32
intouch RHIFYN 70 | GWANWYN 2012 | AM DDIM Cylchgrawn preswylwyr Tai Wales & West

In Touch Spring 2012 (Cymraeg)

Embed Size (px)

DESCRIPTION

The magazine for residents of Wales & West Housing

Citation preview

Page 1: In Touch Spring 2012 (Cymraeg)

intouch RHIFYN 70 | GWANWYN 2012 | AM DDIM

Cylchgrawn preswylwyr Tai Wales & West

Page 2: In Touch Spring 2012 (Cymraeg)

...pwy yw eich arwyr yn

2012?

Gweler tudalen 24 am fanylion ynghylch ein

Gwobrau Gwneud Gwahaniaeth 2012,

y categorïau a sut i enwebu.

Neu, cysylltwch â Sharon Buckley ar

0800 052 2526 neu e-bostiwch hi:

[email protected]

Dyma rai o’n harwyr o Wobrau Gwneud

Gwahaniaeth llynedd...

Page 3: In Touch Spring 2012 (Cymraeg)

Llythyr y Golygydd | intouch | www.wwha.co.uk | 03

Llythyr y golygydd

CynnwysFfau Drake 4Newyddion a gwybodaeth am WWH 5Cynnal a chadw wedi’i gynllunio 10Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 12Byw’n wyrdd 13Y diweddaraf am ddatblygiadau 14Cyfranogiad Preswylwyr 15Materion ariannol 17Eich safb wynti au a’ch newyddion 21Byw’n iach 23Gwobrau Gwneud Gwahaniaeth 24Codi arian at elusennau 25Eich safb wynti au a’ch newyddion 26Pen-blwyddi a dathliadau 28Y diweddaraf am Help for Heroes 30

Wyddech chi eich bod chi nawr yn gallu cael mwy o newyddion a diweddariadau ar-lein?

Dilynwch ni ar twitt er @wwha

intouch mewn ieithoedd a ff ormatau eraillOs hoff ech chi dderbyn copi o’r rhifyn hwn o In Touch yn y Saesneg neu mewn iaith neu ff ormat arall, er enghraiff t, mewn print bras, rhowch wybod i ni ac fe wnawn ni eich helpu chi.

Cysylltu â niTai Wales & West Cyf., 3 Alexandra Gate, Ffordd Pengam, Tremorfa, Caerdydd CF24 2UD. Ffôn: 0800 052 2526 | Testun: 07788 310420 Ebost: [email protected] | Gwefan: www.wwha.co.ukMinicom: 0800 052 5205. Gallwch hefyd gysylltu ag aelodau o staff yn uniongyrchol drwy e-bost. Er enghraiff t, [email protected]

Annwyl bawb

Croeso i’n In Touch ar ei newydd wedd. Yn wir, croeso i Tai Wales & West ar ei newydd wedd. Mae’n bosibl eich bod chi wedi sylwi ar ein logo newydd smart ni! Trowch at dudalen 5 i ddarllen rhagor am sut a pham rydym wedi ailfrandio.

Wyddech chi bod newidiadau ar y gweill yn rhai o fudd-daliadau’r wladwriaeth? I weld a ydych chi’n debyg o gael eich eff eithio – a lle gallwch gael cyngor a chymorth os ydych angen hynny – trowch at yr adran Materion Ariannol ar dudalennau 17 i 20.

Mae gennym wobrau garddio gwych ar gael ar gyfer y gwanwyn ar dudalen 4. A phan fyddwch wedi gorff en darllen In Touch, beth am i chi gymryd golwg ar ein gwefan newydd? Ewch i www.wwha.co.uk a rhowch eich barn arni! Rydym bob amser yn falch o glywed gennych chi.

Cofi on cynnes

Sarah MannersRheolwr Cysyllti adau Cyhoeddus a Marchnata

Page 4: In Touch Spring 2012 (Cymraeg)

Enillwyr Chwilair Harry Pott er yn rhifyn y gaeaf oedd:

Lucas Roberts, 6, Wrecsam – Cardiau Harry Pott er.Dylan Jones, 7½, Wrecsam - Calendr.Owen Vyse, 8½, Wrecsam - Calendr.Charlie Brown, 9, Caerdydd – Llyfr sti ceri.Bethan Davies, 14, Bwcle – Oriawr Harry Pott er

04 | www.wwha.co.uk | intouch | Ffau Drake

Chwilair Cyfl e i ENNILLGwobrau garddioMae’r gwanwyn o’n cwmpas ni, felly rhowch gynnig ar y chwilair blodeuog hwn am gyfl e i ENNILL GWOBRAU. Mae tair gwobr garddio ar gael: Bag garddio, gyda menig, trywel a ff orch a chan dyfrio, tŷ adar y gallwch ei baenti o eich hun, a photi au planhigion y gallwch eu paenti o eich hun. Llenwch y chwilair a lliwiwch y blodau ac yna eu hanfon ataf ynghyd â’ch enw, eich oedran, eich cyfeiriad a’ch manylion cyswllt:

Keri Jones, Tai Wales & West, 3 Alexandra Gate, Ffordd Pengam, Tremorfa, Caerdydd. CF24 2UD.

Mae’r gystadleuaeth yn agored i rai sy’n 11 oed neu’n iau. POB LWC.

Page 5: In Touch Spring 2012 (Cymraeg)

Newyddion a gwybodaeth gyff redinol | intouch | www.wwha.co.uk | 05

Rydym wedi ailfrandio!Mae’n debygol eich bod chi wedi sylwi bod eich copi o In Touch yn edrych ychydig yn wahanol i’r un diwethaf a anfonom atoch chi.

In Touch yw In Touch o hyd – er hynny, mae ein logo – sy’n dangos bod y cwmni yn rhan o Gymdeithas Tai Wales & West, wedi newid yn llwyr.

Ynghynt, roedd gennym hirgylch glas tywyll gyda’r geiriau Cymdeithas Tai Wales & West arno, ond nawr fe welwch chi logo neu fathodyn gwahanol iawn. Mae nawr yn fathodyn smart ac ysgafnach, glas golau, ar siâp gwahanol – tŷ gyda draig Gymreig falch iawn o’i fewn.

Mae’r geiriau ar ein bathodyn wedi newid ychydig, hefyd. Nawr, yn hytrach na defnyddio ein henw llawn ff urfi ol – Cymdeithas Tai Wales & West, rydym yn galw ein hunain yn Tai Wales & West (er, rhag ofn eich bod yn pendroni, mae bod yn gymdeithas tai yn parhau i fod yn rhan ganolog o’n busnes. Eich cymdeithas tai chi ydi hi, ac un o’r hynaf, mwyaf ei maint a mwyaf profi adol yng Nghymru).

Felly, pam rydym wedi gwneud hyn? Wel, er mai ni yw eich landlord o hyd, yn ymrwymedig i wneud ein gorau glas drosoch chi a miloedd o bobl eraill tebyg i chi ledled Cymru, rydym wedi newid

llawer fel busnes yn y blynyddoedd diwethaf, ac rydym eisiau i’n bathodyn adlewyrchu’r newid hwnnw.

Fe wnaethom sefydlu Gwasanaethau Cynnal a Chadw Cambria yn ngaeaf 2010, ac fe wnaethom sefydlu strwythur grŵp yn sgil hynny. Mewn geiriau eraill, rydym yn fwy na chymdeithas tai erbyn hyn.

Ewch ar-lein heddiw!Mae gennym wefan newydd sbon, hefyd! Mae’n oleuach, yn fwy ff res ac rydym yn gobeithio y bydd yn llawer haws i chi ei defnyddio (gweler tudalen 7). Ewch i www.wwha.co.uk a chymerwch olwg arni heddiw. A pheidiwch ag anghofi o rhoi gwybod i ni beth yw eich barn – ewch i’r dudalen Cysylltu â ni.

Page 6: In Touch Spring 2012 (Cymraeg)

Am gyfnod, roedd ein tî m Cambria yn gyrru o le i le mewn faniau gwyn plaen, ond fe wnaethom sylweddoli eu bod nhw angen eu ‘gwedd’ a’u hunaniaeth eu hunain. Yna, fe wnaeth hyn beri i ni feddwl am ein gwedd a’n hunaniaeth ein hunain, ac fe wnaethom sylweddoli ein bod ni wedi newid fel sefydliad yn ystod y 10 mlynedd diwethaf, ond nid oedd ein hen fathodyn glas (a ddyluniwyd yn gyntaf 10 mlynedd yn ôl) yn gallu dangos hyn.

Felly, rydym yn meddwl bod ein tŷ glas golau gyda’n draig Gymreig falch yn gwneud hynny – yn dangos pwy ydym ni heddiw, yn dangos beth rydym yn ei wneud, beth yw ein hathroniaeth a beth rydym yn ceisio bod. Mae mynyddoedd glas Cambria yn rhannu’r un wedd a theimlad, gan ddangos ein bod ni i gyd yn rhan o’r un teulu busnes.

Yn y pen draw, nid ni sy’n bwysig, ond ni a chi yn ceisio gwneud ein gorau, a ni yn ceisio bod y gorau allwn ni ar eich rhan.

Rydym yn gobeithio eich bod yn ei hoffi hefyd!

Connect24 – rhan arall ohonom

Mae cannoedd ohonoch yn defnyddio ein larymau mewn argyfwng yn barod, ac rydym yn cael adborth mor dda gennych chi fel ein bod ni nawr eisiau cynnig y cyfl e hwn i lawer mwy o bobl. Rydym wedi galw’r rhan hwn o’n busnes yn Connect24, ac mae ganddo ei logo ei hun, hefyd. Ond peidiwch â phoeni os oes gennych larwm mewn argyfwng gyda ni yn barod – nid oes angen i chi wneud unrhyw beth, ac fe gewch chi’r un gwasanaeth o safon wych am yr un pris.

Concept50+

Ac rydym hefyd yn brandio’r gwasanaethau rydym yn eu darparu i bobl hŷn – bydd hyn yn cael ei alw’n Concept 50+.

06 | www.wwha.co.uk | intouch | Newyddion a gwybodaeth gyff redinol

Page 7: In Touch Spring 2012 (Cymraeg)

Newyddion a gwybodaeth gyff redinol | intouch | www.wwha.co.uk | 07

Gallwch anfon neges destun atom, hefyd!Mae gan y rhan fwyaf ohonom ff ôn symudol, ac mae anfon neges destun yn rhad ac yn hawdd fel arfer. Felly, rydym wedi penderfynu rhoi cynnig ar wasanaeth neges destun fel eich bod chi’n gallu defnyddio’r dull hwn i ddweud wrthym beth yw eich barn. Ein rhif yw 07788 310420 a bydd cost anfon neges destun atom yr un faint ag anfon neges at unrhyw un arall. Rydym yn gwerthfawrogi eich holl sylwadau, awgrymiadau, syniadau, ymholiadau, cwynion a chanmoliaethau, oherwydd drwy wybodaeth o’r fath y gallwn ni ddysgu a pharhau i wella. Ond peidiwch â phoeni os nad oes gennych ff ôn symudol, oherwydd gallwch barhau i gysylltu â ni ar y rhif rhadff ôn, drwy lythyr, e-bost neu wyneb yn wyneb.

helo!

Dyma sut mae tudalen gartref ein gwefan newydd yn edrych. Ewch ar-lein a dywedwch wrthym beth yw eich barn – www.wwha.co.ukNeu, gallwch anfon e-bost atom: [email protected]

Page 8: In Touch Spring 2012 (Cymraeg)

08 | www.wwha.co.uk | intouch | Newyddion a gwybodaeth gyff redinol

Mae ein Harolwg yn cael ei gynnal bob blwyddyn erbyn hyn, gyda thraean o’n holl gartrefi (tua 2,700 cartref) yn cael arolwg bob blwyddyn yn hytrach na’n holl gartrefi yn cael arolwg bob tair blynedd, sef beth roeddem yn arfer ei wneud.

Rydym eisiau i’ch adborth fod yn gyfredol, ac felly bydd arolwg bob blwyddyn yn helpu i sicrhau ein bod ni mewn sefyllfa well i ymateb i’r pethau sy’n bwysig i chi.

A thrwy wneud hyn, ni fydd unrhyw un yn cael cais i lenwi un o’r arolygon hyn fwy nag unwaith bob tair blynedd.

Felly, pam rydym yn cynnal ein Harolwg Bodlonrwydd Preswylwyr? Wel, gan fod eich safb wynti au a’ch syniadau yn hynod bwysig i ni, felly rydym yn ystyried yr arolwg hwn fel mater difrifol iawn. Dyma eich cyfl e chi i ddweud wrthym beth rydych yn ei feddwl am ein gwasanaethau a sut hwyl rydym yn ei gael ar wneud pethau.

• Ydym ni’n darparu’r pethau sy’n bwysig i chi?• Ydym ni’n gwneud pethau’n iawn?

• Beth allwn ni ei wneud i wella?

Mae gennym ddiddordeb hefyd yng ngwasanaethau’r dyfodol. A oes unrhyw beth y byddech yn hoffi ein gweld ni yn ei wneud nad ydym yn ei ddarparu ar hyn o bryd?

Bydd yr arolwg yn cael ei gynnal gan yr ymgynghorwyr ARP Research a gallwch fod yn dawel eich meddwl y bydd unrhyw sylwadau y byddwch yn eu gwneud yn cael eu cadw’n gyfrinachol.

Fel diolch i chi, bydd yr holl arolygon a lenwir ac a ddychwelir yn cael eu rhoi yn ein raffl fawr am ddim. Felly, gallai 15 munud o’ch amser ennill gwerth £100 o dalebau Argos (gwobr 1af), £75 (2il wobr) a £50 (3edd wobr).

Yn olaf, os na chawsoch Arolwg Bodlonrwydd Preswylwyr llynedd, ac os na chewch un eleni – peidiwch â phoeni. Byddwch yn siŵr o gael un fl wyddyn nesaf. Cadwch olwg am fanylion!

Arolwg Bodlonrwydd Preswylwyr 2012Mae hi’r adeg honno o’r fl wyddyn eto! Bydd ein Harolwg Bodlonrwydd Preswylwyr yn dod drwy fl ychau llythyrau nifer ohonoch chi o fewn y mis nesaf.

Page 9: In Touch Spring 2012 (Cymraeg)

Newyddion a gwybodaeth gyff redinol | intouch | www.wwha.co.uk | 09

Ni yw’r gorau o blith cwmnïau nid er elw Cymru

Wyddech chi fod Rhestr y Sunday Times o gwmnïau gorau 2012 wedi ein cydnabod ni fel sefydliad nid er elw gorau Cymru.

Ni oedd yn yr 8fed safl e o blith 100 o’r sefydliadau nid er elw gorau i weithio iddyn nhw ledled y Deyrnas Unedig.

A ni oedd yr unig gymdeithas tai o Gymru i gael gwobr y tair seren i’r Cwmnïau Gorau.

Dywedodd Anne Hinchey, y Prif Weithredwr: “Rydw i wrth fy modd ein bod ni wedi cael ein cydnabod fel sefydliad nid er elw gorau Cymru ac ein bod ni ymhlith deg cwmni nid er elw gorau’r Deyrnas Unedig fel cyfl ogwyr.

“Mae cael y radd uchaf o dair seren yn wych.

“Rydym yn ymfalchïo mewn bod yn gwmni sy’n cael ei yrru gan werthoedd – bod yn deg, agored, cefnogol, eff eithlon a chyfrifol – tuag at ein staff yn ogystal â phawb rydym yn gweithio gyda nhw ac ar eu cyfer.

“Llynedd, roeddem yn safl e 14 ar restr y Sunday Times gyda dwy seren, felly mae gwneud cynnydd mor sylweddol mewn blwyddyn yn destament i waith caled ac ymroddiad ein staff rhyfeddol.”

Adroddiad blynyddol a chyfrifl enni Bob blwyddyn, rydym yn cynhyrchu adroddiad sy’n edrych yn ôl ar ein gwaith a’n perff ormiad dros y fl wyddyn fl aenorol. Gallwch ddarllen ein Hadroddiad Blynyddol a’n Datganiadau Ariannol ar gyfer 2011 ar ein gwefan: www.wwha.co.uk. Neu, os hoff ech gopi caled, ff oniwch swyddfa’r Prif Weithredwr ac fe fyddwn ni’n barod iawn i anfon un atoch chi.

Dyfarniad ynghylch hyfywedd ariannol Ym mis Mawrth 2012, adolygodd Llywodraeth Cymru ein cyllid i sicrhau fod gennym ddigon o arian i wneud yr hyn rydym yn dweud y byddwn yn ei wneud.

Fe wnaethon nhw gymeradwyo ein cyllideb, gan roi gradd “pasio” i ni. Dyma’r canlyniad gorau posibl y gallwn fod wedi ei gael, ac mae’n cadarnhau fod gennym ddigon o adnoddau i gwrdd ag ymrwymiadau busnes a chyllid ar hyn o bryd ac yn y dyfodol.

I ddarllen adroddiad Llywodraeth Cymru yn llawn, ewch i www.wwha.co.uk

Page 10: In Touch Spring 2012 (Cymraeg)

10 | www.wwha.co.uk | intouch | Newyddion a gwybodaeth gyff redin

Fe wnawn ni ysgrifennu atoch i roi gwybod i chi pa bryd bydd y cyfarfodydd ymgynghori yn cael eu cynnal, fel y gallwch ddewis lliwiau lle bo’n briodol. Yn ogystal, fe gewch chi gyfl e i ofyn unrhyw gwesti wn a allai fod gennych ynghylch y broses hon.

CeginauSt Donats Close, Llanilltud FawrDol Glas, AberhondduFosseway, BronllysCwrt y Castell, Llanfair-ym-MualltHill Court, WrecsamLlys Rhedyn, WrecsamRhes Thomas, BagilltMaes Clwyd, y Rhyl

Ystafelloedd ymolchiThe Uplands, AberhondduCradoc Close, Aberhonddu

Cynnal a chadw wedi’i gynllunio 2012Dyma’r cynlluniau rydym yn bwriadu eu huwchraddio rhwng Ebrill a Medi 2012 fel rhan o’n rhaglen barhaus i gydymff urfi o â Safon Ansawdd Tai Cymru.

Llys yr Onnen, AberpennarLlys Ben Bowen Thomas, y RhonddaSt Peters Court, PentreSt Clements Court, PentwynTŷ Brynseion, Merthyr TudfulPowell Road, BwcleBenjamin Place, WrecsamClerc y Mendy, Wrecsam

Cysylltwch â’n tî m contractau os oes gennych unrhyw gwesti ynau:

Mike Wellock - Rheolwr MasnacholSean Gough - Rheolwr ContractauSimon Legg - Rheolwr ContractauKate Soloman - Rheolwr ContractauPeter Jenkins - Rheolwr ContractauLucy Simms - Cynorthwyydd Gwasanaethau Eiddo Gemma - Cynorthwyydd Coleman Gwasanaethau Eiddo

£ ££Cyfl e i ennill £250 os caiff eich bwyler wasanaeth y tro cyntafMiss Rae o Wrecsam oedd enillydd ff odus gwobr PH Jones o £250 ar gyfer y chwarter hwn. Y cyfan mae’n rhaid i chi ei wneud i cael cyfl e i ENNILL yw sicrhau bod eich bwyler yn cael ei wasanaethu ar yr apwynti ad CYNTAF rydym yn ei

drefnu gyda chi, neu os gallwch roi o leiaf 48 awr o rybudd i ni ohirio’r ymweliad. Yna, fe gewch eich cynnwys yn awtomati g yn y RAFFL AM DDIM. Mae’n hawdd iawn, ac fe allech ENNILL siec am £250.

Page 11: In Touch Spring 2012 (Cymraeg)

Newyddion a gwybodaeth gyff redin | intouch | www.wwha.co.uk | 11

“Ni allwn fod wedi gofyn am ddim byd mwy.” Dyna ymateb Mrs Susan Mostyn o Ben Onnen yn Bracla, Pen-y-bont ar Ogwr, ar ôl i dîm o’n partneriaid contracti o, GKR Maintenance, uwchraddio ei hystafell ymolchi.

“Roedd y gweithwyr yn wych, bob amser yn lân a thaclus, ac roedd y gwaith o’r safon uchaf, gyda dim byd yn ormod o draff erth iddyn nhw,” meddai Mrs Mostyn.

“Roeddem yn cael gwybod beth oedd y’n digwydd bob dydd gan yr arweinydd tî m a’r gweithwyr.

Mae fy ystafell ymolchi newydd

yn hyfryd“Roeddem hefyd yn teimlo’n gyff orddus eu cael nhw yn ein cartref, sy’n bwysig, yn enwedig os oes yn rhaid i chi fynd allan. Roeddwn yn teimlo fy mod yn gallu ymddiried ynddyn nhw 100%.

“Mae’r gawod wedi gwneud cymaint o wahaniaeth i ni fel teulu, ac mae’n amhrisiadwy. Mae’n defnyddio ynni yn fwy eff eithlon, ac rydym yn sylwi ar hynny gan fod yr arian yn ein mesurydd trydan yn para lawer hirach na’r cyfnod pan nad oedd cawod yno.

“Rydw i’n fodlon iawn gyda’r ystafell ymolchi nwydd, yn yr un modd â’r teulu cyfan. Ni allaf aros nes i’r gegin gael ei huwchraddio.”

Mae ein partneriaid contracti o, GKR Maintenance, wedi uwchraddio ystafelloedd ymolchi yn ddiweddar mewn 100 o’n cartrefi yn Bracla, Pen-y-bont ar Ogwr.

Roedd y gwaith yn cynnwys gosod baddon newydd gyda chawod uwchlaw’r baddon, basn golchi dwylo, toiled ar wahân, teils o amgylch y gawod a llawr newydd.

Mae newyddbethau sy’n defnyddio ynni’n eff eithlon yn cynnwys gwyntyllau newydd i fynd i’r afael ag anwedd, a chawodydd cymysgu sy’n tynnu dŵr o fwyleri cyfun, sy’n fwy eff eithlon na chawodydd trydan.

Page 12: In Touch Spring 2012 (Cymraeg)

12 | www.wwha.co.uk | intouch | Ymddygiad gwrthgymdeithasol

Rydym yn adolygu ein grŵp ymgynghori, Grŵp 500, ac rydym eisiau mwy o bobl sy’n 40 oed ac iau i gymryd rhan.

Gallwch roi eich safb wynti au drwy e-bost, y post arferol neu dros y ff ôn, a thrwy neges destun erbyn hyn, hefyd. Oes gennych chi ddiddordeb? Yna cysylltwch gyda mi, Claire Hammond, y Swyddog Strategaeth

Cyfranogiad Preswylwyr.

Rydym hefyd yn adolygu aelodaeth Grŵp 500, ac rydym wedi ysgrifennu at ein holl aelodau presennol i weld a ydych eisiau cymryd rhan o hyd. Nid ydym wedi cael ymateb enfawr hyd yn hyn, felly os colloch y llythyr, a’ch bod chi eisiau bod yn aelod o Grŵp 500 o hyd, rhowch wybod i mi.

Ydych chi’n iau na 40 oed? Ydych chi eisiau rhannu eich sylwadau gyda ni?

Pa un ai chwarae cerddoriaeth ydym ni, cael barbeciw neu’n berchen ar gi sy’n cyfarth yn gyson. Mae meddwl am bobl eraill a bod yn ymwybodol o ganlyniadau eich gweithredoedd eich hunain yn allweddol wrth sicrhau nad ydych yn creu problemau i eraill.

Os ydych wedi cael llond bol ar gymydog swnllyd, yn aml, y ff ordd orau o ddelio â’r broblem yw siarad yn gwrtais gyda’ch cymydog. Yn amlach na pheidio, efallai y byddwch yn gallu datrys y broblem yn gyfeillgar yn y fan a’r lle.

Mewn nifer o achosion, ni fydd pobl yn ymwybodol eu bod nhw’n peri problem, nac eu bod yn credu ar gam ei bod hi’n dderbyniol chwarae cerddoriaeth yn uchel iawn yn ystod y dydd.

Nid yw hi byth yn dderbyniol chwarae cerddoriaeth mor uchel fel y gellir ei glywed y tu allan i’ch cartref eich hun, waeth pa adeg o’r dydd ydi hi. Os yw’n peri niwsans, a bod eich cymydog wedi methu â datrys y sefyllfa, yna mae’n debyg y bydd eich swyddog tai neu eich swyddog gorfodi tenanti aeth yn ymweld â chi i ddarganfod beth yw’r broblem a cheisio dod o hyd i ff ordd o ddatrys y sefyllfa, mor sydyn â phosibl.

Yn y rhan fwyaf o achosion, mae’r broblem yn dod i ben pan fydd y sawl sy’n gwneud y sŵn yn cael gwybod eu bod nhw’n peri problem. Er hynny, os nad yw hyn yn gweithio, yna fe ddylech roi gwybod i’ch adran iechyd yr amgylchedd leol am y broblem, ynghyd â’n Huned Ymddygiad Gwrthgymdeithasol drwy ff onio 0800 052 2526.

Pan fydd sŵn yn dod yn niwsansWeithiau mae pawb ohonom yn gwneud pethau sy’n gallu eff eithio ar ein cymdogion a’n hamgylchfyd.

Page 13: In Touch Spring 2012 (Cymraeg)

Byw’n wyrdd | intouch | www.wwha.co.uk | 13

Torri ti r newydd (yn llythrennol)!

O ganlyniad i’r gosodiadau hyn, dylai ein preswylwyr elwa ar ddefnydd is o ynni, a thrwy hynny bydd yn helpu i warchod preswylwyr rhag cynnydd ym mhrisiau ynni yn y dyfodol.

Yn wreiddiol, roedd gan y 32 cartref wresogyddion trydan storio dros nos, a oedd yn golygu bod rhai preswylwyr yn talu biliau ynni oedd dros £200 y mis.

Mae’r ff otograff au yn dangos rig drilio 10 tunnell, a oedd yn gorfod drilio 161 metr i lawr yn yr achos hwn. Fel y byddech yn disgwyl, roedd pethau ychydig yn fwdlyd! Er hynny, ar y chwith, gallwch weld fod y gwaith wedi cael ei gwblhau – yn wir, mae’n bosibl na fyddech yn gwybod fod unrhyw beth fel hyn wedi digwydd!

Rydym wedi bod yn gosod pympiau gwres o’r ddaear yn rhai o’n heiddo yng nghanolbarth a gogledd Cymru. Mae’n debyg bod y pympiau gwres yr ateb mwyaf cynaliadwy o ran gwresogi a chynhesu dŵr sydd ar gael yn eang, ac rydym wedi gallu eu gosod diolch i grant gan raglen Arbed Llywodraeth Cymru.

Dywedodd Owen Jones, Swyddog yr Amgylchedd a Chynaladwyedd Tai Wales & West, “O’r hyn rydw i’n ei ddeall, mae’n debyg mai’r prosiect hwn yw’r mwyaf a wnaed mewn tai cymdeithasol ar ôl eu hadeiladu.

“Bu’n dipyn o her, ac mae wedi golygu ti pyn go lew o waith caled gan y staff a chontractwyr fel ei gilydd. Mae’r preswylwyr a gymerodd ran wedi bod yn wych, hefyd, gan fod y gwaith wedi tarfu ti pyn go lew arnyn nhw.

Er hynny, gan fod y gwaith wedi ei gwblhau, rydym yn credu y bydd ypreswylwyr oedd yn rhan o’r prosiect yn elwa’n fawr dros y blynyddoedd nesaf, gan fod ganddyn nhw lawer mwy o reolaeth dros wresogi eu cartrefi , a ddylai hefyd eu helpu nhw i ostwng eu biliau ynni.”

Page 14: In Touch Spring 2012 (Cymraeg)

14 | www.wwha.co.uk | intouch | Newyddion a Gwybodaeth Gyff redinol

Ail gynllun gofal ychwanegolMae gwaith wedi dechrau ar adeiladu ein hail gynllun gofal ychwanegol.

Bydd Llys Jasmine yn yr Wyddgrug yn darparu 61 rhandy o’r radd fl aenaf i bobl dros 60 oed sy’n byw yn Sir y Ffl int ar hyn o bryd, ac sydd ag anghenion gofal a chefnogaeth. Bydd y datblygiad sy’n werth £8.5 miliwn, yr ydym yn ei ddatblygu mewn partneriaeth â Chyngor Sir y Ffl int, yn cynnwys 12 rhandy wedi’u dylunio’n arbennig ar gyfer pobl sydd â dementi a, a bydd yn un o’r cyntaf o’i fath yn y wlad.

Mae cwmni Anwyl o’r Rhyl yn adeiladu Llys Jasmine ar ein rhan, ac mae disgwyl i’r gwaith gael ei gwblhau ym mis Mehefi n 2013.

Yn ne Cymru…Yn ne Cymru, rydym wedi prynu hen lyfrgell Coed Parc gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Mae’r safl e yn cynnwys prif dŷ rhestredig Gradd II, ynghyd ag estyniad mawr pren. Cadwch olwg ar ein gwefan, neu ar rifyn nesaf In Touch, i gael rhagor o fanylion am ein cynlluniau ar gyfer y safl e hwn.

Y gweinidog i ymweld…Mae disgwyl i’r Gweinidog Tai Huw Lewis (sydd yn y llun uchod, ar ymweliad â’n cartrefi yn Chapel Close yn Sain Tathan yn ddiweddar) ymweld â’n safl e yn Kingsmills Road, Wrecsam, ym mis Mai i nodi dechrau’r gwaith yn swyddogol o adeiladu 147 cartref newydd mewn rhaglen adfywio sy’n werth £17.5 miliwn.

Mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Bwrdd Iechyd Lleol Betsi Cadwaladr a Chymunedau yn Gyntaf Hightown, rydym yn adeiladu 92 cartref ar safl e Kingsmills Road. Rydym hefyd yn adeiladu canolfan gymunedol newydd, ynghyd â chanolfan feddygol bwrpasol ar Kingsmills Road, sef safl e Ffl ati au Hightown, gynt.

Rydym hefyd yn adeiladu 35 cartref arall gerllaw ar Rivulet Road, ac mae 20 cartref arall yn disgwyl am gymeradwyaeth gan yr adran gynllunio. Bydd yr adeiladwyr Anwyl yn dechrau gweithio o ddifrif ym mis Mehefi n, a dylai’r prosiect gael ei gwblhau erbyn hydref 2013.

Dylai’r datblygiadau arwain at greu nifer o swyddi a chyfl eoedd hyff orddi i bobl leol.

Os hoff ech gael rhagor o wybodaeth, ewch i’n gwefan newydd: www.wwha.co.uk neu www.hightownfl ats.com

Y diweddaraf am ddatblygiadau

Page 15: In Touch Spring 2012 (Cymraeg)

Cyfranogiad preswylwyr | intouch | www.wwha.co.uk | 15

Amser gwych i bobl ifanc BraclaYn ystod hanner tymor Chwefror, aeth Cymunedau yn Gyntaf Bracla â 10 o bobl ifanc o Bracla i ddigwyddiad cwpan her pêl-droed GAME ON yn Ysgol Gyfun Maesteg.

Helpodd Tai Wales and West y bobl ifanc drwy drefnu cyllid ar gyfer y bws mini.

Yn y llun, gwelir y PCSO Steve Bowen o dîm plismona cymdogaeth Bracla gyda’r bobl ifanc

Ymgynghoriad Crug yn AberhondduYm mis Chwefror, mwynhaodd y preswylwyr brynhawn o weithgareddau i blant, cyngor ac adborth yng Nghanolfan Ieuencti d Aberhonddu, a drefnwyd gan WWH, Cyngor Sir Powys a dau o Gynghorwyr Tref Aberhonddu, Robin Lewis a Matt hew Dorrance.

Roedd Tropical Inc yn boblogaidd gyda phlant ac oedolion, gyda’r ystafell yn llawn i’r ymylon ar gyfer y ddwy sioe, a oedd yn cynnwys draenog, mirgath, sgync, nadroedd a chorynnod.

Roedd Clwb Bocsio Amatur Aberhonddu hefyd yn boblogaidd, gyda phlant o bob oedran yn ymarfer gyda’r hyff orddwyr.

Rhoddodd Fran Packwood o elusen y Dogs Trust gyngor ar les cŵn, a chynigiodd dalebau £30 i osod sglodyn micro a sbaddu.

Roedd cynrychiolwyr Dyfodol Powys, Cymorth i Fenywod Aberhonddu, Ailgylchwyr Cyfrifi aduron a PAVO hefyd yn bresennol.

O ganlyniad, mae nifer o breswylwyr wedi mynegi diddordeb mewn cynnal rhagor o ddigwyddiadau yn y ganolfan ieuencti d yn ystod gwyliau’r ysgol, ac mewn ff urfi o grŵp Rhiant a Phlentyn wythnosol i blant rhwng 5 ac 8 oed. Bydd rhagor o gyfarfodydd yn cael eu trefnu i drafod y syniadau hyn ymhellach.

Page 16: In Touch Spring 2012 (Cymraeg)

16 | www.wwha.co.uk | intouch | Cyfranogiad preswylwyr

Ddydd Gŵyl Dewi eleni a hithau’n ddiwrnod heulog yng Nghei Connah, fe wnaeth Carl Sargeant, AC Alyn a Glannau Dyfrdwy (sydd yn y llun uchod ar y dde), agor man chwarae Cymdeithas Preswylwyr Cwrt Leighton ar ei newydd wedd. Roedd baneri a balwnau ar hyd y rheiliau, ac roedd y plant yn aros yn eiddgar am gael defnyddio’r cyfarpar newydd am y tro cyntaf.

Fe wnaethon nhw enwi eu maes chwarae newydd yn ‘Rainbows End’, gan fod y cyfarpar wedi cael ei baenti o mewn lliwiau llachar, gyda murlun enfys ar un ochr i’r ff ens.

Fe wnaeth Costco ddarparu teisen i ddathlu, ac fe ddarparodd y Gymdeithas Preswylwyr bwff e a bagiau o nwyddau da.

Bu Tai Wales & West, Cyngor Sir y Ffl int, www.moneysupermarket.com, Barclays, Cadwch Gymru’n Daclus, Coleg Glannau Dyfrdwy, Groundwork Gogledd Cymru, Costco, cynghorwyr lleol a Mr Sargeantyn rhan o’r gwaith ailwampio, a gwahaoddwyd pawb ohonyn nhw i’w diwrnod arbennig.

Dywedodd Vy Cochran, Swyddog Cyfranogiad Datblygu Cymunedau WWH, “Diolch yn fawr iawn i bawb a gymerodd ran, yn enwedig ein holl sefydliadau partner lleol”

Mae grŵp preswylwyr sydd newydd ff urfi o wedi cael darn o dir ar gynllun er ymddeol Sylvester Court, Hightown, Wrecsam, lle mae’r preswylwyr eisoes yn cynnal clwb cinio llwyddiannus. Eu bwriad yw datblygu’r ti r i dyfu cynnyrch ff res fel llysiau, ff rwythau, salad, perlysiau, planhigion a blodau ar gyfer y clwb cinio, a’u gwerthu i breswylwyr.

Mae Cadwch Gymru’n Daclus a gwirfoddolwyr o’r gwasanaeth prawf wedi bod yn helpu i glirio’r ti r a sefydlu gardd yno.

Mae Tai Wales & West, Age Concern a Chymunedau yn Gyntaf Hightown hefyd yn cefnogi’r prosiect. Mae grŵp preswylwyr gwirfoddol Gardd Gymunedol Sylvester Court hefyd wedi cael yswiriant drwy gynllun gan Lywodraeth Cymru dan ofal Cadwch Gymru’n Daclus.

Mae’r cynlluniau ar gyfer y dyfodol yn cynnwys agor yr ardd i’r gymuned leol ac i ymwelwyr pan fydd ar ei gorau.

Chwarae plant yn Rainbow’s End

Tyfu cynnyrch ff res o fudd i bawb yn Sylvester Court

Yn y llun, chwith – dde : Shane Hughes o Cadwch Gymru’n Daclus, Val Groves a Peter Whitaker o Sylvester Court, Raf a Richard Purton o Wasanaeth Prawf Cymru

Page 17: In Touch Spring 2012 (Cymraeg)

Materion Ariannol | intouch | www.wwha.co.uk | 17

A fydd newidiadau i fudd-daliadau yn eff eithio arnoch chi? Mae adran Materion Ariannol y rhifyn hwn yn canolbwynti o ar newidiadau i fudd-daliadau a allai eff eithio ar breswylwyr. Yn ddiweddar, fe wnaeth y Llywodraeth basio’r Ddeddf Diwygio Lles, sydd wedi arwain at doriadau mewn nifer fawr o fudd-daliadau.Rydym wedi canolbwynti o ar y newidiadau sy’n cael yr eff aith fwyaf, o bosibl, ond os ydych eisiau gweld yr holl newidiadau i fudd-daliadau yn gryno, ewch i’r dudalen Budd-daliadau yn yr adran Gwybodaeth ac Adnoddau ar wefan Turn2us (www.turn2us.org.uk).

Fe wnawn ni barhau i roi’r diweddaraf i chi yn rhifynnau In Touch yn y dyfodol, ynghyd ag ar ein gwefan www.wwha.co.uk Er hynny, os oes gennych unrhyw ymholiadau neu bryderon, peidiwch ag oedi cyn cysylltu â ni. Gofynnwch am Les Cooper neu Mike Halloran, y Swyddogion Cyngor ar Arian

Lwfans Cyfl ogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Gyfraniadau (ESA(C))

Os ydych yn cael (ESA(C)) ac eich bod chi yn y grŵp gweithgarwch yn gysyllti edig â gwaith, bydd eich hawl yn cael ei gyfyngu i 12 mis o hyn ymlaen (yn fl aenorol, nid oedd cyfyngiad arno). Os ydych wedi cael ESA(C) am 365 diwrnod neu ragor, y dyddiad olaf y bydd eich budd-daliad yn cael ei dalu fydd 30 Ebrill 2012.

Efallai y byddwch yn gymwys ar gyfer ESA yn seiliedig ar incwm, ond bydd yn rhaid iddo gael ei asesu gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP). Dylai’r DWP fod wedi ysgrifennu atoch chi ynghylch y newid hwn, ond os nad ydych wedi cael llythyr, neu os oes gennych unrhyw ymholiadau, gallwch eu ff onio nhw ar 0800 055 66 88

Credyd Treth Gwaith (WTC)

Mae’n rhaid i gyplau sydd â phlant weithio o leiaf 24 awr yr wythnos rhyngddyn nhw, gydag un yn gweithio o leiaf 16 awr, i fod yn gymwys ar gyfer WTC. Er hynny, mae rhai eithriadau:

Cyplau gyda phlant lle mae un yn gweithio o leiaf 16 awr, a:

• hawl i elfen anabledd WTC• neu, dros 60 oed• neu, os yw un o’r ddau yn analluog, yn glaf mewn ysbyty neu yn y carchar

fe fydd y rhain yn dal yn gymwys ar gyfer WTC.

Os yw eich WTC wedi dod i ben, ac eich bod chi’n gymwys dan un o’r eithriadau uchod, cysylltwch â CaThEM ar unwaith 0345 300 3900

Newidiadau o Ebrill 2012

Page 18: In Touch Spring 2012 (Cymraeg)

18 | www.wwha.co.uk | intouch | Materion Ariannol

Bydd y system daliadau newydd yn cymryd lle’r sieciau budd-dal

Bydd gwasanaeth talu newydd yn cael ei gyfl wyno i gymryd lle’r system sieciau budd-daliadau na ellir eu talu drwy daliad uniongyrchol, gan nad ydyn nhw’n gallu agor neu reoli cyfrifon banc neu gyfrif cerdyn Swyddfa’r Post.

Dan y system newydd, bydd y rhai sy’n hawlio a oedd yn cael sieciau’n fl aenorol yn cael tocyn y gellir ei ailddefnyddio, fel

eu bod nhw’n gallu cael eu budd-daliadau mewn mannau ‘PayPoint’ e.e. siopau papur newydd lleol, siopau hwylus, archfarchnadoedd, garejis a siopau all-drwydded. Bydd trefniadau’n cael eu gwneud ar gyfer pobl sydd angen i rywun arall – er enghraiff t, partner neu berthynas – i gasglu eu budd-dal ar eu rhan. Os yw hyn yn eff eithio arnoch chi, dylech fod wedi cael llythyr yn barod gan yr Adran Gwaith a Phensiynau i sicrhau bod gennych amser i baratoi ar gyfer y newid.

Haf 2012 (rhagwelir diwedd Mehefi n)

Treth ar ystafelloedd gwely

Mae’r Llywodraeth wedi dweud y bydd yn cyfl wyno meini prawf newydd o ran maint cartrefi i’r rhai mewn tai cymdeithasol sy’n hawlio budd-dal tai. Bydd hyn yn gymwys o Ebrill 2013 ymlaen i denanti aid sydd mewn oedran gweithio (rhai rhwng 16 a 64 oed ar hyn o bryd).

Beth mae’r newidiadau yn ei olygu?Bydd y meini prawf maint yn cyfyngu budd-daliadau tai i un ystafell wely ar gyfer pob un o’r canlynol:

• Oedolyn sengl neu gwpl• Unrhyw oedolyn arall (16 oed neu’n hŷn)• Plant dan 16 o’r un rhywedd• Plant dan 10 beth bynnag fo eu rhywedd• Tenant neu bartner anabl sydd angen gofalwr dros nos nad yw’n byw gyda nhw

Pwy fydd yn cael eu heff eithio?Unrhyw un sy’n hawlio budd-dal y bernir fod ganddyn nhw o leiaf un ystafell wely sbâr. Mae hyn yn cynnwys:

• Rhieni sydd wedi gwahanu, sy’n rhannu gofal dros eu plant ac a allai fod wedi cael ystafell wely ychwanegol i adlewyrchu hyn. Mae rheolau budd-daliadau yn golygu bod yn rhaid dynodi ‘prif ofalwr’ plant (sy’n cael y budd-dal ychwanegol)• Cyplau sy’n defnyddio eu hystafell wely ‘sbâr’ wrth ddod atynt eu hunain ar ôl salwch neu lawdriniaeth• Gofalwyr maeth, gan nad yw plant maeth yn cael eu cyfri fel rhan o’r cartref er dibenion budd-daliadau• Rhieni y mae eu plant yn ymweld â nhw ond nad ydyn nhw’n rhan o’r cartref• Teuluoedd sydd â phlant anabl• Pobl anabl, gan gynnwys pobl sy’n byw mewn cartrefi sydd wedi eu haddasu neu eu dylunio’n arbennig.

O Ebrill 2013 ymlaen

Page 19: In Touch Spring 2012 (Cymraeg)

Materion Ariannol | intouch | www.wwha.co.uk | 19

Faint fydd pobl yn ei golli?Bydd y toriad yn ganran penodol o’r rhent sy’n gymwys dan delerau’r Budd-dal Tai. Mae’r Llywodraeth wedi dweud y bydd hyn yn cael ei osod ar 14% am un ystafell wely ychwanegol a 25% am ddwy neu ragor o ystafelloedd gwely.

Beth allwch chi ei wneud?Fel eich Landlord, fe wnawn ni beth bynnag allwn ni i’ch helpu i symud os ydi hyn yn eff eithio arnoch chi. Byddwn yn cysylltu â chi yn y dyfodol agos i drafod eich dewisiadau, ond os ydych yn pryderu am y newid hwn, peidiwch ag oedi cyn cysylltu â ni.

Cap ar Fudd-daliadau

Mae’r Ddeddf Diwygio Lles yn rhoi’r grym i’r Llywodraeth roi cap ar gyfanswm budd-daliadau y mae gan unigolyn yr hawl i’w cael.

Sut mae’r cap yn cael ei gyfrifo?Bydd y cap yn cael ei osod fel enillion net cyfartalog cartref sy’n gweithio, sef ar hyn o bryd tua £500 yr wythnos i gyplau a rhieni unigol, a £350 yr wythnos i unigolion sengl heb blant.

Pwy fydd yn cael eu heff eithio?Mae’r cap wedi ei anelu at deuluoedd sydd dim yn gweithio, beth bynnag fo eu gallu i weithio.

Os yw cyfanswm y budd-daliadau rydych chi’n eu cael yn uwch na’r cyfyngiadau a osodwyd, bydd eich Budd-dal Tai yn cael ei ostwng yn unol â hynny.

Bydd y cap yn gymwys i incwm cyfun y prif fudd-daliadau i bobl ddi-waith (Lwfans Ceisio Gwaith, Cymhorthdal Incwm, a Lwfans Cyfl ogaeth a Chymorth), ynghyd â budd-daliadau eraill fel Budd-daliadau Tai, Budd-dal Plant a Chredydau Treth Plant, Budd-dal Anabledd Anafi adau Diwydiannol, Lwfans Gofalwyr (oni bai bod aelod o’r cartref yn gymwys i gael Lwfans Byw i’r Anabl, Taliad Annibyniaeth Bersonol, Lwfans Gweini neu Lwfans Gweini Cyson).

Os oes gennych hawl i gael Credyd Treth Gwaith, ni fydd y cap yn eff eithio arnoch chi.

Os ydych yn rhiant unigol neu’n gwpl sydd â 5 neu ragor o blant, mae’n bosibl y gallai’r cap eff eithio arnoch chi – cysylltwch â ni am ragor o fanylion.

Materio

Page 20: In Touch Spring 2012 (Cymraeg)

20 | www.wwha.co.uk | intouch | Materion Ariannol

...ond nid yw’r cyfan yn newydd drwg! Mae’r llywodraeth wedi addo cynyddu’r arian sydd ar gael i DHPs.

Beth ydyn nhw? Mae gan bob Awdurdod Lleol gronfa sydd ar gael i breswylwyr sy’n cael anhawster talu’r gwahaniaeth yn eu rhent neu Dreth Gyngor.

Pwy sy’n gymwys? Gall unrhyw un sy’n hawlio Budd-dal Tai neu Fudd-dal y Dreth Gyngor ymgeisio, ond fel arfer, rydych angen rheswm da dros eich anhawster i dalu - er enghraiff t

• Mae gennych salwch sy’n cynyddu’r gwariant arferol, e.e. rydych angen defnyddio’r gwresogyddion yn amlach, neu dalu am rai eitemau sy’n lliniaru eich dioddefaint.

• Mae’r ff aith eich bod chi neu berthynas yn yr ysbyty wedi cynyddu eich costau teithio• Mae eich costau teithio wedi cynyddu o ganlyniad i symud eich lleoliad gwaith neu os ydych wedi symud o ganlyniad i ostyngiad yn yr hawl i gael Lwfans Tai Lleol, ac mae’n costi o rhagor i chi deithio i’r gwaith• mae talu am rywun nad ydyn nhw’n ddibynnol arnoch chi yn peri caledi

Nid yw hyn yn golygu na fydd rhesymau dilys eraill y bydd yr Awdurdod Lleol yn eu hystyried, ac mae’n werth i chi ymgeisio os ydych chi’n meddwl bod y sefyllfa yn deilwng.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â’ch Swyddog Tai neu cysylltwch ag adran Budd-daliadau Tai eich Awdurdod Lleol am ff urfl en gais.

Taliadau Tai yn ôl Disgresiwn (DHPs)

Roeddem wrth ein bodd yn cael cyfl e i noddi Cystadleuaeth Bowlio newydd Tai Wales & West i rai wedi ymddeol yng Nghanolfan Fowlio Ryngwladol Merthyr Tudful. Fe wnaeth dros 60 o bobl gymryd rhan yn y gystadleuaeth ar 4 Ebrill.

Dywedodd Dennis Owen, Cadeirydd y Clwb: “Roedd yn ddiwrnod rhagorol. Fe wnaeth pawb ei fwynhau’n fawr iawn, ac rydym wrth ein bodd y bydd Wales & West yn noddi’r gystadleuaeth hon fl wyddyn nesaf.”

Bowlio ymlaen ym Merthyr Tudful

Page 21: In Touch Spring 2012 (Cymraeg)

Eich safb wynti au a’ch newyddion | intouch | www.wwha.co.uk |

Doniau creadigol yn cael llwyfan yn Nant y MôrMae preswylwyr Nant y Môr, ein Cynllun Gofal Ychwanegol ym Mhrestatyn, wedi bod yn arddangos eu doniau mewn Arddangosfa Gelf yn y cynllun.

Agorwyd yr arddangosfa yn swyddogol gan Faer Prestatyn, y Cynghorydd Alan Pennington, ac roedd yn cynnwys paenti adau ar gynfas, celf 3D, tecsti lau a darnau ysgrifennu creadigol.

Fe gawson nhw eu cynhyrchu gan breswylwyr yn ystod prosiect ‘Atgofi on Creadigol’ a gynhaliwyd dros bymtheg wythnos gan Gydweithfa Arti sti aid Oriel Scala, ac a noddwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Chyngor Sir Ddinbych.

Dywedodd un o’r preswylwyr, June Fos-ter, “roedd yn rhyfeddol, ac roeddem yn edrych ymlaen at bob sesiwn. Fe wnaethon ni greu ‘blwch atgofi on’, ac

roedd hynny’n brofi ad braf, gan fy mod i wedi cael cyfl e i hel atgofi on am fy mhlentyndod.”

Ychwanegodd Jan Morris, un arall o breswylwyr Nant y Môr: “Trueni na allwn ni gael rhagor – roeddwn wedi mopio gyda’r prosiect.”

Mae’r cynllun, a agorwyd fi s Tachwedd llynedd gan Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones AC, wedi cael llwyddiant a chlod o sawl cyfeiriad am gôr y preswylwyr. Mae’r preswylwyr yn edrych ymlaen yn awr at ddefnyddio eu doniau creadigol mewn rhagor o brosiectau yn ystod y misoedd nesaf.

Page 22: In Touch Spring 2012 (Cymraeg)

22 | www.wwha.co.uk | intouch | Byw’n wyrdd

Garddwyr Caerau ar eu hennill yn sgil Grant ‘Gwneud iddo ddigwydd’

Dywedodd Stan “Mae hyn wedi bod yn therapiwti g a phleserus iawn, a hoff wn ddiolch i bawb a fu’n rhan o’r gwaith am eu help yn dangos y ff ordd ymlaen i ni”

Dywedodd Owen Jones, Swyddog yr Amgylchedd a Chynaladwyedd yn WWH “Roeddem yn falch o gefnogi Caerau Pott ers. Maen nhw wedi gweithio’n

Dair blynedd yn ôl, penderfynodd Debbie Phillips, Chris Bradbury, Stan Jones a John Oliver o Gaerdydd ddod at ei gilydd i ff urfi o grŵp garddio ‘Caerau Pott ers’. Fe wnaethon nhw adeiladu bocys plannu blodau gyda phren a adferwyd, llenwi basgedi crog, rhoi sglodion coed y tu allan i’r fynedfa ac ychwanegu bocsys ff enestri i ddod â lliw a thaclusrwydd i’r ardal.

galed iawn, gan adeiladu gwelyau wedi’u codi, a symud tunelli o bridd, ac rydym nawr yn edrych ymlaen at gnwd da eleni! Fe gawson nhw hefyd fudd mawr o sied newydd, a wnaed o blasti g a ailgylchwyd gan gwmni lleol o Abertawe – Aff resol. Rydym bob amser yn chwilio am ragor o gynnyrch a deunyddiau cynaliadwy. Mae hyn wedi creu argraff fawr ar bawb!”

Page 23: In Touch Spring 2012 (Cymraeg)

Byw’n iach | intouch | www.wwha.co.uk | 23

Deddf Cydraddoldeb 2010… felly, beth mae hyn yn ei olygu i mi?Yn rhifyn diwethaf In Touch, fe wnaethom egluro bod y Ddeddf hon wedi disodli’r holl gyfraith fl aenorol ar atal gwahaniaethu, er mwyn creu un ddeddf i wneud y gyfraith yn symlach.

Mae’n gwarchod rhai nodweddion, gan gynnwys:

• Oedran• Anabledd• Ailbennu rhywedd• Beichiogrwydd a mamolaeth• Priodas a phartneriaeth sifi l• Hil• Crefydd neu gred• Rhyw• Tueddfryd rhywiol

Yn y rhifyn hwn, rydym yn edrych ar anabledd

Beth mae anabledd yn ei olygu o ddifrif?

Yn gyff redinol, mae ‘anabledd’ yn golygu “unigolyn sydd ag anhawster corff orol neu feddyliol sy’n cael eff aith anff afriol sylweddol yn yr hir dymor ar eu gallu i gyfl awni gweithgareddau arferol o ddydd i ddydd”.

Mae’n deg dweud bod pobl anabl eisiau byw bywyd yn yr un modd ag unrhyw un arall. Mae byw gydag anabledd yn anodd, ond gall fod yn anos pan fydd pobl anabl yn gorfod wynebu agweddau:

• diamynedd• digywilydd• ansensiti f• anystyriol• pesimistaidd• anghymwynasgar

Felly, beth yw’r ff ordd orau o ymddwyn yng nghwmni pobl anabl?

Yn aml, mae pobl anabl yn cael eu hystyried fel dioddefwyr diymadferth, anghenus, a hynny ar gam.

Bydd rhai pobl, oherwydd eu bod yn ofnus neu’n anghyff orddus, yn osgoi ymwneud â phobl anabl. Mae eraill ofn ‘dweud y peth anghywir’, tra bydd eraill yn anghofi o nad yw rhai anableddau yn amlwg ar yr olwg gyntaf.

Mae’r rhan fwyaf o bobl anabl yn ceisio bod mor annibynnol â phosibl, a dim ond os byddan nhw ei angen y gwnawn nhw ofyn am help.

Os ydych chi’n meddwl y gallech chi helpu, cynigiwch, ond peidiwch â mynnu. Peidiwch â cheisio tynnu sylw diangen atoch eich hun, a pheidiwch â bod ofn cyfaddef nad ydych yn gwybod beth i’w wneud na sut i helpu. Bydd y sawl y byddwch yn eu helpu yn egluro beth maen nhw ei angen.

A chofi wch, nid oes modd gweld pob anabledd. Gallai’r rhai llai amlwg gynnwys arthriti s, methiant yr arennau, MS, sgitsoff renia, clefyd Parkinson, a llawer mwy.

Cofi wch – nid yw pobl anabl yn wahanol i bobl heb anabledd! Ystyriwch yr unigolyn, nid yr anabledd.

Page 24: In Touch Spring 2012 (Cymraeg)

24 | www.wwha.co.uk | intouch | Newyddion a gwybodaeth gyff redinol

Pwy ydych chi’n eu hadnabod sy’n gwneud gwahaniaeth o ddifrif i’ch cymdogaeth? Rhywun sy’n mynd y fi llti r ychwanegol i helpu ff rindiau a chymdogion? Efallai eu bod nhw wedi dechrau grŵp ieuencti d neu grŵp cymunedol?

Efallai eu bod nhw’n gofalu am ardd hyfryd, neu’n tyfu ff rwythau a llysiau – neu wedi dechrau tyfu eu cynnyrch eu hunain mewn rhandir?

Efallai eu bod nhw wedi goresgyn problemau mawr i ddechrau gweithio eto? Neu wedi mynd i’r coleg i gael cymwysterau newydd? Beth bynnag yw eu stori – rydym eisiau ei chlywed.

Ddydd Gwener 19 Hydref, byddwn yn cynnal ein Gwobrau Gwneud Gwahaniaeth blynyddol am y pumed tro.

Mae’r gwobrau wedi hen ymsefydlu fel un o uchafb wynti au blwyddyn WWH, ac mae’r gwobrau yn dathlu ymdrechion gwych ein holl arwyr ac arwresau di-glod – yn ogystal â bod yn noson wych. Bydd pawb a gaiff le ar y rhestr fer, a’r bobl a’u

henwebodd, yn cael mwynhau cinio tri chwrs ac adloniant o’r radd fl aenaf yng ngwesty’r Village, Coryton, Caerdydd.

Gallwch weld rhagor o wybodaeth ar YouTube – chwiliwch am “Wales & West Housing Associati on’s Making A Diff erence Awards”, lle gallwch weld fi deos byr o seremonïau’r tair blynedd ddiwethaf.

Y categorïau yw: Cymydog da, dechrau o’r newydd, eco hyrwyddwr, garddwr gorau (pobl hŷn), garddwr gorau (pobl iau), prosiect cymunedol, a gwobr David Taylor i arwr lleol.

Nid oes angen talu i gymryd rhan – nid oes unrhyw beth i’w golli, ond llawer i’w ennill. Felly, os hoff ech gael copi o’r ff urfl en enwebu, gallwch naill ai fynd i’n gwefan newydd www.wwha.co.uklle gallwch lwytho copi i lawr, neu ff oniwch Sarah, Sharon neu Keri ar 0800 052 2526 unrhyw dro, ac fe fyddem yn falch iawn o anfon ff urfl en atoch chi a’ch helpu gydag unrhyw gwesti ynau a allai fod gennych am y gwobrau.

Pwy yw eich arwr chi?Yn y llun, gwelir Cydweithfa Ffrwythau a Llysiau Cyfarthfa, enillwyr Gwobr Prosiect Cymunedol 2011

Page 25: In Touch Spring 2012 (Cymraeg)

Y diweddaraf am elusennau | intouch | www.wwha.co.uk | 25

Anfonodd ei merch am dapestri’r Swper Olaf o Ffrainc, a chymerodd Pam fl wyddyn i’w gwblhau. Cynhaliodd Pam a’i gŵr Richard, sydd wedi bod yn byw yn St Catherine’s Court ers wyth mlynedd, arddangosfa o waith Pam. Roedd nifer fawr o dapestrïau lliwgar wedi’u ff ramio i’w gweld o amgylch y tŷ, gyda’r Swper Olaf y prif atyniad.

Rhoddwyd yr holl gyfraniadau i Gymdeithas Beiblau’r Gideoniaid, sy’n dosbarthu copïau o’r Beibl drwy nifer o wledydd y byd. Fel y dywedodd Pam “drwy weddïo gyda’ch gilydd, rydych yn aros gyda’ch gilydd”

Tŷ agored er budd elusen

Ar ôl cael strôc, dechreuodd Mrs Pam Cornish, a aned ac a fagwyd yng Nghaerffi li, wneud tapestrïau i’w helpu i wella.

Gwasanaeth yngngolau canhwyllauer budd elusen ganser Tenovus

Ar ddiwrnod olaf Ionawr eleni, trefnwyd gwasanaeth yng ngolau canhwyllau gan yr eglwys leol a Mrs Hannah Lowe yn Nhŷ Pontrhun, Troedyrhiw, Merthyr Tudful. Roedd yn brynhawn teimladwy iawn, gyda chyfeillion, preswylwyr a phobl y pentref yn bresennol. Y Ficer oedd yn arwain y gwasanaeth.

Un foment deimladwy iawn oedd pan werthodd cynrychiolydd Tenovus y canhwyllau ac yna eu gosod ar siâp y groes i gofi o am bawb oedd wedi dioddef yn sgil yr afi echyd.

Roedd elw’r prynhawn yn £116, ac fe’i trosglwyddwyd i ymgyrch ganser Tenovus yng Nghymru. Dros gyfnod o amser, roedd preswylwyr wedi bod yn rhoi eu newid mân mewn jariau, a chyfrannwyd tri jar llawn i Tenovus, hefyd. Yna, croesawodd Karen Lewis, y Rheolwr Cynllun, bawb i de’r prynhawn blasus.

Page 26: In Touch Spring 2012 (Cymraeg)

26 | www.wwha.co.uk | intouch | Eich safb wynti au a newyddion

Mae preswylwyr Danymynydd wedi bod ar eu hennill yn sgil gwersi canu ar fore Llun, gyda’r Cymoedd a’r Fro yn talu am y ddarpariaeth. Daeth y sesiynau cerddoriaeth i ben erbyn hyn, ond mae cymuned y Betws wedi elwa ar y cyllid hwn drwy ff urfi o côr y Betws. Un noson ym mis Mawrth, cynhaliodd y côr gyngerdd a ddaeth â’r preswylwyr at ei gilydd, gyda rhai’n ymuno drwy chwarae’r gitâr, y drymiau, tambwrîn a’r ffi dil. Roedd gan bob grŵp eu caneuon eu hunain i’w canu, ac yna fe wnaethon nhw ddod at ei gilydd i ganu cadwyn o

Noson gerddorol lwyddiannus yn Danymynydd yng Nghwm Garw

alawon. Roedd rhai o bob cenhedlaeth yn perff ormio, gyda’r ieuengaf yn 7oed a’r preswyliwr hynaf yn 97 oed.

Fel y dywedodd Yvonne Humphreys, y Rheolwr Cynllun “Daeth y ddwy gymuned at ei gilydd i fwynhau gwledd o gerddoriaeth, a wnaed yn bosibl gan y Cymoedd a’r Fro a sgiliau hyff orddi rhagorol ac ymroddiad eu hathro, Laura. Ni allwn ddechrau diolch iddi am ei hanogaeth a’i cefnogaeth gyson. Dymunwn bob lwc iddi yn y dyfodol. Diolch, Laura, gan bawb ohonom yn Danymynydd.”

Page 27: In Touch Spring 2012 (Cymraeg)

Eich safb wynti au a newyddion | intouch | www.wwha.co.uk | 27

Cerddorion ysbrydoledig llwyddiant mawr yn Oldwell Court

Trefnodd Sandy Houdmont, Rheolwr Cynllun yn Oldwell Court yngNghaerdydd, gerddoriaeth fyw i ddiddanu’r preswylwyr. Fe wnaeth rhai a hyff orddwyd gan ‘Live Music Now’ berff ormio, sef soprano o’r enw Jennifer Walker (sydd yn y llun isod), a ganodd amrywiaeth o ddarnau clasurol, a bu Rhiannon Pritchard yn chwarae’r piano. Roedd lolfa’r preswylwyr yn atseinio gyda’r gymeradwyaeth.

Mae ‘Live Music Now’ yn elusen gofrestredig, ac mae eu gwaith yn canolbwynti o ar godi ymwybyddiaeth o allu pobl a fyddai fel arall wedi cael eu heithrio drwy anabledd, afi echyd, tlodi ac anfanteision eraill. Maen nhw’n cael eu cyllido drwy roddion, awdurdodau lleol amrywiol, cwmnïau a Chyngor Celfyddydau Cymru.

Am ragor o wybodaeth, ewch i: www.livemusicnow.org.uk neu ff oniwch: 02920 554 040.

Arddangos Heti au’r PasgDaeth preswylwyr â’u heti au wedi eu haddurno i’r lolfa ar gyfer cystadleuaeth “Het Basg Orau” a gynhaliwyd gan Glwb y ‘Spring Chicken’ yn Oldwell Court, Caerdydd. Roedd rhai wedi eu haddurno ag wyau siocled, rhubanau, plu, cennin Pedr a gloÿnnod byw.

Roedd yn anodd iawn dewis enillydd, ond ar ôl pendroni am yn hir, barnwyd mai Mrs Anne Webber oedd yn fuddugol, a phrin oedd hi’n gallu dal y wobr o wy Pasg mawr. Enillodd Mrs Hilda Doubleday a Mrs Pauline Solsberg gwningen siocled bob un am ddod yn ail a thrydydd.

Page 28: In Touch Spring 2012 (Cymraeg)

28 | www.wwha.co.uk | intouch | Pen-blwyddi a dathliadau

Cynulliad arbennig o ferched pen-blwydd yn Wentloog Court, Caerdydd

10 diwrnod o ddathlu i May ar ei phen-blwyddI bob man yr aethai, cawsai May Mckay gardiau ac anrhegion gan yr holl ff rindiau mae hi wedi eu gwneud yn ystod y 26 mlynedd ddiwethaf tra’r oedd yn byw ym Mhlas Gorff wysfa. Parhaodd dathliadau ei 90ain pen-blwydd am 10 diwrnod cyfan cyn ei diwrnod mawr ar y 9fed o Chwefror.

“Mae ei bywyd cymdeithasol yn brysur iawn” meddai ei merch Wendy. “Rydw i’n gorfod ei ff onio hi weithiau i weld a ydi hi adref cyn i mi ymweld â hi.” Mae gan May ddau fab a thair merch, ynghyd

Ar 23 Chwefror, daeth y preswylwyr at ei gilydd yn lolfa Wentloog Court, Caerdydd, i ddathlu gyda phum preswyliwr arbennig a fydd yn cael eu pen-blwydd yn 90 oed yn ystod 2012.

Pan ofynnwyd iddyn nhw beth oedd cyfrinach eu hir oes, dywedodd Joyce Hickey “Priodas hapus iawn a theulu rhyfeddol.” Dywedodd Dorothy Morgan mai “popeth mewn cymedroldeb” oedd yn bwysig. Barn Sylvia Smith oedd bod “fy mhum plentyn yn fy nghadw’n ifanc ac yn hapus”, ac ateb hawdd Glenys Solomon oedd “dim ond byw”, cyn i Cath

Baker ddweud “Dos dyddiol o Countdown a gwydraid o sieri.”

Yn ogystal â the a theisennau, cyrhaeddodd y Cynghorydd Jacqueline Parry gangyfl wyno blodyn carnasiwn i bob un ei roi mewn twll botwm, ynghyd â thystysgrif wedi ei harwyddo gan y Maer.

O’r chwith i’r dde – Dorothy, Glenys, Joyce, Cath a Sylvia.

Pen-blwydd hapus yn 80, Brian

Dathlodd Brian Edward Adams o Oak Court, Penarth, ei ben-blwydd ar 2 Chwefror gyda chinio bwff e, teisen ben-blwydd a llawer o anrhegion. Daeth ei holl deulu ato i ymuno yn yr hwyl.

â sawl ŵyr ac wyres. Llynedd, teithiodd i Lundain gyda ff rind i weld y Briodas Frenhinol, a mwynhaodd yr ymweliad yn fawr – doedd hi ddim yn mynd i golli’r diwrnod arbennig.

Page 29: In Touch Spring 2012 (Cymraeg)

Pen-blwyddi a dathliadau | intouch | www.wwha.net | 29

Cerdyn llongyfarch gan y Frenhines ar eu Pen-blwydd Priodas Saffi r i Mr a Mrs Khambhaita o Wilfred Brook House, CaerdyddBlodeuodd cariad ar ôl eu priodas... cafodd eu priodas ei threfnu ar eu rhan, oedd yn golygu nad oedden nhw wedi cyfarfod cyn diwrnod eu priodas, ond mae’r briodas yn parhau’n gryf 65 mlynedd yn ddiweddarach. Ar ôl gweithio a byw mewn nifer o wledydd o amgylch y byd, maen nhw nawr yn byw’n hapus braf yng Nghaerdydd. Mae ganddyn nhw dri o feibion sydd wedi priodi a dwy ferch sydd wedi priodi, ynghyd ag wyrion a gor-wyrion. “Rydym wedi treulio ein holl fywyd priodasol yn gariadus a hapus, drwy ras Duw” meddai Mr Khambhaita.

Chwith - dde: Kamtagauri a Vithalbhai Khambhaita

Enillydd Debyd Uniongyrchol Cyfl e i ENNILL drwy dalu eich rhent drwy Ddebyd Uniongyrchol.

Llongyfarchiadau i Mrs Games

Mrs Games o Western Court, Cynllun er ymddeol yng Nghaerdydd, oedd enillydd ff odus y £100 yn ystod raffl debyd uniongyrchol chwarterol olaf 2011. Cyfl wynwyd y siec gan Pat Green, y Rheolwr Cynllun.

Am gyfl e i ENNILL, mae angen i chi dalu eich rhent drwy Ddebyd Uniongyrchol. Cofi wch gysylltu â’ch Swyddog Tai, a

fydd yn helpu gydag unrhyw ymholiadau a allai fod gennych, neu gyda’n Canolfan Gwasanaethau Cwsmeriaid ar 0800 052 2526

Mae talu drwy Ddebyd Uniongyrchol yn osgoi’r draff erth o orfod cofi o talu ar amser, ac mae’n hawdd iawn ei sefydlu.

Page 30: In Touch Spring 2012 (Cymraeg)

30 | www.wwha.co.uk | intouch | Y diweddaraf am elusennau

Help for Heroes yr elusen yn mynd o nerth i nerthYn ogystal â diwrnodau gwisgoedd anff urfi ol WWH yn swyddfeydd y Ffl int a Chaerdydd, mae preswylwyr a rheolwyr cynllun mewn nifer o gynlluniau wedi cyfrannu’n hael iawn at y cyfanswm o £16,191.53 at elusen Help the Heroes (hyd ddechrau mis Ebrill). Ni fu’n hawdd cyrraedd y cyfanswm rhyfeddol hwn, ond mae gwaith caled ac ymroddiad triw pawb wedi gwneud gwahaniaeth o ddifrif. Mae digwyddiadau amrywiol wedi helpu i gyrraedd y cyfanswm terfynol, fel raffl au, nosweithiau bingo, gwerthu gemwaith, cwisiau, hapchwarae rygbi, gwerthu teisennau, cyfraniadau, arwerthiannau pen bwrdd a Ras Dydd Gŵyl Dewi yng Nghaerdydd, gyda rhedwyr o WWH - Sion Phillips, Lyndon Griffi ths, Robin Alldred,

Dorrett Evans a Paul Wyatt – yn cyfrannu £650.

Hoff ai Tîm Elusennol WWH ddiolch yn fawr iawn i bawb yn Oldwell Court, Wilfred Brook House a Four Elms Court yng Nghaerdydd ynghyd â Danymynydd yng Nghwm Garw, Tŷ Pontrhun, Tŷ Gwaunfarren ym Merthyr Tudful, Llys yr Onnen yn Aberpennar a St Catherine’s Court yng Nghaerffi li, a gynhaliodd amrywiaeth o ddigwyddiadau ers dechrau 2012. Roedd y Nadolig yn gyfnod prysur iawn, ac nid ydym yn gallu enwi pawb a gyfrannodd gymaint o’u hamser a’u gwaith caled, gan y byddai hynny’n llenwi’r dudalen gyfan, ond rydych CHI’n gwybod pwy ydych CHI… mae eich haelioni’n ddiddiwedd.

Page 31: In Touch Spring 2012 (Cymraeg)

Eisiau bargeinion rhatach?

Neu beth am fynd i’r afael â Facebook neu

Skype?

Eisiau gwybod mwy am hanes

eich teulu?

Os ateboch unrhyw rai o’r uchod yn gadarnhaol, yna mae take ctrl yn ddelfrydol i chi.Mae Take ctrl yn brosiect sy’n helpu i godi ymwybyddiaeth o ystod

ar sut i’w defnyddio. Mae’n ceisio darparu sgiliau a gwybodaeth y mae pobl eu hangen i wneud dewisiadau gwybodus a rheoli eu harian yn well ar-lein. Bydd take ctrl yn dod i’ch cymdogaeth yn fuan...

takectrl

Jen Bailey

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â mi ar: Ffôn: 07972 225358E-bost: [email protected] Gwefan: takectrl.org Facebook: TakeCtrlNorthWales

Rydym hefyd yn chwilio am

wirfoddolwyr a mentoriaid a allai drosglwyddo eu

sgiliau i eraill

Eisiauarbedarian?

Page 32: In Touch Spring 2012 (Cymraeg)

Larymau personol a theleofalDibynadwy, ff orddiadwy ac wedi’i osod er hwylustod i chi

Mae pawb ohonom yn gwerthfawrogi ein hannibyniaeth, ond weithiau gall pawb ohonom fod ar ein hennill drwy ychydig yn rhagor o gymorth. Mae larymau personol Connect24 yn golygu bod cymorth a chefnogaeth o fewn cyrraedd wrth wasgu botwm.

Ffoniwch y rhif rhadff ôn 0800 052 2526e-bosti wch: [email protected] ysgrifennwch at:

Larymau Personol Connect24Cymdeithas Tai Wales & West Cyf.,RHADBOST CF35883 Alexandra Gate, Ffordd PengamTremorfa, Caerdydd, CF10 1YZ