2
Sefydliad: Awdurdod Lleol Pen-y-bont ar Ogwr Math o ddarparwr AB: Dysgu Oedolion a Chymunedol Canola acha: Dechnoleg Cefndir Cynhelir sesiynau dysgu oedolion a chymunedol mewn nifer o amgylcheddau ym Mhen-y-bont ar Ogwr, er enghraifft mewn canolfannau bywyd mewn llyfrgelloedd, canolfannau cymunedol ac ysgolion. Mae’r amrywiaeth o offer TGCh yn amrywio’n sylweddol rhwng lleoliadau. Ble na cheir adnoddau TGCh, mae gan diwtoriaid fynediad at ddetholiad o liniaduron i fynd gyda nhw, neu byddant yn ceisio symud lleoliad y dysgu yn ystod rhan o’r cwrs er mwyn i’r dysgwyr allu cael mynediad i’r rhyngrwyd. Dechreuodd Donna weithio fel tiwtor TG wyth mlynedd yn ôl wedi gweithio fel hyfforddwr TGCh mewn canolfan feddygol. Yn ystod ei blwyddyn gyntaf fel tiwtor bu Donna yn dysgu ambell ddosbarth ochr yn ochr â’i swydd arall ac yna cafodd swydd fel tiwtor TG llawn amser. Wedi dwy flynedd, fe’i gwnaethpwyd yn rheolwr dysgu cymunedol a’r llynedd cafodd swydd fel prif swyddog ar gyfer dysgu oedolion a chymunedol ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Nid oedd gan Donna sgiliau TGCh pan adawodd yr ysgol, er bod TG yn rhan o gwrs busnes a ddilynodd. Ni ddechreuodd ddysgu sgiliau TGCh yn swyddogol nes iddi fynd yn ôl i astudio fel oedolyn yn dysgu oedolion a chymunedol. Mae wedi diweddaru ei sgiliau’n gyson trwy fynychu cyrsiau, ennill cymwysterau neu ddysgu wrth ei gwaith. “Bellach mae gan diwtoriaid adnoddau gwell ac maent yn fwy parod i ddefnyddio detholiad o dechnolegau yn eu hamgylcheddau.” Astudiaeth Achos Gwasanaeth Gwybodaeth a Chyngor Ffôn: 0207 936 5798 E-bost: [email protected] www.lluk.org

Bridgend Local Authority- Cymraeg

Embed Size (px)

DESCRIPTION

Bridgend Local Authority- Cymraeg

Citation preview

Sefydliad: Awdurdod Lleol Pen-y-bont ar OgwrMath o ddarparwr AB: Dysgu Oedolion a ChymunedolCanola acha: Dechnoleg

CefndirCynhelir sesiynau dysgu oedolion a chymunedolmewn nifer o amgylcheddau ym Mhen-y-bont arOgwr, er enghraifft mewn canolfannau bywyd mewnllyfrgelloedd, canolfannau cymunedol ac ysgolion.Mae’r amrywiaeth o offer TGCh yn amrywio’nsylweddol rhwng lleoliadau. Ble na cheir adnoddauTGCh, mae gan diwtoriaid fynediad at ddetholiad oliniaduron i fynd gyda nhw, neu byddant yn ceisiosymud lleoliad y dysgu yn ystod rhan o’r cwrs ermwyn i’r dysgwyr allu cael mynediad i’r rhyngrwyd.

Dechreuodd Donna weithio fel tiwtor TG wythmlynedd yn ôl wedi gweithio fel hyfforddwr TGChmewn canolfan feddygol. Yn ystod ei blwyddyn gyntaffel tiwtor bu Donna yn dysgu ambell ddosbarth ochryn ochr â’i swydd arall ac yna cafodd swydd fel tiwtorTG llawn amser. Wedi dwy flynedd, fe’i gwnaethpwydyn rheolwr dysgu cymunedol a’r llynedd cafoddswydd fel prif swyddog ar gyfer dysgu oedolion achymunedol ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Nid oedd gan Donna sgiliau TGCh pan adawodd yrysgol, er bod TG yn rhan o gwrs busnes a ddilynodd.Ni ddechreuodd ddysgu sgiliau TGCh yn swyddogolnes iddi fynd yn ôl i astudio fel oedolyn yn dysguoedolion a chymunedol. Mae wedi diweddaru eisgiliau’n gyson trwy fynychu cyrsiau, ennillcymwysterau neu ddysgu wrth ei gwaith.

“Bellach mae gan diwtoriaid adnoddau gwell acmaent yn fwy parod i ddefnyddio detholiad odechnolegau yn eu hamgylcheddau.”

Astu

diae

th A

chos

GwasanaethGwybodaeth a Chyngor Ffôn: 0207 936 5798E-bost: [email protected]

Dysgu Gydol Oes yn y DU5th FloorSt Andrew’s House18-20 St Andrew StreetLondon EC4A 3AY

Defnyddio technolegY ffordd bwysicaf o ddefnyddio technoleg gyda dysguoedolion a chymunedol ym Mhen-y-bont ar Ogwr ywtrwy ganiatáu mynediad iddo mewn ystod eang oleoliadau ledled y sir. Prynwyd offer i diwtoriaid pobpwnc eu defnyddio, gan gynnwys eitemau cyfarwyddmegis taflunyddion a gliniaduron, yn ogystal ag offermwy anarferol megis recordwyr llais digidol, addefnyddiwyd yn llwyddiannus mewn cyrsiau iaith iddarparu tystiolaeth o allu dysgwyr i sgwrsio a gwrando.Mae tiwtoriaid dysgu oedolion a chymunedol wedi bodyn defnyddio camerâu fideo digidol ers amser maith ialluogi dysgwyr i gasglu tystiolaeth o’u dysgu.

Mae tiwtoriaid dysgu oedolion a chymunedol hefydwedi defnyddio technoleg mewn dysgu trawsgwricwlwm ble mae gwahanol ddosbarthiadau’n dodynghyd a rhannu eu profiadau dysgu. Er enghraifft, budosbarth coginio yn paratoi bwyd Sbaenaidd iddysgwyr Sbaeneg, a ddysgodd y dosbarth coginio adosbarth ffotograffiaeth ddigidol sut i siarad Sbaeneg, a bu’r dosbarth ffotograffiaeth ddigidol yn tynnu lluniauo’r digwyddiad a dangos i’r cogyddion a’r dosbarthSbaeneg sut i ddefnyddio eu camerâu a’u gliniaduron.

Datblygiad proffesiynol parhausYn wreiddiol, fel rhan o ddatblygiad proffesiynolparhaus, anogwyd tiwtoriaid dysgu oedolion achymunedol ym Mhen-y-bont ar Ogwr i baratoicynlluniau gwersi yn defnyddio TGCh. Yn dilyn hyn,trefnodd Donna i Gydweithfa Sgiliau Adfywio Cymrugynnal digwyddiad hyfforddiant e-ymwybyddiaeth bledangoswyd i diwtoriaid mewn mwy o fanylder sut iddefnyddio technoleg. Mynychodd cryn dipyn odiwtoriaid y digwyddiad hwn, ac mae ei lwyddiant ynamlwg i’w weld yng ngwaith y tiwtoriaid felly maediwrnod arall ar y gweill gyda Chydweithfa SgiliauAdfywio Cymru.

Tair gwaith y flwyddyn, mae tiwtoriaid yn cwrddmewn grwpiau ansawdd cwricwlwm a ddefnyddir argyfer datblygiad staff; yn cynnwys datblygu sgiliau staffwrth ddefnyddio TGCh i gynorthwyo profiad ydysgwr. Mewn un enghraifft o diwtoriaid yn rhannuarfer da, gwelwyd un tiwtor yn mynd ati i ffilmiogwersi o gwrs ffotograffiaeth fideo ar ‘ddod yngyfarwydd â’ch camera’, ac yn ei rannu gydathiwtoriaid eraill. Bydd dulliau o ddefnyddio TGCh i gyfoethogi dysgu yn aml yn cael eu rhannu yn ygrwpiau hyn.

Cynigir hyfforddiant mewnol cychwynnol ar sgiliautiwtora cychwynnol i diwtoriaid newydd (y rhai hynnynad ydynt wedi cyflawni eu cymhwyster dysgu eto), ac yn rhan ohono mae cyfle i ddefnyddio technoleg i

gwblhau ‘dysgu micro’. Yma fe ofynnir i diwtoriaidddefnyddio bwrdd gwyn rhyngweithiol, cyflwyniadauneu fideos, er enghraifft, er mwyn gwreiddio diwylliantar gyfer defnyddio technoleg gan diwtoriaid newydd argam cynnar.

Effaith/gwersi allweddolBellach mae gan diwtoriaid adnoddau gwell ac maent yn fwy parod i ddefnyddio ystod o dechnolegau yn euhamgylcheddau.

I ddysgwyr, cafwyd effaith o ran eu gallu i ddefnyddioystod o dechnolegau dysgu, gan ddefnyddio eitemaucyffredin megis eu ffonau symudol mewn modd cwblwahanol; efallai na fyddai dysgwyr wedi ystyrieddefnyddio eu ffonau symudol i recordio llais i wrandoarno tu allan i’r dosbarth. Mae tiwtoriaid wastad yndefnyddio technoleg sy’n berthnasol, ac y gall dysgwyrei ddefnyddio tu allan i’r amgylchedd dysgu.

Cafwyd manteision ehangach hefyd. Yn yr ArddangosfaCelf a Chrefft Dysgu Oedolion a Chymunedolflynyddol, sy’n cynnwys ffotograffiaeth ddigidol adelweddu effeithiau arbennig, datganodd y dysgwyr eubod wedi gwneud defnydd o sgiliau a ddysgwyd mewnmeysydd eraill o’u bywyd megis yn eu gwaith, arbwyllgorau ac mewn grwpiau maent yn aelodauohonynt. Ar gyfer Seremoni Gwobrau DysgwyrOedolion Pen-y-bont ar Ogwr yn 2009, cyfwelwyd yr enillwyr cyn y seremoni a dangoswyd clipiau o’rcyfweliadau yn y seremoni.

“Dyma yw Dysgu Oedolion a Chymunedol yn ein barnni - pawb yn rhoi cynnig arni. Rydym yn ceisio creucyfleoedd i bawb ddefnyddio technoleg sydd eisoes yneu meddiant wrth ddysgu megis ffonau symudol, ynogystal â darparu cyfleoedd i roi cynnig ar dechnolegaueraill i wella dysgu.”

Cynlluniau ar gyfer y dyfodolMae Donna’n teimlo ei bod yn bwysig i gadw’n gyfoesâ’r datblygiadau technolegol diweddaraf a chynnig cyflei bobl ddysgu am y datblygiadau hyn. Ei nod mwyaf ywcynnwys technoleg ym mhob pwnc, ac mae’n teimlomai’r allwedd i hyn yw bwydo dafnau o dechnoleg ynaraf bach i’r rhai sydd ofn ei ddefnyddio fel y gallledaenu trwy bopeth arall.

Datblygiad allweddol arall i’r dyfodol fydd i sefydlu a defnyddio Moodle. Bydd yr ardal gyntaf ar gyfertiwtoriaid ac yna agorir ardal i ddysgwyr. Bydd hyn naill ai’n cynnwys deunydd atodol i ddysgwyr yn dilyngwersi, neu gellid ei ddefnyddio i gyflwyno deunydd i’r rhai sydd wedi colli gwersi.

RW05/09/CS021

Gwasanaeth Gwybodaeth a Chyngor

020 7936 5798E-bost: [email protected]

Mae’r wybodaeth yma ar gael mewn fformatau eraill gan Ddysgu Gydol Oes yn y DU

Cyswllt

www.lluk.org