1
Cynnwys Ar-lein Gwir, Ffug, Amhriodol ac Anghyfreithlon Cynnwys Ar-lein Gwir, Ffug, Amhriodol ac Anghyfreithlon Mae bod ar y Rhyngrwyd heddiw yn dod â chi i gysylltiad â phob math o gynnwys – da a drwg – ar ffurf testun, fideo, clyweledol a delweddau! Mae’r gallu i farnu pa mor ddibynadwy yw’r cynnwys yn bwysig iawn. P’un ai a ydych yn siecio os yw e-bost a gawsoch yn debygol o fod yn sgam yn chwilio am wybodaeth amdanoch, neu’n penderfynu a ddylech osod app cŵl ar Gweplyfr, mae angen meddwl cyn penderfynu gwneud dim. www.wisekids.org.uk Beth yw amcan y wefan, ac oes ganddi ragfarn arbennig? Ydy hi’n ceisio gwthio safbwynt arbennig arnoch? Er enghraifft, mae yna wefannau hanesyddol wedi’u hysgrifennu gan bobl sydd am gyflwyno fersiwn arall ar hanes i chi. Oes yna fanylion cyswllt ar y wefan? Pa mor aml y mae’r wefan yn cael ei diweddaru? Ai gwefan bersonol, busnes neu un y llywodraeth yw hi? Er enghraifft a yw’n diweddu gyda .gov.uk? Sut mae’r cynnwys yn cymharu gyda ffynonellau eraill? Asesu gwefannau Gyda’r offer sydd ar gael heddiw, gall unrhyw un bron gael presenoldeb ar-lein, er enghraifft, Sianel YouTube, cyfrif Gweplyfr neu Trydar neu wefan. Gall unrhyw un sefydlu gwefan yn hawdd, a gall edrych yn swyddogol hyd yn oed! Er enghraifft, ydych chi wedi gweld y wefan Endangered Tree Octopus: http://zapatopi.net/treeoctopus? Dyma rai cwestiynau i’w gofyn wrth asesu gwefannau: Os yw’r safle yn casglu gwybodaeth bersonol amdanoch chi, oes ganddi ‘bolisi preifatrwydd’ sy’n dweud wrthych sut y byddan nhw’n defnyddio ac yn delio gyda’ch data personol chi? Os yw’n defnyddio cwcis, ydy hi’n rhoi’r dewis i chi optio allan? O ba wlad y daw parth y wefan, ac allwch chi wirio pwy sy’n berchen arni drwy ddefnyddio gwasanaethau fel: http://lookup.ws Cynnwys amhriodol ac anghyfreithlon Efallai eich bod hefyd wedi dod ar draws gwefannau gyda chynnwys ar gyfer oedolion, neu wefannau sy’n hyrwyddo eithafiaeth, casineb hiliol, hunan-niweidio a thrais. Tra bo peth o’r cynnwys yn anghyfreithlon yn y DU, efallai nad yw mewn gwledydd eraill, felly gallai fod yn anodd cael gwared ohono. Fodd bynnag, mae rhai heddluoedd yn cydweithredu gyda heddluoedd eraill ledled y byd i gael gwared ar gynnwys sy'n anghyfreithlon yn eu gwledydd. Yn eich ysgol, byddwch hefyd yn sylwi bod llawer o wefannau amhriodol ac anghyfreithlon wedi’u blocio. Yn y DU, gallwch riportio pob math o gasineb ar-lein drwy wefan True Vision: www.report-it.org.uk. Felly hefyd, mae Sefydliad Gwylio’r Rhyngrwyd (IWF) yn llinell boeth yn y DU i riportio cynnwys anghyfreithlon. Gweler: http://www.iwf.org.uk am fwy o wybodaeth. Hawlfraint © 2012 WISE KIDS. Trwydded Creative Commons: CC BY-NC-ND 3.0 http://creativecommons.org/licenses/by-nc-nd/3.0/deed.en_GB

WISE KIDS Leaflet: Online Content True, False, Inappropriate and Illegal (in Welsh)

Embed Size (px)

Citation preview

Page 1: WISE KIDS Leaflet: Online Content True, False, Inappropriate and Illegal (in Welsh)

Cynnwys Ar-leinGwir, Ffug, Amhriodol ac Anghyfreithlon

Cynnwys Ar-leinGwir, Ffug, Amhriodol ac Anghyfreithlon

Mae bod ar y Rhyngrwyd heddiw yn dod â chi i gysylltiad â phob math o gynnwys – da a drwg – ar ffurf testun, fideo, clyweledol a delweddau! Mae’r gallu i farnu pa mor ddibynadwy yw’r cynnwys yn bwysig iawn. P’un ai a ydych yn siecio os yw e-bost a gawsoch yn debygol o fod yn sgam yn chwilio am wybodaeth amdanoch, neu’n penderfynu a ddylech osod app cŵl ar Gweplyfr, mae angen meddwl cyn penderfynu gwneud dim.

www.wisekids.org.uk

• Beth yw amcan y wefan, ac oes ganddi ragfarn arbennig? • Ydy hi’n ceisio gwthio safbwynt arbennig arnoch? Er enghraifft, mae yna wefannau hanesyddol wedi’u hysgrifennu gan bobl sydd am gyflwyno fersiwn arall ar hanes i chi. • Oes yna fanylion cyswllt ar y wefan? • Pa mor aml y mae’r wefan yn cael ei diweddaru?• Ai gwefan bersonol, busnes neu un y llywodraeth yw hi? Er enghraifft a yw’n diweddu gyda .gov.uk?• Sut mae’r cynnwys yn cymharu gyda ffynonellau eraill?

Asesu gwefannauGyda’r offer sydd ar gael heddiw, gall unrhyw un bron gael presenoldeb ar-lein, er enghraifft, Sianel YouTube, cyfrif Gweplyfr neu Trydar neu wefan. Gall unrhyw un sefydlu gwefan yn hawdd, a gall edrych yn swyddogol hyd yn oed! Er enghraifft, ydych chi wedi gweld y wefan Endangered Tree Octopus: http://zapatopi.net/treeoctopus? Dyma rai cwestiynau i’w gofyn wrth asesu gwefannau:

• Os yw’r safle yn casglu gwybodaeth bersonol amdanoch chi, oes ganddi ‘bolisi preifatrwydd’ sy’n dweud wrthych sut y byddan nhw’n defnyddio ac yn delio gyda’ch data personol chi?• Os yw’n defnyddio cwcis, ydy hi’n rhoi’r dewis i chi optio allan? • O ba wlad y daw parth y wefan, ac allwch chi wirio pwy sy’n berchen arni drwy ddefnyddio gwasanaethau fel: http://lookup.ws

Cynnwys amhriodol ac anghyfreithlonEfallai eich bod hefyd wedi dod ar draws gwefannau gyda chynnwys ar gyfer oedolion, neu wefannau sy’n hyrwyddo eithafiaeth, casineb hiliol, hunan-niweidio a thrais. Tra bo peth o’r cynnwys yn anghyfreithlon yn y DU, efallai nad yw mewn gwledydd eraill, felly gallai fod yn anodd cael gwared ohono. Fodd bynnag, mae rhai heddluoedd yn cydweithredu gyda heddluoedd eraill ledled y byd i gael gwared ar gynnwys sy'n anghyfreithlon yn eu gwledydd. Yn eich ysgol, byddwch hefyd yn sylwi bod llawer o wefannau amhriodol ac anghyfreithlon wedi’u blocio. Yn y DU, gallwch riportio pob math o gasineb ar-lein drwy wefan True Vision: www.report-it.org.uk. Felly hefyd, mae Sefydliad Gwylio’r Rhyngrwyd (IWF) yn llinell boeth yn y DU i riportio cynnwys anghyfreithlon. Gweler: http://www.iwf.org.uk am fwy o wybodaeth.

Hawlfraint © 2012 WISE KIDS. Trwydded Creative Commons: CC BY-NC-ND 3.0http://creativecommons.org/licenses/by-nc-nd/3.0/deed.en_GB