Upload
katrina-wood
View
227
Download
8
Embed Size (px)
DESCRIPTION
Faint y bydd yn ei gostio? Beth y byddaf yn ei ennill? Sut ydw i’n gwneud cais? Cwrs rhan-amser 2 flynedd wedi’i gynllunio ar gyfer dysgwyr sy’n oedolion mewn cymuned yn eich ardal chi Ar ôl cwblhau’r rhaglen hon gall myfyrwyr symud ymlaen at ystod eang o gyfleoedd addysg uwch, gan gynnwys y radd ran- amser yn y dyniaethau a gynigir gan AABO. Mae’r radd hon ar gael ar gampws Prifysgol Abertawe ac yn y gymuned ar draws y 4 rhanbarth canlynol:-
Citation preview
Adran Addysg Barhaus Oedolion,
(AABO)
Prifysgol Abertawe
Parc Singleton, Abertawe SA2 8PP
www.swansea.ac.uk/dace
Beth y byddaf yn ei ennill? Ar ôl cwblhau’r rhaglen bydd myfyrwyr yn ennill 120 o gredydau ar Lefel AU 0 ac yn derbyn Tystysgrif Addysg Uwch Sylfaen yn y Dyniaethau.
Gwahoddir myfyrwyr llwyddiannus i fynychu seremoni raddio. Ar ôl cwblhau’r rhaglen hon gall myfyrwyr
symud ymlaen at ystod eang o gyfleoedd
addysg uwch, gan gynnwys y radd ran-
amser yn y dyniaethau a gynigir gan
AABO. Mae’r radd hon ar gael ar gampws
Prifysgol Abertawe ac yn y gymuned ar
draws y 4 rhanbarth canlynol:-
• Abertawe
• Castell-nedd Port Talbot
• Sir Gaerfyrddin
• Sir Benfro
Cwrs rhan-amser 2 flynedd
wedi’i gynllunio ar gyfer dysgwyr sy’n oedolion mewn cymuned yn
eich ardal chi
Faint y bydd yn ei gostio? Mae’r rhaglen AM DDIM i fyfyrwyr cymwys sy’n
derbyn buddion drwy brawf moddion. Os nad ydych yn gymwys am gyllid y costau
yw:
Ffi Lawn - £105 pob modiwl 10 credyd (Mewn
cyflogaeth yn gweithio mwy na 16 awr yr
wythnos).
Ffi Gonsesiwn - £40 pob modiwl 10 credyd (yn
gweithio 16 awr yr wythnos, wedi ymddeol/
digyflog ar bensiwn preifat, neu’n ddigyflog).
Mae’n bosib y bydd myfyrwyr sy’n talu ffioedd
llawn yn gymwys i wneud cais am ffynonellau
eraill o gymorth ariannol.
Sut ydw i’n gwneud cais? Mae angen i ddarpar fyfyrwyr gwblhau ffurflen
gais a’i hanfon at Paul Dicks ar y cyfeiriad isod.
Gofynnir yna i fyfyrwyr gwrdd ag aelod o’r tîm
am gyfweliad anffurfiol.
Os hoffech gael gwybod rhagor am y cwrs, cysylltwch â:-
Paul Dicks 01792 295935
NEWYDD Tystysgrif Addysg Uwch Sylfaen yn y Dyniaethau
Yn Dechrau ym Mis Medi 2011
DEPARTMENT OF ADULT CONTINUING EDUCATION ADRAN ADDYSG BARHAUS OEDOLION
Amcanion y cwrs Mae Tystysgrif Addysg Uwch (AU) Sylfaen Newydd yn y Dyniaethau yr
Adran Addysg Barhaus Oedolion (AABO) wedi’i bwriadu ar gyfer pobl sy’n barod i gymryd eu camau cyntaf i AU ac ennill cymhwyster mewn amgylchedd cefnogol a chalonogol. Mae hi wedi’i gynllunio
ar gyfer dysgwyr sy’n oedolion (18 mlwydd oed ac yn hŷn) sydd am g a e l a r w e i n i a d p e l l a c h i astudiaethau AU ac mae’n rhaglen ran-amser dwy flynedd.
Sut y byddaf yn astudio? Caiff y rhaglen ei dysgu ar sail ran-amser dros ddwy flynedd (30 wythnos) ac mae’n ofynnol i fyfyrwyr
fynychu dosbarthiadau am un diwrnod yr wythnos. Mae’r rhaglen wedi’i chynllunio ar gyfer dysgwyr sy’n oedolion ac
mae’n cyd-fynd â gwyliau’r ysgolion.
Beth y byddaf yn ei astudio? Mae’r rhaglen yn cynnwys modiwlau gorfodol a dewisol ac yn caniatáu i fyfyrwyr ddatblygu trosolwg o bynciau sy’n ymwneud â’r Dyniaethau.
Er mwyn ennill y Dystysgrif AU Sylfaen rhaid i fyfyrwyr gymryd yr holl fodiwlau gorfodol a dewis dau fodiwl dewisol (fel grŵp). Mae’n rhaid i
fyfyrwyr hefyd basio asesiadau a chyrraedd y safon ofynnol ar gyfer pob modiwl.
Mae pob modiwl 10 credyd = 20 awr o addysgu ac mae pob modiwl yn cynnwys 10 neu 20 o gredydau. Bydd myfyrwyr yn ennill 60 credyd y flwyddyn ar Lefel AU 0. Rhaid i fyfyrwyr ennill 120
credyd ar Lefel 0 er mwyn ennill y Dystysgrif Addysg Uwch Sylfaen yn y Dyniaethau.
Modiwlau Craidd:-
• Beth yw Seicoleg? (10 credyd)
• Cyflwyniad i Gymdeithaseg (10 credyd)
• Cyflwyniad i Gynghori (10 credyd)
• Cyflwyniad i Lenyddiaeth (10 credyd)
• Beth yw Hanes? (10 credyd)
• Symud Tuag At Waith (10 credyd)
• Cynhyrchu Prosiect (20 credyd)
• Sgiliau Astudio ac Ymchwil (20 credyd)
Modiwlau Dewisol:-
• Cyflwyniad i Feddwl yn Athronyddol (10
credyd) • Gwleidyddiaeth, Dinesydd Cymru (10
credyd)
• Cyflwyniad i Astudiaethau’r Cyfryngau (10
credyd)
• Ieithyddiaeth - Sut y mae Iaith yn Gweithio
(10 credyd)
• Cyflwyniad i Bolisi Cymdeithasol (10
credyd
Sut y caf fy asesu?
Darperir addysgu drwy ddulliau wyneb i
wyneb traddodiadol - e.e. trafodaethau a
thiwtorialau.
Bydd dulliau asesu’n cynnwys ysgrifennu
traethodau ac adroddiadau ar gyfer pob
modiwl credyd.
Ble a phryd y mae’r cwrs yn cael ei gynnal? Mae’r rhaglen yn dechrau ym mis Medi 2011
ac fe’i haddysgir yn y canolfannau cymunedol canlynol:-
ABERTAWE: Canolfan Adnoddau Action (Yr
ARC)
45 Rhodfa Broughton, Portmead, SA5 5JS
Dydd Mercher 21ain Medi 9.30am-2.30pm
CASTELL-NEDD PORT TALBOT: Canolfan
Ddatblygu NSA, Rhodfa Bevin,
Sandfields, SA12 6JW
Dydd Iau 29ain Medi 9.30am-2.30pm SIR GAERFYRDDIN: Canolfan Gymunedol
Felinfoel, Heol Tanrhodyn. Felinfoel SA15
4LN
Dydd Mercher 28ain Medi 10.00am-2.30pm
SIR BENFRO: Ysgol Gymunedol Doc Penfro,
Bush St, Doc Penfro, SA72 6LF
Dydd Iau 29ain Medi 1.30pm-6.00pm