8
Newyddion a hanesion ar gyfer preswylwyr Cymdeithas Tai Bro Myrddin sgwrs STRAEON, CYNGOR, GWYBODAETH, POSAU Gofalu am eich iechyd Tudalen 4 Rhenti newydd 2012/13 Tudalen 6 Tudalen 5 Arbedwch ynni yn eich cartref y gwanwyn hwn Gwanwyn 2012 Rhifyn 40

sgwrs spring 2012 welsh

Embed Size (px)

DESCRIPTION

Gofalu am eich iechyd STRAEON, CYNGOR, GWYBODAET H, POSAU Tudalen 4 Tudalen 6 Tudalen 5 Gwanwyn 2012 Rhifyn 40 Cymdeithas Tai Bro Myrddin Newyddion a hanesion ar gyfer preswylwyr

Citation preview

Page 1: sgwrs spring 2012 welsh

Newyddion a hanesion ar gyfer preswylwyr

Cymdeithas Tai Bro Myrddin

sgwrsSTRAEO

N,

CYNGOR,

GWYBODAETH,

POSAU

Gofalu am eich iechydTudalen 4

Rhenti newydd2012/13Tudalen 6

Tudalen 5

Arbedwch ynniyn eich cartref ygwanwyn hwn

Gwanwyn 2012 Rhifyn 40

Page 2: sgwrs spring 2012 welsh

CROESO i rifyngwanwyn 2012 oSgwrs!

Mae blwyddyn arall

wedi mynd heibio ac mae

Sgwrs arall wedi cyrraedd

i’ch helpu i gadw ar y llwybr cul. Fel arfer, fe

gewch chi gylchlythyr llawn gwybodaeth

a fydd o ddiddordeb, gobeithio.

Er enghraifft, fe gewch chi fanylion

rhenti newydd 2012, diweddariad ar

gyfarfod y preswylwyr ym mis Ionawr

gan Netia Preece, aelod o’r tîm

golygyddol sydd hefyd yn breswylydd,

yn ogystal â chystadleuaeth ddifyr

newydd i blant.

Fe gewch chi hefyd ddigon o

awgrymiadau a chynghorion gan

sefydliadau allanol fel Shelter Cymru,

Sut i gysylltua ni

Dyddiau hyfforddiant staffl 29 Mawrth 2012l 21 Mehefin 2012l 27 Medi 2012l 14 Rhagfyr 2012

Gwyliau Bancl 6-9 Ebrill 2012l 7 Mai 2012l 4-5 Mehefin 2012

Rhifau argyfwng

Cau’r Swyddfa

l Allech chi fodyn gymwys igael cymortho’r Banc Bwyd?

l CynghorionDoeth ar arbedynni yn y cartrefy gwanwyn hwn

l Diweddariad o’rfforwm: cadwllygad ar fuddionpreswylwyr

l Rysáit teisengwpan y gallplant ei dilyn

l Y llygaid piau hi:cystadleuaethddifyr newydd

4

8

5

6

7

Cymdeithas elusennol yw Cymdeithas Tai Bro Myrddin Cyf sydd wedi’i chofrestru o dan

Ddeddf Cymdeithasau Diwydiannol a Darbodus 1965 (23055R) a gyda Tai Cymru (L069).

Cystadlaethau: Dim ond preswylwyr Bro Myrddin all gystadlu am y gwobrau ac yn y

cystadlaethau. Ni chaiff aelodau’r Bwrdd na’r staff gystadlu, oni bai y nodir yn wahanol.

Cywirdeb: Ceisiwn ein gorau i sicrhau fod y wybodaeth yn Sgwrs yn gywir, ond dylai

darllenwyr gael cyngor annibynnol cyn dibynnu ar unrhyw gynnwys. Ni allwn gymryd y

cyfrifoldeb am gamgymeriadau yn yr erthyglau. Neilltuwn yr hawl i olygu deunydd a

anfonir atom. Ni chaniateir atgynhyrchu Sgwrs heb ganiatâd yn gyntaf.

Llun y claw: ©

Eric Gevaert | Dream

stime.com

Yn y rhifyn hwn

YCYFAN I CHI!

Croeso irifyn bywiog a

byrlymus o Sgwrs!

Os bydd argyfwng yn eich cartref pan fydd y swyddfa

ar gau, gallwch ffonio dau rif:

n Mewn achos o argyfwng y tu allan i oriau swyddfa

(yn cynnwys argyfyngau yn ymwneud â systemau

gwresogi nwy ac olew) ffoniwch linell argyfwng 24

awr Cyngor Sir Gâr, Careline, ar 01558 824283.

n Mewn achosion o argyfyngau nwy, ffoniwch Transco ar 0800 111999.

prosiect ieuenctid Caerfyrddin DRM’z,

a llawer mwy.

Gobeithio y bydd yr holl erthyglau o

gymorth i chi, a byddai’n dda gennym

gael eich adborth – negyddol neu

gadarnhaol. Os oes rhywbeth yr

hoffech chi’i weld yn rhifynnau’r

dyfodol, rhowch wybod i mi yn

[email protected] neu

ffoniwch fi ar 01267 232714.

Aled Rees, Golygydd

ON Peidiwch ag anghofio ein hoffi ni!

Bro-Myrddin-Housing-Association

A oes problem cynnal a chadw gennych? Ffoniwch ni yn DDI-DÂL ar0800

316 9602

Bydd y swyddfa ar gau ar y dyddiadau hyn:

Mae’r dyddiadau hyn ar galendr y Gymdeithas a ddaeth gyda rhifyn y

gaeaf o Sgwrs. Os na chawsoch y calendr, ffoniwch ni ar 01267 232714

neu e-bostiwch [email protected]

2 Sgwrs Gwanwyn 2012

Cyhoeddir Sgwrs gan:

Cymdeithas Tai Bro Myrddin Cyf

Dyluniwyd a chynhyrchwyd gan:

Andrew Buchanan Communications

www.buchanan-communications.co.uk

Ffôn: 01267 232714

Testun: 07797 801628

E-bost: [email protected]

Ysgrifennwch at:Cymdeithas Tai

Bro Myrddin,

Ystâd Ddiwydiannol

Cillefwr, Tre Ioan,

Caerfyrddin SA31 3RB

Mae Sgwrs ar gael ar gaismewn print bras, Braille, ardâp sain neu yn eich dewisiaith. Ffoniwch ni osgwelwch yn dda ar 01267232714.

Page 3: sgwrs spring 2012 welsh

MATERION BRO MYRDDIN

Mae pob un ohonomym Mro Myrddin wedi

bod yn gweithio’n galed iawn iwneud newidiadau arwyddocaol, agobeithiwn y gwnânt wella’chprofiad o wasanaethau cwsmeriaid. Yn gryno, nod y ’Prosiect

Cysylltiadau’ yw ‘cysylltu’ ein staffrheng flaen a’n hadrannau yn fwyeffeithiol â chi, ein cwsmeriaid.I wneud hyn, rydym yn sicrhau y

gallwn ganfod y wybodaeth pan fydd eihangen arnom, ac y caiff einhadnoddau eu defnyddio i’w llawnbotensial. Mae’r rhain yn cynnwys

systemau cyfrifiadurol, systemau ffeilioac amser staff.Rydym wedi canolbwyntio’n bennaf ar

gyfathrebu dros y misoedd diwethafoherwydd mae arnom eisiau cynnig gwellprofiad o Gymdeithas Bro Myrddin i chipan fyddwch yn cysylltu â ni.Gan ystyried hyn, lansiwyd system

gyfrifiadurol newydd o’r enw ‘CRM’, neu'Rheoli Perthynas â Chwsmeriaid', sy’nlleoli’r holl wybodaeth sydd gennymamdanoch, eich cartref, eich tenantiaetha’ch eiddo oll mewn un man fel y gellircael at y wybodaeth yn rhwydd. Rhannesaf Prosiect Cysylltiadau yw ystyried

Yn ddiweddar, ailaseswyd Bro

Myrddin gan Lywodraeth Cymru

ac rydym yn falch o ddatgan ein

bod unwaith eto wedi cadw’n

statws Buddsoddwyr mewnPobl, a ddyfarnwyd i ni yn

gyntaf yn 2003.

Beth mae hyn yn ei olygu i ni?Rydym wedi defnyddio’r

rhaglen Buddsoddwyr mewn

Pobl i’n cynorthwyo i reoli a

datblygu ein staff ac i sicrhau y

caiff pawb eu hyfforddi’n iawn i

ymgymryd â’u swyddi hyd at

orau eu gallu.

Beth yw ystyr hyn i chi?Mae’n golygu fod ein staff

wedi’u cymell a’u bod wedi

ymrwymo i ddarparu’r

gwasanaeth gorau bosibl i chi –

ein preswylwyr.

Diweddariad ar Brosiect Cysylltiadau gan Tracy Mellor, Rheolwraig Gwasanaethau Cwsmeriaid

Mae Llyfryn Gwella Cartref newydd argael sy’n amlinellu’r broses o ymgynghoriâ phreswylwyr, ynghyd â’r hollddewisiadau sydd ar gael o ran ceginau,ystafelloedd ymolchi, ffenestri a drysau.Cyflwynwyd y llyfryn newydd ar gyfer yrhaglen amnewid ceginau yn Y GarregFilltir, ac ar ôl ei gwblhau, caiff adborth eigasglu a’i gyflwyno mewn rhifyn o Sgwrsyn y dyfodol. Mae’r adborth cychwynnolyw nodi fod preswylwyr yn teimlo eubod cael gwybodaeth well o lawer a’ubod yn fodlon ar y dewisiadau agynigiwyd.

Sgwrs Gwanwyn 2012 3

canolbwyntio ar gyfathrebubeth sydd ei angen gan dîmgwasanaethau cwsmeriaid, i sicrhau ygallwn ddelio â’ch ymholiad yn syth panfyddwch yn ein ffonio.Buasai’n dda gennyf gael eichbarn a buaswn yn croesawu unrhywawgrymiadau y bydd gennych i’r tîmgwasanaethau cwsmeriaid. Rhowchalwad i mi ar 01267 232714, neudewch draw i’r swyddfa am sgwrs.

� Wps! Dyma ni’nei gwneud hi eto...

Canllaw gwelliannau’ngwneud ydewis yn haws

Page 4: sgwrs spring 2012 welsh

MATERION IECHYD

Debyd Uniongyrchol

yw’r ffordd graff o

dalu.

Mae’n gyfleus a

thelir eich biliau’n

brydlon, bob tro, gan

eich helpu i arbed amser ac

osgoi trafferth.

Mae’n ddiogel a gwarantedig

hefyd. Mae’r Warant Ddebyd

Uniongyrchol yn eich diogelu

rhag unrhyw daliadau anghywir

ac yn sicrhau y dychwelir eich

arian os gwneir camgymeriad.

Newidiwch heddiw yn

www.allpay.net neu ffoniwch

allpay ar 0844 557 8323.Gwnewch hynny nawr ac fe

gewch eich cynnwys yn

awtomatig yn raffl fawr Big Break

i ennill £10,000. Beth am gynnig

Big Break i rywun arall hefyd?

Enwebwch rywun sydd yn eich

barn chi’n haeddu Big Break a

gallant ennill £1,000. Ewch i’r

wefan i’w enwebu heddiw.

I gael rhagor o wybodaeth,cysylltwch â’r gymdeithas ar01267 232714.

� Newidiwch iddebyd uniongyrchola gallech ennill£10,000

� Cyngor arbenigolar ddyledion amddim

4 Sgwrs Gwanwyn 2012

Os ydych chi’n ymdrechu’n

galed i reoli eich cardiau credyd,

benthyciadau a dyledion eraill,

mae cymorth am ddim ar gael gan

yr elusen ddyledion Gwasanaeth

Cwnsela ar Gredyd Defnyddwyr.

Mae’r elusen yn cynnig

gwasanaeth cynhwysfawr sy’n

ystyried y person, nid y broblem

yn unig, ac mae eu cynghorwyr

dyled ar gael drwy’r amser i’ch

helpu bob cam o’r ffordd nes y

byddwch yn rhydd rhag dyledion.

Gallwch gael cyngor am ddimtrwy gysylltu â llinell gymorth ar0800 138 1111 (agor dydd Llun iddydd Gwener, 8yb i 8yh) neutrwy ymweld â Debt Remedy,pecyn cwnsela ar ddyledion ar-lein dienw’r elusen ynwww.cccs.co.uk

Ydych chi’n ymdrechu’n galed i roi bwyd ar y bwrdd?

Os felly, gallech fodyn gymwys i gaelcymorth y Banc Bwyd

Pob dydd, bydd ein hysgyfaint ynanadlu ac yn allanadlu oddeutu10,000 litr o aer, gan anfon ocsigenhanfodol i lif y gwaed.Felly mae gofalu am eich ysgyfaint yn

bwysig. Ond beth sydd angen ichi eiwneud? Dyma bedwar o gynghoriondoeth:1 Byddwch yn weithgarBydd ymarfer corff yn cryfhau’rcyhyrau o gwmpas yr ysgyfaint. Maehyn yn golygu y gallant anfon ocsigeno amgylch y corff yn well.2 Bwytwch yn iachBydd diet cytbwys yn helpu’r corff idrechu heintiau’r frest ac yn helpu igynnal pwysau iach, sy’n bwysig i’rysgyfaint.3 Byddwch yn ddi-fwgMae mwg baco’n un o brif achosionclefyd yr ysgyfaint. Mae ysmygugoddefol – anadlu mwg pobl eraill –yn niweidiol hefyd.4 Ewch i gael archwilio pesychiadauGallai peswch sy’n parhau am fwy namis fod yn rhybudd cynnar o glefyd yr ysgyfaint. Felly peidiwch anwybyddu neuddiystyru peswch – ewch i siarad â’ch Meddyg Teulu.Mae Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint yn cynnig cymorth ymarferol trwy grwpiau

Anadlu’n Rhydd. Mae dros 20 o grwpiau yng Nghymru i bobl sydd â phob math obroblemau anadlu, naill ai wedi’u hachosi gan asthma, clefyd rhwystrol cronig yrysgyfaint (COPD), canser yr ysgyfaint, neu unrhyw gyflwr ysgyfaint arall. Bydd y grw^ p Anadlu’n Rhydd yng Nghaerfyrddin yn cwrdd yn Neuadd GoffaLlangain, Heol yr Ysgol, Llangain, Caerfyrddin SA33 5AE rhwng 2yb a 4yh, bobtrydydd Dydd Mawrth o’r mis. I gael rhagor o wybodaeth ewch i www.lunguk.org/wales neu ffoniwch Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint ar 01792 455764.

Poster gan Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint

o’r ymgyrch ‘Ysmygu mewn ceir gyda plant’.

Anadlu’n Rhydd...

Mae Banc Bwyd Caerfyrddin yn darparu bwyd i boblsydd mewn argyfwng ac mae’n agored pob DyddMawrth rhwng 11yb a 2yh yn Eglwys Gymunedol Tywi,3/4 Stryd y Neuadd, Caerfyrddin.

Gan ddefnyddio system o dalebau, rhoddir bocsys o fwyd sy’n gytbwys o ranmaeth i bobl sy’n wynebu argyfwng emosiynol neu ariannol. Bydd pob bocs yncynnwys gwerth tri diwrnod o fwyd annarfodus a thaflenni cynllunio bwydlen ihelpu defnyddwyr i baratoi prydau bwyd iach.Rhoddir y bwyd gan archfarchnadoedd, siopwyr ac aelodau’r gymuned, a

rhedir y gwasanaeth gan dîm o wirfoddolwyr hyfforddedig.I ganfod a ydych yn gymwys, e-bostiwch y banc bwyd yn:[email protected] neu ffoniwch Nicky ar 01267 232101.

Page 5: sgwrs spring 2012 welsh

ARBEDION YNNI

Diwrnodau allan yn y

8, 15, 22 a 29 EbrillArwerthiant Cist CarMaes Sioe’r Siroedd Unedig,

Caerfyrddin

www.unitedcounties.org

13 EbrillNoson Ffilm Awyr AgoredCae Ras Ffos Las

Ymlaciwch a mwynhewch y sioe

gerdd fwyaf poblogaidd, Grease,

a dewch i’n ffair ar y safle.

Agorir y gatiau am 6yh. Ffilm i

gychwyn am 8.30yh. Daw’r

noson i ben am 10.30yh.

Tocynnau: Oedolion £8;Plant £5.

Mae’n rhaid bwcio tocynnau

ymlaen llaw ar-lein neu yn y

swyddfa ar 01554 811092.

www.ffoslasracecourse.com

13-15 EbrillPenwythnos TalacharnTalacharn

www.thelaugharneweekend.com

28 a 29 EbrillFfair ArddioGerddi Aberglasne, Llangathen,

Sir Gaerfyrddin

www.aberglasney.org

01558 668998

5 MaiSioe CFfI Sir GaerfyrddinMaes Sioe’r Siroedd Unedig,

Caerfyrddin

www.unitedcounties.org

11, 12 a 13 MaiSioe Carafanau a ChartrefiModur De a Gorllewin CymruMaes Sioe’r Siroedd Unedig,

Caerfyrddin. 10yb-5yh yn

ddyddiol. £5 oedolion, £4

consesiwn a phlant dan 16 Am

Ddim. Parcio am ddim.

www.daffodilevents.co.uk

01570 470783

19 MaiSioe Amaethyddol CFfI SanclêrMaes Sioe’r Siroedd Unedig,

Caerfyrddin

www.stclearsyfcshow.co.uk

07870 390734

Sgwrs Gwanwyn 2012 5

Deg dull syml i

arbed ynni yn y cartref

Dyma 10 peth rhad ac am ddim y gallwch eu gwneud i arbed ynni yn eichcartref:� Wrth goginio, cadwch ddrws y ffwrn ynghau gymaint â phosibl. Bob tro y byddwchyn ei agor, bydd bron chwarter y gwres yn dianc.� Gadewch eich dillad yn yr haul a rhoddwch hoe i’ch sychdaflwr.

� Bydd bwyd yn y ffwrn yn coginio’n gynt pan fydd yraer yn llifo’n rhwydd oddi fewn iddo, felly peidiwch ârhoi ffoil ar y raciau.� Peidiwch â gadael eich ffôn i wefru dros nos acheisiwch beidio gadael y teledu ac eitemau eraill

yn y modd segur.� Dadmerwch eich rhewgell ynrheolaidd i’w helpu i redeg yn fwyeffeithlon.� Anogwch eich plant i ddiffoddteganau trydanol a goleuadau nadydynt yn eu defnyddio. Fe ddônt iarfer ag arbed ynni ymhen dim.� Wrth ferwi dw^ r, llenwch y tegell â’rhyn y bydd ei angen arnoch yn unig(ond sicrhewch eich bod yngorchuddio’r elfen fetel ar y gwaelod).� Arhoswch nes bydd gennychlwyth llawn cyn defnyddio’r peiriantgolchi. Cofiwch ddiffodd yr holl oleuadauwrth fynd i’r gwely, neu defnyddiwcholau nos â watedd isel os bydd angengadael un ymlaen. Rhowch yr oergell mewn man blegall yr aer gylchredeg y tu ôl iddi, ondnid wrth ochr ffwrn na rheiddiadur.

gwanwyn

© Stanislav Butygin | Dream

stime.com

Mae rhagor o newidiadau ar y gweill i fudd-dal tai

Os ydych chi’n cael help i dalu’ch rhent, mae angen i chigael gwybod sut bydd y newidiadau’n effeithio arnoch chi

Mynnwch gyngor nawrFfoniwch 0845 075 5005, ewch i sheltercymru.org.uk

Neu e-bostiwch [email protected] ffoniwch 08444 77 20 20 neu ewch i adviceguide.org.uk

Rhif elusen 515902

Page 6: sgwrs spring 2012 welsh

RHENTI

NEWYDD2012/13

Daeth saith mynychwr rheolaidd i

gyfarfod ein Fforwm ym mis Ionawr

a chroesawyd Sarah Thornton, aelod

newydd o’r fforwm, gan ein

Cadeirydd Ray Daniels.

Tracy Mellor, y RheolwraigGwasanaethau Cwsmeriaid, addechreuodd y cyfarfod trwy amlinellumesurau newydd sy’n cael eu cyflwynoi ddefnyddio amser staff yn fwyeffeithlon. Maent yn cynnwys cyfeirioymholiadau ffôn cyffredinol at dîmgwasanaethau cwsmeriaid ac ymholiadaumwy penodol at arbenigwr perthnasol.Yna, edrychom ar grynhoad o

ganlyniadau proffilio preswylwyr (nirennir gwybodaeth bersonol byth) sy’ngalluogi’r gymdeithas i ddatblygugwasanaethau ar gyfer anghenion eangac amrywiol ei phreswylwyr.

Dangoswyd y data ar ffurf graff awnaeth y wybodaeth yn haws ei dilyn.Cyn cinio, fe wnaethom archwilio

opsiynau am weithgareddau a allaiannog rhagor o bobl i fynychu’rcyfarfod cyffredinol blynyddol. Ganein bod yn griw creadigol, awgrymasomnifer o syniadau i geisio apelio atgymaint o breswylwyr â phosibl.Dechreuodd y prynhawn trwy drafodsiopa dirgel, sy’n galluogi i breswylwyrarsylwi a yw gwasanaethau BroMyrddin yn cael eu cyflawni’n unol âsafonau penodol.Yna, cawsom gipolwg ar yr arolwgTenantiaid a Phreswylwyr Safonedig isicrhau fod yr holl gwestiynau ynddo’nbriodol i breswylwyr Bro Myrddin ac iystyried cyflwyniad y testun i’r sawl sy’nwynebu anawsterau darllen.Cawsom arweiniad ar faterion cynnal achadw gan Paul Davies, a ddywedodd

Dyddiadau cyfarfod y Fforwm Preswylwyrl 23 Mai 2012l 19 Gorffennaf 2012l 19 Medi 2012l 28 Tachwedd 2012

cadw llygad

ar fuddion preswylwyr

‘Mae’n ddifyr yma!’ Bydd Paul bob amseryn ein difyrru wrth rannu ei wybodaetham bob agwedd o waith cynnal a chadw.Edrychasom ar rannau o’r LlawlyfrGwelliannau Cartref newydd – sy’ndrawiadol iawn – gan ofyn cwestiynaucyffredinol am waith cynnal a chadw.

FFORWM PRESWYLWYR

Fflat Ddeulawr 1 gwely/2 berson

Fflat 1 gwely/1 berson

Fflat Ddeulawr 1 gwely/2 berson

Byngalo1 gwely/2 berson

Ty^

1 gwely/2 berson

Fflat Ddeulawr 2 wely/3 pherson

Fflat 2 gwely/3 pherson

Byngalo 2 wely/3 pherson

Ty^

2 wely/3 pherson

Ty^

2 wely/4 person

Byngalo 2 wely/4 person

Ty^

3 gwely/4 person

Ty^

3 gwely/5 person

Byngalo 3 gwely/5 person

Byngalo 3 gwely/6 pherson

Byngalo 4 gwely/4 person

Byngalo 4 gwely/5 person

Ty^

4 gwely/5 person

Ty^

4 gwely/6 pherson

Byngalo 4 gwely/7 person

Ty^

4 gwely/7 person

Ty^

5 gwely/7 person

Ty^

5 gwely/9 person

Ty^

6 gwely/8 person

Ty^

6 gwely/9 person

Ty^

6 gwely/10 person

Byngalo 7 gwely/10 person

Ty^

7 gwely/10 person

£59.09£58.38£63.18£67.36£63.90£73.62£65.57£72.65£69.80£71.49£74.33£75.34£78.53£82.24£84.19£95.55£115.40£82.04£114.19£97.08£98.77£100.84£100.10£108.53£111.15£113.84£125.58£113.84

BOB BLWYDDYN bydd Llywodraeth Cymru’n adolygu rhenticymdeithasau tai.Eleni bu cynnydd o 5.1% yn holl renti tenantiaid sicr Bro Myrddin, o 2 Ebrill

2012.Y rhenti wythnosol a ddangosir yn y tabl ar y dde yw’r taliadau mwyaf ar

gyfer pob math o gartref (â rhai eithriadau) ac rydym wedi ysgrifennu at bobpreswylydd i ddweud faint fydd eu rhent.Yn ogystal â’r rhent, gofynnwn i chi dalu cyfraniad at gost gwasanaethau ar

gyfer mannau cymunedol, fel gwres, goleuadau a garddio. Gwyddom yn unionfaint yw cost y rhain, a byddwn yn trosglwyddo cyfran i chi fel taliad amwasanaethau.Mae gwasanaethau’n amrywio o’r naill safle i’r llall, felly nid ydym wedi’u

cynnwys yma. Dangosir y gost o ddarparu larymau argyfwng ar wahân, feltaliad am gymorth. Eto, yn sgil yr amrywiaeth yn y gwasanaethau, nid ydymwedi cynnwys y taliadau hyn yma.Os hoffech wybod rhagor am y dull o bennu eich rhent, cysylltwch â niar 01267 232714.

6 Sgwrs Gwanwyn 2012

Cawn grynodeb o ddigwyddiadau

cyfarfod diweddar o’r Fforwm

Preswylwyr gan Netia Preece,aelod o’r fforwm…

Page 7: sgwrs spring 2012 welsh

Mae DrM’Z yn gano

lfan galw heibio a re

dir gan

Brosiect Ieuenctid C

aerfyrddin, sy’n darp

aru lle

cysurus, diogel a sym

bylol ble gall pobl ifa

inc 11-

25 oed gyfarfod.

Yn DrM’Z, bydd pobl

ifanc yn cael cymorth

i

ddatblygu eu galluoedd

corfforol, meddyliol, em

osiynol

ac ysbrydol, i’w grymu

so i ddod yn aelodau a

eddfed

wedi’u hintegreiddio’n

llawn yn y gymdeithas

.

Enwyd y prosiect ieuen

ctid er cof am y Cyngh

orydd

Dr Margaret Evans, y m

ae ei gweledigaeth, ei

brwdfrydedd a’i hymdr

echion anhunanol wed

i ysbrydoli

prosiectau parhaol syd

d o fudd i bobl Caerfyr

ddin.

Dewch o hyd i ragor

o wybodaeth yn

www.drmz.co.uk, ne

u ffoniwch 01267 22

2786.

Ydych chi wedi

clywed am DrM'Z?

Cynhwysion yteisennau

115g menyn, wedi’i feddalu

115g siwgr mân

115g blawd codi

2 wy

1 llond llwy fwrdd o fêl

Cynhwysion yr eisin

50g menyn, wedi’i doddi

400g siwgr eisin

3 llond llwy fwrdd o ddw^ r oer

2 lond llwy fwrdd o rin fanila

Addurno

4 bar siocled yn cynnwys dil mêl, wedi eu torriyn ddarnau mân

1 pecyn o losin gwenyn siwgr

Gliter bwytadwy

Dull

1. Pan fyddwch yn barod i gychwyn,gofynnwch i oedolyn droi’r ffwrn ymlaen i190C/170C ffan/nwy 5.

2. Cymysgwch y cynhwysion yn drylwyriawn mewn bowlen.

3. Rhowch 12 cês papur teisennau cwpanmewn tun teisennau bychan 12-twll allwywch y gymysgedd yn wastad rhwng ycesys.

4. Pobwch am 15 munud.

5. Gofynnwch i oedolyn dynnu’r teisennau allan o’r ffwrn a’u rhoi ar rac wifren i oeri.

6. Arhoswch nes bydd y teisennau’n oerllyd, yna chwisgwchgynhwysion yr eisin ynghyd a’u taenu ar y teisennau.

7. Codwch bentwr o fariau siocled dil mêl wedi’u malu’n fân a’uhaddurno â gwenyn siwgr. Gallwch ddefnyddio ychydig o eisin neulud bwytadwy i gadw’r gwenyn yn eu lle.

8. Ysgeintiwch glitter tylwyth teg dros y teisennau i’w gwneud yndeisennau hud!

Rysáit i blant: teisennau cwpan mêl blasus

Sgwrs Gwanwyn 2012 7

HYSBYSFWRDD

Gall galw 999 am ymholiadau cyffredinol beri oedi wrthymateb i rywun y bydd arno angen cymorth hanfodol.Felly mae gan yr heddlu yng Nghymru rif hawdd i’w

ffonio pan fydd arnoch eisiau siarad â hwy, ond nid yw’nargyfwng.Bydd galw 101 yn eich cysylltu â’ch heddlu lleol yn syth

a gellir ei ddefnyddio i:4 riportio trosedd neu niwed troseddol nad yw’ndigwydd ar y pryd4 riportio mân wrthdrawiadau traffig4 riportio ymddygiad sy’n ‘wrthgymdeithasol’ lle nad oesangen ymateb brys4 cysylltu â’ch swyddog heddlu lleol4 holi ynghylch eiddo coll neu i roi gwybodaeth i’r heddlu

4 cael gwybodaeth neu gyngor4 siarad â’ch tîm plismona bro lleol

Galwch 101 os nadyw’n argyfwng...‘Diolch’ mawr iawnHoffem ddiolch i bawb a lenwodd eu harolwg proffilio

preswylwyr y llynedd.

Bydd y manylion a gawsom gennych yn sicrhau fod

gennym wybodaeth gywir a chyfredol am ein holl

breswylwyr, ac y gallwn addasu’n gwasanaethau i

ddiwallu’ch anghenion.

Dyddiad i'r Dyddiadur:Diwrnod Agored a ChyfarfodCyffredinol Blynyddol i Breswylwyr 26 Gorffennaf 2012Lleoliad i'w drefnu

Page 8: sgwrs spring 2012 welsh

Amlygwch enwau’r 15 o Gymry enwog sy’n

cuddio yn y blwch Chwilair, yna anfonwch

eich cais at y Golygydd yn swyddfa Bro

Myrddin erbyn 1 Mai 2012, ynghyd â’r ffurflen

gyflawn.

Os mai eich cais chi fydd y cyntaf o’r het,bydd gwobr o £25 ar ei ffordd ichi!

Rob BrydonAnthony HopkinsTerry JonesCarole VordermanCerys MathewsDylan ThomasCharlotte ChurchTommy Cooper

Tom JonesShirley BasseyRichard BurtonRhys IfansBonnie TylerJohn Rhys DaviesIoan Gruffudd

A H C R U H C E T T O L R A H C B D

S D F G H J K L Q W E R T Y U E E F

P O I U Y T R E W S D F G H L R H G

C A R O L V O D E R M A N H J Y J K

N H I O A N G R U F F U D D G S Y H

M W C D F G H J K K T U R T Y M E J

H G H A L R E D F G J K H H S A S S

G E A D W R H Y S I F A N S F T S N

F D R F A R A S D F G H J L W H A I

D E D F G Q W E R T Y U I O D E B K

S R B O N N I E T Y L E R P A W Y P

W T U A D F G H T O M J O N E S E O

E Y R S S D F G H H E D F Y Z T L H

R J T D D Y L A N T H O M A S Y R Y

T H O F A S D F G H J K L T E H I N

Y G N G H H J F E R T H R T Y U H O

J O H N R H Y S D A V I E S S D S H

E D G Y R T Y U S E N O J Y R R E T

R F G H D T O M M Y C O O P E R H N

R O B B R Y D O N Q W E D F G J K A

CORNEL GYSTADLAETHAU

Dewch o hyd i’r Cymry Enwog i ennill £25

Enw: .............................................. Oedran: .....

Cyfeiriad: ..........................................................

..........................................................................

Rhif ffôn: ...........................................................

Cyfatebwch y Llygaid â’r Anifeiliaid

Enw: ................................................................

Cyfeiriad : ........................................................

.........................................................................

Rhif ffôn: ..........................................................

l Llongyfarchiadau i Dale Evans, 9 oed, o Faes yr Ysgol, Caerfyrddin, ar ennill y gystadleuaeth liwio. Da iawn tiDale!

1. ________________ 2. ________________ 3. ________________

4. ________________ 5. ________________ 6. ________________

8 Sgwrs Gwanwyn 2012

Llongyfarchiadau i Mrs. Jones, Glasfryn,ar ennill cystadleuaeth Chwilair y Gaeaf!

Os ydych o dan 15 oed, ceisiwch gyfateb ychwe llygad â’r chwe anifail a restrir isod.

Ceffyl Tsimpansî CrocodeilGwdihw^ Eliffant Teigr

Ysgrifennwch enw’r anifail o dan lun ei

lygad, yna anfonwch eich cais at y Golygydd

yn swyddfa Bro Myrddin, gan gofio cynnwys y

ffurflen wedi’i llenwi.

Sicrhewch y bydd yn cyrraedd erbyn 1 Mai

2012.

Os mai eich cais chi fydd y cyntaf o’r het,byddwch yn ennill taleb anrheg gwerth £10 iweld ffilm wych yn sinema Apollo,Caerfyrddin.

POB LWC!