyfanswm o 137,915 oaelodau ar draws Prydain.

Malcolm Wilkinson (ar y dde) a Chris Ruane AS

Beverley Penney

JOHN SANSOMRoedd John yn gerddwr gwych ac ef a greodd Llwybr yBannau, y llwybr pellter hir 90 milltir ar draws ParcCenedlaethol Bannau Brycheiniog. Roedd John yn un oaelodau sylfaenol Cymdeithas Parc Cenedlaethol BannauBrycheiniog ac yn gyfrannwr pwysig at ei Fforwm MynediadLleol. Roedd yn naturiaethwr, yn wybodus iawn ac roeddganddo gariad angerddol at hanes tirlun ac roedd ynysgrifennydd i’r rhai oedd yn codi waliau cerrig sych yn NeCymru. Bu farw yn y gwanwyn, a bydd llawer yn eu colli ynfawr iawn. Anfonwn ein cydymdeimlad at Ruth, ei wraig, unoedd yr un mor frwd dros yr un pethau.

LIZ JONESRoedd Liz yn gerddwraig eithriadol ac yn gefnogwr ac ynffrind mawr i Grwp Cwm Cynon a’r Cerddwyr yng Nghymruynghyd â’i gwr anwahanadwy Syd, yr anfonwn eincydymdeimlad ato yn dilyn ei marwolaeth drist.

ANDY HOLLANDAr nodyn trist cofiwn am Andy Holland a fu farw’ngynharach eleni. Roedd Andy yn aelod o bwyllgor GrwpCerddwyr Islwyn a daliodd nifer o swyddi o fewn y grwp ersiddo gael ei sefydlu.

Cyflwynodd Andy a’i wraig Liz, ystod eang o deithiaucerdded o fewn ein hardal i’r grwp a nifer mwy oeddymhellach i ffwrdd. Roedd yn gerddwr brwd a fyddai yn amlyn sôn wrthym am ei brofiadau a’i anturiaethau o’rgwahanol wledydd lle roedd wedi gwasanaethu gyda’rAwyrlu, rhai ohonynt yn frawychus a rhai yn hynod oddoniol. Cofir amdano’n annwyl gan bawb.

Rua

ne W

ilks

rambler_65_CYMRU 28/9/06 11:02 PM Page 2

Page 3: Welsh Rambler 65 - Cymraeg

GWEITHIO AR RHAN CERDDWYR

TUDALEN 3

Y

Ar 25 Mehefin 2006 yn ystod yr wythnosDefnyddiwch eich Llwybrau cynhalioddCerddwyr Penarth dro arbennig i

ddangos llwybr i bawb y bu i Nina a DerekSmith ymrwymo pum mlynedd o’u bywyd i’wwarchod.

Roedd Grwp Penarth wedi bod yn arolygullwybrau ym 1995 a daethant o hyd i’r ddolengoll hon. Siaradodd Nina gyda phobl leol achanfu fod llawer yn cofio defnyddio’r llwybrfel plant ysgol – bu i nifer helpu yn yr ymgyrchdrwy ddarparu tystiolaeth ddefnyddwyr. Yndilyn hyn sicrhaodd gefnogaeth CyngorCymuned Gwenfo ym Mro Morgannwg.

Llwyddodd Nina, a’i gwr Derek i ddod ohyd i’r 190 metr coll o Gwenfo 23, ond dim

ond ar ôl gorfod casglu tystiolaeth defnyddwyra thystiolaeth map, gan apelio i’r SwyddfaGymreig pan na wnaeth yr Awdurdod Lleolfynd â hyn yn ei flaen, gan gyflwyno ynllwyddianus achos mewn ymchwiliad lleol. Ynanffodus bu Nina farw y llynedd ac roedd eiffrindiau oedd yn hoff o gerdded wrth eu boddo’i chofio wrth gerdded y llwybr roedd hi aDerek yn teimlo mor angerddol yn ei gylch.

Meddai Barbara Palmer, un arall ogerddwyr brwd Llwybr Penarth, “Llwyddoddymdrechion Nina i gael yr 190 metr coll hwno lwybr yn ôl ar y map i ailagor llwybr gwychdrwy’r coed oedd yn cynnig cyswllt pwysig ibobl Gwenfo a thu hwnt.”

Sioe FrenhinolCymruAlex Marshall WCEC (PGCC) is-gadeirydd

ROEDD GAN Y Cerddwyr Cymrustondin yn Sioe Frenhinol Cymrurhwng 24 a 27 Gorffennaf. Eleni bu i ni lwyddo irannu pabell fawr agored gyda mudiadauamgylcheddol tebyg eraill mewn lleoliad gwych –gobeithio y byddwn yn cael lle da y flwyddyn nesafhefyd.

Ar y dydd Mawrth buom yn lansio her Y Cerddwyr,‘Defnyddiwch eich Llwybrau’. Arwyddodd CarwynJones AC y Gweinidog dros Faterion Gwledig, CefnGwlad a Chynllunio i dderbyn cyfrifoldeb am sgwâr o’ietholaeth. Arwyddodd aelodau o’r Cyngor CefnGwlad, Aelodau’r Cynulliad, gweision sifil,cynghorwyr a’r cyhoedd hefyd. Datgelodd yGweinidog yn y lansiad ei fod yn diwygio polisiLlywodraeth Cynulliad Cymru ar Fynediad Arfordirol.Yn ei ddatganiad meddai , “Rhoddir ystyriaeth bellachi’r mater o hawl mynediad statudol i ardaloeddarfordirol”. Croesawodd Y Cerddwyr Cymru y newidclir hwn mewn polisi ers y datganiad a wnaed chwewythnos yn gynharach.

Hoffwn ddiolch i staff YCerddwyr Cymru asefydlodd ac a fu’n gyfrifolam gynnal y stondin ahefyd y gwirfoddolwyr aroddodd o’u hamser igynorthwyo.

Roedd gennymstondinau hefyd yn SioeDinbych a Fflint yngNgogledd Cymru a Sioe BroMorgannwg yn Ne Cymru.

Yr EisteddfodGenedlaethol,AbertaweMeic Rees (Grwp Llanelli)Wythnos fendigedig! Amseri gyfarfod hen ffrindiau agwneud rhai newydd, y tu

mewn a’r tu allan i’r stondin.Ar adegau roeddem yn ddigon prysur gyda

llawer o bobl yn awyddus i ymuno ac erailleisiau gwybod mwy am y sefydliad a’i deithiaucerdded. Yn sicr bu i lawer o bobl leisio eubarn ynglyn â’r llu o lwybrau sydd wedi eurhwystro o amgylch Cymru.

Cafodd yr Eisteddfod ei bendithio gandywydd braf, er nad oedd pawb yn hapusgyda’r cerrig mân, llychlyd oedd o dan draed.Ond doedd hynny ddim gwahaniaeth i’rcerddwyr, wrth gwrs gyda’u hesgidiau cryfion.

Rwyf wedi cyfarfod llawer o’r aelodaunewydd a ymunodd â ni ar y Maes, syddbellach yn rhan o’u grwpiau lleol, ac mae’raelodau eraill i gyd yn edrych arnynt yngenfigennus gyda’u pedometrau newydd aroddwyd iddyn nhw fel rhodd wrth gofrestru.

Roedd yn bleser bod yn rhan o dîm YCerddwyr yn yr Eisteddfod. Unwaith etoprofodd hyn i fod yn arferiad gwerth chweilac yn llwyfan gwych i’rmudiad.

Cerrig Camu / Stepping StonesNEWYDDIONHoffwn ddiolch i’r cerddwyr,

arweinyddion cerdded a’rtrefnwyr yn fawr iawn –byddai’r teithiau ddim yndigwydd heblaw am ychi.

Mae prosiect Cerrig Camu/Stepping Stones arhyn o bryd yn cael ei redeg mewn 19 o grwpiau ardraws 15 o awdurdodau unedol yng Nghymru. Uno’r targedau yr ydym yn benderfynol o’i gyrraeddyw cael teithiau CC/SS yn gweithredu ym mhobawdurdod unedol yng Nghymru. Os nad oes ganeich grwp raglen CC/SS, neu os hoffech sefydlurhaglen gyda hyfforddiant a chefnogaeth oddi wrthSwyddfa Cymru yna galwch Anwen ar 029 20644308. Yr awdurdodau coll yw Sir Fynwy,Casnewydd, Rhondda Cynon Taf, Caerffili, CastellNedd Port Talbot, Abertawe a Thorfaen.

>>> Dyma beth mae eich ffurflenni hawlio yn eiddweud wrthym

Am y cyfnod o 12 mis tan fis Mawrth 2006 roedd236 o deithiau cerdded gydag amcangyfrif o 3,338o gerddwyr a 603 o gerddwyr newydd.

Llwybr Nina

O GWMPAS GYDA’R CERDDWYR

Mwynhau llwybr Nina

CEFNOGI CERDDED >>>

>>> YSTADEGAU >>>

CYNGOR CYMRU 2007Cynhelir Cyngor Cymru nesaf rhwng 24-25 Mawrth 2007 yng NgwestyMount Sorrel yn y Barri ger Caerdydd. Ar ôl y digwyddiad llwyddiannusy llynedd ym Mangor rydym yn gobeithio y bydd mwy ohonoch yn galludod a chyfrannu at weithgareddau Cerddwyr Cymru.

Nick Parkerac AlexMarshall yngweithio’ngaled yn yrEisteddfod

Bu ymwelwyr yn cadw

gwirfoddolwyr Y Cerddwyr yn

brysur yn Sioe Frenhinol Cymru

rambler_65_CYMRU 28/9/06 11:03 PM Page 3

Page 4: Welsh Rambler 65 - Cymraeg

TUDALEN 4

HYDREF 2006Y

Ystori hwy yw wrth ymgyrchu dros y DdeddfCefn Gwlad a Hawliau Tramwy (CGHT)

(CROW) y bu i’r Cerddwyr ddadlau am fynediadarfordirol agored hefyd. Bu i ni sicrhau cymal 3yn y Ddeddf sy’n rhoi gallu i GynulliadCenedlaethol Cymru ddiwygio’r diffiniad o gefngwlad agored yn Neddf CGHT (CROW) i gynnwystir arfordirol. (Ddiffinnir fel y blaendraeth a thirger y blaendraeth – yn arbennig unrhyw glogwyn,barier, twyn, traeth neu fflat.) Mae’r Cerddwyrwedi bod yn ymgyrchu am hyn, ynghyd âdarpariaeth am gael mynediad ar hyd top yclogwyn a’r cyfan wedi ei osod o fewn darn llydano dir mynediad. Rydym hefyd yn chwilio amfesurau amaeth-amgylchedd i wella ansawddmynediad a’i werth o ran bioamrywiaeth. Credwny dylai Cymru anelu at y mynediad arfordirolgorau yn y byd, o leiaf cystal â’r trefniadauardderchog yn yr Alban, Gwledydd Llychlyn,Ffrainc, Denmarc a Phortiwgal.

Bu i’r Cerddwyr lobïo Llafur Cymru amaddewid ychwanegol ym maniffesto 2003 addywedai “Byddwn yn ymestyn mynediadagored ymhellach i ardaloedd arfordirol ...” Bui ni hefyd sicrhau ymrwymiad cryf yngnghynllun strategol y Cynulliad Cymru: GwladWell yn addo “ymestyn mynediad agoredymhellach i ardaloedd arfordirol ar ôl i’rmynediad i gefn gwlad dechreuol gael eisefydlu” gyda’r tebygrwydd y byddai’n cael eiweithredu o 2008/9 ymlaen.

Ym Medi 2005 dechreuodd Cyngor CefnGwlad Cymru (CCGC) (CCW) baratoidewisiadau ar gyfer y Cynulliad ynglyn â’r fforddymlaen. Roedd hyn yn ymwneud agymgynghori â Fforwm Mynediad CenedlaetholCymru ac gyda rhan-ddeiliaid a wahoddwydmewn tair ardal arfordirol enghreifftiol yngNghymru. Yn anffodus meddyliaugwirfoddolwyr y Cerddwyr fod hyn yncanolbwyntio ar lwybr arfordirol yn hytrach nagyn ystyried yn ddigonol mynediad arfordirol

agored. Roedd papur i fwrdd CCGC (CCW) ynChwefror 2006 yn cynnwys dau ddewis ynglynâ’r llwybr a bu i’r Cerddwyr fynd ati i wneud eugorau i gyflwyno achos dros drydydd dewis o ranmynediad agored. Cyfarfu’r Cerddwyr CarwynJones AC yn Ebrill 2006.

Ym Mai 2006 rhoddwyd hwb i’n barn ni panddangosodd pôl piniwn gan ICM fod 94% o boblar draws Cymru a Lloegr yn dweud eu bod eisiauhawl cyfreithiol o fynediad i ardaloedd arfordirolgan gynnwys traethau, clogwyni a blaendraeth(ac fe gredwn tir cyfagos).

Mae Cymru wedi sicrhau mynediad i ychydigdros 60% o’r arfordir; mae gan y gweddillrywfaint o fynediad neu mynediad annigonol(CCGC (CCW), Chwefror 2006). Sicrhau’rgweddill a datblygu ansawdd llwybr yr arfordir ywble bydd yr enillion yn cael eu gwneud. Roeddemyn meddwl y byddai’n debygol y byddai’rGweinidog yn dymuno rhoi rhai dewisiadau allani ymgynghoriad cyhoeddus llawn.

Yna ar 9 Mehefin 2006 lansiodd Prif WeinidogCymru Rhodri Morgan fynediad arfordirol, tra’nagor Llwybr Arfordirol Ynys Môn. Roeddem yngweld y cyhoeddiad hwn ynglyn â’r llwybr fel cam

ymlaen ond nid oedd yn ddigon.Amcanion allweddol Rhaglen Mynediad

Arfordirol Prif Weinidog Cymru yw:-

i. gwella mynediad i’r arfordir ar gyfercymunedau lleol ac ymwelwyr drwy wneudgwelliannau i’r llwybrau lleol, gan gynnwysllwybrau cylchol newydd wrth yr arfordir;

ii. sicrhau gwell cyfleoedd o ran mynediad igadeiriau olwyn a phramiau i’r amgylcheddarfordirol er budd yr anabl a theuluoedd gydaphlant bach;

iii. cyflwyno cyfleoedd newydd i seiclwyr amerlotwyr i fwynhau arfordir Cymru;

iv. cyflwyno gwell mynediad cyhoeddus drwywneud y gorau o isadeiledd y llwybrau sy’nbodoli ar hyn o bryd a gwella cysylltiadau ag

MYNEDIAD ARFORDIROL >>>

DYMA’R STORI YN FYR - mae’r Cynulliad wedi cyhoeddi rhaglen i ddarparurhwydweithiau lleol o lwybrau o amgylch cymunedau arfordirol, gwellmynediad i seiclwyr, merlotwyr a phobl gydag anableddau. Bydd yna LlwybrArfordirol i Gymru gyfan ond yn hanfodol bwysig, mae mynediad statudol yndal o dan ystyriaeth. Mae Y Cerddwyr yn dweud ei fod yn hanfodol bod agarian newydd digonol, ewyllys wleidyddol a gweledigaeth glir sy’n nodi’rcynnyrch ansawdd uchel sy’n angenrheidiol. Os yw hyn i gyd yn mynd iddod, bydd yr argymhellion yn cael croeso mawr a bydd argoelion cryf ycyflawnir manteision i iechyd, i’r gymuned a manteision economaidd.

MAE HWN WEDI datblygu’n anhygoel ers i’r Cerddwyr yn Ynys Môn ddechrau cerdded,ymchwilio a hyrwyddo’r syniad dros ugain mlynedd yn ôl. Dros y pum mlynedd diwethafgyda budd cyllid yr UE mae’r llwybr a’r dull o’i hyrwyddo wedi gwella’n anhygoel. Mae llawero’r diolch yn mynd i’r rhai hynny sydd wedi bod yn rhan o’r gwaith, ond mae angen gwneudmwy oherwydd bod 28 o’i 125 o filltiroedd yn dal ar darmac ac mae 37 milltir yn parhau ynoddefol. Mae Cerddwyr lleol wedi bod yn datblygu’r prosiect hwn am 30 o flynyddoedd acrydym yn awr yn gofyn am welliannau ar stâd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ym MhlasNewydd, Baron Hill 1 a Stâd Bodorgan. Meddai Rosie Frankland, Swyddog Llwybr ArfordirolYnys Môn, “Mae gwaith rhwng Cerddwyr Ynys Môn a Thîm y Llwybr Arfordirol wedi bod yngadarnhaol iawn yn arbennig ar yr ochr ymarferol, o ran cynllunio a gwneud gwelliannaugwirioneddol. Mae aelodau lleol hefyd wedi cynorthwyo i gasglu tystiolaeth mewnymchwiliad cyhoeddus pwysig i sefydlu adran newydd sbon o lwybr yn Nhraeth Bychan”.

LLWYBR ARFORDIR YNYS MÔN

Cerdded yr arfordir yng Ngh– y cynlluniau’n datblygu

rambler_65_CYMRU 28/9/06 11:03 PM Page 4

Page 5: Welsh Rambler 65 - Cymraeg

GWEITHIO AR RHAN CERDDWYR

TUDALEN 5

Y

CHWARAE EIN RHANOs yw’r syniad o well mynediad arfordirol yn eichcyffroi, efallai yr hoffech chwarae eich rhan ynlleol ar gyfer Y Cerddwyr. Credwn y bydd ymdrech

arbennig yn ymwneud â mynediad arfordirol. Dros ymisoedd sydd i ddod credwn y gallech:

� roi gwybod i ni yr hoffech helpu;� gwirfoddoli ar gyfer partneriaeth leol i gynllunio

gyda’r nod o sicrhau mynediad o ansawdd uchel;� gwneud yr achos yn lleol dros fynediad agored i

gynnwys traethau, blaendraeth (yr ardal rhwng ydistyll cymedrig a’r penllanw cymedrig) clogwyniac unrhyw dir cyfagos;

� datblygu syniadau’r Cerddwyr ar gyfer llwybraucylchol ar lwybrau arfordirol;

� gofalu fod unrhyw broblemau ar y llwybrauarfordirol ac yn ymyl yr arfordir yn cael eu hadroddi’r awdurdod lleol a’u datrys;

� datblygu eich syniadau ar gyfer llwybrau newyddsy’n angenrheidiol ar gyfer Llwybr ArfordirolCymru Gyfan i gael mynediad i’r arfordir, igyrraedd at dir mynediad y DdCGHT (CROW Act)ac ar gyfer llwybrau cylchol;

� datblygu eich syniadau eich hun ar gyfer llwybraucylchol o amgylch cymunedau arfordirol acystyried sut y gellid bodloni angheniondefnyddwyr eraill boed hynny ar gyfer defnyddwyrcadeiriau olwyn, seiclwyr a merlotwyr. Gall hyn ynwir olygu arolygu llwybrau ac efallai gysylltu âchynrychiolwyr lleol ar gyfer y mudiadau hyn;

� Os byddwch yn arolygu llwybrau – cliciwch ar ysgwariau grid Defnyddia dy Lwybrau(www.defnyddiadylwybrau.info);

� nodi cymunedau arfordirol lle mae gwaith da wediei wneud yn barod;

� pwyso ar eich awdurdod lleol i wneud cais cynnaram gyllid Ewropeaidd ar gyfer y prosiect.

Mae’r Cynulliad wedi addo ymdrech a fydd yncanolbwyntio ar yr arfordir, dyma lle y bydd ygweithredu yn digwydd. Felly hoffem ofyn fodgwirfoddolwyr yn helpu gyda’r gwaith hwn. Byddwn ynceisio cefnogi gwirfoddolwyr mor gymaint a gallwn,ond bydd angen i ni wybod beth yr ydych chi yn eiwneud, felly cysylltwch. Hoffem gael gwirfoddolwr acyn ddelfrydol tîm bach ar gyfer pob un o’r 16 oawdurdodau arfordirol.

Bydd y flwyddyn i ddod yn flwyddyn o gynlluniofelly bydd cysylltu’n gynnar gyda’r bartneriaeth leol ynrhoi’r cyfle mwyaf i chi ddylanwadu.

ardaloedd o dir arfordirol y mae gan y cyhoeddhawliau mynediad iddynt (o dan DdeddfCGHT (CROW)) ac i dir yr YmddiriedolaethGenedlaethol a thir sydd mewn dwylocyhoeddus ar yr arfordir

v. yn y tymor hwy cyflwyno llwybr arfordirol oansawdd da i Gymru gyfan, sy’n cysylltu’rllwybrau arfordirol presennol fel LlwybrArfordir Sir Benfro. [Bydd hwn yn barhaol acyn cael ei warchod rhag erydiad. [Ffynhonnell:Cyfarfod LlCC 29 Mehefin 2006].

Cawsom ein brawychu o weld fod y datganiad i’rwasg (WAG 09.06.06) yn dweud yn y nodiadaufod “Buddiannau ffermio yng Nghymru wedigwrthwynebu hawl cyfreithiol cyffredinol i’rcyhoedd gael mynediad i’r tir i gyd wrth yrarfordir ac nid yw Llywodraeth y Cynulliad yncynnig hyn fel rhan o’r rhaglen hon.”Mynegodd y Cerddwyr eu pryderon wrth yCynulliad a swyddogion ac eglurodd CarwynJones AC (ar 25 Gorffennaf) hyn drwy ddweud“bydd ystyriaeth bellach yn cael ei rhoi i’rmater o hawl mynediad statudol i ardaloeddarfordirol.” Rydym wedi ei calonogi yn fawr gany datganiad hwn oherwydd bellach mae’r hollddewisiadau ar gyfer ennill mynediad i’r arfordirar gael unwaith eto. Diolch yn fawr iawn i bawbsydd wedi ein cael i’r safle hwn.

Er mwyn i fynediad arfordirol weithio’n ddamae’n hanfodol fod y Cynulliad yn cynniggweledigaeth strategol, canllawiau trwyadl, ac yncynllunio ac yn monitro cynnydd, gan addasu’r

agwedd os nad yw’n cyflawni. Hoffem i fynediadarfordirol fod yn ei le i hyrwyddo cyfranogiad ynyr ymarferiad a thwristiaeth mewn pryd ar gyfergemau Olympaidd Llundain 2012.

Mewn mannau eraillMae Cerddwyr yn yr Alban ym mwynhaumynediad agored llawn, gyda hawl sefydlog igerdded ar hyd eu arfordir. Yn Lloegr disgwylircyhoeddiad, ond mae’n ymddangos y bydd hynyn ymgynghoriad cyhoeddus (nid ydym wedi caelhyn yng Nghymru) ac y bydd yn ymwneud â’rdewis o fynediad arfordirol agored statudol.

Y Cerddwyr Cymru yn aneluat fynediad arfordirol

Rydym yn ceisio cael hawl cyfreithiol i gerddedmewn ardaloedd arfordirol, gan ganiatáu

mynediad parhaus a pharhaol wedi ei ddiogelurhag erydiad o amgylch arfordir Cymru. Dylai

hefyd cynnwys mynediad cyhoeddus ar droed idraethau, clogwyni, blaendraeth a thir cyfagos,ynghyd â rhagofalon i warchod bywyd gwyllt,

cynefinoedd ac eiddo. Gofynnir hefyd amfesurau amaeth-amgylchedd i ddatblyguansawdd mynediad arfordirol a gwerth

bioamrywiaeth.

© Croeso Cymru

Plant yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn dweud wrthymbeth maent yn mwynhau ei wneud ar yr arfordir.

ghymru

rambler_65_CYMRU 28/9/06 11:03 PM Page 5

Page 6: Welsh Rambler 65 - Cymraeg

TUDALEN 6

HYDREF 2006Y

Ym mis Mai lansiodd Llywodraeth CynulliadCymru ei Strategaeth Amgylchedd newydd.

Mae hyn yn bwysig iawn oherwydd mae’ncydnabod yn swyddogol y pwysau a roddir ar yramgylchedd gan ddatblygiadau adeiledig,defnyddio adnoddau a newid yn yr hinsawdd.Mae’n nodi sut yr anela’r Cynulliad at warchod agwella’r amgylchedd o’i ran ei hun, a hefyd fod ynrhaid i’r strategaeth gael ei chymryd i ystyriaeth

mewn unrhyw broses gynllunio. Mae’n rhywbethdefnyddiol i’w gadw mewn cof felly os ydych ynedrych ar geisiadau cynllunio, i atgoffa cynllunwyro’u rhwymedigaeth i warchod yr amgylchedd.

Mae gan y strategaeth a gyhoeddwyd bump othemâu sydd wedyn yn cael eu sianelu i 62 obwyntiau gweithredu:

� ymdrin â newid yn yr hinsawdd

� defnydd cynaladwy o adnoddau� bioamrywiaeth, tirluniau a morluniau

gwahanol� peryglon amgylcheddol, a� ein hamgylchedd lleol. Mae hon yn adran

allweddol i ni. Mae’n ein hymrwymo i wellamynediad pobl at fannau gwyrdd a chefn gwlad(gan gynnwys yr arfordir) i gynyddu’r defnyddo’r amgylchedd naturiol ar gyfer gweithgareddcorfforol a mwyniant. Atgyfnerthir hawliautramwy sy’n hawdd eu defnyddio fel ydangosydd allweddol. Ychwanegir at hyn gan yrymrwymiad i wneud llwybrau yn haws i’wcerdded mewn ardaloedd trefol ac annogcerdded ar siwrneion byr.

Gwthio datblygiadau egni drwy’r system?

Datblygiadau Polisi –Strategaeth Amgylchedd

Galw ffotograffwyr! Rydym yn chwilio am eich delweddau gwreiddiol sy’n dangos harddwch acamrywiaeth cefn gwlad Cymru ar gyfer cystadleuaeth ffotograffig. Bydd pob un o’r ymdrechionbuddugol yn derbyn rycsac ffantastig werth rhwng £35 a £65 diolch i haelioni CotswoldOutdoor a bydd eu ffoto yn cael ei gyhoeddi mewn rhifyn o Cerddwr Cymru yn y dyfodol. Mae pedwar categori:� Golygfeydd gwych – ein cefn gwlad rhyfeddol;� Pobl a lleoedd – yn dangos ystod ac amrywiaeth y bobl sy’n mwynhau

cerdded yng Nghymru;� Craith ar y tirlun – unrhyw beth o sbwriel i adeilad wedi ei ddylunio’n wael� Rhwystrau ar fy llwybr – pethau sydd ar eich fforddDyddiad cau: 1af Tachwedd 2006

• Gall ffeiliau gael eu hanfon yn ddigidol neu fel copi caled (printiau, tryloywderau).• Cynhwyswch bennawd byr yn disgrifio union leoliad y ffotograff (gan gynnwys y cyfeirnod grid) a

rhywfaint o gefndir (pam fod rhywbeth wedi dal eich llygad, pam fod y ddelwedd yn unigryw ac ati).• Cyhoeddir yr enillwyr yn rhifyn nesaf Cerddwr Cymru.• Rydych yn rhoi caniatâd i ni ddefnyddio eich ffotograffau.

A fyddech gystal ag anfon eich ceisiadau at: Cymdeithas y Cerddwyr, 3 Iard y Cowper, Ffordd CurranCaerdydd. CF10 5NB. neu [email protected]

CYSTADLEUAETH FFOTOGRAFFIGmewn cysylltiad â:

CEFN GWLAD >>>

Roedd y papurau yn llawn yn gynharach yrhaf hwn gyda storïau am egni wrth iLywodraeth y DU gyhoeddi ei harolwg

Egni ac wrth i’r Pwyllgor Materion Cymreiggyhoeddi ei adroddiad ar Egni yng Nghymru.Roedd y stori fwyaf yn y wasg yn ymwneud âphwer niwclear, ond efallai mai bygythiad mwyoedd y datganiad y dylai’r broses gynllunio gaelei gwneud yn haws i gynhyrchwyr egni achwmnïau trawsyrru egni.

O ystyried pryderon Cerddwyr Cymru fodangen mwy o warchodaeth ar ein hucheldiroeddoddi wrth ddatblygiadau tyrbinau gwynt arraddfa fawr, mae hwn yn fater pryderus.Awgryma’r ‘Datganiad o Angen’ ar gyfer egniadnewyddadwy yn Arolwg Egni y DU y gall ybydd raid i faterion lleol orfod cael eu haberthuer mwyn buddion cenedlaethol. Noda ymhellachfod y manteision i gymdeithas a’r economiehangach yn sylweddol ac y dylid rhoi “pwysau

sylweddol wrth iddynt ystyried argymhellionadnewyddadwy”. Os yw ‘pwysau sylweddol’ yngolygu dadflaenoriaethau gwarchod ein cefngwlad mae gennym broblem fawr yma.

Yng Nghymru, byddem yn dadlau fod eintirluniau yn adnodd cenedlaethol sydd angengwarchodaeth lawn, hyd yn oed yng nghyd-destun newid yn yr hinsawdd. Mae’n bosib fydd20% o’n tirweddau yn cael ei dynodi fel diragored, ond bydd hwn yn cael ei aberthu o ranarwynebedd ac ansawdd os bydd y peiriannautrymion yn symud i mewn. Cofiwch fodStrategaeth Amgylchedd y Cynulliad ei hun yngwneud ymrwymiad i gynnal cymeriad eintirlun. Gwelwn hefyd yn adroddiad y PwyllgorMaterion Cymreig y sylw clo canlynol. “Y maeegni gwynt yn fanteisiol i Gymru, ond ni ddylid

gor-bwysleisio’r fantais honno. Mae’n annheggalw pob gwrthwynebiad i egni gwynt yn‘nimbyism’ heb ddeall y pryderon dilys fodCymru yn mynd i fod â gormod o ffermyddgwynt”.

Felly os yw Llywodraeth y DG yn mynd isymud rhwystrau cynllunio ar gyfer datblygwyregni gwynt (a datblygwyr egni eraill) ac yncyflymu mynediad i’r grid cenedlaethol drwygeisiadau cydlynus rhwng cynhyrchwyr adosbarthwyr, mae angen i ni fod yn wyliadwrus.Bydd cyflymu’r broses cynllunio yn anochel yncwtogi ar y cyfle i glywed y farn leol resymol.

Unwaith eto mae’r Pwyllgor MaterionCymreig yn cydnabod bod y cyd-destuncynllunio yn ‘tanseilio’r atebolrwydddemocrataidd sy’n sail i lunio penderfyniadau yny maes polisi hwn’. Cefnogwn yn llawn gasgliadyr adroddiad y dylid adolygu’r safiad i roi‘mynediad teg i’r broses o lunio penderfyniadaui unigolion yr effeithir arnynt gan ffermyddgwynt ar raddfa fawr yng Nghymru’.

Felly, cadwch eich llygaid ar agor amddatblygiadau lleol a defnyddiwch eich hawldemocrataidd i wrthwynebu ceisiadau a allaifynd â chefn gwlad oddi tan ein traed.

Gellir cael mwy o gyngor oddi wrth MartinDowson, Ymgyrchydd Cefn Gwlad.

Cefn Gwlad Sir Gaerfyrddin© Martin Dowson

rambler_65_CYMRU 28/9/06 11:03 PM Page 6

Page 7: Welsh Rambler 65 - Cymraeg

GWEITHIO AR RHAN CERDDWYR

TUDALEN 7

Y

Brongain 14,Llanfechain, PowysMAE BOB SEABROOK, Swyddog Llwybrau Powys argyfer Y Cerddwyr wedi gweithio am bum mlynedd gydagAnnette Prince a’r Cyngor Cymuned i sicrhau erlyniadgan Gyngor Sir Powys yn erbyn Mr Michael Harding amrwystro’r llwybr hwn mewn 14 o leoedd. Roedd siedpeiriannau fawr, ffens, netin cywion ieir, ffens arbompren, giât wedi ei weldio, rhediad i foch a chamfeydda oedd wedi eu symud i gyd o ddiddordeb mawr i LysSirol Caer ar 28 Mehefin. Gorchmynnodd y Llys fod yrhwystrau anghyfreithlon hyn yn cael eu symud.

Meddai Bob “Po gyntaf y bydd y rhwystrau hyn arlwybrau yn cael eu dileu, y gorau fydd hi i gerddwyr a’rsawl sy’n talu treth y cyngor. Mae llawer gormod olwybrau yn cael eu rhwystro. Gobeithiaf y byddpenderfyniad y llys yn anfon neges glir i’r rhai sydd ynrhwystro llwybrau fod yr amser wedi dod i agor llwybrausydd wedi eu cau yn anghyfreithlon neu wynebu camauyn y llysoedd.”

LLWYBRAU >>>

Mae CGHT (ROWIP) drafft Bannau Brycheiniog yndrwyadl, ac wedi ei gynllunio a’i gyflwyno’n dda ond...

Twristiaeth cerdded yn y BannauMae Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn hybu cerdded. Dyma’r gweithgaredd mwyaf

poblogaidd yn y Parc gyda rhyw 800,000 o bobl yn cynhyrchu £50 miliwn i economi’r Parc.Mae’r Strategaeth Twristiaeth Cerdded newydd yn ddogfen galonogol. Mae’n rhoi argymhelliadallweddol i “fuddsoddi mewn gwelliant a gwaith cynnal hyd at o leiaf safon isafol a gytunwyd ardraws rhwydwaith mynediad Awdurdod y Parc Cenedlaethol”. Ac mae’n rhoi cyngor ynglyn âdatblygu llety a gwybodaeth. Mae’n awgrymu y dylid annog ymwelwyr i gadw milltiroedd ceir iisafswm. Cynhyrchwyd dwy ddogfen newydd “The Sugar Loaf from Abergavenny” a “Wildlife Walksin Brecon Beacons National Park” – detholiad o deithiau cerdded i deuluoedd.

Cerddwyr ar brig Pen y Falger Y Fenni

© T C Evans 2005

Mae’r cyntaf o’r Cynlluniau GwellaHawliau Tramwy (CGHT) (ROWIP)drafft oddi wrth Awdurdod Parc

Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ynymddangos fel pe bai wedi ei gyflwyno’n dda acyn gyffredinol rydym wedi bod yn falch o nodiehangder y weledigaeth y mae’n ei gynnwys.Mae’n rhoi cydnabyddiaeth i’r rôl hanfodol y maemynediad i gefn gwlad yn ei chwarae yn llescorfforol meddyliol a chymdeithasol yboblogaeth yn bwysig ynddo ac yn gosod sylfaendda ar gyfer y cynllun uchelgeisiol hwn i fodlonicyfarwyddiadau Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Rhaid i weithredu unrhyw welliannau aamlinellwyd yn yr CGHT (ROWIP) fod ynychwanegol at ac nid yn lle y rhaglen waithflynyddol gyfredol ac mae’n rhywbeth y bydd YCerddwyr yng Nghymru yn ei bwysleisio wrth ibob un o’r ROWIP drafft ddod ar gael. Yr un morbwysig fydd egluro’r cyfeiriad a wnaed at sefydluhierarchaeth llwybrau. Rydym yn hynod owyliadwrus ynglyn ag unrhyw ymdrech iisraddio statws hawliau tramwy cyhoeddus argyfer rheolaeth neu waith cynnal. Rydym yn

bryderus yn arbennig ynglyn â’r statws a’r sylw aroddir i’r llwybrau sy’n llai pwysig ac ynpwysleisio’n gryf yr angen am i safonau isafolcyfreithiol gael eu cynnal. Byddai systemblaenoriaethu yn seiliedig ar glirio’r rhestr obroblemau gyda’r llwybrau sydd heb eu datrys,yn hytrach na hierarchaeth o’r llwybrau euhunain, yn symudiad cadarnhaol a defnyddiol oran pwyslais. Gofynnir am fwy o eglurder hefydynghylch cyllid oherwydd byddai datganiadpendant ynglyn â’r sefyllfa o ran cyllid yn rhoiarwydd llawer cliriach i ni o’r darlun ar hyn obryd ac yn ein cynorthwyo yn ein gwaith lobïo.

Wrth inni aros am CGHT (ROWIP) draffteraill oddi wrth awdurdodau yng Nghymru,mae’r drafft cyntaf hwn oddi wrth BarcCenedlaethol Bannau Brycheiniog yn rhoiarwydd pendant fod y broses wedi ei chymryd oddifrif ac y bydd yr ymgynghoriad a’r adborth i’rmeysydd hynny sy’n peri pryder yn yr un moddyn derbyn ystyriaeth gyfartal. Yn olaf, ac felrhagofal parhaus, rydym yn falch o weld y byddcynnydd ynglyn â’u gweithredu yn destunarolwg ac ymgynghoriad aml a thrwyadl.

Cau a gosod giatiauar alïauMAE’R CERDDWYR YN anelu at hyrwyddo cerdded mewnardaloedd trefol, ac mae ein gwirfoddolwyr yn cael eu heriogan bwysau i gau a gosod giatiau ar alïau.

Ysgrifenna’r Swyddog Hawliau Tramwy Mike Mills:“Mewn ardaloedd adeiledig mae llawer mwy o fân briffyrddyn rhoi mynediad o’r cefn a’r ochr i eiddo ac yn cynnigllwybrau byr mewn trefi. Maent yn amrywio o lwybrau cul ibriffyrdd sy’n gallu derbyn traffig cerbydau. Mae rhai o’rpriffyrdd hyn yn rhoi cyfleoedd i bobl gyflawnigweithredoedd troseddol ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Mae’r adran newydd 129A a osodwyd yn Neddf Priffyrdd1980 yn darparu y gall awdurdod lleol wneud gorchymyn‘gosod giât’ mewn perthynas â phriffordd sy’nddarostyngedig i lefelau uchel a chyson o drosedd neuymddygiad gwrthgymdeithasol sy’n effeithio’n niweidiol argymunedau lleol. Gall gosod giât, hynny yw rhwystrorhywfaint neu’r cyfan o bwyntiau mynediad i’r briffordd ganddefnyddio giatiau, gwtogi ar y problemau hyn ond mae’neglur na fydd mesurau o’r fath yn briodol ym mhob achos.Mae Cymdeithas y Cerddwyr yn awyddus i sicrhau boddewisiadau eraill i drin ymddygiad gwrthgymdeithasolhonedig mewn alïau yn cael eu hystyried yn gyntaf ac naddylai mesurau o’r fath arwain at symudiad oddi wrthgymdogaethau hygyrch ac agored tuag at rai sy’ngyfyngedig ac nid o anghenraid yn saffach. Mae Cymdeithasy Cerddwyr ar hyn o bryd yn ymateb i ymgynghoriad drafftar y rheoliadau hyn a bydd yn ceisio sicrhau bod einpryderon yn cael eu clywed a sicrhau fod mesurau o’r fathyn cael eu defnyddio dim ond pan fo hynny yn briodol ac ynangenrheidiol.

Ffens i gadw stoc allan yn atal mynediad iBrongain 14 – gorchmynnodd y Llys i’r rhwystrhwn gael ei symud ac i giât gael ei gosod yn ei lle.

Bob

Sea

broo

k

rambler_65_CYMRU 28/9/06 11:03 PM Page 7