19
Seicoleg Safon UG 1

hwb-team-storage.s3-eu-west-1.amazonaws.com€¦  · Web viewYn y llyfr hwn mae Dr. Sacks yn adrodd hanes cleifion sydd ar goll ym myd rhyfedd anhwylderau niwrolegol, byd na allant

  • Upload
    others

  • View
    0

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

Page 1: hwb-team-storage.s3-eu-west-1.amazonaws.com€¦  · Web viewYn y llyfr hwn mae Dr. Sacks yn adrodd hanes cleifion sydd ar goll ym myd rhyfedd anhwylderau niwrolegol, byd na allant

Seicoleg Safon UG

1

Page 2: hwb-team-storage.s3-eu-west-1.amazonaws.com€¦  · Web viewYn y llyfr hwn mae Dr. Sacks yn adrodd hanes cleifion sydd ar goll ym myd rhyfedd anhwylderau niwrolegol, byd na allant

Beth yw seicoleg?

Gellir diffinio seicoleg fel gwyddor y meddwl. Y meddwl dynol yw ffynhonnell pob syniad ac ymddygiad, ac mae'n dra chymhleth.

Ond beth yw'r meddwl, ble mae o a sut allwn ni astudio rhywbeth sydd mor gymhleth a rhyfeddol? Ni allwn weld rhywun yn meddwl, nac arsylwi ar eu hemosiynau, eu hatgofion, eu hamgyffred, eu breuddwydion. Felly, sut y mae seicolegwyr yn mynd ati i astudio'r meddwl?

Mewn gwirionedd, mae seicolegwyr yn defnyddio dulliau tebyg i ddulliau gwyddonwyr eraill. Maen nhw'n astudio'r hyn maen nhw'n gallu weld, yn yr achos hwn, ymddygiad. Mae seicolegwyr yn defnyddio ymddygiad dynol fel cliw i sut y mae'r meddwl yn gweithio. Er nad ydym yn gallu arsylwi ar y meddwl yn uniongyrchol, mae pob peth rydym yn ei wneud, ei feddwl, ei deimlo a'i ddweud dan ddylanwad y meddwl. Felly, ymddygiad dynol yw data craidd seicolegwyr ar gyfer datblygu a phrofi eu damcaniaethau am sut y mae'r meddwl yn gweithio.

Nod seicoleg yw egluro ymddygiad, gan wneud hyn o nifer o bersbectifau neu ymagweddau gan gynnwys fel a ganlyn:

Ymagwedd gwybyddol Ymagwedd biolegol Ymagwedd ymddygiadol Ymagwedd seicodynamig Ymagwedd positif Ymagwedd datblygiadol Ymagwedd cymdeithasol

Mae pob ymagwedd yn cynnig eglurhad gwahanol, a gwrthgyferbyniol yn aml, am ymddygiad. Yn ystod y cwrs UG, byddwch yn astudio'r rhan fwyaf o'r ymagweddau hyn ynghyd â thystiolaeth i gefnogi pob un. Daw'r rhan fwyaf o'r dystiolaeth o astudiaethau ymchwil a byddwch hefyd yn dysgu am y dulliau ymchwil y mae seicolegwyr yn eu defnyddio i gynnal yr astudiaethau hyn. Cewch ragor o fanylion ynghylch y fanyleb UG yn nes ymlaen yn y llyfryn hwn.

I lawer ohonoch, bydd seicoleg yn bwnc newydd nad ydych wedi'i astudio o'r blaen. Felly, byddai'n hynod o fuddiol i chi ymgyfarwyddo â'r pwnc a'r cynnwys, ac achub y blaen trwy gwblhau rhai o'r tasgau yn y llyfryn hwn.

2

Page 3: hwb-team-storage.s3-eu-west-1.amazonaws.com€¦  · Web viewYn y llyfr hwn mae Dr. Sacks yn adrodd hanes cleifion sydd ar goll ym myd rhyfedd anhwylderau niwrolegol, byd na allant

Llyfrau diddorol i'w darllen Yn y llyfr hwn mae Dr.Sacks yn adrodd hanes cleifion sydd ar goll ym myd rhyfedd anhwylderau niwrolegol, byd na allant ddianc ohono mae'n debyg: pobl sy'n dioddef gan ddryswch meddwl canfyddiadol a deallusol; cleifion sydd wedi colli eu cof a'r rhan fwyaf o'u gorffennol; unigolion na allant mwyach adnabod pobl a gwrthrychau cyffredin; sy'n gwingo neu wneud ystumiau neu weiddi geiriau anweddus heb reolaeth arnyn nhw eu hunain; pobl sydd wedi'u diystyru fel bod yn araf eu meddwl, ond eto sydd â thalentau artistig neu fathemategol anhygoel.

Llyfr o 1899 yw The Interpretation of Dreams gan Sigmund Freud, sylfaenydd dadansoddi seicolegol. Yn y llyfr, mae'r awdur yn cyflwyno ei ddamcaniaeth ar yr anymwybod, ac yn trafod yr hyn a fyddai'n cael ei adnabod yn ddiweddarach fel cymhleth Oedipws.

Mae The Brain that Changes Itself yn mynd i'r afael â'r darganfyddiad chwyldroadol y gall yr ymennydd dynol newid ei hunan, fel yr adroddir yn hanesion y gwyddonwyr, y meddygon a'r cleifion sydd wrth wraidd y trawsnewidiadau syfrdanol hyn. Heb lawdriniaeth neu feddyginiaeth, maen nhw wedi defnyddio gallu'r ymennydd i newid, y gallu na wyddai neb amdano cyn hyn. Roedd rhai yn gleifion oedd â phroblemau ymennydd y credid na ellid eu gwella; roedd eraill yn unigolion nad oedd ganddynt broblemau penodol ond a oedd am wella swyddogaeth yr ymennydd neu ei gynnal a'i gadw wrth iddyn nhw heneiddio.

Bydd darllen y llyfr hwn yn eich gwneud chi'n llai sicr o'ch hunan - ac mae hynny'n beth da. Yn The Invisible Gorilla, mae Christopher Chabris a Daniel Simons, sef dyfeiswyr un o arbrofion mwyaf enwog y byd seicoleg, yn defnyddio straeon rhyfeddol a chanfyddiadau gwyddonol croes i'r disgwyl i arddangos gwirionedd pwysig: nid yw ein meddyliau'n gweithio fel y tybiwn ni. Credwn ein bod yn gweld ein hunain a'r byd fel maen nhw go iawn, ond rydym, mewn gwirionedd, yn colli llawer. Cyfuna Chabris a Simons waith ymchwilwyr eraill â'u canfyddiadau eu hunain ar sylw, dirnadaeth, cof ac ymresymu i ddatgelu sut y mae greddf ddiffygiol yn aml yn ein harwain i helynt.

Nofel ddirgelwch ac am lofruddiaeth yw The Curious Incident of the Dog in the Night-Time, sy'n wahanol i bob un arall o'i bath. Y ditectif yw Christopher Boone, ac ef sydd hefyd yn adrodd y stori. Mae Christopher yn bymtheg mlwydd oed ac mae Syndrom Asperger arno. Fe ŵyr lawer iawn am fathemateg, ond ychydig iawn am fodau dynol. Mae wrth ei fodd efo rhestrau, patrymau a'r gwirionedd. Mae'n gas ganddo felyn a brown a chael ei gyffwrdd. Nid yw erioed wedi bod yn bellach na phen y ffordd ar ei ben ei hun, ond pan ddaw o hyd i gi cymydog wedi'i lofruddio mae'n cychwyn ar daith frawychus fydd yn troi ei fyd â'i ben i lawr.

3

Page 4: hwb-team-storage.s3-eu-west-1.amazonaws.com€¦  · Web viewYn y llyfr hwn mae Dr. Sacks yn adrodd hanes cleifion sydd ar goll ym myd rhyfedd anhwylderau niwrolegol, byd na allant

Gellir cael dealltwriaeth o ganrif mewn sawl ffordd - o ran ei dyfeisiau, ei throseddau neu ei gwaith celf. Yn Opening Skinner's Box, mae Lauren Slater yn mynd ati i ymchwilio i arbrofion seicolegol allweddol yr ugeinfed ganrif trwy gyfres o ddeg o hanesion rhyfeddol, doniol ac arswydus ar brydiau. Gan ddechrau gyda sylfaenydd arbrofi gwyddonol modern, B.F. Skinner, mae Slater yn olrhain datblygiad pryderon mwyaf y can mlynedd diwethaf - ewyllys rydd, awdurdodaeth, trais, cydymffurfio a moesoldeb. O'r golwg cyn hyn mewn llyfrau academaidd, mae'r arbrofion hyn, sy’n feiddgar yn aml, i'w gweld bellach yn eu cyd-destun llawn ac fe'u hadroddir fel straeon cyfoethog o ran plot, ffraethineb a chymeriadau.

Ffilmiau difyr i'w mwynhau 12 Angry MenPynciau: Datblygiad cymdeithasol, moesol Plot: Mae grŵp amrywiol o 12 rheithiwr yn ystyried tynged Latino 18 mlwydd oed sydd wedi'i gyhuddo o lofruddio ei dad. Wrth i un rheithiwr anghytûn geisio darbwyllo'r lleill nad yw'r achos mor syml ag yr ymddengys, daw rhagfarn a rhagdybiaethau unigol am yr achos i'r amlwg.

 28 Days

Pynciau: Anhwylderau camddefnyddio sylweddau/alcoholiaethPlot: Mae Sandra Bullock yn chwarae rhan colofnydd papur newydd sy'n dewis mynd i ganolfan adfer yn lle mynd i'r carchar am dwyn limwsîn ym mhriodas ei chwaer a'i falu mewn gwrthdrawiad. Ar y dechrau, mae'n gwadu ei bod yn alcoholig ac yn gwrthod triniaeth. Ond ymhen amser, a chyda cymorth cyd-gleifion, mae'n dechrau edrych ar ei bywyd a derbyn ei bod yn alcoholig ac yn gaeth i feddyginiaeth ar bresgripsiwn.

A Beautiful MindPynciau: Seicopatholeg, anhwylderau seicotig/sgitsoffreniaPlot: Yn seiliedig ar fywyd a gwaith yr athrylith fathemategol a'r enillydd Gwobr Nobel John Forbes Nash, sy'n dioddef o salwch meddwl difrifol, enillodd y ffilm hon bedair Gwobr Academi, gan gynnwys y Ffilm Orau. Mae'r ffilm yn taflu goleuni ar fywyd a dioddefaint unigolyn sy'n byw efo sgitsoffrenia. Bydd myfyrwyr seicoleg yn sylwi bod Nash yn arddangos llawer o'r symptomau a ddefnyddir i wneud diagnosis o sgitsoffrenia, a gallant ddilyn dwyster cynyddol y

rhain a'r effaith ar Nash a'r rheini o'i gwmpas. Mae'r ffilm hefyd yn dangos y dasg anodd o reoli'r anhwylder a phwysigrwydd cefnogaeth gymdeithasol.

 Good Will HuntingPynciau: Seicoleg gymdeithasol a datblygiadol, triniaeth, dawnusrwydd Plot: Porthor ifanc ac ystyfnig yw Will Hunting sydd â gallu mathemategol eithriadol. Ac yntau wedi'i gam-drin pan oedd yn blentyn mae wedi gwrthdaro â'r gyfraith ar sawl achlysur, ac nid yw'n sylweddoli ei botensial. Gyda chymorth athro seicoleg mae o'r diwedd yn derbyn y cwnsela sydd ei angen arno, fydd yn fodd iddo ddod o hyd i'w hunaniaeth a newid ei fywyd. Mae'r ffilm hon yn

4

Page 5: hwb-team-storage.s3-eu-west-1.amazonaws.com€¦  · Web viewYn y llyfr hwn mae Dr. Sacks yn adrodd hanes cleifion sydd ar goll ym myd rhyfedd anhwylderau niwrolegol, byd na allant

darlunio perthynas therapi anodd rhwng cleient amwys a chwnselydd sydd â dulliau braidd yn anarferol.

 IdentityPynciau: Anhwylderau seicotig, seicoleg fforensig Plot: Mae grŵp o ddieithriaid o wahanol gefndiroedd yn cael eu gorfodi i ddod o hyd i loches mewn motél ddiarffordd yn anialwch Nevada yn ystod cenllif o law. Lleddir hwy, fesul un. Yn y cyfamser, mewn stori gysylltiedig, mae seiciatrydd yn ceisio profi bod dyn a gyhuddir o lofruddiaeth yn ddieuog. Mae a wnelo Identity ag anhwylder unigryw a dadleuol. Mae'n chwarae ar rai camsyniadau ynghylch yr anhwylder, ond mae'n awgrymu therapi diddorol. Mae hefyd yn ddirgelwch cyffrous.

MementoPynciau: Niwroseicoleg, colli cof/amnesia Plot: Cyn-ymchwilydd yswiriant yw Leonard Shelby sy'n cael anaf pen wrth geisio atal llofruddiaeth ei wraig, ac mae'n awr wedi colli ei gof. Mae'n dysgu sut i ymdopi â'i gyflwr trwy ddefnyddio nodiadau a thatŵs wrth iddo geisio dod o hyd i'r llofrudd a dial am farwolaeth ei wraig. Mae a wnelo Memento ag unigolyn yn colli ei gof tymor byr ac yn ceisio datrys dirgelwch. Mae'n fanwl gywir mewn sawl ffordd o ran sut y byddai bywyd i rywun na all gofio am fwy na rhai munudau neu eiliadau ar y tro. Mae'n hynod ddiddorol ar ystyr gwybyddol. Mae hefyd yn deimladwy ac yn cyffwrdd y galon (ac yn gyffrous).

On Golden PondPynciau: Niwroseicoleg/dementia, perthynas deuluol/priodasol. Plot: Mae’r ffilm hon, a enillodd Wobr yr Academi am yr Actor Gorau a'r Actores Orau, yn adrodd hanes cwpl oedrannus o'r enw Norman ac Ethel Thayer sy'n dychwelyd i'w bwthyn haf tra maen nhw'n delio efo cof diffygiol Norman, cychwyn heneidd-dra a'i berthynas anodd â'i ferch. Mae'r ffilm yn llawn archwiliadau gwych o lawer o agweddau sylfaenol ar y natur ddynol gan

gynnwys perthynas deuluol, heneiddio, marwolaeth a marw, twf personol a maddeuant.           

One Flew Over the Cuckoo’s NestPynciau: Anhwylderau personoliaeth/tymer, seicoleg fforensig, triniaeth Plot: Mae Randle McMurphy wedi troseddu yn y gorffennol. Er mwyn dianc rhag ei ddedfryd ddiweddaraf o garchar mae'n pledio gwallgofrwydd fel y bydd yn cael ei anfon i sefydliad meddwl, ble y cred y bydd yn fwy cyfforddus na mewn carchar. Ar ôl cyrraedd, mae'n casglu'r cleifion eraill ynghyd mewn gwrthryfel yn erbyn nyrs orthrymus, Nyrs Ratched. Mae'r clasur hwn, sydd wedi ennill Gwobrwyon Academi, yn ffilm y mae

rhaid i fyfyrwyr seicoleg ei gweld. Mae'n cynnig golwg aflonyddol ar ysbytai meddwl yn ystod y 1960u, gan gynnwys electrotherapi fel triniaeth a math o seicotherapi grŵp camweithredol .

 Ordinary PeoplePynciau: Perthynas deuluol, straen ac ymdopi, anhwylderau tymer, therapi Plot: Pan mae ei frawd hŷn yn marw'n annisgwyl, mae euogrwydd a galar yn

5

Page 6: hwb-team-storage.s3-eu-west-1.amazonaws.com€¦  · Web viewYn y llyfr hwn mae Dr. Sacks yn adrodd hanes cleifion sydd ar goll ym myd rhyfedd anhwylderau niwrolegol, byd na allant

gyrru Conrad i geisio ei ladd ei hun. Ar ôl treulio chwe mis mewn ysbyty meddwl mae'n dychwelyd gartref, yn gweld seiciatrydd ac yn ceisio byw ei fywyd eto. Mae ei rieni ill dau yn ymateb yn wahanol i'r trawma; mae ei dad yn ceisio ymdopi â'i alar tra bo ei fam yn gwrthod derbyn, yn ddig ac yn dioddef o iselder. Mae'r ffilm yn taflu goleuni realistig ar sut y mae un teulu yn ymdopi â thrawma, a'r uned deuluol yn torri i lawr o ganlyniad. Mae'n ddarlun cadarnhaol o therapydd a gwerth therapi o ran helpu Conrad a'i dad i wella.

Rain ManPynciau: Niwroseicoleg/awtistiaeth, perthynas deuluol/priodasol. Plot: Hanes dihiryn o'r enw Charlie Babbit a'i frawd Raymond yw Rain Man. Nid yw Charlie yn gwybod am ei frawd, sy'n savant awtistig, ac yn byw mewn sefydliad pwrpasol. Pan mae tad y ddau frawd yn marw ac yn gadael ei gyfoeth mewn ymddiriedolaeth i Raymond, mae Charlie yn creu cynllwyn i geisio gwarchodaeth o Raymond a rheolaeth o'r arian yn ystod trip traws gwlad mewn car. Roedd y ffilm hon yn taflu goleuni

ar awtistiaeth mewn cyfnod pan nad oedd llawer o ymwybyddiaeth o'r syndrom. Mae Raymond yn arddangos llawer o ymddygiadau nodweddiadol awtistiaeth gweithredu lefel uchel.

6

Page 7: hwb-team-storage.s3-eu-west-1.amazonaws.com€¦  · Web viewYn y llyfr hwn mae Dr. Sacks yn adrodd hanes cleifion sydd ar goll ym myd rhyfedd anhwylderau niwrolegol, byd na allant

 Regarding HenryPynciau: Niwroseicoleg, amnesia ôl-redol, perthynas deuluol/priodasol. Plot: Mae Henry yn gyfreithiwr uchelgeisiol gaiff ei saethu yn ei ben yn ystod lladrad. O ganlyniad, mae'n cael anaf i'r ymennydd. Daw o goma gydag amnesia ôl-redol. Wrth iddo frwydro i gael ei lafaredd yn ei ôl, gwella ei allu i symud ac adfer ei gof mae ei werthoedd yn newid, ac mae'n creu bywyd newydd i'w hunan a'i deulu. Tra bod achosion bywyd go iawn o

amnesia ôl-redol yn eithaf prin mewn gwirionedd, mae ffilmiau yn tueddu i bortreadu hyn fel rhywbeth eithaf cyffredin; o'r herwydd, ceir anghywirdeb yn aml. Er gwaethaf hyn, mae'r ffilm hon yn llwyddo i ddangos sut y gall amnesia ôl-redol gael effaith sylweddol ar unigolion a'u teuluoedd, er da neu er drwg.

Reign Over Me

Pynciau: anhwylder straen wedi trawma Plot: Mae’r galar ddaw i ran Charlie Fineman ar ôl colli ei deulu yn ymosodiad 11 Medi ar ddinas Efrog Newydd yn achosi iddo roi'r gorau i'w swydd ac ynysu ei hunan. Yn dilyn cyfarfod ei hen gyfaill coleg Alan Johnson ar hap, maen nhw'n ailgynnau'r cyfeillgarwch, ac mae ei gyfaill yn ei helpu i wynebu ei orffennol ac ail-greu ei fywyd. Mae Reign Over Me yn ffilm ddifyr, yn gyforiog o chwerthin a golygfeydd mwy difrifol sy'n procio'r

meddwl, ond mae hefyd yn dangos rhai o'r ffyrdd y gall anhwylder straen wedi trawma effeithio ar fywyd unigolyn, a phawb o'i gwmpas.

7

Page 8: hwb-team-storage.s3-eu-west-1.amazonaws.com€¦  · Web viewYn y llyfr hwn mae Dr. Sacks yn adrodd hanes cleifion sydd ar goll ym myd rhyfedd anhwylderau niwrolegol, byd na allant

Ted Talks i brocio'r meddwl History v Sigmund Freud

https://www.ted.com/talks/todd_dufresne_history_vs_sigmund_freud?utm_campaign=tedspread&utm_medium=referral&utm_source=tedcomshare

Philip Zimbardo: The Psychology of Evil

https://www.ted.com/talks/philip_zimbardo_the_psychology_of_evil

Martin Seligman: The New Era of Positive Psychology

https://www.ted.com/talks/martin_seligman_the_new_era_of_positive_psychology

Mihaly Csikszentmihalyi: Flow

https://www.ted.com/speakers/mihaly_csikszentmihalyi

Peter Mende-Siedlecki: First Impressions

https://www.ted.com/talks/peter_mende_siedlecki_should_you_trust_your_first_impression

Peggy Andover: The difference between Classical and Operant Conditioning

https://www.ted.com/talks/peggy_andover_the_difference_between_classical_and_operant

Elizabeth Loftus: How Reliable is your Memory?

https://www.ted.com/talks/elizabeth_loftus_how_reliable_is_your_memory?utm_campaign=tedspread&utm_medium=referral&utm_source=tedcomshare

Helen Fisher: Evolution of Human Emotions

https://www.ted.com/speakers/helen_fisher

Jim Fallon: Exploring the mind of a Killer

https://www.ted.com/talks/jim_fallon_exploring_the_mind_of_a_killer?utm_campaign=tedspread&utm_medium=referral&utm_source=tedcomshare

Eleanor Nelsen: Would you Sacrifice one Person to Save Five?

https://www.ted.com/talks/eleanor_nelsen_would_you_sacrifice_one_person_to_save_five

Steven Pinker: Human Nature and the Blank Slate https://www.ted.com/talks/steven_pinker_human_nature_and_the_blank_slate?utm_campaign=tedspread&utm_medium=referral&utm_source=tedcomshare

Dawn Maslar: The Science of Attraction

https://www.ted.com/talks/dawn_maslar_the_science_of_attraction

Tom Griffiths: Three Ways to make Better Decisions by Thinking like a Computer

https://www.ted.com/talks/tom_griffiths_3_ways_to_make_better_decisions_by_thinking_like_a_computer?utm_campaign=tedspread&utm_medium=referral&utm_source=tedcomshare

8

Page 9: hwb-team-storage.s3-eu-west-1.amazonaws.com€¦  · Web viewYn y llyfr hwn mae Dr. Sacks yn adrodd hanes cleifion sydd ar goll ym myd rhyfedd anhwylderau niwrolegol, byd na allant

Manyleb Seicoleg Safon UG CBAC

Uned 1: Seicoleg: O'r Gorffennol i'r Presennol

Arholiad ysgrifenedig: 1 awr 30 munud

20% o'r cymhwyster Safon Uwch (50% o'r cymhwyster UG)

Pwrpas yr uned hon yw rhoi sylfaen gadarn yn rhai o elfennau craidd sylfaenol seicoleg. Y bwriad yw caniatáu i'r dysgwr, drwy astudio ymchwil clasurol, ddod i werthfawrogi bod seicoleg yn parhau i ddatblygu ac esblygu. Ni ddylid diystyru'r syniadau cynnar, yn hytrach na hynny, dylid eu hastudio mewn cyd-destun gan ystyried y datblygiadau a wnaed mewn blynyddoedd diweddarach.

Gan gyfeirio at bob un o'r pum ymagwedd seicolegol (biolegol, seicodynamig,ymddygiadol, gwybyddol a phositif) bydd yn ofynnol i ddysgwyr wneud y canlynol:

gwybod a deall y tybiaethau

cymhwyso'r tybiaethau i egluro ffurfio perthynas

gwybod a deall sut mae'n bosibl defnyddio'r ymagwedd mewn therapi (un therapi i bob ymagwedd)

gwybod a deall prif elfennau'r therapi dan sylw

gwerthuso'r therapi (gan gynnwys ei effeithlonrwydd ac ystyriaethau moesegol)

gwerthuso'r ymagwedd (gan gynnwys cryfderau, gwendidau a'i chymharu â'rpedair ymagwedd arall)

gwybod, deall a mynegi barn ar ddarn clasurol o dystiolaeth (gan gynnwysmethodoleg, dulliau gweithredu, canfyddiadau, casgliadau a materion moesegol a goblygiadau cymdeithasol)  

Uned 1: Cynnwys 

Ymagwedd   Tybiaethau ac ymddygiad i'w egluro  

Therapi   Ymchwil clasurol  

Biolegol dylanwadau esblygiadol

lleoliad swyddogaeth yr

Therapi cyffuriau neu

Seicolawdriniaeth

Raine, A., Buchsbaum, M. and LaCasse, L. (1997) Brain abnormalities in

9

Page 10: hwb-team-storage.s3-eu-west-1.amazonaws.com€¦  · Web viewYn y llyfr hwn mae Dr. Sacks yn adrodd hanes cleifion sydd ar goll ym myd rhyfedd anhwylderau niwrolegol, byd na allant

ymennydd

niwrodrosglwyddyddion ffurfio perthynas (brodyr a chwiorydd, er enghraifft)

murderers indicated by positron emission tomography. 

Seicodynamig dylanwad profiadau yn ystod plentyndod

y meddwl anymwybodol

personoliaeth dridarn ffurfio perthynas (mam a'i phlentyn, er enghraifft)

Dadansoddi breuddwydion

neuSeicotherapi dadansoddi grŵp

Bowlby, J. (1944) Forty-four juvenile thieves: Their characters and home-life.  

Ymddygiadol llechen lân

ymddygiad wedi'i ddysgu drwy gyflyru

bodau dynol ac anifeiliaid yn dysgu mewn ffyrdd tebyg

ffurfio perthynas (anifail anwes a'i berchennog, er enghraifft)

Therapi anghymell

neuDadsensiteiddio systematig

Watson, J.B. and Rayner, R. (1920) Conditioned emotional reactions.  

Gwybyddol cydweddiad cyfrifiadur

prosesau meddyliol mewnol

sgemâu ffurfio perthynas (carwriaethol, er enghraifft)

Therapi ymddygiadol gwybyddol

neuTherapi ymddygiadol rhesymoli emosiwn

Loftus, E. and Palmer, J.C. (1974) Reconstruction of automobile destruction: an example of the interaction between language and memory.  

Positif   cydnabod ewyllys rydd

dilysrwydd daioni a rhagoriaeth

canolbwyntio ar 'y bywyd da' ffurfio perthynas (cyfeillion, er enghraifft)

Ymwybyddiaeth ofalgar

neuTherapi ansawdd bywyd

Myers, D.G. and Diener, E. (1995) Who is happy? Psychological Science

 

Uned 2: Defnyddio Cysyniadau Seicolegol

Arholiad ysgrifenedig: 1 awr 30 munud

20% o'r cymhwyster Safon Uwch (50% o'r cymhwyster UG)

10

Page 11: hwb-team-storage.s3-eu-west-1.amazonaws.com€¦  · Web viewYn y llyfr hwn mae Dr. Sacks yn adrodd hanes cleifion sydd ar goll ym myd rhyfedd anhwylderau niwrolegol, byd na allant

Adran A - Dadleuon Cyfoes

Mae archwilio pum dadl gyfoes yn cynnig cyfle i ymchwilio'n annibynnol i feysydd y dylanwadodd seicoleg arnynt. Dylid ystyried dwy ochr y ddadl o bersbectif seicolegol (gan gynnwys y goblygiadau moesegol, cymdeithasol ac economaidd yn ogystal ag ystyried amrywiaeth gymdeithasol a diwylliannol). Gofynnir i ddysgwyr archwilio'r dadleuon gan ddefnyddio'u gwybodaeth a'u dealltwriaeth o'r pum ymagwedd yn Uned 1. Mae'r adran hon yn cynnig cyfle i ystyried gwaith seicolegol a gyflawnwydyng Nghymru.

Dadleuon Cyfoes: Moeseg niwrowyddoniaeth Y fam fel prif ofalwr baban Defnyddio technegau cyflyru i reoli ymddygiad plant Dibynadwyedd tystiolaeth llygad-dyst (gan gynnwys plant) Pa mor berthnasol yw seicoleg bositif yn y gymdeithas heddiw

 

Adran B - Egwyddorion ymchwil a chymhwyso dulliau ymchwil

Egwyddorion ymchwil:

Ffocws yr adran hon yw ymchwil seicolegol, o'r camau cynllunio cynnar hyd at y cam olaf o ddadansoddi a gwerthuso. Y bwriad yw cyflwyno ymgeiswyr i'r methodolegau a ddefnyddiwyd gan seicolegwyr wrth weithio'n wyddonol, ac i feithrin gwerthfawrogiad o effaith dewisiadau ar ganlyniadau'r gwaith ac o ganlyniad, y cymwysiadau posibl. Dylai dysgwyr werthfawrogi cyfyngiadau ymchwil gwyddonol wrth ddelio â chymhlethdodau bodau dynol fel deunydd prawf, gan fod nifer o faterioni'w hystyried. Er mwyn cael y gwerthfawrogiad hwn anogir dysgwyr i gynnal ymchwiliadau moesegol, dan oruchwyliaeth briodol. O ran cyd-destun priodol yr addysgu, dylid astudio dau ddarn o ymchwil o waith seicolegwyr cymdeithasol a datblygiadol.

Cymhwyso dulliau ymchwil at senario newydd:

Yn yr adran hon mae gofyn i ddysgwyr gymhwyso eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth o ddulliau ymchwil at senario ymchwil newydd, gan lunio barn am fanylion ymchwil

Tasgau defnyddiol i roi cynnig arnynt 1. Darllenwch am yr ymagweddau seicolegol a ganlyn ac ysgrifennwch frawddeg am bob

un, gan grynhoi sut y mae'r ymagwedd yn egluro ymddygiad: Ymagwedd gwybyddol Ymagwedd ymddygiadol

11

Page 12: hwb-team-storage.s3-eu-west-1.amazonaws.com€¦  · Web viewYn y llyfr hwn mae Dr. Sacks yn adrodd hanes cleifion sydd ar goll ym myd rhyfedd anhwylderau niwrolegol, byd na allant

Ymagwedd biolegol Ymagwedd seicodynamig Ymagwedd positif

2. Ymchwiliwch i'r therapïau a ganlyn ac ysgrifennwch grynodeb hanner tudalen ohonynt: Therapi cyffuriau Seicolawdriniaeth Dadansoddi breuddwydion Seicotherapi dadansoddi grŵp Therapi anghymell Dadsensiteiddio systematig Therapi ymddygiadol gwybyddol Therapi ymddygiadol rhesymoli emosiwn Ymwybyddiaeth ofalgar Therapi ansawdd bywyd

Ceisiwch ddod o hyd i glipiau ar YouTube o'r therapïau hyn ar waith

3. Lluniwch ddiagram o'r ymennydd a dysgwch enwau gwahanol ardaloedd yr ymennydd

4. Darllenwch am Ddamcaniaeth Dridarn Freud am Bersonoliaeth (Tripartite Theory of Personality)

5. Ymchwiliwch i'r ddadl natur/magwraeth, a chrynhowch brif bwyntiau dwy ochr y ddadl. A yw troseddwyr yn cael eu geni neu eu creu?

6. Dewch o hyd i wybodaeth am ymwybyddiaeth ofalgar a rhowch gynnig arno

7. Ymchwiliwch i Stanley Milgram a'i astudiaethau ar ufudd-dod.

8. Gwyliwch un o'r ffilmiau uchod, ac ysgrifennwch hanner tudalen am yr hyn ddywed y ffilm wrthym am ymddygiad dynol. P'un o'r ymagweddau seicolegol allech chi ei chysylltu â'r ymddygiad?

9. P'un o'r Ted Talks oedd fwyaf diddorol? Beth ddysgoch chi ohono?

10. Darllenwch y senario isod a meddyliwch beth fyddech chi'n wneud, a pham

11. Ar gwefan CBAC, mae cylchgrawn Seicoleg ac adnoddau am ymchwiliadau mawr Seicoleg drwy gyfrwng y Gymraeg: www.cbac.co.uk/cymwysterau/seicoleg-ug-safon-uwch<http://www.cbac.co.uk/cymwysterau/seicoleg-ug-safon-uwch>)

12. Mae adran Seicoleg Prifysgol Bangor hefyd yn diddorol i ymchwil: www.bangor.ac.uk/psychology/index.php.cy<http://www.bangor.ac.uk/psychology/index.php.cy

13.

12

Page 13: hwb-team-storage.s3-eu-west-1.amazonaws.com€¦  · Web viewYn y llyfr hwn mae Dr. Sacks yn adrodd hanes cleifion sydd ar goll ym myd rhyfedd anhwylderau niwrolegol, byd na allant

14. Cynlluniwch holiadur i fesur lefelau straen. Cynlluniwch arbrawf gan ddefnyddio'r holiadur hwn i weld a yw rhieni neu fyfyrwyr fwy dan bwysau yn ystod yr wythnosau cyn arholiadau Safon Uwch.

15. Ysgrifennwch ddamcaniaeth i'r astudiaeth hon (datganiad sy'n rhagfynegi'r hyn fyddech chi'n ddisgwyl fydd deilliant yr astudiaeth)

13

Mae eich rafft bywyd yn mynd gyda’r llif wedi i’ch llong bleser suddo. Mae gormod o oroeswyr i’r rafftiau bywyd, ac mae’ch un chi yn beryglus o orlawn. Mae’r rafft yn sicr o suddo, a hyd yn oed gyda’r festiau achub bywyd mae pawb yn siŵr o farw oherwydd tymheredd rhewllyd y dŵr. Mae un goroeswr ar eich rafft yn effro ond yn ddifrifol sâl. Ni fydd yn goroesi’r daith. Byddai taflu’r person hwn dros yr ochr yn atal y rafft rhag suddo. Allech chi fod yr un i wneud  hyn?   

Gallwn

Na allwn

Page 14: hwb-team-storage.s3-eu-west-1.amazonaws.com€¦  · Web viewYn y llyfr hwn mae Dr. Sacks yn adrodd hanes cleifion sydd ar goll ym myd rhyfedd anhwylderau niwrolegol, byd na allant

Cyfrifon Twitter i'w dilyn

@PsychToday

@psychpodcast

@BPSOfficial

@peterkinderman

@PsyBlog

@TVpsychologist

  @Psych_Writer

@Psychreg

@PaulEkman  

@sjblakemore

@LouiseChunn

@Welldoing_Org  

@MindCharity

@seicoleg

14

Beth mae pobl yn ddweud pan rwy’n dweud wrthynt fy mod yn astudio Seicoleg 

Am ddiddorol. Gai wybod mwy?  

O’r argol. Rwyt ti’n fy nadansoddi fi rŵan yn dwyt 

Page 15: hwb-team-storage.s3-eu-west-1.amazonaws.com€¦  · Web viewYn y llyfr hwn mae Dr. Sacks yn adrodd hanes cleifion sydd ar goll ym myd rhyfedd anhwylderau niwrolegol, byd na allant

i'ch gwneud chi chwerthin (neu riddfan)!!

15

Jôc