25

Click here to load reader

Awdl 24 - Aneirin - Cymraeg Lefel A

  • Upload
    adolygu

  • View
    135

  • Download
    8

Embed Size (px)

Citation preview

Page 1: Awdl 24 - Aneirin - Cymraeg Lefel A

AWDL 24 - ANEIRIN

CYMRAEG LEFEL A

IESTYN TYNE

Page 2: Awdl 24 - Aneirin - Cymraeg Lefel A

AWDL 24 Arwr, ardwy ysgwyd o dan ei dalfrith,ac ail tuth orwyddan.bu trydar yn aerfre, bu tân,bu ehud ei waywawr, bu huan,bu bwyd brain, bu budd i frân.a chyn edewid yn rhydon,gan wlith, eryr tuth tirion!Ac o du gwasgar gwaneg tu bron.Beirdd byd barnant wŷr o galon. Diebyrth ei gerth ei gynghyr,difa oedd ei gynrhain gan wŷr;A chyn ei olo o dan Eleirch Fre- ydoedd wryd yn ei arch –gorgolches ei grau ei seirch, Buddfan fab Bleiddfan, dihafarch.

Page 3: Awdl 24 - Aneirin - Cymraeg Lefel A

CEFNDIR

• Y GODODDIN = CYFRES O TUA 100 O AWDLAU + 4 ‘GORCHAN’ – CERDDI DYRYS IAWN

• ANEIRIN = BARDD TEULU – IS NA TALIESIN OEDD YN BENCERDD

• Y GODODDIN = ENW’R TEULU

• ANEIRIN YN HWYRACH NA TALIESIN – CEISIO ENNILL CATRAETH YN OL WEDI EI GOLLI I’R SAESON.

Page 4: Awdl 24 - Aneirin - Cymraeg Lefel A

CEFNDIR

• MYNYDDOG MWYNFAWR – BRENIN TEYRNAS Y GODODDIN

• CASGLU 300 O FILWYR DETHOL A’U HYFFORDDI AM FLWYDDYN YN EIDYN (CAEREDIN) CYN MYND AR GYRCH I GATRAETH

• DYLETSWYDD MM FEL PENNAETH = BWYDO’R MILWYR AM GYFNOD CYN Y FRWYDR – TALU MEDD (GLASFEDD EU HANCWYN) A’R MILWYR YN RHOI EU BYWYDAU YN Y FRWYDR FEL TAL

• ANSICRWYDD BELLACH AM NIFER Y MILWYR – TRICHANT = 300? 3000?

Page 5: Awdl 24 - Aneirin - Cymraeg Lefel A

CEFNDIR

• ANEIRIN YN ADNABOD Y GWYR MAE’N CANU IDDYNT YN Y CERDDI – WEDI TREULIO BLWYDDYN GYDA NHW. DYMA UN RHESWM FOD Y CERDDI YN FWY PERSONOL/ANFFURFIOL NA CHANU TALIESIN

• ANEIRIN, YN OL TRADDODIAD, OEDD YR UNIG UN I DDYCHWELYD O’R FRWYDR

• DIOLCH I ANEIRIN MAE TEULU MYNYDDOG YN DAL YN FYW YN Y COF FELLY

Page 6: Awdl 24 - Aneirin - Cymraeg Lefel A

CEFNDIR

• AWDLAU GWAHANOL YN CANU I FOLI:

• UNIGOLION

• GRWPIAU O ARWYR

• YR OSGORDD GYFAN

• MOLI AELODAU’R OSGORDD AM EU PARODRWYDD I FARW DROS MM – CLODFORI HYN YN AWDL 24 I BUDDFAN FAB BLEIDDFAN.

Page 7: Awdl 24 - Aneirin - Cymraeg Lefel A

ARDDULL

MESUR

AWDL GYDA’R MESUR A’R ODL YN AMRYWIO

YN BENNAF CEIR LLINELLAU TRIPHLYG O’R UN HYD – TAIR ACEN A DWY ORFFWYSFA

Page 8: Awdl 24 - Aneirin - Cymraeg Lefel A

ARDDULL

• ODL YN CYSYLLTU LLINELLAU

PWYSLEISIO PWYSIGRWYDD GEIRIAU. RHAI LLINELLAU HEFO ODLAU MEWNOL E.E.

bu trydar yn aerfre, bu tân,bu ehud ei waywawr, bu huan,bu bwyd brain, bu budd i frân.

Arwr, ardwy ysgwyd o dan ei dalfrith,ac ail tuth orwyddan.

Page 9: Awdl 24 - Aneirin - Cymraeg Lefel A

ARDDULL

• CYSEINEDD – CYDIO GEIRIAU YNGHYD O FEWN YR UN LLINELL

• CYFLYTHRENNU AMLWG – CLYMU GEIRIAU UNSILL AT EU GILYDD – ‘B’ YN LYTHYREN SYDD FEL PETAI’N CYFLEU Y BRAIN YN PIGO AR GORFF BUDDFAN

bu bwyd brain, bu budd i frân.

Page 10: Awdl 24 - Aneirin - Cymraeg Lefel A

ARDDULL

• TROSIADAUbu ehud ei waywawr, bu huan,

gan wlith, eryr tuth tirion!

Tuth orwyddan

Troi gwaywffyn Buddfan yn haul – efallai mai fflachio yn yr haul y maent, ond maent yn haul uwchben y frwydr. Tebyg i Marwnad Owain ab Urien gan Taliesin – disgrifio gwaywffyn Owain fel ‘adennydd y frwydr’.

Aderyn grymus – symbol o bwer

Dweud fod cerddediad Buddfan fel cerddediad ceffyl bychan, dewr – pwysleisio dewrder a ieuenctid yn yr un linell

Page 11: Awdl 24 - Aneirin - Cymraeg Lefel A

ARDDULL

• SYMBOL – BRAIN

• DELWEDD YR UN FATH YNG NGHERDDI TALIESIN

• SYMBOL O FARWOLAETH

Page 12: Awdl 24 - Aneirin - Cymraeg Lefel A

ARDDULL

• GEIRIAU SY’N PWYSLEISIO DEWRDER: DIHAFARCH, GWYR O GALON

• DISGRIFIADOL – SUT/LLE LLADDWYD YR ARWYR?

• DELWEDD Y RHYD YN CREU TRISTWCH – ‘GADAEL’ YN ATGOFFA GWYN THOMAS O ENGLYNION COFFA RWP I HEDD WYN

Page 13: Awdl 24 - Aneirin - Cymraeg Lefel A

ARDDULL

• SANGIAD

• ‘YDOEDD WRYD YN EI ARCH’ – TORRI AR LIF Y GERDD, BRON FEL PETAI ANEIRIN YN DAL I GEISIO GWNEUD I NI GREDU YN EI DDEWRDER, ER EI FOD WEDI GWNEUD HYNNY YN BAROD

• GWRTHGYFERBYNNU

• DELWEDDAU OHONO YN GELAIN YN CYFERBYNNU A’I WYCHDER MEWN BYWYD – YR ‘ERYR’ YDOEDD GYNT. DYFAIS SY’N GYFFREDIN YNG NGWAITH TALIESIN HEFYD.

Page 14: Awdl 24 - Aneirin - Cymraeg Lefel A

ARDDULL

• CADW ENW’R ARWR TAN Y LINELL OLAF – PEINTIO’R DDELWEDD I GYD CYN RHOI ENW IDDI.

• CHWARAE AR AIR –

• BUDD I FRAN > BUDDFAN – ROEDD BUDDFAN YN LLYTHRENNOL YN FUDD I FRAN TRWY FARW

Page 15: Awdl 24 - Aneirin - Cymraeg Lefel A

‘ARWR ARDWY YSGWYD O DAN EI DALFRITH’

ARDWY = AmddiffynYSGWYD = Tarian – darlun traddodiadol o arwr – dim cyfeiriad at farwolaethDAN EI DALFRITH = Ansicr o ystyr ‘talfrith’ – rhai syniadau:• Talcen• Wyneb• Bogel Tarian• TalfrithSyr Ifor Williams/Gwyn Thomas yn ansicr o’r ystyr hefyd.

Agor yn drawiadol – ‘Arwr’ – sefydlu arwriaeth Buddfan fab Bleiddfan – delwedd o filwr hyderus, grymus, yn amddiffyn ei osgordd hefo tarian

(Arwr yn amddiffyn a tharian o dan ei dalfrith)

Page 16: Awdl 24 - Aneirin - Cymraeg Lefel A

‘AC AIL TUTH ORWYDDAN’ AIL – Tebyg i’r dywediad ‘heb ei ail’TUTH – cerddediad / ffordd o fyw (distaw duth RWP)GORWYDDAN – Ceffyl bychan / merlen –gair cyfansawdd gorwydd ac an.Gorwydd = march – symbol o wrywdod/ffrwythlondebAn = bachigyn sy’n anwylo – ei wneud yn fach ac yn annwyl.

Gorwyddan yn cyfleu dewrder ac arwriaeth ond hefyd yn pwysleisio ieuenctid, a chwithdod o darwolaeth mor ddewr yn dod i un mor ifanc.

DELWEDD Y CEFFYL• Symbol o wrywdod / frwythloneb mewn llenyddiaeth ers cyn cof – celfyddyd celtaidd/chwedlau canoloesol e.e. Culhwch yn mynd i lysArthur – ‘gorwyd penlluchlwyd’. Matholwch yn cael ei sarhau yn chwedl Branwen pan mae Efnisien yn mynd i’r afael a’i feirch

(hefo cerddediad tebyg i geffyl bach)

Page 17: Awdl 24 - Aneirin - Cymraeg Lefel A

‘BU TRYDAR YN AERFRE, BU TÂN’

TRYDAR = Twrw – cyfeirio mae’n debyg at weiddi bygythiol yr arwr wrth ymosod – Aneirin yn cyfeirio yn aml at dwrw’r frwydr a’r tawelwch wedyn yn ei awdlau e.e. “a gwedi elwch tawelwch tu” AWDL 1AERFRE= Bryn y frwydrBU TÂN= Efallai yn cyfeirio at wreichion wrth i’r cleddyfau daro eu gilydd. Tan hefyd = dinistr/lladd – trosiad efallai o allu Buddfan ar faes y frwydr.

(Bu’n dwrw ar fryn y frwydr, bu’n dân)

Cael ein gosod yng nghanol twrw’r frwydr gan y bardd.

Page 18: Awdl 24 - Aneirin - Cymraeg Lefel A

‘BU EHYD EI WAYWAWR, BU HUAN’

EHUD = parodGWAYWAWR = GwaywffynHUAN = Haul

Moli gallu Buddfan i drin arfau – ‘ehud’ = agwedd fentrus a pharod milwr – mentro popeth i geisio ennill brwydr.Ysgrifennu synhwyrus – defnydd o’r haul – creu delwedd gofiadwy o waywffyn yn sgleinio yng ngolau’r haul wrth i Buddfan eu pledu tua’r gelyn.

(bu’n rhyfygus ei waywffon, buont yn [fflachio fel] haul)

Page 19: Awdl 24 - Aneirin - Cymraeg Lefel A

‘BU BWYD BRAIN, BU BUDD I FRÂN’

BUDD – o ddefnydd – y brain yn elwa ohono

Cyflythrennu yn bwysig yn y linell hon – geiriau unsill yn cael eu clymu – rhythm = cyfleu y ddelwedd afiach o’r brain yn darnio corff yr Arwr sy’n dangos ei arwriaeth eithaf wrth farw yn y frwydr.Cyflythrennu’r ‘b’ yn ein hatgoffa o’r enw ‘Buddfan fab Bleiddfan’. Delwedd gyffredin yn yr Hengerdd – Taliesin, Gwaith Argoed Llwyfain – ‘rhuddai frain rhag rhyfel wyr’. Ymfalchio mewn aberth.

Gair ‘bu’ sydd yn clymu 3 llinell = gwychter y gorffennol. Efallai tinc o hiraeth nad yw BapB yma bellach. Ailadrodd = pwysleisio ei fod wedi mynd. Darlunio gorchestion maes y gad yn y gorffennol i gynhyrfu teimlad o hiraeth/balchder.

(bu’n fwyd i frain, bu elw i fran)

B = pigo

Page 20: Awdl 24 - Aneirin - Cymraeg Lefel A

‘A CHYN EDWID YN RHYDON’

Cyn EDWID – Cyn iddo gael ei adaelRHYDON – Mannau lle gellid croesi afon lle roedd dwr yn fas dros y cerrig

(a chyn iddo gael ei adael yn y rhydau)

Page 21: Awdl 24 - Aneirin - Cymraeg Lefel A

‘GAN WLITH, ERYR TUTH TIRION!’

(dan y gwlith [bu’n] eryr tirion ei symudiad)

Syr I.W. yn cynnig mai ei ddisgrifio fel milwr sydd yma eto – ‘milwr hyfryd ei symudiadau, pendefig cyflym ei ruthr.’

Cyfosod y gorffennol/presennol eto hefo ll. 6 a 7 – BapB yn cael ei adael yn y rhydau/dan y gwlith wedi’r frwydr ond eto mae’n cadw yn fyw ar ffurf yr eryr.Eryr = symbol grymus/pwerus yn yr Hengerdd/llen canoloesol.e.e. Culhwch ac Olwen – Eryr Gwernabwy yn arwain marchogion Arthur at Eog Llyn Lliw.

Page 22: Awdl 24 - Aneirin - Cymraeg Lefel A

‘AC O DU GWASGAR GWANEG TU BRON’(ac o’r ochr gorchuddia ton ochr ei fron)

Tu = ochrGwasgar = gorchuddioGwaneg = ton

Corff Buddfan wedi ei adael ger rhyd dros afon.MM yn ceisio ailfeddiannu y man strategol yma yn y frwydr.

Delwedd drist o’r corff yn cael ei olchi’n ysgafn gan donnau’r afon - terfynnoldeb llonnydd. Dwr sy’n tasgu arno fel petai natur yn ei alw yn ol i orweddfa dragwyddol.

Page 23: Awdl 24 - Aneirin - Cymraeg Lefel A

‘BEIRDD BYD BARNANT WYR O GALON’(‘Beirdd byd ddyfarnant [pwy sy’n] wyr

dewr’)

I.W yn awgrymu mai yma dylai’r awdl orffen – byddai’r brifodl ‘n’ wedyn yn rhedeg ar hyd yr awdl, a’r gerdd yn gorffen yn draddodiadol mewn mawl i’r arwr.

Llinell bwysig = crynhoi pwrpas/swyddogaeth beirdd y cyfnod – eu geiriau yn cael eu defnyddio fel propaganda. Pwer geiriol y bardd yma.

Canmol a moli MM a byddin y Gododdin yn cynnal ysbryd/hyder y llwyth i sicrhau ffyddlondeb/unoliaeth y bobl.

Aneirin = Bardd teulu MM a thrwy ei eiriau ef mae Buddfan a milwyr y Gododdin yn aros yn fyw

UN O LINELLAU ENWOCAF Y GODODDIN

Page 24: Awdl 24 - Aneirin - Cymraeg Lefel A

‘DIEBYRTH EI GERTH EI GYNGYRDIFA OEDD EI GYNRHAIN GAN WYR’

Diebyrth = tlododd – colli allan(marw)Certh = gwirionedd – dymuniad Buddfan i fod yn ffyddlon i MM – ffyddlondeb hyd at farwolaethCynghyr = cynDifa = distrywioCynrhain = milwyr dethol / prif ryfelwyr

(‘Fe’i tlododd ei hun trwy ei wirionedd, a thrwy ei gyngorDifethwyd ei brif ryfelwyr gan wyr [y gelyn]’)

Moliant o’r arwr am iddo aberthu’i hun dros ei wlad a’i arglwydd – fodlon marw dros y ‘gwirionedd’ – h.y. achub Catraeth yn ol i feddiant y Brythoniaid.

Son am y rhyfelwyr roedd Buddfan yn eu harwain, ac iddynt farw oherwydd ei gyngor o, ond nid yw Aneirin yn beio yma.

Llythyren ‘d’ sydd yn clymu popeth yma – tynnu sylw at y geiriau pwysig = ‘diebyrth’, ‘difa’.Odl fewnol = ‘erth’ – cryfhau/pwysleisio’r cysylltiad rhwng y weithred o hunan aberth a ffyddlondeb Buddfan i Fynyddog Mwynfawr.

Page 25: Awdl 24 - Aneirin - Cymraeg Lefel A

‘A CHYN EI OLO O DAN ELEIRCHFRE – YDOEDD WRYD YN EI ARCH –GORGOLCHES EI GRAU EI SEIRCH:’

(‘A chyn ei gladdu o dan EleirchFryn – roedd dewrder yn ei fynwes –Golchodd ei waed ei arfwisg’)

golo = cladduEleirch Fre = enw lleGwryd= dewrderArch = mynwes/bronGorgolches = golchoddCrau = gwaedSeirch = arfwisg

Sangiad – ‘ydoedd wryd yn ei arch’ yn torri ar brif gymal clo yr awdl – pwysleisio terfynnoldeb marwolaeth on eto Aneirin yn ein hatgoffa o’i ddewrder hyd yn oed yn ei arch.

Cloi yr awdl gyda ddelwedd gignoeth – arfwisg Buddfan yn wlyb o waed cyn ei gladdu.

Gorffen gyda’r linell:“Buddfan fab Bleiddfan – dihafarch”Dihafarch = cadarnDefnyddio enw personol = creu chwithdod Aneirin – colli milwyr roedd wedi treulio blwyddyn yn eu cwmni. (Awdl 1 Owain fab Maro hefyd)