Click here to load reader
Upload
katrina-wood
View
226
Download
9
Embed Size (px)
DESCRIPTION
Â
Citation preview
Nid colli gwaith yw’r unig
ddangosydd o ddefnydd
problematig o alcohol neu
gyffuriau:
Mae’r Gwasanaeth Cefnogi
Cyflogaeth yn rhad ac am ddim ac
mae’n anelu at godi
ymwybyddiaeth materion yn y
gweithle sy’n ymwneud â
chamddefnyddio sylweddau.
Dyma gynllun Peilot Ewropeaidd
sy’n cael ei ariannu gan
Lywodraeth Cymru sydd ar gael i
weithwyr yng Ngogledd a De
Cymru.
Heb gymorth, gall camddefnyddio
alcohol neu gyffuriau arwain at
broblemau iechyd, diweithdra,
problemau mewn perthnasau, cam
-drin yn y cartref a digartrefedd. Yn
amlach na pheidio mae pobl yn
colli eu gwaith oherwydd nad ydynt
yn gwybod lle i droi am help.
Pa mor aml ydych chi wedi
ffonio’r gwaith yn sâl oherwydd
pen mawr?
Ydych chi’n tan-berfformio yn y
gwaith?
Ydy eich defnydd chi o
gyffuriau hamdden yn dechrau
mynd allan o reolaeth?
Ydych chi’n ymwybodol: Bod yna 3 math o gamddefnyddio alcohol:
yfed peryglus: yfed dros y ffin a argymellir
yfed niweidiol: yfed dros y ffin a argymellir a phrofi problemau iechyd o
ganlyniad i alcohol
yfed dibynnol: methu byw heb alcohol
Nid yw nifer o bobl sydd â phroblemau o ganlyniad i alcohol yn alcoholigion.
Dyma wasanaeth cyfrinachol ac am ddim yn cynnig cyngor a chefnogaeth.
Ydy o ar eich cyfer chi?
Ydych chi’n poeni am eich defnydd o alcohol a / neu gyffuriau?
Ydych chi wedi methu gwaith neu wedi bod yn hwyr yn cyrraedd
oherwydd eich bod yn dioddef o ben mawr?
Ydych chi’n teimlo bod eich defnydd o alcohol, cyffuriau neu
feddyginiaeth bresgripsiwn yn amharu ar eich gallu i ganolbwyntio?
Ydy defnydd alcohol a / neu gyffuriau rhywun sy’n agos atoch yn cael
effaith ar eich bywyd chi?
Mae’r gwasanaeth hwn yn darparu cefnogaeth i bobl sy’n cael eu heffeithio
gan lefelau amrywiol o gamddefnyddio sylweddau er mwyn eu galluogi i
barhau mewn gwaith a gwella safon cyffredinol eu hiechyd.
Amcangyfrifir fod 18 miliwn o ddiwrnodau
gwaith yn cael eu colli yn flynyddol
oherwydd camddefnyddio alcohol
Mae ymchwil yn dangos bod 1 ym mhob 8
o farwolaethau cyn oed ymddeol
oherwydd alcohol
Collir potensial o 58,000 o flynyddoedd
gweithio bob blwyddyn o ganlyniad i
farwolaethau cynamserol sydd ynghlwm ag
alcohol
Camddefnyddio sylweddau sy’n bennaf
gyfrifol am achosi digartrefedd
Ydych chi’n poeni
am aelod o’r teulu? Mae cyngor a
chyfarwyddiadau ar gael i
weithwyr lle mae eu gwaith
yn cael ei effeithio gan
aelod o’r teulu sydd â
phroblemau camddefnyddio
sylweddau. Yn ogystal â
sicrhau bod eich aelod o’r
teulu yn derbyn y lefel
berthnasol o gefnogaeth,
bydd y gwasanaeth hefyd
yn cadw mewn cysylltiad
gyda chi, trwy ddarparu
cefnogaeth ffôn un wrth un
yn ôl yr angen.
Trwy ofyn i’r holl staff gwblhau
holiadur cyfrinachol byr gall
sesiynau ymwybyddiaeth
gael eu teilwra a’u datblygu
er mwyn diwallu’ch
anghenion chi. Gall y
sesiynau yma gael eu cynnal
yn ystod neu y tu allan i oriau
gwaith yn unol â’r hyn a gaiff
ei gytuno gyda’ch cyflogwyr.
Os ydych yn cael trafferthion gydag
alcohol neu gyffuriau ar hyn o bryd,
gall ein staff ddarparu ymyriadau
un wrth un a byddem rhan amlaf yn
disgwyl i’w darparu yn wythnosol ac
am gyfnod o hyd at ddeuddeg
wythnos. Gall y sesiynau yma gael
eu cynnal y tu allan i oriau gwaith er
mwyn sicrhau cyfrinachedd a chyn
lleied o ymyraeth i’ch gwaith â
phosib.
Bydd y sesiwn yn cynnig ffyrdd o:
Ysgogi’r unigolyn i wynebu’r
problemau sydd ganddynt gydag
alcohol/cyffuriau
Gynnig help i ymdopi gyda straen
a phryder sydd wedi deillio o
gamddefnyddio sylweddau
Newid patrymau ymddygiad
Godi ymwybyddiaeth am y risg o
gamddefnyddio sylweddau i’r
meddwl a’r corff
Leihau’r risg o ailbwl yn dilyn
cyfnodau o ymwrthod
Ymdopi gyda’r chwant am
alcohol/cyffuriau
Pwrpas y sesiynau yma ydy i
gynyddu’r ysgogiad i newid trwy
annog unigolion i ddeall yr effaith
y gall camddefnyddio sylweddau
ei gael ar eu dyheuadau yn y
dyfodol.
Gallwch drafod yn
gyfrinachol gyda’r
person sy’n darparu’r
hyfforddiant neu
hunan gyfeirio trwy
gysylltu yn
uniongyrchol gyda’r
gwasanaeth:
Galwch 01685 721991
E-bostiwch [email protected]
Ewch ar-lein www.drugaidcymru.com
Cyfeiriad MIDAS, 1st Floor,
Oldway House, Castle Street,
Merthyr Tydfil, CH47 8UX
Galwch 01792 646421
E-bostiwch [email protected]
Ewch ar-lein www.wgcada.org
Cyfeiriad 41/42 St James Crescent,
Uplands, Swansea, SA1 6DR
Galwch Wendy: 07775 647 188
Nina: 07769 217 186
E-bostiwch [email protected]
Ewch ar-lein www.cais.co.uk/ess
Hoffi ESSNW Dilyn ESSNW