Upload
others
View
1
Download
0
Embed Size (px)
Citation preview
Cynllun sgiliau a chyflogaeth rhanbarthol
YR IAITH GYMRAEG YNG NGWEITHLUGOGLEDD CYMRU
www.northwaleseab.co.uk 2018www.northwaleseab.co.uk
CYNNWYS
AM FWY O WYBODAETH CYSYLLTWCH GYDA:
IWAN THOMAS | Rheolwr Rhaglen - Sgiliau a Chyflogaeth
e: [email protected] | [email protected]
Mwy o Wybodaeth 57
Atodiad A 61
Atodiad B 64
Argymhellion
Cydnabyddiaethau
Casgliadau 54
55
56
Yr Iaith Gymraeg ym myd Addysg
Ysgolion Addysg Bellach Dysgu Seiliedig ar Waith Addysg Uwch Addysg Oedolion
13
Yr Iaith Gymraeg yn y Gweithle 34
Crynodeb Gweithredol 3
Cyflwyniad 8
9
10
Yr Iaith Gymraeg yn y Gymuned
Strategaeth Llywodraeth Cymru
CYN
NW
YS
2
CRYNODEB GWEITHREDOL
Roedd cyfanswm rhanbarthol y disgyblion mewn ysgolion cynradd ac uwchradd Cymraeg, dwyieithog
a dwy ffrwd yn ystod blwyddyn academaidd 2015/16 yn 22,750 mewn ysgolion cynradd a 14,042 mewn
ysgolion uwchradd, sy’n adlewyrchu cynnydd rhanbarthol cyffredinol,
ond gostyngiad yng Nghonwy a Sir Ddinbych.
Yn 2015/16, y meysydd pwnc Addysg Bellach gyda’r nifer mwyaf o weithgareddau dysgu cyfrwng Cymraeg/
dwyieithog oedd paratoi ar gyfer bywyd a gwaith, manwerthu, adeiladu, ac iechyd, gwasanaethau cyhoeddus
a gofal. Fodd bynnag, bu gostyngiad yn y gweithgareddau dysgu dwyieithog o 2014/15 i 2015/16 yn y rhan
fwyaf o’r meysydd pwnc, ac eithrio ym meysydd manwerthu, amaeth a gwyddoniaeth a mathemateg, ble bu
cynnydd sylweddol. Bu gostyngiad sylweddol mewn gweithgareddau dysgu dwyieithog ym meysydd paratoi
ar gyfer bywyd a gwaith, iechyd, peirianneg, adeiladu, busnes, y cyfryngau, a theithio a thwristiaeth.
Yn 2017 cyhoeddodd Estyn adroddiad ar addysgu a dysgu cyfrwng
Cymraeg a dwyieithog mewn addysg bellach (AB) ar draws Cymru, a
dangosodd hynny nad yw nifer fawr o ddysgwyr yn parhau i astudio
drwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog pan maent yn symud o’r
ysgol i’r coleg. Fodd bynnag, gall hynny hefyd fod yn wir oherwydd nad
oes gan nifer o golegau gofnodion cywir a chyson o ba weithgareddau
dysgu gaiff eu cynnal yn ddwyieithog neu drwy gyfrwng y Gymraeg.
Ar hyn o bryd mae’r data yn adrodd bod yna 240 o weithgareddau
dysgu ac asesu yn cael eu darparu gan sefydliadau AB yng Ngogledd
Cymru drwy gyfrwng y Gymraeg, a 10,110 yn ddwyieithog.
Mae nifer yr israddedigion sy’n cofrestru i dderbyn peth o’u haddysg
drwy gyfrwng y Gymraeg wedi gostwng yn y ddwy brifysgol, gyda gostyngiad ym Mangor o 1,225 yn 2014/15
i 1,205 yn 2015/16, ac ym Mhrifysgol Glyndŵr o 45 i 10.
CR
YNO
DEB
GW
EITH
RED
OL
3
Dechreuodd Cyngor Sir Ddinbych brosiect peilot am ddim ‘Cymraeg mewn Busnes’ yn 2016, gan gynnal
arolwg o anghenion cyflogwyr. Mae’r canfyddiadau cychwynnol yn awgrymu bod y defnydd o Gymraeg
mewn busnes yn atgyfnerthu natur unigryw y cynnyrch lleol neu’r gwasanaeth, a’r teimlad o ddilysrwydd.
Yng Ngogledd Cymru a’r De Ddwyrain yr oedd y gyfran uchaf o gyflogwyr oedd yn disgwyl i’r angen am
sgiliau Iaith Gymraeg gynyddu yn ystod y 2-3 blynedd nesaf.
Bu i adroddiad Anghenion Sgiliau Iaith Cymraeg mewn Wyth Sector Llywodraeth Cymru ar draws Cymru
ganfod mai yng Ngogledd Cymru yr oedd y ganran uchaf o gyflogwyr oedd yn ystyried bod cael staff â
sgiliau Iaith Cymraeg yn bwysig i fasnach ddomestig.
Cyflogwyr yng Ngogledd Cymru oedd fwyaf tebygol o ystyried bod cael staff â sgiliau Iaith Cymraeg ar eu
safle yn eithaf pwysig neu’n bwysig iawn.
Y prif fuddion tybiedig i gyflogwyr o ganlyniad i gael mwy o sgiliau Cymraeg oedd gwell gwasanaeth
cwsmeriaid ac y byddai’n eu helpu i ennill busnes newydd.
CRYNODEB GWEITHREDOL
SECTORAU ALLWEDDOL YNG NGOGLEDD CYMRU
SECTORAU TWF YNG NGOGLEDD CYMRU
TWRISTIAETH A LLETYGARWCH
CYNHYRCHU BWYD A DIOD
GWASANAETHAU ARIANNOL A PHROFFESIYNOL
YNNI A’R AMGYLCHEDD
CREADIGOL A DIGIDOL IECHYD A GOFAL CYMDEITHASOL
ADEILADUDEUNYDDIAU A GWEITHGYNHYRCHU UWCH
CR
YNO
DEB
GW
EITH
RED
OL
4
Heriau rhanbarthol i’r iaith Gymraeg
Yr her hirdymor sylfaenol i
Ogledd Cymru yw cyrraedd nod
Llywodraeth Cymru o greu miliwn
o siaradwyr Cymraeg erbyn
2050.
Y Gymraeg ym Myd Addysg
• Mynd i’r afael â phrinder staff Cymraeg ym myd addysg
• Cynorthwyo dysgwyr i wella eu sgiliau Iaith Cymraeg
• Cynyddu nifer y siaraadwr Cymraeg sy'n astudio drwy gyfrwng y Gymraeg neu'r ddwyiethog mew
Addysg Bellach
• Ymestyn darpariaeth cyfrwng Cymraeg mewn Addysg Bellach
• Mynd i'r afael â phrinder adnoddau cyfrwng Cymraeg yn y sector addysg ôl-16
• Datblygu cofnod cywir a chyson o ba weithgareddau dysgu gyfrwng y Gymraeg neu'n ddwieithog
mewn Addysg Uwch
• Ymestyn darpariaeth cyfrwng Cymraeg mewn Addysg Uwch
Y Gymraeg yn y Gweithle
• Cynorthwyo busnesau i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg a dwyieithog
• Mwy o hyrwyddo a hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle
• Ehangu cyfleoedd i gael hyfforddiant Cymraeg yn y gweithle
CRYNODEB GWEITHREDOL
CR
YNO
DEB
GW
EITH
RED
OL
5
Datblygiadau cenedlaethol a rhanbarthol i’r iaith Gymraeg ers Cyfrifiad 2011...
Lansiwyd y rhaglen CAMAU STEM ddwyieithog dan arweiniad
cyflogwyr ar gyfer disgyblion, rhieni ac athrawon ym mis Ebrill 2017.
Ym mis Gorffennaf 2017 lansiodd Llywodraeth Cymru Cymraeg 2050,
sef cynlluniau ar gyfer cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg i un filiwn
erbyn 2050.
Sicrhau systemau cynllunio gweithlu mwy effeithiol er mwyn darparu cyflenwad digonol o athrawon all weithio drwy gyfrwng y Gymraeg
Gweithio gyda chymunedau ar draws Cymru er mwyn hyrwyddo a hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg
Ym mis Medi 2017, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Ffyniant i Bawb: y Strategaeth i Gymru, sef strategaeth genedlaethol sy’n amlinellu eu blaenoriaethau ar gyfer gweddill tymor
presennol y Cynulliad, yn cynnwys ymrwymiadau i:
Ym mis Gorffennaf 2017 cyhoeddodd NWEAB drydydd Cynllun Sgiliau a Chyflogaeth
Rhanbarthol, yn cynnwys Atodiad 4 ar yr Iaith Gymraeg.
Ym mis Awst 2017 bu i Bapur Gwyn Taro’r cydbwysedd iawn: cynigion ar gyfer Bil y Gymraeg sy'n amlinellu
cynigion ar gyfer hyrwyddo a rheoleiddio’r Gymraeg.
Datblygu ymagwedd drawsnewidiol tuag at ddysgu, addysgu ac asesu
Cymraeg
CR
YNO
DEB
GW
EITH
RED
OL
CRYNODEB GWEITHREDOL
6
CRYNODEB GWEITHREDOL
Partneriaeth sgiliau rhanbarthol Gogledd Cymru - ein hamcanion ar gyfer 2017-18
Gyda phartneriaid, siapio a hysbysu cynnwys rhaglenni
prentisiaeth y dyfodol gan gyfathrebu’n well â rhieni ac athrawon,
yn ogystal ag amlygu mecanweithiau ‘Prentisiaeth Iau’, a
hyrwyddo mwy ar brentisiaethau drwy gyfrwng yr Iaith Gymraeg.
Hyrwyddo mwy ar berthnasedd a gwerth dwyieithrwydd i’n
heconomi er mwyn cefnogi’r iaith Gymraeg yn ein cymunedau a’n
gweithleoedd, a chefnogi sgiliau iaith dysgwyr.
Gyda phartneriaid, hyrwyddo a darparu cyfleoedd dysgu
drwy brofiad drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg, a hynny’n
berthnasol i fywyd go iawn a sefyllfaoedd gwaith, gan adeiladu
ar ein gwaith o hyrwyddo sectorau allweddol a sectorau twf,
gyda gwybodaeth am y farchnad lafur a data gan gyflogwyr yng
Ngogledd Cymru a thros y ffin, er mwyn cynorthwyo disgyblion,
rhieni ac ymarferwyr.
Datblygu ein rhaglen CAMAU STEM ddwyieithog y tu hwnt i
Gyfnod Allweddol 2 dan arweiniad cyflogwyr, a hynny’n cael ei
ddarparu ar gyfer pob ysgol gynradd yn y rhanbarth, adolygu
a diweddaru cynnwys cyn ei hymestyn i Ysgolion Uwchradd a
sicrhau llwybr parhaus i Gyfnod Allweddol 3.
CR
YNO
DEB
GW
EITH
RED
OL
7
Mae'r Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol (RSP) yng Ngogledd Cymru wedi ymrwymo i gefnogi sgiliau’r iaith
Gymraeg ledled y rhanbarth - boed yn y gweithle, cymunedau, neu sefydliadau addysg a hyfforddiant.
Mae cael gweithlu dwyieithog, yn y presennol a'r dyfodol, yn ein galluogi i hyrwyddo amrywiaeth o sgiliau iaith,
a chadw a datblygu'r Gymraeg ar draws pob sector a lleoliadau i sicrhau gwerth ychwanegol i’n economi.
Mae gwaith yr RSP hyd yma drwy hyrwyddo'r iaith Gymraeg ym mhrosiectau fel STEM, cyflogadwyedd, a
hwyluso data'r farchnad lafur gyda’n sefydliadau partneriaeth, yn cydnabod ein cyfrifoldeb ar y cyd i gynyddu
defnydd o ddwyieithrwydd a'i werth i'n heconomi.
Mae gweithio gyda chyflogwyr o bob maint ar draws y rhanbarth, o brosiectau mawr megis Wylfa Newydd,
i entrepreneuriaid unigol a BBaCh yn gyfartal, yn dangos pwysigrwydd sgiliau’r iaith Gymraeg i gryfhau ein
cymunedau, diwylliant a threftadaeth a chynnyddu gweithlu dwyieithog ar draws Gogledd Cymru i’r dyfodol .
“Rwy’n croesawu’r adroddiad hwn, sy’n tynnu ymchwil at ei gilydd am y
galw a’r angen am sgiliau Cymraeg ar gyfer gweithlu Gogledd Cymru.
Yr her nawr i’r byd addysg ac i gyflogwyr yw ymateb i’r dystiolaeth, a
mynd ati i sicrhau bod gan y gweithlu’r sgiliau angenrheidiol i weithio trwy
gyfrwng y Gymraeg.
Bydd defnydd cynyddol o’r Gymraeg yn y gweithle yn hybu hyder
siaradwyr Cymraeg ac yn galluogi’r gweithlu i fanteisio ar fuddion sgiliau
Cymraeg fel ased economaidd. Wrth i’r angen am weithwyr sy’n siarad
Cymraeg gynyddu er mwyn ateb gofynion Safonau’r Gymraeg, bydd y gweithle yn dod yn barth cynyddol
ganolog i’r ymdrech i gyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg.’’
MERI HUWS
Comisiynydd y Gymraeg
SASHA DAVIESCadeirydd Y Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol
CYFLWYNIAD
CYF
LWYN
IAD
8
YR IAITH GYMRAEG YN Y GYMUNED
Mae gan Ogledd Cymru dreftadaeth ddiwylliannol
ac amgylcheddol unigryw sy’n darparu ymdeimlad
cryf o gymuned a hunaniaeth. Mae hynny hefyd
yn cynnwys ymdeimlad cryf o ardal a chryfderau
isranbarthol sydd gyda’i gilydd yn cyfrannu at y
rhanbarth amrywiol a chydnerth hon. Mae Cynllun
Sgiliau a Chyflogaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru
yn dangos yr angen am sgiliau iaith Cymraeg ymysg
gweithlu’r rhanbarth nawr ac yn y dyfodol, a bydd yn
hysbysu anghenion datblygu sgiliau iaith Cymraeg i’r
dyfodol.
Mae’r iaith Gymraeg yn rhan allweddol o ddiwylliant bywiog y rhanbarth mewn gweithleoedd, sefydliadau
dysgu ac ar strydoedd ein trefi a’n pentrefi. Wrth i gyflogwyr roi mwy o bwyslais ar sgiliau dwyieithog, gellir
ystyried bod y gallu i gyfathrebu’n hyderus drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg yn fantais gref yn y farchnad
lafur. Fel arf marchnata i fusnesau a sefydliadau, mae’r iaith Gymraeg yn cyfrannu at ddelwedd a hunaniaeth
gorfforaethol gref. Gellir ystyried bod yr iaith Gymraeg yn ysgogydd economaidd, sy’n hybu busnes a
thwristiaeth gan fod ymwelwyr yn blasu’r diwylliant unigryw a’r ymdeimlad cryf o gymuned yng Nghymru.
Yng Ngogledd Cymru, yn ogystal â’i bod yn iaith gyntaf mewn nifer o weithleoedd, mae’r galw am sgiliau iaith
Cymraeg yn cynyddu mewn nifer o sectorau twf, yn rhanbarthol a chenedlaethol. Mae’r rhain yn cynnwys
sectorau bwyd, twristiaeth, iechyd a gofal cymdeithasol, a’r creadigol a digidol.
Bydd yn hanfodol ein bod yn parhau i ddatblygu a hyrwyddo'r sgiliau a’r cyfleoedd cyflogaeth sydd ar
gael drwy gyfrwng y Gymraeg, yn ogystal â defnyddio mwy o adnoddau er mwyn hyrwyddo arloesedd,
entrepreneuriaeth a gyrfaoedd cynaliadwy drwy ddefnyddio’r iaith.
Fel dilyniant i’r Cynllun Sgiliau a Chyflogaeth, mae’r adroddiad hwn yn gasgliad o’r adroddiadau data a
gwybodaeth diweddaraf mewn perthynas ag amryw agweddau o’r iaith Gymraeg yng Ngogledd Cymru, ac
mae hynny yn ei dro yn effeithio ar anghenion a thwf posibl yr economi yng Ngogledd Cymru. Mae’r adroddiad
hwn yn rhoi’r darlun mwyaf diweddar, eang a chywir i bartneriaid o’r cyflenwad posibl o sgiliau iaith Cymraeg
sydd ar gael ar hyn o bryd er mwyn bodloni’r galw ymysg cyflogwyr am y sgiliau yma. Mae’r adroddiad hefyd
yn rhoi cyfle i bartneriaid perthnasol ystyried, gyda’i gilydd, sut y gall y rhanbarth ymateb i’r prif wybodaeth
a geir yn yr adroddiad a’r heriau sy’n wynebu’r rhanbarth o ran bodloni’r cyd-destun polisi ehangach mewn
perthynas â chynyddu’r cyflenwad a’r galw gan gyflogwyr am sgiliau iaith Cymraeg i un filiwn erbyn 2050.
YR I
AIT
H G
YMR
AEG
YN
Y G
YMU
NED
9
STRATEGAETH LLYWODRAETH CYMRU
Strategaeth Llywodraeth Cymru
Cymraeg 2050: Miliwn o Siaradwyr Cymraeg
Mae strategaeth newydd yr Iaith Gymraeg – Cymraeg 2050: Miliwn o
Siaradwyr Cymraeg, a gyhoeddwyd yn 2017, yn rhoi ffocws newydd
ar yr Iaith Gymraeg, ac mae’n nodi gweledigaeth Llywodraeth Cymru
o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Mae ymrwymiad Llywodraeth Cymru i’r strategaeth newydd yn cael
ei atgyfnerthu gan y ffaith fod y targed yma wedi ei gynnwys yn
rhaglen Symud Cymru Ymlaen y Llywodraeth, a Ffyniant i Bawb: y
strategaeth genedlaethol. Mae Iaith Gymraeg sy’n ffynnu hefyd yn un
o 7 prif amcan Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
Mae targed uchelgeisiol strategaeth yr Iaith Gymraeg yn golygu bod
angen gweithredu ac ymyrraeth ar draws pob sector addysg ôl-16.
Mae angen i ddysgwyr a phobl ifanc fod yn ymwybodol o fuddion parhau i ddatblygu eu sgiliau iaith Cymraeg
wrth baratoi ar gyfer y gweithle, ac mae angen annog cyflogwyr i ddarparu mwy o gyfleoedd i ddefnyddio’r
Iaith Gymraeg yn y gweithle. Mae’r strategaeth yn cynnwys nod penodol i fynd i’r afael â hyn:
Diwygio addysg cyfrwng Cymraeg a dwyieithog a’r sgiliau a gynigir er mwyn sicrhau bod gan bobl
ifanc y cyfle i barhau i ddatblygu sgiliau dwyieithog er mwyn cefnogi economi ffyniannus.
Yn dilyn adolygiad y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, cyhoeddwyd ymateb Llywodraeth Cymru ar 12 Rhagfyr
2017 oedd yn derbyn yr holl argymhellion, yn arbennig y rhai hynny oedd yn gysylltiedig ag ymestyn
dyletswyddau’r Coleg i gynnwys y sector ôl-16. O ganlyniad i hynny, mae’r Coleg yn sefydlu Bwrdd Cynllunio
arbenigol gyda chynrychiolaeth o’r sector addysg bellach a’r sector dysgu yn seiliedig ar waith (DSW). Diben
y Bwrdd fydd cynghori ar y gweithdrefnau fydd eu hangen er mwyn datblygu darpariaeth ôl-16 a chynhyrchu
cynllun gweithredu ffurfiol fydd yn ehangu darpariaeth i’r dyfodol, ystyried cynllunio a hyfforddi’r gweithlu, a
chynyddu cyfleoedd i ddefnyddio’r iaith Gymraeg ym myd addysg.
Mae datblygu sgiliau iaith Cymraeg yn y gweithle wedi cael ei gynnig yn ddiweddar gan y Ganolfan Dysgu
Cymraeg Genedlaethol, drwy raglen Cymraeg Gwaith. Mae’n cynorthwyo gweithleoedd i ddatblygu sgiliau iaith
Cymraeg eu cyflogeion. Hefyd, mae rhaglen beilot yn cael ei chynnal gan Colegau Cymru a’r Coleg Cymraeg
Cenedlaethol er mwyn datblygu gallu ymarferwyr mewn colegau addysg bellach a sefydliadau Addysg Uwch i
ddysgu’n hyderus drwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd hynny yn ei dro yn datblygu capasiti y sefydliadau hynny i
gynnig darpariaeth cyfrwng Cymraeg a dwyieithog ac i ymateb i anghenion cyflogwyr.
STR
ATE
GA
ETH
LLY
WO
DR
AET
H C
YMR
UST
RA
TEG
AET
H L
LYW
OD
RA
ETH
CYM
RU
10
STRATEGAETH LLYWODRAETH CYMRU
CYFRIFIAD 2011
Mae canran y siaradwyr Cymraeg 16-64 oed sy’n
seiliedig ar ddata Cyfrifiad 2001 a 2011 wedi gostwng
o 29.1% i 27.7%. O ran niferoedd, mae hynny yn
ostyngiad o 119,611 yn 2001 i 118,053 yn 2011.
Yn ddaearyddol, yn y siroedd hynny sydd â’r
crynodiad mwyaf o siaradwyr Cymraeg y bu’r
gostyngiad mwyaf yng nghanran y siaradwyr
Cymraeg. Bu gostyngiad o 3.1% yng nghanran y siaradwyr Cymraeg 16-64 oed yng Ngwynedd, o 65.6% yn
2011 i 62.5% yn 2011, tra bu gostyngiad o 2.1% ar Ynys Môn o 58% i 55.9%.
Mae canran y trigolion 3+ oed nad oes ganddynt ddim sgiliau iaith Cymraeg yn seiliedig ar ddata Cyfrifiad
2001 a 2011 wedi cynyddu ychydig o 58.7% yn 2001 i 59.7% yn 2011, neu gynnydd o 376,201 i 396,479 mewn
niferoedd.
Roedd y gostyngiad mwyaf mewn siaradwyr Cymraeg ymysg rhai 16-19 oed, gyda gostyngiad o 3% o 41.9%
yn 2001 i 38.9% yn 2011. Bu’r gostyngiad mwyaf yng Ngwynedd, gyda gostyngiad o 7.2% o 75.8% yn 2001
i 68.6% yn 2011. Wrecsam oedd yr unig sir yng Ngogledd Cymru ble gwelwyd cynnydd, ond doedd hynny
ond yn 1% i 19.9% yn 2011. Ar y llaw arall, arhosodd canran y siaradwyr Cymraeg yn y grŵp oedran 20-44
yn gymharol sefydlog, gyda chynnydd bychan yng Nghonwy a Sir y Fflint, ac eithrio gostyngiad o 4.1%
yng Ngwynedd. Bu gostyngiad o 2.3% yng nghyfran y rhai 45-64 oed oedd yn gallu siarad Cymraeg yng
Ngogledd Cymru.
ROEDD
38.9%O RAI 16-19 OED YNG NGOGLED
CYMRU YN SIARADWYR CYMRAEG (41.9% yn 2001)
28.7% O RAI 20-44 OED YNG NGOGLED CYMRU YN
SIARADWYR CYMRAEG (28.8% yn 2001)
24.6% O RAI 45-64 OED YNG NGOGLED CYMRU YN
SIARADWYR CYMRAEG (26.9% yn 2001)
Y C
YFR
IFIA
D 2
011
11
Defnyddiwyd canlyniadau Arolwg Cenedlaethol ar gyfer Cymru 2014-15 mewn arolwg diweddar, a
gyhoeddwyd yn 2017, i ymchwilio i ba ffactorau sy’n gysylltiedig â ph’un a yw pobl yn siarad Cymraeg neu
beidio, er mwyn mesur cynnydd yn erbyn dangosyddion 36 a 37 Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
(Cymru) 2015: ‘Canran y bobl sy’n siarad Cymraeg yn ddyddiol ac sy’n gallu siarad mwy nag ychydig o eiriau
Cymraeg; canran y bobl sy’n gallu siarad Cymraeg.’
Canfyddiadau allweddol
Mae yna nifer o ffactorau sy’n dylanwadu ar p’un a yw pobl yn siarad Cymraeg neu beidio, a ph’un a ydynt yn
siarad mwy o Gymraeg. Wrth reoli ystod eang o ffactorau eraill, mae pobl yn fwy tebygol o siarad Cymraeg ac
o siarad mwy o Gymraeg os ydynt yn:
• Wyn o ran hunaniaeth;
• Byw yng Ngwynedd, Ynys Môn, Ceredigion a Sir Gaerfyrddin;
• 16 i 29 oed;
• Wedi cael mwy o addysg;
• Cristnogion o ran hunaniaeth.
Hefyd, mae pobl yn fwy tebygol o siarad mwy o Gymraeg os ydynt yn:
• Byw mewn ardaloedd gwledig;
• Gyda theulu a ffrindiau agos;
• Cyflogedig;
• Perchen ar eu cartref eu hunain, yn hytrach na rhentu.
Bu i Arolwg Cenedlaethol ar gyfer Cymru, a gyhoeddwyd yn 2015, ganfod mai Gwynedd oedd uchaf yng
Nghymru yn gyffredinol, gyda 60% o bobl dros 16 oed yn defnyddio’r Iaith Gymraeg yn ddyddiol, ac yna Ynys
Môn gyda 46%.
Roedd llai na hanner y cyflogeion wedi nodi bod sgiliau iaith Cymraeg yn ‘hanfodol’ neu’n ‘ddymunol’ yn eu
swydd ddisgrifiad. Yn Sir Ddinbych oedd y ganran uchaf o gyflogeion yn y rhanbarth a nododd bod sgiliau iaith
Cymraeg yn ‘ddymunol’, sef tua traean (34%), ac yna Conwy a Wrecsam gydag ychydig dros chwarter, sef 26%,
ac Ynys Môn gyda 25%. Yng Ngwynedd yr oedd y ganran uchaf o gyflogeion yn y rhanbarth a nododd bod y
Gymraeg yn ‘hanfodol’, gyda 30%, ac yna Ynys Môn gyda 22%.
STRATEGAETH LLYWODRAETH CYMRU
Arolwg Cenedlaethol ar gyfer Cymru
ROEDD Y GYMRAEG YN CAEL
EI SIARAD YN FWYAF AML
GYDA CHYDWEITHWYR YN Y
GWAITH A PHOBL Y TU ALLAN
I’R SEFYDLIAD YNG NGOGLEDD
ORLLEWIN CYMRU.
Hefyd, cynhaliwyd dadansoddiad fel rhan o Arolwg Cenedlaethol ar gyfer
Cymru er mwyn archwilio pa mor aml y defnyddiwyd yr Iaith Gymraeg yn
y gweithle. Roedd y rhan fwyaf o’r cyflogeion yn teimlo bod eu cyflogwyr
yn gefnogol i ddefnyddio’r Gymraeg yn y gwaith, o ran agweddau ffurfiol
ac anffurfiol y busnes, gyda’r canrannau uchaf yng Ngwynedd a Sir
Ddinbych, sef 69%, ac Ynys Môn gyda 65%.
STR
ATE
GA
ETH
LLY
WO
DR
AET
H C
YMR
U
12
YR IAITH GYMRAEG YM MYD ADDYSG
Y Gymraeg ym Myd Addysg: Cynllun Gweithredu Llywodraeth Cymru 2017-21
Gweledigaeth Llywodraeth Cymru yw galluogi pob dysgwr
i ddatblygu eu sgiliau iaith Cymraeg ac i ddefnyddio’r iaith
yn hyderus yn eu bywydau bob dydd. Er mwyn gwireddu’r
weledigaeth hon, mae’n rhaid iddynt sicrhau bod yr holl
ddysgwyr yn elwa o gwricwlwm o safon byd-eang a’u bod yn
mwynhau dysgu ac addysgu sy’n eu hysbrydoli.
Pwrpas y Gymraeg ym Myd Addysg: Cynllun gweithredu 2017-
21 yw nodi cyfeiriad Llywodraeth Cymru ar gyfer datblygu
addysg cyfrwng Cymraeg ac Iaith Gymraeg gorfodol yn ystod
y pedair blynedd nesaf. Datblygwyd y cynllun drwy weithio â
rhanddeiliaid allweddol, ac mae’n unol â gweledigaeth Cymraeg
2050: Miliwn o Siaradwyr Cymraeg ac Addysg yng Nghymru: Ein
Cenhadaeth Genedlaethol, Cynllun Gweithredu 2017-21. Mae’r
cynllun hefyd yn gweithredu un o’r camau yn rhaglenni gwaith
Cymraeg 2050, ac mae’n adeiladu ar Strategaeth Addysg
Cyfrwng Cymraeg, a gyhoeddwyd yn 2010. Bydd y Consortiwm
Addysg yn arwain y gwaith ar draws y tri rhanbarth yng Nghymru, a GwE fydd yn arwain yng Ngogledd
Cymru.
“Mae’n gyfnod cyffrous i addysg yng Nghymru, ac mae gennym y cyfle i sicrhau bod yr Iaith Gymraeg yn
rhan ganolog o’n diwygiadau uchelgeisiol a hanfodol.”
Kirsty Williams AM
Yr Aelod Cabinet dros Addysg
Eluned Morgan AM
Gweinidog y Gymraeg a Dysgu
Gydol Oes
YR I
AIT
H G
YMR
AEG
YM
MYD
AD
DYS
G
13
YR IAITH GYMRAEG YM MYD ADDYSG
Yn ôl Sefyllfa’r Iaith Gymraeg 2012-15: Adroddiad 5 Mlynedd Comisiynydd yr Iaith Gymraeg, mae yna berthynas
rhwng pryd y mae unigolyn yn dysgu Cymraeg a pha mor rhugl y byddant. Mae ymchwil yn awgrymu po
gynharaf y bydd rhywun yn dysgu Cymraeg y mwyaf yw’r tebygolrwydd y byddant yn dod yn rhugl.
Dau o feysydd pwysicaf cynllunio iaith yw trosglwyddo ac addysg. Bu cynnydd mewn darpariaeth addysg
cyfrwng Cymraeg yn ystod yr ugain mlynedd diwethaf. Mae ymchwil yn dangos bod y rhan fwyaf (80%) o
siaradwyr Cymraeg 3-15 oed ar draws Cymru yn bennaf wedi dysgu Cymraeg yn yr ysgol yn hytrach nag yn y
cartref, ond mae trosglwyddo yn y cartref yn dal yn allweddol i ddyfodol yr iaith Gymraeg o ystyried y gyfradd
rhuglder uchel ymysg y rhai sydd wedi dysgu Cymraeg yn y cartref.
Fodd bynnag, ni fu unrhyw gynnydd arwyddocaol yn nifer y plant sy’n derbyn eu haddysg drwy gyfrwng y
Gymraeg yn ystod y blynyddoedd diweddar, ac mae’n ymddangos bod nifer arwyddocaol o bobl ifanc yn colli
eu sgiliau iaith Cymraeg ar ôl gadael yr ysgol.
Hefyd, mae yna ddiffyg dilyniant amlwg ym maes addysg cyfrwng Cymraeg rhwng Cyfnodau Allweddol, a
hyd at AB ac AU. Hefyd, mae yna ddiffyg data cyson a chynhwysfawr ar lwyddiant y system addysg yn y
Blynyddoedd Cynnar, AB ac AU o ran cynhyrchu siaradwyr Cymraeg.
Yn adroddiad Yr Athro Donaldson, Dyfodol Llwyddiannus: Adolygiad Annibynnol o’r Cwricwlwm a’r Trefniadau
Asesu yng Nghymru, a gyhoeddwyd yn 2015, gwnaethpwyd 10 argymhelliad mewn perthynas â’r iaith Gymraeg
yn y cwricwlwm, a derbyniodd Llywodraeth Cymru bob un ohonynt, yn cynnwys y dylai’r Gymraeg barhau i fod
yn orfodol ym mhob ysgol hyd at 16 oed.
YR I
AIT
H G
YMR
AEG
YM
MYD
AD
DYS
G
14
YR IAITH GYMRAEG YM MYD ADDYSG
Yn un o’r argymhellion, dylai’r cwricwlwm newydd roi ffocws newydd ar ddysgu Cymraeg fel ffordd o
gyfathrebu yn bennaf, a chyfathrebu llafar a dealltwriaeth yn benodol.
Argymhellwyd hefyd y dylid cynyddu’r gwerth sy’n gysylltiedig â’r iaith Gymraeg drwy gryfhau’r ffocws ar ei
gwerth masnachol yn y farchnad swyddi, y manteision gwybyddol o ganlyniad i ddwyieithrwydd sydd wedi’u
hawgrymu, a’i phwysigrwydd o ran galluogi plant a phobl ifanc i gael dealltwriaeth dda o fywyd diwylliannol
Cymru yn y gorffennol a’r presennol.
Mae cwricwlwm newydd yn cael ei ddatblygu ar gyfer Cymru, wedi ei hysbysu gan adolygiad yr Athro
Donaldson, a bydd ar gael erbyn Ebrill 2019 er mwyn derbyn adborth arno. Bydd fersiwn terfynol ar gael ym
mis Ionawr 2020, a bydd yn cael ei ddefnyddio yng Nghymru drwyddi draw erbyn 2022.
Bu i’r athro a’r ymchwilydd iaith Miguel Angel Muñoz egluro ymchwil
ar sut mae bod yn ddwyieithog yn effeithio ar eich ymennydd, yn
seminar y Cyngor Prydeinig yng Nghaerdydd yn 2014.
Mae dwyieithrwydd yn effeithio ar ddatblygiad ac effeithlonrwydd ‘system reoli gweithredol’ amlffactoraidd yr
ymennydd. Mae hynny’n golygu bod yr ymennydd dwyieithog wedi arfer trin dwy iaith ar yr un pryd, felly mae
hynny yn datblygu sgiliau ar gyfer ffwythiannau megis ataliad (mecanwaith wybyddol sy’n diystyru ysgogiadau
amherthnasol), newid sylw, a chof gweithredol. Y sgiliau yma yw system reoli weithredol yr ymennydd, sy’n
gofalu am feddyliau lefel uwch, cyflawni aml dasgau a chynnal sylw. Oherwydd bod pobl ddwyieithog wedi
arfer newid rhwng dwy iaith, maent hefyd yn well am newid rhwng tasgau, hyd yn oed os nad yw’r tasgau
hynny yn gysylltiedig o gwbl ag iaith. Gellir gweld y rhinwedd honno yn arbennig mewn plant a phobl ifanc.
Dangoswyd hefyd bod gan bobl sy’n siarad dwy iaith systemau monitro mwy effeithlon. Bu i astudiaeth yn
2009 ddangos bod pobl uniaith a dwyieithog yn ymateb yn debyg pan nad oes gormod o alw ar system
fonitro’r ymennydd, ond mewn amgylchiadau pan fo’r galwadau monitro yn uchel, roedd pobl ddwyieithog yn
gyflymach. Hefyd, mae pobl ddwyieithog yn perfformio'n well na phobl uniaith mewn tasgau cof gweithredol
gofodol.
YR I
AIT
H G
YMR
AEG
YM
MYD
AD
DYS
G
15
YR IAITH GYMRAEG YM MYD ADDYSG
Diwygio’r Sector Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol (PCET) yng Nghymru
Ym mis Rhagfyr 2017, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru grynodeb o ymatebion i’w hymgynghoriad ar Ddaioni
Cyhoeddus a Chymru Ffyniannus - Creu system PCET diwygiedig. Roedd y Llywodraeth flaenorol yng Nghymru
wedi comisiynu yr Athro Hazelkorn i gynnal adolygiad o addysg a hyfforddiant ôl-orfodol oherwydd pryderon
ynghylch sut yr oedd y sector yn cael ei reoli.
Ar y cyfan, roedd yr ymatebion yn gadarnhaol, a nodwyd y byddai creu un corff PCET yn hyrwyddo cyfleoedd
i ddefnyddio’r Iaith Gymraeg, ac i beidio â thrin yr Iaith Gymraeg yn llai ffafriol. Ymysg y prif bwyntiau a
ddeilliodd o’r ymgynghoriad oedd y dylai’r Comisiwn amcanu at wella llwybrau a dilyniant drwy’r system drwy
gyfrwng y Gymraeg, gan sicrhau eu bod wedi eu halinio ag anghenion economaidd Cymru. Dylid ystyried
bod y Comisiwn yn gyfle i hyrwyddo’r Iaith Gymraeg, os llwyddir i gyfathrebu hynny yn glir. Teimlwyd y gellid
cynyddu effeithiau positif petai’r cyllid yn parhau ar gyfer darpariaeth Gymraeg.
Cyfeiriwyd yn rheolaidd at Cymraeg 2050: Miliwn o
siaradwyr Cymraeg, a’r rôl bwysig fydd gan y corff
PCET i’w chwarae o ran cefnogi targed Llywodraeth
Cymru o greu un filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn
2050. Ymysg yr ymatebion i gwestiwn 34 oedd bod
angen i’r Iaith Gymraeg fod yn ystyriaeth ganolog - ac
nid yn ‘atodiad’ wrth ddatblygu polisi. Dylid annog
cyflogwyr i ymgysylltu â’r Iaith Gymraeg yn hytrach
na’u gorfodi - fel ‘model safonau cyflogwyr y sector
cyhoeddus’.
Hefyd, gallai’r Comisiwn fonitro ystadegau ar yr Iaith Gymraeg. Hefyd, petai Niferoedd Dysgwyr Unigryw
yn cael ei roi ar waith, byddai hynny yn galluogi tracio myfyrwyr yn fwy effeithiol drwy’r system addysg i’r
gweithle. Dylai’r Comisiwn fonitro argaeledd cyrsiau Cymraeg i ddysgwyr a’r gweithlu. Hefyd, mae’r Comisiwn
yn cynrychioli cyfle i hyrwyddo cydweithio agosach ar draws sefydliadau/darparwyr o ran darparu cyrsiau
Cymraeg ble mae nifer y myfyrwyr yn isel - er mwyn rhannu deunyddiau/adnoddau etc. a sicrhau bod cyrsiau
yn hyfyw.
Roedd rhai sylwadau eraill yn pwysleisio pwysigrwydd ymgorffori’r Iaith Gymraeg a’r diwylliant pryd bynnag
fo hynny’n bosibl yn y system PCET yng Nghymru, a nodwyd y cyfeiriadau prin at bwysigrwydd a datblygiad
addysg a darpariaeth hyfforddiant Cymraeg.
YR I
AIT
H G
YMR
AEG
YM
MYD
AD
DYS
G
16
YR IAITH GYMRAEG YM MYD ADDYSG
Ysgolion
Cymraeg 2050 – dyma ddogfen bolisi diweddaraf Llywodraeth Cymru ar gyfer y
Gymraeg. Gweledigaeth y Llywodraeth yw creu miliwn o siaradwyr erbyn y flwyddyn
2050. Mae’n darged hirdymor ar gyfer y Gymraeg sy’n adlewyrchu’r ffaith nad dros
nos mae gwneud hyn - mae gofyn cynllunio ieithyddol gofalus ac ymdrech hirdymor.
Mae gan GwE rôl allweddol i’w chwarae er mwyn cyflawni’r nod hwn. Bydd gofyn
cynllunio ar gyfer y cynnydd hwn ar y cyd â chynllunio ar gyfer cyflwyno’r cwricwlwm ieithoedd, llythrennedd a
chyfathrebu newydd. Rhagwelir siwrne gyffrous i gyrraedd y miliwn ac mae angen ystyried sut gall taith plant a
phobl ifanc ar hyd y continiwm iaith gael ei gyfoethogi trwy ddefnyddio mwy o Gymraeg fel cyfrwng addysgu.
Mae’n hanfodol fod pob dysgwr yn cael mynediad cyfartal i addysg cyfrwng Cymraeg a phrofi’r cyfleodd gorau i
ddatblygu eu sgiliau Cymraeg. Fel y nodwyd yn ‘Addysg yng Nghymru: Cenhadaeth ein cenedl Cynllun Gweithredu
2017-2021’ mae tegwch yn golygu bod angen i ni sicrhau bod yr ysgolion yn ystyried yr heriau unigryw sy’n wynebu
unigolion neu grwpiau o ddysgwyr.
I weithredu’r cwricwlwm newydd rhaid wrth weithlu addysg uchelgeisiol. Bydd yn ofynnol i ni helpu arweinwyr
ac ymarferwyr i barhau i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg ac i feddu ar y wybodaeth a’r arbenigedd i ddarparu’r
cwricwlwm trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Gymraeg fel pwnc.
Ar gais Llywodraeth Cymru gofynnwyd i GwE, fel a wnaed i’r tri consortiwm arall yng Nghymru, greu cynllun
gweithredu i ‘Ddatblygu’r Gweithlu i gefnogi’r Gymraeg mewn Addysg.’ Derbyniwyd grant i ddatblygu a
gweithredu’r cynllun hwn. Yng Ngogledd Cymru bu gweithgor o athrawon, arbenigwyr a rhanddeiliad eraill ar draws
siroedd y gogledd - Conwy, Dinbych, Gwynedd, Wrecsam, Y Fflint ac Ynys Môn - yn cyfarfod i gynhyrchu’r cynllun
gweithredu.
Y blaenoriaethau canlynol sydd wedi cael eu hadnabod:
1. Sicrhau trefniadaeth llywodraethu, cydlynu a rheolaeth prosiect effeithiol.
2. Datblygu a hyrwyddo strategaeth a pholisi rhanbarthol.
3. Cynnal awdit o sgiliau iaith Gymraeg y gweithlu er mwyn adnabod gwaelodlin o sgiliau iaith Gymraeg y gweithlu addysg. Bydd yr ysgolion yn derbyn adborth manwl o’r awdit a fydd yn eu cynorthwyo i gynllunio ymhellach.
4. Cynnal arolwg o ddarpariaethau cyfredol sy’n datblygu sgiliau iaith Gymraeg oedolion, hyfforddeion ac a ddysgwyr ynghyd â chyrsiau sydd yn meithrin agweddau cadarnhaol tuag at y Gymraeg a manteision dwyieithrwydd.
5. Sicrhau darpariaeth addas a phriodol o gyrsiau a hyfforddiant iaith Gymraeg sydd yn cwrdd â’r angen a adnabuwyd gan y gweithlu addysg.
6. Edrych ar rôl rhaglenni Addysg Gychwynnol Athrawon gan adnabod cyfleodd i gydweithio gydag Adrannau Ysgolion Addysg y Prifysgolion.
7. Cynnal ac ystyried yr holl ymchwil ym maes dwyieithrwydd a hyrwyddo’r Gymraeg.
8. Codi ymwybyddiaeth a rhannu gwybodaeth.
YR I
AIT
H G
YMR
AEG
YM
MYD
AD
DYS
G
17
YR IAITH GYMRAEG YM MYD ADDYSG
Rydym yn cydnabod na all ‘addysg’ yn unig greu siaradwyr Cymraeg hyderus. Rydym yn gwbl ymwybodol
bod angen cyfleodd ar blant a phobl ifanc i ddefnyddio’r Gymraeg mewn nifer o gyd-destunau i gyfoethogi
eu dysgu a’u hymwybyddiaeth o’r Gymraeg fel iaith bob dydd.
Dywedodd Jasone Cenoz, wrth drafod y Fasgeg – ni ddylai’r Gymraeg fel y Fasgeg fod yn ‘school thing’ yn
unig. Ac ni wnaiff y Gymraeg fel y Fasgeg oroesi fel ‘school thing’ yn unig ‘in a gloablised world.’ Un llinyn
arian yn y cynllun i ‘Ddatblygu’r Gweithlu i Gefnogi’r Gymraeg Mewn Addysg’ yw’r egwyddor o gyd-weithio
a phartneriaethu gyda rhanddeiliaid eraill. Rydym yn croesawu’r cyfle i gyd-weithio gyda Bwrdd Uchelgais
Economaidd Gogledd Cymru. Felly nid gweithio mewn gwactod a wnawn ond drwy weithredu yn rhan
o ‘Dîm Gogledd Cymru’ y Bwrdd lle mae partneriaid o addysg a hyfforddiant, iechyd, Y Trydydd Sector,
llywodraeth leol a chyrff cynrychiadol cyflogwyr eraill. Sylweddolwn nad drwy gynllunio a gweithio’n ynysig
mae cyrraedd y nod o filiwn siaradwyr; rhaid wrth gyd-weithio.
Un nod gennym yw sicrhau bod ein disgyblion yn adnabod cyfleodd i ddefnyddio’u Cymraeg tu draw i’r
dosbarth mewn gweithleoedd ie, ond yn gymdeithasol hefyd. Oes mae angen sicrhau fod y Gymraeg nid yn
unig yn sgil cyflogadwyaeth ac y bydd sicrhau miliwn siaradwyr Cymraeg yn gaffaeliad i dwf economaidd
Gogledd Cymru, ond mae angen sicrhau bod siarad Cymraeg yn llawer mwy na hynny hefyd. Mae siarad
mwy nag un iaith - y Gymraeg yn y cyd-destun hwn - yn sgil sy’n cyfoethogi gallu person hefyd mewn
llawer dull a modd - nid dyma’r lle i ymhelaethu mwy ar hynny. Mae Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd
Cymru yn gwbl ymwybodol o weledigaeth y Llywodraeth o gael miliwn o siaradwyr erbyn 2050. Teg
dweud hefyd eu bod yn fwy ymwybodol o sicrhau miliwn o ddefnyddwyr y Gymraeg a dyma yw llinyn
arian eu gweledigaeth hwy. Rydym felly yn hynod falch i gyd-weithio â hwy a chael bod yn un aelod o ‘Y
Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru’, yn un foth yn yr olwyn bwysig honno fydd yn gyrru i
gyrraedd y miliwn.
ARWYN THOMAS
Rheolwr Gyfarwyddwr GwE
18
YR IAITH GYMRAEG YM MYD ADDYSG
“Mae addysg yn ganolog i’n gweledigaeth, ond mae’n rhaid i ni
sicrhau fod ein pobl ifanc yn gadael y system addysg yn barod i
ddefnyddio’r iaith ym mhob cyd-destun ac yn falch o gael gwneud
hynny.”
Y Gwir Anrh Carwyn Jones AC, Prif Weinidog Cymru, Cymraeg 2050
Yn ôl nodyn briffio Comisiynydd y Gymraeg, Gofal Plant a Darpariaeth
Addysg Blynyddoedd Cynnar Cyfrwng Cymraeg, ‘bydd cynyddu nifer y
plant ifanc sy’n derbyn gofal ac addysg blynyddoedd cynnar cyfrwng
Cymraeg yn rhan allweddol o wireddu gweledigaeth y Llywodraeth o
greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.’
Ndodd yr nodyn briffio bod ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gynnig 30 awr o ofal plant am ddim i bob
plentyn 3 a 4 oed y mae eu rhieni yn gweithio’n llawn amser, yn debygol o greu galw am bobl a sgiliau iaith
Cymraeg ym maes gofal plant. Er hynny, ar hyn o bryd mae yna ddiffyg data cyson a chydnerth ar ofal
plant cyfrwng Cymraeg yng Nghymru, a gallai hynny danseilio ymdrechion i ddiwygio’r sector a chymryd
camau cadarnhaol tuag at wireddu’r weledigaeth o un filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Y cyntaf o dri argymhelliad yn y nodyn briffio oedd bod angen i Lywodraeth Cymru nodi’r camau penodol
y mae’n bwriadu eu cymryd a’r fframwaith fydd yn cael ei ddefnyddio i yrru ei chynlluniau yn eu blaen er
mwyn ehangu gofal plant a darpariaeth blynyddoedd cynnar cyfrwng Cymraeg.
Yn ail, argymhellwyd y dylai Llywodraeth Cymru gynnwys deilliant penodol ar gyfer darpariaeth gofal
plant cyfrwng Cymraeg mewn Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg (CSCA). Mae’n ofynnol i bob
awdurdod lleol baratoi a chyflwyno eu CSCA i Lywodraeth Cymru er mwyn dangos sut maent yn bwriadu
cyrraedd y targedau a amlinellir yn y Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg er mwyn cynyddu’r defnydd o
Gymraeg mewn addysg.
Y trydydd argymhelliad oedd bod angen i Lywodraeth Cymru newid y ffordd y mae data gofal plant
yn cael ei gasglu a’i rannu er mwyn sicrhau cronfa dystiolaeth ddilys a dibynadwy ar gyfer cynlluniau a
strategaethau cenedlaethol a lleol.
YR I
AIT
H G
YMR
AEG
YM
MYD
AD
DYS
G
19
YR IAITH GYMRAEG YM MYD ADDYSG
Nifer yr ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg/dwy ffrwd/dwyieithog, 2016/17
Yn ôl Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion 2017, caeodd un ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg yng
Nghonwy, tra bod nifer yr ysgolion uwchradd cyfrwng Cymraeg yr un fath. Roedd tua 43.9% o’r ysgolion yng
Ngogledd Cymru yn rhai cyfrwng Cymraeg yn 2016/17 ac roedd 6.1% arall yn ddwyieithog neu’n ddwy ffrwd.
Gan edrych ar ysgolion cynradd yng Ngogledd Cymru, roedd tua 50.7% yn rhai cyfrwng Cymraeg yn 2016/17
ac roedd 1.7% arall yn ddwyioeithog
FFYNHONNELL: Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion (PLASC) - Llywodraeth Cymru
Nifer yr ysgolion uwchradd cyfrwng Cymraeg/dwy ffrwd/dwyieithog, 2016/17
Roedd tua 7.4% o ysgolion uwchradd yng Ngogledd Cymru yn rhai cyfrwng Cymraeg ac roedd 37% arall yn
ddwyieithog neu’n ddwy ffrwd.
FFYNHONNELL: Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol Lefel Disgyblion (PLASC) - Llywodraeth Cymru
Yn gyffredinol, cynyddodd nifer y disgyblion mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg, dwy ffrwd neu ddwyieithog ar
draws Gogledd Cymru o 36,792 yn 2015/16 i 37,014 yn 2016/17. Roedd tua 24.4% o ddisgyblion Gogledd Cymru
yn mynychu ysgolion cyfrwng Cymraeg yn 2016/17, sy’n sylweddol uwch na chyfartaledd Cymru gyfan, sef 15.8%.
Roedd 12.1% arall yn mynychu darpariaeth dwy ffrwd, ac roedd hynny hefyd yn sylweddol uwch na chyfartaledd
Cymru, sef 6.9%. Bu cynnydd cyffredinol yng Nghonwy(+123),Ynys Môn (+77) a Wrecsam (+30), a bu cynnydd
llai yn Sir Ddinbych a Sir y Fflint, sef 7 a 9 yn ôl eu trefn. Bu gostyngiad o 24 o ddisgyblion yng Ngwynedd.
YR I
AIT
H G
YMR
AEG
YM
MYD
AD
DYS
G
20
YR IAITH GYMRAEG YM MYD ADDYSG
Ysgolion Cynradd
Cynyddodd nifer y disgyblion mewn ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg, dwy ffrwd neu ddwyieithog
ar draws Gogledd Cymru o 22,750 yn 2015/16 i 23,142 yn 2016/17, tra bu gostyngiad o 14,042 i 13, 872 yn
niferoedd y disgyblion uwchradd cyfrwng Cymraeg. Bu cynnydd mewn niferoedd disgyblion cynradd
cyfrwng Cymraeg ym mhob sir, a bu’r cynnydd mwyaf yn y Gogledd Orllewin, yng Nghonwy (+154), Ynys
Môn (+89) a Gwynedd (+67). Bu cynnydd o 46 disgybl yn Sir y Fflint a 32 yn Wrecsam. Bu cynnydd bychan
o 4 disgybl yn Sir y Fflint.
Ysgolion Uwchradd
Gostyngodd nifer y disgyblion uwchradd cyfrwng Cymraeg ar draws siroedd Gogledd Cymru, a bu’r
gostyngiad mwyaf yng Ngwynedd (-91), Sir Ddinbych (-39) a Chonwy (-31). Bu gostyngiadau llai yn
Wrecsam, Sir y Fflint ac Ynys Môn, sef 2, 5, a 12 yn ôl eu trefn.
Nifer y disgyblion mewn ysgolion cynradd ac uwchradd cyfrwng Cymraeg/dwy ffrwd/dwyieithog,
yn ôl Awdurdodau Lleol 2016/17
FFYNHONNELL: StatsWales, 2016/17
YR I
AIT
H G
YMR
AEG
YM
MYD
AD
DYS
G
21
YR IAITH GYMRAEG YM MYD ADDYSG
Addysg Bellach
“ColegauCymru yw’r elusen addysgol genedlaethol sy’n
cynrychioli’r 13 o golegau a sefydliadau addysg bellach
yng Nghymru yn cynnwys Coleg Cambria a Grŵp Llandrillo
Menai. Mae prif-lifo’r Iaith Gymraeg mewn addysg ôl-orfodol
yn flaenoriaeth strategol i Golegau Cymru, ac yn 2010 bu i’r
colegau fabwysiadu Strategaeth Dwyieithrwydd Genedlaethol. Ers hynny, mae ColegauCymru wedi hwyluso
nifer o gyfleoedd ac wedi darparu cymorth ymarferol, gan greu adnoddau digidol, denu cyfleoedd cyllido, a
chodi proffil opsiynau Cymraeg a dwyieithog yn gyffredinol ar gyfer ein dysgwyr ôl-16.
Mae colegau yn gyson wedi cynyddu’r ganran o ddarpariaeth ddwyieithog yn ystod y blynyddoedd
diweddar, ac ym mis Gorffennaf 2015 roedd y colegau yn cyflawni 8.5% o’u darpariaeth yn Gymraeg
neu’n ddwyieithog. Mae’r colegau ar y targed i gyrraedd y nod a osodwyd gan Lywodraeth Cymru yn ei
Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg (2010), sef 10% erbyn 2020.
Gyda dros 150,000 o ddysgwyr yn mynychu Colegau Addysg Bellach, mae cefnogi llwybrau dilyniant
ieithyddol yn ein cymunedau i addysg ôl-orfodol yn allweddol i dwf yr Iaith Gymraeg. Datblygiadau
diweddar fydd yn cynorthwyo’r Iaith Gymraeg i ffynnu ac yn gymorth i greu un miliwn o siaradwyr yw’r
cyhoeddiad i ymestyn cylch gwaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol er mwyn cefnogi datblygu addysg
cyfrwng Cymraeg ym maes addysg bellach, ac mae hynny i’w groesawu. Datblygiad cyffrous arall sy’n
canolbwyntio ar gefnogi datblygu darlithwyr yn ieithyddol yw’r prosiect peilot Cymraeg Gwaith AB
presennol, gyda 200 o ymarferwyr yn derbyn 100 awr o hyfforddiant Iaith Gymraeg dros gyfnod o 6 mis.
Mae ColegauCymru a’u haelodau yn gweithio’n agos â Sgiliaith, canolfan flaengar ac arloesol a gyllidir gan
Lywodraeth Cymru ac a leolir yn Grŵp Llandrillo Menai, sy’n darparu hyfforddiant a chefnogaeth mewn
perthynas â methodolegau addysgu dwyieithog.”
IESTYN DAVIES
Prif Weithredwr - ColegauCymru
YR I
AIT
H G
YMR
AEG
YM
MYD
AD
DYS
G
22
YR IAITH GYMRAEG YM MYD ADDYSG
Nifer y gweithgareddau dysgu cyfrwng Cymraeg/dwyieithog mewn addysg bellach yng Ngogledd Cymru*
FFYNHONNELL: Stats Wales – Llywodraeth Cymru
*Cyn 2014/15, mae’r ffigyrau ond yn cynnwys gweithgareddau dysgu cyfrwng Cymraeg, ac nid oedd yr
asesiadau o reidrwydd yn cael eu cynnal drwy gyfrwng y Gymraeg. O 2013/14 i 2014/15 mae’n ymddangos
bod nifer y gweithgareddau dysgu wedi cynyddu’n sylweddol; fodd bynnag, gyda gostyngiad mawr mewn
darpariaeth cyfrwng Cymraeg, a’r ffocws nawr ar ddwyieithrwydd, o 2014/15 ymlaen mae’r ffigyrau hefyd
yn cynnwys gweithgareddau dwyieithog (dysgu ac asesu). Er mwyn gallu ystyried bod gweithgaredd yn
un cyfrwng Cymraeg o 2014/15 ymlaen, mae’n rhaid i’r holl asesiadau gael eu cwblhau drwy gyfrwng y
Gymraeg. Ar gyfer gweithgareddau dwyieithog, mae’n rhaid i o leiaf 50% o’r asesiadau gael eu cwblhau
drwy gyfrwng y Gymraeg.
O 2008/09 i 2010/11 cynyddodd nifer y gweithgareddau dysgu cyfrwng Cymraeg ym maes addysg bellach
yng Ngogledd Cymru, cyn i’r niferoedd ostwng yn gyflym, o 3,885 o weithgareddau yn 2010/11 i 1,870
yn 2011/12. Bu cynnydd sylweddol yn 2012/13, gyda 7,715 o weithgareddau dysgu, a’r rhan fwyaf yn cael
eu darparu gan Grŵp Llandrillo Menai. Ar ôl gostwng fymryn i 5,975 o weithgareddau dysgu yn 2013/14,
bu cynnydd sylweddol i gyfanswm o 14,560 o weithgareddau yn 2014/15 ar ôl cyflwyno dysgu ac asesu
Cymraeg (195 o weithgareddau) a dysgu ac asesu dwyieithog (14,365 o weithgareddau). Gostyngodd
hynny i gyfanswm o 10,350 o weithgareddau yn 2015/16 (240 dysgu ac asesu Cymraeg a 10,110 dysgu ac
asesu dwyieithog).
YR I
AIT
H G
YMR
AEG
YM
MYD
AD
DYS
G
23
YR IAITH GYMRAEG YM MYD ADDYSG
FFYNHONNELL: StatsWales, 2015/16
* = mae’r eitem o ddata yn ddadlennol neu ddim yn ddigon cydnerth i'w chyhoeddi
Gweithgareddau dysgu Addysg Bellach cyfrwng Cymraeg/dwyieithog yn ôl pynciau 2015/16. (Gogledd Cymru)
YR I
AIT
H G
YMR
AEG
YM
MYD
AD
DYS
G
24
YR IAITH GYMRAEG YM MYD ADDYSG
FFYNHONNELL: StatsWales, 2014/15
* = mae’r eitem o ddata yn ddadlennol neu ddim yn ddigon cydnerth i'w chyhoeddi
Gweithgareddau dysgu Addysg Bellach cyfrwng Cymraeg/dwyieithog yn ôl pynciau 2015/16. (Gogledd Cymru)
Yn 2015/16, y meysydd pwnc Addysg Bellach gyda’r nifer mwyaf o weithgareddau dysgu cyfrwng
Cymraeg/dwyieithog oedd paratoi ar gyfer bywyd a gwaith (4,640) , manwerthu (1,350), adeiladu (810),
ac iechyd, gwasanaethau cyhoeddus a gofal (740). Hefyd ymysg y pynciau mwyaf poblogaidd oedd
peirianneg a thechnolegau gweithgynhyrchu (700), gwyddoniaeth a mathemateg (525) ac amaethyddiaeth
(455). Bu gostyngiad sylweddol yn y gweithgareddau dysgu dwyieithog o 2014/15 i 2015/16 yn y rhan
fwyaf o’r meysydd pwnc, ac eithrio ym meysydd manwerthu, amaeth a gwyddoniaeth a mathemateg, ble
bu cynnydd sylweddol. Bu gostyngiad sylweddol mewn gweithgareddau dysgu dwyieithog ym meysydd
paratoi ar gyfer bywyd a gwaith, iechyd, peirianneg, adeiladu, busnes, y cyfryngau, a theithio a thwristiaeth.
Gweithgareddau dysgu AB cyfrwng Cymraeg/dwyieithog yn ôl pynciau 2014/15.
YR I
AIT
H G
YMR
AEG
YM
MYD
AD
DYS
G
25
YR IAITH GYMRAEG YM MYD ADDYSG
Dysgu ac Addysgu Cyfrwng Cymraeg a Dwyieithog mewn Addysg Bellach
Parhad a dilyniant darpariaeth cyfrwng Cymraeg a dwyieithrwydd
Yn ôl adroddiad y gyhoeddwyd gan Estyn ym mis Mehefin 2017 ar addysgu a
dysgu cyfrwng Cymraeg a dwyieithog mewn addysg bellach, nid yw nifer fawr
o ddysgwyr yn parhau i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog
pan maent yn symud o’r ysgol i’r coleg. Fodd bynnag, cyrhaeddwyd targed
Llywodraeth Cymru ar gyfer 2015. Mae cyfran y siaradwyr Cymraeg sy’n
astudio drwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog yn amrywio'n fawr rhwng
meysydd dysgu AB, yn cynnwys meysydd ble mae galw cynyddol megis
lletygarwch ac arlwyo.
Mae nifer fechan o golegau wedi llwyddo i ddarparu cyrsiau yn ddwyieithog,
datblygu sgiliau dwyieithog y dysgwyr a helpu dysgwyr sy’n dilyn eu cyrsiau yn bennaf drwy gyfrwng y
Saesneg i wella eu sgiliau iaith Cymraeg. Fodd bynnag, nid yw’r rhan fwyaf o golegau Cymru sydd â nifer isel o
ddysgwyr sy’n astudio drwy gyfrwng y Gymraeg wedi rhoi digon o ystyriaeth i ddarparu cyrsiau’n ddwyieithog.
Yn yr ychydig golegau sy’n darparu unedau cyfrwng Cymraeg neu Iaith Cymraeg fel rhan o gyrsiau cyfrwng
Saesneg, mae dysgwyr a astudiodd Gymraeg fel ail iaith yn yr ysgol yn cael cyfleoedd da i ddatblygu mwy
ar eu sgiliau iaith Cymraeg ac maent yn helpu i fodloni’r galw cynyddol gan gyflogwyr. Fodd bynnag, yn
gyffredinol mae yna ddiffyg cyfleoedd i ddysgwyr wella eu Cymraeg fel ail iaith. Hefyd, nid yw’r rhan fwyaf o’r
colegau yn rhoi digon o gyfleoedd i ddysgwyr o ysgolion cyfrwng Cymraeg sy’n dilyn eu cyrsiau yn y Saesneg i
wella eu sgiliau iaith Cymraeg.
Hefyd, nid oes gan nifer o golegau gofnod cywir a chyson o ba weithgareddau dysgu gaiff eu cynnal yn
ddwyieithog neu drwy gyfrwng y Gymraeg
Safonau sgiliau iaith Cymraeg dysgwyr
Mae gan nifer o ddysgwyr sy’n astudio drwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog sgiliau iaith Cymraeg neu
ddwyieithog llafar da, ond mae tua un rhan o dair o’r dysgwyr yn disgrifio eu hunain fel eithaf hyderus ar y gorau
o ran eu sgiliau llafar. Hefyd, nid yw llawer o ddysgwyr yn cyflwyno aseiniadau drwy gyfrwng y Gymraeg, a dim
ond tua thraean o’r dysgwyr sy’n ystyried bod eu Cymraeg wedi gwella ers iddynt ddechrau yn y coleg.
Yn gyffredinol, mae dysgwyr sy'n cymryd unedau cyfrwng Cymraeg fel rhan o gyrsiau cyfrwng Saesneg yn
gwneud cynnydd da o ran eu sgiliau Cymraeg, o ystyried eu cefndir ieithyddol.
YR I
AIT
H G
YMR
AEG
YM
MYD
AD
DYS
G
26
YR IAITH GYMRAEG YM MYD ADDYSG
Addysgu ac asesu
Mae safon yr hyfforddiant mewn gwersi a roddir yn y Gymraeg neu’n ddwyieithog, ac mewn unedau
Cymraeg sy’n rhan o gyrsiau Saesneg, yn dda ar y cyfan, ond nid yw’r rhan fwyaf o’r dysgwyr sy’n dilyn
cyrsiau cyfrwng Cymraeg neu ddwyieithog yn cwblhau eu hasesiadau terfynol drwy gyfrwng y Gymraeg.
Arweinyddiaeth
Mae gan nifer fach o golegau weledigaeth gref o ran hyrwyddo’r Iaith Gymraeg ac ehangu’r ddarpariaeth
cyfrwng Cymraeg neu ddwyieithog, ond yn y rhan fwyaf o golegau, nid yw’r cynlluniau Iaith Gymraeg wedi
cael eu datblygu cystal. Ac eithrio rhai mentrau llwyddiannus, nid yw colegau wedi cymryd camau digonol i
sicrhau bod dysgwyr yn ymwybodol o’r cyfleoedd sydd ar gael i gael eu haddysgu a’u hasesu yn y Gymraeg
ar ôl iddynt symud o’r ysgol uwchradd.
Staffio a hyfforddiant
Mae nifer fechan o golegau yn cynnal arolygon rheolaidd o sgiliau iaith Cymraeg eu staff ac yn defnyddio’r
canlyniadau i hysbysu recriwtio er mwyn sicrhau bod yna ddigon o siaradwyr Cymraeg. Fodd bynnag, mae
prinder staff Cymraeg yn parhau i fod yn rhwystr sylweddol rhag ymestyn darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn
y rhan fwyaf o golegau.
Mae lleiafrif o’r colegau yn darparu ystod eang o hyfforddiant mewn swydd ar faterion sy’n gysylltiedig
â’r Iaith Gymraeg a dwyieithrwydd, ond pan mai niferoedd bychan o ddysgwyr sy'n dymuno astudio yn y
Gymraeg, nid yw’r colegau yn cynnig digon o hyfforddiant er mwyn datblygu sgiliau addysgu dwyieithog
y staff.
Cymorth ac arweiniad
Mae cymorth ac arweiniad mewn perthynas â’r Iaith Gymraeg a dwyieithrwydd mewn AB yn cynnwys
hyrwyddwyr dwyieithrwydd, y cynllun sabothol, a Sgiliaith, sydd wedi rhoi cymorth da i athrawon a dysgwyr.
Yn dilyn y rhaglen hyrwyddwyr dwyieithrwydd, erbyn hyn mae’r rhan fwyaf o golegau yn trefnu rhaglenni
arbennig er mwyn annog dysgwyr i ddefnyddio’r Gymraeg y tu allan i’r ystafell ddosbarth. Fodd bynnag,
mae cyfrifoldebau hyrwyddwyr dwyieithrwydd wedi amrywio’n fawr rhwng colegau, ac mae’r rhai sydd wedi
bod yn gweithredu ar lefel strategol wedi creu mwy o effaith gadarnhaol. Mae yna brinder staff Cymraeg ac
adnoddau cyfrwng Cymraeg o hyd yn y sector ôl-16.
YR I
AIT
H G
YMR
AEG
YM
MYD
AD
DYS
G
27
YR IAITH GYMRAEG YM MYD ADDYSG
Dysgu yn Seiliedig ar Waith
Yn ôl nodyn briffio Sefyllfa’r Iaith Gymraeg mewn Rhaglenni Prentisiaeth yng Nghymru Comisiynydd y
Gymraeg, gellid ehangu rhaglenni prentisiaeth iaith Gymraeg a gwneud y mwyaf ohonynt er mwyn cefnogi’r
Gymraeg a datblygu gweithlu dwyieithog sgiliedig yng Nghymru, yn unol â gweledigaeth Llywodraeth
Cymru o greu un miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 a’i haddewid o greu 100,000 yn fwy o
brentisiaethau.
Mae addysg a’r gweithle yn allweddol o ran creu siaradwyr Cymraeg newydd a hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg
bob dydd. Mae prentisiaethau yn bwysig o ran sicrhau bod siaradwyr Cymraeg yn parhau i ddefnyddio’r
Gymraeg ar ôl i’w haddysg statudol ddod i ben. Gall prentisiaethau Cymraeg helpu i ateb y galw am sgiliau iaith
Cymraeg yn y gweithle, yn ogystal â bod o fudd i’r economi.
Yn ôl dogfen polisi Alinio’r Model Prentisiaeth ag anghenion economi Cymru, un o flaenoriaethau cyflawni
Llywodraeth Cymru ar gyfer 2016 i 2022 yw atgyfnerthu cyfleoedd i ddilyn prentisiaethau yn y Gymraeg neu’n
ddwyieithog, gan sicrhau y gall pob dysgwr gynnal a datblygu eu sgiliau iaith Cymraeg.
Mae Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr Cymraeg yn amlygu pwysigrwydd ‘ehangu darpariaeth addysg bellach
ac uwch drwy gyfrwng y Gymraeg a darparu cyfleoedd i ddilyn prentisiaethau yn yr iaith Gymraeg’. Mae
hefyd yn pwysleisio y bydd ‘cyfleoedd anffurfiol pellach i bobl ifanc ddefnyddio eu sgiliau iaith Cymraeg yn
gymdeithasol...yn allweddol.’
Fodd bynnag, ychydig iawn o ddata sydd ar gael ar y defnydd o’r Gymraeg mewn perthynas â dysgu yn
seiliedig ar waith, felly ar hyn o bryd nid yw’n bosibl dadansoddi’r data hwn yn seiliedig ar grŵp oedran ac o ba
ardal awdurdod y mae’r dysgwr yn hanu, er enghraifft, sy’n wahanol i’r data ar addysg ôl-16 yn gyffredinol.
Siaradwyr Cymraeg a Dysgu Seiliedig ar Waith
Yn ôl data gan Grŵp Llandrillo Menai a Choleg Cambria ar nifer y dysgwyr sy’n dilyn
rhaglenni prentisiaethau a hyfforddi ym mis Ionawr 2018, y pynciau â’r nifer uchaf o
siaradwyr Cymraeg rhugl ar draws Gogledd Cymru oedd:
1. Iechyd, Gwasanaethau Cyhoeddus a Gofal: 452
2. Peirianneg a Thechnolegau Gweithgynhyrchu: 228
3. Busnes, Gweinyddu a’r Gyfraith: 203
4. Adeiladu, Cynllunio a’r Amgylchedd Adeiledig: 165
Roedd yna 226 o siaradwyr Cymraeg rhugl yn dilyn rhaglenni Iechyd, Gwasanaethau Cyhoeddus a Gofal yng
Ngwynedd, y nifer uchaf yng Ngogledd Cymru, a 103 ar Ynys Môn. Yng Ngwynedd hefyd mae’r nifer uchaf
o siaradwyr Cymraeg rhugl sy’n dilyn rhaglenni Peirianneg a Thechnolegau Gweithgynhyrchu, sef 116, a 63 ar
Ynys Môn.
YR I
AIT
H G
YMR
AEG
YM
MYD
AD
DYS
G
28
YR IAITH GYMRAEG YM MYD ADDYSG
Gan edrych ar gyfanswm y siaradwyr Cymraeg sy’n dilyn rhaglenni prentisiaeth a hyfforddiant gyda Grŵp
Llandrillo Menai a Choleg Cambria, roedd yna 1,335 o siaradwyr Cymraeg rhugl ar draws Gogledd Cymru, a
1,340 o siaradwyr Cymraeg nad oeddent yn rhugl. Roedd yna 3,086 na oeddent yn siarad Cymraeg.
Dysgwyr cyfredol yn dilyn rhaglenni Prentisiaeth/Hyfforddiant yn ôl Lleoliad a statws Siarad Cymraeg
FFYNHONNELL: Grŵp Llandrillo Menai a Choleg Cambria, Ionawr 2018
Rhaglenni dysgu seiliedig ar waith i rai 16 i 19 oed
FFYNHONNELL: Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru, 2015/16
Mae’r ffigyrau yma ond yn cynnwys dysgwyr sydd wedi cwblhau asesiadau ffurfiol naill ai drwy gyfrwng
y Gymraeg neu’n ddwyieithog. Yn achos dysgwyr dwyieithog byddai hynny yn lleiafswm o 50% o’r
asesiadau yn y Gymraeg. Nid yw dysgwyr sydd wedi defnyddio ychydig o Gymraeg o ran yr elfen
ddysgu, ond a aseswyd yn y Saesneg ddim yn cael eu cynnwys.
Yn ôl ystadegau Llywodraeth Cymru, yn 2015/16 darparwyd 756 o raglenni dysgu’n seiliedig ar waith i rai
16-19 oed a draws Cymru gydag o leiaf un gweithgaredd cyfrwng Cymraeg neu ddwyieithog; darparwyd
675 o’r rhain i rai 16-19 yn Ngogledd Cymru.
YR I
AIT
H G
YMR
AEG
YM
MYD
AD
DYS
G
29
YR IAITH GYMRAEG YM MYD ADDYSG
FFEDERASIWN HYFFORDDI CENEDLAETHOL CYMRU (FFHCC)
Mae Ffederasiwn Hyfforddi Cenedlaethol Cymru yn sefydliad ar gyfer Cymru
gyfan sy’n cynrychioli anghenion darparwyr dysgu yn seiliedig ar waith (DSW)
mewn perthynas â gwella ansawdd darpariaeth cymwysterau galwedigaethol
yn cynnwys Prentisiaethau. Ers 2012, mae FfHCC wedi cyflogi Hyrwyddwr
Dwyieithrwydd (wedi eu hariannu gan Lywodraeth Cymru) i gefnogi’r rhwydwaith darparwyr DSW yng
Nghymru er mwyn gwella darpariaeth cymwysterau galwedigaethol cyfrwng Cymraeg a dwyieithog; ac er
mwyn cynyddu nifer y dysgwyr sy’n cwblhau eu Prentisiaethau’n ddwyieithog neu drwy gyfrwng y Gymraeg.
Fel rhan o’r rôl, mae’r Hyrwyddwr Dwyieithrwydd yn cynorthwyo darparwyr DSW yng Ngogledd Cymru drwy
geisio goresgyn y rhwystrau sy’n wynebu dysgwyr; hyfforddi staff a chyflogwyr i gael mynediad i gyfleoedd
dysgu’n seiliedig ar waith drwy gyfrwng y Gymraeg. Hefyd darperir cymorth ac arweiniad wedi ei deilwra a
gyfer gwella’r ddarpariaeth drwy roi sylw manwl i’r cymorth sydd ar gael a gwella mynediad i hyfforddiant,
cymorth ac adnoddau fydd o fudd i ymarferwyd DSW. Mae Hyrwyddwyr Dwyieithrwydd DSW hefyd wedi
ffurfio gweithgor ‘Pencampwyr Cymraeg’ Gogledd Cymru er mwyn gallu rhannu gwybodaeth yn fwy eang, a
rhoi cyfle i ddarparwyr rannu gwybodaeth ac arferion gorau.
Cyhoeddwyd llawlyfr rhyngweithiol ar-lein o’r enw Arferion Da wrth Ddarparu Cymwysterau Galwedigaethol
Dwyieithog a Chyfrwng Cymraeg - Llawlyfr ar gyfer Darparwyr Dysgu Seiliedig ar Waith, sy’n galluogi i
ddarparwyr ar draws Cymru weld arferion da darparwyr eraill yng Nghymru; sy’n galluogi i ddarparwyr wella eu
darpariaeth eu hunain, ac annog mwy o ddysgwyr i barhau â’u sgiliau iaith Cymraeg yn y gweithle.
"Mae FfHCC yn ymwybodol o’r proffil ieithyddol gwahanol ar draws Cymru, ac yn fwy penodol bod yna
gyfran uwch o ddysgwyr, tiwtoriaid, aseswyr a chyflogwyr sy’n gallu cyfathrebu yn y Gymraeg yng Ngogledd
Cymru. Yn anecdotaidd, mae dysgwyr a chyflogwyr yng Ngogledd Cymru yn defnyddio’r Gymraeg yn fwy
aml, oherwydd mai dyna sy’n naturiol iddynt. Nid yw’n rhywbeth ‘arbennig’, dyna iaith eu magwraeth. Mae
darparwyr DSW yng Ngogledd Cymru yn fwy tebygol o ddarparu eu hyfforddiant yn ddwyieithog oherwydd
anghenion y dysgwyr a’u cyflogwyr yn yr ardal.
Erbyn hyn mae mwy o gyflogwyr yn ystyried bod sgiliau iaith Cymraeg yn sgil ychwanegol pwysig i’w
cyflogeion. Gyda dyfodiad Safonau’r Iaith Gymraeg, bydd hynny’n dod yn fwy amlwg wrth i bob sefydliad
sector cyhoeddus chwilio am staff â sgiliau iaith Cymraeg; felly mae FfHCC yn annog yr holl bobl ifanc i
barhau â’u sgiliau iaith Gymraeg ar ôl gadael addysg statudol ac wrth symud i addysg bellach neu ddysgu
seiliedig ar waith.”
RYAN EVANS
Hyrwyddwr Dwyieithrwydd, FfHCC
YR I
AIT
H G
YMR
AEG
YM
MYD
AD
DYS
G
30
YR IAITH GYMRAEG YM MYD ADDYSG
ADDYSG UWCH
Cofrestriadau myfyrwyr mewn Addysg Uwch gyda pheth addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg
FFYNHONNELL: StatsWales, 2015/16
(Myfyrwyr yn astudio o leiaf un modiwl gyda chyfran uwch na sero o addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg)
* = mae’r eitem o ddata yn ddadlennol neu ddim yn ddigon cydnerth i'w chyhoeddi
Er bod cofrestriadau ôl-raddedigion gyda pheth addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor
wedi codi, o 330 yn 2012/13 i 475 yn 2014/15, bu gostyngiad i 365 yn 2015/16. Cynyddodd cofrestriadau
israddedigion o 1,000 yn 2012/13 i 1,225 yn 2014/15, cyn gostyngiad bychan yn 2015/16 i 1,205. Roedd yna
gyfanswm o 1,570 o gofrestriadau (15%) oedd yn cynnwys peth addysg drwy gyfrwng y Gymraeg ym
Mhrifysgol Bangor; hwn oedd yr ail rif uchaf, ar ôl Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. Roedd yna 835 o
gofrestriadau gydag o leiaf 40 credyd yn y Gymraeg, a 505 o gofrestriadau gydag o leiaf 80 credyd.
Gan Brifysgol Bangor hefyd y mae’r nifer uchaf o staff academaidd sy’n gallu addysgu drwy gyfrwng y
Gymraeg yn 2015/16 (280), a’r nifer uchaf sydd yn addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg (215). Mae’r ffigyrau
hyn yn awgrymu bod yna gyfle i gynyddu nifer y myfyrwyr sy’n astudio drwy gyfrwng y Gymraeg yn y
Brifysgol drwy ddarparu cymorth i sicrhau bod staff academaidd sy’n gallu addysgu yn y Gymraeg yn cael
gwneud hynny.
Mae nifer yr israddedigion sy’n cofrestru i dderbyn peth o’u haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg wedi
gostwng ym Mhrifysgol Glyndŵr o 255 yn 2012/13 i 45 yn 2014/15, a bu gostyngiad arall yn 2015/16 o 16 i
10. Ym Mhrifysgol Glyndŵr roedd yna gyfanswm o 10 o gofrestriadau gyda pheth addysgu drwy gyfrwng
y Gymraeg. Yn 2015/16 roedd yna 15 aelod staff oedd yn gallu addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg ym
Mhrifysgol Glyndŵr.
YR I
AIT
H G
YMR
AEG
YM
MYD
AD
DYS
G
31
Gan edrych yn benodol ar fyfyrwyr o Gymru. Yn 2015/16 roedd yna gyfanswm o 1,355 o gofrestriadau (35%)
gyda pheth addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor, a 10 ym Mhrifysgol Glyndŵr. Ym
Mhrifysgol Glyndŵr, roedd 400 o fyfyrwyr oedd yn hanu o Gymru (9%) yn siaradwyr Cymraeg rhugl. Ym
Mhrifysgol Bangor roedd yna 820 o gofrestriadau gydag o leiaf 40 credyd yn y Gymraeg, a 505 o gofrestriadau
gydag o leiaf 80 credyd. Ym Mhrifysgol Bangor, roedd 1,620 o fyfyrwyr oedd yn hanu o Gymru (42%) yn
siaradwyr Cymraeg rhugl.
Bu gostyngiad yn niferoedd cofrestriadau myfyrwyr gyda pheth addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg yn y
Brifysgol Agored, o 90 o gofrestriadau yn 2014/15 i 75 yn 2015/16. Roedd yna 75 o gofrestriadau myfyrwyr
oedd yn hanu o Gymru (1%) gyda pheth addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg yn y Brifysgol Agored yn 2015/16;
roedd yna 35 o gofrestriadau myfyrwyr oedd yn hanu o Gymru gydag o leiaf 5 credyd yn y Gymraeg. Yn Y
Brifysgol Agored yn 2015/16, roedd 400 o fyfyrwyr oedd yn hanu o Gymru (6%) yn siaradwyr Cymraeg rhugl.
YR IAITH GYMRAEG YM MYD ADDYSG
ADDYSG OEDOLION
Mae yna ystod eang o gyrsiau ac adnoddau dysgu Cymraeg ar gael i oedolion sy’n
dysgu. Mae’r sector Cymraeg i Oedolion yn cael ei oruchwylio gan y Ganolfan Dysgu
Cymraeg Genedlaethol (learnwelsh.cymru), syn amcanu at godi proffil gwersi Cymraeg,
denu dysgwyr newydd a chynyddu’r niferoedd sy’n llwyddo i fod yn rhugl ac yn
defnyddio’r Gymraeg bob dydd. Mae’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn cynnig
y cynllun ‘Cymraeg Gwaith’, sydd â chyrsiau ar wahanol lefelau er mwyn gwella sgiliau
iaith Cymraeg cyflogeion a’u helpu i weithio’n ddwyieithog.
Dros y 40 mlynedd diwethaf mae Prifysgol Bangor wedi datblygu rhaglen strwythuredig ac effeithiol ar gyfer
dysgwyr Cymraeg sy'n oedolion.
Mae degau o filoedd o fyfyrwyr wedi elwa ar y cyfuniad o gyrsiau graddedig, tiwtoriaid profiadol ac
ymrwymedig a gwasanaethau wrth gefn o'r radd flaenaf. Mae'r rhaglenni hyn yn rhan o'r cynnig gan y Ganolfan
Genedlaethol ar gyfer dysgu Cymraeg ac maent yn cynnwys rhai a gyflwynir gan Grŵp Llandrillo Menai a
Choleg Cambria.
Cymraeg i oedolion, dysgwyr a chofrestriadau yng Nghanolfan Cymraeg i Oedolion Gogledd Cymru
FFYNHONNELL: StatsWales, 2015/16
YR I
AIT
H G
YMR
AEG
YM
MYD
AD
DYS
G
32
YR IAITH GYMRAEG YM MYD ADDYSG
Cymraeg i oedolion, dysgwyr a chofrestriadau yng Nghanolfan Cymraeg i Oedolion Gogledd Cymru
FFYNHONNELL: StatsWales, 2012/13, 2013/14, 2014/15
Bu cynnydd sydyn yn nifer y dysgwyr yng Nghanolfan Cymraeg i Oedolion Prifysgol Bangor, ynghyd â nifer
y cofrestriadau (gweithgareddau dysgu) yn 2015/16, ar ôl cyfnod o ostyngiadau parhaus yn ystod y cyfnod
o 2012/13 i 2014/15.
Yn y Gogledd Orllewin mae Prifysgol Bangor a Grŵp Llandrillo Menai yn darparu cyrsiau Cymraeg i Oedolion
ar draws Ynys Môn, Gwynedd a Chonwy ar ran y Ganolfan. Yn y Gogledd Ddwyrain, mae yna bartneriaeth
rhwng Coleg Cambria a Phopeth Cymraeg er mwyn darparu cyrsiau Cymraeg i Oedolion ar draws Sir
Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam. Mae yna nifer o wahanol lefelau, yn amrywio o lefel mynediad i gyrsiau i
ddysgwyr rhugl a siaradwyr iaith gyntaf, ac mae cyrsiau dysgu o bell ar gael hefyd. Hefyd, Nant Gwrtheyrn
yng Ngwynedd yw’r Ganolfan Iaith a Threftadaeth Genedlaethol ac mae’n cynnig cyrsiau Cymraeg preswyl,
o gwrs blasu cyn cofrestru i gwrs rhuglder i ddysgwyr rhugl a siaradwyr iaith gyntaf.
Mae cyrsiau yn cynnwys Cymraeg i Ddechreuwyr a Darganfod Cymru a’r Gymraeg ar gael hefyd i
oedolion sy’n dysgu drwy OpenLearn, sy’n darparu dysgu ar-lein am ddim gan Y Brifysgol Agored. Mae
Addysg Oedolion Cymru yn cynnig cyrsiau Cymraeg, ar lefelau dechreuwyr i lefel busnes, yn ogystal â
chyrsiau ar ddiwylliant a hanes Cymru, Cymraeg yn y Gweithle a Chymraeg i Rieni. Mae rhai cyrsiau sy’n
canolbwyntio ar sgiliau iaith Cymraeg yn y gweithle yn cynnwys Cymraeg i Weithwyr Iechyd, Defnyddio’r
Gymraeg i Gyfathrebu, Defnyddio Technoleg Gwybodaeth yn y Gymraeg, Ymwybyddiaeth Iaith, Gweithio’n
Ddwyieithog, a Meithrin Hyder i Ddefnyddio’r Gymraeg yn y Gweithle.
Gan gefnogi targed Llywodraeth Cymru o greu un filiwn
o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, mae Agored Cymru
yn cynnig swît o gymwysterau Iaith Gymraeg, sy’n
canolbwyntio ar Gymraeg ar gyfer y Gweithle, Cymraeg
ar gyfer y Teulu, a’r Iaith Gymraeg mewn Meithrinfeydd
ar gyfer Ymarferwyr Blynyddoedd Cynnar.
YR I
AIT
H G
YMR
AEG
YM
MYD
AD
DYS
G
33
YR IAITH GYMRAEG YN Y GWEITHLE
Y GYMRAEG A GYRFAOEDD
Mae’r ystadegau yn dangos bod galw am unigolion gyda’r gallu i ddefnyddio’r
Gymraeg yn y man gwaith. Gyda rhai meysydd gwaith, mae’r angen am allu’r
Gymraeg yn amlwg – athrawon Cymraeg neu athrawon sy’n dysgu pynciau
amrywiol trwy gyfrwng y Gymraeg, cyflwynwyr teledu a radio neu gyfieithwyr.
Gydag eraill, fel yr Eisteddfod neu Fentrau iaith mae hanfod eu gwaith a chyfrwng iaith y gweithle yn dibynnu
ar fedru siarad Cymraeg yn rhugl ac i safon dda.
Gwelir hysbysebion am swyddi amrywiol ble mae’r Gymraeg yn hanfodol, yn ddymunol, neu’n ddefnyddiol,
yn arbennig felly mewn ardaloedd ble mae poblogaeth dda o siaradwyr Cymraeg. Bydd yr Heddlu, gweithwyr
gofal a iechyd, therapyddion ac unigolion mewn canolfannau galwadau yn aml yn gofyn am sgiliau dwyieithog.
Gyda’r rhain bydd y defnydd o’r Gymraeg yn amrywio o fod yn gyson a rheolaidd i ysbeidiol ac achlysurol.
Gyda Mesur y Gymraeg (2011) a safonau’r Gymraeg mae mwy o boblogaeth Cymru yn ymwybodol y gallant
ddisgwyl derbyn gwasanaethau ehangach trwy gyfrwng y Gymraeg a hynny ar draws Cymru. ‘Does dim
disgwyl bod gan yr unigolion yma Gymraeg o safon arbennig o uchel neu hyd yn oed fod yn hyderus i
ysgrifennu yn y Gymraeg ond yn hytrach i ddefnyddio’r Gymraeg fel iaith dydd i ddydd i gynnig gwasanaeth
neu gyngor wrth sgwrsio a thrafod. Ym maes gofal yn arbennig mae gallu sgwrsio gyda chleifion ifanc a hen
yn eu dewis iaith yn gwneud gwahaniaeth aruthrol iddynt a gyda phoblogaeth Cymru yn heneiddio, bydd mwy
a mwy o alw am unigolion i gefnogi trigolion Cymru trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae hyn yn ehangu cyfleodd
i rai sydd gan sgiliau dwyieithog mewn iechyd, gofal cymdeithasol, gofal cartref a chefnogaeth feddygol fel
therapyddion a meddygon.
Mae mannau gwaith eraill lle gall unigolion ymfalchio yn eu gallu i ddefnyddio’r Gymraeg fel sgil ychwanegol
mewn meysydd fel mânwerthu – yn cyfarch cwsmeriaid, fel swyddog marchnata yn trydar yn y ddwy iaith neu
drwy ddarparu anfoneb ddwyieithog gan adeiladydd sydd wedi gweithio ar eich cartref.
Cofier hefyd bod digon o dystiolaeth sy’n awgrymu bod unigolion dwyieithog yn fwy tebyg o gofio yn
well, o allu addasu gwybodaeth a chanolbwyntio a hyn i gyd gan eu bod nhw yn defnyddio’r ddwy iaith yn
gyfnewidiol.
GRAHAM BOWD
Prif Weithredwr – Gyrfa Cymru
YR I
AIT
H G
YMR
AEG
YN
Y G
WEI
THLE
34
YR IAITH GYMRAEG YN Y GWEITHLE
YR IAITH GYMRAEG A LLYWODRAETH LEOL
Yn Iaith, Gwaith a Gwasanaethau Dwyieithog, Adroddiad Gweithgor yr Iaith Gymraeg a Llywodraeth Leol,
a gyhoeddwyd yn 2016, un o’r argymhellion oedd y dylai Llywodraeth Cymru gynnwys nod penodol i
gynyddu’r defnydd o wasanaethau cyfrwng Cymraeg yn ei strategaeth nesaf ar gyfer yr Iaith Gymraeg. Mae
nod benodol i gynyddu’r defnydd o wasanaethau cyfrwng Cymraeg wedi cael ei gynnwys yn Cymraeg 2050:
Miliwn o Siaradwyr Cymraeg, a gyhoeddwyd yn 2017:
‘Cynyddu’r ystod o wasanaethau a gynigir i siaradwyr Cymraeg, chynyddu’r defnydd o wasanaethau
Cymraeg.’
Pwysleisiodd yr adroddiad bod mwy o waith i’w wneud er mwyn hyrwyddo’r galw am wasanaethau Cymraeg.
Nododd yr adroddiad bod polisi yn ystod y blynyddoedd diweddar wedi canolbwyntio ar gynyddu nifer y
siaradwyr Cymraeg ac argaeledd gwasanaethau Cymraeg, heb gynyddu’r galw am y sgiliau a’r gwasanaethau
hynny. Yn nhermau economaidd, mae angen gwell cydbwysedd rhwng polisïau mewn perthynas â chyflenwi
a pholisïau i gynyddu’r galw. Mae angen cynllunio rhagweithiol gan Lywodraeth Cymru ac Awdurdodau Lleol
er mwyn sicrhau bod rhieni a disgyblion yn deall bod yna alw am sgiliau Iaith Cymraeg yn y gweithle mewn
amrywiaeth o swyddi a phroffesiynau, a bod gan siaradwyr Cymraeg gyfle i ddefnyddio eu sgiliau i’w llawn
botensial yn y gweithle.
Mae’r diffyg dilyniant rhwng gwahanol gyfnodau addysg a’r byd gwaith yn golygu bod y rhai sydd wedi cael
addysg cyfrwng Cymraeg neu sydd wedi dysgu’r Gymraeg yn yr ysgol yn colli eu sgiliau yn aml. Mae gan
Lywodraeth Cymru ac Awdurdodau Lleol gyfrifoldeb i sicrhau nad yw hynny’n digwydd, er lles datblygiad
personol yr unigolion ac er lles economi Cymru. Byddai hynny’n cynorthwyo normaleiddio defnyddio’r
Gymraeg ac yn sicrhau bod sgiliau iaith Cymraeg yn cael eu gwerthfawrogi gan gyflogwyr oherwydd y galw
amdanynt. Mae angen creu amgylchedd y mae staff a’r cyhoedd yn teimlo’n fwy hyderus a diogel ynddo
wrth roi cynnig ar eu sgiliau iaith Cymraeg er mwyn rhoi a derbyn gwybodaeth.
“Er mwyn cyrraedd ein targedau, byddwn yn gyrru’r newidiadau trawsnewidiol canlynol. Bydd rhoi’r rhain ar waith yn llwyddiannus
yn dibynnu ar nifer o sefydliadau’n gweithio gyda’i gilydd.”
• Diwygio’r cynnig addysg a sgiliau ôl-16 cyfrwng Cymraeg a dwyieithog i sicrhau bod gan bobl ifanc
gyfle i barhau i ddatblygu sgiliau dwyieithog i gefnogi economi sy’n ffynnu.
• Datblygu pwyslais rhanbarthol newydd ym maes datblygu economaidd i helpu pob rhan o Gymru i
ffynnu ac i gefnogi pob ardal i ddatblygu ei hunaniaeth nodweddiadol ei hun.
YR I
AIT
H G
YMR
AEG
YN
Y G
WEI
THLE
35
CYMORTH YNG NGOGLEDD CYMRU
Prifysgol Bangor - Canolfan Cymraeg i Oedolion Gogledd Cymru
Ym Mhrifysgol Bangor, mae Canolfan Cymraeg i Oedolion Gogledd Cymru wedi
datblygu dau ap ar gyfer dysgwyr Cymraeg ar lefel mynediad er mwyn gallu
ymarfer eu sgiliau Cymraeg y tu allan i’r ystafell ddosbarth, yn ogystal ag ap ar
gyfer dysgwyr lefel canolradd. Mae apiau Dysgu Cymraeg wedi cael eu datblygu
gan raglenwyr yn learnwelsh.cymru y Gogledd Orllewin, sy’n cael ei gynnal gan
Brifysgol Bangor, ac mae’n darparu cyrsiau Cymraeg yng Ngogledd Orllewin
Cymru ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
‘Increase the range of services offered to Welsh speakers, and an increase in use of Welsh-language
services.’
YR IAITH GYMRAEG YN Y GWEITHLE
YR I
AIT
H G
YMR
AEG
YN
Y G
WEI
THLE
36
YR IAITH GYMRAEG YN Y GWEITHLE
BWRDD IECHYD PRIFYSGOL BETSI CADWALADR
Yng Ngogledd Orllewin Cymru mae Uned Gymraeg Bwrdd Iechyd
Prifysgol Betsi Cadwaladr yn gweithio gyda Menter Iaith Bangor
er mwyn helpu darparwyr gofal sylfaenol ddarparu gwasanaeth
Cymraeg. Mae Betsi Cadwaladr hefyd wedi penodi tiwtor Cymraeg er
mwyn darparu hyfforddiant i staff a chynnal sesiynau hyfforddi ar draws Gogledd Cymru.
“Mae tiwtor Cymraeg teithiol newydd ar gyfer y rhanbarth wedi cael ei benodi gan
BCUHB er mwyn cynorthwyo staff o bob cefndir proffesiynol. Mae nifer o siaradwyr
Cymraeg yn teimlo’n fwy hyderus yn cyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg, yn
arbennig mewn sefydliad gofal iechyd, a bydd darparu cymorth i staff nad ydynt
yn siarad Cymraeg ddatblygu eu sgiliau iaith Cymraeg yn cynyddu capasiti’r bwrdd
iechyd i sicrhau gwell lefel o wasanaeth.”
ELERI HUGHES-JONES
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
COLEG CAMBRIA – CAMU
Yng Ngholeg Cambria, mae CAMU, hyb Cymraeg ar ei gampws Iâl, yn gweithio
mewn partneriaeth â chyflogwyr lleol er mwyn darparu hyfforddiant sgiliau
iaith Cymraeg ar gyfer y gweithle, i oedolion a myfyrwyr. Yn 2016, cynhaliwyd
gweithdy yn CAMU ar bwysigrwydd yr Iaith Gymraeg yn y sector gofal, ac roedd
yn rhan o brosiect oedd yn amcanu at godi ymwybyddiaeth am yr angen am
sgiliau iaith Cymraeg yn y gweithle. Bu i fyfyrwyr Iechyd a Gofal Cymdeithasol
y coleg fynychu’r gweithdy ac roedd yn cynnwys cyflwyniadau gan ymarferwyr o’r sector iechyd. Mae’r
ganolfan hefyd yn amcanu at gynorthwyo gweithgareddau Cymraeg lleol a’r defnydd o’r Gymraeg yn
gymdeithasol. Yn ogystal â bod yn lleoliad ar gyfer cynnal dosbarthiadau a gweithgareddau, mae CAMU
hefyd yn gartref i athrawon Cymraeg ymgynghorol Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
YR I
AIT
H G
YMR
AEG
YN
Y G
WEI
THLE
37
COLEG CYMRAEG CENEDLAETHOL
‘DY DDYFODOL, DY IAITH, DY DDEWIS DI’
Sefydlwyd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn 2011 gan Lywodraeth Cymru ac mae’n
gweithio gyda phrifysgolion ar draws Cymru er mwyn datblygu cyrsiau ac adnoddau
cyfrwng Cymraeg i fyfyrwyr. Mae’r coleg hefyd yn cynnig ysgoloriaethau i fyfyrwyr
astudio drwy gyfrwng y Gymraeg mewn prifysgol, ac mae’n noddi darlithwyr cyfrwng
Cymraeg. Mae yna hefyd Gynllun Ysgoloriaethau Ymchwil ar gyfer ariannu myfyrwyr
sy’n astudio ar gyfer doethuriaeth, a Rhaglen Hyfforddiant Sgiliau Ymchwil. Yn ôl
adroddiad a gomisiynwyd gan HEFCW yn 2014, Gwerthusiad o Gynnydd y Coleg
Cymraeg Cenedlaethol Hyd Yma, mae’r ysgoloriaethau yn chwarae rhan bwysig wrth sicrhau cyflenwad o
ddarlithwyr cyfrwng Cymraeg ar gyfer bodloni’r galw am ddarlithwyr newydd a’r galw o ganlyniad i ehangu.
“Fel llysgennad i’r Coleg Cymraeg dwi eisiau annog pobl i ddefnyddio eu Cymraeg mewn addysg uwch a
gwella cynrychiolaeth y Gymraeg mewn pynciau STEM megis Gwyddoniaeth. Mae’r Ysgoloriaeth
Cymhelliant wedi bod yn fanteisiol i mi a hoffwn weld myfyrwyr erall yn manteisio o’r un cyfle.”
RHIANNON CARYS WILLIAMS
Prifysgol Bangor: Swoleg gyda Herpetole
DAYDREAM DESIGNS
“Yn Daydream Designs rydym yn cynnig gwasanaeth cynllunio gwefannau
dwyieithog fforddiadwy i’n cleientiaid - gwefannau dwyieithog sydd wedi eu
hoptimeiddio’n llawn ac sy’n ddrych o’r fersiynau Saesneg. Rydym yn gweithio’n
agos â busnesau, elusennau a sefydliadau er mwyn darparu dyluniadau gwefannau
rhagorol a strategaethau marchnata digidol. Rydym yn cynnig ffwythiant
ddwyieithog gyda’n holl wefannau. Rydym wrth ein bodd yn gweld y Gymraeg ar-
lein ac rydym yn defnyddio cyfieithydd sydd wedi ei gymeradwyo gan Lywodraeth
Cymru er mwyn galluogi busnesau a sefydliadau ar draws Cymru i wneud hynny.
Mae gennym ddau siaradwr Cymraeg yn nhîm Daydream, Rhys o Ogledd Cymru
a Ffion o’r De, ac mae hynny yn ein helpu i ddatrys materion mewn perthynas ag
acenion a’r gallu i gyfathrebu â phob sefydliad.”
ROB SAUNDERS
Cyfarwyddwr Marchnata
YR IAITH GYMRAEG YN Y GWEITHLE
YR I
AIT
H G
YMR
AEG
YN
Y G
WEI
THLE
38
YR IAITH GYMRAEG YN Y GWEITHLE
YR I
AIT
H G
YMR
AEG
YN
Y G
WEI
THLE
BANC DATBLYGU CYMRU
Cenhadaeth ‘Banc Datblygu Cymru’ yw datgloi potensial economi Cymru. Rydym
yn ased cenedlaethol ar gyfer Cymru ac mae ein hunaniaeth fel busnes Cymreig
mor bwysig i ni ag yw i’n cwsmeriaid. Yn y pen draw, mae ein gallu i gynnig gwasanaeth Cymraeg yn ein
gwneud yn wahanol ac mae’n arwydd o’n hymrwymiad i gefnogi busnesau ym mhob rhan o’r wlad.
Mae ein brand yn amlwg yn dangos ein bod yn gwmni Cymreig, ac mae defnyddio’r iaith yn rhan allweddol o’r
hunaniaeth hwnnw. Rydym yn cyflogi siaradwyr Cymraeg ym mhob rhan o’r busnes, ac ar hyn o bryd rydym
yn edrych ar ffyrdd o annog aelodau’r tîm sydd heb ddefnyddio eu Cymraeg ers iddynt fod yn yr ysgol i
ailddefnyddio’r iaith.
Yn ymarferol, rydym eisiau ei gwneud yn hawdd i’n cwsmeriaid gael mynediad i wybodaeth a gwasanaethau
yn eu dewis iaith, a gobeithio drwy wneud y buddsoddiad hwnnw y byddwn yn cynyddu’r defnydd o’r
ddarpariaeth Gymraeg.
SIAN PRICE
Rheolwr Tîm Strategaeth Deallusrwydd Economaidd a Busnes Cyfrifol
PRIFYSGOL GLYNDŴR
Mae Prifysgol Glyndŵr yn cymryd rhan weithgar mewn sefydliadau cyfrwng Cymraeg
rhanbarthol, a chyfrannodd at drefnu’r Eisteddfod Genedlaethol. Mae’r Brifysgol yn
cynnal cysylltiadau cryf ag ysgolion cyfrwng Cymraeg, ac yn hyrwyddo Addysg Uwch
drwy gyfrwng y Gymraeg. Yn 2016, sefydlodd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol
gangen newydd oedd yn cynnwys Prifysgol Glyndŵr a Choleg Cambria gyda’i gilydd, gan roi mynediad i
adnoddau addysgu ac astudio Cymraeg i staff a myfyrwyr. Mae gan y Coleg rôl gynyddol bwysig o ran dilyniant
darpariaeth cyfrwng Cymraeg mewn AU, yn arbennig yng ngoleuni targed Llywodraeth Cymru o greu un filiwn
o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
39
YR IAITH GYMRAEG YN Y GWEITHLE
YR I
AIT
H G
YMR
AEG
YN
Y G
WEI
THLE
ALUN GRIFFITHS (CONTRACTWYR) LTD.
Fel rhan o ymrwymiad Alun Griffiths (Contractwyr) Ltd i hyrwyddo’r defnydd o’r
Iaith Gymraeg yn y gweithle, mae’r cwmni wedi cefnogi menter a ddatblygwyd
gan dîm safle Ffordd Gysylltu Llangefni, i arddangos y logo oren ‘Iaith Gwaith’ ar
hetiau caled ein staff Cymraeg.
Mae’r logo hwn, a ddatblygwyd gan Swyddfa Comisiynydd yr Iaith Gymraeg, yn cael ei gydnabod yn eang fel
arwydd bod rhywun yn siarad Cymraeg, ac ystyriwyd ei fod yn ffordd syml o annog y defnydd o’r Gymraeg,
nid yn unig yn y gweithle, ond hefyd wrth ddelio ag aelodau’r cyhoedd y mae ein gwaith yn effeithio arnynt.
Fe’i l lansiwyd gan Meri Huws, Comisiynydd yr Iaith Gymraeg, yn yr Eisteddfod
Genedlaethol ym Modedern, a dywedodd: “Mae’n wych gweld cwmnïau fel Griffiths,
sydd â’u gwreiddiau yn ein cymunedau, yn gweld buddion dangos i gwsmeriaid pwy
sy’n gallu siarad Cymraeg. Mae’r logo wedi cael ei ymgorffori’n rhan o lifrai staff mewn
nifer o sectorau eraill, megis gweithwyr iechyd, ond y rhain yw’r helmedau Iaith
Gwaith cyntaf erioed!"
“Mae dangos logo Iaith Gwaith ar hetiau caled yn ffordd o ddangos bod y cwmni yn gwerthfawrogi ac yn
dathlu sgiliau a datblygiad dwyieithog y staff, a’u bod yn falch o allu cynnig gwasanaethau Cymraeg i’w
cwsmeriaid.”
Dywedodd Huw Llywelyn, cyfarwyddwr Iechyd a Diogelwch Griffiths “Fel cwmni rydym yn credu’n gryf ym
muddion a gwerth defnyddio’r Iaith Gymraeg yn y gweithle. Yn ogystal â hyrwyddo’r iaith, mae hefyd yn
annog pobl ifanc sy’n dod i’r diwydiant i gyfathrebu yn y Gymraeg ac i barhau i wneud hynny drwy gydol
eu gyrfaoedd.”
MANDY EVANS
Swyddog Cyswllt Cymunedol
GRŴP LLANDRILLO MENAI
Mae Grŵp Llandrillo Menai wedi cyflwyno rhaglen ddwyieithog ‘Seren Iaith’
gyda’r nod o gynorthwyo tiwtoriaid personol i annog myfyrwyr i ddefnyddio’r
Gymraeg yn fwy rheolaidd yn eu bywydau cymdeithasol yn coleg, yn ystod
eu hamser rhydd ac ar-lein. Mae myfyrwyr yn ateb arolwg Seren Iaith ar ddechrau eu cwrs, sy’n mesur eu
defnydd cymdeithasol o Gymraeg a’u hagweddau tuag at yr iaith. Mae’r arolwg yn cynnwys 10 datganiad y
mae’r myfyrwyr yn ymateb iddynt drwy ddewis ar ba lefel maent yn cytuno neu’n anghytuno. Anogir myfyrwyr
i ddefnyddio Cymraeg yn anffurfiol ac yn ffurfiol drwy raglen diwtorial a gefnogir gan adnoddau rhyngweithiol
o safon uchel. Mae hynny’n arwain at fwy o ymwybyddiaeth o ddiwylliant Cymraeg a mwy o werthfawrogiad
o berthnasedd a defnydd o’r Gymraeg, yn cynnwys yn y gweithle. Mae rhaglen Seren Iaith yn galluogi i’r
Grŵp fesur effaith y gweithgareddau a ymgymerir gan y myfyriwr yn ystod y flwyddyn academaidd er mwyn
cynyddu a chynnal y defnydd o’r Gymraeg yn eu bywyd coleg. 40
YR IAITH GYMRAEG YN Y GWEITHLE
Mae’r Grŵp hefyd yn cynnig cystadleuaeth ‘Tocyn Iaith’ sy’n annog myfyrwyr i
gyflwyno pedwar darn o waith drwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog.
Mae Sgiliaith, sy’n un o adrannau Grŵp Llandrillo Menai, yn darparu cymorth
dwyieithrwydd i golegau a darparwyr eraill ar draws Cymru, a hynny fel ymateb i’r galw
cynyddol am sgiliau iaith Cymraeg yn y sector addysg ôl-14. Mae Sgiliaith yn cynnal
cynhadledd flynyddol ‘Gŵyl Cyflogiaith’, mewn partneriaeth â Cholegau Cymru a NTfW,
er mwyn dathlu dwyieithrwydd mewn addysg bellach a’r sector dysgu seiliedig ar waith.
GWASANAETH BWYD HARLECH
Fel cwmni teuluol sydd wedi ei sefydlu yn lleol ers 1972, rydym yn credu’n gryf bod
sgiliau dwyieithog yn hanfodol bwysig yn ein gweithle heddiw.
Mae sawl haen i’n cwmni, megis cyswllt gyda cwsmeriaid dros y ffôn, gweithio mewn
storfeydd, cludo bwyd a rheoli dydd i ddydd.
Mae canran uchel o’r busnesau yr ydym yn delio gyda hwy yn rai sydd yn hoffi
derbyn gwasanaeth drwy’r Gymraeg oherwydd eu natur ieithyddol e.e. ysgolion, ac
mae cwmniau preifat lleol yn aml yn rai sydd yn ffafrio defnyddio’r Gymraeg hefyd.
Oherwydd hyn, mae’n bwysig i ni bod archebu dros y ffôn a’r cyswllt wrth drosglwyddo
nwyddau yn gallu cael ei gynnig yn y Gymraeg.
CROFTON DAVEY
Rheolwr Adnoddau Dynol
MENTER A BUSNES
Mae Menter a Busnes yn gwmni annibynnol nid er elw sy’n cyfrannu tuag at
ddatblygu’r economi yng Nghymru. Mae’n darparu gwybodaeth a chefnogaeth am
fentergarwch, dechrau busnes, a thwf busnesau unigolion, grwpiau, a chwmniau o bob
maint ledled Cymru.
Mae’r gallu i ddarparu gwasanaethau yn ddwyieithog wedi ei ymgorffori o fewn prif nod y cwmni ac mae holl
wasanaethau’r cwmni ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.
Pan yn hysbysebu am weithwyr mae’r gallu i weithio trwy gyfrwng y Gymraeg yn cael ei nodi fel sgil hanfodol
gan amlaf, neu’n ddymunol iawn fel arall. Er na lwyddir i benodi siaradwyr Cymraeg ym mhob achos mae 90% o’r
staff cyflogedig presennol yn gwbl ddwyieithog, ac mae 4% arall wrthi’n dysgu’r iaith. O blith staff y cwmni sy’n
gweithio yng Ngogledd Cymru mae 98.9% yn ddwyieithog. Mae Menter a Busnes wedi ymrwymo i gynnal, gwella
a gloywi sgiliau dwyieithog ei holl staff o fewn ei bolisi cyffredinol i hyrwyddo datblygiad proffesiynol staff.
ALUN JONES
Prif Weithredwr, Menter a Busnes
YR I
AIT
H G
YMR
AEG
YN
Y G
WEI
THLE
41
YR IAITH GYMRAEG YN Y GWEITHLE
YR I
AIT
H G
YMR
AEG
YN
Y G
WEI
THLE
Gyda'n safle Wylfa Newydd ar Ynys Môn yng nghanol cymuned sy'n siarad Cymraeg,
mae Horizon yn cydnabod yn llwyr bwysigrwydd yr iaith Gymraeg yn y gymuned,
fel iaith gyntaf y rhan fwyaf o'i staff sydd ar y safle, ac ar gyfer ein gweithwyr lle mae
rolau yn ymwneud yn ddyddiol ag aelodau'r cyhoedd, a chyda'n rhanddeiliaid. Bydd
ein gweithlu gweithredol yn tyfu dros y blynyddoedd i gyrraedd 850 am o leiaf 60
mlynedd, ac wrth i ni ddisgwyl bod y mwyafrif helaeth o'r rhain yn bobl leol, mae'r
Gymraeg yn ddiamheuol yn sgil bwysig iawn yn ogystal â'u cymwysterau technegol.
Ar gyfer ein rolau sy'n wynebu'r cyhoedd, mae sgiliau’r iaith Gymraeg yn ofyniad
hanfodol fel y gall pobl ymgysylltu â ni trwy eu dewis.
SASHA WYNN DAVIES
Pennaeth Datblygu Strategol, Pwer Niwclear Horizon
IFOR WILLIAMS TRAILERS
"Mae’r Iaith Gymraeg yn rhan gynhenid a naturiol o’n hamgylchedd weithio
yma yn Ifor Williams Trailers. Mae gennym ymagwedd ymlaciol a chynhwysol
tuag at rai sydd yn siarad Cymraeg a rhai nad ydynt. Rydym weithiau yn teimlo
fod ein hymagwedd tuag at y defnydd o’r iaith yn ein gweithle yn unigryw a
blaengar a bod hynny’n gweithio’n dda iawn. Nid yw’n anarferol i dri pherson
fod yn cael sgwrs, pan fo un person yn siarad Cymraeg, a’r person nesaf yn ateb yn Saesneg a’r trydydd yn
newid o un iaith i’r llall. Yn aml mae pobl o’r tu allan yn rhyfeddu wrth weld y defnydd yma o’r ieithoedd, ond
mae’n digwydd yn naturiol yma.
Fel cwmni sy’n tyfu’n fyd-eang, rydym yn defnyddio nifer o ieithoedd ar wahanol
blatfformau. Drwy gefnogi dyhead ein rhwydwaith gwerthu rhyngwladol i weithio
yn eu dewis iaith, defnyddio logos a deunydd marchnata wedi eu cyfieithu, rydym
yn parhau i atgyfnerthu ein balchder ein hunain wrth esblygu fel cwmni cynhenid
Cymreig, tra’n rhannu ein hymagwedd gyda gweddill y byd.”
ANDREW REECE JONES
Rheolwr Dylunio Peirianneg, Ifor Williams Trailers Ltd
42
YR IAITH GYMRAEG YN Y GWEITHLE
Ffederasiwn Hyfforddi Cenedlaethol Cymru (FfHCC)
"Mae gweithredu Safonau’r Iaith Gymraeg o ganlyniad i Fesur yr Iaith Gymraeg (2011), yn ogystal â’r nod o
greu Miliwn o Siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 wedi arwain at fwy o ymwybyddiaeth a galw am wasanaethau
a sgiliau Cymraeg. O ganlyniad i hynny, mae yna alw cynyddol am sgiliau Iaith Cymraeg mewn rhai sectorau
penodol. Felly mae gallu i siarad yr iaith yn sgil werthfawr ar gyfer y gweithle ac mae cyflogwyr hefyd yn
ystyried bod hynny yn fantais. Mae’r galw a’r gallu yma yn un o ofynion allweddol pob cyflogwr, a bydd yn
gwella cyflogadwyedd dysgwyr seiliedig ar waith yn y rhanbarth.”
SOPHIE MARTIN
Cadeirydd Ffederasiwn Hyfforddi Cenedlaethol Cymru Rhanbarth Gogledd Cymru
HEDDLU GOGLEDD CYMRU
"Yn Heddlu Gogledd Cymru rydym yn cymryd ein cyfrifoldebau tuag at
ein cymunedau Cymraeg o ddifri. Ers nifer o flynyddoedd mae Heddlu
Gogledd Cymru wedi cydnabod pwysigrwydd yr Iaith Gymraeg a
dwyieithrwydd yn ei Strategaeth a Chynlluniau Iaith Gymraeg. Mae’r
Heddlu yn cydnabod bod y gallu i siarad Cymraeg yn sgil fel unrhyw sgil plismona arall, ac rydym wedi
datblygu Polisi Sgiliau Iaith Cymraeg er mwyn adlewyrchu pwysigrwydd hynny. Dros y blynyddoedd rydym
hefyd wedi datblygu nifer o fentrau er mwyn gwella ein gallu i ddangos cwrteisi ieithyddol a chynnig gwir
ddewis ieithyddol i’r cyhoedd. Rydym hefyd yn gweithio ar gynnig yr un dewis ieithyddol i’n staff mewn
perthynas â’n gwaith ar hyrwyddo gweithleoedd dwyieithog. Er y gall ein holl staff siarad Saesneg, mae
ychydig dros draean o’n staff yn ddwyieithog ac yn gallu siarad Cymraeg yn rhugl. Gyda chymorth yr Heddlu,
mae nifer o unigolion eraill yn dysgu’r Iaith neu’n gwella eu sgiliau a’u hyder i’w defnyddio drwy fynychu ein
darpariaeth hyfforddiant Iaith Gymraeg mewnol, neu drwy gymorth gan ein Hyrwyddwyr Iaith Gymraeg
adrannol ein hunain.
Mae Strategaeth Iaith Gymraeg yr Heddlu yn rhoi statws cyfartal i’r ddwy iaith ac yn ymrwymo i barhau i
weithio i fod yn sefydliad dwyieithog. Mae’r Amcanion Strategol yn cynnwys:
• Rydym yn amcanu at fod yn sefydliad dwyieithog.
• Yn unol â’n cyfrifoldebau tuag at ein cymunedau a gofynion Safonau’r Iaith Gymraeg ar y Prif
Gwnstabl, byddwn yn gweithio ar sicrhau bod dewis ieithyddol yn cael ei gynnig wrth gyflawni ein
gwasanaeth ac yn ein prosesau mewnol.
• Byddwn yn parhau i ddatblygu steil o blismona yng Ngogledd Cymru sy’n parchu’r Iaith Gymraeg a’r
diwylliant, ac sy’n cydnabod bod gan siaradwyr Cymraeg hawl i ddefnyddio’r iaith pan maent yn
delio â’r Heddlu.
Mae Polisi Sgiliau Iaith Cymraeg Heddlu Gogledd Cymru yn sicrhau bod yr holl aelodau newydd, a staff
presennol, yn meddu ar beth gallu i siarad Cymraeg o leiaf. Mae’n darparu fframwaith ymarferol fel y gall
rheolwyr a staff weithredu’r amcanion a’r dyheadau a nodir yn y Cydgynllun Iaith Gymraeg blaenorol a
Safonau’r Iaith Gymraeg.
YR I
AIT
H G
YMR
AEG
YN
Y G
WEI
THLE
43
YR I
AIT
H G
YMR
AEG
YN
Y G
WEI
THLE
Y nod yw nid yn unig cydymffurfio â’r gofyniad deddfwriaethol i ddarparu gwasanaeth dwyieithog, ond hefyd
i gynnig dewis ieithyddol a chwrteisi ieithyddol yn rheolaidd i bawb sy’n dod i gysylltiad â'r Heddlu, a hefyd fel
iaith fusnes fewnol i’r staff sy’n siarad Cymraeg. Mae’n ofynnol hefyd i’r Heddlu gynnig a darparu hyfforddiant
iaith i staff cynorthwyol er mwyn gwella eu sgiliau Iaith Cymraeg. Mae gwaith yn mynd rhagddo er mwyn
recriwtio siaradwyr Cymraeg mwy hyderus, yn arbennig i swyddi sydd â chysylltiad uniongyrchol â’r cyhoedd,
er mwyn gallu darparu gwir ddewis ieithyddol i ddefnyddwyr y gwasanaeth.
Mae yna fuddion busnes amlwg i HGC o ymgymryd â’r gwaith yma. Mae’n hanfodol bwysig sicrhau bod
y cyhoedd yn cael dewis ieithyddol, a mynediad i swyddogion a staff sy’n gallu delio â’u problemau drwy
gyfrwng yr Iaith Gymraeg. Mae darparu dewis ieithyddol o’r cam cyntaf yn bwysig iawn - o’r ystafell reoli sy’n
derbyn yr alwad, i’r aelod staff sy’n cyrraedd y digwyddiad, i aelodau unedau arbenigol. Hefyd, nid oes unrhyw
amheuaeth y bydd rhai pobl yn fwy parod i gydweithredu â ni, i feithrin perthynas â ni a rhoi gwybodaeth i ni
drwy gyfrwng y Gymraeg. Felly, bydd Strategaeth Iaith Gymraeg yr Heddlu a’r Polisi Sgiliau Iaith Gymraeg yn
cyfrannu at wella ansawdd gwasanaeth yr heddlu; byddant yn ein helpu i ddarparu cyfathrebu effeithiol yn y
Gymraeg a’r Saesneg; byddwn mewn gwell sefyllfa i fodloni anghenion ieithyddol defnyddwyr y gwasanaeth, a
hefyd er mwyn cydymffurfio â gofynion Deddfwriaeth Iaith Gymraeg a Safonau’r Iaith Gymraeg.
I gael mwy o wybodaeth am hyrwyddo dwyieithrwydd a phwysigrwydd hynny yn yr Heddlu, gweler Heddlu
Gogledd Cymru a Dwyieithrwydd, llyfryn a gynhyrchwyd gan Meic Raymant a staff Adran Gwasanaethau Iaith
Gymraeg Heddlu Gogledd Cymru.”
RICHARD DEBICKI, DIRPRWY PRIF GWNSTABL
Cadeirydd Grŵp Iaith Gymraeg Heddlu Gogledd Cymru
Cydweithredfa Gwella Gwasanaethau Gofal a Llesiant Gogledd Cymru
Sgiliau Iaith Cymraeg yn y Sector Gofal
“Mae sgiliau cyfathrebu yn sgiliau eithriadol bwysig i staff sy’n gweithio
ym maes gwasanaethau cymdeithasol a gofal cymdeithasol. Mae ymateb
yn sensitif i iaith, tra’n canolbwyntio ar yr unigolyn, yn un o egwyddorion hanfodol cynnal urddas a pharch.
Mae cydnabod bod pobl yn gallu mynegi eu safbwyntiau a’u hanghenion yn well yn eu dewis iaith yn
allweddol, oherwydd bod iaith yn rhan hanfodol o hunaniaeth unigolyn. Mewn amgylchiadau pan fo straen,
gwendid, salwch neu anabledd yn ffactorau allweddol, gall methu â chyfathrebu yn eu hiaith gyntaf
olygu bod yr unigolion dan sylw yn wynebu anfantais bersonol. Yn y Sector Gofal rydym yn annog staff i
gyfathrebu yn y Gymraeg a’r Saesneg, yn unol ag anghenion y cleient, a chynnig dewis ieithyddol. Rydym yn
cefnogi staff drwy ddarparu cymorth, gwybodaeth ac adnoddau (megis bathodynnau, posteri a meddalwedd
gyfrifiadurol sy’n gwneud ysgrifennu Cymraeg yn haws). Hefyd, rydym yn cynnig hyfforddiant Iaith Gymraeg
ar bob lefel ac yn annog staff i ddefnyddio faint bynnag o Gymraeg sydd ganddynt.”
ALISON ATKINSON
Cydweithredfa Gwella Gwasanaethau Gofal a Llesiant Gogledd Cymru
YR IAITH GYMRAEG YN Y GWEITHLE
44
YR IAITH GYMRAEG YN Y GWEITHLE
Comisiynydd Y Gymraeg
Yn ôl Hawliau’n Gwreiddio: Adroddiad Sicrwydd 2016-17 Comisiynydd y Gymraeg, mae
gwasanaethau Iaith Gymraeg yn gwella; fodd bynnag, mae angen mwy o waith a newid
ymddygiadol er mwyn hyrwyddo a hwyluso’r Iaith Gymraeg.
Yn ystod 2016/17 bu i siaradwyr Cymraeg ar draws Cymru adrodd i Gomisiynydd yr
Iaith Gymraeg bod darpariaeth gwasanaethau Iaith Gymraeg yn gwella’n raddol a
bod agweddau’r sefydliadau sy’n darparu’r gwasanaethau hynny yn gynyddol gadarnhaol. Hefyd, bu i Arolwg
Omnibws o Siaradwyr Cymraeg Ymchwil Beaufort ganfod bod 57% o siaradwyr Cymraeg yn credu bod
cyfleoedd i ddefnyddio’r Iaith Gymraeg â sefydliadau cyhoeddus yn cynyddu, ond yn gostwng i 41% gyda
busnesau a 24% gydag elusennau. Mae siaradwyr Cymraeg yn gynyddol ymwybodol o’u hawliau i ddefnyddio’r
iaith gyda sefydliadau cyhoeddus. Bu i’r Arolwg Omnibws hefyd ganfod bod 76% o siaradwyr Cymraeg yn
credu bod gwasanaethau Cymraeg sefydliadau cyhoeddus yn gwella. Dim ond 10% oedd yn anghytuno, ac nid
oedd 13% yn gwybod.
Er gwaetha’r cynnydd o ran lefel darpariaeth rhai gwasanaethau Iaith Gymraeg, mae angen gwneud mwy
o gynnydd er mwyn sicrhau bod gwasanaethau Iaith Gymraeg mor hygyrch â phosibl. Hefyd, mae angen
gwella ansawdd y gwasanaethau Iaith Gymraeg, ac mae angen i sefydliadau cyhoeddus wella eu trefniadau
hunanreoleiddio, a gweithredu ar eu canfyddiadau. Mae hynny’n sicrhau eu bod yn cydymffurfio â Safonau’r
Iaith Gymraeg a nodir ar gyfer Gweinidogion Cymru, cynghorau sir ac awdurdodau parciau cenedlaethol yn
Rheoliadau Safonau’r Iaith Gymraeg (Rhif 1) 2015.
Bu i’r adroddiad hefyd ganfod ei bod yn hanfodol bod strategaethau hyrwyddo iaith effeithiol yn cael eu
paratoi a’u gweithredu er mwyn sicrhau bod nifer y siaradwyr Cymraeg yn cael ei gynnal neu ei gynyddu. Mae
Mesur yr Iaith Gymraeg (Cymru) 2011 yn rhoi dyletswydd ar sefydliadau cyhoeddus i hyrwyddo a hwyluso’r
defnydd o’r Iaith Gymraeg, ac mae hynny’n ddisgwyliad mewn perthynas â sefydliadau cyhoeddus nad oedd o
reidrwydd yn bodoli o dan Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993.
Yn ôl yr adroddiad, cyn y gellir hyrwyddo’r defnydd o’r Iaith Gymraeg, mae’n rhaid i sefydliadau cyhoeddus
ystyried pam fod cyfran sylweddol o siaradwyr Cymraeg yn dewis peidio â defnyddio’r Iaith wrth ddelio â nhw.
Dywedodd siaradwyr Cymraeg wrth Gomisiynydd yr Iaith Gymraeg y byddent yn fwy tebygol o ddefnyddio
Cymraeg petai sefydliadau yn fwy rhagweithiol. Hefyd, dywedodd siaradwyr Cymraeg nad yw rhai o’r prif
sefydliadau cyhoeddus yng Nghymru hyd yma yn deall pwysigrwydd cynnig gwasanaethau oherwydd eu
bod yn colli’r cyfle i hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg ar hyn o bryd. Yn ôl Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr
Cymraeg, yn ogystal â buddsoddi mewn gwasanaethau Iaith Gymraeg a’u cynnig yn rhagweithiol, mae angen
i ddarparwyr wybod sut mae hwyluso’r cynnydd mewn defnydd. Mae hynny yn gofyn am farchnata deallus,
gyda’r cyfrifoldeb ar y darparwr i ddylunio gwasanaethau mewn ffordd sydd wedi eu hanelu at fodloni
anghenion y cwsmer. Bydd yr ymagwedd yma sy’n canolbwyntio ar y cwsmer yn golygu y bydd angen dulliau
newydd a gwahanol, a newid meddylfryd, er mwyn denu a meithrin cronfa gwsmeriaid gynyddol ar gyfer
gwasanaethau Cymraeg.
YR I
AIT
H G
YMR
AEG
YN
Y G
WEI
THLE
45
YR I
AIT
H G
YMR
AEG
YN
Y G
WEI
THLE
Mae’r Comisiynydd hefyd yn gweithio’n agos gyda sefydliadau yn y trydydd sector a’r sector preifat i annog defnydd
o’r Gymraeg ar sail wirfoddol. Mae uned hybu a hwyluso’r Comisiynydd yn cynnig cyngor a chymorth yn rhad ac am
ddim i fusnesau a sefydliadau trydydd sector. Trwy gwblhau Cynllun Hybu’r Gymraeg, mae modd iddynt asesu eu
darpariaeth bresennol a chynllunio ar gyfer cynyddu eu defnydd dros amser. Cewch wybodaeth bellach ar is-wefan
Hybu’r Gymraeg, ynghyd ag ymchwil, canllawiau a fideos gan eraill yn rhannu eu profiadau nhw o fuddion y Gymraeg.
MERI HUWS
Comisiynydd y Gymraeg
"Oherwydd bod Zip World yn darparu gwasanaeth cwsmeriaid wedi
ei leoli yng Nghymru, mae’r gallu i siarad Cymraeg yn fantais, ac rydym yn
falch bod hyd at 70% o dîm Zip World yn gallu deall neu siarad Cymraeg.
Mewn gwlad ddwyieithog fel Cymru, mae staff sy’n gallu cyfathrebu gyda
chwsmeriaid dros y ffôn neu wyneb yn wyneb yn eu dewis iaith yn bwysig
iawn i ni fel cwmni oherwydd bod hynny yn sicrhau bod ein cwsmeriaid yn
derbyn gwasanaeth cwsmeriaid heb ei ail.
Mantais arall defnyddio Cymraeg ar ein tri safle, boed hynny yn arwyddion
dwyieithog neu staff Cymraeg, yw ei fod yn hyrwyddo’r iaith ac yn cyfoethogi
profiad diwylliannol ein cwsmeriaid sy’n teithio i Ogledd Cymru o bedwar ban byd.”
HANNAH BARRATT
Rheolwr Adnoddau Dynol, Zip World
Yn HMP Berwyn, un o'n chwe gwerth yw ‘Cofleidio iaith a diwylliant Cymru' ac
mae hunaniaeth Gymreig Y Berwyn yn glir i unrhyw un sy'n byw, yn gweithio neu'n
ymweld yma. Mae gennym nifer sylweddol o staff a dynion sy'n siarad Cymraeg
yn y ddalfa ac rydym yn cydnabod pwysigrwydd y gallu i siarad yn Gymraeg wrth
ofalu amdanynt. Os yw rhai o'n dynion sy'n ei chael yn anodd mynegi eu hunain yn siarad Cymraeg, ac nad
ydym yn gallu eu cefnogi yn eu hiaith gyntaf, gellid cymhlethu'r anawsterau hyn. Mae gennym staff sy'n
siarad Cymraeg ar draws yr holl feysydd a swyddogaethau o fewn y sefydliad, gan olygu y gallwn ddarparu
gwasanaeth Cymraeg i bawb sydd ei angen. Ystyrir felly bod staff sy'n siarad Cymraeg yn meddu ar sgil
ychwanegol a gwerthfawr ar gyfer gweithio mewn amgylchedd carchar yng Nghymru.
JOANNA MARSTON
Pennaeth Lleihau Aildroseddu
Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EM yng Nghymru
• Rhoi gwerth ar eich gilydd a dathlu llwyddiannau
• Gweithredu gyda gonestrwydd a siarad y gwir bob amser
• Edrych i’r dyfodol gydag uchelgais a gobaith
• Cynnal cyfiawnder a thegwch yn y cyfan a wnawn
• Cofleidio iaith a diwylliant Cymru
• Dal ati!
YR IAITH GYMRAEG YN Y GWEITHLE
46
YR IAITH GYMRAEG YN Y GWEITHLE
Yr Iaith Gymraeg mewn Busnes
Ym mis Medi 2016 bu i Dîm Datblygu Economi a Busnes Cyngor Sir
Ddinbych ddechrau prosiect peilot am ddim ‘Cymraeg mewn Busnes’,
mewn cydweithrediad â Iaith Cyf. Roedd y prosiect yn amcanu at
godi ymwybyddiaeth ymysg busnesau lleol o sut y gall dwyieithrwydd wella eu helw. Fel rhan o’r
prosiect, bu i Iaith gynnal cyfres o weithdai er mwyn cynorthwyo busnesau i weithio’n ddwyieithog,
gan feithrin eu hyder a’u sgiliau cyfathrebu yn y Gymraeg a defnyddio’r iaith ar-lein ac ar gyfryngau
cymdeithasol. Hysbyswyd busnesau ym Mhrestatyn, Llangollen a Llanelwy am yr adnoddau oedd ar
gael i’w cynorthwyo i weithio’n ddwyieithog.
Roedd y prosiect yn gweithio â’r busnesau lleol yma er mwyn adnabod y galw am gymorth gyda
sgiliau iaith Cymraeg mewn busnes, ac yna yn 2017 aseswyd effaith y camau a gymerwyd ganddynt ar
eu helw.
Mae canfyddiadau cychwynnol y prosiect yn awgrymu bod defnyddio’r Gymraeg mewn busnes yn
atgyfnerthu natur unigryw cynnyrch neu wasanaeth lleol a’r teimlad o ddilysrwydd, a’i fod yn cynyddu
apêl y busnes i gwsmeriaid Cymraeg. Bu i’r prosiect hefyd ganfod bod defnyddio Cymraeg mewn
busnes yn agor drysau i farchnadoedd newydd, yn dangos eiriolaeth dros gynnyrch lleol ac yn creu
cysylltiadau ag ymgyrchoedd marchnata cynnyrch Cymreig ehangach, megis Caru Busnesau Lleol a
Chig Oen Cymru.
Mentrau Iaith
Mae Mentrau Iaith yn gyrff gwirfoddol sy’n cefnogi a hyrwyddo defnyddio’r
Gymraeg ar draws Cymru. Mentrau Iaith Cymru yw’r sefydliad sy’n cefnogi
rhwydwaith o 23 o Fentrau Iaith lleol ar draws Cymru. Y Mentrau Iaith yng
Ngogledd Cymru yw Menter Iaith Môn, Hunaniaith, Menter Iaith Conwy, Menter Iaith
Sir Ddinbych, a Menter Iaith Fflint a Wrecsam.
YR I
AIT
H G
YMR
AEG
YN
Y G
WEI
THLE
• Cynnal cyfiawnder a thegwch yn y cyfan a wnawn
• Cofleidio iaith a diwylliant Cymru
• Dal ati!
47
WELSH L ANGUAGE IN THE WORKPL ACE
YR I
AIT
H G
YMR
AEG
YN
Y G
WEI
THLE
Cynllun Sgiliau a Chyflogaeth Rhanbarthol a’r Iaith Gymraeg
Mae ffrwd gwaith Sgiliau a Chyflogaeth y Bwrdd Uchelgais yn cyhoeddi Cynllun Sgiliau a Chyflogaeth
Rhanbarthol blynyddol, sy’n nodi’r galw am sgiliau a llafur mewn sectorau allweddol a sectorau twf, a’r economi
sylfaen, nawr ac i’r dyfodol.
Mae’r Cynllun Sgiliau a Chyflogaeth Rhanbarthol yn cynnwys atodiad penodol ar ddata cyfredol mewn
perthynas â’r Iaith Gymraeg yng Ngogledd Cymru. Mae’r Cynllun Sgiliau a Chyflogaeth Rhanbarthol ar gael
yn: www.regionalskillsandemploymentplan.co.uk/cy Mae ffrwd gwaith Sgiliau a Chyflogaeth NWEAB wedi
cael ei fabwysiadu a’i gydnabod gan Lywodraeth Cymru fel un o’i tair Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol (PSRh)
ar draws Cymru. Mae’r PSRh a’i bartneriaid yng Ngogledd Cymru yn parhau i fynd i’r afael ag anghenion
rhanbarthol a lleol, tra’n cefnogi polisi a chynllunio cenedlaethol gyda ffocws penodol ar anghenion sectorau
allweddol a sectorau twf Gogledd Cymru yn yr economi.
YR IAITH GYMRAEG YN Y GWEITHLE
SECTORAU ALLWEDDOL YNG NGOGLEDD CYMRU
SECTORAU TWF YNG NGOGLEDD CYMRU
TWRISTIAETH A LLETYGARWCH
CYNHYRCHU BWYD A DIOD
GWASANAETHAU ARIANNOL A PHROFFESIYNOL
YNNI A’R AMGYLCHEDD
CREADIGOL A DIGIDOL IECHYD A GOFAL CYMDEITHASOL
ADEILADUDEUNYDDIAU A GWEITHGYNHYRCHU UWCH
48
YR IAITH GYMRAEG YN Y GWEITHLE
Adroddiad ar Anghenion Sgiliau Iaith Cymraeg mewn Wyth Sector
Yn 2014 bu i Lywodraeth Cymru gynnal astudiaeth ar draws Cymru o anghenion sgiliau iaith Cymraeg
mewn wyth sector blaenoriaethol. Yn ei arolwg o gyflogeion ar y defnydd o’r Iaith Gymraeg, bu i adroddiad
Llywodraeth Cymru ganfod bod 23% o’r cyflogwyr yng Ngogledd Cymru wedi adrodd bod eu holl aelodau
staff yn defnyddio’r Gymraeg yn y gweithle, a dyna’r ganran uchaf yng Nghrymu, sydd ychydig yn uwch na
Chanolbarth cymru gyda 21%. Y prif resymau ar draws Cymru dros ddefnyddio’r Gymraeg yn y gweithle oedd
er mwyn rhyngweithio â chleientiaid neu gwsmeriaid (90%), yn arbennig yn y sectorau manwerthu, adeiladu,
lletygarwch a gofal, ac er mwyn siarad yn anffurfiol â chydweithwyr (69%).
Yng Ngogledd Cymru a’r De Ddwyrain yr oedd y gyfran uchaf o sefydliadau oedd yn disgwyl i’r angen am
sgiliau iaith Gymraeg gynyddu yn ystod y 2-3 blynedd nesaf (8%). Y rhesymau mwyaf poblogaidd a roddwyd
am hynny ar draws Cymru oedd cynnydd mewn cwsmeriaid Cymraeg (18%), y gred bod dwyieithrwydd yn
helpu eu cwsmeriaid a photensial eu busnes (17%), hyrwyddo’r Iaith Gymraeg (16%), a mwy o bobl yn siarad
Cymraeg yn gyffredinol (14%).
Yng Ngogledd Cymru bu i 35% o’r cyflogwyr adrodd am swyddi gwag yn ystod y 12 mis diwethaf. Byddai
sgiliau iaith Cymraeg wedi bod yn ddymunol yn achos ychydig llai na thraean o’r holl swydd gwag (31%), ac
roedd y galw mwyaf am sgiliau iaith Cymraeg yng Nghanolbarth Cymru (32%) a’r lleiaf o alw yn y De Ddwyrain
(8%). Dim ond 7% o’r cyflogwyr yng Ngogledd Cymru oedd yn cael anawsterau llenwi swyddi yn ystod y 12 mis
diwethaf. Dim ond 1% o’r cyflogwyr yn y rhanbarth oedd â swyddi gwag oedd angen sgiliau iaith Cymraeg, ac
roedd 1% o’r swyddi anodd eu llenwi yn bodoli’n rhannol oherwydd prinder sgiliau iaith Cymraeg.
Dim ond 2% o’r cyflogwyr yng Ngogledd
Cymru oedd wedi cael anawsterau canfod
cyrsiau hyfforddiant Iaith Gymraeg priodol.
Nid oedd y rhan fwyaf o’r cyflogwyr yng
Ngogledd Cymru erioed wedi chwilio am
gyrsiau hyfforddiant Iaith Gymraeg (85%)
a hon oedd y gyfran leiaf o ychydig. Roedd
amseroedd dechrau cyrsiau anghyfleus
ac anhyblyg yn broblem benodol yng Ngogledd Cymru (51%, 35% ar draws Cymru). Roedd cyrsiau ddim yn
ddigon lleol (35%) a bod yn rhy ddrud (30%) hefyd ymysg y prif anawsterau a brofwyd ar draws Cymru wrth
chwilio am gyrsiau hyfforddiant priodol.
53%Mae cyflogwyr yng Ngogledd Cymru yn ystyried bod staff â sgiliau iaith Gymraeg
yn bwysig ar gyfer masnach ddomestig
Yn ôl yr astudiaeth, yng Ngogledd Cymru yr oedd y ganran uchaf o
gyflogwyr oedd yn ystyried bod cael staff â sgiliau iaith Cymraeg
yn bwysig ar gyfer masnach ddomestig (53%), o’i gymharu â’r De
Ddwyrain lle cafwyd y ganran isaf (23%)
YR I
AIT
H G
YMR
AEG
YN
Y G
WEI
THLE
49
YR I
AIT
H G
YMR
AEG
YN
Y G
WEI
THLE
Yn ôl yr adroddiad, cyflogwyr yng Ngogledd Cymru oedd fwyaf
tebygol o ystyried bod cael staff â sgiliau iaith Cymraeg ar eu safle yn
eithaf pwysig neu’n bwysig iawn (57%), a chyflogwyr yn y De Ddwyrain
oedd leiaf tebygol (16%). Hefyd, nhw oedd fwyaf tebygol o ystyried
bod sgiliau iaith Cymraeg yn bwysig iawn neu’n eithaf pwysig mewn
perthynas ag ansawdd gwasanaeth cwsmeriaid (56% o’i gymharu â 21%
yn y De Ddwyrain).
57%Mae cyflogwyr yng Ngogledd Cymru yn ystyried bod staff â
sgiliau iaith Gymraeg yn bwysig
Sgiliau iaith Cymraeg oedd bwysicaf mewn perthynas â lles staff a chadw staff yng Ngogledd Cymru
(39%, gan ddilyn patrwm rhanbarthol tebyg, o’i gymharu â 11% yn y De Ddwyrain). Mewn perthynas â
phwysigrwydd sgiliau iaith Cymraeg o ran elw busnesau, ychydig o amrywiaeth oedd yna o un rhanbarth i’r
llall (atebodd 20% ‘effaith sylweddol iawn neu eithaf sylweddol’ yng Ngogledd Cymru ac yn y De Orllewin, a
24% yng Nghanolbarth Cymru), ac eithrio’r De Ddwyrain ble ystyriwyd bod iddynt lai o effaith (4%).
Sefydliadau yng Ngogledd Cymru oedd fwyaf tebygol o gael un aelod staff neu ragor oedd ag unrhyw
sgiliau iaith Cymraeg (81%). Disgrifiwyd bod gan tua dwy ran o bump o’r staff yng Ngogledd Cymru sgiliau
iaith Cymraeg (39%), ac mae hynny yn adlewyrchu crynodiad uchel o siaradwyr Cymraeg yng Ngogledd
Orllewin Cymru, ac roedd staff yng Nghanolbarth Cymru hefyd yn debygol o fod â sgiliau iaith Cymraeg
(38%).
O ofyn a fyddai gwell sgiliau yn fuddiol i’r sefydliad, adroddodd tua hanner y sefydliadau yng Ngogledd
Cymru naill ai bod gan eu holl staff sgiliau uwch (16%), neu eu bod yn teimlo y byddent yn elwa o gael mwy
o staff fyddai’n gallu cyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg (33%). I’r gwrthwyneb, dim ond 1% o gyflogwyr
yn y De Ddwyrain ddywedodd bod gan eu holl staff sgiliau uwch yn barod, ac roedd tua chwarter (24%)
yn credu y byddent yn elwa o gael staff oedd â sgiliau uwch mewn Cymraeg. Y prif fuddion tybiedig i’r
sefydliadau o gael gwell sgiliau Cymraeg oedd gwell gwasanaeth cwsmeriaid (40% yn Ne Ddwyrain Cymru,
56% yng Ngogledd Cymru, 57% yng Nghanolbarth Cymru a 65% yn y De Orllewin) ac y byddai’n eu helpu i
ennill busnes newydd (19% yn Ne orllewin Cymru, 22% yng Ngogledd Cymru, 23% yng Nghanolbarth Cymru,
a 33% yn y De Ddwyrain).
Cyflogwyr yng Ngogledd Cymru oedd fwyaf tebygol o nodi bod argaeledd sgiliau iaith Cymraeg mewn
ymgeiswyr am swyddi allweddol yn dda (44%, pedwar neu bump allan o bump, 30% yng Nghanolbarth
Cymru, 24% yn Ne orllewin Cymru, a 10% yn Ne Ddwyrain Cymru). Mae yna batrwm tebyg mewn perthynas
ag ansawdd sgiliau iaith Cymraeg; cyflogwyr yng Ngogledd a Chanolbarth Cymru oedd fwyaf tebygol o fod
â safbwyntiau cadarnhaol am y farchnad lafur (49% a 39% yn ôl eu trefn).
Cyflogwyr yng Ngogledd Cymru oedd fwyaf tebygol o fod â dealltwriaeth dda o ddeddfwriaeth mewn
perthynas â’r Iaith Gymraeg yn y gweithle (11%, a chyflogwyr yn y De Ddwyrain yn llai tebygol na rhai mewn
rhanbarthau eraill, gyda 6%).
YR IAITH GYMRAEG YN Y GWEITHLE
50
YR IAITH GYMRAEG YN Y GWEITHLE
Cynllun Sgiliau a Chyflogaeth Rhanbarthol ar gyfer Gogledd Cymru (2017):
Mae natur ddwyieithog llawer yn ein gweithlu yng Ngogledd Cymru yn cael ei ystyried fel elfen gadarnhaol
na all rhanbarthau eraill ei efelychu. I gyflogwyr, mae’r sgil ychwanegol yma o allu gweithio gyda dwy neu
ragor o ieithoedd yn cael ei ystyried yn gynyddol fel ased y gellir ei farchnata’n fewnol ac yn allanol er
mwyn gwella’r busnes. Mae nifer o’n busnesau micro llai ac entrepreneuriaid yn hyrwyddo’r defnydd o’r
Gymraeg fel rhan o’u gweithgareddau busnes dyddiol.
Yr Iaith Gymraeg a’r Gweithle
Dr Teresa Crew, Prifysgol Bangor
Bu i ymchwil a gynhaliwyd gan Dr Teresa Crew, Prifysgol Bangor i sgiliau
iaith Cymraeg fel gofyniad ar gyfer swyddi graddedig yng Ngogledd
Cymru, ganfod bod rhwng 55-57% o swyddi gwag graddedig lleol, a
ddadansoddwyd dros dri chyfnod gwahanol o 2012 i 2015, yn cynnwys sgiliau iaith Cymraeg fel rhan o’r meini
prawf dethol.
Yn 2015, nododd 57% eu bod yn hanfodol, 32% yn ddymunol, 5% yn fanteisiol ac roedd 5% angen ‘dealltwriaeth
o ddiwylliant Cymreig’. Yn 2015, yng Ngogledd Orllewin Cymru yr oedd yr angen mwyaf am sgiliau iaith
Cymraeg (57%) o’i gymharu â Gogledd Ddwyrain Cymru (43%), ac yng Ngogledd Orllewin Cymru yr oedd
y nifer mwyaf o swyddi a nododd bod sgiliau iaith Cymraeg yn hanfodol neu’n fanteisiol. Yng Ngogledd
Ddwyrain Cymru roedd sgiliau iaith Cymraeg yn fwy tebygol o gael eu cynnwys fel sgiliau dymunol. Fel rhan
o’r ymchwil, gofynnwyd i gyflogwyr lleol am eu safbwyntiau ynghylch sgiliau iaith Cymraeg. Yn ôl cyflogwr
awdurdod lleol, mae sgiliau iaith Cymraeg yn bwysig yng Ngogledd Orllewin Cymru oherwydd y nifer uchel o
siaradwyr Cymraeg, ac ystyrir bod y sgiliau yma yn fanteisiol hefyd yng Ngogledd Ddwyrain Cymru oherwydd
niferoedd is. Yn ôl cyflogwr o gwmni preifat, gall cyflogi siaradwyr Cymraeg fod yn ffordd o wella gwasanaeth
cwsmeriaid oherwydd y gall cwsmeriaid ddefnyddio eu dewis iaith.
Hefyd gofynnwyd i raddedigion Cymraeg am eu safbwyntiau ynghylch sgiliau iaith Cymraeg. Roedd un o’r
graddedigion yn ystyried bod sgiliau iaith Cymraeg yn ased sylweddol yn y farchnad lafur, oherwydd bod
sgiliau iaith Cymraeg wedi bod yn ffactor allweddol mewn nifer o geisiadau llwyddiannus am swyddi. Roedd
un arall o’r graddedigion yn gweithio i awdurdod lleol ble’r oedd y gallu i siarad Cymraeg yn fantais benodol.
Roedd graddedigion eraill yn bryderus nad oeddent efallai yn gallu ysgrifennu Cymraeg ‘mewn arddull
broffesiynol’, nad oeddent yn gallu siarad ‘Cymraeg academaidd’, neu eu bod yn siarad gwahanol ‘fath’ o
Gymraeg adref ac nid ‘Cymraeg crand’. Ni fuasai rhai graddedigion yn ymgeisio am swyddi a nodai fod sgiliau
iaith Cymraeg yn hanfodol, oherwydd nad oedd ganddynt ddigon o hyder neu eu bod yn credu bod y swyddi
wedi eu hanelu at siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf yn hytrach na dysgwyr.
Yn ôl yr astudiaeth, roedd y ffactorau fyddai’n annog y graddedigion hyn i ymgeisio am swyddi â meini prawf
yn gysylltiedig â siarad Cymraeg yn cynnwys:
• Dysgwyr Cymraeg yn cael eu hannog i ymgeisio
• ‘Profion’ iaith mewn cyfweliadau i gynnwys sgyrsiau syml
YR I
AIT
H G
YMR
AEG
YN
Y G
WEI
THLE
51
YR I
AIT
H G
YMR
AEG
YN
Y G
WEI
THLE
• Trafodaeth ynghylch sut y byddai angen defnyddio eu sgiliau iaith Cymraeg
• Cyflogwyr yn annog defnyddio cyfleusterau cyfieithu wrth ysgrifennu adroddiadau polisi ayb.
Polisi iaith Gymraeg yn y Gweithle
Dr Elisabeth Barakos, Prifysgol Aston
Bu i ymchwil gan Dr Elisabeth Barakos, Prifysgol Aston, i bolisi Iaith
Gymraeg yn y Gweithle, ganfod bod yna gefnogaeth gadarnhaol
i’r Iaith Gymraeg mewn busnes, ond yn aml roedd rôl yr iaith yn
“docenisitiaeth” yn unig. Yn ôl yr astudiaeth, mae busnesau yn
gwerthfawrogi’r iaith fel adnodd economaidd o sylwedd.
Bu i holiadur a atebwyd gan BBaCh a chwmnïau mawr ar draws Cymru
ganfod bod polisi iaith penodol yn arwain at effaith gadarnhaol ar
ddwyieithrwydd corfforaethol, gyda chanran uwch o fusnesau sydd
â pholisi iaith yn ymarfer dwyieithrwydd mewn meysydd mewnol ac
allanol, o’i gymharu â busnesau heb bolisi iaith.
YR IAITH GYMRAEG YN Y GWEITHLE
52
YR IAITH GYMRAEG YN Y GWEITHLE
Yn ystod y cyfweliadau a gynhaliwyd yn ystod yr astudiaeth, canfuwyd bod busnesau yn defnyddio’r Iaith
Gymraeg fel rhan o’u brandio, gan ymgorffori’r Gymraeg fel rhan o’u gwerthoedd sefydliadol. Bu i un o’r
busnesau a gyfwelwyd, Maes Awyr Caerdydd, restru rhai o’r buddion posibl sy’n deillio o gefnogi a hyrwyddo’r
Gymraeg, sef gwella ansawdd gwasanaeth cwsmeriaid, denu cwsmeriaid newydd, meithrin ffyddlondeb
cwsmeriaid, ennill mantais o’i gymharu â chystadleuwyr a gwella cysylltiadau cyhoeddus. Canfuwyd
bod polisïau iaith gwirfoddol yn dilyn ymagwedd o liniaru tuag at
ddwyieithrwydd corfforaethol a’u bod ond yn dyheu i roi dewis ieithyddol
llawn.
Casglodd yr astudiaeth bod y gweithle yn cynrychioli “posibiliadau
newydd allweddol ar gyfer hyrwyddo iaith, grymuso a defnyddio
iaith.” Mae’r sector preifat yn defnyddio ymagwedd wirfoddol tuag at
ddwyieithrwydd, a mae hynny yn caniatáu lliniaru polisïau iaith a mwy
o reolaeth ar ddwyieithrwydd yn amrywiol feysydd y busnes. Ar hyn o
bryd mae ymagweddau corfforaethol tuag at yr Iaith Gymraeg naill ai’n
laissez-faire neu’n rhwymedigaeth. Hefyd, bu i’r astudiaeth ddangos bod
“ideoleg o ddwyieithrwydd llawn yn creu mwy o ffiniau rhwng Cymraeg a
Saesneg.”
O ystyried cymwysiadau a goblygiadau polisi Iaith Gymraeg, mae angen rhwydwaith cymorth tryloyw ar gyfer
busnesau a mwy o gydweithredu rhwng y Llywodraeth a’r sector preifat. Mae angen i Lywodraeth Cymru
gynnal trafodaethau ynghylch polisïau Iaith Gymraeg gwirfoddol a gorfodol, ac egluro pa adnoddau Cymraeg
sydd ar gael i fusnesau dwyieithog. Mewn perthynas â pholisïau iaith, byddai nifer uwch yn darparu fframwaith,
ac ni ddylid ystyried y Gymraeg fel elfen “ategol” ond fel cyfrwng hyfyw o gyfathrebu mewn busnes.
Adnabod a Defnyddio Sgiliau Presennol Staff (Iaith ar Daith)
Pa sgiliau Iaith Cymraeg sydd yn bodoli yn y gweithle?
Canfyddiadau Iaith ar Daith
Rhwng Rhagfyr 2016 a Mawrth 2017, bu i RHD Consultancy gynnal Iaith ar Daith, sef
prosiect oedd yn edrych ar sgiliau Iaith Cymraeg oedd yn bodoli yn y gweithle, a
chynnal archwiliadau o sgiliau corfforaethol ar gyfer ystod eang o sefydliadau yn y
sector cyhoeddus. Roedd y prosiect yma yn ymchwilio i faint o’r staff yn y gweithle oedd yn meddu eisoes ar
sgiliau iaith Cymraeg, a sut oeddent yn cael eu defnyddio. Roedd y prosiect yn pwysleisio pwysigrwydd deall
y sgiliau iaith oedd yn bodoli yn y gweithle a defnyddio’r rhain er mwyn gwella gwasanaethau. Ar ôl archwilio
sgiliau, cyflwynwyd adroddiad i’r sefydliadau ar sgiliau iaith Cymraeg eu staff yn seiliedig ar 4 categori sgil iaith,
sef dealltwriaeth, darllen, ysgrifennu a siarad. Bu i’r prosiect ganfod bod gan nifer fawr o’r gweithlu beth sgiliau
iaith Cymraeg, ac roedd llawer o’r rhai hynny ar lefel uwch. Fodd bynnag, dylid nodi bod hynny o ganlyniad i’r
sampl, ac y gallai’r asesu fod wedi denu gweithwyr gyda’r sgiliau yma a rhai oedd yn dymuno gwella’r sgiliau
yma. Methodoleg - Echdynnwyd y data o sampl o weithleoedd yn y sector cyhoeddus yn Ne Cymru. Roedd yn
sampl strategol yn hytrach nag un ar hap, ac felly nid yw’n gynrychioliadol o’r boblogaeth.
YR I
AIT
H G
YMR
AEG
YN
Y G
WEI
THLE
53
CASGLIADAU
CA
SGLI
AD
AU
• Mae yna ymdrechion yn cael eu gwneud yn eang ar hyd a lled y rhanbarth i hyrwyddo,
datblygu a chynyddu’r boblogaeth o siaradwyr Cymraeg.
• Mae yna enghreifftiau o arferion da ar draws y rhanbarth ble mae mentrau rhagorol yn
llwyddo i hyrwyddo a cynyddu’r boblogaeth o siaradwyr Cymraeg.
• Mae angen ymchwil gyda mwy o ffocws ar yr Iaith Gymraeg yn y rhanbarth er mwyn dangos
deilliannau ac effeithiau mentrau ac ymdrechion.
• Mae yna gyfle i wneud mwy o waith mewn partneriaeth a chydweithredu ar draws y
rhanbarth er mwyn gweithio tuag at nodau cyffredin a rhannu llwyddiannau. Mae newidiadau
trawsnewid yn ddibynnol ar y sefydliadau gwahanol yn cydweithio i gyrraedd a rhannu’r nod.
• Mae yna brinder data penodol mewn perthynas â’r farchnad lafur a sectorau diwydiant, yn
rhanbarthol a chenedlaethol.
• Ac eithrio data Cyfrifiad 2011, mae yna brinder data credadwy, cyfredol a chynhwysfawr
mewn perthynas â gwahanol agweddau o’r iaith Gymraeg.
• Ychydig o wybodaeth sy’n bodoli ynghylch sut mae ysgogiadau rhanbarthol yn
dylanwadu ar bolisi cenedlaethol.
• Nid oes yna unrhyw awgrym o gost a budd economaidd o ganlyniad i hyrwyddo a
datblygu, a mentrau sy’n gysylltiedig â’r Iaith Gymraeg i gyflogwyr.
• Mae yna alw ar bobl â sgiliau Iaith Cymraeg i sicrhau bod raid i sefydliadau cyhoeddus
fodloni gofynion Safonau’r Iaith Gymraeg.
• Mae Cymraeg 2050: Miliwn o Siaradwyr Cymraeg yn darparu cyfle a her i ddiwygio darpariaeth addysg
cyfrwng Cymraeg a dwyieithog ôl-16 er mwyn sicrhau y gall pobl ifanc barhau i ddatblygu eu sgiliau
dwyieithog ar ôl gadael addysg.
• Mae yna ddisgwyliadau a chyfrifoldebau mawr ar ysgolion a’r sector addysg. Mae’r pontio o ysgol
gynradd i'r ysgol uwchradd yn hanfodol o ran cynorthwyo disgyblion i gynnal eu sgiliau iaith Cymraeg. Y
cyfnod pontio o’r ysgol gynradd i’r ysgol uwchradd yw’r cyfnod pan fo nifer o oedolion ifanc yn colli eu
sgiliau iaith Cymraeg.
• Mae’n bwysig sicrhau bod yna gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg yn y gwaith, yn unol â
tharged Llywodraeth Cymru o gynyddu canran y boblogaeth sy’n siarad Cymraeg yn ddyddiol, ac sy’n
gallu siarad mwy nag ychydig eiriau Cymraeg yn unig, o 10% i 20% erbyn 2050.
54
ARGYMHELLION
YMGYNGHORI GYDA PHARTNERIAID AR YR ARGYMHELLION
“Mae angen i ni ddod o hyd i egni newydd, cynllunio mewn modd
systematig a gwella sut rydym yn cydweithredu er mwyn sicrhau
etifeddiaeth haeddiannol i’n hiaith.”
Y Gwir Anrh. Carwyn Jones AC Prif Weinidog Cymru
Mae’r argymhellion yr adroddiad am gael eu trafod mewn cynhadledd ranbarthol ar y 11eg o
Ebrill 2018, gyda sefydlaidau o wahanol sectorau sydd wedi cyfrannu at yr adroddiad, yn ogystal
â rhanddeiliaid eraill a’r Bartneriaeth Sgiliau. Canlyniad yr adroddiad a’r gynhadledd fydd anelu
at ymrwymiad rhanbarthol i gymryd camau gweithredu ar y cyd fydd yn ategu at weledigaeth
Llywodraeth Cymru o gyrraedd y targed o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
PARTNERIAID RHANBARTHOL YN GWEITHREDU AC YN RHANNU CYFRIFOLDEB
• A oes gwerth i sefydlu fforwm rhanbarthol er mwyn cydlynu ymdrechion y rhanbarth wrth hyrwyddo a
datblygu nifer y siaradwyr Cymraeg yng Ngogledd Cymru?
• Sut allem gyfathrebu’n fwy effeithiol i adeiladu ar, a rhannu arferion da, osgoi dyblygu, rhannu adnoddau,
arbenigedd a chostau?
• A fyddai'n bosib i ni fel rhanbarth, fonitro cynnydd a cherrig milltir, herio, cefnogi a mesur llwyddiant -
mewn ffordd gydweithredol?
• Darparu gwybodaeth a negeseuon clir i ddisgyblion ac athrawon yn ein hysgolion a cholegaufydd yn
ychwanegu gwerth a pherthnasedd i’w hymdrechion o bersbectif economaidd a
phersbectif y farchnad lafur.
• Casglu, mesur a rhannu buddion economaidd yr Iaith Gymraeg i’r rhanbarth.
• Clustnodi adnoddau i gynnal yr ymchwil a’r data sydd ei angen mewn perthynas â anghenion sgiliau’r
iaith Cymraeg yn y sectorau allweddol a’r sectorau twf Gogledd Cymru.A
RG
YMH
ELLI
ON
55
CYDNABYDDIAETHAU
CYD
NA
BYD
DIA
ETH
AU
DIOLCH I’R CANLYNOL AM EU CYFRANIADAU:
Katie Edwards, Ffion Jones, Iwan Thomas – BUEGC – Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol
Alison Atkinson - Cydweithredfa Gwella Gwasanaethau Gofal a Llesiant Gogledd Cymru
Alun Jones – Menter a Busnes
Andrew Marubbi – Coleg Cambria
Andy Reece-Jones, Rhian Jones – Ifor Williams Trailers
Meri Huws, Anna Rolewska, Lowri Williams – Comisiynydd y Gymraeg
Chris Hayward, Sian Price – Banc Datblygu Cymru
Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Crofton Davey – Gwasanaeth Bwyd Harlech
Dr Elisabeth Barakos - Prifysgol Aston
Dr Teresa Crew - Prifysgol Bangor
Eleri Hughes-Jones - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Esyllt Maelor, Alwyn Jones – GwE
Ffiona Williams, Nerys Bourne – Gyrfa Cymru
Prifysgol Glyndŵr University
Hannah Barratt – Zip World
Joanna Marston - Pennaeth Lleihau Aildroseddu, HMP Y Berwyn
Kevin Pascoe – Y Brifysgol Agored
Mandy Evans - Alun Griffiths (Contractwyr) Ltd
Margaret Watkins – Cyngor Sir Ddinbych
Meic Raymant – Heddlu Gogledd Cymru
Rachel Bowen, Claire Roberts – ColegauCymru
Rachel Heath-Davies – RHD Consultancy
Richard Evans – Llywodraeth Cymru
Sasha Wynn Davies, Pennaeth Datblygu Strategol, Horizon
Richard Foxhall – Pŵer Niwclear Horizon
Rob Saunders – Daydream Designs
Ruth Collinge – Hyfforddiant Gogledd Cymru
Ryan Evans – FfHCC/ NTfW
Sophie Martin, Clive Thomas – Grŵp Llandrillo Menai
56
MWY O WYBODAETH
Anna Rolewska. 2017. Sefyllfa’r Iaith Gymraeg mewn Rhaglenni Prentisiaeth yng Nghymru [Ar-lein].
Caerdydd: Comisiynydd yr Iaith Gymraeg Ar gael yn: http://www.comisiynyddygymraeg.cymru/English/
Publications%20List/20171114%20S%20Nodyn%20briffio%20Prentisiaethau%20FERSIWN%20TERFYNOL.
pdf. Mynediad ar 8 Rhagfyr 2017.
Prifysgol Bangor. 2015. hAPPy to Learn Welsh! [Online]. 12 June 2015. Ar gael yn: https://www.bangor.
ac.uk/news/university/happy-to-learn-welsh-23127. Mynediad ar 14 Mehefin 2016.
Barakos, E. 2016. Polisi Iaith Gymraeg yn y Gweithle. Cynhadledd Grŵp Thematig Iaith, Diwylliant a
Hunaniaeth ar yr Iaith Gymraeg a’r Gweithle WISERD. [Ar-lein]. Bangor, 23 Mai 2016. Ar gael yn: http://www.
wiserd.ac.uk/files/4314/6781/1774/Resource_WelshAndWorkplace_EB.pdf. Mynediad ar 21 Awst 2017.
Brennan, S. 2017. Welsh-medium school for hundreds of kids could come to Wrexham. Daily Post: [Ar-
lein]. 13 Medi 2017. Ar gael yn: http://www.dailypost.co.uk/news/welsh-medium-school-hundreds-
kids-13612949. Mynediad ar 22 Medi 2017.
Cyfrifiad, Y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Crew, T. 2016. Y math cywir o Gymraeg. Deilliannau graddedigion mewn gwlad ddatganoledig. Cynhadledd
Grŵp Thematig Iaith, Diwylliant a Hunaniaeth ar yr Iaith Gymraeg a’r Gweithle WISERD. [Ar-lein]. Bangor,
23 Mai 2016. Ar gael yn: http://www.wiserd.ac.uk/files/6614/6781/1900/Resource_WelshAndWorkplace_
TC.pdf. Mynediad ar 9 Mai 2017.
Crump, E. 2017. NHS employs tutor to teach staff to speak Welsh to patients. Daily Post: [Ar-lein]. 22
Chwefror 2017. Ar gael yn: http://www.dailypost.co.uk/news/north-wales-news/betsi-welsh-nhs-
melangell-gruffydd-12636594. Mynediad ar 16 Mai 2017.
Crump, E. 2017. North Wales health board and Welsh language group join forces to address 'real need' for
better bilingual care. Daily Post: [Ar-lein]. 13 Mawrth 2017 Ar gael yn: http://www.dailypost.co.uk/news/
north-wales-news/north-wales-health-board-welsh-12720438. Mynediad ar 16 Mai 2017.
Cyngor Sir Ddinbych. 2017. Yr Iaith Gymraeg mewn Busnes. Datblygiad Economaidd yn Sir Ddinbych. [Blog].
1 Awst 2017. Ar gael yn: https://econdevdcc.wordpress.com/2017/08/01/welsh-in-business-2/.
Mynediad ar 1 Awst 2017.
MW
Y O
WYB
OD
AET
H
57
MWY O WYBODAETH
MW
Y O
WYB
OD
AET
H
Donaldson, G. 2015. Dyfodol Llwyddiannus: Adolygiad Annibynnol o’r Cwricwlwm a’r Trefniadau Asesu
yng Nghymru [Ar-lein]. Caerdydd: Llywodraeth Cymru. Ar gael yn: http://gov.wales/docs/dcells/
publications/150225-successful-futures-en.pdf. Mynediad ar 24 Hydref 2017.
Estyn 2017a. Dysgu ac Addysgu Cyfrwng Cymraeg a Dwyieithog mewn Addysg Bellach [Ar-lein]. Caerdydd:
Estyn Ar gael yn: https://www.estyn.gov.wales/thematic-reports/welsh-medium-and-bilingual-teaching-and-
learning-further-education. Mynediad ar 13 Mehefin 2017.
Estyn. 2017b. Strategaethau ar gyfer cynyddu’r defnydd o’r Iaith Gymraeg ymysg dysgwyr ar bob lefel. [Ar-
lein]. Ar gael yn: https://www.estyn.gov.wales/effective-practice/strategies-increasing-use-welsh-language-
learners-all-levels. Mynediad ar 31 Hydref 2017.
First Minister Opens Coleg Cambria’s New Welsh Language at Work Hub. Wrexham.com. [Ar-lein]. 23 Hydref
2015. Ar gael yn: http://www.wrexham.com/news/first-minister-opens-coleg-cambrias-new-welsh-language-
at-work-hub-102052.html. Mynediad ar 14 Mehefin 2016.
Prifysgol Glyndŵr. 2016. Partneriaeth newydd yn cadarnhau ymrwymiad i’r Iaith Gymraeg ym Mhrifysgol Glyndŵr
Wrecsam. [Ar-lein]. 21 Tachwedd 2016. Ar gael yn: https://www.glyndwr.ac.uk/en/AboutGlyndwrUniversity/
Newsandmediacentre/Newsarchive/PressReleases2016/ColegCymraeg/. Mynediad ar 16 Mai 2017.
Grŵp Llandrillo-Menai. n.d. Sgiliaith. [Ar-lein]. Ar gael yn: http://sgiliaith.llandrillo.ac.uk/.
Mynediad ar 16 Mai 2017.
Cofnod myfyrwyr addysg uwch, Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch.
Hywel Iorwerth. 2017. Gofal Plant a darpariaeth Addysg Blynyddoedd Cynnar Cyfrwng Cymraeg [Ar-lein].
Caerdydd: Comisiynydd yr Iaith Gymraeg Ar gael yn: http://senedd.assembly.wales/documents/s69349/
Paper%205.pdf. Mynediad ar 11 Rhagfyr 2017.
IFF Research, Old Bell 3 ac Iaith. 2014. Anghenion Sgiliau Iaith Cymraeg mewn Wyth Sector [Ar-lein]. Caerdydd:
Llywodraeth Cymru. Adroddiad Ymchwil Cymdeithasol 47/2014. Ar gael yn: http://gov.wales/docs/caecd/
research/2014/140429-welsh-language-skills-needs-eight-sectors-en.pdf.
Mynediad ar 16 Mehefin 2016.
Cofnod Dysgu Gydol Oes, Llywodraeth Cymru.
Lloyd-Williams, A. 2016. Dwyieithrwydd a Chydraddoldeb GLLM Bilingualism and Equality #6. [E-bost].
Anfonwyd 4 Gorffennaf 2016. Mynediad ar 4 Gorffennaf 2016.
Meic Raymant. 2015. Heddlu Gogledd Cymru a Dwyieithrwydd. [Llawlyfr]. n.p.: Heddlu Gogledd Cymru.
58
MWY O WYBODAETH
Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru. 2015. Cynllun Sgiliau a Chyflogaeth Rhanbarthol ar gyfer
Gogledd Cymru. Heb ei gyhoeddi.
Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol Lefel Disgyblion (PLASC), Llywodraeth Cymru.
RHD Consultancy. 2017. Adnabod a Defnyddio Sgiliau Presennol Staff. [Ar-lein]. 13 Ebrill 2017
Ar gael yn: http://rhdconsultancy.co.uk/identifying-and-utilising-existing-staff-skills/.
Mynediad ar 28 Mehefin 2017.
Ryan Evans. 2015a. Arferion Da wrth Ddarparu Cymwysterau Galwedigaethol Dwyieithog a Chyfrwng Cymraeg
- Llawlyfr ar gyfer Darparwyr Dysgu Seiliedig ar Waith [Ar-lein]. Caerdydd: Ffederasiwn Hyfforddi Cenedlaethol
Cymru. Ar gael yn: https://www.ntfw.org/documents/bilingual-champion/PBWVQ-Ebook-EN.pdf. Mynediad
ar 2 Rhagfyr 2017.
Ryan Evans. 2015b. Arferion Da wrth Ddarparu Cymwysterau Galwedigaethol yn Ddwyieithog a Thrwy Gyfrwng
y Gymraeg - Llawlyfr ar gyfer Darparwyr Dysgu Seiliedig ar Waith. [Ar-lein]. Caerdydd: Ffederasiwn Hyfforddi
Cenedlaethol Cymru. Ar gael yn: https://www.ntfw.org/documents/bilingual-champion/PBWVQ-Ebook-CY.
pdf. Mynediad ar 12 Rhagfyr 2017.
Students Take Part in Welsh Language & Health Workshop at Coleg Cambria. Wrexham.com. [Ar-lein]. 16 Ebrill
2017 Ar gael yn: http://www.wrexham.com/news/students-take-part-in-welsh-language-health-workshop-at-
coleg-cambria-111801.html. Mynediad ar 16 Mai 2017.
Llywodraeth Cymru. 2016. Sut ydych yn mesur cynnydd cenedl? Dangosyddion Cenedlaethol Cymru. [Ar-lein].
Caerdydd: Llywodraeth Cymru. Rhif: WG26817. Ar gael yn: http://gov.wales/docs/desh/publications/160316-
national-indicators-to-be-laid-before-nafw-en.pdf. Mynediad ar 16 Ionawr 2018.
Llywodraeth Cymru. 2017a. Lansio cynlluniau i bron i ddyblu nifer y siaradwyr Cymraeg. [Ar-lein]. 11 Gorffennaf
2017. Ar gael yn: http://gov.wales/newsroom/welshlanguage/2017/ambitious-plans-to-almost-double-the-
number-of-welsh-speakers-launched/?lang=en. Mynediad ar 22 Medi 2017.
Llywodraeth Cymru. 2017b. Taro’r cydbwysedd iawn: cynigion ar gyfer Bil y Gymraeg [Ar-lein]. Caerdydd:
Llywodraeth Cymru. Rhif: WG32353. Ar gael yn:https://consultations.gov.wales/sites/default/files/
consultation_doc_files/170807-overview-welsh-language-bill-white-paper-en.pdf.
Mynediad ar 22 Medi 2017.
Llywodraeth Cymru. 2017c. Pwy sy’n fwy tebygol o ‘siarad Cymraeg’ a ‘siarad Cymraeg yn ddyddiol a mwy nag
ychydig eiriau yn unig’? (Dangosyddion Cenedlaethau’r Dyfodol 36 a 37). [Ar-lein]. Caerdydd: Llywodraeth
Cymru. Rhif Ymchwil Cymdeithasol: 11/2017 Ar gael yn: http://gov.wales/docs/caecd/research/2017/170301-
national-survey-who-more-likely-speak-welsh-en.pdf. Mynediad ar 16 Ionawr 2018.
Llywodraeth Cymru. 2017d. Y Gymraeg ym Myd Addysg: Cynllun Gweithredu 2017-21. [Ar-lein]. Caerdydd:
Llywodraeth Cymru. Rhif: WG33270. Ar gael yn: http://gov.wales/docs/dcells/publications/171212-welsh-in-
education-action-plan-2017-21-en.pdf. Mynediad ar 18 Rhagfyr 2017.
MW
Y O
WYB
OD
AET
H
59
MWY O WYBODAETH
MW
Y O
WYB
OD
AET
H
Llywodraeth Cymru. 2017e. Ymgynghoriad - crynodeb o ymatebion: Daioni Cyhoeddus a Chymru Ffyniannus -
Creu system PCET diwygiedig. [Ar-lein]. Caerdydd: Llywodraeth Cymru. Rhif: WG31891.
Ar gael yn: https://consultations.gov.wales/sites/default/files/consultation_doc_files/171204-building-a-
reformed-pcet-system-summary-of-responses-en.pdf. Mynediad ar 12 Rhagfyr 2017.
Llywodraeth Cymru. 2017f. ‘Alinio’r model prentisiaeth ag anghenion economi Cymru’ . [Ar-lein]. Caerdydd:
Llywodraeth Cymru. Rhif: WG30448. Ar gael yn: http://gov.wales/docs/dcells/publications/170206-app-
policy-plan-en-v3.pdf. Mynediad ar 11 Rhagfyr 2017.
Llywodraeth Cymru. 2017g. Cymraeg 2050: Miliwn o Siaradwyr Cymraeg. [Ar-lein]. Caerdydd: Llywodraeth
Cymru. Rhif: WG31851. Ar gael yn: http://gov.wales/docs/dcells/publications/170711-welsh-language-strategy-
eng.pdf. Mynediad ar 11 Rhagfyr 2017.
Comisiynydd yr Iaith Gymraeg 2016. Sefyllfa’r Iaith Gymraeg 2012-15: Adroddiad 5 Mlynedd Comisiynydd yr Iaith
Gymraeg. [Ar-lein]. Caerdydd: Comisiynydd yr Iaith Gymraeg
Ar gael yn: http://www.comisiynyddygymraeg.cymru/Cymraeg/Rhestr%20Cyhoeddiadau/Adroddiad%20
5-mlynedd%20-%205-year%20Report.pdf. Mynediad ar 24 Hydref 2017.
Comisiynydd yr Iaith Gymraeg 2017a. Hawliau’n Gwreiddio: Adroddiad Sicrwydd 2016-17 Comisiynydd y Gymraeg
[Ar-lein]. Caerdydd: Comisiynydd yr Iaith Gymraeg. Ar gael yn: http://www.comisiynyddygymraeg.cymru/
English/Publications%20List/20170926%20DG%20Adroddiad%20Sicrwydd%20terfynol%20Saesneg.pdf.
Mynediad ar 8 Rhagfyr 2017.
Comisiynydd yr Iaith Gymraeg 2017b. Ymchwil [Ar-lein].
Ar gael yn: http://www.comisiynyddygymraeg.cymru/hybu/en/research/Pages/research.aspx.
Mynediad ar 24 Ionawr 2018.
Arolwg o’r Defnydd o’r Iaith Gymraeg.
Gweithgor yr Iaith Gymraeg a Llywodraeth Leol. 2016. Iaith, Gwaith a Gwasanaeth Dwyieithog. [Ar-lein].
Caerdydd: Llywodraeth Cymru. Rhif: WG29085. Ar gael yn: Available at: http://gov.wales/docs/dsjlg/
publications/160614-language-work-bilingual-services-en.pdf. Mynediad ar 13 Rhagfyr 2017.
60
ATODIAD A
Cymharu Data’r Cyfrifiad
Y Cyfrifiad yw’r ffynhonnell wybodaeth orau mewn
perthynas â nifer y siaradwyr Cymraeg, oherwydd eu
bod yn rhoi’r darlun mwyaf cyflawn o’r gallu i siarad
Cymraeg ar draws Cymru.
Canran y siaradwyr Cymraeg 16-64 oed yn seiliedig
ar ddata’r Cyfrifiad
Ynys Môn
Yn ôl Cyfrifiad 2011, yng Ngogledd Cymru, gan Ynys Môn oedd y gyfran uchaf o rai 16-19 oed oedd yn siarad
Cymraeg, sef 71%, ond roedd hynny yn ostyngiad o 76.8% yn 2001.
Ar Ynys Môn, gallai 59.5% o rai 20-44 oed siarad Cymraeg yn 2011, oedd yn ostyngiad bychan o 60.1% yn 2001.
Roedd tua hanner y rhai 45-64 oed ar Ynys Môn yn gallu siarad Cymraeg yn 2011, sef 49.9%, oedd yn ostyngiad
o 52.6% yn 2001.
Gwynedd
Roedd cyfran fawr o rai 16-19 oed yng Ngwynedd yn gallu siarad Cymraeg, sef 68.8% yn 2011, er bod hynny yn
ostyngiad o 75.8% yn 2001.
Yng Ngwynedd mae’r ganran uchaf o rai 20-44 oed allai siarad Cymraeg, sef 64% yng Nghyfrifiad 2011, sy’n
ostyngiad o 68.1% yn 2001.
Yng Ngwynedd hefyd mae’r gyfran uchaf o rai 45-64 oed sy’n siarad Cymraeg, sef 59.4% yn 2011 a 60.6% yn
2001.
Ffynhonnell: Cyfrifiad - NOMIS Ffynhonnell: Cyfrifiad - NOMIS
ATO
DIA
D A
61
ATODIAD A
ATO
DIA
D A
Conwy
Yng Nghonwy, gallai 37.3% o rai 16-19 oed siarad Cymraeg yn 2011; ond roedd yn ostyngiad o 43.9% yn 2001.
Bu i ganran y rhai 20-44 oed yng Nghonwy allai siarad Cymraeg gynyddu ychydig, o 26.4% yn 2001 i 27.8%
yn 2011. Roedd canran y rhai 45-64 oed yng Nghonwy oedd yn gallu siarad Cymraeg wedi gostwng o 24.1%
yn 2001 i 20.7% yn 2011.
Sir Ddinbych
Yn Sir Ddinbych, gallai 29.9% o rai 16-19 oed siarad Cymraeg yn 2011, oedd yn ostyngiad o 34% yn 2001. Bu i
ganran y rhai 20-44 oed yn Sir Ddinbych allai siarad Cymraeg aros yn sefydlog, ar 22.3% yn 2011 a 22.6% yn
2001. Roedd canran y rhai 45-64 oed yn Sir Ddinbych oedd yn gallu siarad Cymraeg wedi gostwng o 21.5%
yn 2001 i 18.5% yn 2011.
Sir y Fflint
Yn Sir y Fflint, gallai 21.3% o rai 16-19 oed siarad Cymraeg yn 2011, oedd yn ostyngiad o 23.5% yn 2001.
Bu i ganran y rhai 20-44 oed yn Sir y Fflint allai siarad Cymraeg gynyddu ychydig, o 10% yn 2001 i 10.6% yn
2011.
Yn Sir y Fflint roedd y ganran isaf o rai 45-64 oed sy’n siarad Cymraeg yng Ngogledd Cymru, sef 7.3% yn
2011 a 7.8% yn 2001.
Wrecsam
Yn ôl Cyfrifiad 2011, yng Ngogledd Cymru, yn Wrecsam oedd y gyfran isaf o rai 16-19 oed oedd yn siarad
Cymraeg, sef 19.9%, ond roedd hynny yn gynnydd o 18.9% yn 2001.
Gan ddilyn y duedd gyffredinol, arhosodd y ganran o rai 20-44 oed yn Wrecsam oedd yn gallu siarad
Cymraeg yn sefydlog, sef 9.2% yn 2011 a 9.3% yn 2001; fodd bynnag yn y sir yma roedd y ganran isaf yng
Ngogledd Cymru.
Bu i ganran y rhai 45-64 oed yn Wrecsam allai siarad Cymraeg ostwng, o 10.5% yn 2001 i 8% yn 2011.
62
Cyfran yr ymatebwyr yng Nghyfrifiad 2011 a nododd eu bod yn gallu siarad Cymraeg
ATODIAD A
ATO
DIA
D A
63
ATODIAD B
ATO
DIA
D B
Cymraeg 2050
Gwireddu’r Weledigaeth
Mae ymateb i’r her o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yn galw am newidiadau pellgyrhaeddol.
Mae angen gwthio’r ffiniau a chymryd camau uchelgeisiol fel bod mwy o bobl yn dysgu a defnyddio’r
Gymraeg. Mae’r strategaeth hon yn adeiladu ar y sylfeini sydd eisoes yn eu lle ac yn ein symud ymlaen i’r
cam nesaf yn ein taith ieithyddol. Rydym wedi nodi tair thema strategol ar gyfer gwireddu’r
weledigaeth hon.
1. Cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg
2. Cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg
3. Creu amodau ffafriol – seilwaith a chyd-destun
Er mwyn llwyddo i wireddu’r weledigaeth bydd angen gweithredu o dan y tair thema, a deall y
gydberthynas rhyngddynt.
64