4
PROSIECT TRAWSNEWID I GYFLOGAETH AAA RHANBARTHOL Chwefror 2013 Yn y rhifyn hwn Cyflwyniad Y diweddaraf am y prosiect Cyfleoedd Gwirioneddol, cystadleuaeth SNAP Cymru a llinell gymorth ymgynghorol Cydraddoldeb newydd. Prentisiaeth i Branden Newyddion gan Elite am y person ifanc diweddaraf i gael gwaith cyflogedig trwy gynllun prentisiaeth. Pwyslais ar Gyrsiau Achrededig Golwg ar werth cyrsiau achrededig, gan ganolbwyntio ar y cwrs Deall Rhyw a Pherthnasoedd Noson Wobrwyo Torfaen Trosolwg o noson wobrwyo lwyddiannus Tîm Both Torfaen. Hyfforddiant a digwyddiadau Rhestr o hyfforddiant a digwyddiadau’r prosiect sydd ar y gweill. Croeso i rifyn diweddaraf newyddlen Cyfleoedd Gwirioneddol. Yn y newyddlen hon mae gennym y diweddaraf gan ein timau both yn Nhorfaen a Chaerffili, yn ogystal â newyddion gan yr asiantaeth cyflogaeth â chefnogaeth Elite. Rydym hefyd wedi bod yn brysur yn llwytho a rhannu fideos o’r prosiect ar ein gwefan ac ar ein cyfrifon YouTube, Facebook a Twitter felly gwnewch yn siŵr eich bod yn cael golwg arnynt! Gallwch weld yr holl fideos yn unrhyw rai o’r ffynonellau hyn neu gallwch fynd y syth at dudalen YouTube Anabledd Dysgu Cymru yn www.youtube.co.uk/LearnDisabilityWales. I unrhyw ddarpar wneuthurwyr ffilmiau yn eich plith, mae SNAP Cymru wedi lansio cystadleuaeth i chwilio am wneuthurwyr ffilmiau ifanc yng Nghymru i’w helpu i hyrwyddo eu app ffôn clyfar newydd gwych Wmff! Nod yr app yw annog pobl ifanc i geisio cefnogaeth a chyngor drostyn nhw’u hunain ac mae ar gael yn Gymraeg a Saesneg i’w lawrlwytho o’r App Store neu Google Play. Os ydych yn credu y gallech chi neu rywun yr ydych yn eu hadnabod gynhyrchu fideo byr sy’n diddanu ac sy’n berthnasol i Wmff! a materion pobl ifanc yna rhowch gynnig ar y gystadleuaeth trwy osod dolen i’ch fideo ar dudalen Twitter Wmff, wedi’i dilyn gan #Wmff! erbyn 31ain Mawrth a gellid chwarae eich fideo ar wefan SNAP Cymru! Am fwy o wybodaeth am y gystadleuaeth, e-bostiwch James yn [email protected]. Yn olaf, gallai fod yn ddefnyddiol i chi wybod bod Llinell Gymorth y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) wedi’i disodli gan y Gwasanaeth Cefnogi Ymgynghorol Cydraddoldeb (EASS). Bydd EASS yn darparu cyngor ac arweiniad ar faterion gwahaniaethu a hawliau dynol i unigolion a sefydliadau a gall gynnig cyngor ar faterion fel: Yr hyn mae’r gyfraith yn ei ddweud a sut mae hyn yn berthnasol i unigolion yn y wlad y maent yn byw ynddi Sut gall sefyllfa gael ei datrys yn anffurfiol ganddyn nhw Darparu cefnogaeth wrth geisio datrys mater(ion) yn anffurfiol Ffoniwch 0808 800 0082 neu anfonwch neges destun at 0808 800 0084 neu am fwy o wybodaeth am y llinell gymorth ewch i www. equalityadvisoryservice.com. Laura Griffiths Swyddog Gwybodaeth y Prosiect

Cyfleoedd Gwirioneddol Newyddlen Chwefror 2013

Embed Size (px)

DESCRIPTION

PROSIECT TRAWSNEWID I GYFLOGAETH AAA RHANBARTHOL

Citation preview

Page 1: Cyfleoedd Gwirioneddol Newyddlen Chwefror 2013

PROSIECT TRAWSNEWID I GYFLOGAETH AAA RHANBARTHOL

Chwefror 2013Yn y rhifyn hwnCyflwyniadY diweddaraf am y prosiect Cyfleoedd Gwirioneddol, cystadleuaeth SNAP Cymru a llinell gymorth ymgynghorol Cydraddoldeb newydd.

Prentisiaeth i BrandenNewyddion gan Elite am y person ifanc diweddaraf i gael gwaith cyflogedig trwy gynllun prentisiaeth.

Pwyslais ar Gyrsiau AchrededigGolwg ar werth cyrsiau achrededig, gan ganolbwyntio ar y cwrs Deall Rhyw a Pherthnasoedd

Noson Wobrwyo TorfaenTrosolwg o noson wobrwyo lwyddiannus Tîm Both Torfaen.

Hyfforddiant a digwyddiadauRhestr o hyfforddiant a digwyddiadau’r prosiect sydd ar y gweill.

Croeso i rifyn diweddaraf newyddlen Cyfleoedd Gwirioneddol. Yn y newyddlen hon mae gennym y diweddaraf gan ein timau both yn Nhorfaen a Chaerffili, yn ogystal â newyddion gan yr asiantaeth cyflogaeth â chefnogaeth Elite. Rydym hefyd wedi bod yn brysur yn llwytho a rhannu fideos o’r prosiect ar ein gwefan ac ar ein cyfrifon YouTube, Facebook a Twitter felly gwnewch yn siŵr eich bod yn cael golwg arnynt! Gallwch weld yr holl fideos yn unrhyw rai o’r ffynonellau hyn neu gallwch fynd y syth at dudalen YouTube Anabledd Dysgu Cymru yn www.youtube.co.uk/LearnDisabilityWales.I unrhyw ddarpar wneuthurwyr ffilmiau yn eich plith, mae SNAP Cymru wedi lansio cystadleuaeth i chwilio am wneuthurwyr ffilmiau ifanc yng Nghymru i’w helpu i hyrwyddo eu app ffôn clyfar newydd gwych Wmff! Nod yr app yw annog pobl ifanc i geisio cefnogaeth a chyngor drostyn nhw’u hunain ac mae ar gael yn Gymraeg a Saesneg i’w lawrlwytho o’r App Store neu Google Play.Os ydych yn credu y gallech chi neu rywun yr ydych yn eu hadnabod gynhyrchu fideo byr sy’n diddanu ac sy’n berthnasol i Wmff! a materion pobl ifanc yna rhowch gynnig ar y gystadleuaeth trwy osod dolen i’ch fideo ar dudalen Twitter Wmff, wedi’i dilyn gan #Wmff! erbyn 31ain Mawrth a gellid chwarae eich fideo ar wefan SNAP Cymru! Am fwy o wybodaeth am y gystadleuaeth, e-bostiwch James yn [email protected] olaf, gallai fod yn ddefnyddiol i chi wybod bod Llinell Gymorth y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) wedi’i disodli gan y Gwasanaeth Cefnogi Ymgynghorol Cydraddoldeb (EASS). Bydd EASS yn darparu cyngor ac arweiniad ar faterion gwahaniaethu a hawliau dynol i unigolion a sefydliadau a gall gynnig cyngor ar faterion fel:

Yr hyn mae’r gyfraith yn ei ddweud a sut mae hyn yn berthnasol • i unigolion yn y wlad y maent yn byw ynddiSut gall sefyllfa gael ei datrys yn anffurfiol ganddyn nhw• Darparu cefnogaeth wrth geisio datrys mater(ion) yn anffurfiol•

Ffoniwch 0808 800 0082 neu anfonwch neges destun at 0808 800 0084 neu am fwy o wybodaeth am y llinell gymorth ewch i www.equalityadvisoryservice.com.

Laura GriffithsSwyddog Gwybodaeth y Prosiect

Page 2: Cyfleoedd Gwirioneddol Newyddlen Chwefror 2013

Yn ddiweddar mae Branden, person ifanc sydd wedi bod yn gweithio gyda thîm both Cyfleoedd Gwirioneddol yn Rhondda Cynon Taf wedi sicrhau lle ar gynllun prentisiaeth o ganlyniad i hyfforddiant a chefnogaeth gan Asiantaeth Cyflogaeth â Chefnogaeth Elite.

2

Prentisiaeth i Branden

Branden yn gweithio’n galed!

Cyfeiriwyd Branden i Elite gan y tîm both ym mis Ionawr 2012. Trefnodd Elite i ymweld â Branden a’i rieni yn ei gartref i drafod y gwasanaethau y gallent eu cynnig iddo. Ar ôl y drafodaeth wreiddiol hon, cafodd Branden ei asesu trwy ddefnyddio offeryn proffil galwedigaethol gan Elite i ddarganfod mwy am Branden a’r math o waith a gweithgareddau yr oedd ganddo ddiddordeb ynddynt. O hyn, rhoddwyd cynlluniau yn eu lle i ddatblygu hyder a sgiliau Branden.

Ym mis Mawrth 2012 trefnwyd lleoliad i Branden yn Baileys Building Supplies Ltd, oedd yn golygu y byddai’n cwblhau 10 sesiwn dros 5 wythnos. Derbyniodd Branden hyfforddiant teithio i’w helpu i deithio’n annibynnol yn ôl ac ymlaen i’r gwaith a chefnogaeth 1 i 1 tra roedd ar ei leoliad gan Hyfforddwr Gwaith Elite. Yn ystod y cyfnod hwn roedd Branden hefyd wedi llwyddo i gwblhau’r gwaith papur perthnasol er mwyn iddo ennill tystysgrif Profiad Gwaith Agored Cymru.

Ym mis Rhagfyr 2012 cododd gyfle yn Vision Products, ym Mhontyclun, ar gyfer lleoliad profiad

WoBrWyo torfaenAr 7 Chwefror 2013, cynhaliodd tîm both Torfaen eu noson wobrwyo Cyfleoedd Gwirioneddol gyntaf i ddathlu cyflawniadau pobl ifanc o Dorfaen.

Derbyniodd dros 30 o bobl ifanc sydd wedi bod yn gweithio gyda thîm both Torfaen eu tystysgrifau AQA/OCN ar ôl llwyddo i gwblhau cyrsiau mewn pynciau fel Adeiladu Hyder, Diogelwch Ffyrdd, Ymwybyddiaeth o Fwlio a’i effeithiau, Adnabod a Rheoli Teimladau a Rheoli Arian.

gwaith yn yr Adran Adnewyddu a nododd Elite fod Branden yn ymgeisydd addas. Gweithiodd yn dda iawn yno a llwyddodd i integreiddio i’r gweithlu yn gyflym iawn. O ganlyniad i agwedd bositif Branden cafodd gynnig lle ar Gynllun Prentisiaeth 12 mis Vision Products. Ar 27ain Rhagfyr 2012 dechreuodd Branden ar ei ddiwrnod cyntaf mewn gwaith cyflogedig! Hoffai Elite longyfarch Branden ar ei lwyddiant.

Daeth rhieni a theuluoedd i gefnogi’r noson ac i weld eu perthynas yn derbyn eu gwobr haeddiannol. Derbyniodd tri rhiant dystysgrifau hefyd am gwblhau’r Cwrs Mentor Rhieni yn llwyddiannus. Roedd rhieni yn falch iawn o gyflawniad eu plant yn ac yn edrych ymlaen at y noson wobrwyo nesaf!

Page 3: Cyfleoedd Gwirioneddol Newyddlen Chwefror 2013

3

Hefyd yn bresennol ar y noson oedd y gwesteion anrhydeddus y Cynghorydd Lleol Mary Barnett, Lesly Bush, Pennaeth Ysgol Arbennig Crownbridge ac Angela Kenvyn, Rheolwr Prosiect Cyfleoedd Gwirioneddol yr oedd pob un ohonynt wedi cyflwyno gwobrau. Dechreuwyd y noson gydag areithiau gan y gwesteion anrhydeddus, cyn mynd ymlaen at y gwobrau. Yna bu’r bobl ifanc yn dathlu eu cyflawniadau mewn disgo gydag un o’r rhieni yn gweithredu fel DJ. Cefnogwyd y digwyddiad gan wirfoddolwyr a ddarparwyd gan y tîm gwasanaeth ieuenctid lleol.

Dywedodd staff o dîm both Torfaen mai rhan orau’r noson oedd gweld yr holl bobl ifanc gwahanol o wahanol ysgolion yn cymdeithasu gyda’i gilydd.

Cyfranogwyr o Dorfaen gyda Rheolwr y Prosiect, Angela Kenvyn.

Roedd y disgo mor llwyddiannus bydd y tîm yn edrych ar y posibilrwydd o gynnal disgos yn fwy rheolaidd. Llongyfarchiadau i bawb a gafodd wobr ac i Dîm Both Torfaen am drefnu digwyddiad dathlu cymunedol mor arbennig.

PWyslais ar Gyrsiau achredediG

Mae Cyfleoedd Gwirioneddol yn cyflwyno rhestr helaeth o gyrsiau achrededig i bobl ifanc, teuluoedd, mentoriaid cymheiriaid a gweithwyr proffesiynol i gefnogi pobl ifanc a’r bobl sy’n rhan o’u bywydau i weithio tuag at fywyd annibynnol fel oedolion. Gallwch weld y rhestr lawn o gyrsiau ar ein gwefan yn www.realopportunities.org.uk/parents/accredited-courses. Mae’r cyrsiau yn amrywio o reoli ymddygiad plant, ymwybyddiaeth anabledd a sgiliau mentora cymheiriaid i bobl mewn rolau cefnogi i hyfforddiant teithio, rheoli dicter a gofal a hylendid personol i bobl ifanc.

Mae’r cwrs Deall Rhyw a Pherthnasoedd yn galluogi pobl ifanc ar y prosiect i gael mynediad i wybodaeth ar berthnasoedd, ymddygiad priodol, newidiadau corfforol ac atal cenhedlu mewn amgylchedd rhyngweithiol a diogel. Mae cynnwys y cwrs wedi’i deilwra at anghenion a galluoedd y dysgwyr ac yn defnyddio adnoddau priodol i hybu dysgu. Cafodd y cwrs ei hwyluso mewn llawer o ysgolion uwchradd lleol, yn ystod gwyliau ysgol ac yn ystod gwaith un i un ac mae wedi bod yn boblogaidd gyda chyfranogwyr, rhieni ac athrawon.

Dywedodd Ffion, cyfranogwr sydd wedi cwblhau’r cwrs yng Nghaerffili, “Roedd yn gwrs gwych! Roedd yn ddiddorol iawn ac fe ddysgais lawer. Atebodd

lawer o gwestiynau roedd ofn arnaf eu gofyn. Fe wnes i fwynhau cwrdd â llawer o bobl newydd ac roedd y gweithgareddau yn hwyl”.

Nododd adroddiad ESTYN diweddar ar Ysgol a Chanolfan Adnoddau Trinity Fields yng Nghaerffili fod ‘Disgyblion hŷn yn elwa ac yn ennill achrediad o gwrs rhyw a pherthnasoedd gwerthfawr, sydd wedi’i deilwra at eu hanghenion penodol. Mae disgyblion o bob gallu yn dysgu sut i ymwneud ag eraill, a yw ymddygiad yn briodol neu’n amhriodol a materion fel cydsyniad. Mae hyn yn rhoi dealltwriaeth gliriach iddynt o sut i gadw’u hunain yn ddiogel ac i beidio â rhoi eu hunain nac eraill mewn perygl. Mae rhieni yn gwerthfawrogi’r gefnogaeth ac yn cydnabod dealltwriaeth well gan eu plant am faterion rhywiol. Mae’r gwaith achrededig hwn yn arwain y sector.’

Am fwy o wybodaeth am gyrsiau achrededig gallwch gysylltu â’ch tîm both lleol, neu cysylltwch â’r tîm hyfforddiant a gwybodaeth ar 01639 635650 a all eich cyfeirio at y bobl iawn. Mae’r holl fanylion cyswllt ar gael ar ein gwefan yn www.realopportunities.org.uk/meet-the-team

Page 4: Cyfleoedd Gwirioneddol Newyddlen Chwefror 2013

4

I weld eich stori yn y newyddlen, neu am fwy o wybodaeth cysylltwch â Laura ar 01639 635650 neu yn [email protected]

Hyfforddiant a digwyddiadau

I archebu lle ar unrhyw rai o’r digwyddiadau neu seminarau hyfforddiant canlynol cysylltwch â’r tîm gwybodaeth a hyfforddiant yn [email protected] neu ar 01639 635650

Dosbarth Meistr ProfedigaethDyddiad: 7fed Mawrth 2013Amser: 10:00am - 1:00pmLleoliad: Eglwys y Glannau AbertaweI: Staff y Prosiect

Rhwydwaith Cyflogaeth a ChyfleoeddDyddiad: 8fed Mawrth 2013Amser: 10:00am - 1:00pmLleoliad: Canolfan Adnoddau Cymunedol Forge FachI: Staff y Prosiect

Rhwydwaith CynhwysiadDyddiad: 11eg Mawrth 2013Amser: 10:00am - 1:00pmLleoliad: Canolfan Adnoddau Cymunedol Forge FachI: Staff y Prosiect

Dosbarth Meistr Hysbysrwydd y Farchnad LafurDyddiad: 12fed Mawrth 2013Amser: 10:00am - 12:00pmLleoliad: Canolfan Adnoddau Cymunedol Forge FachI: Staff y Prosiect

Cyflwyniad i PCP Dyddiad: 15fed Mawrth 2013Amser: 10:00am - 4:00pmLleoliad: BCLC, Pen-y-Bont ar OgwrI: Pen-y-Bont ar Ogwr, Merthyr a Chastell-nedd Port Talbot

Dosbarth Meistr Ymwybyddiaeth CyffuriauDyddiad: 21st March 2013Amser: 1:00pm-4:00pmLleoliad: SANDS CymruI: Staff y Prosiect

Cynhadledd StaffDyddiad: 16eg Ebrill 2013Amser: 9:00am – 4:30pmLleoliad: Orenfa Margam, Port TalbotI: Holl staff y prosiect

Rhwydwaith Cynllunio at y DyfodolDyddiad: 19eg Ebrill 2013 Amser: 10:00am – 1:00pmLleoliad: CRC Forge FachFor: PCP/Cyswllt Teuluoedd a Sgiliau Byw’n Annibynnol

Dosbarth Meistr Hawliau a Chyfrifoldebau PlantDyddiad: 2il Mai 2013Amser: 10:00am-1:00pmLleoliad: Canolfan Adnoddau Cymunedol Forge FachI: Staff y Prosiect

Dosbarth Meistr Trais DomestigDyddiad: 13eg Mai 2013Amser: 9:30am-1:00pmLleoliad: Canolfan Adnoddau Cymunedol Forge FachI: Staff y Prosiect