20
2 Subheading here 2 Subheading here alumni Cylchlythyr Cyn-fyfyrwyr Athrofa Prifysgol Cymru, Caerdydd Rhifyn 03 - 2011 UNIVERSITY OF WALES INSTITUTE, CARDIFF ATHROFA PRIFYSGOL CYMRU, CAERDYDD Y tu mewn… Diolch Dilys tudalen 2 Dylunio i ddatblygu’r synhwyrau tudalen 7 Dadansoddi Perfformiad tudalen 9 Economeg Werdd tudalen 11 Rhwydweithio Cyn-fyfyrwyr tudalen 13 Addysg ar-lein tudalen 15 Byd o les mewn 45 munud! tudalen 3

Alumnium - Cymraeg

Embed Size (px)

DESCRIPTION

Alumnium - Cymraeg, 2011

Citation preview

Page 1: Alumnium - Cymraeg

2

Subheading here

2

Subheading here

alumniCylchlythyr Cyn-fyfyrwyr Athrofa Prifysgol Cymru, Caerdydd

Rhifyn 03 - 2011

U N I V E R S I T Y O F WA L E S I N S T I T U T E , C A R D I F F AT H R O FA P R I F Y S G O L C Y M R U, C A E R DY D D

Y tu mewn…Diolch Dilystudalen 2

Dylunio i ddatblygu’rsynhwyrautudalen 7

Dadansoddi Perfformiadtudalen 9

Economeg Werddtudalen 11

Rhwydweithio Cyn-fyfyrwyrtudalen 13

Addysg ar-leintudalen 15

Byd o les mewn45 munud!

tudalen 3

Page 2: Alumnium - Cymraeg

1

Uchod: Claire Grainger,Swyddog Cyn-fyfyrwyrUWIC

Croeso

Croeso gan Swyddfa’r Cyn-fyfyrwyrCroeso i rifyn 2011 o Gylchgrawn Cyn-fyfyrwyr UWIC! Fel arfer, mae bleser gen irannu rhai o’r straeon gwych am UWIC a rhai o lwyddiannau ein cyn-fyfyrwyr.

Efallai mai dyma’ch copi cyntaf o’r cylchgrawn, gan eich bod newydd raddio neu wediailgysylltu â ni. Os felly, croeso mawr! Mae Cymdeithas Cyn-fyfyrwyr UWIC wedi tyfu,gyda rhyw 36,000 o aelodau y llynedd. Rydym wedi llwyddo i ddod o hyd i ragor o gyn-fyfyrwyr Cyncoed 1971, ac yn Llandaf, rydym wedi helpu graddedigion Iechyd yrAmgylchedd o’r 1990au i ailgysylltu â’i gilydd a’u cyn-ddarlithwyr. Os hoffech chi drefnuaduniad, darllenwch ein herthygl ar dudalen 17.

Mae’r comedïwr enwog Lee Evans ar fin mynd ar eidaith fwyaf uchelgeisiol hyd yma, ac rydym yn falch ogynnig dau bâr o docynnau ar gyfer ei sioe yn ybrifddinas fis Tachwedd – mae pob tocyn ar gyfer ysioe wedi’u gwerthu. Diolch i Motorpoint Arena,Caerdydd, am y tocynnau. Os hoffech chi ennill pâr odocynnau, anfonwch e-bost atom gyda’ch barn ar ycylchgrawn, manylion cyswllt ffrind, neu neges sydyn i

ddweud ble rydych chi erbyn hyn a beth rydych chi’nei wneud! Dim ond cyfeiriadau e-bost hanner eindarllenwyr sydd gennym, sy’n golygu bod llawerohonoch yn colli’r cyfle i dderbyn e-gylchlythyrchwarterol, gwahoddiadau a’r newyddion diweddarafam ddigwyddiadau gennym. E-bostiwch ni heddiw, dachi! Byddwn yn dewis enw’r ddau enillydd ar hapddydd Gwener 2 Medi.

Enillwch docynnau i weld Lee Evans yng Nghaerdydd!

Page 3: Alumnium - Cymraeg

2

Cymrodorion Anrhydeddus

Ble fydden ni heb DillyDance? Byddai’r byd ynlle tipyn mwy diflas, hebos. Dyna pam ein bodyn falch o groesawuDilys Price, OBE fel un oGymrodorionAnrhydeddus UWICeleni.

Ymunodd Dilys â staffaddysgu Cyncoed ym 1960,fel uwch-ddarlithydd.Addysgodd ddawns igenedlaethau o ddawnswyr,athrawon dan hyfforddiant amyfyrwyr ymarfer corff, agwnaeth gyfraniad allweddolwrth greu’r cwrsAstudiaethau Symud Dynola gychwynnodd ym 1981.Roedd ei maes ymchwil yncynnwys manteision symuda dawns i fyfyrwyr aganghenion addysgolarbennig. Fel rhan o’r gwaithhwn, torrodd dir newyddgyda chyrsiau AddysgGorfforol a Addaswyd argyfer Astudiaethau Symudac Addysg Gorfforol - ycyntaf o’u bath ym Mhrydain- gan hyfforddi athrawon yny maes hwn a chynhgoricyrff llywodraethu ledled yDU ar chwaraeon i rai aganghenion arbennig. RoeddDilys yn rhan o’r criw a fu’ncodi arian i adeiladuCanolfan Chwaraeon i’rAnabl Cymru yn UWIC ym1984.

Ar ôl ymddeol, aeth Dilys ati isefydlu Touch Trust. Ei nodoedd creu ‘canolfanhapusrwydd’ – lle hyfryd ahwylus i blant ac oedolion aganableddau, lle gellir cynnigcyfleusterau therapicyffwrdd a sbarduno’rsynhwyrau, a hyfforddicynhalwyr yn y maes pwysighwn a all newid bywydaupobl. Dechreuodd Dilysweithio o’i chartref, achynnal sesiynau mewnystafelloedd a llefydd eraill arhyd a lled Caerdydd, cyncael gwahoddiad i fod yn uno’r cwmnïau preswyl yn yganolfan wych i’rcelfyddydau ym Mae

Caerdydd, Canolfan yMileniwm, a agorodd yn2004. Erbyn heddiw, maegan Touch Trust gyfres oystafelloedd hyfryd wedi’ucreu’n bwrpasol, gangynnwys ystafellsynhwyraidd, ac mae’rymddiriedolaeth ynymrwymo i sicrhaurhagoriaeth ac amrywiaethac i gynnwys pobl o bobl obob cwr o Gymru. Yn 2003,cafodd Dilys anrhydedd yrOBE am ei gwasanaethau ibobl ag anghenion arbennigyng Nghymru.

Bellach, mae gan TouchTrust ganolfannaurhagoriaeth ledled Cymru,sy’n cael eu rhedeg gan staffcymwys yr ymddiriedolaeth.Mae Dilys a’i thîm yncynghori grwpiau yngNghymru a thramor argyflwyno cyrsiau mewncolegau addysg bellach a suti sefydlu canolfannau tebygyn lleol. Nod Dilys yn y pendraw yw CanolfanGymunedol a Choleg yCelfyddydau ar gyfer poblifanc sy’n chwilio amddarpariaeth addysg ahamdden mwy ysgogol ar ôlgadael ysgol.

Un o ddiddordebau mwyafanghyffredin Dilys ywawyrblymio. Dros yblynyddoedd, mae Dilyswedi neidio 1,100 o weithiauo awyrennau, er mwyn codiarian i Touch Trust – acmae’n denu cryn dipyn osylw a hithau’n 78 oed. Yn2003, cafodd ei henwi fel yfenyw hynaf yn y byd sy’nawyrblymio. Dyma addywedodd ar y pryd: “Panddechreuais i awyrblymio,wnes i erioed feddwl ybyddwn i’n dal wrthi’n 70oed – ond dwi wrth fymodd, a dwi ddim ynbwriadu rhoi’r gorau iddi!”

Dymunwn yn dda i Dilys arei Chymrodoriaeth, ei hanturawyrblymio nesaf, a gydaTouch Trust!

Cymrodorion Anrhydedduseraill a enwebwyd:

Dilys yn awyrblymio eto

Colin Jenkins addysgwr rhyngwladol

Professor Sir LesekBorysiewicz Is-ganghellor,Prifysgol Caergrawnt

David Worthingtondylunydd graffeg

Professor Sir Steve SmithIs-ganghellor, Prifysgol Caerwysg

Rt. Hon. Dr Kim Howellsgwleidydd a beirniad celf

Dilys Price, OBE - ein Cymrawd Anrhydeddus diweddaraf

Page 4: Alumnium - Cymraeg

Ysgol Gwyddorau Iechyd Caerdydd

3

Pe baech chi’n gallugweddnewid eich bywydmewn 45 munud gydathystiolaeth wyddonol gliri gefnogi’ch newidiadau achanlyniadau cadarnhaol,heb orfod cymrydunrhyw dabledi,byddwch yn siŵr o fyndamdani.

Mae ymchwilwyr grŵpymchwil i Ddiabetes acIechyd Metabolaidd,Ysgol Gwyddorau IechydUWIC – sydd â graddGwyddor Fiofeddygol(BMS) – yn casglu datasy’n awgrymu y gall 45munud o ymarfer corff,deirgwaith yr wythnos,wneud byd o les i iechydpobl. Yn ogystal â dangosbod “ymarfer corff yn ddai chi”, nod yr ymchwilwyryw dangos bod ynaresymeg wyddonol drosannog cleifion i wneudymarfer corff, yn ogystal â– neu hyd yn oed yn lle –cyffuriau.

Mae José Ruffino (BScBMS 2009) a Nia Davies(BSc BMS 2008; MScBMS 2009) yn fyfyrwyrPhD, y naill yn yr ailflwyddyn a’r llall yn ydrydedd. Testun eugwaith ymchwil yw’rmanteision penodol iiechyd o wneud ymarfer

corff, trwy edrych areffeithiau genynarbennig o’r enwPPARγ, sy’n aml yncael ei dargedu gan

gwmnïau cyffuriau ireoli clefydau fel diabetesmath II (T2D). Os bydd eugwaith ymchwil yn parhaui ategu’r hyn a welwydhyd yma (h.y. bodymarfer corff ynsbarduno genyn PPARγ

tebyg i’r un sy’n cael eigreu gan gyffuriau gwrth-ddiabetes), yna byddantyn gallu cyflwynotystiolaeth i bwysleisio’rffaith mai fel cam olaf ynunig y dylid defnyddiomeddyginiaethau drud -ac mai dos o weithgarwchcorfforol ddylai gael yflaenoriaeth.

Mae llu o fanteisioniechyd yn gysylltiedig âgweithgarwch corfforol:llai o berygl o ddatblygudiabetes math II, clefydcoronaidd y galon,pwysedd gwaed uchel achanser y colon; iechydmeddwl gwell; cynnalesgyrn a chyhyrau iach, ahelpu pobl hŷn i fod ynfwy annibynnol. I’rgwrthwyneb, oherwyddei effaith ar iechyd ycyhoedd, maeanweithgarwch corfforolyn faich economaiddenfawr, yn uniongyrchol,trwy gynyddu gwariant yGIG er mwyn trin a rheoliclefydau fel diabetesmath 2, ac yn fwyanuniongyrcholoherwyddanweithgarwcheconomaidd yn sgilgwaeledd. Yn anffodus,mae lefelauanweithgarwch corfforolyn uchel yng Nghymru(gyda mwy na thraean ooedolion Cymru yngwneud ymarfer corff llainag unwaith yr wythnos,a dim ond 29% ynbodloni’r canllawiauswyddogol ar gyfergweithgarwch corfforol).Felly, mae’r “epidemigdiabetes” ac anhwylderaueraill sy’n codi yn sgilffyrdd eisteddog o fyw,yn effeithio’nanghymesur ar Gymru.

Byd o les mewn45 munud!

Page 5: Alumnium - Cymraeg

Ysgol Gwyddorau Iechyd Caerdydd

4

Eto i gyd, dyw gwneud 45munud o ymarfer corff,deirgwaith yr wythnos,ddim yn gwbl amhosibl.Dod o hyd i’r amser yw’rbroblem i’r rhan fwyaf – adoes dim rhaid gorwneudpethau chwaith. Trwy’rcynllun ‘Iechyd a Lles’,cafodd staff UWIC euhannog i wirfoddoli argyfer astudiaeth ymarfercorff dan arweiniad Nia aJosé, a gynllunioddraglenni ymarfer corffwedi’u teilwra i allu pobunigolyn. Cwblhaodd 22 obobl raglen ymarfer corffdros 8 wythnos, y rhanfwyaf yn fenywod 33-50oed a oedd yn teimlo eubod ‘angen gwneudrhywbeth’. Roedd yreffeithiau’n drawiadol, nidyn unig o ran eu lefelauffitrwydd corfforol ondhefyd o ran eu pwysau,mesuriad eu canol a’u llescyffredinol. Er maicerdded cyflym oedd ygweithgarwch caletaf a‘ragnodwyd’, roedd pawbwedi cael budd o’rymarferion.

Mae José yn hoffi’r ffaithmai ymarfer corff ‘dwysterisel’ ydyw. “Mae poblangen rhaglen raddol,wedi’i theilwra, er mwyneu helpu i arfer gwneudymarfer corff, gan fodllawer yn teimlo eu boddan bwysau i gyflawnigormod mewn byr amser.Ein nod yw hyrwyddoffordd o fyw iachus ynhytrach na rhaglen ddeietac ymarfer corff, er mwyni bobl deimlo eu bod yngallu dal ati. Ac iymchwilwyr labordy fel ni,mae’n wych ein bod yngallu gweld y canlyniadau

a’r manteision mewnbywyd go iawn.”Roedd Nia hefyd ynteimlo fod cysylltu agaelodau’r grŵp yn elfenbwysig a dylanwadolhefyd. Ar ôl meddwl maigwaith labordy oedd o’iblaen, ei bryd bellach ywgweithio ym maes hybuiechyd gyda’r cyhoedd.Ar y llaw arall, hoffai Joséweithio ym myd polisillywodraeth ar ôlcwblhau’i gwaith ôl-doethuriaeth yn yr unmaes. “Mae rhai oddewisiadau’r llywodraethyn hyrwyddo diogi”esboniodd, wrth gyfeirioat erthygl ddiweddar aoedd yn awgrymu y dylaipawb dros 55 oed gymrydtabledi statin, rhag ofn.“Yn hytrach, dylid euhannog i fanteisio i’r eithafar ffordd o fyw iachach,trwy wneud mwy oweithgarwch corfforol felcerdded, beicio neu hydyn oed siopa (heblaw ar-lein wrth gwrs), garddioneu waith tŷ.”

Mae’r grŵp ymchwil iDdiabetes ac IechydMetabolaidd yn gweithioar lu o astudiaethau sy’nseiliedig ar y pwnchollbwysig hwn osafbwynt iechydcyhoeddus. Fe wnaeth uno raddedigion eraillUWIC, Lee Butcher (BScSHES 2005) ymchwilio i’rmodd y gall cerddedhelpu i leihau lefelaucolesterol ac LDL fel rhano’i gwrs PhD (2005-09),ac mae gwaith arall ygrŵp hefyd yn cynnwysymchwil i ymarfer corff ar

sail gymunedol. Mewnastudiaeth arall (igychwyn yn haf 2011),bydd cyfranwyr yngwneud ymarferiad beiciodwyster uchel wrthgymryd ychwanegyngwrthocsidydd. Y nod ywcanfod a fydd yrychwanegyn - sydd i fod ihybu un set o fanteisioniechyd - yn dileu’rmanteision hynny i’rgenyn PPARγ a fyddaiwedi’u creu yn sgil beiciobeth bynnag. Mae’r grŵphefyd yn ehangu i’r maesclinigol trwy gydweithio âstaff clinigolYmddiriedolaethau GIGlleol i weld sut y gallcleifion sydd mewn peryglo gael diabetes oherwyddeu hanoddefiad glwcos,hefyd elwa ar wneudymarfer corff.

Mae’r goblygiadau’n glir oran polisi cyhoeddus:mae’r cyrsiau PhD yn caeleu hariannu ganLywodraeth Cymru aChronfa Gymdeithasol yrUE, mewncydweithrediad â PharcRhanbarthol y Cymoedd,corff sy’n cynnwys dros40 o bartneriaid gangynnwys GroundworkCymru, awdurdodau lleol,Chwaraeon Cymru aChyngor Cefn GwladCymru, sy’n ceisioadfywio cymoedd y De ynbennaf trwy fanteisio aramgylchedd naturioleithriadol yr ardal.

Rhowch gynnig ar ein her45 munud y dydd – achysylltwch â ni i ddweudsut hwyl rydych chi’n eigael.

Helen Campling: “Gofynnwyd i mi ymuno agastudiaeth gerdded Nia a José, y myfyrwyr PhD.Roeddwn i newydd ddychwelyd i’r gwaith ar ôlrhoi genedigaeth, ac yn meddwl y byddai’nffordd dda o ailafael mewn ymarfer corff a chaelgwared ar beth o’r pwysau a rois yn ystod fymeichiogrwydd. Fe wnes i fwynhau cymryd rhanyn yr astudiaeth, ac roeddwn i’n gweld fy hun yngwella ar ôl pob sesiwn. Roeddwn i’n gallucerdded yn gyflymach a phellach bob tro. Y rhanwaethaf oedd gorfod rhoi gwaed. Ers cwblhau’rastudiaeth, dwi wedi parhau i gerdded adref finnos, ac wedi ymuno â champfa UWIC. Dwi wedicolli pwysau, a dwi’n teimlo’n llawer mwy iach aheini erbyn hyn! ”

Ray Newbury: "Dechreuais i wneud y rhaglengan nad oeddwn i’n gwneud fawr ddim ymarfercorff, ac yn amlwg eisiau colli pwysau. Doedd hiddim yn anodd ymrwymo i’r rhaglen gan fod Niaa Jose yn wych ac yn ein hannog ni bob cam o’rffordd. Bellach, dwi’n teimlo’n llawer gwell yngorfforol ac wedi parhau i gadw’n heini trwyddefnyddio’r llwybrau cerdded ger fy nghartrefbob dydd. Dwi’n dal i golli pwysau, sy’n bethgwych i mi. Mae’n amlwg ’mod i wedi elwa ar yrhaglen. Pob lwc i Jose a Nia gyda’u gwaithymchwil."

Page 6: Alumnium - Cymraeg

5

Sefydliad UWIC

Cronfa Flynyddol UWICEleni, bydd yr ymgyrch ffonio yn codi arianhollbwysig ar gyfer Cronfa Flynyddol UWIC.Rydym yn defnyddio’r arian hwn i gefnogiysgoloriaethau a bwrsarïau newydd, adnoddaunewydd i fyfyrwyr a gwaith ymchwil arloesol.Mae pob ceiniog yn cyfrif ac yn gallu gwneudgwahaniaeth gwirioneddol. Ac wrth i chigyfrannu, rydym yn ychwanegu’ch enw i’nrhestr o gefnogwyr – ac mae rhestr hir oenwau yn hwb mawr i ni ddenu ffynonellauariannu eraill.

Caerdydd yn galw…eto!Roeddem ni’n wedi plesio gymaint gydallwyddiant ymgyrch ffonio’r cyn-fyfyrwyr yn2010, nes ein bod ni wedi penderfynu gwneudyr un peth eto.

Yn ystod yr ymgyrch ddiwethaf, fe wnaeth ymyfyrwyr ffonio dros 1,000 o gyn-fyfyrwyr drosgyfnod o 4 wythnos. Roedd yn gyfle gwychiddynt sgwrsio â graddedigion oedd wediastudio’r un cwrs â nhw, a chafodd llawerohonynt gyngor ac awgrymiadau gwych amyrfaoedd a sut i wneud y gorau o’u profiad ynUWIC. Hefyd, fe wnaeth ein cyn-fyfyrwyr addocyfrannu £30,000 tuag at Gronfa FlynyddolUWIC, a fydd yn helpu myfyrwyr heddiw acyfory gyda’u hastudiaethau. Diolch o galon i’rholl gyn-fyfyrwyr am gymryd rhan y llynedd -roedd hi’n braf cael eich adborth a chlywedeich hanesion diweddaraf.

Eleni, rydym yn bwriadu cynnal yr ymgyrchffonio ym mis Hydref a Thachwedd, a byddwnyn ysgrifennu at bob cyn-fyfyriwr fydd yn caelgalwad ffôn gennym. Yn anffodus, nid yw rhif ffônpawb gennym, felly os hoffech chi gymryd rhan,a fyddech mor garedig â chysylltu â ni trwy e-bostio [email protected] neu ffonio029 2020 1590.

Ar alwad

Yasmin (BA (Anrh.) Rheoli Twristiaeth a Lletygarwch Rhyngwladol)

aelod o ymgyrch ffonio 2010

“Helo, Yasmin ydw i. Dwi’n fyfyrwraig yn UWIC,a hoffwn gael gair bachgyda chi...”

Y Cynllun Arian CyfatebolNod y cynllun arian cyfatebol gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru oedd cynyddu cyfraniadau dyngarol i brifysgolion, acmae’n dod i ben ar 31 Gorffennaf 2011. Diolch i’r cynllun 3 blynedd hwn, roedd UWIC yn gallu hawlio o leiaf 50c am bob £1 agyfrannwyd, ac roeddem yn ffodus o dderbyn dros £50,000 o’r gronfa hon! Er bod y cynllun wedi gorffen bellach, mae’chcyfraniadau ariannol yr un mor bwysig, a gallwn barhau i hawlio 25c am bob £1 a gyfrannwch, trwy’r cynllun Cymorth Rhodd.

Page 7: Alumnium - Cymraeg

Sefydliad UWIC

Pam mae UWIC yn codi arian?

Cwestiwn cyffredin ganein rhanddeiliaid a’ncyfeillion yw, "pam maeUWIC yn codi arian?" Fyateb i yw hyn – maeaddysg uwch yngNghymru yn bodoli diolchi gefnogaeth cymunedaulleol. Ganrif a mwy yn ôl,roedd ffermwyr, glowyr achwarelwyr yn taludegwm, gan roi faintbynnag y gallant er mwynrhoi cyfle i genedlaethau’rdyfodol osgoi tlodi trwyaddysg.

Rydym yn dal i ddibynnuar bobl sy’n credu mewncefnogi addysg. Heddiw,rydym yn dibynnu arhaelioni pobl sy’n deallgwerth yr hyn rydym ni’nei wneud, ac sy’n

benderfynol o’n helpu iddiogelu ac ehanguaddysg, mewn cyfnod panfo’r sefyllfa ariannol yn fwybregus nag erioed.

Erbyn heddiw, mae bronpob prifysgol yn y DU ynceisio denu incwm gangyn-fyfyrwyr,ymddiriedolaethauelusennol, busnesau acunigolion eraill sy’nteimlo’n gwbl angerddolam addysg. Dyw UWICddim gwahanol. Dyna pamy gwnaethom ni sefydluswyddfa codi arian -Sefydliad UWIC yn 2009.

Po fwyaf o bethau rydymyn ei gyflawni yn UWIC,po fwyaf o bethau sy’nbosibl. Byddem wrth ein

boddau pe baech chi’npenderfynu cyfrannu atein dyfodol llewyrchus. I’rrhai ohonoch a fu’nastudio yma, mae gwneudcyfraniad yn gyfle iddangos gwerthfawrogiada chefnogaeth. I eraill, maecyfrannu i UWIC yn fforddo ddangos pa mor bwysigyw addysg, fel ffordd orymuso pobl na fyddai’ncael cyfle i ddatblygu’udoniau fel arall, achyfrannu at dwfrhagoriaeth addysgol ymayng Nghaerdydd.

Efallai nad ydych ynmeddwl y gallwch wneudrhyw lawer, ond mae pobcyfraniad yn cyfri a phobrhodd yn gwneudgwahaniaeth. Pe bai pob

cyn-fyfyriwr yn cyfrannudim ond £20 y flwyddyn,gallem godi £1,000,000!

O ysgoloriaethau acadnoddau myfyrwyr iwaith ymchwil o safonbyd, gallai’ch rhoddarbennig chi gyfrannu atsawl maes.

Ewch i www.uwic.ac.uk/uwicfoundation am fwy owybodaeth.

6

Tŷ’r Coleg cartref Sefydliad UWIC

Andrew Walker,Cyfarwyddwr Datblygu

Page 8: Alumnium - Cymraeg

7

Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd

Mae gweld eich symudiadau, synau neu’ch cyffyrddiadau eich hun yn trosglwyddo’nddelweddau ar y sgrin yn dod yn fwyfwy cyfarwydd, yn oes Nintendo Wii, Xbox Kinnectac iPad. Ond nid selogion gemau cyfrifiadurol a’r dechnoleg ddiweddaraf yw’r unig raisydd wedi gwirioni’n lân ar hyn; mae arloeswyr cymdeithasol, athrawon, clinigwyr adylunwyr hefyd yn manteisio i’r eithaf ar holl bosibiliadau’r cyfrwng. Mewn ysgol fachym Mhenarth, mae cyfuniad rhyfeddol o gelf, technoleg ac addysg yn cyfuno iweddnewid bywydau’r plant.

Datblygu’r Synhwyrau trwy Ddylunio

Page 9: Alumnium - Cymraeg

8

Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd

Mae Wendy Keay-Brightyn Ddarllenydd mewnDylunio Cynhwysol ac ynUwchddarlithydd ar gwrsgradd Cyfathrebu Graffigyn Ysgol Gelf a DylunioCaerdydd, UWIC. Felrhan o’i gwaith ym maesTechnolegauRhyngweithio a DylunioCyfranogol , dangosoddsut y gallai poblryngweithio â’i gilydd a’uhamgylchedd mewnffyrdd cyffrous adiddorol. Yn ddiweddar,enillodd Wendy a’iphartner dylunio, JoelGethin Lewis, wobrInclude 2011 am yDylunio CynhwysolArloesol Gorau.

Yn y prosiect arbennighwn, mae disgyblionYsgol Ashgrove ymMhenarth, sydd âChyflyrau’r SbectrwmAwtistig (ASC) yn rhan obrosiect peilot i ddatblygumeddalweddrhyngweithiol i’wddefnyddio yn yr ysgol.

Mae’r prosiect yncanolbwyntio ar arferionchwarae’r plant wrthiddynt ryngweithio’nllawn mynegiant â’rdechnoleg. “Mae plant agachosion difrifol o ASCyn aml yn cael eudiystyru wrth gyd-greu adefnyddio technolegaunewydd,” esbonioddWendy. “Ychydig iawn ogymhelliant syddganddynt yn aml iddefnyddio iaith lafar, acmaen nhw’n bryderusiawn ac yn hynod sensitifi ysgogiadamgylcheddol.” Mae’rprosiect wedi derbyncefnogaeth hael ganSefydliad Rayne.

Gan ddefnyddiogliniadur, taflunydd, athechnoleg X-Box Kinect,mae Wendy a’i thîm oddylunwyr meddalwedddawnus wedi addasu unrhan o’r ysgol yn ‘YstafellAdweithiol’ - ystafellryngweithiol lle mae’rplant yn gallu defnyddio

sain a symudiadau ireoli’u hamgylchedd.Mae’r tîm wedi llwyddo iddatblygu cyfres oraglenni hwyliog,rhyngweithiol a lliwgar,lle mae’r plant yn clapio’udwylo yn lle cliciobotwm, i achosi i siapiauymddangos ar y sgrîn.Yna, mae’r plant yncerdded, chwifio’u dwyloneu’n gweiddi yn lledefnyddio llygoden ycyfrifiadur, i symud ysiapiau neu greu rhainewydd. Mae’rdisgyblion yn rheoli’r hynsy’n digwydd ar y sgrînyn ôl eu lefel gallu neu pamor gyfforddus ydynt,gan gynnig mwy osicrwydd i’r disgyblionmwyaf swil, tawel a llaigalluog, a phosibiliadaudi-ri i’r rhai mwyafanturus.

Dyma ddisgrifiad Ben, uno’r athrawon, o’r gwaith:“Rwy’n addysgu’rdisgyblion i greu ffilmiau,fel rhan o ddullintegredig o wella sgiliaucyfathrebu, ymddygiad ahunan-barch. Mae’rprosiect hwn yn estyniadperffaith i hynny. Maerhai o’n disgyblion ni’nswil a thawedog iawn, acyn cael trafferth ymdopiâ’r byd allanol. Mae codibraich i wneud i rywbethddigwydd ar sgrin yngam mawr ymlaen i raiohonynt felly, ac yngwneud iddynt deimlo eubod wedi cyflawnirhywbeth gwirioneddolwych. Po fwyaf y mae’rplant yn mynegi’u

hunain, boed ar lafarneu’n gorfforol - mwya’rbyd o adborth maent ynei gael ar sgrin”. Hefyd,mae’n eu helpu i ddeall ycysyniad o achos aceffaith yn well, gan mainhw sy’n gwneud ibethau ddigwydd - neubeidio â digwydd - ar ysgrin.”

Sylwodd athrawes arall,Ruth, fod y prosiect wediysgogi rhai o’r plant iarchwilio’r byd o’ucwmpas. Roeddynt yndechrau arsylwi ar eucyfoedion, ac yn euhefelychu, ar ôl peidio âdangos unrhywddiddordeb cyn hynny.Er mai tua 2 neu 3 gwaithyn unig oedd y plantwedi defnyddio’rfeddalwedd, roedd yrathrawon a’r stafftechnegol yn gallu rhoienghreifftiau o gynnyddyn ymddygiad ydisgyblion.

Er bod rhai o’r ymatebiona welwyd - copïo, arsylwi,cymryd rhan, cymryd eutro - yn ymddangos ynweddol ddibwys i rai,maen nhw’n gerrig milltirpwysig iawn i’r disgyblionag achosion mwy difrifolo ASC. Ar y pegwn arall,roedd myfyrwyr yndangos dealltwriaethsoffistigedig ogyfyngiadau’r system, acyn ei brofi trwy sefyll ynstond tan i’r sgrîn glirioneu ddarganfod rhannauo’r ystafell lle nad oedd ysynwyryddion yn gallu euholrhain mwyach .

Meddai Wendy, “Mae himor braf gweld y plantheriol hyn yn defnyddio’udychymyg ac yn chwaraegemau gyda’rmeddalwedd. Mae’n creucanlyniadau hollolannisgwyl weithiau.”

Tra bod yr athrawon ynobeithiol iawn ambotensial y feddalwedda’r ‘ystafell adweithiol’,maent yn cyfaddef ei bodhi’n rhy gynnar i ddweudpa effaith a gaiff ar ymyfyrwyr yn y dyfodol.Bydd yr ystafell ar gael i’rysgol am hyd at chwewythnos, i weld sut ygallai fod o fudd ar lefeldatblygiadol, ac er mwynannog y myfyrwyr ifynegi eu hunain. Feallai’r rhaglenni hyn fod ofudd uniongyrchol i’rdefnyddwyr, trwy wellaeu hyder,hunanymwybyddiaeth,creadigrwydd atheimladau cadarnhaoldros amser. Mae’n creumanteisionanuniongyrchol i’wteuluoedd, cynhalwyr a’uhathrawon. Hefyd, mae’nhelpu i gyflwynogwybodaeth newydd amenghreifftiau o ddyluniotechnoleg gynhwysol acamgylcheddau addysgusynhwyraidd.

Meddai Ben, wrthgrynhoi, “Mae’n wych.Dyma ddechraurhywbeth pwysig drosben.”

Wendy Keay-BrightDarllenydd mewn DylunioCynhwysol, Ysgol Celf aDylunio Caerdydd

Page 10: Alumnium - Cymraeg

9

Ysgol Chwaraeon Caerdydd

Dadansoddi Perfformiad yn UWIC

Mae Dadansoddi Perfformiad ar flaen y gad o ran cymorth gwyddorau chwaraeon drosy blynyddoedd diweddar. Er ei fod yn faes eithaf newydd, mae datblygiadautechnolegol yn golygu bod Dadansoddi Perfformiad yn ffactor cynyddol bwysig isicrhau bod athletwyr elît a’r prif dimau chwaraeon yn perfformio o’u gorau yn gyson.

Mae Canolfan Dadansoddi Perfformiad UWIC yn arwain y blaen ym maes ymchwil ac addysgudadansoddi chwaraeon. Gyda thîm ymroddedig o’r hyfforddwyr, dadansoddwyr a thechnegwyrgorau, mae’r Ganolfan yn gwthio ffiniau Dadansoddi Perfformiad yn gyson, ac yn hyfforddi’rgenhedlaeth nesaf fel rhan o’u cyrsiau ôl-radd.

Cyfarwyddwr y Ganolfan yw Darrell Cobner (BSc (Anrh) Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Corff,1998), sydd wedi bod yn ddarlithydd yn Ysgol Chwaraeon UWIC ers pum mlynedd. Cyn hynny, roeddDarrell yn aelod o’r tîm cymorth a helpodd dîm Lloegr i ddod yn bencampwyr Cwpan Rygbi’r Byd yn2003. Cryfhawyd tîm y Ganolfan yn ddiweddar gyda phenodiad Huw Wiltshire (BA (Anrh)Astudiaethau Symudiadau Dynol 1985), sydd â phrofiad heb ei ail o chwaraeon perfformiad uchel, gangynnwys gydag Undeb Rygbi Cymru yn fwyaf diweddar.

Dai Greene (BA (Anrh) Rheoli Hamdden a Chwaraeon, 2008) yn dathlu’i fuddugoliaeth yn ras 400m dros y clwydi drosBrydain ym Mhencampwriaethau Athletau Ewrop Gorffennaf 2010. Llun gan Mark Shearman.

Page 11: Alumnium - Cymraeg

Ysgol Chwaraeon Caerdydd

10

Beth yn union ywDadansoddi Perfformiad, apham mae mor bwysig? Mae’n cynnwys casglu,dadansoddi a chyflwynodata fideo ac ystadegol. Fe’idefnyddir i lywio’r broseshyfforddi, helpu i wneudpenderfyniadau a gwneudymyriadau uniongyrchol ermwyn cael effaithgadarnhaol ar berfformiadchwaraewr, athletwr neu’rtîm.

A yw’n cael ei ddefnyddiomewn pob math ochwaraeon? Mae dadansoddi fideos ynrhan hanfodol o waithhyfforddi pob chwaraeon,ac mae’r berthynas rhwng yrhyfforddwr a’rdadansoddwr yn fwyfwypwysig. Mae hyfforddwyryn gweithio gydadadansoddwyr cyn gêm neusesiwn hyfforddi, er mwyngweld pa agweddau ar ygamp sydd angencanolbwyntio arnynt. Erenghraifft, mewn gêm bêlfasged, efallai fodhyfforddwr eisiau gweldbeth sy’n digwydd pan fochwaraewr yn rhwystroymgais y gwrthwynebydd.Wrth i’r gêm ddechrau, maeffrwd fideo fyw yn llifo i

gyfrifiadur y dadansoddwr.Mae’r dadansoddwr wedynyn atodi’r tagiau priodol i’rfideo, fel bo’r hyfforddwr yngallu gwylio’r holl glipiauperthnasol un ar ôl y llall,heb fod angen dirwyn y tapyn ôl neu ’mlaen drwy’rgolygfeydd hir, diangen.

Fel yr esbonia DamianJennings, hyfforddwrcynorthwyol tîm pêl-fasgedmerched Prydain a PhrifHyfforddwr UWIC Archers,“Mae’n rhan oweithgareddau’rchwaraewyr yma. Rydym ynderbyn gwybodaeth yngyflym ac yn gallu ymateb igwestiynau’r chwaraewyr ynsyth – efallai ynglŷn â chaelein trechu gan eingwrthwynebwyr (trwy gaelmwy o rebounds) – ynhytrach na dweud ‘mi ddofyn ôl atoch chi yfory’. Mae’ndatblygu’n rhywbethrhyngweithiol, fel eu bodnhw’n gofyn am gael gweldagweddau penodol, a’n bodninnau’n gallu gwneudhynny wrth bwyso’rbotwm."

Yn ogystal â monitro amserreal, mae dadansoddiperfformiad yn gallu creucronfa ddata ryngweithiolbarhaol sy’n datblygu’r

genhedlaeth nesaf ochwaraewyr/athletwyr trwyfonitro eu cynnyddhirdymor yn rheolaidd.

Beth yw cefndir y GanolfanDadansoddi Perfformiad ynUWIC? Sefydlwyd y fenterwreiddiol gan Keith Lyonsym 1992, a aeth ymlaen iarwain gwaith DadansoddiPerfformiad yn AthrofaChwaraeon Awstralia. Mae’rGanolfan wediailymddangos yn yblynyddoedd diwethaf, ganwneud gwaith ymgynghori iglybiau, cyrff llywodraethucenedlaethol a thimau lleol,cenedlaethol a rhyngwladol.Rydym hefyd yn cynniggwaith biwro i godio niferfawr o gemau, yn ogystal ârhoi cymorth tymor byrmewn twrnameintiau achymorth datblyguproffesiynol i ymarferwyr.

Yn ogystal â gwaithymgynghori, mae’r Ganolfanhefyd yn gwneud gwaithymchwil cymhwysol iddarganfod, deall a heriotechnoleg a thechnegaunewydd. Mae cysylltiadauhirdymor â chleientiaidproffil uchel wedi arwain atrwydweithiau eang ogysylltiadau allanol a fydd yn

ein galluogi ni i ddatblygu arhannu syniadau ac atebionhyfforddi arloesol gydachleientiaid, fel enghreifftiauo arfer gorau.

Faint o waith rydych chi’n eiwneud â myfyrwyr?Ysgol Chwaraeon Caerdyddoedd y cyntaf yn y byd igynnig cwrs MSc mewnDadansoddi Perfformiad.Wedi’i gynllunio i gwrdd â’rgalw cynyddol amddadansoddwyrperfformiad, mae’r cwrsMSc yn paratoidadansoddwyr medrus aphrofiadol gydagegwyddorion gwyddonolcadarn yn sail i’w gwaith.Mae’r rhaglen yn unigryw,diolch i gyfuniad o syniadaudamcaniaethol, profiadymarferol a’r dewiscynyddol o feddalwedd achaledwedd masnachol.Mae UWIC wedi cynhyrchunifer sylweddol oddadansoddwyr, gydallawer ohonynt wedi’urecriwtio’n syth gan yGanolfan, eraill wedi’upenodi i swyddi chwaraeonelît, fel timau rygbirhanbarthol Cymru a thimaurygbi uwchgynghrair Lloegr,a sefydliadau chwaraeoncenedlaethol.

Mae staff y Ganolfan hefydyn ddarlithwyr yn UWIC, acmae myfyrwyr chwaraeonyn cael profiad gwaithrheolaidd (am dâl) yn yGanolfan er mwyn helpu igyflwyno gwasanaethauDadansoddi Perfformiad igleientiaid.

Beth yw cynlluniau’rGanolfan ar gyfer y dyfodol?Cenhadaeth allweddol yGanolfan yw codiymwybyddiaeth oymarferoldeb prosesaudadansoddi ymhlithamrywiaeth ehangach oddefnyddwyr posibl; gyda’rnod sylfaenol o greu rhagoro gyfleoedd gyrfa iraddedigion UWIC.

Yn ogystal â chontractaugyda thimau chwaraeon elîtledled y byd, rydym hefydyn cydweithio â’r partnermeddalwedd allanol JonMoore (Analysis Pro) fel bodcyfle i drosglwyddo einprofiadau a’n galluoedd ifeysydd eraill heblawchwaraeon, fel ygwasanaeth tân ac achub.

Am ragor o wybodaeth amDdadansoddi Perfformiadyn UWIC, ffoniwch 0292020 1141 neu ewch ihttp://cpa.uwic.ac.uk

Pwy yw cleientiaid y Ganolfan?Mae’r cleientiaid diweddar yn amrywio o dimau lleol i ryngwladol, acymyriadau llai â chwaraeon unigol, fel athletau a sboncen.

Rygbi’r Undeb: Gloucester RFC, Wasps RFC, Undeb Rygbi Cymru, UndebRygbi’r Alban, Undeb Rygbi Fiji, Rugby Canada

Pêl-droed: Sporting Clube de Braga (Portiwgal)

Hoci: England Hockey

Rygbi’r Gynghrair: South Wales Scorpions

Pêl-fasged: UWIC Archers, GB BasketballAdam Cullinane, Darrell Cobner, a Huw Wiltshire Staff y Ganolfan a chyn-fyfyrwyr UWIC

Page 12: Alumnium - Cymraeg

11

Ysgol Reoli Caerdydd

Penwythnos gwyrdd?

Mynd ar wyliau, trip siopa, rownd o golff. Mae’r modd rydym ni’n ymlacio ac ynneilltuo amser i ni ein hunain yn gallu gwneud byd o wahaniaeth i’n bywydau. I rai,mae trip siopa i’r dref naill ai’n nefoedd neu’n uffern ar y ddaear, felly hefyd rownd ogolff! Ond pa mor aml ydym ni’n ystyried effaith ehangach ein gweithgareddaupenwythnos, neu wythnos o wyliau yn yr haul?

Mae’r Centre for Visioning Sustainable Societies (CViSS) yn rhan o Ysgol ReoliUWIC. Rhan sylweddol o waith ymchwil y Ganolfan yw’r economeg werdd, sydd ynei thro wedi dylanwadu ar bolisi yng Nghymru. Dr Dino Minoli, John Dobson, DrMolly Scott Cato a Dr Sheena Carlisle sy’n arwain gwaith ymchwil CViSS. Dymagipolwg o’r modd y mae eu hymchwil nhw yn bwrw goleuni newydd ar eich ‘amsersbâr chi’!

Page 13: Alumnium - Cymraeg

12

Ysgol Reoli Caerdydd

GolfMae Dr Minoli yn UwchDdarlithydd yn YsgolReoli Caerdydd ac ynYmgynghorydd Busnes aDatblygu Cynaliadwy.Mae ei ddiddordebauymchwil yn cynnwysdefnyddio rhaglenniamgylcheddol i gefnogipolisi amgylcheddol. Ynrhinwedd ei swydd felCyswllt Cynaliadwy ynSefydliad AmgylcheddGolff, mae gwaith DrMinoli yn canolbwyntio ar‘Greening of Golf, mewnperthynas â rheoli,digwyddiadau,digwyddiadau athwristiaeth. Mae’nannog clybiau golf ledledy wlad i ymuno rhaglenni

amgylcheddol gwirfoddolfel eu bod yn fwyymwybodol o effaith eudiwydiant ar yramgylchedd ehangach aci helpu’r gymuned golffeang sefydluarweinyddiaeth ichwyddo amgylcheddol achyfrifoldebcorfforaethol. Bu Dino yncynghori’r GwestyMarriott a’r Clwb Gwlad,Cas-gwent, yn ogystal âchyflwyno SeminarAddysgiadol RheolwyrClwb a Cheidwadwyr yGrîn y De Ddwyrain.

SiopaMae Dr Molly Scott Cato,sy’n arwain themaymchwil Economïau

Newydd Ysgol ReoliCaerdydd, ynDdarllenydd mewnEconomeg Werdd ac ynarbenigwraig ar yreconomi gymdeithasol achydweithredol. Mae eihymchwil yn cwestiynuein defnydd o adnoddauac yn gofyn a allwn ni,mewn byd o adnoddaudiddiwedd, ddysgu sut ifod yn hapusach wrthbrynu llai o bethau adefnyddio llai o ynni.

Sut gallwn ni sicrhau bodpenderfyniadau o’r fathyn cael eu gwneud ynddemocrataidd ynhytrach nag ar sail y gallui dalu yn unig? Mae llyfrnewydd Molly, TheBioregionalEconomy:Land, Libertyand the Pursuit ofHappiness, a gyhoeddir yflwyddyn nesaf, yncynnig bod rhagor obwyslais yn cael ei roi arddarpariaeth leol adibynnu llai argynhyrchion o bendraw’rbyd, gyda’r holl gostau

economaidd acamgylcheddol syddynghlwm wrth hynny. Ynsyml, siopwch yn eichmarchnad ffermwyr leoler mwyn helpu i achub yblaned!

GwyliauMae Dr Sheena Carlisleyn ymchwilio i oblygiadaudatblygiadau twristaidd ermwyn lleihau tlodi achyfiawnder cymdeithasolyn Affrica a gwledydderaill llai datblygedig yneconomaidd.

Mae effeithiauglobaleiddio abuddsoddiad tramor, ynogystal ag effeithiaucymdeithasol a

diwylliannol presenoldebtwristiaid ar wledydd o’rfath, yn creu cyfres oamodau cymdeithasol,economaidd agwleidyddol cymhleth.Mae gwaith ymchwilSheena yn cyfrannu at ymeddwl beirniadol ynglŷnâ’r heriau sy’n wynebullywodraethau a’rdiwydiant ymwelwyr oran cyfrannu’n fwyeffeithiol atgynaliadwyedd, datblygua lleihau tlodi. Maeffactorau fel CyfrifoldebCymdeithasolCorfforaethol, CynllunioCydweithredol,egwyddorion MasnachDeg, a Phartneriaethau’rSector Cyhoeddus aPhreifat a chynnwys agrymuso’r trigolion ynarbennig o bwysig, felly,er mwyn rheolicyrchfannau’n effeithiol.Er nad yw gwyliau egsotigyn ddrwg i gyd, rhaidgweithredu polisïau doetha chall er mwyn creumanteision gwirioneddoli’r economi leol.

Achubwch ein siarcod!Mae gwaith John Dobson yn y Ganolfan yn dipyn mwycyffrous na’r cyffredin. Mae John yn ymchwilio i’r modd ygellir defnyddio twristiaeth i addysgu pobl am siarcod, ermwyn ceisio helpu i hyrwyddo gwaith cadwraeth. Maeymchwil yn awgrymu fod siarcod yn cael eu herlid yn aml,ac nad oes ganddynt fawr o ddiogelwch cyfreithiol rhagarferion pysgota anghynaliadwy, gan fod pobl yn eu hofniledled y byd.

Llun John o siarc mawr gwyn yn nesáu at gwch yn ystodei daith ddiweddar i Dde Affrica

Page 14: Alumnium - Cymraeg

13

Rhwydweithio gyda Chyn-fyfyrwyr

Beth yw Cymdeithas Cyn-fyfyrwyr UWIC?

Efallai eich bod yngofyn yr un cwestiwnar ôl derbyn copi o’rcylchgrawn hwn am ytro cyntaf. Rhwydwaithcymdeithasol o’r iawnryw yw CymdeithasCyn-fyfyrwyr UWIC –un y gallwch gyfeirioato gyda balchder.

Mae Cymdeithas Cyn-fyfyrwyr UWIC ynddilyniant o gymuned yrAthrofa a’ch croesawoddchi am y flwyddyn neu fwyy buoch chi’n astudio yma.Boed rhan-amser neu lawnamser, israddedig neu ôl-radd, bydd eich ffrindiaucoleg a’r sgiliau a gawsochyma gennych chi am byth.Ond dyw bywyd prifysgolddim yn gorffen ar ôl i chigwblhau’ch arholiad olafneu gamu o lwyfan yseremoni raddio. Mae’chprofiadau prifysgol yn paraam byth, a’n nod ni yw eugwella a’u datblyguymhellach wrth i chigychwyn ar eich gyrfa.

Meddyliwch am rai o’rmeysydd y mae UWIC ynrhagori ynddynt –Podiatreg, GwyddorauBiofeddygol, DiogelwchBwyd, Iechyd yrAmgylchedd, Lletygarwch,Hyfforddi, Maetheg,Addysg, TG, Rheoli,Twristiaeth – ble bynnagrydych chi’n gweithio yn ydiwydiannau hynny,rydych chi’n siŵr o gwrddâ rhywun a astudiodd yma,sy’n parchu’r darlithwyrgymaint â chi, yn ogystalâ’r cwrs a’r cyfleoedd agawsoch. Wrth i chiraddio, byddwch ynsylweddoli gymaint o gyd-fyfyrwyr rydych chi wedieu hadnabod dros yblynyddoedd – ac wrthymuno â Chymdeithas yCyn-fyfyrwyr, bydd ‘ôlgatalog’ o gyn-fyfyrwyr argael i chi mwya’r sydyn. Ogogydd ym mwyty’r FatDuck i brif swyddoggweithredol B&Q, ogrefftwyr a dylunwyr lleoli’ch contract tramor – maegraddedigion UWIC yndylanwadu ar fywyd yng

Nghaerdydd, de Cymru,gweddill Prydain a’r byd.

Enwch westy yngNghaerdydd nad yw’ncyflogi un o raddedigionUWIC. Enwch dref yngNghymru nad yw’ncynnwys athro wedi’ihyfforddi yng Nghyncoed.Enwch dîm rygbi yngngwledydd Prydain nadyw’n cyflogi un o’nhyfforddwyr, chwaraewyrneu ddadansoddwyrperfformiad ni? Rydychchi’n gysylltiedig â nhw igyd, yn syml trwy’r ffaitheich bod wedi astudio yma.Ac rydym yma i’ch helpu isicrhau bod y rhwydwaithyn gweithio i chi.

Ond doeddwn i ddim ynUWIC! Os buoch chi’n astudio ynun o’r colegau aragflaenodd UWIC –Athrofa De Morgannwg,Coleg Technegol Llandaf,Coleg Addysg Caerdydd,Coleg Celf Caerdydd, neurai tebyg – ac wedimynychu Colley Ave,

Llandaf, Cyncoed neuGerddi Howard, ynarydych chi’n un ohonomni! Er bod yr enwau wedinewid, yr un yw’r lle yn ybôn. Os dyma’r tro cyntaf ichi dderbyn y cylchgrawnhwn, yna rydym yn falcheich bod wedi dod o hyd ini (neu efallai mai chiddaeth o hyd i ni?!) –gobeithio y byddwch yncadw mewn cysylltiad amflynyddoedd i ddod.

Dwi wedi hen adaelCaerdydd!Os ydych chi’n bywdramor, efallai yr hoffechymuno â’n grwpiau tramorsy’n prysur dyfu, danarweiniad einLlysgenhadon Cyn-fyfyrwyr Tramor. Mae mwya mwy ohonynt wedi’usefydlu mewn dinasoeddledled y byd, gyda’r nod ogreu digwyddiadiadaulleol a chyfleoedd i gadwmewn cysylltiad – amresymau cymdeithasol aphroffesiynol. Ewch i’ngwefan i weld a oes grŵpyn eich ardal chi.

Mae un o’nLlysgenhadon Cyn-fyfyrwyr Tramor, DesireeJones (BSc (Anrh)Seicoleg, 2003), yn bywyng Nghanada, byddaiwrth ei bodd yn cysylltuag unrhyw gyn-fyfyrwyreraill yn ei hardal hi:

“Dwi’n falch iawn o fodyn gyn-fyfyriwr UWIC, abyddwn i’n falch o helpucyn-fyfyrwyr eraill yngNghanada i gysylltu â’igilydd. Dwi’n meddwl ybyddai’n wych trefnudigwyddiadau yma ynOntario, ble rwy’n byw –er mwyn dod â’r cyn-fyfyrwyr ynghyd i gaelcinio, gwibdeithiau acati. Rwy’n barod i rannufy ngwybodaeth am yrardal a’r arferion lleolgydag unrhyw gyn-fyfyriwr arall: ac felhanner Canadiaidhanner Cymraes, rwy’nteimlo ’mod i’n galluhelpu gydag unrhywwahaniaethaudiwylliannol.”

Page 15: Alumnium - Cymraeg

14

Cyngor i Gyn-fyfyrwyr

Cynigion a dewisiadau i Gyn-fyfyrwyr

Sut alla i gymryd rhan?

Ymuno â LinkedIn. Mae gennym grŵp ar-lein ar gyferrhwydweithio gyrfaol.Dim lluniau, dim ‘hoffi’pobl a phethau – dimond cyfle i gysylltu âphobl rydych amweithio gyda nhw.

Ymuno â Facebook. Bydd eich grwpiaumyfyrwyr wastad ynoi chi ar-lein, ond afyddwch chi’n dal i’wdilyn, a chithau wedigadael y tîm?Ymunwch â grŵp athudalen ‘UWICAlumni’ ar Facebook,a chadwch mewncysylltiad i gael ywybodaethddiweddaraf – ac ie,digonedd o luniau,trafodaethau aphethau i’w ‘hoffi’.

Dilynwch ni ar twitter@UWIC alumni. Gyda newyddion,sylwadau, digwyddi-adau, hysbysiadauatgoffa, lluniau a hydyn oed cyfleoeddgwaith!

Gall pob un o’ncyn-fyfyrwyrymuno âGradSpace, waethble’r ydych chi.

Dyma fenter newyddsbon gan yr UnedDatblygu Dysgu acAddysgu, a gynlluniwydi gefnogi’r broses obontio o’r brifysgol i fydgwaith a datblygiad

proffesiynol mewnbusnes a rheoli. Ar ôl ichi gofrestru, byddwchyn gallu darganfod adefnyddio amrywiaetheang o adnoddau dysgubyrion – rhai cyffredinolac yn ymwneud âphynciau penodol – gangynnwys pontio i fydgwaith, dysgu yn ygweithle a myfyrio.Bydd gennych eichtudalen bersonol, lle

byddwch yn defnyddioe-portffolio i gofnodieich cyflawniadau, creuproffil, datblygucynlluniau gweithredu,ychwanegu tystiolaetho’ch profiadau dysgu,creu rhwydweithiau âchyn-fyfyrwyr eraillUWIC a chydweithio âffrindiau ar dasgaudysgu.

Dyma rai o fanteisionGradSpace:• cyfle i ennill credydau

lefel Meistr• hwyluso’r broses

ddysgu sy’n gysylltiedig â swydd

newydd• ategu’ch profiadau

dysgu dysgol gydol oes a datblygiad personol

• gwella’ch cyflogadwyedd wrth i chi barhau i feithrin sgiliau, gwybodaeth a’r gallu i ddysgu o brofiad

Os hoffech gofrestru,cysylltwch â Swyddfa’rCyn-fyfyrwyr trwy e-bostio:[email protected]

Cynigion iGyn-fyfyrwyrMae llu o fanteision ar gael i chi felcyn-fyfyriwr UWIC, gyda rhai ar gaelyn fewnol – fel cyfle i ddefnyddiollyfrgelloedd UWIC am bris rhatach, achyngor gyrfaoedd am ychydig oflynyddoedd ar ôl graddio. Maecynigion eraill ar gael gan eincyflenwyr trydydd parti, llawerohonynt yn gyn-fyfyrwyr eu hunain,sy’n cynnig nwyddau a gwasanaethauam bris gostyngol. Am fwy o fanylion,ewch i’r dudalen “External Benefitsfor Alumni and Staff” ynwww.uwic.ac.uk/alumni Os hoffechgynnig eich cynhyrchion am brisgostyngol i gyn-fyfyrwyr UWIC,cysylltwch â ni.

Page 16: Alumnium - Cymraeg

Ysgol Addysg Caerdydd

15

Addysgu yn yr unfed ganrif ar hugain

Ffantasi ar-lein Cyncoed

I’r rhai ohonoch sy’ncofio treulio oriau mewn’stafelloedd darlithio,bydd y datblygiadaudiweddaraf yngNghyncoed yn swnio felbyd arall. Bydd dilynwyrgwaith J.R.R Tolkein allenyddiaeth ffantasi ynmynd ar drywydd cwblwahanol ers i UWIClansio dau gwrs ar-leinnewydd a chyffrous. DrDimitra Fimi sy’n arwainy cyrsiau, ac maen nhw’nagored i fyfyrwyr adysgwyr o oedolion ymmhob cwr o’r byd. MaeFantasy Literature: FromVictorian Fairy Tales toModern ImaginaryWorlds yn archwiliorhyfeddodaullenyddiaeth ffantasi, o’igwreiddiau Fictorianaiddi’r enghreifftiaudiweddaraf un. MaeJ.R.R Tolkien, Myth andMiddle-earth in Contextyn trin a thrafod straeonchwedlonol yr awdur

enwog hwnnw, o’rHobbit a Lord of theRings i’w fytholegestynedig.

Cawsom sgwrs gyda DrDimitra Fimi i drafod eigwaith:

“Mae’n deimlad cyffrousiawn bod yn rhan o faesymchwil llenyddol sy’nprysur ddatblygu. Dywrhai pobl ddim yn teimlofod y genre ffantasi ynhaeddu ymchwilacademaidd ddifrifol,ond rwy’n anghytuno.Mae’r genre wedidatblygu cymaint dros yganrif ddiwethaf, ac yndenu llu o ddarllenwyr,ac mae’r diddordebacademaidd yn cynydduo hyd. Cychwynnodd ycyrsiau achrededig hyn,sy’n seiliedig ar ymchwil,ym mis Hydref 2010, adechreuodd y bloc 10wythnos diweddaraf ymMai 2011. Does dim

Dr Katharine Cox, Dr Kate North and Dr Spencer Jordan, Cardiff School of Education

Page 17: Alumnium - Cymraeg

16

Ysgol Addysg Caerdydd

gofynion mynediadffurfiol, ac mae rhai poblyn dilyn y cwrs gan eubod yn ddarllenwyrbrwd o’r nofelau, tra boderaill yn eu defnyddio felcyrsiau rhagflas i weld ahoffent astudiollenyddiaeth yn llawnamser. Mae 50% o’rmyfyrwyr yn dewisgwneud credydau ygallant eu defnyddio iategu cyrsiau gradderaill, ac mae unmyfyriwr ar gwrs lefelMeistr yn bwriaducyflwyno cais am raddPhD yn y pwnc.

“Bu’r broses o ddatblygudeunyddiau ar-lein yngyffrous a phrysur iawn,yn enwedig o ranadnoddau electronig amaterion hawlfraint.Rydym wedi llwyddo igyfoethogi llyfrgellelectroneg UWIC (e-lyfrau, e-gyfnodolion acati) sydd hefyd ar gael i’n

myfyrwyr sy’n astudiogartref. Gwnaeth ymyfyrwyr ddefnyddmawr ohonynt, ynogystal â’r dogfennaudigidol o lyfrau achylchgronau print.Aethom ati i greupodlediadau fideo gydagAdobe Connect hefyd.

“Cawsom sawl herhefyd, fel dysgu amgyfraith hawlfraint agofyn am ganiatâd iuwchlwytho ffynonellaueilaidd trwy’n porthdysgu ar-lein i fyfyrwyr.Ymhlith yruchafbwyntiau oeddbwrdd trafod bywiogiawn i’r myfyrwyr drin athrafod y gwaith, athrafodaethau wythnosola beirniadol. Mae’nhynod gyffrous gweithioy tu allan i fodel arferolyr ystafell ddarlithio.Llwyddwyd i ddenumyfyrwyr o bob cefndiraddysgol a diwylliannol,

sy’n gryfder mawr, gan’mod i a gweddill ydosbarth wedi cael cyflei gyfarfod a rhannusylwadau mewnrhithamgylchedd gydamyfyrwyr eraill nafyddem wedi dod ar eutraws fel arall.”

Meddai Matthew Taylor,Pennaeth Menter UWIC:“Cyflwynwyd y GronfaDatblygu Hyfforddiant ermwyn helpuacademyddion iddatblygu cyrsiaudatblygu proffesiynolnewydd – 20 yn y ddwyflynedd diwethaf. Maecyrsiau Dimitra ynenghraifft dda olwyddiant y fenter hon.Mae’n brawf oymrwymiad UWIC iddarparu cyrsiau hyblygar-lein.”

Cadwch lygad am fwy oddatblygiadau cyffrousar-lein yn y dyfodol.

Proffil StaffMae’r Dr Dimitra Fimi yn Ddarlithydd LlenyddiaethSaesneg. Cwblhaodd ei hastudiaethau israddedig ymMhrifysgol Athen, Gwlad Groeg, a pharhaodd â’ihastudiaethau ôl-radd ym Mhrifysgol Caerdydd llecafodd radd MA mewn Astudiaethau Celtaidd Cynnar(2002) a PhD mewn Llenyddiaeth Saesneg (2005).Testun ei thraethawd doethuriaeth oedd gwaith J.R.RTolkien, sydd bellach wedi’i ddiwygio a’i gyhoeddi felmonograff, Tolkien, Race and Cultural History: FromFairies to Hobbits (Basingstoke: Palgrave Macmillan,2008). Enillodd y llyfr wobr y Mythopoeic ScholarshipAward in Inklings Studies’ a chyrhaeddodd rhestr fery Katherine Briggs Folklore Award. Mae Dr Fimi hefydwedi cyhoeddi cyfres o erthyglau a adolygwyd gangymheiriaid, ac wedi cyfrannu penodau a chyfeiriadauat sawl llyfr a gwyddoniadur.

Twristiaeth LenyddolGan adeiladu ar yr ymchwil a’r holl ddiddordeb yn y maes hwn, mae’rdarlithwyr Ysgrifennu Creadigol, Dr Kate North a Dr Spencer Jordanyn ogystal â’r darlithwyr Saesneg, Dr Dimitra Fimi a Dr Katherine Cox,yn ystyried y cysylltiadau rhwng twristiaeth lenyddol a dinasCaerdydd. Canolbwynt eu gwaith ar hyn o bryd yw Bae Caerdydd, acmae’r criw, ar y cyd â’r Athro Annette Pritchard a’r Athro NigelMorgan o Ganolfan Twristiaeth Cymru, yn ymchwilio, ysgrifennu adatblygu ‘app’ ffôn deallus (smart phone application). Dr KatherineCox sy’n ymhelaethu: “Mae’r cyfeiriad ymchwil newydd hwn yngyffrous dros ben. Mae’n gyfle i weithio gyda chydweithwyr mewnmeysydd eraill, a chreu ‘app’ a fydd yn ychwanegu at brofiadauymwelwyr â’r Bae. Buom yn ddigon ffodus o gael cefnogaeth fewnoli’r prosiect, ac rydym yn edrych ymlaen at ddefnyddio’r ‘app’ gyda’nmyfyrwyr ni cyn ei lansio i’r cyhoedd.”

Mae Dr Fimi hefyd yn arwain taith gerdded lenyddol yn ardal yMynydd Du, dan y teitl ‘Tolkien’s Wales’, fel rhan o gyfres a drefnirgan Llenyddiaeth Cymru yr haf hwn. Cyfle i ymgolli’n llwyr ym myd yrawdur ffantasi yng nghanol cefn gwlad hudolus Cymru.

Bydd manylion am deithiau’r dyfodol dan law academyddion UWICi’w gweld ar wefan y cyn-fyfyrwyr.

Rhagor o wybodaeth:uwic.ac.uk/humanities

* • MA Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol

• MA Ysgrifennu Creadigol

• MA SaesnegCyflei awduron!

Page 18: Alumnium - Cymraeg

17

Digwyddiadau ac aduniadau

Digwyddiadau ac aduniadau

Dydd Mercher 8 Mehefin, cynhaliwyd ein digwyddiadRhwydweithio Gyrfaoedd i Gyn-fyfyrwyr – y cyntaf o’ifath – yn Ysgol Reoli Caerdydd, campws Llandaf.

Er mwyn helpu newydd-ddyfodiaid, fe wnaethom drefnu sesiwn rwydweithio am yr awrgyntaf, gyda byrddau wedi’u harwain gan gyn-fyfyrwyr a chefnogwyr UWIC sydd wedihen wneud gyrfa iddynt eu hunain. Ar y noson, roedd hi’n braf ac yn bleser cyflwyno ZoeHarcombe, Llywodraethwr UWIC, cyn gyfarwyddwr Adnoddau Dynol a deietegydd,Andy Harcombe, entrepreneur o fri, Rob Oyston (TAR, 2008) ac Alex Lock o’r cwmnihyfforddiant chwaraeon Regional Sports Schools, Liam Giles ac Elwyn Davies (ill dau’nraddedigion BA Dylunio Graffig, 2005) o’r asiantaeth ddylunio Spindogs, a SridharPonnuswamy (MBA, 2002) o Lywodraeth Cymru.

Bu arweinwyr y byrddau yn sgwrsio gyda phob grŵp am 10 munud, gan roi cynghorion arysgrifennu CV, creu cysylltiadau busnes, datblygiad proffesiynol, a chyngor arinterniaethau a gwirfoddoli. Ar ôl y sesiynau rhwydweithio mewn grŵp, roedd cyfle i gaeltrafodaethau anffurfiol pellach dros wydraid o win a canapés, er mwyn rhoi cyfle i’r cyn-fyfyrwyr mwy profiadol feithrin cysylltiadau.

Diolch i bawb am gymryd rhan – gobeithio y gwelwn ni chi’r tro nesaf!

Digwyddiad Rhwydweithio Gyrfaoedd

Darlithoedd ProffesiynolMae croeso i’n cyn-fyfyrwyr a’u cyfeillion ymuno â ni ytymor nesaf, wrth i’n staff Athrawol newydd eu penodigyflwyno eu pynciau dewisedig.

Bydd rhagor o fanylion ar gael dros yr haf.

Digwyddiadau ac aduniadauWrth i ni fynd i’r wasg, mae ’na grynedrych ymlaen at nid un, nid dau, ondtri aduniad ym mis Gorffennaf!

Dydd Sadwrn 9 Gorffennaf 2011

Dosbarth 1968/71, Cyncoed3-11pm, Undeb y Myfyrwyr Cyncoed. Rydym yn edrychymlaen at ddathlu 40 mlynedd ers i griw 1968-1971raddio, a hynny mewn steil ym mar Centro, UWIC.

Dydd Sadwrn 16 Gorffennaf 2011

Graddedigion Iechyd yr Amgylchedd 1991Gwesty Radisson Blu, Caerdydd

Dydd Gwener 22 Gorffennaf aDydd Sadwrn 10 Medi 2011

Rydym yn dathlu jiwbilî ddiemwnt Ysgol ChwaraeonCaerdydd - 60 mlynedd llwyddiannus ym myd ycampau!

Felly, hoffem wahodd cyn-fyfyrwyr a astudiodd neu agyfrannodd at dimau chwaraeon UWIC, Cyncoed neu’rMynydd Bychan dros y blynyddoedd, i noson o ddathluar ddau ddyddiad gwahanol.

Cynhelir y cyfan yn adeilad newydd undeb y myfyrwyr,Canolfan Campws Cyncoed, sy’n dal 200 o bobl. Mae’rciniawau hyn yn gyfle gwych i chi gael eich aduniad eichhun â hen gyfeillion, yng nghwmni darlithwyr y gorffennola’r presennol a rannodd eich profiadau chi yngNghyncoed. Mae ffurflenni archebu eisoes wedi’u hanfon– os nad ydych chi wedi cadw’ch sedd ar gyfer partigorau’r brifddinas, mae llefydd ar gael o hyd yn aduniadmis Medi.

Page 19: Alumnium - Cymraeg

Beth fyddeich rhoddchi?

U N I V E R S I T Y O F WA L E S I N S T I T U T E , C A R D I F F AT H R O FA P R I F Y S G O L C Y M R U, C A E R DY D D

ON

SEFYDLIAD

Oeddech chi’ngwybod fod gwaithyn UWIC, a noddirtrwy ddyngarwch, yngallu gwneud byd owahaniaeth i eraill?

Gyda’ch cymorth chi, gallwn helpui newid bywydau gyda’n gilydd.

Ar ôl ystyried eich teulu a ffrindiau,beth am adael rhodd yn eich ewyllysi UWIC? Byddwch yn cefnogitraddodiad o roi cyfle, cyflawni acarloesi.

Os hoffech drafod y syniad o adaelrhodd yn eich ewyllys i UWIC,cysylltwch â:

Sheona Evans,Rheolwr Datblyguffôn: 029 2020 1590e-bost: [email protected]/uwicfoundation

Page 20: Alumnium - Cymraeg

1

Creu cyfleoedd…

U N I V E R S I T Y O F WA L E S I N S T I T U T E , C A R D I F F AT H R O FA P R I F Y S G O L C Y M R U, C A E R DY D D

Rydym yn cynnig amrywiaeth eang ogyfleoedd ôl-radd ac ymchwil mewnpum ysgol academaidd:

Ysgol Celf a Dylunio Caerdydd

Ysgol Addysg Caerdydd

Ysgol Gwyddorau Iechyd Caerdydd

Ysgol Reoli Caerdydd

Ysgol Chwaraeon Caerdydd

Cyrsiau llawnamser neu ran-amser – maeUWIC yncynnig dewisrhagorol i ôl-raddedigion.

Rhagor o wybodaeth:uwic.ac.uk/postgraduate

029 2041 6044