4
Y TYST PAPUR WYTHNOSOL YR ANNIBYNWYR CYMRAEG Sefydlwyd 1867 Cyfrol 152 Rhif 3 Ionawr 17, 2019 50c. Urddo diaconiaid Gellimanwydd Roedd oedfa gyntaf y flwyddyn yn un arbennig yng Nghapel Gellimanwydd, Rhydaman. Nid yn unig ei bod hi’n oedfa gymun dechrau blwyddyn ond hefyd roedd ein gweinidog, y Parchg Ryan Isaac- Thomas yn derbyn pum diacon newydd. Yn ystod y cymun bendigaid cafodd Arwyn Thomas, Bethan Thomas, Heledd Thomas, Rhys Thomas a Richard Broderick eu derbyn yn ddiaconiaid i wasanaethu’r eglwys. Pleser o’r mwyaf yw gallu dweud bod y pump yn wir blant i’r eglwys. Cawsant eu codi a’u magu yng Ngellimanwydd gan fynychu’r ysgol Sul a’r capel o dan weinidogaeth tri o fawrion ein hundeb sef, y Parchg Derwyn Morus Jones, y Parchg Dewi Myrddin Hughes a’r Parchg Dyfrig Rees. Y Parch. Cyril Llywelyn Tristwch mawr inni oedd clywed am farwolaeth y Parch. W. Cyril Llywelyn, Treorci, Cwm Rhondda. Dros y degawdau bu’n was ffyddlon i’r Arglwydd ac yn gymwynaswr i lawer yn y Cwm a thu hwnt. Bu’n weinidog yn Rama, Treorci; Soar, Cwmparc; Salem; Llwynypia a Bethlehem (P), Treorci. Bu hefyd yn athro Ysgrythur am gyfnod yn ysgol sir y Porth, yn y Rhondda. Cydymdeimlwn gyda’i fab Ceri a’r teulu yn eu colled. Bydd teyrnged lawn yn ymddangos iddo yn y Tyst maes o law. Pum diacon newydd gyda’r Parchg Ryan Isaac-Thomas Dathlu’r Nadolig ym Methel Sgeti (Cynulleidfa Bethel a Trinity) Nadolig Madagascar Cyflwyniad newydd, ffres yn llawn gwybodaeth am Fadagascar oedd dathliad Nadolig plant ysgol Sul Bethel Sgeti eleni. Ysgrifennwyd y sgript gan Angharad Davies a chyflwynwyd y gwaith yn ardderchog gan ddefnyddio lluniau ar sgrin, cerddoriaeth offerynnol a chanu i gyfoethogi’r traddodi clir. Roedden nhw wedi dysgu taw’r Poinsettia yw emblem cenedlaethol y wlad [blodyn sy’n gysylltiedig â’r Nadolig] ac am ddyfodiad y cenhadon cyntaf i lanio ym mhorthladd Tamatave, Madagascar yn 1818, sef David Jones a Thomas Bevan o ardal Neuaddlwyd, Sir Aberteifi. Gwëwyd hanes y cenhadon i mewn i stori’r Nadolig yn gelfydd iawn drwy gyflwyno llyfrau’n anrhegion Nadolig a’r cymeriadau’n dod yn fyw mewn breuddwyd ar noswyl Nadolig. Trwy hynny rhoddwyd hanes y fordaith a’r marwolaethau a dyfodiad David Griffiths i ymuno â David Jones. Hefyd, cychwyn ysgolion a chyfieithu’r Beibl i’r Falagaseg a chefnogaeth y brenin Radama. Darluniwyd cartrefi a bywyd ym Madagascar yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a sut y cynlluniwyd y wyddor yn y Falagaseg. Yn y freuddwyd ymwelodd y plant â’r brenin Radama a chyflwyno stori’r Nadolig iddo ac i ni. Gwelwyd a chlywyd plant ym Madagascar yn canu cân Nadolig ar y sgrin a gorffennwyd trwy weddïo dros bobl a phlant Madagascar heddiw, gan ddymuno iddyn nhw gael dŵr glân i’w yfed a digon o fwyd ac i’r newid hinsawdd beidio effeithio gormod ar y coed Baobab. Diolchwyd i’r eglwys ym Madagascar sy’n gwneud ei gorau dros les y bobl. Diolch i’r rhieni ifainc i gyd am eu cydweithio a’u cymorth. Dathlu gyda’r ieuenctid Cyflwynwyd darlleniadau perthnasol o’r Beibl, barddoniaeth, datganiadau cerddorol lleisiol ac offerynnol gan bobl ifanc Bethel. Roedd y rhain wedi’u plethu’n gelfydd rhwng carolau’r gynulleidfa gan greu noson hyfryd a hwylus. Arweiniwyd y gwasanaeth gan y Parchg Jill-Hailey Harries gyda chefnogaeth David Williams wrth yr organ, fel bob amser. Parhawyd y gymdeithas ar ôl y gwasanaeth dros gwpanaid a mins pei.

Urddo diaconiaid Gellimanwydd - Annibynwyr...2019/01/17  · Arwyn Thomas, Bethan Thomas, Heledd Thomas, Rhys Thomas a Richard Broderick eu derbyn yn ddiaconiaid i wasanaethu’r eglwys

  • Upload
    others

  • View
    4

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

Page 1: Urddo diaconiaid Gellimanwydd - Annibynwyr...2019/01/17  · Arwyn Thomas, Bethan Thomas, Heledd Thomas, Rhys Thomas a Richard Broderick eu derbyn yn ddiaconiaid i wasanaethu’r eglwys

Y TYSTPAPUR WYTHNOSOL YR ANNIBYNWYR CYMRAEG

Sefydlwyd 1867 Cyfrol 152 Rhif 3 Ionawr 17, 2019 50c.

Urddo diaconiaid Gellimanwydd Roedd oedfa gyntaf y flwyddyn yn unarbennig yng Nghapel Gellimanwydd,Rhydaman. Nid yn unig ei bod hi’n oedfagymun dechrau blwyddyn ond hefyd roeddein gweinidog, y Parchg Ryan Isaac-Thomas yn derbyn pum diacon newydd.

Yn ystod y cymun bendigaid cafoddArwyn Thomas, Bethan Thomas, HeleddThomas, Rhys Thomas a RichardBroderick eu derbyn yn ddiaconiaid iwasanaethu’r eglwys. Pleser o’r mwyaf ywgallu dweud bod y pump yn wir blant i’reglwys. Cawsant eu codi a’u magu yngNgellimanwydd gan fynychu’r ysgol Sula’r capel o dan weinidogaeth tri o fawrionein hundeb sef, y Parchg Derwyn MorusJones, y Parchg Dewi Myrddin Hughes a’rParchg Dyfrig Rees.

Y Parch. Cyril Llywelyn

Tristwch mawr inni oedd clywed amfarwolaeth y Parch. W. Cyril Llywelyn,Treorci, Cwm Rhondda. Dros ydegawdau bu’n was ffyddlon i’rArglwydd ac yn gymwynaswr i laweryn y Cwm a thu hwnt. Bu’n weinidogyn Rama, Treorci; Soar, Cwmparc;Salem; Llwynypia a Bethlehem (P),Treorci. Bu hefyd yn athro Ysgrythuram gyfnod yn ysgol sir y Porth, yn yRhondda. Cydymdeimlwn gyda’i fabCeri a’r teulu yn eu colled. Byddteyrnged lawn yn ymddangos iddo yn yTyst maes o law.

Pum diacon newydd gyda’r Parchg Ryan Isaac-Thomas

Dathlu’r Nadolig ym Methel Sgeti(Cynulleidfa Bethel a Trinity)

Nadolig MadagascarCyflwyniad newydd, ffres yn llawngwybodaeth am Fadagascar oedd dathliadNadolig plant ysgol Sul Bethel Sgeti eleni.Ysgrifennwyd y sgript gan AngharadDavies a chyflwynwyd y gwaith ynardderchog gan ddefnyddio lluniau arsgrin, cerddoriaeth offerynnol a chanu igyfoethogi’r traddodi clir. Roedden nhwwedi dysgu taw’r Poinsettia yw emblemcenedlaethol y wlad [blodyn sy’ngysylltiedig â’r Nadolig] ac am ddyfodiad

y cenhadon cyntaf i lanio ym mhorthladdTamatave, Madagascar yn 1818, sef DavidJones a Thomas Bevan o ardalNeuaddlwyd, Sir Aberteifi.

Gwëwyd hanes y cenhadon i mewn istori’r Nadolig yn gelfydd iawn drwygyflwyno llyfrau’n anrhegion Nadolig a’rcymeriadau’n dod yn fyw mewnbreuddwyd ar noswyl Nadolig. Trwyhynny rhoddwyd hanes y fordaith a’rmarwolaethau a dyfodiad David Griffiths iymuno â David Jones. Hefyd, cychwynysgolion a chyfieithu’r Beibl i’r Falagaseg

a chefnogaeth y brenin Radama.Darluniwyd cartrefi a bywyd ymMadagascar yn y bedwaredd ganrif arbymtheg a sut y cynlluniwyd y wyddor yny Falagaseg. Yn y freuddwyd ymwelodd yplant â’r brenin Radama a chyflwynostori’r Nadolig iddo ac i ni.

Gwelwyd a chlywyd plant ymMadagascar yn canu cân Nadolig ar y sgrina gorffennwyd trwy weddïo dros bobl aphlant Madagascar heddiw, gan ddymunoiddyn nhw gael dŵr glân i’w yfed a digono fwyd ac i’r newid hinsawdd beidioeffeithio gormod ar y coed Baobab.Diolchwyd i’r eglwys ym Madagascar sy’ngwneud ei gorau dros les y bobl.

Diolch i’r rhieni ifainc i gyd am eucydweithio a’u cymorth.Dathlu gyda’r ieuenctidCyflwynwyd darlleniadau perthnasol o’rBeibl, barddoniaeth, datganiadau cerddorollleisiol ac offerynnol gan bobl ifanc Bethel.Roedd y rhain wedi’u plethu’n gelfyddrhwng carolau’r gynulleidfa gan greunoson hyfryd a hwylus. Arweiniwyd ygwasanaeth gan y Parchg Jill-HaileyHarries gyda chefnogaeth David Williamswrth yr organ, fel bob amser. Parhawyd ygymdeithas ar ôl y gwasanaeth drosgwpanaid a mins pei.

Page 2: Urddo diaconiaid Gellimanwydd - Annibynwyr...2019/01/17  · Arwyn Thomas, Bethan Thomas, Heledd Thomas, Rhys Thomas a Richard Broderick eu derbyn yn ddiaconiaid i wasanaethu’r eglwys

tudalen 2 Y Pedair Tudalen Gydenwadol Ionawr 17, 2019Y TYST

Mae’r llun cyntaf yn dangos y Parch. Idwal Jones, Llanrwst, yn y 1950 gyda’rgynulleidfa yng nghapel bychan Nantybenglog, sydd rhwng Llyn Ogwen a Chapel Curig.

Mae’r ail lun yn dangos y Parch. Carys Ann gyda chynulleidfa Nantybenglog ym misTachwedd 2018. Tybed a oes gennych chi hen luniau o’ch eglwys neu o bregethwyr gwadd yr hoffech eurhannu gyda’r Tyst?

Yr ysgol Sul yn dathlu’r NadoligAr y Sul cyntaf o Ragfyr bu plant yr ysgolSul yn cynnal eu hoedfa Nadolig. Er mawry perswâd i geisio cynnal oedfa oddarlleniadau a chanu, roedd y plant ynbenderfynol eu bod am gyflwyno drama’rgeni, ac ni chawsom ein siomi. Roedd pobun o dair oed hyd yr hynaf yn mwynhau ‘ySioe’ fel yr oeddent yn ei alw.

Y drefn oedd bod Seren ac Aaron yn

darllen yr hanes a’r gweddill yn actio’rgwahanol gymeriadau. Roedd rhaid bod ynhyblyg gan fod yr actorion yn gorfod newido fod yn fugeiliaid i wŷr doeth yn ystod ycyflwyniad. Daeth tyrfa dda ynghyd, aderbyniwyd rhoddion ariannol tuag at yrysgol Sul. Aeth pawb i’r festri ar y diwedd igael te Nadolig gan fynd adref yn hapus allawen o fod wedi cael bod yn dystion eto isylfaen y Nadolig.

TABERNACL PENCADERYm mis Chwefror 2018 fe adroddodd YGymdeithas Archaeolegol Feiblaidd bodtystiolaeth ddiriaethol y tu allan i’r HenDestament wedi dod i’r fei am yproffwyd Eseia.

Yng nghloddiad Ophel i’r de o fynyddy Deml yn Jerwsalem feddadorchuddiodd Eliat Mazar a’i dîm sêlglai gyda’r geiriau, ‘eiddo’r proffwydEseia’ arni. Roedd Eseia yn proffwydooddeutu 740– 701 CC. Er bod y sêl wediei niweidio y mae llofnod y proffwyd i’wweld yn glir. Darganfu Mazar y sêlmewn malurion o Oes yr Haearn oeddwedi eu lleoli wrth fur de ddwyrain ypopty brenhinol, adeilad oedd wedi eigynnwys yn amddiffynfeydd y ddinas aca ddefnyddiwyd hyd nes i’r Babiloniaidddinistrio Jerwsalem yn 586 CC.

Am ragor o straeon diddorol amArchaeoleg Feiblaidd ewch i bori ynwww.biblicalarchaeology.orgÂnt heibio fel ochenaidBlwyddyn arall wedi mynd. Chwap! Panoeddwn yn ifanc roedd pobl hŷn yn arferdweud. ‘Pan fyddi di fy oed i, byddamser yn mynd yn gynt.’ A rŵan dwi’nhŷn, dwi’n deall beth oeddent yn eifeddwl. Yr hen a ŵyr a’r ifanc a dybia!

Peth od yw amser. Er ein bod yngwybod fod tipiadau’r cloc yn gyson maeansawdd amser yn amrywio. Weithiaumae’n cerdded yn eithriadol o ara deg,fel malwen mewn col-tar. Ling-di-long.Beth ddysgais i gan Mr Bebb yn ’rysgol,dudwch, am awrlais Sain Ffagan? ‘Arafy tipiai’r cloc yr oriau meithion heibio.’Dow-dow. Dro arall mae amser yn myndar wib fel gafr ar daranau a’rblynyddoedd yn carlamu heibio yn gwblddidrugaredd. Fel y canodd Eos Iâl . ‘Ânttebyg i wynt heibio. Neu lithrad dŵr arlethr to.’Ond nid arafwch na chyflymder amsersy’n bwysig ac nid hiroes neu fyrder einbywyd sydd o dragwyddol bwys ond yrhyn a wnawn gyda’r amser syddgennym. Yn Salm 90 mae’r Salmydd yndweud wrth yr Arglwydd, ‘Felly dysga nii wneud y gorau o’n dyddiau, a gwnani’n ddoeth.’

Dim ond dau beth oedd Iesu yn eibwysleio mewn gwirionedd sef yr angeni garu Duw a charu cyd-ddyn. Beth ddaw yn 2019? Wn i ddim. Ni ŵyrneb. Yr unig beth y gallwn ni ei wneud,fel pobl Iesu, yw gwneud y gorau o’ramser a gawn gan eu byw yn llawncariad, cyfiawnder a heddwch, fel ygwnaeth Iesu ei hun.

Eseia acarchaeoleg

Page 3: Urddo diaconiaid Gellimanwydd - Annibynwyr...2019/01/17  · Arwyn Thomas, Bethan Thomas, Heledd Thomas, Rhys Thomas a Richard Broderick eu derbyn yn ddiaconiaid i wasanaethu’r eglwys

Ionawr 17, 2019 Y Pedair Tudalen Gydenwadol tudalen 7Y TYST

Barn AnnibynnolCAWDEL BRECSIT

Camgymeriad enbyd ydy holl fusnesBrecsit. Sut bynnag y bydd hi o hynymlaen, mae rhagfarnau gwrth-Gristionogol wedi eu dyfnhau eisoes. MaeMoses a’r proffwydi ac Iesu yn bendantein bod i barchu’r bregus a’r dieithr.Aethom yn gymdeithas fwy anoddefgar. Ary rhai sy’n wahanol i ni, ac yn estron, ymae’r bai, medden ni.

Badau bregusNeidiodd hynny i’r golwg dros y Nadolig.Torrodd yr Ysgrifennydd Cartref, SajidJavid, ei wyliau saffari £800 y noson yn NeAffrica yn fyr i ddod yn ôl i ddelio agargyfwng mawr. A glywodd bod cannoeddar gannoedd yn cysgu ar y strydoedd, neufod mwy a mwy yn dibynnu ar fanciaubwyd, neu fod sustem credit cynhwysol ynachosi dioddefaint gwirioneddol?Na, na, yr argyfwng oedd bod tua 200

o fudwyr wedi llwyddo i groesi’r sianel iGaint. Rhaid arallgyfeirio llongau rhyfel iwarchod y sianel rhag bod pobl fregusmewn badau bregus yn boddi, ond ynbwysicach na hynny i atal y mewnfudwyrrhag cyrraedd diogelwch ar dir Prydain.Prin fod hawl ganddynt i’w hystyried euhunain yn geiswyr lloches, meddai. (Nidfelly mae cyfraith ryngwladol yn ei gweldhi.) Druan ohonyn nhw, ac ohonom ni.Er mwyn porthi’r wasg dabloid achryfhau’r floedd am Brecsit y gwnaedmôr a mynydd ohoni.Y bleidlais fawrHarold Wilson ddywedodd bod wythnosyn amser hir mewn gwleidyddiaeth. Maehanes yn carlamu’n gynt erbyn hyn, aphapur newydd heddiw wedi dyddio erbyniddo gyrraedd fy llaw.Gyda’r bleidlais fawr ar y trothwy wrth i

mi ysgrifennu’r nodiadau hyn, gwn y byddy sefyllfa yn gliriach erbyn i chi eu darllen.Trafodaeth yn taguCawsom ein sicrhau adeg y refferendwmmai mater hawdd fyddai datgysylltu. A’nhelpo ni! Llusgodd y trafodaethau rhwngllywodraeth San Steffan a Brwsel yn igam-ogam, ddigyfeiriad. Ond y ffraeo adre, yny cabinet, yn y llywodraeth ac yn ysenedd, oedd y broblem, a’r methianttruenus i lunio safbwynt oedd yndderbyniol i’r mwyafrif. A’r wrthblaid hithaumewn niwl.

Ar y dechrau roedd y Prif Weinidog yndatgan yn hyderus mai ‘Brecsit ywBrecsit’. Meddalwyd hwnnw erbyn hyn.Dyw’r cynnig sydd gerbron ddim yn plesiofawr o neb.Mae’n hwyrAeth yn unfed awr ar ddeg. Mae’n sefyllfaargyfyngus. Sut mae datrys y dryswch?Byddai syrthio o’r Undeb Ewropeaidd

heb gytundeb yn golygu anhrefn poenus,trafferthus a pheryglus. Byddem i gyd yndioddef prinder ac anhwylustod dybryd. Yrhai fyddai’n dioddef waethaf, wrth gwrs,fyddai’r tlotaf.Beth nesa?Gan i’r llywodraeth a’r senedd fethucynnig trefniadau sy’n dderbyniol, y fforddorau bellach yw troi at y bobl.• Nid er mwyn hyn y pleidleisioddllaweroedd dros adael.

• Dywedwyd celwyddau digywilydd ganarweinwyr yr ymgyrch gadael.

Daeth yn gwbl amlwg mai tlotach fydd yDeyrnas Gyfunol o adael, ac na fydd£350m yr wythnos yn fwy ar gael i’rGwasanaeth Iechyd.Gan fod cyn lleied yn hapus gyda’r

ddêl, yr unig ffordd foesol ymlaen, doesbosib, yw ail refferendwm.

Dewi M. Hughes(Nid yw cynnwys y Barn Annibynnol o

reidrwydd yn adlewyrchu safbwynt Undeb yrAnnibynwyr na’r tîm golygyddol.)

Coleg yr Annibynwyr CymraegCyfarfod Blynyddol

y TanysgrifwyrDydd Mercher, Ionawr 30ain, 2019

Noddfa, Bow St.Cyfarfod Blynyddol y Tanysgrifwyr

am 2p.m.Darlith y Coleg am 3p.m.

Siaradwr gwadd - Y Parch. Dyfrig ReesTrefor Jones-Morris

Ysgrifennydd yr Ymddiriedolwyr

O wefan theconversation.com

O wefan The Spectator

DiolchHoffem ddiolch i bawb fu’n cyfrannu atyr erthygl Barn Annibynnol yn ystod2018. Gwerthfawrogwyd yn fawr iawnyr amrywiaeth fu yn yr erthyglau a’rgwahanol safbwyntiau a fynegwyd.Cyfyrddwyd â llawer o bynciau yncynnwys y ddifrifol a’r doniol, ygwleidyddol a’r diwinyddol, yreglwysig a’r cymdeithasol. Edrychwnymlaen, os Duw a’i myn, i ddarllen yrhyn fydd gan y criw i’w ddweud ynystod troeon yr yrfa eleni. Y cyfranwyr yn ystod 2019 fydd:

Dewi Myrddin Hughes, Beti-WynJames, Siân Roberts, Geraint Rees,Eurwen Richards, Elin Maher, EirianRees, Euryn Ogwen, Alun Charles,Noel Davies, Elinor Wyn Reynolds,Mererid Mair, Casi Jones a RobatPowell ac ar ran y tîm golygyddol,Alun Lenny, Iwan Llewelyn Jones acAlun Tudur.

Cadw fe gântUn ffordd syml ond hynod effeithiol ogodi arian tuag at elusen yw dosbarthublychau, ‘cadw mi gei’ i’r aelodau yneich cynulleidfa. Gellir eu prynu arnifer o wefannau gan gynnwyswww.direct-fundraising.co.uk neuwww.amazon.co.uk.

Yna gellir annog eich gilydd igyfrannu £1 y mis neu £1yr wythnos.Pe bai 20 o bobl yn rhoi £1 y mis amflwyddyn yna ar y diwedd byddaicyfanswm o dros £1,000. Rhwydd ’tabe?

Fel rhan o’n dathliadau ni yn Undeb yrAnnibynwyr i gofio daucanmlwyddiantcenhadon yn mynd o Geredigion iFadagascar a’n hapêl i godi arian ar gyferprosiectau allan yn y wlad, rydym ni wedicynhyrchu nwyddau y bydd eu helw’nmynd tuag at yr apêl. Byddant yn fodd ibobl gofio am y flwyddyn fawr hon yn einhanes ni fel Annibynwyr a chyfrannu tuagat yr apêl ar yr un pryd. Coeden bywydMae’r Undeb wedi creu pecyn nwyddauarbennig i gyd-fynd â’r apêl sef myg,coaster a bag sy’n dwyn y logo ‘Bywyd iBawb’ a llun o’r goeden baobab arni, sy’ngoeden bwysig ym Madagascar ynffynhonnell llawer o bethau pwysig o fwydi gysgod a dŵr, caiff y goeden ei galw’n‘goeden bywyd’. Fe benderfynon niddefnyddio’r goeden ryfeddol hon fel logoar gyfer yr apêl a chreu logo bachog i fyndgydag ef sef ‘Bywyd i Bawb – Let there beLife’. Dylai pobl fod yn cael y cyfle i fywbywyd cyflawn; mae ein hapêl ni’n codiarian ar gyfer pedwar prosiect sy’n gwellaansawdd bywyd i bobl.

AR WERTHNwyddau Apêl Madagascar

parhad ar dudalen 7

Page 4: Urddo diaconiaid Gellimanwydd - Annibynwyr...2019/01/17  · Arwyn Thomas, Bethan Thomas, Heledd Thomas, Rhys Thomas a Richard Broderick eu derbyn yn ddiaconiaid i wasanaethu’r eglwys

Cyhoeddwyd gan Undeb yr Annibynwyr Cymraeg ac argraffwyd gan Wasg Morgannwg, Uned 13, Ystad Ddiwyd. Heol Milland, Castell-nedd, SA11 1NJ. Cofrestrwyd yn y Swyddfa Bost.

Erthyglau, llythyrau at y Prif Olygydd: Y Parchg Ddr Alun Tudur39 Dorchester Avenue, Pen-y-lan,Caerdydd, CF23 9BSFfôn: 02920 490582E-bost: [email protected]

Archebion a thaliadau i’r Llyfrfa:Ty John Penri, 5 Axis Court, ParcBusnes Glanyrafon, Bro Abertawe

ABERTAWE SA7 0AJFfôn: 01792 795888

E-bost: [email protected]

tudalen 8 Y Pedair Tudalen Gydenwadol Ionawr 17, 2019Y TYST Golygydd

Y Parchg Iwan Llewelyn JonesFronheulog, 12 Tan-y-Foel,

Borth-y-gest, Porthmadog, Gwynedd,LL49 9UE

Ffôn: 01766 513138E-bost: [email protected]

GolygyddAlun Lenny

Porth Angel, 26 Teras PictonCaerfyrddin, Sir Gâr, SA31 3BX

Ffôn: 01267 232577 / 0781 751 9039

E-bost: [email protected]

Dalier Sylw!Cyhoeddir y Pedair Tudalen

Gydenwadol gan Bwyllgor Llywio’rPedair Tudalen ac nid gan Undeb yrAnnibynwyr Cymraeg. Nid oes awnelo Golygyddion Y Tyst ddim âchynnwys y Pedair Tudalen.

Golygyddion

Oedfa Nadolig plant ysgol Sul Glynarthena phobl ifanc eglwysi Hawen,Bryngwenith a Glynarthen.

Cynhaliwyd oedfa Nadolig cofiadwy yng nghapel Glynarthen o dan lywyddiaeth yParchedig Carys Ann, gyda chymorth amhrisiadwy’r organyddes Mrs Rhian Evans a’rathrawes ysgol Sul, Mrs Ennis Davies. Cymerwyd rhan yn yr oedfa gan blant ysgol SulGlynarthen a’r Ieuenctid o eglwysi Glynarthen, Bryngwenith a Hawen. Trefnwyd côrmerched dan arweiniad Elain Davies, ac aelodau’r côr oedd Lleucu Williams, GwenllïanAnnwyl, Fflur Williams, Lowri Davies ac Elin Williams. Cymerwyd rhan hefyd gan LisaSmart, Daniel Phillips, Heddwyn Phillips, Gwyndaf Evans, Cennydd Jones, MereridMathias, Tudur Williams, Tudur Mathias, Cynan Davies, Dafydd Jones, Sioned Hack, Ryana Griff Powell a derbyniwyd cymorth gan Bert Jones, Penparc. Paratowyd te hyfryd yn yfestri gan rieni ysgol Sul Glynarthen, aelodau Capel Glynarthen a ffrindiau. Diolch i’rdyrfa fawr a ddaeth ynghyd. Bu’r cwbl yn fodd i godi calon pawb oedd yn bresennol wrthddathlu geni ein Gwaredwr Iesu ar Sul 16 Rhagfyr.

Capel Brynmoriah, Brynhoffnant, CeredigionCynhaliwyd oedfa Nadolig plant ac ieuenctid eglwys Brynmoriah ar ddydd Sul 9 Rhagfyr odan arweiniad a llywyddiaeth Miss Gwenda Evans, gyda Mrs Ann Jones yn gwasanaethuwrth yr organ. Cymerwyd rhan gan Sarah, Caryl, Siwsan, Thomas, Hawys, Delun, Lisa,Delyth, Cynan, Jane, Lois, Hana, Carys, Dylan, Enfys, Bedwyr, Gaynor, Heulyn, Susan,Llinos, Ceryth, Elin, Eleri, Helen a thraddodwyd y fendith Apostolaidd gan y gweinidog yParchedig Carys Ann. Roedd yn fendith cael bod yn rhan o’r dathlu.

Dathlu’r geni

Capel Glynarthen

Hanes y creuMae tîm ardderchog o bobl wedi bodynghlwm â’r broses o greu’r nwyddau,

dyma ychydig o’uhanes rhai ohonynt:Dyluniwyd y logo ganRebecca InglebyDavies dylunydd aml-gyfrwng, sy’n byw ynLlanddeusant, dafliadcarreg o Wynfe lle buDavid Griffiths yn byw.

Mae Rebecca yn byw ar fferm ddefaidgyda’i gŵr Ceri a’u mab, Llew. MaeRebecca’n dylunio deunydd ar gyfersefydliadau amlwg yng Nghymru felGerddi Botaneg Cymru, Amgueddfeydd acOrielau Cymru a chadeirlan Aberhonddu.Bu hi’n byw a gweithio yn yr Iseldiroeddam flynyddoedd yn cynhyrchu cylchgronauo bob math gan arbenigo ar greu deunydddwyieithog. Defnyddiodd hi liw gwyrdd iddynodi dail y goeden baobab, ynghyd âlliwiau fanila, siocled a sinamon wrthgreu’r logo, sef lliwiau a gysylltir âchynnyrch ddaw o Fadagascar. Rebeccaddyluniodd holl ddeunydd yr apêl hefyd.Stwff daCynhyrchwyd ynwyddau gan MairRees, o gwmni STWFF.Daw Mair yn wreiddiolo Benlle’r-gaer,Abertawe, bellachmae’n byw yngNghasnewydd gyda’igŵr Neil a’u meibion Hefin a Steffan.Bydd cynnyrch Mair yn adnabyddus i’rrhai ohonom sy’n steddfota oherwydd ynaml mae ganddi stondin STWFF ynEisteddfod yr Urdd ac yn yr EisteddfodGenedlaethol sy’n gwerthu pob math onwyddau personol – gallwch roi unrhywenw ar fagiau, crysau-T, mygiau, unrhywbeth; mae’r math yma o beth yn anrhegionpoblogaidd ar gyfer plant. DefnyddioddMair fagiau wedi’u gwneud allan o boteliplastig a ailgylchwyd er mwyn printio’rlogo arnynt, gan roi defnydd arall i boteli afyddai’n wastraff fel arall. Pris pecyn myg,coaster a bag yw £10 ac maent ar gael oDŷ John Penri: (01792) 795888 neuannibynwyr.cymru

AR WERTHNwyddau Apêl

Madagascar – parhad