24
Cyflogwr Sut ydym ni’n mesur lan? Adroddiad Blynyddol a Hunanasesiad 2010/11

Annual Report 2010-11 (welsh)

Embed Size (px)

DESCRIPTION

Annual Report 2010-11 (welsh)

Citation preview

Page 1: Annual Report 2010-11 (welsh)

Cyflogwr

Sut ydym ni’n mesur lan?

Adroddiad Blynyddol aHunanasesiad 2010/11

Page 2: Annual Report 2010-11 (welsh)

2

Adroddiad Blynyddol a Hunanasesiad Cymdeithas Tai Taf 2010/11

Croeso gan y Cadeirydd a’r Prif Weithredydd

“Yn Taff rydym yn benderfynol i wireddu ein Gweledigaeth uchelgeisiol, o fod yn Ddarparwr, Partner a Chyflogwr o Ddewis.”Elaine Ballard

Dyma flwyddyn gyntaf dull gweithredu newydd Llywodraeth Cymru o reoleiddio Cymdeithasau Tai. Ers 2010 bu’n ofynnol i ni gynnal hunanasesiad ar fframwaith a elwir yn ‘Canlyniadau Cyflawni’. Mae rhai ohonynt yn ymwneud â’n rôl fel landlord a rhai’n ymwneud â’n perfformiad ariannol a’n trefniadau llywodraethu.

Yn ein hadroddiad blynyddol eleni, felly, fe wnaethom benderfynu rannu canfyddiadau ein hunanasesiad a gynhaliwyd ym mis Mai, gan ganolbwyntio’n bennaf ar ein gwasanaethau landlord a’n gwasanaethau cefnogaeth. Rhan fach o rôl landlord yw darparu gwasanaethau cefnogaeth yn y ddogfen ‘Canlyniadau Cyflawni’ ond i Taff, mae hyn yn rhan bwysig o’n busnes. Felly rydym hefyd yn adrodd ar sut ydym yn ‘mesur lan’ wrth gyflawni gwasanaethau i gleientiaid awdurdodau lleol yng Nghaerdydd, Casnewydd a Bro Morgannwg.

Yn yr Adroddiad Blynyddol yma rhoddwn atebion i gwestiynau fel ‘beth wnaethom ni?’, ‘pa mor dda?’, ‘pa wahaniaeth a wnaethom?’ ac rydym hefyd wedi ceisio darlunio’r hyn a wnawn gyda straeon ac adborth gan gwsmeriaid a rhanddeiliaid. Mae’r wybodaeth yn cyfeirio’n bennaf at y flwyddyn 2010/11 er bod rhai pethau a wnawn drwy’r flwyddyn, bob blwyddyn, oherwydd y credwn eu bod yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl.

Yn Taff rydym yn benderfynol i wireddu ein Gweledigaeth uchelgeisiol, o fod yn Ddarparwr, Partner a Chyflogwr o Ddewis – credwn y gwelwch ddigon o dystiolaeth i gefnogi hyn yn ein hadroddiad.

Hoffem ddiolch i’n holl staff ac Aelodau Bwrdd am helpu i:

• wneud ein cartrefi yn leoedd gwych i fyw ynddynt;• wneud ein sefydliad yn le gwych i weithio ynddo; ac• ein gwneud yn bartneriaid gwerthfawr i wneud

busnes â hwy.Simon Dawson & Elaine Ballard

Page 3: Annual Report 2010-11 (welsh)

Adroddiad Blynyddol a Hunanasesiad Cymdeithas Tai Taf 2010/11

3

Cefndir Cymdeithas Tai TaffSefydlwyd Taff fel Cymdeithas Tai gymunedol yn 1975, a bu’n gwasanaethu Caerdydd, yn enwedig Treganna, Grangetown a Glanyrafon, fel darparwr cartrefi ansawdd da ers hynny. Yn fwy diweddar daeth Taff yn ddarparwr uchel ei barch o Wasanaethau Cefnogaeth a gomisiynwyd gan Awdurdodau Lleol yn Ne Ddwyrain Cymru, yn ogystal â darparu cefnogaeth arbenigol a chyffredinol i’n Tenantiaid ein hunain.

Rydym heb os yn rhan o’r cymunedau

a wasanaethwn, a gweithiwn yn galed i drin pob unigolyn yn ôl eu hanghenion a’u dewisiadau. Mae’r ardaloedd y gweithiwn ynddynt yn amlddiwylliannol ac mae ganddynt gyfran uchel o bobl hy^n/anabl, felly mae ein gwasanaethau wedi datblygu i ddiwallu’r anghenion penodol hyn, yn ogystal â chynnwys gofynion tai a chefnogaeth mwy cyffredinol.

Rydym yn berchen ac yn rheoli tua 1200 o gartrefi, a gweithiwn gydag amrywiaeth o bartneriaid.

Tabl proffil stoc

Cyflogwn gyfanswm o 143 o staff cyfwerth â llawn-amser, llawer ohonynt yn gweithio’n hyblyg. Mae Taff yn un o’r 50 Uchaf o ‘Leoedd Gwych i Weithio’ ers 2006 gan fod yn 5ed yn gyffredinol ac yn 1af ar gyfer ‘Cydbwysedd Gwaith/Bywyd’ yn y Deyrnas Unedig yn 2011.

Mae gennym Weledigaeth syml, sy’n gyrru ein holl weithgaredd – anelwn fod yn ‘Ddarparwr, Partner a Chyflogwr o Ddewis’.

Maint Cartref 1 2 3 4 5+ Arall Cyfanswm

Adamsdown 1 10 12 23

Butetown 12 3 15

Treganna 7 97 118 75 19 5 22 343

Tyllgoed 1 26 6 4 37

Grangetown 1 100 75 69 32 25 302

Y Waun 3 12 15

Glanyrafon 10 148 95 73 39 31 8 404

Y Rhath 50 50

Prif Gyfanswm 22 429 292 243 96 61 46 1189

Page 4: Annual Report 2010-11 (welsh)

4

Adroddiad Blynyddol a Hunanasesiad Cymdeithas Tai Taf 2010/11

Sut wnaethom ni yn ein hunanasesiad?Roedd ein Hunan-asesiad yn cynnwys dau gam: yn gyntaf, swyddogion yn ‘casglu tystiolaeth’, yn dod ynghyd â’r holl dystiolaeth ddogfennol sy’n ein cynorthwyo i farnu’r hyn a wnaethom, a pha mor dda y gwnaethom hynny. Yn ail, fe wnaethom gynnal ‘Diwrnod Her’ lle medrodd Aelodau Bwrdd a Thenantiaid holi staff ar y dystiolaeth ac edrych arni’n fwy manwl, gan felly sicrhau fod y Bwrdd a defnyddwyr gwasanaeth yn cymryd rhan lawn yn y broses. Fe wnaethom hefyd gynnal sesiynau gwybodaeth fel rhan o’n dyddiau ‘Cymryd Rhan’ rheolaidd i sicrhau bod Tenantiaid yn deall y broses yr oeddem yn mynd drwyddi.

Ein Proses Cynllunio BusnesRoeddem yn awyddus i osgoi dyblygu gwaith, felly rydym wedi cyfuno’r gofyniad newydd am hunan-asesiad blynyddol i fod yn rhan o’n gweithgaredd Cynllunio Busnes ac adolygu arferol.

Mae ein cylch newydd fel a ganlyn:

Calendr Cynllunio Busnes 2011/12Mis Blaen-gynllunio AdolyguEbrill/Mai Cwblhau cyhoeddi’r Ddogfen Cynllun Busnes.

Ymestyn grwpiau newydd gyda staff, yn cynnwys diffinio canlyniadau a gwybodaeth prosiectau.

Adroddiad Canlyniad Cynllun Busnes a Diwrnod Her

Mehefin Cynghori Tenantiaid am flaenoriaethau’r Cynllun Busnes.

Gorffennaf Cynnal Arolygon Cwsmeriaid. (DB Arolwg Rhanddeiliaid i’w gynnal yn 2012; Arolwg staff nesaf i’w gynnal yn 2013).

Cynhyrchu ac archwilio Datganiadau Ariannol Blynyddol.

Awst Cynhyrchu Adroddiad Blynyddol

Medi Canlyniadau cyntaf yr Arolygon Cwsmeriaid, fydd yn bwydo i’r broses gynllunio islaw.

CCB, yn cynnwys adolygu’r flwyddyn flaenorol, cadarnhau cynlluniau ar y gweill ar gyfer y flwyddyn bresennol

Hydref-Rhagfyr

Casglu gwybodaeth am gyd-destun allanol a heriau newydd. Tîm Rheoli Gweithredol, Tîm Arweinyddiaeth a’r Bwrdd yn cael cyfres o gyfarfodydd i ddynodi materion a blaenoriaethau. Mewnbwn gan Randdeiliaid a Thenantiaid.

Adolygiad hanner blwyddyn o weithredu’r Cynllun Busnes.

Ionawr-Chwefror

Cyllideb a Chynllun Busnes Drafft, yn seiliedig ar y trafodaethau uchod.

Mawrth Cyllideb a Chynllun Busnes terfynol. Cynhadledd Staff i ddeall blaenoriaethau a rhoi mewnbwn ar sut i roi’r camau gweithredu ar waith.

Fe wnaethom gasglu’n llythrennol, gannoedd o ddogfennau fel rhan o’n tystiolaeth, ond mae tair ffynhonnell o wybodaeth a fu’n ganolog i’n Cynllunio Busnes am flynyddoedd lawer, sef yr arolygon sy’n helpu i brofi os ydym yn cyflawni ein Gweledigaeth o fod yn ‘Ddarparwr, Partner a Chyflogwr o Ddewis’. Mae’r arolygon hyn yn mesur ein canlyniadau ac yn dweud wrthym beth mae ein Cwsmeriaid, Rhanddeiliaid a Staff yn eu hystyried yn flaenoriaethau. Dywedant wrthym hefyd yr hyn a wnaethom yn dda a beth na wnaethom gystal. Rydym bob amser wedi defnyddio’r canlyniadau i greu cynlluniau gwella, sy’n ffurfio rhan o’n Cynllun Busnes blynyddol, ac rydym yn awr wedi defnyddio’r arolygon hyn yn helaeth i gynhyrchu ein Hunan-asesiad.

Page 5: Annual Report 2010-11 (welsh)

Adroddiad Blynyddol a Hunanasesiad Cymdeithas Tai Taf 2010/11

5

DyfarniadauMater i’r Bwrdd yw dyfarnu os yw’r Gymdeithas wedi cyflawni holl ofynion pob Canlyniad Cyflawni. Fe wnaethant hyn ar ddiwedd ein Diwrnod Her ym mis Mai. Nid yw Llywodraeth Cymru wedi nodi unrhyw system graddio i gael ei defnyddio, na rhoi unrhyw arweiniad ar y derminoleg.

Dan y drefn flaenorol, dyfarnodd arolygwyr annibynnol fod Taff yn ‘rhagorol’ mewn pum maes, ‘da’ mewn dau a ‘boddhaol’ mewn un. Dyma’r adroddiad adolygu gorau erioed dan y drefn honno.

Ar gyfer yr Hunan-asesiad yma, i gadw pethau’n syml (a hefyd oherwydd y teimlwn ei bod yn fwy addas fod ein cwsmeriaid, rhanddeiliaid a staff yn ein dyfarnu’n annibynnol), dewisodd y Bwrdd adlewyrchu graddfa Llywodraeth Cymru o ran Dyfarniadau Ariannol. Y rhain yw ‘pasio’, ‘pasio gyda monitro rheoleiddiol agosach’ neu ‘methu’.

Roedd y Bwrdd o’r farn fod y Gymdeithas wedi cyflawni holl ofynion y Canlyniadau Cyflawni ac mae eu dyfarniadau felly fel sy’n dilyn:

1. Rydym yn rhoi’r bobl sydd am ddefnyddio ein gwasanaethau wrth wraidd ein gwaith – gan roi’r dinesydd yn gyntaf.

Pasio

2. Rydym yn ymfalchïo yng ngwerthoedd y sector cyhoeddus drwy gynnal ein busnes â gonestrwydd ac uniondeb, ac yn dangos llywodraethu da drwy ein hymddygiad.

Pasio

3. Rydym yn sicrhau bod ein diben yn glir ac rydym yn cyflawni’r hyn a fwriadwyd gennym – gan wybod pwy sy’n gwneud beth a pham.

Pasio

4. Rydym yn fusnes ariannol cadarn a hyfyw. Pasio

5. Rydym yn ymgysylltu ag eraill i wella a sicrhau canlyniadau i ddefnyddwyr ein gwasanaethau a’r gymuned.

Pasio

6. Rydym yn adeiladu ac yn adnewyddu cartrefi i safon dda. Pasio

7. Rydym yn gosod cartrefi mewn ffordd sy’n deg, tryloyw ac effeithiol. Pasio

8. Rydym yn rheoli ein cartrefi’n effeithiol. Pasio

9. Rydym yn atgyweirio cartrefi ac yn eu cynnal a’u cadw mewn ffordd effeithlon, deg a chost-effeithiol.

Pasio

10. Rydym yn darparu gwasanaethau teg ac effeithlon i berchenogion. Pasio

Page 6: Annual Report 2010-11 (welsh)

6

Adroddiad Blynyddol a Hunanasesiad Cymdeithas Tai Taf 2010/11

Cynlluniau ar gyfer GwellaFel arfer caiff ein cynlluniau ar gyfer gwella eu bwydo i’n Cynllun Busnes, gyda’r broses yn dechrau ym mis Hydref, fel yr amlinellir ar dudalen 4. Bydd canlyniadau arolwg yn arbennig, yn sicrhau ein bod yn gwrando ac yn gweithredu ar flaenoriaethau Cwsmeriaid, Rhanddeiliaid a Staff. Ar adeg ysgrifennu (Mehefin 2011), rydym yn cynnal arolwg newydd ar Foddhad Cwsmeriaid gan holi ein Tenantiaid a defnyddwyr ein Gwasanaethau Cefnogaeth am y gwasanaethau a dderbyniant.

O ganlyniad i’r Diwrnod Her, dynodwyd rhai meysydd ychwanegol ar gyfer gwella. Gweithredwyd eisoes ar y rhan fwyaf ohonynt, ond bydd y rhai tymor hirach yn bwydo i mewn i Gynllun Busnes 2012/13.

Caiff y gwelliannau a awgrymir yn y Diwrnod Her eu rhestru islaw:

Camau gweithredu’n deillio o Hunanasesiad 2011

Rhif Canlyniad Number

Cam Gweithredu Statws

1 Cofnodi presenoldeb yn well mewn cyfarfodydd a digwyddiadau Partneriaeth Rhanddeiliaid.

Ar y gweill.

Paratoi erthygl cylchlythyr ar pam/sut y byddwn yn defnyddio Proffilio Tenantiaid.

Wedi Cwblhau. Rhifyn Haf 2011.

Gweld os medrwn roi rhif Rhadffôn ar gyfer Tenantiaid i gysylltu â Taff o ffonau symudol.

Ar y gweill.

Dilyn ein gwaith ar gynhwysiant digidol. Ar y gweill.

Rhoi mwy o gyhoeddiadau ar y wefan. Cyfredol.

2 Diweddaru hysbysfyrddau mewn fflatiau yn amlach. Wedi cwblhau/cyfredol.

Gosod paneli solar i ostwng ôl-troed carbon a gwneud biliau’n rhatach i Denantiaid. Hefyd ystyried cyfleoedd a roddir drwy incwm i Taff o baneli solar.

Ar y gweill.

Annog Hyfforddwyr Chwaraeon Cymunedol. Ar y gweill/cyfredol.

3 Cynnal gwerthusiadau ar gyfer ein Bwrdd. Ar y gweill

Sicrhau fod ein gwariant ar hyfforddiant yn ein helpu i adeiladu’r sgiliau rydym eu hangen ar gyfer y newidiadau i’n busnes.

Ar y gweill/cyfredol.

Cymharu faint o gartrefi newydd a adeiladwn yng nghyswllt y grant a dderbyniwyd.

Wedi cwblhau/cyfredol.

4 Diwygio Rheoliadau Ariannol. Cwblhawyd.

Diweddaru awdurdod caffaeliad/dirprwyedig. Ar y gweill.

Page 7: Annual Report 2010-11 (welsh)

Adroddiad Blynyddol a Hunanasesiad Cymdeithas Tai Taf 2010/11

7

Ein HadolygiadAr y tudalennau dilynol rydym yn adolygu ein perfformiadau o gymharu â’r Canlyniadau Cyflawni a hefyd yn adrodd ar beth o’r gwaith a wnaethom yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf. Ein ffocws yn y ddogfen yma yw ein gweithgaredd Landlord, Cymorth a Chymunedol - rydym yn cyhoeddi dogfen ‘Datganiadau Ariannol’ ar wahân gyda mwy o fanylion ar ein Perfformiad Ariannol a Llywodraethu.

5 Cynhyrchu casgliad o dalfyriadau a jargon i Aelodau Bwrdd. Cwblhawyd.

Adeiladu ar ein partneriaethau gyda Chynghorau Bro Morgannwg a Chasnewydd.

Ar y gweill.

Mynd â’n Hadroddiad Archwilio Cymdeithasol i’r Bwrdd. I’w gyflwyno yn yr Hydref.

Cynnal arolygon ar wasanaethau penodol yn ôl oedran, ethnigrwydd ac ati i weld fod pawb yn cael gwasanaeth teg.

Heb gychwyn.

6 Gweithio gyda Gwasanaethau Pobl Hy^n Cyngor Caerdydd i weld os medrwn eu helpu i ganfod datrysiadau.

Ar y gweill.

Hyrwyddo mwy ar ein Gwasanaethau Pobl Hy^n/Cefnogaeth. Cyfredol.

7 Cyfrif faint o Denantiaid sydd wedi aros gyda ni am fwy na 10 mlynedd.

Cwblhawyd.

Ein helpu i wella gweithrediad y Cyngor o’r Gofrestr Gyffredin (7.2).

Cwblhau cam 1af/cyfredol.

Mewnbwn i bolisi newydd y Cyngor ar ddyraniadau (7.4). Cyfredol.

Staff hy^n i ymweld â sampl o osodiadau. Heb gychwyn

8 Trefnu cyfarfodydd cynllun blynyddol. Heb gychwyn.

Gorffen a chwblhau ein Llawlyfr newydd. Ar y gweill.

Canlyniadau Gwasanaethau Cefnogi iw casglu o fis Ebrill 2011.

Ar y gweill.

9 Angen mwy o waith ar raddiadau SAP (effeithiolrwydd ynni). Ar y gweill.

Monitro’r tîm trydanol i weld sut maent yn gwella perfformiad.

Ar y gweill – canlyniadau cynnar yn dangos boddhad 100%.

Adolygu canlyniadau ein harolwg newydd Haf 2011. Medi 2011

Cwmnïau cyfleustod i fynychu dyddiau cofrestru grw^ p ar gyfer cynlluniau newydd.

Ar y gweill

Sicrhau fod Tenantiaid yn cwrdd â’n contractwr cynnal a chadw newydd a’u bod yn deall disgwyliadau Tenantiaid.

Cynhaliwyd cyfarfodydd dechreuol.

Cynnwys Tenantiaid wrth dendro ar gyfer contractwyr. Heb gychwyn

10 Ystyried cynnig gwasanaethau ychwanegol i lesddeiliaid. Heb gychwyn.

Page 8: Annual Report 2010-11 (welsh)

8

Adroddiad Blynyddol a Hunanasesiad Cymdeithas Tai Taf 2010/11

Rydym yn rhoi’r bobl sydd am ddefnyddio ein gwasanaethau wrth wraidd ein gwaith – gan roi’r dinesydd yn gyntaf

Beth wnaethom ni? Pa mor dda y gwnaethom hynny?

A gafodd unrhyw un fudd?

Mae gennym Safonau Gwasanaeth Cwsmeriaid clir.

Gwneud yn sicr ein bod yn gwybod sut moe Tenantiaid eisiau i ni gysylltu â hwy, a dechrau holi am eu hamgylchiadau ariannol, fel y medrem eu helpu i ymdopi gyda newidiadau mewn budd-daliadau.

Cynnal ‘gwiriad iechyd ariannol’ ar gyfer pob Tenant newydd a phawb sy’n mynd ar ôl gyda’u rhent.

Cynnal arolwg o’n Tenantiaid i weld faint oedd â mynediad i gyfrifiadur a band eang.

Mae ein Cymhorthwyr Stadau yn ei gwneud yn rhwydd i Denantiaid ofyn cwestiynau a throsglwyddo negeseuon.

Cyflwyno gwasanaeth cyfieithu newydd – ‘The Big Word’.

Cadw hysbysfyrddau ardaloedd cymunol ein cynlluniau yn gyfredol.

Cadw mewn cysylltiad drwy gylchlythyrau, ein gwefan a chyfarfodydd wyneb i wyneb.

Pan fydd cwsmeriaid yn dweud wrthym beth hoffent i ni ei wneud, rhoddwn wybod iddynt beth ydym wedi’i wneud (byrddau a gwefan – ‘Dywedoch chi, gwnaethom ninnau’)

Cofnodi a rhoi adroddiad i’r Bwrdd ar Gwynion a Chanmoliaeth.

Mae gennym amrywiaeth o ddulliau ymgynghori.

Mae gennym fanylion ariannol a dewis cysylltu mwy na 75% o’n Tenantiaid fel ein bod yn gwybod am y ffordd orau i’w helpu.

Cynnig gwasanaethau cyfieithu ar 31 achlysur pan ofynnwyd i ni, yn ogystal â defnyddio sgiliau iaith mewnol.

Rhoi 7 cyfrifiadur wedi’i ailgylchu ar ddechrau’r rhaglen cynhwysiant digidol.

Cynnal 54 digwyddiad Nôl i’r Sylfeini dros y flwyddyn.

702 o bobl wedi cymryd rhan yn ein digwyddiadau Nôl i’r Sylfeini yn ystod y flwyddyn.

Cynyddu nifer Grwpiau Ymgyfraniad Cwsmeriaid o 6 i 11.

Cynyddu nifer y Tenantiaid sy’n cymryd rhan yn rheolaidd o 44 i 128.

Arbed 3 aelwyd rhag colli eu cartrefi yn dilyn cymorth gan y tîm rhenti.

Y 23 digwyddiad plant a gynhaliwyd yn ystod gwyliau ysgol wedi gostwng costau i rieni, a helpu teuluoedd incwm isel i deimlo fod ganddynt fwy o ran.

Newidiadau a wnaethpwyd mewn ymateb i adborth gan gwsmeriaid wedi arwain at bethau fel rhoi cyfrifiaduron a ailgylchwyd i Denantiaid a sicrhau fod arian ar gael i greu ystafell adnoddau i Denantiaid.

Ein gwaith cefnogaeth wedi galluogi pobl i drin eu cyllid, cael gwaith neu hyfforddiant a delio gyda phroblemau perthynas neu faterion emosiynol eraill.

Gwella ansawdd bywyd y 151 o bobl oedd wedi dioddef o Ymddygiad Gwrthgymdeithasol.

“Mae cael y cyfrifiadur gan Taf wedi bod yn 100% defnyddiol i fy mab. Bu’n hanfodol; fyddwn i ddim wedi medru prynu cyfrifiadur iddo fel arall.”Christine Bolter ar ôl derbyn cyfrifiadur gan Taf

“Hoffwn ddweud diolch yn fawr iawn i Taf am drefnu’r cynllun Banciau Amser.”Evadne Langford

Page 9: Annual Report 2010-11 (welsh)

Adroddiad Blynyddol a Hunanasesiad Cymdeithas Tai Taf 2010/11

9

Beth wnaethom ni? Pa mor dda wnaethom ni hynny?

Cynnal llawer o ddigwyddiadau i’n cwsmeriaid a’r gymuned ehangach, yn cynnwys rhaglenni ar gyfer pobl ifanc yn ystod gwyliau ysgol.

Gofyn i Denantiaid sut yr hoffent gymryd rhan a sefydlu grwpiau diddordeb arbennig newydd e.e. Gweu a Chlonc, Garddio a Grymuso Menywod.

Caiff pob ‘Cynllun Cymorth’ a grëwn gyda chleient ei deilwra’n unigol at eu hanghenion.

Mae ein dull i ddelio gydag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn canolbwyntio ar y person – cytunwn ar gynlluniau gyda phob person ar ddechrau’r achos.

Gwobrwywyd ni gyda safon Ymddygiad Gwrthgymdeithasol gan y Cynulliad.

Sefydlu ‘Hyrwyddwyr Amrywiaeth’ ymysg ein staff.

Hyfforddi 9 Tenant Arolygydd i wirio ein gwasanaethau.

Cawsom 17 cwyn a 6 neges canmoliaeth - nid oedd angen i unrhyw gwynion fynd ymhellach na’r cam ‘ffurfiol’.

Cefnogi 239 o bobl ifanc yn ein prosiectau, gyda 80% ohonynt yn cwblhau eu pecyn cymorth yn llwyddiannus.

Delio gyda 175 adroddiad o Ymddygiad Gwrthgymdeithasol a 95% yn fodlon gyda’r cyngor a roddwyd.

“Dwi wrth fy modd; dwi erioed wedi bod mor brysur.”Sue Carleton ar gymryd rhan mewn grwpiau cwsmeriaid yn Taf

Mae Melanie yn dweud wrthym, yn ei geiriau ei hun, am yr effaith a gafodd cefnogaeth cysylltiedig â thai ar ei bywyd…

“Fy enw yw Melanie ac rwy’n byw ar ben fy hun yn fy fflat. Yn ddiweddar daeth fy holl fudd-daliadau i ben a doedd gen i ddim arian. Rwyf wedi bod yn teimlo’n isel a wyddwn i ddim ble i droi. Cefais fy nghyfeirio at Brosiect Goleudy yng Nghasnewydd sy’n cynnig cymorth fel sydd angen i bobl yn byw yn eu cartrefi eu hunain. Rwyf wedi bod yn cael cefnogaeth gan Sian, fy ngweithwraig cymorth (sy’n gweithio i Tai Taff) ers ychydig fisoedd erbyn hyn. Mae Sian wedi fy nghefnogi i gael trefn ar fy mudd-daliadau a biliau, yn ogystal â fy helpu gyda fy mhroblemau tai ac anghenion emosiynol. Mae Sian hyd yn oed wedi fy helpu i gael oergell newydd! Rwy’n teimlo’n gymaint mwy hyderus ers cael y cymorth gan Brosiect Goleudy. Rwy’n teimlo’n hyderus gwybod fod Sian yna ar ben arall y ffôn pan mae angen i mi siarad gyda hi i ofyn am help a chefnogaeth.”

“Dwi’n rhyfeddu at yr hyn sy’n digwydd yn Taff – bendith arnoch i gyd!”Pennaeth Ysgol Ffynnon Bywyd yn Nairobi ar ôl derbyn dillad yn gyfraniadau gan grw^ p diddordeb Gweu a Chlonc

Page 10: Annual Report 2010-11 (welsh)

10

Adroddiad Blynyddol a Hunanasesiad Cymdeithas Tai Taf 2010/11

Rydym yn ymfalchïo yng ngwerthoedd sector cyhoeddus drwy gynnal ein busnes â gonestrwydd ac uniondeb, ac yn dangos llywodraethu da drwy ein hymddygiad

Beth wnaethom ni? Pa mor dda wnaethom ni hynny?

Cyhoeddi Adroddiad Blynyddol bob blwyddyn.

Bob 3 blynedd, gofyn i’n Rhanddeiliaid pa mor dda y credant y gwnawn.

Bob 3 blynedd gofyn i’n Tenantiaid a Defnyddwyr Cefnogaeth pa mor dda y credant y gwnawn.

Diweddaru ein gwefan yn gyson.

Rydym yn agored am ein holl drafodion - cyhoeddwn ein Cofrestr Rhoddion a Lletygarwch ar-lein, yn ogystal â Datganiadau Diddordeb staff hy^n.

Rhoi crynodeb o bob cyfarfod Bwrdd ar ein gwefan o fewn 3 diwrnod o’r cyfarfod.

Mae gennym Safonau Gwasanaeth Cwsmeriaid a ddatblygwyd mewn cysylltiad gyda’n Cwsmeriaid.

Mae gennym ymrwymiad cryf i Gydraddoldeb.

Mae gennym Gynllun Iaith Gymraeg sydd wedi ei gymeradwyo.

Darparwn swyddi, lleoliadau profiad gwaith a chyfleoedd gwirfoddoli ar gyfer pobl yn ein cymunedau.

Cefnogwn gynlluniau sy’n hyrwyddo cynhwysiant ariannol.

Dywed ein harolwg diweddaraf o Randdeiliaid:

‘Delwedd y sefydliad yw un o gorff proffesiynol gydag enw da gyda dull gweithredu rhagweithiol, blaengar ac arloesol yn enwedig ym maes tai â chymorth a chymunedau du a lleiafrif ethnig. Fe’i gwelir hefyd fel corff cymwys a galluog, sy’n hyblyg ac agwedd agored at newid, gyda barn gadarnhaol bellach yn cael eu mynegi am eu gwasanaethau a’u Cynlluniau tai, ei brif swyddfa, canlyniadau ei adroddiad archwiliad a’r gwobrau a enillodd. Fe’i gwelir hefyd fel sefydliad sydd ag ymrwymiad at welliant parhaus.

“Mae rhywbeth cadarnhaol wedi digwydd (drwy Nôl i’r Sylfeini); sef am godi cyfle. Mae wedi agor cyfleoedd i roi cynnig ar bethau gwahanol. Rydym yn gwneud cyfraniad cadarnhaol ac yn dechrau codi uchelgais pobl.”Allan Herbert, Cydlynydd Cymunedau’n Gyntaf, Cymunedau yn Gyntaf Glanyrafon

Page 11: Annual Report 2010-11 (welsh)

Adroddiad Blynyddol a Hunanasesiad Cymdeithas Tai Taf 2010/11

11

Cynnydd ar y Cynllun Iaith Gymraeg• Diweddarwn yn gyson ein cronfa ddata

electronig o ieithoedd a siaredir gan Denantiaid.

• Dywedodd 21 o denantiaid eu bod yn medru siarad neu ysgrifennu Cymraeg gyda 7 yn dweud eu bod yn siarad Cymraeg yn eu cartrefi. Ni chafodd yr wybodaeth o’r ymarferiad newydd broffilio tenantiaid ei brosesu eto.

• Mynegodd un Tenant ddewis i ni gyfathrebu gydag ef yn Gymraeg.

• Cawsom 7 cyfathrebiad e-bost gyda’r Tenant hwnnw yn ystod y flwyddyn, y cyfan yn Gymraeg.

• Rydym wedi anfon 16 llythyr Cymraeg at y Tenant yma.

• Mae arwyddion newydd neu sy’n cael eu hadnewyddu ar gyfer mannau cyhoeddus yn ddwyieithog.

• Rydym yn parhau i awgrymu enwau Cymraeg ar gyfer ein holl gynlluniau datblygu. Cafodd Cwrt Penderis ei dderbyn gan yr Awdurdod Lleol.

• Ni chawsom unrhyw geisiadau i gyfarfodydd cyhoeddus gael eu cynnal yn Gymraeg nac am gyfieithu mewn unrhyw ddigwyddiadau cyhoeddus.

• Mae ein Cynllun Iaith Gymraeg ar gael ar ein gwefan yn Gymraeg ac yn Saesneg.

• Mae ein fformat Sefydlu Staff yn parhau i gynnwys manylion y Cynllun Iaith Gymraeg ac yn tynnu sylw at gyfrifoldebau staff am ei weithrediad.

• Mae gennym 7 o staff sy’n siarad Cymraeg yn rhugl, 2 ar lefel ganolraddol a 8 sy’n dweud fod ganddynt ddealltwriaeth sylfaenol o’r Gymraeg.

• Dywedodd 14 aelod o staff yr hoffent wersi Cymraeg ar wahanol lefelau.

• Cyhoeddwyd cardiau busnes dwyieithog.• Cyflwynwyd eitem reolaidd ‘Y Gornel

Gymraeg’; yn ein cylchgrawn staff.• Nid ydym wedi derbyn unrhyw gwynion

am weithrediad ein Cynllun.

“Mae Cymdeithas Tai Taff a Barnado’s wedi medru cydweithio mewn ffyrdd eithaf creadigol i ddelio gyda materion tenantiaeth sydd wedi codi ar brosiectau.”Janet Baldwin – Uwch Ymarferydd ar gyfer Cwrt y Farchnad

“Partneriaeth lwyddiannus a gwerthfawr iawn. Diolch i chi am eich ymrwymiad a’ch cefnogaeth barhaus i’n helpu i fynd i’r afael ag ystod eang o heriau!”Cyngor Sir Caerdydd

“Roedd yn rhaid symud Mr X yn gyflym oherwydd achos diogelu tystion. Nid oedd ganddo unrhyw arian na chelfi. Rhoddodd Ymddiriedolaeth Elusennol Taff £128 iddo brynu cwcer a bwrdd coffi. Medrodd y Tîm Cefnogaeth hefyd gael eitemau gan John Lewis a chafodd nifer fawr o eitemau eraill eu cyfrannu gan gydweithwyr yn Taff. Roedd Mr X yn hapus iawn gyda’r holl eitemau a help a gafodd.”Toutou Monzeli, Tîm Fforensig

Page 12: Annual Report 2010-11 (welsh)

12

Adroddiad Blynyddol a Hunanasesiad Cymdeithas Tai Taf 2010/11

Beth wnaethom ni? Pa mor dda wnaethom ni hynny?

Mae gennym Weledigaeth glir – bod yn Ddarparwr, Partner a Chyflogwr o Ddewis.

Cyhoeddi Cynllun Busnes bob blwyddyn, a chynnwys pob aelod o staff wrth ei gyflenwi.

Gofyn amrywiaeth o gwestiynau i’n staff bob blwyddyn drwy arolwg ‘Lle Gwych i Weithio’. Mae un cwestiwn yn gofyn ‘A yw’r rheolwyr yn gymwys wrth redeg y busnes’.

Fe wnaethom ennill yr achrediad uchaf gan Buddsoddwyr mewn Pobl (Safon Aur).

94% o staff yn meddwl fod y rheolwyr yn gymwys wrth redeg y busnes. (Ffynhonnell: arolwg Lle Gwych i Weithio 2011).

Rydym yn sicrhau bod ein diben yn glir ac rydym yn cyflawni’r hyn a fwriadwyd gennym – gan wybod pwy sy’n gwneud beth a pham

Beth wnaethom ni? Pa mor dda wnaethom ni hynny?

Mae gennym strategaeth ar gyfer rheoli risg a rheoli trysorlys a gaiff eu hadolygu’n rheolaidd.

Mae gennym ddulliau adrodd ariannol cynhwysfawr ar waith.

Cawsom y Dyfarniad Hyfywedd Ariannol gorau posibl gan Lywodraeth Cymru - ‘Pasio’.

Rydym yn fusnes ariannol cadarn a hyfyw

“Credwn y bu’r partneriaethau yn anhygoel o lwyddiannus.”Canolfan Chwarae Riverside ar ‘Nôl i’r Sylfeini

Fe wnaethom gomisiynu adolygiad annibynnol i asesu integriti ein model Cynllun Busnes hirdymor. Y casgliad oedd:

“Rydym yn cadarnhau fod strwythur y model yn addas ac y cafodd ei baratoi’n gywir.”Beevers & Struthers, Cyfrifyddion Siartredig

Page 13: Annual Report 2010-11 (welsh)

Adroddiad Blynyddol a Hunanasesiad Cymdeithas Tai Taf 2010/11

13

Datganiad AriannolCYFRIF INCWM A GWARIANT 2011 2010

Am y flwyddyn a ddiweddodd 31 Mawrth 2011 £000 £000Trosiant 8,407 7,531Costau Gweithredu (6,713) (6,324)Gwarged Gweithredu 1,694 1,207Ailbrisio Eiddo Buddsoddi (540) -

Gwarged Gweithredu ar ôl Ailbrisio Eiddo Buddsoddi 1,154 1,207

Llog Derbyniadwy 15 3Llog Taladwy a Chostau Tebyg (1,142) (789)Gwarged am y Flwyddyn 27 421Trosglwyddo i Gronfeydd Cyfyngedig/Dynodedig (120) (36)Cronfeydd Refeniw a Ddygwyd Ymlaen 4,573 4,188Cronfeydd Refeniw a Gariwyd Ymlaen 4,480 4,573

MANTOLEN 2011 2011 2010 2010Am y flwyddyn a ddiweddodd 31 Mawrth 2011 £000 £000 £000 £000Asedau Sefydlog DiriaetholEiddo Tai 85,777 77,900Llai Grantiau (55,127) (52,506)

30,650 25,394Eiddo Buddsoddi 1,240 1,780Asedau Sefydlog Eraill 2,211 2,216

34,101 29,390Asedau CyfredolDyledwyr 1,385 452Arian yn y Banc ac Mewn Llaw 700 2,850

2,085 3,302Credydwr: Symiau dyledus o fewn un flwyddyn (2,534) (2,753)

Ymrwymiadau Cyfredol Net (449) 549Credydwyr: Symiau dyledus ar ôl un flwyddyn (28,303) (24,617)

5,349 5,322Cronfeydd Cyfyngedig 271 275Cronfeydd Dynodedig 598 474

Cronfeydd Refeniw 4,480 4,5735,349 5,322

Page 14: Annual Report 2010-11 (welsh)

14

Adroddiad Blynyddol a Hunanasesiad Cymdeithas Tai Taf 2010/11

Rydym yn ymgysylltu ag eraill i wella a sicrhau canlyniadau i ddefnyddwyr ein gwasanaethau a’r gymunedBeth wnaethom ni? Pa mor dda y

gwnaethom hynny?A gafodd unrhyw un fudd?

Mae gan ein Rhanddeiliaid allweddol fewnbwn i’n Cynlluniau Busnes.

Drwy Gonsortiwm Integrate, ariannwn swydd i gefnogi Hyfforddiant a Recriwtio wedi’i dargedu drwy’n contractau Cynnal a Chadw a Datblygu.

Gweithiwn gydag wyth Partner Rheoli - gan ddarparu llety tra bo’r Partner yn darparu cefnogaeth arbenigol.

Mae ein Contractwr Gwresogi yn cynnig gwasanaethu nwy am gost isel i bobl hy^n (perchen breswylwyr) yn ein cymunedau drwy’r cynllun GasPlus+.

Darparwn Wasanaethau Cymorth i 3 Awdurdod Lleol drwy gontractau.

Darparwn ystod helaeth o weithgareddau er budd cymunedau.

Taff a phartneriaid Integrate yw’r datblygwyr a ffafrir gan Gyngor Caerdydd ar gyfer tai cymdeithasol, yn seiliedig ar y gwerth ychwanegol a gyflawnwn (asesir hyn yn flynyddol).

Gan weithio gyda Gofal, mae 65 o‘n Tenantiaid wedi cymryd rhan mewn rhaglen i’w helpu i ail-fynd i waith, hyfforddiant neu addysg.

Manteisiodd 25 o bobl hy^n ar gynllun GasPlus+ yn y flwyddyn ddiwethaf.

Dosbarthu 36 taleb Banc Bwyd i 27 o bobl pan gafodd eu budd-dal, ei oedi neu gwtogi ac oherwydd problemau ariannol oherwydd salwch.

Darparu 10 prentisiaeth/cyfle hyfforddiant drwy ein cadwyn gyflenwi.

Derbyniodd 21 o bobl grant o Ymddiriedolaeth Taff i helpu i brynu eitemau ty^, talu costau symud ac ati.

1249 o bobl yng Nghaerdydd, yn cynnwys 38 tenant Taff, wedi derbyn benthyciadau gan Moneyline Cymru – mae Taff yn helpu ei ariannu.

Cafodd 65 o bobl fudd o ganlyniad i brosiect Gofal yn eu helpu i ailymuno â’r farchnad swyddi.

“Gadawodd pob plentyn a gymerodd ran gyda gwên fawr ynghyd â darn o grochenwaith yr oeddent yn ei drysori adre gyda hwy.”Aelod o Staff

“Mae Cymdeithas Tai Taff yn parhau i fod yn ddibynadwy a phroffesiynol, gan weithio’n effeithiol wrth ddelio gyda throseddwyr a hefyd rai sydd wedi dioddef oherwydd ymddygiad gwrthgymdeithasol.”Mark Hallett, PCSO ardal Treganna/Lecwydd

Page 15: Annual Report 2010-11 (welsh)

Adroddiad Blynyddol a Hunanasesiad Cymdeithas Tai Taf 2010/11

15

Partneriaid Rheoli

“Mae gan ‘Tai â Chymorth Teuluoedd Ifanc Barnado’s Caerdydd’ bartneriaeth waith gadarnhaol gyda Chymdeithas Tai Taff.

Mae’r staff yn rhwydd iawn mynd atynt ac yn deall a chefnogi ein gwaith gyda phobl ifanc fregus a’u plant.”

Beth wnaethom ni?

Gweithiwn yn agos gyda Banc Bwyd Caerdydd, gan sicrhau fod pobl heb fwyd yn cael help pan maent ei angen. Mae staff hefyd yn cyfrannu eitemau bwyd.

Mae staff yn codi arian ar gyfer ‘Ymddiriedolaeth’ annibynnol Taff sy’n rhoi grantiau caledi ar gyfer eitemau hanfodol pan nad oes cyllid arall ar gael.

Cefnogwn nifer o ddigwyddiadau cymunedol graddfa fach gan sicrhau ein bod yn eu gwneud yn ariannol hyfyw i’w rhedeg, megis Warws Glanyrafon ar gyfer pobl ifanc, noddi’r llwyfan a nifer o weithgareddau yng ngw^ yl Glanyrafon a chefnogi arwerthiant teisennau ar gyfer Prosiect Barnado’s ar gyfer teuluoedd ifanc lleol; ac Wythnos Byw’n Iach Grangetown.

Rydym wedi sefydlu prosiect rhandir cymunedol a gynlluniwyd i roi cyfleoedd i aelodau o’r gymuned nad oes ganddynt fynediad i ardd i dyfu eu ffrwythau a’u llysiau eu hunain. Dechreuodd y grw^ p rhandir gyda 9 aelod cymunedol ymroddedig.

“Rwy’n credu fod hyn yn wasanaeth ardderchog.”Rhiant

“Diolch yn fawr am roi £50 i mi o’r gronfa i fy helpu gyda chost peiriant sychu a rhewgell.”Mr a Mrs S drwy gerdyn diolch

Page 16: Annual Report 2010-11 (welsh)

16

Adroddiad Blynyddol a Hunanasesiad Cymdeithas Tai Taf 2010/11

Rydym yn adeiladu ac yn adnewyddu cartrefi i safon ddaBeth wnaethom ni? Pa mor dda y

gwnaethom hynny?A gafodd unrhyw un fudd?

Dechrau ar 60 o gartrefi newydd.

Cwblhau a gosod 35 o gartrefi newydd – 30% o’r holl dai cymdeithasol newydd a adeiladwyd yng Nghaerdydd yn 2010/11.

Tyfodd ein stoc anghenion cyfredol 3%.

Pob cartref newydd wedi cyrraedd safon Côd 3 Cartrefi Cynaliadwy (h.y. cawsant eu hinsiwleiddio’n dda, gyda systemau gwresogi gyda graddiad ‘A’ ac yn effeithiol o ran dw^ r). Cawsant eu hadeiladu gyda deunyddiau a gyrchwyd yn gyfrifol ac sydd ag ynni ymgorfforedig.

Derbyn £1.3m mewn Grant Tai Cymdeithasol ac am hyn fe wnaethom gwblhau 35 o gartrefi newydd a dechrau datblygu 25 o gartrefi eraill – mae hyn yn gyfartal â grant o £21,000 i bob cartref.

Adeiladu 17 o dai teulu.

Cafodd yr holl gartrefi eu hadeiladu mewn ardaloedd lle mae angen mawr am dai.

Defnyddio adborth gan Denantiaid newydd i wella dylunio’r dyfodol (e.e. darparu siediau a storio ychwanegol)

Creu Strategaeth Datblygu newydd i ganfod ffyrdd newydd o adeiladu cartrefi newydd heb ddibynnu’n llwyr ar grant

Caffael contractwyr drwy ‘Fframwaith’ felly yn arbed amser a sicrhau gwerth am arian.

Adnewyddu ein cartrefi i safon uchel. (gweler tudalen 21).

Fe wnaethom gynyddu maint y grant a dderbyniwyd o £250k disgwyliedig i £1.3m - mae hyn yn adlewyrchu’r ffaith ein bod yn darparu cartrefi sy’n berthnasol yn strategol.

Mewn arolygon o holl Denantiaid anheddau newydd, a gymerwyd 6 wythnos ar ôl symud i mewn, roedd gennym raddiad boddhad o 98%.

Fe wnaethom ddechrau 26 o fflatiau heb unrhyw Grant Tai Cymdeithasol, gan ddefnyddio ein harian ein hunain – y cynllun Rhent Canolraddol cyntaf yng Nghaerdydd.

Fe fu modd i ni roi cartref i 35 o aelwydydd ychwanegol o ganlyniad i adeiladu cartrefi newydd.

Ar gyfartaledd, mae ty^ 3 ystafell wely yn costio £1,100 mewn biliau cyfleustod bob blwyddyn.

Dyma ddyfyniadau gan y tenantiaid am eu cartrefi newydd sbon:

“Gwych.”

“Popeth i’r dim – methu gwella dim byd mewn unrhyw ffordd.”

“Rhagorol.”

“Mor barod i helpu ac yn ddiolchgar iawn, dim cwyn am unrhyw beth.”

“Wrth fy modd.”

“Methu aros i ddod adre.”

“Gwasanaeth Cymhorthydd Stad yn wych.”

“Fyddwn i ddim yn newid dim.”

Page 17: Annual Report 2010-11 (welsh)

Adroddiad Blynyddol a Hunanasesiad Cymdeithas Tai Taf 2010/11

17

Beth wnaethom ni? Pa mor dda y gwnaethom hynny?

A gafodd unrhyw un budd?

Gosod ein cartrefi drwy Gofrestr Gyffredin Caerdydd.

Gosod 35 o gartrefi newydd a 49 o gartrefi presennol a ddaeth yn wag yn ystod y flwyddyn.

Gosod dau gartref wedi’u haddasu drwy Cartrefi Hygyrch Caerdydd.

Defnyddio 22 o’n cartrefi i helpu Cyngor Caerdydd i gartrefu pobl ddigartref ar sail dros dro.

Mewn partneriaeth gydag asiantaethau arall, darparu 55 lle ar gyfer pobl mewn tai arbenigol.

Cyfrannu 6 cartref i gynllun lesio Caerdydd ar gyfer pobl ddigartref.

Gosodwyd ein cartrefi i:

26 ymgeisydd digartref2 adsefydlu35 rhestr aros gyffredinol a throsglwyddo2 Cartrefi Hygyrch Caerdydd14 angen tai blaenoriaeth5 ymgeisydd tai gwarchod

Yng Nglanyrafon, Grangetown a Threganna, mae tua 5059 o bobl ar restr aros am annedd un ystafell wely a 1,302 ar gyfer 2 ystafell wely a 3529 ar gyfer annedd teulu (Ffynhonnell www.cardiffhousing.co.uk).

Gwrthodwyd 14 cynnig o lety.

Mae’n cymryd tua 30 diwrnod i drwsio ac ail-osod cartrefi rhwng tenantiaethau.

Mae’n cymryd 13 diwrnod i drwsio pob annedd ar gyfartaledd. Mae hyn yn cynnwys anheddau lle gwnawn waith sylweddol i gyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru.

Mae gan 32 o deuluoedd a 52 o bobl sengl gartrefi sefydlog erbyn hyn.

Bu dros 60 o aelwydydd digartref yn byw yn y llety dros dro y gwnaethom ei ddarparu i’r Cyngor yn 2010/2011.

Rydym yn gosod cartrefi mewn ffordd sy’n deg, tryloyw ac effeithiol

Astudiaeth AchosSymudodd Mr W i’w fflat yng Nghwrt Turner pan oedd yn newydd sbon, ond yn anffodus bu’n rhaid iddo gael ei goes wedi ei thorri i ffwrdd a daeth yn ddefnyddiwr cadair olwyn. Daeth drws fynedfa’r fflat, sy’n eithaf trwm i gyflawni rheoliadau, yn awr yn broblem fawr gan na fedrai Mr W ei agor heb i’w gadair osgoi troi trosodd ac roedd pryder na fedrai aros yn y fflat wedi’r cyfan. Gwnaeth hyn ef yn drist iawn gan ei fod yn annibynnol tu hwnt. Gan y medrai agor pob drws arall yn gysurus, fe wnaethom benderfynu awtomeiddio ei ddrws blaen. Roedd Mr W wrth ei fodd ar ôl ei osod a dywedodd ei fod mor hapus mai’r unig ffordd y byddem yn ei gael allan nawr oedd mewn bocs pren!

Page 18: Annual Report 2010-11 (welsh)

18

Adroddiad Blynyddol a Hunanasesiad Cymdeithas Tai Taf 2010/11

Beth wnaethom ni? Pa mor dda wnaethom ni hynny?

Rydym yn codi pob cartref i safon y mae ein Tenantiaid wedi’n helpu i’w ddiffinio.

Gofyn i bob Tenant newydd ddweud wrthym am eu profiad o ddyraniadau 6 wythnos ar ôl iddynt symud i mewn.

Mynd drwy gostau rhentu cartref gyda phob person cyn iddynt ddod yn Denant fel eu bod yn gwybod beth fydd eu hymrwymiadau.

Dim ond 0.1% o’r cyfanswm rhent dyledus a gollwn oherwydd anheddau gwag bob blwyddyn

98% o’n Tenantiaid newydd yn fodlon gyda’u cartrefi

99% yn fodlon gyda’r broses osod.

Astudiaeth AchosRoedd bywyd Mrs M wedi dod yn annioddefol oherwydd problemau cronig yn ei chymalau, yn arbennig ei chluniau ac nid oedd bellach yn medru ymolchi oherwydd ei bod ofn syrthio. Fe wnaethom drefnu gosod cawod mynediad gwastad pan oedd Mrs M yn cael llawdriniaeth yn yr ysbyty. Ffoniodd y swyddfa ar ôl dychwelyd adref i ddweud gwaith mor wych a wnaeth y gweithwyr ac i ddweud diolch yn fawr i bawb yn Taf am eu holl waith caled.

“Roedd pob Tenant wrth eu bodd gyda’u fflatiau a’r gwasanaeth a roddodd Taff o fod ar y rhestr aros hyd at nawr. Roeddent yn hapus iawn gyda’r arwyddo fel grw^ p a hefyd gyda’r wybodaeth ysgrifenedig a rhoddwyd i bob Tenant newydd.

Roedd y Tenantiaid eisiau dweud wrthyf o hyd pa mor wych oedd Taff a soniwyd am bawb, staff ar y dderbynfa, dyraniadau, Swyddogion Tai, CSAs, Cymhorthwyr Stad a Staff Datblygu. Hyd yn oed pan oedd pethau wedi mynd o chwith, cawsant eu hunioni’n gyflym ac fe wnaethom adael i bobl wybod beth oedd yn digwydd.”Janet Bochel, Cyfarwyddydd Gwasanaethau Cwsmeriaid a Datblygiad ar ôl ymweld â chynllun newydd Plymouth Court i weld ein proses ddyrannu

Page 19: Annual Report 2010-11 (welsh)

Adroddiad Blynyddol a Hunanasesiad Cymdeithas Tai Taf 2010/11

19

Rydym yn rheoli ein cartrefi’n effeithiolBeth wnaethom ni? Pa mor dda y

gwnaethom hynny?A gafodd unrhyw un fudd?

Gosod 58 (69%) o gartrefi ar denantiaethau byrlys sicr (cychwynnol) a 26 (31%) ar denantiaeth sicr (parhaol).Defnyddio trwyddedau lle’n addas.Ar gyfer pob datblygiad newydd, cynnal dyddiau ‘arwyddo fel grw^ p’ ar gyfer Tenantiaid newydd.Asesu pob Tenant newydd i weld os ydynt angen cefnogaeth.Mae gennym dîm cefnogaeth fewnol, yn cynnwys gweithiwr teulu arbenigol.Mae ein gwaith gyda phobl cyn iddynt gymryd eu tenantiaethau, a’n Gwasanaeth Cefnogaeth Fel bo Angen yn ein helpu i osgoi troi pobl o’u cartrefi. Dim ond pedwar Tenant wnaethom orfodi i adael y llynedd.Gosodon y rhan fwyaf o’n rhenti ar y ‘meincnod’ a gytunwyd gan y Cynulliad.I helpu gynyddu’r nifer o gartrefi newydd y medrwn ei hadeiladu, codwn renti ychydig yn uwch (‘canolraddol’) ar rai anheddau.Ymgynghori’n flynyddol â phob Tenant sy’n gorfod talu costau gwasanaeth am y costau a’r gwasanaethau a ddarperir.

Trosglwyddodd 99% o denantiaethau dechreuol yn llwyddiannus i denantiaethau parhaol.Derbyniodd 64% o Denantiaid newydd gymorth.Cafodd ein timau cefnogaeth fewnol eu hadolygu gan Gyngor Caerdydd ac ni ddynodwyd unrhyw feysydd ar gyfer gwella.Mae ein cyfradd gorfodi pobl i adael eu cartrefi yn ddim ond 0.4%. Roedd cyfradd gyfartalog Cymdeithasau Tai yn 1% yn 2009/10.Mae ein rhenti meincnod yn fforddiadwy - maent yn 57% o’r Lwfans Tai Lleol (uchafswm cymwys am Fudd-dal Tai).Teimlai 70% o Denantiaid fod y tâl gwasanaeth yn rhoi gwerth am arian.Roedd yr ôl-ddyledion dyledus fel canran o’n cyfanswm rhent yn 2.46%, gwelliant o 3.04% y flwyddyn flaenorol.

Derbyniodd 99 o Denantiaid anghenion cyffredinol Taf becyn cymorth pwrpasol i gyfarfod a’i hanghenion.Ni chafodd unrhyw Denant a dderbyniodd gymorth ei orfodi i adael ei gartref.Gwnaethom 7 atgyfeiriad diogelu plant, ond helpodd staff Cymorth 6 achos i ddod oddi ar y gofrestr ‘Mewn Risg’.1

Dynododd y Tîm Cefnogaeth 33 Tenant gyda chyngor dyled ac atgyfeiriwyd 8 ohonynt at asiantaeth dyledion.1

1 Mae’r ffigurau hyn yn cyfeirio at Denantiaid anghenion cyffredinol.

Page 20: Annual Report 2010-11 (welsh)

20

Adroddiad Blynyddol a Hunanasesiad Cymdeithas Tai Taf 2010/11

Beth wnaethom ni? Pa mor dda y gwnaethom hynny?

A gafodd unrhyw un fudd?

Mae gennym dîm rhenti pwrpasol i reoli incwm a helpu Tenantiaid i ddelio gydag ôl-ddyledion - buom yn gweithio gyda 306 aelwyd i ostwng eu hôl-ddyledion y llynedd.

Mae gan ein holl Denantiaid fynediad i gyngor arbenigol ar fudd-dal tai a budd-daliadau eraill os ydynt ei angen a chynhelir gwiriad iechyd ariannol ar Denantiaid newydd cyn i’w tenantiaeth ddechrau.

Gweithredwn yn gynnar ar achosion ôl-ddyledion, gan gysylltu cyn gynted ag y collir taliad. Dim ond 23 o Denantiaid newydd aeth i ôl-ddyled y llynedd ac maent i gyd ar gynlluniau ad-dalu.

Delio gyda 189 adroddiad o Ymddygiad Gwrthgymdeithasol – cafodd y rhain eu hadrodd gan 151 o bobl.

Gostyngodd nifer y Tenantiaid mewn ôl-ddyled o 360 i 337.Yr amser cyfartalog a gymerir i ddatrys achos ymddygiad gwrthgymdeithasol yw 38 diwrnod.97% yn fodlon gyda chyflymder ymateb.95% yn fodlon gyda’r cyngor a roddwyd.87% yn fodlon gyda’r gefnogaeth a roddwyd.Dangosodd ein harolwg Cwsmeriaid diweddaraf fod 81% o bobl yn teimlo’n ddiogel a bod 81% o bobl yn hoffi eu cymdogaeth.Bu 32% o Denantiaid gyda ni am fwy na 10 mlynedd.

Mae 30% o’n Tenantiaid ar gynlluniau talu hylaw i ostwng eu hôl-ddyledion.

Nid yw 151 o bobl mwyach yn dioddef oherwydd Ymddygiad Gwrthgymdeithasol (achosion ymddygiad gwrthgymdeithasol a gafodd eu cau).

Astudiaeth AchosPan ddechreuais weithio gyda L roedd yn wynebu cael ei gorfodi i adael ei fflat. Roedd ganddi ddyledion enfawr ac roedd yn droseddwr cyson. Roedd yr awdurdod lleol wedi mynd â’i dau blentyn i ofal ac roedd wedi dieithrio oddi wrth ei theulu fel canlyniad i’w phroblemau. Roedd yn amheus iawn o asiantaethau proffesiynol ac roedd ganddi hanes o ddiffyg cydweithredu.

Ar ôl 2 flynedd gyda chymorth gan Dîm Caerdydd, mae’n awr wedi peidio troseddu. Nid yw’n defnyddio cyffuriau erbyn hyn a dim ond yn gymdeithasol y mae’n yfed - yn bennaf mewn digwyddiadau teuluol, gan ei bod yn awr wedi cymodi gyda’i theulu. Mae’n derbyn yr holl fudd-daliadau y mae eu hangen - yn cynnwys Lwfans Byw Anabledd - ac yn talu ei dyledion yn gyson.

Daeth yn feichiog pan oedd yn derbyn cymorth. Oherwydd ei hanes blaenorol, mynnodd Gwasanaethau Plant y dylai ei phlentyn un ai gael ei faethu neu y dylid rhoi’r ddau ohonynt yn yr uned mam a baban lle cafodd ei dau blentyn arall ei chymryd oddi arni. Fel canlyniad i ymyriad egnïol a gweithio partneriaeth gyda Gwasanaethau Cymdeithasol, cafodd L y dewis o aros gyda’i baban a chael ei hasesu yng nghartref ei mam.

Yn hapus, cafodd L asesiad llwyddiannus iawn. Bu’n gweithio’n gadarnhaol gyda Gwasanaethau Cymdeithasol a’i hymwelydd iechyd a mynychodd ddosbarthiadau magu plant - o fewn 3 mis cafodd ei phlentyn ei symud o’r gofrestr Amddiffyn Plant. Mae’n awr yn teimlo’n hapus ac yn gadarnhaol iawn am y dyfodol. Pan fydd ei merch ychydig yn hy^n, mae’n ystyried hyfforddi i ddod yn fydwraig!

Page 21: Annual Report 2010-11 (welsh)

Adroddiad Blynyddol a Hunanasesiad Cymdeithas Tai Taf 2010/11

21

Rydym yn atgyweirio cartrefi ac yn eu cynnal a’u cadw mewn ffordd effeithlon, deg a chost-effeithiolBeth wnaethom ni? Pa mor dda y

gwnaethom hynny?A gafodd unrhyw un fudd?

Yn ystod 2010/11 fe wnaethom osod:

65 cegin (6% o stoc)120 ystafell ymolchi (11% o stoc)100 ffenestr/drws (9% o stoc)68 system wresogi newydd (6% o stoc)Ar wahân i 6 ‘methiant derbyniol’, mae hyn yn dileu pob boeler cefn aneffeithiol.

Gosodwyd pob un o’n ceginau gan dîm mewnol.Gwario £786,065 ar welliannau i’n anheddau.Ni wnaethom fenthyg unrhyw arian i dalu am y gwelliannau hyn - fe wnaethom ddefnyddio ein hincwm rhent i dalu amdanynt, gan arbed ar gostau llog.Fe wnaethom 4,978 o atgyweiriadau dydd i ddydd.Dychwelwyd 718 dalen boddhad cwsmeriaid.Gwnaethom ffonio 130 o bobl eraill i holi sut aeth y gwaith trwsio.Cynyddwyd effeithiolrwydd ynni ein hanheddau o raddiad o 67.85 i 72.09 (graddiad cyfartalog ‘SAP’)Gwasanaethu boeleri nwy a chanfyddwyr mwg yn ein holl gartrefi.

Mae 93% (1052) o’n cartrefi’n awr yn cyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru.Cwblhau’r holl atgyfeiriadau argyfwng o fewn 24 awr.Cwblhau 99% o atgyweiriadau brys a 98% o atgyweiriadau heb fod yn frys o fewn amserau targed.99% o gwsmeriaid a ymatebodd i’n harolygon boddhad yn fodlon gyda’r atgyweiriad.Gostwng costau gosod ceginau, gan arbed £85,000 ar waith tebyg a wnaed yn 2008/09.Cyfradd boddhad gyda gosod ceginau yn 100%.Dim ond 3 cwyn allan o 17 oedd yn ymwneud â’n gwasanaeth atgyweiriadau.Ar 31 Mawrth 2011, roedd gan 99.8% o’n cartrefi dystysgrif diogelwch nwy ddilys.

Bydd gan 93% o Denantiaid filiau ynni is nag y byddent pe na fyddem wedi gwella eu cartrefi i Safon Ansawdd Tai Cymru.Amcangyfrifwn fod ein Tenantiaid wedi arbed mwy na £85,400 ers cychwyn ein rhaglen yn 2007. Mae hyn yn seiliedig ar arbedion posibl o hyd at £140.00 y flwyddyn fesul uned.89% o’r holl Denantiaid yn fodlon gydag ansawdd eu cartref.Dynododd tenantiaid fod gosod cawodydd yn un o’u prif flaenoriaethau – mae gan 80% o gartrefi gawodydd erbyn hyn.Fel canlyniad i’r arbedion a wnaethom drwy sefydlu ein tîm cegin mewnol, rydym wedi medru gosod 47% (32) yn fwy o geginau newydd bob blwyddyn.

Mr S o Stryd Daisy

“Rwy’n meddwl fod eich gwasanaeth o’r radd flaenaf.”

Mr S o Canton Court

“Mae’r ystafell ymolchi newydd wedi’i gosod allan yn llawer gwell nag o’r blaen.”

Mr P o Stryd Albert

“Gwych, cwrtais iawn, da iawn.”

Ms J o Stryd Ivy

“Mae’r dynion yn broffesiynol, cyfeillgar, glân a gofalus wrth symud celfi. Taclus, parod iawn i gynorthwyo, aethant yr ail filltir i helpu a chynghori.”

Page 22: Annual Report 2010-11 (welsh)

22

Adroddiad Blynyddol a Hunanasesiad Cymdeithas Tai Taf 2010/11

Rydym yn darparu cefnogaeth cysylltiedig â thai o safon uchelBeth wnaethom ni? Pa mor dda y

gwnaethom hynny?A gafodd unrhyw un fudd?

Cefnogi 637 o bobl fregus i gadw eu cartrefi yn y gymuned.Cefnogi 239 o bobl ychwanegol yn ein prosiectau tai â chymorth.Cynyddu nifer o bobl ifanc a gefnogwn, gyda 19 lle arall ym mhrosiect Foyer. Mae hon yn bartneriaeth newydd sy’n darparu gwasanaeth dysgu a chefnogaeth seiliedig ar gwaith.Cefnogi ystod amrywiol o ddefnyddwyr gwasanaeth yn cynnwys cleientiaid fforensig, pobl hy^n, pobl ifanc, teuluoedd, rhieni sengl, ffoaduriaid, aelodau o’r gymuned ddu a lleiafrif ethnig.Cyflwyno model newydd o ddarpariaeth mewn cymorth fel y bo angen a lleoli staff cymorth yn llwyddiannus gyda thimau gwasanaethau cymdeithasol ac iechyd.Gwella ansawdd ein darpariaeth tai yn ein hostel menywod ifanc gyda cheginau newydd.

Adolygiadau cadarnhaol gan gomisiynwyr wedi asesu bod y gwasanaethau yn ‘strategol berthnasol’ a heb unrhyw argymhellion ar gyfer gwella.Mwyafrif y bobl y gwnaethom roi cymorth iddynt wedi gorffen eu cynlluniau cymorth mewn ffordd gadarnhaol a chynlluniedig.97% o ddefnyddwyr gwasanaeth yn hapus gyda’r cymorth a gawsant.Ein Staff Cefnogaeth wedi helpu pobl yn y gymuned gyda:– problemau ariannol

(392)– problemau iechyd (137)– cyrchu gwaith a

chyfleoedd hyfforddi (110)

Mae astudiaethau gan Lywodraeth Cymru ac eraill yn amcangyfrif am bob £1 ar werir ar Gymorth, bod meysydd polisi eraill yn cael budd gwerth £1.68. Mae gwariant Taff o £3.3m felly’n gyfwerth â budd o £5.5m.

Manteisiodd defnyddwyr gwasanaeth a’r gymuned ehangach o ostyngiadau mewn troseddu, cymunedau diogelach, gostyngiad mewn defnydd amhriodol o gyffuriau ac alcohol, gostwng ‘blocio gwelyau’.

Cefnogaeth a chymorth i 23 o ffoaduriaid sengl – nid oes darpariaeth arall ar gyfer y grw^ p yma yng Nghaerdydd.

“Cafodd budd-daliadau K eu hatal; doedd ganddi ddim arian am fwyd. Siaradais gyda fy arweinydd tîm a llwyddo i gael taleb banc bwyd iddi. Roedd K yn ddiolchgar iawn am yr help a gafodd.”Rhiannon Hatfield, Gweithwraig Cefnogi Tenantiaeth“Fe wnes roi cefnogaeth yn ddiweddar i fam sengl ifanc oedd â thenantiaeth gan Gyngor Sir Caerdydd ond roedd yn ofni dychwelyd ar ôl lladrad a bygythiadau yn yr ardal. O fewn 5 wythnos o ddechrau’r gefnogaeth, llwyddais i gael ei hargartrefu i fflat addas gosodiadau ‘Can do’ ac mae ei sefyllfa’n llawer gwell.”Marc Coombe, Gweithiwr Cefnogi Tenantiaeth

Page 23: Annual Report 2010-11 (welsh)

Adroddiad Blynyddol a Hunanasesiad Cymdeithas Tai Taf 2010/11

23

“Cafodd mam ei chefnogi drwy’r broses o wneud cais i awdurdod addysg lleol ar gyfer ‘addysgu yn y cartref’ i un o’i phlant gan na fedrai ddysgu mewn amgylchedd arferol ystafell ddosbarth. Fe wnaethom roi cefnogaeth i gael grantiau a helpu i ddod o hyd i diwtora arall i gefnogi’r plentyn drwy’r broses a sicrhau fod dysgu yn haws ei gyflawni. Bu gwelliant mawr yn y plentyn a dechreuodd ganolbwyntio ar ei haddysg. Roedd yr awdurdod addysg lleol yn fodlon gyda safon y dysgu/adnoddau a ddefnyddiwyd ynghyd a’r gwelliant yn addysg y plentyn.”Karl Perry, Gweithiwr Cefnogaeth Tenantiaeth

Beth wnaethom ni? Pa mor dda y gwnaethom hynny?

A gafodd unrhyw un fudd?

Cynyddu cyfleoedd ar gyfer ymgyfraniad cwsmeriaid a chynhwysiant cymdeithasol drwy roi rhan i denantiaid mewn digwyddiadau diddordeb arbennig.Ymestyn ein gwaith i atal unigrwydd ymysg pobl hy^n drwy ddefnyddio technoleg a hyfforddiant.Cynnwys ein gwasanaethau yn y cynllun peilot ‘monitro canlyniadau’ gwirfoddol i roi sail wrthrychol am fesur canlyniad y gefnogaeth a roddwn.Cymryd rhan mewn paneli aml-asiantaeth diogelu‘r cyhoedd.Cyfrannu at yr adolygiad Cefnogi Pobl i sicrhau’r cyd-destun gorau posibl ar gyfer cyflenwi gwasanaethau cefnogaeth.

Yn ein hostelau fe wnaethom helpu 183 o bobl gydag addysg a hyfforddiant, 137 gyda phroblemau ariannol a 135 gydag ymgynghoriadau iechyd a chwnsela.

Manteisiodd pobl hy^n yn ‘Red Sea House’ o gael eu cartrefu mewn amgylchedd diogel a diwylliannol benodol.Sicrhawyd diogelwch plant drwy gofrestru a/neu ddadgofrestru ar y Gofrestr Diogelu Plant.Cymerodd 40 o bobl ifanc ym mhrosiect Foyer ran mewn gwaith, addysg a hyfforddiantDywedodd 96% o ddefnyddwyr gwasanaeth fod y cymorth a gawsant wedi gwneud gwahaniaeth i’w bywydau.

“Roedd yn anrhydedd cael fy newis fel Tenant i’r Gweinidogion ymweld â fi yn fy nghartref. Roeddent yn bobl hyfryd iawn ac rwy’n gwerthfawrogi iddynt alw i fy ngweld. Gwnaeth Elaine a Jan o Taff i mi deimlo’n gysurus ac roeddent mor barod i helpu ac mae hwythau hefyd yn bobl hyfryd iawn.

Rwyf mor ddiolchgar am y gefnogaeth rwy’n ei gael gan Taff ac yn teimlo ei fod yn wasanaeth gwych na ddaw byth i ben gobeithio.”Doris Ferdinand

Page 24: Annual Report 2010-11 (welsh)

24

Adroddiad Blynyddol a Hunanasesiad Cymdeithas Tai Taf 2010/11

Prosiect GoleudyMae ein Gweithiwr Cefnogaeth, sydd wedi ei lleoli gyda thîm Gwaith Cymdeithasol Ysbyty, yn medru ymateb o fewn 48 awr o atgyfeiriad yn hytrach nag aros 3 wythnos am asesiad gan y tîm gwaith cymdeithasol cymunedol. Mae ein cefnogaeth yn ymarferol iawn, gan sicrhau dychweliad adref (neu i lety arall) yn llawer cyflymach na fyddai wedi digwydd fel arall.

Cafodd Cleient B ei atgyfeirio am gefnogaeth oherwydd nad yw’n medru ymdopi mwyach gyda grisiau yn ei gartref. Roedd Cleient B eisiau dychwelyd adref a dim eisiau symud. Fe wnaethom gwrdd gyda Chleient B i ddynodi darparwyr lifft grisiau. Fe wnaeth yr ysbyty ei ryddhau i’w gartref ar ôl i’w deulu symud y gwely i’r llawr gwaelod, a gan wybod fod Cleient B yn derbyn cefnogaeth i gael lifft grisiau wedi’i gosod. Cafodd Cleient B ei ryddhau i’w gartref o fewn 7 diwrnod o wneud yr atgyfeiriad i Brosiect Goleudy.

Astudiaethau Achos Prosiect FfoaduriaidMae ein prosiectau ffoaduriaid yn wirioneddol helpu newydd-ddyfodiaid i fynd i’r afael â’r iaith a ffordd o fyw Prydain. Roedd y rhan fwyaf angen help gyda Saesneg ac i gyd yn awyddus i ddod o hyd i waith cyn gynted ag oedd modd. Fe wnaethom helpu gydag aduniadau teulu, gan roi cyngor ar opsiynau llety.

Achos 1 – Ychydig iawn o Saesneg oedd gan M pan

gyrhaeddodd ond gyda chyfeirio at hyfforddiant, dysgodd siarad Saesneg yn rhugl. Helpodd hyn ef i gael trwydded gweithiwr diogelwch, ac mae’n awr yn gweithio yn y maes ac wedi setlo mewn cartref newydd.

Achos 2 – Fe wnaethom gefnogi N i ddilyn nifer o gyrsiau i wella ei gyfleoedd o gyflogaeth. Fe wnaethom hefyd ei helpu pan oedd yn aros i’w wraig ymuno ag ef yng Nghaerdydd. Maent yn awr wedi dod o hyd i lety a chaiff N ei gyflogi fel glanhawr.

Astudiaeth Achos Tîm FforensigPan wnaethom ddechrau cefnogi Mr Y, roedd ganddo ôl-ddyledion Treth Cyngor ac wedi bod heb gyfleustodau am 9 mis. Roedd ei fudd-daliadau personol a’i fudd-dal tai wedi’u stopio ac roedd gorchymyn meddiant gohiriedig ar ei gartref. Gan weithio gyda Riverside Advice, cwmnïau cyfleustod a nifer fawr o adrannau’r Cyngor, fe fu modd i ni adfer ei nwy a’i drydan, cael trefn ar ei fudd-daliadau ac ôl-ddyddio taliadau. Ni chafodd y gorchymyn meddiant gohiriedig ei weithredu felly medrodd aros yn ei gartref.”Dave Owen, Tîm Fforensig