8
NCMH Canolfan Iechyd Meddwl Genedlaethol National Centre for Mental Health Croeso i Rifyn Diweddaraf NCMH Rydym yn falch iawn o’r llwyddiannau gwych a gyflawnwyd gennym dros yr ychydig fisoedd diwethaf, ac mae miloedd o unigolion ledled Cymru bellach wedi cymryd rhan yn ein hymchwil. Bydd eleni yn cynnwys rhai datblygiadau cyffrous iawn, fel NCHM yn dechrau ar gyfnod newydd a fydd yn cynnwys cydweithwyr ym Mhrifysgolion Abertawe a Bangor. Mae gennym gynlluniau mawr ar gyfer y flwyddyn i ddod, a thrwy gydweithio byddwn yn cyflawni llawer mwy nag y gallem ei wneud ar ein pen ein hunain. Ni fyddem wedi cyflawni cymaint ag y gwnaethom heb yr help a’r gefnogaeth a gawsom gan gymaint ohonoch, boed yn wirfoddolwyr neu yn rhai a wnaeth ein helpu i hyrwyddo ein hachos - diolch yn fawr i bob un ohonoch. Drwy gydweithio rwy’n siwr y gallwn gyflawni hyd yn oed yn fwy yn 2015. Professor Ian Jones Cyfarwyddwr yr NCMH Nifer y gwirfoddolwyr yn dyblu yn 2014 www.ncmh.info Ionawr 2015 Y WYBODAETH DDIWEDARAF Mae bron 2000 o bobl o bob oedran wedi cynnig ein helpu ni dros y flwyddyn ddiwethaf gyda’n hymchwil i iechyd meddwl, ac felly mae bron 4000 o gyfranogwyr gennym bellach. Mae gwirfoddolwyr o bob oed ledled Cymru wedi rhoi o’u hamser i helpu ymchwilwyr i ddysgu mwy am achosion problemau iechyd meddwl. Mae dealltwriaeth well yn hollbwysig er mwyn helpu i wella diagnosis, triniaeth a chymorth ar gyfer gofal iechyd meddwl, sef un o nodau allweddol NCMH. Dywedodd yr Athro Ian Jones, cyfarwyddwr NCMH: “Ni allwn ddiolch i’n gwirfoddolwyr ddigon – dim ond gyda’u cyfraniad hwy y gall ymchwilwyr wneud y gwaith a fydd yn arwain at welliannau gwirioneddol yn y dyfodol i bobl y mae salwch meddwl wedi effeithio arnynt”. Rydym yn chwilio am fwy o wirfoddolwyr o hyd a gall unrhyw un gymryd rhan - p’un a oes ganddynt brofiad o fyw gyda chyflwr iechyd meddwl ai peidio. Mae’r broses yn gyflym a syml a bydd ymchwilydd yn dod i’ch cartref i gynnal cyfweliad byr a chymryd sampl gwaed fach. Mae’n cymryd llai na hanner awr fel arfer. Os nad ydych eisoes wedi gwirfoddoli, ewch i www.ncmh.info/help-us i ganfod mwy, neu ffoniwch ni ar 029 2068 8401. Gallwch hefyd anfon neges destun TIME i 60777. /walesmentalhealth @ncmh_wales ˆ

NCMH Update January 2015 (Cymraeg)

Embed Size (px)

DESCRIPTION

 

Citation preview

Page 1: NCMH Update January 2015 (Cymraeg)

NCMHCanolfan Iechyd Meddwl Genedlaethol National Centre for Mental Health

Croeso i Rifyn Diweddaraf NCMHRydym yn falch iawn o’r llwyddiannau gwych a gyflawnwyd gennym dros yr ychydig fisoedd diwethaf, ac mae miloedd o unigolion ledled Cymru bellach wedi cymryd rhan yn ein hymchwil.

Bydd eleni yn cynnwys rhai datblygiadau cyffrous iawn, fel NCHM yn dechrau ar gyfnod newydd a fydd yn cynnwys cydweithwyr ym Mhrifysgolion Abertawe a Bangor. Mae gennym gynlluniau mawr ar gyfer y flwyddyn i ddod, a thrwy gydweithio byddwn yn cyflawni llawer mwy nag y gallem ei wneud ar ein pen ein hunain.

Ni fyddem wedi cyflawni cymaint ag y gwnaethom heb yr help a’r gefnogaeth a gawsom gan gymaint ohonoch, boed yn wirfoddolwyr neu yn rhai a wnaeth ein helpu i hyrwyddo ein hachos - diolch yn fawr i bob un ohonoch.

Drwy gydweithio rwy’n siwr y gallwn gyflawni hyd yn oed yn fwy yn 2015.

Professor Ian JonesCyfarwyddwr yr NCMH

Nifer y gwirfoddolwyr yn dyblu yn 2014

www.ncmh.info

Ionawr 2015

Y WYBODAETHDDIWEDARAF

Mae bron 2000 o bobl o bob oedran wedi cynnig ein helpu ni dros y flwyddyn ddiwethaf gyda’n hymchwil i iechyd meddwl, ac felly mae bron 4000 o gyfranogwyr gennym bellach.

Mae gwirfoddolwyr o bob oed ledled Cymru wedi rhoi o’u hamser i helpu ymchwilwyr i ddysgu mwy am achosion problemau iechyd meddwl.

Mae dealltwriaeth well yn hollbwysig er mwyn helpu i wella diagnosis, triniaeth a chymorth ar gyfer gofal iechyd meddwl, sef un o nodau allweddol NCMH.

Dywedodd yr Athro Ian Jones, cyfarwyddwr NCMH: “Ni allwn ddiolch i’n gwirfoddolwyr ddigon – dim ond gyda’u cyfraniad hwy y gall ymchwilwyr wneud y gwaith a fydd yn arwain at

welliannau gwirioneddol yn y dyfodol i bobl y mae salwch meddwl wedi effeithio arnynt”.

Rydym yn chwilio am fwy o wirfoddolwyr o hyd a gall unrhyw un gymryd rhan - p’un a oes ganddynt brofiad o fyw gyda chyflwr iechyd meddwl ai peidio.

Mae’r broses yn gyflym a syml a bydd ymchwilydd yn dod i’ch cartref i gynnal cyfweliad byr a chymryd sampl gwaed fach. Mae’n cymryd llai na hanner awr fel arfer.

Os nad ydych eisoes wedi gwirfoddoli, ewch i www.ncmh.info/help-us i ganfod mwy, neu ffoniwch ni ar 029 2068 8401. Gallwch hefyd anfon neges destun TIME i 60777.

/walesmentalhealth

@ncmh_wales

ˆ

Page 2: NCMH Update January 2015 (Cymraeg)

Arian o’r newydd yn rhoi hwb o £3m i ymchwil iechyd meddwl yng Nghymru

iechyd meddwl, p’un a oes gennych brofiad o fyw gyda chyflwr iechyd meddwl, wedi gweithio ym maes gofal/cymorth iechyd meddwl, neu hyd yn oed os oes gennych ffrind neu berthynas sydd â phroblem iechyd meddwl.

Er mwyn rhannu eich awgrymiadau, cwblhewch y ffurflen ar-lein yn www.ncmh.info/tellncmh cyn 4pm ddydd Gwener 13 Chwefror 2015.

Bydd #TellNCMH, ein harolwg ar-lein sy’n caniatáu i chi helpu i lunio ymchwil iechyd meddwl yn y dyfodol yng Nghymru, yn cau ar 13th Chwefror.

Rydym am i chi awgrymu hyd at bum maes a phwnc ymchwil y credwch y dylai ymchwil yng Nghymru ganolbwyntio arnynt yn y dyfodol.

Gall eich awgrymiadau fod yn fanwl neu’n gyffredinol, ac mae lle hefyd ar yr arolwg i chi ychwanegu unrhyw sylwadau eraill.

Drwy ddweud wrthym am y meysydd ymchwil sy’n bwysig i chi, gallwch helpu i greu darlun gwell o’r hyn y dylai ymchwil iechyd meddwl yng Nghymru fod yn ei wneud yn y blynyddoedd i

ddod, gan arwain at syniadau newydd ac awgrymu llwybrau astudio newydd. Ar ôl i ni gael eich awgrymiadau, byddwn yn nodi’r themâu a’r pynciau ymchwil mwyaf poblogaidd.

Yna byddwn yn cyhoeddi’r awgrymiadau di-enw hyn, fel y gallant lywio cyfeiriad ymchwil iechyd meddwl yng Nghymru.

Rydym yn awyddus i glywed gan unrhyw un sydd â diddordeb mewn

[email protected]

Mae amser yn mynd yn brin o ran #TellNCMH

Bydd ymchwil iechyd meddwl yng Nghymru yn cael hwb o £3m dros y tair blynedd nesaf diolch i arian o’r newydd ar gyfer y Ganolfan Iechyd Meddwl Genedlaethol (NCMH).

Darperir y cylch ariannu newydd gan y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Gofal Cymdeithasol ac Iechyd (NISCHR).

Bydd y ganolfan yn parhau i recriwtio miloedd o bobl i gymryd rhan mewn ymchwil iechyd meddwl, a bydd hefyd yn gweithio i hyrwyddo dealltwriaeth o broblemau iechyd meddwl ymhlith y cyhoedd yng Nghymru er mwyn helpu i fynd i’r afael â stigma.

O fis Ebrill 2015 bydd NCMH yn creu partneriaethau newydd gyda’r Uned Ymchwil Gwybodaeth Iechyd (HIRU) ym Mhrifysgol Abertawe a’r

Ganolfan ar gyfer Iechyd Meddwl a Chymdeithas ym Mhrifysgol Bangor. Bydd y ganolfan hefyd yn ymgorffori gweithgarwch llwyddiannus Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Meddwl Cymru (MHRN-C) a’r Rhwydwaith Anabledd Dysgu ac Awtistiaeth (LDAN). Bydd y datblygiadau cyffrous hyn yn gwneud NCMH yn sefydliad a fydd yn wirioneddol i Gymru gyfan.

Dywedodd yr Athro Ian Jones, cyfarwyddwr NCMG: “Rydym yn falch iawn o allu parhau â’r gwaith gwych hwn y mae NCMH wedi bod yn ymwneud ag ef, ac rydym yn edrych ymlaen at rai datblygiadau newydd cyffrous iawn yn y blynyddoedd i ddod.”

“Mae’r arian o’r newydd yn brawf o ymrwymiad a gwaith caled pawb sy’n gysylltiedig ag NCMH - ein staff a’n

gwirfoddolwyr ymchwil. Mae’n adeg gyffrous iawn i ymchwil iechyd meddwl yng Nghymru, ac rydym yn edrych ymlaen at gymryd NCMH i’r cam nesaf yn ei datblygiad.”

Mae Laura Dernie, 31 oed o Gaerdydd, yn fam i ddau o blant ac yn wirfoddolwr ymchwil gydag NCMH. Gwnaeth ei phrofiad hi o iselder ei hysgogi i gymryd rhan yng ngwaith ymchwil y Ganolfan. Mae bellach yn gweithredu fel Hyrwyddwr Ymchwil gan helpu i recriwtio gwirfoddolwyr newydd. “Mae’n wych bod NCMH yn gallu parhau â’r gwaith y mae’n ei wneud” meddai Laura.

“Mae gan yr ymchwil y gallu i newid bywydau, ac un diwrnod yn y dyfodol, gallai’r ymchwil y mae’n ei gwneud yn awr fod o fudd i’m plant, ac i filoedd o bobl eraill”

Page 3: NCMH Update January 2015 (Cymraeg)

Mae gofal annigonol i fenywod sy’n cael problemau iechyd meddwl yn ystod beichiogrwydd yn costio dros £8 biliwn i economi’r DU am bob blwyddyn o enedigaethau, yn ôl adroddiad a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2014.

Cyhoeddwyd yr adroddiad, Maternal Mental Health - an economic case for action, gan y Gynghrair Iechyd Meddwl i Famau (MMHA).

Dywedodd yr Athro Ian Jones, cyfarwyddwr NCMH, wrth siarad am yr adroddiad “Mae’r adroddiad hwn yn dangos faint o flaenoriaeth y mae angen ei rhoi i ofal iechyd meddwl addas, o ansawdd uchel yn ystod beichiogrwydd ac ar ôl geni plentyn. Rhoi cyfrif am y gost ariannol yn unig a wna’r ffigurau hyn - gall y niwed personol ac emosiynol sy’n deillio o broblemau iechyd meddwl yn ystod beichiogrwydd ac ar ôl geni plentyn fod yn enfawr.”

Roedd Dr Sarah Jones, cymrawd clinigol yn NCMH, yn Llundain i gefnogi lansio’r adroddiad yn swyddogol. Dywedodd “Y gwir yw bod hyd at 20% o fenywod yn datblygu problemau iechyd meddwl yn ystod beichiogrwydd neu o fewn blwyddyn i eni’r babi ac mae hunanladdiad yn un o brif achosion marwolaethau yn ystod y cyfnod hwn.”

“Ac er bod problemau iechyd meddwl yn gyffredin ac yn niweidiol i famau, babanod a theuluoedd, mae mynediad at seiciatreg amenedigol yn amrywio’n fawr iawn ledled y DU.”

“Nid oes gan fenywod yn hanner y DU neu oddeutu hynny unrhyw fynediad at wasanaethau iechyd meddwl amenedigol arbenigol o gwbl.”

“Mae angen datblygu’r gwasanaethau hyn fel bod pob menyw yn gallu cael mynediad teg at wasanaethau arbenigol ledled y DU.”

Awgryma’r adroddiad y byddai’n costio tua £238 miliwn i ddatblygu gwasanaethau yn unol â chanllawiau cenedlaethol.

Mae NCMH yn gweithio er mwyn dysgu mwy am gyflyrau iechyd meddwl, gan gynnwys y rhai sy’n gysylltiedig â beichiogrwydd, fel y gallwn wneud diagnosis gwell a rhoi triniaeth a chymorth gwell yn y dyfodol.

Yn ddiweddar, cyhoeddwyd papur yn The Lancet gan yr Athro Ian Jones yn trafod gofal ar gyfer mathau o salwch fel anhwylder deubegynol a sgitsoffrenia yn ystod y cyfnod amenedigol. Gall geni plentyn fod yn ffactor pwerus sy’n arwain at anhwylderau difrifol sy’n effeithio ar dymer megis mania, iselder a seicosis, yn enwedig i fenywod sydd wedi dioddef o anhwylder deubegynol yn y gorffennol.

Mae’r papur yn awgrymu y dylid rhoi cyngor priodol i bob menyw o oedran atgenhedlu sydd wedi dioddef o salwch meddwl difrifol yn y gorffennol ar y risgiau a’r gofal sydd angen ei roi yn ystod beichiogrwydd ac ar ôl geni plentyn am fod risg y gallai’r fam gael

ail bwl o salwch.

Adnoddau Beichiogrwydd ac Iechyd Meddwl NCMH

n Tudalen gwe ar Anhwylderau sy’n effeithio ar dymer yn ystod beichiogrwydd a geni plant

n Taflen anhwylder deubegynol, beichiogrwydd a geni plant

n Modiwl ar-lein ar iechyd meddwl ymhlith mamau: rhaglen ddysgu i fydwragedd.

Gallwch gael gafael ar y holl adnoddau hyn a mwy yn www.ncmh.info/pregnancy

Cyfrif cost gofal iechyd meddwl gwael ym maes mamolaeth

www.ncmh.info 3

Mae problemau iechyd meddwl yn gyffredin yn ystod beichiogrwydd a genedigaeth.

Page 4: NCMH Update January 2015 (Cymraeg)

Urdd Marchog i’r Athro Mike Owen

Sefydliad Meddygaeth Seicolegol a Niwrowyddorau Clinigol.

Ymhlith yr anrhydeddau a enillodd yr Athro Owen yn y gorffennol mae Gwobr Lieber 2012 a Gwobr Ymchwilydd Nodedig William K Warren am ymchwil i sgitsoffrenia yn 2013, y dyfarnwyd y ddwy ar y cyd â chyd Brif Ymchwilydd NCMH, yr Athro Mick O’Donovan.

Mae Prif Ymchwilydd NCMH, yr Athro Mike Owen wedi cael ei urddo’n farchog am ei wasanaethau i niwrowyddorau ac iechyd meddwl.

Dywedodd yr Athro Owen, wrth siarad â’r BBC, fod y wobr yn cydnabod gwaith Prifysgol Caerdydd o roi sylw i seiciatreg. Cydnabu hefyd bwysigrwydd ei gydweithwyr a’r tîm cymorth, a’r Brifysgol yn gyffredinol.

Dywedodd cyfarwyddwr NCMH, yr Athro Ian Jones “Rydym yn falch iawn bod yr Athro Owen wedi cael yr anrhydedd hwn.”

Mae ei waith rhagorol ar ddeall yr eneteg sy’n sail i gyflyrau megis sgitsoffrenia, anhwylder deubegynol a chlefyd Alzheimer wedi bod yn arloesol a dweud y lleiaf.”

“Dim ond gyda chymorth academyddion rhagorol fel yr Athro Owen y bydd sefydliadau fel NCMH yn llwyddo i ymchwilio i ddyfodol

gwell i’r miliynau o bobl y mae salwch meddwl yn effeithio arnynt.”

Mae’r Athro Owen wedi cyhoeddi dros 600 o bapurau gwyddonol ac ef yw cyfarwyddwr Canolfan MRC ar gyfer Geneteg a Genomeg Niwroseiciatrig (MRC CNGG)

Mae’r Athro Owen hefyd yn bennaeth ar Ysgol Feddygaeth y

Yr Athro Syr Mike Owen (dde) yn derbyn Urdd Marchog (uchod)

Ymchwil NCMH yn cyfrannu at lwyddiant REF

Barnwyd bod 90% o waith ymchwil ar Seicoleg, Seiciatreg a Niwrowyddorau Prifysgol Caerdydd yn ‘rhagorol’ yn asesiad Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2014.

Mae gwaith NCMH yn rhan o bortffolio’r Brifysgol yn y maes hwn, a gafodd ei ganmol am ei effaith o ran cyrhaeddiad ac arwyddocâd.

Ystyrir mai ymchwil Prifysgol Caerdydd i’r meysydd hyn yw’r ail orau yn y DU, gyda Rhydychen ar y brig.

Mae REF yn archwilio allbwn ymchwil prifysgolion y DU, ac yn edrych ar allbynnau ymchwil o 2008-2014. Mae REF yn ystyried arwyddocâd, cadernid

a gwreiddioldeb y gwaith, a’i effaith yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.

Mae canlyniadau REF yn chwarae rhan bwysig wrth benderfynu ar gyllid ymchwil.

Er y caiff NCMH ei ariannu gan NISCHR, Llywodraeth Cymru, fe’i cynhelir gan Brifysgol Caerdydd yn Adeilad Hadyn Ellis, ac mae’n gweithio’n agos gyda sawl un o brosiectau ymchwil y brifysgol.

Ystyriwyd bod ymchwil NCMH yn rhan o broses REF, ynghyd ag ymchwil cydweithwyr a chydweithredwyr yng Nghanolfan MRC ar gyfer Geneteg a Genomeg Niwroseiciatrig (MRC CNGG) a’r Sefydliad Ymchwil i Niwrowyddorau

ac Iechyd Meddwl (NMHRI).

“Rydym yn falch iawn bod Prifysgol Caerdydd yn cael canlyniadau mor wych, ac yn falch iawn o fod wedi chwarae rhan fach yn y cyflawniad hwn” meddai Cyfarwyddwr NCMH, yr Athro Ian Jones.

“Dim ond drwy gydweithio y mae llwyddiannau fel hyn yn bosibl, ac mae’n anrhydedd cael gweithio ochr yn ochr â rhai o ymchwilwyr mwyaf talentog Prifysgol Caerdydd, ac yn wir, y byd.”

[email protected]

Page 5: NCMH Update January 2015 (Cymraeg)

PlusOne ddim yn ddigon ar gyfer Lydia sy’n wirfoddolwr

rhai sydd â salwch meddwl i gymryd rhan yn ein hymchwil, hyd yn oed os nad ydynt erioed wedi cael y salwch eu hunain. Mae eu gwybodaeth yn ein galluogi i wneud cymariaethau pwysig, felly mae’n eithriadol o ddefnyddiol er mwyn dysgu mwy am achosion problemau iechyd meddwl.”

Dewch yn PlusOne heddiw - cwblhewch y ffurflen ar-lein yn www.ncmh.info/PlusOne, neu ffoniwch ni ar 029 2068 8401.

Pan wirfoddolodd Lydia Niziblian o Gaerdydd i gymryd rhan yn ymchwil NCMH i gefnogi ei gwr, doedd hi ddim yn fodlon bod yn PlusOne yn unig - felly aeth ati ar ei phen ei hun i recriwtio 13 o bobl eraill i gymryd rhan hefyd.

Pan ddaeth Lydia i wybod am gynllun PlusOne, sy’n annog ffrindiau a theuluoedd pobl â phroblemau iechyd meddwl i gymryd rhan mewn ymchwil, roedd yn awyddus i gymryd rhan er mwyn cefnogi ei gwr, Lann.

“Mae gan fy ngwr anhwylder deubegynol, ac ers pum mlynedd mae’r broses o chwilio am help, cael diagnosis a dod o hyd i driniaeth wedi bod yn frwydr fawr iddo ef, ac i’r teulu cyfan” esbonia Lydia, mam i ddau o blant sy’n rhedeg ei busnes gwneud gemwaith arian ei hun.

“Dechreuais ymwneud ag ymchwil PlusOne yn NCMH am ei fod yn rhywbeth y gallem ei wneud yn

ymarferol er mwyn helpu.”

Ond roedd Lydia am wneud mwy, felly gwnaeth annog ffrindiau a theulu i gymryd rhan hefyd.

“Mae pob un ohonom yn adnabod rhywun sydd wedi cael problemau iechyd meddwl, neu sydd â phroblemau iechyd meddwl ar hyn o bryd” dywed Lydia. “Fel gydag unrhyw salwch, po fwyaf y gwyddom amdano, y mwyaf y gallwn baratoi i’w drin. Mae mor hawdd helpu, a gallai wneud gwahaniaeth gwirioneddol i rywun rydych yn ei garu yn y dyfodol.”

Dywedodd Ian Jones: “Mae pawb yn NCMH yn ddiolchgar iawn i Lydia am y cyfraniad gwych y mae wedi’i wneud. Lansiwyd PlusOne gennym fel y gallai ffrindiau a gwirfoddolwyr helpu i wneud gwahaniaeth, ac mae wedi rhagori ar ein disgwyliadau.”

“Byddwn yn annog unrhyw un sydd am wneud gwahaniaeth gwirioneddol i’r

NCMH yn penodi Dirprwy Gyfarwyddwr newyddMae NCMH wedi penodi Dirprwy Gyfarwyddwr newydd - Dr James Walters.

Penodwyd Dr Walters yn lle’r Athro Ian Jones, a gafodd ei benodi yn Gyfarwyddwr y Ganolfan fis Ebrill diwethaf pan olynydd yr Athro Nick Craddock.

Mae Dr Walters yn uwch ddarlithydd clinigol ac yn seiciatrydd ymgynghorol anrhydeddus yng Nghanolfan MRC ar gyfer Geneteg a Genomeg Niwroseiciatrig ym Mhrifysgol Caerdydd.

Cafodd ei hyfforddiant yn Ne Lloegr, Llundain a Sydni cyn dychwelyd i Gaerdydd.Prif faes ymchwil Dr Walters yw

seicosis a sgitsoffrenia, yn enwedig namau gwybyddol sy’n gysylltiedig â’r cyflyrau hyn, a’r rôl a chwaraeir gan eneteg.

Cafodd gwaith James ei gydnabod gan y Sefydliad Ymchwil i’r Ymennydd ac Ymddygiad pan enillodd Wobr Sidney Baer am Ymchwil Arloesol i Sgitsoffrenia ac mae hefyd wedi ennill Gwobr Ymchwil Margaret Temple gan Gymdeithas Feddygol Prydain.

“Mae’n anrhydedd cael fy mhenodi i’r swydd, ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at ymgymryd â’r her newydd hon” meddai Dr Walters.“Mae NCMH eisoes wedi cyflawni llawer, ac rwy’n gobeithio chwarae rhan weithredol yn ei llwyddiant yn y dyfodol.”

Dywedodd yr Athro Ian Jones: “Bydd arbenigedd Dr Walters yn amhrisiadwy i’r ganolfan wrth i ni ddechrau ar ein cyfnod nesaf. Rwy’n edrych ymlaen at weithio’n agos gydag ef ar yr adeg gyffrous iawn hon i’n hymchwil.”

www.ncmh.info 5

Recriwtiodd Lydia 13 o wirfoddolwyr PlusOne

Dr James Walters

ˆ

ˆ

ˆ

Page 6: NCMH Update January 2015 (Cymraeg)

[email protected]

Cwmni theatr yn gwneud cyfraniad aruthrol i ymchwil iechyd meddwlCododd cwmni theatr Monstrous Productions, a noddir gan NCMH, filoedd o bunnoedd ar gyfer ymchwil Alzheimer yn 2014. Bellach maent wedi cychwyn ar flwyddyn newydd gyda chyfraniad arall at ymchwil iechyd meddwl - dod yn wirfoddolwyr NCMH.

Gwahoddodd Cyfarwyddwr Monstrous Productions a’r Cyd-berchennog Amy Davies dîm NCMH i rihyrsal yn gynharach y mis hwn i gynnal cyfweliadau a chymryd samplau gwaed. Mae Amy yn gyn-aelod o dîm NCMH ei hun, ac yn aml yn darparu blogiau gwadd ar gyfer gwefan y ganolfan.

“Fel un sydd wedi gweithio yn y gorffennol ar brosiect NCMH rwy’n deall pa mor bwysig, ond hefyd pa mor anodd, yw recriwtio pobl i helpu gydag ymchwil” medd Amy. “Mae rhai pethau wedi newid ers imi adael, a gall pobl bellach gymryd rhan fel PlusOne, ac felly dyna pam roedd yn adeg berffaith i mi gymryd rhan fy hun.”

“Rydyn ni bob amser wedi annog ein dilynwyr a’n cynulleidfa i gymryd rhan, felly feddylies i ‘pam ddim cymryd rhan ein hunain?’ Dwi’n adnabod fy aelodau, ac yn gwybod mai’r ffordd orau iddyn nhw gymryd rhan mewn pethau yw drwy ei gwneud hi mor hawdd â phosibl iddyn nhw wneud hynny, a dyna pam dwi wedi dod â’r ymchwilwyr atyn nhw! Roedd yn braf cael y tîm yn y rihyrsal, a chymerodd tua hanner y cwmni ran ynddo.”

Dywedodd Jordan, a gymerodd ran gyda’i mam ac sy’n fyfyrwraig geneteg ei hun: “Cymerais ran i ddangos fy mod yn cefnogi’r ymchwil hon i iechyd meddwl ac rwy’n edrych ymlaen at weld i ba gyfeiriad y bydd yr ymchwil yn mynd yn y dyfodol. Roedd y profiad yn un hamddenol, hawdd a di-boen. Os ydych yn ystyried cymryd rhan, ewch amdani. Roedd yr ymchwilwyr hyfryd yn hapus

i ateb unrhyw gwestiynau - ac mae’r cyfan at achos da.”

Gwirfoddolodd John hefyd, a gafodd wybod ei fod yn dioddef o Anhwylder Deubegynol ddeng mlynedd yn ôl. “Roeddwn i am helpu gydag ymchwil i’r cyflwr, ac i broblemau iechyd meddwl eraill, gan eu bod yn effeithio ar gymaint o bobl” meddai John. “Roedd y cyfweliad yn gyflym a syml a gallwch ddweud cymaint neu gyn lleied ag y dymunwch. Roedd y staff yn gyfeillgar iawn ac yn barod i helpu hefyd.”

Dywedodd Cyfarwyddwr NCMH, yr Athro Ian Jones: “Mae cwmni Amy wedi gwneud cyfraniad rhagorol at ein gwaith, drwy hyrwyddo ymchwil drwy gyfrwng eu cynyrchiadau, a thrwy gymryd rhan eu hunain. Rydym yn ddiolchgar am eu cefnogaeth ac yn dymuno pob llwyddiant iddynt yn y dyfodol.”

Adolygiadau prin ar gyfer Wyrd Sisters

Daeth addasiad Monstrous Productions o Wyrd Sisters yn agos at werthu pob tocyn dros y pedwar diwrnod, a chafodd adolygiadau gwych: “Dwi ddim yn gwybod sut gwnaethant lwyddo, ond heb unrhyw fath o set a dim ond ychydig o brops, ambell i fwrdd neu debot, llwyddodd Cwmni Theatr Monstrous Productions i greu hud a lledrith Discworld” meddai Adam Walker o WalesOnline.

Mae llwyddiant y ddrama, sy’n dilyn cynyrchiadau o Carpe Jugulum a Mort, yn dod â’r cyfanswm a godwyd ar gyfer Alzheimer’s Research UK i dros £7000.

Cynhelir addasiad nesaf y cwmni, Witches Abroad rhwng 8 ac 11 Ebrill 2015. I gael gwybodaeth am docynnau , ewch i www.monstrousptc.com.

Amy, ynghyd â chast Wyrd Sisters, (brig) a thîm Monstrous Productions yn cymryd rhan mewn ymchwil (gwaelod)

Page 7: NCMH Update January 2015 (Cymraeg)

Stori Ceri

www.ncmh.info 7

Ceri ydw i. Rwy’n briod ac mae gen i ddau o blant ac rwy’n byw ym Mhowys. Arferwn fod yn ddylunydd graffeg, ond rwyf wedi ymddeol bellach am resymau meddygol gan fod gennyf anhwylder straen wedi trawma difrifol (PTSD). Alla i ddim teithio mwyach, felly rwy’n hoffi tynnu lluniau o’m gardd er mwyn helpu i dynnu fy meddwl oddi ar bethau. Rwyf hefyd yn cadw tarantwlaod - mae rhai pobl yn eu hofni ond maent yn anifeiliaid anwes gwych!

Newidiodd fy mywyd yn gyfan gwbl ar ôl damwain a dechreuais ddioddef o PTSD. Y drafferth gyda PTSD yw nad oes modd ei weld. Mae llawer o bobl yn meddwl, os yw rhywun yn edrych yn iawn, rhaid ei fod e’n iawn. Ond gall ôl-fflachiau a symptomau eraill fod yn wanychol iawn. Sut gall-wch chi yrru neu goginio er enghraifft, os ydych yn meddwl eich bod mewn damwain drawmatig unwaith eto?

Mae pobl yn ceisio helpu ac yn dweud ‘dwêd wrtha i os wyt ti’n cael pwl’ ond dydyn nhw ddim bob amser yn deall. Yn ystod ôl-fflach, dydych chi ddim hyd yn oed yn gwybod eu bod nhw gyda chi weithiau.

Clywais am NCMH ar-lein, ac roeddwn am wirfoddoli oherwydd credaf fod angen i ni wybod mwy an PTSD. Drwy ddysgu mwy gallwn ddelio’n well ag ef, addysgu’r cyhoedd a dod o hyd i ffyrdd o helpu pobl eraill.

Roeddwn yn poeni ychydig cyn i mi wneud yr ymchwil am na allaf de-ithio, ond daeth ymchwilydd cyfeillgar iawn i’m gweld i yn fy nghartref. Gwnaeth gyfweld â mi a chymryd sampl gwaed - achosodd hyn ychydig o broblem, felly bu’n rhaid iddo ddod nôl gyda nodwydd llai o faint, ond llwy-ddwyd i wneud hyn yn gyflym iawn, felly doedd dim problem.Yn sicr rwy’n credu y dylai mwy o bobl wneud hyn - mae angen i ni wy-bod mwy am gyflyrau iechyd meddwl fel y gallwn helpu pobl i wella a hefyd atal y stigma sy’n dal pobl yn ôl.

Page 8: NCMH Update January 2015 (Cymraeg)

Y straeon diweddaraf o flog NCMH

Taflenni newydd ar gael yn www.ncmh.info

Mae ein blog yn dwyn ynghyd flogiadau ar iechyd meddwl o safbwyntiau amrywiol, gan gynnwys gwyddonwyr, cleifion, clinigwyr a gofalwyr. Cewch wybod mwy am ein blogiadau diweddaraf isod, a darllen y straeon llawn yn www.ncmh.info/blog. Gallwch hefyd anfon e-bost atom gyda’ch awgrymiadau ar gyfer blogiadau yn y dyfodol at [email protected].

Rhoi fy ymennydd i wyddoniaeth (mewn rhyw ystyr): Rhan 1

Cymerodd Swyddog Cysylltiadau NCMH, Lee Eynon ran ym mhrosiect ymchwil niwroddelweddu 100 o Ymenyddiau ym mis Rhagfyr 2014. Sut deimlad yn union yw cael sgan ar yr ymennydd?

23andMe - Peryglus?

Y Cwnselydd Genetig Dr Andrew Cuthbert yn trafod anfanteision posibl profion genetig yn y cartref ar ôl lansio 23and Me yn y DU. Ydy’r citiau hyn yn gweithio? Beth sy’n digwydd i’ch data a phwy sy’n berchen ar y data?

O Gopacabana i Gaerdydd: Stori o Frasil

Y seiciatryddion o Frasil, Paula a Carolyne, yn rhannu eu profiad o weithio gydag NCMH ar ôl treulio mis gyda’r tîm. Beth oedd eu barn hwy am weithio ym maes iechyd meddwl yn y DU?

Mae’r NCMH yn rhan o’r isadeiledd ymchwil i Gymru a ariannir gan NISCHR, Llywodraeth Cymru www.wales.gov.uk/nischr

Y Ganolfan Genedlaetholar gyfer Iechyd MeddwlPrifysgol Caerdydd, Adeilad Hadyn Ellis

Heol Maindy, Caerdydd CF24 4HQ

Mae taflenni gwybodaeth NCMH newydd ar Sgitsoffrenia ac Anhwylder Deubegynol, Beichiogrwydd a Geni Plant bellach ar gael.

Mae’r taflenni yn cynnwys gwybodaeth am natur pob cyflwr, ei achosion a’r triniaethau posibl, yn ogystal â ble i gael help. Maent hefyd yn rhoi awgrymiadau ymarferol ar ddelio â’r cyflwr, ar gyfer yr unigolyn y mae wedi effeithio arno a’i anwyliaid.

Mae’r taflenni ar gael i’w lawrlwytho fel ffeiliau PDF yn Saesneg a Chymraeg o www.ncmh.info/leaflets. Gallwch hefyd ofyn am gael copïau papur drwy gwblhau’r ffurflen ar ein gwefan.

www.ncmh.info/walesmentalhealth

@ncmh_wales

Tanysgrifiwch i flog NCMH ac ni fyddwch byth yn colli blogiad - dysgwch sut i wneud hyn yn www.ncmh.info/blog