6
Beth yw chwarae a pham ei fod yn bwysig?

Beth yw chwarae a pham ei fod yn bwysig?

Embed Size (px)

DESCRIPTION

Mae’r daflen wybodaeth yn anelu i ateb dau gwestiwn: beth yw chwarae? A pam fod chwarae’n bwysig? Mae’r daflen wybodaeth yn ymdrechu i ddwyn ynghyd y datganiadau mwyaf uchel eu parch am chwarae er mwyn darparu dadansoddiad cynhwysfawr.

Citation preview

Page 1: Beth yw chwarae a pham ei fod yn bwysig?

Beth yw chwarae a pham ei fod yn bwysig?

Page 2: Beth yw chwarae a pham ei fod yn bwysig?

Mae llawer wedi ei ysgrifennu am chwarae. Yn gyffredinol, cytunir bod chwarae yn un o’r gweithgareddau mwyaf cymhleth rydym yn ei wneud. Yn y daflen wybodaeth hon rydym yn ymdrechu i ddwyn ynghyd y datganiadau mwyaf uchel eu parch am chwarae er mwyn darparu dadansoddiad cynhwysfawr.

Beth yw chwarae?Mae chwarae yn broses ddigymell a gweithredol ble y gall meddwl, teimlo a gwneud ffynnu. Pan fyddwn yn chwarae cawn ein rhyddhau i fod yn ddyfeisgar ac yn greadigol. Ar yr un pryd, efallai y gwnawn newid ein hunain a’n barn o’r byd. Mewn chwarae, mae popeth yn bosibl ac yn aml caiff realiti ei anwybyddu a bydd dychymyg a meddwl sy’n llifo’n rhydd yn cael blaenoriaeth1.

Mae chwarae’n broses hynod o greadigol, sy’n defnyddio’r corff a’r meddwl; mae’n hyblyg ac, yn aml, yn rhydd o unrhyw nodau allanol (er y bydd plant yn aml yn creu’r rhain eu hunain).

Mae chwarae yn bwysig i bob plentyn waeth beth fo’u namau neu ymddygiad.

Gall chwarae fod yn hynod o foddhaol. Mae’r pleser a’r cyffro o chwarae, yr angerdd a’r canolbwyntio, y rhyddid i arbrofi, i archwilio ac i greu, i ddarganfod sut y mae pethau a phobl yn gweithio a’r hyn y gallwn ei wneud â nhw, i roi’r ffrwyn i’r dychymyg, ac i lanw’r bwlch rhwng realaeth a dyhead, i gyd yn deillio o’r ffaith mai wrth chwarae, ni sydd wrth y llyw.

Er y gall chwarae fod yn weithgaredd ddifrifol yn ogystal â gorfoleddus, yr amod allweddol yw na chaiff camgymeriadau ganlyniadau difrifol. Felly, pan fydd plant yn chwarae mewn lleoliad cyfarwydd, mae’n wahanol fatho brofiad i archwilio byd anghyfarwydd, a digon dychrynllyd o bosibl, a hynny’n gwbl ddiamddiffyn. All chwarae ond digwydd o fewn ffiniau diogel, sy’n caniatáu amser a lle yn ogystal â chaniatâd, fel bod plant yn gwybod

ble y mae chwarae’n dechrau ‘a ble y mae’n darfod a phryd y bydd y rheolau’n newid yn ôl i fywyd bob dydd’2.

I blant ifanc, caiff ffiniau eu ‘man chwarae’ eu pennu gan rieni neu oedolion eraill sy’n eu hamddiffyn rhag ymyrraeth gan y byd y tu allan. Gall hyn gynnwys man penodol, sydd fel arfer â nodweddion neu wrthrychau cyfarwydd, neu amser arbennig, neu’r cyfan. Pan fydd dau neu fwy o blant yn chwarae gyda’i gilydd, neu pan fydd oedolyn yn ymuno fel chwaraewr, byddant fel arfer yn dynodi i’w gilydd mai, ‘Chwarae yw hyn.’ Efallai mai edrychiad fydd yr arwydd, neu ‘wyneb chwarae’, chwerthiniad neu efallaigydnabyddiaeth ar lafar fel, ‘Cymer di arnat i fod yn fam i mi.’

Gall chwarae ymddangos yn ddyrys oherwydd mae’r rhyngweithiad rhwng y chwaraewyr yn real, ond y neges sydd rhyngddynt yw nad yw’r hyn y maent yn ei wneud yn real3. Er enghraifft, efallai y bydd plentyn sydd â babi newydd yn y teulu wrth ei fodd yn chwarae ‘mam’, tra bo’r fam go iawn yn gorfod chwarae’r babi.

Chwarae yw modd plant o amgyffred y byd, gan wneud synnwyr o’u profiad er mwyn ei wneud yn rhan o’u hunain. Gelwir y broses gyferbyniol yn ‘gymhwyso’, ble y bydd plant yn dysgu i ffitio i mewn gyda gofynion reality4.

Mae pwysigrwydd a chyffro chwarae’n deillio o’i allu i gydgysylltu’r byd go iawn â byd meddyliol mewnol y plentyn. Mae gwneud synnwyr o’r byd yn dasg anferth i blant ifanc. Maent yn wastad mewn perygl o gael eu llethu gan ddigwyddiadau neu deimladau.

Page 3: Beth yw chwarae a pham ei fod yn bwysig?

Trwy ail-greu ac ailadrodd digwyddiadau, a thrwy chwarae allan eu teimladau a’u ffantasïaueu hunain, y daw plant i delerau â hwy a chyflawni ymdeimlad o feistrolaeth. Gallant fynegi dicter ac ymladdgaredd yn ddiogel heb niweidio pobl eraill, neu heb iddo adlamu i’w niweidio hwythau.

Wrth i bryder gael ei dawelu ac i gytgord mewnol gael ei adfer, daw’r plentyn yn barod i ymdopi â digwyddiadau real diweddarach.

Yn y mwyafrif o achosion, bydd datblygiad chwarae plant yn dilyn patrwm rhagweladwy ac mae’n gysylltiedig ag agweddau o ddatblygiad corfforol, deallusol, cymdeithasol ac emosiynol.

Pam fod chwarae’n bwysigMae chwarae’n ganolog i iechyd a lles corfforol, meddyliol, cymdeithasol ac emosiynol plant. Trwy chwarae, bydd plant yn datblygu gwytnwch a hyblygrwydd fydd yn cyfrannu at les corfforol ac emosiynol.

I’r plant eu hunain, chwarae yw un o agweddau pwysicaf eu bywyd. Chwarae yw’r hyn y bydd plant a phobl ifanc yn ei wneud. Mae chwarae’n ysfa fiolegol. ’Does ganddo ddim, neu fawr ddim, i’w wneud ag oedolion – i ddweud y gwir, gall ymyrraeth oedolion wneud difrod difrifol i’r broses.

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd chwarae ym mywydau plant ac mae’n nodi yn ei Bolisi Chwarae cenedlaethol:

‘[Mae] chwarae mor hanfodol bwysig i bob plentyn wrth iddo ddatblygu ei sgiliau corfforol, cymdeithasol, meddyliol, emosiynol a chreadigol fel y dylai cymdeithas achub ar bob cyfle i’w gefnogi a chreu amgylchedd sy’n ei feithrin. Dylai’r broses o wneud penderfyniadau ar bob lefel o lywodraeth ystyried effaith y penderfyniadau hyn ar y cyfleoedd a gaiff plant i chwarae.’5

Yn rhyngwladol, caiff pwysigrwydd chwarae ei gydnabod hefyd ac mae wedi ei gorffori yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar

Page 4: Beth yw chwarae a pham ei fod yn bwysig?

Hawliau’r Plentyn (CCUHP). Mae Erthygl 31 CCUHP yn datgan bod gan y plentyn hawl i chwarae ac ymuno mewn gweithgareddau adloniadol.

Fel arwydd o’r arwyddocâd mae’r Cenhedloedd Unedig yn ei roi ar chwarae plant mae wedi cyhoeddi Sylw Cyffredinol ar Erthygl 31. Mae hwn yn ddatganiad swyddogol sy’n ymhelaethu ar ystyr elfeno GCUHP sydd angen dehongliad neu bwyslais pellach. Nod y Sylw Cyffredinol yw cynyddu pwysigrwydd Erthygl benodol a chynyddu atebolrwydd ymysg gwledydd sydd wedi arwyddo’r Confensiwn. Yn y Sylw Cyffredinol dywed y CU:

‘Mae chwarae a hamdden yn hollbwysig i iechyd a lles plant ac maent yn hybu datblygiad creadigrwydd, y dychymyg, hunan-hyder, hunan-effeithiolrwydd, yn ogystal â sgiliau corfforol, cymdeithasol, gwybyddol a chryfder emosiynol. Maent yn cyfrannu tuag at bob agwedd o ddysgu; maent yn ffordd o gyfranogi mewn bywyd bob dydd ac maent o werth cynhenid i’r plentyn yn nhermau’r pleser a’r mwynhad maent yn eu cynnig … Mae chwarae a hamdden yn hwyluso gallu plant i drafod, adfer gwrthdaro, adennill cydbwysedd emosiynol a gwneud penderfyniadau. Trwy eu cysylltiad â chwarae a hamdden mae plant yn dysgu drwy wneud; maent yn archwilio ac yn profi’r byd o’u cwmpas; arbrofi â syniadau, rolau a phrofiadau newydd a thrwy hynny dysgu i ddeall a llunio eu safle cymdeithasol yn y byd.’6

Datblygiad yr ymennydd ac amddifadedd Yn The Ambiguity of Play mae Sutton-Smith yn dyfynnu gwaith Huttenlocher ar ddelweddu’r ymennydd, gan ensynio bod gan blant dan 10 oed o leiaf ddwywaith y cynhwysedd ymenyddol posibl sydd gan oedolion7. Mae’r gorgynhwysedd yma’n gysylltiedig ag esblygiad dynol gan ei fod yn

galluogi’r ymennydd i gadw’r hyn y mae’n ei alw yn ‘amrywioldeb posibl’.

Awgryma Sutton-Smith y caiff y gorgynhwysedd yma ei ddefnyddio’n fwy effeithlon os y caiff plant brofi amrywiaeth o brofiadau trwy chwarae. Mae’n dadlau, os y bydd plant yn chwarae bydd eu hymennydd yn tyfu’n fwy nag y byddent fel arall, a thrwy hynny wneud gwahaniaeth trawiadol i wella eu cynhwysedd i storio a phrosesu gwybodaeth. Os na chaiff y gorgynhwysedd niwronaidd anferth yma ei ddefnyddio erbyn tua 10 mlwydd oed, bydd yn marw allan. Awgryma hyn bod chwarae’n gysylltiedig yn natblygiad ymennydd plant, ac â esblygiad ei hun.

Mae’n dilyn felly, y bydd canlyniadau difrifol i ddyfodol sydd wedi ei amddifadu o chwarae. Mae Huttenmoser et al yn cyfeirio at yr hyn y maent yn ei ddisgrifio fel ‘plant batri’ ac yn priodoli symptomau amddifadiad chwarae i:

Page 5: Beth yw chwarae a pham ei fod yn bwysig?

‘Ddiffyg chwarae, sy’n ganlyniad i draffig ac ofnau rhieni ynghylch oedolion rheibus, yna bydd plant batri’n aml yn ymosodol ac yn swnian llawer. Erbyn pum mlwydd oed maent yn rhwystredig yn emosiynol ac yn gymdeithasol, yn ei chael yn anodd i gymysgu, yn syrthio’n ôl gyda’u gwaith ysgol ac maent mewn mwy o berygl o lawer o ddioddef o ordewdra.’8

Nodyn: am ragor o wybodaeth am amddifadedd chwarae darllenwch ein taflen wybodaeth Amddifadedd chwarae: ei effaith, y canlyniadau a photensial gwaith chwarae a ysgrifennwyd gan Yr Athro Fraser Brown.

Moddau ymddygiadolMae chwarae’n ffenomenon cymhleth ac amlochrog sydd mewn cytgord â ac sy’n ymateb i anghenion pob unigolyn. Mae rhai damcaniaethwyr wedi diffinio

chwarae fel ymddygiad a ddewisir yn rhydd, a gyfarwyddir yn bersonol ac a gymhellir yn gynhenid9, tra bo eraill yn dadlau bod hyn yn ddiffiniad gor-syml o broses hynod gymhleth.

A ddewisir yn rhyddYn ddelfrydol, dylai’r term dewis rhydd olygu hynny’n union. Mewn gwirionedd, fodd bynnag, dylai olygu mor rhydd â phosibl o ystyried cyfyngiadau diogelwch plant.

A gyfarwyddir yn bersonolMae chwarae’n broses o brofi a methu a chaiff nifer o syniadau gwerthfawr a darnau o wybodaeth eu caffael. Bydd ‘cwtogi’ y broses hon, er enghraifft trwy ddweud wrth blentyn y ‘ffordd gywir’ i ddal morthwyl neu frwsh paent, yn amddifadu plant o lawer o’r syniadau a’r wybodaeth ‘uniongyrchol’ yma.

A gymhellir yn gynhenidGolyga’r term hwn y caiff chwarae ei berfformio at ddim diben nac am ddim gwobr allanol.

Llyfryddiaeth1 Bruce, T. (2011) Cultivating Creativity: for babies, Toddlers and Young Children. Llundain: Hodder.

2 Skynner, R. a Cleese, J. (1983). In McMahon, L. (1992) The Handbook of Play and Therapeutic Play. Hove: Routledge.

3 Bateson, G (1955) A Theory of Play and Fantasy, Psychiatric Research Reports, No 2, 39-51

4 Piaget, J. (1951) Play, Dreams and Imitation in Childhood. Llundain: Routledge a Kegan Paul.

5 Llywodraeth Cymru (2002) Polisi Chwarae. Caerdydd: Llywodraeth Cymru.

6 Pwyllgor y CU ar Hawliau’r Plentyn (2013) General Comment No. 17 (2013) on the right of the child to rest, leisure, play, recreational activities, cultural life and the arts (article 31). CRC/C/GC/17: Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn.

7 Sutton-Smith, B. (1997) The Ambiguity of Play. Cambridge, MA: Gwasg Prifysgol Harvard.

8 Huttenmoser, M. a Degan-Zimmermann, D. (1995) Lebenstraume fur Kinder. Zurich: Swiss Science Foundation.

9 Hughes, B, (1984) ‘Play a Definition by Synthesis in Recommendations on Training in Playwork’. Llundain: JNCTP (1985).

Page 6: Beth yw chwarae a pham ei fod yn bwysig?

Chwarae Cymru yw’r mudiad cenedlaethol dros chwarae plant, elusen annibynnol a gefnogir gan Lywodraeth Cymru i ddiogelu hawl plant i chwarae ac i gynnig cyngor ac arweiniad ar faterion sy’n ymwneud â chwarae.

Tachwedd 2014

© Chwarae Cymru

www.chwaraecymru.org.uk

Elusen cofrestredig, rhif 1068926Cwmni cyfyngedig drwy warant, rhif 3507258Cofrestrwyd yng Nghymru