Upload
katrina-wood
View
226
Download
2
Embed Size (px)
DESCRIPTION
Dysgwch Saesneg (System Cyfarwyddyd Dysgu Iaith Saesneg) Mae dysgu Saesneg neu wella eich Saesneg yn ffordd wych ichi fagu mwy o hyder a chael mwy allan o’ch bywyd bob dydd. Ni waeth ai cyfathrebu â phobl eraill, helpu eich plant â’u gwaith cartref neu wella eich rhagolygon swydd yw eich nod, gall learndirect helpu. Efallai hefyd y bydd cyrsiau’n RHAD AC AM DDIM, gan ddibynnu ar eich amgylchiadau. Sut brofiad yw dysgu gyda learndirect? Bydd y cwrs hwn yn eich galluogi i:
Citation preview
DysgwchSaesneg
Dysgwch Saesneg gyda learndirect
ELLIS
Mae dysgu Saesneg neu wella eich Saesneg yn ffordd wych ichi fagu mwy o hyder a chael mwy allan o’ch bywyd bob dydd. Ni waeth ai cyfathrebu â phobl eraill, helpu eich plant â’u gwaith cartref neu wella eich rhagolygon swydd yw eich nod, gall learndirect helpu. Efallai hefyd y bydd cyrsiau’n RHAD AC AM DDIM, gan ddibynnu ar eich amgylchiadau.
Sut brofiad yw dysgu gyda learndirect?
Mae’r dysgu’n hyblyg, gallwch ddysgu yn un o ganolfannau learndirect neu gartref. Mae ein cyrsiau’n cael eu cynllunio i fod yn addas i wahanol alluoedd a gallwch ddysgu cymaint neu gyn lleied ag y mynnwch, mor gyflym neu mor araf ag yr hoffwch. Nid yw dysgu gyda learndirect yn gaeth i amserlenni tymor ac nid oes rhaid ichi aros yn hir cyn ichi ddechrau eich dysgu. Mae’r dysgu’n cael ei wneud ar y cyfrifiadur ac efallai gwelwch chi fod oriau agor hyblyg gan eich canolfan er mwyn hwyluso eich dysgu.
Mae cymorth a chefnogaeth ar gael drwy’r amser, felly os nad ydych wedi defnyddio cyfrifiadur o’r blaen, peidiwch â phoeni, gan fod staff cyfeillgar yno i helpu.
Nid oes rhaid ichi boeni am ddeall y cwrs; rydyn ni’n cynnig cymorth ychwanegol yn yr ieithoedd hyn: Arabeg, Byrmaneg, Cantoneg, Castileg, Cwrdeg, Eidaleg, Fietnameg, Ffarsi, Ffrangeg, Groeg, Gwjarati, Hindi, Portiwgaleg Ewropeaidd, Pwnjabeg, Sbaeneg, Serbeg, Somalieg, Sylheti, Tamileg, Tsieceg, Tsieinëeg Mandarin, , Tyrceg a Thai. Byddwch hefyd yn dysgu am fywyd ym Mhrydain ac am y diwylliant Prydeinig.
Drwy gwblhau’r cwrs hwn, byddwch chi’n gweithio tuag at gymhwyster sy’n cael ei gydnabod yn genedlaethol, sef ein Tystysgrif mewn Sgiliau Bywyd Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL). Bydd hwn yn dangos i gyflogwyr fod eich sgiliau cyfathrebu o safon uchel, a gallai hyn eich helpu chi i gael swydd neu symud ymlaen yn y gwaith.
(System Cyfarwyddyd Dysgu Iaith Saesneg)
Os nad Saesneg mo’ch iaith gyntaf, bydd y cwrs hwn yn eich helpu i deimlo’n fwy cyffyrddus pan fyddwch yn siarad Saesneg neu’n gwrando ar Saesneg.
Bydd y cwrs hwn yn eich galluogi i:
• Ddilyntrafodaethauachymrydrhan ynddynt• DefnyddioSaesnegffurfiol• Gofyncwestiynaumwycymhlethac ymateb iddynt•Mynegieichhunynglirganddefnyddio Saesneg llafar ac ysgrifenedig •DeallgwahanolarddulliauSaesneg ysgrifenedig• Deallgeiriauallweddolarbenigol• Defnyddioatalnodi’nhyderus
Saesneg bob dydd
Eich lle Eich cymuned
Drwy gwblhau unrhyw un o’r cyrsiau hyn byddwch chi’n gweithio tuag at y Dystysgrif mewn Llythrennedd Oedolion. Mae hyn yn debyg i TGAU, a bydd yn dangos i gyflogwyr fod gennych y sgiliau Saesneg maent yn chwilio amdanynt. Bydd yn hwb mawr i’ch CV, a gallai eich helpu i symud ymlaen yn y gwaith.
Bydd y cwrs datblygiad personol hwn yn eich galluogi i ddod yn rhan o’r gymuned lle rydych chi’n byw a deall arferion a gwerthoedd. Bydd yn eich galluogi i ddeall eich ymddygiad, eich arferion a’ch agweddau eich hun a gwerthfawrogi pwysigrwydd sgiliau cyfathrebu.
Geirfa, Sillafu a Gramadeg dysgwch sut i:• Sillafu diwrnodau’r wythnos a rhifau o un i ddeg• Adnabod seiniau mae llythrennau’n eu gwneud• Canfod ffyrdd o sillafu geiriau anghyfarwydd• Defnyddio berfau a rhagenwau’n gywir• Sicrhau bod eich ysgrifennu’n hawdd ei ddarllen drwy ddefnyddio gwahanol fathau o atalnodi’n gywir
Darllen
dysgwch sut i: • Adnabod llythrennau’r wyddor• Deall testunau byr• Deall arwyddion • Dilyn cyfarwyddiadau syml • Adnabod pam cafodd testun ei ysgrifennu a beth mae’n gofyn ichi ei wneud• Llenwi ffurflenni sy’n ymwneud â gwaith, arian a’ch bywyd personol• Defnyddio gwahanol ddulliau darllen fel darllen ar frys, bwrw golwg a darllen yn fanwl
Ysgrifennu
dysgwch sut i:• Wybod pryd i ddefnyddio atalnodau llawn a phriflythrennau• Cynllunio’r math o iaith yr hoffech ei defnyddio• Ysgrifennu nodiadau, rhestri, testunau ac e-byst• Osgoi camgymeriadau ysgrifennu cyffredin• Trefnu eich ysgrifennu
Workwise
Adnoddau dysgu learndirect RHAD AC AM DDIM:
I gael gwybod rhagor am unrhyw un o’r cyrsiau hyn, holwch aelod o staff yn eich canolfan learndirect leol neu ffoniwch 0800 101 901.
Mae llawer o weithgareddau a gemau y gallwch eu defnyddio ar-lein gyda’ch teulu a’ch ffrindiau i ymarfer eich Saesneg a’ch sgiliau cyflogaeth. Gellir gweld ein gemau drwy ein tudalen Facebook (learndirect Wales/Cymru).
Mae’r cwrs hwn yn berffaith ichi os ydych chi’n cael trafferth:
•Ynarchwiliogwahanolfeysyddgwaithac yn dysgu amdanynt•Ynceisiopenderfynupaswyddiallaifod yn addas i chi•Yndeallpasgiliauygallaifodeuhangen arnoch ar gyfer swydd arbennig•Yndeallyllwybraudilyniantadyrchafiad mewn gwahanol yrfaoedd.
A ydych chi’n dd-iwaith neu’n chwilio am yrfa newydd? Efallai nad ydych chi’n siwr pa fath o swyddi yr hoffech ymgeisio amdanynt, beth allai’r swyddi hynny eu cynnwys, a faint gallech chi ei ennill. Os felly, Workwise yw’r cwrs i chi.