8
Sylwadau, Canmoliaeth a Chwynion Mae’r ddogfen hon wedi’i darllen a’i chymeradwyo gan denantiaid Gwrando Deallt a Cywiro Pethau

Welsh compliments complaints booklet final

Embed Size (px)

DESCRIPTION

 

Citation preview

Sylwadau,Canmoliaetha Chwynion

Mae’rddogfen hon

wedi’i darllen a’i chymeradwyo gan

denantiaid✔

GwrandoDeallt

a Cywiro Pethau

Mae Cartrefi Conwy yn ymrwymedig i ddarparu tai agwasanaethau o safon uchel. I wneud hyn, mae angen ichi siarad gyda ni a dweud wrthym beth rydym yn eiwneud yn dda a beth y gallwn ei wneud yn well.Gwyddom y gall pethau fynd o’i le mewn unrhywwasanaeth, ac os bydd hyn yn digwydd, rydym ynawyddus i chi roi gwybod i ni. Drwy wneud hyn,gallwch ein helpu i wella ein gwasanaeth i bob tenant.

Mae sylwadau yn syniad ar gyfer gwneudnewid i unrhyw ran o’r gwasanaeth.

A oes gennych chi unrhyw awgrymiadau a fyddai’ngwella’r gwasanaeth rydym yn ei gynnig i chi? Os oes,siaradwch gyda ni.

Peidiwch â phoeni os ydych yn credu ei fod yn faterbach, rydym eisiau clywed gennych chi.

Weithiau gall awgrym neu sylw bach arwain at welliantmawr yn y ffordd rydym yn gwneud pethau.

Canmoliaeth yw pan fydd rhywun yndweud wrthym eu bod yn fodlon neu’nfalch o ansawdd gwasanaeth rydymwedi’i ddarparu.

Os credwch ein bod yn gwneud rhywbeth yn dda, neufod aelod o staff wedi rhoi gwasanaeth gwych neu wedimynd y filltir ychwanegol, rhowch wybod i ni.

Bydd canmoliaeth a sylwadau yn helpu’r staff i wybodeu bod yn gwneud pethau’n dda a bod eu hymdrechionyn cael eu gwerthfawrogi. Bydd popeth a ddywedwchyn cael ei drosglwyddo i’r bobl dan sylw.

Siaradwch gyda ni a byddwn yn gwrandoar beth sydd gennych i’w ddweud

Ffoniwch ni ar: 0300 124 0040

Anfonwch e-bost i: [email protected]

Ysgrifennwch atom yn: Morfa Gele,Parc Busnes Gogledd Cymru,Cae Eithin, Abergele, LL22 8LJ

Siaradwch gyda’r person rydych yn delio â hwy neu eu Rheolwr os byddai’n well gennych wneud hynny

Gallwch hefyd roi sylw neu ganmoliaethar Facebook neu Twitter

Rhoi sylw neu ganmoliaeth

Os hoffech chi neu rywun yr ydych yn ei adnabod gael gopio’r llyfryn hwn mewn fformat gwahanol fel print bras,Braille neu ar ffurf sain, cysylltwch â’r tîm Cyfathrebu ynCartrefi Conwy ar 01745 335345 neu anfonwch e-bost i:[email protected]

Rydym yma i wrando, deall a’ch helpu i roi trefn ar bethau yngyflym a theg.

Mae cwyn yn:

• fynegiant o anfodlonrwydd neu bryder

• cael ei wneud yn ysgrifenedig neu ar lafar neu drwy unrhyw ddull cyfathrebu arall

• cael ei wneud gan un aelod o’r cyhoedd neu fwy

• ymwneud â gweithredoedd neu ddiffyg gweithrediad darparwyrgwasanaeth cyhoeddus

• neu’n ymwneud â safon y gwasanaeth a ddarparwyd

• galw am ymateb

Gallai cwyn fod yn rhywbeth fel:

• rydym wedi methu darparu gwasanaeth y gwnaethom ddweud y byddem yn ei ddarparu

• agwedd neu ymddygiad un o’n cyflogeion

• nid ydym wedi dilyn ein polisïau neu’n gweithdrefnau ein hunain

• ansawdd gwasanaeth a dderbyniwyd neu safon gwaith sydd wedi’i wneud

• nid ydym wedi ymateb i nifer o geisiadau am wasanaeth neu gwynion anffurfiol eraill

Gwyddom y gall pethau fynd o’i le mewn unrhyw wasanaeth, acos bydd hyn yn digwydd, rydym yn awyddus i chi roi gwybod i ni.Gwnewch yn siwr mai ni yw’r cyntaf i wybod am hyn. Drwywneud hyn, gallwch ein helpu i wella ein gwasanaeth i bob tenant.Mae pob cwyn yn gyfle i ni wella ein gwasanaeth i chi.

Beth ydy cwyn?

Beth yw cwyn? Beth sydd ddim yn cyfrif fel cwyn?

Nid yw cais am wasanaeth atgyweirio neuymholiad am wasanaeth yn gwyn.Dylech ffonio’r GwasanaethauCwsmeriaid ar 0300 124 0040ar gyfer hyn

Ni allwn ddelio â rhai pethaudrwy ein gweithdrefn gwyno,yn cynnwys:• pethau nad oes gennym unrhyw reolaeth drostynt

• materion sydd eisoes yn y llys neu sydd wedi’u cyflwyno gerbron llys neu dribiwnlys

• hawliadau yswiriant a fyddai fel arfer yn cael eu cynnwys mewn polisi yswiriant

• achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol (mae gennym bolisi penodol a thaflen sy’n esbonio sut rydym yn rheoli ymddygiad gwrthgymdeithasol)

• pethau a ddigwyddodd fwy na 6 mis yn ôl.

Mae copi o’n polisi Pryderon a Chwynion ar gael ar ein gwefan, neugallwch ofyn am gopi yn unrhyw un o’n swyddfeydd.

Sut i wneud cwyn

Y Weithdrefn Gwyno

Cam 1Cwynion anffurfiolGallwn ddatrys y rhan fwyaf o gwynion yn gyflym ac yn anffurfiol.Siaradwch gyda’r person rydych yn delio â hwy neu eu Rheolwr osbyddai’n well gennych wneud hynny.

Cam 2 Cwynion ffurfiol

Os yw eich cwyn yn fwy difrifol,neu os ydych yn anfodlon â’rffordd rydym wedi delio â’chcwyn yn anffurfiol, gallwch wneudcwyn ffurfiol. Bydd uwch reolwr ynymchwilio i’ch cwyn i weld beth sydd wedidigwydd a beth gallwn ei wneud i wella’r sefyllfa.

Wrth wneud cwyn ffurfiol, byddwn yn awyddus i chi lenwi einffurflen cwynion. Mae hyn yn ein helpu i wneud yn siŵr bod gennymyr holl fanylion sydd eu hangen arnom.

Gallwch argraffu copi o’r ffurflen oddi ar ein gwefan neu ofyn iunrhyw aelod o staff am gopi.

Fel arall, gallwch :Ein ffonio ar 0300 124 0040Anfon e-bost i [email protected] atom yn Cartrefi Conwy, Morfa Gele, Cae Eithin,Abergele, Conwy LL22 8LJGalw i mewn i unrhyw un o’n swyddfeydd a siarad gydag aelod ostaff, a fydd yn cofnodi’r manylion.

Byddwn yn: • cydnabod eich cwyn ffurfiol o fewn 5 diwrnod;• gwneud yn siwr eich bod yn gwybod beth ywenw’r person sy’n delio â’ch cwyn.

Bydd y person sy’n delio â’ch cwyn yn:• siarad gyda chi dros y ffôn fel arfer ynglynâ’ch cwyn neu’n gwneud apwyntiad iymweld â chi;

• esbonio ein dealltwriaeth ni o’ch cwyn ermwyn gwneud yn siwr bod y ffeithiau cywirgennym;

• gofyn i chi beth ydych chi’n credu y dylem eiwneud i unioni’r sefyllfa a datrys eich cwyn i chi;

• ymateb yn llawn yn y ffordd yr hoffech i ni gyfathrebu â chi.

Rydym yn ceisio datrys cwynion o fewn 20 diwrnod gwaith.Byddwn yn rhoi gwybod i chi os bydd angen mwy o amser arnomac yn dweud wrthych beth rydym wedi’i ganfod hyd yma.

Os ydych wedi dilyn ein gweithdrefn cwynion ffurfiol a’ch bod ynparhau i fod yn anfodlon, yna gallwch ofyn i OmbwdsmonGwasanaethau Cyhoeddus Cymru ymchwilio i’ch cwyn.

Ffôn: 08456010987;E-bost: [email protected];Ysgrifennwch at: Ombwdsmon Gwasanaethau CyhoeddusCymru, 1 Ffordd yr Hen Gae, Pencoed, CF35 5LJ

Unioni’r sefyllfaByddwn yn ceisio datrys eich cwyn cyn gynted â phosibl.• Os byddwn wedi gwneud rhywbeth o’i le byddwn bob amser yn ymddiheuro.

• Mewn rhai amgylchiadau byddwn yn ystyried defnyddio gwasanaethau cyfryngu annibynnol i ddatrys cwynion.

Dysgu drwy adborthRydym yn awyddus i dderbyn adborth gan gwsmeriaid sydd wedigwneud cwynion i ni, er mwyn gallu gwella’r ffordd rydym yn delio âchwynion yn y dyfodol.

Beth rydym yn ei ddisgwyl gennych chi.Credwn fod gennych hawl i leisio eich barn a’n bod yn gwrandoarnoch. Ond ni ddylai ein staff orfod goddef ymddygiad annerbyniol.Rydym yn disgwyl i chi fod yn gwrtais wrth ddelio gyda ni. Maegennym bolisi arall penodol ar gyfer rheoli sefyllfaoedd pan fyddwnyn canfod bod gweithredoedd rhywun yn annerbyniol.