View
232
Download
5
Category
Preview:
DESCRIPTION
Teithiau a chyfleoedd anturus i newid eu bywydau ar gyfer grwpiau ysgol ac ieuenctid Cymryd Camre Newydd “ Mae,r daith wedi agor fy llygaid i,r amrywiaeth yn ein byd! Dylai pawb wneud rhywbeth fel hyn.” Owen Bidder, Ecwador 2005
Citation preview
Teithiau a chyfleoedd anturus i newid eu bywydau ar gyfer grwpiau ysgol ac ieuenctid
“ Mae,r daith wedi agor fy llygaid i,r amrywiaeth yn ein byd! Dylai pawb wneud rhywbeth fel hyn.” Owen Bidder, Ecwador 2005
Cymryd Camre Newydd
03
Mae stori Camre Cymru’n dechrau yn 2001, pan gafodd y cwmni
ei sefydlu gan y Cyfarwyddwyr Rheoli presennol - Matt Wells a
Rhys Davies. Ers hynny, mae Camre Cymru wedi cael y fraint o
gynnig cyfleoedd anhygoel i bobl ieuainc gymryd rhan mewn
teithiau tramor a rhaglenni yn y DG, gan eu helpu i ddatblygu i
gyflawni eu gwir botensial. Mae Camre Cymru’n ymroddedig i
ddarparu DYSGU blaengar sy’n cyfuno ANTUR ac ADDYSG mewn
amgylchedd positif a DIOGEL.
Rydym wedi cael cychwyn cyffrous ac rydym yn falch iawn fel cwmni o fod yn gwneud cystal
yn y diwydiant teithio. Rydym wedi creu enw da i ni ein hunain am ragoriaeth, gweledigaeth
ac egni ac mae ein cyflawniadau’n cynyddu’n gyson. Efallai nad ydym yn gawr yn y farchnad
– ond rydym yn credu mai dyma ein cryfder ni. Nawr rydym eisiau adeiladu ar y cychwyn
cadarn a gafwyd ac mae’r llyfryn hwn, mewn sawl ffordd, yn arwydd o ffocws newydd ar
gyfer Camre Cymru. Rydym wedi dechrau drwy edrych ar yr hyn sy’n bwysig i ni ac i chi, ein
clientau.
Yr hyn sy’n bwysig i ni yw SAFON. Fel popeth arall mewn bywyd yn ein barn ni, po fwyaf
yw rhywbeth, po leiaf yw’r manylder a’r sylw i bethau bychain. Fe ddaru ni ystyried graddfa
fwy, ond doeddem ni ddim yn teimlo bod hynny’n gweddu i ni – safon, nid más-gynhyrchu,
sy’n bwysig i ni. Mae pob taith gan Gamre Cymru’n cael ei llunio’n ofalus a manwl gan
arbenigwyr sy’n byw ac yn anadlu’r awyr agored. Mae ein clientau’n bwysig i ni ac rydym yn
derbyn adborth positif yn rheolaidd gan yr ysgolion yr ydym yn gweithio â hwy.
Mae’r AMGYLCHEDD a’r byd rydym yn byw ynddo’n bwysig i ni. Ei amrywiaeth, ei
harddwch, y creaduriaid a’r diwylliannau sy’n ffynnu ynddo a’r her mae’n ei gynnig.
Rydym yn credu mai addysg yw’r ffordd fwyaf effeithiol o warchod yr amgylchedd rhag
dirywio. Mae Camre Cymru’n arwain y ffordd wrth hybu ymwybyddiaeth amgylcheddol a
thwristiaeth gyfrifol yn y diwydiant teithio.
Rydym yn ymfalchïo yn y ffaith mai ni yw’r darparwr teithiau
cyntaf yn y DG i ymuno â 1% FOR THE PLANET. Dyma
gynghrair o fusnesau sy’n ymroddedig i ddefnyddio eu
hadnoddau i greu planed iachach. Mae’r aelodau’n cydnabod
eu cyfrifoldeb i sicrhau amgylchedd iach, ac yn cydnabod eu
bod yn dibynnu ar amgylchedd o’r fath, ac maent yn cyfrannu o leiaf 1%
o’u gwerthiant blynyddol i sefydliadau amgylcheddol ledled y byd. Mae’n
syniad syml, celfydd ac yn llesol i’r busnes, i’r rhai sy’n gweithio i warchod
ein hamgylchedd ac, yn y pen draw, i’r ddaear.
Mae’r llyfryn hwn yn dynodi dechrau newydd. Rydym eisoes yn cynnig profiadau i
newid eu bywydau i bobl ieuainc – ac rydym yn credu bod hyn yn dra ysbrydoledig.
Gyda mwy o bwyslais ar yr amgylchedd yn ein rhaglenni yn y DG a thramor, rydym yn
gobeithio agor llygaid pobl ieuainc i amrywiaeth y Ddaear.
Mae’r llyfryn hwn yn wahoddiad i ATHRAWON ac ARWEINWYR IEUENCTID ganfod
gwybodaeth bellach am yr hyn yr ydym yn ei wneud. Rydym yn gobeithio y cewch hyd i
bopeth rydych angen ei wybod am gynllunio unrhyw fenter a ddewisir gennych chi yn y
llyfryn hwn. Cofiwch ein ffonio neu ymweld â’n gwefan os am wybodaeth bellach am yr
hyn sydd gennym i’w gynnig.
www.camrecymru.com
Cyflwyniad
Ein Gweledigaeth. Mae’n Syml.
04
Nod Camre Cymru yw bod yn ddarparwr teithiau a ddewisir gan
ysgolion a phobl ieuainc ledled y DG. Rydym yn ymroddedig
i gynnig teithiau heriol sy’n newid bywydau ac yn gwbl
ymwybodol o’r amgylchedd.
Mae gweledigaeth Rhys a Matt ar y cyd yn cael ei hadlewyrchu’n
gryf yng ngwerthoedd a chredoau gweithgareddau Camre
Cymru. Eu hymroddiad a’u hegni hwy sy’n sicrhau bod
gweledigaeth y cwmni’n parhau i symud ymlaen.
Matt Wells Cyfarwyddwr Rheoli – Gweithrediadau Busnes
Mae gan Matt, cyd-sylfaenydd Camre Cymru, fwy na 17 blynedd o brofiad o deithio
yn yr Himalayas, Awstralasia, Gogledd America, Ewrop, De America ac Affrica, yn
cynnwys dringo am y tro cyntaf ac arwain teithiau i ieuenctid ac oedolion. Mae
Matt wedi teithio’n helaeth i fwy na 46 o wahanol wledydd ym mhob cwr o’r byd,
mae ganddo radd BA (Anrh), mae’n aelod trwyddedig o’r Sefydliad Siartredig ar
gyfer Personél a Datblygiad (CIPD) ac mae’n Arweinydd Mynydd Gaeaf cymwys.
Arferai Matt fod yn Awyrfilwr gyda Byddin Prydain ac yn hyfforddwr hyfforddiant
antur, ac mae wedi dal nifer o swyddi gweithredol gyda’r Sefydliad ar gyfer Dysgu
Awyr Agored (IOL). Ar hyn o bryd mae’n aelod o’r gweithgor ‘Safonau Teithiau
Ieuenctid’ ar gyfer Cymdeithas y Darparwyr Teithiau (EPA). Mae Matt yn byw yng
Ngogledd Cymru gyda’i bartner Helen a’i fab Jack.
Rhys Davies Cyfarwyddwr Rheoli – Datblygiad Busnes
Daw Rhys, sy’n gyd-sylfaenydd Camre Cymru, o gefndir o gydlynu a monitro
prosiectau datblygu amgylcheddol a chymunedol yn y DG a ledled y byd. Mae
ganddo HND mewn Rheoli Pysgodfeydd ac MSc mewn Rheoli Adnoddau Gwledig.
Yn ystod 1996/7, cydlynodd Rhys y gwaith o blannu 3.5 miliwn o goed a chreu
60,000 cilometr o derasau cerrig yn Ucheldir Ethiopia, er mwyn sefydlogi’r pridd ar
gyfer amaethyddiaeth. Mae Rhys wedi treulio cyfnod fel Cydlynydd Bioamrywiaeth
gyda Pharc Cenedlaethol Eryri ac ar hyn o bryd mae’n aelod o Fforwm Economaidd
Gwynedd ac o fwrdd Hyfforddiant Arweinwyr Mynydd Cymru (MLTW). Ganwyd a
magwyd Rhys yng nghanolbarth Cymru ac mae’n siarad y Gymraeg a’r Saesneg yn
rhugl. Mae’n syrffiwr, deifiwr a physgotwr brwd ac ar hyn o bryd mae’n byw yng
Ngogledd Cymru gyda’i bartner Leisa, ei fab Siôn a’i ferch Martha.
Ein StaffMae pob aelod o staff Camre Cymru’n unigolion gyda diddordebau amrywiol.
I rai, y gweithgaredd i gymryd rhan ynddo ar ôl gwaith yw dringo, beicio
mynydd am filltiroedd neu neidio oddi ar glogwyni i’r môr. Mae’n well gan
eraill syrffio tonnau, rhwyfo i lawr afon neu fynd am dro i fyny i’r mynyddoedd.
Mae pob aelod o’r staff yn teimlo angerdd tuag at yr awyr agored, at ddysgu
ac at archwilio ac mae ganddynt i gyd eu cyfraniad pwysig eu hunain i’w
wneud at weledigaeth Camre Cymru.
Cyflawniadau Camre Cymru Hyd Yma
Mae Camre Cymru wedi mynd o nerth i nerth. Hyd yma, rydym wedi anfon
mwy na 3,000 o bobl ieuainc ar deithiau i gyrchfannau ym mhedwar ban
byd, ac wedi cyflwyno rhaglenni yn y DG sydd wedi dylanwadu ar fywydau
mwy na 40,000 o bobl ieuainc ac oedolion.
Rydym wedi ein trwyddedu gan yr Awdurdod Trwyddedu Gweithgareddau
Antur (AALA) ac fe’n cydnabyddir gan y dyfarniad Buddsoddwyr Mewn Pobl
(IIP). Yn 2003, enillodd Camre Cymru Wobr Busnes Bychan y Flwyddyn y Daily
Post ac, yn 2006, enillodd y wobr Buddsoddwyr Mewn Staff yng Ngwobrau
Busnes Blynyddol Gwynedd. Ar hyn o bryd, mae Camre Cymru’n gweithio
mewn partneriaeth â Phrifysgol Cymru, Bangor er mwyn cyflwyno ei Chwrs
Gradd newydd, sef BSc mewn Gwyddoniaeth Chwaraeon (Gweithgareddau
Awyr Agored) ac mae’n ddarparwr arweinyddiaeth mynydd ar gyfer
Hyfforddiant Arweinwyr Mynydd Cymru (MLTW).
Rydym yn Ceisio Newid Bywydau Pobl Mae Camre Cymru’n cynnig amrywiaeth
eang o gyfleoedd awyr agored anturus,
blaengar ac ysbrydoledig i bobl ieuainc
drwy gyfrwng ei deithiau i bob cwr o’r byd
a’i raglenni yn y DG.
Teithiau i Bob Cwr o’r Byd Rydym yn cynnig Siwrneiau Hirach neu Siwrneiau
Byrrach i bobl ieuainc rhwng 13 a 18 oed. Maent yn
cynnwys cymryd rhan mewn prosiectau amgylcheddol
neu gymunedol, cerdded a gweithgareddau antur, ac
yn ymweld â mannau o ddiddordeb diwylliannol mewn
cyrchfannau cyffrous ledled y byd.
Rhaglenni yn y DG Rydym yn cynnal rhaglenni gweithgarwch antur a
datblygiad personol a chynlluniau dyfarnu, fel Gwobr
Dug Caeredin a Gwobr John Muir, i bobl ieuainc. Rydym
hefyd yn cynnig hyfforddiant yn y diwydiant awyr agored
a chyrsiau asesu – sy’n boblogaidd ymhlith athrawon,
arweinwyr ieuenctid a gweithwyr proffesiynol yn y
diwydiant awyr agored.
Rydym yn byw ac yn anadlu’r awyr agored. Ni yw’r unig gwmni teithiau yn y DG sydd wedi’i leoli
yng nghanol y mynyddoedd. Ceir golygfa eithaf da o
Ganolfan Ddatblygu Camre Cymru, sef canolbwynt
holl weithgareddau Camre Cymru ar gyrion Parc
Cenedlaethol Eryri – ar fore Llun hyd yn oed! Mae’r
ganolfan yn lleoliad hwylus a chyfforddus ar gyfer
rhaglenni preswyl – yn cynnig llety bync gydag
arlwyaeth lawn, a gofod gwersylla yn y caeau drws
nesaf. Wedi’r cyfan, mae gennym fynyddoedd, afonydd,
moroedd, clogwyni a chefn gwlad gwyllt a thrawiadol ar
garreg ein drws.
A does gan ein tîm yn yr Alban ddim lle i gwyno
chwaith. Yn ein swyddfa yn Crieff, maent yn gweithio
yng nghanol y golygfeydd mwyaf trawiadol yn bod yn
Swydd Perth – sy’n lleoliad gwych ar gyfer gofalu am
ein clientau yn yr Alban a’r rhai yng ngogledd Lloegr. 05
POLISI CYMRAEG A SAESNEG DWYIEITHOG Mae polisi dwyieithog Camre Cymru fel a ganlyn:
1/ Gellir ateb pob ymholiad dros y ffôn yn y Gymraeg neu’r Saesneg.
2/ Gellir cynhyrchu pob llythyr yn y Gymraeg neu’r Saesneg.
3/ Argreffir llyfryn ein cwmni ar ddeunydd wedi’i ailgylchu yn Saesneg a cheir
fersiwn electronig yn y Gymraeg i’w lawrlwytho o www.camrecymru.com
4/ Gellir gwneud pob cyflwyniad yn y Gymraeg a’r Saesneg.
5/ Ar gais, mae Camre Cymru’n gwneud pob ymdrech i sicrhau bod
arweinydd Cymraeg ei iaith yn cael ei recriwtio (lle bo modd) i gyflwyno
rhaglenni.
06
Beth yw Taith?
06
Pa fath o waith prosiect fyddwch chi’n cymryd rhan ynddo?Mae’r prosiectau’n amrywio o gadwraeth coedwigoedd
i brosiectau canfod bywyd gwyllt, gwaith ar fferm neu
waith adeiladu a helpu cymunedau lleol. Mae dysgu
Saesneg mewn ysgolion lleol yn opsiwn hefyd ar gyfer
y myfyrwyr hynny sydd eisiau cael profiad o ddysgu.
Mae ymwneud â phrosiectau fel hyn yn brofiad
addysgol amhrisiadwy ac yn rhoi syniad go iawn i bobl
ieuainc o sut mae pobl mewn gwahanol gymunedau
ledled y byd yn byw. Gall gwaith prosiect arwain at
deimlad o gyflawni fel grŵp hefyd, a chynorthwyo
gyda sgiliau cyfathrebu. Gallai’r cyfranogwyr ddysgu
sylfeini iaith newydd hyd yn oed.
Mae pob taith yn unigryw a dim ond terfynau’r Ddaear sy’n cyfyngu ar ein hantur.
Mae’r teithiau’n cynnwys cyfuniad o waith prosiect amgylcheddol neu
gymunedol, cerdded drwy amgylcheddau gwyllt, gweithgareddau antur
cyffrous ac ymweliadau â mannau o ddiddordeb diwylliannol.
Ble allwch chi fynd?Mae cyrchfannau teithiau Camre Cymru’n
ymestyn i 6 chyfandir ac yn cynnwys cyfle
i edrych ar bob math o amgylcheddau,
yn amrywio o anialwch i jyngl, mynydd a
môr, coedwigoedd glaw a rhewlifau. Os
nad ydym yn teithio i fan arbennig eisoes,
ni fydd y cyntaf yn y ciw bob amser i roi
cynnig ar rywle newydd os oes gennych
chi gyrchfan neu gynllun penodol yn eich
meddwl. Mae’r Athro Cyswllt, sy’n cydlynu’r
grŵp teithio, yn dewis y cyrchfan neu’r
cyrchfannau. Yna mae’r cyfranogwyr yn
dewis prif nod eu taith.
07
07
Gweithgareddau anturGallwn gynnig: dringo copaon mynyddoedd
(6000 metr+), cerdded mynyddoedd
a rhewlifau, rafftio dŵr gwyn, canŵio,
caiacio, caiacio môr, cerdded drwy jyngl,
gwersylloedd goroesi, gwylio helfilod mawr,
saffaris mewn peiriannau 4x4, teithiau
diwylliannol, gwylio morfilod, marchogaeth
ceffylau, snorcelu, beicio mynydd, cerdded
ceunentydd, cerdded hafnau, marchogaeth
camelod, dringo creigiau, pysgota am
helbysgod mawr, pysgota pryf, syrffio, deifio
sgwba, gwylio adar a nofio gyda dolffiniaid.
“ Roeddwn i,n teimlo bod aelodau tim Camre Cymru i gyd yn bobl ragorol iawn. Yn gyfeillgar,
trefnus a brwdfrydig, ac yn cymryd amser i ddod i adnabod yr unigolion”
Rhieni Tim Connor, Bolifia 2007
08
OfferMae Camre Cymru’n darparu offer y tîm, fel pebyll, offer coginio,
ffonau lloeren, GPS, offer diogelwch arbenigol ac offer meddygol,
i bob grŵp. Mae nifer o’r cyfranogwyr yn hoffi prynu eu hoffer
personol eu hunain, fodd bynnag, ar gais, mae Camre Cymru’n fwy
na pharod i logi siacedi a throwsusau dal dŵr, bagiau cefn, sachau
cysgu, leinars a matiau cysgu.
Mae Camre Cymru’n cydweithio â Cotswold
Outdoor Cyf., yr adwerthwr uchaf ei barch
yn y DG yn y diwydiant dillad ac offer awyr agored, ac mae’n
cynnig nwyddau ar ostyngiad i gyfranogwyr, Athrawon Cyswllt ac
Arweinwyr Teithiau.
Ansawdd a safon y cyflwynoMae Camre Cymru’n gwbl gefnogol i waith cynllun ‘Bathodyn
Diogelwch’ y Cyngor Ymgynghorol ar gyfer Ymweliadau
Addysgol (EVAC) ac mae wedi bod yn chwarae rhan ganolog yn y
gwaith o greu ‘Safonau Teithiau Ieuenctid’. Bydd y ‘Bathodyn’ yn
cael ei lansio yn ystod 2007/08.
Mae Camre Cymru’n cydymffurfio â BS 8848 Sefydliad Safonau
Prydain (BSI): safon ar gyfer gweithgareddau antur, teithiau,
ymweliadau a gwaith maes y tu allan i’r DG.
Teithiau (parhad)
Pwy all fynd ar daith? Mae Camre Cymru’n cynnig cyfleoedd teithio i bobl ieuainc
rhwng 13 a 18 oed (pan yn mynd ar y daith). Mae angen
lleiafswm o naw cyfranogwr i ffurfio grŵp teithio. Os oes
angen, gall Camre Cymru uno dau grŵp llai er mwyn creu
grŵp teithio sy’n ddigon mawr yn ymarferol.
Ble fyddwch chi’n aros a be fyddwch chi’n ei fwyta? Mae’r llety’n amrywio ac yn cynnwys hostel, pabell, hamog,
cwt yn y jyngl ac ambell westy. Gallech fod yn coginio ar
dân agored neu stôf wersylla, neu’n defnyddio cyfleusterau
hostel, yn ogystal â blasu’r bwyd lleol mewn caffis a bwytai.
.
Tuedd gynyddol Mae Camre Cymru’n falch o weld ei bod yn dod yn fwy ffasiynol i
ysgolion gynnig teithiau – doedd ganddyn nhw ddim byd tebyg
i hyn pan oedd y rhan fwyaf ohonom ni yn yr ysgol yn sicrl!! Gall
cynnig rhaglen o deithiau helpu i wahaniaethu rhwng colegau a
dosbarthiadau’r chweched ble ceir cystadleuaeth am ddalgylch.
Mae hefyd yn rhoi digon o gyfle i ysgolion / colegau gael sylw
positif gan y cyfryngau oherwydd y teithiau a gynigir ganddynt
a’r gwaith codi arian cysylltiedig.
09
Beth yw Siwrnai Hirach? Mae Siwrnai Hirach – wel – yn hirach. Fel rheol, mae’n cynnwys rhaglen yn para rhwng 21 a 28 o ddyddiau. Mae’r pellter a deithir yn hirach yn aml iawn hefyd, gan fod y siwrneiau hyn fel rheol yn mynd â’r cyfranogwyr i gyrchfannau ym mhellafoedd byd.
Gan ei bod yn para mwy, mae’r Siwrnai Hirach ar gael i gyfranogwyr
16 oed a hŷn (adeg mynd ar y daith). Ystyrir ceisiadau gan gyfranogwyr
sydd dan 16 oed adeg mynd ar y daith ar gais eu rhiant / gwarcheidwad.
Fel rheol, mae’r grwpiau’n dewis cwblhau Siwrnai Hirach yn ystod
gwyliau hir yr haf.
Mae’r rhaglen gyfan yn para rhwng 14 a 18 mis fel rheol ac yn
cynnwys tridiau’n Datblygu Grŵp yn eich ysgol neu eich man cyfarfod,
Hyfforddiant Teithio penodol ar gyfer y cyrchfan, Diwrnod Paratoi
Terfynol, Y DAITH, Dadfriffio Wedi Dod Adref a Diwrnod Gloywi Sgiliau.
Beth yw Siwrnai Fyrrach? Mae Siwrnai Fyrrach, coeliwch neu beidio, yn fyrrach na Siwrnai Hirach! Fel rheol mae’n cynnwys rhaglen yn para rhwng 7 a 15 niwrnod.
Am eu bod yn fyrrach o ran hyd, mae Siwrneiau Byrrach yn ddelfrydol ar
gyfer cyfranogwyr iau neu gyfranogwyr nad ydynt eisiau mynd i ffwrdd am
gyfnod hir o amser, neu ddim am deithio mor bell efallai. Maent yn agored i
bobl ieuainc rhwng 13 a 18 oed (adeg mynd ar y daith).
Gellir mynd ar Siwrneiau Byrrach dros y Pasg, yn ystod gwyliau’r haf, pan
mae’n hanner tymor neu dros y Nadolig hyd yn oed.
Fel rheol, maent yn seiliedig ar gyfnod o chwech i ddeuddeg mis o baratoi,
ond gellir eu trefnu gyda lleiafswm o bedwar mis o rybudd, sy’n rhoi digon o
amser i sicrhau bod y grŵp wedi’i baratoi’n drylwyr.
Mae’r rhaglen yn cynnwys deuddydd o Hyfforddiant Grŵp a gynhelir yn
eich ysgol neu eich man cyfarfod, Diwrnod Paratoi Terfynol, Y DAITH a
Dychwelyd Adref.
Siwrneiau Hirach a Byrrach
Ffocws y Daith
Gall y cyfranogwyr ddewis o blith y rhestr ganlynol fel
ffocws eu taith:
Yr Amgylchedd a Bywyd GwylltCymunedau a DiwylliantTeithio Anturus Her Gorfforol
Gweler y matrics cyrchfan am fanylion pellach am yr
opsiynau teithio ac am wybodaeth am ein cyfleoedd
cyffrous o ran cyrchfannau.
010Siwrneiau Hirach a Byrrach Paratoi ar gyfer Siwrneiau Hirach a Byrrach
Rhaglen y Siwrnai Hirach
Diwrnod Hyfforddiant Grŵp 1
(1 diwrnod – yn eich ysgol / man cyfarfod)
• Trafod y rhaglen
• Gweithdy codi arian
• Rhoi sylw i faterion cyflogaeth
a rheoli arian
Diwrnod Hyfforddiant Grŵp 2
(prynhawn a chyflwyniad gyda’r nos)
• Cwrdd ag Arweinydd y Daith
• Arddangosfeydd offer a sgiliau
crefft gwersylla
• Trafod iechyd a glendid,
tueddiadau diwylliannol a
diogelwch
• Y Cyfranogwyr, yr Athro Cyswllt a’r
Rhieni’n cwrdd ag Arweinydd y Daith
MAE’N RHAID i rieni fynychu’r sesiwn hwn.
Y Diwrnod Paratoi Terfynol
(Diwrnod mewn lleoliad canolog neu yn yr ysgol)
Bydd y grŵp yn cyrraedd y lleoliad
terfynol (yn agos at Heathrow a
Gatwick ar gyfer grwpiau Cymru
a Lloegr ac at Gaeredin ar gyfer
grwpiau’r Alban) eu hunain a
chynhelir y sesiwn undydd hwn yn
y fan honno yn union cyn ymadael.
• Briff terfynol ar ddiogelwch
• Egluro rheolau’r daith yn glir
• Boed i’r daith ddechrau!
Y Daith
(yn cynnwys gweithgareddau R&R heb unrhyw gost ychwanegol
Profiad yn newid eich bywyd
“Dyma amser gorau fy mywyd!
Diolch o galon ”.Owen Hoskins, Periw 2005
Diwrnod Datblygu Grŵp 1
(1 diwrnod – yn eich ysgol / man cyfarfod)
• Torri’r iâ a thasgau tîm • Penderfynu ar ffocws y daith • Rhoi sylw i faterion cyflogaeth• Codi arian a rheoli arian
Gwahoddir rhieni i ddiwedd y sesiwn ar gyfer Cwestiynau ac Atebion.
Diwrnod Datblygu Grŵp 2
(1/2 diwrnod / gyda’r nos – yn eich ysgol / man cyfarfod)
• Trafod a chynllunio gweithgareddau’r rhaglen o ddydd i ddydd a thrafod y prosiect.
Gwahoddir rhieni i ddiwedd y sesiwn ar gyfer Cwestiynau ac Atebion.
Diwrnod Datblygu Grŵp 3 (gyda’r nos – yn eich ysgol / man cyfarfod)
• Y Rhieni, yr Athro Cyswllt a’r Cyfranogwyr yn cwrdd ag Arweinydd y Daith• Paratoi ar gyfer hyfforddiant y daith• Arddangosfeydd offer• Cyflwyno’r rhaglen derfynol
MAE’N RHAID i rieni fynychu’r sesiwn hwn.
Hyfforddiant y Daith
(Tridiau)
• Hyfforddiant penodol i’r cyrchfan ac i’r rhaglen • Fe’i cynhelir ym Mharc Cenedlaethol Eryri yng Ngogledd Cymru neu yng Nghanolbarth Swydd Perth • Mae’n cynnwys taith fer – blas ar fywyd ar daith• Dod i adnabod y tîm ac Arweinydd y Daith• Trafod: disgwyliadau’r unigolion, diogelwch, cludiant dramor, iechyd a glendid, argyfyngau meddygol, gweithdrefnau cymorth cyntaf, ymdopi â hiraeth, addasu i ddiwylliant newydd, addasu i dirlun anghyfarwydd, ieithoedd ac arian tramor • Dysgu crefft gwersylla, paratoi bwyd ac ymarfer mordwyo• Yn cynnwys abseilu i godi arian
Rhaglen y Siwrnai Fyrrach
Nid dim ond mynd ar daith y mae siwrneiau hirach a byrrach Camre
Cymru’n ei gynnwys, ond sicrhau bod y cyfranogwyr yn cael eu
paratoi’n drylwyr ar gyfer yr antur.
Wedi’r daith, rydym hefyd yn annog y cyfranogwyr i adlewyrchu ar
eu profiadau a sut maent wedi newid eu bywydau.
Mae Camre Cymru’n cyhoeddi pecynnau cefnogi a llyfrau gwaith i
arwain Athrawon Cyswllt drwy raglenni’r siwrneiau hirach a byrrach.
011
011
Y Diwrnod Paratoi Terfynol
(Diwrnod)
Bydd y grŵp yn cyrraedd y lleoliad
terfynol (yn agos at Heathrow a
Gatwick ar gyfer grwpiau Cymru
a Lloegr ac at Gaeredin ar gyfer
grwpiau’r Alban) eu hunain a
chynhelir y sesiwn undydd hwn
yn y fan honno yn union cyn
ymadael.
• Briff terfynol ar ddiogelwch
• Egluro rheolau’r daith yn glir
• Boed i’r daith ddechrau!
Y Daith
(yn cynnwys gweithgareddau R&R heb unrhyw gost ychwanegol
Profiad yn newid eich bywyd
“Prof iad bythgof iadwya rhagorol”.
Chris Hollingberry, Borneo 2005
Dychwelyd Adref
(1 sesiwn yn y maes awyr)
• Dadfriffio• Dychwelyd cit Camre Cymru• Y cyfranogwyr yn mynd am adref
Diwrnod Gloywi Sgiliau
(Diwrnod)
• Diwrnod adolygu i werthuso’r profiadau a sut i’w defnyddio i helpu gyda dyheadau addysgiadol a gyrfaol yn y dyfodol• Y cyfranogwyr yn derbyn tystysgrif, geirda unigol ac adroddiad ar eu cynnydd a’u datblygiad.
Dychwelyd Adref
(1 sesiwn yn y maes awyr)
• Dadfriffio• Dychwelyd cit Camre Cymru• Y cyfranogwyr yn mynd am adref
Dewis Cyrchfan Eich Taith
012
Ble Mae Dechrau Mae’r matrics cyrchfan yn rhoi syniad i chi o ble yn y byd y gallwch fynd
a beth all eich grŵp ei wneud ym mhob cyrchfan.
Rydym hefyd wedi llunio system safleoedd ar gyfer ein teithiau, i’ch
helpu chi. Mae rhai’n fwy heriol na’i gilydd – felly mae ein graddfa
anhawster yn eich helpu i ddewis taith addas i’ch amcanion chi.
Graddfa’r Anhawster
Cymedrol – addas ar gyfer y rhan fwyaf o grwpiau ac angen lefel
ffitrwydd cyffredinol dda. Ffordd dda o fagu hyder wrth deithio dramor.
Heriol – addas ar gyfer grwpiau sydd eisiau her ac sy’n ymroddedig i
sicrhau lefel ffitrwydd cyffredinol dda.
Anodd – addas ar gyfer grwpiau sydd naill ai wedi cwblhau taith
flaenorol ac eisiau her gorfforol sylweddol neu’r rhai sy’n mynd ar eu
taith gyntaf ac sy’n ymroddedig i sicrhau lefel ragorol o ffitrwydd er
mwyn wynebu her sylweddol.
Am wybodaeth bellach Am wybodaeth fanylach am gyrchfannau ein teithiau, ffoniwch Camre
Cymru i ofyn am Becyn Gwybodaeth y Cyrchfannau. Os ydych yn
dymuno, gallwn anfon cynrychiolydd o’r cwmni i ymweld â chi er
mwyn darparu gwybodaeth bellach. Byddai hynny o gymorth i chi
benderfynu ar y cyrchfan mwyaf priodol ar gyfer eich grŵp.
Felly mae’r byd wrth eich traed. Ble yn y byd ydych chi eisiau mynd?
Bydd ein tîm o arbenigwyr yn eich helpu i ddewis cyrchfan a fydd nid yn unig yn bosibl i’ch grŵp ond hefyd yn ceisio rhoi’r profiad gorau posibl iddo. Eich Athro Cyswllt fydd yn dewis y cyrchfan.
Ffocws y Daith Bydd y grŵp yn penderfynu ar brif nod y rhaglen, a gall fod yn Fywyd Gwyllt a’r
Amgylchedd, Diwylliant a Chymunedau, Teithio Anturus neu Her Gorfforol.
013
Matrics Cyrchfan
Cyfandir / Gwlad Mat
h o
Siw
rnai
*
Lefe
l yr
An
haw
ster
**
Lefe
l y D
atb
lyg
iad
***
Lefe
l y C
erd
ded
****
Cai
acio
/ C
anŵ
io
Byw
yd G
wyl
lt
Co
edw
igo
edd
Myn
ydd
oed
d
Alt
itiw
d
Jyn
gl
An
ialw
ch
Arf
ord
ir
Pros
iect
au C
adw
raet
h
Pros
iect
au C
ymu
ned
ol
Pros
iect
au C
artr
efi P
lant
Pro
siec
tau
Ysg
ol
Pros
iect
au Y
mes
tyn
nol
Raff
tio
Dŵ
r G
wyn
Trae
th /
Llyn
Saff
ari
Ym
wel
d
Gw
ylio
Mo
rfilo
d
Ara
ll –
ho
ler
Affrica Kenya H C 152 D • • • • • • • • •
Mynydd Kenya H H 152 D • • • •Teithio Ar Draws Mynydd Kenya H H 152 C • • • •
Uganda – Mynydd Elgon H H 145 D • • • • •Madagasgar H C 143 D • • • • •
Namibia H C 125 D • • • • • •Malawi H C 166 D • • • •
Tanzania H C 162 D • • • • • • • • •Tanzania a Kilimanjaro H A 162 C • • • • • • • •
3 Chopa Tanzania H A 162 C • • • • • • • •Copaon Uchaf Affrica H A 152 C • • • • • •
Zambia H C 165 D • • • • •Zambia a Botswana H C 165 D • • • • •
Botswana H C 131 D • • • • •De Affrica H C 121 D • • • • •
Moroco B C 123 D • • • • • • • Asia
Borneo H C 61 D • • • • • • • • • • •Deifio ym Morneo H C 61 amh. • • • • •
Mongolia H C 116 D • • • • • • • • • • •De India H C 128 D • • • • • • • • • •
DDd AsiaThailand H C 73 D • • • • • • • • •Fietnam H C 109 D • • • • • • • • • •
Canol AmericaMecsico H C 53 D • • • • • • • •
Mecsico Baja B C 53 amh. • • • •Honduras H C 116 D • • • • • • • • •Costa Rica H C 47 D • • • • • • • •
De AmericaPeriw a Bolifia H C 82 D • • • • • •
Yr Ariannin H C 36 D • • • • • •Chile H C 38 D • • • • • • • •
Patagonia H C 36 C • • • • • • • • • • •Periw H C 82 D • • • • • •
Periw ac Ecwador H C 82 D • • • • • •Ecwador H C 83 D • • • • • • • • • • •
Ecwador Cotopaxi H H 83 U • • • • • • •Bolifia H C 115 D • • • • • • •
Gogledd Chile a Bolifia H A 38 C • • • • • • • •Brasil H C 69 D • •
Gogledd AmericaAlasga (môr) B H 8 amh. • • • • • • •
Alasga (tir) H C 8 D • • • • • • • • • • Awstralasia
Seland Newydd H H 20 D • • • • • • • • • • Ewrop
Groeg (Milos) B H 24 D • • • • •Norwy B H 1 D • • • • • • • • •
Picos De Europa B C 19 D • • • •Y Pyrenees B C 16 D • • • • • •
Slofenia B C 27 D • • • • • •Gwlad yr Iâ B H 2 C • • • •
* Y Math o Siwrnai - H: Hirach neu B: Byrrach ** Lefel yr Anhawster - C: Cymedrol; H: Heriol; A: Anodd
Mae’r *** Mynegai Datblygiad Dynol (MDD) yn fesur cymharol ar gyfer safonau byw mewn gwledydd ledled y byd. Fe’i defnyddir i wahaniaethu
rhwng gwledydd datblygedig, gwledydd yn datblygu a gwledydd tanddatblygedig, a hefyd i fesur effaith polisïau economaidd ar safonau byw.
**** Lefel y cerdded - D: Dechreuwr; C: Canolraddol; U: Uwch.
Allwedd
014
Cyrchfannau’r Teithiau
Canolbarth AmericaCyfle i archwilio amrywiaeth anhygoel o fynyddoedd,ecosystemau a diwylliannau
Uchafbwyntiau - mae diwylliant a thraddodiadau
cyfoethog pobl Maya’n cynnwys adfeilion trefi hynafol,
rafftio dŵr gwyn, mwynhau coedwigoedd cymylau
Costa Rica, cerdded drwy’r jyngl ac ymlacio
ar draethau trofannol.
De AmericaTeithiau drwy rai o’r gwledydd mwyaf amrywiol ar y blaned hon. Mwynhewch gerdded drwy fynyddoedd anghysbell a basn yr afon Amazon a phrofi diwylliant a hanes rhyfeddol yr Inca
Uchafbwyntiau– Mynyddoedd yr Andes, Machu
Picchu – y ddinas goll am ganrifoedd, rhyfeddod
naturiol Llyn Titicaca a’r giserau uchaf yn y
byd. Cerdded yn y gaeaf yr ochr arall i’r byd ym
Mhatagonia, amrywiaeth jyngl yr Amazon, y pedyll
halen, y lagŵns glas a’r creigiau teracota cryf yn Chile.
Gogledd America Cyfle i archwilio un o wylltiroedd mwya’r byd.
Uchafbwyntiau - Alasga – o’r llwybrau cerdded yn
‘galw’r gwyllt’ i siwrneiau caiac drwy’r gwylltiroedd, mae’r
dalaith helaeth hon yn yr UD yn gwbl, gwbl unigryw.
“Mae mynd ar daith yn ehangu eich gorwelion ac yn gwneud i chi gymryd Camre newydd ”
Matthew Williams, Ysgol y Maelor, Periw2006
015
EwropManteisiwch ar anturiaethau sy’n nes adref.
Uchafbwyntiau – caiacio môr ar hyd arfordir
hardd ynysoedd Milos yng Ngroeg, neu brofi
diwylliant morol Norwy a’r fjords dyfnaf yn Ewrop.
Beth am deithio drwy Fynyddoedd y Picos neu
Byrenees Catalonia, neu anelu i’r dwyrain am
lwybrau cerdded mynyddoedd Slofenia.
Asia a De Ddwyrain AsiaO laswelltiroedd anghysbell Mongolia i jyngls gwyllt India a Borneo, byddwch yn cwrdd â phobl gyfeillgar a lliwiau llachar ar eich taith.
Uchafbwyntiau - jyngls hynafol, traethau
gwyn, riffiau cwrel a deifio trawiadol, ‘tir y
wên’ gyda phentrefi ‘llwythol’ anghysbell,
Mynydd Kinabalu, rafftio bambŵ a cherdded
dramatig dros fynyddoedd sy’n drwch o eira.
Affrica Darganfyddwch deyrnas o harddwch aruthrol, bywyd gwyllt urddasol a chaleidosgop o ddiwylliannau cwbl ryfeddol. Uchafbwyntiau - parciau cenedlaethol byd-
enwog, Gwastatiroedd Eang Affrica, Mynydd Kenya
a Kilimanjaro a ‘phump’ anifail gwyllt Affrica. Y
twyni tywod talaf yn y byd, Mynyddoedd Atlas,
Rhaeadr anhygoel Victoria ac Anialwch y Sahara.
Eu Taith Hwy Yw Hi Bydd pob aelod o’r tîm yn cael cyfle i arwain ar y daith a bod
yn gyfrifol am benderfyniadau pwysig. Byddant yn derbyn
cyfrifoldeb am gyllideb y daith a sut fydd yn cael ei gwario, yn
archebu’r cludiant angenrheidiol, yn trefnu llety ar gyfer y grŵp
ac yn trefnu siwrneiau trosglwyddo oddi mewn i wledydd. Bydd
y myfyrwyr yn cael rhyddid i wneud penderfyniadau ond bydd
ganddynt hefyd sicrwydd bod Arweinydd y Daith a’r Athro Cyswllt
wrth law i’w harwain a’u cefnogi.
Codi Arian Un o fanteision allweddol cymryd rhan mewn rhaglen daith yw
bod y cyfranogwyr yn cael datblygu eu sgiliau entrepreneuraidd
er mwyn codi arian i gyllido eu taith. Mae Camre Cymru wedi
gweithio gyda phobl ieuainc o gefndiroedd amrywiol, pobl
ieuainc sy’n mynychu ysgolion annibynnol ac ysgolion y
wladwriaeth, yn ogystal â sefydliadau ieuenctid o bob cwr o’r DG.
O’n profiad ni, gall unrhyw berson ifanc godi arian i fynd ar daith
os bydd wedi penderfynu ei fod am wneud hynny.
Bydd yr Athro Cyswllt a thîm Camre Cymru sy’n gofalu am ei
glientau’n annog y cyfranogwyr gyda’u gweithgareddau codi arian
a byddant yn derbyn llyfryn ynghylch rheoli arian, yn cynnig cyngor.
Addysg y tu allan i’r dosbarth – y manteision Mae’r teithiau’n cynnig cyfle i bobl ieuainc brofi gweithgareddau
newydd a heriol a diwylliannau amrywiol. Bydd y cyfranogiad yn
gwella eu CV ac yn gwella eu siawns o sicrhau lle mewn prifysgol a
chael y swydd maent ei heisiau.
Gwobr Dug Caeredin Mae Camre Cymru’n sefydliad gyda thrwydded
ar gyfer cynnal Gwobr Dug Caeredin. Ceir cyfle
i’r cyfranogwyr ddefnyddio eu taith i gymhwyso ar gyfer adran
‘Prosiectau Anturus Eraill’ Gwobr Dug Caeredin.
FfitrwyddDoes dim rhaid bod yn eithriadol heini i fynd ar daith. Fodd bynnag,
gall taith fod yn gymhelliant gwych i aelodau’r daith wella eu ffitrwydd
yn ystod y rhaglen baratoi. Mae’r rhaglen yn cael ei llunio fel ei bod o
fewn gallu’r grŵp ac rydym yn cynnwys pecyn ffitrwydd gyda’r cynllun
datblygu oddeutu chwe mis cyn mynd ar y daith.
016
Cyfranogwyr y TeithiauEich Myfyrwyr Chi!
“Diolch i bawb yng Nghamre Cymru, ni allai ein mab fod wedi cael amser gwell yn unman. Daeth adref wedi cael prof iad gorau ei fywyd. Ni fyddai hyn wedi bod yn bosibl heb holl waith caled y trefnyddion ymlaen llaw ac yn ystod y daith”
Mr a Mrs Erskine (Rhieni Geordie Erskine), Tanzania 2007
017
Bydd Arweinydd Taith Camre Cymru ac Athro Cyswllt yn cadw cwmni i’r grŵp. Bydd Arweinydd Cynorthwyol o Gamre Cymru’n mynd ar deithiau ble ceir 13 neu fwy o gyfranogwyr. Gelwir y rhain yn ‘Dîm o Arweinwyr’.
Arweinydd y Daith Mae gan Gamre Cymru bolisi dewis llym iawn ar gyfer
Arweinwyr Teithiau ac mae’n anelu at sicrhau bod pob
Arweinydd Taith wedi’i ddewis o leiaf bedwar mis cyn
gadael ar y daith. Mae’n rhaid i’r ymgeiswyr fod wedi
llwyddo mewn proses ddethol ag iddi 5-cam, yn cynnwys
cwrs hyfforddi am ddeuddydd, ac mae’n rhaid iddynt feddu ar
y cymwysterau penodol i gyd. Mae’n rhaid i holl Arweinwyr
Camre Cymru feddu ar dystysgrif ymwadiad ymestynnol
sydd wedi’i chlirio gan y Biwro Cofnodion Troseddol (BCT)
/ Swyddfa Cofnodion Troseddol yr Alban (SCRO). Unwaith
y mae ymgeisydd wedi cael ei ddewis fel Arweinydd Taith,
neilltuir grŵp taith iddo yn seiliedig ar y cyrchfan a’r rhaglen
a ddewiswyd.
Mae gan bob un o Arweinwyr Camre Cymru gymhwyster
Arweinydd Mynydd sy’n addas ar gyfer rhaglen y
daith a Chymhwyster Cymorth Cyntaf ar gyfer y Daith.
Ystyrir cymwysterau Arweinwyr y Teithiau, eu sgiliau
trosglwyddadwy a’u profiad blaenorol yn teithio yn y byd
sy’n datblygu wrth gyfateb Arweinydd Taith i grŵp. Yn olaf,
mae’r Athro Cyswllt, cyfranogwyr y daith a’r rhieni’n cwrdd ag
Arweinydd eu Taith ymlaen llaw ac, os ydynt yn teimlo nad yw
ef neu hi yn addas i’w grŵp, bydd Camre Cymru’n ei newid am
Arweinydd Taith newydd.
Y Tîm o ArweinwyrCyfranogwyr y TeithiauEich Myfyrwyr Chi!
Yr Athro Cyswllt Mae’r cyfle hwn yn agored i unrhyw athro sy’n ymroddedig i gynnydd ei
fyfyrwyr ac a ysbrydolir gan y cyfle i newid bywyd ei ddisgyblion mewn ffordd
bositif a bythgofiadwy. Efallai eich bod yn mwynhau neu am brofi teithiau
tramor? Efallai eich bod yn hoffi’r syniad o weithgareddau awyr agored neu
am roi cynnig ar rywbeth newydd neu eisiau her newydd? Mae cymryd rhan
yn y rhaglen ddatblygu teithiau fel Athro Cyswllt yn brofiad hynod foddhaus yn
bersonol ac yn broffesiynol, ac yn gyfle i chi newid eich agwedd chi, yn ogystal
â’ch myfyrwyr, at fywyd. O safbwynt eich gyrfa fel athro, mae mynd ar daith yn
gallu bod yn dystiolaeth dda ar gyfer ceisiadau trothwy.
Mae eich cefnogaeth a’ch ymroddiad parhaus chi i’r rhaglen yn hanfodol
ac mae cymryd rhan yn gofyn am egni, brwdfrydedd a synnwyr digrifwch,
yn ogystal â pharodrwydd i brofi diwylliannau newydd, amgylchiadau
anghyfarwydd a sefyllfaoedd newydd. Os nad ydych yn llawn cyffro
ynghylch y syniad o fynd ar daith – neu os mai gwyliau sy’n mynd â’ch bryd
– peidiwch â darllen ymhellach!
Rôl yr Athro Cyswllt - Fel Athro Cyswllt rydych yn aelod gwerthfawr iawn o dîm y
daith. Cewch gefnogaeth gan Gamre Cymru drwy’r amser. Rôl yr Athro Cyswllt yw:
• Gweithredu fel person cyswllt rhwng Camre Cymru a’r myfyrwyr
• Annog y grŵp drwy gydol y rhaglen codi arian a’r rhaglen baratoi
• Mynd gyda’r grŵp ar y daith a chwarae rôl fugeiliol
Beth yw’r manteision o fod yn Athro Cyswllt?
• Byddwch yn cael cymryd rhan mewn taith a fydd yn newid eich bywyd
• Penwythnos Hyfforddi Am Ddim i Athrawon Cyswllt
• Cwrs Cymorth Cyntaf Am Ddim (Rhaglen Gofal y Daith (ECP) -
Edrych Ar Foddion)
• Hyfforddiant Arweinydd Mynydd neu Gwrs Asesu Am Ddim
• Crys-T am ddim!
Cefnogaeth i Athrawon Cyswllt – ‘Gofal Gwych i Glientau’ yw ein harwyddair.
Unwaith y byddwch yn Athro Cyswllt gyda Chamre Cymru, byddwn yn penodi
cydlynydd gofal client unigol yn berson cyswllt penodol i chi drwy gydol y
cyfnod o 14-18 mis a fydd yn arwain at y daith. Gallwch fod yn dawel eich
meddwl ei fod wrth law i helpu, waeth beth yw’r amgylchiadau.
018
Sefydliadau Partneriaeth docleaf - Camre Cymru yw’r unig ddarparwr teithiau ieuenctid a gefnogir gan
docleaf. Mae staff ystafell weithrediadau Camre Cymru wedi’u hyfforddi’n llawn i
reoli digwyddiadau ac fe’u cefnogir gan docleaf, cwmni
ymroddedig i ddelio â chynllunio ar gyfer argyfyngau
ac ymtaeb iddynt. Mae docleaf yn sicrhau ein bod wedi
cynllunio ar gyfer yr annisgwyl hyd yn oed.
Remote Medical Support - Mae Remote Medical Support yn gweithio mewn
partneriaeth â Chamre Cymru er mwyn darparu pecyn cefnogi meddygol o safon i
grwpiau yn y maes. Mae’n arbenigo mewn darparu gwybodaeth feddygol i grwpiau
mewn lleoliadau anghysbell dros y ffôn a thrwy gyfrwng y
rhyngrwyd. Mae’r gwasanaeth hwn yn golygu bod Arweinydd
y Daith a’r Athro Cyswllt yn gallu sicrhau cyswllt uniongyrchol
â meddyg pan fo angen, drwy gyfrwng ffôn lloeren.
YswiriantMae’r clientau sy’n archebu taith dramor neu raglen yn y DG gyda Chamre Cymru’n
derbyn yswiriant awtomatig dan un neu fwy o’r polisïau yswiriant o safon y byd
sydd wedi’u cynllunio ar ein cyfer gan ein hyswirwyr. Mae gan Gamre Cymru bolisi
atebolwydd ar gyfer gweithredwyr teithiau byd-eang gyda Lloyds ac yswiriant teithio
byd-eang gyda Chwmni Yswiriant AXA.
Tocynnau Awyren a Gwarchod Taliadau Mae Camre Cymru wedi’i drwyddedu’n llawn i warchod unrhyw arian a delir gan
gwsmer i Gamre Cymru. Yn unol â’r ddeddfwriaeth gyfredol, mae gan Gamre Cymru
Drwydded Trefnyddion Teithiau Awyr (ATOL – 6697) a gyflwynwyd gan
yr Awdurdod Hedfan Sifil (CAA). Mae hyn yn gwneud i chi deimlo’n
hyderus wrth archebu eich taith oherwydd gallwch fod yn dawel eich
meddwl bod unrhyw arian a delir i Gamre Cymru wedi’i warchod.
Diogelwch ar Deithiau Mae diogelwch yn brif flaenoriaeth i Gamre Cymru. Rydym yn
gweithredu systemau a gweithdrefnau diogelwch o safon y byd
er mwyn cynnal y safonau uchaf posibl bob amser.
Cyn Ymadael - Cynhelir rhagarchwiliad yng
ngwledydd ein cyrchfannau ac asesiadau risg cyn
mynd ar daith ac mae Camre Cymru’n cydweithio’n
agos â Llysgenadaethau a Chonsyliaethau
Prydain, y Swyddfa Dramor a Chymanwlad
a’n rhwydwaith o gytundebau yn y gwahanol
wledydd i fonitro diogelwch a sefydlogrwydd ein
rhaglenni. Mae timau’r teithiau’n derbyn briffiau
cynhwysfawr am ddiogelwch, yn addas ar gyfer
pob cyrchfan, wrth baratoi ar gyfer y daith a thra
yn y wlad.
Cyfnod y Daith - Mae Arweinwyr y Teithiau wedi’u
hyfforddi i gynnal asesiadau risg deinamig
yn y wlad tra ar y daith ac maent wedi derbyn
hyfforddiant cymorth cyntaf ar deithiau. Mae
ganddynt gynllun rheoli digwyddiad penodol ar
gyfer eu cyrchfan, yn rhestru’r holl wasanaethau
meddygol lleol. Mae POB GRŴP yn cludo
ffonau lloeren, systemau lleoli byd-eang a
chitiau cymorth cyntaf sy’n addas ar gyfer yr
amgylcheddau y bydd y grŵp yn teithio drwyddynt
– e.e. ailtitiwd uchel.
Yn Ystod y Daith - Cefnogir y tîm gan ystafell
weithrediadau 24-awr gyda gwasanaeth cyfathrebu
ar gael drwy gyfrwng llinell dir, lloeren a ffôn
symudol, i roi cyngor, monitro cynnydd grŵp y
daith a sicrhau gweithredu cyflym a phriodol os
cyfyd argyfwng.
019
Beth Sy’n Bwysig i Ni? Yr Amgylchedd
Mae Camre Cymru’n arwain y ffordd wrth hybu ymwybyddiaeth amgylcheddol a diwylliannol
drwy gyfrwng ei deithiau a’i raglenni ac mae’n cymryd camau i roi sylw i’r effaith y mae’n ei gael fel
sefydliad ar yr amgylchedd. Ein cam cyntaf bychan yw rhoi 1% o’n gwerthiant blynyddol tuag
at ddiogelu’r blaned; rydym yn credu bod hwn yn gam anferth i fusnes bychan.
Ein teithiau - Mae’r cyfranogwyr yn cael cyfle i gymryd rhan mewn gwaith prosiect yn amrywio o
ymchwilio i rywogaethau mewn perygl i warchod cynefinoedd. Drwy gyfrwng hyn, a thrwy archwilio
amgylcheddau newydd, mae’r cyfranogwyr yn sicrhau dealltwriaeth tri dimensiwn o rai o’r materion
amgylcheddol y mae’r byd yn eu hwynebu heddiw.
Yn y DG - Mae Camre Cymru’n darparu Gwobr John Muir. Rydym yn hybu’r cynllun gwobrwyo
amgylcheddol cenedlaethol hwn, sy’n annog pobl i ddarganfod a gwarchod mannau gwyllt
drwy gyfrwng anturiaethau ac archwiliadau. Mae Camre Cymru hefyd yn ymgymryd â
phrosiectau amgylcheddol ar y cyd â’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, er mwyn hybu ffyrdd o
warchod breguster amgylcheddau lleol a llystyfiant a bywyd gwyllt brodorol.
Yn y swyddfa - Mae Camre Cymru wedi sefydlu ethos o ailgylchu ac mae’n ymroddedig i gynhyrchu
ei ddeunyddiau marchnata ar bapur o ffynonellau cynaladwy neu bapur wedi’i ailgylchu. Nid
ydym yn dweud ein bod wedi cyflawni popeth eto – ond rydym yn gwneud ein gorau yn sicr!
Twristiaeth Gyfrifol Rydym yn dysgu am wahaniaethau diwylliannol i’n cyfranogwyr ar eu teithiau, a sut i ymddwyn yn
briodol a pharchu traddodiadau lleol. Rydym yn ceisio lleihau’r effaith a gaiff pob taith ar yr amgylchedd
ac mae ein teithiau i gyd yn cydymffurfio â chanllawiau Cyfeillion Cadwraeth. Rydym yn
ofalus rhag taflu sbwriel a gwastraff ac rydym yn annog ein myfyrwyr i gyd i fod yn ofalus o
olion carbon eu traed tra ar y daith.
Addysg a Datblygiad Personol Mae rhaglenni Camre Cymru’n troi o amgylch y manteision a brofwyd i ddatblygiad personol wrth brofi
teithiau a dysgu yn yr awyr agored – gan ganolbwyntio’n benodol ar iechyd a lles, rheoli risg, teithio’n
ddiogel a chyflwyno profiadau pleserus yn cynnig budd parhaus. Mae ein rhaglenni i gyd yn troi o
amgylch dysgu egwyddorion ‘Y 5 Mawr’ – arweinyddiaeth, gwaith tîm, cyfathrebu, datrys problemau,
cynllunio a threfnu. Mae rhaglenni Camre Cymru hefyd o gymorth i gyrraedd y nodau a gafodd eu
datgan ar gyfer addysg gan Lywodraeth Prydain a Gweithgor yr Alban.
“Dylai dysgu y tu allan i,r Ystafell Ddosbarth fod yn rhan greiddiol o gwricwlwm ac ethos pob ysgol; mae ymweliadau addysgol a dosbarthiadau yn yr awyr agored hyd yn oed, ar
dir yr ysgol, yn troi,r dysgu,n brof iad byw, gan ysbrydoli a chymell plant i brof i eu gwybodaeth ac ehangu eu meddwl.”
Alan Johnson, Yr Ysgrifennydd Addysg, Tachwedd 2006
Ein ClientauMaent yn cynnwys athrawon, penaethiaid, ysgolion, awdurdoddau lleol, myfyrwyr, rhieni, grwpiau ieuenctid a
mwy. Rydym yn gwerthfawrogi’r berthynas yr ydym wedi’i ffurfio gyda’n clientau ac rydym wedi annog ‘polisi
drws agored’ erioed. Daliwch ati i gysylltu â ni os gwelwch yn dda ynghylch pob math o faterion, waeth pa
mor fawr neu fach. Ni allwn wneud gwahaniaeth os nad ydych chi’n fodlon siarad gyda ni!
Teithiau Antur y DG Yr Ateb Cyflawn i Ddysgu yn yr Awyr Agored
Cyfleoedd am Antur a Datblygiad Personol yn y DG
020
LleoliadGall y rhaglenni gael eu cyflwyno yn ein canolfan breswyl sydd â’r holl offer
angenrheidiol – Canolfan Ddatblygu Camre Cymru yn Eryri, yn Swydd Perth
neu mewn lleoliad o’ch dewis chi unrhyw le yn y DG.
Hyd a Maint y Grwpiau Gall y rhaglenni amrywio o sesiwn blasu hanner diwrnod i siwrnai antur yn para
pythefnos – chi sydd i ddewis pa mor hir neu fyr fydd y daith. Gall Camre Cymru
weithio gyda grwpiau o rhwng 4 a 200, gan ddibynnu ar ofynion y rhaglen.
Offer a Dillad Awyr Agored Mae’n ofynnol i gyfranogwyr y cwrs ddod â’u dillad sylfaenol eu hunain (mae’n
syniad da dod â dillad nad ydych yn poeni am eu gwlychu!). Bydd Camre
Cymru’n cyflenwi’r holl offer technegol a’r dillad awyr agored, fel dillad dal
dŵr, bagiau cefn ac esgidiau cerdded.
Llety a Bwyd Cewch ddewis aros yng Nghanolfan Ddatblygu Camre Cymru, sy’n cynnig
gwasanaeth arlwyo llawn, neu mewn llety bync, yn y maes pebyll neu wersylla
yn y gwyllt. Gallwch dderbyn gwasanaeth arlwyo llawn, hunanarlwyo gan
ddefnyddio ein cyfleusterau ni neu goginio eich hunain gyda stôf wersylla.
Mae Camre Cymru’n cynnig llu o raglenni antur a
datblygiad personol yn y DG, yn addas i oedolion a phobl
ieuainc rhwng 9 a 18 oed. Gellir llunio ein rhaglenni i
fodloni gofynion penodol y Cwricwlwm Cenedlaethol a
system addysg yr Alban a gall y rhaglenni gael eu haddasu
hefyd i gydymffurfio â’r Fagloriaeth Ryngwladol.
Mae gwerth addysg awyr agored yn ddigwestiwn. Fodd bynnag, mae llawer
o ysgolion yn ei chael yn anodd i gyflwyno darpariaeth awyr agored o safon
i’w disgyblion am nifer o resymau, yn cynnwys baich gwaith y staff a diffyg
adnoddau. Mae Camre Cymru wedi datblygu model allffynonellu sy’n
lleihau’r baich trefniannol ar ysgolion ac yn sicrhau bod addysg awyr agored
ddiogel, o safon uchel yn cael ei chyflwyno. Cysylltwch â Chamre Cymru i
drefnu cyfarfod ymgynghori rhad ac am ddim.
021
Rhaglenni Gweithgarwch Antur Gall rhaglenni antur fod yn gyfle i gymryd rhan mewn gweithgareddau
hwyliog neu gallant gynnwys themâu datblygu fel gwaith tîm, arweinyddiaeth,
cyfathrebu, datrys problemau a sgiliau cynllunio a threfnu. Gall y rhaglenni
antur fod yn unrhyw beth o ½ diwrnod o hyd ac amrywio o sesiynau blasu yn
cyflwyno cyfranogwyr i weithgaredd newydd i gyrsiau neu raglenni adeiladu
sgiliau gyda nodau penodol i’w cyrraedd. Yn ogystal ag amrywiaeth o raglenni
preswyl a gwersylla, mae Camre Cymru hefyd yn cynnig siwrneiau’n cyfuno
amrywiaeth o weithgareddau antur ar hyd y ffordd. Gadewch i ni wybod beth
ydych am i’r cyfranogwyr ei gael allan o’r rhaglen a byddwn yn eich helpu i
ddewis o blith y gweithgareddau a ganlyn:
Y gweithgareddau a gynigir - arfordiro, cerdded ceunentydd, cyfeiriannu,
cerdded mynyddoedd, dringo creigiau ac abseilu, canŵio a chaiacio, beicio
mynydd, marchogaeth ceffylau, rafftio dŵr gwyn, saethyddiaeth, cyrsiau
rhaffau uchel a thasgau tîm.
Rhaglenni Datblygiad Personol Gellir llunio rhaglenni datblygiad personol i fod yn addas i ofynion
Cyfnodau Allweddol a gofynion lefelau cyrhaeddiad addysgol yr
Alban, yn addas i wahanol grwpiau blwyddyn, neu gellir eu llunio
i gyflwyno canlyniadau penodol y tynnir sylw atynt gan yr ysgol
neu’r grŵp ieuenctid. Gall Camre Cymru weithio gyda grwpiau
o hyd at 200 o ddisgyblion gan ddefnyddio amrywiaeth cyffrous
o dasgau tîm, problemau i’w datrys a blaengaredd, i roi sylw i’r
materion perthnasol i’r grŵp yn cymryd rhan. Gellir cynnal y
rhaglenni hyn ar y safle yn eich ysgol, neu fel rhan o raglen
breswyl estynedig.
Gwobr Dug Caeredin Mae Camre Cymru’n sefydliad sydd wedi’i achredu
i gyflwyno Dyfarniadau ac rydym yn gweithio gyda
grwpiau ar adran deithiau’r Gwobrau Efydd, Arian ac Aur – gan
leihau’n sylweddol y baich a roddir ar ysgolion os ydynt yn gorfod
cynnal rhaglen Dug Caeredin yn eu hysgol ar raddfa fawr.
Mae pob grŵp yn derbyn hyfforddwr ar gyfer rhwng 4 a 7 o
gyfranogwyr a bydd yr hyfforddwr yn eu mentora, eu hyfforddi a’u
goruchwylio mewn dyddiau hyfforddi, teithiau ymarfer a’r daith
asesu. Fel cwmni wedi’i leoli yng nghanol y mynyddoedd, mae
gan Gamre Cymru brofiad helaeth iawn o weithredu yn Eryri ac
mewn ardaloedd gwledig gwyllt eraill yn y DG.
Gwobr John MuirMae Gwobr John Muir yn cyfuno addysg amgylcheddol gyda
dysgu awyr agored. Yr elfennau allweddol yw: darganfod man neu
amgylchedd gwyllt, archwilio nodweddion naturiol ardal, cymryd rhan
mewn gwaith cadwriaethol o ryw fath neu arolygon ecolegol.
Mae’r rhaglen yn bodloni sawl elfen o ofynion y gwahanol
Gyfnodau Allweddol a’r lefelau cyrhaeddiad addysgol yn yr
Alban ar gyfer gwyddoniaeth a daearyddiaeth.
022
Cymwysterau’r Diwydiant Awyr AgoredHyfforddiant arbenigol
Yng Nghamre Cymru rydym yn cynnig cyrsiau hyfforddi ac asesu’r
diwydiant awyr agored ar gyfer y rhai sy’n dymuno gwella eu sgiliau
proffesiynol neu sefydlu gyrfa newydd yn yr awyr agored. Dylech
feddu ar lefel dda o hyfedredd personol cyn dechrau arni – cysylltwch
â Chamre Cymru i drafod hyn a byddwn yn fwy na pharod i roi cyngor
i chi yn seiliedig ar ein gwybodaeth am eich profiad.
Dyfarniad Arweinwyr Mynydd yn yr Haf - mae’r dyfarniad hwn yn darparu’r
hyfforddiant a’r asesiad sydd ei angen ar arweinwyr grwpiau sy’n cerdded ac
yn gwersylla yn y mynyddoedd, y bryniau a’r rhostir yn y DG yn ystod yr haf.
Cynigir cwrs hyfforddi neu asesu rhad ac am ddim i Athrawon Cyswllt sy’n
cydlynu grŵp teithio o naw neu fwy o gyfranogwyr.
Hyfforddiant ac Asesiad Dyfarniad Pitsh Sengl – mae’r cwrs hyfforddi ac
asesu hwn yn canolbwyntio ar y sgiliau sydd eu hangen i oruchwylio grwpiau o
ddringwyr creigiau amhrofiadol. Mae’n edrych ar drefnu a goruchwylio sesiynau
diogel, effeithiol a phleserus ar glogwyni pitsh sengl dan do ac yn yr awyr agored.
Rhaglen Gofal Taith (ECP) – Archwilio Moddion - mae’r cwrs hwn yn
canolbwyntio ar yr wybodaeth sydd ei hangen am Gymorth Cyntaf i arwain grwpiau
teithio i ardaloedd anghysbell. Mae’r cwrs yn cynnwys paratoi’n feddygol ar gyfer
teithiau, citiau cymorth cyntaf, rheoli digwyddiadau a hyfforddiant sefyllfa, gyda
hyfforddiant sgiliau’n cael ei gyflwyno mewn sefyllfaoedd go iawn, yn cynnwys
torasgwrn yn y gwyllt, eithafion tymheredd, brathiadau a cholynnau, adfer claf a symud
claf sydd wedi cael damwain neu anaf o’r lleoliad. Cymeradwyir y cwrs gan y Gweithgor
Iechyd a Diogelwch ac mae am ddim i holl Athrawon Cyswllt Camre Cymru.
Canolfan Ddatblygu Camre Cymru
Mae Canolfan Ddatblygu Camre Cymru yn Eryri
wedi cael ei thrawsnewid i wneud lle i grŵp
cymysg o 22 o bobl, yn cynnwys 2 aelod o staff yn
ymweld, mewn llety bync. Mae’r staff sy’n ymweld
yn cael cysgu mewn man cysgu ar wahân.
Y Llety – yn cynnwys cawodydd poeth rhagorol a
chyfleusterau toiled. Ar y campws hefyd ceir ystafelloedd
darlithio ac ystafelloedd cyflwyno, ystafell sychu, cegin
gyda’r holl offer angenrheidiol a storfa helaeth yn yr awyr
agored. Rydym yn cyflenwi dillad gwlâu ond mae’n rhaid
i’r ymwelwyr ddod â phethau hanfodol fel llieiniau a
chitiau ymolchi gyda hwy.
Arlwyo – mae ein gwasanaeth arlwyo cyflawn yn amrywio
o ginio pecyn a chinio poeth gydag opsiynau llysieuol
gwych, i baneidiau chwilboeth o de, coffi a siocled poeth.
Rhowch wybod i ni am unrhyw anghenion deietyddol
arbennig wrth archebu.
023
Beth Nesaf? Sut i Archebu Mae’r siwrnai’n dechrau yma - ffoniwch ni am wybodaeth
bellach neu i drefnu cyfarfod gyda chynrychiolydd o Gamre
Cymru, heb gael eich rhwymo i archebu ein gwasanaeth mewn
unrhyw ffordd. Edrychwn ymlaen at glywed gennych.
Ffôn 00 44 (0) 1286 871888
Ffacs 00 44 (0) 1286 871898
E-bost info@outlookexpeditions.com
Gwefan www.outlookexpeditions.com
Y Broses Archebu Arferol
Cyfarfod - Cynrychiolydd o Gamre Cymru’n cwrdd ag Athro
Cyswllt posibl. Mae croeso i’r Uwch-Reolwyr fod yn bresennol
os ydynt yn dymuno. Dewis y cyrchfan a darparu dyddiadau ar
gyfer cyflwyniadau. Cyswllt gyda’r Awdurdod Addysg Lleol a’r
Awdurdod Lleol (Yr Alban) ar gyfer cytundebu (os oes angen).
Cyflwyniad – Cynrychiolydd o Gamre Cymru’n ymweld â’ch ysgol
neu eich grŵp ieuenctid ac yn gwneud cyflwyniad ar gyrchfan
penodol i ennyn diddordeb ymhlith y cyfranogwyr posibl.
Y noson rieni – Cynrychiolydd o Gamre Cymru’n gwneud
cyflwyniad hirach, gan fanylu mewn dyfnder ar raglen y daith.
Wedi’r noson rieni – Dylai’r Athro Cyswllt gynnal cyfarfod cyntaf
gyda’r grŵp i gefnogi cyfranogwyr sydd â diddordeb i gynnal eu
hachlysur codi arian cyntaf.
Ffurfio grŵp – Tîm Gofal Client Camre Cymru’n dechrau cefnogi’r
grŵp yn ystod ei antur fawr nesaf. .
Archebu Rhaglen yn y DG gyda Chamre Cymru
Ffoniwch ni ar 01286 871888 i drafod eich gofynion. Byddwn
yn trafod eich anghenion a’r math o raglen y mae gennych
ddiddordeb ynddi. Yn y cam hwn, mae’n ddefnyddiol bod â rhyw
fath o syniad o faint y grŵp a dyddiadau bras ar gyfer y rhaglen.
Cyfarfod Dewisol - Cynrychiolydd o Gamre Cymru’n ymweld â’r ysgol i drafod y gofynion.
Anfonir dyfyn-bris atoch chi – bydd hwn yn manylu ynghylch y rhaglen yr ydym yn ei hargymell a’n telerau a’n hamodau archebu.
Dychwelyd ffurflen cadarnhau archeb - i sicrhau bod eich rhaglen yn cael ei threfnu.
Sut i Gael Hyd i Ni gellir cael hyd i’r
cyfarwyddiadau
ar-lein drwy fynd i
www.camrecymru.com
Ffôn 00 44 (0) 1286 871888
E-bost info@outlookexpeditions.com
Swyddfa’r Alban:
Outlook Expeditions,
Atbara,
Ewanfield,
Crieff,
Perthshire,
PH7 3DA
Hefyd yn rhan o deulu Camre Cymru
Camre Cymunedol - sefydliad nad yw’n gwneud elw a sefydlwyd i
ganolbwyntio’n benodol ar ddatblygiadau cymunedol.
Pencadlys:
Camre Cymru,
Canolfan Ddatblygu Camre Cymru,
Deiniolen,
Llanberis,
Gwynedd,
LL55 3NF
Corporate Outlook Cyf. – yn hwyluso rhaglenni
datblygu ar gyfer busnesau a sefydliadau eraill.
Ffacs 00 44 (0) 1286 871898
Gwefan www.outlookexpeditions.com
Recommended